Ionawr 2015

Page 1

029 2030 4400

@chaptertweets

chapter.org


02

Croeso

chapter.org

CROESO Croeso i’ch cylchgrawn misol, sy’n rhestru holl rialtwch mis Ionawr. Y mis hwn, dyfernir gwobr fawreddog Artes Mundi. Mae’r arddangosfa o waith artistiaid y rhestr fer yn parhau yma yn Chapter, ac yn yr Amgueddfa Genedlaethol a Ffotogallery, tan 22 Chwefror. Os ydych chi wedi mwynhau’r arddangosfa hyd yn hyn, ac os hoffech chi wybod mwy am y gweithiau a’u cyd-destun, dewch draw i un o’r Sgyrsiau am 2 yn ein horiel (10 + 24 Ionawr 2pm) (t7). Maent yn rhad ac am ddim ac fe’u cyflwynir gan ein tywyswyr byw ardderchog. Beth am yrru’r oerfel o’ch esgyrn ag ychydig o gerddoriaeth fyw ragorol? Mae ein theatr yn barod am fis o gigs a pherfformiadau gan Kizzy Crawford, yr arwyr lleol, Cakehole Presley, ac un o gewri’r byd roc Cymraeg, Geraint Jarman (t12). Draw yn ein sinema, rydym yn edrych ymlaen at ambell ddigwyddiad gwych, yn ogystal â’n detholiad arferol ardderchog, gan gynnwys dangosiad o ffilm ddogfen am y Manic Street Preachers, No Manifesto, a fydd yn cynnwys sesiwn holi-ac-ateb gyda’r gwneuthurwyr ffilm (t23) a thymor o ffilmiau sy’n archwilio effeithiau rhyfel a gwrthdaro (t18-19). Mae ein tymor gwyddonias gwych yn cyrraedd ei derfyn y mis hwn hefyd (tt26-27). Ac os oes yna ddarpar gyfarwyddwyr ifainc yn eich plith, cofiwch da chi am Academi Ffilm Pobl Ifainc, ar dudalen 15, a fydd yn annog ac yn hybu talentau’r genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr ffilmiau! Diolch am ddarllen ac fe welwn ni chi cyn hir !

Defnyddiwch y côd QR hwn i lawr-lwytho copi digidol o gylchgrawn Chapter

Delwedd y clawr: 2001: A Space Odyssey

Chapter Heol y Farchnad, Caerdydd CF5 1QE 029 2030 4400 www.chapter.org ymholiadau@chapter.org


chapter.org

Uchafbwyntiau

Oriel tudalennau 4–7

Bwyta Yfed Llogi tudalen 8

Cefnogwch Ni

03

CYMRYD RHAN

tudalennau 8–9

Theatr

Cerdyn CL1C

tudalennau 10–13

Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawrlwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Chapter Mix tudalen 14

Addysg tudalen 15

Ffrindiau Chapter Sinema tudalennau 16–29

Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40

Cadwch mewn cysylltiad Ymunwch â ni ar-lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

Gwybodaeth a Sut i archebu tocynnau tudalen 30

eAmserlen rad ac am ddim eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch adam.chard@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.

Siaradwch â ni @chaptertweets facebook.com/chapterarts

Cymryd Rhan tudalen 31

Calendar tudalennau 32–33

Nodwch os gwelwch yn dda bod copïau print bras o’n cylchgrawn ar gael ar gais. Cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau ar 029 2030 4400.


04

Oriel

029 2030 4400

O’r brig: Karen Mirza a Brad Butler, ‘The Unreliable Narrator’, 2014, fideo, gosodiad fideo 2-sianel, sain, 16’20”, delwedd o fideo, â chaniatâd caredig Waterside Contemporary, Llundain, llun: Warren Orchard; Renzo Martens, ‘Chapter III: Enjoy Poverty’, 2009, fideo lliw, sain, 90 munud, is-deitlau Saesneg, â chaniatâd caredig yr artist, Galerie Fons Welters, Amsterdam a Wilkinson Gallery, Llundain, llun: Warren Orchard


chapter.org

Artes Mundi 6 Tan ddydd Sul 22 Chwefror 2015

Oriel

05

Karen Mirza a Brad Butler, You Are the Prime Minister (arwydd neon) 2014, Gosodiad, arwydd neon, 220x12cm. â chaniatâd caredig Waterside Contemporary, Llundain. Llun: Warren Orchard

Rydym yn falch iawn o allu cydweithio ag Artes Mundi i gyflwyno gwaith gan Karen Mirza a Brad Butler (DG), Renzo Martens (Yr Iseldiroedd) a Sharon Lockhart (UDA). Mae gweithiau gan yr artistiaid eraill ar restr fer gwobr Artes Mundi 6 i’w gweld yn yr Amgueddfa Genedlaethol, yng Nghaerdydd, ac yn Ffotogallery, Penarth. I weld manylion am yr holl artistiaid ar y rhestr fer ac oriau agor y lleoliadau eraill, ewch os gwelwch yn dda i www. artesmundi.org. Cyhoeddir enw’r artist buddugol ar ddydd Iau 22 Ionawr — cadwch lygad ar y cyfryngau cymdeithasol a gwe-fan Artes Mundi i weld y canlyniad!

Karen Mirza a Brad Butler Oriel a Celfyddyd yn y Bar Bu Mirza a Butler yn cydweithio ers 1998, ac maent wedi datblygu corff o waith aml-haenog sy’n cynnwys ffilm, gosodiadau, perfformio, cyhoeddi a churadu. Mae eu gwaith yn her i dermau fel cyfranogi a chydweithredu ac i syniadau traddodiadol am yr artist fel cynhyrchydd a’r gynulleidfa fel derbynnydd. Ar gyfer Artes Mundi 6 yn Chapter, bydd Mirza a Butler yn cyflwyno The Unreliable Narrator, clwstwr o weithiau sy’n chwarae â’r bwlch rhwng ffuglen a realiti. Yn ‘You are the Prime Minister’, mae neon llachar yn troi’n wahoddiad i dderbyn rôl y Prif Weinidog mewn ffuglen ffantasïol. Mae gosodiad fideo o’u heiddo hefyd yn sôn am yr ymosodiadau ym Mumbai yn 2008, o safbwyntiau terfysgwyr a sylwebwyr ymddangosiadol ddiduedd am yn ail.

Renzo Martens & Institute for Human Activities Y Blwch Golau a Chyntedd y Theatr Mae Renzo Martens yn byw ac yn gweithio ym Mrwsel ac yn Kinshasa ac yn adnabyddus am ei ffilmiau ysgytwol am wledydd wedi’u difetha gan ryfel, lle mae e’n ei osod ei hun wrth galon y digwyddiadau cythryblus er mwyn dangos sut y mae gwylwyr Gorllewinol yn ‘prosesu’ digwyddiadau trawmatig mewn gwledydd pell. Bydd Martens yn cyflwyno Episode III: Enjoy Poverty, ffilm am ei ymweliad â’r Congo adfeiliedig. Cynhaliodd gyfweliadau â ffotograffwyr, perchnogion planhigfeydd a chwarae rhannau’r newyddiadurwr gorllewinol, y gormeswr, y cenhadwr a’r gweithiwr cymorth. Mae ei ffilm yn canolbwyntio ar un prif bwynt: taw tlodi yw allforyn mwyaf gwerthfawr Affrica a’i fod, fel adnoddau naturiol eraill, yn cael ei ecsbloetio gan y byd Gorllewinol. Mae e’n cyflwyno darlithoedd i’r bobl leol ac yn sôn am dlodi fel nwydd ac yn eu hannog wedi hynny i werthu eu lluniau eu hunain o newyn a marwolaeth yn hytrach na gadael i newyddiadurwyr y Gorllewin elwa ar eu trychinebau dyngarol. Arddangosfa ar agor: Dyddiau Mawrth, Mercher, Sadwrn a Sul 12-6pm; dydd Iau a dydd Gwener 12-8pm; ar gau ar ddydd Llun


06

Sharon Lockhart Oriel Mae Sharon Lockhart yn gweithio gydag unigolion a grwpiau i greu delweddau symudol a llonydd sydd yn weledol gymhellol ac yn arddangos ymagweddiad cymdeithasol sicr. Un o weithiau pennaf Lockhart yw Lunch Break (2008), sy’n dangos 42 o weithwyr mewn iard longau yn ystod eu hawr ginio. Yn ystod y cyfnod hwnnw, gwelwn weithwyr yn cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau — darllen, cysgu a siarad — yn ogystal â bwyta eu cinio. Ar gyfer Artes Mundi 6 yn Chapter, bydd Lockhart yn dangos un o ddwy ffilm o Lunch Break o’r enw Exit. Wedi’i ffilmio dros gyfnod pum-niwrnod yr wythnos waith, mae pob un o’r pum golygfa yn Exit yn dangos y gweithwyr yn gadael y Bath Iron Works ar ddiwedd eu shifft. Gan ddwyn i gof ffilm Louis Lumière, Leaving the Lumière Factory, mae Exit yn canolbwyntio ar lif amser a manylion profiadau bob dydd.

