Chapter Ionawr 2017

Page 1

029 2030 4400

@chaptertweets

chapter.org


02

Celfyddyd

029 2030 4400

Artes Mundi 7 Tan ddydd Sul 26 Chwefror 2017

Rydym yn falch iawn o fod yn un o leoliadau partner arddangosfa Artes Mundi 7. Mae Chapter yn cyflwyno gweithiau gan yr artistiaid o fri rhyngwladol, Nástio Mosquito, Bedwyr Williams a Lamia Joreige. Bydd yr arddangosfa hefyd yn meddiannu adain celfyddyd gyfoes yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd. Cafodd rhestr fer Artes Mundi 7 ei dewis gan Elise Atangana, curadur annibynnol ym Mharis a Cameroon, Alistair Hudson, Cyfarwyddwr Sefydliad Celfyddyd Fodern Middlesbrough a Marie Muracciole, Cyfarwyddwr Canolfan Gelfyddyd Beirut. Mae’r arddangosfa’n cynnwys gwaith gan John Akomfrah, Neil Beloufa, Amy Franceschini / Futurefarmers, Lamia Joreige, Nástio Mosquito a Bedwyr Williams. I gael mwy o wybodaeth ewch i www.artesmundi.org.

GALLERY EVENTS

Sgyrsiau am 4 Sadwrn 7 & 21 Ionawr 4pm Mae ein ‘Sgyrsiau am 4’ yn deithiau tywysedig yng nghwmni ein Tywyswyr Byw, Richard Higlett a Thomas Williams. Maent yn gyfle i ddysgu mwy am yr arddangosfa gyfredol ac am ddulliau gwaith unigryw yr artistiaid. Ni fydd dwy sgwrs yn union yr un fath ond y gobaith yw y byddan nhw’n ddiddorol ac yn agored bob amser. Mae’r ‘Sgyrsiau am 4’ yn rhad ac am ddim ac nid oes angen archebu lle ymlaen llaw — dewch draw i fynedfa’r Oriel i ymuno â ni!


chapter.org

Celfyddyd

03

Bedwyr Williams, Tyrrau Mawr, Artes Mundi (h) Polly Thomas

DANGOSIADAU FFILM ARTES MUNDI 7

Amy Franceschini / Futurefarmers Sadwrn 21 Ionawr, 2.30pm Mae ein dangosiadau o ffilmiau Artes Mundi 7 yn parhau â chasgliad o ffilmiau byrion gan Amy Franceschini / Futurefarmers. Mae’r Futurefarmers yn grŵp o artistiaid a ffermwyr a sefydlwyd ym 1995 gan yr artist o Galiffornia, Amy Franceschini. Mae llinell gyson drwy waith Franceschini yn gofyn cwestiynu am y modd y caiff “natur” a “diwylliant” eu hystyried gennym. Mae hi’n defnyddio gwahanol ddulliau i ddatgelu hanesion a cherhyntau cysylltiedig ac yn herio systemau o gyfnewid a’r offer a ddefnyddid i “hela” a “chasglu.”

Oriau agor yr Oriel: Maw, Mer, Sad, Sul: 12-6pm, Iau, Gwe: 12-8pm, Llun: Ar gau

Cynhadledd Artes Mundi 7 Theatr Reardon Smith — Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd Mae’r gyfres hon o sgyrsiau yn gyfle prin i glywed yr artistiaid ar restr fer Artes Mundi 7 yn trafod y themâu a’r materion sy’n ganolog i’w gwaith. Mae Artes Mundi yn cyflwyno gwaith gan artistiaid rhyngwladol sy’n ymateb i’r cyflwr dynol. Er bod hwn yn gyd-destun eang, mae yna wahoddiad i ni ystyried sut y mae’r artistiaid hyn yn ymwneud â phryderon cymdeithasol o safbwyntiau sydd yn ceisio ymgysylltu â chymdeithas, a sut y maent hefyd yn ymwneud â systemau gwleidyddol a chymunedau amrywiol, ar raddfa leol ac yn fyd-eang. Tocynnau: £25 Tocynnau disgownt: £20 Am fwy o wybodaeth ac i archebu tocyn, ewch i www. artesmundi.org.


04

Celfyddyd

029 2030 4400

Dewis James Richards i gynrychioli Cymru yn Fenis 2017 Rydym yn falch o gyhoeddi bod James Richards wedi ei ddewis i gynrychioli Cymru yn Biennale Fenis. Bydd yr arddangosfa yn cael ei churadu gan Chapter. Mae’r artist yn ymddiddori ym mhosibiliadau’r ‘wedd bersonol’ oddi mewn i anhrefn y cyfryngau torfol. Mae ei waith yn gwneud defnydd o fanc cynyddol o ddeunydd fideo sy’n cynnwys darnau o sinema, gweithiau gan artistiaid eraill, deunydd ‘camcorder’, sioeau teledu hwyr-y-nos a deunydd archif. Mae ei osodiadau bwriadus yn cynnwys elfennau cerfluniol, sinematig, acwstig, cerddorol a churadurol a’r cyfan yn dod at ei gilydd i greu gwaith o ddwyster rhyfeddol. Bydd cyflwyniad Richards yn Fenis yn cynnwys gosodiad sain safle-benodol newydd a chyfres o weithiau ychwanegol sy’n cynnwys samplau archifol a darnau cerddorol wedi eu hailadrodd a’u hailweithio ar wahanol ffurfiau. Bydd yn cydweithio gyda myfyrwyr o Goleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru a, thrwy gyfrwng preswyliad arbennig, yn cloddio yn neunydd yr Archif Sgrin a Sain Cenedlaethol yn Aberystwyth.

Dywedodd Cyfarwyddwr Celfyddyd Weledol Chapter, a churadur Cymru yn Fenis 2017, Hannah Firth: “James Richards yw un o artistiaid mwyaf gwreiddiol a chyffrous ei genhedlaeth ac rydym wrth ein bodd yn cael gweithio gydag ef i gomisiynu corff newydd o waith i’w gyflwyno yn Fenis. “Rydym wedi datblygu dulliau gwaith cydweithredol ac rydym yn gweithio gydag ystod eang o sefydliadau yng Nghymru i gyflwyno’r arddangosfa, a’r rheiny’n cynnwys Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru ac oriel G39.” Mae James Richards (g. Caerdydd, 1983) bellach yn byw yn Berlin. Cwblhaodd flwyddyn sylfaen yn Ysgol Celfyddyd a Dylunio Caerdydd cyn cwblhau gradd mewn Celfyddyd Gain yng Ngholeg Celfyddyd a Dylunio Chelsea, Llundain. Mae ei arddangosfeydd unigol diweddar yn cynnwys ‘Request and Antisongs’, ICA Llundain, ‘Crumb Mahogany’, Bergen Kunsthall a ‘Radio at Night’, Amgueddfa Celfyddyd Gyfoes Bordeaux (pob un yn 2016). Cafodd ei enwi ar restr fer Gwobr Turner 2014. Cafodd arddangosfa ‘Cymru yn Fenis’ ei chomisiynu gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac fe’i cyflwynir yn Fenis rhwng 13 Mai a 26 Tachwedd 2017. Yn rhan o’r cyflwyniad, bydd yr artist hefyd yn curadu sioe grŵp yn Chapter yn Hydref 2017 ac ar ôl hynny, ym mis Chwefror 2018, byddwn yn dangos ei arddangosfa unigol yn Fenis. james-richards.co.uk


chapter.org

“ Y tu hwnt i’r digwyddiadau celfyddydol, mae’r bar diymhongar hyfryd yn werth ymweliad ynddo’i hun” – Observer Food Monthly

#CaruBwydChapter

05

Ry’ch chi wedi clywed sôn am ddiwylliant caffis. Wel, mae ein caffi bar gwobrwyol ni yn ddiffiniad perffaith, bron, o gaffi diwylliannol. Wrth galon Chapter, mae’r caffi bar yn lle bywiog a chroesawgar bob awr, bod dydd. Lle perffaith i drafod yr hinsawdd ddiwylliannol dros cappuccino (neu rywbeth cryfach), i gael tamaid blasus cyn digwyddiad neu i hamddena gyda ffrindiau dros bryd i’w rannu. Mae llawer o bobl yn manteisio ar ein cysylltiad di-wifr cyflym rhad-ac-am-ddim ac yn defnyddio ein caffi fel swyddfa dros-dro i gynnal cyfarfodydd anffurfiol. Mae hyn yn ein plesio’n ofnadwy! I weld ein bwydlen, i gael gwybodaeth am darddiad ein cynhyrchion Cymreig a’n rhestr win gynhwysfawr, ewch i chapter.org.

