Chapter Gorffennaf 2015

Page 1

029 2030 4400

@chaptertweets

chapter.org


02

Croeso

Croeso i’ch cylchgrawn misol sy’n cynnwys holl fanylion rhaglen Chapter ym mis Gorffennaf. Y mis hwn bydd yr Oriel yn croesawu arddangosfa newydd. Mae Thirteen Blackbirds Look at a Man (tt4–7) yn sioe grŵp sy’n ein harwain ymhell o fywyd bob dydd i fan llawn dychymyg, dylanwad straeon tylwyth teg a mytholeg. Y mae hefyd yn cynnwys dogn dda o hiwmor. Os ydych chi’n genfigennus o’r holl bobl hynny sydd ar eu ffordd i ŵyl Caeredin yr haf hwn, peidiwch â phoeni, mae ein llwyfan yn barod i gyflwyno rhagolygon arbennig o sioeau blaenllaw a fydd yn teithio i’r Alban o Gymru. Gallwch fwynhau detholiad o sioeau comedi — Penwythnosau Comedi Little Wander, gan dîm Gŵyl Gomedi Machynlleth (tt14–15) a Gŵyl Gomedi Caerdydd (t17) — a bydoedd theatrig rhyfeddol a rhyngweithiol fel ‘Flossy and Boo’s Curiosity Shop’ (t16) — dewch i’w gweld nhw cyn iddynt ddianc i Gaeredin! Bydd ein sinema yn cyflwyno detholiad o ffilmiau gwych i’r teulu ac i ddiddanu’r plant yn ystod gwyliau’r haf, o Jurassic World (t31), i’r bythol boblogaidd Minions (t31). Ac fe fydd ein swyddog addysg, Matt, wrth law i gynnig diwrnodau gweithgareddau ffilm hefyd (tt32–33). Mae hi’n addo bod yn fis prysur — fel bob amser! Diolch am ddarllen ac fe welwn ni chi cyn hir.

chapter.org

Defnyddiwch y côd QR hwn i lawr–lwytho copi digidol o gylchgrawn Chapter

Delwedd y clawr: Cathie Pilkington, The Foundling, 2010. Jesmonit, paent. 56 x 30 x 25cm. Llun: Graham Challifour.

Chapter Heol y Farchnad, Caerdydd CF5 1QE 029 2030 4400 www.chapter.org ymholiadau@chapter.org


chapter.org

Uchafbwyntiau

03

Oriel tudalennau 4–7

Cefnogwch Ni tudalen 8

Bwyta Yfed Llogi tudalen 9

Theatr

Cerdyn CL1C

tudalennau 10–18

Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawr–lwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Chapter Mix tudalen 19

Ffrindiau Chapter Sinema tudalennau 20–31

Addysg tudalennau 32–33

Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40

Cadwch mewn cysylltiad Ymunwch â ni ar–lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

Gwybodaeth a Sut i archebu tocynnau tudalen 34

eAmserlen rad ac am ddim eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E–bostiwch adam.chard@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e–bost.

Cysylltwch â ni @chaptertweets facebook.com/chapterarts

Cymryd Rhan tudalen 35

Calendr tudalennau 36–37

Nodwch os gwelwch yn dda bod copïau print bras o’n cylchgrawn ar gael ar gais. Cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau ar 029 2030 4400.


Oriel

Annie Whiles, Blackheath Donkey, 2011

04 029 2030 4400


Oriel

05

Annie Whiles, One of the Gapers (manylyn), 2015

chapter.org

Thirteen Blackbirds Look at a Man Fiona MacDonald, Cathie Pilkington, Annie Whiles & Sean Ashton Rhagolwg: Gwe 10 Gorffennaf 6–8pm Arddangosfa: Sad 11 Gorffennaf — Sul 6 Medi Mae artistiaid yr arddangosfa hon yn chwilio am gyseiniant a chysylltiad mewn mytholeg. Waeth beth fyddo gofynion ffasiynau cyfoes, mae eu gwaith yn ddyhead greddfol ac yn gwest am fan lle mae pethau bob dydd yn encilio, lle y gall teyrnas y dychymyg ddwyn ffrwyth. Rydym yn byw mewn byd cymhleth lle mae cysylltedd, a ystyrid unwaith yn beth hudolus, yn cael ei ystyried bellach mewn ffyrdd mwyfwy rhesymegol. Ac eto mae yna rywbeth sydd yn aros, rhyw elfen anesboniadwy: mae mytholeg fel petai’n ‘gronfa’ o’r ‘dirgelion’ hyn. Man lle mae alegorïau a chyfresi cymhleth o ddigwyddiadau fel petaent yn ceisio egluro deddfau natur a’r bydysawd – a chadw hefyd elfen o ryfeddod sydd yn gwrthsefyll rheswm. Mae’r parth hwn, y parth mytholegol, yn un sy’n cofleidio gwrthddywediadau ac mae creulondeb a drama ei straeon yn syfrdanol, ar brydiau.

Mae artistiaid yr arddangosfa hon yn ymwneud â’r gofod mytholegol ag angerdd greddfol a dogn helaeth o hiwmor. Mae eu gweithiau fel petaent yn datgelu syniadau am gyfriniaeth weledol a theimladau neo– grefyddol. