George barber AKULA DREAM
Dream Myself Outside: YNGLˆ YN Â GEORGE BARBER
Gellid maddau i rywun am feddwl bod yna sawl artist fideo o’r enw George Barber. Ai’r un George Barber sydd yn gyfrifol am Absence of Satan (1985), â’i sampls o deledu a sinema rwtsh America wedi’u gosod mewn montage afresymegol i gyfeiliant cerddoriaeth gitâr electro trwm, ac am I Was Once Involved in a Shit Show (2003), sydd yn stori yn y person cyntaf — hynod Seisnig, hynod ddoniol a phruddglwyfus — am brofiad trist mewn arddangosfa wedi’i noddi gan berchennog gwaith sment? A yw hi’n bosib taw’r un Barber wnaeth Automotive Action Painting (2007), gwaith un olygfa wedi’i ffilmio o’r awyr o geir yn igam-ogamu drwy lond lle o baent lliwgar wedi’i dywallt ar lain lanio, ag a wnaeth Akula Dream (2015), gwaith cywrain sy’n llawn o effeithiau CGI a geiriau wedi’u sgriptio’n ofalus? Wel, ydy, mae hi’n bosib ac nid peth damweiniol yw’r ymagweddu anuniongred hwn, o ystyried bod gwaith Barber — er gwaetha’i amrywiaeth — wedi targedu uniongrededd niweidiol erioed. Mae uniongrededd yn rhemp ym myd y celfyddydau, wrth gwrs; mae’n annog artistiaid i ildio i deipiau dealladwy. Mae Barber yn darged symudol sy’n saethu ei dargedau ei hun. Wedi dweud hynny, nid yw hyd yn oed y syniad o ‘feirniadaeth’ fel petai’n hollol gymwys ar gyfer trafodaeth o’i waith.
Mae Akula Dream, er enghraifft, ac yn ffurfiol o leiaf, fel petai mor bell o arddull arloesol Scratch Video Barber yn yr 1980au — er bod yna ddogn dda o hiwmor yn y ddau — ag y mae cymeriadau’r ffilm newydd hon yn bell o dir cadarn neu ddiweddglo hapus. Ar waelod y môr, ym 1988, mewn llong danfor niwclear Sofietaidd, mae Capten Pavel yn llwyr ymwrthod â disgwyliadau ei rôl. Mae’r ffilm yn teimlo fel cyfuniad anghymarus o Heart of Darkness a Yellow Submarine. Mae’r capten yn ymgolli mewn drymio siamanaidd a theithiau serol ac yn ceisio ‘breuddwydio y hwnt i’r llong’. Mae’r criw yn amharod, gan mwyaf, i ymuno ag ef yn ei gwest ymenyddol. Yn y cyfamser, mae yna awgrymiadau clir bod i’r stori hon adleisiau trosiadol tywyll: mae’r criw, ‘300 metr o dan y môr mewn tiwb yn llawn casineb’, yn clywed gan eu rheolwr taw ‘y ddynoliaeth yw’r arf niwclear go iawn’ a bod ‘y byd yn ein galw ni. Ac, fel plentyn, mae’r byd yn crio’. Annisgwyl wedyn, felly, yw clywed cân garej ‘vintage’ — y gyntaf o nifer o fideos pop byrion yn y ffilm — sy’n cyfleu ymwybyddiaeth ecolegol gynyddol aelod o’r criw. Ond dyna sy’n digwydd. Ac os ydych chi’n disgwyl wedyn i bopeth ddod i ddiweddglo hapus, yn hytrach na gorffen — ar ôl sawl episod seicedelig ac afieithus pellach — â’r Sofietiaid yn dinistrio’u llong eu hunain, yna d’ych chi ddim yn adnabod Barber yn dda iawn. Mae’r elfennau gwrthddiwylliannol 60aidd yn y fan hon yn cyferbynnu â chyd-destun 80aidd y ffilm (degawd pan gafodd delfrydau’r 60au, gan gynnwys ymwybyddiaeth ecolegol, eu dadwneud gan geidwadwyr, a degawd hefyd pan lwyddodd cyfalafiaeth i gael y llaw uchaf ar gomiwnyddiaeth). Mae’r cyddestun hwn yn cyfrannu at senario ‘beth petai?’ — a senario sy’n derbyn o hyd bod diweddglo trychinebus yn debygol. Er gwaetha’r gragen ddoniol allanol, a sylwadau eironig y criw, gwelwn graidd melancolig y ffilm. Mae’r llong danfor, siawns, yn symbol o’r ffug ymwybyddiaeth sy’n caethiwo’r rhan fwyaf o’r ddynoliaeth; rydym yn canolbwyntio ar fanion wrth i’r blaned fynd ar ei phen i uffern. Mae Barber, yn y cyfamser, yn creu celfyddyd fideo sy’n cwmpasu estheteg pop, actio go iawn, cymysgedd o realiti a graffeg cyfrifiadurol, hiwmor a thristwch; mae e wedi llwyddo eisoes i ddianc o un bocs. Ond nid yw’r rhan fwyaf ohonom, fe ymddengys, yn gallu dianc o’n bocsys ein hunain. Yn The Very Very End (2013), mae Barber unwaith eto yn tynnu sylw at bosibiliadau plastig ei gyfrwng drwy deithio yn ôl ac ymlaen mewn amser — mae e’n cyfeirio at nofel apocalyptaidd Neville Shute, On the Beach (1957) (paranoia hanesyddol unwaith eto am ryfel niwclear), ac yn gosod ei stori yntau am Ddydd y Farn mewn cyrchfan gwyliau cyfoes. Mae tri deg saith o daflegrau niwclear wedi ffrwydro ac mae diwedd y byd ar gyrraedd ond mae
cerddoriaeth glwb yn chwarae ac mae pawb yn dal i wylio’r teledu. Clywn bod y bobl yn gwylio delweddau o ddechrau’r bydysawd wrth iddyn nhw aros i’r ymbelydredd wneud iddyn nhw ‘chwydu a gwanychu’. Yn ei droslais, mae Barber yn swnio fel petai’n derbyn y sefyllfa â llonyddwch tawel ac mae hynny, efallai, yn rhan o’r broblem â wêl. ‘Mae pobl yn dal i gredu y bydd popeth yn iawn,’ medd Barber, ‘ond fydd popeth ddim yn iawn.’ Mae cerddoriaeth glasurol emosiynol yn dod i amharu ar bethau ac, fel yn y gwaith Scratch Video, mae delweddaeth wyddonias a ffilmiau ‘blockbuster’ yn cael eu hail-osod a’u hailystyried. Gellid disgwyl, mewn byd delfrydol, i sylweddoliad bod y byd yn mynd ar ei ben i ebargofiant fod yn ddigon i ysgwyd y boblogaeth o’i diogi. Ond nid byd delfrydol yw hwn, gwaetha’r modd. Wedi dweud hynny, nid rhyfel niwclear yw’r bygythiad mwyaf tebygol i’n dyfodol. Mae’n drosiad yn y fan hon, fel y mae yn Akula Dream, am fygythiad mwy real o lawer: distryw amgylcheddol, yn ôl pob tebyg (er bod yna bosibilrwydd o hyd y daw gwallgofddyn i lansio Armagedon niwclear). Ond nid ateb Barber yw anfon ei gynulleidfa i ymuno â’r brotest agosaf. Ei ateb, yn hytrach, i aneffeithiolrwydd posib celfyddyd yw ailddiffinio’i thelerau: mae celfyddyd yn ymateb i ac yn adlewyrchiad o’r byd fel y mae — ac fe allai gweld pethau fel y maent, gweld y tu ôl i’r llen, fod yn ddigon o gyfiawnhad ynddo’i hun. Mae Barber hefyd yn codi’r posibilrwydd o newid ymwybyddiaeth yn nes ymlaen, drwy gyfrwng trafodaeth, drwy ddwyn pryderon i’r golwg a thrwy awgrymu llwybrau nerfol amgen. Eto i gyd, nid yw Barber yn naïf. Mae’r diwedd, bron yn sicr, ar ei ffordd, waeth beth fyddo barn artistiaid. Ac fe all y diwedd hwnnw fod yn syndod o gymharus â’r presennol: daw mewn goddefedd, mewn syrthni syfrdan, mewn hamddena diofal, digon o deledu a dim gormod o feddwl. Mae The Freestone Drone (2013) yn gydymaith i The Very Very End (mae’n defnyddio’r un gerddoriaeth glasurol ysgubol) ac yn cyfnewid pryderon hanesyddol am un o’r pryderon cyfoes mwyaf arwyddocaol, sef rhyfela o bell. Yma eto mae Barber yn ceisio mynd y tu hwnt i ymatebion parod wrth ddadansoddi; mae drôns yn ennyn ofn heddiw am eu bod yn cynrychioli ffordd o ryfela sydd yn ddyfodolaidd ddifeddwl. Er mwyn pwysleisio hyn, ac er mwyn gwrthdroi’r senario, mae Barber yn dynoli’r drôn. Mae’n ei gymharu â Tomos y Tanc (ac yn gwneud defnydd o gerddoriaeth enwog y gyfres honno). Mae’n rhoi iddo bersonoliaeth, llais gwirion ac ambell linell o ddeialog tywyll a doniol am drôn sydd ‘jyst yn digwydd eich ffrwydro chi’n yfflon’. Awgrym Barber yw nad yw drôns yn arfau gwaeth nag arfau’r gorffennol ond eu bod fel petaent yn codi mwy o ofn arnom — a bod hynny’n werth ei ystyried.
