Chapter Mawrth 2014

Page 1

029 2030 4400

@chaptertweets

chapter.org


02

Croeso

chapter.org

Croeso i’n cylchgrawn misol sy’n nodi pob un o ddigwyddiadau Chapter ym mis Mawrth. Ydych chi erioed wedi ystyried sut mae artistiaid ac awduron yn bwydo’u creadigrwydd er mwyn cwblhau’r gweithiau yr ydym ni’n eu mwynhau wedyn? Y mis hwn, byddwn yn rhoi cipolwg i chi ar y byd cyfrin hwn, wrth i awduron ac artistiaid nodedig heidio i Chapter ar gyfer Gŵyl Ysgrifennu Merched XX (t14-15). Bydd hon yn wledd lenyddol, ac yn gyfle i glywed hoff awduron yn darllen ac yn siarad am eu gwaith, yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithdai i ddarpar awduron. Byddwn hefyd yn croesawu’r artist Samuel Hasler yn artist preswyl (t4-5). Bydd yr Oriel yn gweithio fel stiwdio agored yn ystod y cyfnod cyn lansiad ei gyhoeddiad print cyntaf. Draw yn y sinema, rydym yn falch iawn bob amser o gyflwyno gwaith gan dalentau lleol. Mae The Machine (t21) yn ffilm gyffro dywyll am beiriant lladd uwch-effeithiol ac yn cynnwys sgôr egnïol gan enillydd gwobr BAFTA, Tom Raybould, sy’n gweithio yn Chapter. Mae Svengali (t21) yn dilyn y cerddgarwr didoreth a hoffus, Dixie, wrth iddo symud o Gymru i Lundain i ddilyn ei freuddwyd o reoli band roc llwyddiannus. Mae Gŵyl Ffilm Cymru Un Byd (WOW) yn dychwelyd, rhwng Gwe 21 a Iau 27 Mawrth, â detholiad difyr ac eclectig arall o sinema ryngwladol (t25-29), gan gynnwys perfformiad y tu hwnt i furiau Chapter gan Fand Pres Bollywood yng Nghanolfan Gymunedol Samaj. Ac, yn y bar, mae ein gŵyl gwrw ranbarthol boblogaidd yn dychwelyd. Llynedd fe aethon ni i Gernyw a’r tro hwn byddwn yn mynd i’r Hen Ogledd ac yn cynnig blas o Swydd Efrog i chi . Mae mwy o wybodaeth am ŵyl Sup ‘n’ Scran ar dudalen 8. Diolch am ddarllen ac fe welwn ni chi cyn hir! Delwedd y Clawr: The Book Thief

Chapter Heol y Farchnad, Caerdydd CF5 1QE 029 2030 4400 www.chapter.org ymholiadau@chapter.org


chapter.org

Uchafbwyntiau

Oriel Tudalennau 4–7

Bwyta Yfed Llogi Tudalen 8

Chapter Mix

03

CYMRYD RHAN

Tudalen 9

Theatr

Cerdyn CL1C

Tudalennau 10–17

Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawrlwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Ffrindiau Chapter Sinema Tudalennau 18–30

Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40 Trowch i dudalen 8 am fwy o wybodaeth.

Cadwch mewn cysylltiad Addysg

Ymunwch â ni ar-lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

Tudalen 31

eAmserlen rad ac am ddim

Gwybodaeth a Sut i archebu tocynnau

eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch adam.chard@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.

Tudalen 32

Siaradwch â ni @chaptertweets facebook.com/chapterarts ymholiadau@chapter.org

Cymryd Rhan Tudalen 33

Calendr Tudalennau 34–35


Oriel

Gargoel Formosa, Fenis. Llun: Samuel Hasler

04 029 2030 4400


chapter.org

Oriel

05

INTERFERENCE: Samuel Hasler Maw 18 — Sul 30 Mawrth Yn rhan o’n rhaglen achlysurol, INTERFERENCE, rydym yn falch iawn o groesawu tywysydd yr oriel, Samuel Hasler, i fod yn artist preswyl yn ystod mis Mawrth. Yn ystod y cyfnod cyn lansiad ei gyhoeddiad cyntaf, O, A Prayer Book, bydd Samuel yn gwahodd y cyhoedd i gael golwg ar ei ffyrdd o weithio. Yn ei stiwdio dros dro, bydd Samuel yn cyflwyno’r ddelweddaeth a’r prosesau sy’n cyd-fynd â’i waith ysgrifenedig. Yn hyn o beth, mae yna gydbwysedd bregus rhwng ffaith a ffuglen; mae’r ysgrifennu a’r perfformiadau yn ymwneud â mytholeg yr artist ‘bohemaidd gwyllt’ wrth ei waith.

Lansiad llyfr a pherfformiad

Samuel Hasler: O, A Prayer Book Gwe 28 Mawrth 6pm

Mae llafar-ganu ac ailadrodd gweddïau yn fodd o gyflwyno dyn ifanc ynysig, y mae ei greadigrwydd wedi’i fygu. Wedi’i dwyllo gan chwedloniaeth ddisymud artistiaid mawr moderniaeth Ewropeaidd, gall ddianc rhag y shifft nos yn yr archfarchnad ond all e ddim dianc rhag ei ddychymyg gwrthnysig. Mae e’n teithio i Foscow a Fenis ac mae’r daith yn peri iddo ystyried o’r newydd ei syniadau rhamantaidd: ei awydd am fywyd gwyllt, bohemaidd, ei libido amrwd a’i amheuon cynyddol parthed ei ffydd. Mae’r cyhoeddiad print yn gweithio fel stori ac fel modd o glymu at ei gilydd berfformiadau, darlleniadau, gosodiadau ac argraffiadau; cyd-destun corfforol corff o waith. Bydd y noson yn cynnwys perfformiadau a darlleniadau gan Samuel Hasler a’r artistiaid gwadd Katrina Palmer, Francesco Pedraglio a Sarah Tripp. Bydd pob un o’r rhain yn cyflwyno deunydd o lyfrau i’w cyhoeddi gan Book Works yn 2014. Does dim angen archebu ymlaen llaw Cyhoeddir O, A Prayer Book gan Book Works ac fe’i ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Sgwrs

Pam mae artistiaid yn ysgrifennu? Samuel Hasler, Jane Rolo, Gavin Everall, Francesco Pedraglio a Katrina Palmer Sad 29 Mawrth, 2.30 — 3.30pm

Er bod ysgrifennu a chyhoeddi yn fodd o archwilio a gwyntyllu syniadau a theorïau amrywiol, y mae’r arfer wedi parhau — er gwaethaf arwyddocâd hanesyddol ysgrifau gan artistiaid — i fod yn ffurf ymylol a chamddealledig. Bydd Samuel Hasler a Francesco Pedraglio, ar y cyd â chyhoeddwyr a golygyddion Book Works, Jane Rolo a Gavin Everall, yn trafod y defnydd o ffuglen, rhyddiaith a’r gair ar lafar, ynghyd â’r symudiad tuag at ysgrifennu a chyhoeddi ym myd celfyddyd weledol.

Preswyliad ar agor i’r cyhoedd: Dyddiau Mawrth, Mercher, Sadwrn & Sul 12-6pm; Iau & Gwener 12-8pm; ar gau ar ddydd Llun

Siop Dros Dro Book Works Sad 29 Mawrth 10am — 4pm

Bydd detholiad o lyfrau o gatalog Book Works ar gael i’w darllen a’u prynu, gan gynnwys cyhoeddiadau gan Jeremy Deller, Laure Prouvost, Susan Hiller a Liam Gillick.

Dangosiad ffilm

Berberian Sound Studio Sul 30 Mawrth 5pm

DG/2012/92mun/15. Cyf: Peter Strickland. Gyda: Toby Jones, Cosimo Fusco, Antonio Mancino.

Pan gaiff peiriannydd sain naïf a mewnblyg ei gyflogi i gymysgu ffilm ddiweddaraf maestro ffilmiau arswyd, Santini, mae’n treulio’i amser wedi’i amgylchynu gan sŵn sgrechian erchyll a llysiau’n cael eu hacio’n ddarnau. Caiff ei hun ar goll mewn gofod arallfydol yn llawn anrhefn sonig a phersonol. Dathliad o ffilmiau’r oes cyn technoleg ddigidol a’r genre giallo. Ffilm arswyd seicolegol drawiadol ac annisgwyl. + Cyflwyniad gan Samuel Hasler a fydd yn archwilio’r cysylltiad rhwng ffilmiau Giallo â’i gyfnod preswyl a’i waith ei hun. Trowch i dudalen 19 i weld ffilmiau cwlt eraill mis Mawrth.

Bywgraffiad Mae Samuel Hasler yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd. Mae ei ddulliau gwaith yn amrywiol — maent yn cynnwys ysgrifennu, perfformio, gwneud printiau a gosodiadau. Cyflwynodd waith yn ddiweddar gyda Book Works (Llundain), yn Biennale Whitstable, Spike Island (Bryste) ac yn The Arnolfini (Bryste). www.samuelhasler.co.uk

Mae Book Works yn comisiynu celfyddyd ac yn arbenigo mewn llyfrau gan artistiaid, y gair ar lafar a deunydd print, ac yn gweithio i gefnogi gwaith newydd gan artistiaid sy’n dod i’r amlwg. www.bookworks.org.uk

Mae Interference yn rhaglen achlysurol o breswyliadau a gynhelir yn ystod y cyfnodau rhwng arddangosfeydd yn ein horiel.


Oriel

029 2030 4400

Andrew Morris, What’s Left Behind? 2013. 6x7” fformat canolig

06

CELFYDDYD YN Y BAR Andrew Morris: What’s Left Behind? Gwe 14 Mawrth – Sul 18 Mai Mae darluniau Andrew Morris o ofodau mewnol yn ymddangos yn dawel a myfyriol, fel petaent yn llefydd dros dro — rhywle rhwng llawnder a gwacter. Mae sbectol darllen yn dal i eistedd ar sil y ffenest a’r gwelyau mewn ystafelloedd gwely newydd gael eu gwneud — fe allech chi dybio’n rhwydd bod y perchennog wedi picio allan am gyfnod. Ond edrychwch eto ac fe welwch chi fod yna rywbeth nad yw cweit fel y dylai fod. Mae’r papur wal yn pilio, mae yna un ffotograff ar silff lyfrau a fyddai fel arall yn wag; cartrefi yw’r rhain sydd yn y broses o gael eu clirio, cartrefi a fu unwaith yn eiddo i rywun sydd, bellach, wedi marw. Mae Morris yn portreadu’r golygfeydd hyn â sensitifrwydd — mae’n gwneud mwy na chanolbwyntio ar yr eiddo sy’n weddill ac yn ein harwain i fyfyrio ac ystyried syniadau am gartref, teulu a pherchnogaeth.

Bywgraffiad Mae Andrew Morris yn byw ac yn gweithio yn Abertawe a graddiodd yn ddiweddar o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Abertawe, lle’r astudiodd Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau. Morris yw deiliad cyntaf Gwobr Artist Ifanc Rhyngwladol Cymru a gyflwynwyd iddo gan y Cyngor Prydeinig Cymru am y corff hwn o waith. Ynglŷn â’r wobr Lansiwyd Gwobr Artist Ifanc Rhyngwladol Cymru yn 2013 gan Gyngor Prydeinig Cymru gyda’r nod deuol o ddod o hyd i dalentau newydd ifainc yn y sectorau creadigol ac o feithrin y talentau hynny, gan roi cyfle i artistiaid ifainc o Gymru ddangos eu gwaith yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae’r enillydd yn derbyn gwobr o £500 a chyfle i arddangos gwaith ar chwe chyfandir ac mewn mwy na 100 o wledydd.


