Chapter Sinema Mai

Page 1

029 2030 4400

@chaptertweets

chapter.org


02

Croeso

chapter.org

CROESO Croeso i Ganllaw Bach Sinema Chapter mis Mai. Fel wastad, mae hi’n fis llawn dop sy’n cynnwys ffilmiau newydd gwych a dangosiadau byw cyffrous, fel Gŵyl Before I Die: Gŵyl am farw i’r rheiny sydd ar dir y byw. Byddwn yn cynnig cip ar ŵyl ffotograffiaeth Diffusion (www.diffusionfestival.org) â dangosiad o Sleep Furiously gan y cyfarwyddwr nodedig Gideon Koppel, i’w ddilyn gan sesiwn holi-ac-ateb gyda’r dyn ei hun, ac fe fydd y sinema’n mynd ar daith i glwb roc ar gyfer lansiad Noys R Us. Ar ddiwedd y mis, caiff y ffilm hir-ddisgwyliedig The Great Gatsby ei rhyddhau — fersiwn foethus o’r nofel Americanaidd gan y cyfarwyddwr poblogaidd Baz Luhrmann. Chwilio am arddangosfa neu berfformiad i brocio’r meddwl? Beth am gael golwg ar ein gwe-fan neu ar brif gylchgrawn Chapter? Neu trowch i dudalen 12 i weld beth arall sy’n digwydd yn Chapter y mis hwn.

Siaradwch â ni @chaptertweets facebook.com/Chapter-cinema enquiry@chapter.org

Chapter Heol y Farchnad Caerdydd CF5 1QE 029 2030 4400 minicom 029 2031 3430 www.chapter.org enquiry@chapter.org


Sinema

Side Effects

Evil Dead

Gwener 26 Ebrill — Iau 2 Mai

Gwener 26 Ebrill — Iau 2 Mai

UDA/2013/106mun/15. Cyf: Steven Soderberg. Gyda: Jude Law, Rooney Mara, Channing Tatum.

UDA/2012/90mun/18. Cyf: Fede Alvarez. Gyda: Elizabeth Blackmore, Jane Levy, Jessica Lucas.

03

Gyda’r cloc o’r chwith uchaf: Trance, The Place Beyond the Pines, Evil Dead

chapter.org

Ar ôl i’w gŵr, sy’n rheolwr ‘hedge fund’, gael ei garcharu am fasnachu mewnol, mae Emily’n dioddef pwl o iselder ac, er gwaethaf ei haduniad â’i gŵr, yn byw mewn anobaith. Ar ôl newid meddygon a meddyginiaethau, mae ei seiciatrydd newydd, Jonathan Banks, yn rhagnodi meddyginiaeth newydd o’r enw Ablixa — ond mae gan y cyffur hwn sgileffeithiau peryglus. Mae’r ffilm gyffro gelfydd hon — ffilm olaf Soderberg, yn ôl y cyfarwyddwr ei hun — yn sylw amserol ar gymdeithas sy’n gaeth i feddyginiaethau a bas gysuron cyfoeth. + Dangosiad gydag is-deitlau meddal ar ddydd Mercher 1 Mai am 6pm

Trance Gwener 19 Ebrill — Iau 2 Mai DG/2013/105mun/15. Cyf: Danny Boyle. Gyda: James McAvoy, Vincent Cassel, Rosario Dawson.

Ffilm gyffrous, lawn steil sy’n dilyn Simon, arwerthwr celfyddyd gain, sy’n gwerthu peintiad gan Goya ac yn dod i gysylltiad â gang troseddol sydd am ddwyn y gwaith gwerth miliynau o bunnoedd. Mae Simon yn deffro ar ôl ergyd i’w ben yn ystod yr heist — ond mae e wedi anghofio’n llwyr lle cuddiodd e’r llun. Ar ôl i fygythiadau corfforol ac artaith fethu ag arwain at atebion, mae arweinydd y gang, Frank, yn talu’r hypnotherapydd Elizabeth Lamb i chwilio yng nghilfachau tywyllaf psyche Simon. Wrth i Elizabeth ddechrau datod cymhlethdodau isymwybod drylliedig Simon, mae’r ffiniau rhwng gwirionedd a thwyll yn dechrau pylu.

Mae Mia, merch ifanc sy’n ceisio trechu alcoholiaeth, yn mynd i gaban diarffordd yn y goedwig gyda’i brawd a grŵp o ffrindiau, lle maen nhw’n darganfod Llyfr y Meirw. Mae hynny’n arwain at arswyd annychmygadwy. Heb unrhyw CGI, mae’r fersiwn newydd hir-ddisgwyliedig hon o glasur Sam Raimi (y ‘video nasty’ gwreiddiol) yn driw i’r ffilm gyntaf — a’r cynhyrchwyr Raimi, Campbell a Tapert yn gweithio’n agos gyda’i dewis nhw o gyfarwyddwr, Fede Alvarez.

“Mae’r fersiwn newydd hon yn mynd i fod yn wych — dw i’n addo” Bruce Campbell

The Place Beyond The Pines Gwener 19 Ebrill — Iau 2 Mai UDA/2013/140mun/15. Cyf: Derek Cianfrance. Gyda: Ryan Gosling, Bradley Cooper, Eva Mendes.

Mae Luke ar daith yn barhaol fel perfformiwr triciau beic modur yn mynd o dref i dref gyda’r carnifal. Wrth iddo basio trwy ei dref enedigol, mae’n ceisio ailgysylltu â chyn gariad iddo ac yn dysgu ei bod hi, yn ystod ei absenoldeb, wedi rhoi genedigaeth i’w mab nhw, Jason. Yn benderfynol o adael y bywyd crwydrol a gofalu am ei deulu, caiff ei annog i ddilyn gyrfa newydd — fel lleidr banciau — gan ffrind amheus. Ond dim ond mater o amser yw hi cyn i Luke ddod i gysylltiad â’r heddlu — y cop lleol uchelgeisiol, Avery Cross, a’i fos llygredig. Ffilm gyffro uchelgeisiol sy’n llawn ‘swagger’ hyderus a sgôr afaelgar gan Mike Patton o Faith No More. Mae’r ffilm yn ddilyniant egnïol i ddrama ddelicet Cianfrance, Blue Valentine.