Yma, fel yn Akula Dream, mae yna ddeffroad — cyrraedd cyflwr o feddwl annibynnol — sy’n awgrymu diffyg ymwybyddiaeth ehangach. Ac, unwaith eto, nid yw Barber yn anelu at ei darged yn uniongyrchol. Mae The Freestone Drone yn dilyn sawl trywydd, yn talu gwrogaeth i ffilm Chris Marker, La Jetée (1962), ac yn ein hatgoffa nad yw ystyron delweddau yn sefydlog; gallant gael eu meddiannu, yn wir, a’u dwyn. Defnyddir pytiau o raglenni dogfen natur i grynhoi’r mŵd cyfoes (‘roedd y tywydd ar y pryd yn anarferol o oer’) ynghyd â naratif lle mae’r drôn, sy’n ymgysylltu ag ofnau dyfnion, yn achosi difrod enbyd yn Efrog Newydd. Rhyfeddaf oll, efallai, yw’r modd y down i gydymdeimlo â’r drôn animistaidd di-wyneb, sydd yn ei ffansio’i hun yn fardd ac yn cael ei dristáu, i bob golwg, gan yr anesmwythyd y mae’n ei ennyn mewn eraill. Os yw gorsymleiddio yn un o dargedau mawrion Barber, targed arall ganddo yw amnesia y cenedlaethau. Rydym yn byw mewn ofn yn awr, a hynny’n hollol hunanol, fel pe na bai cenedlaethau’r gorffennol hefyd wedi byw mewn ofn. (Ac fe allai’r cenedlaethau blaenorol hynny, wrth gwrs, fod wedi cael yr union brofiad o’u hofnau nhw; efallai taw dyna wir natur y natur ddynol — syniad o unigrywedd neu eithriadaeth ddiddiwedd.) ‘Mae gennym luniau o’n dyfodol eisoes. Delweddau o’r gorffennol ydynt’, meddai’r Freestone Drone. Fe all y manylion newid ond wnaiff y llwybr ddim. Mae’r argyfwng ffoaduriaid presennol yn debyg i’r hyn a welwyd ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd (mae Barber ei hun yn gwneud y gymhariaeth honno); y mae hefyd yn naratif a all symleiddio hanes. Yn Fences Make Senses (2014), mae’r artist yn ennyn empathi â ffoaduriaid mewn modd digon deifiol, gan gynnig diagnosis a dadansoddiad o’r hyn y gallai celfyddyd ei gyflawni. Yn y gwaith hwnnw, mae e’n ceisio dangos yn glir ychydig o realiti plaen ymfudo — cyfnodau estynedig mewn gwersylloedd, ‘nofio i fan lle nad oes yna groeso’, prynu cerbyd er mwyn gallu dianc a chael nad oes olwynion ganddo. Mae e hefyd yn tynnu sylw penodol at ystyron ei ddelweddau. Caiff dˆ wr glaswyrdd cyfoethog, y math a welir mewn hysbysebion gwyliau, ei ail-ddiffinio yn y troslais fel deunydd y mae’n rhaid i’r ffoadur nofio trwyddo. Mae yna hysbys eironig am dingi ac, unwaith eto, fe ddefnyddir ieithwedd prynwriaeth i greu empathi. Mae bwriadau Barber unwaith eto yn ddeublyg, eironig. Mae’r gwaith yn awgrymu taw lleferydd o’r math hwnnw yw’r llais mwyaf democrataidd y gallai rhywun ei ddefnyddio i gyfleu pwynt pwysig. Yn nes ymlaen yn y darn, mae senario ddyfodolaidd yn ymwneud ag awydd cynulleidfaoedd prif ffrwd i daflunio’u hunain mewn amser ac i ddefnyddio a chywasgu amser yn y fath fodd ag i weld patrymau. Ond ‘mae amser dynol,’ fel y dywed Capten Pavel, ‘yn bitw.’
