Chapter Mai 2015

Page 1

029 2030 4400

@chaptertweets

chapter.org


02

Croeso

Rydym wrth ein boddau â mis Mai yma yn Chapter. Bydd yr Art Car Bootique (tt6–7), ar ddydd Sul 24 Mai, yn troi ein maes parcio yn ffair bentref hyfryd o od, mewn digwyddiad a fydd yn llawn o gelfyddyd, ffasiwn, perfformiadau, bwyd a cherddoriaeth fyw, ac fe fydd ein gŵyl Maibock flynyddol (t10) yn cyd–fynd â’r digwyddiad hwnnw, i groesawu’r haf mewn steil! Ac wrth i ni dorchi llewys a pharatoi ar gyfer mis prysur, dyma gydnabod cyfraniad gwerthfawr ein gwirfoddolwyr gwych. Maen nhw’n griw ardderchog ac yn hanu o gefndiroedd tra amrywiol — ond mae ganddynt un peth yn gyffredin — maent yn credu’n angerddol yng ngwaith Chapter ac yn mwynhau profiadau newydd a chroesawu pobl i’n canolfan. Mae ein gwirfoddolwyr yn ein helpu gyda phob math o ddigwyddiadau a gweithgareddau ac mae eu cyfraniad at ein gwaith yn amhrisiadwy. Yn gyfnewid, rydym yn cynnig nifer o gyfleoedd ardderchog iddynt – i weld perfformiadau yn y theatr a dangosiadau ffilm, i dderbyn hyfforddiant ac, yn bwysicaf oll, i fod yn rhan o gymuned Chapter. Rydym yn chwilio ar hyn o bryd am wirfoddolwyr newydd, felly os hoffech chi ymuno â’r tîm, cysylltwch â Philippa — philippa. brown@chapter.org — i gael ffurflen gais. Y dyddiad cau fydd 5pm ar ddydd Gwener 22 Mai. Pob lwc!

chapter.org

Defnyddiwch y côd QR hwn i lawr–lwytho copi digidol o gylchgrawn Chapter

Delwedd y clawr: A Pigeon Sat on a Branch Reflecting on Existence

Chapter Heol y Farchnad, Caerdydd CF5 1QE 029 2030 4400 www.chapter.org ymholiadau@chapter.org


chapter.org

Uchafbwyntiau

03

Oriel tudalennau 4–5

Art Car Boutique tudalennau 6–7

Cefnogwch Ni tudalennau 8–9

Bwyta/ Yfed/Llogi tudalen 10

Chapter Mix tudalen 11

Theatr tudalennau 12–19

Sinema tudalennau 20–30

Addysg tudalen 31

Cerdyn CL1C Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawr–lwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Ffrindiau Chapter Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40

Cadwch mewn cysylltiad Ymunwch â ni ar–lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

Gwybodaeth a Sut i archebu tocynnau tudalen 32

eAmserlen rad ac am ddim eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E–bostiwch adam.chard@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e–bost.

Cysylltwch â ni @chaptertweets facebook.com/chapterarts

Cymryd Rhan tudalen 33

Calendr tudalennau 34–35

Nodwch os gwelwch yn dda bod copïau print bras o’n cylchgrawn ar gael ar gais. Cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau ar 029 2030 4400.


Oriel

Richard Woods, Bad Bricks 2, 2014, Cerflun pren (Gwyrdd), Dimensiynau cyffredinol 33.5 x 30.0 x 44.2 cm. Gyda diolch i Richard Woods ac Oriel Alan Cristea, Llundain. Argraffiad o 5

04 029 2030 4400


Oriel

05

Richard Woods, Inclosure Acts, 2015

chapter.org

Richard Woods: Inclosure Acts Gwe 10 Ebrill — Sul 14 Mehefin Mae Richard Woods wedi ennill enw da yn rhyngwladol am ei drawsnewidiadau pensaernïol a phaentiadau a cherfluniau sy’n uno hanes y celfyddydau addurnol, dylunio swyddogaethol a iaith graffeg â delweddau ac arwynebau synhwyraidd a ffraeth. Mae ei ymyriadau pensaernïol yn ymwneud yn bennaf â gosod arwynebau newydd ar strwythurau presennol, ‘twist’ absˆ wrd ar gwlt DIY a gwelliannau i’r cartref. Ar ran Chapter, aeth Woods ati i greu ‘Inclosure Acts’, gwaith newydd wedi ei ysbrydoli gan hanes yr adeilad — sydd ar safle hen farchnad wartheg — a chan y Deddfau Cau Tir (1604–1914), a arweiniodd at drawsnewidiad radical i gaeau a thir comin yng nghefn gwlad. Mae cyfres o brintiau mono ar furiau’r Oriel yn cyfeirio at fywyd maestrefol. Yn seiliedig ar efelychiadau o addurniadau ffug–Duduraidd, mae’r paentiadau yn fan cyfarfod i swbwrbia a Neo Geo — y gorffennol yn y dyfodol. Yn y Caffi Bar, mae’r darnau ‘Bad Bricks’ yn strwythurau pren hyfryd o syml sy’n ymdebygu i friciau cartŵn. Mae eu lliwiau bywiog, y morter gwyn llachar a’r ymylon du trwchus yn ddathliad o ddeunydd adeiladu gyda’r mwyaf cyffredin.

Oriau agor yr arddangosfa: Dyddiau Mawrth, Mercher, Sadwrn a Sul 12–6pm; dydd Iau a dydd Gwener 12–8pm; ar gau ar ddydd Llun

Bywgraffiad Ganwyd Richard Woods ym 1966 yn Swydd Gaer a chafodd ei addysg yn Ysgol Gelf Winchester ac Ysgol Celfyddyd Gain y Slade. Mae e’n byw ac yn gweithio yn Llundain. Yn 2014, cydweithiodd Chapter gyda Woods i gynhyrchu ‘Cardiff Rebuild’, gwaith ar dir Castell Caerdydd yn rhan o raglen Caerdydd Gyfoes. Mae Woods wedi arddangos ei waith yn rhyngwladol ac mae ei brosiectau nodedig diweddar yn cynnwys comisiynau mawrion ym Mhrifysgol Caerfaddon (2014); ‘A Maze for Yorkshire’, Wakefield (2013); Cronfa Celfyddyd Gyhoeddus a Thŷ Lever, Efrog Newydd (2010), a chydweithrediad ar amrywiaeth eang o ddodrefn gydag Established & Sons. Mae gwaith Woods yn rhan o sawl casgliad pwysig, gan gynnwys Casgliad Saatchi, Llundain, Casgliad Frank Cohen, Manceinion/Wolverhampton, a Chasgliad Jumex, Mecsico. Caiff ei gynrychioli gan Works I Projects. Gyda diolch i Oriel Alan Cristea, Llundain.

Sgyrsiau am 2 Sad 9 + Sad 23 Mai 2pm

Cynhelir ein ‘Sgyrsiau am 2’ bob yn ail ddydd Sadwrn ac fe’u cyflwynir gan ein Tywyswyr Byw, Richard Higlett a Thomas Williams. Mae’r sgyrsiau’n gyfle i ddysgu mwy am yr arddangosfa gyfredol ac am ddulliau gwaith unigryw yr artistiaid. Ni fydd dwy sgwrs yn union yr un fath ond y gobaith yw y byddan nhw’n ddiddorol ac yn agored bob amser. Mae’r Sgyrsiau am 2 yn rhad ac am ddim ac nid oes angen archebu lle ymlaen llaw — ymunwch â ni y tu allan i fynedfa’r Oriel! RHAD AC AM DDIM


06

Art Car Bootique Sul 24 Mai Mae Chapter a Something Creative yn falch iawn o gyflwyno’r Art Car Bootique eleni, a fydd yn ddathliad o ganmlwyddiant Sefydliad y Merched. Ers ei sefydlu yn 2011, mae’r digwyddiad hwn, sy’n gymysgedd eclectig ac ecsentrig o gelfyddyd, perfformiadau, bwyd, cerddoriaeth, ffasiwn ‘vintage’ a phrosiectau wedi’u curadu, yn ddathliad o gymuned greadigol Caerdydd. O 11am tan 6pm, bydd ein maes parcio yn cael ei drawsnewid yn ffair bentref seicedelig a bydd mwy na 70 o stondinau i chi eu mwynhau. Mae’r Art Car Bootique yn ddigwyddiad rhyngweithiol rhyfedd o hwyliog sy’n cynnig rhywbeth i bawb. Trwy gyd–ddigwyddiad hapus, mae’r Art Car Bootique yn cyd–fynd unwaith eto eleni â Maibock, ein gŵyl gwrw Almaenaidd flynyddol, a bydd yna berfformiadau byw yn ein Caffi Bar o 6pm tan yr hwyr. Derbyniodd Art Car Bootique eleni gefnogaeth hael gan Ffrindiau Chapter. www.facebook.com/artcarbootique www.artcarbootique.com www.somethingcreatives.com

Art Car Bootique

029 2030 4400


chapter.org

Art Car Bootique

Gyda: good cop bad cop, Printhaus, The Boat Studio, Made in Roath, Oriel Sho, SWICA, Artes Mundi, Ian Watson, Arcadecardiff, Richard Higlett, Prosiect Printmarket, Pedal Emporium, CAAPO, Ugly Knees / Tash Evele, Theatr Everyman, Melissa Hinkin, Stephen Phillips, Apothecary, Sarah Edmonds, Grŵp BRG, In Rainbows, Sarah Hall Shiatsu, Bryce Davies, Boiler House, peintio wynebau Cindy Sherman gyda Thomas Williams, Caroline Duffy, Vintage Mix, Little Big Art, Guest Who, Bws Llyfrau Dylan Thomas, Catkin Boutique, Head Over Heels, Al’s Boutique a Show Shine, Nelly’s Treasures, Sarah Ann Vintage, Katherine Archer

07


08

Cefnogwch Ni

029 2030 4400

CEFNOGWCH NI

Mae Chapter yn elusen gofrestredig ac rydym yn dibynnu ar gefnogaeth gan unigolion a busnesau er mwyn gallu cyflwyno ein rhaglen artistig amrywiol a’n gwaith addysgol pwysig. Rydym yn ddiolchgar am bob ceiniog a dderbyniwn ac fe allwn gynnig ambell beth gwych i chi yn gyfnewid. Mae yna nifer o wahanol ffyrdd o gymryd rhan ...