Oriel

029 2030 4400


chapter.org

Oriel

Artes Mundi 6 O lygad y ffynnon: Cyfres o sgyrsiau a thrafodaethau Mer 21 + Iau 22 Ionawr Bydd y cyfnod dau ddiwrnod hwn o sgyrsiau yn gyfle prin i glywed yr artistiaid ar restr fer Artes Mundi 6 yn siarad am eu gwaith ac yn archwilio ystod o themâu sydd yn ganolog i’w gwaith yn gyffredinol. Lleoliad: Ysgol Gelfyddyd a Dylunio Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Llandaf, a lleoliadau eraill i’w cadarnhau. I gael mwy o wybodaeth a thocynnau, ewch i www.artesmundi.org. Artes Mundi ar y cyd ag Ysgol Gelfyddyd a Dylunio Prifysgol Fetropolitan Caerdydd

Sgyrsiau am 2 Sad 10 + Sad 24 Ionawr 2pm

Uchod: Sharon Lockhart, Stephen Bade, Trydanwr, 2008, 3 phrint cromogenig, wedi’u fframio bob un: 62.9 x 78.1 cm, © Sharon Lockhart, 2008. Â chaniatâd caredig yr artist, neugerriemschneider, Berlin, Oriel Gladstone, Efrog Newydd, a Blum & Poe, Los Angeles. Llun: Warren Orchard Uchod, ar y dde: Sharon Lockhart, Exit (Bath Iron Works, 7-11 Gorffennaf, 2008, Bath, Maine), 2008. Sain / ffilm lliw 16mm wedi’i drosglwyddo i HD © Sharon Lockhart, 2008. Â chaniatâd caredig yr artist, neugerriemschneider, Berlin, Oriel Gladstone, Efrog Newydd, a Blum & Poe, Los Angeles. Llun: Warren Orchard

Cynhelir ein ‘Sgyrsiau am 2’ bob yn ail ddydd Sadwrn yn ystod cyfnodau ein harddangosfeydd ac fe’u cyflwynir gan ein Tywyswyr Byw, Richard Higlett a Thomas Williams. Mae’r sgyrsiau’n gyfle i ddysgu mwy am yr arddangosfa gyfredol ac am ddulliau gwaith unigryw yr artistiaid. Ni fydd dwy sgwrs yn union yr un fath ond y gobaith yw y byddan nhw’n ddiddorol ac yn agored bob amser. Mae’r Sgyrsiau am 2 yn rhad ac am ddim ac nid oes angen archebu lle ymlaen llaw — ymunwch â ni y tu allan i fynedfa’r Oriel! RHAD AC AM DDIM

07


08

BWYTA YFED LLOGI

Bwyta Yfed Llogi

029 2030 4400

Cefnogwch Ni Mae Chapter yn elusen gofrestredig ac rydym yn dibynnu ar gefnogaeth gan unigolion a busnesau i gyflwyno ein rhaglen artistig amrywiol a’n gwaith addysgol pwysig. Rydym yn ddiolchgar am bob ceiniog a dderbyniwn ac fe allwn gynnig ambell beth ardderchog i chi yn gyfnewid. Mae yna nifer o wahanol ffyrdd o gymryd rhan…

Unigolion

Ffrindiau

Ymunwch â chynllun Ffrindiau Chapter ac fe gewch chi fwynhau amrywiaeth o fuddion yn amrywio o ostyngiadau ar docynnau ac ar bris bwyd a diod yn ein Caffi Bar i wahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Mae cerdyn Ffrindiau hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C.

Llogi Mae nifer o ystafelloedd a chyfleusterau Chapter ar gael i’w llogi, ac mae llawer o’r rhain yn cael eu defnyddio’n rheolaidd gan gymysgedd eclectig o ddosbarthiadau dydd a nos. Ewch i’n gwe-fan neu codwch daflen yn y swyddfa docynnau i weld yr hyn sydd ar gael. Os ydych chi’n chwilio am ystafell ar gyfer parti, cyfarfod neu gynhadledd, neu am ofod i saethu fideo, i ymarfer neu i gynnal gweithgareddau adeiladu tîm, bydd ein cyfleusterau gwych, ein harbenigedd technegol a’n staff cyfeillgar yn gallu sicrhau bod eich digwyddiad yn gyffyrddus, yn unigryw ac yn gofiadwy. Gallwn ddarparu amrywiaeth o opsiynau arlwyo ar gyfer eich digwyddiad hefyd. Os oes gennych chi gwestiynau penodol neu os hoffech chi fwy o wybodaeth am ein cyfleusterau, rhowch ganiad i’n rheolwr llogi, Nicky, ar 029 2031 1058 neu anfonwch e-bost at nicky.keeping@chapter.org.

Bwyta + Yfed Er ei bod hi’n demtasiwn ar ôl y Nadolig i aeafgysgu tan y gwanwyn, bydd ein Caffi Bar yn llawn bwrlwm ar ddechrau’r Flwyddyn Newydd! Bydd ein Picnic poblogaidd yn dychwelyd i gynnig saladau blasus a lliwgar a phrydau maethlon — perffaith i wrthbwyso gorfwyta’r gwyliau — a byddwn hefyd yn ychwanegu ambell frechdan a ‘wrap’ newydd at ein bwydlen amser cinio. Cadwch lygad ar ein bar hefyd dros y misoedd nesaf — o fis Chwefror ymlaen, byddwn yn cyflwyno ambell ddiod flasus newydd at ein rhestr gynyddol o gwrw a gwin arbenigol.

Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40

Myfyrwyr

Ydych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth am ddim a manteisio ar gynigion arbennig ardderchog, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? Cofrestrwch heddiw drwy fynd i http://www.chapter. org/cy/aelodaeth-myfyrwyr-chapter

Rhoddion

Cofrestrwch i wneud cyfraniad unigol neu i wneud cyfraniadau rheolaidd i Chapter a chwarae rhan flaenllaw yn ein gwaith elusennol. Gallwch wneud cyfraniadau ar-lein, ar http://www.chapter.org/cy/ cefnogwch-ni, neu drwy ymweld â’n Swyddfa Docynnau. Gallwch wneud cyfraniadau hefyd drwy neges destun erbyn hyn — tecstiwch ‘Chap14’, ynghyd â’r swm yr hoffech ei roi, i 70070. Fydd hi ddim yn costio ceiniog i chi anfon y neges destun ac fe fyddwn ni’n derbyn 100% o’ch cyfraniad.

Cymynroddion

Mae gadael cymynrodd i Chapter yn ein helpu i ddiogelu ein gwaith at y dyfodol. Os hoffech chi ystyried gadael rhodd i Chapter yn eich Ewyllys, dylech gysylltu yn y lle cyntaf â’ch cyfreithiwr i gael cyngor. Os ydych chi eisoes wedi crybwyll Chapter yn eich Ewyllys, rhowch wybod i ni, fel y gallwn gydnabod eich cyfraniad yn y modd mwyaf priodol.


chapter.org

Cefnogwch Ni

Busnesau

Ein Cefnogwyr wrth eu Gwaith!

Clwb

Cynllun aelodaeth Chapter i fusnesau. Am ffi flynyddol fechan, gall eich busnes chi fwynhau manteision sylweddol yn Chapter, gan gynnwys cyfleoedd rhwydweithio, defnydd o’n mannau llogi hyblyg a gostyngiadau i chi a’ch staff ar docynnau sinema a theatr yn ogystal ag ar fwyd a diod yn ein Caffi Bar. Am fwy o wybodaeth ewch, os gwelwch yn dda, i http://www.chapter.org/cy/chapter-clwb

Nawdd

Yn 2014, dyfarnodd Celfyddydau & Busnes Cymru Wobr Gyffredinol Categori’r Celfyddydau i Chapter am ein perthynas waith ragorol â busnesau. Mae yna nifer o gyfleoedd noddi ar gael a’r rheiny’n cynnig buddion gwych, gan gynnwys cyfranogiad staff, lletygarwch corfforaethol a hyrwyddo brand.

09

Mae Richer Sounds yn benthyg offer technegol i Chapter sydd wedi ein galluogi i uwchraddio’r cyfleusterau yn ein mannau Llogi ac yn ardaloedd blaen y tŷ. Mae’r sgriniau ger y swyddfa docynnau yn ein galluogi i ddangos clipiau o sioeau cyfredol yn ogystal â dangos deunydd hyrwyddo a gwybodaeth am amseroedd perfformiadau. Yn y mannau Llogi, gellir cysylltu’r sgriniau â gliniaduron ar gyfer cyflwyniadau. Mae’r berthynas rhwng ein dau sefydliad wedi datblygu dros y blynyddoedd ac mae Richer Sounds bellach yn darparu offer sain ar gyfer ein gweithgareddau oddi ar y brif safle hefyd, fel dangosiad diweddar BAFTA o Dr Who yn yr Amgueddfa Genedlaethol a ffilmiau ein tymor gwyddonias mewn cestyll ledled de Cymru. Mae’r berthynas yn un hynod fuddiol i’r ddau barti; mae yna sylw sylweddol i fusnes Richer Sounds ar hyd a lled adeilad Chapter ac mae’r siop leol ar Cowbridge Road East wedi nodi cynnydd yn nifer yr ymwelwyr o ganlyniad uniongyrchol i’r cysylltiad â Chapter.

I gael mwy o wybodaeth am unrhyw un o’r materion uchod, cysylltwch os gwelwch yn dda ag Elaina Gray ar 02920 355662 neu e-bostiwch elaina.gray@chapter.org.


