029 2030 4400
@chaptertweets
chapter.org
Celfyddyd
029 2030 4400
Artes Mundi 7 Tan ddydd Sul 26 Chwefror 2017
Rydym yn falch iawn o fod yn un o leoliadau partner arddangosfa Artes Mundi 7. Mae Chapter yn cyflwyno gweithiau gan yr artistiaid o fri rhyngwladol, Nรกstio Mosquito, Bedwyr Williams a Lamia Joreige. Bydd yr arddangosfa hefyd yn meddiannu adain celfyddyd gyfoes yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd. Cafodd rhestr fer Artes Mundi 7 ei dewis gan Elise Atangana, curadur annibynnol ym Mharis a Cameroon, Alistair Hudson, Cyfarwyddwr Sefydliad Celfyddyd Fodern Middlesbrough a Marie Muracciole, Cyfarwyddwr Canolfan Gelfyddyd Beirut. Mae'r arddangosfa'n cynnwys gwaith gan John Akomfrah, Neil Beloufa, Amy Franceschini / Futurefarmers, Lamia Joreige, Nรกstio Mosquito a Bedwyr Williams. I gael mwy o wybodaeth ewch i www.artesmundi.org.
Nรกstio Mosquito, Transitory Suppository: Act #II No.Pruritus. No.Ani, 2016
02
chapter.org
Celfyddyd
03
Artes Mundi 7 yn Chapter
Nástio Mosquito Ag elfennau o berfformio, fideo, cerddoriaeth, barddoniaeth, gosodwaith, athroniaeth a chelfyddyd ddigidol, mae gwaith Mosquito yn llawn egni a brwdfrydedd. A gwreiddiau’r artist yn y diwydiant darlledu (fel cyfarwyddwr a gŵr camera), mae ei waith yn ddadleuol a ffraeth ac yn mynegi awydd i ymwneud â realiti ar bob lefel. Bydd arddangosfa Nástio Mosquito ar gyfer Artes Mundi 7 yn cynnwys gosodwaith clyweledol newydd o'r enw Transitory Suppository: Act#I Another Leader (2016). Mae'r darn yn edrych ar yr atebion hurt ac unigryw a gynigir gan wlad ffuglennol sydd yn ceisio goresgyn problemau economaidd er mwyn dod yn bŵer byd-eang. Daw'r artist i ganol y llwyfan er mwyn ymgorffori'r arweinydd despotig mewn arddangosfa dywyll sydd yn ddoniol a pherthnasol.
Bedwyr Williams: Tyrrau Mawr, 2016 Mae gwaith Bedwyr Williams yn tynnu ar ei brofiadau ei hun, gan amlygu ac archwilio'r berthynas rhwng y marwol ddifrifol ac agweddau mwy cyffredin ar ein bywyd cyfoes. Ar gyfer Artes Mundi 7, mae Bedwyr wedi creu dinas ffuglennol o gwmpas mynydd Cader Idris yng Ngogledd Cymru. Mae’r ddinas wedi ei hysbrydoli gan fega-ddinasoedd ledled y byd — mannau sy’n gartref i boblogaethau ehangol ac sydd yn cynrychioli uchelgais cynyddol gwladwriaethau ar adegau o ffyniant economaidd. Mae’r ffilm, Tyrrau Mawr, i’w gweld yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd ac mae Bedwyr hefyd wedi creu gwaith i gyd-fynd â honno ar gyfer Caffi Bar Chapter. Mae'r diptych sylweddol hwn o ddydd a nos (wedi'i dynnu o'r ffilm) yn cyfeirio at dechnegau paentio ‘matte’, techneg a ddefnyddir mewn ffilmiau i greu rhith ar ffilm o fydoedd y byddai hi fel arall yn rhy ddrud, neu'n amhosib, i'w hadeiladu.
Lamia Joreige Mae Lamia Joreige yn defnyddio deunydd archif ac elfennau ffuglennol i ystyried y berthynas rhwng storïau unigol a hanes cyfun. Mae ei gwaith yn ystyried y posibilrwydd o gynrychioli'n llwyddiannus ryfeloedd Libanus a chanlyniadau'r rhyfeloedd hynny i ddinas Beirut yn arbennig. Mae'r ddinas honno yn ganolog i ddelweddaeth yr artist. Ar gyfer Artes Mundi 7, bydd Joreige yn arddangos gwaith yn Chapter ac yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd. Bydd Chapter yn cyflwyno première y gwaith diweddaraf ym mhrosiect parhaus yr artist ‘Under-Writing Beirut — Nahr (The River), 20132016’, darn o’r enw ‘After the River’. Yn y gwaith hwn, mae Joreige yn archwilio ardaloedd trefol a mannau eraill o gwmpas yr afon ar ffin ddwyreiniol Beirut. Mae'r gwaith yn ystyried prosesau ymfudo, boneddigo a syniadau am ffiniau a’r tirwedd. Dangosir elfennau eraill o ‘Under-Writing Beirut — Nahr’ yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd.
Dangosiadau Ffilm Artes Mundi 7 The Stuart Hall Project
Century Egg + Echt
Sad 3 Rhagfyr 2pm
Sad 17 Rhagfyr 2.30pm
DG/2013/123mun/12A. Cyf: John Akomfrah.
Cumru/2014-2015/40mun/dim tyst. Cyf: Casey Raymond, Ewan Jones Morris
Mae Stuart Hall yn un o ddamcaniaethwyr diwylliannol mwyaf dylanwadol ei genhedlaeth. Yn feddyliwr a sylwebydd, mae ei gyfoedion yn cynnwys rhai o gewri eraill sylwebaeth wleidyddol — pobl fel Noam Chomsky, Susan Sontag, Alan Ginsberg, Michel Foucault a Gore Vidal. Mae’r ffilm fawreddog hon yn arwain y gwyliwr ar daith wyllt drwy gynnwrf, brwydrau a throbwyntiau’r 20fed ganrif — canrif o ymgyrchu ac o newidiadau gwleidyddol a diwylliannol byd-eang.
Mae Echt yn olwg ar ddyfodol dystopaidd lle mae system ffiwdal wedi rhannu’r wlad rhwng penaethiaid newydd. Yn y byd newydd hwn, lle mae statws yn seiliedig ar berchnogaeth amlwg, y casglwr sydd deyrn. Mae’r brenhinoedd hyn wedi sefydlu llysoedd newydd mewn hen neuaddau dawns a chlybiau, a’r rheiny’n llawn o gymeriadau cain Bedwyr. Cwblhawyd y gwaith gyda chydweithrediad yr hynod dalentog Casey Raymond ac Ewan Jones-Morris. Roedd Echt, yn y lle cyntaf, yn rhan o osodiad mwy yn Tramway, Glasgow, yn rhan o Ŵyl GI y ddinas honno.
04
Art
029 2030 4400
chapter.org
Cymryd Rhan
05
CYMRYD RHAN Cerdyn CL1C
Cadwch mewn cysylltiad
Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawr–lwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!
Ymunwch â ni ar–lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.
Ffrindiau Chapter Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40
eAmserlen rad ac am ddim eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E–bostiwch megan.price@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e–bost.
Cynllun Myfyrwyr Chapter Ydych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth am ddim a manteisio ar gynigion arbennig nodedig, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Jennifer — jennifer.kirkham@chapter.org www.chapter.org/cy/myfyrwyr
Rydym yn falch o fod yn rhan o Hynt. www.hynt.cymru Hoffai Chapter gydnabod cefnogaeth hael y sefydliadau a’r grwpiau canlynol:
Noddir Theatrau Chapter gan rodd David Seligman er cof am Philippa Seligman Noddwyr a Chefnogwyr Sefydliad Esmée Fairbairn Cronfa Gymunedol Tirlenwi Cyngor Celfyddydau Lloegr Cronfa Fawr y Loteri Sefydliad Moondance Sefydliad Garfield Weston Sefydliad Foyle Gwobr Biffa Sefydliad Baring Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston Grŵp Admiral Cyf Creative Scotland Viridor Y Sefydliad ar gyfer Chwaraeon a’r Celfyddydau Sefydliad Elusennol Trusthouse QIAMEA
Plant mewn Angen y BBC Waitrose Yr Ymddiriedolaeth Ddarlledu Gymreig Ymddiriedolaeth Ynni Gwyrdd ScottishPower Sefydliad Waterloo SEWTA Tesco WRAP Sefydliad Henry Moore Sefydliad Clothworkers Sefydliad Jane Hodge Celfyddydau & Busnes Cymru Legal & General Ymddiriedolaeth Feddygol Dunhill Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson Lloyds
Maes Awyr Caerdydd Google Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm Gwesty’r Angel Aston Martin Celfyddydau Rhyngwladol Cymru Ymddiriedolaeth Loteri’r Cod Post Ymddiriedolaeth Elusennol Garrick Ymddiriedolaeth Ernest Cook Ymddiriedolaeth Austin a Hope Pilkington Sefydliad Boshier-Hinton Barclays Cwmni Plastig Dipec Ymddiriedolaeth Elusennol Gibbs
Ymddiriedolaeth Elusennol Steel Ymddiriedolaeth Elusennol Coutts Sefydliad Finnis Scott Llysgenhadaeth Gwlad Belg Ymddiriedolaeth Oakdale Nelmes Design Elusen Bruce Wake Western Power Distribution Ymddiriedolaeth Elusennol Deymel John Lewis Cronfa’r Cooperative RWE Taylor Wimpey Y Celfyddydau Gwirfoddol Cwmni Dur Tata Asda
A’r holl unigolion hynny sydd wedi ein cefnogi ni’n hael drwy gydol y gwaith ailddatblygu a thu hwnt
06
Perfformiadau
029 2030 4400
CHIPPY LANE PRODUCTIONS
Love Steals Us From Loneliness “Say you’re getting a bit frisky at the end of a night. With us you hop up on the pole and bust your moves. But they got none of that up the valleys. They want to pole dance, they’ve gotta go out into the street and do it round a street lamp. And that always causes ructions cos half of them worship electricity as a god so it’s like desecrating a holy shrine!”