Unigolion Ffrindiau

Rhoddion

Ymunwch â chynllun Ffrindiau Chapter ac fe gewch chi fwynhau buddion sy’n amrywio o ostyngiadau ar docynnau a bwyd a diod yn ein Caffi Bar, i wahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn Ffrindiau hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C.

Cofrestrwch i wneud cyfraniadau unigol neu roddion reolaidd i Chapter, er mwyn chwarae rhan lawn yn ein gwaith elusennol. Gallwch wneud cyfraniadau ar– lein, ar http://www.chapter.org/cy/cefnogwch–ni neu drwy ymweld â’n Swyddfa Docynnau. Gallwch wneud cyfraniadau drwy neges destun erbyn hyn hefyd — tecstiwch ‘Chap15’, ynghyd â’r swm yr hoffech ei roi i 70070. Fydd hi ddim yn costio ceiniog i chi anfon y neges destun ac fe fyddwn ni’n derbyn 100% o’ch cyfraniad.

Ffrind Efydd : £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40

Myfyrwyr Ydych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth rad ac am ddim a manteisio ar gynigion arbennig ardderchog, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? Cofrestrwch heddiw drwy ymweld â www.chapter.org/cy/chapter–student–membership

Cymynroddion

Mae gadael cymynrodd i Chapter yn fodd i ddiogelu ein gwaith at y dyfodol. Os hoffech chi ystyried gadael rhodd i Chapter yn eich Ewyllys, dylech ofyn am gyngor gan eich cyfreithiwr yn y lle cyntaf. Os ydych chi eisoes wedi crybwyll Chapter yn eich Ewyllys, rhowch wybod i ni, fel y gallwn gydnabod eich cyfraniad yn y modd mwyaf priodol.

I gael mwy o wybodaeth am unrhyw un o’r materion uchod, cysylltwch os gwelwch yn dda ag Elaina Gray ar 02920 355662 neu e– bostiwch elaina.gray@chapter.org.


Cefnogwch Ni

Busnesau

Ffrindiau Chapter wrth eu gwaith!

09

O’r chwith i’r dde: Flying Cow, Boxy & Sticky

chapter.org

Clwb Cynllun aelodaeth Chapter i fusnesau. Am ffi flynyddol fechan, gall eich busnes chi fwynhau manteision sylweddol yn Chapter, a’r rheiny’n cynnwys cyfleoedd i rwydweithio, defnydd o’n mannau llogi hyblyg a gostyngiadau i chi a’ch staff ar docynnau sinema a theatr yn ogystal â phrisiau gostyngol yn ein Caffi Bar. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.chapter.org/ cy/chapter–clwb.

Nawdd

Yn 2014, dyfarnodd Celfyddydau & Busnes Cymru Wobr Gyffredinol Categori’r Celfyddydau i Chapter am ein perthynas waith ragorol â busnesau. Mae yna nifer o gyfleoedd i’n noddi ac mae’r rheiny’n cynnwys nifer o fuddion gwych, gan gynnwys cyfranogiad staff, lletygarwch corfforaethol a chyfleoedd i hyrwyddo eich brand.

Mae ein Ffrindiau yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i waith Chapter trwy gyfrwng eu cefnogaeth ariannol a’u presenoldeb rheolaidd mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau ar hyd a lled y ganolfan. Mae nifer ein Ffrindiau yn cynyddu bob mis a, bob blwyddyn, rydym yn edrych ymlaen at weld wynebau newydd a chyfarwydd yn ein partïon haf a Nadolig. Eleni, rydym yn arbennig o falch o gyhoeddi bod yr incwm a godir trwy gyfrwng y cynllun Ffrindiau yn cael ei gyfrannu’n uniongyrchol at drefnu’r Art Car Bootique, un o brif ddigwyddiadau Chapter, a fydd yn meddiannu’r adeilad cyfan ar ddydd Sul 24 Mai. Galwch heibio stondin Ffrindiau Chapter yn y maes parcio yn ystod y dydd i glywed mwy am y ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan. Ac i’r rheiny yn eich plith sydd eisoes yn Ffrindiau, mae’n bosib y bydd yna syrpreis bach yn eich disgwyl ...!


10

Bwyta Yfed Llogi

029 2030 4400

Bwyta Yfed Llogi

Maibock

Pop Up Produce

Mae ein gŵyl flynyddol o gwrw gwanwyn yr Almaen yn dychwelyd! Mae cwrw Maibock o Bafaria yn ysgafnach, yn draddodiadol, ac yn fwy hopysaidd na chwrw bock (cryf) — mae hynny’n adlewyrchu’r trawsnewid o’r gaeaf i’r gwanwyn. Fel y llynedd, bydd yr ŵyl eleni yn cyd–fynd â’r Art Car Bootique (tt6–7) a byddwn yn cynnal barbeciw hefyd. Felly gallwch fwynhau detholiad blasus o gwrw newydd, hen ffefrynnau a bwyd barbeciw blasus yn haul y gwanwyn. Prost!

Mae ein marchnad fisol yn llawn cynhyrchwyr bwyd lleol a fydd yn cynnig danteithion i dynnu dŵr o’r dannedd. Byddwn yn cyflwyno rhai o’ch hen ffefrynnau ynghyd ag ambell werthwr newydd a fydd yn gwerthu siocledi, jamiau a bara arbenigol. Ymunwch â ni ar ddydd Mercher cyntaf y mis ym mhrif gyntedd Chapter i demtio’ch synhwyrau! Ydych chi’n cynhyrchu caws, charcuterie, blodau, picls neu wyau? Neu gynhyrchion blasus eraill? Os hoffech chi ymuno â ni unwaith y mis, cysylltwch â Philippa — philippa.brown@chapter.org — i wneud cais am stondin.

Mer 20 — Sul 24 Mai

Llogi

Mae nifer o ystafelloedd a chyfleusterau Chapter ar gael i’w llogi, ac mae llawer o’r rhain yn cael eu defnyddio’n rheolaidd gan gymysgedd eclectig o ddosbarthiadau dydd a nos. Ewch i’n gwe–fan neu codwch daflen yn y swyddfa docynnau i weld yr hyn sydd ar gael. Os ydych chi’n chwilio am ystafell ar gyfer parti, cyfarfod neu gynhadledd, neu am ofod i saethu fideo, i ymarfer neu i gynnal gweithgareddau adeiladu tîm, bydd ein cyfleusterau gwych, ein harbenigedd technegol a’n staff cyfeillgar yn gallu sicrhau bod eich digwyddiad yn gyffyrddus, yn unigryw ac yn gofiadwy. Gallwn gynnig amrywiaeth o opsiynau arlwyo ar gyfer eich digwyddiad hefyd. Os oes gennych chi gwestiynau penodol neu os hoffech chi fwy o wybodaeth am ein cyfleusterau, rhowch ganiad i’n rheolwr llogi, Nicky, ar 029 2031 1058 neu anfonwch e–bost at nicky.keeping@chapter.org.

Mer 6 Mai 3–8pm


Chapter Mix

11

Dydd Iau Cyntaf y Mis

Darlith Cymdeithas Celfyddydau Cain ac Addurnol De Cymru

Jazz ar y Sul

chapter.org

Barddoniaeth a Ffuglen Newydd Iau 7 Mai 7.30pm

Bydd y darllenydd gwadd, Damian Walford Davies, yn cyflwyno gwaith o’i gasgliad newydd, Judas. Bydd yna ddarlleniadau hefyd gan awdur gwasg Mulfran, Lesley Saunders, a’r awdur newydd o Gaerdydd, Joao Morais. + Sesiwn meic agored. £2.50 (wrth y drws) Noddir gan Wasg Seren, Gwasg Mulfran a Llenyddiaeth Cymru.

Clwb Comedi The Drones

Gwe 1 + Gwe 15 Mai Drysau’n agor: 8.30pm Sioe’n dechrau: 9pm Clint Edwards sy’n cyflwyno’r ‘stand–ups’ addawol gorau. Gwelwyd peth o ddeunydd y nosweithiau hyn ar raglen ‘Identity Crisis’ Rob Brydon. Dydd Gwener cyntaf a thrydydd dydd Gwener y mis. Un o’r ‘Deg Peth Gorau i’w Gwneud yng Nghaerdydd’ yn ôl cylchgrawn The Big Issue. £3.50 (wrth y drws)

Cylch Chwedleua Caerdydd Sul 3 Mai 8pm

Straeon ar Droad y Flwyddyn — Straeon a chaneuon i groesawu’r haf. £4 (wrth y drws)

Clonc yn y Cwtsh Bob dydd Llun 6.30–8pm

Ydych chi’n dysgu Cymraeg? Ymunwch â ni i ymarfer eich Cymraeg yng nghwmni dysgwyr eraill. Croeso i bawb! RHAD AC AM DDIM Ar y cyd â Menter Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd

Iau 14 Mai 2pm Celfyddyd Rhyfel Cartref America Tricia Passes BA (Anrh) MA

Byddwn yn archwilio corpws anhygoel o waith gan artistiaid fel Winslow Homer a Frederic Edwin Church a ffotograffwyr fel George N. Bernard a Matthew Brady. Yn ystod y cyfnod tyngedfennol rhwng 1861 a 1865, collodd 620,000 o filwyr eu bywydau. Ymwelwyr £6 (wrth y drws, yn ddibynnol ar le) www.swdfas.org

Lansiad Llyfr:

All The Places We Lived gan Richard Owain Roberts Iau 14 Mai 7.30pm

Cathod sy’n gwirioni ar Wicipedia, negeseuon Twitter wedi’u dileu, mam James Franco, gorllewin Cymru a Barcelona. Yn gyfuniad o ddiddymdra a gobaith, mae All The Places We Lived yn gasgliad o straeon gwahanol ond cysylltiedig, wedi’u plethu ynghyd gan gymeriadau sy’n cwympo i mewn ac allan o gariad â’i gilydd ac â bywyd yn yr unfed ganrif ar hugain. Mynediad am ddim www.parthianbooks.com/content/all–places–we–lived @RichOwainRobs