Sinema

029 2030 4400

O’r chwith i’r dde: Neighbouring Sounds, Promised Land

04

Neighbouring Sounds

The Spirit of 45

Gwener 3 — Iau 9 Mai

Gwener 3 — Iau 9 Mai

Brasil/2012/131mun/is-deitlau/15. Cyf: Kleber Mendonça Filho. Gyda: Irma Brown, Sebastião Formiga, Gustavo Jahn

DG/2013/94mun/U. Cyf: Ken Loach. Gyda: Ray Davies, Dr Julian Tudor-Hart, Tony Benn

Mae bywyd mewn cymdogaeth ddosbarth-canol ym Mrasil yn newid yn annisgwyl yn sgil dyfodiad cwmni diogelwch preifat annibynnol. Mae presenoldeb y dynion hyn yn arwain at deimlad o ddiogelwch — a llawer iawn o bryder — mewn diwylliant sy’n cael ei ddiffinio gan ofn. Faint o’u preifatrwydd mae’r trigolion yn fodlon ei ildio er mwyn rhyw rithyn ychwanegol o ddiogelwch? Portread llawn prysurdeb o’r Brasil fodern mewn ffilm gyntaf hyderus, a hirddisgwyliedig, gan y cyfarwyddwr Filho.

Roedd 1945 yn flwyddyn dyngedfennol yn hanes Prydain. Esgorodd yr undod a alluogodd i Brydain oroesi’r rhyfel, ynghyd ag atgofion chwerw o’r cyfnod rhwng y ddau ryfel byd, ar weledigaeth o gymdeithas well. Mae Loach wedi creu naratif gwleidyddol a chymdeithasol cyfoethog sy’n defnyddio deunydd archif o’r cyfnod a chyfweliadau cyfoes â phobl sy’n cofio’r adegau hynny, fel y cyn-löwr, Ray Davies, o Gaerffili a’r meddyg teulu arloesol o’r Cymoedd, Dr Julian Tudor-Hart. Mae’r gwaith yn ddathliad o gyfnod ac o ysbryd cymunedol digynsail yn y DG. Parhaodd ei heffeithiau am flynyddoedd lawer ond mae ei chyflawniadau pwysig — fel y GIG — dan fygythiad heddiw unwaith yn rhagor.

Promised Land Gwener 3 — Iau 16 Mai UDA/2012/106mun/15. Cyf: Gus Van Sant. Gyda: Matt Damon, Frances McDormand

Mae Steve Butler yn arwerthwr gyda chwmni ynni sy’n cynnig cymhellion ariannol sylweddol i dref fechan er mwyn i’r trigolion ganiatáu hollti hydrolig (‘ffracio’) ar eu tir. Yn hanu o gefndir gwledig ei hun, mae e’n gwybod cymaint y mae ar y dref angen buddsoddiad i gynnal ei ffordd o fyw. Mae’r amgylcheddwr Dustin Noble yn ceisio rhybuddio pobl y dref am y difrod tebygol ac mae Butler yn ceisio troedio’r ffin denau rhwng gwneud yr hyn sy’n iawn a’r ffaith ei fod wedi’i gyflogi i wneud y gwrthwyneb. Yn llawn perfformiadau rhagorol, mae’r cyfarwyddwr cynyddol amryddawn, Gus Van Sant, yn cadw’r ffilm rhag llithro i dir sentimental.

Clwb Ffilmiau Gwael Road House Sul 5 Mai UDA/1989/114mun/18.

Ar ôl gadael i gynulleidfa’r Clwb Ffilmiau Gwael gael dweud ei dweud, ffilm y mis hwn yw’r gwaith epig, Road House, gyda Patrick Swayze. Yn llawn ymladd, nosweithiau nwydus a myfyrdodau noethlymun, mae hon yn ffilm chwilboeth o gicio uchel.

Dilynir y dangosiadau ar ddydd Sadwrn, dydd Sul a dydd Llun gan recordiad o sesiwn drafod gyda’r cyfarwyddwr, Ken Loach, y cyfrannwr Dot Gibson, a’r awdur Owen Jones, yng nghwmni’r digrifwr, Jeremy Hardy

Michael H, Profession: Director Gwener 10 — Mercher 15 Mai Ffrainc/2013/92mun/18. Cyf: Yves Montmayeur

Dros y 25 mlynedd diwethaf, mae Michael Haneke wedi ennill enw iddo’i hun fel un o’r cyfarwyddwyr mwyaf pwysig yn hanes y sinema. O’i waith cynnar i Amour, creodd fydysawd unigryw, gan ddatgelu corneli tywyllaf cymdeithas, ein hofnau dirfodol a ffrwydradau emosiynol. Trwy gyfrwng cyfweliadau gyda’i actorion, Isabelle Huppert, Juliette Binoche ac Emmanuelle Riva, yn ogystal â deunydd nas gwelwyd o’r blaen — a chipolwg agos-atoch o’r dyn ei hun ar set ffilm — mae’r ffilm ddogfen hon yn bortread o artist pwysig a’i waith.

MovieMaker Chapter Llun 6 Mai Sesiwn reolaidd i wneuthurwyr ffilm annibynnol ddangos ffilmiau byrion. moviemaker@chapter.org. RHAD AC AM DDIM (bydd angen sicrhau tocynnau o flaen llaw)


Sinema

The Look of Love

Sleep Furiously

Gwener 10 — Iau 16 Mai

Mercher 15 Mai

05

O’r chwith i’r dde: The Look of Love, Spring Breakers

chapter.org

DG/2013/101mun/18. Cyf: Michael Winterbottom. Gyda: Steve Coogan, Stephen Fry, Anna Friel

Hanes Paul Raymond, yr entrepreneur dadleuol a ddechreuodd ei yrfa fel darllenydd meddyliau yn Clacton cyn dod yn un o ddynion cyfoethocaf Prydain ac ennill y teitl anffurfiol “Tad-cu Soho”. Er gwaetha’i fuddiannau yn y busnes “adloniant i oedolion”, yn ei fywyd preifat roedd Raymond yn ddibynnol ar dair menyw gref ac mae’r ffilm yn edrych ar y modd y daeth ei lwyddiant i adlewyrchu’r trychinebau yn ei fywyd. Dyma ddrama am y modd y gall ymddangosiad pethau fod yn dwyllodrus – a chyfle arall i weld deuawd ardderchog: y cyfarwyddwr Michael Winterbottom a’r seren Steve Coogan, sydd wedi gweithio gyda’i gilydd yn gyson ers 24 Hour Party People.