Dilynwch ni ar Twitter: @ChapterTweets @ChapterEats


06

Perfformiadau

029 2030 4400

THE WYRD WONDER YN CYFLWYNO

‘Silhouettes and Shadows’, Noson o Gerddoriaeth a Barddoniaeth Sad 7 Ionawr, 7.30pm waith y bardd lleol, Frank Perie, sy’n wyneb adnabyddus yn Chapter. Bydd y noson yn cynnwys darlleniadau o farddoniaeth gan y swynwraig, Amanda Rackstraw, y geiriwr coeglyd, Derec Jones, a’r dirfodwr smala, Bryan Marshall. £8 / £6

The Gentle Good

Ymunwch â ni am noson yn llawn talentau lleol. Bydd yna ganeuon a cherddoriaeth draddodiadol (a digon annhraddodiadol hefyd) gan The Gentle Good, neu Gareth Bonello. Bydd perfformiadau prin hefyd gan ddyn dadeni cosmig a Bardd Trelái, Mr Steve Andrews, yn ogystal â chaneuon o galon y ‘chanteuse’ Rebecca May, o’r grŵp reggae trofannol, Dirty Revolution. Bydd y gwerinwyr gothig, Zeuk, yn cynnig set unigryw hefyd wedi’i ddylanwadu gan


Perfformiadau

(Un)Covered

HIJINX

07

Gyda’r cloc o’r chwith uchaf: (Un)Covered, Meet Fred, My Body Welsh

chapter.org

Perfformiad gan Zosia Dowmunt Maw 10 & Mer 11 Ionawr, 7.30pm Gall dillad fod yn arfwisg, yn waith celfyddydol, yn hunaniaeth, yn gydymffurfiaeth, yn warchodfa neu’n fodd i wrthryfela. Mae (Un)Covered yn berfformiad theatr ddawns unigol sy’n archwilio pwy ydym fel menywod o dan ein dillad. Sut allwn ni ymgorffori grymuster a gwrthryfela yn erbyn y gwleidyddoli, a’r trais ar ein cyrff gan gymdeithas, drwy gyfrwng y dillad a wisgwn? Mae’r materion hyn yn berthnasol i bob un ohonom ac yn trosgynnu ffiniau a gwahaniaethau diwylliannol. Nid yn yr hyn y penderfynwch ei wisgo neu beidio â’i wisgo y mae eich rhyddid — ond yn y dewis ei hun. £10/£8, Oed 14+ Sesiwn holi-ac-ateb ar ôl y sioe

THEATR INVERTIGO

My Body Welsh Iau 12 — Sad 14 Ionawr, 8pm Mae My Body Welsh yn ddarn theatr un-dyn newydd am rôl straeon yn y broses o greu hanes ac ymdeimlad o hunaniaeth genedlaethol. Mae’n archwilio’r berthynas lithrig rhwng myth a realiti, gwirionedd a ffuglen, ac yn gofyn a oes modd i un fodoli heb y llall? £10/£8, Oed 14+

Meet Fred Gwe 20, 8pm + Sad 21 Ionawr, 2.30pm & 8pm Dyma Fred. Dyn digon normal sydd eisiau bwrw ymlaen â’i fywyd: dod o hyd i swydd, dod o hyd i ferch neis, setlo i lawr. Yr unig broblem yw taw pyped yw Fred. Mae bywyd bob dydd yn anodd pan fyddwch chi’n dibynnu ar dri dyn arall drwy’r amser. Mynd allan am dro bach tawel, cwrdd â merched, mynd i’r ystafell ymolchi, dyw bywyd byth yn syml i’r pypedau yn ein plith. Wedi’i chreu ar y cyd â’r arbenigwyr ar bypedau, Blind Summit, mae’r sioe “hynod ddifyr” hon (Wales Arts Review) yn ymwneud ag ymgais rhywun o’r tu allan i adael ei farc mewn byd lle mae angen llawer iawn o help arno. Mae Meet Fred yn ffraeth, yn deimladwy ac yn herfeiddiol ac yn cyflwyno pyped cegog arbennig. Ac, fel pob un o gynyrchiadau Hijinx, mae yna berfformiadau gan gyfuniad o actorion a chanddynt ac heb fod ganddynt anableddau dysgu. £12/£10/£8, Oed 14+


Perfformiadau

029 2030 4400

The Very Important Child

Sleeper Society

Iau 19 Ionawr, 7.30pm

Llun 23 Ionawr, 7.30pm

Mae The Very Important Child yn ddarn o theatr gorfforol am anghyfiawnder a’r ego dynol. Mae’r gynulleidfa’n gweld gwleidyddiaeth gymhleth ego dau oedolyn, dau sydd yn argyhoeddedig mai bai y person arall yw popeth. Yn rhannol seiliedig ar waith y therapydd grŵp, Robin Skynner, a’r seicolegydd datblygiadol, Jane Loevinger, mae’r sioe yn mynd â ni ar ein pennau i feddwl dynol datblygol — y baban bregus sy’n byw o funud i funud, y plentyn sy’n “dduw bychan”, a’r oedolyn sy’n tybio ei bod wedi cyrraedd ei “llawn dwf”. Mae The Very Important Child yn gyfres o ddawnsfeydd cysylltiedig ac hefyd yn stori elfennol am bobl. Mae yna ddawnsfeydd gwerin gwyllt, deuawdau telynegol di-eiriau, arsylwadau comig o sgyrsiau oedolion a cherddoriaeth ysbrydoledig.

A’u gwreiddiau mewn celfyddyd sain a cherddoriaeth electronig, mae’r Sleeper Society yn arddangos gweithiau gorau y sîn gerddoriaeth arbrofol. Gallwch ddisgwyl awyrgylch anffurfiol a chyfle i ddarganfod synau a phrofiadau newydd drwy gyfrwng rhaglen o waith rhyngwladol wedi’i churadu gan y cyfansoddwyr lleol, Sam Barnes a Benjamin Talbott. Trwy ganolbwyntio ar themâu fel hunaniaeth, ego a’r hunan-ddelwedd, yn ogystal â’r unigolyn a chymdeithas, mae’r gwaith yn addo bod yn heriol ac yn ysgytwad i’r meddwl. Bydd Sleeper Society yn trefnu arbrawf cerddorol cyffrous (sydd bron yn siŵr o fethu) i gloi’r noson — bydd yr arbrawf hwnnw’n seiliedig ar waith enwog arall.

O’r chwith i’r dde: Testimony: The United States (1885–1915) . A Regular Little Houdini

08

£10/£8, Oed 14+

Testimony: The United States (1885-1915) Gwe 20 Ionawr, 3–9pm Gyda Mike Pearson, John Rowley ac Ian Watson Ar ddiwrnod urddo Arlywydd yr Unol Daleithiau, bydd Mike Pearson a John Rowley yn cyflwyno darlleniad chwech awr di-stop o waith syfrdanol Charles Reznikoff, Testimony: The United States (1880-1915) i gyfeiliant seinweddau byw gan Ian Watson. Dwsinau o gerddi byrion sy’n ymdebygu i ddamhegion Beiblaidd, straeon rhybuddiol i blant, toriadau papur newydd, sgriptiau ffilm ... cipolygon ar ymosodiadau ofnadwy, damweiniau esgeulus, golygfeydd diffaith, dirgelion heb eu datrys; mae plant yn colli coesau a breichiau, dieithriaid yn dioddef ymosodiadau dychrynllyd, meddwon yn dadlau ac ymladdwyr yn ymladd ... Dyma bortread byw o haenau anweledig cenedl ddioddefus. Ymunwch â’r digwyddiad ar unrhyw adeg ac arhoswch mor hir ag y dymunwch. £8/£6

£8/£6

A Regular Little Houdini Iau 26 — Sad 28 Ionawr, 7.30pm Casnewydd, De Cymru: Mae mab i ddociwr, sydd yn dwlu ar Harry Houdini, yn breuddwydio am hud a lledrith — ac am allu “dianc” o realiti caethiwus ei gymdeithas Edwardaidd a’r dosbarth gweithiol Cymreig. Mae ei rieni yn cael trafferth ymdopi â hynodrwydd eu mab. Mae e’n ceisio efelychu ei arwr ac mae ei uchelgais di-ildio yn ei arwain o’r diwedd i gyfarfod â’r gŵr mawr ei hun — ac i ganol un o’r digwyddiadau mwyaf brawychus yn hanes diwydiannol Prydain. A oes modd dilyn y freuddwyd pan fydd tlodi’n eich cadw yn y llaid? Mae hon yn stori hudolus sy’n gyfuniad o ddychymyg plentyn a sinigiaeth byd oedolion. Stori am obaith, penderfyniad a hud a lledrith sydd wedi ennill gwobrau niferus.


