Chapter Chwefror 2015

Page 1

029 2030 4400

@chaptertweets

chapter.org


02

Croeso

chapter.org

CROESO Croeso i’ch cylchgrawn misol sy’n cynnwys holl fanylion rhaglen Chapter ym mis Chwefror. Mae gennym ambell ddigwyddiad ardderchog i’r teulu cyfan, o ddiwrnod agored ymarferol yr ardd gymunedol, ‘Plannu’r had ar y Sadwrn’ (t9), ynghyd â gweithdy i’r plantos, i hud a lledrith theatrig yn y sioe, If Only Rosa Could Do Magic (t14), sydd yn wledd o hiwmor a direidi. Ac i’r oedolion? Rydym yn falch iawn o allu cyflwyno gŵyl From Now On (tt12–13) am yr eildro, yn dilyn lansiad hynod lwyddiannus y llynedd. Mae’r ŵyl hon o gerddoriaeth fyw, arbrofol, wedi’i churadu gan Recordiau Shape, yn wrthbwynt perffaith i Ŵyl San Ffolant. Dewch â’ch cariad, eich ffrindiau, eich teulu, i fwynhau noson o gerddoriaeth fyw anhygoel. Bydd ein sinema yn ategu darpariaeth yr ŵyl â dangosiadau o rai o ffilmiau cerddorol gorau y gorffennol a’r cyfnod cyfoes, o Performance gyda Mick Jagger (t25) i’r clasur cwlt, Blow Up (t25). Ar ddydd Sul, 22 Chwefror, bydd arddangosfa Artes Mundi 6 (tt4-7) yn dod i ben. Os nad ydych chi wedi cael cyfle eto i astudio gwaith Karen Mirza a Brad Butler, Renzo Martens a Sharon Lockhart, brysiwch, da chi. Diolch am ddarllen ac fe welwn ni chi cyn hir.

Defnyddiwch y côd QR hwn i lawr-lwytho copi digidol o gylchgrawn Chapter

Delwedd y Clawr: If Only Rosa Could Do Magic

Jennifer Kirkham Cynorthwy-ydd Datblygu Dw i wedi bod yn gweithio yn rhan o Dîm Datblygu Chapter ers ychydig dros flwyddyn bellach a dw i’n ymwneud â phob agwedd ar Gynllun Ffrindiau Chapter. Wrth i dymor yr Oscars gyrraedd y mis hwn, mae yna ambell ffilm ardderchog ar y gorwel: mae Whiplash a Inherent Vice ar frig fy rhestr i o ffilmiau i’w gweld, ynghyd â Selma, Foxcatcher ac A Most Violent Year. Dw i ddim yn siŵr a fydd gen i amser i weld pob un ond dw i’n sicr yn mynd i roi cynnig arni! Cadwch lygad yn agored am gynnig aelodaeth gwych a fydd ar gael y mis hwn!

Chapter Heol y Farchnad, Caerdydd CF5 1QE 029 2030 4400 www.chapter.org ymholiadau@chapter.org


chapter.org

Uchafbwyntiau

Oriel

03

tudalen 8

CYMRYD RHAN

Chapter Mix

Cerdyn CL1C

tudalen 9

Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawrlwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!

tudalennau 4–7

Bwyd + Diod/ Cefnogwch Ni

Theatr tudalennau 10–15

Ffrindiau Chapter Sinema tudalennau 16–29

Addysg tudalennau 30–31

Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40

Cadwch mewn cysylltiad Ymunwch â ni ar-lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

Gwybodaeth eAmserlen rad ac am ddim a Sut i eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch archebu adam.chard@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ tocynnau ym mhennawd yr e-bost. tudalen 32

Siaradwch â ni @chaptertweets facebook.com/chapterarts

Cymryd Rhan tudalen 33

Calendr tudalennau 34–35

Nodwch os gwelwch yn dda bod copïau print bras o’n cylchgrawn ar gael ar gais. Cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau ar 029 2030 4400.


Oriel

Sharon Lockhart, Stephen Blade, Trydanwr, 2008, 3 phrint cromogenig, Gyda chaniat창d yr artist, neugerriemschneider Oriel Gladstone, Blum & Poe, Artes Mundi, Chapter. Llun: Warren Orchard

04 029 2030 4400


chapter.org

Oriel

05

Renzo Martens, Episode III: Enjoy Poverty, 2009, fideo lliw â sain, 90 munud, is-deitlau Saesneg, gyda chaniatâd yr artist, Galerie Fons Welters, Amsterdam ac Oriel Wilkinson, Llundain, llun: Warren Orchard

Artes Mundi 6 Tan ddydd Sul 22 Chwefror

Rydym yn falch iawn o allu cydweithio ag Artes Mundi i gyflwyno gwaith gan Karen Mirza a Brad Butler (DG), Renzo Martens (Yr Iseldiroedd) a Sharon Lockhart (UDA). Mae gweithiau gan yr artistiaid eraill ar restr fer gwobr Artes Mundi 6 i’w gweld yn yr Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd, ac yn Ffotogallery, Penarth. I weld manylion yr holl artistiaid ar y rhestr fer ac oriau agor y lleoliadau eraill, ewch i www.artesmundi.org

Renzo Martens & Institute for Human Activities Y Blwch Golau a Chyntedd y Theatr Mae Renzo Martens yn byw ac yn gweithio ym Mrwsel ac yn Kinshasa ac yn adnabyddus am ei ffilmiau ysgytwol am wledydd wedi’u difetha gan ryfel, lle mae e’n ei osod ei hun wrth galon y digwyddiadau cythryblus er mwyn dangos sut y mae gwylwyr Gorllewinol yn ‘prosesu’ digwyddiadau trawmatig mewn gwledydd pell. Bydd Martens yn cyflwyno ‘Episode 3 (Enjoy Poverty)’, ffilm am ei ymweliad â’r Congo adfeiliedig. Cynhaliodd gyfweliadau â ffotograffwyr, perchnogion planhigfeydd a chwarae rhannau’r newyddiadurwr gorllewinol, y gormeswr, y cenhadwr a’r gweithiwr cymorth. Mae ei ffilm yn canolbwyntio ar un prif bwynt: taw tlodi yw allforyn mwyaf gwerthfawr Affrica a’i fod, fel adnoddau naturiol eraill, yn cael ei ecsbloetio gan y byd Gorllewinol. Mae e’n cyflwyno darlithoedd i’r bobl leol ac yn sôn am dlodi fel nwydd ac yn eu hannog wedi hynny i werthu eu lluniau eu hunain o newyn a marwolaeth yn hytrach na gadael i newyddiadurwyr y Gorllewin elwa ar eu trychinebau dyngarol.

Sharon Lockhart Oriel Mae Sharon Lockhart yn gweithio gydag unigolion a grwpiau i greu delweddau symudol a llonydd sydd yn weledol gymhellol ac yn arddangos ymagweddiad cymdeithasol sicr. Un o weithiau pennaf Lockhart yw Lunch Break (2008), sy’n dangos 42 o weithwyr mewn iard longau yn ystod eu hawr ginio. Yn ystod y cyfnod hwnnw, gwelwn weithwyr yn cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau — darllen, cysgu, a siarad — yn ogystal â bwyta eu cinio. Ar gyfer Artes Mundi 6 yn Chapter, bydd Lockhart yn dangos un o ddwy ffilm o Lunch Break o’r enw Exit. Wedi’i ffilmio dros gyfnod pum-niwrnod yr wythnos waith, mae pob un o’r pum golygfa yn Exit yn dangos y gweithwyr yn gadael y Bath Iron Works ar ddiwedd eu shifft. Gan ddwyn i gof ffilm Louis Lumière, Leaving the Lumière Factory, mae Exit yn canolbwyntio ar lif amser a manylion profiadau bob dydd.

Arddangosfa ar agor: Dyddiau Mawrth, Mercher, Sadwrn a Sul 12-6pm; dydd Iau a dydd Gwener 12-8pm; ar gau ar ddydd Llun


06

Karen Mirza a Brad Butler Oriel a Celfyddyd yn y Bar Bu Mirza a Butler yn cydweithio ers 1998, ac maent wedi datblygu corff o waith aml-haenog sy’n cynnwys ffilm, gosodiadau, perfformiadau, cyhoeddiadau a gwaith curadu. Mae eu gwaith yn her i dermau fel cyfranogi a chydweithredu ac i syniadau traddodiadol am yr artist fel cynhyrchydd a’r gynulleidfa fel derbynnydd. Ar gyfer Artes Mundi 6 yn Chapter, bydd Mirza a Butler yn cyflwyno ‘The Unreliable Narrator’, clwstwr o weithiau sy’n chwarae â’r bwlch rhwng ffuglen a realiti. Yn ‘You are the Prime Minister’, mae neon llachar yn troi’n wahoddiad i dderbyn rôl y Prif Weinidog mewn ffuglen ffantasïol. Mae gosodiad fideo o’u heiddo hefyd yn sôn am yr ymosodiadau ym Mumbai yn 2008, o safbwyntiau terfysgwyr a sylwebwyr ymddangosiadol ddiduedd am yn ail.

Oriel

029 2030 4400

Y ddau lun: Karen Mirza a Brad Butler, The Unreliable Narrator, 2014, fideo, gosodiad fideo 2-sianel, sain, 16’20”, delwedd fideo, gyda chaniatâd Waterside Contemporary, Llundain.


Oriel

Oddi ar brif y safle, yn yr Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd

Digwyddiadau Amser Cinio Artes Mundi

07

The Patriarchal Clock, 2014, Gyda chaniatâd Karen Mirza a Rachel Anderson. Llun: Warren Orchard

chapter.org

The Gossip

Maw 17 Chwefror 11pm–7am Mae angen chwyldro arnaf, ond does gen i ddim syniad sut beth yw chwyldro. Dw i’n teimlo ei bod hi’n amser i mi hawlio a deall fy ngallu. I ddefnyddio grym y menywod a’m rhagflaenodd a grym y rheiny a ddaw ar fy ôl. Ble mae dechrau? Mae hi’n dasg sy’n estyn ymlaen ac yn ôl drwy amser. Dechreuaf yn y fan hon — yn awr. Mae hwn yn wahoddiad i ni ddod at ein gilydd ar ddiwedd dydd, dan flanced y nos, i wylio’r lleuad. Caiff amheuon eu hatgyfodi ynghylch y prosesau hanesyddol o erlid gwrachod — prosesau a arweiniodd at ddinistrio perthnasau cymunedol, preifateiddio tir, preifateiddio bywyd ac atgynhyrchu cymdeithasol a dinistrio tir comin. Gwahoddir menywod i dreulio’r nos yma. Galwn ar ffoaduriaid, gwrachod, menywod doeth, ‘dakus’ a breuddwydwyr. Fe’ch gwahoddir i ymuno â ni i hel clecs yng nghalon yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd ar ddydd Mawrth, 17 Chwefror o 11pm-7am. Mae The Gossip yn rhan o brosiect o’r enw The Patriarchal Clock, sydd yn archwilio cyrff menywod a’u rôl fel mannau ar gyfer wrthsafiad. Mae’r prosiect yn dathlu undod, cryfder a grym merched yn wyneb trais, camdriniaeth, hiliaeth a gormes. Mae hwn yn ddigwyddiad i fenywod yn unig, ac mae croeso i bob merch. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael i ymuno â The Gossip; i nodi eich diddordeb, anfonwch e-bost at gossip@riseup.net cyn 2 Chwefror.

Iau 5 Chwefror 1.05pm Bydd Sinffonia Newydd yn perfformio première bydeang o gerddoriaeth gomisiwn arbennig a ysbrydolwyd gan arddangosfa Artes Mundi. RHAD AC AM DDIM

Sgyrsiau am 2 Sad 7 + Sad 21 Chwefror 2pm Cynhelir ein ‘Sgyrsiau am 2’ bob yn ail ddydd Sadwrn yn ystod cyfnodau ein harddangosfeydd ac fe’u cyflwynir gan ein Tywyswyr Byw, Richard Higlett a Thomas Williams. Mae’r sgyrsiau’n gyfle i ddysgu mwy am yr arddangosfa gyfredol ac am ddulliau gwaith unigryw yr artistiaid. Ni fydd dwy sgwrs yn union yr un fath ond y gobaith yw y byddan nhw’n ddiddorol ac yn agored bob amser. Mae’r Sgyrsiau am 2 yn rhad ac am ddim ac nid oes angen archebu lle ymlaen llaw — ymunwch â ni y tu allan i fynedfa’r Oriel! RHAD AC AM DDIM


08

Bwyd + Diod/Cefnogwch Ni

029 2030 4400

BWYD+DIOD/ CEFNOGWCH NI Cefnogwch Ni

Mae Chapter yn elusen gofrestredig ac rydym yn dibynnu ar gefnogaeth gan unigolion a busnesau i gyflwyno ein rhaglen artistig amrywiol a’n gwaith addysgol pwysig. Rydym yn ddiolchgar am bob ceiniog a dderbyniwn ac fe allwn gynnig ambell beth gwych i chi yn gyfnewid. Mae yna nifer o wahanol ffyrdd o gymryd rhan ...

Unigolion

Cymynroddion

Ffrindiau

Mae gadael cymynrodd i Chapter yn fodd o ddiogelu ein gwaith at y dyfodol. Os hoffech chi ystyried gadael rhodd i Chapter yn eich Ewyllys, dylech gysylltu yn y lle cyntaf â’ch cyfreithiwr i gael cyngor. Os ydych chi eisoes wedi crybwyll Chapter yn eich Ewyllys, rhowch wybod i ni, fel y gallwn gydnabod eich cyfraniad yn y modd mwyaf priodol.

Ymunwch â chynllun Ffrindiau Chapter ac fe gewch chi fwynhau amrywiaeth o fuddion yn amrywio o ostyngiadau ar docynnau a bwyd a diod yn ein Caffi Bar i wahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn Ffrindiau hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C.

Ffrind Efydd : £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur : £45/£40

Myfyrwyr Ydych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth yn rhad ac am ddim a manteisio ar gynigion arbennig ardderchog, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? Cofrestrwch heddiw drwy ymweld â http://www.chapter.org/cy/chapter-studentmembership

Rhoddion

Cofrestrwch i wneud cyfraniad unigol neu i wneud cyfraniadau rheolaidd i Chapter, er mwyn chwarae rhan lawn yn ein gwaith elusennol. Gallwch wneud cyfraniadau ar-lein, ar http://www.chapter.org/cy/ cefnogwch-ni, neu drwy ymweld â’n Swyddfa Docynnau. Gallwch wneud cyfraniadau hefyd drwy neges destun erbyn hyn — tecstiwch ‘Chap14’, ynghyd â’r swm yr hoffech ei roi, i 70070. Fydd hi ddim yn costio ceiniog i chi anfon y neges destun ac fe fyddwn ni’n derbyn 100% o’ch cyfraniad.

Busnesau Clwb Cynllun aelodaeth Chapter i fusnesau. Am ffi flynyddol fechan, gall eich busnes chi fwynhau manteision sylweddol yn Chapter, a’r rheiny’n cynnwys cyfleoedd i rwydweithio, defnydd o’n mannau llogi hyblyg a gostyngiadau i chi a’ch staff ar docynnau sinema a theatr yn ogystal ag ar fwyd a diod yn ein Caffi Bar. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.chapter.org/cy/chapterclwb

Nawdd Yn 2014, dyfarnodd Celfyddydau & Busnes Cymru Wobr Gyffredinol Categori’r Celfyddydau i Chapter am ein perthynas waith ragorol â busnesau. Mae yna nifer o gyfleoedd noddi ar gael ac mae’r rheiny’n cynnig buddion gwych, gan gynnwys cyfranogiad staff, lletygarwch corfforaethol a hyrwyddo brand.

Bwyta + Yfed

Â’r gwanwyn ar y gorwel, rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno cynnyrch ffres a chynhwysion newydd i groesawu’r tymor newydd. Cyn hynny, fodd bynnag, byddwn yn paratoi crempogau Mawrth Ynyd ac yn eu gweini â llenwadau melys a sawrus hyfryd. A fyddai hi ddim yn fis Chwefror heb Ddydd San Ffolant.


chapter.org

Chapter Mix

Cylch Chwedleua Caerdydd

Darlith Cymdeithas Celfyddydau Cain ac Addurnol De Cymru

Sul 1 Chwefror 8pm

Straeon ar Droad y Flwyddyn. Straeon, caneuon a chwmni da i’ch cynhesu ar noson aeafol. £4 (wrth y drws)

Dydd Iau Cyntaf y Mis: Barddoniaeth a Ffuglen Newydd Iau 5 Chwefror 7.30pm

Noson arbennig yng nghwmni golygydd Poetry Wales, Nia Davies, y nofelydd a’r bardd nodedig, Richard Gwyn, y beirdd ifainc o Gaerdydd, Emily Blewitt a Rebecca Parfitt, a Fran Lock sy’n byw yn Llundain. Sesiwn meic agored i ddilyn. Noddir gan Seren Press, Gwasg Mulfran a Llenyddiaeth Cymru.

£2.50 (wrth y drws)

Clwb Comedi The Drones

Gwe 6 + Gwe 20 Chwefror Drysau’n agor: 8.30pm Sioe’n cychwyn: 9pm Clint Edwards sy’n cyflwyno’r ‘stand-ups’ addawol gorau. Gwelwyd peth o ddeunydd y nosweithiau hyn ar raglen ‘Identity Crisis’ Rob Brydon. Dydd Gwener cyntaf a thrydydd dydd Gwener y mis. Un o’r ‘Deg Peth Gorau i’w Gwneud yng Nghaerdydd’ yn ôl cylchgrawn The Big Issue. £3.50 (wrth y drws)

Clonc yn y Cwtsh Bob dydd Llun 6.30–8pm

Ydych chi’n dysgu Cymraeg? Ymunwch â ni i ymarfer eich Cymraeg yng nghwmni dysgwyr eraill. Croeso i bawb! RHAD AC AM DDIM Ar y cyd â Menter Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd

Jazz ar y Sul

Sul 22 Chwefror 9pm Ein noson fisol o jazz acwstig melodig yn y Caffi Bar gyda Phedwarawd Glen Manby. RHAD AC AM DDIM www.glenmanby.com

09

Iau 12 Chwefror 2pm ‘A Royal Wardrobe Unlocked’ Kate Strasdin BA MA

Roedd y Frenhines Alexandra yn un o ffigyrau cyhoeddus mwyaf poblogaidd y 19eg ganrif ac roedd hi’n graff iawn wrth ymwneud â’i phoblogrwydd ei hun. Mae’r dillad a oroesodd o’i chwpwrdd dillad brenhinol eang yn adrodd hanes gwraig hynod. Bydd y ddarlith hon yn tynnu sylw at arwyddocâd gwrthrychau wrth fynd ati i geisio datguddio’r gorffennol. Ymwelwyr £6 (wrth y drws, yn ddibynnol ar le) www.swdfas.org

Music Geek Monthly Iau 13 Chwefror 2pm

Trafodir un clasur o albwm ac un albwm newydd sbon yn y Pwynt Cyfryngol ar ddydd Iau olaf y mis. RHAD AC AM DDIM www.musicgeekmonthly.tumblr.com

Plannu’r had ar y Sadwrn Sad 28 Chwefror 11am–2pm

Cyfle gwych i rannu eich hadau, eich planhigion ac offer garddio diangen, ac i ddysgu gan arddwyr profiadol am faterion fel hogi a chynnal eich offer a chadw gwenyn. Fyddwch chi’n dod â’r teulu gyda chi? Bydd yna weithgareddau i blant, wedi’u trefnu gan Grŵp Gerddi Cymunedol Treganna a Chaerdydd yn ei Blodau. I gael mwy o wybodaeth, e-bostiwch Sue Waring — sue.waring@buildingsfortomorrow.co.uk neu Ruth Mumford — R.Mumford@caerdydd.gov.uk neu ffoniwch (029) 2068 4000.


Theatr

‘Gwaith cymhleth, aml-haenog... darn cyfoethog yn llawn pethau hyfryd’ Jon Gower am Perfformio ‘Les Bonnes’

029 2030 4400

Perfformio ‘Les Bonnes’

10


Theatr

Perfformio ‘Les Bonnes’

Brendon Burns

Iau 19 — Sad 21 + Gwe 27 — Sad 28 Chwefror 8pm Yng nghwmni Grŵp Llanarth (Cymru), Gaitkrash (Cork, Iwerddon) a Theatr P’yut (Seoul, Korea)

Maw 10 Chwefror 8pm

11

Brendon Burns

chapter.org

Yn ystod cyfnod o galedi, pwy sy’n gwenu? Pwy sy’n gweini — a phwy sy’n derbyn? Bydd ensemble rhyngwladol yn archwilio deinameg caethwasanaeth… Cydweithrediad rhyngwladol rhwng artistiaid gwobrwyol o bedair o wledydd bychain, dan gyfarwyddyd Phillip Zarrilli a’r dramodydd, Kaite O’Reilly. Mae’r cyflwyniad yn archwilio deinameg grym a chaethwasanaeth, cyfoeth-fel-braint a gwleidyddiaeth globaleiddio. Gallwch ddisgwyl yr annisgwyl wrth i ddau bâr o chwaer-forynion (o Iwerddon ac o Korea), ‘Madame’ o Tsieina, ac artist sain a sielydd wau at ei gilydd gyflwyniad cyfoethog o gerddoriaeth, geiriau, symudiadau, ieithoedd ac ystumiau i greu profiad theatrig unigryw, wedi’i ysbrydoli gan glasur Jean Genet, Les Bonnes (Y Morynion). Wedi’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

+ Trafodaethau ar ôl y sioe £12/£10/£8 16+ oed www.phillipzarrilli.com www.kaiteoreilly.com