Gary Owen yw un o ddramodwyr pennaf Cymru ac awdur Iphigenia in Splott, a gafodd lwyddiant ysgubol yn y National Theatre a Violence & Son yn Theatr y Royal Court. Ymunwch â ni am berfformiad o un o weithiau cynnar Owen, Love Steals Us from Loneliness, stori bwerus, ffraeth a thywyll am ei dref enedigol, Pen-y-bont ar Ogwr. Mentrwch i gorneli tywyll bywyd a byddwch yn barod i ystyried cariad, colled, galar, a pha un ai ydych yn “Townie” neu’n “Valley Commando”. £12 / £10 Oed 15+
Love Steals Us From Loneliness
Iau 8 — Sad 10 Rhagfyr 8pm / Matinée Sad 10 Rhagfyr 3pm Ysgrifennwyd gan Gary Owen Cyfarwyddwyd gan Kim Pearce
Perfformiadau
07
O’r chwith i’r dde: Light Waves Dark Skies. Llun: Jorge Lizalde — Studio Cano. Darlun: Paul Burgess, Last Christmas
chapter.org
WE MADE THIS, CYD-GYNHYRCHIAD GYDA CHANOLFAN GELFYDDYDAU PONTARDAWE
Light Waves Dark Skies Mer 30 Tachwedd — Sad 3 Rhagfyr 8pm Mae dau riant yn pacio'u bywydau mewn cesys ac yn ffoi rhag y môr gwyllt a ddygodd eu plentyn oddi arnynt. Er mwyn dianc rhag eu hatgofion, maent yn mynd tua'r tir mawr ac yn ceisio cysur yn y tywyllwch. Ond â phob deigryn hallt, mae'r môr yn eu galw'n ôl. Ni allant ddianc. Mae Light Waves Dark Skies yn waith newydd gan We Made This, sydd yn archwilio grym goleuni a dŵr ynghyd â'n lle ni yn y bydysawd, ymysg y sêr wemadethis.org.uk / #lightwavesdarkskies £12/£10 Oed 12+ Dehongliad yn Iaith Arwyddion Prydain gan Julie Doyle ar 1 Rhagfyr Ariennir Light Waves Dark Skies gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Canolfan Gelfyddydau Pontardawe a Creu Cymru.
THE WYRD WONDER YN CYFLWYNO
Alison O’Donnell and Firefay Maw 6 Rhagfyr 7.30pm Ymunwch â ni am berfformiad prin gan Ddewines Garedig cerddoriaeth asid-gwerin, Alison O'Donnell, ynghyd â'r combo gwerin/noir o Lundain/Ffrainc, Firefay. Mae Alison yn adnabyddus am ei chydweithrediadau a'i gwaith solo – roedd yn aelod o'r band prog gwerin chwedlonol, Mellow Candle. Mae eu halbwm nhw o 1972, 'Swaddling Songs' yn gwerthu am fwy na mil o bunnoedd ar y farchnad hen recordiau. Bydd Alison a Firefay yn perfformio deunydd o'u halbwm cydweithredol diweddar, 'Anointed Queen' yn ogystal â detholiad o'u caneuon ei gilydd. Daw'r gefnogaeth gan grŵp gwerin seicedelig gorau Henffordd, Sproatly Smith. £10 / £8
DIRTY PROTEST
Last Christmas Gwe 9 + Sad 10 Rhagfyr 8pm Matinée Sad 10 Rhagfyr 2pm Wrth iddo ddychwelyd adref adeg y Nadolig, mae Tom yn wynebu ysbrydion o'r gorffennol. Caiff ei orfodi i wynebu ei gythreuliaid — ond a fydd e'n gallu achub ei deulu a diogelu eu dyfodol cyn iddi fod yn rhy hwyr? Mae'r cwmni gwobrwyol Dirty Protest yn dychwelyd i Gaerdydd i gyflwyno eu drama ddoniol, dorcalonnus a hynod lwyddiannus. Anghofiwch y panto a'r parti Nadolig bondigrybwyll, bydd y sioe un-dyn hon gan Matthew Bulgo yn gwneud i chi chwerthin, crio ac eisiau ffonio'ch anwyliaid wedi i chi adael y theatr ... £12/£10 Oed 14+
★★★★ "Perfformiad syfrdanol gan Siôn Pritchard." — The Stage
Perfformiadau
029 2030 4400
O’r chwith i’r dde: Fin Taylor, The Giant Who Had No HeartIn His Body
08
The Lonely Hearts Rugby Clwb Sul 4 Rhagfyr 7.30pm Mae’r Lonely Hearts Rygbi Clwb yn chwarae cerddoriaeth anhygoel o bedwar ban byd ynghyd â chyfansoddiadau o waelod calon James Clark. Gallwch ddisgwyl set afieithus a chythryblus, hwyl afreolus a cherddoriaeth o Fwlgaria i Brasil via Cymru, wedi’i chwarae gan 20 o bobl unig â chalonnau enfawr.
CÔR MERCHED AFFINITY
Breuddwydio am y Nadolig Sul 18 Rhagfyr 2.30pm & 7.30pm Yn dilyn dau berfformiad hynod lwyddiannus y llynedd, mae Affinity yn falch iawn o ddychwelyd i Chapter i gyflwyno cyngerdd dymhorol 2016, 'Breuddwydio am y Nadolig!'. Yn bump oed erbyn hyn, mae'r côr talentog hwn o fwy na 40 o leisiau o Gaerdydd wedi paratoi gwledd o ffefrynnau unwaith eto i'ch ysbrydoli chi y Nadolig hwn. Ymunwch â nhw i glywed clasuron Nadoligaidd hen a newydd, dan arweiniad y Cyfarwyddwr Cerdd, Diane Wright, ac i gyfeiliant Ryan Wood. Noson er budd elusen leol Llamau.
£8 / £6
£8 / £6
Fin Taylor — Whitey McWhiteface
LIKELY STORY
Iau 15 Rhagfyr 8pm Roedd sioe ddiweddaraf Fin Taylor 'Whitey McWhiteface' yn llwyddiant digamsyniol yn ‘Fringe’ Caeredin ym mis Awst — gwerthodd docynnau di-ri a mwynhau llu o adolygiadau canmoliaethus. Mae Fin wedi cefnogi Doc Brown ar daith, wedi gigio gyda Louis CK yn Efrog Newydd, ac wedi ymddangos sawl gwaith ar sioe Josh Widdicombe ar XFM. Ac yn awr mae e'n cyflwyno ei gymysgedd unigryw o sylwebaeth gymdeithasol anllad yn Chapter. £10/£9/£8
The Giant Who Had No Heart In His Body Llun 19 Rhagfyr 3pm Mae Dot ac Agi yn byw ar lwyfan yn yr awyr sy'n pwyso ar ffyn tal iawn fri uwchben y cymylau. Maent yn dal straeon ar y gwynt. Dy'n nhw ddim wedi siarad ers 475 diwrnod, 15 awr ac 16 eiliad. Nid bod unrhyw un yn cyfri'! Ond mae stori ar ei ffordd ar y gwynt ... stori am gawr ... un a fydd yn ysgwyd seiliau bodolaeth Dot ac Agi ac yn eu helpu, efallai, i newid eu stori eu hunain. Mae Cwmni Theatr Likely Story yn cyflwyno eu dulliau unigryw eu hunain yn y stori dylwyth teg Norwyaidd glasurol hon gyda cherddoriaeth wreiddiol, pypedwaith ac ychydig o hud a lledrith. £5 Oedolion, £3 Plant, £4.50 Disgownt oedolyn £15 tocyn teulu (4 tocyn gan gynnwys o leiaf 1 plentyn)
chapter.org
CHAPTER MIX Siop Lyfrau Dros Dro Seren 9–12 Rhagfyr Mae siop lyfrau dros-dro Seren yn dychwelyd i Chapter am y drydedd flwyddyn o’r bron. Fe ddewch chi o hyd i’r cyhoeddwyr llenyddol Cymreig ym mhrif fynedfa Chapter o ddydd Gwener 9 tan ddydd Llun 12 Rhagfyr, o 10am tan 8pm, ac fe fydd ganddyn nhw ddetholiad ardderchog o lyfrau (sydd, fel y gŵyr pawb yn anrhegion Nadolig gwych).