Andrew Morris, What’s Left Behind? 2013. 6x7” fformat canolig

Andrew Morris, What’s Left Behind? 2013. 6x7” fformat canolig

chapter.org Oriel 07


08

Bwyta Yfed Llogi

029 2030 4400

O’r chwith i’r dde: Sup ‘n’ Scran, Ffrindiau Chapter

BWYTA YFED LLOGI

Llogi Mae nifer o leoedd a chyfleusterau ar gael i’w llogi yn Chapter, ac fe ddefnyddir y rhain yn rheolaidd gan gymysgedd eclectig o ddosbarthiadau dydd a nos. Edrychwch ar ein gwe-fan neu codwch daflen yn y swyddfa docynnau i weld yr hyn sydd ar gael. Ac os ydych chi’n chwilio am ystafell ar gyfer parti, cyfarfod, cynhadledd, neu er mwyn ffilmio fideo, ar gyfer ymarferion neu weithgareddau tîm, bydd ein cyfleusterau arloesol, ein gwybodaeth dechnegol a’n staff cyfeillgar ar gael i’ch helpu chi i greu digwyddiad cyffyrddus, unigryw a chofiadwy. Bydd rheolwr ein caffi hefyd yn gallu cynnig amrywiaeth o opsiynau arlwyo ar gyfer eich digwyddiad. Os oes gennych gwestiynau ynglŷn â llogi neu os hoffech chi fwy o wybodaeth, rhowch ganiad i Nicky, rheolwr y gwasanaeth llogi, ar 029 2031 1050/58 neu anfonwch e-bost at nicky.keeping@chapter.org

Sup ‘n’ Scran Gŵyl Cwrw Swydd Efrog Maw 4 — Sul 9 Mawrth Bob blwyddyn rydym yn hoffi cynnal gŵyl sy’n dathlu archwaeth a bwydydd gwahanol ranbarthau Prydain. Yn 2012, cynhaliwyd Gŵyl Hopscotch, a oedd yn cynnwys amrywiaeth eang o gwrw a chwisgi o’r Alban. Y llynedd, tro Cernyw oedd hi ac roedd ein Gŵyl Peint a Phastai, ‘Perrantide’, yn llwyddiant ysgubol. Yn 2014, penderfynom gynnig blas ar Swydd Efrog i chi. Dewiswyd 30 cwrw o blith cynhyrchion godidog 120 o fragdai yn Swydd Efrog – pob un yn gwrw nad yw i’w weld yn y parthau deheuol hyn fel arfer. O ran bwyd, mae Swydd Efrog yn enwog am brif gyrsiau swmpus a chyfoethog, ynghyd â phwdinau melys, gludiog (ydych chi wedi blasu Parkin Cake?) — a byddwn yn cynnig ein fersiynau ni o’r prydau hyn ar fwydlen yr ŵyl. Felly, os ydych chi’n teimlo’n ‘parky’

ym mis Mawrth, dewch draw i flasu peth o luniaeth ein cymdogion Gogleddol. O.N. Bydd yna waharddiad llwyr ar yr arfer o ‘ferretlegging’ (chwiliwch ar y we...).

Ffrindiau Chapter Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel tocynnau rhatach, gostyngiadau yn ein Caffi Bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bob blwyddyn mae ein ffrindiau yn cyfrannu swm rhyfeddol o £20,000 drwy gyfrwng eu tanysgrifiadau. Mae hynny’n ein helpu ni i ddenu’r artistiaid rhyngwladol gorau i Gaerdydd, i gefnogi a meithrin talentau lleol ac i gynnig rhaglen addysg gynhwysfawr. Mae gwahanol lefelau ein cynllun Ffrindiau yn golygu y gallwch chi ddewis y cynllun sydd orau i chi a manteisio ar fwy o’r pethau r’ych chi’n eu mwynhau yn Chapter. I ymaelodi â Chynllun Ffrindiau Chapter, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau neu, i gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Jennifer — jennifer.kirkham@chapter.org chapter.org/cy/ffrindiau-chapter

CYNLLUN MYFYRWYR CHAPTER Ydych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth am ddim a manteisio ar gynigion arbennig nodedig, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Jennifer — jennifer.kirkham@chapter.org chapter.org/cy/aelodaeth-myfyrwyr-chapter


chapter.org

Chapter Mix

Cylch Chwedleua Caerdydd

DARLITH SWDFAS

Sul 2 Mawrth 8pm

Dewch i rannu a gwrando ar gasgliad hyfryd o straeon — croeso cynnes i storïwyr a gwrandawyr fel ei gilydd! £4 (wrth y drws)

ON THE EDGE

The Pity of War gan Gwynne Edwards Maw 4 Mawrth 8pm

Cerddi a naratifau myfyriol y milwr/bardd ifanc. Tymor newydd o berfformiadau sgript-mewn-llaw o ddramâu gan awduron newydd a nodedig sy’n byw yng Nghymru. £4

Dydd Iau Cyntaf y Mis: Barddoniaeth a Ffuglen Newydd Iau 6 Mawrth 7.30pm Meic Agored.

Mae’r rhifyn arbennig hwn o Ddydd Iau Cyntaf y Mis yn gyflwyniad i Ŵyl Ysgrifennu Merched XX, i’w chynnal yn Chapter rhwng 6 ac 8 Mawrth (gweler tudalennau 14-15 am fanylion). Dewch i gwrdd â golygydd newydd Cylchgrawn Poetry Wales, Nia Davies, a fydd yn darllen ei barddoniaeth ac yn trafod ei chynlluniau ar gyfer y cylchgrawn. Bydd Zillah Bethell, sy’n byw yn Nhondu, yn darllen stori a oedd yn Stori Fer y Mis (Seren), a bydd y bardd Maureen Jivani yn darllen cerddi newydd a darnau o’i chasgliad meddylgar, ‘Insensible Heart’ (Mulfran). I gael mwy o wybodaeth, ymunwch â’n tudalen Facebook os gwelwch yn dda: “First Thursday of the Month at Chapter”. Noddir gan Seren, Mulfran a Llenyddiaeth Cymru £2.50

Dadl Siop Goffi y Sefydliad Materion Cymreig

Menywod mewn Gwyddoniaeth Maw 11 Mawrth 6pm

Mae dynion yn y DG chwe gwaith yn fwy tebygol na merched o weithio ym maes gwyddoniaeth. Dewch i glywed hanesion menywod sydd wedi mynd yn groes i’r duedd hon. Cafodd Wendy Sadler ei henwi ar restr y DGRC o Ferched o Ragoriaeth Eithriadol. Yr Athro Julie Williams yw Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru ac mae hi’n Athro Geneteg Niwroseicolegol. Mynediad am ddim, ond archebwch ymlaen yn llaw os gwelwch yn dda — nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. I archebu ewch i www.iwa.org.uk neu ffoniwch 029 2048 4387.

09

Troy: Myth, History and Archaeology: Dr Steve Kershaw BA Iau 13 Mawrth 2pm

Ysbrydolodd Rhyfel Caerdroea beth o gelfyddyd a llenyddiaeth geinaf yr Hen Roeg, yn ogystal â hanes diddorol darganfod Hislarlik gan Heinrich Schielmann ac eraill. Yn y ddarlith hon, byddwn yn ymchwilio darganfyddiadau archeolegol ysblennydd, yn dod i adnabod Groegiaid, Troeaid a Hethiaid, ac yn gofyn a yw Rhyfel Caerdroea yn ddigwyddiad hanesyddol neu’n ffrwyth dychymyg llenyddol. Ymwelwyr £6 (yn ddibynnol ar le) www.swdfas.org.uk

Music Geek Monthly

Iau 27 Chwefror 8pm + Sad 15 Mawrth 3.30pm Iau 27 Mawrth 8pm + Sad 12 Ebrill 3.30 Trafodir un clasur o albwm ac un albwm newydd sbon yn y Pwynt Cyfryngol ar ddydd Iau olaf y mis. Cynhelir y gwrandawiad cysylltiedig ym moeth Sinema 2 ar ddydd Sadwrn. RHAD AC AM DDIM www.musicgeekmonthly.tumblr.com

Jazz ar y Sul

Sul 16 Mawrth 9pm Ein noson fisol o jazz acwstig melodig yn y Caffi Bar gyda Phedwarawd Glen Manby. RHAD AC AM DDIM

Clonc yn y Cwtsh

Bob dydd Llun 6.30 — 8pm Ydych chi’n dysgu Cymraeg? Ymunwch â ni i ymarfer eich Cymraeg yng nghwmni dysgwyr eraill. Croeso i bawb! RHAD AC AM DDIM Ar y cyd â Menter Caerdydd

Clwb Comedi The Drones

Gwe 7 + Gwe 21 Mawrth, Drysau’n agor: 8.30pm Sioe’n dechrau: 9pm Clint Edwards sy’n cyflwyno’r ‘stand-ups’ addawol gorau. Gwelwyd peth o ddeunydd y nosweithiau hyn ar ‘Identity Crisis’ Rob Brydon. Dydd Gwener cyntaf a thrydydd dydd Gwener y mis. £3.50 (wrth y drws)


Theatr

“‘Ofnadwy o ddifyr ... a ffyrnig o ddoniol.” The Telegraph

029 2030 4400

Contractions

10


chapter.org

Theatr

Iain Goosey ar y cyd â Chapter yn cyflwyno Contractions

Contractions Gan Mike Bartlett Cyfarwyddo gan Kate Wasserberg Cynllunio gan Max Jones a Ruth Hall Goleuo gan Nick Beadle Sain gan Dyfan Jones Mer 5 – Sad 8 + Maw 11 — Sad 15 Mawrth 8pm (matinée am 2.30pm ar ddydd Sadwrn 15 yn unig) ‘Dewch i mewn. Eisteddwch. Sut hwyl?’ Mae Emma wedi bod yn gweld Darren. Mae hi’n credu ei bod hi mewn cariad. Mae ei bos yn meddwl ei bod hi wedi torri ei chytundeb. Mae hi’n gyfnod anodd ac mae swyddi da yn brin. Beth fydd Emma’n fodlon ei wneud i gadw’i swydd hi? Mae comedi ddoniol ac ingol Bartlett yn ein harwain i galon dywyll y bywyd corfforaethol yn ystod cyfnod o galedi. Kate Wasserberg (A History of Falling Things, Salt, Root and Roe, Last Christmas) sy’n cyfarwyddo Sara Lloyd-Gregory (Y Gwyll, Alys, Belonging, Love and Money, enillydd BAFTA) a Catrin Aaron (Aristocrats, Salt, Root and Roe, A Doll’s House, The Indian Doctor) yn y première Cymreig hwn o waith dychanol dramodydd a enillodd Wobr Olivier, Mike Bartlett. Ariennir y prosiect hwn gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru drwy’r Loteri Genedlaethol. £14/£12 Oedran 14+

Megan Price Rheolwr Marchnata Mae ein rhaglen Theatr mor ddiddorol ac amrywiol ar hyn o bryd fel ei bod hi’n anodd dewis un uchafbwynt ond, fel ffan mawr o Waking Exploits, dw i’n edrych ymlaen yn eiddgar at weld beth sydd gan Iain Goosey i’w gynnig yn Contractions. Mae yna nifer o gwmnïau a chynhyrchwyr ifainc sy’n cyflwyno dramâu cyfoes pwysig yng Nghaerdydd ar hyn o bryd ac, i mi, mae hyn yn arwydd bod gan y theatr yng Nghymru ddyfodol disglair. Yr uchafbwynt arall i mi y mis hwn, heb amheuaeth, yw’r cyfle i groesawu AL Kennedy i Chapter yn rhan o Ŵyl Ysgrifennu Merched XX. Am fraint!