Theatr

‘Cwmni ifanc cyffrous ... ensemble dawnus a thrawiadol’ The Stage yn sôn am Gwmni Theatr Invertigo

029 2030 4400

Y Tŵr / The Tower. Llun: Shawn Soh

10


Theatr

Invisible City

Cwmni Theatr Invertigo yn cyflwyno

Invisible City. Llun: Leah Crossley

chapter.org

Mer 21 + Iau 22 Ionawr 8pm Mae Mam wastad yn dweud wrthym am beidio â siarad â phobl ddieithr: ond beth os taw chi yw’r dieithryn hwnnw? Mae Invisible City yn stori am unigrwydd, hiraeth a gwneud cysylltiadau. Mae Marie, merch ifanc o bentref bychan, yn symud i ddinas enfawr swreal. Mae hi eisiau cwrdd â phob un ohonoch. O bosib. Efallai y byddwch chi’n ffrindiau? Efallai y byddwch chi’n cwympo mewn cariad? Efallai bod Marie ar drothwy trawma hynod gyffredin. Creadigaeth draws-ddisgyblaethol a ysgrifennwyd ac a berfformiwyd gan Lowri Jenkins, gyda chydweithrediad y Coreograffydd, Jennifer Fletcher, y Cyfansoddwr, Mat Martin, a Chapter. £12/£10/£8

Y Tŵr

Gan Gwenlyn Parry Maw 27 — Sad 31 Ionawr 8pm (Perfformiad yn Gymraeg gydag uwchdeitlau Saesneg.) “Caru nes bod o’n brifo… brifo nes bod o’n garu.” Mae dau berson, wedi eu caethiwo mewn cariad, yn dringo grisiau Tŵr unig. Mewn brwydr rhwng nwyd a dicter, caiff clytwaith eu bywydau — real a dychmygol — ei ddatgelu. Astudiaeth drylwyr o berthnasau, atgofion a ffiniau cariad gan un o ddramodwyr pwysicaf Cymru. Mae cwmni theatr gwobrwyol Invertigo wedi dod â thîm nodedig eu cynhyrchiad hynod lwyddiannus o Saer Doliau yn Llundain at ei gilydd unwaith eto. £12/£10 Oed 12+

11


Theatr

029 2030 4400

NEWSOUNDWALES yn cyflwyno

Clwb Ifor Bach yn cyflwyno

Sad 24 Ionawr 7.30pm

Sul 25 Ionawr 2pm

Mae’r arwyr lleol, Cakehole Presley, yn dychwelyd i Chapter ar ôl eu sioe hynod lwyddiannus gyda Wibidi yn 2012. Ers hynny, maen nhw wedi bod ar gyfnod sabothol gan ganolbwyntio ar brosiectau unigol, cael babis ac ysgrifennu deunydd newydd. Mae gan aelodau’r band gysylltiadau hirsefydlog â Chapter. Gyda’i fand blaenorol, The Howling Sleepers, byddai’r prif leisydd, Chris Ridgeway, yn perfformio’n rheolaidd o flaen llond bar o bobl yn ystod yr 1980au.

Bydd Plu yn perfformio caneuon oddi ar ‘Holl Anifeiliaid y Goedwig’, eu halbwm newydd ardderchog o ganeuon Cymraeg i blant, a hynny am y tro cyntaf un. Ymunwch â ni am brynhawn hyfryd gyda Gwilym, Marged ac Elan... pa un ai yw’r plant yn rhai bychain neu’n rhai mewn oed, bydd yna rywbeth at ddant pawb!

O’r top: Cakehole Presley, Plu

12

Cakehole Presley + Cefnogaeth

Tocynnau ar gael ar-lein o www.wegottickets.com/event/298097 £10 o flaen llaw / £12 wrth y drws

The Wyrd Wonder yn cyflwyno

Kizzy Crawford + Mardoll Iau 15 Ionawr 7.30pm Mae The Wyrd Wonder yn falch iawn o groesawu’r gantores garismatig, Kizzy Crawford, yn ôl i Chapter. Yn siaradwr Cymraeg a chanddi wreiddiau Bajaidd, mae Kizzy’n swyno â’i chyfuniad celfydd dwyieithog o ddylanwadau Soul, Jazz a Gwerin mewn set o ganeuon gwreiddiol. Ar ôl ennill cydnabyddiaeth ar radio a theledu cenedlaethol, a chwarae ar y cyd â pherfformwyr fel Gruff Rhys a Cerys Matthews, mae hwn yn gyfle i glywed deunydd newydd gan Kizzy cyn iddi deithio i UDA yn y gwanwyn. Y perfformwyr eraill fydd Mardoll, grŵp sy’n cynnwys arlliwiau a dylanwadau Gothig. £12/£10/£8

Plu: Holl Anifeiliaid y Goedwig

£4.50 Oedolion / £3 Plant

Clwb Ifor Bach yn cyflwyno

Geraint Jarman + Plu Sul 25 Ionawr 8pm

Mae Clwb Ifor Bach yn falch o gyflwyno perfformiad agos-atoch gan un o wir arloeswyr cerddoriaeth Gymraeg, Geraint Jarman, a fydd yn lansio ei albwm solo newydd, Dwyn yr Hogyn ‘Nôl. Mae ei ddylanwad ar gerddoriaeth Gymraeg yr hanner canrif ddiwethaf yn ddigamsyniol — ac yn parhau hyd heddiw. Yn gyfansoddwr, bardd, perfformiwr a chynhyrchydd teledu hynod wreiddiol, cafodd ddylanwad pellgyrhaeddol ar bob degawd yn hanes ‘diwylliant ieuenctid’ Cymraeg. Dewch i gael brofiad o ffenomenon Jarman — cyfuniad afieithus o’r clasurol a’r bythol chwilfrydig. Daw’r gefnogaeth ar y noson gan Plu, un o grwpiau mwyaf addawol sîn canu Gwerin cyfoes Cymru. £12


Theatr

Beasts: Solo

Plain Facts for the Old and Young

13

Beasts: Solo

chapter.org

Gwe 16 + Sad 17 Ionawr 7.30pm Yn dilyn cyfnod hynod lwyddiannus yn ‘Fringe’ Caeredin, a thoc wedi eu hymddangosiad cyntaf ar Radio 4, bydd Beasts yn cyflwyno awr o wiriondeb ysbrydoledig yng Nghaerdydd. Wedi meddwi ar bŵer ac ar eu llwyddiannau diweddar, mae’r triawd cwerylgar wedi penderfynu torri’n rhydd o hualau’r grŵp a mentro ar eu pennau eu hunain. Ond, wedi’u cyfyngu i un lleoliad ac awr yn unig, a fydd yna amser a lle i dri sioe solo? Tair sioe. Un ystafell. Gormod o ego. Dim digon o amser. Cyfarwyddwyd gan Tom Parry (Pappy’s). £10/£8 16+ oed

‘Cofiadwy o wirion’ ★★★★ Times

Gwaith ar y gweill gan Henry Widdicombe Gwe 23 Ionawr 8pm Mae Henry Widdicombe yn dychwelyd i fyd comedi ar ôl pedair blynedd – a hynny am fod ganddo rywbeth i’w ddweud... am grawnfwyd. Bydd yn talu gwrogaeth i’r bwyd brecwast nobl mewn sioe awr o hyd a fydd, mae’n debyg, yn ddoniol hefyd. Cafodd ei hariannu, beth bynnag, gan Gyngor Celfyddydau Cymru felly gallwch chi fod yn sicr bod yr hyn yr ydych yn ei wylio wedi cael ei ddiffinio fel celfyddyd. Hyd yn oed os na fyddwch chi’n mwynhau, felly, gallwch ddweud bod y noson yn ‘brofiad’. Sioe wedi’i chyfarwyddo gan Tom Parry, gyda gwaith animeiddio gan Lauren Orme a Jordan Brookes. Aml-gyfryngol? Yn sicr iawn. £6/£5

‘Llawn manylion gwych a mynegiant creadigol cynnil a gorfoleddus’ Rhod Gilbert


Chapter Mix

029 2030 4400

Cylch Chwedleua Caerdydd

Clonc yn y Cwtch

Dewch i rannu a gwrando ar gasgliad hyfryd o straeon — croeso i storïwyr a gwrandawyr fel ei gilydd!

Ydych chi’n dysgu Cymraeg? Ymunwch â ni i ymarfer eich Cymraeg yng nghwmni dysgwyr eraill. Croeso i bawb!

O’r chwith i’r dde: Jazz ar y Sul, Clwb Comedi The Drones

14

Sul 4 Ionawr 8pm

£4 (wrth y drws)

Darlith Cymdeithas Celfyddydau Cain ac Addurnol De Cymru Iau 8 Ionawr 2pm Downton Abbey Revealed — the story of Highclere Castle Matthew Williams BA, AGMS, AMA

Yn sgil cyfres ‘Downton Abbey’, mae Castell Highclere yn un o’r lleoliadau mwyaf adnabyddus yn y wlad. Mae gan y tŷ a’i deulu, Ieirll Carnarvon, hanes diddorol a chysylltiadau â Thŷ’r Cyffredin, yr Hen Aifft a rasio ceffylau brenhinol. Bydd y ddarlith hon yn dangos sut y rhoddodd ‘Downton Abbey’ fywyd newydd i’r gorffennol. £6 i ymwelwyr (wrth y drws, yn ddibynnol ar le) www.swdfas.org

Clwb Comedi The Drones

Gwe 16 Ionawr. Drysau’n agor: 8.30pm Sioe’n dechrau: 9pm Clint Edwards sy’n cyflwyno’r digrifwyr addawol gorau ar ddydd Gwener cyntaf a thrydydd dydd Gwener y mis. Gwelwyd peth o ddeunydd y nosweithiau hyn ar raglen ‘Identity Crisis’ Rob Brydon. Un o’r ‘Deg Peth Gorau i’w Gwneud yng Nghaerdydd’ yn ôl cylchgrawn The Big Issue. Byddwn yn cael hoe ar ddydd Gwener cyntaf mis Ionawr — dim ond un sioe fydd yna y mis hwn, felly, ar yr 16eg. £3.50 (wrth y drws)

Bob dydd Llun 6.30–8pm

RHAD AC AM DDIM Ar y cyd â Menter Caerdydd

Jazz ar y Sul

Sul 18 Ionawr 9pm Ein noson fisol o jazz acwstig melodig yn y Caffi Bar gyda Phedwarawd Glen Manby. RHAD AC AM DDIM www.glenmanby.com

Music Geek Monthly Iau 29 Ionawr 8pm

Trafodir un clasur o albwm ac un albwm newydd sbon yn y Pwynt Cyfryngol ar ddydd Iau olaf y mis. RHAD AC AM DDIM www.musicgeekmonthly.tumblr.com


chapter.org

Addysg

15

ADDYSG

Addysg

Mae adran Addysg Chapter bellach yn defnyddio Schoop — ap newydd cyffrous, sy’n rhad ac am ddim ac yn hysbysu defnyddwyr am weithgareddau sydd o ddiddordeb iddynt. Lawrlwythwch Schoop a chwiliwch am Chapter: Schoop ID 4400. Gyda Schoop, r’ych chi yn y lŵp!