Spring Breakers Gwener 10 — Mawrth 14 Mai UDA/2012/94mun/18. Cyf: Harmony Korine. Gyda: James Franco, Vanessa Hudgens, Selena Gomez, Ashley Benson

Mae ffilm ddiweddaraf yr awdur-gyfarwyddwr dadleuol, Harmony Korine (Gummo, Kids), yn dilyn hynt a helynt pedair myfyrwraig ifanc ar eu ffordd i’r “spring break” blynyddol — wythnos wyllt o haul, rhyw a chyffuriau. Mae’r merched yn eu cael eu hunain yn y carchar ar ôl dwyn o fwyty er mwyn ariannu eu difyrrwch ond yn cael eu hachub gan ddeliwr cyffuriau sydd eisiau iddynt wneud ei waith budr drosto. Mae’r ffilm yn llawn hiwmor tywyll — yn freuddwyd felys sy’n troi’n hunllef.

Cyf: Gideon Koppel. Cymru/2008/94mun/U.

Ffilm wedi’i gosod mewn cymuned amaethyddol fechan yng nghanolbarth Cymru — y fan lle’r ymgartrefodd rhieni Koppel, y ddau ohonynt yn ffoaduriaid. Mae tirwedd a phoblogaeth yr ardal yn newid yn gyflym wrth i amaethyddiaeth ar raddfa fechan ddiflannu ac wrth i’r genhedlaeth a fu’n byw mewn byd cyn-fecanyddol farw. Wedi’i ddylanwadu gan ei sgyrsiau â’r awdur Peter Handke, mae’r gwneuthurwr ffilm yn ein harwain ar daith farddonol a dwys i fyd o derfyniadau a dechreuadau; byd o dylluanod wedi’u stwffio, defaid a thân. Gyda sesiwn holi-ac-ateb â’r Cyfarwyddwr, Gideon Koppel

Come Along Do: Notebook on Cities and Clothes Mawrth 14 Mai 1989/Yr Almaen/79mun/Ffrangeg a Japaneg gydag is-deitlau / dim tyst

Mae’r cyfarwyddwr toreithiog o’r Almaen, Wim Wenders, yn portreadu’r dylunydd ffasiwn o Japan, Yohji Yamamoto, wrth iddo baratoi i ddangos ei gynlluniau am y tro cyntaf ym Mharis. Mae’r ffilm yn fyfyrdod ar gelfyddyd, cyfryngau a chyfathrebu – a’r dewisiadau sy’n wynebu’r cyfarwyddwr ei hun – yn ogystal â bod yn sylw ar athroniaeth a gwaith y dylunydd ffasiwn. + Come Along Do, Mawrth 14 Mai Wedi’i gadeirio gan Gill Nicol a Mike Tooby, mae’r digwyddiad hwn ar ôl y dangosiad yn defnyddio Notebook on Cities and Clothes fel man cychwyn ar gyfer trafodaeth fanwl a bywiog a fydd yn archwilio celfyddyd a ffilm yng nghyd-destun gosodiad Mike Tooby, The Bar at the Mad Shepherdess. Mae’r digwyddiad yn rhan o Ŵyl Ffotograffiaeth Diffusion. £2.50 (Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael felly archebwch mewn da bryd.) Bydd angen i chi archebu tocynnau ar gyfer y ffilm ar wahân.


Sinema

029 2030 4400

White Elephant

Mud

Gwener 17 — Iau 23 Mai

Gwener 17 — Iau 30 Mai

Ariannin/2012/110mun/is-deitlau/TICh. Cyf: Pablo Trapero. Gyda: Ricardo Darin, Jeremie Renier

UDA/2012/130mun/12A. Cyf: Jeff Nichols. Gyda: Matthew McConaughey, Reese Witherspoon, Michael Shannon

Mae Julian a Nicolas, offeiriaid a ffrindiau selog, yn gweithio’n ddiflino i helpu pobl leol y “Villa Virgin”, tref sianti yn slymiau Buenos Aires. Mae Nicolas yn ymuno â Julian i oruchwylio’r gwaith o adeiladu ysbyty yn yr ardal, yn dilyn methiant prosiect yr oedd e’n ei arwain yn y jyngl. Yn llawn gofid, daw o hyd i gysur yng nghwmni Luciana, gweithiwr cymdeithasol deniadol — ac anffyddiwr. Wrth i ffydd Nicolas wanhau, mae yna gynnydd yn y tensiwn a’r trais rhwng cartelau cyffuriau y slymiau. Mae’r ffilm hon yn archwiliad beiddgar o ystyr go iawn aberth a chaethwasanaeth ac yn cynnwys trac sain arbennig gan Michael Nyman.

Mae Ellis a’i ffrind, Neckbone, yn dod o hyd i ‘drifter’ budr o’r enw Mud, yn cuddio ar ynys yn y Mississippi. Mae straeon Mud am ddynion dialgar yn ei erlid a chariad ei blentyndod yn aros amdano yn ymddangos fel ffantasïau, ond maent yn fodd o ddod ag ychydig o liw a rhamant i’w bywydau di-ddim. Yn amheus ond yn chwilfrydig, mae Ellis a Neckbone yn cytuno i’w helpu — ond buan y caiff gweledigaethau Mud eu gwireddu ac fe ddaw’r dref fach dan warchae wrth i fenyw hardd gyrraedd y lle â chriw o ‘bounty hunters’ ar ei hôl. Wedi’i ffilmio’n hardd, mae’r gwaith hwn yn stori hyfryd am ddod i oed ac yn cynnwys perfformiadau gwych gan gast ifanc — ac yn fodd o’n hatgoffa ni hefyd o dalentau McConaughey a Witherspoon.