11


Theatr

Clwb Ifor Bach yn cyflwyno

Charlotte Church

029 2030 4400

Cowbois Rhos Botwnnog

12

Cowbois Rhos Botwnnog + Kizzy Crawford Sul 2 Mawrth 8pm Ffurfiwyd Cowbois Rhos Botwnnog yn 2005 gan dri brawd o Ben Llŷn. Bryd hynny, roeddent yn chwarae cymysgedd eclectig o ganeuon ag arddull pync/canu gwlad – a’r cwbl yn dod at ei gilydd â diferyn o ganu gwerin Cymreig traddodiadol. Erbyn hyn, mae’r band wedi mabwysiadu pedwar o gerddorion eraill ac mae eu sŵn yn fwy tyner, mwy gwladaidd, â mwy o harmoni iddo. Maen nhw wedi rhyddhau tri albwm stiwdio a gafodd dderbyniad gwresog iawn bob un. Y llynedd, fe berfformion nhw’n rheolaidd ledled Cymru a thu hwnt — yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd, No Direction Home a Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr. Daw cefnogaeth ar y noson gan Kizzy Crawford, cyfansoddwr/cantores ifanc o Ferthyr Tudful a ddaeth i amlygrwydd yn 2013. £8

Iau 6 Mawrth, Drysau’n agor: 7.30pm Mae Church Charlotte yn ei hôl â FOUR — y bedwaredd mewn cyfres uchelgeisiol o bum record y mae hi ei hun yn gyfrifol am eu recordio a’u rhyddhau. Ar ôl yr EPs ONE, TWO a THREE, bydd EP diweddaraf Church yn cael ei ryddhau ar y 10fed o Fawrth ar ei label ei hun, Alligator Wine Records. Yn ystod 2013, enillodd Church glod uchel gan y beirniaid am eu recordiau ac am ei thaith ledled America a’r DG. Lle’r oedd THREE yn cynnwys seinweddau argraffiadol, mae FOUR yn record galeidosgopig o gerddoriaeth bop sy’n gwyro’n hyderus rhwng seicedelia gwyddonias cyhyrog a ffync Efrog Newydd, polyrythmau dolefus a ‘soul’ paranoiaidd. Daw FOUR i ben â molawd i gariad sy’n cyfuno lwpiau o ganu, allweddellau dawns a gitarau iwfforig cyn ildio i goda sy’n dwyn i gof gyfansoddiadau Debussy a diweddglo lleisiol. £15

“Credu’ch bod chi’n hen gyfarwydd â Charlotte Church? Mae hi’n bryd i chi newid eich meddwl.” Clash


Theatr

13

Cenhedloedd Dan Ddyfroedd

chapter.org

Cyd-gynhyrchiad gan Theatr Mwldan, Access All Areas & 30IPS

Cenhedloedd Dan Ddyfroedd Mer 5 Mawrth 7.30pm Cymru a Nwbia. Dau dir. Etifeddiaeth gyffredin. Yn cychwyn yng Nghymru ym mis Mawrth 2014, mae Cenhedloedd Dan Ddyfroedd yn daith gerddorol a fydd yn cyflwyno’r gantores Siân James a’r gitarydd Gai Toms, ar y cyd â’r drymwyr ffrâm Nwbiaidd traddodiadol, Nuba Nour, o’r Aifft. Mae hwn yn addo bod yn noson hudolus o gerddoriaeth o Gymru a Nwbia, wrth i’r artistiaid gydweithio am y tro cyntaf. Mae penderfyniadau gwleidyddol a rhaniadau’r 1960au yn dal i siapio’r byd cyfoes. Yn Cenhedloedd Dan Ddyfroedd, bydd lleisiau o ddwy gymuned ymddangosiadol annhebyg yn uno ar lwyfan i gofio

tynged pentref Capel Celyn yng Ngogledd Cymru — a gollwyd i ddyfroedd Cronfa Ddŵr Tryweryn — a mamwledydd traddodiadol y Nwbiaid yn Aswan, yr Aifft, a foddwyd pan adeiladwyd Argae’r Arlywydd Nasser. Bydd y cyngherddau’n cynnwys setiau unigol gan bob un o’r artistiaid, ynghyd â chydweithrediad arbennig a chaneuon am Dryweryn a chyflwr bregus pobl Nwbia. £14/£12 www.dammednations.com


Theatr

029 2030 4400

Gŵyl Ysgrifennu Merched XX Iau 6 — Sad 8 Mawrth Mae awduron ac artistiaid, gan gynnwys y nofelydd AL Kennedy, y newyddiadurwr Melissa Benn, y beirdd Kathryn Simmonds a Kim Moore a’r artist gweledol Shani Rhys James yn ddim ond rhai o’r enwau mawrion a fydd yn ymuno â Gŵyl XX eleni. Bydd awduron sefydledig a newydd, gan gynnwys y cynhyrchydd teledu Sue Vertue, golygydd Mslexia, Debbie Taylor, cyhoeddwr Gwasg Virago, Lenni Goodings, a’r awduron Tiffany Murray, Dorothy Al Khafaji, ac enillydd Llyfr y Flwyddyn 2013, Rhian Edwards, yn darllen o’u gwaith ac yn cymryd rhan mewn cyfweliadau, trafodaethau panel a pherfformiadau. Archebwch mewn da bryd i osgoi cael eich siomi! xxwales.wordpress.com @xxwales xxwales@gmail.com

Iau 6 Mawrth 7:30pm

Dydd Iau Cyntaf y Mis: Barddoniaeth a Ffuglen Newydd (Poetry Wales) Bydd Gŵyl XX yn cychwyn â’r digwyddiad rheolaidd hwn. Dewch i gwrdd â golygydd newydd Poetry Wales, Nia Davies, a fydd yn darllen ei barddoniaeth ei hun ac yn trafod ei chynlluniau ar gyfer y cylchgrawn. Bydd y nofelydd Zillah Bethell (Seren) a’r bardd Maureen Jivani (Mulfran) hefyd yn perfformio. Dan arweiniad Golygydd Barddoniaeth Seren, Amy Wack. Tocynnau £2.50 (wrth y drws, ddim yn gynwysedig yn y tocyn penwythnos).

Gwe 7 Mawrth 2.30pm

The Fearless Feminist Spot: Melissa Benn Mae llyfr newydd y newyddiadurwr a’r awdur cymdeithasol-wleidyddol, Melissa Benn, What Should We Tell Our Daughters?, yn codi cwestiynau pwysig ynglŷn â’r modd y caiff ein merched eu codi a’u magu. Bydd Julie Morgan, Aelod Cynulliad dros Ogledd Caerdydd, yn cyf-weld â Melissa.

4pm

Florilingua: Shani Rhys James Yr awdur Francesca Rhydderch sy’n cyf-weld ag un o arlunwyr cyfoes mwyaf nodedig Cymru. Aeth Rhys James ati i gomisiynu gwaith gan bedwar o awduron, sy’n ymateb i gynfasau lliwgar ei harddangosfa, ‘Florilingua’. Bydd y darllenwyr ar y noson yn cynnwys Jasmine Donahaye, Amy Wack a’r actores, Helen Griffin.

7pm

‘The Woman Writer’: Lennie Goodings Cyhoeddwr Virago Press fydd yn traddodi prif ddarlith XX ar fenywod a’r byd cyhoeddi. Wedi’r ddarlith, bydd yn ateb cwestiynau gan yr awdur o Gaerdydd, a’r darlithydd ym Mhrifysgol Southampton, Carole Burns.

8:30pm

Y Salon Llenyddol Rhifyn arbennig merched-yn-unig o Salon Llenyddol Caerdydd gyda darlleniadau a thrafodaethau yng nghwmni’r nofelydd a chyn-Gymrawd Rhyngwladol Gŵyl y Gelli, Tiffany Murray (Sugar Hall, Seren, 2014), yr awdur addawol, Carly Holmes (The Scrap Book, Parthian, 2014), Georgia Carys Williams (Second-Hand Rain, Parthian, 2014), yr awdur o’r Rhondda, Rhian Elizabeth (Six Pounds, Eight Ounces, Seren, 2014) a gwestai cerddorol arbennig iawn. Dan arweiniad golygydd Parthian Books, Susie Wild.

Llun: Paul Edwards

14


chapter.org

Theatr

Sad 8 Mawrth

4pm

10am

15

Rhyw mewn Ysgrifennu gan Ferched

Sut mae mynd ati i ysgrifennu ar gyfer pobl yn eu harddegau? Dan arweiniad cyhoeddwr Gwasg Firefly a Golygydd Ffuglen Seren, Penny Thomas, ac yng nghwmni Hayley Long, awdur llyfrau Lottie Biggs a Jody Barton, y nofelydd arobryn, Lucy Christopher (Stolen, The Killing Woods) a Kat Ellis, awdur newydd y caiff ei llyfr cyffro, Blackfin Sky, ei gyhoeddi ym mis Mai.

Yn sgil Fifty Shades, dyma gip ar rôl rhyw mewn ffuglen gan ferched, o safbwynt emosiwn, pŵer, diffyg pŵer — ac achubiaeth hefyd hyd yn oed. A yw ysgrifennu gan ferched am ryw yn wahanol i’r modd y mae dynion yn trin y pwnc? A oes yna wahaniaethau hefyd ar sail cyfeiriadedd rhywiol? Ar sail cenedligrwydd? Bydd yr awdur, AL Kennedy, golygydd cylchgrawn Mslexia, Debbie Taylor, a’r bardd (ac enillydd Llyfr y Flwyddyn 2013), Rhian Edwards, yn trafod. Dan arweiniad Carole Burns, awdur a darlithydd.

11:15am

6.30pm

Ffuglen i Oedolion Ifainc

Sgript a Sgrin Trafodaeth banel yng nghwmni’r cynhyrchydd teledu, Sue Vertue (Sherlock, Mr Bean), Golygydd Sgript a Chynhyrchydd gyda’r BBC (ac enillydd BAFTA), Ceri Meyrick (EastEnders, Father Brown), Cynhyrchydd Creadigol Theatr Soho, Rebecca Gould, a’r actores, y dramodydd a’r sgriptiwr o Gymru, Helen Griffin (Human Traffic, Twin Town). Dan arweiniad Susie Wild, awdur a Golygydd Parthian.

12:30pm

Ysgrifennu O’r Byw: Hunangofiant/ Ffuglen “Cyrraedd adre o dramor”: Ble mae’r ffin rhwng ffaith a ffuglen? Bydd tri awdur cofiannau a ffuglen o wahanol rannau o’r byd yn ystyried y ffin denau: Dorothy Al Khafaji, Between Two Rivers (Parthian, 2013); Karen Fielding, American Sycamore (Seren, 2014), a Hilary Shepherd, In a Foreign Country (Honno, 2014). Dan arweiniad Penny Thomas, Golygydd Ffuglen Seren.

Dynion yn Darllen Merched Dynion yn darllen darnau o weithiau gan eu hoff awduron benywaidd. Yng nghwmni Kevin Brennan, AS Gorllewin Caerdydd, Mark Drakeford AC, enillydd gwobr TS Eliot, Philip Gross, yr awdur a’r cyhoeddwr, Lewis Davies, a’r Athro Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd, Damian Walford Davies. I gynnwys sesiwn holi-acateb gydag aelodau’r gynulleidfa. Dan arweiniad y Farwnes Eluned Morgan.

8:00pm

All The Rage: A.L. Kennedy I gloi’r ŵyl, bydd yr awdur enwog o’r Alban, ac enillydd Gwobr Costa 2007, yn darllen o’i chasgliad newydd o straeon byrion, All The Rage, ac yn ateb cwestiynau gan yr awdur Carole Burns ac aelodau’r gynulleidfa.

Gweithdai Sad 8 Mawrth 10 — 11am

2.30pm

Leona Medlin o Wasg Mulfran: Paratoi eich llawysgrif ar gyfer ei gyflwyno i gyhoeddwyr.

Bydd enillydd gwobr farddoniaeth Forward, Kathryn Simmonds, yn darllen o’i chasgliad newydd, The Visitations (Seren). Gyda chyfraniadau hefyd gan newydd-ddyfodiaid disglair: Jemma King, a enwebwyd am Wobr Dylan Thomas, a fydd yn darllen o’i chasgliad cyntaf gyda Parthian, The Shape of a Forest, y bardd o Cumbria, Kim Moore, enillydd Gwobr Eric Gregory, a fydd yn darllen o’i phamffled If We Could Speak Like Wolves, a Cath Drake, enillydd Cystadleuaeth Bamffledi Mslexia, 2014. Dan arweiniad Amy Wack, Golygydd Barddoniaeth Seren.

11.30am — 12.30pm

Barddoniaeth Newydd

Mab Jones, Bardd: Perfformio Barddoniaeth: Cynghorion, Triciau, a Sut i Lwyddo.

1.30 — 2.30pm Debbie Taylor, Golygydd, Cylchgrawn Mslexia: Cyhoeddi eich gwaith mewn cylchgronau llenyddol.

3 — 4pm Jo Verity o Wasg Honno yn trafod y stori fer: Beth yw pwynt gweithiau ffuglen byrion? Nodwch os gwelwch yn dda y bydd angen archebu lleoedd yn ein gweithdai ymlaen llaw, am mai nifer cyfyngedig o leoedd fydd ar gael

Tocynnau: Tocyn Penwythnos: £30/£27 • Tocyn diwrnod Dydd Gwener: £15/£13 • Tocyn diwrnod Dydd Sadwrn: £25/£22 Tocynnau unigol ar gyfer pob digwyddiad: £8–£6 • Gweithdai: £10 yr un Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol.