#CaruChapter

09

La La Land

chapter.org

Mae 2017 yn flwyddyn cariad yn Chapter a pha well ffordd o gychwyn 12 mis o serch na dod i weld y ddwy ffilm hyn ...

DYDD SANTES DWYNWEN

Rhosyn a Rhith Sul 22 & Maw 24 Ionawr Cymru/1986/93mun/15/is-deitlau Cyf: Stephen Bayly. Gyda: Ifan Huw Dafydd, Gillian Elisa

Ar ôl i’r sinema leol mewn tref ddirwasgedig yng Nghymoedd De Cymru gau ei drysau, mae’r cyn-dafluniwr yn creu cynllun dyfeisgar i wneud arian. Dangoswyd y ffilm gomedi arobryn hon yng nghategori Un Certain Regard Gŵyl Ffilm Cannes 1986.

CARU SIOEAU CERDD

La La Land Gwe 20 Ionawr — Iau 2 Chwefror UDA/2016/128mun/12A. Cyf: Damien Chazelle. Gyda: Emma Stone, Ryan Gosling

Yn llawn rhamant a steil, mae’r sioe gerdd hynod ddyfeisgar hon yn dilyn Mia, actores uchelgeisiol, a’r cerddor jazz, Sebastian, sydd ill dau yn crafu byw — maent yn gweini lattes ac yn chwarae’r piano mewn bariau coctel llwm. Ond wrth iddynt ddechrau llwyddo, mae ffabrig bregus eu carwriaeth yn dechrau dadfeilio. Â brwdfrydedd heintus, prif actorion carismatig, caneuon hyfryd, lliwiau bywiog a gwaith camera disglair, mae La La Land yn adfer cyfrwng y sioe gerdd i’w hen ogoniant.

Mynegwch eich cariad at Chapter! Ydych chi’n caru Chapter? Os ydych chi, byddai’n dda iawn gennym tasech chi’n fodlon mynegi hynny ar y cyfryngau cymdeithasol. Ry’n ni eisiau gweld lluniau o’n cynulleidfaoedd hyfryd ar y cyfryngau cymdeithasol gyda’r hashnod #CaruChapter. Byddwn yn dewis ein hoff pics a fydd yn cael eu rhoi mewn raffl i ennill tocynnau sinema a phryd o fwyd i ddau yn y Caffi. Rhannwch eich lluniau gyda ni ar: Facebook @chapterarts Twitter @chaptertweets Instagram @chaptertweets I ddarllen mwy am gariad a sioeau cerdd, trowch i dudalen 17.

Dilynwch ni ar Twitter: @ChapterTweets @ChapterEats


Ffilm

029 2030 4400

Silence

Moviemaker Chapter

Maw 3 — Iau 19 Ionawr

Llun 7 Tachwedd

UDA/2016/159mun/TiCh. Cyf: Martin Scorsese Gyda: Andrew Garfield, Liam Neeson, Adam Driver

Sesiwn reolaidd sy’n caniatáu i gyfarwyddwyr annibynnol ddangos eu ffilmiau byrion. I gael mwy o wybodaeth am ddangos eich ffilm chi neu i gael unrhyw fanylion eraill, e-bostiwch moviemaker@ chapter.org. O bryd i’w gilydd, dangosir ffilmiau sy’n cynnwys deunydd anaddas i bobl iau. Awgrymwn, felly, bod sesiynau Moviemaker Chapter yn addas ar gyfer pobl 18+ oed.

Silence

10

Yn Japan yn yr 17eg ganrif, mae dau genhadwr Jeswit yn wynebu’r prawf eithaf o’u ffydd, pan deithiant i chwilio am eu mentor coll — ar adeg pan oedd Cristnogaeth, a hyd yn oed presenoldeb y Jeswitiaid, yn waharddedig. Wedi’i haddasu o nofel Shusaku Endo, mae ffilm angerddol Scorsese yn tynnu, yn ôl y sôn, ar ei brofiad ef ei hun o ffydd grefyddol.

Fantastic Beasts and Where To Find Them Llun 2 — Maw 3 Ionawr DG/2016/140mun/TiCh. Cyf: David Yates Gyda: Eddie Redmayne, Ezra Miller, Zoë Kravitz, Colin Farrell, Samantha Morton

Mae Newt Scamander yn mynd i ddinas Efrog Newydd am gyfarfod o Gyngres Hud a Lledrith Unol Daleithiau America, ond nid yw ar ei ben ei hun: yn ei gês hudol mae ganddo menagerie o greaduriaid peryglus.

RHAD AC AM DDIM

Life, Animated Gwe 6 — Iau 12 Ionawr UDA/2016/89mun/PG. Cyf: Roger Ross Williams

Mae’r ffilm ddogfen afieithus hon yn dilyn Owen Suskind, dyn ifanc awtistig sydd ar fin dod yn oedolyn a chymryd ei gamau cyntaf ar lwybr annibyniaeth. Ar y cyd â’i deulu, daw o hyd i ffordd unigryw o gyfathrebu — sef ymgolli yn animeiddiadau clasurol Disney. + Cyflwyniad gan Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth ar Gwe 6 Ionawr


Ffilm

The Wailing

Still Loved

Gwe 6 — Iau 12 Ionawr

Gwe 6 — Iau 12

De Corea/2016/156mun/TiCh. Cyf: Hong jin Na Gyda: Jun Kunimura, Jung-min Hwang, Do Wan Kwak

DG/2015/70mun/TiCh. Cyf: Debbie Howard

11

O’r brig: The Wailing, Still Loved

chapter.org

Mae’r plismon llabystaidd Jong-gu yn ymchwilio i gyfres o heintiau a marwolaethau dirgel ym mhentref mynyddig Gokseong. Mae’r pentrefwyr yn amau bod y gyfres o lofruddiaethau yn ymwneud rywsut â dyfodiad dyn dirgel o Japan. Ar ôl i ferch Jong-gu ddod dan ddylanwad melltith ofnadwy, mae e’n galw ar siaman — ond mae’r ddefod yn arwain at ruthr o ddigwyddiadau gwyllt a gorffwyll. Ffilm lawn gwaed ac esgyrn gan feistr y genre, Hong jin Na o Dde Corea.

Wrth ofyn ai gwell caru a methu na pheidio â charu o gwbl, mae’r ffilm hon yn ddogfen dwymgalon am deuluoedd sy’n gorfod wynebu’r cymhlethdodau sy’n deillio o golli baban. Mae’r ffilm yn cyflwyno profiadau annisgwyl tadau dioddefus, ynghyd â mamau, neiniau a theidiau a brodyr a chwiorydd. Maent yn siarad yn agored bob un am eu profiadau ac mae’r ffilm, yn y pen draw, yn cynnig gobaith i unrhyw un a gollodd, neu sydd yn debygol o golli, rhywun annwyl. + Sesiwn holi-ac-ateb gyda’r cynhyrchydd Holly Perkins ar Iau 12 Ionawr

“ Mae Still Loved yn fodd o wneud iawn am gamweddau’r gorffennol; mae’n dysgu cynulleidfaoedd mor bwysig yw hi i drin y pwnc hwn â thosturi ac â’r tynerwch dyledus” Little White Lies


Ffilm

029 2030 4400

BAFTA Cymru: Rhagolwg o Sherlock, Pennod 2 + Sesiwn holi-ac-ateb

Clwb Ffilmiau Gwael: Uninvited

O’r chwith i’r dde: Sherlock, The Library Suicides

12

Sul 18 Ionawr, 3pm Cymru/2016/60mun/dim tyst.

Mae BBC Cymru a BAFTA Cymru yn falch iawn o gynnig rhagolwg unigryw o ail bennod cyfres newydd Sherlock yn Chapter ar Sul 8 Ionawr. Mae Sherlock yn dychwelyd i BBC One â thair pennod hir newydd sbon, sy’n addo llond lle o chwerthin, dagrau, pethau annisgwyl ac achosion eithriadol. Yn y bedwaredd gyfres hir-ddisgwyliedig hon, a gynhyrchwyd gan Hartswood Films, mae hoff dditectif y genedl, y Sherlock Holmes rhyfeddol, yn ôl ar dir Prydain, wrth i John Watson a’i wraig, Mary, baratoi ar gyfer eu her fwyaf un — bod yn rhieni. Mae Benedict Cumberbatch a Martin Freeman yn ailafael yn eu rhannau eiconig fel Sherlock Holmes a Doctor Watson yn y ddrama boblogaidd hon a ysgrifennwyd ac a grëwyd gan Steven Moffat a Mark Gatiss, ac a ysbrydolwyd gan waith Syr Arthur Conan Doyle.