Jazz ar y Sul Sul 17 Mai 9pm

Ein noson fisol o jazz acwstig melodig yn y Caffi Bar, gyda Phedwarawd Jazz Chapter — Glen Manby, Jim Barber, Don Sweeney a Greg Evans. RHAD AC AM DDIM www.glenmanby.com


Theatr

Spring, Autumn, Summer, Winter: Pop–Up Love Party. Llun: Scott Munn

12 029 2030 4400


Theatr

13

Spring, Autumn, Summer, Winter: Pop–Up Love Party. Lluniau: Scott Munn

chapter.org

Intangible Studio yn cyflwyno:

Spring, Autumn, Summer, Winter: Pop–Up Love Party Gwe 29 + Sad 30 Mai 9.30pm Gan y tîm a gyflwynodd Ŵyl Berfformio Ryngwladol Caerdydd y llynedd, dyma sioe grŵp newydd a grëwyd ar gyfer Chapter yn benodol. Bydd yn cynnwys gwaith y cwmni theatr arloesol, Theatr Zuppa (Halifax, Nova Scotia), Shirotama Hitsujiya (Cyfarwyddwr Artistig Yubiwa Hotel, Tokyo, Japan) a’r gwneuthurwyr theatr lleol, Valmai Jones a James Tyson. Mae ‘Spring, Autumn, Summer, Winter: Pop–Up Love Party’ yn wledd athronyddol: sioe theatr ynghyd â bwydlen flasu saith cwrs wedi’i chreu gan Daniel Burns, cogydd o Efrog Newydd sydd yn ddeiliad seren Michelin. Dyma gyfle i fyfyrio ac i gynnig llwnc destun i gariad yn yr 21ain ganrif. Mae’r darn yn fersiwn newydd o Symposiwm (Parti Yfed) Plato, lle daw grŵp o ffigyrau cyhoeddus blaenllaw at ei gilydd i fwyta, yfed ac ystyried peth dirgel iawn: cariad erotig. Mae’r perfformiad yn datblygu ar sail cyfres o gwestiynau: Beth yw gofod? Sut mae dod o hyd i ofod i feddwl yng nghanol cymhlethdodau bywyd bob dydd?

Roedd Plato yn casáu’r theatr am ei fod yn credu bod y cyfrwng yn ffafrio profiad angerddol ar draul dwys fyfyrio. Mae ‘Spring, Autumn, Summer, Winter: Pop–Up Love Party’ yn holi a all y ddau beth gydfodoli. A all profiad emosiynol a synhwyraidd ysbrydoli dwys ystyried? £15 (yn cynnwys bwydlen flasu saith cwrs a gwin) Cynhyrchwyd ‘Spring, Autumn, Summer, Winter: Pop–Up Love Party’ gan James Tyson / Intangible Studio a Theatr Zuppa (Halifax) ar y cyd â Chanolfan Genedlaethol y Celfyddydau (Ottawa). Derbyniodd y perfformiad hwn gefnogaeth hael gan Gyngor Celfyddydau Canada, Cyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Japan.


Theatr

Beyond the Border yn cyflwyno

Beyond Dreams of Aberystwyth

029 2030 4400

O’r chwith i’r dde: Midir & Etain, Beyond Dreams of Aberystwyth

14

Midir & Etain The Love of One Thousand Years Maw 5 Mai 8pm Cyfuniad o wyddonias y 10fed ganrif, barddoniaeth epig Iwerddon, comics arswyd a drama’r Dioddefaint… Mae’r storïwr epig, Ben Haggarty, a’r cerddor gwyllt, Sianed Jones, yn adrodd hanes rhyfeddol am ddau dduw y mae eu cwest am gariad yn rhychwantu mil o flynyddoedd – ac yn goroesi trionglau serch cymhleth, tasgau amhosib, sawl ailymgnawdoliad angenfilaidd a rhaniad y byd yn ddau barth, sef byd y meidrolyn ac Arall–fyd tywyll. Mae’r perfformiad hynod gorfforol hwn, â’i seinweddau dramatig, yn dwyn ynghyd elfennau swrrealaidd, llon a chomig ac yn creu naws o bŵer epig.

Perfformiad gan Ben Haggarty Cerddoriaeth gan Sianed Jones — Llais, harmoniwm, bas, ffidil drydan. £12/£10 (Oed: 14+)

‘Chwedleua go iawn’ Gŵyl y Gelli, wedi’i noddi gan The Guardian Cynhelir ‘Beyond the Border’, Gŵyl Chwedleua Ryngwladol Cymru rhwng 1 a 3 Gorffennaf 2016 yng Nghastell Sain Dunwyd, Bro Morgannwg.

Mer 13 Mai 7.30pm Mae Emma Decent ar daith. Bu farw ei thad yn 2009. Rai diwrnodau wedi hynny, dysgodd ei fod ef wedi cael plentyn gyda menyw arall a’i fod e wedi torri ei chalon hithau a’i gadael yn feichiog yn ystod y 1950au. Mae’r datguddiad yn arwain Emma ar daith fyd–eang sy’n cychwyn yn Aberystwyth, y dref arfordirol lle cynhaliwyd y berthynas fyrhoedlog a lle treuliodd Emma dair blynedd yn astudio drama. Mewn ymgais i gymodi â’i thad, ac â’i hanes hi ei hun, mae Emma’n dilyn ôl ei draed. Mae hi’n dysgu am eu treftadaeth Iddewig yn Ewrop ac am ei freuddwydion ef o fod yn seren ffilm yn y Dwyrain Pell, cyn cyrraedd ei man geni ei hun, Toronto. Mae’r sioe yn gyfuniad o ddyddiadur taith a mytholegu hunangofiannol. Bydd Emma’n defnyddio ei sgiliau barddol ynghyd â chyfryngau amrywiol ar gwest seithug am y gwir. £12/£10/£8 (Oed: 14+)


Theatr

Liam Williams: Capitalism

Rob Newman — The Brain Show

15

O’r chwith i’r dde: Liam Williams, Rob Newman

chapter.org

Iau 14 Mai 8pm Enwebwyd Liam Williams am Wobr Gomedi Caeredin yn 2014 ac mae e’n dilyn ei sioe gyntaf nodedig â chyflwyniad newydd sy’n archwilio arian a chyfalaf. Yn dilyn tri rhediad hynod lwyddiannus yn Llundain, taith Brydeinig, clod gan y beirniaid, Gwobr y Newydd–ddyfodiad Gorau yng Nghaeredin ac enwebiad am Wobr Gomedi Caeredin, mae Williams yn ei ôl â golwg hunan–fyfyriol ar ein system economaidd ar chwâl. Mae Liam wedi ymddangos fan hyn fan draw ar y teli– bocs, ar raglenni’n cynnwys Russell Howard’s Good News, Comedy Central at the Comedy Store, a rhyw raglen neu’i gilydd ar Channel 4. Mae e hefyd wedi bod ar BBC Radio 4 deirgwaith. Rhif 1 ar restr Sioeau Comedi The Guardian yn 2014. £10/£9/£8 (Oed: 14+)

‘Anhygoel — sioe syfrdanol o ddoniol gan ddigrifwr nad oes arno ofn mynd i’r afael â chwestiynau dyrys bodolaeth’ The Guardian

Iau 28 Mai 8pm Mae hon yn stori am y modd y daeth Rob Newman yn wrthwynebydd tanbaid i honiadau di–sail ‘neurobabble’, ar ôl iddo gael ei ddefnyddio fel mochyn cwta mewn cyfres o arbrofion i ddelweddu’r ymennydd. Mae ei frwydr epig yn erbyn ‘neuromania’ yn ei arwain i Gôr y Cewri a jyngl Guyana ac yn cynnwys corynnod â streips a sgwid ‘bobtail’. Daw ei gwest i ben â brwydr fawreddog â labordy llawn gwyddonwyr, sy’n cynnwys Rob mewn fersiwn sinistr o brawf Turing, ‘Prawf yr Asyn’! £10/£9/£8 (Oed: 14+)

‘Welwch chi’r llygedyn yna o olau sy’n pefrio yn y tywyllwch, yn yr awyr gymylog? Chi yw hwnna’ The Daily Telegraph


Theatr

029 2030 4400

An Inspector Calls

16

Cwmni Theatr Tin Shed yn cyflwyno

An Inspector Calls Mer 6 + Iau 7 Mai 2.30 + 7.30pm Fin nos, daw ymwelydd annisgwyl i darfu ar ddathliad yng nghartref teulu ffyniannus. Mae’r dyn yn ei gyflwyno’i hun fel Arolygydd gyda’r Heddlu. Mae e wedi dod i wneud ymholiadau am hunanladdiad merch ifanc ac, o’r eiliad gyntaf, caiff gwe o gyffro, cyhuddiadau, cyfrinachau a drwgdybiaeth ei gwau wrth i ni ddysgu nad yw pob un mor ddiniwed ag yr ymddengys. Caiff drama dditectif gyffrous JB Priestley ei chyflwyno â medr a chywreinrwydd dramatig gan Gwmni Theatr Tin Shed. Maent yn llwyddo i gydbwyso dieithrwch yr Arolygydd â naturiolaeth y darn wrth i’r achos dirgel gael ei archwilio. Maent yn canolbwyntio ar themâu pwerus JB Priestley — cyfrifoldeb cyfun a phwysigrwydd y syniad o gymuned. £12/£10


chapter.org

Theatr

Theatr Gwalia yn cyflwyno

Bara Bread gan Carmen Medway–Stephens Mer 20 — Sad 23 Mai 8pm

Bara Bread

Mae Nettie ar fin dathlu ei 40 oed a does ganddi ddim syniad ble i droi. Mae hi’n sefyll yng nghegin ei mam ar ei phen ei hun yn llwyr – ag eithrio lludw ei mam, llyfr lloffion o ryseitiau a nodyn yn dweud ‘Beth am bobi bara gyda’n gilydd’. Mae hi’n amser i Nettie wasgaru’r lludw a chreu toes. Ond a fydd hi’n gallu pobi? Dyw hi ddim wedi bwyta carbs ers blynyddoedd. Mae’r toes mamol yn dod â ffrindiau newydd i fyd Nettie — bugeiles wyllt ac eofn o’r enw Maggie, Mair y Ficer, sy’n barchus ond yn feddal fel y toes ei hun, Annabel, yr asiant gwerthu tai hynod smart, a Lara, sy’n 16 oed ac yn feichiog. Daw’r unigolion hyn at ei gilydd i bobi bara gyda Nettie, ac i’w helpu i ddod o hyd iddi hi’i hun. ‘Ym mha ffordd yr oedd y dorth sleis yn fodd i’n gwaredu?’ Y bwrdd — y bydysawd — lle torrir bara, lle rhennir cariad, lle collir dagrau, lle mae chwerthin yn seinio a chyfrinachau’n cael eu datgelu. A all Nettie drefnu’r cynhwysion er mwyn cwblhau ei datblygiad ei hun? Gwasgarwch y lludw ac fe welwch chi hud a lledrith... £12/£10/£8

