Chapter Chwefror 14

Page 1

029 2030 4400

@chaptertweets

chapter.org


02

Croeso

chapter.org

Mae cariad ar yr awyr y mis hwn, ac er nad ydym ni’n or-hoff o dedis a chalonnau, rydym wrth ein boddau â Dydd San Ffolant — esgus perffaith i fwynhau detholiad o ffilmiau a bwydydd gothig. Mae manylion ein cynigion arbennig ‘ffilm a phryd San Ffolant’ ar dudalennau 22-23 — mae’r rhain yn cynnwys stori garu dyner, amgen Spike Jonze, Her. Mae mis Chwefror yn llawn gigs a digwyddiadau arbennig — o’r dangosiad arbennig o’r campwaith swrrealaidd cynnar, Nosferatu, ynghyd â sgôr fyw gan Steepways Sound Collective (t19) i From Now On, ein gŵyl gerddoriaeth anturus (t12-13), sy’n cynnwys detholiad ardderchog o fandiau yn hanu o Los Angeles, Caerdydd a llawer man arall hefyd. Ydych chi’n dechrau eich noson gyda thamaid i’w fwyta yn ein Caffi Bar? Gallwch barhau ar eich taith gerddorol yng nghwmni arddangosfa gyfredol Celfyddyd yn y Bar, Hollywood Dooom (t6-7), gan Stanley Donwood — mae e’n enwog am ei waith ar y rhan fwyaf o gloriau recordiau Radiohead. Ategir ein mis prysur o berfformiadau, arddangosfeydd a ffilmiau gan raglen addysg gynhwysfawr a digonedd o weithdai a gweithgareddau i’r teulu cyfan. Ewch i dudalen 28 i weld sut y gallwch chi gymryd rhan. Gobeithiwn yn fawr y mwynhewch chi’r hyn sydd gennym i’w gynnig ym mis Chwefror. Diolch am ddarllen ac fe welwn ni chi cyn hir! Delwedd y clawr: Only Lovers Left Alive

Chapter Heol y Farchnad, Caerdydd CF5 1QE 029 2030 4400 www.chapter.org ymholiadau@chapter.org


chapter.org

Uchafbwyntiau

Oriel Tudalennau 4-8

Chapter Mix Tudalen 9

Theatr Tudalennau 10–17

03

CYMRYD RHAN Cerdyn CL1C Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawrlwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Ffrindiau Chapter Sinema Tudalennau 18–27

Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40

Cadwch mewn cysylltiad Addysg

Ymunwch â ni ar-lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

Tudalen 28

eAmserlen rad ac am ddim

Bwyta Yfed Llogi

eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch adam.chard@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.

Tudalen 29

Gwybodaeth a Sut i archebu tocynnau Tudalen 30

Cymryd Rhan Tudalen 31

Calendr Tudalennau 32-33

Siaradwch â ni @chaptertweets facebook.com/chapterarts ymholiadau@chapter.org


04

Oriel

029 2030 4400

3AM: wonder, paranoia and the restless night Tan ddydd Sul 2 Mawrth

Francis Alÿs, Tonico Lemos Auad, Jordan Baseman, Sandra Cinto, Dorothy Cross, Dornith Doherty, Anthony Goicolea, Marc Hulson, Rachel Kneebone, Nathan Mabry, Michael Palm & Willi Dorner, Hirsch Perlman, Ed Pien, Lucy Reynolds, Sophy Rickett, Paul Rooney, Anj Smith, Fred Tomaselli, Danny Treacy, Bettina von Zwehl a Tom Wood. Mae hi’n 3 o’r gloch y bore, awr y blaidd, ac r’ych chi ar ddihun. A fydd y nos yn eich arwain i diroedd anhysbys? A gewch chi eich llyncu gan eich dychymyg? A fydd y tywyllwch yn eich goresgyn? Mae’r arddangosfa hon yn archwilio’r cyflyrau meddwl sy’n gysylltiedig â’r oriau mân. Mae 3 o’r gloch y bore yn ofod diderfyn, yn cynrychioli rhyddid ac antur. Y mae hefyd yn ysbaid rhwng dau gyflwr. Awr i fodau diobaith ac unig, awr yn llawn ysbrydion ac angenfilod, ac awr o natur wyllt, wrth i anifeiliaid fentro allan. Mae’r arddangosfa hon yn gwahodd

dau-ar-hugain o artistiaid i fentro i fannau tywyllaf y nos — cyfnod ein hanturiaethau mwyaf gwallgo’ a’n hofnau dyfnaf. Mae eu gweithiau yn archwilio cyffroadau a gwyrdroadau’r nos. Mae 3am: wonder, paranoia and the restless night yn arddangosfa gan Bluecoat a guradwyd gan Angela Kingston. Mae catalog 3am, sy’n cynnwys lluniau o’r gweithiau ynghyd ag ysgrifau amdanynt, ar gael gan Wasg Prifysgol Lerpwl, a gellir ei brynu yn Chapter.

Gyda’r cloc o’r chwith uchaf: Ed Pien, Topsy Turvy, 2012. Inc ar bapur, 76.2 x 114.3 cm, Gyda chaniatâd yr artist, Pierre-François Ouellette Art Contemporain, Montreal, a Birch Libralato, Toronto; Sandra Cinto, Nights of Hope, 2013, inc annileadwy ar ffabrig, pren ac alwminiwm, dimensiynau amrywiol, comisiwn gan y Bluecoat Liverpool, llun: Warren Orchard; Tonico Lemos Auad, Sleep Walkers, 2009. Les o Frasil a Gwlad Belgian a darnau trydanol, 17 o lanternau wedi’u gwnïo â llaw. Dimensiynau amrywiol. Darn unigryw mewn cyfres o dri amrywiad. Gyda chaniatâd yr artist a MUHKA (Museum van Hedendaagse Kunst Antwerpen); Lucy Reynolds, Lake (Nocturne), 2009, ffilm 16mm, gyda chaniatâd yr artist.

Arddangosfa ar agor: Dyddiau Mawrth, Mercher, Sadwrn a Sul 12-6pm; dydd Iau a dydd Gwener 12-8pm; ar gau ar ddydd Llun


chapter.org

Oriel

DIGWYDDIADAU

Tooth & Clawr

Sgwrs am 2 Sad 8 + Sad 22 Chwefror 2pm Cynhelir ein ‘Sgyrsiau am 2’ bob yn ail ddydd Sadwrn yn ystod cyfnodau ein arddangosfeydd ac fe’u cyflwynir gan ein Tywyswyr Byw, Richard Higlett a Samuel Hasler. Yn deithiau a sgyrsiau anffurfiol, mae’r rhain yn gyfle i ddysgu mwy am yr arddangosfa gyfredol ac am ddulliau unigryw yr artist. Ni fydd dwy sgwrs yn union yr un fath ond y gobaith yw y byddan nhw bob amser yn ddiddorol ac yn agored. RHAD AC AM DDIM

05

Maw 11 Chwefror 7pm Yn ôl am y tro cyntaf eleni â fformat fymryn yn wahanol, bydd Tooth & Clawr, gyda Phil Owen o Arnolfini a Catherine Angle o Chapter, yn canolbwyntio ar rai o themâu a syniadau ein harddangosfa gyfredol, ‘3am: wonder, paranoia and the restless night’. Bydd testunau dethol ar gael ar y noson ac fe ddefnyddir y rhain i sbarduno dadleuon cyffrous a difyr. Felly ymunwch â ni i rannu eich barn, i gyfrannu testun neu i eistedd a gwrando — mae croeso cynnes i bawb. £3 (Archebwch ymlaen llaw os gwelwch yn dda)


06

Oriel

029 2030 4400

CELFYDDYD YN Y BAR Stanley Donwood: Hollywood Dooom Tan ddydd Sul 2 Mawrth Mae Stanley Donwood yn llawn direidi. Mae e mor hoff o chwarae â’n canfyddiad o realiti a bywyd go iawn ag y mae o greu ei ddarnau celf. Mae’n cynnig llygedyn o oleuni sydd fel petai’n egluro pethau ond, o edrych yn fanylach, fe gewch chi bod ffynhonnell y golau’n artiffisial neu’n anhysbys. R’ych chi’n ymdroelli mewn gwe o ddehongliadau ac yn ymgolli yn eich dadansoddiadau eich hun. Nid yw’r real yn real. Mae datganiadau a sylwadau yn gwrthddweud ei gilydd. Mae Donwood yn solet, ond mae hi’n amhosib cael gafael gadarn arno. Os oes yna neges yng ngweithiau Donwood, mae’r neges honno’n mynnu bod ystyr a chanfyddiad yn bethau cymhleth. Mae safbwyntiau’n newid. Caiff y cyd-destun ei ystumio. Mae ei gasgliad Lost Angeles yn gyfres o doriadau leino wedi’u hysbrydoli gan Ddydd y Farn ac yn cynnwys y panorama enfawr, Hollywood Dooom. Wedi’i gerfio’n wreiddiol ar ddeunaw o baneli linoliwm unigol, cyn i’r cyfan gael ei lathru â llaw ar bapur Kozo o Japan, mae’r gwaith yn dangos Dinas yr Angylion yn

cael ei datgymalu a’i rhwygo mewn ffyrdd cwbl ddiamwys. Ond nid yw Lost Angeles yn feirniadaeth un-llygeidiog o’n diwylliant materol modern. Edrychwch yn ofalus ac fe welwch chi fwy a mwy o gyfeiriadau, mwy o elfennau, mwy o ystyron a chyd-destunau. Edrychwch ar unrhyw un o weithiau Donwood ac fe welwch chi mor gymhleth y gall delwedd ymddangosiadol syml fod. Fe welwch chi, yn union fel y mae bywyd Donwood ei hun yn jig-so o ddarnau o wybodaeth a hannergwirioneddau, bod y gwaith hefyd yn jig-so o ddylanwadau, ystyron a chanfyddiadau. Hyd yn oed pan mae e fel petai’n eich tywys chi at farn sefydlog, fel yn Lost Angeles, mae’n eich tywys at ddarnau yn unig o’r pos. O ran y gweddill, wel, rhaid i chi ei ddehongli drosoch chi’ch hun. Jon Severs Mae Jon Severs yn awdur a newyddiadurwr llawrydd Mae’r testun hwn yn fersiwn wedi’i thalfyrru o draethawd a gomisiynwyd gan ac sydd ar gael yn Chapter.