Performance
THEATR GENEDLAETHOL CYMRU MEWN PARTNERIAETH Â CADW A GYDA CHEFNOGAETH GAN CHAPTER
07–18 CHWEFROR 2017 CASTELL CAERFFILI TOCYNNAU — CHAPTER.ORG DARLLEDIAD BYW — 14 CHWEFROR, I GANOLFANNAU AR DRAWS CYMRU + AIL-DDANGOSIADAU MANYLION LLAWN — THEATR.CYMRU
Ffair Fwyd Nadoligaidd Sul 18 Rhagfyr, 11 tan 6pm Mae Chapter a Green City wrthi eto, yn arddangos y cynhyrchion Cymreig gorau! Llenwch eich cypyrddau’n barod at y Nadolig. Bydd yna anrhegion perffaith i’r bwydgarwr yn eich bywyd, ynghyd â siocledi, cawsys blasus, cigoedd ardderchog a rhywbeth arbennig o’r Caffi Bar. Am un diwrnod yn unig!
DYDD IAU CYNTAF Y MIS
Barddoniaeth a Ffuglen Newydd Iau 1 Rhagfyr 7.30pm Bydd Rhiannon Hooson yn cyflwyno ei chasgliad cyntaf, ‘The Other City’ a Nicholas Murray, perchennog Rack Press yn cyflwyno ei lyfr newydd ef, o wasg Seren, ‘Crossings’, sydd yn gasgliad o ysgrifau sy’n cyfuno ysgrifennu taith a myfyrdodau ar thema ffiniau. £2.50 (wrth y drws)
Clwb Comedi The Drones Gwe 2 + Gwe 16 Rhagfyr Drysau’n agor: 8.30pm Sioe’n cychwyn: 9pm Clint Edwards sy’n cyflwyno’r digrifwyr addawol gorau ar ddydd Gwener cyntaf a thrydydd dydd Gwener y mis. Gwelwyd peth o ddeunydd y nosweithiau hyn ar raglen ‘Identity Crisis’ Rob Brydon. Un o’r ‘Deg Peth Gorau i’w Gwneud yng Nghaerdydd’ yn ôl cylchgrawn The Big Issue. £3.50 (wrth y drws)
Cylch Chwedleua Caerdydd Sul 4 Rhagfyr 8pm Croeso i storïwyr a gwrandawyr fel ei gilydd! £4 (wrth y drws)
CYFIEITHIAD NEWYDD O GLASUR SHAKESPEARE GAN Y DIWEDDAR GWYN THOMAS
09
Ffilm
029 2030 4400
Gyda’r cloc o’r brig: The Light Between Oceans, Girls Lost, Nocturnal Animals
10
Nocturnal Animals
Girls Lost
Gwe 18 Tachwedd — Iau 1 Rhagfyr
Llun 28 — Iau 1 Rhagfyr
UDA/2016/117mun/15. Cyf: Tom Ford. Gyda: Amy Adams, Jake Gyllenhaal, Armie Hammer, Michael Sheen, Andrea Riseborough, Michael Shannon
Sweden/2015/104mun/15/is-deitlau. Cyf: Alexandra-Therese Keining. Gyda: Mandus Berg, Adam Dahlgren, Malin Eriksson
Ym mryniau disglair LA, mae’r curadur oriel Susan yn gaeth mewn priodas anhapus. Caiff sioc ar ôl derbyn llawysgrif gan ei chynŵr, Edward. Mae'r plot dirdynnol y mae ef wedi'i greu yn dod yn fyw ym mhen Susan, ac yn ei gorfodi i gydnabod y craciau yn ei phriodas bresennol ynghyd â methiant y briodas gyntaf. Addasiad o nofel Austin Wright, Tony and Susan, a chipolwg gynnil a beirniadol ar ambell fyth Americanaidd. Mae'r ffilm hefyd yn llawn perfformiadau campus.
“ Cyfuniad o David Lynch ac Alfred Hitchcock a Douglas Sirk” Hollywood Reporter
The Light Between Oceans Gwe 18 Tachwedd — Iau 1 Rhagfyr DG/2016/133mun/12A. Cyf: Derek Cianfrance. Gyda: Michael Fassbender, Alicia Vikander, Rachel Weisz
Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, mae Tom Sherbourne yn gadael y fyddin ac yn dod yn geidwad goleudy oddi ar arfordir Gorllewin Awstralia. Yn y fan honno mae e'n cyfarfod â’r Isabel ffraeth a hardd ac yn ei phriodi. Ond mae eu hanallu i gychwyn teulu yn achos poen. Pan ddaw cwch rhwyfo i’r lan, felly, â dyn marw a merch ifanc ynddo, mae Isabel yn credu taw rhagluniaeth sydd ar waith. Mae Tom yn cael ei dynnu rhwng ei ddyletswydd i ddweud wrth yr awdurdodau am y plentyn coll a'i awydd i blesio'i wraig – ac mae i’w ddewis ganlyniadau trychinebus.
Mae’r ffrindiau pennaf Kim, Bella, a Momo yn cael eu herlid gan eu cyd-ddisgyblion. Un noson, ar ôl diwrnod ofnadwy arall yn yr ysgol, mae’r merched yn blasu’r sudd sydd yn diferu o flodyn dirgel a anfonir at Momo ar ddamwain – ac fe gânt eu trawsnewid yn fechgyn. Wedi’u cyffroi gan y newidiadau i’w cyrff, mae’r cyfeillion yn mynd ati i weld sut brofiad yw bod yn ddyn ym myd dynion. Ond mae cyffro’n troi’n berygl mewn stori grefftus am ddryswch rhywiol sydd yn cynnwys tro goruwchnaturiol yn y gynffon. + Trafodaeth Lavender Screen ar Llun 28 Tachwedd
chapter.org
Ffilm
11
Paterson
‘Shaken by your beauty’: Jim Jarmusch A dwy ffilm newydd o’i eiddo yn ymddangos y mis hwn, byddwn yn cael golwg ar feddwl cerddorol Jim Jarmusch, ac yn cael cyfle hefyd i edrych o’r newydd ar ei waith eiconig gyda’r Wu Tang Clan yn rhan o dymor ‘Black Star’.
Gimme Danger
Paterson
Gwe 2 — Iau 8 Rhagfyr
Gwe 9 — Iau 15 Rhagfyr
UDA/2016/108mun/TICh. Cyf: Jim Jarmusch
UDA/2016/113mun/TICh. Cyf: Jim Jarmusch. Gyda: Adam Driver, Golshifteh Farahani, Barry Shabaka Henley, Method Man
Ar ôl dod i amlygrwydd cenedlaethol yn ystod cyfnod chwyldroadol y gwrth-ddiwylliant, roedd gan The Stooges, o Ann Arbor, Michigan, arddull bwerus, ddi-lol ac ymosodol ac, ar ddiwedd y 1960au, byddent yn ‘ypsetio pobl ymhobman’. Gyda chymysgedd o roc, blŵs, R & B, a jazz, fe blannodd y grŵp hedyn yr hyn a elwid, yn y degawd dilynol, yn pync. Golwg ar y grŵp a ddisgrifiwyd gan y cyfarwyddwr, Jim Jarmusch, fel ‘y band roc a rôl gorau erioed’.