17


Theatr

Winter Villains + Cefnogaeth gan HART

Theatr Everyman yn cyflwyno

029 2030 4400

O’r chwith i’r dde: Winter Villains, The Ladykillers

18

Sad 16 Mai 8pm Mae’r Winter Villains yn dychwelyd i Chapter i ddathlu lansiad eu hail albwm, ‘Once There Were Sparks, Now There Are Ashes’. Mae hwn yn addo bod yn berfformiad arbennig yng ngofod agos–atoch Chapter — bydd ffrindiau a chydweithwyr cerddorol yn ymuno ag aelodau craidd y band i ail–ddychmygu synau ac awyrgylch eu halbwm newydd mewn cyd–destun byw. £6/£5 www.wintervillains.com soundcloud.com/hart_music

Newsoundwales yn cyflwyno:

The Earth + Tibet + Zac White Gwe 15 Mai 7.30pm Mae The Earth yn fersiwn Gymreig o’r ‘supergroup’ — Dafydd Ieuan (Super Furry Animals), Mark Roberts (Catatonia), Tristan Marley (The Scooters) a Dionne Bennett (Slowly Rolling Camera). Mae’r band wedi rhyddhau dau albwm a dderbyniodd glod uchel ac, yn ddiweddar, fe chwaraeon nhw ochr yn ochr â John Cooper Clarke a Cerys Matthews yn Nigwyddiad Codi Arian Howard Marks yn Llundain. Daw’r gefnogaeth gan y band newydd addawol, Tibet, a’r newydd– ddyfodiad o Gaerdydd, Zac White. £10 (Oed: 14+)

The Ladykillers gan Graham Linehan (yn seiliedig ar sgript ffilm William Rose) Maw 19 — Sad 23 Mai 7.30pm (matinée Sad 23 Mai 2.30pm) Mae’r hen wreigan unig, Mrs Wilberforce, wrth ei bodd â’i lletywr newydd, yr Athro Marcus. Mae ei gylch o ffrindiau yn gerddorion amatur brwd ac maen nhw’n chwa o awyr iach pan ddônt i’r tŷ i ymarfer. Ond dyw Mrs Wilberforce ddim yn sylweddoli eu bod nhw, mewn gwirionedd, yn lladron profiadol sydd wrthi’n trefnu heist mwyaf eu gyrfaoedd. Yn ddiarwybod iddi, caiff ei hun yn rhan o’r cynllwyn ac, yn sydyn, mae hi mewn perygl go iawn. A fydd Mrs Wilberforce a’i pharot dibynadwy, General Gordon, yn cario’r dydd? Mae’r addasiad pefriog hwn o gomedi Ealing William Rose (1954) gan Graham Linehan (cyd–awdur Father Ted) yn driw i ysbryd y ffilm wreiddiol. Mae’n ffres, yn swynol ac yn ddoniol, ac yn sefyll ar ei thraed ei hun. £10 (£8 Maw 19 + Iau 21 Mai yn unig)


Theatr

19

O’r chwith i’r dde: The Ted Bundy Project, Boon Shy No Mutley Llun: Kusa

chapter.org

Theatr Iolo yn cyflwyno

Jim Dahl yn cyflwyno

The Ted Bundy Project

Boon Shy No Mutley

gan Greg Wohead Gwe 29 + Sad 30 Mai 8pm

Gwe 8 + Sad 9 Mai 7.30pm

Ym mis Tachwedd 2012, daeth Greg Wohead ar draws tapiau o gyffesion Ted Bundy, y llofrudd cyfres, y treisiwr a’r corffgarwr Americanaidd. Doedd e ddim yn gallu stopio gwrando. Mae’r Ted Bundy Project yn seiliedig ar gwestiynau am natur swyn, y syniad o ‘anghenfil’ a’r tensiwn rhwng atyniad a ffieidd– dod. Mae gan Greg wig, ddarn o raff, ambell fideo YouTube a thapiau o gyffesion Bundy. Dewch i glywed yr hyn sydd ganddo i’w ddweud. £12/£10 (Oed: 16+) Hollol anaddas i bobl dan 16 oed Mae’r perfformiad hwn yn cynnwys delweddau eithafol ac yn trafod pynciau treisgar a graffig

‘Sioe lithrig sy’n ein gorfodi ni i wynebu ein diddordebau afiach... peidiwch â’i cholli’ Lyn Gardner, The Guardian Gweithdy i fyfyrwyr ac artistiaid proffesiynol Dwyn Perfformiadau: Cardota, Benthyca a Lladrata Artistig Sad 30 Mai 11am–2pm Dan arweiniad Greg Wohead, bydd y gweithdy ymarferol hwn yn mynd i’r afael â lladrad artistig ac yn eich helpu i adnabod syniadau cyffrous artistiaid eraill, i ymateb iddynt yn eich gwaith eich hun ac, yn y pen draw, i ddatblygu eich syniadau eich hun. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.theatriolo.com. Tocyn cyfun — gweithdy + sioe: £20

Dychweliad perfformiad cymysg a thra amrywiol… cyfuniad o lefaru, hud a lledrith, gwisgoedd a chân yn nhraddodiad gorau’r ‘Music Hall’. Rhywbeth i bawb, felly — neu rywbeth i rywun, o leia’! Gyda Tim Bromage, Heddwyn Davies, Neil Pedder ac Alex Spencer Mae albwm o gerddoriaeth y sioe ar gael o’n Swyddfa Docynnau am £6 £12/£10 (Oed: 15+)


Sinema

‘Byddai’n well gen i gael fy nghasáu am yr hyn ydw i na fy ngharu am fod yn rhywun arall’ Kurt Cobain

029 2030 4400

Cobain: Montage of Heck

20


chapter.org

Sinema

21

Gyda’r cloc o’r brig: Elliott Smith: Heaven Adores You, No Manifesto: Manic Street Preachers, Lambert and Stamp

Sineffonig

Cobain: Montage of Heck

Lambert and Stamp

UDA/2014/132mun/15. Cyf: Brett Morgen.

DG/2005/117mun/15. Cyf: James D. Cooper.

Casgliad cyfareddol o ddeunydd archif prin a chyfweliadau gyda’r bobl a oedd yn adnabod Kurt Cobain orau. Daw’r cyfan at ei gilydd i ffurfio portread o gerddor a enillodd, o’i anfodd, statws chwedlonol. Gwelwn blentyndod hapus yn cael ei chwalu gan ysgariad ei rieni a hynny’n sbarduno cwymp a ataliwyd ddim ond wedi iddo gael hyd i ddihangfa mewn cerddoriaeth. Ond wedi hynny, daeth ei amheuon am ei dalent a’i enwogrwydd i darfu ar bopeth…

Hanes rhyfeddol Chris Stamp a Kit Lambert, gwneuthurwyr ffilm uchelgeisiol a oedd yn chwilio am destun ar gyfer ffilm. Arweiniodd hynny at ddarganfod, mentora a rheoli’r grŵp eiconig, The Who, ac at hyrwyddo datblygiad artistig band a adawodd ôl annileadwy ar genedlaethau dilynol. Mae’r ffilm yn cynnwys cyfweliadau â phersonoliaethau eiconig a oroesodd y 60au gwyllt, a delweddau anhygoel o’r band ar anterth mudiad y ‘mods’.

Gwe 1 — Iau 7 Mai

Elliott Smith: Heaven Adores You Gwe 8 — Mer 13 Mai

UDA/2015/104mun/TiCh. Cyf: Nickolas Rossi.

Mae’r ffilm agos–atoch hon am fywyd a cherddoriaeth y cyfansoddwr Elliott Smith yn archwilio’r tair dinas fawr a oedd yn gartref iddo. Yn rhyw fath o lyfr lloffion o ddelweddau o’i blentyndod hyd at ei hunanladdiad trasig, mae’r ffilm yn edrych ar yr effaith y mae ei gerddoriaeth yn dal i’w chael ar ei ffans, ei ffrindiau a chyd–gerddorion.

Gwe 29 — Sul 31 Mai

No Manifesto: Manic Street Preachers Sul 31 Mai — Iau 4 Mehefin

DG/2015/95mun/15. Cyf: Elizabeth Marcus.

Ym 1991, ffrwydrodd y Manic Street Preachers fel bom yn y sîn roc Brydeinig gan ddatgan eu bwriad o wneud un albwm a gwerthu miliwn o gopïau cyn chwalu. Flynyddoedd, a nifer helaeth o recordiau hynod boblogaidd, yn ddiweddarach, ac ar ôl colli un aelod a chorddi dyfroedd dirifedi, maent yn dal i fynd. Mae’r ffilm hon yn olwg y tu ôl i’r llen ar brosesau creadigol y band ac yn adrodd hanes eu datblygiad o fod yn fand pync cegog i fod yn ffigyrau o bwys rhyngwladol.


Sinema

029 2030 4400

Woman in Gold

The Falling

Gwe 1 — Iau 7 Mai

Gwe 1 — Iau 7 Mai

DU/2015/109mun/12A. Cyf: Simon Curtis. Gyda: Helen Mirren, Ryan Reynolds, Daniel Brühl, Tatiana Maslany.

DG/2015/102mun/15. Cyf: Carol Morley. Gyda: Maisie Williams, Maxine Peake, Greta Scacchi.

Drigain mlynedd wedi iddi ffoi o Fiena yn ystod yr Ail Ryfel Byd, mae gwraig Iddewig oedrannus, Maria Altmann, yn cychwyn allan ar daith i adennill eiddo teuluol a ddygwyd gan y Natsïaid – eiddo a oedd yn cynnwys darlun enwog Klimt, ‘The Lady in Gold’. Yng nghwmni ei chyfreithiwr ifanc brwd ond amhrofiadol, Randy Schoenberg, mae Maria’n cychwyn ar frwydr fawr sy’n ei harwain i galon y sefydliad Awstriaidd a Goruchaf Lys yr Unol Daleithiau ac yn ei gorfodi hefyd i wynebu gwirioneddau annymunol am y gorffennol.