Sul 8 Ionawr, 8.15pm UDA/1988/90 mun/PG. Cyf: Greydon Clark Gyda: George Kennedy, Alex Cord, Clu Gulager

Mae hi’n flwyddyn newydd ac yn ben-blwydd arall i’r Clwb Ffilmiau Gwael, wrth i ni ddathlu ein 11 oed. Hwre! I ddathlu, beth am ddod i weld ffilm am gath sy’n cael ei heintio gan ymbelydredd ac sydd yn tyfu cath newydd — un fach ddrwg iawn — yn ei cheg? Swnio’n hurt? Wel, ydy mae. Uninvited. Ardderchog o wael.

Chapter 13: Train to Busan Llun 16 Ionawr De Corea/2016/118mun/15. Cyf: Sang-ho Yeon Gyda: Yoo Gong, Soo-an Kim, Yu-mi Jeong

Mae’r rheolwr ariannol Seok-woo wedi ysgaru ac, yn erbyn ei ewyllys, mae e’n mynd gyda’i ferch ifanc ar drên cyflym y KTX i Busan i weld ei mam hithau a’i gyn-wraig yntau. Ond mae pla yn eu dilyn hefyd — ciwed o zombies sy’n brasgamu drwy’r trên bwled sydd bellach yn diferu gwaed ... Gyda chyflwyniad gan yr artist a’r gwneuthurwr ffilmiau, Ben Ewart Dean

Y Llyfrgell Gwe 16 — Gwe 30 Rhagfyr Cymru/2016/85mun/15/is-deitlau Cyf: Euros Lyn. Gyda: Catrin Stewart, Dyfan Dwyfor, Ryland Teifi

Ar ôl i’r awdures enwog Elena Wdig gyflawni hunanladdiad, mae ei merched, efeilliaid sydd hefyd yn llyfrgellwyr, Nan ac Ana, yn eu cael eu hunain ar goll yn llwyr. Mae geiriau olaf y fam, Elena, yn awgrymu taw ei chofiannydd, Eben, a’i llofruddiodd hi. Yn ystod shifft nos, mae’r efeilliaid yn cychwyn ar gwest am ddialedd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ond yn cael eu drysu gan y porthor, Dan, sy’n ei gael ei hun yn rhan o’r saga yn erbyn ei ewyllys.


chapter.org

Film

13

The Tempest

Y LLWYFAN AR Y SGRIN

RSC Live: The Tempest

NT Live: Amadeus

DG/2017/210mun/U. Cyf: Gregory Doran. Gyda: Simon Russell Beale, Joe Dixon, Mark Quartley, Jenny Rainsford.

Iau 2 Chwefror, 7pm Dangosiad Encore: Sul 12 Chwefror, 1.30pm

Ar ynys bell, mae dyn yn aros yn amyneddgar. Mae e wedi colli ei swydd, ei rym a’i gyfoeth ac mae ei elynion wedi ei adael ar ei ben ei hun yn llwyr. Ond nid dyn cyffredin mo hwn, ac nid ynys gyffredin mohoni chwaith. Mae Prospero yn gonsuriwr ac yn gallu rheoli’r elfennau a phlygu byd natur yn unol â’i ewyllys. A phan wêl hwyliau llong ar y gorwel, mae e’n estyn allan dros y tonnau at y llong sy’n cario’r dynion a wnaeth gam ag ef. Mae e’n creu storm hudol anferthol sydd yn dinistrio’r llong ac yn arwain ei elynion i draeth ei ynys bellennig. Ar ôl iddyn nhw ddihuno, maent yn gweld nad yw unrhyw beth ar yr ynys ffantasi hon fel yr ymddengys. £17.50/£14/£13

NT Live Encore: No Man’s Land DG/2016/150mun/12A. Cyf: Sean Mathias. Gyda: Ian McKellen, Patrick Stewart, Owen Teale.

Un noson o haf, mae dau awdur sy’n heneiddio, Hirst a Spooner, yn cyfarfod mewn tafarn yn Hampstead ac yn parhau â’u sesiwn yfed yn nhŷ urddasol Hirst gerllaw. Wrth i’r pâr feddwi, ac wrth i’w straeon fynd yn gynyddol anghredadwy, mae’r sgwrs fywiog yn troi’n gêm bŵer ddadlennol — ac fe gymhlethir honno ymhellach pan ddychwela dau ddyn sinistr i’r tŷ. Yn dilyn cyflwyniad hynod lwyddiannus yn y New Theatre, Caerdydd, mae dau o arwyr y llwyfan a’r sgrin yn disgleirio yn yr adfywiad hwn o glasur comig Harold Pinter. £13/£11

Cerddoriaeth. Pŵer. Cenfigen. Lucian Msamati (Luther, Game of Thrones, NT Live: The Comedy of Errors) sy’n chwarae rhan Salieri yn nrama eiconig Peter Shaffer, a ddarlledir yn fyw o’r National Theatre i gyfeiliant cerddorfaol byw y Southbank Sinfonia. Mae Wolfgang Amadeus Mozart, cerddor ifanc rhyfeddol ac afreolus, yn cyrraedd Fiena, prifddinas gerddorol y byd, ac mae e’n benderfynol o wneud ei farc. Wedi’i syfrdanu gan athrylith Mozart, fe all cyfansoddwr y llys, Antonio Salieri, annog y gŵr ifanc neu ei ddinistrio. Wedi’i feddiannu gan eiddigedd obsesiynol, mae e’n cychwyn brwydr â Mozart, â cherddoriaeth ac, yn y pen draw, â Duw ei hun. Ar ôl ennill Gwobrau Tony ac Olivier niferus pan gafodd ei llwyfannu am y tro cyntaf yn y National Theatre yn 1979, cafodd Amadeus ei haddasu’n ffilm a enillodd nifer o Oscars hefyd. £17.50/£14/£13

NT Live: Saint Joan Iau 16 Chwefror, 7pm Dangosiad Encore: Sul 26 Chwefror, 1.30pm DG/2017/240mun/12A. Cyf: Josie Rourke. Gyda: Gemma Arterton.

Cafodd Siân d’Arc ei galw’n ferch fferm, yn weledydd, yn wladgarwr, yn filwr, yn arweinydd, yn fuddugwr, yn eicon, yn radical, yn wrach, yn heretic, yn sant ac yn ferthyr. Mae drama glasurol Bernard Shaw yn adrodd hanes bywyd a threial merch ifanc o’r wlad sy’n arwain cenhadaeth waedlyd i yrru’r Saeson o Ffrainc. Fel un o’r Protestaniaid a’r cenedlaetholwyr cyntaf, mae hi’n bygwth ffabrig cymdeithas ffiwdal a’r Eglwys Gatholig ledled Ewrop mewn drama drydanol. £17.50/£14/£13


14

Ffilm

029 2030 4400

Gyda’r cloc o’r brig: Julieta, The Innocents, Star Wars: Rogue One

TYMOR FFILM ‘WONDER WOMEN’

Ardystiad ‘F’

The Innocents

Fe sylwch chi efallai ar y logo hwn ger manylion rhai ffilmiau a pherfformiadau. Mae’r F yn dynodi ffilmiau a pherfformiadau wedi’u cyfarwyddo gan ferched, wedi’u hysgrifennu gan ferched neu/ac sydd yn cynnwys rhannau canolog i ferched ar y sgrin neu ar y llwyfan. Mae gan Chapter ambell ffilm F ardderchog i chi ym mis Ionawr ...

Gwe 30 Rhagfyr — Iau 5 Ionawr

Star Wars: Rogue One Gwe 30 Rhagfyr — Sul 29 Ionawr

UDA/2016/133mun/TiCh. Cyf: Gareth Edwards Gyda: Felicity Jones, Mads Mikkelsen, Diego Luna, Ben Mendelsohn, Forest Whitaker

Wedi ffurfio’r Ymerodraeth Galactig, caiff y Jyn Erso dyfeisgar ei berswadio gan y Gynghrair Rebel newydd i weithio gyda grŵp di-drefn, dan arweiniad Cassian Andor, er mwyn dwyn y cynlluniau ar gyfer y Death Star. Wedi’i gosod yng nghyfnod y ffilmiau Star Wars clasurol, rhwng Revenge of the Sith a A New Hope, mae’r ffilm hon yn olwg newydd ar alaeth sydd yn bell, bell i ffwrdd.