Ghost Dog: The Way of the Samurai Sul 4 + Maw 6 Rhagfyr UDA/1999/111mun/15. Cyf: Jim Jarmusch. Gyda: Forest Whitaker, Henry Silva, John Tormey
Mae Ghost Dog yn ‘hitman’ sy’n ceisio byw ei fywyd yn ôl côd hynafol rhyfelwyr Japaneaidd ac mae e wedi tyngu llw i wasanaethu Louie, pennaeth gang troseddol a achubodd ei fywyd. Ar ôl i reolwyr Louie benderfynu bod angen ei ddienyddio, mae Ghost Dog yn gweithredu – ac yn mynd ati i ddileu ei elynion niferus. Â thrac sain arloesol RZA o’r Wu-Tang Clan, mae hon yn olwg ddoniol, swrrealaidd ac anghonfensiynol ar ddiwylliant a byd trosedd. Gweler manylion Black Star ar dudalen 12
Yn yrrwr bws mewn dinas sy’n dwyn ei enw ei hun, mae Paterson yn glynu at drefn syml — mae’n gwylio’r ddinas wrth i honno fynd heibio’i ffenest ac yn gwrando ar ffragmentau o’r sgyrsiau sy’n digwydd o’i amgylch. Mae e’n ysgrifennu barddoniaeth mewn llyfr nodiadau; yn mynd â’i gi am dro; mae e’n stopio mewn bar ac yn yfed un cwrw yn unig; mae e’n mynd adref at ei wraig, Laura. Ffilm sy’n ddathliad tawel o fanion bywyd bob dydd, wedi’i hysbrydoli gan farddoniaeth William Carlos Williams.
12
Ffilm
029 2030 4400
A United Kingdom
TYMOR ‘BLACK STAR’ BFI
Tymor o ffilmiau i ddathlu profiad pobl dduon yng Nghymru — a thalentau gwneuthurwyr ffilm, actorion a pherfformwyr du. Byddwn yn edrych hefyd ar sinema o Affrica, Hollywood a thu hwnt. Y mis hwn, byddwn yn cael golwg ar ddwy ffilm gerddoriaeth eiconig o’r 1970au ac yn archwilio gwaith Amma Asante, a ddechreuodd ei gyrfa yng Nghymru â’r ffilm A Way of Life, ac sydd yn parhau i archwilio effeithiau tensiynau hiliol gyda’i ffilm newydd, A United Kingdom.
NG83: When We Were B-Boys
A United Kingdom
Gwe 25 Tachwedd — Iau 1 Rhagfyr
Gwe 4 — Iau 29 Rhagfyr
DG/2016/76mun/12A. Cyf: Sam Derby-Cooper, Claude Knight, Luke Scott
DG/2016/111mun/12A. Cyf: Amma Asante. Gyda: David Oyelowo, Rosamund Pike, Tom Felton, Laura Carmichael
Yng nghanol yr 80au, roedd Nottingham yn gartref i’r diddordeb cynyddol mewn hip hop a diwylliant ‘breakdance’. Roedd y ‘jams’ enwog yn Rock City yn gyfle i genhedlaeth gyfan ddianc rhag treialon bywyd dinesig a hiliaeth y cyfnod ac fe ddaeth yn sefydliad o bwys i ddawnswyr ledled y DG. Yn gyfuniad o gyfweliadau cyfoes a ffilmiau fideo nas gwelwyd o’r blaen, mae hon yn ffilm ddogfen sydd yn llawn egni a swyn – a dawnsio anhygoel, wrth gwrs.
Ym 1947, cyfarfu Seretse Khama, Tywysog Botswana, â Ruth Williams, gweithiwr swyddfa yn Llundain. Roeddent yn gwpwl perffaith ond gwrthwynebwyd eu priodas arfaethedig nid yn unig gan eu teuluoedd ond gan lywodraethau Prydain a De Affrica. Stori syndod o gynnil am herio confensiynau ac archwiliad o densiynau hiliol, nid yn unig mewn ymwneud gwleidyddol ond mewn perthnasoedd personol hefyd.
Ymunwch â ni ar Gwe 23 am drafodaeth ar ôl y dangosiad gyda’r gwneuthurwyr ffilm.
Dangosiad Addas i Bobl â Dementia ar Mer 14 Rhagfyr
Ffilm
13
O’r chwith i’r dde: Trading PLaces, Star Wars: Rogue One
chapter.org
The Harder They Come Sul 11 + Maw 13 Rhagfyr Jamaica/1972/103mun/15 Cyf: Perry Henzell. Gyda: Jimmy Cliff, Janet Bartley, Carl Bradshaw
Mae canwr ifanc uchelgeisiol o’r enw Ivan Martin yn gadael ei bentref gwledig i fynd i ddinas Kingston er mwyn bod yn seren. Ar ôl colli’i arian a’i eiddo mewn lladrad, daw o hyd i waith gyda phregethwr annymunol a ‘mogul’ cerddoriaeth diegwyddor sy’n manteisio ar bobl ifainc naïf. Wedi anobeithio, mae e’n ymuno â’r fasnach gyffuriau broffidiol a pheryglus ac, wrth iddo ennill enwogrwydd yn y byd troseddol, mae ei recordiau yn dechrau llwyddo hefyd. Mae’r ffilm nodwedd gyntaf hon o Jamaica — a’r ffilm ddiffiniol am reggae — yn cyflwyno portread dilys o wlad sy’n ceisio’i rhyddhau ei hun o afael hanes a gwladychiaeth.
Car Wash Sul 18 Rhagfyr UDA/1976/92mun/PG. Cyf: Michael Schultz. Gyda: Richard Pryor, George Carlin, Franklyn Ajaye, Darrow Igus, DeWayne Jessie
Diwrnod ym mywyd y Dee-Luxe Car Wash yn Los Angeles lle y daw holl drigolion ecsentrig y ddinas i gael golchi’u ceir, yn hwyr neu’n hwyrach, a lle mae’r staff mor wallgof bob tamaid â’r cwsmeriaid. Mae TC yn gweld eisiau Mona; mae’r brodyr, Floyd a Lloyd, yn gobeithio llwyddo fel cantorion; yn y cyfamser, mae’r perchennog, Mr B, yn poeni y bydd ei berthynas gyda Marsha, sy’n gweithio ar y dderbynfa, yn dod i’r amlwg. Mae cerddoriaeth fel petai mor bwysig yn y gwasanaeth golchi hwn â’r sebon mewn ffilm sydd wedi dod yn glasur cwlt.
Trading Places Maw 20 — Iau 22 Rhagfyr UDA/1983/116mun/15. Cyf: John Landis. Gyda: Eddie Murphy, Dan Aykroyd, Jamie Lee Curtis, Ralph Bellamy, Don Ameche, Denholm Elliott
Mae Randolph a Mortimer Duke yn ddynion arian y Sefydliad sydd am weld a yw llwyddiant y brocer, Louis Winthorpe III, yn deillio o’i natur neu o’i fagwraeth. Maent yn betio doler symbolaidd ac yn trefnu iddo gael ei ddisodli dros dro gan ddyn du digartref o’r enw Billy Ray. Bydd hwnnw’n cymryd lle Winthorpe yn y busnes ar Wall Street. Ond ar ôl i Louis a Billy Ray glywed am y cynllwyn, maent yn mynd ati i gosbi’r brodyr go iawn — drwy fynd ar ôl eu ffortiwn.
NEWYDD EI CHYHOEDDI
Star Wars: Rogue One Gwe 30 Rhagfyr - Iau 12 Ionawr UDA/2016/133mun/TiCh. Cyf: Gareth Edwards. Gyda: Felicity Jones, Mads Mikkelsen, Diego Luna, Ben Mendelsohn, Forest Whitaker
Wedi ffurfio’r Ymerodraeth Galactig, caiff y Jyn Erso dyfeisgar ei berswadio gan y Gynghrair Rebel newydd i weithio gyda grŵp di-drefn, dan arweiniad Cassian Andor, er mwyn dwyn y cynlluniau ar gyfer y Death Star. Wedi’i gosod yng nghyfnod y ffilmiau Star Wars clasurol, rhwng Revenge of the Sith a A New Hope, mae’r ffilm hon yn olwg newydd ar alaeth sydd yn bell, bell i ffwrdd.
BWYTA AC YFED Bwydlen y Nadolig Dewch i fwynhau cinio Nadolig dau gwrs yn Chapter am £17.95 a bwydlen i blesio pob archwaeth. Bydd yna ddewis o dwrci Sir Benfro, merfog môr wedi ffrio, Pastai Quorn y Bugail neu lasagne fegan o bwmpen hufennog, ynghyd â phwdinau ardderchog a mins peis a diodydd cynnes i ddod a’r cwbl i glo teilwng.
Ffair Nadolig Oh So Crafty Sad 3 & Sul 4 Rhagfyr, Drwy’r dydd Mae ein ffair grefftau boblogaidd yn ei hôl ac mae hi’n llawn nwyddau serameg, tecstilau, gemwaith a phethau gwych i’r cartref. Ymunwch â ni i weld peth o’r crefftau lleol gorau ac i ddod o hyd i rywbeth bach gwahanol a lleol i’ch teulu a’ch ffrindiau y Nadolig hwn!
Ffair Fwyd Nadoligaidd Sul 18 Rhagfyr, 10am tan 6pm Dewch i gael eich ysbrydoli gan arogleuon hyfryd y bwydydd blasus yn ffair mis Rhagfyr. Llenwch eich cypyrddau’n barod at y Nadolig – bydd yna siocledi, cawsys blasus, cigoedd ardderchog a detholiad arbennig yn y Caffi Bar. Am un diwrnod yn unig!