chapter.org

Stanley Donwood, Hollywood Dooom, 2013. Photo: Warren Orchard

Bywgraffiad Ganwyd Stanley Donwood ym 1968 yn Essex ac mae e bellach yn byw ac yn gweithio yng Nghaerfaddon. Enillodd Donwood gydnabyddiaeth ym 1994 pan ddechreuodd greu gwaith ar gyfer albymau’r grŵp roc byd-enwog, Radiohead. Ers hynny, defnyddiwyd ei waith ar 15 o senglau, 9 EP a gwahanol albymau stiwdio gan gynnwys The Bends, Kid A, OK Computer, a Hail to the Thief. Yn ogystal â’i waith gyda Radiohead, mae Donwood wedi arddangos mewn orielau ledled Ewrop, Asia a’r Unol Daleithiau. Mae ei arddangosfeydd diweddar yn cynnwys: ‘Far Away is Close at Hand in Images of Elsewhere’, The Outsiders, Llundain: ‘The Drawing Room’, Atoms For Peace Pop Up, The Enterprise, Llundain (2013) ‘Lost Angeles’ Subliminal Projects, Los Angeles, UDA (2012), ‘Minotaur’, Twneli’r Old Vic, Llundain, y DG (2011), ‘RED MAZE’ Schunck, Heerlen, Yr Iseldiroedd (2010); ‘Palimpsest’ Oriel Mondo Bizzarro, Rhufain, Yr Eidal, ‘OVER NORMAL’, Oriel Fifty24SF, San Francisco, UDA (2010), ‘I LOVE THE MODERN WORLD’ Oriel Tokyo + BTAP, Tokyo (2008)

Oriel

07


Oriel

029 2030 4400

Andy Fung, Tech Waves, 2013

08

BLWCH GOLAU Andy Fung: Tech Waves Tan ddydd Llun 31 Mawrth Mae gan Andy Fung arddull ddarluniadol unigryw sy’n gyfuniad o egwyddorion swrealaeth a diwylliant pop. Yn rhydd a chwareus, mae ei fersiynau o iwtopia graffig yn ymddangos ar gynfasau ond maent hefyd yn ymddangos, yn fwy annisgwyl efallai, ar ffurf paentiadau uniongyrchol ar fur. Fel graffiti, maen nhw’n gwrthsefyll prosesau masnachol ac yn para tan i rywun beintio drostyn nhw. Wedi dweud hynny, mae hi’n anos diffinio’r sffêr sy’n ffynhonnell i’r gweithiau hyn. Graffiti go iawn, darluniau gwyddonias, celfyddyd ffantasïol, cartwnau, dylunio graffeg a diwylliant cerddoriaeth a chlybio, ynghyd â’r hyn sy’n organig ym myd natur — caiff y cyfan ei hidlo drwy anymwybod yr artist. Mae ei waith yn teimlo’n ddyfodolaidd ar adegau, y math o gelfyddyd y gellid ei dychmygu’n rhan o ffilm wyddonias, wedi’i gosod mewn dyfodol lle mae’r cysylltiad â’r gorffennol wedi’i rwygo neu’n ddim ond atgof annelwig. Ar gyfer ei gomisiwn i Chapter, mae Andy wedi creu gwaith safle-benodol — màs o siapiau a ffurfiau, pob un wedi’i rendro’n fanwl ac yn dod i’r amlwg fel tonnau seicedelig o dwll du.

Bywgraffiad Cwblhaodd Andy radd BA yn Ysgol Celfyddyd a Dylunio Falmouth a gradd MA yn UWIC, Caerdydd, lle mae e bellach yn byw ac yn gweithio. Mae ei brosiectau diweddar yn cynnwys ‘Customisation Piano’, Oriel Marburae, Macclesfield, ‘Chasing the Line’, Mello Mello, Lerpwl (y ddau yn 2013); ‘Artist Cymreig y Flwyddyn’, Neuadd Dewi Sant, Caerdydd (2012) a chomisiwn safle-benodol ar gyfer y Boiler House, Caerdydd (2011). Cyflwynodd arddangosfa unigol yn Oriel UNI.ART, Gothenburg, Sweden, ym mis Tachwedd 2013, ac mae e’n gweithio ar y foment gyda DEBUT Contemporary, Llundain. Ar y cyd â’i waith celfyddydol, mae Andy yn aelod o No Thee No Ess. Rhyddhawyd eu halbwm, ‘Spring Dawn Glow’ llynedd, ac fe gafodd trydydd albwm ei brosiect solo, Cymbient, ‘I Saw Energy’ (Folkwit Records) ei ryddhau ym mis Mawrth 2013. www.andyfung.co.uk


chapter.org

Chapter Mix

Cylch Chwedleua Caerdydd

Jazz ar y Sul

Straeon ar Droad y Flwyddyn — straeon a chaneuon i nodi diwedd y gaeaf. Croeso cynnes i storïwyr a gwrandawyr fel ei gilydd!

Ein noson fisol o jazz acwstig melodig yn y Caffi Bar gyda Phedwarawd Glen Manby.

Sul 2 Chwefror 8pm

£4 (wrth y drws)

Clwb Comedi The Drones

Gwe 7 + Gwe 21 Chwefror Drysau’n agor: 8.30pm. Perfformiad: 9pm Clint Edwards sy’n cyflwyno’r ‘stand-ups’ addawol gorau. Dydd Gwener cyntaf a thrydydd dydd Gwener bob mis. £3.50 (wrth y drws)

09

Sul 19 Chwefror 9pm

RHAD AC AM DDIM

Hadau ar ddydd Sadwrn Sad 22 Chwefror 11am — 2pm

Cyfle gwych i rannu eich hadau, planhigion ac offer garddio diangen, ac i ddysgu gan arddwyr profiadol am faterion fel hogi a chynnal eich offer garddio a chadw gwenyn. Dod â’r teulu gyda chi? Fe fydd yna weithgareddau i blant wedi’u trefnu gan Grŵp Gerddi Cymunedau Treganna a Caerdydd yn ei Blodau.

On the Edge:

I gael mwy o wybodaeth e-bostiwch Sue Waring, sue.waring@ buildingsfortomorrow.co.uk neu Ruth Mumford, R.Mumford@ cardiff.gov.uk neu ffoniwch (029) 2068 4000.

Gan Liz Wride Maw 11 Chwefror 8pm

Music Geek Monthly

Number 5 Cwmdonkin Drive Mae dathliadau pen-blwydd Tom Dylan yn 18 oed yn digwydd ar yr un diwrnod â chanmlwyddiant geni Dylan Thomas. Ac mae yna gyd-ddigwyddiad arall: mae ei rieni ac ef yn byw ym man geni Dylan, sef 5 Cwmdonkin Drive. Yn nrama ddigrif Liz Wride mae rhai o gymeriadau Dylan Thomas yn dod yn fyw er mwyn sicrhau bod Tom yn mwynhau pen-blwydd i’w gofio. Cyfarwyddo gan D J Britton. £4

DARLITH SWDFAS

Y defnydd o bapur wal mewn cartrefi Prydeinig (1685 – y presennol): Diana Lloyd Iau 13 Chwefror 2pm

Dechreuodd papur wal gael ei ddefnyddio o ddifrif ar ddiwedd yr 17eg ganrif, pan oedd Llundain yn ganolfan gynhyrchu o bwys. Erbyn y 18fed ganrif, roedd papur wal hefyd yn cael ei greu yn Leeds ac yn Efrog ac roedd y Madame de Pompadour ei hun yn un a archebai bapur wal ar gyfer ei fflatiau preifat. £6 (wrth y drws yn ddibynnol ar le)

Iau 30 Ionawr 8pm + Sad 8 Chwefror 3.30pm Iau 27 Chwefror 8pm + Sad 15 Mawrth 3.30pm Trafodir un clasur o albwm ac un albwm newydd sbon yn y Pwynt Cyfryngol ar ddydd Iau olaf y mis. Cynhelir y gwrandawiad cysylltiedig ym moeth Sinema 2 ar ddydd Sadwrn. RHAD AC AM DDIM www.musicgeekmonthly.tumblr.com

Clonc yn y Cwtsh

Bob dydd Llun 6.30 — 8pm Ydych chi’n dysgu Cymraeg? Ymunwch â ni i ymarfer eich Cymraeg gyda dysgwyr eraill. Croeso i bawb! RHAD AC AM DDIM Ar y cyd â Menter Caerdydd


Theatr

029 2030 4400

Lleisiau

10


Theatr

11

Lleisiau

chapter.org

Galw am gyfranogwyr

Lleisiau/Voices Mae “Lleisiau/Voices” yn brosiect perfformio a gynhyrchir drwy gyfrwng partneriaeth greadigol rhwng Chapter a good cop bad cop. Comisiynwyd y prosiect yn rhan o ŵyl 100 Dylan Thomas, rhaglen flwyddyn o hyd o weithgareddau diwylliannol ac academaidd i nodi canmlwyddiant geni Dylan Thomas. Nod Lleisiau/Voices yw datgelu a chyflwyno i’r cyhoedd y defnydd eang a wneir o’r llais yn nwy iaith swyddogol Cymru, ac mewn ieithoedd eraill a siaredir gan drigolion Cymru. Bydd yn cyflwyno perfformiadau byw a recordiadau o gyfoeth o arddulliau, fformatau a thechnegau lleisiol o Gymru a thu hwnt. Nod Lleisiau/Voices yw rhoi sylw i enghreifftiau mwy anarferol o’r ffyrdd y defnyddir y llais, boed hynny yn y gweithle neu mewn cyd-destunau eraill. Arwerthwyr, sylwebyddion, galwyr bingo, bugeiliaid, gwerthwyr papurau newydd, artistiaid trosleisio, dynwaredwyr adar, chwibanwyr, iodelwyr a ffurfiau lleisiol Cymreig unigryw fel cyd-adrodd a chanu penillion. Bydd y prosiect yn mynd ar daith yn ystod hanner cyntaf 2014 a bydd croeso i bob un gyflwyno ei arbenigedd lleisiol ei hun yn ystod ein diwrnodau agored. O’r fan honno, byddwn yn dewis pobl i gymryd rhan mewn cyfres o dri pherfformiad byw yn Chapter, rhwng 8 a 10 Mai. Os na fyddwch yn gallu mynychu un o’r diwrnodau agored, bydd cyfle i chi gyflwyno recordiadau sain a fideo hefyd ac fe gynhwysir detholiad o’r rhain yn y cyflwyniad byw, yn ogystal â chyfraniadau dethol a phenodol o Efrog Newydd, Seland Newydd a Chymru.