Gwlad Pwyl/2016/115mun/15/is-deitlau. Cyf: Anne Fontaine Gyda: Lou de Laâge, Vincent Macaigne, Agata Buzek, Agata Kulesza

Mae Mathilda yn feddyg ifanc o Ffrainc sy’n gweithio i’r Groes Goch ac yn helpu goroeswyr gwersyll crynhoi y tu allan i Warsaw ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Mae hi’n dod o hyd i rywbeth dychrynllyd wrth ymweld â lleiandy: nifer o leianod sydd wedi beichiogi ar ôl cael eu treisio’n systematig gan filwyr Sofietaidd yn ystod y rhyfel. A’r cynghreiriau gwleidyddol yn dal yn fregus, ac i geisio gwarchod purdeb y lleianod, mae Mathilda yn helpu’r menywod ac yn ymdrechu i gadw eu cyfrinach. Stori wir ingol am ffydd a theyrngarwch.


Ffilm

Julieta

The Eagle Huntress

Gwe 23 Rhagfyr — Iau 5 Ionawr

Gwe 20 — Iau 26 Ionawr

Sbaen/2016/99mun/15/is-deitlau. Cyf: Pedro Almovodar Gyda: Inma Cuesta, Adriana Ugarte, Emma Suárez

Kazakh/2016/87mun/U. Cyf: Otto Bell. Lleisio gan Daisy Ridley

15

O’r chwith i’r dde: Jackie, The Eagle Huntress

chapter.org

Mae Julieta ar fin symud o Madrid i Bortiwgal gyda phartner newydd ond cyn mynd rhaid iddi ystyried unwaith eto ei merch Antía, sydd wedi bod ar goll ers blynyddoedd. Mae Julieta wrth galon y dirgelwch yn y stori emosiynol hon — addasiad gan gyfarwyddwr meistrolgar o stori fer feistrolgar Alice Munro.

“ Astudiaeth syfrdanol a difrifol o alar, euogrwydd a baich” Dave Calhoun, Time Out

Moana Sad 7 — Sul 29 Ionawr UDA/2016/103mun/PG. Cyf: Chris Williams.

Mae Moana yn ei harddegau ac yn deithiwr brwd sy’n cychwyn allan o ynys yn ne’r Cefnfor Tawel i chwilio am ynys chwedlonol. Mae hi’n ymuno â’r hanner-duw Maui i groesi’r môr mawr ac yn dod ar draws creaduriaid enfawr y môr, bydoedd tanddaearol syfrdanol a llên gwerin hynafol.

Bydd y gwaith difyr hwn am anturiaethau ysbrydoledig go iawn yn apelio i blant o bob oed (ac i unrhyw un arall y mae angen eu hatgoffa bod unrhyw beth yn bosib). Dilynwn Aisholpan, merch 13 oed, wrth iddi hyfforddi i fod y ferch gyntaf yn ei theulu Kazakh ers deuddeg cenhedlaeth i hela eryrod — a chodi drwy hynny i binacl traddodiad a drosglwyddwyd o dad i fab ers cenedlaethau.

“Ffilm ddogfen syfrdanol sy’n dangos y gall pethau anhygoel ddigwydd pan awn ati i annog ein merched.” — Christina Estima, VICE “Stori wir emosiynol a thrawiadol ... mae’r stori ysbrydolgar hon yn perthyn, siawns, i’r byd cyfan” — Sight & Sound

Jackie Gwe 27 — Iau 9 Chwefror UDA/2016/99mun/15. Cyf: Pablo Larrain. Gyda: Natalie Portman

Portread ingol ac agos-atoch o un o gyfnodau pwysicaf a mwyaf trasig yr Unol Daleithiau, a gyflwynir drwy lygaid prif foneddiges America, Jacqueline Bouvier Kennedy. Mae Jackie yn ein gosod ni yn ei byd hithau yn ystod y dyddiau ar ôl i’w gŵr gael ei lofruddio.

CYNNIG ARBENNIG: Archebwch docynnau ar gyfer mwy nag un ffilm yn nhymor ‘Wonder Women’ ac fe gewch chi ostyngiad o 20% ar bris eich tocynnau. * I hawlio’r cynnig arbennig, rhaid i’r holl docynnau gael eu prynu mewn un trafodiad


Ffilm

I, Daniel Blake

Birth Of A Nation (I’w chadarnhau)

029 2030 4400

O’r chwith i’r dde: I, Daniel Blake, Manchester By The Sea

16

Gwe 13 — Iau 19 Ionawr DG/2016/100mun/15. Cyf: Ken Loach Gyda: Dave Johns, Hayley Squires

Ar ôl i’r doctor ddweud wrth saer o’r enw Daniel nad yw’n ffit i weithio mae hwnnw’n gwneud cais am fudd-dal anabledd. Ond mae Adran Gwaith a Phensiynau y Llywodraeth yn penderfynu nad yw Daniel yn gymwys i dderbyn budd-dal. Yn y cyfamser, mae e’n dechrau cyfeillgarwch â mam sengl, Katie, sydd newydd symud i Newcastle ac sydd hefyd yn byw ar y gwynt. Ffilm ingol sydd yn ein hatgoffa o anghyfiawnderau dwys y Brydain gyfoes — a sefyllfa ddigon creulon i berswadio’r cyfarwyddwr, Ken Loach, i roi’r gorau i’w ymddeoliad.

Eat That Question: Frank Zappa In His Own Words Gwe 13 — Iau 19 Ionawr Ffrainc/2016/93mun/15mun. Cyf: Thorsten Schütte

Dathliad o fywyd y cerddor roc iconoclastig ac avantgarde a’r ymgyrchydd gwleidyddol a deallusol tanbaid, Frank Zappa. Cawn gyfle i weld a chlywed Zappa yn ei eiriau ei hun ac mewn deunydd archif anhygoel o berfformiadau a chyfweliadau teledu. Treiddiwn i’w fyd pastiche o barodïau arddegaidd a chyfansoddiadau soffistigedig a hynny mewn teyrnged i unigolyn gwirioneddol garismataidd a oleuodd gyfnod o gynnwrf diwylliannol.

Gwe 13 — Iau 19 Ionawr UDA/2016/120mun/15. Cyf: Nate Parker. Gyda: Armie Hammer, Aunjanue Ellis

Yn y De Americanaidd, mae Nat Turner yn gaethwas a phregethwr anllythrennog. Mae ei berchennog, sydd yn wynebu problemau ariannol, yn derbyn cynnig i ddefnyddio dawn Nat fel pregethwr i dawelu’r caethweision afreolus. Ar ôl gweld erchyllterau di-ri, mae Nat yn arwain gwrthryfel yn y gobaith o sicrhau rhyddid i’w bobl.

Manchester By The Sea Gwe 20 Ionawr — Iau 2 Chwefror

UDA/2016/137mun/15. Cyf: Kenneth Lonergan. Gyda: Casey Affleck, Kyle Chandler, Lucas Hedges, Michelle Williams

Ar ôl marwolaeth ei frawd, Joe, mae Lee yn synnu clywed mai ef, bellach, yw unig warcheidwad ei nai 15 oed egnïol, Patrick. Mae Lee’n gadael ei swydd, felly, ac yn dychwelyd yn anfoddog i’w dref enedigol, lle caiff ei orfodi i ddelio â’i orffennol. Weithiau’n ddoniol, weithiau’n hynod deimladwy a dynol, mae’r archwiliad hwn o alar yn gafael yn dynn yn ei gymeriadau — ac yn y gwyliwr hefyd.

“ Hyd yn oed yn ystod y munudau mwyaf digalon, mae’r gwaith hwn yn gorlifo ag onestrwydd a difrifoldeb bywyd” Washington Post


chapter.org

Ffilm

17

O’r chwith i’r dde: La La Land, An American In Paris

HUDOLIAETH Y SIOE GERDD

La La Land

An American In Paris

Gwe 20 Ionawr — Iau 2 Chwefror

Sul 15 & Maw 17 Ionawr

UDA/2016/128mun/12A. Cyf: Damien Chazelle. Gyda: Emma Stone, Ryan Gosling

UDA/1951/113mun/U. Cyf: Vincente Minnelli. Gyda: Gene Kelly, Leslie Caron, Oscar Levant

Yn llawn rhamant a steil, mae’r sioe gerdd hynod ddyfeisgar hon yn dilyn yr actores uchelgeisiol, Mia, a’r cerddor jazz, Sebastian, sydd ill dau yn crafu byw — maent yn gweini lattes ac yn chwarae’r piano mewn bariau coctel llwm. Ond wrth iddynt ddechrau llwyddo, mae ffabrig bregus eu carwriaeth yn dechrau dadfeilio. Â brwdfrydedd heintus, prif actorion carismatig, caneuon hyfryd, lliwiau bywiog a gwaith camera disglair, mae La La Land yn adfer cyfrwng y sioe gerdd i’w hen ogoniant.

