Chapter Mehefin 2015

Page 1

029 2030 4400

@chaptertweets

chapter.org


02

Croeso

Helo a chroeso i’ch cylchgrawn misol sy’n cynnwys holl fanylion rhaglen Chapter ym mis Mehefin. Y mis hwn bydd arddangosfa Richard Woods, Inclosure Acts, yn dirwyn i ben. Gan gyfeirio at ddeddfau a newidiodd am byth gefn gwlad Prydain, mae Woods wedi gwahodd y tu allan i’r tu fewn, gan drawsnewid yr Oriel, y Blwch Golau a gofod Celfyddyd yn y Bar â lliwiau a motiffau beiddgar a chwareus. Piciwch draw i weld yr arddangosfa boblogaidd hon cyn dydd Sul 14 Mehefin (tt4-5). Y mis hwn hefyd bydd Theatr Iolo yn cyflwyno drama angerddol, gomig a thywyll Christopher Brett Bailey, This Is How We Die (t11), ac rydym yn barod hefyd i groesawu Llwyfan Dawns Cymru (t9), a fydd yn cyflwyno gweithiau dawns o bob cwr o Gymru yn Chapter, Canolfan Mileniwm Cymru a Theatr Glan yr Afon, y cyfan yn ystod un penwythnos cyffrous. Draw yn ein sinema, byddwn yn mwynhau detholiad o ffilmiau wedi’u dethol gan Martin Scorsese, y rheiny’n ddathliad o sinema Gwlad Pwyl, (t22) gan gynnwys y campwaith diweddar, Ida (t18). Enillodd y ffilm honno Oscar y ffilm dramor orau yn gynharach eleni ac mae hi’n adrodd hanes merch ifanc ddefosiynol sy’n mynd ar daith lawn emosiwn cyn mynd i fyw fel lleian. Byddwn hefyd yn mwynhau y ffilmiau newydd hir-ddisgwyliedig, Queen and Country (t19) a The Look of Silence (t18), wrth i ni barhau â’n tymor o ffilmiau sy’n myfyrio ar effeithiau gwrthdaro a rhyfel. Diolch am ddarllen ac fe welwn ni chi cyn hir!

chapter.org

Defnyddiwch y côd QR hwn i lawr–lwytho copi digidol o gylchgrawn Chapter

Delwedd y clawr: Far From the Madding Crowd Chwith: Richard Woods, Inclosure Acts, Gosodiad yn Oriel Chapter, 2015. Llun: Warren Orchard

Chapter Heol y Farchnad, Caerdydd CF5 1QE 029 2030 4400 www.chapter.org ymholiadau@chapter.org


chapter.org

Uchafbwyntiau

03

Oriel tudalennau 4–5

Bwyta/ Yfed/Llogi tudalen 6

Cefnogwch Ni tudalen 7

Theatr tudalennau 8–12

Chapter Mix tudalen 13

Sinema tudalennau 14–25

Addysg tudalennau 26–27

Cerdyn CL1C Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawr–lwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Ffrindiau Chapter Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40

Cadwch mewn cysylltiad Ymunwch â ni ar–lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

Gwybodaeth a Sut i archebu tocynnau tudalen 28

eAmserlen rad ac am ddim eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E–bostiwch adam.chard@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e–bost.

Cysylltwch â ni @chaptertweets facebook.com/chapterarts

Cymryd Rhan tudalen 29

Calendr tudalennau 30–31

Nodwch os gwelwch yn dda bod copïau print bras o’n cylchgrawn ar gael ar gais. Cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau ar 029 2030 4400.


Oriel

029 2030 4400

Richard Woods, Inclosure Acts, Gosodiad yn Oriel Chapter, 2015. Llun: Warren Orchard

04

Richard Woods: Inclosure Acts Tan ddydd Sul 14 Mehefin ‘In Through the Outdoor’ Mae Richard Woods yn cyflwyno portreadau cain o rym ac yn ystyried cymdeithas a ffiniau pˆ wer yn ei arddangosfa unigol yn Chapter. Mae ganddo gyffyrddiad ysgafn ond gŵyr hefyd sut a phryd i fynnu pwyslais. Mae’r teitl ei hun, Inclosure Acts, yn tynnu llinell — neu yn codi rhwystr — rhwng y presennol a’r gorffennol. Mae’r ‘Inclosure’ yn nheitl y darn yn hen sillafiad ffurfiol o’r gair ‘enclosure’. Roedd y Deddfau Cau Tir a basiwyd gan Senedd Prydain yn gyfrifol am gau tir a oedd, cyn hynny, yn agored ac fe arweiniodd hynny at greu hawliau cyfreithiol a rhenti uwch ar dir a ystyrid yn dir comin. Mae gwaith Woods yn Chapter yn cyflwyno nifer o is-adrannau ar hyd a lled yr adeilad er mwyn tynnu sylw at yr amrywiol ffiniau rhwng breintiedig a difreintiedig, y tu mewn a’r tu allan a ffiniau ymwneud cymdeithasol. Mae comisiwn y Blwch Golau, ar flaen yr adeilad, yn llawn cliwiau am yr hyn sydd ar y tu fewn. Nid yw’n hawdd gweithio â’r lliw gwyrdd ond mae’r cysylltiadau yn y fan hon yn amrywio o arlliwiau emrallt i gaeau gwyrddion, fflworoleuedd modern i wyrdd glaswellt parciau lleol. Mae patrymau ailadroddus Woods yn ormesol, bron iawn, ar raddfa o’r fath, eto i gyd, mae

eu hatyniad addurnol yn denu dyn i longddryllio, fel petai, ar eu creigiau cain. Mae’r patrwm, a ysbrydolwyd gan deils Fictoraidd yn adeilad Chapter, yn hydreiddio gofod yr arddangosfa, lle daw’n fotiff ar lawr yr Oriel. Mae’r ffaith bod y patrwm o dan draed yn hytrach nag uwch pen, yn ennyn teimlad o ryddhad. Ar y llawr pren hwn, a grëwyd â llaw, mae yna gyfres o strwythurau ad-hoc sy’n ymdebygu i giatiau mochyn (‘kissing gates’) neu gamfeydd anffurfiol — roedd y rhain yn bethau cyffredin mewn ardaloedd gwledig ac yn fodd i sicrhau ymwneud rhwng pobl ac i atal symudiadau da byw. Mae’r strwythurau pren yn eich gwahodd fel petai i bwyso arnynt — i hel clecs a straeon. Maent yn teimlo fel cerfluniau cymdeithasol, darnau o gelfyddyd gyfranogol a chyhoeddus go iawn. Mae’r cerfluniau yno ar y naill law i helpu ac, ar y llaw arall, i rwystro taith y gwyliwr o amgylch yr arddangosfa, ac yn fodd o’i ddiogelu rhag y waliau o baneli Ffug-Duduraidd ymosodol. Defnyddiodd Woods yr arddull Ffug-Duduraidd hon — ynghyd ag arddull bensaernïol y brics coch, sy’n perthyn i’r dosbarth bonedd Tuduraidd — mewn ymyriadau pensaernïol blaenorol ac mewn prosiectau dylunio a chelfyddyd gyhoeddus. Y tu allan i’r oriel, mae’r gwaith yn cymryd arno gysylltiadau newydd a


Oriel

05

Richard Woods, Inclosure Acts, Gosodiad yn Oriel Chapter, 2015. Llun: Warren Orchard

chapter.org

Sgyrsiau am 2 Sad 6 Mehefin 2pm gwahanol raddfeydd, a’r rheiny’n amrywio o’r Blwch Golau i nifer o strwythurau llai sy’n arnofio uwch y byrddau yn y caffi bar. Mae’r brics llachar, rhy llachar bron, fel petaent ar fin disgyn yn ddarnau; maent yn hofran drwy hud a lledrith, efallai, yn barod i syrthio i’r llawr. Fel yn achos y llawr a’r paneli Ffug-Duduraidd, ac er gwaethaf eu rhithfawredd, gwelwn o dipyn i beth eu diffygion. Mae’r gwaith hwn, fel holl waith Woods, yn wledd i’r llygaid, ac mae hi’n bleser ymgolli yn ei fyd, ond y mae’r arddangosfa hefyd yn codi cwestiynau difrifol ynglŷn â phŵer, braint a rheolaeth. Yn Inclosure Acts drwyddi draw, mae Woods yn arwain eich llygaid, eich traed a’ch meddyliau hefyd, gobeithio, ar hyd muriau, rhwystrau a ffiniau real a dychmygol. Mae rhai o’r rhain, yn anochel, yn llwyddo i groesi’r ffin rhwng y tu fewn a’r tu allan, a vice versa. Detholiad o ysgrif gan Gordon Dalton. Mae’r testun llawn ar gael o’r Oriel, neu gellir ei lawr-lwytho o www.chapter.org/richard-woods-inclosure-acts.