Nid digrifwr cyffredin mo Brendon Burns. Mae e’n hŷn, yn ddoethach ac yn llai gwyllt (ac ar ôl cael cymorth clywed mae e dipyn yn dawelach) ond mae e’n dal yn fwrlwm o egni. Mae ei droadau ymadrodd yn gwrs ond yn rhyfedd o huawdl. Maent hefyd yn gwbl hygyrch ac yn hynod hoffus. Dyw e byth yn hunan-bwysig ac mae ei natur hunanfychanus yn galluogi iddo ddweud pethau rhyfeddol. Mae ei ddylanwad ar y byd ‘stand-up’ i’w deimlo ymhobman. Cafodd ei efelychu sawl tro ond ef yw’r meistr: mae ei sioeau hirion yn ‘brofiadau’ yn hytrach na pherfformiadau. Mae Burns yn arbrofwr parhaol â ffurf ac wrth ei fodd â sialensiau newydd. £8

“Y sioe fwyaf syfrdanol, lletchwith a gwerth chweil a welsom erioed” ★★★★★★ (Sgôr ddigynsail o chwe seren allan o chwech) Time Out, Llundain


12

Theatr

029 2030 4400

‘Un o wyliau cerddoriaeth gyfoes mwyaf cyffrous ac arloesol y cyfnod diweddar’ Cylchgrawn Crack Ydy gŵyl From Now On yn apelio? Bydd ein sinema hefyd yn ymuno yn hwyl yr ŵyl ac yn dangos detholiad amrywiol o ffilmiau a dogfennau cerddorol yn ystod mis Chwefror. O glasuron cwlt y 60au i ddogfennau cerddorol cyfoes, a sesiwn karaoke Rolling Stones/David Bowie, bydd yna rywbeth at ddant pawb. Gweler y manylion ar dudalennau 24–27.


chapter.org

Theatr

13

From Now On Gwe 13 — Sad 14 Chwefror Mae’r ŵyl sy’n llawn cerddoriaeth anturus yn dychwelyd am yr eildro.

Anna Meredith, Zun Zun Egui, James Blackshaw, Jarcrew, Dope Body, Meilyr Jones, Them Squirrels, The Wharves, Moonbow, Tobion, Mowbird, Jemma Roper, Giant Burger + llu o fandiau eraill i’w cadarnhau Mark Daman Thomas Shape & Islet

Gyda’r cloc o’r chwith uchaf: Zun Zun Egui, llun: Leah Pritchard; Lucky Dragons yn FNO14, llun: Joe Singh; Grŵp Canolfan Hamdden yn FNO14, llun: Joe Singh; Moonbow, llun: Emmet Green; Them Squirrels

Dw i’n edrych ymlaen yn eiddgar at allu cyflwyno From Now On eto. Mae hi’n bleser pur cael curadu gŵyl lle gall pobl ymwneud â cherddoriaeth a sain o’r tu hwnt i’r brif ffrwd. Eleni, dw i wedi ceisio cyfuno artistiaid rhyngwladol a Chymreig, pobl sy’n hoff o gymryd risgiau ac o greu a pherfformio cerddoriaeth sydd yn unigryw ac yn ysgogi’r meddwl. Fel cerddor gyda’r band Islet, mae nifer o’r bandiau hyn wedi fy ysbrydoli a fy herio — ac mae hi’n bleser mawr gallu eu gwahodd nhw i Gaerdydd. Dw i’n edrych ymlaen hefyd at weld rhai o fy nghyd-aelodau o Islet mewn perfformiad prin o’u prosiect progadelig, Them Squirrels!

Rydym yn falch iawn o allu cydweithio unwaith eto â Shape Records i gyflwyno gŵyl o gerddoriaeth a sain anturus ac anarferol. Bydd y perfformiadau’n cynnwys pync-ffync amlieithog ac egsotig Zun Zun Egui, ‘noise rock’ Dope Body o Baltimore a sioe gosmig amlsynhwyraidd gan Moonbow. Byddwn hefyd yn cyflwyno perfformiad prin gan y rocwyr cwlt o Rydaman, Jarcrew, a pherfformiad cyntaf o brosiect newydd cyn-arweinydd Racehorses, Meilyr Jones. Bydd yna sioe ‘fuzz’ arbennig gan The Wharves hefyd. Mae hi’n addo bod yn benwythnos a hanner. Tocynnau: Dydd Gwener: £15 Dydd Sadwrn: £20 Y ddau ddiwrnod: £30 I weld y rhestr lawn o berfformwyr ac i gael mwy o wybodaeth, ewch i fromnowonfestival.co.uk

#FNO15 Cynhyrchir gŵyl From Now On gan Shape a Chapter shaperecords.co.uk Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru


Theatr

029 2030 4400

O’r chwith i’r dde: The First Time Machine, If Only Rosa Could Do Magic

14

Run Ragged Productions yn cyflwyno

The First Time Machine

Llun 9 + Maw 10 Chwefror 6pm + 8.30pm Foneddigion a boneddigesau, dewch ynghyd! Cyn Doctor Who a’r Tardis, cyn Back to The Future, roedd Anacronopete — Y Peiriant Amser Cyntaf. Mae’r Brodyr Treays yn eich croesawu chi i’w llong ofod ar gyfer taith fythgofiadwy ac ymweliad anhygoel â’r gorffennol. Yn cynnwys gweithredoedd milwrol o ddewrder anhygoel ac eirth peryglus, mae’r darn hwn yn ddawns drwy amser a fydd yn eich diddanu ac yn eich haddysgu. Gwledd o gerddoriaeth fyw, theatr a dawns. Ymunwch â’r teulu cyfan ar daith yn llawn darganfyddiadau rhyfeddol ... Foneddigion a boneddigesau, fechgyn a merched, gwisgwch eich gwregysau diogelwch! £8 7+ oed

Theatr Iolo yn cyflwyno cynhyrchiad gan Katja Brita Lindeberg

If Only Rosa Could Do Magic Gwe 20 + Sad 21 Chwefror 11.30am + 3pm Sioe glown ddoniol, chwerw-felys a hollol unigryw. Byddai rhai’n dweud bod gan Rosa bopeth y gallai merch ddymuno ei gael. Mae ganddi’r ffrog hyfrytaf, y gwallt harddaf, llawer o deganau pinc a chymaint o losin ag y gall fwyta, felly pam mae hi’n drist? Mae Rosa yn aml yn meddwl tybed a oes rhywbeth yn bod arni? Does ganddi ddim ffrindiau i chwarae â nhw ac mae ei rhieni wastad yn absennol. Felly, er mwyn pasio’r amser, mae Rosa’n creu byd o freuddwydion wedi’i lenwi â dreigiau a brogaod, a rhieni sy’n ei deall ac yn mwynhau treulio amser yn ei chwmni. Cafodd Katja Brita Lindeberg ei geni a’i magu yn Trondheim, Norwy. Mae hi’n gweithio fel artist llwyfan ac actores ac yn arbenigo mewn arddulliau clown. Cafodd If Only Rosa Could Do Magic ei gweld gan fwy na 20,000 o blant ar hyd a lled Ewrop ac roedd yn un o uchafbwyntiau gŵyl celfyddydau perfformio plant a phobl ifanc Imaginate 2014. + Gweithdy clown i blant ar ôl y sioe ar dydd Gwener 20 Chwefror, 11.30am a dydd Sadwrn 21 Chwefror 3pm — rhyw 50 munud (nifer cyfyngedig o leoedd fydd ar gael felly gorau po gyntaf yr archebwch le) £6 neu £9 am docyn cyfun ar gyfer y sioe a’r gweithdy Addas ar gyfer plant 5 — 9 oed Cefnogir gan Norsk kulturråd a Spenn.no


Theatr

15

Devil’s Violin yn cyflwyno

Oddi ar y brif safle yn yr Eglwys Norwyaidd Gagglebabble yn cyflwyno

O’r chwith i’r dde: The Forbidden Door, The Forsythe Sisters

chapter.org

The Forbidden Door Llun 9 Chwefror 8pm Beth fyddech chi’n fodlon ei aberthu er mwyn eich cariad? Croeso i sinema y meddwl. Â’u cyfuniad angerddol o gerddoriaeth fyw a chwedleua deinamig, mae Devil’s Violin yn gwau at ei gilydd alawon a dirgelwch. Peidiwch ag agor y drws! Cyn gynted ag y caiff rheol ei diffinio, caiff ei thorri. Ac ar ôl i’r drws gael ei agor ...? Anturiaethau! Rydym yn hoff bob un o stori dda, ac mae hon yn stori wych. Gallwch ddisgwyl clywed am gariad, colled, drama, perygl, arswyd, hiwmor a threialon di-ri. Ond a yw hi’n bosib gwthio pethau’n rhy bell? Bu The Devil’s Violin yn anadlu bywyd newydd i hen gelfyddyd chwedleua ers 2006. Bydd y storïwr nodedig Daniel Morden yn ymuno â’r cerddorion meistrolgar, Sarah Moody, Dylan Fowler ac Oliver Wilson-Dickson. Yn llawn dylanwadau o ganu gwerin, cerddoriaeth y byd a cherddoriaeth glasurol, mae’r gerddoriaeth a’r stori’n ffurfio undod a fydd yn eich arwain i fyd llawn dychymyg. £12/£10/£8 Oed 12+

‘Gwaith hudolus sy’n troedio’r ffin rhwng bywyd a marwolaeth ac yn cydnabod, trwy rym y llais a cherddoriaeth, bod hud a lledrith i’w cael ym mhob man’ The Times

The Forsythe Sisters

Mer 4 — Gwe 6 + Mer 11 — Sad 14 Chwefror 8pm Stori ysbryd iasol a cherddorol gan y tîm arobryn a oedd yn gyfrifol am The Bloody Ballad. Ydych chi erioed wedi gweld wyneb cysgodol yn y tywyllwch, wedi clywed wylofain rhyfedd yn ystod y nos, neu wedi cael y teimlad bod yna rywun yn eich gwylio? Mae’r Chwiorydd Forsythe yn arbenigwyr ar y paranormal — drwy gyfrwng dangosiadau disglair o gysylltiadau seicig, caneuon a hanesion go iawn, gwelwn, y mis Chwefror hwn, y gall y byw gerdded yng nghwmni’r meirw. Ond beth yw’r holl wir am y Chwiorydd? A phwy yw’r angel gwyn sy’n aflonyddu arnynt? A yw hi’n bosib go iawn i gŵn weld globynnau (‘orbs’)? Ymunwch â ni yn yr Eglwys Norwyaidd am baned o de a phrofiad o’r tu hwnt i’r bedd. Ysgrifennwyd gan Lucy Rivers a Hannah McPake Cyfarwyddwyd gan Adele Thomas Partner Creadigol: Dafydd James Cerddoriaeth wreiddiol gan Lucy Rivers, gyda’r gwestai arbennig, Dan Lambert. Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Theatr Iolo, Chapter a Chanolfan Mileniwm Cymru.

£12/£10 Rhagolygon (4 + 5 Chwefror) £10 14+ oed www.gagglebabble.co.uk @gagglebabble1 #ForsytheSisters

Sioeau Ychwanegol ‘Friday Fright Night’ ar ddydd Gwener 6 + dydd Gwener 13 Chwefror 10pm. Gwisgwch i fyny a dewch draw i sioeau arbennig ‘Friday Fright Night’ — bydd yna gyffro a hwyl ychwanegol i’w cael yn ystod y perfformiadau hyn.