Ffilm
Nick Cave: One More Time With Feeling
NT Live: No Man’s Land
029 2030 4400
O’r chwith i’r dde: Sonita, No Man's Land
14
Iau 1 Rhagfyr DG/2016/85mun/18. Cyf: Andrew Dominik.
I ddathlu rhyddhau’r albwm newydd, Skeleton Tree, byddwn yn cael golwg y tu ôl i’r llen ar y broses o ysgrifennu a recordio’r albwm, ac fe gydblethir hynny â pherfformiadau gan Nick Cave and the Bad Seeds. Dechreuodd y ffilm fel syniad cydweithredol rhwng y band a’r gwneuthurwr ffilmiau, Andrew Dominik, ond magodd arwyddocâd dyfnach wrth i gefnlen drasig yr albwm ddod i’r amlwg. Albwm amrwd a bregus a ddechreuwyd yn Brighton yn 2014 ac a orffennwyd yn Ffrainc flwyddyn yn ddiweddarach.
Sonita Gwe 2 — Iau 8 Rhagfyr Yr Almaen/2015/90 mun/TiCh/is-deitlau Cyf: Rokhsareh Ghaemmaghami
Ganed Sonita yn Afghanistan ac, a hithau yn eu harddegau erbyn hyn, mae hi eisoes wedi cael ei gorfodi i symud i wlad arall unwaith, ar ôl ffoi gyda’i theulu i Iran. Yn Tehran mae hi’n gweithio fel glanhawr gydag elusen ac yn breuddwydio am fod yn seren rap. Wrth i’w theulu geisio ei gwerthu trwy briodas, mae Sonita’n gwaredu ei rhwystredigaeth drwy’r microffon, ac yn poeri allan odlau ei gormes. Wrth i awdurdod y gwneuthurwr ffilmiau dros ei stori gael ei gymhlethu, caiff y gynulleidfa ei thynnu ar ei phen i stori Sonita a’i hawydd hithau i adrodd ei stori yn y ffilm wobrwyol hon. Enillydd Gwobr y Rheithgor yng Ngŵyl Ffilm Cannes Ewch i dudalen 12 i weld manylion mwy o ffilmiau gyda golygfeydd cerddorol anhygoel yn rhan o dymor ‘Black Star’ y BFI.
Iau 15 Rhagfyr 7pm Encore Sul 15 Ionawr 1.30pm DG/2016/150mun/12A. Cyf: Sean Mathias Gyda: Ian McKellen, Patrick Stewart, Owen Teale
Un noson o haf, mae dau awdur sy’n heneiddio, Hirst a Spooner, yn cyfarfod mewn tafarn yn Hampstead ac yn parhau â’u sesiwn yfed yn nhŷ urddasol Hirst gerllaw. Wrth i’r pâr feddwi, ac wrth i’w straeon fynd yn gynyddol anghredadwy, mae’r sgwrs fywiog yn troi’n gêm bŵer ddadlennol — ac fe gymhlethir honno ymhellach pan ddychwela dau ddyn sinistr i’r tŷ. Yn dilyn cyflwyniad hynod lwyddiannus yn y New Theatre, Caerdydd, mae dau o arwyr y llwyfan a’r sgrin yn disgleirio yn yr adfywiad hwn o glasur comig Harold Pinter. Dilynir y darllediad gan sesiwn holi-ac-ateb ecsgliwsif gyda’r cast a’r cyfarwyddwr, Sean Mathias.
BAFTA Cymru yn cyflwyno: The Real Midwives Mer 14 Rhag 6.00pm DG/2016/90mun/TiCh Cyf: Heidi Thomas
Mae actor Call the Midwife, Stephen McGann, yn mynd ar daith i ddysgu mwy am y wyddoniaeth a’r ffeithiau sydd yn sail i’r ffuglen. Mae e’n dechrau yn ei dref enedigol, Lerpwl, ac yn teithio ledled y DG wedi hynny.
Ffilm
15
Muppets Christmas Carol
It’s A Wonderful Life
Sad 3 + Sul 4 Rhagfyr, Sad 7 — Sad 24 Rhagfyr
Maw 20 — Sad 24 Rhagfyr
UDA/1992/85mun/U. Cyf: Brian Henson Gyda: Michael Caine, Dave Goelz, Steve Whitmire
UDA/1947/130mun/U. Cyf: Frank Capra. Gyda: James Stewart, Donna Reed, Lionel Barrymore
Mae Scrooge yn hen fenthycwr arian chwerw a chybyddlyd sy’n anwybyddu casglwyr elusennol ac yn meddwl taw ‘humbug’ yw’r Nadolig. Ond caiff ei orfodi i ailystyried ei agwedd at y byd ar ôl cyfres o ymweliadau gan ysbrydion ar Noswyl y Nadolig — ac mae’r Muppets yn cael hwyl garw wrth gyflwyno eu fersiwn nhw o chwedl oesol Dickens.
Mae George Bailey yn fachgen lleol sydd, ar Noswyl Nadolig, yn ei gael ei hun ar ymyl y dibyn ... Ond mae ei angel gwarcheidiol, Clarence, yn dangos bydysawd cyfochrog iddo — byd lle nad yw’n bodoli, a’r gwagle yn ei gymuned yn sgil hynny. Mae campwaith Frank Capra yn apêl am fyd mwy caredig ac addfwyn ac yn glasur Nadoligaidd go iawn.
O’r chwith i’r dde: Muppets Christmas Carol, It's A Wonderful Life
chapter.org
Cyflwyniad Dwbwl y Clwb Ffilmiau Gwael Sul 4 Rhagfyr
Mae hi’n Nadolig eto ac yn amser perffaith felly i fwynhau ychydig o hwyl hurt yr ŵyl — a dwy ffilm wirioneddol wael a fydd yn glo teilwng i flwyddyn wallgo’.
Avalanche
The Apple
UDA/1999/96mun/PG. Cyf: Steve Kroschel Gyda: Thomas Ian Griffith, Caroleen Feeney, C. Thomas Howell
UDA/1980/90mun/15. Cyf: Menahem Golan Gyda: Catherine Mary Stewart, George Gilmour, Grace Kennedy
Mae’r eira’n disgyn — ond nid yw’n disgyn o’r awyr. Mae’n rholio i lawr ochr y mynydd, yn hytrach, ac wedi lladd dyn sy’n diniwed geisio tagio llwynogod. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae ei weddw yn brwydro â chwmni olew sydd am estyn pibell olew, a hynny am ei bod hi’n gwybod pa mor beryglus y gall eira fod. Ac fe fyddwch chi mewn gwynfyd syfrdan hefyd ar ôl gweld y ffilm wael hon.
Yn ein hail ffilm, byddwn yn gwisgo’n trywsus dawnsio — y rhai gyda’r ‘sequins’ — ac yn addoli’r BIM. Ar ôl i ddau gariad diniwed benderfynu cystadlu mewn rhyw fath o X Factor disgo dyfodolaidd, caiff eu bywydau eu troi wyneb i waered. Ond byddwch yn ofalus wrth wneud dymuniadau — yn enwedig pan fydd Mr Boogalow yn dechrau ymddwyn yn ddiafolaidd ... Os ydych chi’n hoffi Can’t Stop the Music a Xanadu mae’n siŵr bod angen cymorth meddygol arnoch — ond mae’n siŵr hefyd y byddwch wrth eich bodd â’r ffilm hon.
Cynnig ‘Double Bill’: Gweler y ddau ffilm am £12/£10
Ffilm
029 2030 4400
Arrival
Sully
Gwe 2 — Iau 8 Rhagfyr
Gwe 16 — Iau 29 Rhagfyr
UDA/2016/116mun/12A. Cyf: Denis Villeneuve. Gyda: Amy Adams, Jeremy Renner, Forest Whitaker, Michael Stuhlbarg
UDA/2016/96mun/12A. Cyf: Clint Eastwood. Gyda: Tom Hanks, Aaron Eckhart, Laura Linney
Mae dwsin o longau gofod hirgrwn yn dod i’r Ddaear, ac nid yw llywodraethau’r byd yn gwybod beth yw eu bwriadau. Caiff yr ieithydd, Dr Louise Banks, ei recriwtio ar y cyd â’r gwyddonydd, Ian Donnelly, i gyfathrebu â’r aliwns cyn i’r lluoedd milwrol roi ar waith eu cynllun i geisio dinistrio’r llongau gofod — a’r Ddaear ei hun efallai hefyd. Archwiliad ymenyddol o’r ddynoliaeth â sgôr finimalaidd gan Johann Jóhannsson.