Oriau agor yr arddangosfa: Dyddiau Mawrth, Mercher, Sadwrn a Sul 12–6pm; dydd Iau a dydd Gwener 12–8pm; ar gau ar ddydd Llun

Mae ein ‘Sgyrsiau am 2’ yn deithiau tywysedig o gwmpas yr arddangosfa gyfredol, yng nghwmni ein Tywyswyr Byw, Richard Higlett a Thomas Williams. Maent yn gyfle i ddysgu mwy am yr arddangosfa gyfredol ac am ddulliau gwaith unigryw yr artistiaid. Ni fydd dwy sgwrs yn union yr un fath ond y gobaith yw y byddan nhw’n ddiddorol ac yn agored bob amser. Mae’r Sgyrsiau am 2 yn rhad ac am ddim ac nid oes angen archebu lle ymlaen llaw — ymunwch â ni y tu allan i fynedfa’r Oriel! RHAD AC AM DDIM

Off The Page

Mer 10 Mehefin 6.30pm Mae OFF THE PAGE yn archwilio cysylltiadau rhwng ysgrifennu, cyhoeddi a pherfformio ac yn archwilio rhai o elfennau mwy anarferol y celfyddydau gweledol. Mae’r sesiynau’n cael eu cynnal mewn arddull anffurfiol, DIY ac yn caniatáu i artistiaid roi cynnig ar bethau newydd ac i gymryd risgiau. Mae pob artist yn cyflwyno’i waith yn ei ddull unigryw a phersonol ei hun. Mae’r digwyddiadau hyn yn rhad ac am ddim ond bydd angen tocyn. Cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau i gadw lle. Caiff sesiynau OFF THE PAGE eu curadu gan Samuel Hasler, artist sy’n gweithio yng Nghaerdydd ym meysydd testun a pherfformio. RHAD AC AM DDIM


06

Bwyta Yfed Llogi

029 2030 4400

BWYTA YFED LLOGI

Llogi Mae nifer o ystafelloedd a chyfleusterau Chapter ar gael i’w llogi, ac mae llawer o’r rhain yn cael eu defnyddio’n rheolaidd gan gymysgedd eclectig o ddosbarthiadau dydd a nos. Ewch i’n gwe-fan neu codwch daflen yn y swyddfa docynnau i weld yr hyn sydd ar gael. Os ydych chi’n chwilio am ystafell ar gyfer parti, cyfarfod neu gynhadledd, neu am ofod i saethu fideo, i ymarfer neu i gynnal gweithgareddau adeiladu tîm, bydd ein cyfleusterau gwych, ein harbenigedd technegol a’n staff cyfeillgar yn gallu sicrhau bod eich digwyddiad yn gyffyrddus, yn unigryw ac yn gofiadwy. Gallwn gynnig amrywiaeth o opsiynau arlwyo ar gyfer eich digwyddiad hefyd. Os oes gennych chi gwestiynau penodol neu os hoffech chi fwy o wybodaeth am ein cyfleusterau, rhowch ganiad i’n rheolwr llogi, Nicky, ar 029 2031 1058 neu anfonwch e-bost at nicky.keeping@chapter.org.

Bwyta + Yfed

Ydych chi’n llogi un o’n hystafelloedd? Boed eich digwyddiad yn gyfarfod, yn gynhadledd, yn sesiwn hyfforddi neu’n ddigwyddiad o unrhyw fath arall, gallwn ddarparu lluniaeth i chi a’ch gwesteion gydol y dydd. P’un ai ydych chi’n ymweld am ddiwrnod cyfan neu am ychydig oriau yn unig, gallwn gynnig bwyd ffres a blasus i’ch cynnal chi drwy gydol eich digwyddiad. Mae ein harlwyo yn seiliedig ar fwyd syml a ffres, tymhorol a blasus; bwyd sy’n cynrychioli ein holl ethos — bwyd sy’n edrych yn dda, yn tynnu dŵr o’r dannedd ac yn llawn blasau beiddgar ond sydd yn gyfarwydd a chysurlon hefyd. I gael mwy o wybodaeth, ewch i’n gwe-fan http://www.chapter. org/cy/arlwyo neu i archebu pecyn lletygarwch ar gyfer eich digwyddiad, cysylltwch â Nicky Keeping ar 029 2031 1058 / nicky.keeping@chapter.org.

I ddod yn fuan! Mae ein Gŵyl Fyrgyrs boblogaidd yn dychwelyd rhwng dydd Mercher 1 a dydd Sul 5 Gorffennaf. Byddwn yn cynnig amrywiaeth o fyrgyrs ac ychwanegiadau blasus — a dewis o gwrw Americanaidd ardderchog i gyd-fynd â nhw.

Pop Up Produce Mer 3 Mehefin, 3-8pm

Mae ein marchnad fisol yn llawn o gynhyrchwyr bwyd lleol a fydd yn cynnig danteithion i dynnu dŵr o’r dannedd. Bob dydd Mercher cyntaf y mis, byddwn yn cyflwyno rhai o’ch hen ffefrynnau ynghyd ag ambell werthwr newydd a fydd yn gwerthu siocledi, jamiau, bara arbenigol, nwyddau o Sbaen, pice ar y maen, gwin, teisennau heb glwten, te, coffi, mêl a nwyddau i’r cartref. Ydych chi’n cynhyrchu bwyd? Ydych chi wedi gweld bwlch yn narpariaeth Pop Up Produce? Os hoffech chi ymuno â ni unwaith y mis i werthu’ch cynnyrch, cysylltwch â Philippa — philippa.brown@chapter.org — i wneud cais am stondin.


chapter.org

Cefnogwch Ni

07

CEFNOGWCH NI Mae Chapter yn elusen gofrestredig ac rydym yn dibynnu ar gefnogaeth gan unigolion a busnesau er mwyn gallu cyflwyno ein rhaglen artistig amrywiol a’n gwaith addysgol pwysig. Rydym yn ddiolchgar am bob ceiniog a dderbyniwn ac fe allwn gynnig ambell beth gwych i chi yn gyfnewid. Mae yna nifer o wahanol ffyrdd o gymryd rhan...

Unigolion

Busnesau

Ffrindiau

Clwb

Ymunwch â chynllun Ffrindiau Chapter ac fe gewch chi fuddion sy’n amrywio o ostyngiadau ar docynnau a bwyd a diod yn ein Caffi Bar, i wahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn Ffrindiau hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C.

Cynllun aelodaeth Chapter i fusnesau. Am ffi flynyddol fechan, gall eich busnes chi fwynhau manteision sylweddol yn Chapter, a’r rheiny’n cynnwys cyfleoedd i rwydweithio, defnydd o’n mannau llogi hyblyg a gostyngiadau i chi a’ch staff ar docynnau sinema a theatr yn ogystal â phrisiau gostyngol yn ein Caffi Bar. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.chapter.org/cy/chapter-clwb.

Ffrind Efydd : £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40

Rhoddion Cofrestrwch i wneud cyfraniadau unigol neu roddion reolaidd i Chapter, er mwyn chwarae rhan lawn yn ein gwaith elusennol. Gallwch wneud cyfraniadau ar-lein, ar www.chapter.org/cy/ cefnogwch-ni neu drwy ymweld â’n Swyddfa Docynnau. Gallwch wneud cyfraniadau drwy neges destun erbyn hyn hefyd — tecstiwch ‘Chap15’, ynghyd â’r swm yr hoffech ei roi, at 70070. Fydd hi ddim yn costio ceiniog i chi anfon y neges destun ac fe fyddwn ni’n derbyn 100% o’ch cyfraniad.

Myfyrwyr

Ydych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth rad ac am ddim a manteisio ar gynigion arbennig ardderchog, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? Cofrestrwch heddiw drwy ymweld â www.chapter.org/cy/ chapter-student-membership.

Nawdd

Yn 2014, dyfarnodd Celfyddydau & Busnes Cymru Wobr Gyffredinol Categori’r Celfyddydau i Chapter am ein perthynas waith ragorol â busnesau. Mae yna nifer o gyfleoedd ar gael i noddi a’r rheiny’n cynnig buddion gwych, gan gynnwys cyfranogiad staff, lletygarwch corfforaethol a hyrwyddo brand.

Cymynroddion

Mae gadael cymynrodd i Chapter yn fodd i ddiogelu ein gwaith at y dyfodol. Os hoffech chi ystyried gadael rhodd i Chapter yn eich Ewyllys, dylech ofyn am gyngor gan eich cyfreithiwr yn y lle cyntaf. Os ydych chi eisoes wedi crybwyll Chapter yn eich Ewyllys, rhowch wybod i ni, fel y gallwn gydnabod eich cyfraniad yn y modd mwyaf priodol.

I gael mwy o wybodaeth am unrhyw un o’r materion uchod, cysylltwch os gwelwch yn dda ag Elaina Gray ar 02920 355662 neu e-bostiwch elaina.gray@chapter.org.


Theatr

Llwyfan Dawns Cymru: Alex Marshall Parsons

08 029 2030 4400


Theatr

Llwyfan Dawns Cymru

Cyfle i archebu o hyd!

09

Gyda’r cloc o’r chwith uchaf: Llwyfan Dawns Cymru: Jane Castree, Vibha Selvaratnam, Sandra Harnisch-Lacey (Llun: Roy Campbell Moore), Tanja Raman

chapter.org

Sad 27 Mehefin 1pm–10pm Ymunwch â gwneuthurwyr dawns annibynnol o bob cwr o Gymru wrth iddynt rannu eu gweithiau diweddaraf dros benwythnos hafaidd a fydd yn llawn perfformiadau difyr, arddangosfeydd, ffilmiau a sgyrsiau bywiog. Mae Llwyfan Dawns Cymru 2014 yn dwyn ynghyd ddawnswyr, coreograffwyr, ffotograffwyr a gwneuthurwyr ffilmiau a fydd yn cyflwyno eu gwaith i gynulleidfaoedd a chyd-artistiaid mewn tri lleoliad: Canolfan Mileniwm Cymru, Gwe 26 Mehefin, Chapter, Sadwrn 27 Mehefin a Theatr Glan yr Afon, Casnewydd, Sul 28 Mehefin. I gael mwy o fanylion ewch i www.walesdanceplatform.co.uk Penwythnos: £35 / Diwrnod: £15 / Perfformiad: £10 Mae Llwyfan Dawns Cymru yn gynhyrchiad Creu Cymru, gyda Chapter, Glan yr Afon, Canolfan Mileniwm Cymru a Coreo Cymru ac fe’i cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Intangible Studio yn cyflwyno:

Spring, Autumn, Summer, Winter: Pop-Up Love Party Gwe 29 + Sad 30 Mai 9.30pm Gyda chyfraniadau gan gwmni theatr arloesol Theatr Zuppa (Halifax, Nova Scotia), Shirotama Hitsujiya (Cyfarwyddwr Artistig Yubiwa Hotel, Tokyo, Japan) a’r gwneuthurwyr theatr lleol, Valmai Jones a James Tyson, mae Spring, Autumn, Summer, Winter: Pop-Up Love Party yn wledd athronyddol. Sioe theatr ynghyd â bwydlen flasu saith cwrs, wedi ei chreu gan y cogydd o Efrog Newydd, Daniel Burns, sydd yn ddeiliad seren Michelin. Yr achlysur? Cyfle i fyfyrio ar athroniaeth a chynnig llwnc destun i gariad yn yr 21ain ganrif. Fersiwn newydd o Symposiwm (Parti Yfed) Plato, lle daw grŵp o ffigyrau cyhoeddus blaenllaw at ei gilydd i fwyta, yfed ac ystyried testun dyrys iawn: cariad erotig. £15 (yn cynnwys bwydlen flasu saith cwrs a gwin) Derbyniodd y perfformiad hwn gefnogaeth hael gan Gyngor y Celfyddydau, Canada, Cyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Japan.