16

Sinema

029 2030 4400

‘Perfformiad rhyfeddol, gwirioneddol angerddol’ Catherine Shoard, The Guardian

Testament of Youth

SiNEMA


Sinema

17

Foxcatcher

Wild

Gwe 30 Ionawr — Iau 5 Chwefror

Gwe 30 Ionawr — Iau 5 Chwefror

UDA/2014/134mun/15. Cyf: Bennett Miller. Gyda: Steve Carell, Channing Tatum, Mark Ruffalo.

UDA/2014/115mun/15. Cyf: Jean-Marc Vallée. Gyda: Reese Witherspoon, Gaby Hoffmann, Laura Dern.

Mae’r reslwr, Mark Schultz, sy’n benderfynol o ddianc o gysgod ei frawd mwy llwyddiannus, yn cael ei alw gan filiwnydd ecsentrig o’r enw John du Pont i’w ystâd i hyfforddi ar gyfer Gêmau Olympaidd Seoul 1988. Fodd bynnag, mae du Pont yn cymell arferion peryglus ac yn torri hyder Mark, ac mae hynny’n ei yrru i drobwll hunan-ddinistriol. Yn seiliedig ar ddigwyddiadau go iawn, mae hon yn drasiedi Americanaidd afaelgar am ddynion bregus a seiliodd eu bywydau ar geisio mawredd ond a arweiniwyd ar eu pennau i drasiedi.

Â’i phriodas ar ben a’i mam wedi marw, mae Cheryl Strayed wedi colli pob gobaith ac yn ei chael ei hun mewn twll go iawn. Mae hi’n penderfynu ffawd-heglu ar hyd llwybr 1100 milltir y Pacific Crest, ar ei phen ei hun, heb unrhyw brofiad o gwbl, ac wedi’i gyrru gan ei natur benderfynol yn unig. Yn llawn arswyd a phleser profiad o fywyd go iawn, mae hon yn ffilm hardd a chinetig.

O’r brig: Foxcatcher, Wild

chapter.org

Testament of Youth Gwe 30 Ionawr — Iau 5 Chwefror

DG/2014/130mun/12A. Cyf: James Kent. Gyda: Alicia Vikander, Hayley Atwell, Dominic West, Kit Harington.

Ffilm yn seiliedig ar stori wir Vera Brittain, a ohiriodd ei hastudiaethau ym Mhrifysgol Rhydychen yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, i wasanaethu fel nyrs yn Llundain, Malta a Ffrainc. Darn godidog, wedi’i saethu’n hyfryd, am gariad, aberth a dinistr rhyfel. Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1. Is-Deitlau Meddal ar ddydd Mawrth 3 Chwefror 10.30am a dydd Mercher 4 Chwefror 5.45pm. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau neu ewch i’n gwefan i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

Moviemaker Chapter Llun 2 Chwefror Sesiwn reolaidd sy’n caniatáu i gyfarwyddwyr annibynnol ddangos eu ffilmiau byrion. I gael mwy o wybodaeth ynglŷn â dangos eich ffilm chi, neu i gael unrhyw wybodaeth arall, e-bostiwch moviemaker@ chapter.org. O bryd i’w gilydd, dangosir ffilmiau sy’n cynnwys deunydd anaddas i bobl iau. Awgrymwn, felly, bod sesiynau Moviemaker Chapter yn addas ar gyfer pobl 18+ oed.


Sinema

029 2030 4400

O’r brig: A Most Violent Year, Whiplash

18

A Most Violent Year Gwe 20 Chwefror — Iau 5 Mawrth UDA/2014/125mun/15. Cyf: JC Chandor. Gyda: Oscar Isaac, Jessica Chastain, David Oyelowo.

Yn ystod gaeaf 1981, yn ninas Efrog Newydd, mae mewnfudwr uchelgeisiol yn brwydro i amddiffyn ei fusnes a’i deulu yn ystod un o’r blynyddoedd mwyaf treisgar a pheryglus yn hanes y ddinas. Ar ôl talu blaendal ar gyfer warws a fydd yn caniatáu iddo geisio gwireddu ei Freuddwyd Americanaidd, mae gan y mewnfudwr, Abel, 30 diwrnod i ddod o hyd i weddill yr arian. Ond mae trais, pydredd a llygredd yn rhemp yn y ddinas ac yn bygwth dinistrio popeth.

Whiplash Gwe 6 — Iau 12 Chwefror UDA/2014/106mun/15. Cyf: Damien Chazelle. Gyda: Miles Teller, Melissa Benoist, JK Simmons, Paul Reiser.

Wedi’i blagio gan yrfa aflwyddiannus ei dad fel awdur, mae Andrew yn ddrymiwr jazz ifanc uchelgeisiol, sy’n ceisio llwyddo yn ei conservatoire fel y bydd, yn y pen draw, yn un o’r mawrion. Mae Terence Fletcher, hyfforddwr chwedlonol sy’n adnabyddus am ei ddulliau dysgu brawychus, yn clywed Andrew ac yn ei wahodd i ymuno â’i fand jazz. Ond mae dyhead Andrew i chwarae’n berffaith yn troi, mewn dim o dro, yn obsesiwn ac mae ei athro didostur yn ei wthio hyd derfynau ei allu a’i bwyll. + Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1. Is-deitlau Meddal ar ddydd Mawrth 10 Chwefror 6pm a dydd Mercher 11 Chwefror 2.30pm. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau neu ewch i’n gwefan i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

Enillydd Gwobr Ffilm Orau 2014 y National Board of Review. Is-deitlau meddal ar ddydd Mawrth 24 Chwefror 10.30am a dydd Iau 26 Chwefror 6pm. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau neu ewch i’n gwefan i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

Inherent Vice Gwe 13 — Iau 19 Chwefror UDA/2014/149mun/15. Cyf: Paul Thomas Anderson. Gyda: Jena Malone, Reese Witherspoon, Josh Brolin, Joaquin Phoenix.

Ar ddiwedd y 60au seicedelig, mae cyn-gariad y ditectif preifat, Doc Sportello, yn gofyn am ei gymorth i rwystro cynlluniau gwraig ei biliwnydd o gariad i ddial ar bob un ohonynt. Mae’r ffilm hon, sy’n addasiad o nofel Thomas Pynchon, yn llawn ‘hustlers’, rocars, heddweision llygredig a sacsoffonydd — cast o gymeriadau brith sy’n byw ac yn bod ym myd ‘surf noir’ Los Angeles. + Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1. Is-deitlau Meddal ar ddydd Mercher 18 Chwefror 2.30pm a 5.30pm (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau neu ewch i’n gwefan i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).


chapter.org

Sinema

19

Pelo Malo

Mis Hanes LGBTQ I ddathlu Mis Hanes LGBTQ, rydym yn cyflwyno dwy ffilm wahanol iawn sy’n dathlu sinema hoyw gyfoes ynghyd â ffilm sy’n cynnig cipolwg diddorol ar ffigwr cerddorol tra phwysig.

Wild Combination: A Portrait of Arthur Russell

Love is Strange

UDA/2008/71mun/15arf. Cyf: Matt Wolf.

Ar ôl pedwar degawd gyda’i gilydd, gall Ben a George briodi o’r diwedd. Fodd bynnag, caiff eu haddewidion eu profi toc wedi i George golli ei swydd, sy’n gorfodi’r cwpl i fyw ar wahân. Wedi’u gwahanu ac yn ddibynnol, yn sydyn, ar ffrindiau a theulu, rhaid iddynt lywio’u ffordd trwy fyd newydd.

Gwe 6 — Iau 12 Chwefror

Portread gweledol-graff o’r cyfansoddwr avant-garde arloesol a chynhyrchiol, a gŵr a oedd hefyd yn ganwr-gyfansoddwr, yn sielydd, ac yn gynhyrchydd disgo. Cyn ei farwolaeth annhymig, o ganlyniad i AIDS ym 1992, roedd Russell yn gyfrifol am gerddoriaeth a lwyddodd i gyfuno pop â phosibiliadau trosgynnol celfyddyd haniaethol. Yn cynnwys deunydd archif prin a chyfweliadau gyda theulu, ffrindiau a chydweithwyr Arthur, gan gynnwys Philip Glass ac Allen Ginsberg, mae hon yn stori deimladwy a phwysig. Gweler y manylion am ffilmiau cerddorol eraill, yn ein rhaglen Sineffonig, ar tt24-27 a manylion ein gŵyl o gerddoriaeth avant-garde, From Now On, ar tt12-13.

Staceyann Chin Sad 7 Chwefror

Denmarc/2001/28mun/15arf. Cyf: Ulrik Wivel.

Mae isddiwylliant difyr y Poetry Slam yn wahanol iawn i sesiynau barddoniaeth meic agored traddodiadol. Fel gornest focsio, mae beirdd yn herio’i gilydd a dim ond un a all ennill. Mewn archwiliad o’r ffurf gelfyddydol ymosodol hon, mae’r ffilm yn tynnu sylw at un o sêr mwyaf y cyfrwng: y bardd a’r artist nodedig, Staceyann Chin, a fu’n ymgyrchydd di-flewyn-ar-dafod dros bynciau LGBTQ a hawliau merched. + Trafodaeth ar ôl y dangosiad a sesiwn arwyddo llyfrau yng nghwmni Staceyann Chin ac Ellora Adam o Rwydwaith Ffeministaidd Caerdydd

Gwe 13 — Iau 19 Chwefror UDA/2014/94mun/15. Cyf: Ira Sachs. Gyda: Marisa Tomei, John Lithgow, Alfred Molina.

Pelo Malo

Gwe 20 — Iau 26 Chwefror Venezuela/2014/93mun/15arf. Cyf: Mariana Rondón. Gyda: Samuel Lange Zambrano, Samantha Castillo, Beto Benites.

Mae Junior yn fachgen naw oed a chanddo wallt cyrliog, anystywallt a thrafferthus. Mae e eisiau cael sythu ei wallt, er mwyn edrych fel canwr pop ffasiynol. Wedi’i llethu gan fywyd yn ninas anhrefnus Caracas, mae ei fam weddw, Marta, yn ei chael hi’n gynyddol anodd goddef obsesiwn Junior â’i olwg ac mae ei phanig homoffobig yn bygwth eu perthynas.


20

Sinema

029 2030 4400

Yn ystod ein hail fis o ffilmiau sy’n edrych ar frwydrau cyfoes dros ddemocratiaeth a rhyddid ac effeithiau parhaus y Rhyfel Byd Cyntaf, byddwn yn canolbwyntio ar ddylanwad yr hen Ymerodraethau Gorllewinol ar yr Affrica fodern.

The Forgotten Kingdom

Selma

Lesoto/2013/97mun/TiCh. Cyf: Andrew Mudge. Gyda: Moshoeshoe Chabeli, Lillian Dube, Jerry Mofokeng.

UDA/2014/128mun/12A. Cyf: Ava DuVernay. Gyda: David Oyelowo, Carmen Ejogo, Tim Roth, Tom Wilkinson.