Academi Ffilm Pobl Ifainc 2015

Sad 24 Ionawr, Sad 31 Ionawr, Sad 7 Chwefror, Sad 14 Chwefror 10.30am–2.30pm Y mis hwn, bydd ein rhaglen lwyddiannus a phoblogaidd i wneuthurwyr ffilm ifainc a brwdfrydig, Academi Ffilm Pobl Ifainc, yn dychwelyd. Os ydych chi rhwng 9 a 12 oed ac yn awyddus i ddysgu mwy am y broses o wneud ffilmiau, cysylltwch â ni cyn gynted â phosib — nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Bob wythnos, bydd cyfranogwyr yn dysgu am agweddau penodol ar y broses o wneud ffilmiau a bydd cyfle hefyd i wylio ffilm.

Sad 24 Ionawr: ‘Sut caiff ffilmiau eu gwneud’ Sad 31 Ionawr: ‘Hanes y Sinema’ Sad 7 Chwefror: ‘R’ych chi eisiau bod yn gyfarwyddwr, felly?’ Sad 14 Chwefror: ‘Sut i olygu ffilm’

Erbyn diwedd y pedair wythnos, bydd cyfranogwyr wedi derbyn yr holl wybodaeth anghenrheidiol ar gyfer gwneud eu ffilmiau eu hunain! Nodwch os gwelwch yn dda y bydd angen pecynnau bwyd bob dydd. £30 am bob un o’r pedair sesiwn (yn cynnwys tocynnau ffilm). Er bod yr Academi wedi’i gynllunio fel pecyn cyflawn, gellir mynychu pob sesiwn hefyd yn unigol felly nid oes angen i gyfranogwyr fod yn bresennol ar gyfer pob un o’r pedair sesiwn. Nodwch os gwelwch yn dda y bydd angen pecynnau bwyd bob dydd. £8 y sesiwn (yn cynnwys tocyn i weld ffilm).

I DDOD YN FUAN! THEATR IEUENCTID CHAPTER

O fis Mawrth ymlaen, bydd Chapter yn trefnu ei Theatr Ieuenctid ei hun, i gynnwys gwersi Drama, Dawns / Symudiad a Chanu wythnosol ar gyfer plant a phobl ifainc rhwng 7 ac 11 a 12 ac 16 oed. Yn rhan o Theatr Ieuenctid Chapter, bydd cyfle hefyd i gyfranogwyr gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr wythnos o hyd yn ystod hanner tymor a gwyliau’r haf. Nod yr holl ddosbarthiadau fydd magu hyder ar y llwyfan ac oddi arno a dysgu sgiliau a thechnegau newydd wrth i gyfranogwyr baratoi ar gyfer perfformiad cyhoeddus yn un o fannau theatr proffesiynol Chapter. Bydd cyfranogwyr hefyd yn gallu paratoi ar gyfer cymhwyster Efydd Gwobr y Celfyddydau a chymhwyster LAMDA. Ni chynhelir clyweliadau — caiff lleoedd ar y cwrs eu cynnig ar sail ‘y cyntaf i’r felin’. I gael mwy o wybodaeth am gofrestru, cysylltwch â learning@chapter.org. Cyhoeddir manylion y cwrs yn llawn yn llyfryn mis Chwefror.


16

Sinema

029 2030 4400

‘Perfformiad gwirioneddol angerddol a rhyfeddol’ Catherine Shoard, The Guardian

The Theory of Everything

SiNEMA


Sinema

The Theory of Everything

What We Do in the Shadows

17

What We Do in the Shadows

chapter.org

Gwe 2 — Iau 15 Ionawr DG/2014/123mun/12A. Cyf: James Marsh. Gyda: Eddie Redmayne, Felcity Jones, David Thewlis.

Mae’r gwyddonydd ifanc addawol, Stephen Hawking, yn cwrdd â chyd-fyfyriwr, Jane, yng Nghaergrawnt, ond caiff eu cariad ei brofi wedi iddo fe gael diagnosis a fydd yn cael effaith bellgyrhaeddol ar ei symudiad a’i leferydd. Wrth iddo gychwyn ar ei waith mwyaf uchelgeisiol, daw’n fwyfwy anodd iddo gyfathrebu ei syniadau. Diolch i Jane a’i hymdrechion diflino, maent yn cyflawni mwy nag y gallen nhw fod wedi’i ddychmygu. Stori garu ffraeth ac afieithus sy’n cynnwys dau berfformiad canolog ardderchog. Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1. Is-deitlau meddal ar ddydd Sul 4 Ionawr 5.30pm, Maw 6 Ionawr 6pm, Mer 7 Ionawr 2.30pm, Gwe 9 Ionawr 6pm a Mer 14 Ionawr 10.30am. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau). + Ymunwch â ni ar ôl y dangosiad ar ddydd Sul 11 Ionawr am drafodaeth Tinted Lens, cydweithrediad newydd rhwng Chapter, Prifysgol Caerdydd a’r BFI. Byddwn yn archwilio’r meddwl a syniadau am normalrwydd a phatholeg, ac yn canolbwyntio ar golled a galar, ffantasi a rhith, dealltwriaeth o amser a chyflyrau ymwybyddiaeth.

Leviathan Gwe 2 — Iau 8 Ionawr Rwsia/2014/141mun/is-deitlau/15. Cyf: Andrei Zvyagintsev. Gyda: Elena Lyadova, Vladimir Vdovichenkov, Aleksey Serebryakov.

Mewn tref arfordirol ar lan Môr Barents, mae’r peiriannydd, Nikolai, yn byw gyda Lilya a’u mab, Romka. Mae’r teulu’n cael ei erlid gan y maer lleol cynllwyngar, sy’n ceisio eu gorfodi oddi ar eu tir. Mae Nikolai’n ffonio hen ffrind ym Moscow a chyda’i gilydd maent yn penderfynu gwrthymosod, a chasglu gwybodaeth ddamniol am y maer. Ffilm ddychan ffyrnig am y Rwsia lwgr sy’n cynnwys sgript gwobrwyol, golygfeydd dramatig, grymus a pherfformiadau anhygoel.

‘Ingol, syfrdanol’ Little White Lies

Gwe 2 — Iau 8 Ionawr Seland Newydd/2014/85mun/15. Cyf: Taika Waititi, Jemaine Clement. Gyda: Jemaine Clement, Taika Waititi, Jonathan Brugh.

Mae Viago, Deacon, Petyr a Vladislav yn gyd-letywyr sy’n ceisio goresgyn rhwystrau bywyd bob dydd — rhwystrau fel bod yn fampirod anfarwol a gorfodaeth i wledda ar waed dynol. Mae’r gymdeithas fodern, fodd bynnag, yn mynnu eu bod yn gwneud pethau diflas fel talu rhent, gwneud gwaith tŷ, ceisio mynd i mewn i glybiau nos, a chyd-fyw’n heddychlon yn eu fflat.

Moviemaker Chapter Llun 5 Ionawr Sesiwn reolaidd sy’n caniatáu i gyfarwyddwyr annibynnol ddangos eu ffilmiau byrion. I gael mwy o wybodaeth ynglŷn â dangos eich ffilm chi, neu unrhyw wybodaeth arall, e-bostiwch moviemaker@ chapter.org. O bryd i’w gilydd, dangosir ffilmiau sy’n cynnwys deunydd anaddas i bobl iau. Awgrymwn, felly, bod sesiynau Moviemaker Chapter yn addas ar gyfer pobl 18+ oed.


18

Gyda’r cloc o’r brig: Citizenfour, The Internet’s Own Boy, We Are the Giant, Testament of Youth

Sinema

029 2030 4400


chapter.org

Sinema

19

Effeithiau Gwrthdaro a Rhyfel Y mis hwn, byddwn yn cychwyn ar dymor o ffilmiau sy’n canolbwyntio ar feysydd y gad i ddemocratiaeth a rhyddid yn y byd cyfoes ac effaith barhaus y Rhyfel Byd Cyntaf. Y mis hwn, byddwn yn canolbwyntio ar ganlyniadau cymdeithasol newidiadau mewn grym geowleidyddol a’r cysylltiadau, yr athroniaethau a’r technolegau newydd a ddatblygodd yn sgil hynny. Byddwn yn cael cip hefyd ar y modd y mae’r rhyngrwyd wedi galluogi syniadau newydd am brotestio.

Citizenfour

Last of the Unjust

Gwe 9 — Mer 14 Ionawr

Sul 25 Ionawr

Yr Almaen/2014/114mun/15. Cyf: Laura Poltras. Gyda: Edward Snowden, Jacob Appelbaum, Julian Assange.

Ffrainc/2014/220mun/TiCh. Cyf: Claude Lanzmann.

Y cyfarwyddwr, Laura Poltras, oedd y newyddiadurwr cyntaf i dderbyn galwad gan Edward Snowden, wedi iddo fe benderfynu datgelu cyfrinachau’r NSA. Mae Potras, yn ei thro, yn mynd ati i geisio datgymalu rhwydweithiau dirgel-wyliadwraeth y byd ac i bortreadu Snowden a sylfaenydd Wikileaks, Julian Assange. Daw teitl y ffilm o’r ffugenw a ddefnyddiwyd gan Snowden i gyfathrebu â Potras ac mae’r gwaith yn archwiliad tynn ac eofn o breifatrwydd mewn oes ddigidol lle mae’r syniad hwnnw’n prysur gael ei danseilio.