Yn 2009, aeth awyren a oedd newydd esgyn i’r awyr i wrthdrawiad â haid o wyddau a chwalodd y ddau beiriant wrth i’r awyren hedfan dros un o ddinasoedd mwyaf y byd. Llwyddodd y peilot, Captain Chesley Sullenberger, i lanio’n berffaith ar ddŵr — ‘Gwyrth yr Hudson’ fel y galwyd y digwyddiad. Ond ar ôl y gorfoledd, dechreuodd rhai o’r rheiny a achubwyd gwestiynu statws arwrol Sully. A pherfformiad canolog campus, mae’r ffilm hon yn archwiliad o’r hyn a ddigwyddodd y diwrnod hwnnw yn Efrog Newydd.
O’r chwith i’r dde: Arrival, Sully
16
Fantastic Beasts and Where to Find Them Gwe 2 — Iau 30 Rhagfyr DG/2016/140mun/TiCh Cyf: David Yates. Gyda: Eddie Redmayne, Ezra Miller, Zoë Kravitz, Colin Farrell, Samantha Morton
Mae hi’n 1926, ac mae’r ‘Magizoologist’, Newt Scamander, yn cyrraedd dinas Efrog Newydd ar gyfer cyfarfod gyda Chyngres Hud a Lledrith Unol Daleithiau America, ond nid yw ar ei ben ei hun: yn ei gês hudol mae ganddo ‘menagerie’ o greaduriaid peryglus. Ar ôl i’r bwystfilod ddianc, mae’r awdurdodau hud a lledrith yn erlid Newt wrth i’r berthynas heddychlon rhwng y bobl hud a’r ‘muggles’ gael ei bygwth.
The Ardennes
Gwe 16 — Iau 22 Rhagfyr Gwlad Belg/2015/92mun/15/is-deitlau Cyf: Robin Pront Gyda: Kevin Janssens, Jeroen Perceval, Veerle Baetens, Jan Bijvoet
Mae’r ffilm gyffro dynn ac annisgwyl hon yn dechrau pan aiff lladrad creulon o chwith. Mae Dave, un o’r ddau leidr, yn llwyddo i ddianc, gan adael ei frawd Kenneth ar ôl. Bedair blynedd yn ddiweddarach, caiff Kenneth ei ryddhau o’r carchar, ond mae bywyd Dave yn ôl ar y llwybr cul. Mae e eisiau helpu ei frawd ond mae’n ei chael hi’n anodd gwneud hynny wrth i’r Kenneth ansefydlog geisio ennill serch ei gyn-gariad, Sylvie.
Ffilm
17
United States of Love
Y Llyfrgell
Gwe 9 — Maw 13 Rhagfyr
Gwe 16 — Gwe 30 Rhagfyr
Gwlad Pwyl/2016/106mun/18/is-deitlau Cyf: Tomasz Wasilewski. Gyda: Julia Kijowska, Magdalena Cielecka, Dorota Kolak
Cymru/2016/85mun/15/is-deitlau Cyf: Euros Lyn. Gyda: Catrin Stewart, Dyfan Dwyfor, Ryland Teifi
Mae hi’n 1990 ac mae’r bloc Sofietaidd yn dadfeilio. Mewn tref Bwylaidd lom, mae ewfforia rhyddid yn cael ei wrthbwyso gan ansicrwydd ynglŷn â’r dyfodol. Gwelwn Marzena, ei chwaer hithau, Iza, a’u cymdogion, Agata a Renata – pedair menyw y mae yna gysylltiad llac rhyngddynt, sydd yn dechrau gwneud newidiadau yn eu bywydau er mwyn gwireddu eu dyheadau.
Ar ôl i’r awdures enwog Elena Wdig gyflawni hunanladdiad, mae ei merched, efeilliaid sydd hefyd yn llyfrgellwyr, Nan ac Ana, yn eu cael eu hunain ar goll yn llwyr. Mae geiriau olaf y fam, Elena, yn awgrymu taw ei chofiannydd, Eben, a’i llofruddiodd hi. Yn ystod shifft nos, mae’r efeilliaid yn cychwyn ar gwest am ddialedd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ond yn cael eu drysu gan y porthor, Dan, sy’n ei gael ei hun yn rhan o’r saga yn erbyn ei ewyllys.
O’r chwith i’r dde: Julieta, Y Llyfrgell
chapter.org
Julieta Gwe 16 — Gwe 30 Rhagfyr Sbaen/2016/99mun/15/is-deitlau Cyf: Pedro Almovodar. Gyda: Inma Cuesta, Adriana Ugarte, Emma Suárez
Mae Antía ar fin symud o Madrid i Bortiwgal gyda phartner newydd ei mam, Julieta, pan aiff ar goll. Rhaid i Julieta archwilio bywyd ei merch a’u straeon cyfun. Mae Julieta wrth galon y dirgelwch yn y stori emosiynol hon — addasiad o stori fer feistrolgar gan Alice Munro gan gyfarwyddwr meistrolgar.
“ Astudiaeth syfrdanol a difrifol o alar, euogrwydd a baich” Dave Calhoun, Time Out
The Innocents Gwe 23 — Gwe 30 Rhagfyr Gwlad Pwyl/2016/115mun/15/is-deitlau Cyf: Anne Fontaine. Gyda: Lou de Laâge, Vincent Macaigne, Agata Buzek, Agata Kulesza
Mae Mathilda, yn feddyg ifanc o Ffrainc sy’n gweithio i’r Groes Goch ac yn helpu goroeswyr gwersyll crynhoi y tu allan i Warsaw ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Mae hi’n dod o hyd i rywbeth dychrynllyd wrth ymweld â lleiandy: nifer o leianod sydd wedi beichiogi ar ôl cael eu treisio’n systematig gan filwyr Sofietaidd yn ystod y rhyfel. A’r cynghreiriau gwleidyddol yn dal yn fregus, ac mewn ymgais i warchod purdeb y lleianod, mae Mathilda yn helpu’r menywod ac yn ceisio cadw eu cyfrinach. Stori wir ingol am ffydd a theyrngarwch.
18
Ffilm
029 2030 4400
Sinema Hygyrch Is-deitlau Meddal / Disgrifiadau Sain
Fantastic Beasts and Where to Find Them
Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael ar gyfer nifer fawr o’n ffilmiau. Fodd bynnag, fe all y wybodaeth honno newid wedi i ni anfon y cylchgrawn hwn i’r wasg – mae manylion pellach i’w cael ar ein gwe-fan. Cadwch lygad ar agor am y symbolau hyn, sy’n golygu bod yr wybodaeth am Ddisgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal i’w chadarnhau. Noddir gan Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk 02920 666688
Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Fantastic Beasts and Where to Find Them Gwe 2 — Iau 30 Rhagfyr DG/2016/140mun/TiCh Cyf: David Yates. Gyda: Eddie Redmayne, Ezra Miller, Zoë Kravitz, Colin Farrell, Samantha Morton
Mae hi’n 1926, ac mae’r ‘Magizoologist’, Newt Scamander, yn cyrraedd dinas Efrog Newydd ar gyfer cyfarfod gyda Chyngres Hud a Lledrith Unol Daleithiau America, ond nid yw ar ei ben ei hun: yn ei gês hudol mae ganddo ‘menagerie’ o greaduriaid peryglus.
Trolls
Is-deitlau Meddal
I’w cadarnhau
Disgrifiadau Sain
I’w cadarnhau
Dangosiadau Addas i Bobl â Dementia Mae ein dangosiadau newydd sy’n addas i bobl â dementia yn gyfle gwych i fwynhau ffilm mewn awyrgylch cyfeillgar a hamddenol. Cyflwynir y dangosiadau eu hunain heb hysbysebion neu ragolygon o ffilmiau newydd ac fe fydd yr awditoriwm ychydig yn llai tywyll nag arfer. Pan fydd yn bosib, byddwn yn dangos ffilmiau gydag is-deitlau meddal a disgrifiadau sain. Ar ôl y dangosiadau, bydd yna gyfle i gymdeithasu dros baned o de neu goffi. Mae’r dangosiadau hyn ar agor i bobl sy’n byw gyda dementia h.y. i’r rheiny sydd wedi cael diagnosis o dementia ynghyd ag aelodau o’u teuluoedd, ffrindiau, cymdogion neu ofalwyr. Bydd yna groeso cynnes hefyd i weithwyr elusennol, gweithwyr meddygol proffesiynol, staff cartrefi gofal, gweithwyr cymdeithasol a staff cymorth.
Sad 10 — Sul 18 Rhagfyr UDA/2016/92mun/U. Cyf: Walt Dohrn, Mike Mitchell. Gyda: Anna Kendrick, Zooey Deschanel, Justin Timberlake, Jeffrey Tambor
Mae Poppy, arweinydd optimistaidd y Trolls, a Branch, sydd yn gwbl wahanol iddi, yn gorfod gweithio gyda’i gilydd ar antur sy’n eu harwain nhw ymhell y tu hwnt i’r unig fyd y maen nhw wedi ei adnabod erioed.