Theatr

Cwmni Theatr Everyman

Act One

Maw 11 — Sad 15 Mawrth 7.30pm (matinée am 2.30pm ar ddydd Sadwrn)

Llun 31 Mawrth — Gwe 4 Ebrill 7.30pm

029 2030 4400

O’r chwith i’r dde: : Our Town, Metamorphosis

16

Our Town

Yn ôl The New York Times ym 1938, drama Thornton Wilder, ‘Our Town’, oedd “y gair olaf yn y ddadl am theatr arbrofol”. Enillodd y ddrama Wobr Pulitzer ac mae’n rhagflaenydd i weithiau gan Dylan Thomas, Pirandello a Brecht. Yn ôl David Mamet, hon yw’r “Ddrama Fawr Americanaidd.” Cawn ein tywys gan gymeriad y ‘Rheolwr Llwyfan’, wrth i ni ystyried Gwirioneddau Oesol a ddatgelir ym mywyd bob dydd ‘Grover’s Corners’, New Hampshire. Honnodd Wilder taw “dim ond pum troedfedd sgwâr o bren a’r awydd angerddol i wybod beth mae bywyd yn ei olygu i ni sydd ei angen ar uchafbwynt y ddrama hon.” £10/£8 (gostyngiadau ar berfformiadau dydd Mawrth, Iau + matinée Sadwrn yn unig) (Oedran 11+)

Metamorphosis Un bore, mae’r arwerthwr teithiol, Gregor Samsa, yn deffro ac yn cael ei fod wedi’i drawsnewid yn bryfetyn enfawr. Ar ôl treulio pob munud o’i fywyd blaenorol yn cynnal ei deulu, rhaid iddyn nhw yn awr — ac iddo ef ei hun — ymdopi ag anabledd amhosib. Yn seiliedig ar nofel fer glasurol Franz Kafka, ac wedi’i haddasu ar gyfer y llwyfan gan Steven Berkoff, mae Act One yn falch o gyflwyno Metamorphosis. Mae cast ensemble talentog yn archwilio stori’r ddirdynnol hon am ddyn ifanc sy’n cael ei fwrw o’r neilltu gan bob un o’i anwyliaid. £8/£6

Show And Tell yn cyflwyno

Simon Munnery: Fylm Sad 1 Mawrth 8pm Mae’r digrifwr arobryn Simon Munnery yn rhoi cynnig unwaith eto ar lanw’r bwlch rhwng ffilm a chomedi byw, yn ei sioe fyw fylm-tastig ddiweddaraf — dilyniant i’w waith nodedig ‘Fylm Makker’. Mae ‘Fylm’ yn sioe sy’n llawn comedi feiddgar a dychmygus a sgetsys byw. Caiff y cwbl oll ei berfformio gan Simon o’i sedd ymhlith y gynulleidfa a’i daflunio’n fyw ar sgrin fawr. Mae Simon yn gyfrannwr rheolaidd at raglenni fel Stewart Lee’s Comedy Vehicle (BBC2), The Culture Show, The Alternative Comedy Experience ar Comedy Central a’r News Quiz ar Radio 4 . Enwebwyd Simon am Wobr Comedi Prydain a Gwobr Perrier ac mae e’n enillydd Gwobr Chortle a Gwobr Radio Sony. £12/£11/£10


Theatr

Chris Tally Evans a’i Gwmni

difficult|stage

Iau 27 — Sad 29 Mawrth 7.30pm

Maw 18 Mawrth 8pm (rhagolwg) Mer 19 — Sad 22 Mawrth 8pm

O’r chwith i’r dde: : 21st Century Dinosaurs, The World of Work (Llun: Dan Green)

chapter.org

21st Century Dinosaurs Ai dallineb yw eich ofn pennaf? Gweledigaeth y sioe hon yw ei diffygion golwg. Mae bydoedd yn dod i wrthdrawiad â’i gilydd — a’r actorion hefyd! Mae 21st Century Dinosaurs yn ddarn newydd cyffrous o theatr aml-gyfrwng a grëwyd gan y cyfarwyddwr gwobrwyol, Chris Tally Evans, a’i gwmni talentog o artistiaid. Mae’r sioe’n adrodd hanesion doniol a thrasig o fywyd go iawn: daw hanes yr ynys drofannol lle mae 10 y cant o’r ynyswyr yn lliw-ddall, a golwg wreiddiol ar fenywod Mwslimaidd yn ein cymdeithas at ei gilydd mewn cynhyrchiad newydd i ysgogi’r meddwl. Mae pedwar o berfformwyr a diffygion golwg yn eich gwahodd i rannau eu byd wrth i’w straeon personol nhw ymgordeddu â gwyddoniaeth enynnol. Gyda sgôr newydd gyffrous gan y cyfansoddwr ifanc nodedig, Lloyd Coleman, a darnau o lyfr gwych Dr Oliver Sacks, The Island of the Colour-blind*, mae 21st Century Dinosaurs yn sioe na fyddwch chi wedi gweld ei thebyg o’r blaen. Os ydych chi’n disgwyl gweld criw o bobl anabl yn cwyno am eu bywydau anodd, fe gewch chi’ch siomi. Mae’r cwmni’n cyfuno theatr a chwedleua, cerddoriaeth a fideo, golau a sain, mewn sioe a fydd yn gwneud i chi chwerthin, a fydd yn torri’ch calon, yn gwneud i chi feddwl ac yn galluogi i chi ddeall o’r diwedd sut brofiad yw methu â gweld. *(Hawlfraint ©

Oliver Sacks 1997, defnydd gyda chaniatâd Asiantaeth Wylie (DG) Cyf), Bydd pob perfformiad yn cynnwys disgrifiadau sain a dehongliad yn Iaith Arwyddion Prydain. Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Cronfa Fawr y Loteri, Llywodraeth Cymru, Chapter ac Ysbyty Llygaid Moorfields. £10/£8

The World of Work Comedi tywyll am fethiant. Melltithio, Ceisio, Methu Gweiddi, Yfed, Ystumio Anadlu’n drwm, Aros, Doethinebu Crio, Marw, Esgus. Mae’n ben-blwydd ar Katy! Ymunwch â ni am ddiodydd*, danteithion a distawrwydd lletchwith. Chwythed y corn, Boed i’r drwm gael ei daro, Dyw hi ddim yn barti tan y byddwch chi yno! Mae The World of Work yn sioe am fod yn fyw a methu’n lân â chyflawni unrhyw beth. *Mae’r sioe yn barti felly mae croeso cynnes i chi ddod â diodydd gyda chi i’r perfformiad. Hoffai difficult|stage gydnabod cymorth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a chefnogaeth barhaol Chapter. £12/£10 £8/£6 Rhagolwg (Maw 18 Mawrth) Argymhelliad Oedran: 16+ Sioe’n cynnwys iaith gref www.difficultstage.com @difficultstage #theworldofwork

“Tywyll, drwg a phoenus o graff ... dw i ddim wedi chwerthin cymaint yn y theatr ers blynyddoedd ... grymus a difyr, dw i’n ffan enfawr.” Emma Rice, Cyfarwyddwr Artistig, Kneehigh

17


Sinema

029 2030 4400

Under the Skin

18


Sinema

19

Berberian Sound Studio

chapter.org

FFILMIAU CWLT O’r fersiwn newydd o Wake in Fright i’r ffilm newydd sbon, Under the Skin, mae Ffilmiau Cwlt y mis hwn yn mynd i’r afael â’r hyn sy’n gyrru bodau dynol — ein hofnau, ein dyheadau a’r ffyrdd di-ri y cafodd y teimladau hyn eu cyfleu ar y sgrin fawr.

Rough Cut

Under the Skin

Sul 2 Mawrth

Gwe 28 Mawrth — Iau 3 Ebrill

DG/2013/90mun/15. Cyf: Jamie Shovlin.

DG/2013/108mun/TiCh. Cyf: Jonathan Glazer. Gyda: Scarlett Johansson.

Archwiliad o Hiker Meat, ffilm ‘slasher’ anorffenedig o’r 70au. Mae’r ffilm hon yn cynnwys arwres sy’n ffawdheglu, arweinydd cwlt a grŵp o arddegwyr sy’n diflannu fesul un. Mae’r ffilm-oddi-mewn-i-ffilm bryfoclyd hon yn dadadeiladu ac yn talu teyrnged i ffilmiau ‘ecsbloetio’ ac yn ffilm gyntaf drawiadol a chwareus gan Shovlin.

“Ffilm sy’n archwilio’r bwlch rhwng yr artist a’r noddwr, rhwng celfyddyd uchel-ael a chelfyddyd fas, a’r bwlch rhwng ffuglen a realiti.” Zombie Hamster

Wake in Fright Gwe 7 + Sul 9 Mawrth Awstralia/1971/108mun/18. Cyf: Ted Kotcheff.Gyda: Donald Pleasence, Gary Bond, Chips Rafferty.

Mae’r athro, John Grant, yn cyrraedd tref lofaol arw o’r enw Bundanyabba, yn yr ‘outback’, lle mae e’n bwriadu aros dros nos cyn dechrau ei wyliau. Ond mae un noson yn troi’n rhai nosweithiau, wrth iddo blymio i ebargofiant hunan-ddinistriol. Ffilm gyffro chwyslyd, greulon ac amrwd ... hon, yn nhyb llawer, oedd ‘ffilm goll fawr’ Awstralia, tan iddi gael ei darganfod a’i hadfer yn diweddar. Rhybudd: Mae’r ffilm yn cynnwys golygfeydd o ladd anifeiliaid. + Cyflwyniad gan y gwneuthurwr ffilmiau a’r artist, Ben EwartDean, ar ddydd Gwener 7 Mawrth.

“Y ffilm orau a mwyaf brawychus am Awstralia a wnaed erioed.” Nick Cave

Ar ôl glanio ar y Ddaear a’i chael ei hun yng nghroen gwraig ddynol, mae creadur o’r gofod yn gyrru o gwmpas yr Alban yn hudo dynion ifanc cyn i un ohonynt beri iddi sylwi ar agweddau eraill ar y natur ddynol. Ffilm haniaethol, hynod ddifyr sy’n dadadeiladu pŵer rhywiol i gyfeiliant sgôr gerddorol hypnotig; profiad sinematig hudolus.

Berberian Sound Studio Sul 30 Mawrth DG/2012/92mun/15. Cyf: Peter Strickland. Gyda: Toby Jones, Cosimo Fusco, Antonio Mancino.

Pan gaiff peiriannydd sain naïf a mewnblyg ei gyflogi i gymysgu ffilm ddiweddaraf maestro ffilmiau arswyd, Santini, mae’n treulio’i amser wedi’i amgylchynu gan sŵn sgrechian erchyll a llysiau’n cael eu hacio’n ddarnau. Caiff ei hun ar goll mewn gofod arallfydol yn llawn anrhefn sonig a phersonol. Dathliad o ffilmiau’r oes cyn technoleg ddigidol a’r genre giallo. Ffilm arswyd seicolegol drawiadol ac annisgwyl. Bydd yr artist Samuel Hasler yn trafod ei archwiliadau o ddiwylliant Giallo cyfoes gyda Ben Ewart-Dean. Trowch i dudalennau 4-5 i gael mwy o wybodaeth am breswyliad artistig Samuel Hasler, INTERFERENCE.

R’ych chi’n siŵr o fwynhau hefyd ffilm Jim Jarmush, Only Lovers Left Alive (t22), y ffilm wyddonias gyffrous gan dalentau lleol, The Machine (t21), a’r stori ysbryd Archentaidd anarferol, The Second Death (t26).


20

Sinema

029 2030 4400

Sineffonig Goldfrapp: Tales of Us

“Cerddoriaeth yw’r unig wirionedd” — Jack Kerouac

Goldfrapp: Tales of Us

NOYS R US

Maw 4 Mawrth

Mae Sinema Chapter, ar y cyd â The Full Moon, yn cyflwyno noson ffilm Noys R Us. Unwaith y mis, byddwn yn cyflwyno’r ffilmiau alt/roc/metel/pync gorau. Yfwch, ymlaciwch a gwyliwch rai o’r ffilmiau cerddorol mwyaf ffrwydrol erioed.

DG/2014/30mun + 60 mun/12A. Cyf: Lisa Gunning.

Ymunwch â ni am ffilm gerddorol unigryw wedi’i hysbrydoli gan straeon tylwyth teg gothig, themâu fel cariad, colled, gwallgofrwydd a hunaniaeth, a pherfformiad lloeren byw gan y ddeuawd electronig hudolus, Goldfrapp, a fydd yn cyflwyno caneuon oddi ar yr albwm newydd, Tales of Us, yn ogystal â rhai o’u caneuon mwyaf cyfarwydd. £12/£10/£8

Last Days Here Llun 10 Mawrth Drysau’n agor am 7pm, ffilm am 8pm UDA/2011/91mun/dim tyst. Argymhelliad: 18+ Cyf: Don Argott, Demian Fenton.