Dyddiau agored: Sad 1 Chwefror: Chapter, Caerdydd Sad 15 Chwefror: Y Ffwrnes, Llanelli Sul 16 Chwefror: Theatr Mwldan, Aberteifi Sad 15 Mawrth: Canolfan Gymunedol Hirael, Bangor Sul 16 Mawrth: Oriel Wrecsam, Wrecsam

Am fwy o wybodaeth: lleisiau@chapter.org www.chapter.org/Lleisiau www.facebook.com/Lleisiau #gcbcLleisiau

Gweithdy Grŵp Gŵyl Berfformio Caerdydd Yn wythnosol o ddydd Iau 6 Chwefror ymlaen 7.30pm Ym mis Mehefin 2014, bydd Chapter yn cynnal Gŵyl Berfformio Ryngwladol newydd, wedi’i chyfarwyddo gan y cyfarwyddwr theatr a chynRaglennydd Theatr Chapter, James Tyson (Intangible Studio). Bydd yr ŵyl yn gyfle i ymwneud ag artistiaid y mae eu gwaith yn estyn syniadau am bosibiliadau celfyddyd, a gwaith sydd yn seiliedig ar syniadau am le a newid cymdeithasol a chymunedol. O fis Chwefror ymlaen, bydd James yn arwain gweithdy/trafodaeth/grŵp astudio wythnosol i artistiaid, cynulleidfaoedd a myfyrwyr lleol er mwyn archwilio rhai o syniadau a chyd-destunau’r ŵyl. Bydd yna wahoddiad hefyd i gynnig modelau posib ar gyfer creu gwaith, boed hynny’n unigol neu mewn modd cydweithredol. Er mwyn mynychu Gweithdy Grŵp Gŵyl Berfformio Caerdydd, anfonwch e-bost i nodi’ch diddordeb at intangiblestudio@gmail.com


12

Gyda’r cloc o’r chwith uchaf: Bridget Hayden, llun: Dirk de Aantrekker; Lucky Dragons, llun: David Horvitz; Laura J Martin, llun: Jvon Wuxga; Richard Dawson, llun: Declan Kelly

Theatr

029 2030 4400


chapter.org

Theatr

13

From Now On Gwe 14 — Sad 15 Chwefror Gŵyl o gerddoriaeth anturus sy’n cyflwyno amrywiaeth o artistiaid Cymreig a rhyngwladol.

Euros Childs, Lucky Dragons, Richard Dawson, Laura J Martin, Rhodri Davies, Thought Forms, Trwbador, Dan Haywood, Bridget Hayden, R. Seiliog, Serafina Steer, Trust Fund, Hail! The Planes, Tender Prey, Aidan Richard Taylor, Gwenno, Serafina Steer, The Jelas + grwpiau eraill i’w cadarnhau.

Mark Daman Thomas Shape Records (sy’n gweithio gyda Chapter ar gynllun New Music Plus Sefydliad Cerddoriaeth PRS). Dw i’n edrych ymlaen at ‘From Now On’, gŵyl newydd o gerddoriaeth anturus a gynhelir ar 14 & 15 Chwefror. Mae’r bandiau dw i wedi eu dewis yn herio diffiniadau ac yn gweithio y tu hwnt i’r brif ffrwd. Cafodd pob un o’r bandiau ei ddewis ar sail agwedd unigryw ac anghyffredin at gerddoriaeth. Dw i wrth fy modd bod Lucky Dragons yn dod i Gaerdydd — gellid diffinio eu perfformiadau fel celfyddyd sonig yn ogystal â cherddoriaeth. Bydd yr ŵyl yn ddeuddydd o gerddoriaeth ddifyr, archwiliadol a gwefreiddiol. Welwn ni chi yno!

Gŵyl newydd o gerddoriaeth a sain heb ffiniau wedi’i churadu gan Shape Records. Mae’r grwpiau’n cynnwys y band arbrofol o LA, Lucky Dragons, sy’n adnabyddus am eu dulliau cyfranogol o greu cerddoriaeth a sioeau byw radical a chynhwysol, perfformiad piano solo arbennig gan Euros Childs a’r ffliwtydd seicedelig, Laura J Martin, o Lerpwl. Bydd dau o gerddorion ymylol mwyaf diddorol y DG, y telynor blaengar Rhodri Davies a’r trwbador ôl-werin, Richard Dawson, yn perfformio’n unigol ac yn cyflwyno hefyd eu deuawd gydweithredol nodedig, ‘Hen Ogledd’. Tocynnau: Dydd Gwener: £12 Dydd Sadwrn: £15 Y ddau ddiwrnod: £25 I weld y rhaglen lawn ac i gael gwybodaeth bellach, ewch i fromnowonfestival.co.uk Cynhyrchir From Now On gan Shape Records a Chapter. shaperecords.co.uk Gyda chefnogaeth cynllun New Music Plus Sefydliad Cerddoriaeth PRS y DG.


Theatr

029 2030 4400

Clwb Ifor Bach yn cyflwyno

The Furrow Collective

The Furrow Collective

14

Steve Eaves + Blodau Gwylltion Sul 2 Chwefror 8pm

Bu Steve Eaves yn perfformio fel cerddor ers dros 40 mlynedd. Daeth i amlygrwydd fel bardd ac mae disgyblaeth gynnil ei grefft barddol i’w gweld yn glir yn ei ganeuon. Y blŵs yw’r dylanwad pennaf ar ei waith, ond mae yna hefyd ddylanwadau o fyd jazz a gwahanol fathau o ganu roc a gwerin. Yn ystod gwanwyn 2011, cyhoeddwyd ‘Ffoaduriaid’, casgliad 5 CD o’i hen recordiadau, sy’n cynnwys saith albwm a nifer o ganeuon unigol a gyhoeddwyd rhwng 1984 a 1999. Mae Steve wrthi ar hyn o bryd yn recordio albwm newydd. £10/£8

In Chapter 16: Sosialaeth Iau 27 Chwefror 8pm Mae In Chapters yn dychwelyd ac yn codi’r faner goch. Fel bob amser, bydd cast amrywiol o gerddorion ac awduron sefydledig ac addawol yn perfformio gwaith newydd yn seiliedig ar thema’r mis. Eich Cynrychiolwyr Undebol ar gyfer y noson unigryw hon fydd John Williams (geiriau) — sydd newydd ysgrifennu cofiant i’r chwyldroadwraig nodedig, Eartha Kitt — a Richard James (cerddoriaeth) — a fu’n lledaenu’r efengyl am ganu gwerin Cymreig yn Nagaland (chwiliwch ar fap!). £6/£5

Maw 15 Chwefror 8pm Rachel Newton, Lucy Farrell, Emily Portman ac Alasdair Roberts. Mae’r grŵp newydd hwn yn dwyn ynghyd bedwar o gerddorion gwobrwyol gorau sîn werin y DG er mwyn archwilio byd tywyll a rhyfedd canu baledi. Bydd pob canwr yn cyflwyno perlau llai adnabyddus o’r repertoire traddodiadol i gyfeiliant eclectig telyn, gitâr, fiola, consertina, banjo, llif gerddorol a harmonïau bywiog. Ag arddull feiddgar, fyrfyfyriol, maen nhw’n cyfleu eithafion amrwd a pheth o hud a lledrith byrhoedlog baledi â thechnegau chwedleua wrth galon y perfformiad. Mae Emily ac Alasdair yn adnabyddus ill dau am eu caneuon gwreiddiol, wedi’u dylanwadu gan lên gwerin ac, ar ôl cael eu hunain yn perfformio yn yr un cyngherddau, fe benderfynon nhw gydweithio, rhannu’r un llwyfan a chydweithio ar eu recordiau ei gilydd. Mae Lucy a Rachel fel ei gilydd yn artistiaid unigol hudolus. Maen nhw hefyd yn gerddorion sesiwn y mae galw mawr am eu gwasanaeth ac maent yn cydweithio’n rheolaidd yn rhan o driawd Emily Portman. Bydd y grŵp yn rhyddhau albwm ym mis Chwefror 2014 ar label Furrow Records. £10/£8

Carreg Lafar a Ffrindiau Gwe 28 Chwefror 8pm Bu Carreg Lafar yn perfformio ar y sîn werin yng Nghymru ers rhyw 20 mlynedd ac mae eu perfformiadau angerddol a bywiog wedi newid agweddau llawer o bobl at gerddoriaeth werin Gymreig. Â chyfuniad o gerddoriaeth draddodiadol a gwreiddiol, mae’r grŵp yn cyfleu ysbryd iach ag egnïol y mae ei wreiddiau’n ddwfn yn nhraddodiadau canu a dawnsio Cymru. Recordiodd y band EP newydd, ‘Y Cadno’, yn ddiweddar ac maent yn bwriadu rhyddhau albwm newydd eleni. £10/£8


chapter.org

Theatr

Cholmondeley Productions yn cyflwyno

Mai oh Mai Productions ar y cyd â Theatr y Torch a Chapter yn cyflwyno

Ladies and Gentlemen Maw 4 — Sad 8 Chwefror 7.30pm

Soirée swynol a hwyliog o gerddoriaeth, hud a lledrith a dawns. Yng nghanol amrywiaeth o bropiau rhyfedd, mae disgynyddion olaf teulu ‘music hall’ chwedlonol yn mynd ati’n ddiwyd i geisio ail-greu darnau o sgetsys, golygfeydd a jôcs mewn ymgais ofer i chwythu bywyd newydd i’w sioe ‘Music Hall’ anghofiedig. Perfformwyr: Gareth Clark, Lauren Lee-Jones, Belinda Neave, Marega Palser, Caroline Sabin a Bert Van Gorp. Coreograffi a chyfarwyddo: Lea Anderson Geiriau, cerddoriaeth a chyfarwyddo cerddorol: Steve Blake Cynllunio: Tim Spooner Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Coreo Cymru a Chapter £10/£8

The Harri Parris: The Big Day

Iau 20 – Sad 22 Chwefror 8pm Drama gomedi newydd sbon gyda chaneuon gan y criw a gyflwynodd ‘The Leaving Do.’ Mae’r Harri-Parris wedi bod yn paratoi ar gyfer priodas Anni ers misoedd ac yn awyddus i ddathlu’r diwrnod mawr gyda chi. Wel, nid y diwrnod mawr ei hun — ‘dyn nhw ddim yn graig o arian. Beth am y noson flaenorol? Y noson y maen nhw’n mynd i gwrdd â dyweddi Anni am y tro cyntaf. Mae yna wahoddiad i chi hefyd i ddod i gael cip arno. Beth fydd barn yr Harri-Parris ar ddyn newydd Anni? Beth fydd ei farn e ar ei deulu yng nghyfraith o Orllewin Cymru? Tynnwch eich hetiau crand o’r cwpwrdd ac ymunwch â’r Harri-Parris am noson o ganeuon, straeon a chacen. Ysgrifennu gan Llinos Mai Cyfarwyddo gan Owen Lewis Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Theatr y Torch a Chapter. £12/£10