Mae dealltwriaeth, hyd yn oed os defnyddir offer aneffeithiol i geisio hynny, yn un o amcanion Fences Make Senses, hyd yn oed â’r gwaith yn tanseilio’i ddyfeisiau cyfathrebu ei hun. Gwneir cymariaethau pigog rhwng ffa mewn lori (sy’n derbyn gofal am eu bod yn gynhyrchion) a phobl mewn lori (nad ydyn nhw’n derbyn gofal o gwbl), a’r ffaith bod bisgedi yn cael eu pacio fel na chânt eu malu tra bod ymfudwyr, fel y gwyddom, yn aml yn marw yn ystod eu teithiau nhw. Datguddir syniad o realiti sy’n diffinio dinasyddion cyfoethog y Gorllewin a’u teimladau o gyfrifoldeb tuag at y tlodion hynny sy’n sail i’w cyfoeth eu hunain. Felly hefyd yr esgusodion parod a leisir gan actorion Barber: ‘All neb ddatrys problem sy’n cynnwys hanner can miliwn o bobl.’ ‘Oes disgwyl i ni stopio i godi pobl o bob llong a welwn? Bydden ni’n stopio drwy’r dydd bob dydd.’ ‘Nid ein problem ni yw hi, mae hi’n broblem i wledydd a llywodraethau.’ Mae’r ffilm yn amalgam cymhleth o’r problemau a ddatguddir ac yn cyfleu amhosibilrwydd dod o hyd i ddatrysiadau ystyrlon ynghyd ag ymdrechion er gwaetha’ hynny i geisio datrysiadau o’r fath. Mae’r cyfan yn mynd ac yn dod, mewn rhyw lanw a thrai oesol. ‘Mae dychmygu yn fan cychwyn o leiaf,’ medd Barber, gan nodi bod angen i gelfyddyd fodoli mewn parth realistig, heb ddiystyru cyfrifoldeb na chwaith guddio o’r golwg mewn byd o ddelfrydau. Ac, unwaith eto, mae Barber fel petai’n gwrthsefyll ffiniau arddulliol (sydd yn arbennig o addas mewn ffilm sy’n ymwneud yn ei hanfod â ffiniau, wrth gwrs). Gwelwn hysbysebion, delweddau dogfennol, darnau o film verité, dilyniannau a golygfeydd wedi’u hactio. Gellid disgrifio sylwedd y gwaith, fodd bynnag, fel ‘medley’ cymhleth o ffurfiau ffilmaidd sydd yn gyforiog o leferydd. Mae’n ffurf anghonfensiynol, rhyw fath o Gesamtkunstwerk o gelfyddyd fideo lle gwelir yn glir ddylanwad Jean-Luc Godard, a aeth ati ei hun i estyn ac ehangu’r diffiniad o’r hyn y gellid ei gynnwys mewn gwaith sinematig. Mae Barber, fodd bynnag, yn cadw’r hawl i wrthddweud ei estheteg ei hun. Ym mhedair ffilm Shouting Match, a ffilmiwyd yn Llundain, Bangalore, Tel Aviv a New Orleans, mae e’n creu sefyllfa sydd, yn ei symlrwydd, yn dwyn i gof gynyrchiadau pur ei gelfyddyd fideo gynnar. Mae dau berson yn eistedd ar gadeiriau, wedi’u gosod ar draciau, ac yn gweiddi ar ei gilydd: mae cynorthwywyr yn asesu pa un o’r ddau sydd yn gweiddi uchaf ac yn ei wthio ymlaen neu yn ei dynnu’n ôl, i mewn ac allan o ffrâm y camera. Mae pob lleoliad dinesig yn cynhyrchu gwahanol fath o ymryson (gweler yn arbennig theatraeth y rhan Indiaidd), gan awgrymu nid yn unig bod bodau dynol yn bodoli mewn gwrthdaro parhaol â’i gilydd, a bod y gwrthdaro hwnnw’n ymddangos yn reit hurt o’i weld o’r tu allan, ond hefyd, o ehangu’r