Theatr

029 2030 4400

Miramar

10

Triongl yn cyflwyno

Miramar Mer 10 — Sad 13 Mehefin 7.30pm Perfformiad dwyieithog Cymraeg/Saesneg ar ddydd Gwener 12 Mehefin “We’re renaming the house Miramar. It’s a mixture of our names Miriam and Martin, Mir-a-mar, do you get it?” Ar ôl marwolaeth ei gŵr, caiff Enid, 74 oed, ei gorfodi i werthu’r tŷ lle y treuliodd ran fwyaf ei hoes. Mae hi’n gwylio o ffenestr yn nhŷ ei chymdogion wrth i’r perchnogion newydd gyrraedd a thrawsnewid ei chartref yn dŷ gwyliau. Maent yn ei adnewyddu, yn ei ail-enwi ac yna’n dychwelyd i’r ddinas, gan adael y tŷ’n wag. Mae Enid, sydd bellach yn ddigartref, yn penderfynu gweithredu. Sioe gyntaf dywyll a doniol gan y cwmni o Gaerdydd, Triongl, sy’n archwilio syniadau am gartref. + Trafodaeth ar ôl y sioe ar ddydd Iau 11 Mehefin gyda Llamau, prif elusen ddigartrefedd Cymru, sy’n gweithio gyda phobl ifainc a menywod sy’n agored i niwed. Bydd yna berfformiad matinée arbennig i Llamau ar ddydd Sadwrn 13 Mehefin am 2pm. Nifer cyfyngedig o docynnau fydd ar gael i’r cyhoedd — holwch yn y swyddfa docynnau. £10/£8/£6 Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.

Megan Price Rheolwr Marchnata Wrth i’r haf nesu ac â’r haul wedi dod (gobeithio) i ddweud helô, mae hi’n eironig fy mod i’n edrych ymlaen at dreulio mwy o amser tu fewn — ond mae yna lawer o bethau dw i’n edrych ymlaen atynt ym mis Mehefin! Mae nifer o staff Chapter yn meddu ar sgiliau creadigol anhygoel a’r mis hwn bydd Rebecca Knowles, un o staff cyfeillgar y Swyddfa Docynnau sydd hefyd yn actores ac yn wneuthurwr theatr talentog, yn dod â’i chwmni newydd, Triongl, i Chapter. Os yw gwaith blaenorol Rebecca yn unrhyw fath o arwydd, bydd Miramar yn ddoniol, yn ddiddorol a phryfoclyd — ac yn un o uchafbwyntiau sicr y mis hwn.


Theatr

11

This Is How We Die

chapter.org

Theatr Iolo yn cyflwyno

Christopher Brett Bailey This Is How We Die Llun 22 + Maw 23 Mehefin 7.30pm Collage anllad o lefaru a chwedleua. Straeon am baranoia, serch ifanc ac ‘ultra-violence’. Mae Christopher Brett Bailey wedi creu darn yn llawn hiwmor tywyll fel y fagddu a rhyddiaith hunllefus. Ag adleisiau o Lenny Bruce, William Burroughs, barddoniaeth y ‘beats’ a ffilmiau B, mae This Is How We Die yn ddarn perffaith o ‘trash’ swrrealaidd, ‘death trip’ i galon Americana ac archwiliad pensyfrdanol o fyd wedi’i argyhoeddi ei fod yn marw ... £12/£10 (Oed: 16+) Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Lloegr.

‘“Road movie” abswrd am yr enaid wedi’i chyfuno â ffraethineb miniog a pharanoia’ The Guardian

Sioe Gŵyl Gomedi Machynlleth Mer 24 Mehefin 8pm Mae artistiaid newydd gorau’r ŵyl yn dod i Gaerdydd am noson o gomedi — dewch i weld talentau newydd hoff ŵyl gomedi Cymru. £12/£11/£10

I ddod yn fuan! Yn ystod mis Gorffennaf a mis Awst byddwn yn cyflwyno rhagolygon o ddetholiad o sioeau sy’n teithio i Gaeredin. Cyfle perffaith i’w gweld nhw cyn iddynt deithio i’r ŵyl!


Theatr

029 2030 4400

Man arall: Theatr Taking Flight yn cyflwyno

Sucking on Sugar Cane: Looking for Meaning Ten Years after Hurricane Katrina

O’r chwith i’r dde: The Winter’s Tale, Sucking on Sugar Cane: Looking for Meaning Ten Years after Hurricane Katrina

12

The Winter’s Tale gan William Shakespeare Iau 11 Mehefin — Gwe 24 Gorffennaf (Mae dyddiadau perfformiadau Caerdydd i’w gweld ar y calendr, ar dudalennau 30–31. Gweler y we-fan am restr lawn o leoliadau/dyddiadau/amseroedd) ‘If this be magic, let it be an art lawful as eating.’ Mae comedi chwerw-felys Shakespeare yn stori am golled, edifeirwch, cariad a chymodi ac fe’i cyflwynir yr haf hwn yn arddull unigryw Taking Flight. Ymunwch â’r parti mewn clwb jazz bywiog lle gallai’r gerddoriaeth wreiddiol eich annog i ddawnsio, yna gwyliwch wrth i genfigen ddinistrio’r byd hwyliog hwn a’i adael heb addewid o unrhyw fath ac mewn cyflwr o aeaf tragwyddol... Ond peidiwch â digalonni; fe gewch chi eich hudo dros y môr i fan lle y gall cerddoriaeth, cariad a digon o chwerthin wella pob clwyf. Gwisgwch i greu argraff ond gwnewch yn siŵr bod eich esgidiau’n addas hefyd — mae hwn yn gynhyrchiad teithiol yn yr awyr agored. Bydd pob perfformiad yn cynnwys cyfieithiad i iaith arwyddion Prydain. Gweler y we-fan am fwy o fanylion. Cyfarwyddwyd gan Elise Davison Cyfieithiad iaith arwyddion gan Daryl Jackson, Sami Thorpe a Stephen Collins £14/£10/plant £5 www.takingflighttheatre.co.uk

Mer 1 Gorffennaf 7.30pm Cyfuniad o farddoniaeth, llefaru a jazz sydd yn gydweithrediad rhwng Pumawd Gareth Roberts a’r bardd clare e. potter, a dreuliodd ddeng mlynedd yn ninas New Orleans. Bydd y gwaith hybrid hwn yn archwilio llwybrau cyfun geiriau, nodau a thawelwch ac yn caniatáu i’r ddau berfformiwr a’r gynulleidfa ystyried yr hyn a ddaeth yn sgil Corwynt Katrina ac i fyfyrio ar ddiwylliant, pobl a lle, colled a iachâd. Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys set o farddoniaeth unigol a jazz gwreiddiol wedi’i berfformio gan y pumawd gwobrwyol. £8/£6 www.garethtrombone.co.uk


chapter.org

Chapter Mix

Dydd Iau Cyntaf y Mis

Darlith Cymdeithas Celfyddydau Cain ac Addurnol De Cymru

Barddoniaeth a Ffuglen Newydd Iau 4 Mehefin 7.30pm

Bydd y darllenwyr gwadd yn cynnwys enillydd Gwobr TS Eliot, y bardd nodedig, Philip Gross. Bydd e’n sgwrsio gyda’r artist Valerie Price am eu llyfr cydweithredol, ‘A Fold in the River’, sy’n cynnwys cerddi a chelfyddyd weledol wedi’u hysbrydoli gan Afon Taf. I’w dilyn gan sesiwn meic agored. £2.50

Clwb Comedi The Drones

Gwe 5 + Gwe 19 Mehefin. Drysau’n agor: 8.30pm. Sioe’n dechrau: 9pm Clint Edwards sy’n cyflwyno’r ‘stand-ups’ addawol gorau. Gwelwyd peth o ddeunydd y nosweithiau hyn ar raglen ‘Identity Crisis’ Rob Brydon. Dydd Gwener cyntaf a thrydydd dydd Gwener y mis. Un o’r ‘Deg Peth Gorau i’w Gwneud yng Nghaerdydd’ yn ôl cylchgrawn The Big Issue. £3.50 (wrth y drws)

Iau 11 Mehefin 2pm Yr Hen Aifft: Gweithiau Celfyddydol a Phensaernïaeth Rhyfeddol Lucia Gahlin BA

Adeiladodd Rameses Fawr (1279-1213BC) demlau anhygoel ledled yr Aifft, gan gynnwys yr Abu Simbel nodedig, a’u haddurno â cherfluniau enfawr. Byddwn yn archwilio gweithiau o gelfyddyd a phensaernïaeth trawiadol er mwyn creu darlun o’r arweinydd beiddgar hwn yn ystod oes aur hanes y Pharoaid yn yr Aifft. Ymwelwyr £6 (wrth y drws, yn ddibynnol ar le) www.swdfas.org

Jazz ar y Sul Sul 28 Mehefin 9pm

Ein noson fisol o jazz acwstig melodig yn y Caffi Bar, gyda Phedwarawd Jazz Chapter — Glen Manby, Jim Barber, Don Sweeney a Greg Evans. RHAD AC AM DDIM www.glenmanby.com

Sul 7 Mehefin 8pm

Bob dydd Llun 6.30–8pm

Cylch Chwedleua Caerdydd

Clonc yn y Cwtsh

Dewch i rannu a gwrando ar gasgliad hyfryd o straeon — croeso i storïwyr a gwrandawyr fel ei gilydd!

Ydych chi’n dysgu Cymraeg? Ymunwch â ni i ymarfer eich Cymraeg yng nghwmni dysgwyr eraill. Croeso i bawb!

£4 (wrth y drws)

13

RHAD AC AM DDIM Ar y cyd â Menter Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd


Sinema

029 2030 4400

Timbuktu

14


Sinema

Far From the Madding Crowd

Rosewater

15

O’r chwith i’r dde: Far From the Madding Crowd, Rosewater

chapter.org

Gwe 22 Mai — Iau 4 Mehefin DG/2015/119mun/12A. Cyf: Thomas Vinterberg. Gyda: Carey Mulligan, Michael Sheen, Matthias Schoenaerts.