O’r chwith i’r dde: Ladies and Gentlemen, The Harri Parris: The Big Day

15


Theatr

029 2030 4400

Gyda’r cloc o’r chwith: Robin Ince, Mitch Benn, Simon Munnery

16

Go Faster Stripe

Robin Ince

Mer 5 Chwefror 8pm Mae Robin Ince yn dychwelyd i recordio ei DVD newydd, ‘The Importance of Being Interested.’ Bydd y sioe yn cynnwys Robin a’i liniadur a sgyrsiau am Charles Darwin, Richard Feynman, Aristotle a’r pleser o gasglu cregyn ar y traeth a sylweddoli bod bod yn hunanymwybodol mewn bydysawd enfawr yn beth da ar y naw. Robin yw cyflwynydd y sioe Infinite Monkey Cage ar Radio 4 – rhaglen a enillodd wobr Sony Aur. Ac mae hi’n bosib y bydd hwn yn gyfle i chi glywed y gyfrinach am wallt hyfryd yr Athro Brian Cox. £10

Mitch Benn is the 37th Beatle Iau 13 Chwefror 8pm Mae sioe newydd Mitch yn cyfuno’i fagwraeth ar Lannau Mersi, ei hoffter o gerddoriaeth a’i obsesiwn â meibion enwocaf Lerpwl. Mae Mitch yn bendant iawn nad sioe deyrnged mo hon ac er nad yw ei hoffter o’r pedwarawd byd-enwog yn gyfrinach, gallwch ddisgwyl enghreifftiau lu o’r dychan sy’n nodweddu ei waith. Fel y dywed Mitch ei hun: “Mae llawer wedi hawlio’r teitl ‘Y Pumed Beatle’. Allan nhw ddim i gyd fod yn gywir; roedd rhai yn fwy cywir na’i gilydd...” £12/£10 (Oed 16+)

“Bydd unrhyw un sy’n hoffi cerddoriaeth, yn casáu Simon Cowell ac yn hoffi dysgu pethau newydd wrth ei fodd.” Chortle

SHOW AND TELL YN CYFLWYNO

Simon Munnery: Fylm Sad 1 Mawrth 8pm Mae’r digrifwr arobryn Simon Munnery yn rhoi cynnig unwaith eto ar lanw’r gwagle rhwng ffilm a chomedi fyw, yn ei sioe fyw ffylm-tastig ddiweddaraf — dilyniant i’w waith nodedig ‘Fylm Makker’. Mae ‘Fylm’ yn sioe sy’n llawn comedi feiddgar a dychmygus a sgetsys byw. Caiff y cwbl oll ei berfformio gan Simon o’i sedd ymhlith y gynulleidfa a’i daflunio’n fyw ar sgrin fawr. Mae Simon yn gyfrannwr rheolaidd at raglenni fel Stewart Lee’s Comedy Vehicle (BBC2), The Culture Show, The Alternative Comedy Experience ar Comedy Central a’r News Quiz ar Radio 4. Enwebwyd Simon am Wobr Comedi Prydain a Gwobr Perrier ac mae e’n enillydd Gwobr Chortle a Gwobr Radio Sony. £12/£11/£10

“Mae yna fwy o syniadau disglair yn un o sioeau Munnery nag yng ngyrfaoedd cyfain rhai digrifwyr eraill.” The Times


Theatr

Tin Shed Theatre

Tree of Leaf and Flame

17

O’r chwith i’r dde: Of Mice and Men, Tree of Leaf and Flame

chapter.org

Of Mice and Men Iau 6 + Gwe 7 Chwefror 8pm “Mae angen rhywun ar ddyn — i fod yn gwmni iddo. Dim ots pwy yw e, dim ond ei fod e gyda chi.” Mae Of Mice and Men yn adrodd hanes George Milton a Lenny Small, dau ddyn gwahanol iawn y mae rhagluniaeth wedi’u rhwymo at ei gilydd. Yng nghyddestun y Dirwasgiad Mawr Americanaidd, mae’r prif gymeriadau truenus yn ffurfio cynllun i gefnu ar eu bywydau tlawd a dechrau o’r newydd. Mae’r cyfan yn ymddangos yn syml — ac efallai taw dyna pam y mae’r cynllun mor atyniadol — ond mae gan dynged gynlluniau eraill ar eu cyfer. Prin fod angen cyflwyno Of Mice and Men gan John Steinbeck. Ers y cyflwyniad llwyfan cyntaf ym 1937, bu’r gwaith yn hynod boblogaidd yn y theatr ym Mhrydain. Caiff stori afaelgar a dramatig Steinbeck am ddau ddyn a’u breuddwydion ei hadrodd â dewrder a manylder trawiadol gan Tin Shed Theatre Co, cwmni sy’n ymfalchïo yn ei allu i gyflwyno straeon cyfarwydd mewn ffyrdd newydd. Ffurfiwyd y cwmni yn 2008 gan Justin Cliffe, Georgina Harris a Antonio Rimola. £12/£10

“Mae’r bobl yma’n rhyfeddol ac yn llawn talent a dychymyg. Cadwch lygad ar agor am eu cynhyrchiad nesaf.” Buzz Magazine yn sôn am Operation Blackbox

Mer 12 Chwefror 7.30pm Chwedlau o’r Mabinogi. Daw crefft y cyfarwydd a sgiliau cerddorol disglair at ei gilydd yn y fersiynau unigryw hyn o’r Mabinogi, straeon hynaf Prydain. Mae Daniel Morden yn un o storïwyr mwyaf poblogaidd y DG. Mae Oliver ac ef eisoes wedi swyno cynulleidfaoedd Chapter yn rhan o The Devil’s Violin Company. Daniel Morden — Storïwr Oliver Wilson-Dickson — Ffidil Dylan Fowler – Gitâr Cyflwyniad ar y cyd â Gŵyl Chwedleua Beyond the Border. Cefnogwyd gan Cyngor Celfyddydau Cymru £12/£10/£8 (Oed 11+) www.treeofleafandflame.co.uk

“Meistri ar adrodd straeon.” The Guardian


18

Sinema

029 2030 4400

Nosferatu

SiNEMA


chapter.org

Sinema

19

Bride of Frankenstein

SINEMA

Chapter yn y Tywyllwch: Y Diafol Cariad Hiraeth a grym nerthol yr enaid unig yw thema ein ffilmiau y mis hwn.

YSTAFELLOEDD TYWYLL:

Castell Coch, Sad 1 + Sul 2 Chwefror Castell Caerffili, Sad 8 + Sul 9 Chwefror Ymunwch â ni mewn dau leoliad gwirioneddol ryfeddol wrth i Ystafelloedd Tywyll deithio i Gastell Coch a Chastell Caerffili i barhau â’r rhaglen hon o ddangosiadau safle-benodol. Bydd y straeon hyn am gariad yn llawn cynhesrwydd ond fydd hynny ddim yn ddigon i warchod rhag oerfel y gaeaf yn ystod y dangosiadau awyr agored hyn, felly gwisgwch ddillad cynnes os gwelwch yn dda.

Tangled

Sad 1 + Sul 9 Chwefror UDA/2010/101mun/PG. Cyf: Bryan Howard, Nathan Greno. Gyda: Mandy Moore, Zachary Levi, Donna Murphy.

Mae’r dywysoges hirwallt Rapunzel wedi treulio’i bywyd cyfan mewn tŵr, ond ar ôl iddi syrthio mewn cariad â Bandit sy’n pasio’i thŵr, rhaid iddi fentro am y tro cyntaf i’r byd mawr y tu allan er mwyn dod o hyd iddo. £6

Mae tocynnau ar gael ar ein gwefan www.chapter.org neu o’n swyddfa docynnau 02920 304400. www.darkenedrooms.com

Bride of Frankenstein

Nosferatu

Ar ôl i’r Anghenfil ofyn am gydymaith, rhaid i Henry Frankenstein ddod o hyd i’r fenyw berffaith i’w greadigaeth. Wedi’i wreiddio yn is-blot Mary Shelley, derbyniodd y dilyniant hwn i ffilm Whale, Frankenstein (1931), glod gan y beirniaid a’r cyhoedd ac fe ddywedir yn aml taw’r ffilm hon yw campwaith Whale.

Sad 1 + Sul 9 Chwefror Yr Almaen/1922/94mun/PG. Cyf: FW Murnau. Gyda: Max Schreck, Greta Schroder.

Mae dêl eiddo syml yn arwain gŵr busnes eiddgar i galon ofergoelus bywyd pentrefol, lle mae’r Cownt Orlok arallfydol yn tra-arglwyddiaethu. Mae chwedl fynegiadol swrrealaidd Murnau yn dal i fod yn un o weithiau clasurol traddodiad byd-eang “y ffilm arswyd” ac yn dal i aflonyddu cynulleidfaoedd â’i phŵer hunllefus digamsyniol. Bydd cyfeiliant byw i’r stori gothig hon gan Steepways Sound Collective a fydd yn cynnwys offerynnau acwstig a seiniau wedi’u prosesu. £12/£10

Sul 2 + Sad 8 Chwefror UDA/1935/75mun/PG. Cyf: James Whale. Gyda: Boris Karloff, Elsa Lanchester.

£12/£10

Edward Scissorhands Sul 2 + Sad 8 Chwefror UDA/1990/105mun/12. Cyf: Tim Burton. Gyda: Johnny Depp, Wynona Ryder.

Ar ôl i ddyfeisiwr farw cyn cael cyfle i gwblhau ei greadigaeth, mae’r Edward diniwed yn ei gael ei hun â set o gyllyll miniog ar bob braich. Ar ei ben ei hun mewn plasty sy’n dadfeilio, daw un o fenywod Avon i darfu ar ei fywyd unig ac mae e’n ceisio dysgu sut i fyw bywyd ‘normal’ ymysg pobl sydd yn barnu ar sail nodweddion corfforol yn unig. £6 Agor byd o ffilmiau Gyda chefnogaeth gan Rwydwaith Cynulleidfaoedd Ffilm y BFI www.chapter.org/filmhub


Sinema

029 2030 4400

O’r chwith i’r dde: Night of the Hunter, Her

20

Beth am gymryd eich enaid hoff am bryd o fwyd ac i weld ffilm gothig hyfryd?

Mae pob un o’n ffilmiau San Ffolant (wedi’u nodi â chalon dywyll!) yn rhan o’n pecyn San Ffolant gwych. Am £37.50, gallwch fwynhau dau docyn sinema, pryd o fwyd i ddau a photel o win. (Pris arferol £50).