The Internet’s Own Boy

Ym 1975, ffilmiodd Claude Lanzmann gyfres o gyfweliadau â Benjamin Murmelstein, Llywydd olaf y Cyngor Iddewig yn ghetto Theresienstadt yn Tsiecoslofacia. Fel rabi yn Fienna, ymladdodd Murmelstein frwydr ffyrnig ag Adolf Eichmann, wedi i’r Almaen feddiannu Awstria ym 1938. Wythnos ar ôl wythnos, am saith mlynedd, helpodd ryw 121,000 o Iddewon i adael y wlad, ac atal cyflafan yn y ghetto. Yn y ffilm hon, gwelwn Lanzmann yn dychwelyd i’r dref i edrych eto ar y tapiau ac i daflu goleuni pellach ar Ateb Terfynol y Natsïaid, mewn ffilm ddogfen rymus. + Cyflwyniad gan Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio’r Holocost

Llun 12 Ionawr

Testament of Youth

UDA/2014/103mun/12A. Cyf: Brian Knappenberger.

Gwe 30 Ionawr — Iau 5 Chwefror

Roedd Aaron Schwartz, a gyflawnodd hunanladdiad yn 26 oed, yn rhaglennydd cyfrifiadurol rhyfeddol ac yn ‘hacktivist’ y mae olion ei fysedd i’w gweld ar hyd a lled y rhyngrwyd, o RSS i Reddit. Roedd yn wynebu cael ei garcharu am lawrlwytho a dosbarthu cyfnodolion academaidd. Lluniodd Knappenberger bortread ansentimental ond teimladwy o ddyn ifanc llawn delfrydau a gredai bod mynediad i wybodaeth yn un o’n hawliau dynol sylfaenol.

We Are the Giant Maw 13 + Iau 15 Ionawr DG/2014/90mun/15. Cyf: Greg Barker.

O ddiwedd 2010 ymlaen, gwelwyd gwrthryfeloedd poblogaidd mewn mwy na dwsin o genhedloedd — a daeth y don honno i gael ei hadnabod fel y Gwanwyn Arabaidd. Arweiniodd protestiadau, wedi’u harwain gan gyfranogwyr ifainc gan mwyaf, ac wedi’u trefnu drwy’r cymdeithasau cyfryngol, at ddatgelu gormes ac at ddisodli cyfundrefnau gwleidyddol. Sut beth yw cymryd rhan mewn gweithredu torfol a chanddo’r potensial i oresgyn unbeniaid a gwireddu breuddwydion poblogaethau cyfain am ryddid? + Ymunwch â ni ar ôl y ddau ddangosiad am drafodaeth dan arweiniad yr artist a’r ymgyrchydd, Rabab Ghazoul, a darlithwyr o Brifysgol Caerdydd.

DG/2014/130mun/12A. Cyf: James Kent. Gyda: Alicia Vikander, Hayley Atwell, Dominic West, Kit Harington.

Ffilm yn seiliedig ar stori wir Vera Brittain, a ohiriodd ei hastudiaethau ym Mhrifysgol Rhydychen yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, i wasanaethu fel nyrs yn Llundain, Malta a Ffrainc. Darn godidog, wedi’i saethu’n hyfryd, am gariad, aberth a dinistr rhyfel.


20

Sinema

029 2030 4400

Big Eyes

Celfyddyd a Ffilm

Big Eyes Gwe 9 — Iau 15 Ionawr UDA/2014/106mun/12A. Cyf: Tim Burton. Gyda: Amy Adams, Krysten Ritter, Christoph Waltz.

Darn sy’n seiliedig ar stori wir Walter Keane, a ddaeth i enwogrwydd am chwyldroi masnacholdeb a hygyrchedd celfyddyd boblogaidd â’i baentiadau enigmatig o ‘waifs’ â llygaid mawrion. Ond fe ddatguddid y gwir yn y pen draw: nid Keane ei hun oedd yn gyfrifol am y gweithiau ond ei wraig, Margaret. Roedd y cwpwl wedi bod yn byw celwydd a dyfodd y tu hwnt i bob rheolaeth. + Trafodaeth Come Along Do gyda Gill Nicol ar ddydd Llun 12 Ionawr. Mae tocynnau ar gyfer y sesiwn yn £2.50 ac maent ar gael o’n Swyddfa Docynnau ac o’n gwe-fan www.chapter.org.

Dosbarth Meistr BAFTA Cymru Mer 14 Ionawr Bydd y cynhyrchydd John Giwa-Amu o Red and Black Films — a oedd yn gyfrifol y llynedd am y ffilm gyffro wobrwyol, The Machine — yn rhoi cipolwg inni ar ei ffilm newydd, The Call Up, ac yn trafod y pleserau a’r heriau sy’n gysylltiedig â chynhyrchu ffilm wyddonias ym Mhrydain. Pan gaiff grŵp o chwaraewyr gêmau ar-lein wahoddiad dirgel i dreialu gêm ryfel rithwir ac uwch-real, mae’n gynnig na ellir ei wrthod. Ond wedi iddyn nhw gyrraedd y safle prawf, mae grŵp o filwyr yn ymosod arnynt a buan y sylweddolant nad gêm ydyw, wedi’r cwbl.

NT Live: Treasure Island Iau 22 Ionawr + Encore Mer 18 Chwefror DG/2015/180mun/PG.

Caiff stori Robert Louis Stevenson am lofruddiaeth, arian a miwtini ei chyflwyno mewn addasiad newydd cyffrous i’r llwyfan gan Bryony Lavery. Mae hi’n noson dywyll a stormus. Mae’r sêr yn pefrio. Mae Jim, wyr y tafarnwr, yn agor y drws ac yn gweld dieithryn arswydus yno. Wrth draed yr hen forwr, mae yna gist enfawr, yn llawn cyfrinachau. Mae Jim yn ei wahodd i’r dafarn — ac mae ei daith beryglus ar ddechrau .


Sinema

21

O’r brig: Kon Tiki, Wild

chapter.org

Gŵyl Ffilmiau Antur Iau 15, Iau 22, Iau 29 Ionawr I ddathlu’r ffilmiau gorau a’r campau mwyaf eithafol, ymunwch â ni am noson o gyffro ac adrenalin a detholiad o ffilmiau i wthio’r corff a’r meddwl i’r eithaf. O feicio mynydd i sgïo, caiacio i neidio ‘BASE’, teithiau llafurus a recordiau byd, mae pob un o’n tair rhaglen gyffrous yn cynnwys rhywbeth a fydd at ddant pawb. I weld rhestr lawn o ffilmiau ac i gael mwy o wybodaeth, ewch i www.adventurefest.co.uk

Kon Tiki

Wild

Gwe 16 — Mer 21 Ionawr

Gwe 30 Ionawr — Iau 5 Chwefror

Norwy/2014/118mun/15. Cyf: Joachim Rønning, Espen Sandberg. Gyda: Pål Sverre Hagen, Anders Baasmo Christiansen, Gustaf Skarsgård.

UDA/2014/115mun/15. Cyf: Jean-Marc Vallée. Gyda: Reese Witherspoon, Gaby Hoffmann, Laura Dern.

Croesodd yr anturiaethwr, Thor Heyerdahl, y Cefnfor Tawel mewn rafft o bren balsa ym 1947 mewn taith epig 101 diwrnod o hyd, yng nghwmni pump o ddynion, er mwyn profi y gallai De Americanwyr y cyfnod cynGolumbaidd fod wedi croesi’r môr a setlo ar ynysoedd Polynesaidd. Er bod yr academyddion yn credu bod y daith yn wallgo’, fe’i ffilmiwyd gan Heyerdahl, ac fe enillodd Oscar y Ffilm Ddogfen Orau ym 1951. Mae’r stori anhygoel hon am antur a’r awydd i wybod yn daith ryfeddol.

Â’i phriodas ar ben a’i mam wedi marw, mae Cheryl Strayed wedi colli pob gobaith ac yn ei chael ei hun mewn twll go iawn. Mae hi’n penderfynu ffawd-heglu ar hyd llwybr 1100 milltir y Pacific Crest, ar ei phen ei hun, heb unrhyw brofiad o gwbl, ac wedi’i gyrru gan ei natur benderfynol yn unig. Yn llawn arswyd a phleser profiad o fywyd go iawn, mae hon yn ffilm hardd a chinetig.


Sinema

Stations of the Cross

Birdman

029 2030 4400

O’r brig: Stations of the Cross, Birdman

22

Gwe 9 — Iau 15 Ionawr Yr Almaen/2014/110mun/is-deitlau/15. Cyf: Dietrich Brüggemann. Gyda: Lucie Aron, Anna Brüggemann, Klaus Michael Kamp.

Mae Maria yn ei chael ei hun yn sownd rhwng dau fyd — ei bywyd normal fel arddegwr a’r eglwys. Mae ei theulu uniongred yn dilyn dehongliad traddodiadol o Babyddiaeth: rhaid i’w holl feddyliau a’i gweithredoedd gael eu barnu gerbron Duw. Mae’r gwrthdaro’n dwysáu wrth i ddadleuon ag athrawon a meddygon ffrwydro i’r wyneb. Yn despret i blesio pawb, buan y caiff Maria ei dal yn y canol. Stori lawn steil am ddefosiwn sy’n cynnwys perfformiadau anhygoel.

Unbroken Gwe 16 — Iau 22 Ionawr UDA/2014/137mun/15. Cyf: Angelina Jolie. Gyda: Jack O’Connell, Domhnall Gleeson, Jai Courtney.