Mae’r Bathsheba Everdene annibynnol a phengaled yn denu sylw tri dyn gwahanol iawn: Gabriel Oak, ffermwr defaid, Frank Troy, sarjant di-hid a William Boldwood, hen lanc cyfoethog. Mae’r stori oesol hon am ddewisiadau a nwydau Bathsheba yn archwilio natur perthnasau a chariad, yn ogystal â’r gallu dynol i oresgyn caledi â gwydnwch a dyfalbarhad. Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn Sinema 1 ac Is-deitlau Meddal ar ddydd Llun 1 Mehefin 6pm, dydd Mawrth 2 Mehefin 2.30pm + 8.15pm a dydd Iau 4 Mehefin 10.30pm. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau neu ewch i’n gwe-fan i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau.)

Timbuktu Gwe 29 Mai — Iau 4 Mehefin Ffrainc/2014/97mun/is-deitlau/12A. Cyf: Abderrahmane Sissako. Gyda: Ibrahim Ahmed, Toulou Kik, Abel Jafri, Fatoumata Diawara.

Yn llawn delweddau hardd o dirweddau anial ac afonydd pefriog, mae’r ffilm hon yn bortread gloyw o effaith anheddiad jihadis tramor ar fywyd bob dydd yn Timbuktu. Clywn straeon Mwslemiaid sy’n chwarae’r blŵs, ffermwyr ac Imam rhyddfrydol, pob un yn ceisio addasu i fywyd dan warchae. Mae ymdeimlad miniog â’r absˆ wrd yn sicrhau bod yr astudiaeth hon o wrthdaro diwylliannol mor ddoniol bob tamaid ag y mae’n frawychus. Gweler manylion ein tymor o ddigwyddiadau’n archwilio effeithiau gwrthdaro a rhyfel ar dudalen 18.

Gwe 29 Mai — Iau 4 Mehefin UDA/2014/103mun/15. Cyf: Jon Stewart. Gyda: Gael Garcia Bernal, Kim Bodnia, Dimitri Leonidas.

Yn 2009, cafodd y newyddiadurwr, Maziar Bahari, ei garcharu yn Iran am 118 o ddiwrnodau am wneud cyfweliad dychanol am etholiadau arlywyddol y wlad. Dros gyfnod o bedwar mis, ceisiodd ei groes-holwr — a lysenwyd yn Rosewater o ganlyniad i’w bersawr — ei orfodi i gyffesu i amrywiaeth ryfeddol o droseddau, gan gynnwys bod yn Seionydd ac ymddangos ar The Daily Show. Wedi’i haddasu o hunangofiant Bahari, mae Stewart yn cyflwyno drama Kafka-aidd sy’n awgrymu bod cyfundrefn wleidyddol nad yw’n gallu goddef hiwmor yn gyfundrefn sydd yn barod i ormesu. Gweler manylion ein tymor o ddigwyddiadau’n archwilio effeithiau gwrthdaro a rhyfel ar dudalen 18.

Clwb Ffilmiau Gwael

Mac and Me Sul 15 Mehefin UDA/1988/95mun/U. Cyf: Stewart Raffil.

Does yna ddim byd sy’n cyhoeddi dyfodiad yr haf cweit fel y drewdod ysgafn yn Chapter pan fydd y Clwb Ffilmiau Gwael yma. Y mis hwn, maent yn eu holau ag un o glasuron sinema wael, Mac and Me. Pan ddaw ‘Mysterious Alien Creature’ — sydd yn ceisio ffoi rhag NASA — a bachgen ifanc mewn cadair olwyn i gysylltiad, maent yn ffurfio cyfeillgarwch nad yw’n debyg O GWBL i’r ffilm E.T. Ddim yn debyg o gwbl. Wir i ddyn i ti, Twm Twm. Nodwch os gwelwch yn dda y bydd yna sylwebaeth fyw drwy gydol y ffilm ac y gall y ffilm a ddangosir newid ar y funud olaf.


Sinema

029 2030 4400

The Age of Adaline

Girlhood

Gwe 5 — Iau 11 Mehefin

Gwe 12 — Iau 18 Mehefin

UDA/2014/110mun/12A. Cyf: Lee Toland Krieger. Gyda: Blake Lively, Michiel Huisman, Harrison Ford.

Ffrainc/2014/113mun/15. Cyf: Céline Sciamma. Gyda: Karidja Touré, Assa Sylla, Lindsay Karamoh.

Mae menyw ifanc, a anwyd ar droad yr ugeinfed ganrif, yn cael ei bod yn anfarwol ar ôl damwain. Ar ôl blynyddoedd o fyw ar ei phen ei hun, mae hi’n cwrdd â dyn y gallai hi fod yn werth ildio ei hanfarwoldeb er ei fwyn.

Wedi cael llond bol ar ei bywyd teuluol treisgar a dyfodol dilewyrch yn ei hysgol anacademaidd, mae Marieme yn cychwyn cyfeillgarwch â thair merch eangfrydig. Mae hi’n newid ei henw a’i steil ac yn dod yn rhan o fyd sydd ar y naill law’n beryglus ac ar y llaw arall yn llawn rhyddid ac egni. Ffilm ingol ac onest am gyfeillgarwch benywaidd â chast o bobl nad ydyn nhw’n actorion proffesiynol.

Gyda’r cloc o’r brig: The Age of Adaline, Girlhood, Dior and I

16

Dior and I

Gwe 5 — Iau 11 Mehefin Ffrainc/2015/90mun/is-deitlau/12A. Cyf: Frédéric Tcheng. Gyda: Raf Simons, Marion Cotillard, Anna Wintour.

Cipolwg freintiedig y tu ôl i’r llen ar fyd dirgel tŷ ffasiwn Christian Dior wrth i Raf Simons greu ei gasgliad haute couture cyntaf fel cyfarwyddwr artistig. Yn gyfuniad o olygfeydd bob dydd, tensiynau byd ffasiwn ac adleisiau o orffennol y brand eiconig, mae’r ffilm hefyd yn deyrnged liwgar i’r gwniadwragedd sy’n gweithio mor ddiwyd i droi gweledigaethau Simons yn realiti.

Listen up Philip Gwe 5 — Iau 11 Mehefin

UDA/2014/109mun/15. Cyf: Alex Ross Perry. Gyda: Jason Schwartzman, Elisabeth Moss, Jonathan Pryce, Krysten Ritter.

Mae’r nofelydd llwyddiannus, Phillip, yn llawn dicter ffyrnig wrth iddo ddisgwyl i’w ail lyfr gael ei gyhoeddi. Mae ei berthynas â’i gariad, ffotograffydd o’r enw Ashley, yn dirywio a does ganddo ddim awydd mynd ati i hyrwyddo ei waith. Pan gaiff gynnig hafan yng nghartref diarffordd ei arwr, Ike Zimmerman, mae Philip yn cael cyfle o’r diwedd i ganolbwyntio ar ei hoff bwnc: ef ei hun. Comedi filain am uchelgais artistig, haerllugrwydd ieuenctid a gofid canol oed.


Sinema

Moviemaker Chapter

BAFTA Cymru yn cyflwyno:

17

Bypass

chapter.org

Llun 1 Mehefin Sesiwn reolaidd sy’n caniatáu i gyfarwyddwyr annibynnol ddangos eu ffilmiau byrion. I gael mwy o wybodaeth ynglŷn â dangos eich ffilm chi, neu unrhyw wybodaeth arall, e-bostiwch moviemaker@ chapter.org. O bryd i’w gilydd, dangosir ffilmiau sy’n cynnwys deunydd anaddas i bobl iau. Awgrymwn, felly, bod sesiynau Moviemaker Chapter yn addas ar gyfer pobl 18+ oed.

Electric Boogaloo

Gwe 26 Mehefin — Iau 2 Gorffennaf UDA/2014/107mun/18. Cyf: Mark Hartley.

Yn y 1970au, dechreuodd dau gefnder reoli cwmni ffilmiau ‘grindhouse’ Cannon Films ac, er gwaethaf eu harferion busnes diegwyddor a’u dewisiadau artistig amheus, roedden nhw’n gyfrifol am rai o ffilmiau mwyaf cofiadwy y 1980au. Yn eu rôl fel stiwdio amgen, roedden nhw’n enwog am eu gwaith gyda sêr fel Chuck Norris, Charles Bronson a Jean Claude Van Damme ac am ffilmiau fel Breakin, King Solomon’s Mines, Lifeforce a champweithiau fel Otello gan Zeffirelli. Mae’r ffilm hon yn olwg afieithus ar un o stiwdios chwedlonol Hollywood.

Bypass Mer 10 Mehefin DG/2015/105mun/15. Cyf: Duane Hopkins. Gyda: George MacKay, Arabella Arnott, Ben Dilloway.

Mae tad Tim wedi ffoi, mae ei fam wedi marw ac mae ei frawd hŷn garw, Greg, ar brofiannaeth. Mae arno arian i gangsters, mae ei gariad yn feichiog, mae ei chwaer fach mewn trafferth byth a hefyd ac mae ei iechyd ei hun yn dioddef. Mae hon yn stori am Brydain anweledig, a’r corneli diobaith hynny mewn trefi lle mae’r trigolion yn ceisio cynnal syniad o gymuned. Drama ddwys sy’n llawn perfformiadau rhagorol. + Ymunwch â ni am sesiwn holi-ac-ateb gyda Samm Hailley.

Prifysgol De Cymru (Caerdydd)

Dangosiad Graddedigion Iau 18 Mehefin Ymunwch â ni ar gyfer dangosiad eleni sy’n gyfuniad o ffilmiau gradd gan fyfyrwyr cyrsiau BA (Anrh) Ffilm a Fideo, BA (Anrh) y Diwydiannau Creadigol a’r BA (Anrh) Perfformio a’r Cyfryngau. Ar y noson, dyfernir gwobrau i’r ffilm ddogfen orau a’r ddrama fer orau. Mae tocynnau yn rhad ac am ddim a gellir eu harchebu yn ein swyddfa docynnau.


18

Sinema

029 2030 4400

Yn rhan o’n cyfres o ffilmiau sy’n archwilio effeithiau gwrthdaro a rhyfel, byddwn yn archwilio’r modd yr aeth sinema Gwlad Pwyl ati i adlewyrchu ei hunaniaeth dan ormes a sensoriaeth cyfnod y Rhyfel Oer a sut y mae’r materion hyn yn cael eu trin gan wneuthurwyr ffilmiau cyfoes.

Ida

Foreign Body

Gwlad Pwyl/2014/82mun/is-deitlau/12A. Cyf: Pawel Pawlikowski. Gyda: Agata Kulesza, Agata Trzebuchowska, Dawid Ogrodn.