Gyda’r cloc o’r chwith: White Elephant, Mud, I’m So Excited

06

NT LIVE: This House Iau 16 Mai, yn fyw. Encore wedi’i recordio ymlaen llaw ar ddydd Llun 27 Mai

Drama newydd gan James Graham 1974. Mae coridorau San Steffan yn llawn o gynllwynio a brad wrth i bleidiau gwleidyddol Prydain frwydro i newid dyfodol y genedl, waeth beth fydd y gost. Mae drama newydd frathog ac egnïol James Graham yn archwilio’r realiti y tu ôl i’r llen ac yn taro golwg ar y rheiny sy’n torchi llewys ac, ar adegau, yn plygu’r rheolau, er mwyn sicrhau corws amrywiol o Aelodau Seneddol — a dogn o wrthdaro hefyd — yn Senedd San Steffan. Pris tocynnau ar gyfer y dangosiad byw a’r encore wedi’i recordio ymlaen llaw, ar ddydd Llun 27 Mai, yw £17.50/ £14 / £13

I’m So Excited Gwener 17 — Iau 30 Mai Sbaen/2013/90mun/is-deitlau/15. Cyf: Pedro Almodovar. Gyda: Javier Camara, Penelope Cruz, Antonio Banderas, Pepa Charro, Cecilia Roth

 diwedd y daith yn y golwg, mae peilotiaid, criw a theithwyr ar awyren sydd ar ei ffordd i Ddinas Mecsico yn ceisio anghofio poen y foment dyngedfennol a wynebu’r perygl mwyaf un — yr hyn a gariwn oddi mewn i ni’n hunain. Mae Almodovar yn dychwelyd i’w arddull gomig nodedig ar ôl cyfres o ddramâu arobryn ac mae’r ffilm hon yn ceisio’n dysgu ni i weld yr ochr olau ar farwolaeth.


chapter.org

Sinema

07

ˆ Before I Die: GWyL am Farw i’r Rheiny sydd ar Dir y Byw

Gŵyl sy’n cyflwyno detholiad o ddigwyddiadau traws-gelfyddydol yn ymwneud â marwolaeth, marw, cofio — a dathlu bywyd. Wedi’i churadu gan Jenny Kitzinger o Brifysgol Caerdydd, sydd yn ymchwilio i’r cyflwr digynnwrf (‘vegetative’) a materion yn ymwneud â diwedd bywyd, bydd yr ŵyl yn ysbrydoli, yn hysbysu ac yn annog trafodaeth o bwnc nas trafodir yn aml: ein marwolaethau ein hunain. www.cardiff.ac.uk/beforeidie

The Sea Inside Mercher 15 Mai

Sbaen/2005/125mun/PG. Cyf: Alejandro Amenábar. Gyda: Javier Bardem, Belen Rueda, Lola Dueñas

Drama bwerus sy’n seiliedig ar stori wir Ramón Sampedro, pysgotwr a bardd a ddioddefodd ddamwain yn 26 oed a’i gadawodd yn gaeth i’w wely. Mae Ramón yn dymuno marw â’r hyn sy’n weddill o’i urddas ac yn cyflogi cyfreithiwr, Julia, i’w helpu i berswadio’r llysoedd i adael iddo roi terfyn ar ei fywyd ei hun. Mae hoffter cynyddol Ramon ohoni, fodd bynnag, yn gorfodi Julia i ail-feddwl. Ond mae Ramón yn hollol argyhoeddedig taw’r rhodd fwyaf iddo ef fyddai caniatáu iddo roi terfyn ar ei fywyd. + trafodaeth banel gyda Jenny Kitzinger o Brifysgol Caerdydd, yr ymgynghorydd ar ofal lliniarol, Dr Nikki Pease, a’r darlithydd Inaki Glacia-Blanco

Warm Bodies Gwener 17 Mai

UDA/2013/98mun/12A. Cyf: Jonathan Levine. Gyda: Nicholas Hoult, Teresa Palmer, John Malkovich

Mewn byd ôl-apocalyptaidd, mae goroeswyr dynol wedi cloi eu hunain mewn rhan ddiogel o’r ddinas ond, y tu allan, mae yna leng o ‘zombies’ sy’n dal yn y cyfnod cymharol ddynol cyn iddyn nhw ddirywio i fod yn ymosodwyr ysgerbydol erchyll. Mae R, aelod hawddgar o’r meirw hanner-byw, yn ddyn golygus sy’n syrthio mewn cariad â Julie, merch hardd go iawn sydd yn ferch i “zombiephobe” rhyfelgar. Ffilm ddoniol, ddeallus a diffuant sy’n chwarae â’r syniad ein bod ni i gyd yn emosiynol farw tan i gariad ein hadfywio. + Pris ffilm arferol. Archebwch eich tocyn rhad ac am ddim i’r digwyddiad SciSCREEN yn ein swyddfa docynnau neu ar ein gwe-fan. cardiffsciscreen.blogspot.co.uk

O’r chwith i’r dde: Warm Bodies, McCullin

McCullin

Sadwrn 18 — Iau 23 Mai Cyf: David Morris, Jacqui Morris. DG/2012/91mun/TICh

Don McCullin yw un o enwau chwedlonol newyddiaduraeth ffotograffig. Mae’n enwog am ei luniau rhyfel bythgofiadwy — ac hefyd am ei waith ar argyfyngau dyngarol fel y newyn yn Biaffra. Yn gyfrifol am y lluniau yn ffilm Antonioni, Blow Up, gweithiodd gyda phapur newydd yr Observer ac yna, am flynyddoedd lawer, gyda’r Sunday Times. Enillodd delweddau dirdynnol McCullin o wrthdaro ledled y byd wobrau niferus iddo — a chymeradwyaeth hefyd gan lywodraethau yn fyd-eang am ei ymgyrch i amlygu’r erchyllterau sy’n aml yn dilyn gwrthdaro arfog. Mae’r ddogfen deimladwy hon yn cwmpasu gyrfa gyfan McCullin. Dyw hi ddim yn ffilm i’r gwangalon; mae’r delweddau eu hunain yn ingol – ond y cyfweliad hir â’r dyn ei hun sy’n gwneud y gwaith mor nodedig. + Cyflwynir y dangosiad ar ddydd Sadwrn 18 Mai gan Richard Sambrook, Athro Newyddiaduraeth a Chyfarwyddwr Canolfan Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd a chyn Gyfarwyddwr Newyddion Byd-eang y BBC


08

Sinema

029 2030 4400

Cine Phonic

O’r chwith i’r dde: The Bird With The Crystal Plumage, Beware of Mr Baker

Wrth i Ŵyl Ffilm Cannes ddathlu cyfraniad aruthrol Ennio Morricone â chyngerdd ar y traeth, byddwn ni’n ymuno yn yr hwyl trwy gyflwyno detholiad o blith y 500+ o ffilmiau yr ysgrifennodd e gerddoriaeth ar eu cyfer, ynghyd â detholiad o ffilmiau dogfen cerddorol o’r radd flaenaf. @cinephonic.