Mae Atang yn gadael slymiau’r ddinas fawr i fynd i gladdu ei dad yn y pentref anghysbell, mynyddig lle cafodd ei eni. Ar ôl cychwyn cyfeillgarwch â bugail ifanc amddifad, a than ddylanwad atgofion o’i blentyndod, mae e’n syrthio mewn cariad â chyfaill o’i blentyndod, Dineo, sydd erbyn hyn yn athrawes ifanc ddisglair. Drwyddi hi, mae Atang yn cael ei swyno gan harddwch cyfriniol a bywydau caled y bobl, ac yn wynebu ei wirioneddau chwerw-felys ei hun.

Yn ystod cyfnod cythryblus o dri mis yn ystod 1965, arweiniodd Dr Martin Luther King ymgyrch beryglus, ddi-drais i sicrhau hawliau pleidleisio cyfartal yn wyneb gwrthwynebiad creulon. Arweiniodd ei orymdaith epig o Selma i Montgomery at arwyddo Deddf Hawliau Pleidleisio 1965 gan yr Arlywydd Johnson. Cipolwg tra diddorol ac amserol ar un o fuddugoliaethau mwyaf arwyddocaol y mudiad hawliau dynol sy’n cynnwys perfformiadau pwerus a theimladwy.

Sul 8 Chwefror

+ Trafodaeth Banel wedi’i harwain gan Dolen Cymru.

One Humanity Llun 16 Chwefror

DG/2014/110mun/TiCh. Cyf: Mickey Madoda Dube.

Mae One Humanity yn adrodd hanes aml-haenog y Gyngerdd Deyrnged ar achlysur pen-blwydd Nelson Mandela (a ddarlledwyd ar y BBC), ynghyd â’r ffocws ar y mudiad gwrth-apartheid byd-eang. Mae’r gwaith yn cynnwys cyfweliadau â’r rheiny a gymrodd ran yn y mudiad, gan gynnwys yr Arlywydd Zuma, Peter Hain, y Parch Jesse Jackson ac ES Reddy, a sefydlodd ac a gadeiriodd Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig yn erbyn Apartheid. Stori am weledigaeth, strategaeth, empathi a gobaith ac ymgais i roi llais i’r mud. Mae’r ffilm yn llawn perfformiadau cerddorol anhygoel gan Peter Gabriel, Annie Lennox a Gil Scott Heron ac eraill. + Ymunwch â ni am drafodaeth banel arbennig ar ôl y ffilm yng nghwmni’r cynhyrchydd, Tony Hollingsworth, a gwesteion arbennig eraill a chwaraeodd rannau pwysig yn nhrefniadau’r gyngerdd.

Gwe 13 — Iau 26 Chwefror

+ Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1. Is-deitlau Meddal ar ddydd Sul 15 Chwefror 7.30pm, dydd Iau 19 Chwefror 2.30pm, dydd Mercher 25 Chwefror 6pm, dydd Iau 26 Chwefror 10.30am (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau neu ewch i’n gwefan i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

Concerning Violence

Sad 28 Chwefror + Iau 5 Mawrth Sweden/2014/89mun/15. Cyf: Göran Olsson.

Ffilm ddogfen sy’n cynnwys deunydd archif o rai o ymgyrchoedd mwyaf beiddgar y frwydr i ryddhau Affrica o ormes trefedigaethol yn ystod yr 20fed ganrif. Lauryn Hill yw’r adroddwr ac mae’r ffilm feiddgar a ffres hon yn archwiliad o fecanweithiau dadwladychiad yn ogystal â bod yn ddramateiddiad o lyfr dylanwadol Frantz Fanon, The Wretched of the Earth. Ysgrifennwyd y llyfr hwnnw dros hanner can mlynedd yn ôl ond mae’n dal i fod yn waith pwysig o ran deall ac esbonio’r broses o neo-wladychu sy’n dal i ddigwydd heddiw, yn ogystal â’r trais a’r adwaith yn erbyn y broses honno. Ymunwch â ni am weithdy ar Athroniaeth Ubuntu a modelau eraill ar gyfer datrys gwrthdaro ar ddydd Sadwrn 28 Chwefror

The Forgotten Kingdom

Effeithiau Gwrthdaro a Rhyfel


Pob llun: Selma

chapter.org

Sinema

21


Sinema

029 2030 4400

Amour Fou

Trash

Gwe 20 — Iau 26 Chwefror

Gwe 27 Chwefror — Iau 5 Mawrth

Awstria/2014/94mun/12A. Cyf: Jessica Hausner. Gyda: Christian Friedel, Birte Schnoeink, Stephan Grossmann.

DG/2014/114mun/15. Cyf: Stephen Daldry Gyda: Rooney Mara, Martin Sheen, Wagner Moura.

Mae bardd o’r enw Heinrich yn dymuno concro anocheledd marwolaeth drwy gyfrwng cariad ac yn cwrdd â Henriette, sy’n wraig i ŵr busnes y mae e’n ei adnabod. Does yna fawr o apêl yng nghynnig Heinrich i’r ferch ifanc yn y lle cyntaf — ond yna mae Henriette yn dysgu ei bod yn dioddef o salwch marwol. Yn seiliedig ar stori wir y bardd Rhamantaidd o’r Almaen, Heinrich von Kleist, mae hon yn stori ffraeth am ddoethinebau melodramatig y cyfnod.

Yn favelas bywiog a marwol Rio de Janeiro, mae’r arddegwyr, Raphael a Gardo, yn darganfod rhywbeth mewn tomen sbwriel sy’n arwain at orfod ffoi rhag yr heddlu. Gyda chymorth eu ffrind, Rato, offeiriad Americanaidd a gweithiwr cymorth, maent yn ceisio gwneud iawn am gamwedd ofnadwy. Portread dilys o ieuenctid yng nghladdfeydd sbwriel gwenwynig Brasil, sy’n cynnwys perfformiadau grymus.

Gyda’r cloc o’r chwith: Amour Fou, Trash, Ex Machina

22

The Turning

Gwe 27 Chwefror — Mer 4 Mawrth Awstralia/2013/107mun/15. Cyf: Justin Kurzel, Mia Wasikowska ac eraill, gweler y we-fan am fanylion. Gyda: Cate Blanchett, Hugo Weaving, Rose Byrne.

Casgliad o ffilmiau byrion yn seiliedig ar straeon gan yr awdur Tim Winton, wedi’u gosod mewn cymuned arfordirol fechan lle mae’r gwahanol straeon yn ymgordeddu ac yn gorgyffwrdd. Wrth i gymeriadau wynebu ansicrwydd, ac wrth i berthnasau ddatblygu ac esblygu, mae bywydau yn newid am byth.

Ex Machina

Gwe 27 Chwefror — Iau 5 Mawrth DG/2014/120mun/15. Cyf: Alex Garland. Gyda: Domhnall Gleeson, Oscar Isaac, Alicia Vikander.

Mae Caleb, peiriannydd côd 24 mlwydd oed gyda chwmni rhyngrwyd mwyaf y byd, yn ennill cystadleuaeth i dreulio wythnos mewn encil mynydd preifat sy’n perthyn i Nathan, Prif Swyddog Gweithredol dirgel y cwmni. Ond ar ôl i Caleb gyrraedd y fan anghysbell, ymddengys fod yn rhaid iddo gymryd rhan mewn arbrawf rhyfedd — ymwneud â deallusrwydd artiffisial arloesol, ar ffurf robot benywaidd hardd.


chapter.org

Sinema

23

O’r brig: Love’s Labour’s Lost, Love’s Labour’s Won (Much Ado About Nothing)

Y Llwyfan ar y Sgrin

RSC Live Yn rhan o dymor i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, mae cwmni o actorion yn llwyfannu dau o gomedïau mwyaf pefriog Shakespeare, wedi’u gosod yng nghysgod rhyfel. Tocynnau i’r dangosiadau byw £17.50/£14/£13. Tocynnau i’r dangosiadau encore wedi’u recordio ymlaen llaw £13/£11/£10

RSC Live: Love’s Labour’s Lost Mer 11 Chwefror

DG/2015/210mun/dim tyst. Cyf: Christopher Luscombe. Gyda: Edward Bennett, Michelle Terry.

Yn ystod haf 1914, mae’r Brenin a’i ffrindiau yn tyngu llw i osgoi cwmni merched er mwyn treulio mwy o amser yn astudio. Ond toc wedi hynny, mae Tywysoges Ffrainc a’i morynion yn cyrraedd — ac yn rhoi ar brawf addunedau’r dynion. Mae’r ddrama gomedi hyfryd hon yn hyrwyddo ac yna’n tanseilio addunedau afrealistig. Ar ddiwedd y ddrama daw’r miri i ben, wrth i’r cariadon gytuno i dreulio cyfnod ar wahân — ond heb yn wybod iddynt, mae’r byd o’u cwmpas ar fin cael ei drawsnewid yn llwyr, gan y Rhyfel Mawr.

RSC Live: Love’s Labour’s Won (Much Ado About Nothing) Mer 4 Mawrth

DG/2015/210mun/dim tyst. Cyf: Christopher Luscombe. Gyda: Edward Bennett, Michelle Terry.

Mae hi bellach yn fis Hydref 1918 ac mae grŵp o filwyr yn dychwelyd o’r ffosydd. Mae Benedick, sydd wedi diflasu ar y byd, a’i gyfaill, Claudio, yn cael eu haduno â Beatrice a Hero. Wrth i atgofion am y rhyfel ildio i fywyd o bartïon a dawnsfeydd, mae Claudio a Hero yn syrthio mewn cariad yn bendramwnwgl, a Benedick a Beatrice yn ceisio aildanio eu perthynas mwy ymfflamychol eu hunain. Mae rhamant yn blodeuo mewn cyfnod o hwyliau da, ond brau, ar ôl y rhyfel. Gweler manylion ein tymor o ddigwyddiadau’n archwilio Effeithiau Gwrthdaro a’r Rhyfel Byd Cyntaf ar tt20-21.

NT Encore: Treasure Island Mer 18 Chwefror

DG/2015/180mun/PG.

Caiff stori Robert Louis Stevenson am lofruddiaeth, arian a miwtini ei chyflwyno mewn addasiad newydd cyffrous i’r llwyfan gan Bryony Lavery. Mae hi’n noson dywyll a stormus. Mae’r sêr yn pefrio. Mae Jim, wyres y tafarnwr, yn agor y drws ac yn gweld dieithryn arswydus yno. Wrth draed yr hen forwr, mae yna gist enfawr, yn llawn cyfrinachau. Mae Jim yn ei wahodd i’r dafarn — ac mae ei thaith beryglus hithau ar ddechrau

Tocynnau i’r dangosiadau byw £17.50/£14/£13. Tocynnau i’r dangosiadau encore wedi’u recordio ymlaen llaw £13/£11/£10


24

Sinema

029 2030 4400

O’r brig: No Manifesto: Manic Street Preachers, Performance

Sineffonig

‘Mae ffilm — neu fe ddylai ffilm fod — yn debycach i gerddoriaeth nag i ffuglen. Dylai fod yn ddilyniant o hwyliau a theimladau. Dim ond wedi hynny y gellir ystyried themâu, ystyron, a’r hyn sydd yn gefn i’r emosiwn.’ Stanley Kubrick I ddathlu gŵyl From Now On (manylion ar dudalennau 12–13), rydym yn cyflwyno detholiad o’r ffilmiau cerddorol cyfoes a chlasurol gorau.


Sinema

25

No Manifesto: Manic Street Preachers

Northern Soul

DG/2015/95mun + 20 mun/15. Cyf: Elizabeth Marcus.

Mae hon yn ffilm am ddiwylliant ieuenctid a newidiodd genhedlaeth gyfan ac a ddylanwadodd ar gyfansoddwyr, cynhyrchwyr, DJs a dylunwyr am ddegawdau i ddod. Mae bywyd yn newid am byth i ddau ffrind ifanc ar ôl iddynt fynd i’r Casino yn Wigan a chlywed cerddoriaeth ‘soul’ yr America ddu.

Northern Soul

chapter.org

Gwe 30 Ionawr — Iau 5 Chwefror

Yn 1991, ffrwydrodd y Manic Street Preachers fel bom yn y sîn roc Brydeinig gan ddatgan eu bwriad o wneud un albwm a gwerthu miliynau o gopïau cyn chwalu. Flynyddoedd, a nifer helaeth o recordiau hynod boblogaidd, yn ddiweddarach, ac ar ôl colli un aelod a chorddi dyfroedd dirifedi, maent yn dal i fynd. Mae’r ffilm hon yn olwg y tu ôl i’r llen ar brosesau creadigol y band ac yn adrodd hanes eu datblygiad o fod yn fand pync cegog i fod yn ffigyrau o bwys rhyngwladol.

Gwe 13 — Iau 19 Chwefror DG/2014/102mun/15. Cyf: Elaine Constantine. Gyda: Elliot James Langridge, Josh Whitehouse, Jack Gordon.

+ DJs o Glwb Soul Penarth ar ddydd Iau 19 Chwefror

+ Ymunwch â ni am sesiwn holi-ac-ateb gyda’r gwneuthurwyr ffilm ac i weld deunydd cyngerdd ecsgliwsif ar ddydd Gwener 30 Ionawr

Beautiful Noise

UDA/2014/90mun/15arf. Cyf: Eric Green.

It’s Not Repetition, It’s Discipline Maw 10 + Iau 12 Chwefror

Denmarc/2014/hyd i’w gadarnhau/18. Cyf: Lars Kjelfred, Troels Holstrom, Jesper Hedaeger Madsen.

Wedi’i ffilmio dros gyfnod o 13 mlynedd gan ffans The Fall yn Nenmarc, mae’r ffilm hon yn deyrnged i fand dylanwadol, eu dulliau gwaith di-ildio a’u hagweddau digyfaddawd. Mae Mark E Smith yn ystyried ei ymwneud â’r grŵp ac fe ategir ei safbwyntiau ef gan gyfweliadau â John Peel, Thurston Moore, John Cooper Clarke, Henry Rollins, Stephen Malkmus a Dee Dee Ramone.

Performance

Sul 15 + Maw 17 Chwefror DG/1970/103mun/15. Cyf: Nic Roeg, Donald Cammell. Gyda: James Fox, Mick Jagger, Anita Pallenberg.

Mae Chas, gangster sadistaidd o ddwyrain Llundain, yn chwilio am rywle i guddio. Mae’n dod o hyd i’r lle perffaith — gwesty wedi’i reoli gan y dirgel Mr Turner, cyn-seren roc, sy’n chwilio am ffordd o aildanio ei dalent. Mae perthynas y ddau ddyn yn datblygu ac mae Mr Turner yn poeni ac yn gwawdio Chas — sy’n ymateb yn dreisgar. Mae’r ffilm gyntaf hon gan y cyfarwyddwr, Nic Roeg, yn glasur seicedelig sy’n llawn cyffuriau ac angerdd a rhywioldeb dilywodraeth.

Sad 21 + Llun 23 Chwefror Archwiliad manwl o rôl ‘feedback’ gitâr mewn cerddoriaeth roc fodern a’r modd yr aeth cerddorion ati i blethu sŵn gitâr â strwythurau caneuon pop bythgofiadwy. Mae’r ffilm hefyd yn gadael i’r gerddoriaeth siarad drosti’i hun. Mae personoliaethau swil, fel aelodau’r Cocteau Twins, My Bloody Valentine a The Cure, yn trafod eu cerddoriaeth a’u profiadau a’r modd yr aethant ati i herio’r rheolau ac arloesi.

Blow Up

Sul 22 + Maw 24 Chwefror DG/1966/106mun/15. Cyf: Michelangelo Antonioni. Gyda: Vanessa Redgrave, David Hemmings, Jane Birkin, Jeff Beck.

Mae Thomas yn ffotograffydd ffasiwn cyfoethog a nihiliyddol yn Llundain cyfnod y ‘mods’. Er ei fod wedi’i amgylchynu gan fodelau a sêr roc, caiff Thomas ei hudo gan olygfa gyffredin o gwpl mewn parc — ond nid yw popeth fel yr ymddengys. Mae’r clasur cwlt hwn yn cynnwys trac sain anhygoel gan y cerddor jazz chwedlonol, Herbie Hancock, ac yn ymgorfforiad perffaith o’i cyfnod.


26

Sinema

029 2030 4400

O’r brig: The Possibilities Are Endless,Phantom of the Paradise

Sineffonig

The Possibilities are Endless

Phantom of the Paradise

DG/2014/83mun/12A. Cyf: James Hall, Edward Lovelace. Gyda: Edwyn Collins, William Collins, Grace Maxwell.

UDA/1974/91mun/15. Cyf: Brian De Palma. Gyda: Jessica Harper, William Finley, Paul Williams.

Dychmygwch bod eich meddwl wedi cael ei ddileu: atgofion, gwybodaeth, profiadau, iaith — pob gair a lefarwyd gennych, y cwbl, wedi diflannu. Tasech chi’n gallu siarad eto yn y pen draw, beth fyddech chi’n ei ddweud? Dyma stori anhygoel Edwyn Collins, y cyfansoddwr a’r cerddor o’r Alban a gafodd strôc, ffrwydrad yn ei ymennydd a lwyddodd i ddileu, i bob pwrpas, holl gynnwys ei feddwl. Mae’n adrodd hanes ei wraig Grace hefyd, a’i tynnodd yn ôl i’r byd. Dathliad o ddylanwad cariad, cerddoriaeth ac iaith ar ein bywydau.

Mae cyfansoddwr anffurfiedig yn gwerthu ei enaid er mwyn ei gariad — ac fel y bydd hi’n perfformio ei gerddoriaeth. Fodd bynnag, mae ‘tycoon’ recordiau maleisus yn ei fradychu ac yn dwyn ei gerddoriaeth er mwyn agor palas roc, The Paradise. Yn gyfuniad camp ac afreolus o Phantom of the Opera a Faust, mae’r ffilm hon yn glasur cwlt a gyd-ysgrifennwyd ac a gyfansoddwyd gan gyfansoddwr The Carpenters a Bugsy Malone, Paul Williams.

Sul 8 — Iau 12 Chwefror

Sad 7 + Maw 10 Chwefror

+ Cyflwyniad gan Chapter Wails

+ Ymunwch â ni ar ôl y ffilm ar ddydd Llun 9 Chwefror am drafodaeth Tinted Lens, cydweithrediad newydd gan Chapter, Prifysgol Caerdydd a’r BFI. Byddwn yn archwilio’r meddwl a chysyniadau’n ymwneud â normalrwydd a phatholeg, gan ganolbwyntio ar golled a galar, ffantasi a rhith, dealltwriaeth o amser a chyflyrau ymwybyddiaeth.

Clwb Ffilmiau Gwael:

Mae Nicko a Joe yn eu holau ac fe fydd y Clwb Ffilmiau Gwael y mis hwn yn cyflwyno pencampwr gymnasteg o Parmistan y gofynnir iddo gystadlu mewn gêm greulon, er mwyn cael gwireddu breuddwyd oes. Ond dyw trefnwyr y gystadleuaeth ddim yn gwybod taw ei ddymuniad ef yw cael defnyddio’r wlad fechan fel canolfan filwrol ar gyfer monitro ymosodiadau niwclear y gelyn. Rhaid iddo ddysgu sgiliau ymladd arbennig sy’n gyfuniad o karate a gymnasteg ... Gymkata!

Karaoke Sineffonig: ‘Put on your red shoes’ Sul 15 Chwefror 8pm

Ymunwch â ni wrth i ni ddathlu cwpl mwyaf dylanwadol y 70au ... Dewch i ganu eich hoff ganeuon gan Jagger a Bowie yn y noson karaoke arbennig hon. ‘Let’s Spend the Night Together’!

Gymkata Sul 1 Chwefror

UDA/1986/86mun/18. Cyf: Robert Clouse.

Dalier sylw: Bydd yna sylwebaeth fyw drwy gydol y ffilm ac fe all y ffilm a ddangosir newid ar y funud olaf.


Sinema

27

O’r chwith i’r dde: Metal Militia, Sinffonia Cymru

chapter.org

From Now On Sad 14 Chwefror Dyma gyflwyno rhaglen o ffilmiau, recordiadau sain a chelfyddydau lleol o sîn arbrofol ac avant-garde amrywiol a chyfoethog Caerdydd. Gweler manylion y rhaglen ar www.chapter.org. Rhad ac am ddim ond bydd angen tocyn.

The Lost Women of Jazz Cymru/2014/30mun/dim tyst. Cynhyrchwyd gan Janine H Jones a Hannah Loy ar ran BBC Radio 4.

Yn y ffilm ddogfen hynod ddiddorol hon, gwelwn ddatgelu’r gwir am rôl arloesol merched yng nghyfnod cynnar jazz a’r stori drasig am y modd yr aed ati’n fwriadol i wadu cydraddoldeb cerddorol iddynt.

+ PianoPieces Cymru/2014/15mun/dim tyst.

Sinffonia Cymru yn cyflwyno: ‘Films for Chamber Orchestra’ Sul 15 Chwefror Ensemble: Ffliwt, Clarinet (Clarinet Bas D leiaf), Piano, Ffidil, Fiola, Soddgrwth + Offer taro. Bydd cerddorion o gerddorfa arloesol Sinffonia Cymru yn cyflwyno gweithiau comisiwn newydd a pherfformiad o gyfansoddiad ffilm gan yr artist lleol, Nic Finch.

Regen

Tua diwedd 2014, gwahoddwyd cyfansoddwyr, perfformwyr ac artistiaid i The Abacus, Caerdydd, gan y cyfansoddwr Daniel-Wyn Jones er mwyn archwilio dulliau avant-garde o berfformio a chyfansoddi ar gyfer y piano. Roedd y gweithgareddau’n cynnwys perfformiad o Piano Activities gan Philip Corner a’r perfformiad cyntaf yng Nghymru o Blot Symphony gan Ralph Steadman. Cafodd caead y piano ei gau ac fe chwaraewyd yr offeryn â dwylo, breichiau, trwyn, bwcedi o ddŵr, torwyr gwifrau, bwyell a gordd.