Gwlad Pwyl/2014/117mun/is-deitlau/TiCh. Cyf: Krzysztof Zanussi.Gyda: Riccardo Leonelli, Agnieszka Grochowska, Agata Buzek.

Gwe 5 — Iau 11 Mehefin Yng Ngwlad Pwyl yn y 1960au, mae lleian ifanc o’r enw Anna yn cael ei hanfon i ymweld â Wanda — modryb iddi nad yw hi’n ei hadnabod, a menyw y mae ei bywyd louche fel alcoholig yn wrthgyferbyniad llwyr â bodolaeth naïf Anna. Mae Wanda’n datgelu — yn araf a di-emosiwn — bod Anna wedi ei geni i deulu Iddewig a bod ei rhieni wedi eu llofruddio yn ystod y rhyfel. Mae hi’n cymryd ei nith gyda hi ar daith i ddod o hyd i’w beddau. Yn ystod y daith, maent yn clywed cyfrinachau o’r gorffennol ac mae hynny’n ennyn chwilfrydedd newydd yn Anna am y byd y mae hi ar fin ei adael. Drama gain, ddiaddurn sy’n disgrifio â symlrwydd a hiwmor lwybrau’r menywod hyn drwy fywydau sydd wedi eu heffeithio am byth gan hanes. Enillydd Oscar y Ffilm Dramor Orau yn 2015 + Ymunwch â ni ar ôl y ffilm ar ddydd Gwener 5 Mehefin am drafodaeth Tinted Lens, cydweithrediad newydd gan Chapter, Prifysgol Caerdydd a’r BFI. Byddwn yn archwilio’r meddwl a chysyniadau’n ymwneud â normalrwydd a phatholeg, gan ganolbwyntio ar golled a galar, ffantasi a rhith, dealltwriaeth o amser a chyflyrau ymwybyddiaeth.

Stones for the Rampart Llun 8 — Mer 10 Mehefin

Gwlad Pwyl/2015/112mun/is-deitlau/15. Cyf: Robert Glinski. Gyda: Tomasz Zietek, Marcel Sabat, Kamil Szeptycki.

Stori wir am grŵp o ymladdwyr dros ryddid, yn ystod goresgyniad y Natsïaid o Warsaw, a lwyddodd i ryddhau un o’u cyd-ymgyrchwyr o dan drwyn y gelyn. Roedd y cyrch yn un o’r campau mwyaf beiddgar a gyflawnwyd gan fudiad gwrthsafiad yn Ewrop yn ystod yr Ail Ryfel Byd — ac mae’r ffilm ei hun yn rhyfeddol o gyffrous.

Maw 9 + Iau 11 Mehefin

Yn ffilm ddiweddaraf y meistr, Zanussi, cawn gwrdd ag Angelo a Kasia yn yr Eidal, y ddau’n aelodau o Fudiad Focolare, a daeth at ei gilydd yn sgil eu cariad a’u ffydd yn Nuw. Caiff eu cariad ei brofi pan benderfyna Kasia ddychwelyd i Wlad Pwyl i ymuno â lleiandy ac wrth i Angelo deithio i Warsaw i geisio newid ei meddwl. Ar ôl derbyn swydd mewn cwmni dan reolaeth y Kris didostur a sinigaidd, caiff Angelo ei orfodi i amddiffyn ei ffydd. Mae’r ffilm yn archwiliad o ryddid ym myd corfforaethol, ôl-gomiwnyddol a di-ffydd Dwyrain Ewrop. + Sesiwn holi-ac-ateb gyda’r cyfarwyddwr, Krzysztof Zanussi, ar ddydd Iau 11 Mehefin.

The Look of Silence Gwe 12 — Iau 18 Mehefin

Denmarc/2014/99mun/is-deitlau/15. Cyf: Joshua Oppenheimer.

Cafodd brawd hŷn yr optometrydd, Adi, ei lofruddio bum degawd yn ôl yn ystod ymgyrch ‘swyddogol’ llywodraeth Indonesia i lofruddio ‘comiwnyddion’. Ar ôl teithio i’r pentrefi lle mae llofruddion ei frawd yn dal i fyw (ac yn mwynhau cyfoeth a statws cymdeithasol yn rhinwedd eu rôl yn y gyflafan), mae Adi yn archwilio llygaid y troseddwyr ond yn mynd ati hefyd, yn dawel bach, i holi ei gleifion am eu hatgofion a’u cymhellion. Mae’r ffilm gain, grefftus, moesol-gymhleth hon yn ddilyniant gafaelgar i The Act of Killing. + Ymunwch â ni ar ôl y ffilm am sesiwn holi-ac-ateb ar gysylltiad lloeren byw gyda’r cyfarwyddwr, Joshua Oppenheimer, a fydd yn sgwrsio â Louis Theorux.

Stones for the Rampart

Effeithiau Gwrthdaro a Rhyfel


Sinema

Queen and Country

Slow West

19

O’r chwith i’r dde: Queen and Country, Slow West

chapter.org

Gwe 12 — Iau 25 Mehefin

DG/2015/115mun/15arf. Cyf: John Boorman. Gyda: Callum Turner, Caleb Landry Jones, Richard E Grant.

Mae’r dilyniant hir-ddisgwyliedig hwn i’r Hope and Glory hunangofiannol yn codi stori’r Bill ifanc 10 mlynedd yn ddiweddarach, wrth iddo ddechrau ei hyfforddiant milwrol. Yn y 1950au cynnar, ac yn ystod cyfnod y Rhyfel yn Corea, rhaid iddo ymdopi â bod yn oedolyn ifanc a cheisio penderfynu beth yn union yr hoffai ei wneud â’i fywyd. Mae cast ensemble gwych yn creu darlun swynol, doniol ac ingol o’r cyfnod ar ôl y rhyfel ac o wlad sy’n ceisio gwella’i briwiau.

Phoenix

Gwe 19 — Iau 25 Mehefin Yr Almaen/2014/98mun/is-deitlau/12A. Cyf: Christian Petzold. Gyda: Nina Hoss, Ronald Zehrfeld, Nina Kunzendorf.

Mae cantores Iddewig o’r enw Nelly Lenz wedi goroesi gwersylloedd crynhoi y Natsïaid — ond nid heb golled enbyd. Wedi’i hanffurfio, ac yn ei hôl yn yr hyn sy’n weddill o Berlin gyda’i ffrind ffyddlon, Lene, mae hi’n ceisio dod o hyd i’w gŵr, y cerddor, Johnny. Mae Lene’n credu taw ef a oedd yn gyfrifol am ei bradychu. Ond wedi i Jonny fethu ag adnabod ei wraig, mae yna gyfle i Nelly ddysgu am ei wir deimladau. Ffilm gyffro rymus a chymhleth sy’n cynnwys perfformiad canolog anhygoel. I gael mwy o wybodaeth am y rhaglen ac i ymuno â’r sgwrs, ewch i www.conversationsaboutcinema.co.uk neu ymunwch â ni ar Twitter — @convocinema #convocinema. Cyflwyniad ar y cyd â Watershed, Bryste, a Theatr Ffilm Queens, Belffast. Prosiect gan Rwydwaith Cynulleidfaoedd Ffilm y BFI gyda chefnogaeth y BFI, sy’n dyfarnu arian Y Loteri Genedlaethol.

Gwe 26 Mehefin — Iau 2 Gorffennaf UDA/2015/84mun/15. Cyf: John Maclean. Gyda: Ben Mendelsohn, Michael Fassbender, Kodi Smit-McPhee.

Mae Jay Cavendish yn uchelwr Albanaidd ifanc a dibrofiad yn Colorado yn y 1870au. Mae e’n cychwyn allan ar drywydd gwrthrych ei serch, Rose, sydd wedi ffoi i America gyda’i thad. Ar ôl dadl gyda milwyr, mae Jay’n ymuno â’r ‘bounty hunter’, Silas, ond dyw e ddim yn ynwmybodol eu bod nhw’n erlid Rose a’i thad eu hunain, er mwyn hawlio’r wobr ariannol am eu dal. Ffilm gyntaf freuddwydiol a threisgar gan gerddor y Beta Band, John MacLean, sy’n llawn perfformiadau godidog a hiwmor tywyll.

A Girl Walks Home Alone at Night Gwe 19 — Iau 25 Mehefin UDA/2014/99mun/is-deitlau/15. Cyf: Ana Lily Amirpour. Gyda: Sheila Vand, Arash Marandi, Marshall Manesh.

Mae Arash yn gwneud yr hyn a all i gael deupen y llinyn ynghyd; mae e’n gofalu am ei dad sy’n gaeth i gyffuriau ac yn gweithio i’r pimp lleol yn nhref ddiwydiannol Bad City yn Iran. Ond mae’r ddinas yn lle afiach lle mae tlodi a throsedd yn rhemp, ac mae’r dref yn byw dan fygythiad fampir benywaidd mewn hijab sy’n barnu ac yn cosbi trigolion y dref. ‘Spaghetti western’ hynod brydferth, lawn steil, wedi’i ffilmio mewn du a gwyn trawiadol.


Sinema

The Damned: Don’t You Wish That We Were Dead

Argerich

029 2030 4400

O’r chwith i’r dde: The Damned: Don’t You Wish That We Were Dead, Argerich

20

Llun 8 Mehefin

UDA/2015/110mun/TiCh. Cyf: Wes Orshoski. Gyda: Chrissie Hynde, Mick Jones, Lemmy.

Ffilm newydd gan gyfarwyddwr Lemmy, Wes Orshoski, sy’n adrodd hanes arloeswyr anghofiedig pync, The Damned — y pyncs Prydeinig cyntaf i recordio a’r rhai cyntaf i groesi’r Iwerydd. Yn cynnwys cyfweliadau â llu o’u cyfoedion, cafodd y ffilm ei saethu ledled y byd dros gyfnod o dair blynedd ac mae’n adrodd hanes cymhleth y band a’u dadleuon niferus. Wrth iddynt ddathlu pen-blwydd y band yn 35 oed, gwelwn gynaelodau yn cychwyn allan ar eu teithiau pen-blwydd eu hunain, wrth i eraill frwydro yn erbyn canser. + Ymunwch â ni ar ôl y ffilm am sesiwn holi-ac-ateb gydag aelodau’r band yng nghwmni’r artist a churadur Noys R Us, S Mark Gubb.