Once Upon A Time In The West

The Bird With The Crystal Plumage

UDA/1968/165mun/15. Cyf: Sergio Leone. Gyda: Charles Bronson, Henry Fonda, Claudia Cardinale.

Yr Eidal/1970/98mun/18. Cyf: Dario Argento. Gyda: Tony Musante, Suzy Kendall, Enrico Maria Salerno

Mae Mrs McBain yn symud o New Orleans i ymyl eithaf Utah ac yn cael bod ei gŵr newydd a’i theulu wedi cael eu lladd – ond does dim syniad ganddi pwy yw’r llofrudd. Wedi’i saethu’n hyfryd ac yn cynnwys cast o fri, roedd y ffilm hon yn fodd o ail-sefydlu’r Western fel ffurf gelfyddydol arwyddocaol. Dyma gyfle i weld y fersiwn wreiddiol – heb doriadau – am y tro cyntaf.

Daw awdur Americanaidd yn rhan o ymchwiliad heddlu i lofrudd cyfres ar ôl iddo weld ymosodiad ar fenyw. Yn y gred ei fod yn dyst pwysig, caiff yr awdur ei wahardd gan yr heddlu rhag gadael Rhufain – a’i rwydo mewn perthynas farwol â’r llofrudd â’r faneg ddu. Mae ffilm gyntaf Argento yn cael ei hystyried yn un o gerrig milltir genre y “giallo” yn yr Eidal.

The Thing

Beware Of Mr Baker

UDA/1982/109mun/18. Cyf: John Carpenter. Gyda: Kurt Russell, Wilford Brimley, Keith David

UDA/2012/92mun/TICh. Cyf: Jay Bulger. Gyda: Ginger Baker, Femi Kuti, Eric Clapton

Mae grŵp o Norwyaid gwallgof ar drywydd ci yn torri ar draws taith wyddonol Americanaidd i ddiffeithdiroedd rhewllyd yr Antarctig – heb unrhyw esboniad dros yr helfa wyllt. Ond pan ddaw’r ci i ymosod ar aelodau o’r tîm ymchwilio, buan y sylweddolant bod yna ‘alien’ sy’n gallu trawsffurfio a meddiannu cyrff eraill yn eu plith – a does dim syniad ganddynt pwy sydd eisoes wedi cael ei feddiannu.

Mae Ginger Baker yn edrych yn ôl ar ei yrfa gerddorol gyda Cream a Blind Faith; ei gyflwyniad i gerddoriaeth Fela Kuti, yr ymgais i ddod â churiadau Affricanaidd i’r Gorllewin a’i fywyd presennol mewn sefydliad diogel yn Ne Affrica. Mae’r ffilm ddogfen hon yn cynnwys cyfraniadau diddorol a dadlennol gan y bobl sydd wedi ei adnabod a gweithio gydag ef yn ystod ei fywyd cythryblus a hunan-ddinistriol — cyn-wragedd, plant, Eric Clapton, Steve Winwood, Charlie Watts, Mickey Hart, Carlos Santana, Max Weinberg, Chad Smith, Femi Kuti, Neal Peart, Simon Kirke a Marky Ramone.

Sul 5 + Mawrth 7 Mai

Sul 12 + Mawrth 14 Mai

Days of Heaven Sul 19 + Mawrth 21 Mai

UDA/1978/94mun/PG. Cyf: Terrence Malick. Gyda: Richard Gere, Brooke Adams, Sam Shephard.

Un o’r ffilmiau mwyaf nodedig yn hanes y sinema. Mae Days Of Heaven yn stori ingol am ddau ddyn sy’n caru’r un fenyw. Mae Richard Gere, ffoadur o slymiau Chicago, yn ei gael ei hun mewn brwydr â gŵr swil o Decsas i ennill serch Abby. Mae ffilm gyntaf Malick ar ôl Badlands yn orchest sinematig anhygoel.

Sul 26 a Mawrth 28 Mai

Gwener 24 — Iau 30 Mai


Sinema

Good Vibrations

The Stone Roses: Made Of Stone

09

O’r Chwith i’r dde: Good Vibrations, Hit So Hard

chapter.org

Gwener 3 — Iau 9 Mai

DG/2012/103mun/15. Cyf: Lisa Barros D’Sa, Glenn Leyburn. Gyda: Richard Dormer, Dylan Moran

Ym Melffast yn y 1970au, ar adeg yr Helyntion, mae gwrthdaro gwaedlyd wedi chwalu’r ddinas. Ond, yn wahanol i’w ffrindiau sy’n troi at arfau, mae’r rebel digyfaddawd, a ffan cerddoriaeth diwyro, Terri Hooley, yn penderfynu agor siop recordiau yn un o’r llecynnau mwyaf peryglus yn Ewrop a’i galw’n Good Vibrations. Ond dim ond wedi iddo ddarganfod y band pync lleol, The Undertones, y daw o hyd i’w wir alwedigaeth. Wedi’i chreu â chryn fedr, gyda chyfuniad o ddeunydd archif a golygfeydd dramatig, mae’r ffilm hon yn gomedi angerddol a hoffus sy’n cynnwys perfformiad canolog gwych gan Richard Dormer.

“Y teimlad o arwsyd a gwrthdaro’n mudferwi sy’n gwneud ‘Good Vibrations’ mor gyffrous — ac yn rhoi i’r golygfeydd gobeithiol y fath ddisgleirdeb.” Tom Huddleston, Time Out

Lavender Screen Mawrth 28 Mai

Hit So Hard: The Life and Near Death Story of Patty Schemel UDA/2012/103mun/TICh. Cyf: P David Ebersole. Gyda: Patty Schemel, Courtney Love, Eric Erlandson.