Yr Iseldiroedd/1929/12mun. Cyf: Joris Ivens.

+ Metal Militia gan S Mark Gubb

UDA/1929/13mun. Cyf: Ralph Steiner.

Comisiwn gan Gelfyddydau Gweledol Berwick DG/2015/25mun/dim tyst.

Mae cyfraith sy’n dyddio o 1689 yn caniatáu i bobl Berwick-uponTweed godi byddin ‘i guriad y drwm’. Ymatebodd S Mark Gubb i hynny drwy greu gosodiad o olau a sain wedi’i ddylanwadu gan y cyfatebiaethau rhwng cerddoriaeth roc a rhyfel, terfysgaeth a marwolaeth. Ar y cyd â’r arddangosfa, roedd yna berfformiad gan Nicholas Barker, drymiwr gwreiddiol Cradle of Filth, ac aelodau bandiau pibau y Berwick RBL & Eyemouth RBLS, a chwaraeodd ddetholiad o ganeuon i gyfeiliant curiadau metel trwm. Gwelir canlyniadau’r cydweithio hwnnw yn y ffilm hon.

+ Loca Labels

Fideos cerddoriaeth gan rai o’r labeli recordio lleol mwyaf diddorol, gan gynnwys Turnstile, Shape, Flower of Phong, Placid Casual, Peski a Businesman Records.

Archwiliad o’r arddull ffilmig arbrofol a elwid yn ‘City Symphony’. Mae’r cyfarwyddwr, Ivens, yn mynd ati i greu disgrifiad o ddinas Amsterdam drwy sinematograffiaeth, a hynny drwy geisio efelychu realaeth drylwyr Hen Feistri’r Iseldiroedd.

+ H20 Astudiaeth o ddŵr ac o adlewyrchiadau a symudiadau’r hylif sy’n pwysleisio ei natur ansylweddol a’i brydferthwch metelaidd.

+ Trio Elegiaque No. 1 DG/2015/Hyd I’w gadarnhau. Cyf: Nic Finch.

Tafluniad fideo byrfyfyr gyda pherfformiad sgôr byw o waith gan Rachmaninoff.


28

Sinema

029 2030 4400

Beyond Clueless

O’r Ril i’r Real

Weithiau mae bywyd go iawn mor rhyfedd a hudolus bob tamaid â ffilm Hollywood. ‘O’r Rîl i’r Real’ yw ein rhaglen reolaidd o ffilmiau dogfen ac mae’n cynnwys ffilmiau sy’n cyflwyno digwyddiadau a phobl gwirioneddol ddiddorol ar y sgrin fawr.

Beyond Clueless

The Overnighters

UDA/2014/89mun/15. Cyf: Charlie Lyne.

UDA/2014/102mun/12A. Cyf: Jesse Moss.

Ffilm ddogfen am ffilmiau cyfoes i arddegwyr a’r modd y mae’r gweithiau hynny’n adlewyrchu’r gymdeithas ehangach. Mae hon yn daith ryfeddol trwy feddwl a chorff ac enaid y genre, fel y’i cyflwynir mewn dros 200 o ffilmiau modern am ddod-i-oed.

Yn Williston, North Dakota, mae degau o filoedd o bobl ddi-waith yn dod i chwilio am waith a ffortiwn yn y diwydiant olew. Ond buan y caiff y newyddddyfodiaid bod y realiti yn fwy creulon o lawer — ychydig iawn o waith sydd ar gael, ac mae yna lai o obaith fyth o gael gorffwys. Â’r dref yn methu â darparu cartrefi a gwasanaethau i’r ymfudwyr, mae gweinidog lleol, y Parch Jay Reinke, yn trawsnewid ei eglwys yn llety a man cwnsela dros dro. Ymunwch â ni am gyflwyniad gan yr elusen i’r digartref, Llamau

Gwe 30 Ionawr — Mer 4 Chwefror

+ Ymunwch â ni am sesiwn holi-ac-ateb gyda’r cyfarwyddwr, Charlie Lyne, ar ddydd Mawrth 3 Chwefror

Empire Records Sul 1 + Maw 3 Chwefror

UDA/1995/86mun/12. Cyf: Allan Moyle. Gyda: Liv Tyler, Renee Zellweger, Anthony Lapaglia, Robin Tunney, Maxwell Caulfield.

Diwrnod ym mywyd siop recordiau annibynnol a’i staff ardderchog, wrth iddyn nhw wynebu bygythiad gan fusnes mawr rhyngwladol. Ar ôl i un o’r gweithwyr, Lucas, ddysgu bod y siop mewn trafferthion ariannol, mae e’n gamblo’r enillion ac yn colli’r cwbl lot, sy’n golygu bod yn rhaid i reolwr y siop, Joe, a’i griw gwallgof o gydweithwyr gael gafael ar ddigon o arian i oroesi cyn diwedd y dydd… Ac mae’n rhaid iddynt ddelio hefyd â’r seren byd-enwog, Rex Manning, a’i ego anferthol. Dewch i ddathlu drama’r arddegau! Os prynwch docyn cyfun ar gyfer Empire Records a Beyond Clueless byddwch yn arbed £2.

Gwe 6 — Maw 10 Chwefror

BAFTA Cymru yn cyflwyno: Cymru yn Sundance Mer 11 Chwefror Mae byd ffilm Cymru yn mwynhau llwyddiant digynsail ar hyn o bryd, ar ôl buddugoliaeth ffilm Gwobr Iris, Burger, yn Sundance yn 2014. Dyma gyflwyno, felly, gasgliad o’r ffilmiau byrion Cymreig a gyflwynwyd i’r ŵyl eleni, mewn noson ragolwg arbennig. Mae’r digwyddiad hwn yn agored i aelodau BAFTA Cymru a Ffrindiau Chapter yn ogystal ag i’r cyhoedd. Gweler y we-fan am fanylion.


chapter.org

Sinema

29

Annie

Ffilmiau i’r Teulu Cyfan

Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn. Archebwch ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Annie

Sad 31 Ionawr + Sul 1 Chwefror UDA/2014/118mun/PG. Cyf: Will Gluck. Gyda: Jamie Foxx, Quvenzhané Wallis, Rose Byrne.

Mae Annie’n blentyn maeth ifanc a hapus sydd hefyd yn ddigon gwydn i fyw a bod ar strydoedd Efrog Newydd. Ar ôl cael ei gadael gan ei rhieni biolegol pan yn fabi, er iddynt addo dod yn ôl i’w chasglu yn y dyfodol, bu’n ‘hard knock life’ i’r ferch fach ers hynny ... Ond mae popeth ar fin newid ar ôl i Will Stacks — gŵr busnes calon-galed sy’n ymgeisio i fod yn Faer Efrog Newydd — wneud addewidion mawr ...

Bugsy Malone

Sad 7 + Sul 8 Chwefror DG/1976/89mun/U. Cyf: Alan Parker. Gyda: Jodie Foster, Scott Baio, Florrie Dugger.

Yn America yn ystod cyfnod y gwaharddiad ar alcohol, mae’r arwr, Bugsy, wedi’i ddal rhwng dau gangster, Fat Sam a Dandy Dan. A all Bugsy ennill serch Blousey Brown, y ferch newydd sy’n dyheu am lwyddiant yn Hollywood, ac arbed ei groen ei hun hefyd? Sioe gerdd wych â chast o blant, lle caiff pasteiod cwstard eu tanio yn hytrach na bwledi. Mae ynddi nifer o ganeuon cofiadwy iawn hefyd, gan Paul Williams.

Paddington

Gwe 13 — Iau 19 Chwefror DG/2014/95mun/PG. Cyf: Paul King. Gyda: Ben Whishaw, Sally Hawkins, Julie Walters.

Mae arth ifanc, sy’n hanu o Beriw ond sydd yn dwli ar bob peth Prydeinig, yn teithio i Lundain i chwilio am gartref. Ar ôl mynd ar goll a’i gael ei hun ar ei ben ei hun yng ngorsaf Paddington, caiff groeso gan deulu hyfryd y Browns.

Noddir gan Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk 02920 666688

The Lego Movie (2D) Sad 21 + Sul 22 Chwefror

UDA/2014/100mun/U. Cyf: Christopher Miller, Phil Lord. Gyda: Chris Pratt, Elizabeth Banks, Will Arnett.

Ar ôl achos o gamadnabod, mae ffigwr Lego cyffredin yn ymuno â grŵp sy’n ceisio disodli unben creulon sydd eisiau gludo’r bydysawd at ei gilydd. + Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1. Is-deitlau Meddal ar ddydd Sul 22 Chwefror 11am. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau neu ewch i’n gwefan i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

Book of Life

Sad 28 Chwefror + Sul 1 Mawrth UDA/2014/95mun/ U. Cyf: Jorge R. Gutierrez. Gyda: Zoe Saldana, Channing Tatum, Ron Perlman.

Mae Manolo yn freuddwydiwr ac yn cychwyn allan ar daith epig drwy fydoedd hudolus, chwedlonol a rhyfeddol er mwyn achub ei wir gariad ac amddiffyn ei bentref. + Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1. Is-deitlau Meddal ar ddydd Sul 1 Mawrth 11am. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau neu ewch i’n gwefan i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

Carry on Screaming

Bob dydd Gwener am 11am, mae Carry On Screaming yn rhoi cyfle i rieni neu ofalwyr weld ffilm heb orfod poeni y bydd eu babi’n aflonyddu ar eraill. Gweler y calendr am fanylion y dangosiadau arbennig hyn i bobl â babanod dan flwydd oed.


30

Addysg

029 2030 4400

ADDYSG

Academi Ffilm Pobl Ifainc 2015 Sad 7 + Sad 14 Chwefror 10.30am–2.30pm

Ymunwch â’r Academi Ffilm i Bobl Ifainc ar gyfer y ddwy ddarlith ryngweithiol sy’n weddill yn y gyfres. Bydd cyfranogwyr yn dysgu am agwedd benodol ar wneud ffilmiau, ac yna’n gwylio ffilm.

Sad 7: ‘R’ych chi eisiau bod yn gyfarwyddwr, felly?’ Sad 14 Chwefror: ‘Sut i olygu ffilm’ Nodwch os gwelwch yn dda y bydd angen pecynnau bwyd bob dydd.

Datblygiad Proffesiynol Parhaus i Athrawon

Mae Chapter bellach yn darparu sesiynau DPP ‘Into Film’. Os ydych chi’n athro, neu yn cynrychioli ysgol a hoffai fanteisio ar hyfforddiant am ddim er mwyn gallu gwneud defnydd o ffilmiau yn yr ystafell ddosbarth, cysylltwch â ni i gael gwybodaeth am yr hyfforddiant sydd ar gael.