No Manifesto: Manic Street Preachers Sul 31 Mai — Iau 4 Mehefin

DG/2015/95mun/15. Cyf: Elizabeth Marcus.

Yn 1991, ffrwydrodd y Manic Street Preachers fel bom yn y sîn roc Brydeinig gan ddatgan eu bwriad o wneud un albwm, gwerthu miliwn o gopïau a chwalu. Flynyddoedd, a nifer helaeth o recordiau hynod boblogaidd, yn ddiweddarach, ac ar ôl colli un aelod a chorddi dyfroedd dirifedi, maent yn dal i fynd. Mae’r ffilm hon yn olwg y tu ôl i’r llen ar brosesau creadigol y band ac yn adrodd hanes eu datblygiad o fod yn fand pync cegog i fod yn ffigyrau o bwys rhyngwladol.

Maw 16 + Mer 17 Mehefin Ffrainc/2012/100mun/is-deitlau/PG. Cyf: Stéphanie Argerich.

Mae Stephanie Argerich yn ffilmio’i theulu ecsentrig ei hun yn y portread grŵp agos-atoch hwn. Gadawodd ei mam, y pianydd o fri rhyngwladol, Martha Bergerich, yr Ariannin yn ddeuddeg oed i astudio yn Fienna ac mae hi bellach yn byw yng Ngwlad Belg mewn tŷ yn llawn o bianos a chathod. Mae ei thad, Stephen Kovacevich, yn byw yn Llundain, a Stephanie ei hun, a’i chwaer, Lyda, yn byw yn y Swistir. Cyfuniad o ddelweddau o’r ystafell ymarfer a hanesion difyr am rôl anhepgorol cerddoriaeth yn eu bywydau.

Danny Collins

Gwe 12 — Mer 17 Mehefin UDA/2014/106mun/15. Cyf: Dan Fogelman. Gyda: Al Pacino, Jennifer Garner, Annette Bening, Bobby Cannavale, Christopher Plummer.

Dyw’r hen rocyr, Danny Collins, ddim yn gallu rhoi’r gorau i’w fywyd a’i arferion roc a rôl. Ond ar ôl i’w reolwr ddod o hyd i lythyr 40-mlwydd-oed a ysgrifennwyd ato gan John Lennon, mae e’n dechrau cwestiynu ei yrfa. Mae Danny yn rhoi’r gorau i hiraethu ac yn cychwyn ar daith emosiynol i ailddarganfod ei deulu a chychwyn ail act ei fywyd.


Sinema

21

O’r chwith i’r dde: The Tales of Hoffmann, Otello

chapter.org

Digwyddiadau i ddathlu Cystadleuaeth Canwr y Byd y BBC I ddathlu dyfodiad rhai o leisiau gorau’r byd i Gaerdydd, rydym yn cyflwyno detholiad o’r operâu mwyaf nodedig ar ffilm. I gael mwy o fanylion ewch i www.bbc.co.uk @cardiffsinger

The Tales of Hoffmann

Der Rosenkavalier

DG/1951/129mun/PG. Cyf: Michael Powell, Emeric Pressburger. Gyda: Moira Shearer, Robert Rounseville, Ludmilla Tchérina.

DG/1962/192mun/U. Cyf: Paul Czinner. Gyda: Elizabeth Schwarzkopf, Otto Edelmann, Sena Jurinac.

Sul 14 + Maw 16 Mehefin

Adferiad moethus sy’n cynnwys delweddau nas gwelwyd o’r blaen a phrawf pendant o ddychymyg gweledol disglair a beiddgarwch artistig diderfyn Powell a Pressburger. Enwebwyd yr addasiad hwn o opera Offenbach am Oscar ac mae’n waith llawn lliw ac emosiynau dwys. Mae’r bardd, Hoffmann, yn cofio tri chariad mawr ei fywyd ac yn ystyried dylanwad tristwch annioddefol ar gelfyddyd aruchel. + Cyflwyniad gan Ddramodydd y WNO, Sophie Rashbrook, cyn y ddau ddangosiad.

Otello

Mer 17 Mehefin Yr Eidal/1986/118mun/is-deitlau/U. Cyf: Franco Zeffirelli. Gyda: Placido Domingo, Katia Ricciarelli, Justino Diaz.

Yn seiliedig ar ddrama Shakespeare, mae opera Verdi yn dangos effeithiau dinistriol cenfigen ac ansicrwydd ar ddyn pwerus. Yn y gred bod Otello yn ffafrio’r Cassio uchelgeisiol ar ei draul ef ei hun, mae Iago’n cynllwynio i ddinistrio Cassio ac Otello fel ei gilydd. Mae Iago’n argyhoeddi’r Otello drwgdybus bod ei wraig brydferth, Desdemona, yn anffyddlon iddo a’i bod yn cael perthynas â Cassio. Daw trasiedi i ddilyn cenfigen — a dialedd wedi hynny. + Ymunwch â ni am weithdy i ysgolion gyda’r WNO a chyflwyniad i’r ffilm, wedi’i recordio ymlaen llaw, gan Sophie Rashbrook.

Iau 18 Mehefin

Opera gomig mewn tair act gan Richard Strauss, gyda Herbert von Karajan, sy’n arwain Cynulleidfa Ffilharmonig Fiena. Mae’r Marschallin aristocrataidd yn awgrymu bod ei chefnder cwrs, y Barwn Ochs, yn perswadio cariad ifanc Marschallin, yr Iarll Octavian Rofrano, i fod yn Farchog y Rhosyn iddo, er mwyn ennill serch Sophie, sydd yn ferch i ŵr bourgeois cyfoethog. Ond mae Octavian yn cyfarfod â Sophie ac mae’r ddau’n syrthio mewn cariad ar yr olwg gyntaf. Yn ymwybodol o’r gwahaniaeth oedran rhyngddi hi ag Octavian, mae Marschallin yn ystyried yn bruddglwyfus dreigl amser ac anwadalwch dynion — cyn ildio Octavian i’r fenyw iau.


22

Sinema

029 2030 4400

O’r brig: Knife in the Water, Ashes and Diamonds

“Gweithiau sinematig sy’n llawn o weledigaeth bersonol, ymrwymiad cymdeithasol a chyfrifoldeb barddonol, ynghyd â dogn helaeth o rym emosiynol a gweledol” Martin Scorsese

Claire Vaughan Swyddog y Rhaglen Ffilm a Sinema Dw i wrth fy modd ein bod yn gallu dangos hoff ffilmiau Martin Scorsese ochr yn ochr ag enillydd Oscar y Ffilm Iaith Dramor eleni, Ida, ynghyd â ffilmiau newydd i ddathlu Sinema Gwlad Pwyl. Ni lwyddodd diwylliant gormesol y Rhyfel Oer i gyfyngu ar angerdd gwneuthurwyr ffilm, a weithiai dan fygythiad parhaol sensoriaeth. I’r gwrthwyneb, yn wir — arweiniodd cyfuniad o ddyfeisgarwch a digrifwch drygionus at gorff o ffilmiau hynod drawiadol. Bydd un o gyfarwyddwyr chwedlonol y cyfnod, Krzysztof Zanussi, yn ymuno â ni i drafod ei ffilm ddiweddaraf, Foreign Body — cyfle ardderchog i ddyfnhau ein hymwneud â diwylliant ffilm!


Sinema

23

The Hourglass Sanatorium

chapter.org

Martin Scorsese yn cyflwyno: Campweithiau Sinema Gwlad Pwyl Tymor o ffilmiau wedi’u dethol gan Martin Scorsese — clasuron a gweithiau newydd cyfoes a disglair o Wlad Pwyl.

The Hourglass Sanatorium

Blind Chance

Gwlad Pwyl/1973/125mun/is-deitlau/15. Cyf: Wojciech Jerzy Has. Gyda: Jan Nowicki.

Gwlad Pwyl/1987/114mun/is-deitlau/15. Cyf: Krzysztof Kieślowski. Gyda: Boguslaw Linda.

Ffilm rithweledol a phensyfrdanol sy’n cyfuno nifer o weithiau ffantasi byrion Bruno Schulz er mwyn creu darn Baróc am ddyn yn ymweld â sanatoriwm dirgel. Mae e’n cyrraedd byd sydd yn seiliedig yn gymaint ar ei bryderon a’i atgofion dyfnion ei hun ag ar unrhyw fath o realiti wrthrychol; mae’r byd hwnnw’n llawn o adar egsotig, awtomata mecanyddol sy’n ymdebygu i ffigurau hanesyddol a delweddau swynol o orffennol Iddewig diflanedig Gwlad Pwyl.

Gwaharddwyd y ffilm wleidyddol hon am flynyddoedd ac mae naratif Kieślowski mewn tair rhan yn canolbwyntio ar ymgais y myfyriwr meddygol Witek i ddal trên — a’r hyn sy’n digwydd wedi hynny. A gaiff ef ei recriwtio gan y llywodraeth, neu a fydd e’n mynd yn wrthdystiwr gwleidyddol? Neu a fydd, yn lle hynny, yn parhau â’i astudiaethau yn llwyr ar wahân i bob dim? A fydd e’n gallu rheoli’r posibiliadau hyn neu a oes yna dynged sy’n llywio ei fywyd? Mae’r fersiwn newydd-ei-hadfer hon yn cynnwys golygfeydd nas gwelwyd yn gyhoeddus o’r blaen.

Sad 6 + Iau 11 Mehefin

+ Ymunwch â’r gwneuthurwr ffilmiau a’r ffan pybyr o ffilmiau arswyd, Ben Ewart-Dean, ar ôl y dangosiad ar ddydd Sadwrn 6 Mehefin am drafodaeth o themâu’r ffilm.

Ashes and Diamonds Sul 7 + Maw 9 Mehefin

Gwlad Pwyl/1958/104mun/is-deitlau/12. Cyf: Andrzej Wajda. Gyda: Zbigniew Cybulski.

Un o gampweithiau digamsyniol cydnabyddedig sinema Gwlad Pwyl. Mae ffilm Wajda yn cyfleu cynnwrf a dryswch y cyfnod yn union wedi’r Ail Ryfel Byd, wrth i gyn-arwr gyda’r Gwrthsafiad droi’n llofrudd gwrthGomiwnyddol. Llwyddodd perfformiad carismataidd Zbigniew Cybulski yn rôl y llofrudd i grisialu ofnau ac ansicrwydd cenhedlaeth gyfan.