Pan ffrwydrodd Nirvana ar y sîn ym 1991, roedd eu cerddoriaeth yn bortread huawdl o genhedlaeth ddig wedi’i difreinio. Ond tair blynedd yn ddiweddarach, ar ôl marwolaethau annhymig nifer o gerddorion o ganlyniad i gyffuriau, a hunanladdiad Kurt Cobain, daeth y bennod i ben. Roedd Patty Schemel, drymiwr nodedig grŵp roc Courtney Love, Hole, a menyw agored hoyw, reit yng nghanol pethau. Â chamera fideo, ffilmiodd Patty daith enwog Hole, ‘Live Through This’ — y sioeau, y partïon, a delweddau trawiadol ac agos-atoch o Kurt a Courtney. Mae Hit So Hard yn stori ddirdynnol am lwyddiant dros nos, cost bod yn gaeth i gyffuriau ac achubiaeth. Ymunwch â ni ar ôl y dangosiad ar gyfer trafodaeth grŵp ffilm LGBT Chapter.

a chyflwyniad lloeren byw gyda Shane Meadows a gwesteion arbennig Iau 30 Mai DG/2012/96mun/TICh. Digwyddiad rhwng 7.30pm a 10.30pm Cyf: Shane Meadows. Gyda: The Stone Roses.

Yn groes i ddisgwyliadau pawb, adunodd y band chwedlonol, The Roses Stone, am y tro cyntaf ers 16 mlynedd yn ystod haf 2012. Mae’r cyfarwyddwr nodedig Shane Meadows yn rhoi ei arddull, ei hiwmor a’i ddyfnder emosiynol unigryw ar waith mewn ffilm am y band — eu gwaith, a’u bywydau bob dydd wrth iddynt ymarfer ar gyfer eu gigs buddugoliaethus ym Manceinion yn Heaton Park o flaen cynulleidfa o 220,000. Yn cynnwys deunydd nas gwelwyd o’r blaen, sy’n rhychwantu hanes y band, profiadau personol nifer o’r rheiny a gyffyrddwyd gan y gerddoriaeth, a deunydd agos-atoch o’r band ei hun yn ystod y gyngerdd, mae’r ffilm yn gofnod awdurdodol o 25 mlynedd y grŵp gyda’i gilydd. Tocynnau: £10/£8

Noys R Us ym Mar Roc a Chlwb Nos Bogiez

Ar ddydd Sul olaf y mis byddwn yn cymryd eich hoff ffilmiau alt/roc/metal/pync i’ch hoff glwb roc. Yfwch, ymlaciwch a gwyliwch rai o’r ffilmiau cerddorol mwyaf ffrwydrol erioed.

American Hardcore: The History of American Punk Rock 1980-1986 Sul 26 Mai Drysau’n agor am 7.00pm, ffilm am 8pm UDA/2006/100mun / Cyf: Paul Rachman

Roedd sîn ffrwydrol ‘hardcore punk’ yn adwaith ffyrnig yn erbyn gweinyddiaeth Reagan. Mae ffilm ddogfen unigryw Rachman yn olrhain dechreuadau’r mudiad yn LA, Washington DC ac Efrog Newydd ac yn cynnwys cyfweliadau nodedig â cherddorion a helpodd i lunio sŵn y sîn. Mae yna ddelweddau prin hefyd o gyngherddau gan artistiaid fel Black Flag, Bad Brains, Minor Threat, SS Decontrol a Dead Kennedys. Tocynnau: £5 ar www.chapter.org ac yn Bogiez


Sinema

029 2030 4400

Me and You

The Gatekeepers

Gwener 24 — Mer 29 Mai

Gwener 31 Mai — Iau 6 Mehefin

Yr Eidal/2012/96mun/is-deitlau/15. Cyf: Bernardo Bertolucci. Gyda: Te Falco, Jacopo Olmo Antinori.

Yr Almaen/2012/101mun/is-deitlau mewn mannau/TICh Cyf: Dror Moreh. Gyda: Ami Ayalon, Avi Dichter, Avraham Shalom, Carmi Gillon, Yaakov Peri, Yuval Diskin

Gyda’r cloc o’r chwith uchaf: Me and You, Gatekeepers, The Great Gatsby

10

Ar ôl i blentyn mewnblyg yn ei arddegau ddweud wrth ei rieni ei fod yn mynd ar daith sgïo, mae e’n gwario’r arian ar nwyddau angenrheidiol ac yn mynd i aros yn seler yr adeilad lle mae gan ei rieni fflat, â cherddoriaeth, llyfrau, fferm forgrug a’i ddychymyg byw yn gwmni iddo. Ond pan ddaw ei hanner-chwaer hŷn, Olivia, sy’n gaeth i heroin, i’w guddfan er mwyn ceisio curo’r cyffur, caiff ei gynlluniau — a’i awydd i fod ar ei ben ei hun — eu chwalu. Mae ffilm Bertolucci — ei gyntaf ers degawd — yn astudiaeth ofalus o ieuenctid ac yn brawf o’i statws digymar fel cyfarwyddwr.

The Great Gatsby Gwener 31 Mai — Iau 20 Mehefin Awstralia/2013/Hyd i’w gadarnhau/TICh. Cyf: Baz Luhrmann. Gyda: Carey Mulligan, Jason Clareke, Joel Edgerton, Leonardo DiCaprio, Tobey Maguire

Addasiad hir-ddisgwyliedig Luhrmann o nofel F. Scott Fitzgerald. Mae’r ffilm, sydd wedi’i gosod yn Long Island, yn gynhyrchiad ysblennydd – fel y byddech yn ei ddisgwyl gan gyfarwyddwr Moulin Rouge a Romeo + Juliet. Mae Nick Carraway, o’r Midwest, yn cael ei hudo i fyd afradlon ei gymydog Jay Gatsby — ond buan y daw Carraway i weld trwy’r craciau ym modolaeth nouveau riche Gatsby. Mae obsesiwn, gwallgofrwydd a thrasiedi yn eu disgwyl.