Ar ôl i’r cyn-GI, Jerry Mulligan, aros ym Mharis i geisio gwireddu ei ddyheadau artistig, daw dan ddylanwad noddwraig gyfoethog sydd yn ymddiddori mewn mwy o lawer na’i gelfyddyd. Cyn pen dim, caiff ei dynnu rhwng dau begwn — sicrwydd ariannol ar y naill law a’r fenyw ifanc o Ffrainc y mae e wedi syrthio mewn cariad â hi ar y llall.

Sul 8 & Maw 10 Ionawr

Mae Ruth Etting yn gantores yn y Dauddegau Gwyllt — ac mae ganddi bob dim: harddwch, llais jazz myglyd, a’r waw-ffactor dirgel. Yn anffodus, mae ganddi hefyd berthynas â ‘racketeer’ o Chicago, Martin ‘The Gimp’ Snyder, dyn sy’n hybu ei gyrfa trwy ddulliau amheus, ac sydd hefyd yn ei mygu â’i awydd obsesiynol i’w rheoli. Rhaid i Ruth ddianc oddi wrtho, doed a ddelo.

Singin’ in the Rain

UDA/1952/110mun/U. Cyf: Stanley Donen, Gene Kelly Gyda: Gene Kelly, Donald O’Connor, Debbie Reynolds

A’r ‘talkies’ ar fin chwyldroi byd ffilm, mae penaethiaid stiwdio yn mynnu bod ffilm nesaf Don Lockwood yn cynnwys sain ond fe ddaw’n gynyddol amlwg nad oes gan ei gyd-seren yn y ffilm lais addas ar gyfer y cyfrwng newydd. Mae Don yn recriwtio actores “ddifrifol” uchelgeisiol i ddybio’r sgwrs ac yn ennyn llid pellach ei gyd-seren pan ddaw’n gynyddol amlwg ei fod e’n syrthio mewn cariad â hi ...

Love Me Or Leave Me Sul 29 & Maw 31 Ionawr

UDA/1955/122mun/PG. Cyf: Charles Vidor. Gyda: Doris Day, James Cagney


18

Ffilm

029 2030 4400

FFILMIAU I’R TEULU CYFAN

Detholiad o ffilmiau gwych i’r teulu cyfan bob dydd Sadwrn a dydd Sul am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn.

My Feral Heart

Star Wars: Rogue One

Mer 25 Ionawr

Gwe 30 Rhagfyr — Sul 29 Ionawr

DG/2016/83mun/12A. Cyf: Jane Gull. Gyda: Steven Brandon, Will Rastall, Pixie le Knot

UDA/2016/133mun/TiCh. Cyf: Gareth Edwards Gyda: Felicity Jones, Mads Mikkelsen, Diego Luna, Ben Mendelsohn, Forest Whitaker

Mae profedigaeth sydyn yn arwain Luke, dyn ifanc ffyrnig o annibynnol â syndrom Down, i fyd newydd brawychus lle caiff gefnogaeth annisgwyl gan ei ofalwr talog. Astudiaeth gain o gymeriadau ac o themâu oesol galar a chyfeillgarwch sydd hefyd yn cynnwys sgôr hyfryd.

“ Perfformiad canolog gwych Steven Brandon, dyn ifanc â syndrom Down, yw’r grym arweiniol yn y ffilm annibynnol Brydeinig emosiynol hon.” The Observer

Prevenge Maw 24 Ionawr DG/2017/88mun/TiCh. Cyf: Alice Lowe. Gyda: Alice Lowe, Kate Dickie, Jo Hartley

Mae Ruth yn feichiog ac yn llawn dicter mileinig. Er ei bod yn ymddangos yn ddigon cyffredin, mae deialog fewnol sinistr yn ei gyrru; mae ei phersonoliaeth yn gyfnewidiol ac mae ei chwmpawd moesol wedi chwalu’n yfflon. Comedi ddu ddidostur wedi’i chyfarwyddo a’i pherfformio gan Alice Lowe - a oedd yn feichiog ers saith mis ar y pryd. + Sesiwn holi-ac-ateb gyda’r awdur-gyfarwyddwr, Alice Lowe.

Wedi ffurfio’r Ymerodraeth Galactig, caiff y Jyn Erso dyfeisgar ei berswadio gan y Gynghrair Rebel newydd i weithio gyda grŵp di-drefn, dan arweiniad Cassian Andor, er mwyn dwyn y cynlluniau ar gyfer y Death Star. Wedi’i gosod yng nghyfnod y ffilmiau Star Wars clasurol, rhwng Revenge of the Sith a A New Hope, mae’r ffilm hon yn olwg newydd ar alaeth sydd yn bell, bell i ffwrdd.

Moana

Sad 7 — Sul 29 UDA/2016/103mun/PG. Cyf: Chris Williams.

Mae Moana yn ei harddegau ac yn deithiwr brwd sy’n cychwyn allan o ynys yn ne’r Cefnfor Tawel i chwilio am ynys chwedlonol. Mae hi’n ymuno â’r hanner-duw Maui i groesi’r môr mawr ac yn dod ar draws creaduriaid enfawr y môr, bydoedd tanddaearol syfrdanol a llên gwerin hynafol.

Carry on Screaming Bob dydd Gwener am 11am, mae Carry On Screaming yn gyfle i rieni neu ofalwyr weld ffilm heb orfod poeni y bydd eu babi’n aflonyddu ar eraill. Gweler y calendr am fanylion y dangosiadau arbennig hyn i bobl â babanod dan flwydd oed.

6 Ionawr: Fantastic Beasts and Where to Find Them 13 Ionawr: Star Wars: Rogue One 20 & 27 Ionawr: La La Land

O’r chwith i’r dde: My Feral Heart, Star Wars: Rogue One

Sponsored by Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk 02920 666688


chapter.org

Chapter Mix

19

Sinema Hygyrch Is-deitlau Meddal / Disgrifiadau Sain Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael ar gyfer nifer fawr o’n ffilmiau. Fodd bynnag, fe all y wybodaeth honno newid wedi i ni anfon y cylchgrawn hwn i’r wasg – mae manylion pellach i’w cael ar ein gwe-fan. Cadwch lygad ar agor am y symbolau hyn, sy’n golygu bod yr wybodaeth am Ddisgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal i’w chadarnhau. Is-deitlau Meddal

I’w cadarnhau

Disgrifiadau Sain

I’w cadarnhau

Dangosiadau Addas i Bobl â Dementia Mae ein dangosiadau newydd sy’n addas i bobl â dementia yn gyfle gwych i fwynhau ffilm mewn awyrgylch cyfeillgar a hamddenol. Cyflwynir y dangosiadau eu hunain heb hysbysebion neu ragolygon o ffilmiau newydd ac fe fydd yr awditoriwm ychydig yn llai tywyll nag arfer. Pan fydd yn bosib, byddwn yn dangos ffilmiau gydag is-deitlau meddal a disgrifiadau sain. Ar ôl y dangosiadau, bydd yna gyfle i gymdeithasu dros baned o de neu goffi. Mae’r dangosiadau hyn ar agor i bobl sy’n byw gyda dementia h.y. i’r rheiny sydd wedi cael diagnosis o dementia ynghyd ag aelodau o’u teuluoedd, ffrindiau, cymdogion neu ofalwyr. Bydd yna groeso cynnes hefyd i weithwyr elusennol, gweithwyr meddygol proffesiynol, staff cartrefi gofal, gweithwyr cymdeithasol a staff cymorth.

Fe sylwch chi efallai ar y logo hwn ger manylion rhai ffilmiau a pherfformiadau. Mae’r F yn dynodi ffilmiau a pherfformiadau wedi’u cyfarwyddo gan ferched, wedi’u hysgrifennu gan ferched neu / ac sydd yn cynnwys rhannau canolog i ferched ar y sgrin neu ar y llwyfan.

Dangosiadau Hamddenol Mae’r dangosiadau hyn wedi eu bwriadu ar gyfer unrhyw un a fyddai’n elwa ar newidiadau cynnil i awyrgylch yr awditoriwm. Caiff ffilmiau eu dangos â goleuadau ychydig yn fwy llachar nag arfer, bydd lefel y sain yn is ac ni ddangosir trelars neu hysbysebion. Bydd rhwydd hynt i bobl godi a symud o gwmpas y sinema neu i wneud sŵn fel y dymunant. Bydd staff Chapter wrth law i helpu os bydd angen cymorth pellach arnoch. Dim seddi cadw. Pris tocyn arferol.