‘Un o’r ffilmiau gorau erioed’ Martin Scorsese

Sul 21 + Maw 23 Mehefin

Knife in the Water Sul 28 + Maw 30 Mehefin

Gwlad Pwyl/1962/94mun/is-deitlau/PG. Cyf: Roman Polanski. Gyda: Leon Niemczyk, Jolanta Umecka, Zygmunt Malanowicz.

Mae ffilm nodwedd gyntaf Roman Polanski yn cynnwys elfennau digon syml i bob pwrpas: dau ddyn, menyw, cwch hwylio, dŵr a sgôr hudolus gan un o gewri byd jazz, Krzysztof Komeda. Ond arweiniodd yr elfennau hynny at greu un o ffilmiau seicolegol mwyaf gafaelgar ei chyfnod — ac at enwebiad cyntaf Gwlad Pwyl am Oscar. Trefnir tymor ‘Martin Scorsese yn cyflwyno: Campweithiau Sinema Gwlad Pwyl’ gan DI Factory, all DOTS, Propaganda Foundation a The Film Foundation, ar y cyd â stiwdios ffilm Tor, Zebra a Kadr, gyda chydweithrediad Sefydliad Clyweledol Cenedlaethol Gwlad Pwyl, Gweinyddiaeth Diwylliant a Threftadaeth Gweriniaeth Gwlad Pwyl a Sefydliad Ffilm Gwlad Pwyl.


Sinema

029 2030 4400

Gyda’r cloc o’r chwith: The Connection, London Road, Futuro Beach

24

The Connection Gwe 19 — Iau 25 Mehefin

Ffrainc/2015/135mun/15. Cyf: Cédric Jimenez. Gyda: Jean Dujardin, Gilles Lellouche, Céline Sallette.

Ffilm gyffro yn arddull y 1970au a ysbrydolwyd gan stori wir — mae’n adrodd hanes ustus ym Marseilles, Pierre Michel, a’i grwsâd i ddatgymalu’r grŵp smyglo enwocaf erioed, y ‘French Connection’. Mae Michel yn ceisio dal yr arweinydd carismatig a chyfoethog, Gatean “Tany” Zampa, sy’n gyfrifol am y cyflenwad mwyaf o heroin i’r Unol Daleithiau. Er bod Michel yn eofn a dygn, ac yn gallu galw ar dasglu o heddweision elit, mae Zampa wastad fel petai ar y blaen iddynt. Mae Michel yn cael ei orfodi i wneud penderfyniad mwyaf anodd ei fywyd: parhau â’i grwsâd neu sicrhau diogelwch ei deulu.

London Road

Gwe 26 Mehefin — Iau 2 Gorffennaf DG/2015/92mun/18. Cyf: Rufus Norris. Gyda: Olivia Coleman, Tom Hardy, Anita Dobson.

Addasiad o sioe gerdd arobryn y National Theatre sy’n croniclo’r digwyddiadau a ysgydwodd drigolion Suffolk yn 2006, pan gafwyd hyd i gyrff pump o fenywod yn Ipswich. Cafodd trigolion London Road eu hunain reit yng nghanol y digwyddiadau trasig hyn ac mae’r gwaith arloesol hwn yn gwau at ei gilydd eiriau’r rheiny a oedd yn rhan o’r profiad er mwyn creu stori ddyrchafol am gymuned sy’n dod at ei gilydd yn ystod cyfnod tywyll iawn.

Futuro Beach

Gwener 26 Mehefin — Mer 1 Gorffennaf Brasil/2014/106mun/15. Cyf: Karim Aïnouz. Gyda: Wagner Moura, Clemens Schick, Jesuíta Barbosa.

Mae Donato yn achubwr bywydau ar draeth ym Mrasil sydd yn llwyddo i achub bywyd Konrad, twrist o’r Almaen, ond yn methu ag achub ei ffrind arall. Mae eu profiad cyfun o’r digwyddiad yn arwain at berthynas ac mae Donato yn gadael popeth, gan gynnwys ei fam ddioddefus a’i frawd iau, Ayrton, er mwyn teithio i Berlin gyda Konrad. Ar ôl cyrraedd yno, mae ei ymchwil am gariad yn troi’n ymchwil dyfnach i ddod o hyd i’w hunaniaeth ei hun ac, wyth mlynedd yn ddiweddarach, mae ymweliad annisgwyl gan Ayrton yn dod â’r tri dyn at ei gilydd unwaith yn rhagor, i geisio dod i delerau â phoen, colled a hiraeth. Ffilm deimladwy am golli a chael hyd o’r newydd i fywyd. + Ymunwch â ni ar ôl y dangosiad ar ddydd Mawrth 30 Mehefin am gyfarfod o grŵp trafod ffilm LGBTQ Chapter.


chapter.org

Sinema

25

Moomins on the Riviera

Ffilmiau i’r Teulu Cyfan

Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn a dydd Sul am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn. Archebwch ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Noddir gan Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk 02920 666688

Avengers: Age of Ultron

Paddington

UDA/2015/142mun/12A. Cyf: Joss Whedon. Gyda: Robert Downey Jr, Chris Evans, Mark Ruffalo.

DG/2014/95mun/PG. Cyf: Paul King. Gyda: Ben Whishaw, Sally Hawkins, Julie Walters.

Ar ôl i Tony Stark geisio aildanio cynllun heddwch segur, mae pethau’n mynd o chwith ac mae angen i’r Avengers atal y robot creulon Ultron rhag rhoi ar waith ei gynllun anfad ar gyfer hil-laddiad.

Mae arth ifanc, sy’n hanu o Beriw ond sydd yn dwli ar bob peth Prydeinig, yn teithio i Lundain i chwilio am gartref. Ar ol mynd ar goll a’i gael ei hun ar ei ben ei hun yng ngorsaf Paddington, caiff groeso gan deulu hyfryd y Browns.

Sad 6 + Sul 7 Mehefin

Robot Overlords Sad 13 + Sul 14 Mehefin

DG/2015/90mun/12A. Cyf: Jon Wright. Gyda: Gillian Anderson, Ben Kingsley, Callan McAuliffe.

Ar ôl ymosodiad gan aliwns, mae trigolion y Ddaear yn cael eu gwahardd rhag gadael eu cartrefi ac yn gorfod gwisgo dyfeisiau electronig, wrth i’w harglwyddi mecanyddol wneud gwaith ymchwil dirgel. Pan ddaw grŵp o frodyr a chwiorydd wedi’u mabwysiadu o hyd i ffordd o dwyllo eu dyfeisiau electronig, maent yn cychwyn ar gwest i ddod o hyd i’w tad coll.

Moomins on the Riviera Sad 20 + Sul 21 Mehefin

Y Ffindir/2014/80mun/U. Cyf: Xavier Picard, Hanna Hemilä. Gyda: Maria Sid, Mats Långbacka, Kristofer Gummerus.

Mae llong môr-ladron a dyfodiad Little My yn tarfu ar fywyd heddychlon Moominvalley ac yn cymell y Moomins i fynd ar daith i’r Riviera i ymlacio ar ôl eu hanturiaethau ar y môr mawr.

Sad 27 + Sul 28 Mehefin

Carry on Screaming

Bob dydd Gwener am 11am, mae Carry On Screaming yn cynnig cyfle i rieni neu ofalwyr weld ffilm heb orfod poeni y bydd eu babi’n aflonyddu ar eraill. Gweler y calendr am fanylion y dangosiadau arbennig hyn i bobl â babanod dan flwydd oed. Mae Chapter yn croesawu teuluoedd ac ymwelwyr ifainc ac mae gennym raglen fywiog o ddigwyddiadau cyfranogi ac addysg — y nod yw gwneud ein holl gyflwyniadau celfyddydol cyfoes yn hygyrch. Mae manylion ein gweithgareddau addysg i’w cael ar dudalennau 26-27. Am fod ein mannau cyhoeddus prysur yn fannau lle cyflwynir gweithgareddau ar bob adeg o’r dydd, gofynnwn yn garedig i rieni a gofalwyr sicrhau bod plant yn cael eu goruchwylio tra byddant yn y ganolfan er mwyn sicrhau bod y gofod mor ddiogel a phleserus â phosib i bob un o’n cwsmeriaid. Mae detholiad o gêmau bwrdd ar gael i’w llogi yn ystod eich ymweliad â Chapter ac mae gennym becynnau i blant, gan gynnwys taflenni gwaith sy’n ymwneud â’n rhaglen gelfyddydol. Gofynnwch i aelod o staff y Swyddfa Docynnau am fwy o wybodaeth.


26

Addysg

We Went To War

Chapter Sewcial

Llun 22 Mehefin 10am Dangosiad i Ysgolion a Lansiad Adnodd iPad Rhyngweithiol Yn 1970, cwblhaodd Michael Grigsby y ffilm wobrwyol, I Was a Soldier, a oedd yn canolbwyntio ar David, Dennis a Lamar, milwyr a oedd newydd ddychwelyd, ar y pryd, o Fietnam. Mae We Went to War yn codi’u hanes dros ddeugain mlynedd yn ddiweddarach. Dangosiad i’w ddilyn gan sesiwn holi-ac-ateb gyda’r cynhyrchydd, Rebekah Tolley.

Resistance

Llun 29 Mehefin 10am Dangosiad i Ysgolion a Lansiad Adnodd iPad Rhyngweithiol Ym 1944, mae grŵp o fenywod mewn pentref Cymreig diarffordd yn deffro un bore ac yn cael bod eu gwŷr wedi diflannu. Yn seiliedig ar y nofel gan Owen Sheers. Dangosiad i’w ddilyn gan sesiwn holi-ac-ateb gyda Gill Branston, awdur The Media Studies Handbook.