Mark Gubb Artist a threfnydd Noys R Us. Yn rhan o raglen sinema Sineffonig, mae Noys R Us yn dewis y ffilmiau cerddorol alt/pync/ roc/metel ac yn eu dangos yn eu cartref naturiol — bariau a chlybiau cerddoriaeth. Fel ffan o roc a metel ers blynyddoedd lawer, hunanfaldod o’r radd flaenaf yw hyn i mi ond, diolch byth, mae yna ddigon o bobl eraill sy’n mwynhau’r nosweithiau hyn hefyd. O glasuron fel ‘The Decline of Western Civilisation Part II: The Metal Years’ i weithiau mwy cyfoes fel ‘American Hardcore’, rydym yn ceisio cyflwyno digwyddiadau cofiadwy, gwerth chweil – nosweithiau i’ch cael chi allan o’r tŷ!

Mae’r ffigwr cwlt chwedlonol, Bobby Liebling, wedi bod yn cynhyrchu roc caled o’r radd flaenaf ers dros 36 mlynedd ond mae hunan-ddinistr, chwalfeydd amrywiol a chytundebau recordio ffaeledig wedi condemnio ei gerddoriaeth i ebargofiant. O’r diwedd, daw Bobby i sylw’r byd roc tanddaearol. Gyda chymorth Sean ‘Pellet’ Pelletier, ei ffrind a’i reolwr, gwelwn ymdrechion Bobby i aros yn sobr ac i ganolbwyntio’n ddigon hir i allu chwarae un gig aduniad olaf... Mae tocynnau’n £5 a gellir eu prynu drwy www.chapter.org a The Full Moon


Sinema

Lift to the Scaffold

Talentau Lleol:

21

The Machine

chapter.org

Sul 16 Mawrth Ffrainc/1958/88mun/is-deitlau/PG. Cyf: Louis Malle. Gyda: Jeanne Moreau, Maurice Ronet, Georges Poujouly.

Mae sawl un o’r farn bod y ffilm gyffro lofruddgar hon, â’i thrac sain gan Miles Davis, yn un o’r enghreifftiau cynharaf o’r Nouvelle Vague Ffrengig. Mae Florence a Julien yn gariadon tanbaid sy’n bwriadu lladd dyn busnes cefnog — sydd yn digwydd bod yn ŵr i Florence ac yn fos ar Julien. Wedi’i ffilmio mewn du a gwyn hardd, mae eu cynllun yn arwain at gyfres o ddigwyddiadau trychinebus.

The Machine Gwe 21 — Iau 27 Mawrth Cymru/2013/90mun/tyst. 15 i’w chadarnhau. Cyf: Caradog Evans. Gyda: Toby Stephens, Caity Lotz.

Talentau Lleol:

Mae gwyddonydd gyda’r MOD, Vincent, yn datblygu peiriant lladd uwch-effeithiol ac mae ei fywyd ynysig yn cael ei drawsnewid gan ddyfodiad cynorthwy-ydd newydd. Wrth iddo fynd ati i greu’r robot hunanymwybodol cyntaf, mae ei barch at y bod newydd hwn, a’r frwydr i gynnal ei ymwybyddiaeth, yn ei arwain i frwydr dros ei fywyd ei hun. Ffilm gyffro dywyll am y natur ddynol sy’n cynnwys sgôr egnïol a enillodd wobr BAFTA i’w chyfansoddwr, Tom Raybould.

Maw 18 Mawrth

+ Digwyddiad Arbennig gyda’r cerddor, ac enillydd gwobr Bafta Cymru, Tom Raybould. Gweler ein gwe-fan a’r cyfryngau cymdeithasol am fwy o fanylion.

Svengali

DG/2014/90mun/15. Cyf: John Hardwick. Gyda: Martin Freeman, Jonny Owen, Vicky McClure.

Mae’r cerddgarwr didoreth ond hoffus, Dixie, a’i gariad, Shell, wedi symud o gefn gwlad Cymru i Lundain er mwyn iddo fe ddilyn ei freuddwyd o fod yn rheolwr band roc llwyddiannus. Mae e wedi anfon ‘demos’ allan ar gasetiau ‘retro’ ac, â’i frwdfrydedd heintus, o fewn dim, mae sawl cwmni recordio yn brwydro am yr hawl i arwyddo’i grŵp. Ond a fydd diniweidrwydd gwledig Dixie yn gallu trechu sinigiaeth y ddinas fawr? Ffilm gyntaf swynol gan Jonny Owen, sy’n llawn perfformiadau campus, gan gynnwys perfformiad y diweddar, annwyl, Brian Hibbard. + Digwyddiad Arbennig. Gweler ein gwe-fan a’r cyfryngau cymdeithasol am fwy o fanylion.

“Ffilm wyddonias Brydeinig drawiadol, slic a dwys ... sy’n gyfuniad o Frankenstein a Blade Runner ... stori ddyfodolaidd sy’n llawn delweddau cain a golygfeydd cofiadwy.” Screen Daily Cadwch lygad ar agor am ffilmiau eraill â thraciau sain anhygoel, fel Under the Skin (t19) ac Only Lovers Left Alive (t22)

Clwb Ffilmiau Gwael: Bloody Pom Poms Sul 2 Mawrth Siapan-UDA/1988/89mun/18. Cyf: John Quinn.

Os rhowch chi’r llythrennau K, I, L ac L at ei gilydd, beth gewch chi? Ie, dyna chi, ffilm ofnadwy. Yn Bloody Pom Poms mae llofrudd anhysbys yn lladd aelodau o grŵp bach o ‘cheerleaders’ mewn gwersyll hyfforddi diarffordd. Pam? Bydd yn rhaid i chi ddioddef 89 munud o noethni, actio gwael a golygfeydd treisgar gwirioneddol ofnadwy i wybod yr ateb. Nodwch os gwelwch yn dda: Mae’r ffilm yn cynnwys sylwebaeth fyw ar ei hyd.


Sinema

029 2030 4400

Dallas Buyers Club

Bastards

Gwe 21 Chwefror — Iau 6 Mawrth

Sad 1 — Iau 13 Mawrth

UDA/2013/117mun/15. Cyf: Jean-Marc Vallée. Gyda: Matthew McConaughey, Jared Leto, Jennifer Garner.

Ffrainc/2013/100mun/is-deitlau/18. Cyf: Claire Denis. Gyda: Vincent Lindon, Chiara Mastroianni, Julie Bataille.

Mae byd y cowboi homoffobig o Decsas, Ron Woodruff, yn cael ei droi wyneb i waered ar ôl iddo glywed bod HIV arno — a taw deg diwrnod ar hugain yn unig sydd ganddo i fyw. Wedi’i syfrdanu — ac ar ôl iddo gael ei wrthod gan ei hen gyfeillion — mae e’n chwilio am rywbeth, unrhyw beth, i’w gadw’n fyw ac yn cychwyn ar gyfeillgarwch annisgwyl â brenhines drag o’r enw Reion. Maen nhw’n cydweithio er mwyn gwerthu triniaethau i’r nifer cynyddol o gleifion sy’n cael eu hesgeuluso gan y sefydliad meddygol. Stori wir fythgofiadwy am bŵer trawsnewidiol yr awydd i oroesi sy’n cynnwys perfformiadau tanllyd a sgript finiog.

Mae Marco’n dychwelyd i Baris ar ôl hunanladdiad ei frawd-yng-nghyfraith ac yn mynd ar ôl y dyn y mae ei chwaer yn amau o achosi’r trychineb. Ond mae yna gyfrinachau tywyll yn ei aros. Ffilm noir feiddgar wedi’i hysbrydoli gan sgandalau rhyw diweddar — mae Denis yn ein harwain i fan tywyll iawn yn y sylwebaeth gyffrous hon ar gyfalafiaeth.

O’r chwith i’r dde: Dallas Buyers Club, Bastards

22

Ymunwch â ni ar ôl y dangosiad ar ddydd Mawrth 25 Chwefror ar gyfer cyfarfod o grŵp trafod ffilm LGBT Chapter

Only Lovers Left Alive Gwe 28 Chwefror — Iau 13 Mawrth UDA/2013/123mun/15. Cyf: Jim Jarmusch. Gyda: Tilda Swinton, Tom Hiddleston, Mia Wasikowska, John Hurt.

Mae’r ffilm ramant fampiraidd hon yn adrodd hanes Adam, fampir hynafol a cherddor tanddaearol sy’n methu ac ymgyfarwyddo â’r byd modern a’i ddatblygiadau cymdeithasol diflas. Mae e’n mynd i chwilio am ei gariad, Eve, ac yn sicrhau aduniad — ond caiff ei ddelfryd ei brofi i’r eithaf gan ei chwaer fach afreolus hi.

“Ffilm freuddwydaidd, lawn awyrgylch a dathliad o gariad fel yr oesoedd.” The Hollywood Reporter

The Invisible Woman Gwe 28 Chwefror — Iau 6 Mawrth DG/2013/111mun/12A. Cyf: Ralph Fiennes. Gyda: Ralph Fiennes, Felicty Jones, Joanna Scanlan, Kristen Scott Thomas.

Mae’r athrawes swil Ellen yn cario’i gorffennol fel carreg drom, wedi’i meddiannu gan atgofion o gyfnod pan oedd hi’n adnabyddus fel actores o’r enw Nelly Ternan ac yn caru’n angerddol â dyn llawer hŷn na hi, yr awdur Charles Dickens. Doedd hi ddim yn bosib i’r garwriaeth, a ddatblygodd ar anterth ei enwogrwydd ef, gael ei chydnabod yn gyhoeddus oherwydd rheolau llym eu cymdeithas ormesol, heb sôn am wraig Dickens a’u deg o blant. Roedd yn rhaid i Nelly, felly, fod yn gyfrinach. Â pherfformiadau cain, mae hwn yn ail ffilm bwerus a chynnil gan y cyfarwyddwr, Ralph Fiennes. +Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael ar ddydd Iau 6 Mawrth, 6pm. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai’r dyddiad hwn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau.)

Chapter Moviemaker Llun 3 Mawrth Sesiwn reolaidd sy’n caniatáu i wneuthurwyr ffilm annibynnol ddangos eu ffilmiau byrion. O bryd i’w gilydd, dangosir ffilmiau sy’n cynnwys deunydd anaddas i bobl iau, felly awgrymwn bod sesiynau Moviemaker Chapter yn addas i bobl 18+ oed yn unig. RHAD AC AM DDIM


Sinema

23

The Book Thief

The Monuments Men

Gwe 7 — Iau 20 Mawrth

Gwe 7 — Iau 20 Mawrth

UDA/2013/131mun/12A. Cyf: Brian Percival. Gyda: Sophie Nelisse, Emily Watson, Geoffrey Rush.

UDA/2013/118mun/12A. Cyf: George Clooney. Gyda: George Clooney, John Goodman, Matt Damon, Cate Blanchet, Bill Murray.

Golwg anarferol ar gymdeithas yr Almaen yn ystod y 1930au sy’n cyflwyno safbwynt Almaenwyr nad ydyn nhw’n Natsïaidd ac nad ydyn nhw’n Iddewon chwaith. Caiff y Liesel ifanc ei hanfon i fyw gyda rhieni mabwysiol, Rosa a Hans, mewn tref fechan. Daw dyn ifanc Iddewig o’r enw Max i geisio lloches ac maen nhw’n ei guddio yn y seler. Mae Liesel yn darllen iddo ac, ar ôl sylwi ar ei ddychymyg byw, yn ei annog i ysgrifennu. Mae eu gwerthfawrogiad cynyddol o lenyddiaeth yn cyferbynnu â’r digwyddiadau yn y byd o’u cwmpas, ac fe welwn ni’r rhyddid y mae Rosa a Hans wedi’i gymryd yn ganiataol yn cael ei erydu dan reolaeth lem y Natsïaid.

Yn seiliedig ar stori wir am yr helfa drysor fwyaf erioed, mae platŵn ym myddin y cynghreiriaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn mynd i’r Almaen i achub campweithiau artistig rhag lladron Natsïaidd. Â’r gweithiau celfyddydol yn sownd y tu ôl i’r llinell flaen, ac â byddin yr Almaen dan orchymyn i ddinistrio popeth wrth i’r Reich ddadfeilio, mae’r platŵn, sy’n cynnwys curaduron amgueddfa a haneswyr celf, yn gorfod gweithio ar frys gwyllt i ddiogelu’r gweithiau amhrisiadwy.