Muppets Christmas Carol Sad 3 + Sul 4 Rhagfyr, Sad 7 — Sad 24 Rhagfyr UDA/1992/85mun/U. Cyf: Brian Henson. Gyda: Michael Caine, Dave Goelz, Steve Whitmire
Mae Scrooge yn hen fenthycwr arian chwerw a chybyddlyd sy’n anwybyddu casglwyr elusennol ac yn meddwl taw ‘humbug’ yw’r Nadolig. Ond caiff ei orfodi i ailystyried ei agwedd at y byd ar ôl cyfres o ymweliadau gan ysbrydion ar Noswyl y Nadolig — ac mae’r Muppets yn cael hwyl garw wrth gyflwyno eu fersiwn nhw o chwedl oesol Dickens.
Fe sylwch chi efallai ar y logo hwn ger manylion rhai ffilmiau a pherfformiadau. Mae’r F yn dynodi ffilmiau a pherfformiadau wedi’u cyfarwyddo gan ferched, wedi’u hysgrifennu gan ferched neu / ac sydd yn cynnwys rhannau canolog i ferched ar y sgrin neu ar y llwyfan.
Dangosiadau Hamddenol Mae’r dangosiadau hyn wedi eu bwriadu ar gyfer unrhyw un a fyddai’n elwa ar newidiadau cynnil i awyrgylch yr awditoriwm. Caiff ffilmiau eu dangos â goleuadau ychydig yn fwy llachar nag arfer, bydd lefel y sain yn is ac ni ddangosir trelars neu hysbysebion. Bydd rhwydd hynt i bobl godi a symud o gwmpas y sinema neu i wneud sŵn fel y dymunant. Bydd staff Chapter wrth law i helpu os bydd angen cymorth pellach arnoch. Dim seddi cadw. Pris tocyn arferol.
chapter.org
Addysg
Gweithdai ‘Crafty Pictures’
Gweithgareddau Gŵyl y Gaeaf i’r Teulu Cyfan
7–12 oed Sad 10 & 17 Rhagfyr 1.50–2.50pm £6 (yn cynnwys tocyn i’r ffilm am 3pm) Clwb Sinema Chapter i blant 7+ oed. Bob wythnos am awr, cyn y Ffilm Nodwedd i’r Teulu Cyfan, byddwn yn cynnal gweithdy creadigol a chyfle i blant gymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol, pob un ohonynt yn ymwneud â’r ffilm a gyflwynir am 3pm. Ydych chi’n mwynhau gludo, torri a chreu, darlunio a phaentio? Os ydych chi, ac os ydych chi’n mwynhau gwylio ffilmiau, yna byddwch chi wrth eich bodd â Crafty Pictures!
Sad 10 Rhagfyr, 3pm: Trolls (PG) Sad 17 Rhagfyr, 3pm: Muppets Christmas Carol (U)
Gweithdy Oh So Crafty Sul 4 Rhagfyr 12–2pm Dewch i greu botymau carw, botymau coeden Nadolig a dynion eira pom-pom! Perffaith i’w hongian ar y goeden Nadolig. Gweithdy galw heibio addas i blant 6+ oed. Cost £2 i bob cyfranogwr
Gweithdy Animeiddio Oh So Crafty Sul 4 Rhagfyr 2–4pm Dewch i ddysgu hanfodion animeiddio ‘stop motion’, ac i ddylunio a recordio cerdyn Nadolig personol wedi’i animeiddio. Gweithdy galw heibio addas i blant 8+ oed. Cost £2 i bob cyfranogwr
19
Sad 3 Rhagfyr 11–12pm Addurno bisgedi Dyn Sinsir a Dyn Eira wedi Toddi Ymunwch â ni i wneud danteithion Nadoligaidd blasus.
12–1pm Gweithdy Addurno Coeden Nadolig
Dewch i wneud eich addurniadau disglair eich hun allan o bethau bob dydd!
2–3pm Gweithdy Gwneud Cardiau Nadolig
Dewch i ymuno â’r hwyl ac i wneud Cardiau Nadolig rhyfeddol o syml a chreadigol gyda chymorth dyluniadau crefftus.
3–4pm Cystadleuaeth Dyn Eira Chapter
Allwn ni ddim addo eira dros y Nadolig ond fe allwn ni wneud ein dynion eira ein hunain allan o bethau y mae gennym ddigon ohonynt... cwpanau plastig! Bydd yna wobrau i’r dynion eira gorau!
4–5pm Sesiwn Straeon Rhyngweithiol Nadoligaidd Chapter Mae pawb yn mwynhau stori Nadoligaidd dda. Ymunwch â ni am awr o flaen y tân a siocled poeth wrth i ni fwynhau rhai o’n hoff chwedlau Nadoligaidd wedi’u darllen yn uchel. Mae’r gweithgareddau hyn wedi’u bwriadu ar gyfer y teulu cyfan, ac fe’u cyflwynir yn rhad ac am ddim ar ddydd Sadwrn 3 Rhagfyr. Dewch draw, yn llawn o hwyl yr ŵyl, i greu a mwynhau!
I DDOD YN FUAN!
Academi Ffilm Pobl Ifainc Ddiwedd mis Ionawr, bydd ein rhaglen lwyddiannus a phoblogaidd i ddarpar wneuthurwyr ffilm yn dychwelyd. Os ydych chi rhwng 9 a 12 oed ac yn awyddus i ddysgu mwy am wneud ffilmiau, cysylltwch â ni cyn gynted â phosib — nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar y cwrs. Bob wythnos bydd cyfranogwyr yn dysgu am agwedd benodol ar ffilm drwy gyfrwng darlithiau rhyngweithiol, cyn gwylio ffilm a ddewiswyd yn benodol er mwyn enghreifftio techneg neu gysyniad penodol.
20
Cefnogwch Ni
029 2030 4400
Mae Chapter yn elusen gofrestredig ac rydym yn dibynnu ar gefnogaeth gan unigolion a busnesau er mwyn gallu cyflwyno ein rhaglen artistig amrywiol a’n gwaith addysgol pwysig. Rydym yn ddiolchgar am bob ceiniog a dderbyniwn — ac fe allwn gynnig ambell beth gwych i chi yn gyfnewid. I wneud cyfraniad mewn modd syml a chyflym tecstiwch ‘Chap16’ ynghyd â’r swm yr hoffech ei roi i 70070. Mae yna nifer o ffyrdd eraill o gymryd rhan hefyd ...
Unigolion
Busnesau
Ffrindiau
Clwb
Ymunwch â chynllun Ffrindiau Chapter ac fe allwch chi fwynhau buddion sy’n amrywio o ostyngiadau ar docynnau ac ar fwyd a diod yn ein Caffi Bar i wahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig, fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn Ffrindiau hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C.
Cynllun aelodaeth Chapter i fusnesau. Am ffi flynyddol fechan, gall eich busnes chi fwynhau manteision sylweddol yn Chapter, gan gynnwys cyfleoedd i rwydweithio, defnydd o’n mannau llogi hyblyg a gostyngiadau i chi ac i’ch staff ar docynnau sinema a theatr — yn ogystal â gostyngiadau ar fwyd a diod yn ein Caffi Bar. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.chapter.org/cy/chapter-clwb.
Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur : £45/£40
Chwilio am anrheg Nadolig i ffrind neu aelod o’r teulu? Os oes yna ffans o Chapter yn eich mysg beth am brynu tanysgrifiad i Gynllun Ffrindiau Chapter? I gael mwy o wybodaeth am roi aelodaeth fel rhodd, cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau.
Rhoddion Cofrestrwch i wneud cyfraniadau unigol neu roddion rheolaidd i Chapter, er mwyn chwarae rhan lawn yn ein gwaith elusennol. Gallwch wneud cyfraniadau ar-lein ar http://www.chapter.org/cy/cefnogwch-ni neu drwy ymweld â’n Swyddfa Docynnau. Gallwch wneud cyfraniadau drwy neges destun erbyn hyn hefyd — tecstiwch ‘Chap16’ ynghyd â’r swm yr hoffech ei roi i 70070. Fydd hi ddim yn costio ceiniog i chi anfon y neges ac fe fyddwn ni’n derbyn 100% o’ch cyfraniad.
Nawdd Yn 2014, dyfarnodd Celfyddydau & Busnes Cymru Wobr Gyffredinol Categori’r Celfyddydau i Chapter am ein perthynas waith ragorol â busnesau. Mae yna nifer o gyfleoedd i’n noddi ac mae’r rheiny’n cynnig buddion gwych, gan gynnwys cyfranogiad staff, lletygarwch corfforaethol a chyfleoedd i hyrwyddo eich brand. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.chapter.org/cy/nawdd.