1969. Mae’r ffrindiau pennaf, Lydia ac Abbie, wedi creu byd preifat iddyn nhw eu hunain yn awyrgylch caethiwus ysgol Seisnig i ferched. Mae obsesiwn Lydia â’i ffrind yn fodd o anghofio am ei mam agoraffobig a rhwystredig. Abbie yw canolbwynt ei byd bregus ond, ar ôl trasiedi, mae pethau’n dechrau syrthio’n ddarnau ac mae epidemig o lewygu dirgel yn meddiannu’r ysgol ...

Jauja

+ Ymunwch â ni ar ôl y ffilm ar ddydd Mercher 6 Mai am drafodaeth Tinted Lens, cydweithrediad newydd gan Chapter, Prifysgol Caerdydd a’r BFI. Byddwn yn archwilio’r meddwl a chysyniadau’n ymwneud â normalrwydd a phatholeg, gan ganolbwyntio ar golled a galar, ffantasi a rhith, dealltwriaeth o amser a chyflyrau ymwybyddiaeth.

Gwe 1 — Iau 7 Mai

O’r chwith i’r dde: Woman in Gold, The Falling

22

Ariannin/2014/110mun/is–deitlau/15. Cyf: Lisandro Alonso. Gyda: Viggo Mortenson, Viilbjørk Mallin Agger, Ghita Nørby.

Ar ôl i’w ferch 15–mlwydd–oed, Ingeborg, redeg i ffwrdd yng nghwmni milwr ifanc, mae Capten Dinesen yn cychwyn allan ar daith epig, dros yr anialwch, i geisio dod o hyd i’r cwpwl. Mae Dinesen yn bwrw yn ei flaen ag unplygrwydd obsesiynol ac mae ei gwest yn ei arwain y tu hwnt i gyfyngiadau’r byd hysbys. ‘Western’ hardd am yr ymgais i ddod o hyd i iwtopia wedi’i gosod yn nhirwedd ysblennydd Patagonia

Lost River Gwe 8 — Mer 13 Mai UDA/2014/93mun/15. Cyf: Ryan Gosling. Gyda: Saoirse Ronan, Christina Hendricks, Eva Mendes.

Mae Billy’n fam sengl sy’n cael trafferth talu’i morgais ac mae ei mab, Bones, yn crwydro o amgylch tref ysbryd ger Detroit, yn ysbeilio metel sgrap o dai drylliedig. Ar ôl i’w rheolwr banc sinistr gynnig swydd iddi mewn clwb bwrlesg llwm, mae Billy’n syrthio i is– fyd ofnadwy — byd a ymgorfforir gan dref freuddwydaidd sydd fel petai wedi ei boddi yn y llyn cyfagos. Mae ffilm gyntaf Ryan Gosling fel cyfarwyddwr yn stori dylwyth teg neo–noir am deulu a goroesi.


Sinema

A Pigeon Sat on a Branch Reflecting on Existence

NT Encore: The Hard Problem

Gwe 8 — Iau 14 Mai

Sul 3 Mai

Sweden/2014/100mun/is–deitlau/12A. Cyf: Roy Andersson. Gyda: Holger Andersson, Nils Westblom, Viktor Gyllenberg.

DG/2015/180mun/12A. Cyf: Nicholas Hytner. Gyda: Olivia Vinall.

23

O’r chwith i’r dde: A Pigeon Sat on a Branch Reflecting on Existence, NT Encore: The Hard Problem

chapter.org

Cyfres o vignettes trasicomig a gyflwynir ar setiau bocsaidd, manwl. Wrth galon y stori mae Sam a Jonathan. Maen nhw’n gyn–werthwyr blinderus sydd bellach yn ddiddanwyr ond does neb eisiau prynu eu dannedd fampir a’u triciau rhad. Gwelwn gynfas eang a hardd o brysurdeb dynol a mân bryderon, yr oll drwy lygaid colomen. Enillydd y Llew Euraid yng Ngŵyl Ffilm Fenis 2014

The Second Best Exotic Marigold Hotel Gwe 8 — Iau 14 Mai DG/2014/122mun/PG. Cyf: John Madden. Gyda: Bill Nighy, Maggie Smith, Richard Gere, Judi Dench.

Mae gan Sonny ei lygad ar ail westy, â’i Best Exotic Marigold Hotel for the Elderly and Beautiful bellach yn ffynnu. Mae Evelyn a Douglas wedi ymuno â’r gweithlu yn Jaipur, mae Norman a Carol yn ceisio ymdopi â dyfroedd dyfnion eu perthynas, ac mae Madge yn ceisio ymdopi â dau ddarpar–gariad cyfoethog. Wrth i ofynion priodas Indiaidd draddodiadol fygwth eu llyncu nhw i gyd, daw llwybr annisgwyl i’r golwg. + Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn Sinema 1 ac Is–deitlau Meddal ar ddydd Gwener 8 Mai am 2.30pm a dydd Llun 11 Mai am 6pm. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau neu ewch i’n gwe–fan i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau.)

Beth yw ymwybyddiaeth? Dyna’r cwestiwn sy’n poeni Hilary, ymchwilydd ifanc mewn sefydliad gwyddonol sy’n astudio’r ymennydd. Wedi’r cyfan, os taw mater yw popeth, mae datblygiadau technolegol yn golygu y bydd y cyfrifiadur a’r sganiwr fMRI yn gallu ateb yn y pen draw yr holl gwestiynau sy’n hoelio sylw seicolegwyr y presennol. Dyna ‘broblem’ y teitl, sy’n arwain Hilary i wrthdaro â’i chydweithwyr, gan gynnwys ei mentor, Spike, ei bos Leo, a sylfaenydd y sefydliad, y biliwnydd, Jerry. Mae drama newydd hir– ddisgwyliedig Tom Stoppard yn archwilio ambell un o’r cwestiynau dwysaf ar ymylon allanol ymchwil gwyddonol.

NT Live: Man and Superman Iau 14 Mai Encore: Llun 25 Mai DG/2015/240mun/12A. Cyf: Simon Godwin. Gyda: Ralph Fiennes.

Mae hen lanc a chwyldroadwr cyfoethog o’r enw Jack Tanner yn ei gael ei hun, o’i anfodd, yn gwarchod etifeddes swynol o’r enw Ann. Ar ôl gwrthod bardd, mae Ann yn penderfynu priodi — a cheisio dofi — Tanner ei hun. Mae e, yn naturiol, yn dewis ffoi i Affrica — lle caiff ei herwgipio gan ddrwgweithredwyr. Mae’r hyn sy’n dilyn yn freuddwyd–ddadl hynod am Nefoedd ac Uffern gyda’r Diafol ei hun, a Ann yn eu herlid. Fersiwn newydd ddisglair o stori dylwyth teg athronyddol George Bernard Shaw a chomedi ramant ddychanol.


24

Sinema

029 2030 4400

Yn rhan o’n cyfres o ddigwyddiadau wedi’u hysbrydoli gan y Rhyfel Byd Cyntaf, rydym yn archwilio effaith y gwrthdaro ar y rheiny sy’n aros adref wrth i’r rhyfel fynd rhagddo mewn mannau eraill. Byddwn yn canolbwyntio ar effeithiau rhyfel ar deuluoedd o bob math.

Good Kill

Timbuktu

UDA/2014/102mun/15. Cyf: Andrew Niccol. Gyda: Ethan Hawke, January Jones, Zoë Kravitz.

Ffrainc/2014/97mun/is–deitlau/12A. Cyf: Abderrahmane Sissako. Gyda: Ibrahim Ahmed, Toulou Kik, Abel Jafri, Fatoumata Diawara.

Llun 11 — Iau 14 Mai Mae’r Cadfridog Thomas Egan yn beilot talentog gyda’r Llu Awyr ond yn treulio’i ddyddiau mewn trelar yn Las Vegas yn gweithredu drôn i geisio dileu gwahanol fygythiadau terfysgol yn y Dwyrain Canol. Wrth i’r CIA gyfarth gorchmynion i Egan a’i griw, mae e’n dechrau teimlo datgysylltiad moesol, rhwng ei swydd a’i fywyd teuluol. Archwiliad o ddad–ddynoli rhyfela modern a’r goblygiadau seicolegol i’r rheiny sy’n aros adref sydd yn cynnwys perfformiad canolog grymus.

A Royal Night Out Gwe 15 — Iau 28 Mai

DG/2015/97mun/12A Cyf: Julian Jarrold. Gyda: Sarah Gadon, Emily Watson, Rupert Everett.

Ar Ddiwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop 1945, cafodd y Dywysoges Margaret a’i chwaer, Elizabeth, ganiatâd i adael Palas Buckingham am noson i ddathlu. Yn seiliedig ar ddigwyddiadau go iawn nas datgelwyd o’r blaen, mae’r stori dwymgalon hon yn canolbwyntio ar ddwy ferch yn eu harddegau sy’n chwilio am ramant a pherygl, ond yn ceisio osgoi sgandal hefyd.

The Good Lie Gwe 15 — Iau 21 Mai

Kenya/2014/110mun/12A. Cyf: Philippe Falardeau. Gyda: Reese Witherspoon, Arnold Oceng, Ger Duany.

Ar ôl colli’u rheini yn rhyfel cartref creulon y Swdan, mae pedwar o ddioddefwyr ifainc yn teithio ar droed i geisio lloches ac yn setlo yn y pen draw yn yr UDA, lle maen nhw’n cwrdd â chwnselydd cyflogaeth o’r enw Carrie. Mae’r cyfarfyddiad yn newid eu bywydau. Pedwar o ffoaduriaid sy’n chwarae’r prif rannau — ac mae dau ohonynt yn gyn–filwyr ifainc. Ffilm i gynhesu’r galon sy’n seiliedig ar stori wir.