O’r chwith i’r dde: The Book Thief, The Monuments Men

chapter.org

+Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael ar ddydd Mercher 12 Mawrth, 5.45pm. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai’r dyddiad hwn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau.)

The Rocket Gwe 14 — Iau 20 Mawrth Gwlad Thai/2013/96mun/is-deitlau/12A. Cyf: Kim Mordaunt. Gyda: Sitthiphon Disamoe, Loungnam Kaosainam.

Mae Ahlo, bachgen y credir ei fod yn dod â lwc wael i bawb o’i gwmpas, a’i deulu yn byw ar dir diffaith ar ôl cael eu symud gan y llywodraeth. Rhaid iddo arwain ei deulu a’i ffrindiau drwy Laos i ddod o hyd i gartref newydd. Ar ôl taith anodd, trwy diroedd wedi’u creithio gan ryfel, ei nod yw sicrhau undod ei lwyth trwy gystadlu am wobr ariannol sylweddol Gŵyl y Roced. Ffilm nodwedd gyntaf orfoleddus, wedi’i saethu’n hyfryd, sydd hefyd yn cynnwys perfformiadau egnïol gan y cast ifanc.

“Roedd gwaith blaenorol Mordaunt yn ffilm ddogfen am feysydd ffrwydron Laos (Bomb Harvest) ac mae ganddo weledigaeth glir a dealltwriaeth ddofn o’r milieu hwn — llwydda i osgoi pob arlliw o ecsotigiaeth sarhaus.” Nick McCarthy, The Slant

+Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael ar ddydd Gwener 14 Mawrth, 5.50pm. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai’r dyddiad hwn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau.)

12 Years A Slave Gwe 14 — Iau 20 Mawrth UDA/2013/134mun/15. Cyf: Steve McQueen. Gyda: Chiwetel Ejiofor, Michael Fassbender, Lupita Nyong’o.

Yn seiliedig ar stori wir, a gyhoeddwyd ym 1853, mae’r ffilm yn adrodd hanes Solomon Northup — dyn du a anwyd yn rhydd ac sy’n byw yn nhalaith Efrog Newydd yn y cyfnod cyn Rhyfel Cartref America. O’i fywyd braf, fel feiolinydd, gyda’i wraig a’i blant, caiff ei fradychu, ei gipio a’i werthu’n gaethwas i blanhigfa yn Louisiana. Yn y fan honno, rhaid iddo ddysgu celu meddylfryd y dyn rhydd rhag ei berchnogion creulon.

“Does dim dwywaith nad hon yw’r ffilm nodwedd orau erioed am gaethwasiaeth yn America.” New Yorker


Sinema

029 2030 4400

The Grand Budapest Hotel

Stranger by the Lake

Gwe 21 Mawrth — Iau 3 Ebrill

Gwe 28 — Llun 31 Mawrth

UDA/2014/hyd i’w gadarnhau/12A. Cyf: Wes Anderson. Gyda: Ralph Fiennes, Saoirse Ronan, Adrien Brody, Bill Murray.

Ffrainc/2014/100mun/is-deitlau/18. Cyf: Alain Guiraudie. Gyda: Pierre Deladonchamps, Christophe Paou, Patrick d’Assumcao.

Dilynwn anturiaethau’r Zero Moustafa ifanc, wrth iddo gael ei hyfforddi gan y concierge chwedlonol, Gustave H, mewn gwesty Ewropeaidd enwog yn y 1920au. Mae hi’n gyfnod o newidiadau dramatig ledled Ewrop, mae’r preswylwyr yn ecsentrig ac fe gaiff darlun amhrisiadwy ei ddwyn — ond, er gwaetha popeth, daw Zero a Gustave yn ffrindiau pennaf. Fel y daethom i ddisgwyl bellach, mae gwaith diweddaraf Wes Anderson yn cynnwys sgript finiog a chast disglair.

Mae Frank yn treulio’r haf yn ceisio dod o hyd i gwmnïaeth ar lan llyn yng nghefn gwlad Ffrainc, man sy’n boblogaidd iawn ymysg dynion hoyw. Un diwrnod, mae’n cwrdd â’r Michel golygus a dirgel ac yn cwympo dros ei ben a’i glustiau mewn cariad. Ond ar ôl digwyddiad ofnadwy, daw teimladau o dywyllwch dudew i anharddu’r llyn prydferth. Mae Frank a Michel yn dewis anwybyddu’r peryglon a pharhau â pherthynas angerddol a allai hefyd fod yn angheuol. Archwiliad craff o ddiwylliant hoyw a ffilm gyffro afaelgar ac erotig am ofn a dyhead.

O’r chwith i’r dde: The Grand Budapest Hotel, Stranger by the Lake

24

NT Live: War Horse Dangosiadau encore ar ddyddiau Sul 16, Mawrth 18, Sul 30 Maw + Sul 13 Ebrill Cyf: Nick Stafford.

Yn seiliedig ar nofel Michael Morpurgo, ac wedi’i haddasu ar gyfer y llwyfan gan Nick Stafford, mae War Horse yn arwain cynulleidfaoedd ar daith ryfeddol o gefn gwlad Dyfnaint i ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf yn Ffrainc. Mae’r cynhyrchiad yn cynnwys pypedau maint llawn rhyfeddol gan Handspring Puppet Company o Dde Affrica, sydd yn llwyddo i ddod â cheffylau’n fyw ar y llwyfan. Mae tocynnau i’r dangosiadau encore hyn, wedi’u recordio ymlaen llaw, yn £13/£11/£10.

Rhybudd: Mae’r ffilm yn cynnwys golygfeydd o ryw go iawn. Ymunwch â ni ar ôl y dangosiad ar ddydd Sul 30 Mawrth am gyfarfod o grŵp ffilm LGBT Chapter.

Cuban Fury Gwe 28 Mawrth — Mer 2 Ebrill DG/2014/98mun/15. Cyf: James Griffiths. Gyda: Nick Frost, Rashida Jones, Chris O’Dowd.

Mae Bruce yn ansicr, yn rhy drwm ac yn cael ei fychanu’n gyson gan ei gydweithiwr, Drew. Ond ar ôl i fos newydd deniadol o’r enw Julia gael ei phenodi, merch sydd wrth ei bodd â salsa, caiff ei hoffter bore oes o ddawnsio Lladin ei ailgynnau. Ffilm gomedi swynol ag iddi galon fawr a pherfformiadau disglair. + Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael ar ddydd Llun 31 Mawrth, 5.45pm. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai’r dyddiad hwn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau.)


chapter.org

Sinema

GWYL CYMRU UN BYD Mae gŵyl WOW Cymru Un Byd yn dychwelyd i Chapter — ac i sgriniau ledled Cymru — i ddathlu’r gweithiau sinematig gorau o bedwar ban byd. Mae’r rhaglen eleni yn cynnwys detholiad heb ei ail o ffilmiau gwobrwyol a digwyddiadau arbennig. Byddwn yn croesawu Mark Cousins, a’i ffilm newydd, A Story of Children and Film, ac yn cyflwyno Band Pres Bollywood yng Nghanolfan Gymunedol Samaj. Mae pasys yr ŵyl ar gael am £35/£30 yn unig – mae’r rhain yn caniatáu i chi weld pob un o ffilmiau’r ŵyl, neu gallwch brynu tocynnau ar gyfer ffilmiau a digwyddiadau unigol. Gall deiliaid pasys yr ŵyl brynu tocynnau ar gyfer digwyddiad Band Pres Bollywood am ddim ond £8.

Première Cymreig

A Story of Children and Film Gwe 21 Mawrth DG/2013/106mun/is-deitlau/PG. Cyf: Mark Cousins.

Yn ei ffordd unigryw a brwdfrydig ei hun, mae Mark Cousins yn defnyddio enghreifftiau o bob cwr o’r byd i archwilio’r berthynas rhwng ffilm a phlentyndod. Â detholiad eclectig o ffilmiau — sy’n amrywio o glasuron poblogaidd i gampweithiau tanddaearol — mae’n dangos y modd yr adleisir dyfeisgarwch a dychymyg plentyndod yn narganfyddiadau diddiwedd y sinema. Bydd Mark Cousins yn bresennol ar gyfer sesiwn holi-acateb ar ôl y première Cymreig hwn.

7 Boxes

“Mae ysgrif sinematig Mark Cousins am blentyndod a ffilm yn gwbl unigryw; mae’n ecsentrig ar adegau ond yn gyson wych.” Peter Bradshaw, The Guardian

The White Balloon Gwe 21 + Sad 23 Mawrth Iran/1995/82mun/is-deitlau/U. Cyf: Jafar Panahi. Gyda: Aida Mohammadkhani, Mohsen Kalifi, Feresh Sadr Orfani.

Mae Razieh yn cychwyn allan ar ei thaith unigol gyntaf i brysurdeb gwyllt strydoedd Tehran ac yn dod i gysylltiad â byd o swynwyr nadredd, siopwyr dig a bachgen o Affganistan â balŵn. Mae’r ffilm gyntaf eithriadol hon gan Panahi, sydd bellach wedi’i arestio a’i gaethiwo yn ei gartref yn Iran, yn ein trwytho ym myd delicet a chwilfrydig ei harwres.

7 Boxes Gwe 21 Mawrth Paraguay/2011/110mun/is-deitlau/15arf. Cyf: Juan Carlos Magnelia, Tana Schembori. Gyda: Celso Franco, Lali Gonzalez.

Mae Victor yn crafu byw ac, er mwyn ennill arian, yn cytuno i gludo saith o flychau i leoliad dirgel. Wrth i’r noson fynd yn ei blaen, mae e’n gorfod sicrhau nad yw ei gargo peryglus yn syrthio i ddwylo cwmnïau cludo eraill, neu’n cael ei ddwyn gan gangsters neu’r heddlu. Mae’r ffilm gyffro hon yn llawn hiwmor tywyll ac yn gwneud defnydd atmosfferig o labyrinth gorlawn a budr y ddinas.

25


Sinema

029 2030 4400

Man arall:

The Second Death

Bollywood Brass Band

26

Band Pres Bollywood yn chwarae ‘The Best of Bollywood Live’! Sad 22 Mawrth 7pm Canolfan Gymunedol Samaj, Mardy Street Clwb Ffilm Merched WOW yn cyflwyno digwyddiad sinema dros-dro unigryw. Mae cymuned Gwjarati Grangetown yn estyn croeso cynnes i chi i’w teml er mwyn dathlu goreuon diwydiant ffilm India. Bydd pedwar drymiwr ffynci a chwe chorn chwilboeth yn cyflwyno detholiad o’r golygfeydd Bollywood mwyaf eiconig, i guriad drwm y dhol. Â phryd o fwyd Gwjarati blasus yn gynwysiedig ym mhris y tocyn, dewch i fwynhau’r dathliad tanllyd hwn o ffilmiau Bollywood! £12/£10/£8 Gall deiliaid pasys yr ŵyl brynu tocynnau ar gyfer digwyddiad Band Pres Bollywood am ddim ond £8.

Sad 22 Mawrth Ariannin/2013/91mun/is-deitlau/15arf. Cyf: Santiago Fernandez Calvete. Gyda: Agustina Lecouna, Mauricio Dayub, Guillermo Arengo.

Pan ddaw’r heddlu o hyd i gorff wedi’i losgi, nid yw’r bobl leol yn fodlon cynnig unrhyw help i’r Ditectif Alba unig. O ganlyniad, mae hi’n ffurfio deuawd ryfedd â’r ‘Dewin’, bachgen unigryw sy’n gallu gweld cyfrinachau trawmatig o orffennol pobl. Wrth i fwy o gyrff gael eu darganfod, mae cyfrinachau tywyll y dref yn arwain at ddrws yr eglwys. Wedi’i sgriptio’n gelfydd, mae’r ffilm yn gyfuniad cain ac atmosfferig o stori ysbryd a dirgelwch paranormal. + Ffilm fer wedi’i dethol gan Ŵyl Ffilm Arswyd Abertoir. Première Prydeinig ar y cyd â Gŵyl Arswyd Abertoir www.abertoir.co.uk

WOW Ffilm i Blant:

The Moon Man Sad 22 Mawrth DG/2013/95mun/U. Cyf: Stephen Schesch. Gyda: Katharina Thalbach.