Nadolig yn Chapter Chwilio am rywle i gynnal eich parti Nadolig? Beth am ystyried Chapter? I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Laura — laura.powell@chapter.org.
Myfyrwyr Ydych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth rad ac am ddim a manteisio ar gynigion arbennig ardderchog, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? Cofrestrwch heddiw drwy ymweld â chapter.org/cy/myfyrwyr.
I gael mwy o wybodaeth am unrhyw un o’r materion uchod, cysylltwch ag Elaina Johnson os gwelwch yn dda — ffoniwch 02920 355662 neu e-bostiwch elaina.johnson@chapter.org.
chapter.org
Ar Fin Fod
21
AR FIN FOD
PERFFORMIAD:
CELFYDDYD:
(Un) Covered
Cymru Yn Fenis Wales in Venice
Gan Zosia Dowmunt Maw 10 + Mer 11 Ionawr 7.30pm
Mae Cymru yn Fenis Wales in Venice yn hapus iawn i gyhoeddi bod James Richards wedi ei ddewis i gynrychioli Cymru yn 57fed Arddangosfa Gelf Ryngwladol, y Venice Biennale. Bydd yr arddangosfa, sydd wedi ei threfnu gan Chapter, Caerdydd, yn rhedeg o 13 Mai i 26 Tachwedd 2017. Bydd cyflwyniad Richard - ei gomisiwn cyntaf mawr mewn digwyddiad eilflwydd rhyngwladol - yn cynnwys gosod sain ymatebol newydd a chyfres o weithiau ychwanegol yn cynnwys gorgyffwrdd samplau archifol a detholiadau o gerddoriaeth wedi eu hailadrodd neu ail-ddod i mewn i ffurfiau gwahanol. Fe fydd yn cyd-weithio gyda myfyrwyr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a thrwy bartneriaeth preswyl, bydd yn cloddio archifau o’r Archif Sain a Sgrin Genedlaethol yn Aberystwyth. Fel rhan o brosiect Cymru yn Fenis Wales in Venice, bydd yr artist hefyd yn trefnu sioe grŵp yn Chapter yn Hydref 2017 ac yna bydd ei gyflwyniad unigol Venice yn cael ei ddangos yn Chwefror 2018.
Gall dillad fod yn arfwisg, gwaith celf, hunaniaeth, cydymffurfiad, amddiffyniad neu wrthryfel Perfformiad theatr dawns solo yw (Un) Covered sydd yn ymchwilio i bwy yr ydym fel menywod tu fewn i’n dillad. Sut yr ydym yn corffori grym ac ymladd yn erbyn gwleidyddoli a rheolaeth dreisgar gall cymdeithas osod ar ein cyrff, fesul y dillad yr ydym yn eu gwisgo. Mae’r mater yma yn cysylltu ni oll ar draws ffiniau a gwahaniaeth diwylliannol tu-hwnt. Nid yw rhyddid yn yr hyn yr ydych yn ei wisgo neu ddim yn ei wisgo- mae yn y penderfyniad. £10/£8
SINEMA:
RSC Live: Tempest Mer 11 Ionawr 7pm DU/2017/210munud/U. Dir: Gregory Doran. Gyda: Simon Russell Beale, Joe Dixon, Mark Quartley, Jenny Rainsford.
Ar ynys bell mae dyn yn aros. Wedi ei ddinoethi o’i safle, pŵer a chyfoeth, mae ei elynion wedi ei adael mewn unigedd. Ond nid dyn cyffredin mo hwn, ac nid ynys gyffredin ydyw ychwaith. Dewin yw Prospero, gyda’r gallu i reoli’r gwir elfennau a phlygu natur i’w ewyllys. Pan mae hwyl yn ymddangos ar y gorwel, mae’n ymestyn allan ar draws y cefnfor i’r llong sydd yn gartref i’r dynion sydd wedi ei bechu. Gan greu storm hudol enfawr, mae’n dryllio’r llong ac yn golchi ei elynion ar i’r lan. Pan maent yn deffro, maent yn darganfod eu hun ar ynys ffantastig lle nad oes unrhyw beth fel ag y mae.
Gwybodaeth / Archebu
chapter.org
23
GWYBODAETH Sut i Archebu Tocynnau
Gwybodaeth
Dros y ffôn — ffoniwch ni ar 029 2030 4400. Rydym yn derbyn pob un o’r prif gardiau credyd. Galwch heibio — mae ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 11am–8.30pm, ac ar y Sul o 3pm–8.30pm. Ar–lein: Gallwch archebu ar www.chapter.org bob awr o’r dydd a’r nos Consesiynau: Mae cyfraddau disgownt ar gael i fyfyrwyr, pobl dros 60 oed, plant, y di–waith, pobl anabl, deiliaid cerdyn MAX ac i Ffrindiau Chapter a deiliaid Cerdyn Chapter. Bydd angen i chi gyflwyno prawf o’ch cymhwyster i dderbyn cyfradd ostyngol. Archebion grŵp: Prynwch 8 tocyn ac fe gewch chi’r 9fed yn RHAD AC AM DDIM. Noder os gwelwch yn dda • dim ond un disgownt y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw un adeg • rydym yn hapus i dderbyn archebion ymlaen llaw ond ni allwn gadw tocynnau i’r naill ochr • os cyrhaeddwch chi’n hwyr mae hi’n bosib y cewch chi’ch atal rhag mynychu eich digwyddiad. Cyflwynir rhai o’n ffilmiau â Disgrifiadau Sain ac Is–deitlau Meddal ond nid yw’r wybodaeth hon bob amser ar gael ar adeg argraffu’r cylchgrawn. Gweler ein gwe–fan am fanylion neu piciwch draw i’r Swyddfa Docynnau yn ystod yr wythnos y mae’r ffilm yn cael ei rhyddhau.
Cwmnïau ac Artistiaid Cysylltiedig Mae Chapter yn gartref i gwmnïau theatr, cwmnïau dawns, stiwdios animeiddio, gwneuthurwyr printiau, crochenwyr, dylunwyr graffeg, dylunwyr deunydd symudol, cyfansoddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, cyhoeddwyr cylchgronau, artistiaid annibynnol a llawer iawn mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.
Sinema Cyn 5pm O 5pm ymlaen Llawn £4.50 (£4.00) £7.90 (£7.20) Disg £3.50 (£3.00) £5.80 (£5.10) Cerdyn + Disg £3.00 (£2.50) £5.00 (£4.50) DISGOWNT DYDD MAWRTH Tocynnau’r holl brif ddangsiadau — £4.40
Gweithdai a Dosbarthiadau Rydym yn cynnal amrywiaeth eang o weithdai dyddiol a dosbarthiadau gydag ymarferwyr annibynnol, gan gynnwys ballet, zumba, ioga, crefft ymladd, massage i fabanod, cerddoriaeth i blant, pilates, tango, fflamenco, ysgrifennu creadigol, gwersi cerddoriaeth a mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.
Sut i gyrraedd Chapter Fe ddewch chi o hyd i ni yn Nhreganna, i’r gorllewin o ganol y ddinas. Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE Ar Droed Mae hi’n daith gerdded hamddenol o ryw 20 munud o ganol y ddinas. Ar Fws Mae bysus rhif 17, 18 a 33 yn aros gerllaw ac yn gadael bob pum munud o ganol y ddinas. Ar Feic Mae digon o raciau beic ar flaen yr adeilad. Parcio Mae gennym faes parcio yng nghefn yr adeilad ac mae meysydd parcio lleol eraill wedi eu nodi ar y map. Gofynnwn i chi barchu ein cymdogion os gwelwch yn dda drwy osgoi parcio mewn strydoedd cyfagos.
Prisiau ymlaen llaw/ar–lein mewn cromfachau. Mae “Ymlaen llaw” yn golygu unrhyw bryd cyn diwrnod y dangosiad.
aff nd Lla
d Roa
e St. Glynn
arc
lyF
Heo
o 6pm
cen res
Ham i l t o n
St
t
Gr
ad
mC ha
Road
St. ay
Treganna
Le c h kwit
Church Rd.
Heol Ddwy rein i o l y B o n t F a en Penllyn Rd.
Harve
nd Wy
rn Seve
ane
. Library St
L Gray
M a rk e t P l . treet yS
St Talbot
Orc h a r d P l.
King’s Ro
d hna
Springfield Pl.
St. Gray
rt S
t.
Road
Earle Pl.
A l be
P — meysydd parcio rhad ac am ddim — rac feics
r R—oadarhosfan bysus Majo
I Ganol Dinas Caerdydd ton
ling Wel
Stre
et
Mynediad i bawb Mae Chapter yn croesawu ymwelwyr anabl. Os oes gennych anghenion mynediad penodol, ffoniwch ein swyddfa docynnau ar 029 2030 4400.