Gwe 29 Mai — Iau 4 Mehefin

Yn llawn delweddau hardd o dirweddau anial ac afonydd pefriog, mae’r ffilm hon yn bortread cain o effaith jihadis tramor ar fywyd bob dydd yn Timbuktu. Clywn straeon Mwslemiaid sy’n chwarae’r blŵs, ffermwr ac Imam rhyddfrydol, wrth iddynt geisio addasu i fywyd dan warchae. Mae ymdeimlad miniog â’r abswrd ´ yn sicrhau bod yr astudiaeth hon o wrthdaro diwylliannol mor ddoniol bob tamaid ag y mae’n frawychus.

Rosewater

Gwe 29 Mai — Iau 4 Mehefin UDA/2014/103mun/15. Cyf: Jon Stewart. Gyda: Gael Garcia Bernal, Kim Bodnia, Dimitri Leonidas.

Yn 2009, cafodd y newyddiadurwr, Maziar Bahari, ei garcharu yn Iran am 118 o ddiwrnodau am iddo wneud cyfweliad dychanol am etholiadau arlywyddol y wlad. Dros gyfnod o bedwar mis, ceisiodd ei groes–holwr — a lysenwyd yn Rosewater o ganlyniad i’w bersawr — ei orfodi i gyffesu i amrywiaeth ryfeddol o droseddau, gan gynnwys bod yn Seionydd ac ymddangos ar The Daily Show. Wedi’i haddasu o hunangofiant Bahari, mae Stewart yn cyflwyno drama Kafka–aidd a thelesgopig sy’n awgrymu bod cyfundrefn wleidyddol nad yw’n gallu goddef hiwmor yn gyfundrefn sydd yn barod i ormesu. I gael mwy o wybodaeth am ein rhaglen ac i ymuno â’r sgwrs, ewch i www.conversationsaboutSinema.co.uk neu ymunwch â ni ar Twitter — @convoSinema / #convoSinema. Cyflwyniad ar y cyd â Chanolfan Ffilm Cymru, The Watershed, Bryste, a Theatr Ffilm Queens, Belffast. Prosiect gan Rwydwaith Cynulleidfaoedd Ffilm y BFI gyda chefnogaeth y BFI, sy’n dyfarnu arian Y Loteri Genedlaethol.

Good Kill

Gwrthdaro: Y Rhyfel yn nes at Adref


Sinema

25

O’r brig: The Voices, The Tribe

chapter.org

The Voices

The Tribe

Gwe 15 — Iau 21 Mai

Gwe 15 — Iau 21 Mai

UDA/2015/101mun/15. Cyf: Marjane Satrapi. Gyda: Ryan Reynolds, Gemma Arterton, Anna Kendrick.

Wcráin/2014/130mun/ffilm fud heb is–deitlau/18. Cyf: Miroslav Slaboshpitsky. Gyda: Grigoriy Fesenko, Yana Novikova, Rosa Babiy.

Mae Jerry yn ŵr normal yr olwg sy’n byw gyda’i gi, Bosco, a’i gath, Mr Whiskers, ac yn ceisio llwyddo yn ei swydd newydd. Eto i gyd, nid yw popeth fel yr ymddengys. Mae Jerry’n cyfarfod â Fiona ac yn prysuro adref i ddweud wrth ei anifeiliaid anwes amdani. Er mawr syndod iddo, maent yn ei ateb ac mae’r hyn sy’n dilyn yn llawn digrifwch rhyfedd ac amharchus. + Ymunwch â’r gwneuthurwr ffilmiau a’r ffan pybyr o ffilmiau arswyd, Ben Ewart–Dean, ar ôl y dangosiad ar ddydd Gwener 15 Mai am ddarlith anffurfiol a thrafodaeth o themâu’r ffilm a’r genre arswyd.

Wedi’i gosod mewn ysgol breswyl ddadfeiliedig i bobl ifainc fyddar, caiff y disgybl newydd, Sergey, ei gyflwyno i fyd o gangiau, rhyw a throseddu. Mae’r athrawon esgeulus yn gadael i’w myfyrwyr redeg reiat mewn byd hunan–lywodraethol lle mae gan y bwlis treisgar y llaw uchaf. Ffilm heriol, rymus a hynod wreiddiol, a gyflwynir heb is–deitlau ac ychydig iawn o sain — dim ond iaith arwyddion, sy’n adleisio byd tawel, dryslyd, a dieithr y myfyrwyr.

‘Alla’ i ddim stopio meddwl am y ffilm hon… Am ddarn diddorol’ Peter Bradshaw, The Guardian

Something Must Break Maw 19 + Mer 20 Mai Sweden/2014/82mun/is–deitlau/15. Cyf: Ester Martin Bergsmark. Gyda: Saga Becker, Iggy Malmborg, Shima Niavarani.

Yn Stockholm, mae’r Sebastiane hunan–niweidiol yn chwilio am gariad yn y mannau anghywir. Mae e’n cael trafferth â’i hunaniaeth ac yn awyddus i gael ei adnabod fel menyw. Ar ôl cael ei achub o ffeit gan Andreas, mae’r ddau’n cychwyn ar berthynas ddwys, er bod Andreas yn mynnu ei fod yn strêt. Stori ddwys, wedi’i ffilmio’n hyfryd, am gariad sy’n gweld y tu hwnt i ffiniau rhyw.


Sinema

029 2030 4400

O’r chwith i’r dde: The Clouds of Sils Maria, The New Girlfriend

26

The Clouds of Sils Maria Gwe 22 — Iau 28 Mai Ffrainc/2014/124mun/18arf. Cyf: Olivier Assayas. Gyda: Juliette Binoche, Kristen Stewart, Chloe Moretz Grace.

Drama hudolus a chymhleth am Maria, actores â’i seren yn pylu, ei chynorthwy– ydd personol ymroddgar a smart, Valentina, a Jo–Ann, actores ifanc hyderus sy’n awyddus i ddwyn coron Maria. Mae’n cynnwys sgript finiog sy’n archwilio ag onestrwydd sfferau preifat a chyhoeddus enwogrwydd.

‘Aml–haenog ... ffilm sy’n gwthio pob un sydd ynghlwm â hi i’r uchelfannau’ Variety

The New Girlfriend Gwe 22 — Iau 28 Mai Ffrainc/2014/105mun/is–deitlau/TiCh. Cyf: François Ozon. Gyda: Romain Duris, Anaïs Demoustier, Raphaël Personnaz.

Mae ffrind agos Claire yn marw, ac yn gadael ar ei hôl ŵr, David, a babi. Ar ôl picio draw i dŷ David un diwrnod, mae Claire yn gweld ei fod ef yn ymdopi â’i alar mewn modd annisgwyl — a bod ganddo gyfrinach anarferol. Astudiaeth ddiddorol a chynnil o ddatblygiad dyhead sy’n seiliedig ar stori fer gan Ruth Rendell. + Ymunwch â ni ar ôl y dangosiad ar ddydd Mawrth 26 Mai am gyfarfod o grŵp trafod ffilm LGBTQ Chapter.

Moviemaker Chapter Llun 4 Mai Sesiwn reolaidd sy’n caniatáu i gyfarwyddwyr annibynnol ddangos eu ffilmiau byrion. I gael mwy o wybodaeth am ddangos eich ffilm chi, neu unrhyw fanylion eraill, e–bostiwch moviemaker@chapter.org. O bryd i’w gilydd, dangosir ffilmiau sy’n cynnwys deunydd anaddas i bobl iau. Awgrymwn, felly, bod sesiynau Moviemaker Chapter yn addas ar gyfer pobl 18+ oed.


chapter.org

Sinema

27

Pan nad ydw i’n cwrdd ag arddangoswyr ledled Cymru, dw i fel arfer yn adran Sinema Chapter, yn paratoi rhaglen nesaf y Ganolfan Ffilm o brosiectau i’w cefnogi. Rydym yn gweithio ar y cyd â Chapter a llu o sinemâu, canolfannau celfyddydol, lleoliadau cymunedol, cymdeithasau, gwyliau a gweithwyr ffilm eraill ledled Cymru er mwyn ehangu’r dewis o ffilmiau sydd ar gael i gynulleidfaoedd. Dw i wedi bod yn gweithio gyda Chanolfan Ffilm Cymru ers i’r fenter lansio ym mis Medi 2013 ac mae f’uchafbwyntiau personol yn cynnwys dangosiad o’r ffilm fud, Nosferatu (1922), gyda chyfeiliant organ byw gan y Tad Richard yn Eglwys y Santes Fair, y Gelli Gandryll, a nosweithiau sinema dros–dro Chapter gyda Cadw a Phrifysgol De Cymru yng Nghastell Caerffili a Chastell Coch. Y mis hwn, dw i’n edrych ymlaen at weld The Rumble–Os yn perfformio sgôr fyw i’r ffilm ddogfen syrff o 1966, Endless Summer — gwledd o haul, môr a syrffio ar y sgrin fawr! www.filmhubwales.org

Clwb Ffilmiau Gwael

Masters of the Universe Sul 3 Mai UDA/1987/106mun/PG. Cyf: Gary Goddard. Gyda: Dolph Lundgren.

Â’r gwanwyn wedi cyrraedd o’r diwedd, pa well ffordd o ddathlu nag â chyhyrau, cyffro 80aidd a ffilm yn seiliedig ar grŵp o ffigyrau tegan? Mae’r Clwb Ffilmiau Gwael yn cyflwyno… Masters of the Universe. Mae He– Man a’i gyd–filwyr yn cyrraedd y Ddaear ac, â chymorth ei ffrind (Courteney Cox) ac allwedd gosmig hud, rhaid iddynt frwydro yn erbyn y Skeletor maleisus a’i fyddin o ddihirod. “Allwch chi gredu mewn difri’ calon bod y ffilm hon wedi cael ei gwneud?” — dim ond un o’r sylwadau a wnaed gan ffans y sinema ar ôl gweld y ffilm erchyll hon. Nodwch os gwelwch yn dda y bydd yna sylwebaeth fyw drwy gydol y ffilm ac y gall y ffilm a ddangosir newid ar y funud olaf.

Far From the Madding Crowd

Lisa Nesbitt Swyddog Datblygu, Canolfan Ffilm Cymru

Far From the Madding Crowd Gwe 22 Mai — Mer 3 Mehefin DG/2015/119mun/12A. Cyf: Thomas Vinterberg. Gyda: Carey Mulligan, Michael Sheen, Matthias Schoenaerts.

Mae’r Bathsheba Everdene annibynnol a phengaled yn denu sylw tri dyn gwahanol iawn: Gabriel Oak, ffermwr defaid, Frank Troy, Rhingyll di–hid a William Boldwood, hen lanc cyfoethog. Mae’r stori oesol hon am ddewisiadau a nwydau Bathsheba yn archwilio natur perthnasau a chariad, yn ogystal â’r gallu dynol i oresgyn caledi drwy gyfrwng gwydnwch a dyfalbarhad. + Ymunwch â ni ar ôl y dangosiad ar ddydd Iau 28 Mai ar gyfer sesiwn ‘Addasiadau/Adaptations’, pan fyddwn yn trafod y nofel gan Thomas Hardy sy’n sail i’r ffilm.

BAFTA Cymru yn cyflwyno: Mer 13 Mai Ein dangosiad rheolaidd o’r ffilmiau Cymreig gorau o’r archif a’r cyfnod cyfoes. Ewch i www.bafta.org/cy/cymru neu www.chapter.org i weld manylion y dangosiad.


28

Sinema

029 2030 4400

GWyl Ffilmiau Gwyrdd y DG Detholiad o ffilmiau o Ŵyl Ffilmiau Gwyrdd y DG sy’n archwilio rhai o bynciau amgylcheddol pwysicaf y cyfnod cyfoes. www.ukgreenfilmfestival.org

Bikes vs Cars

Above all Else

Sweden/2015/90 mun/is–deitlau/TiCh. Cyf: Fredrik Gertten.

UDA/2015/95mun/TiCh. Cyf: John Fiege.

Mae ceir, a thraffig budr a swnllyd, wedi meddiannu adnoddau’r ddaear a chyfran helaeth o arwyneb y blaned. Mae’r beic yn arf nerthol yn y frwydr yn erbyn llygredd ond mae’r rheiny sy’n elwa’n ariannol ar geir preifat yn buddsoddi biliynau bob blwyddyn ar lobïo a hysbysebu er mwyn diogelu eu busnesau. Yn y ffilm hon, rydym yn cyfarfod ag ymgyrchwyr ac athronwyr sy’n brwydro i greu gwell dinasoedd ac yn gwrthod rhoi’r gorau i yrru eu beics, er gwaetha’r nifer cynyddol o bobl sy’n cael eu lladd gan draffig.

Mae un dyn yn rhoi ei deulu a’i ddyfodol yn y fantol i atal piblinell y Keystone XL rhag croesi ei dir. Wedi’i ffilmio yng nghoedwigoedd, tir pori ac ystafelloedd byw cefn gwlad Dwyrain Tecsas, dilynwn David Daniel, rhaffgerddwr wedi ymddeol, wrth iddo berswadio ei gymdogion a gweithredwyr amgylcheddol i ymuno ag ef mewn un weithred herfeiddiol olaf: gwarchae yng nghanghennau’r coed ar lwybr y biblinell ddadleuol. Mae’r hyn sy’n cychwyn fel safiad yn erbyn bwlïo corfforaethol yn datblygu’n ymgyrch i brotestwyr hinsoddol ledled y wlad.

Sul 10 Mai

Sul 24 Mai

Sul 3 Mai

+ Ymunwch â ni am gyflwyniad gan siop y Bike Shed, Caerdydd

The Endless Summer

Sul 17 Mai

Divide in Concord

UDA/1967/91mun/U. Cyf: Bruce Brown.

UDA/2014/85mun/TiCh. Cyf: Kris Kaczor, Dave Regos.

Awn i ochr draw’r byd i chwilio am y don berffaith yn yr antur syrffio ryfeddol hon. O ddyfroedd gwylltion Gorllewin Affrica i’r moroedd llawn siarcod oddi ar arfordir Awstralia a pharadwysau trofannol Tahiti a thu hwnt, mae’r syrffwyr o Galiffornia yn cyflawni mewn ychydig fisoedd yr hyn na lwydda’r rhan fwyaf o bobl i’w wneud o gwbl: maent yn gwireddu breuddwyd. Campwaith oesol sy’n parhau i hudo cenedlaethau newydd.

Ers 2010, bu Jean Hill yn arwain ymgyrch ar lawr gwlad i wahardd gwerthu poteli plastig yn ei thref enedigol, Concord, Massachusetts. Wrth iddi baratoi ar gyfer y cyfarfod cyhoeddus olaf yn y dref, mae hi’n wynebu gwrthwynebiad grymus gan siopwyr lleol, llefarwyr yr adain dde a Chymdeithas Ryngwladol Dŵr Potel. Yn y dref lle dechreuodd y Chwyldro Americanaidd, a all un hen wreigan newid cwrs hanes?

+ Ymunwch â ni am sgôr fyw syfrdanol gan y band roc syrff, The Rumble–Os

Seeds of Time Sul 10 Mai

UDA/20154/77mun/TiCh. Cyf: Sandy McLeod.

Mae storom ddifrifol yn cronni a’r arloeswr amaethyddol, Cary Fowler, yn rasio i ddiogelu dyfodol ein bwyd. Mae banciau hadau o gwmpas y byd yn cael eu dinistrio, cnydau methedig yn achosi newyn a therfysg, a newidiadau hinsoddol yn effeithio ar ffermwyr ledled y byd. Does yna ddim eiliad i’w cholli ac mae Fowler yn cychwyn ar daith bersonol ac angerddol a allai achub yr un adnodd na allwn ni fyw hebddo: ein hadau.


chapter.org

29

Sinema

Gyda’r cloc o’r brig: Bikes vs Cars, Divide in Concord, Above all Else, Seeds of Time


30

Sinema

029 2030 4400

Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn a dydd Sul am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn. Archebwch ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Home

Sad 2 — Sul 3 Mai Dangosiad mewn Amgylchiadau Cefnogol Arbennig: Dydd Sul 3 Mai UDA/2015/94mun/U. Cyf: Tim Johnson. Gyda: Jim Parsons, Rihanna, Steve Martin.

Mae hil o aliwns di–glem ond optimistaidd o’r enw y Boov yn dod i’r Ddaear ac yn dechrau symud yr hil ddynol i blaned arall, yn y gred eu bod yn gwneud cymwynas â nhw. Ond mae merch benderfynol yn ei harddegau yn llwyddo i ffoi, yng nghwmni aliwn hoffus ac ansicr o’r enw Oh. + Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau neu ewch i’n gwe–fan i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau.)

Noddir gan Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk 02920 666688

Cinderella

Sad 23 + Sul 24 Mai UDA/2014/112mun/U. Cyf: Kenneth Branagh. Gyda: Lily James, Hayley Atwell, Helena Bonham Carter.

Ar ôl marwolaeth annisgwyl ei thad, mae’r Ella ifanc yn ei chael ei hun ar drugaredd ei llysfam a’i llyschwiorydd creulon, sy’n ei gorfodi i weithio fel morwyn yn y gegin gefn. Ond mae Ella’n gwrthod anobeithio ac mae gwahoddiad i ddawns yn y palas yn tanio gobaith ynddi am aduniad â’r dieithryn golygus a welodd yn y goedwig. + Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn Sinema 1 ac Is–deitlau Meddal ar ddydd Sadwrn 23 Mai am 11am. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau neu ewch i’n gwe–fan i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau.)

Sad 9 + Sul 10 Mai

Sad 30 + Sul 31 Mawrth

Seventh Son

Shaun the Sheep

UDA/2015/102mun/12A. Cyf: Sergey Bodrov. Gyda: Ben Barnes, Julianne Moore, Jeff Bridges.

DG/2015/85mun/U. Cyf: Mark Burton, Richard Starzack.

Caiff y Thomas ifanc ei anfon yn brentis i’r Spook i ddysgu sut mae ymladd yn erbyn ysbrydion anfad. Ar ôl i’r wrach bwerus, Mother Malkin, ddianc o’r carchar, rhaid i Master Gregory hyfforddi seithfed mab y seithfed mab i ymladd grymoedd y fall, a hynny cyn y lleuad lawn nesaf.

Spongebob: Sponge out of Water Sad 16 + Sul 17 Mai

UDA/2015/92mun/U. Cyf: Paul Tibbitt Gyda: Tom Kenny, Antonio Banderas, Bill Fagerbakke

Ar ôl i fôr–leidr dieflig ddwyn fformiwla gyfrinachol y Krabby Patty, rhaid i SpongeBob a’i elyn pennaf, Plankton, gydweithio er mwyn ei chael yn ôl. + Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn Sinema 1 ac Is–deitlau Meddal ar ddydd Sul 17 Mai am 11am. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau neu ewch i’n gwe–fan i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau.)

Mae Shaun yn penderfynu cael diwrnod bant i gael ychydig o hwyl – ac mae yna lond trol o gyffro yn ei ddisgwyl ... Mae cymhlethdodau â’r Ffermwr, carafán a bryn serth iawn yn ei arwain i’r Ddinas Fawr ac mae’n rhaid i Shaun a’r praidd ffeindio’u ffordd yn ôl i ddiogelwch — a glaswellt ir — eu cartref.

Carry on Screaming Bob dydd Gwener am 11am, mae Carry On Screaming yn rhoi cyfle i rieni neu ofalwyr weld ffilm heb orfod poeni y bydd eu babi’n aflonyddu ar eraill. Gweler y calendr am fanylion y dangosiadau arbennig hyn i bobl â babanod dan flwydd oed. Mae Dangosiadau mewn Amgylchiadau Cefnogol Arbennig yn ddangosiadau i blant ac oedolion ar sbectrwm awtistiaeth neu bobl a chanddynt anableddau dysgu, ynghyd â’u teuluoedd, eu ffrindiau a’u gofalwyr. Yn ystod y dangosiadau hyn, cedwir goleuadau isel ynghynn yn yr awditoriwm ac nid yw lefel y trac sain mor uchel ag arfer. Fydd yna ddim hysbysebion cyn y ffilm ac fe fydd ymwelwyr yn rhydd i godi a symud o gwmpas y sinema.