Destiny — Fritz Lang ♥ Sul 2 Chwefror Yr Almaen/1921/114mun/15. Cyf: Fritz Lang. Gyda: Lil Dagover, Bernhard Goetzke.

Ar ôl taro bargen â’r Angau er mwyn sicrhau atgyfodiad ei gŵr marw, mae menyw ifanc yn cael ei danfon yn ôl i dri chyfnod mewn hanes lle mae’n rhaid iddi chwarae rôl gwraig mewn amgylchiadau tebyg. Os gall hi achub ei chariad, bydd ei bargen yn llwyddo. Hwn oedd archwiliad cyntaf Lang o natur Tynged ac mae’n cyflwyno tri chyfnod cyferbyniol, bob un wedi’i ategu gan gerddoriaeth sy’n cynrychioli natur ddidrugaredd a thywyll Tynged. Bydd HarmonieBand yn cyfeilio ac yn cyflwyno sgôr arbennig a gyfansoddwyd gan Paul Robinson. £12/£10/£8 www.harmonieband.com www.paulrobinsoncomposer.co.uk

Night of the Hunter ♥ Sul 9 — Maw 11 Chwefror UDA/1955/93mun/12A. Cyf: Charles Laughton. Gyda: Robert Mitchum, Shelley Winters, Lillian Gish.

Mae dau ddiniweityn ifanc yn cael eu gadael heb dad ar ôl i Pa, sy’n dwyn o fanciau, gael ei grogi. Fe guddiodd ef ei gyfoeth cyn cael ei arestio a buan y clyw ei gyd-garcharor, yr efengylwr sinistr, Harry Powell, am y trysor. Mae Powell yn hela’r plant fel cath yn chwarae a’i hysglyfaeth; mae perfformiad ffyrnig a bythgofiadwy Mitchum yn rhan o stori dylwyth teg dywyll a beiddgar a fydd yn corddi’ch perfeddion.

Her ♥ Gwe 14 — Iau 20 Chwefror UDA/2013/126mun/15. Cyf: Spike Jonze. Gyda: Joaquin Phoenix, Amy Adams, Scarlett Johansson.

Yn LA yn y dyfodol agos, mae Theodore Twombly yn unig ac yn glaf o gariad ar ôl i’w briodas ddod i ben. Mae e’n gwneud bywoliaeth yn ysgrifennu llythyrau personol ar ran pobl eraill. Ar ôl iddo brynu system weithredu sydd yn diwallu pob un o’i anghenion, maent yn datblygu perthynas annhebygol ac mae eu cyfeillgarwch yn dyfnhau. Stori hyfryd a rhyfedd am gariad modern.

La Belle et La Bête ♥ Sul 16 + Maw 18 Chwefror Ffrainc/1946/99mun/is-deitlau/PG. Cyf: Jean Cocteau. Gyda: Jean Marais, Josette Day, Mila Parely.

Mae masnachwr yn mynd ar goll yn y goedwig ac yn cyrraedd castell rhyfedd. Mae’n plygu i godi rhosyn i’w ferch, Beauty, ac mae hyn yn achosi i berchennog y castell – anghenfil — ymddangos. Yn hanner dyn, hanner bwystfil a chanddo bwerau hud, mae’r anghenfil yn dedfrydu’r masnachwr i farwolaeth, oni ddaw un o’i ferched i gymryd ei le. Mae’r Beauty ifanc yn ei haberthu’i hun er mwyn ei thad ac yn teithio i’r castell. Yno, mae hi’n cael nad yw’r bwystfil mor wyllt ac annynol ag yr ymddengys. Mae Cocteau yn cyflwyno byd rhithiol, meddwol lle mae breuddwydion yn cuddio mewn hunllefau.

The General ♥ Sul 23 + Maw 25 Chwefror UDA/1926/89mun/U. Cyf: Buster Keaton, Clyde Bruckman. Gyda: Buster Keaton, Marion Mack.

Ar ôl cael ei alw’n llwfrgi a’i wrthod gan ei gariad a Byddin y Cydffederalwyr am iddo golli ei locomotif i filwyr yr Undeb, mae’r peiriannydd Johnnie Gray yn mynd ar drywydd lladron y trên. Wedi’i ffilmio ar reilffyrdd cul Oregon, mae’r gwaith clasurol hwn o gyfnod y gomedi fud yn llawn cyffro ac asbri nodweddiadol Keaton.


Sinema

21

Only Lovers Left Alive ♥

The Invisible Woman ♥

Gwe 28 Chwefror — Iau 13 Mawrth

Gwe 28 Chwefror — Iau 6 Mawrth

UDA/2013/123mun/15. Cyf: Jim Jarmush. Gyda: Tilda Swinton, Tom Hiddleston, Mia Wasikowska, John Hurt.

DG/2013/111mun/12A. Cyf: Ralph Fiennes. Gyda: Ralph Fiennes, Felicity Jones, Joanna Scanlan, Kristen Scott Thomas.

Mae’r ffilm ramant fampiraidd hon yn adrodd hanes Adam, fampir hynafol a cherddor tanddaearol sy’n methu ac ymgyfarwyddo â’r byd modern a’r datblygiadau diflas mewn cymdeithas. Ar ôl mynd i chwilio am ei gariad, Eve, cânt eu haduno ond caiff ei ddelfryd ei brofi i’r eithaf gan ei chwaer fach wyllt ac afreolus. Ffilm lawn steil ag iddi drac sain anhygoel a stori gothig aeafol a ‘cool’.

Mae’r athrawes swil Ellen yn cario’i gorffennol fel carreg drom, wedi’i meddiannu gan atgofion am ei hieuenctid pan oedd hi’n adnabyddus fel actores o’r enw Nelly Ternan ac yn caru’n angerddol â dyn llawer hŷn na hi, yr awdur Charles Dickens. Doedd hi ddim yn bosib i’r garwriaeth, a ddatblygodd ar anterth ei enwogrwydd ef, gael ei chydnabod yn gyhoeddus oherwydd rheolau llym eu cymdeithas ormesol, heb sôn am wraig Dickens a’i ddeg o blant. Roedd Nelly, felly, yn gyfrinach yr oedd yn rhaid ei chadw. Â pherfformiadau cain, mae hwn yn ail ffilm bwerus a chynnil gan y cyfarwyddwr, Ralph Fiennes.

O’r chwith i’r dde: Only Lovers Left Alive, The Invisible Woman

chapter.org

Cyflwyniad i Ffilmiau Arswyd

Nosweithiau Llun, 13 Ionawr — 10 Chwefror 7-9pm Ymunwch â’r gwneuthurwr ffilm a’r ffan arswyd, Ben Ewart-Dean, ar gyfer archwiliad dros gyfnod o bum wythnos o themâu a thechnegau ffilmiau arswyd. Bydd pob sesiwn wythnosol yn canolbwyntio ar thema wahanol, o flynyddoedd cynnar ffilmiau arswyd i arswyd gwerin Prydeinig y 1970au, o gyfresi arswyd Americanaidd y 1980au hyd at weithiau arswyd y presennol. Bydd y sesiynau’n cynnwys cyfuniad o ddarlithoedd a thrafodaethau anffurfiol, ynghyd â detholiad o glipiau o glasuron y genre a gweithiau gwych eraill sy’n llai adnabyddus. Erbyn diwedd y cwrs byddwch wedi archwilio rhai o gorneli cudd un o feysydd mwyaf diddorol ac amrywiol astudiaethau ffilm. Cost y cwrs yw £55.00 / £45.00, a bydd aelodau’r cwrs yn gallu prynu tocynnau ar gyfer unrhyw un o ffilmiau tymor Gothig y BFI am bris gostyngol. Gweler ein gwe-fan, www.chapter.org, am fwy o fanylion a chysylltwch, os gwelwch yn dda, â’n swyddfa docynnau i archebu tocynnau.


Sinema

NT Live: Coriolanus

Clwb Ffilmiau Gwael: Bailout

029 2030 4400

NT Live: War Horse

22

Iau 30 Ion + Dangosiad Matinée Encore: Maw 4 Chwefror Cyf: Josie Rourke. Gyda: Tom Hiddleston, Mark Gatiss.

Mae Tom Hiddleston yn chwarae rhan un o gymeriadau mwyaf diddorol Shakespeare — y cadfridog Rhufeinig alltud sy’n gorfod cydweithio â’i elyn er mwyn dial — yn y fersiwn hir-ddisgwyliedig hon o’r ddrama. Mae tocynnau i’r dangosiadau byw yn £17.50/£14/£13 a thocynnau i’r encore wedi’i recordio ymlaen llaw yn £13/£11/£10.

NT Live: War Horse Iau 27 Chwefror Perfformiadau encore ar ddyddiau Sul 16, Maw 18, Sul 30 Mawrth + Sul 13 Ebrill Cyf: Nick Stafford.

Yn seiliedig ar nofel Michael Morpurgo, ac wedi’i haddasu ar gyfer y llwyfan gan Nick Stafford, mae War Horse yn arwain cynulleidfaoedd ar daith ryfeddol o gefn gwlad Dyfnaint i ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf yn Ffrainc. Mae’r cynhyrchiad yn cynnwys pypedau maint llawn gan Handspring Puppet Company o Dde Affrica, sydd yn llwyddo i ddod â cheffylau yn fyw ar y llwyfan. Sioe wedi’i darlledu’n fyw o West End Llundain. Mae tocynnau i’r dangosiadau byw yn £17.50/£14/£13 a thocynnau i’r encore wedi’i recordio ymlaen llaw yn £13/£11/£10.

Sul 2 Chwefror UDA/1989/87mun/15. Cyf: Max Kleven. Gyda: David Hasselhoff, Linda Blair.

Mae David Hasselhoff a Linda Blair yn dod at ei gilydd mewn ffilm am griw o ‘bounty hunters’ sy’n cael eu recriwtio gan ddyn dirgel i warchod tyst mewn achos llys am gyffuriau. Dim cyffro, dim drama, dim doniau actio — ac 87 munud o’ch bywyd na chewch chi mohonyn nhw’n ôl... Nodwch os gwelwch yn dda: Mae’r ffilm yn cynnwys sylwebaeth fyw ar ei hyd.

Chapter Moviemaker Llun 3 Chwefror Cyfle rheolaidd i wneuthurwyr ffilm annibynnol ddangos gweithiau newydd. O bryd i’w gilydd, cyflwynir ffilmiau sy’n cynnwys deunydd anaddas i bobl iau, felly awgrymwn bod sesiynau Moviemaker Chapter yn addas ar gyfer pobl 18+ oed. RHAD AC AM DDIM


chapter.org

Sinema

23

O’r chwith i’r dde: 12 Years a Slave, Mandela: Long Walk to Freedom

CELFYDDYD FFILM

Clwb Ffilm WOW i Ferched Mer 5 Chwefror

12 Years a Slave Gwe 24 Ionawr — Iau 6 Chwefror UDA/2013/134mun/15. Cyf: Steve McQueen. Gyda: Chiwetel Ejiofor, Michael Fassbender, Paul Giamatti, Paul Dano.

