EXPERIMENTICA14 CO-EXISTENCE HAS NEVER BEEN EASY 5–9 Tachwedd 2014 CHAPTER, CAERDYDD, DG www.chapter.org
Holly Davey, If Only I Could Remember, Experimentica13. www.hollydavey.com. Llun: Warren Orchard
Mae Experimentica yn ŵyl bum-niwrnod o hyd a gynhaliwyd yn flynyddol yng Nghaerdydd ers 2001. Mae Experimentica yn cyflwyno rhaglen ddeinamig o gelfyddyd fyw, perfformiadau a phrosiectau rhyngddisgyblaethol ac yn llwyfan o bwys ar gyfer cynhyrchu a chyflwyno gwaith gan artistiaid Prydeinig a rhyngwladol. Mae Experimentica yn gyfle i artistiaid ar wahanol gyfnodau yn eu gyrfaoedd gyflwyno gweithiau heriol ac arbrofol mewn cyd-destun agored a chefnogol. Rydym yn estyn croeso cynnes i weithiau ar y gweill. Gall Experimentica fod yn ddifyr, yn beryglus, yn ddryslyd, yn ogoneddus, yn chwareus, pryfoclyd a ffraeth. Gall swyno a chythruddo – ac ennyn pob math o ymatebion eraill. Mae’r broses o wneud cais - a amlinellir yn y fan hon - yn agored i bob un ac fe ddewisir prosiectau llwyddiannus gan dîm yr ŵyl yn Chapter. Dilynwch y ddolen ganlynol er mwyn cael mwy o wybodaeth am Experimentica 2013: youtube.com/chapternoise
Tim Bromage, Experimentica13. Llun: Warren Orchard
GALW AM GEISIADAU Rydym bellach yn derbyn ceisiadau ar gyfer gŵyl Experimentica 2014. Daw teitl yr ŵyl eleni o’r ffilm wyddonias District 9 (2009), a gyfarwyddwyd gan Neill Blomkamp. Mae’r gwaith yn alegori aml-haenog sy’n archwilio ein hagweddau at eraill a’r “arall”. Nid thema yw’r teitl fel y cyfryw ond man cychwyn - ffordd o ysbrydoli cyfranogwyr i archwilio’r ffyrdd yr ydym yn cydfodoli. Bob blwyddyn, mae Experimentica yn dethol amrywiaeth o artistiaid ar ôl cyfnod o geisiadau agored. Caiff yr artistiaid dethol eu gwahodd i ddatblygu eu ceisiadau er mwyn eu cyflwyno neu eu perfformio yn ystod yr ŵyl. Rydym yn croesawu ceisiadau o bedwar ban byd ond dylid nodi na fyddwn yn gallu talu mwy na £750 mewn costau teithio ar gyfer unrhyw gais unigol. Lle mae costau teithio prosiect yn debygol o fod yn fwy na £750, dylech nodi hynny yn eich cais fel y gallwn chwilio am nawdd ychwanegol o’r cychwyn cyntaf. Dylai ymgeiswyr fod yn weithgar ym meysydd perfformio byw arbrofol, sain, ffilm a fideo, gosodiadau, dawns a theatr. Efallai y bydd rhai ymgeiswyr hefyd yn ysgrifennu barddoniaeth neu ryddiaith ac yn awyddus i roi eu gwaith ar brawf mewn ffyrdd newydd, ffyrdd sy’n ymwneud ag ethos yr ŵyl a’r cyd-destun ehangach – ar-lein, mewn print, darllediadau radio neu ddull eraill o ddarlledu. Os oes gennych syniad yr hoffech roi cynnig arno, neu waith sydd eisoes wedi’i gwblhau yr hoffech ei ddangos am y tro cyntaf, neu berfformiad yr ydych chi wedi ei gyflwyno ond yn awyddus i’w ddangos i gynulleidfaoedd newydd, rydym yn awyddus i glywed gennych. Os hoffech chi wneud cartref dros dro i chi’ch hun yn Chapter - neu mewn man arall yng Nghaerdydd - neu rannu syniadau a chael adborth beirniadol gan artistiaid eraill, neu