EXPERIMENTICA GALW AM GEISIADAU 29.03.17—02.04.17 CHAPTER, CAERDYDD, UK www.chapter.org
Doppelgangster, TITANIC, Experimentica15. Llun: Warren Orchard
BETH YW EXPERIMENTICA? Mae EXPERIMENTICA yn ŵyl bum niwrnod flynyddol a gynhelir yng Nghaerdydd. Fe’i sefydlwyd yn 2001. Mae EXPERIMENTICA yn cyflwyno rhaglen ddeinamig o gelfyddyd, perfformiadau a phrosiectau rhyngddisgyblaethol byw ac mae’n llwyfan pwysig sy’n caniatáu i artistiaid Prydeinig ac o bedwar ban byd gynhyrchu neu gyflwyno gwaith. Mae EXPERIMENTICA yn gyfle i artistiaid (profiadol a di-brofiad fel ei gilydd) gyflwyno gweithiau heriol ac arbrofol a hynny mewn awyrgylch agored a chefnogol lle mae i’r artist rôl ganolog. Gall EXPERIMENTICA fod yn ddifyr, yn beryglus, yn ddryslyd, yn wir bob gair, yn chwareus, yn bryfoclyd, yn ffraeth ac yn boenus — ac yn unrhyw beth arall dan haul! Nod EXPERIMENTICA yw cefnogi artistiaid sy’n ymwneud a chelfyddyd fyw ac sydd yn defnyddio dulliau arbrofol.
EXPERIMENTICA: IAITH DDIRGEL Eleni mae EXPERIMENTICA yn ymwneud ag Iaith Ddirgel. Iaith dosbarth cymdeithasol, iaith bod yn cŵl, codau cyfrinachol. Iaith celfyddyd, iaith tecstio a slang. Pwy sy’n cael dewis beth sy ‘mewn’ a beth sy ‘mas’? Pa ieithoedd anweledig sy’n rheoli ein bywydau?
Gabriel Dharmoo, Anthropologies Imaginaires, Experimentica15. Llun: Warren Orchard
AM BETH FYDDWN NI’N CHWILIO? Rydym yn chwilio am artistiaid sydd yn cymryd rhan mewn prosesau arbrofol byw — boed hynny’n berfformio, yn ysgrifennu, yn ddeunydd sain, ffilm, fideo, gosodiadau, dawns neu theatr. Hoffem glywed gan artistiaid sy’n awyddus i gymryd rhan ac i ymwneud â thrafodaethau am eu gwaith mewn awyrgylch cefnogol a chymdeithasol, a chan y rheiny sy’n awyddus i rannu syniadau, i ehangu dealltwriaeth ac i fyfyrio ar brofiadau yn ystod yr ŵyl. Rydym yn croesawu cynigion gan unigolion a grwpiau sy’n cael eu cyffroi gan y syniad o arbrofi a chan y rheiny sy’n hoff o gymryd risgiau. Efallai y byddwch am weithio mewn ffordd newydd sy’n ymwneud â’r ŵyl a’i chyd-destun ehangach, boed hynny yn fyw, ar-lein, mewn print, ar radio neu drwy ddulliau darlledu eraill. Os oes gennych syniad yr hoffech ei archwilio, gwaith sydd yn barod i gael ei weld am y tro cyntaf, neu gynhyrchiad yr hoffech chi ei gyflwyno i gynulleidfa newydd, byddai’n dda gennym glywed gennych. BETH FYDDWCH CHI’N EI DDERBYN? Bydd pob artist yn derbyn ffi. Yn ogystal â hynny, byddwn yn talu eich holl gostau teithio (hyd at £750) ac yn talu am lety i chi yn ystod eich cyfnod yn yr ŵyl. Cymorth technegol a gwasanaethau marchnata, ynghyd â sylw i chi ac i’ch gwaith yng nghylchgrawn EXPERIMENTICA. Delweddau manylder uchel o’ch gwaith. Pas rhad ac am ddim i Ŵyl EXPERIMENTICA a fydd yn eich galluogi i weld cymaint ag y gallwch tra byddwch chi yma.
Dog Kennel Hill Project, Shelly on a Loop, Experimentica15. Llun: Warren Orchard
SUT I WNEUD CAIS AR E-BOST — Atodwch ffurflen gais wedi’i chwblhau (gellir ei lawr-lwytho hi fan hyn) — CV artistig byr (dolenni ar-lein, pdf neu ffeiliau .doc. Dim mwy na dwy dudalen A4) — Dolenni i ddeunydd ategol (gwefannau, adolygiadau, fideo, Dropbox ac yn y blaen) Anfonwch eich ceisiadau ar e-bost at visual.arts@chapter.org gyda’ch enw a’r geiriau CAIS EXPERIMENTICA ym mhwnc yr e-bost
DRWY’R POST: — Ffurflen gais wedi’i chwblhau (gellir ei lawr-lwytho hi fan hyn) — Deunydd ategol perthnasol. (Disgiau DVD, Blu-Ray, USB, CD o ddelweddau) — Amlen â stamp a chyfeiriad arni i ni gael dychwelyd eich deunydd Anfonwch eich ceisiadau at: EXPERIMENTICA, d/o Celfyddydau Gweledol Chapter, Chapter, Heol y Farchnad, Caerdydd CF5 1QE Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau fydd 12pm ar ddydd Gwener 9 Medi Dalier sylw: Rydym yn derbyn nifer fawr o geisiadau bob blwyddyn felly ystyriwch y deunydd a anfonwch yn ofalus — meddyliwch am yr hyn sy’n cynrychioli eich gwaith orau a gyrrwch y deunydd a fydd, yn eich barn chi, yn gweddu orau i’r ŵyl. Os bydd gennych gwestiynau neu os oes angen cyngor arnoch ynglŷn â’r hyn i’w gynnwys gyda’ch cais, anfonwch e-bost atom — visual.arts@chapter.org — neu ffoniwch +44 (0) 29 2031 1050
Haranczak/Navarre Performance Projects, Seven Falls, Experimentica15. Llun: Warren Orchard
DYDDIAD CAU AR GYFER CEISIADAU 12PM DYDD GWENER 9 MEDI 2016 Heol y Farchnad, Caerdydd, Cymru, UK CF5 1QE +44 (0) 29 2031 1050 www.chapter.org
Design: Nelmes Design +44 (0)29 2064 5777
Ben Tinniswood & Tracy Harris, Shh, Experimentica15. Llun: Warren Orchard