Drama epig sy’n dilyn bywyd rhyfeddol yr athletwr Olympaidd Louis Zamperini, a oroesodd, gyda dau aelod arall o’r criw, mewn rafft am 47 diwrnod ar ôl damwain awyren yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ond wedi iddynt gael eu hachub, gan llynges Japan, fe’u hanfonir ar eu hunion i wersyll rhyfel. Stori wir hynod am wytnwch yr ysbryd dynol. Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

Gwe 16 — Iau 29 Ionawr UDA/2014/119mun/15. Cyf: Alejandro González Iñárritu. Gyda: Michael Keaton, Edward Norton, Emma Stone.

Mae Riggan yn actor sy’n enwog am bortreadu arwr eiconig ond mae e wedi bod ym mlodau’i ddyddiau ac mae e’n ceisio achubiaeth, bellach, ar Broadway. Yn ystod y dyddiau cyn y noson agoriadol, mae e’n brwydro â’i ego ac yn ceisio adennill ei deulu, ei yrfa — ac ef ei hun. Wedi’i ffilmio mewn golygfeydd hir, di-dor, mae hon yn ffilm chwareus yn llawn gwaith camera dyfeisgar a myfyrdodau ar enwogrwydd gan Inarritu, cyfarwyddwr mwyaf blaenllaw ton newydd Mecsico.

Mary is Happy, Mary is Happy Gwe 16 — Iau 22 Ionawr Gwlad Thai/2014/123mun/TiCh. Cyf: Nawapol Thamrongrattanarit. Gyda: Thanapob Leeratanakajorn, Chonnikan Netjui, Patcha Poonpiriya.

Dilynwn ferch yn ei harddegau o’r enw Mary wrth iddi dreulio amser gyda’i ffrind gorau, yn ceisio denu sylw bachgen arbennig ac yn tynnu lluniau o’i ffrindiau ar gyfer ei blwyddlyfr. Yn seiliedig ar drydar arddegwr o Wlad Thai, @marylony, mae’r gwaith hwn yn arbrawf ffilmig sy’n ceisio ymgorffori arsylwadau, dyheadau a gwiriondebau hunaniaethol y mileniwm newydd; adroddir y stori â dychymyg a chyffyrddiad ysgafn a chelfydd. Gweler tt18-19 am fanylion ein tymor o ffilmiau am y don newydd o ffilmiau am brotestiadau oes y rhyngrwyd.


chapter.org

Sinema

23

No Manifesto: Manic Street Preachers

Sineffonig

Drifters + Perfformiad o sgôr fyw gan Jason Singh Maw 20 Ionawr DG/1929/49mun/dim tyst. Cyf: John Grierson.

Mae’r cerflunydd lleisiol, Jason Singh, yn perfformio sgôr leisiol fyw i gyfeilio ffilm fud fawreddog John Grierson — ymateb i’r symudiad Modernaidd avantgarde a chyfosodiad rhythmig o ddelweddau. Mae Drifters, a welwyd am y tro cyntaf yn yr un flwyddyn â Battleship Potemkin, yn 1929, yn portreadu bywydau dramatig pysgotwyr penwaig Môr y Gogledd yn ogystal â’r brwydrau maent yn eu wynebu rhwng traddodiad a moderniaeth, technoleg a’r amgylchedd a byd natur. Mae sgôr Singh yn berfformiad hollol unigryw sy’n cyfuno effeithiau sain lleisiol byw, effeithiau i drin y llais, bît-focsio a samplo byw, ac yn gyfeiliant i un o’r gweithiau mwyaf arwyddocaol yn hanes ffilmiau Prydeinig.

‘Profiad rhyfeddol a mesmerig’ Cylchgrawn Little White Lies

No Manifesto: Manic Street Preachers Gwe 30 Ionawr — Iau 5 Chwefror DG/2015/95mun+20mun/15. Cyf: Elizabeth Marcus.

Yn 1991, ffrwydrodd y Manic Street Preachers fel bom yn y sîn roc Brydeinig gan ddatgan eu bwriad o wneud un albwm a gwerthu miliynau o gopïau cyn chwalu. Flynyddoedd, a nifer helaeth o recordiau hynod boblogaidd, yn ddiweddarach, ac ar ôl colli un aelod a chorddi dyfroedd dirifedi, maent yn dal i fynd. Mae’r ffilm hon yn olwg y tu ôl i’r llen ar brosesau creadigol y band ac yn adrodd hanes eu datblygiad o fod yn fand pync cegog i fod yn ffigyrau o bwys rhyngwladol. + Ymunwch â ni am sesiwn holi-ac-ateb gyda’r gwneuthurwyr ffilm ac i weld deunydd cyngerdd ecsgliwsif ar ddydd Gwener 30 Ionawr


Sinema

029 2030 4400

O’r chwith i’r dde: Enemy, Foxcatcher

24

Enemy

Foxcatcher

Gwe 23 — Iau 29 Ionawr

Gwe 23 Ionawr – iau 5 Chwefror

UDA/2014/90mun/15. Cyf: Denis Villeneuve. Gyda: Jake Gyllenhaal, Melanie Laurent, Sarah Gordon.

UDA/2014/134mun/15. Cyf: Bennett Miller. Gyda: Steve Carell, Channing Tatum, Mark Ruffalo.

Mae Adam Bell yn athro hanes digalon sydd fel petai wedi colli diddordeb ym mhopeth, hyd yn oed ei gariad prydferth, Mary. Tra’n gwylio ffilm ar argymhelliad cydweithiwr iddo, mae Adam yn gweld ei ddwbl — actor o’r enw Anthony Clair — ac yn penderfynu mynd i’w ganlyn. Mae’r dynion unfath yn cyfarfod ac mae eu bywydau yn cydblethu mewn modd rhyfedd a di-droi’n-ôl. Yn y pen draw, dim ond un ohonynt a all oroesi. Stori hypnotig a gafaelgar am rym yr isymwybod.

Mae’r reslwr, Mark Schultz, sy’n benderfynol o ddianc o gysgod ei frawd mwy llwyddiannus, yn cael ei alw gan filiwnydd ecsentrig o’r enw John du Pont i’w ystâd i hyfforddi ar gyfer Gêmau Olympaidd Seoul 1988. Fodd bynnag, mae du Pont yn cymell arferion peryglus ac yn torri hyder Mark, a hynny’n ei yrru i drobwll hunan-ddinistriol. Yn seiliedig ar ddigwyddiadau go iawn, mae hon yn drasiedi Americanaidd afaelgar am ddynion bregus a seiliodd eu bywydau ar geisio mawredd ond a arweinwyd ar eu pennau i drasiedi.

Luna Gwe 23 — Maw 27 Ionawr DG/2014/106mun/15. Cyf: Dave McKean. Gyda: Ben Daniels, Dervla Kirwan, Stephanie Leonidas.

Ar ôl colli eu babi, mae Grant a Christine yn ymweld â ffrind yn ei dŷ anghysbell ond delfrydol ar lan y môr. Dros benwythnos hir, caiff cyfrinachau — a bywyd y plentyn marw — eu datgelu mewn cyfres o freuddwydion rhyfedd, rhithweledol. Stori dylwyth teg hudolus i oedolion gan gyfarwyddwr MirrorMask. + Ymunwch â ni am sesiwn holi-ac-ateb gyda’r cyfarwyddwr, Dave McKean, ar ddydd Llun 26 Ionawr.


chapter.org

Sinema

25

Beyond Clueless

O’r Ril i’r Real

Weithiau mae bywyd go iawn mor rhyfedd a hudolus bob tamaid â ffilm Hollywood. ‘O’r Rîl i’r Real’ yw ein rhaglen reolaidd o ffilmiau dogfen ac mae’n cynnwys ffilmiau sy’n cyflwyno digwyddiadau a phobl gwirioneddol ddiddorol ar y sgrin fawr.

The Circle

Beyond Clueless

Maw 27 — Iau 29 Ionawr

Gwe 30 Ionawr — Iau 5 Chwefror

Y Swistir/2014/102mun/15. Cyf: Stefan Haupt. Gyda: Babett Arens, Aaron Hitz, Martin Hug.

UDA/2014/89mun/15. Cyf: Charlie Lyne.

Stori wir y cyhoeddiad hoyw arloesol o Zurich, Der Kreis. Mae deunydd dogfennol a chyfweliadau â ffigyrau amlwg y papur yn cydblethu â deunydd dramatig wrth i ni gael cip ar y personoliaethau y tu ôl i’r cylchgrawn amlieithog a phryfoclyd. Gwelwn hefyd ddirywiad y cyhoeddiad, yn y pen draw. Mae Ernst, athro swil, yn disgyn dros ei ben a’i glustiau mewn cariad â’r seren drag, Robi Rapp, ym 1958. Wedi’i dynnu rhwng ei fodolaeth bourgeois a’r angen i ymgyrchu, mae stori Ernst yn cynnig cipolwg ar rwydwaith cymdeithasol cymhleth. Enwebiad am Oscar y Ffilm Dramor Orau Ymunwch â ni ar ôl y dangosiad ar ddydd Iau 29 Ionawr am gyfarfod o grŵp trafod ffilm LGBT Chapter.

Ffilm ddogfen am ffilmiau cyfoes i arddegwyr a’r modd y mae’r gweithiau hynny’n adlewyrchu’r gymdeithas ehangach. Mae hon yn daith ryfeddol trwy feddwl a chorff ac enaid y genre, fel y’u cyflwynir mewn dros 200 o ffilmiau modern am ddod-i-oed. + Ymunwch â ni am sesiwn holi-ac-ateb gyda’r cyfarwyddwr, Charlie Lyne, ar ddydd Mawrth 3 Chwefror.