Yn seiliedig ar stori wir, a gyhoeddwyd ym 1853, mae Solomon Northup yn ddyn du a anwyd yn rhydd ac sy’n byw yn nhalaith Efrog Newydd yn y cyfnod cyn Rhyfel Cartref America. O’i fywyd braf, fel feiolinydd yn byw gyda’i wraig a’i blant, caiff ei fradychu, ei gipio a’i werthu’n gaethwas i blanhigfa yn Louisiana. Yn y fan honno, rhaid iddo ddysgu celu meddylfryd y dyn rhydd rhag ei berchnogion creulon + Ymunwch â ni am sesiwn Come Along Do, ein trafodaeth reolaidd o gelfyddyd a ffilm gyda Gill Nicol, ar ôl y dangosiad ar ddydd Mawrth 28 Ionawr am 6pm. Mae tocynnau’n £2.50 ac maent ar gael trwy ein swyddfa docynnau ac ar-lein.

“Dogfen amrwd, huawdl, arswydus ac anhepgorol.” Time

Mae’r dangosiadau poblogaidd hyn i ferched yn unig yn cynnig cyfle i weld ffilm ac i sgwrsio â ffrindiau hen a newydd.

Mandela: Long Walk to Freedom DG-De Affrica/2013/152mun/12A. Cyf: Justin Chadwick. Gyda: Idris Alba, Naomie Harris.

Yn seiliedig ar hunangofiant Mandela, mae’r ffilm yn archwiliad sensitif o fywyd cynnar yr ymgyrchwr gwrth-apartheid chwyldroadol. Mae’r ffilm yn croniclo ei daith o’i blentyndod mewn pentref gwledig yng nghanol y Xhosa. Mae’n edrych ar ei addysg a’r modd y cafodd ei radicaleiddio, ac yn ei ddilyn o’i gyfnod fel cyfreithiwr ifanc cegog drwy’r 27 mlynedd a dreuliodd yn y carchar, cyn iddo gael ei urddo’n arlywydd democrataidd cyntaf De Affrica. I gael mwy o fanylion, cysylltwch â Chydlynydd y Clwb Ffilm, Rabab Ghazoul, ar 07759 933311 neu anfonwch e-bost at wowfilmclub@gmail.com. Pris tocyn £3.50, gostyngiadau’n bosib. Gweler cylchgrawn mis Mawrth am fanylion y dangosiadau a’r digwyddiadau arbennig sy’n rhan o Ŵyl Ffilm WOW, 21-27 Mawrth. www.wowfilmfestival.com


Sinema

029 2030 4400

August: Osage County

The Missing Picture

Gwe 31 Ionawr — Iau 13 Chwefror

Gwe 31 Ionawr — Iau 6 Chwefror

UDA/2013/130mun/15. Cyf: John Wells. Gyda: Meryl Streep, Chris Cooper, Julia Roberts, Benedict Cumberbatch.

Cambodia/2013/90mun/is-deitlau/12A. Cyf: Rithy Panh.

August: Osage County

24

Daw merched cryfion teulu Weston, y mae bywyd wedi eu gwahanu, yn ôl at ei gilydd yn ystod argyfwng teuluol sy’n eu harwain yn ôl i’r tŷ yn y Midwest lle cawsant eu magu, ac at y fenyw gamweithredol a’u magodd. Mae cyfrinachau tywyll y teulu yn dod i’r wyneb ar ôl i’r patriarch alcoholig fynd ar goll.

American Hustle Gwe 31 Ionawr — Iau 13 Chwefror UDA/2013/129mun/15. Cyf: David O Russell. Gyda: Bradley Cooper, Christian Bale, Amy Adams, Jennifer Lawrence.

Ffilm sy’n edrych ar un o’r sgandalau mwyaf trawiadol yn hanes America. Mae Irving Rosenfeld yn cael ei orfodi i weithio i asiant FBI gwyllt, Richie DiMaso, ac yn cael ei wthio i fyd o wehilion a maffia Jersey, byd sydd ar y naill law yn hynod beryglus ac ar y llaw arall yn gwbl hudolus. Wedi’i ddal rhwng y drwgweithredwyr a’r Feds, mae Carmine Polito yn wleidydd yn New Jersey — ond gwraig ansefydlog Irving yw’r person sy’n bygwth tynnu popeth yn deilchion o’u cwmpas.

Ym mis Ebrill 1975, pan ddaeth y Khmer Rouge i Phnom Penh, roedd y gwneuthurwr ffilmiau Rithy Panh yn 13 mlwydd oed. Yn sgil y coup milwrol, cafodd cymunedau a theuluoedd eu dinistrio, ynghyd â diwylliant cyfan a’i arteffactau. Heb ffotograffau a chofroddion ei blentyndod, mae Panh yn defnyddio cyfuniad anarferol o ffilm archif ac animeiddio ‘stopmotion’ er mwyn adrodd hanes yr hyn a ddigwyddodd i’w bobl a’i frwydr bersonol ef mewn ffilm ddogfen hypnotig a barddonol. Enillydd Gwobr Un Certain Regard Cannes 2013.

“Mae The Missing Picture yn gosod y sinema yng nghyd-destun hudoliaeth (cyfrwng sy’n gallu trawsffurfio) ac hefyd yng nghyd-destun chwyldro.” Nick McCarthy, Slant

The Patrol Gwe 7 — Iau 13 Chwefror DG/2013/85mun/TiCh. Cyf: Tom Petch. Gyda: Owain Arthur, Nicholas Beveney.

Mae Rhanbarth Helmand yn Affganistan yn un o’r lleoedd mwyaf peryglus ar wyneb y ddaear wrth i’r Fyddin Brydeinig drefnu cyrchoedd i gadarnle’r Taliban. Mae patrôl y fyddin Brydeinig yn ceisio cadw trefn dan amodau cynyddol anodd. Wedi’i ffilmio’n gelfydd, mae’r ffilm yn astudiaeth bwerus wedi’i hysgrifennu a’i chyfarwyddo gan Petch, a dreuliodd wyth mlynedd yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog, gan gynnwys sawl taith i Fosnia.


chapter.org

Sinema

25

Sine Ffonig

Inside Llewyn Davis

““Er mwyn cyflawni pethau mawrion mae angen dau beth: cynllun a dim digon o amser.” Leonard Berstein

Inside Llewyn Davis Iau 7 – Iau 20 Chwefror UDA/2012/105mun/15. Cyf: Ethan & Joel Coen. Gyda: Oscar Isaac, John Goodman, Carey Mulligan.

Mae Llewyn Davis wedi cyrraedd croesffordd. Gyda’i gitâr a’i gath yn gwmni, ac yng nghyd-destun gaeaf caled Efrog Newydd ym 1961, mae e’n brwydro i wneud gyrfa fel cerddor ar sîn werin Greenwich Village ac yn wynebu rhwystrau sydd fel petaent yn anorchfygol – a rhai ohonynt yn rhwystrau o’i wneuthuriad ei hun. Yn byw ar drugaredd ffrindiau a dieithriaid fel ei gilydd, ac yn gweithio pan all, mae Llewyn yn symud rhwng tai y Village a chlwb gwag yn Chicago — ac yn mynd ar daith i berfformio o flaen ‘mogul’ cerddorol. + Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael ar ddydd Llun 10 Chwefror (nodwch os gwelwch yn dda y gallai’r dyddiad hwn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau.)

Noys R Us yn The Full Moon Mae Sinema Chapter, ar y cyd â The Full Moon, yn cyflwyno noson ffilm Noys R Us. Unwaith y mis byddwn yn dangos y ffilmiau alt / roc / metel / pync gorau. Yfwch, ymlaciwch a gwyliwch rai o’r ffilmiau cerddorol mwyaf ffrwydrol erioed.

Anvil! The Story of Anvil Llun 24 Chwefror Drysau’n agor am 7pm, ffilm am 8pm DG/2008/80mun/15. Cyf: Sacha Gervasi.

Ers 1978, bu Anvil yn un o fandiau metel mwyaf dylanwadol y sîn — ac eto d’yn nhw ddim wedi llwyddo’n fasnachol. Mae’r ffilm ddogfen hon yn dilyn y band wrth iddyn nhw fynd ati i recordio eu trydydd albwm ar ddeg a pharhau i ddilyn eu breuddwydion. Astudiaeth drist a chynnes am ymrwymiad, angerdd a’r egni sydd ei angen i lwyddo waeth beth fo’r gost. Mae Anvil: The Story of Anvil yn dal y berthynas rhwng yr aelodau gwreiddiol, Lips a Rob, a’u helyntion wrth iddyn nhw geisio cyrraedd eu nod o fod yn sêr roc. Mae hi’n freuddwyd sydd mor fyw i’r dynion 50 oed ag yr oedd hi pan oedden nhw yn eu harddegau. Pa un ai ydych chi’n ffan o’r gerddoriaeth ai peidio, mae ‘Anvil: The Story of Anvil’ yn stori wych am gyfeillgarwch, colled a’r awydd hollgynhwysol i lwyddo. Mae tocynnau’n £5 a gellir eu prynu drwy www.chapter.org a The Full Moon


Sinema

029 2030 4400

Kill Your Darlings

Dallas Buyers Club

Gwe 14 — Iau 27 Chwefror

Gwe 21 Chwefror — Iau 6 Mawrth

UDA/2103/104mun/15. Cyf: John Krokidas. Gyda: Ben Foster, Daniel Radcliffe.

UDA/2013/117mun/15. Cyf: Jean-Marc Vallée. Gyda: Matthew McConaughey, Jennifer Garner, Jared Leto.

Yn ei flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Columbia ym 1944, mae’r bardd Allen Ginsberg yn cwrdd â Lucien Carr y mae ei safbwyntiau angerddol ar gelfyddyd a bywyd yn arwain y bardd ifanc i fyd tanddaearol llenyddol cyffrous ac amgen. Maen nhw’n cwrdd â David Kammerer — dyn hŷn obsesiynol y mae ei serch at Carr yn arwain at drasiedi. Y digwyddiad hwn oedd y ffrwydrad a fyddai’n uno aelodau’r mudiad — Ginsberg, Jack Kerouac a William S. Burroughs — ac yn eu gwthio ar eu teithiau unigol. Golwg feddwol a chyfareddol ar rythm cenhedlaeth y Beats.