£8 y sesiwn (yn cynnwys tocyn i weld ffilm)

Chapter Sewcial — Dewch i wnïo! Am 10 wythnos o ddydd Sul 1 Chwefror ymlaen, 3.30–5pm

Gweithdai creadigol i bobl ifainc sy’n awyddus i ddechrau gwnïo. Bydd y cwrs yn dysgu sgiliau sylfaenol — mesur a thorri ffabrig — ac fe fydd cyfranogwyr hefyd yn cwblhau prosiect gwnïo mewn 10 sesiwn wythnosol. Mae ‘Dewch i wnïo!’ yn barhad o gwrs Hydref 2014 ac yn annog plant i uwchgylchu, i feddwl yn greadigol ac i greu nwyddau crefftus bob dydd Sul. Mae lle i 8 o blant ymhob sesiwn. £50 am 10 wythnos neu £6 y sesiwn (yn ddibynnol ar le). Darperir yr holl ddeunyddiau angenrheidiol. 8 -11 oed

Animeiddio i Oedolion Dibrofiad — dewch i animeiddio eleni! Dewch i ddysgu crefft newydd yn y cwrs animeiddio hwn i oedolion a fydd yn cychwyn yn Chapter ym mis Chwefror. Gallwch arbrofi â gwahanol dechnegau animeiddio fel darlunio, torri allan, ‘stop-motion’, peintio ar wydr ac animeiddio tywod, a theimlo’r wefr o weld pethau’n dod yn fyw o flaen eich llygaid. Arweinir y cwrs gan animeiddiwr proffesiynol gwobrwyol o Winding Snake Productions a bydd y cwrs yn para am chwe wythnos. I gadw lle neu i gael mwy o wybodaeth, ewch i: www.windingsnake.com/workshops/adults/Animation-forAdults.


chapter.org

Addysg

I ddod ym mis Mawrth

Theatr Ieuenctid Chapter

Animeiddio i Bobl Ifanc ar Sbectrwm Awtistiaeth + Gweithdai mewn ysgolion

Mer 4 Mawrth, Mer 11 Mawrth, Mer 18 Mawrth, Mer 25 Mawrth, Mer 15 Ebrill, Mer 22 Ebrill, Mer 29 Ebrill, Mer 6 Mai, Mer 13 Mai, Mer 20 Mai 5.15–6.45pm (10 wythnos) Hwn fydd ein 4ydd cwrs 10 wythnos o hyd i bobl ifainc ar sbectrwm awtistiaeth a phobl ifainc a chanddynt anghenion addysgol arbennig. Mae’r sesiynau 90 munud o hyd hyn yn caniatáu i’r bobl ifainc fagu hyder cymdeithasol ac i ddysgu a datblygu sgiliau animeiddio mewn awyrgylch cefnogol a chreadigol. Gall pob sesiwn fod yn sesiwn unigol neu’n rhan o gynllun gwaith mwy — gallwn drefnu rhaglenni dysgu unigol i bob cyfranogwr. Nifer cyfyngedig o leoedd fydd ar gael bob wythnos. £30 am 10 sesiwn 8–18 oed

31

Dyddiau Mawrth 4.30-6pm I blant 7 — 16 oed

Mae Theatr Ieuenctid Chapter yn cyflwyno gwersi drama, dawns a symud wythnosol i blant rhwng 7 ac 11 oed a phobl ifainc rhwng 12 ac 16 oed. Yn rhan o Theatr Ieuenctid Chapter, bydd cyfle hefyd i gyfranogwyr gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr yn ystod gwyliau hanner tymor a gweithdai wythnos o hyd yn ystod gwyliau’r haf. Bydd dosbarthiadau Theatr Ieuenctid Chapter yn help i fagu hyder wrth berfformio ac yn fodd o ddysgu sgiliau a thechnegau newydd wrth i gyfranogwyr baratoi ar gyfer perfformiad cyhoeddus yn un o ofodau theatr proffesiynol Chapter.

Dyddiadau: 3, 10, 17, 24 Mawrth 14, 21, 28 Ebrill, 5, 12, 19 Mai

£6 y sesiwn, neu £50 am bob un o’r 10 sesiwn. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. I gael mwy o wybodaeth am unrhyw un o’r cyrsiau hyn, a manylion ynglŷn â sut i gofrestru, cysylltwch â learning@ chapter.org

Mae adran Addysg Chapter bellach yn defnyddio Schoop — ap newydd cyffrous rhad ac am ddim sy’n hysbysu defnyddwyr am weithgareddau sydd o ddiddordeb iddynt. Lawr-lwythwch Schoop a chwiliwch am Chapter: Schoop ID 4400. Gyda Schoop, r’ych chi yn y lŵp!


32

Archebu / Gwybodaeth

029 2030 4400

GWYBODAETH Sut i Archebu Tocynnau

Gwybodaeth

Dros y ffôn — ffoniwch ni ar 029 2030 4400. Rydym yn derbyn pob un o’r prif gardiau credyd. Galwch heibio — mae ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Sul o 11am-8.30pm, Ar-lein: Gallwch archebu ar www.chapter.org bob awr o’r dydd a’r nos Consesiynau: Mae cyfraddau disgownt ar gael i fyfyrwyr, pobl dros 60 oed, plant, y di-waith, pobl anabl, deiliaid cerdyn MAX ac i Ffrindiau Chapter a deiliaid Cerdyn Chapter. Bydd angen i chi gyflwyno prawf o’ch cymhwyster i dderbyn cyfradd ostyngol. Archebion grŵp: Prynwch 8 tocyn ac fe gewch chi’r 9fed yn RHAD AC AM DDIM. Noder os gwelwch yn dda • dim ond un disgownt y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw un adeg • rydym yn hapus i dderbyn archebion ymlaen llaw ond ni allwn gadw tocynnau i’r naill ochr • os cyrhaeddwch chi’n hwyr mae hi’n bosib y cewch chi’ch hatal rhag mynychu eich digwyddiad. Cyflwynir rhai o’n ffilmiau â Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ond nid yw’r wybodaeth hon bob amser ar gael ar adeg argraffu’r cylchgrawn. Gweler ein gwe-fan am fanylion neu piciwch draw i’r Swyddfa Docynnau yn ystod yr wythnos y mae’r ffilm yn cael ei rhyddhau.

Cwmnïau ac Artistiaid Cysylltiedig Mae Chapter yn gartref i gwmnïau theatr, cwmnïau dawns, stiwdios animeiddio, gwneuthurwyr printiau, crochenwyr, dylunwyr graffeg, dylunwyr deunydd symudol, cyfansoddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, cyhoeddwyr cylchgronau, artistiaid annibynnol a llawer iawn mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Sinema Cyn 5pm O 5pm ymlaen Llawn £4.50 (£4.00) £7.90 (£7.20) Cons £3.50 (£3.00) £5.80 (£5.10) Cerdyn + Cons £3.00 (£2.50) £5.00 (£4.50) DISGOWNT DYDD MAWRTH Tocynnau’r holl brif ddangsiadau — £4.40

Gweithdai a Dosbarthiadau Rydym yn cynnal amrywiaeth eang o weithdai dyddiol a dosbarthiadau gydag ymarferwyr annibynnol, gan gynnwys ballet, zumba, ioga, crefft ymladd, massage i fabanod, cerddoriaeth i blant, pilates, tango, fflamenco, ysgrifennu creadigol, gwersi cerddoriaeth a mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Sut i gyrraedd Chapter Fe ddewch chi o hyd i ni yn Nhreganna, i’r gorllewin o ganol y ddinas. Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE Ar Droed Mae hi’n daith gerdded hamddenol o ryw 20 munud o ganol y ddinas. Ar Fws Mae bysus rhif 17 a 18 yn aros gerllaw ac yn gadael bob pum munud o ganol y ddinas. Ar Feic Mae digonedd o raciau beic ar flaen yr adeilad. Parcio Mae gennym faes parcio yng nghefn yr adeilad ac mae meysydd parcio lleol eraill wedi eu nodi ar y map. Gofynnwn i chi barchu ein cymdogion os gwelwch yn dda drwy osgoi parcio mewn strydoedd cyfagos.

Prisiau ymlaen llaw/ar-lein mewn cromfachau. Mae “Ymlaen llaw” yn golygu unrhyw bryd cyn diwrnod y dangosiad.

aff nd Lla

Springfield Pl.

ad

mC ha cen res

Ha m i l t o n

St

t

Gr

King’s Ro

nd Wy

ane

Road

L Gray

. Library St

St. ay

Treganna

Le c h kwit

Church Rd.

Heol Ddwy rein i o l y B o n t F a en Penllyn Rd.

Harve

St Talbot

Orc h a r d P l.

rn Seve

St. Gray M a rk e t P l .

treet yS

e St. Glynn

d Roa

d hna arc lyF

Heo

o 6pm

rt S

t.

Road

Earle Pl.

A l be

P — meysydd parcio rhad ac am ddim — rac feics

r R—oadarhosfan bysus Majo

I Ganol Dinas Caerdydd to n ling Wel

et Stre

Mynediad i bawb Mae Chapter yn croesawu ymwelwyr anabl. Os oes gennych anghenion mynediad penodol, ffoniwch ein swyddfa docynnau ar 029 2030 4400, minicom 029 2031 3430.


chapter.org

Cymryd Rhan

33

CYMRYD RHAN Cerdyn CL1C

Cadwch mewn cysylltiad

Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawrlwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Ymunwch â ni ar-lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

Ffrindiau Chapter Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40

eAmserlen rad ac am ddim eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch adam.chard@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.

Cynllun Myfyrwyr Chapter Ydych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth am ddim a manteisio ar gynigion arbennig nodedig, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Jennifer — jennifer.kirkham@chapter.org www.chapter.org/cy/aelodaeth-myfyrwyr-chapter

Hoffai Chapter gydnabod cefnogaeth hael y sefydliadau a’r grwpiau canlynol:

Landfill Community Fund Esmée Fairbairn Foundation EU Culture Programme The Baring Foundation Garfield Weston Foundation Foyle Foundation Biffa Award Colwinston Charitable Trust Admiral Group plc Moondance Foundation Foundation for Sport and the Arts Trusthouse Charitable Foundation Community Foundation in Wales BBC Children in Need The Waterloo Foundation ScottishPower Green Energy Trust The Welsh Broadcasting Trust

SEWTA Richer Sounds The Clothworkers’ Foundation Momentum The Henry Moore Foundation Google Jane Hodge Foundation Simon Gibson Charitable Trust People’s Postcode Trust Dunhill Medical Trust Legal & General Institut für Auslandsbeziehungen e.V Millennium Stadium Charitable Trust The Ernest Cook Trust Lloyds TSB Morgan Signs Garrick Charitable Trust

Barclays Arts & Business Cymru Penderyn The Austin & Hope Pilkington Trust Singapore International Foundation Puma Hotels Collection: Cardiff Angel Hotel Cardiff Airport Wales Arts International Gibbs Charitable Trust Ceredigion Community Scheme The Steel Charitable Trust The Boshier-Hinton Foundation 1st Office Oakdale Trust Dipec Plastics Nelmes Design

The Coutts Charitable Trust Bruce Wake Charity Funky Monkey Feet Finnis Scott Foundation Unity Trust Bank Hugh James Contemporary Art Society for Wales The Dot Foundry JVH Gidden & Rees Western Power Distribution Follett Trust Arts & Kids Cymru Canton High School Girl’s Reunion Co-operative Group Renault Cardiff Embassy of Belgium Queensland Government


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.