cyd-destun, bod cenhedloedd yn cynhyrchu eu mathau eu hunain o ymddygiad ymosodol. Bu pobl yn anghydweld ers cyn cof, wrth gwrs, ond mae Barber fel petai’n ymddiddori yn y fan hon yn y modd y gallai hynny fod yn alegori ar gyfer oes gyfalafol, brynwriaethol, lle mae sylw yn gynnyrch i’w werthu ar y farchnad rydd. Does neb, yn y darnau hyn, yn gwrando ar ei gilydd: yr hyn sy’n bwysig yw gallu gweiddi’n uwch na’r llall, rhag i rywun gael ei dynnu allan o’r ffrâm. Caiff cyfathrebu ei leihau i’w ffurf symlaf ac mae Barber yn cywasgu celfyddyd fideo hefyd — mater syml ydyw o ofyn ‘pwy sydd yn y ffrâm?’ Mae e hefyd yn cynnig ffordd amgen o ystyried Shouting Match, dadansoddiad y tu hwnt i’r darlleniad sychdduwiol o’r gwaith fel beirniadaeth o wrthdaro dynol (mae’r darn yn llawn dop o gomedi tywyll hefyd, wrth gwrs). Bydd y gweiddi’n parhau. Fe weiddwn tan y byddwn yn groch, tan ddiwedd y byd, efallai. Ac fe setlwn ni yn ein cadeiriau cyffyrddus wedi hynny i wylio’r cwbl ar y teledu. Neu efallai y daw celfyddyd i gynnig achubiaeth i ni yn y cyfamser. Dyw Barber ddim fel petai’n ffyddiog iawn y digwyddiff hynny — ond mae gallu dychmygu sefyllfa o’r fath yn fan cychwyn o leiaf. Martin Herbert
DELWEDDAU Clawr The Very, Very End, 2013, fideo, 9 munud Tudalennau 1 & 2 Automotive Action Painting, 2007, fideo Manylder Uchel, 6 munud 3 eiliad Tudalennau 3 & 4 Absence of Satan, 1985, fideo, 4 munud 46 eiliad Tudalen 5 Akula Dream, 2015, fideo Manylder Uchel, 26 munud Tudalennau 7 & 8 Akula Dream, 2015, fideo Manylder Uchel, 26 munud Tudalen 10 The Freestone Drone, 2013, fideo Manylder Uchel, 13 munud Tudalen 11 Fences Make Senses, 2014, fideo Manylder Uchel, 28 munud 4 eiliad Tudalen 15 & 16 Shouting Match India, 2010, fideo, 6 munud 14 eiliad Tudalen 17 The Very, Very End, 2013, fideo, 9 munud
Delweddau gyda chaniat창d caredig yr artist a waterside contemporary, Llundain
George barber AKULA DREAM 01.10.15—10.01.16
Chapter Market Road, Cardiff CF5 1QE, UK Heol y Farchnad, Caerdydd CF5 1QE, DG +44 (0)29 2031 1050 visual.arts@chapter.org www.chapter.org /chaptergallery