Mae’r ffilm ddogfen onest a syfrdanol hon gan y cyfarwyddwr o Israel, Dror Moreh, yn cynnwys cyfweliadau gyda chwech o gyn-benaethiaid Shin Bet, asiantaeth ddiogelwch Israel a sefydlwyd yn 1949 i arwain ymgyrchoedd gwrthderfysgaeth a chasglu cudd-wybodaeth. Ar ôl treulio’u bywydau cyfain yn y cilfachau llwydion, amwys, maent yn siarad yn ddi-flewyn-ar-dafod am y tro cyntaf, am fyd du a gwyn gwleidyddiaeth a gwrthdaro arfog. Nid oes angen gwybodaeth drylwyr o hanes modern y Dwyrain Canol er mwyn deall ba mor ryfeddol yw’r cyfraniadau hyn.

Rebellion Gwener 31 Mai — Iau 6 Mehefin Ffrainc/2011/136mun/is-deitlau / 15. Cyf: Mathieu Kassovitz. Gyda: Mathieu Kassovitz, Benoit Jaubert

Mae rebeliaid yn un o drefedigaethau Ffrainc ar Ynys Ouvéa yng Nghaledonia Newydd yn ymosod ar orsaf heddlu ac yn cymryd 30 o heddweision yn wystlon. O ganlyniad, mae 300 o filwyr arbenigol yn cyrraedd i adfer trefn ac, er mwyn osgoi gwrthdaro diangen, mae Philippe Legorjus, capten uned heddlu gwrthderfysgaeth arbennig, yn dod i drafod ateb heddychlon gyda’r gwrthryfelwyr. Ond ag etholiad arlywyddol yn cael ei gynnal yn Ffrainc, mae popeth yn y fantol. Mae gwaith newydd cyfarwyddwr La Haine, Mathieu Kassovitz, yn ffilm gyffro dreisgar sy’n seiliedig ar ddigwyddiadau go-iawn.


chapter.org

Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn. Archebwch ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.

The Croods [2D] Sadwrn 4 — Llun 6 Mai

UDA/2013/90mun/U. Cyf: Chris Sanders, Kirk DeMicco. Gyda: Nicolas Cage, Emma Stone, Ryan Reynolds, Catherine Keener

Pan gaiff eu hogof ei dinistrio, mae teulu’r Croods, sy’n byw yn Oes y Cerrig, yn gorfod dod o hyd i gartref newydd mewn byd rhyfedd ac annisgwyl lle mae Natur yn dal i greu’r creaduriaid mwyaf anarferol a lle mae’r cyfandiroedd yn dal heb gael eu pennu’n derfynol.

Dangosiad dan Amodau Arbennig o The Croods [2D] Diwrnod Ffilm Am Ddim i’r Teulu Cyfan Sul 2 Mehefin, 10.30am-2pm

Ymunwch â ni am ddiwrnod ffilm am ddim i’r teulu cyfan ynghyd â gweithdy creadigol gyda Contact a Family Cymru. Mae’r digwyddiad yn agored i deuluoedd a brodyr a chwiorydd plant ag anableddau a/neu anghenion ychwanegol. Geirda gan Riant: “Doedd dim angen poeni am blentyn yn crio neu’n ymddwyn yn amhriodol — dim ond ar ôl i mi gyrraedd adref y sylweddolais nad oeddwn i wedi bod dan straen o gwbl yn ystod y diwrnod — ac nad oedd yr un o’r teuluoedd eraill i’w weld dan straen chwaith. Dw i’n siŵr i hyn gael effaith gadarnhaol ar y plant. Roedd yn brofiad arbennig iawn i’r teulu cyfan.” I gael mwy o wybodaeth ac i archebu lle i’ch teulu chi, anfonwch e-bost at wales.events@cafamily.org.uk neu ffoniwch 029 2039 6624 neu 01978 351769.

Sinema

11

Noddir gan Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk 02920 666688

Tinker Bell and The Secret Of The Wings [2D] Sadwrn 11 Mai

UDA/2012/75mun/U. Cyf: Roberts Gannaway, Peggy Holmes. Gyda: Timothy Dalton, Lucy Hale.

Mae Tinker Bell yn cwrdd â Periwinkle ac yn mentro i’r goedwig gyda hi a nifer o ffrindiau eraill er mwyn ceisio dod o hyd i gyfrinach adenydd tylwyth teg.

Wreck It Ralph [2D] Sadwrn 18 Mai

UDA/2012/108min/PG. Cyf: Rich Moore. Gyda: John C Reilly, Jack McBrayer, Jane Lynch

Mae dihiryn gêm fideo eisiau bod yn arwr ac yn mynd ati i geisio gwireddu ei freuddwyd. Ond mae ei ymdrechion yn achosi llanast difrifol yn yr arcêd sy’n gartref iddo.

Oz, The Great and The Powerful [2D] Gwener 24 — Iau 30 Mai

UDA/2013/130mun/PG. Cyf: Sam Raimi. Gyda: James Franco, Michelle Williams, Rachel Weisz

Mae dewin di-nod yn cael ei hudo ymaith i dir dan swyn ac yn cael ei orfodi i frwydro â thair gwrach.

Chimpanzee

Gwener 31 Mai a Sadwrn 1 Mehefin

UDA/2012/78mun/U. Cyf: Alastair Fothergill, Mark Linfield. Gyda sylwebaeth gan Tim Allen

O’r chwith i’r dde: The Croods, Oz, The Great and The Powerful

Yn y ffilm ddogfen hardd hon gan Disney, mae tsimpansî 3-mis-oed yn cael ei wahanu oddi wrth ei gyd-anifeiliaid ac yn cael ei fabwysiadu gan ddyn.


12

Sinema

029 2030 4400

Celfyddyd

Perfformiad

Mae Chapter yn falch iawn o fod yn un o bartneriaid gŵyl Diffusion — gŵyl ffotograffiaeth ryngwladol newydd a gynhelir bob dwy flynedd. Yn rhan o’r ŵyl, mae’r Oriel yn cyflwyno arddangosfa unigol gyntaf Maurizio Anzeri yng Nghymru, a fydd yn cynnwys detholiad o’i ddarnau ‘ffoto-gerfluniol’ nodedig. Bydd Celfyddyd yn y Bar yn croesawu’r artist Emma Bennett a’i lluniau atgofus a phrydferth sy’n awgrymu ochr dywyll y traddodiad bywyd llonydd ac fe fydd Mike Tooby yn edrych o’r newydd ar ddarlun enwog Edouard Manet, Un Bar aux Folies-Bergere (1882). Yn y Stiwdio, mae gosodiad ffilm Gideon Koppel, BORTH, yn bortread o dref hynod yng ngorllewin Cymru ac yn ddilyniant o fath i’w ffilm nodwedd, Sleep Furiously (2009). Ar ddiwedd y mis, bydd yna Benwythnos Cyhoeddi yn rhan o Ŵyl Diffusion (25/26 Mai) a bydd yna nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau i’r teulu cyfan hefyd. Mae mwy o wybodaeth a manylion am ddigwyddiadau’r ŵyl ar gael ar www.diffusionfestival.org.