Mae byd y cowboi homoffobig o Decsas, Ron Woodruff, yn cael ei droi wyneb i waered ar ôl iddo glywed bod HIV arno — a taw deg diwrnod ar hugain yn unig sydd ganddo i fyw. Wedi’i syfrdanu a’i wrthod gan ei hen gyfeillion, mae e’n chwilio am rywbeth, unrhyw beth, i’w gadw’n fyw. Ar ôl smyglo meddyginiaeth anghyfreithlon dros y ffin o Fecsico, mae’n dechrau cyfeillgarwch annisgwyl â brenhines drag o’r enw Reion. Maen nhw’n cydweithio er mwyn gwerthu triniaethau i’r nifer cynyddol o gleifion HIV ac AIDS sy’n cael eu hesgeuluso gan y sefydliad meddygol ac yn dod o hyd i urddas a nerth wrth iddyn nhw frwydro i gael eu derbyn. Stori wir fythgofiadwy am bŵer trawsnewidiol yr awydd i oroesi sy’n cynnwys perfformiadau tanllyd a sgript finiog.

O’r chwith i’r dde: Kill Your Darlings, Dallas Buyers Club

26

“Archwiliad hardd o wir ystyr ysbrydoliaeth.” Damon Wise, Empire

Out of the Furnace Gwe 14 — Mer 26 Chwefror UDA/2013/116mun/15. Cyf: Scott Cooper. Gyda: Casey Affleck, Christian Bale, Forest Whitaker.

Mae Russell a’i frawd iau, Rodney ,yn byw yn ardal dlawd y Rust Belt ac yn breuddwydio am ddianc i fywyd gwell. Ar ôl tro creulon, mae Russell yn ei gael ei hun yn y carchar ac fe gaiff ei frawd ei hun yn rhan o un o grwpiau troseddol mwyaf treisgar a didostur y Gogledd Ddwyrain. Ar ôl iddo gael ei ryddhau, rhaid i Russell ddewis rhwng ei ryddid ei hun neu geisio cyfiawnder i’w frawd. Ffilm gyffro afaelgar a garw am dynged a chyfiawnder sy’n cynnwys perfformiadau grymus.

Ymunwch â ni ar ôl y dangosiad ar ddydd Mawrth 25 Chwefror ar gyfer cyfarfod o grŵp trafod ffilm LGBT Chapter. Ar y cyd â Mis Hanes LGBT.

“Yn Dallas Buyers Club mae Matthew McConaughey yn chwarae rôl sydd yn sicr o blesio aelodau Academi’r Oscars.” The Telegraph

The Wolf of Wall Street Gwe 21 — Gwe 28 Chwefror UDA/2013/165mun/18. Cyf: Martin Scorsese. Gyda: Leonardo DiCaprio, Jon Favreau, Jonah Hill.

Stori wir Jordan Belfort: mae ganddo long a arferai berthyn i Coco Chanel, cariad sy’n fodel, champagne sy’n llifo’n ddi-baid a chyfoeth rhyfeddol. Roedd ei ddatblygiad — a’i gwymp — ar Wall Street yn cynnwys twyll, y maffia, llygredd a’r llywodraeth ffederal. Drama drosedd gyffrous gan Scorsese a DiCaprio’n pefrio yn y brif ran.


chapter.org

Sinema

27

Ffilmiau i’r Teulu Cyfan Noddir gan Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk 02920 666688

The Hunger Games: Catching Fire

Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn. Archebwch ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Carry on Screaming!

Bob dydd Gwener am 11am, mae Carry On Screaming yn galluogi i rieni neu ofalwyr weld ffilm heb orfod poeni y bydd eu babi’n aflonyddu ar eraill. Gweler y calendr am fanylion y dangosiadau arbennig hyn i bobl â babanod blwydd oed neu iau.

The Harry Hill Movie

Sad 1 — Sul 2 + Mer 26 + Gwe 28 Chwefror DG/2013/88mun/PG. Cyf: Steve Bendelack. Gyda: Harry Hill, Julie Walters, Simon Bird.

Dw i’n hoff iawn o’r rhaglen Harry Hill’s TV Burp a dw i’n hoffi’r ffaith ei fod e wedi gwneud ffilm. Ond pa un yw’r gorau? Dim ond un ffordd sydd yna i ateb y cwestiwn...”FIGHT”!!!

Moshi Monsters: The Movie (2D) Sad 8 — Sul 9 + Maw 25 + Iau 27 Chwefror

DG/2013/81mun/U. Cyf: Wip Vernooij, Morgan Francis. Gyda: Keith Wickahm.

Ymunwch â Katsuma, Poppet, Mr Snoodle a’r Moshi Monsters eraill mewn ffilm lawn cyffro a chanu wrth iddyn nhw rasio i geisio atal y Dr Strangeglove drwg a’i gynorthwy-ydd di-glem, Glump.

The Hunger Games: Catching Fire Gwe 14 — Sul 16 Chwefror

UDA/2013/146mun/12A. Cyf: Francis Lawrence. Gyda: Jennifer Lawrence, Josh Hutcherson.

Mae’r Capitol yn targedu Katniss Everdeen a Peeta Mellark ar ôl i’w buddugoliaeth yn Hunger Games Rhif 74 danio gwrthryfel yn Panem.

The Hobbit: The Desolation of Smaug Sad 22 + Sul 23 Chwefror

Seland Newydd/2013/161mun/12A. Cyf: Peter Jackson Gyda: Martin Freeman, Benedict Cumberbatch, Ian McKellen

Mae Bilbo Baggins, sydd bellach yn meddu ar fodrwy hud, yn teithio gyda Gandalf a’r corachod er mwyn ceisio adennill Erebor, teyrnas goll y corachod, gan Smaug, y ddraig.

Ystafelloedd Tywyll Ymunwch â ni mewn dau leoliad gwirioneddol ryfeddol wrth i Ystafelloedd Tywyll deithio i Gastell Coch a Chastell Caerffili i barhau â’r rhaglen hon o ddangosiadau safle-benodol. Fe allai hi fod yn oer iawn felly gwisgwch ddillad cynnes. Mae tocynnau ar gyfer dangosiadau i deuluoedd yn £6 ac maent ar gael ar ein gwefan www.chapter.org neu yn ein swyddfa docynnau, 02920 304400. Trowch i dudalen 19 am fwy o wybodaeth am ein Ffilmiau Ystafelloedd Tywyll eraill.

Tangled

Sad 1 + Sul 9 Chwefror UDA/2010/101mun/PG. Cyf: Bryan Howard, Nathan Greno. Gyda: Mandy Moore, Zachary Levi, Donna Murphy.

Mae’r dywysoges Rapunzel wedi treulio’i bywyd cyfan mewn tŵr, ond ar ôl iddi gwympo mewn cariad â bandit, rhaid iddi fentro am y tro cyntaf i’r byd mawr y tu allan er mwyn dod o hyd iddo.

Edward Scissorhands Sul 2 + Sad 8 Chwefror

UDA/1990/105mun/12. Cyf: Tim Burton. Gyda: Johnny Depp, Wynona Ryder.

Ar ôl i ddyfeisiwr farw cyn cael cyfle i gwblhau ei greadigaeth, mae’r Edward diniwed yn ei gael ei hun â set o gyllyll miniog ar bob braich. Ar ei ben ei hun mewn plasty sy’n dadfeilio, daw un o fenywod Avon i darfu ar ei fywyd unig.


28

Addysg

029 2030 4400

ADDYSG

Animeiddio i Bobl Ifainc Dyddiau Mawrth rhwng 21 Ionawr a 25 Mawrth 6 — 7.30pm Os ydych chi rhwng 12 a 18 oed ac yn awyddus i ddysgu neu ddatblygu sgiliau animeiddio sylfaenol, a defnyddio iPads, gliniaduron a chamerâu fideo, nodwch eich diddordeb yn ein dosbarthiadau animeiddio rheolaidd, i’w cynnal ar nosweithiau Mawrth. Gallwch archebu lle ar gyfer un sesiwn neu ar gyfer pob un, ond bydd nifer y lleoedd yn gyfyngedig. Gyda chefnogaeth gan elusen Plant mewn Angen, mae’r sesiynau hyn wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer pobl ifainc a chanddynt anghenion addysgol arbennig, ac ar gyfer pobl ifanc ar sbectrwm awtistiaeth. I gael mwy o wybodaeth anfonwch e-bost at learning@chapter.org

Diwrnod Gweithgareddau Ffilm Hanner-Tymor Mer 26 Chwefror 9am — 5pm Addas i bobl ifainc 12-15 oed Ymunwch â’n Swyddog Dysgu a Chyfranogi, Matt Beere, ar gyfer dangosiad o The Hobbit: The Desolation of Smaug, wedi’i ddilyn gan gyfres o weithgareddau a fydd yn archwilio byd ‘Middle Earth’ mewn modd hwyliog a rhyngweithiol. £20 y pen. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Angen pecyn cinio. I archebu lle, ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 304400 neu anfonwch e-bost at learning@chapter.org

Ffilm yn Afan: Academi Ffilm Deuluol

Canolfan Gymunedol Croeserw Sad 15 Chwefror 10am — 2pm

Yn rhan o’n cefnogaeth barhaol i’r prosiect ‘Ffilm yn Afan’ yng Nghwm Afan, byddwn yn cyflwyno ‘Academi Ffilm Deuluol’, cyfle i bobl ifainc a’u perthnasau hŷn ddysgu am ffilm gyda’i gilydd. Bydd dangosiad a gweithdy rhyngweithiol mis Chwefror yn canolbwyntio ar Hanes Sinema.

Gweithio gyda’r rheiny sydd mewn perygl o droseddu Llun 24 — Gwe 28 Chwefror 10am — 3pm Bydd Chapter yn parhau â’i rhaglen o weithdai i bobl ifainc sydd mewn perygl o droseddu yn ystod gwyliau hanner-tymor. Ar y cyd â Thîmau Troseddwyr Ifainc lleol, byddwn yn cyflwyno wythnos o weithdai wedi’u seilio ar waith yn yr Oriel ac yn gwahodd pobl ifainc i ymateb yn greadigol i’n harddangosfa gyfredol, ‘3am: wonder, paranoia and the restless night’.