os hoffech chi gynnal sgwrs neu ddigwyddiad, byddai’n dda gennym glywed gennych. Os ydych chi’n artist ac yn awyddus i gymryd rhan, fe’ch anogwn chi i aros am bum niwrnod yr ŵyl fel y gallwch wneud y mwyaf o’ch amser yma. Yn ogystal â bod yn gyfle i weld gweithiau gan artistiaid eraill, bydd hyn yn galluogi i chi gymryd rhan hefyd yn ein sgyrsiau dyddiol ac i adolygu perfformiadau, cymryd rhan mewn sgyrsiau a chyflwyniadau gan ein tîm ni o artistiaid/curaduron - ac i gymdeithasu hefyd, wrth gwrs. Kerrie Reading, perfformiad, rhan o gomisiwn Experimentica13 gyda Mike Pearson a Heike Roms. Llun: Warren Orchard
SUT I WNEUD CAIS: ARTISTIAID Os hoffech chi gynnig gwaith i Experimentica, bydd angen i chi anfon y wybodaeth ganlynol: 1. Enw, cyfeiriad, rhif(au) ffôn a chyfeiriad e-bost; 2. Amlinelliad o’r gwaith yr hoffech ei gyflwyno yn Experimentica. Ni ddylai’r amlinelliad gynnwys mwy na rhyw 500 gair; 3. CV byr - dim mwy na 2 ochr o bapur A4. 4. Syniad o’ch cyllideb a’r swm yr hoffech ei dderbyn gan Experimentica (ni ddylai hwn fod yn fwy na £1,000 heb gynnwys costau teithio a llety - caiff y costau hyn eu dyrannu ar wahân); 5. Syniad o unrhyw offer arbenigol ychwanegol y bydd eu hangen arnoch y tu hwnt i’r hyn a nodir yn eich cyllideb; 6. Syniad o’r nifer o berfformwyr a/neu gynorthwywyr technegol y bydd eu hangen arnoch fel y gallwn nodi hynny yn ein cyllidebau; 7. Syniad o’ch argaeledd rhwng 5 a 9 Tachwedd 2014; 8. Deunydd ategol. Rydym yn derbyn nifer fawr o geisiadau bob blwyddyn felly dewiswch eich deunyddiau ategol yn ofalus - ceisiwch ystyried yr hyn sy’n cynrychioli eich gwaith orau a’r hyn a fydd fwyaf addas yng nghyd-destun yr ŵyl. Gallwch gyflwyno deunydd gweledol yn y ffyrdd canlynol: - Dolen(ni) i’ch gwe-fan, Vimeo, YouTube neu wefannau eraill. Cofiwch gynnwys cyfrinair os oes angen un; - Disg DVD, Blu-Ray neu USB; - CD: dylech gadw delweddau fel ffeiliau RGB lliw llawn a gwneud yn siŵr eu bod yn ddigon manwl (300dpi). Dylid cadw delweddau fel ffeiliau JPEG a’u labelu mewn ffolder â’ch enw arni. Peidiwch ag anfon mwy na 12 o ddelweddau os gwelwch yn dda a pheidiwch ag anfon gweithiau gwreiddiol - ni fyddwn yn gyfrifol am unrhyw niwed i’ch gweithiau. 9. Amlen â stamp a’ch cyfeiriad arni er mwyn i ni ddychwelyd eich deunydd. Anfonwch eich ceisiadau i: Experimentica14, er sylw Catherine Angle, Chapter, Heol y Farchnad, Caerdydd, CF5 1QE, DG neu e-bostiwch visual.arts@chapter.org Os byddwch angen cyngor am beth i gynnwys yn eich cais, e-bostiwch visual.arts@chapter.org
Nicholas McArthur & Robert Molloy-Vaughan, The Dancing Plague of 1518, Experimentica13. Llun: Warren Orchard
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Canol Dydd ar ddydd Gwener 16 Mai 2014 Heol y Farchnad, Caerdydd CF5 1QE UK +44 (0) 29 2031 1050 www.chapter.org
Nelmes Design +44 (0)29 2064 5777
Cian Donnelly, Strawberry Necklace, Experimentica13. Llun: Warren Orchard