26

Sinema

029 2030 4400

Wrth i ni ddiosg hen groen y flwyddyn a fu, mae amser yn gwyro tuag at bennod newydd yn yr 21ain ganrif. Yn glo ar ein tymor o ffilmiau gwyddonias, byddwn yn edrych ar sut y mae’r syniad o deithio drwy amser wedi siapio ein syniad am y dyfodol a’n ffyrdd o ystyried y gorffennol. Byddwn yn gorffen mewn gogoniant ac yn dirwyn y tymor i ben â champwaith gofodaidd, gwallgof gan Stanley Kubrick.

Dangosiad Dwbl Terminator Sad 3 Ionawr

Dyma gyflwyno dangosiad dwbl o weledigaeth hunllefus James Cameron o’r dyfodol, lle mae dynion yn brwydro yn erbyn peiriannau lladd didostur. Ymgorfforir y weledigaeth apocalyptaidd hon gan gyhyrau a gên sgwâr y cyn-Mr Universe — a chynlywodraethwr Califfornia — Arnold Schwarzenegger. Gallwch wylio’r ddwy ffilm am £10/£8 neu wylio ffilmiau unigol am bris tocyn arferol.

Terminator UDA /1984/102mun/15. Cyf: James Cameron. Gyda: Arnold Schwarzenegger, Linda Hamilton, Michael Biehn.

Mae seiborg anorchfygol â gwedd ddynol yn cael ei anfon yn ôl i’r flwyddyn 1984 o’r flwyddyn 2029 er mwyn lladd gweinyddes, sy’n disgwyl y mab a fydd yn arwain y ddynoliaeth yn y rhyfel yn erbyn y peiriannau. Anfonir hefyd filwr dynol o’r rhyfel dyfodolaidd i’w hamddiffyn hi, doed a ddelo.

Terminator 2 UDA/1991/146mun/15. Cyf: James Cameron Gyda: Arnold Schwarzenegger, Linda Hamilton, Michael Biehn.

Mae seiborg yn union fel yr un a fethodd â lladd Sarah Connor yn y ffilm gyntaf yn gorfod amddiffyn ei mab 10 oed, John, rhag seiborg mwy datblygedig fyth, sydd wedi’i wneud o fetel hylifog.

Clwb Ffilmiau Gwael Howard the Duck Sul 4 Ionawr

UDA/1986/110mun/PG. Cyf: Willard Huyck.

Mae’r Clwb Ffilmiau Gwael yn dychwelyd am flwyddyn arall ac, yn sesiwn gynta’r flwyddyn newydd, fe fyddan nhw’n eich gwahodd chi i roi blinder llethol mis Ionawr i’r neilltu yng nghwmni Howard yr Hwyaden. Does ‘na ddim byd yn fwy tebygol o gymell hwyliau da na hwyaden o’r gofod sy’n gallu siarad. Ar ôl ei gael ei hun, ar ddamwain, ar y Ddaear, mae Howard yn cwrdd â grŵp o ddrwgweithredwyr yn Cleveland. Ond caiff eu cyfeillgarwch ei beryglu pan ddaw dihiryn creulon o’r enw Dark Overlord i fygwth y ddaear. Nodwch os gwelwch yn dda: Bydd yna sylwebaeth fyw drwy gydol y ffilmiau hyn ac fe all y ffilm a ddangosir newid ar y funud olaf.

Terminator 2

Tymor Gwyddonias y BFI: Taith Drwy Amser


Sinema

27

The Time Machine

2001: A Space Odyssey

DG/1960/98mun/PG. Cyf: George Pal. Gyda: Rod Taylor, Yvette Mimieux, Alan Young.

DG/1968/134mun/U. Cyf: Stanley Kubrick. Gyda: Keir Dullea, Gary Lockwood, William Sylvester.

Yn seiliedig ar glasur HG Wells, mae gwyddonydd ar ddechrau’r 20fed ganrif yn creu dyfais sy’n gallu’i gludo oddi mewn i ddimensiynau amser. Mae e’n teithio drwy’r dyfodol, drwy dri rhyfel byd, i’r flwyddyn 802,701, lle mae e’n gweld byd gwahanol iawn i’r un a adawodd ar ei ôl, byd yn llawn o fwystfilod rhyfedd o’r enw Morlocks.

Symffoni wyddonias wedi’i strwythuro mewn pedwar symudiad, sy’n gwthio terfynau naratif ac effeithiau arbennig ac sydd yn fyfyrdod ar dechnoleg a dynoliaeth. Yng nghyfnod cynharaf y ddynoliaeth, mae grŵp o hominidiaid yn dod ar draws monolith du dirgel. Filiynau o flynyddoedd wedi hynny, mae’r gwyddonydd Dr Heywood Floyd yn teithio i’r lleuad i astudio gwrthrych rhyfedd sydd wedi ymddangos ar arwyneb y lleuad. Yn y cyfamser, mae’r gofodwyr, David Bowman a Frank Poole, yn teithio i’r blaned Iau ar long ofod y Discovery a dim ond tri o ofodwyr sy’n gaeafgysgu a chyfrifiadur HAL 9000 yn gwmni iddynt.

O’r chwith i’r dde: The Time Machine, 2001: A Space Odyssey

chapter.org

Sul 11 + Maw 13 Ionawr

Slaughterhouse Five Sul 18 + Maw 20 Ionawr

UDA/1972/99mun/15. Cyf: George Roy Hill. Gyda: Michael Sacks, Ron Leibman, Eugene Roche.

Yn seiliedig ar nofel ddychanol a lled-hunangofiannol Kurt Vonnegut, dyma hanes Billy Pilgrim, sydd yn filwr yn yr Ail Ryfel Byd ond yn cael ei ddatgysylltu o’i gyfnod ei hun. Caiff ei gludo yn erbyn ei ewyllys i sw rhyfedd llawn ‘aliens’. Wedi’i gosod yn ystod sawl cyfnod ym mywyd Vonnegut — gan gynnwys Brwydr y ‘Bulge’ ac ymgyrch fomio Dresden — mae hon yn gomedi ddu ingol. + Ymunwch â ni ar ôl y ffilm ar ddydd Sul 18 Ionawr am drafodaeth o waith Kurt Vonnegut, awdur ffuglen wyddonol a weddnewidiodd y genre.

Sul 25 + Maw 27 Ionawr

+ Cyflwyniad

The Rocky Horror Picture Show Sad 24 Ionawr

DG/1975/98mun/12A. Cyf: Jim Sharman. Gyda: Tim Curry, Susan Sarandon, Richard O’Brien, Patricia Quinn, Little Nell, Meat Loaf, Barry Bostwick.

Mae cwpwl newydd ddyweddïo, Brad a Janet, yn torri i lawr yn eu car un noson dywyll a stormus ac yn galw yng nghastell rhyfedd y Dr Frank N. Furter. Mae’r gwyddonydd gwallgo’ o blaned arall yn datgelu ei greadigaeth newydd gyda chymorth Columbia, Magenta a Riff Raff. Dyma gyfle prin i chi ymwneud ag ochr wyllt eich personoliaeth a mwynhau’r sioe gerdd gwlt hon.


Sinema

029 2030 4400

O’r brig: Silent Running, Wall-E

28

Sinema Dros Dro Chapter a The Magic Lantern yn cyflwyno Gwyddonias yng Nghanolfan Technoleg Amgen Sad 17 Ionawr Yn dilyn ein dangosiadau mewn cestyll, rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno diwrnod o sinema mewn labordy byw sy’n ceisio sicrhau dyfodol cynaliadwy.

Silent Running 6pm

UDA/1972/87mun/PG. Cyf: Douglas Trumbull. Gyda: Bruce Dern, Cliff Potts, Ron Rifkin.

Mae holl ddail y Ddaear wedi cael eu difa ac mae gwyrddni olaf y blaned bellach mewn tŷ gwydr ar orsaf ofod sy’n cael ei rheoli gan ofodwyr a robotiaid. Daw gorchymyn i ddinistrio’r gweddillion gwyrdd ond mae’r prif fotanegydd, Lowell, yn ei anwybyddu. £8

Wall-E 3pm

UDA/2008/95mun/U. Cyf: Andrew Stanton. Gyda: Ben Burtt, Elissa Knight, Jeff Garlin.

Yn y dyfodol pell, mae robot bychan sy’n casglu gwastraff yn cychwyn yn ddiarwybod iddo ar daith ofod a fydd yn pennu ffawd y ddynoliaeth. £6

Canolfan Technoleg Amgen, Machynlleth, Powys, SY20 9AZ Tocynnau ar gael o Swyddfa Docynnau Sinema Magic Lantern, Tywyn, 01654 710260 ac o www.chapter.org


chapter.org

29

Sinema

Ffilmiau i’r Teulu Cyfan Noddir gan Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk 02920 666688

Penguins of Madagascar

Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn. Archebwch ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Carry on Screaming

Bob dydd Gwener am 11am, mae Carry On Screaming yn rhoi cyfle i rieni neu ofalwyr weld ffilm heb orfod poeni y bydd eu babi’n aflonyddu ar eraill. Gweler y calendr am fanylion y dangosiadau arbennig hyn i bobl â babanod dan flwydd oed.

Penguins of Madagascar Sad 3 + Sul 4 Ionawr

UDA/2014/92mun/U. Cyf: Simon J. Smith. Gyda: Tom McGrath, Chris Miller, Benedict Cumberbatch, John Malkovich.

Rhaid i’r pengwiniaid gwallgo’ achub y byd rhag octopws drygionus. Mae gan Skipper, Kowalski, Private a Rico fywydau dwbl fel asiantau cudd ac mae hen elyn iddynt wedi wedi ail-ymddangos ac yn benderfynol o ddial arnynt. Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1. + Is-deitlau meddal ar Sul 4 Ionawr 11am. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

The Hunger Games: Mockingjay Part 1 Sad 10 + Sul 11 Ionawr

UDA/2014/123mun/12A. Cyf: Francis Lawrence. Gyda: Jennifer Lawrence, Josh Hutcherson, Julianne Moore.