029 2030 4400

Sul 7 + Sul 14 + Sul 21 + Sul 28 Mehefin Cwrs i ddechreuwyr 1.30pm–3pm Cwrs canolradd 3.30pm–5pm Addas i blant 8-12 oed Dewch i ddechrau gwnïo! Bydd y sesiynau i ddechreuwyr yn cyflwyno sgiliau gwnïo sylfaenol ac fe fydd cyfranogwyr yn gallu cymryd eu creadigaethau adre’ gyda nhw bob wythnos. Mae’r sesiynau canolradd wedi’u bwriadu ar gyfer plant 8-12 oed y mae ganddynt rywfaint o brofiad eisoes o wnïo, neu’r rheiny sydd wedi cwblhau un o’n cyrsiau i ddechreuwyr. Bydd y sesiynau canolradd yn canolbwyntio ar greu a chwblhau prosiectau gwnïo mwy o faint ac yn datblygu sgiliau cynllunio, dylunio a chymhwyso technegol. Darperir yr holl ddeunyddiau angenrheidiol. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. £6 y sesiwn


chapter.org

Addysg

I ddod dros yr haf!

Dewch i Animeiddio!

Ysgol Haf Theatr Ieuenctid Chapter (8-12 oed)

Llun 27 — Gwe 31 Gorffennaf 10.30am–4pm ‘Extravaganza’ theatr gerddorol pum niwrnod o hyd. Bydd yr ysgol haf hon i blant 8 — 12 oed yn archwilio byd Frozen Disney. Bydd cyfranogwyr yn dysgu caneuon, yn ail-greu golygfeydd ac yn datblygu eu sgiliau perfformio. Felly, os ydych chi wrth eich bodd â Frozen ac yn hoff o actio, dyma’r ysgol haf i chi! Bydd cyfranogwyr yn paratoi ar gyfer perfformiad agored ar ddiwedd yr wythnos ym mhrif ofod theatr Chapter. Bydd angen pecyn bwyd a photel ychwanegol o ddŵr bob dydd. £100

27

Gweithdai Animeiddio i Bobl Ifainc ar Sbectrwm Awtistiaeth Llun 6 + Llun 13 + Llun 20 + Llun 27 Awst 10.30am, 12.30pm + 2.30pm bob dydd O ganlyniad i boblogrwydd y gweithdai ymarferol ardderchog hyn i bobl ifainc ar sbectrwm awtistiaeth, byddwn yn cynnal deuddeg o weithdai ychwanegol yr haf hwn. Nifer cyfyngedig o leoedd fydd ar gael ac fe gânt eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin gaiff falu. Mae’r sesiynau hyn yn gyfle i’r bobl ifainc gychwyn allan ym maes animeiddio ac i ddysgu a datblygu sgiliau mewn awyrgylch cefnogol a chreadigol. Does dim angen profiad o animeiddio felly os ydych chi wedi cymryd rhan yn un o’n cyrsiau deg wythnos blaenorol neu yn awyddus i animeiddio am y tro cyntaf, bydd yna groeso cynnes i chi yn Chapter! £12 y sesiwn neu £40 am bob un o’r 4 sesiwn (1 yr wythnos)

I gael mwy o wybodaeth am unrhyw un o’r cyrsiau hyn, a manylion ynglŷn â sut i gofrestru, cysylltwch â learning@chapter.org.


28

Archebu/Gwybodaeth

029 2030 4400

GWYBODAETH Sut i Archebu Tocynnau

Gwybodaeth

Dros y ffôn — ffoniwch ni ar 029 2030 4400. Rydym yn derbyn pob un o’r prif gardiau credyd. Galwch heibio — mae ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 11am–8.30pm, ac ar y Sul o 3pm–8.30pm. Ar–lein: Gallwch archebu ar www.chapter.org bob awr o’r dydd a’r nos Consesiynau: Mae cyfraddau disgownt ar gael i fyfyrwyr, pobl dros 60 oed, plant, y di–waith, pobl anabl, deiliaid cerdyn MAX ac i Ffrindiau Chapter a deiliaid Cerdyn Chapter. Bydd angen i chi gyflwyno prawf o’ch cymhwyster i dderbyn cyfradd ostyngol. Archebion grŵp: Prynwch 8 tocyn ac fe gewch chi’r 9fed yn RHAD AC AM DDIM. Noder os gwelwch yn dda • dim ond un disgownt y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw un adeg • rydym yn hapus i dderbyn archebion ymlaen llaw ond ni allwn gadw tocynnau i’r naill ochr • os cyrhaeddwch chi’n hwyr mae hi’n bosib y cewch chi’ch atal rhag mynychu eich digwyddiad. Cyflwynir rhai o’n ffilmiau â Disgrifiadau Sain ac Is–deitlau Meddal ond nid yw’r wybodaeth hon bob amser ar gael ar adeg argraffu’r cylchgrawn. Gweler ein gwe–fan am fanylion neu piciwch draw i’r Swyddfa Docynnau yn ystod yr wythnos y mae’r ffilm yn cael ei rhyddhau.

Cwmnïau ac Artistiaid Cysylltiedig Mae Chapter yn gartref i gwmnïau theatr, cwmnïau dawns, stiwdios animeiddio, gwneuthurwyr printiau, crochenwyr, dylunwyr graffeg, dylunwyr deunydd symudol, cyfansoddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, cyhoeddwyr cylchgronau, artistiaid annibynnol a llawer iawn mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Sinema Cyn 5pm O 5pm ymlaen £4.50 (£4.00) £7.90 (£7.20) Llawn Cons £3.50 (£3.00) £5.80 (£5.10) Cerdyn + Cons £3.00 (£2.50) £5.00 (£4.50) DISGOWNT DYDD MAWRTH Tocynnau’r holl brif ddangsiadau — £4.40

Gweithdai a Dosbarthiadau Rydym yn cynnal amrywiaeth eang o weithdai dyddiol a dosbarthiadau gydag ymarferwyr annibynnol, gan gynnwys ballet, zumba, ioga, crefft ymladd, massage i fabanod, cerddoriaeth i blant, pilates, tango, fflamenco, ysgrifennu creadigol, gwersi cerddoriaeth a mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Sut i gyrraedd Chapter Fe ddewch chi o hyd i ni yn Nhreganna, i’r gorllewin o ganol y ddinas. Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE Ar Droed Mae hi’n daith gerdded hamddenol o ryw 20 munud o ganol y ddinas. Ar Fws Mae bysus rhif 17, 18 a 33 yn aros gerllaw ac yn gadael bob pum munud o ganol y ddinas. Ar Feic Mae digon o raciau beic ar flaen yr adeilad. Parcio Mae gennym faes parcio yng nghefn yr adeilad ac mae meysydd parcio lleol eraill wedi eu nodi ar y map. Gofynnwn i chi barchu ein cymdogion os gwelwch yn dda drwy osgoi parcio mewn strydoedd cyfagos.

Prisiau ymlaen llaw/ar–lein mewn cromfachau. Mae “Ymlaen llaw” yn golygu unrhyw bryd cyn diwrnod y dangosiad.

aff nd Lla

Springfield Pl.

ad

mC ha cen res

Ha m i l t o n

St

t

Gr

King’s Ro

nd Wy

ane

Road

L Gray

. Library St

St. ay

Treganna

Le c h kwit

Church Rd.

Heol Ddwy rein i o l y B o n t F a en Penllyn Rd.

Harve

St Talbot

Orc h a r d P l.

rn Seve

St. Gray M a rk e t P l .

treet yS

e St. Glynn

d Roa

d hna arc lyF

Heo

o 6pm

rt S

t.

Road

Earle Pl.

A l be

P — meysydd parcio rhad ac am ddim — rac feics

r R—oadarhosfan bysus Majo

I Ganol Dinas Caerdydd to n ling Wel

t

e Stre

Mynediad i bawb Mae Chapter yn croesawu ymwelwyr anabl. Os oes gennych anghenion mynediad penodol, ffoniwch ein swyddfa docynnau ar 029 2030 4400, minicom 029 2031 3430.


chapter.org

Cymryd Rhan

29

CYMRYD RHAN Cerdyn CL1C

Cadwch mewn cysylltiad

Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawr–lwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Ymunwch â ni ar–lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

Ffrindiau Chapter Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40

eAmserlen rad ac am ddim eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E–bostiwch adam.chard@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e–bost.

Cynllun Myfyrwyr Chapter Ydych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth am ddim a manteisio ar gynigion arbennig nodedig, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Jennifer — jennifer.kirkham@chapter.org www.chapter.org/cy/aelodaeth–myfyrwyr–chapter

Rydym yn falch o fod yn rhan o Hynt. www.hynt.cym Hoffai Chapter gydnabod cefnogaeth hael y sefydliadau a’r grwpiau canlynol:

Cronfa Gymunedol Tirlenwi Sefydliad Esmée Fairbairn Rhaglen Ddiwylliant yr UE Sefydliad Baring Sefydliad Garfield Weston Sefydliad Foyle Gwobr Biffa Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston Grŵp Admiral Cyf Sefydliad Moondance ar gyfer y Celfyddydau a Chwaraeon Sefydliad Elusennol Trusthouse Y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru Plant mewn Angen y BBC Sefydliad Waterloo Ymddiriedolaeth Ynni Gwyrdd ScottishPower Yr Ymddiriedolaeth Ddarlledu Gymreig SEWTA

Richer Sounds Sefydliad y Brethynwyr Momentum Sefydliad Henry Moore Google Sefydliad Jane Hodge Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson Ymddiriedolaeth People’s Postcode Ymddiriedolaeth Feddygol Dunhill Legal & General Institut für Auslandsbeziehungen e.V Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm Ymddiriedolaeth Ernest Cook Lloyds TSB Arwyddion Morgan Ymddiriedolaeth Elusennol y Garrick Barclays

Celfyddydau & Busnes Cymru Penderyn Ymddiriedolaeth Austin & Hope Pilkington Sefydliad Rhyngwladol Singapore Gwestai Puma: Gwesty’r Angel Caerdydd Maes Awyr Caerdydd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru Ymddiriedolaeth Elusennol Gibbs Cynllun Cymunedol Ceredigion Ymddiriedolaeth Elusennol Steel Sefydliad Boshier–Hinton 1st Office Ymddiriedolaeth Oakdale Cwmni Plastig Dipec Nelmes Design

Ymddiriedolaeth Elusennol Coutts Elusen Wake Bruce Funky Monkey Feet Sefydliad Finnis Scott Banc Unity Trust Hugh James Cymdeithas Celfyddydau Cyfoes Cymru Dot Foundry JVH Gidden & Rees Western Power Distribution Ymddiriedolaeth Follett Celfyddydau & Phlant Cymru Aduniad Merched Ysgol Uwchradd Canton Grŵp y Co–operative Llysgenhadaeth Gwlad Belg Llywodraeth Queensland


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.