Mae Hen Ŵr y Lleuad yn dod i’r Ddaear ar gomed ac yn cael cyfle i sylwi ar greaduriaid rhyfeddol a golygfeydd hynod planed newydd. Ond nid yw popeth fel yr ymddengys.


Sinema

27

Nairobi Half Life

Winter Nomads

Sad 22 + Maw 25 Mawrth

Llun 24 Mawrth

Cenia/2013/96mun/is-deitlau/15arf. Cyf: Tosh Gitonga. Gyda: Joseph Wairimu, Olwenya Maina, Nancy Wanjiku Karanja.

Y Swistir/2012/90min/is-deitlau/PG. Cyf: Manuel von Sturler. Gyda: Carole Noblanc, Pascal Egusier.

Drama gomedi ddifyr am Mwas, bachgen o’r wlad sy’n mynd i Nairobi i fod yn actor ond yn ei chael hi’n anodd cael deupen llinyn ynghyd yn slymiau’r ddinas. Ar ôl iddo gael ei fabwysiadu gan leidr ceir carismataidd o’r enw Oti, caiff Mwas ei dynnu i isfyd treisgar y ddinas. Coctel hwyliog, a golwg ddifyr ar fywyd ar y stryd yn Cenia sy’n cynnwys perfformiad canolog hynod gelfydd.

Mae’r ffilm ddogfen hyfryd hon yn dilyn Pascal a’i bartner dioddefus, Carole, wrth iddyn nhw fugeilio’u praidd ym mynyddoedd y Swistir. Caiff sgiliau Pascal a’i sylw diwyro i fyd natur eu datgelu, a gwelwn hefyd aduniadau ingol â theuluoedd a’r elyniaeth anochel o du ffermwyr cystadleuol. Mae’r cwpwl yn cysgu dan y sêr, yn cysgodi rhag y glaw, yn ymlwybro drwy’r eira — ond mae eu ‘joie de vivre’ yn trawsnewid ffilm ddogfen syml yn folawd i ryddid.

O’r chwith i’r dde: Nairobi Half Life, Winter Nomads

chapter.org

Wakolda Sul 23 Mawrth Ariannin/2013/93mun/is-deitlau/15arf. Cyf: Lucia Puenzo. Gyda: Natalia Oreiro, Diego Peretti, Alex Brendemuhl.

Ffilm drawiadol, gynnil, lawn tensiwn sy’n archwilio’r berthynas rhwng Lilith, merch benfelen, lygatlas o’r Ariannin, a Josef Menegle, y meddyg Natsïaid sydd ar ffo o ganlyniad i’w droseddau yn Auschwitz. Nid yw Lilith a’i theulu’n ymwybodol o orffennol Mengele ond, i’r gwyliwr, mae’r tensiwn yn annioddefol, wrth i berthynas y ddau ddatblygu. Ffilm atmosfferig, ryfeddol, sy’n llawn delweddau godidog o Batagonia.

Fireworks Wednesday Sul 23 Mawrth Iran/2006/98mun/is-deitlau/12A. Cyf: Asghar Farhadi. Gyda: Hamid Farokhnezhad, Hediyeh Tehrani, Taraneh Alidoosti.

Mae Rouhi yn edrych ymlaen at ei phriodas ond yn cael cipolwg ar agwedd arall ar fywyd priodasol pan â i lanhau cartref cwpwl sydd ar ganol dadl ddomestig ffyrnig. Â sgript ardderchog, perfformiadau canolog gwych a symudiadau cynnil ym mhersbectif y ffilm, cawn ein gorfodi i ailystyried ein rhagdybiaethau.


Sinema

029 2030 4400

Papusza

When I Saw You

Llun 24 Mawrth

Maw 25 Mawrth

Gwlad Pwyl/2013/131mun/is-deitlau/15arf. Cyf: Joanna KosKrauze, Krzysztof Krauze. Gyda: Jowita Budnik, Antoni Pawlicki, Zbigniew Waleryś.

Palesteina/2012/93mun/is-deitlau/12A. Cyf: Annemarie Jacir. Gyda: Mahmoud Asfa, Ruba Bial, Saleh Bakri.

O’r chwith i’r dde: Papusza, When I Saw You

28

Stori’r bardd Roma Pwylaidd, Bronisława Wajs (a adwaenir wrth y llysenw Papusza). Dilynwn daith ei bywyd — o fyw ar yr heol, i’r Holocost a’i anheddiad gorfodol ar ôl y rhyfel, dan y gyfundrefn Gomiwnyddol — tan i’w barddoniaeth gael ei darganfod. Portread ysbrydoledig, arloesol o ffordd o fyw sydd wedi’i golli bellach am byth; ffilm am farddoniaeth a cherddoriaeth, anobaith — a buddugoliaeth un wraig dros holl rwystrau bywyd.

Something Necessary Maw 25 — Mer 26 Mawrth Cenia/2013/85mun/is-deitlau/15arf. Cyf: Judy Kibinge. Gyda: Susan Wanjiru, Walter Lagat, Anne Kimani.

Mae Anne yn ceisio aildrefnu’i bywyd yn dilyn yr aflonyddwch sifil a effeithiodd ar Cenia ar ôl etholiadau 2007. Yn benderfynol o ailafael yn ei bywyd, mae hi’n ei chael ei hun yn gaeth mewn atgofion poenus — fel y mae Joseph, un o aelodau’r gang a ymosododd arni. Mae e’n closio at Anne fel petai i chwilio am achubiaeth. Portread dilys o’r Cenia gyfoes sy’n cynnwys perfformiad canolog ingol.

1967. Mae’r byd yn llawn teimlad heintus o obaith. Ond yn yr Iorddonen, mae’r rhyfel yn gwahanu teulu o ffoaduriaid o Balesteina. Mae’r bachgen ifanc Tarek yn ei chael hi’n anodd addasu i’w fywyd yng ngwersyll Harir ac yn chwilio am ddihangfa yn y ddrama bwerus hon. Ymunwch â ni am sgwrs a cherddoriaeth dan arweiniad Ymgyrch Cefnogi Palesteina – a phlât o Meze blasus! £4

Plot For Peace Mer 26 Mawrth De Africa/2013/84mun/is-deitlau/TiCh. Cyf: Carlos Agullo, Mandy Jacobson. Gyda: Jean-Yves Ollivier, Winnie Mandela, Thabo Mbeki.

Cipolwg hynod ddiddorol ar y trafodaethau rhwng arweinwyr llywodraeth apartheid De Affrica a’r gwledydd cyfagos a oedd yn benderfynol o sicrhau newid cymdeithasol. Am y tro cyntaf, mae penaethiaid gwladwriaethau, cadfridogion, diplomyddion, ysbiwyr ac ymgyrchwyr gwrthapartheid yn tystio i rôl y dirgel “Monsieur Jacques” yn y broses o ryddhau Nelson Mandela o’r carchar, a’r modd yr helpodd ef i sicrhau heddwch yn y rhanbarth a diwedd i wahaniaethu ar sail hil yn Ne Affrica.


Sinema

29

The Lunchbox

Metro Manila

Mer 26 Mawrth

Iau 27 Mawrth

India/2013/104mun/is-deitlau/PG. Cyf: Ritesh Batra. Gyda: Irrfan Khan, Nimrat Kaur, Nawazuddin Siddiqui.

DG-Y Philipinau/2013/115mun/is-deitlau/15. Cyf: Sean Elis. Gyda: Althea Vega, Jake Macapagal, John Arcilla.

Mae gwraig ifanc, unig o’r enw Ila yn paratoi cinio i’w gŵr di-hid — cinio a ddarperir gan y Mumbai Lunchbox Wallahs chwedlonol. Mae Sajaan yn ŵr gweddw nad yw’n edrych ymlaen at ei ymddeoliad o’i swydd fel cyfrifydd. Ond pan â bocs bwyd Ila ar goll a chyrraedd desg Sajaan, mae perthynas dyner yn datblygu rhyngddynt, drwy gyfrwng nodiadau a adewir yn y bocsys bwyd.

Mae Oscar yn symud ei deulu gwledig i’r brifddinas, Manila, ond buan y caiff ei hun mewn tlodi ac yn methu â bwydo’i blant. Ar ôl dod o hyd i waith fel swyddog diogelwch, mae’n dechrau ymwneud â chriw amheus ac yn ei gael ei hun mewn perygl difrifol. Â pherfformiad ardderchog gan y prif gymeriad gwrol, mae hon yn ffilm fywiog, gyffrous ac emosiynol gyfoethog.

O’r chwith i’r dde: The Lunchbox, Metro Manila

chapter.org

The Golden Dream Iau 27 Mawrth Mecsico/2013/108mun/is-deitlau/15 i’w gadarnhau. Cyf: Diego Quemada-Diez. Gyda: Brandon López, Rodolfo Dominguez, Karen Martínez.

Dilynwn daith beryglus tri pherson ifanc o Guatemala ar hyd Mecsico i UDA. Mae’r bobl ifainc yn eu cael eu hunain yn ysglyfaeth i heddlu’r ffin, masnachwyr dynol a masnachwyr cyffuriau. Mae’r ffilm gyntaf hon gan gynorthwy-ydd camera Ken Loach yn archwilio’r peryglon y mae pobl yn fodlon eu wynebu er mwyn sicrhau bywyd gwell.

Gobeithiwn allu croesawu Sean Ellis i Chapter ar gyfer sesiwn holi-ac-ateb ar ôl y dangosiad.


30

Sinema

029 2030 4400

Ffilmiau i’r Teulu Cyfan

Noddir gan Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk 02920 666688

O’r chwith i’r dde: Mr Peabody & Sherman (2D), Walking With Dinosaurs

Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn. Archebwch ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.

The Harry Hill Movie

Walking With Dinosaurs

DG/2014/88mun/PG. Cyf: Steve Bendalack. Gyda: Harry Hill, Julie Walters, Julian Barrett.

UDA/2014/87mun/U. Cyf: Neil Nightingale, Barry Cook. Gyda: Justin Long, Karl Urban, Angourie Rice.

Ar gyngor ei filfeddyg, mae Harry’n cymryd ei hamster anwes, Abu, a’i Nain ar daith i Blackpool. Ond mae’r milfeddyg yn cael ei dalu gan frawd drygionus Harry, Otto, sydd eisiau herwgipio Abu. A all Harry a’i Nain achub eu ffrind blewog cyn y bydd hi’n rhy hwyr?

Stori am griw o ddeinosoriaid crwydrol a’u brwydr i oroesi. Mae Patchi, deinosor bach eiddil, yn mudo gyda’i deulu, yn dadlau gyda’i frawd, Scowler, ac yn cwympo mewn cariad â Juniper. Ond, pan ddaw trasiedi i’w rhan, a fydd e’n ddigon dewr i wynebu ei ofnau?

Moshi Monsters: The Movie (2D)

WOW Ffilm i Blant

DG/2013/81mun/U. Cyf: Wip Vernooij, Morgan Francis. Gyda: Keith Wickham.

Sad 22 Mawrth

Sad 1 Mawrth

Sad 1 + Sul 2 Mawrth

Ymunwch â Katsuma, Poppet, Mr Snoodle a’r Moshi Monsters eraill mewn ffilm lawn cyffro a chanu wrth iddyn nhw geisio atal y Dr Strangeglove drwg a’i gynorthwy-ydd di-glem, Glump.

Mr Peabody & Sherman (2D) Sad 8 + Sul 9 Mawrth

UDA/2014/92mun/U. Cyf: Rob Minkoff. Gyda: Stephen Colbert, Ty Burrell, Max Charles.

Mae Mr Peabody a’i fab direidus, Sherman, yn defnyddio peiriant amser WABAC i fynd ar antur feiddgar. Ond ar ôl i Sherman ddefnyddio WABAC heb ganiatâd, a chreu hafoc yng nghyfnodau pwysicaf hanes y byd, rhaid i Mr Peabody ddod i’r adwy er mwyn achub y dyfodol.

Sad 15 + Sul 16 Mawrth

The Moon Man

DG/2013/95mun/U. Cyf: Stephen Schesch. Gyda: Katharina Thalbach.

Mae Hen Ŵr y Lleuad yn dod i’r Ddaear ar gomed ac yn cael cyfle i sylwi ar greaduriaid rhyfeddol a golygfeydd hynod planed newydd. Ond nid yw popeth fel yr ymddengys. I gael mwy o wybodaeth am WOW gweler tudalennau 25-29.