Bydd mis Mai yn cychwyn â chynhyrchiad Mercury Theatre Wales, Spangled, sy’n olwg o’r newydd ar fyd gwyllt clybiau nos Cymru yn y 1990au. Bydd yna gyfle hefyd i ddathlu 5ed pen-blwydd Newsoundwales gyda pherfformiadau gan bum grŵp ardderchog. O’r aruchel i’r rhyfedd ar y naw, mae Tin Shed Theatre yn eich gwahodd i fwynhau Dr Frankenstein’s Travelling Freak Show. Ar ddydd Mercher, 15 Mai, bydd yna gyflwyniad dwbl o Savage Children a gallwch fanteisio ar gynnig arbennig a gweld y ddau berfformiad am bris gostyngol — £10/£8. Bydd Sioned Huws yn dychwelyd i Chapter â Phrosiect Aomori, a gychwynnwyd yn 2008 yn ymateb i amodau arctig Gogledd Japan. Yn cynnwys cerddoriaeth, perfformio a dawns, mae’r prosiect yn esblygu’n barhaol. Oddi ar y brif safle, bydd Reverie yn ymweld â strydoedd Bae Caerdydd, lle bydd cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn cyflwyniadau theatr stryd, hapchwarae a straeon ar-lein. Ac, i’r to iau, mae yna gyfle i agor led y pen y Magic Doors, cynhyrchiad theatrig gan Bombastic sy’n datgelu creaduriaid rhyfeddol a bydoedd dychmygol.

O’r Chwith i’r dde: Maurizio Anzeri, Emma Bennett Reverie, Tin Shed Theatre a Mercury Theatre Wales

Nid sinema yn unig yw Chapter; mae gennym hefyd raglen lawn o Berfformiadau a Chelfyddyd Weledol yn ystod mis Mai. Dyma rai uchafbwyntiau — gallwch weld y manylion yn llawn yn ein cylchgrawn chwarterol neu ar www.chapter.org.


Cerdyn Chapter

Gallwch arbed £££oedd ar bris pob tocyn sinema a theatr; cewch gopi am ddim bob mis o’r cylchgrawn hwn drwy’r post; taleb sinema am ddim a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig. Mae’r cerdyn hefyd yn gweithio fel Cerdtn CL1C. Cerdyn Sengl: £20/£10 Cerdyn i Ddau: £25/£20 (2 berson yn yr un cartref) Aelodaeth Lawn: Mwy fyth o fanteision — byddwch yn derbyn gwahoddiad i’r Cyfarod Blynyddol a chopi o’r adroddiad blynyddol ynghyd â holl fanteision eraill Cerdyn Chapter. £40/£30

Chapter Card

Save £££s on all cinema and theatre tickets; free monthly mailing of this magazine; free cinema voucher; invitations to special events. Also doubles up as a CL1C Card. Single Card: £20/£10 Dual Card: £25/£20 (2 people in the same household) Full Membership: Get even more involved — You’ll be invited to our AGM, receive the annual report and get all the benefits of a Chapter Card. £40/£30

Weekly eListings straight to your inbox. E-mail megan.price@chapter.org with ‘Join Listings’ in the subject line.

Free eListings

Join us online www.chapter.org is the best place to go for more info on everything we do.

eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch megan.price@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.

eAmserlen rad ac am ddim

Ymunwch â ni ar-lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am eim holl weithgarwch.

Cadwch mewn cysylltiad

Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawrlwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Chapter’s own reward card. Collect points when you visit the cinema or theatre and you’ll be surprised at how quickly you can claim a free ticket. Pick up a form next time you’re in or download from www.chapter.org. Watch out for this symbol to double your points!

Keep in touch

Cerdyn CL1C

CL1C Card

GET INVOLVED CYMRYD RHAN Institut für Auslandsbeziehungen e.V Millennium Stadium Charitable Trust The Ernest Cook Trust Lloyds TSB Morgan Signs Garrick Charitable Trust Barclays Arts & Business Cymru The Austin & Hope Pilkington Trust Singapore International Foundation Puma Hotels Collection: Cardiff Angel Hotel Cardiff Airport Wales Arts International Gibbs Charitable Trust Ceredigion Community Scheme The Steel Charitable Trust The Boshier-Hinton Foundation Oakdale Trust Nelmes Design

The Coutts Charitable Trust Bruce Wake Charity Funky Monkey Feet Finnis Scott Foundation Unity Trust Bank Hugh James Contemporary Art Society for Wales The Dot Foundry JVH Gidden & Rees Western Power Distribution HARMAN technology Limited Laguna Health & Spa Follett Trust Arts & Kids Cymru Canton High School Girl’s Reunion Co-operative Group IKEA Renault Cardiff GB-Sol Ltd City Satellites Embassy of Belgium Queensland Government

Registered Charity No. 500813* Rhif Elusen 500813

And all those individuals who have generously supported us through the redevelopment and beyond A’r holl unigolion hynny sydd wedi’n cefnogi ni’n hael drwy gydol cyfnod yr ailddatblygu ac ar ôl hynny

Landfill Community Fund Esmée Fairbairn Foundation The Baring Foundation Garfield Weston Foundation Foyle Foundation Biffaward Colwinston Charitable Trust Admiral Group plc Moondance Foundation Foundation for Sport and the Arts Trusthouse Charitable Foundation Community Foundation in Wales The Welsh Broadcasting Trust Richer Sounds Momentum The Henry Moore Foundation Google Jane Hodge Foundation Simon Gibson Charitable Trust People’s Postcode Trust Dunhill Medical Trust Legal & General

Chapter gratefully acknowledges the support it receives from the following Hoffai Chapter gydnabod cefnogaeth hael y sefydliadau a’r grwpiau canlynol:


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.