I ddod yn fuan: Animeiddio i Oedolion Dewch i ddysgu sut i animeiddio y gwanwyn hwn! Dewch i ddysgu crefft newydd ar y cwrs Animeiddio i Ddechreuwyr hwn i Oedolion yn Chapter, sy’n dechrau ym mis Ebrill 2014. Gallwch arbrofi â gwahanol dechnegau animeiddio fel darlunio, torri allan, ‘stopmotion’, peintio ar wydr ac animeiddio tywod, a phrofi’r hud o weld pethau’n dod yn fyw o flaen eich llygaid. Arweinir y cwrs gan animeiddiwr proffesiynol gwobrwyol o Winding Snake Productions a bydd yn para am chwe wythnos. I gael mwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at hello@windingsnake.com I weld manylion ein sgyrsiau a’n digwyddiadau yn yr Oriel, trowch i dudalen 5 os gwelwch yn dda.


chapter.org

Bwyta Yfed Llogi

29

BWYTA YFED LLOGI

Pop Up Produce Bob dydd Mercher 4 — 7pm Mae ein marchnad dros dro reolaidd yn cynnwys cynhyrchwyr bwyd lleol sy’n gwerthu bwydydd blasus a chrefftus. Mae Charcutier Ltd yn cynnig y cigoedd gorau wedi’u halltu a’u mygu o Brydain, Ewrop a Gogledd America, mae Sourdough Bakery yn cynnig bara crefftus hyfryd ac, i’r nifer yn eich plith y mae hoffter o bethau melys yn wendid digamsyniol, bydd Your Indulgence yn cynnig cacennau, melysion a siocledi cartref arbennig.

Llogi Mae nifer o leoedd a chyfleusterau ar gael i’w llogi yn Chapter, ac fe ddefnyddir y rhain yn rheolaidd gan gymysgedd eclectig o ddosbarthiadau dydd a nos. Edrychwch ar ein gwe-fan neu codwch daflen yn y swyddfa docynnau i weld yr hyn sydd ar gael. Ac os ydych chi’n chwilio am ystafell ar gyfer parti, cyfarfod, cynhadledd, neu er mwyn ffilmio fideo, ar gyfer ymarferion neu weithgareddau tîm, bydd ein cyfleusterau arloesol, ein gwybodaeth dechnegol a’n staff cyfeillgar ar gael i’ch helpu chi i greu digwyddiad cyffyrddus, unigryw a chofiadwy. Bydd rheolwr ein caffi hefyd yn gallu cynnig amrywiaeth o opsiynau arlwyo ar gyfer eich digwyddiad. Os oes gennych gwestiynau ynglŷn â llogi neu os hoffech chi fwy o wybodaeth, rhowch ganiad i Nicky, rheolwr y gwasanaeth llogi, ar 029 2031 1050/58 neu anfonwch e-bost at nicky.keeping@chapter.org

I ddod yn fuan

Sup ‘n’ Scran Gŵyl Gwrw Swydd Efrog Mis Mawrth, dyddiad i’w gadarnhau Bob blwyddyn rydym yn hoffi cynnal gŵyl sy’n dathlu archwaeth a bwydydd gwahanol ranbarthau Prydain. Yn 2012, cynhaliwyd Gŵyl Hopscotch, a oedd yn cynnwys amrywiaeth eang o gwrw a chwisgi o’r Alban. Y llynedd, tro Cernyw oedd hi ac roedd ein Gŵyl Peint a Phastai, ‘Perrantide’, yn llwyddiant ysgubol. Yn 2014, rydym wedi penderfynu cynnig blas ar Swydd Efrog i chi. Nid yw’r rhestr gwrw wedi’i chwblhau eto — am fod gan Swydd Efrog ryw 120 o fragdai! — ond gallwch fod yn sicr y byddwn yn cynnig sawl cwrw nad ydyn nhw i’w gweld yn y parthau deheuol hyn fel arfer. O ran bwyd, mae Swydd Efrog yn enwog am brif gyrsiau swmpus a chyfoethog, ynghyd â phwdinau melys, gludiog (ydych chi wedi blasu Parkin Cake?) — a byddwn yn cynnig ein fersiynau ni o’r prydau hyn ar fwydlen yr ŵyl. Felly, os ydych chi’n teimlo’n ‘parky’ ym mis Mawrth, dewch draw i flasu peth o luniaeth ein cymdogion Gogleddol. O.N. Bydd yna waharddiad llwyr ar yr arfer o ‘ferretlegging’ (chwiliwch ar y we...).


30

Archebu / Gwybodaeth

029 2030 4400

GWYBODAETH Sut i Archebu Tocynnau

Gwybodaeth

Dros y ffôn — ffoniwch ni ar 029 2030 4400. Rydym yn derbyn pob un o’r prif gardiau credyd. Galwch heibio — mae ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 11am-8.30pm, ac ar y Sul o 3pm–8.30pm. Ar-lein: Gallwch archebu ar www.chapter.org bob awr o’r dydd a’r nos Consesiynau: Mae cyfraddau disgownt ar gael i fyfyrwyr, pobl dros 60 oed, plant, y di-waith, pobl anabl, deiliaid cerdyn MAX ac i Ffrindiau Chapter a deiliaid Cerdyn Chapter. Bydd angen i chi gyflwyno prawf o’ch cymhwyster i dderbyn cyfradd ostyngol. Archebion grŵp: Prynwch 8 tocyn ac fe gewch chi’r 9fed yn RHAD AC AM DDIM. Noder os gwelwch yn dda • dim ond un disgownt y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw un adeg • rydym yn hapus i dderbyn archebion ymlaen llaw ond ni allwn gadw tocynnau i’r naill ochr • os cyrhaeddwch chi’n hwyr mae hi’n bosib y cewch chi’ch atal rhag mynychu eich digwyddiad. Cyflwynir rhai o’n ffilmiau â Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ond nid yw’r wybodaeth hon bob amser ar gael ar adeg argraffu’r cylchgrawn. Gweler ein gwe-fan am fanylion neu piciwch draw i’r Swyddfa Docynnau yn ystod yr wythnos y mae’r ffilm yn cael ei rhyddhau.

Cwmnïau ac Artistiaid Cysylltiedig Mae Chapter yn gartref i gwmnïau theatr, cwmnïau dawns, stiwdios animeiddio, gwneuthurwyr printiau, crochenwyr, dylunwyr graffeg, dylunwyr deunydd symudol, cyfansoddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, cyhoeddwyr cylchgronau, artistiaid annibynnol a llawer iawn mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Sinema Cyn 5pm O 5pm ymlaen Llawn £4.50 (£4.00) £7.90 (£7.20) Cons £3.50 (£3.00) £5.80 (£5.10) Cerdyn + Cons £3.00 (£2.50) £5.00 (£4.50) DISGOWNT DYDD MAWRTH Tocynnau’r holl brif ddangosiadau — £4.40

Ar Fws Mae bysus rhif 17, 18 a 33 yn aros gerllaw ac yn gadael bob pum munud o ganol y ddinas.

Gweithdai a Dosbarthiadau Rydym yn cynnal amrywiaeth eang o weithdai dyddiol a dosbarthiadau gydag ymarferwyr annibynnol, gan gynnwys bale, zumba, ioga, crefft ymladd, massage i fabanod, cerddoriaeth i blant, pilates, tango, fflamenco, ysgrifennu creadigol, gwersi cerddoriaeth a mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Sut i gyrraedd Chapter Sut i gyrraedd Chapter Fe ddewch chi o hyd i ni yn Nhreganna, i’r gorllewin o ganol y ddinas. Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE Ar Droed Mae hi’n daith gerdded hamddenol o ryw 20 munud o ganol y ddinas.

Ar Feic Mae digon o raciau beic ar flaen yr adeilad. Parcio Mae gennym faes parcio yng nghefn yr adeilad ac mae meysydd parcio lleol eraill wedi eu nodi ar y map uchod. Gofynnwn i chi barchu ein cymdogion os gwelwch yn dda drwy osgoi parcio mewn strydoedd cyfagos.

Prisiau ymlaen llaw/ar-lein mewn cromfachau. Mae “Ymlaen llaw” yn golygu unrhyw bryd cyn diwrnod y dangosiad.

aff nd Lla

Springfield Pl.

ad

mC ha cen res

Ha m i l t o n

St

t

Gr

King’s Ro

nd Wy

ane

Road

L Gray

. Library St

St. ay

Canton

Le c h kwit

Church Rd.

Heol Ddwy rein i o l y B o n t F a en Penllyn Rd.

Harve

St Talbot

Orc h a r d P l.

rn Seve

St. Gray M a rk e t P l .

treet yS

e St. Glynn

d Roa

d hna arc lyF

Heo

o 6pm

rt S

t.

Road

Earle Pl.

A l be

P — meysydd parcio rhad ac am ddim — rac feics  — safle bws

ad r Ro Majo

I Ganol Dinas Caerdydd to n ling Wel

et Stre

Mynediad i bawb Mae Chapter yn croesawu ymwelwyr anabl. Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad penodol ffoniwch ein swyddfa docynnau ar 029 2030 4400, minicom 029 2031 3430.


chapter.org

Cymryd Rhan

31

CYMRYD RHAN Cerdyn CL1C

Cadwch mewn cysylltiad

Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawrlwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Ymunwch â ni ar-lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

Ffrindiau Chapter

eAmserlen rad ac am ddim eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch adam.chard@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.

Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40

Hoffai Chapter gydnabod cefnogaeth hael y sefydliadau a’r grwpiau canlynol:

Landfill Community Fund Esmée Fairbairn Foundation EU Culture Programme The Baring Foundation Garfield Weston Foundation Foyle Foundation Biffa Award Colwinston Charitable Trust Admiral Group plc Moondance Foundation Foundation for Sport and the Arts Trusthouse Charitable Foundation Community Foundation in Wales BBC Children in Need The Welsh Broadcasting Trust SEWTA Richer Sounds

The Clothworkers’ Foundation Momentum The Henry Moore Foundation Google Jane Hodge Foundation Simon Gibson Charitable Trust People’s Postcode Trust Dunhill Medical Trust Legal & General Institut für Auslandsbeziehungen e.V Millennium Stadium Charitable Trust The Ernest Cook Trust Lloyds TSB Morgan Signs Garrick Charitable Trust Barclays Arts & Business Cymru

Penderyn The Austin & Hope Pilkington Trust Singapore International Foundation Puma Hotels Collection: Cardiff Angel Hotel Cardiff Airport Wales Arts International Gibbs Charitable Trust Ceredigion Community Scheme The Steel Charitable Trust The Boshier-Hinton Foundation Oakdale Trust Nelmes Design The Coutts Charitable Trust Bruce Wake Charity Funky Monkey Feet

Finnis Scott Foundation Unity Trust Bank Hugh James Contemporary Art Society for Wales The Dot Foundry JVH Gidden & Rees Western Power Distribution Follett Trust Arts & Kids Cymru Canton High School Girl’s Reunion Co-operative Group IKEA Renault Cardiff Embassy of Belgium Queensland Government


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.