The Lego Movie (2D) Sad 29 + Sul 30 Mawrth

UDA/2014/hyd a thystysgrif i’w cadarnhau. Cyf: Christopher Miller, Phil Lord. Gyda: Chris Pratt, Elizabeth Banks, Will Arnett.

Ar ôl achos o gamadnabod, mae ffigwr Lego cyffredin yn ymuno â grŵp sy’n ceisio disodli unben creulon sydd eisiau gludo’r bydysawd at ei gilydd.


chapter.org

Addysg

31

ADDYSG

Newydd yn Chapter!

Dyfarniad Efydd yn y Celfyddydau

Eleni, rydym yn edrych ymlaen at allu cynnig Dyfarniad Efydd yn y Celfyddydau i bobl ifainc 11+ oed Beth yw’r Dyfarniad Efydd yn y Celfyddydau? Mae Dyfarniad Efydd yn y Celfyddydau yn caniatáu i bobl ifainc gymryd rhan yn y celfyddydau ac i rannu eu sgiliau. Er mwyn ennill gwobr Efydd — cymhwyster cenedlaethol Lefel 1 — mae angen i bobl ifainc gymryd rhan mewn gweithgaredd celfyddydol y maen nhw’n ei fwynhau, neu fynychu digwyddiad celfyddydol, gwneud gwaith ymchwil am arwr/arwres o fyd y celfyddydau, a rhannu eu sgiliau ag eraill. Sut mae’r cynllun yn gweithio? Bydd pobl ifainc yn cynllunio eu gwaith gyda chymorth cynghorydd ac yn cadw cofnod ar ffurf eu portffolio eu hunain. Fe allai’r portffolio fod yn ffeil, yn llyfr sgetsys, yn ddyddiadur fideo neu’n we-fan — y plant eu hunain biau’r dewis. Pryd fydd hyn yn digwydd? Bydd yna ddwy sesiwn nosweithiol bob mis, o ddydd Mawrth 8 Ebrill ymlaen, rhwng 6 a 7.30pm. I gael mwy o wybodaeth am y cynllun hwn a sut i ymuno ag ef, cysylltwch â learning@chapter.org

Cwrs Animeiddio i Bobl Ifanc

Nosweithiau Mawrth o 21 Ionawr — 25 Mawrth, 6 — 7.30pm Os ydych chi rhwng 12 a 18 oed ac yn awyddus i ddysgu neu ddatblygu sgiliau animeiddio sylfaenol, gan ddefnyddio iPads, gliniaduron a chamerâu fideo, nodwch eich diddordeb yn ein dosbarthiadau animeiddio rheolaidd ar nosweithiau Mawrth. Gallwch fwcio lle ar gyfer un sesiwn yn unig neu ar gyfer pob un, ond mae nifer y lleoedd sydd ar gael yn gyfyngedig. Gyda chefnogaeth elusen Plant mewn Angen, mae’r sesiynau hyn wedi’u bwriadu’n benodol ar gyfer pobl ifainc a chanddynt anghenion addysgol arbennig, a phobl ifainc ar sbectrwm awtistiaeth. I gael mwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at: learning@chapter.org

Adolygu Addysg

Coleg Norroff a Phrifysgol De Cymru Goresgyn Caerdydd / Takeover Caerdydd

Ar y 12fed o Hydref 2013, cyflwynodd Chapter gyfres o weithgareddau byrion yn rhan o brosiect Goresgyn Caerdydd/Takeover Caerdydd. Daeth myfyrwyr animeiddio, darlithwyr, pobl ifainc, artistiaid a cherddorion, ynghyd â chynrychiolwyr y Cyngor Prydeinig ac Asiantaeth Ffilm Cymru, at ei gilydd i wylio’r dangosiad cyntaf o ffilmiau byrion (a gweithiau ar y gweill) a grëwyd o ganlyniad i gydweithredu ar-lein rhwng myfyrwyr animeiddio ym Mhrifysgol De Cymru, Casnewydd a Choleg Noroff, Oslo. Dros gyfnod o dair wythnos, defnyddiodd y myfyrwyr o Gasnewydd ac o Oslo ddelweddau llonydd o’u dinasoedd ei gilydd (delweddau a dynnwyd ac a lwythwyd i’r we gan y myfyrwyr eu hunain) er mwyn cychwyn ar daith greadigol. Aethant ati wedi hynny i greu gweithiau animeiddio ar y thema ‘metamorffosis’ neu ‘newid’. Yn ogystal â hynny, cymrodd myfyrwyr o Gasnewydd ran mewn Dosbarth Meistr tridiau o hyd gyda’r animeiddiwr nodedig (ac enillydd gwobr Bafta), Gerald Conn. Roedd y ffilmiau byrion yn gyfuniad o arddulliau a thechnolegau, gan gynnwys animeiddio ‘stop-motion’, animeiddio tywod ac animeiddio digidol ar gyfrifiadur. I lawer o’r myfyrwyr, hwn oedd y cyfle cyntaf i ddangos gwaith mewn lleoliad diwylliannol rhyngwladol o bwys ac roedd y prosiect cyfan yn fodd o roi blas i’r cyfranogwyr o gydweithio rhyngwladol yn y diwydiant animeiddio. Cyfranogwyr: Tormod Berge, Timothy Johnson, Andrew James, Matthew Wiseman, David Lloyd Evans, Mia Goddard, David Shellard, Dan McGrath, Owain Richards, Stephen Bowie, Jack Jones-White, Sarah Merridew, Elliot Saul, Caroline Groot Bluemink, Zing Magama, Martyn Ellis Ward, Ynyr Emlyn, Amy Oughton, Arwyn Hughes, Christian Bergesen, Henrk Johan Oserud, OliverGetz Rodhal, Richard Stradling, Sarah Hessam, Thomas Gudgeon, Daniel Wannehag Hagene, Jonas Nordby, Annemarie Otten


32

Archebu / Gwybodaeth

029 2030 4400

GWYBODAETH Sut i Archebu Tocynnau

Gwybodaeth

Dros y ffôn — ffoniwch ni ar 029 2030 4400. Rydym yn derbyn pob un o’r prif gardiau credyd. Galwch heibio — mae ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 11am-8.30pm, ac ar y Sul o 3pm–8.30pm. Ar-lein: Gallwch archebu ar www.chapter.org bob awr o’r dydd a’r nos Consesiynau: Mae cyfraddau disgownt ar gael i fyfyrwyr, pobl dros 60 oed, plant, y di-waith, pobl anabl, deiliaid cerdyn MAX ac i Ffrindiau Chapter a deiliaid Cerdyn Chapter. Bydd angen i chi gyflwyno prawf o’ch cymhwyster i dderbyn cyfradd ostyngol. Archebion grŵp: Prynwch 8 tocyn ac fe gewch chi’r 9fed yn RHAD AC AM DDIM. Noder os gwelwch yn dda • dim ond un disgownt y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw un adeg • rydym yn hapus i dderbyn archebion ymlaen llaw ond ni allwn gadw tocynnau i’r naill ochr • os cyrhaeddwch chi’n hwyr mae hi’n bosib y cewch chi’ch atal rhag mynychu eich digwyddiad. Cyflwynir rhai o’n ffilmiau â Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ond nid yw’r wybodaeth hon bob amser ar gael ar adeg argraffu’r cylchgrawn. Gweler ein gwe-fan am fanylion neu piciwch draw i’r Swyddfa Docynnau yn ystod yr wythnos y mae’r ffilm yn cael ei rhyddhau.

Cwmnïau ac Artistiaid Cysylltiedig Mae Chapter yn gartref i gwmnïau theatr, cwmnïau dawns, stiwdios animeiddio, gwneuthurwyr printiau, crochenwyr, dylunwyr graffeg, dylunwyr deunydd symudol, cyfansoddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, cyhoeddwyr cylchgronau, artistiaid annibynnol a llawer iawn mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Sinema Cyn 5pm O 5pm ymlaen Llawn £4.50 (£4.00) £7.90 (£7.20) Cons £3.50 (£3.00) £5.80 (£5.10) Cerdyn + Cons £3.00 (£2.50) £5.00 (£4.50) DISGOWNT DYDD MAWRTH Tocynnau’r holl brif ddangosiadau — £4.40

Ar Fws Mae bysus rhif 17, 18 a 33 yn aros gerllaw ac yn gadael bob pum munud o ganol y ddinas.

Gweithdai a Dosbarthiadau Rydym yn cynnal amrywiaeth eang o weithdai dyddiol a dosbarthiadau gydag ymarferwyr annibynnol, gan gynnwys bale, zumba, ioga, crefft ymladd, massage i fabanod, cerddoriaeth i blant, pilates, tango, fflamenco, ysgrifennu creadigol, gwersi cerddoriaeth a mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Sut i gyrraedd Chapter Sut i gyrraedd Chapter Fe ddewch chi o hyd i ni yn Nhreganna, i’r gorllewin o ganol y ddinas. Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE Ar Droed Mae hi’n daith gerdded hamddenol o ryw 20 munud o ganol y ddinas.

Ar Feic Mae digon o raciau beic ar flaen yr adeilad. Parcio Mae gennym faes parcio yng nghefn yr adeilad ac mae meysydd parcio lleol eraill wedi eu nodi ar y map uchod. Gofynnwn i chi barchu ein cymdogion os gwelwch yn dda drwy osgoi parcio mewn strydoedd cyfagos.

Prisiau ymlaen llaw/ar-lein mewn cromfachau. Mae “Ymlaen llaw” yn golygu unrhyw bryd cyn diwrnod y dangosiad.

aff nd Lla

Springfield Pl.

ad

mC ha cen res

Ha m i l t o n

St

t

Gr

King’s Ro

nd Wy

ane

Road

L Gray

. Library St

St. ay

Canton

Le c h kwit

Church Rd.

Heol Ddwy rein i o l y B o n t F a en Penllyn Rd.

Harve

St Talbot

Orc h a r d P l.

rn Seve

St. Gray M a rk e t P l .

treet yS

e St. Glynn

d Roa

d hna arc lyF

Heo

o 6pm

rt S

t.

Road

Earle Pl.

A l be

P — meysydd parcio rhad ac am ddim — rac feics  — safle bws

ad r Ro Majo

I Ganol Dinas Caerdydd to n ling Wel

et Stre

Mynediad i bawb Mae Chapter yn croesawu ymwelwyr anabl. Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad penodol ffoniwch ein swyddfa docynnau ar 029 2030 4400, minicom 029 2031 3430.


chapter.org

Cymryd Rhan

33

CYMRYD RHAN Cerdyn CL1C

Cadwch mewn cysylltiad

Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawrlwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Ymunwch â ni ar-lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

Ffrindiau Chapter

eAmserlen rad ac am ddim eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch adam.chard@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.

Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40

Hoffai Chapter gydnabod cefnogaeth hael y sefydliadau a’r grwpiau canlynol:

Landfill Community Fund Esmée Fairbairn Foundation EU Culture Programme The Baring Foundation Garfield Weston Foundation Foyle Foundation Biffa Award Colwinston Charitable Trust Admiral Group plc Moondance Foundation Foundation for Sport and the Arts Trusthouse Charitable Foundation Community Foundation in Wales BBC Children in Need The Waterloo Foundation ScottishPower Green Energy Trust The Welsh Broadcasting Trust

SEWTA Richer Sounds The Clothworkers’ Foundation Momentum The Henry Moore Foundation Google Jane Hodge Foundation Simon Gibson Charitable Trust People’s Postcode Trust Dunhill Medical Trust Legal & General Institut für Auslandsbeziehungen e.V Millennium Stadium Charitable Trust The Ernest Cook Trust Lloyds TSB Morgan Signs Garrick Charitable Trust

Barclays Arts & Business Cymru Penderyn The Austin & Hope Pilkington Trust Singapore International Foundation Puma Hotels Collection: Cardiff Angel Hotel Cardiff Airport Wales Arts International Gibbs Charitable Trust Ceredigion Community Scheme The Steel Charitable Trust The Boshier-Hinton Foundation 1st Office Oakdale Trust Dipec Plastics Nelmes Design

The Coutts Charitable Trust Bruce Wake Charity Funky Monkey Feet Finnis Scott Foundation Unity Trust Bank Hugh James Contemporary Art Society for Wales The Dot Foundry JVH Gidden & Rees Western Power Distribution Follett Trust Arts & Kids Cymru Canton High School Girl’s Reunion Co-operative Group Renault Cardiff Embassy of Belgium Queensland Government


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.