Cinderella

Ffilmiau i’r Teulu Cyfan


chapter.org

Addysg

31

ADDYSG

Chapter Sewcial (I ddechreuwyr)

Dyddiau Sul 1.30–3pm, yn cychwyn ar ddydd Sul 10 Mai Addas i blant 8–12 oed Cwrs gwnïo wythnosol newydd sbon i ddechreuwyr a fydd yn para am 10 wythnos. Bydd y cwrs hwyliog hwn yn cyflwyno sgiliau gwnïo sylfaenol ac fe fydd cyfranogwyr yn gallu cymryd eu creadigaethau adre’ gyda nhw bob wythnos. Darperir yr holl ddeunyddiau angenrheidiol. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. £6 y sesiwn, neu £50 am bob un o’r 10 sesiwn

Chapter Sewcial (Canolradd) Dyddiau Sul 3.30–5pm, yn cychwyn ar ddydd Sul 10 Mai

Mae ein cwrs canolradd cyntaf erioed wedi’i fwriadu ar gyfer plant 8–12 oed y mae ganddynt rywfaint o brofiad gwnïo eisoes, neu blant sydd wedi cwblhau un o’n cyrsiau i ddechreuwyr. Bydd y cwrs 10 wythnos hwn yn arwain at greu nifer o brosiectau gwnïo mwy o faint ac yn datblygu sgiliau cynllunio, dylunio a chymhwyso technegol. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. £6 y sesiwn, neu £50 am bob un o’r 10 sesiwn

Theatr Ieuenctid Chapter Maw 5, Maw 12 + Maw 19 Mai 4.30–6pm I bobl ifainc 7–16 oed

Mae Theatr Ieuenctid Chapter yn cyflwyno gwersi drama, dawns a symud wythnosol i blant rhwng 7 ac 11 oed a phobl ifainc rhwng 12 ac 16 oed. Bydd yna gyfle hefyd i gyfranogwyr gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr yn ystod gwyliau hanner tymor ac mewn ysgolion haf wythnos o hyd. Bydd dosbarthiadau Theatr Ieuenctid Chapter yn helpu i fagu hyder wrth berfformio ac yn fodd i ddysgu sgiliau a thechnegau newydd wrth i gyfranogwyr baratoi ar gyfer perfformiad cyhoeddus yn un o ofodau theatr proffesiynol Chapter. £6 y sesiwn. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Nodwch os gwelwch yn dda y bydd cwrs newydd chwe wythnos o hyd i bobl ifainc 12–16 oed yn dechrau ym mis Mehefin.

Cadw mewn Cysylltiad Mae adran Addysg Chapter bellach yn defnyddio Schoop — ap newydd cyffrous rhad ac am ddim sy’n hysbysu defnyddwyr am weithgareddau sydd o ddiddordeb iddynt. Lawr–lwythwch Schoop a chwiliwch am Chapter: Schoop ID 4400. Chapter: Schoop ID 4400. Gyda Schoop, r’ych chi yn y lŵp! I gael mwy o wybodaeth am unrhyw un o’r cyrsiau hyn, a manylion cofrestru, cysylltwch â learning@chapter.org.


32

Archebu/Gwybodaeth

029 2030 4400

GWYBODAETH Sut i Archebu Tocynnau

Gwybodaeth

Dros y ffôn — ffoniwch ni ar 029 2030 4400. Rydym yn derbyn pob un o’r prif gardiau credyd. Galwch heibio — mae ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 11am–8.30pm, ac ar y Sul o 3pm–8.30pm. Ar–lein: Gallwch archebu ar www.chapter.org bob awr o’r dydd a’r nos Consesiynau: Mae cyfraddau disgownt ar gael i fyfyrwyr, pobl dros 60 oed, plant, y di–waith, pobl anabl, deiliaid cerdyn MAX ac i Ffrindiau Chapter a deiliaid Cerdyn Chapter. Bydd angen i chi gyflwyno prawf o’ch cymhwyster i dderbyn cyfradd ostyngol. Archebion grŵp: Prynwch 8 tocyn ac fe gewch chi’r 9fed yn RHAD AC AM DDIM. Noder os gwelwch yn dda • dim ond un disgownt y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw un adeg • rydym yn hapus i dderbyn archebion ymlaen llaw ond ni allwn gadw tocynnau i’r naill ochr • os cyrhaeddwch chi’n hwyr mae hi’n bosib y cewch chi’ch atal rhag mynychu eich digwyddiad. Cyflwynir rhai o’n ffilmiau â Disgrifiadau Sain ac Is–deitlau Meddal ond nid yw’r wybodaeth hon bob amser ar gael ar adeg argraffu’r cylchgrawn. Gweler ein gwe–fan am fanylion neu piciwch draw i’r Swyddfa Docynnau yn ystod yr wythnos y mae’r ffilm yn cael ei rhyddhau.

Cwmnïau ac Artistiaid Cysylltiedig Mae Chapter yn gartref i gwmnïau theatr, cwmnïau dawns, stiwdios animeiddio, gwneuthurwyr printiau, crochenwyr, dylunwyr graffeg, dylunwyr deunydd symudol, cyfansoddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, cyhoeddwyr cylchgronau, artistiaid annibynnol a llawer iawn mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Sinema Cyn 5pm O 5pm ymlaen Llawn £4.50 (£4.00) £7.90 (£7.20) Cons £3.50 (£3.00) £5.80 (£5.10) Cerdyn + Cons £3.00 (£2.50) £5.00 (£4.50) DISGOWNT DYDD MAWRTH Tocynnau’r holl brif ddangsiadau — £4.40

Gweithdai a Dosbarthiadau Rydym yn cynnal amrywiaeth eang o weithdai dyddiol a dosbarthiadau gydag ymarferwyr annibynnol, gan gynnwys ballet, zumba, ioga, crefft ymladd, massage i fabanod, cerddoriaeth i blant, pilates, tango, fflamenco, ysgrifennu creadigol, gwersi cerddoriaeth a mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Sut i gyrraedd Chapter Fe ddewch chi o hyd i ni yn Nhreganna, i’r gorllewin o ganol y ddinas. Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE Ar Droed Mae hi’n daith gerdded hamddenol o ryw 20 munud o ganol y ddinas. Ar Fws Mae bysus rhif 17, 18 a 33 yn aros gerllaw ac yn gadael bob pum munud o ganol y ddinas. Ar Feic Mae digon o raciau beic ar flaen yr adeilad. Parcio Mae gennym faes parcio yng nghefn yr adeilad ac mae meysydd parcio lleol eraill wedi eu nodi ar y map. Gofynnwn i chi barchu ein cymdogion os gwelwch yn dda drwy osgoi parcio mewn strydoedd cyfagos.

Prisiau ymlaen llaw/ar–lein mewn cromfachau. Mae “Ymlaen llaw” yn golygu unrhyw bryd cyn diwrnod y dangosiad.

aff nd Lla

Springfield Pl.

ad

mC ha cen res

Ha m i l t o n

St

t

Gr

King’s Ro

nd Wy

ane

Road

L Gray

. Library St

St. ay

Treganna

Le c h kwit

Church Rd.

Heol Ddwy rein i o l y B o n t F a en Penllyn Rd.

Harve

St Talbot

Orc h a r d P l.

rn Seve

St. Gray M a rk e t P l .

treet yS

e St. Glynn

d Roa

d hna arc lyF

Heo

o 6pm

rt S

t.

Road

Earle Pl.

A l be

P — meysydd parcio rhad ac am ddim — rac feics

r R—oadarhosfan bysus Majo

I Ganol Dinas Caerdydd to n ling Wel

et Stre

Mynediad i bawb Mae Chapter yn croesawu ymwelwyr anabl. Os oes gennych anghenion mynediad penodol, ffoniwch ein swyddfa docynnau ar 029 2030 4400, minicom 029 2031 3430.


chapter.org

Cymryd Rhan

33

CYMRYD RHAN Cerdyn CL1C

Cadwch mewn cysylltiad

Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawr–lwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Ymunwch â ni ar–lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

Ffrindiau Chapter Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40

eAmserlen rad ac am ddim eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E–bostiwch adam.chard@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e–bost.

Cynllun Myfyrwyr Chapter Ydych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth am ddim a manteisio ar gynigion arbennig nodedig, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Jennifer — jennifer.kirkham@chapter.org www.chapter.org/cy/aelodaeth–myfyrwyr–chapter

Hoffai Chapter gydnabod cefnogaeth hael y sefydliadau a’r grwpiau canlynol:

Cronfa Gymunedol Tirlenwi Sefydliad Esmée Fairbairn Rhaglen Ddiwylliant yr UE Sefydliad Baring Sefydliad Garfield Weston Sefydliad Foyle Gwobr Biffa Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston Grŵp Admiral Cyf Sefydliad Moondance ar gyfer y Celfyddydau a Chwaraeon Sefydliad Elusennol Trusthouse Y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru Plant mewn Angen y BBC Sefydliad Waterloo Ymddiriedolaeth Ynni Gwyrdd ScottishPower Yr Ymddiriedolaeth Ddarlledu Gymreig SEWTA

Richer Sounds Sefydliad y Brethynwyr Momentum Sefydliad Henry Moore Google Sefydliad Jane Hodge Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson Ymddiriedolaeth People’s Postcode Ymddiriedolaeth Feddygol Dunhill Legal & General Institut für Auslandsbeziehungen e.V Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm Ymddiriedolaeth Ernest Cook Lloyds TSB Arwyddion Morgan Ymddiriedolaeth Elusennol y Garrick Barclays

Celfyddydau & Busnes Cymru Penderyn Ymddiriedolaeth Austin & Hope Pilkington Sefydliad Rhyngwladol Singapore Gwestai Puma: Gwesty’r Angel Caerdydd Maes Awyr Caerdydd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru Ymddiriedolaeth Elusennol Gibbs Cynllun Cymunedol Ceredigion Ymddiriedolaeth Elusennol Steel Sefydliad Boshier–Hinton 1st Office Ymddiriedolaeth Oakdale Cwmni Plastig Dipec Nelmes Design

Ymddiriedolaeth Elusennol Coutts Elusen Wake Bruce Funky Monkey Feet Sefydliad Finnis Scott Banc Unity Trust Hugh James Cymdeithas Celfyddydau Cyfoes Cymru Dot Foundry JVH Gidden & Rees Western Power Distribution Ymddiriedolaeth Follett Celfyddydau & Phlant Cymru Aduniad Merched Ysgol Uwchradd Canton Grŵp y Co–operative Renault Caerdydd Llysgenhadaeth Gwlad Belg Llywodraeth Queensland


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.