Darlith Cymdeithas Celfyddydau Cain ac Addurnol De Cymru ‘A Galaxy of Starchitects’: Clyde Binfield Iau 12 Ionawr, 1pm Mae eu hadeiladau i’w gweld ledled y byd. Mae eu swyddfeydd yn enfawr ac yn gosmopolitaidd. Caiff eu creadigaethau eu canmol am fod yn arloesol ac eiconig. Pwy ydyn nhw? Pwy oedd sêr cyntaf pensaernïaeth? Le Corbusier? Frank Lloyd Wright? Pwy a ŵyr? Heddiw, mae gennym gyfle i ystyried galaeth gyfan o ‘bensêri’.

Lansiad Cwmni Theatr Golden Thread Sad 14 Ionawr, 1pm Perfformiadau pwerus ac unigryw lle caiff straeon y gynulleidfa eu cyflwyno a’u bywiocáu o flaen eich llygaid! £7/£5/£3 i blant / Am ddim i blant dan 5 oed (wrth y drws)

Jazz ar y Sul Sul 22 Ionawr, 9pm Ein noson fisol o jazz acwstig melodig yn y Caffi Bar gyda Phedwarawd Jazz Chapter - Glen Manby, Jim Barber, Don Sweeney a Greg Evans.


20

Addysg

029 2030 4400

ADDYSG Gweithdai ‘Sewcial’ Chapter

Academi Ffilm Pobl Ifainc

Sul 8, 15, 22, 29 Ionawr Sul 5, 12 Chwefror

Sad 4 Chwefror, Sad 11 Chwefror, Sad 4 Mawrth, Sad 11 Mawrth 10.30am–2.30pm

1.30pm–3pm, 8–12 oed Cyflwyniad perffaith i wnïo â llaw ac â pheiriant. Y gaeaf hwn byddwn yn arbrofi â gwahanol fathau o ffabrig (cnu a gwlân cynnes a ffelt ffluwchaidd!). Mae’r sesiynau hyn yn ddelfrydol i bobl ifainc sy’n dechrau gwnïo yn ogystal â phwythwyr a chrefftwyr eraill sydd am ddysgu a datblygu eu sgiliau mewn gweithdy hamddenol. Mae croeso cynnes i fechgyn a merched ac fe ddarperir yr holl ddeunyddiau angenrheidiol. £40 am bob un o’r chwe sesiwn

3.30pm–5pm, 10–14 oed Mae’r sesiynau hyn yn addas i bobl ifainc y mae ganddynt eisoes rywfaint o brofiad o wnïo ac sy’n awyddus i roi cynnig ar ambell dechneg newydd. Byddwn hefyd yn mynd yn ôl dros dechnegau sylfaenol er mwyn datblygu hyder a chreadigrwydd. Byddwn yn defnyddio’r gaeaf fel ysbrydoliaeth ac yn arbrofi â gwahanol ffabrigau i greu pethau cynnes a chysurus. Mae croeso cynnes i fechgyn a merched ac fe ddarperir yr holl ddeunyddiau angenrheidiol. £40 am bob un o’r chwe sesiwn

Gweithio gydag Ysgolion Ym mis Ionawr a mis Chwefror rydym yn falch iawn o allu gweithio gydag ysgol leol, Ysgol Gynradd Radnor. Wrth geisio ymateb i gwricwlwm datblygol, mae Radnor wedi trefnu bod pob bore Gwener yn troi’n Brifysgol Creadigrwydd; caiff yr amserlen arferol ei rhoi o’r neilltu ac mae pob disgybl yn ymwneud â chwrs wedi’i drefnu gan athrawon a phartneriaid cymunedol. Bydd tîmau sinema a chelfyddydau gweledol Chapter yn cynnig dau gwrs ymarferol chwech wythnos o hyd: ‘Cyflwyniad i Animeiddio’ a ‘Trafod Celfyddyd Weledol’. Ry’n ni’n edrych ymlaen yn eiddgar i weld y pethau rhyfeddol y bydd y disgyblion yn eu creu!

Ym mis Chwefror, bydd ein rhaglen lwyddiannus a phoblogaidd i’r genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr ffilm yn dychwelyd. Os ydych chi rhwng naw a 12 oed ac yn awyddus i ddysgu mwy am y broses o wneud ffilmiau, cysylltwch â ni cyn gynted â phosib — nifer gyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Bob wythnos, bydd cyfranogwyr yn dysgu am agwedd benodol ar y broses o wneud ffilmiau ac fe fydd yna gyfle i wylio ffilm sy’n enghreifftio’r agwedd honno.

Sad 4 Chwefror: ‘Sut caiff ffilmiau eu gwneud’ Sad 11 Chwefror: Hanes y Sinema’ Sad 4 Mawrth: ‘Ry’ch chi eisiau bod yn gyfarwyddwr, felly?’ Sad 11 Mawrth: ‘Sut i olygu ffilm’

Erbyn diwedd y pedair wythnos, bydd cyfranogwyr wedi derbyn yr holl wybodaeth y bydd ei hangen arnynt i wneud eu ffilmiau eu hunain! Nodwch os gwelwch yn dda y bydd angen pecynnau bwyd bob dydd. £40 am bob un o’r pedair sesiwn (yn cynnwys tocyn i weld y ffilm).

Er bod cwrs yr Academi wedi’i gynllunio fel pecyn cyflawn, gellir mynychu pob sesiwn yn unigol hefyd felly nid oes angen i gyfranogwyr fod yn bresennol ar gyfer pob un o’r pedair sesiwn. Nodwch os gwelwch yn dda y bydd angen pecynnau bwyd. £12 y sesiwn (yn cynnwys tocyn i weld y ffilm) 16 o leoedd fydd ar gael ar y cwrs felly archebwch mewn da bryd i osgoi cael eich siomi.

Gweithdai ‘Crafty Pictures’ 7–12 oed Sad 7, 14, 21, 28 Ionawr 1.50pm–2.50pm Clwb Sinema Chapter i blant 7+ oed. Bob wythnos am awr, cyn y Ffilm Nodwedd i’r Teulu Cyfan, byddwn yn cynnal gweithdy creadigol a chyfle i blant gymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol, pob un ohonynt yn ymwneud â’r ffilm a gyflwynir am 3pm. Ydych chi’n mwynhau gludo, torri a chreu, darlunio a phaentio? Os felly, ac os ydych chi’n mwynhau gwylio ffilmiau, byddwch chi wrth eich bodd â Crafty Pictures!

Sad 7 + 21 Ionawr: Moana Sad 14 + 28 Ionawr: Rogue One


chapter.org

Cefnogwch Ni

21

Mae Chapter yn elusen gofrestredig ac rydym yn dibynnu ar gefnogaeth gan unigolion a busnesau er mwyn gallu cyflwyno ein rhaglen artistig amrywiol a’n gwaith addysgol pwysig. Rydym yn ddiolchgar am bob ceiniog a dderbyniwn — ac fe allwn gynnig ambell beth gwych i chi yn gyfnewid. I wneud cyfraniad mewn modd syml a chyflym tecstiwch ‘Chap16’ ynghyd â’r swm yr hoffech ei roi i 70070. Mae yna nifer o ffyrdd eraill o gymryd rhan hefyd ...

Unigolion

Busnesau

Ffrindiau

Clwb

Ymunwch â chynllun Ffrindiau Chapter ac fe allwch chi fwynhau buddion sy’n amrywio o ostyngiadau ar docynnau ac ar fwyd a diod yn ein Caffi Bar i wahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig, fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn Ffrindiau hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C.

Cynllun aelodaeth Chapter i fusnesau. Am ffi flynyddol fechan, gall eich busnes chi fwynhau manteision sylweddol yn Chapter, gan gynnwys cyfleoedd i rwydweithio, defnydd o’n mannau llogi hyblyg a gostyngiadau i chi ac i’ch staff ar docynnau sinema a theatr — yn ogystal â gostyngiadau ar fwyd a diod yn ein Caffi Bar. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.chapter.org/cy/chapter-clwb.

Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur : £45/£40

Chwilio am anrheg Nadolig i ffrind neu aelod o’r teulu? Os oes yna ffans o Chapter yn eich mysg beth am brynu tanysgrifiad i Gynllun Ffrindiau Chapter? I gael mwy o wybodaeth am roi aelodaeth fel rhodd, cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau.

Rhoddion Cofrestrwch i wneud cyfraniadau unigol neu roddion rheolaidd i Chapter, er mwyn chwarae rhan lawn yn ein gwaith elusennol. Gallwch wneud cyfraniadau ar-lein ar http://www.chapter.org/cy/cefnogwch-ni neu drwy ymweld â’n Swyddfa Docynnau. Gallwch wneud cyfraniadau drwy neges destun erbyn hyn hefyd — tecstiwch ‘Chap16’ ynghyd â’r swm yr hoffech ei roi i 70070. Fydd hi ddim yn costio ceiniog i chi anfon y neges ac fe fyddwn ni’n derbyn 100% o’ch cyfraniad.