Mae’r gêmau ar ben. Nawr, mae’r chwyldro ar ddechrau. Ond a fydd Katniss Everdeen yn ddigon cryf i fod yn symbol o’r gwrthryfel? Dyw Arlywydd Coin o District 13 ddim yn rhy siŵr, ar ôl gweld Katniss yn pendilio rhwng Peeta a Gale, ond mae’r Plutarch Heavensbee cyfrwys yn anghytuno ac fe drefnir coup. Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1. + Is-deitlau meddal ar Sul 11 Ionawr 11am. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

The Hobbit: The Battle of the Five Armies Sad 17 + Sul 18 Ionawr

Seland Newydd/2014/144mun/12A. Cyf: Peter Jackson.Gyda: Martin Freeman, Ian McKellan, Luke Evans, Richard Armitage.

Methodd Bilbo a’r corachod â lladd Smaug ac yn awr rhaid iddynt wylio wrth i’r ddraig hedfan i ffwrdd i ddial ar Laketown. Mae popeth yn barod, felly, ar gyfer y frwydr olaf i atal y bwystfil cynddeiriog ac fe ddaw elffiaid, dynion a’r eryrod enfawr at ei gilydd, tra bod Gandalf wedi’i garcharu gan y Necromancer. Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1. + Is-deitlau meddal ar Sul 18 Ionawr. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

Tinkerbell and The Legend of the Netherbeast Sad 24 + Sul 25 Ionawr

UDA/2014/hyd i’w gadarnhau/U. Cyf: Steve Loter. Gyda: Mae Whitman, Ginnifer Goodwin, Anjelica Huston, Timothy Dalton.

Un noson yn Pixie Hollow, caiff yr awyr ei oleuo gan olau gwyrdd dirgel ac mae Tink a’i ffrindiau yn dod ar draws bwystfil danheddog a rhyfedd sydd wedi’i adael yno gan gomed.

Annie

Sad 31 Ionawr + Sul 1 Chwefror UDA/2014/118mun/PG. Cyf: Will Gluck. Gyda: Jamie Foxx, Quvenzhané Wallis, Rose Byrne.

Mae Annie’n blentyn maeth ifanc a hapus sydd hefyd yn ddigon gwydn i fyw a bod ar strydoedd Efrog Newydd. Ar ôl cael ei gadael gan ei rhieni biolegol pan yn fabi, er iddynt addo dod yn ôl i’w chasglu yn y dyfodol, bu’n ‘hard knock life’ i’r ferch fach ers hynny... Ond mae popeth ar fin newid ar ôl i Will Stacks — gŵr busnes calon-galed sy’n ymgeisio i fod yn Faer Efrog Newydd — wneud addewidion mawr. Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1. + Is-deitlau meddal ar Sadwrn 31 Ionawr 11am. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).


30

Archebu / Gwybodaeth

029 2030 4400

GWYBODAETH Sut i Archebu Tocynnau

Gwybodaeth

Dros y ffôn — ffoniwch ni ar 029 2030 4400. Rydym yn derbyn pob un o’r prif gardiau credyd. Galwch heibio — mae ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 11am-8.30pm, ac ar y Sul o 3pm–8.30pm. Ar-lein: Gallwch archebu ar www.chapter.org bob awr o’r dydd a’r nos Consesiynau: Mae cyfraddau disgownt ar gael i fyfyrwyr, pobl dros 60 oed, plant, y di-waith, pobl anabl, deiliaid cerdyn MAX ac i Ffrindiau Chapter a deiliaid Cerdyn Chapter. Bydd angen i chi gyflwyno prawf o’ch cymhwyster i dderbyn cyfradd ostyngol. Archebion grŵp: Prynwch 8 tocyn ac fe gewch chi’r 9fed yn RHAD AC AM DDIM. Noder os gwelwch yn dda • dim ond un disgownt y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw un adeg • rydym yn hapus i dderbyn archebion ymlaen llaw ond ni allwn gadw tocynnau i’r naill ochr • os cyrhaeddwch chi’n hwyr mae hi’n bosib y cewch chi’ch atal rhag mynychu eich digwyddiad. Cyflwynir rhai o’n ffilmiau â Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ond nid yw’r wybodaeth hon bob amser ar gael ar adeg argraffu’r cylchgrawn. Gweler ein gwe-fan am fanylion neu piciwch draw i’r Swyddfa Docynnau yn ystod yr wythnos y mae’r ffilm yn cael ei rhyddhau.

Cwmnïau ac Artistiaid Cysylltiedig Mae Chapter yn gartref i gwmnïau theatr, cwmnïau dawns, stiwdios animeiddio, gwneuthurwyr printiau, crochenwyr, dylunwyr graffeg, dylunwyr deunydd symudol, cyfansoddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, cyhoeddwyr cylchgronau, artistiaid annibynnol a llawer iawn mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Sinema Cyn 5pm O 5pm ymlaen £4.50 (£4.00) £7.90 (£7.20) Llawn Cons £3.50 (£3.00) £5.80 (£5.10) Cerdyn + Cons £3.00 (£2.50) £5.00 (£4.50) DISGOWNT DYDD MAWRTH Tocynnau’r holl brif ddangsiadau — £4.40

Gweithdai a Dosbarthiadau Rydym yn cynnal amrywiaeth eang o weithdai dyddiol a dosbarthiadau gydag ymarferwyr annibynnol, gan gynnwys ballet, zumba, ioga, crefft ymladd, massage i fabanod, cerddoriaeth i blant, pilates, tango, fflamenco, ysgrifennu creadigol, gwersi cerddoriaeth a mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Sut i gyrraedd Chapter Fe ddewch chi o hyd i ni yn Nhreganna, i’r gorllewin o ganol y ddinas. Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE Ar Droed Mae hi’n daith gerdded hamddenol o ryw 20 munud o ganol y ddinas. Ar Fws Mae bysus rhif 17, 18 a 33 yn aros gerllaw ac yn gadael bob pum munud o ganol y ddinas. Ar Feic Mae digon o raciau beic ar flaen yr adeilad. Parcio Mae gennym faes parcio yng nghefn yr adeilad ac mae meysydd parcio lleol eraill wedi eu nodi ar y map. Gofynnwn i chi barchu ein cymdogion os gwelwch yn dda drwy osgoi parcio mewn strydoedd cyfagos.

Prisiau ymlaen llaw/ar-lein mewn cromfachau. Mae “Ymlaen llaw” yn golygu unrhyw bryd cyn diwrnod y dangosiad.

aff nd Lla

Springfield Pl.

ad

mC ha cen res

Ha m i l t o n

St

t

Gr

King’s Ro

nd Wy

ane

Road

L Gray

. Library St

St. ay

Treganna

Le c h kwit

Church Rd.

Heol Ddwy rein i o l y B o n t F a en Penllyn Rd.

Harve

St Talbot

Orc h a r d P l.

rn Seve

St. Gray M a rk e t P l .

treet yS

e St. Glynn

d Roa

d hna arc lyF

Heo

o 6pm

rt S

t.

Road

Earle Pl.

A l be

P — meysydd parcio rhad ac am ddim — rac feics

r R—oadarhosfan bysus Majo

I Ganol Dinas Caerdydd to n ling Wel

t

e Stre

Mynediad i bawb Mae Chapter yn croesawu ymwelwyr anabl. Os oes gennych anghenion mynediad penodol, ffoniwch ein swyddfa docynnau ar 029 2030 4400, minicom 029 2031 3430.


chapter.org

Cymryd Rhan

31

CYMRYD RHAN Cerdyn CL1C

Cadwch mewn cysylltiad

Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawrlwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Ymunwch â ni ar-lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

Ffrindiau Chapter Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40

eAmserlen rad ac am ddim eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch adam.chard@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.

Cynllun Myfyrwyr Chapter Ydych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth am ddim a manteisio ar gynigion arbennig nodedig, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Jennifer — jennifer.kirkham@chapter.org www.chapter.org/cy/aelodaeth-myfyrwyr-chapter

Hoffai Chapter gydnabod cefnogaeth hael y sefydliadau a’r grwpiau canlynol:

Landfill Community Fund Esmée Fairbairn Foundation EU Culture Programme The Baring Foundation Garfield Weston Foundation Foyle Foundation Biffa Award Colwinston Charitable Trust Admiral Group plc Moondance Foundation Foundation for Sport and the Arts Trusthouse Charitable Foundation Community Foundation in Wales BBC Children in Need The Waterloo Foundation ScottishPower Green Energy Trust The Welsh Broadcasting Trust

SEWTA Richer Sounds The Clothworkers’ Foundation Momentum The Henry Moore Foundation Google Jane Hodge Foundation Simon Gibson Charitable Trust People’s Postcode Trust Dunhill Medical Trust Legal & General Institut für Auslandsbeziehungen e.V Millennium Stadium Charitable Trust The Ernest Cook Trust Lloyds TSB Morgan Signs Garrick Charitable Trust

Barclays Arts & Business Cymru Penderyn The Austin & Hope Pilkington Trust Singapore International Foundation Puma Hotels Collection: Cardiff Angel Hotel Cardiff Airport Wales Arts International Gibbs Charitable Trust Ceredigion Community Scheme The Steel Charitable Trust The Boshier-Hinton Foundation 1st Office Oakdale Trust Dipec Plastics Nelmes Design

The Coutts Charitable Trust Bruce Wake Charity Funky Monkey Feet Finnis Scott Foundation Unity Trust Bank Hugh James Contemporary Art Society for Wales The Dot Foundry JVH Gidden & Rees Western Power Distribution Follett Trust Arts & Kids Cymru Canton High School Girl’s Reunion Co-operative Group Renault Cardiff Embassy of Belgium Queensland Government


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.