Nawdd Yn 2014, dyfarnodd Celfyddydau & Busnes Cymru Wobr Gyffredinol Categori’r Celfyddydau i Chapter am ein perthynas waith ragorol â busnesau. Mae yna nifer o gyfleoedd i’n noddi ac mae’r rheiny’n cynnig buddion gwych, gan gynnwys cyfranogiad staff, lletygarwch corfforaethol a chyfleoedd i hyrwyddo eich brand. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.chapter.org/cy/nawdd.

Myfyrwyr Ydych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth rad ac am ddim a manteisio ar gynigion arbennig ardderchog, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? Cofrestrwch heddiw drwy ymweld â chapter.org/cy/myfyrwyr.

I gael mwy o wybodaeth am unrhyw un o’r materion uchod, cysylltwch ag Elaina Johnson os gwelwch yn dda — ffoniwch 02920 355662 neu e-bostiwch elaina.johnson@chapter.org.


22

Cymryd Rhan

029 2030 4400

CYMRYD RHAN Cerdyn CL1C

Cadwch mewn cysylltiad

Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawr–lwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Ymunwch â ni ar–lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

Ffrindiau Chapter Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40

eAmserlen rad ac am ddim eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E–bostiwch megan.price@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e–bost.

Cynllun Myfyrwyr Chapter Ydych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth am ddim a manteisio ar gynigion arbennig nodedig, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Jennifer — jennifer.kirkham@chapter.org www.chapter.org/cy/myfyrwyr

Rydym yn falch o fod yn rhan o Hynt. www.hynt.cymru Hoffai Chapter gydnabod cefnogaeth hael y sefydliadau a’r grwpiau canlynol:

Noddir Theatrau Chapter gan rodd David Seligman er cof am Philippa Seligman Noddwyr a Chefnogwyr Sefydliad Esmée Fairbairn Cronfa Gymunedol Tirlenwi Cyngor Celfyddydau Lloegr Cronfa Fawr y Loteri Sefydliad Moondance Sefydliad Garfield Weston Sefydliad Foyle Gwobr Biffa Sefydliad Baring Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston Grŵp Admiral Cyf Creative Scotland Viridor Y Sefydliad ar gyfer Chwaraeon a’r Celfyddydau Sefydliad Elusennol Trusthouse QIAMEA

Plant mewn Angen y BBC Waitrose Yr Ymddiriedolaeth Ddarlledu Gymreig Ymddiriedolaeth Ynni Gwyrdd ScottishPower Sefydliad Waterloo SEWTA Tesco WRAP Sefydliad Henry Moore Sefydliad Clothworkers Sefydliad Jane Hodge Celfyddydau & Busnes Cymru Legal & General Ymddiriedolaeth Feddygol Dunhill Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson Lloyds

Maes Awyr Caerdydd Google Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm Gwesty’r Angel Aston Martin Celfyddydau Rhyngwladol Cymru Ymddiriedolaeth Loteri’r Cod Post Ymddiriedolaeth Elusennol Garrick Ymddiriedolaeth Ernest Cook Ymddiriedolaeth Austin a Hope Pilkington Sefydliad Boshier-Hinton Barclays Cwmni Plastig Dipec Ymddiriedolaeth Elusennol Gibbs

Ymddiriedolaeth Elusennol Steel Ymddiriedolaeth Elusennol Coutts Sefydliad Finnis Scott Llysgenhadaeth Gwlad Belg Ymddiriedolaeth Oakdale Nelmes Design Elusen Bruce Wake Western Power Distribution Ymddiriedolaeth Elusennol Deymel John Lewis Cronfa’r Cooperative RWE Taylor Wimpey Y Celfyddydau Gwirfoddol Cwmni Dur Tata Asda

A’r holl unigolion hynny a’n cefnogodd ni mor hael yn ystod y gwaith ailddatblygu ac wedi hynny


chapter.org

Gwybodaeth

23

GWYBODAETH Sut i Archebu Tocynnau

Gwybodaeth

Dros y ffôn — ffoniwch ni ar 029 2030 4400. Rydym yn derbyn pob un o’r prif gardiau credyd. Galwch heibio — mae ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 11am–8.30pm, ac ar y Sul o 3pm–8.30pm. Ar–lein: Gallwch archebu ar www.chapter.org bob awr o’r dydd a’r nos Consesiynau: Mae cyfraddau disgownt ar gael i fyfyrwyr, pobl dros 60 oed, plant, y di–waith, pobl anabl, deiliaid cerdyn MAX ac i Ffrindiau Chapter a deiliaid Cerdyn Chapter. Bydd angen i chi gyflwyno prawf o’ch cymhwyster i dderbyn cyfradd ostyngol. Archebion grŵp: Prynwch 8 tocyn ac fe gewch chi’r 9fed yn RHAD AC AM DDIM. Noder os gwelwch yn dda • dim ond un disgownt y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw un adeg • rydym yn hapus i dderbyn archebion ymlaen llaw ond ni allwn gadw tocynnau i’r naill ochr • os cyrhaeddwch chi’n hwyr mae hi’n bosib y cewch chi’ch atal rhag mynychu eich digwyddiad. Cyflwynir rhai o’n ffilmiau â Disgrifiadau Sain ac Is–deitlau Meddal ond nid yw’r wybodaeth hon bob amser ar gael ar adeg argraffu’r cylchgrawn. Gweler ein gwe–fan am fanylion neu piciwch draw i’r Swyddfa Docynnau yn ystod yr wythnos y mae’r ffilm yn cael ei rhyddhau.

Cwmnïau ac Artistiaid Cysylltiedig Mae Chapter yn gartref i gwmnïau theatr, cwmnïau dawns, stiwdios animeiddio, gwneuthurwyr printiau, crochenwyr, dylunwyr graffeg, dylunwyr deunydd symudol, cyfansoddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, cyhoeddwyr cylchgronau, artistiaid annibynnol a llawer iawn mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Sinema Cyn 5pm O 5pm ymlaen Llawn £4.50 (£4.00) £7.90 (£7.20) Disg £3.50 (£3.00) £5.80 (£5.10) Cerdyn + Disg £3.00 (£2.50) £5.00 (£4.50) DISGOWNT DYDD MAWRTH Tocynnau’r holl brif ddangsiadau — £4.40

Gweithdai a Dosbarthiadau Rydym yn cynnal amrywiaeth eang o weithdai dyddiol a dosbarthiadau gydag ymarferwyr annibynnol, gan gynnwys ballet, zumba, ioga, crefft ymladd, massage i fabanod, cerddoriaeth i blant, pilates, tango, fflamenco, ysgrifennu creadigol, gwersi cerddoriaeth a mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Sut i gyrraedd Chapter Fe ddewch chi o hyd i ni yn Nhreganna, i’r gorllewin o ganol y ddinas. Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE Ar Droed Mae hi’n daith gerdded hamddenol o ryw 20 munud o ganol y ddinas. Ar Fws Mae bysus rhif 17, 18 a 33 yn aros gerllaw ac yn gadael bob pum munud o ganol y ddinas. Ar Feic Mae digon o raciau beic ar flaen yr adeilad. Parcio Mae gennym faes parcio yng nghefn yr adeilad ac mae meysydd parcio lleol eraill wedi eu nodi ar y map. Gofynnwn i chi barchu ein cymdogion os gwelwch yn dda drwy osgoi parcio mewn strydoedd cyfagos.

Prisiau ymlaen llaw/ar–lein mewn cromfachau. Mae “Ymlaen llaw” yn golygu unrhyw bryd cyn diwrnod y dangosiad.

aff nd Lla

d Roa

e St. Glynn

arc

lyF

Heo

o 6pm

Ha m i l t o n

St

t

Gr

ad

cen res mC ha

Road

St. ay

Treganna

Le c h kwit

Church Rd.

Heol Ddwy rein i o l y B o n t F a en Penllyn Rd.

Harve

nd Wy

rn Seve

ane

. Library St

L Gray

M a rk e t P l . treet yS

St Talbot

Orc h a r d P l.

King’s Ro

d hna

Springfield Pl.

St. Gray

rt S

t.

Road

Earle Pl.

A l be

P — meysydd parcio rhad ac am ddim — rac feics

r R—oadarhosfan bysus Majo

I Ganol Dinas Caerdydd ton

ling Wel

Stre

et

Mynediad i bawb Mae Chapter yn croesawu ymwelwyr anabl. Os oes gennych anghenion mynediad penodol, ffoniwch ein swyddfa docynnau ar 029 2030 4400.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.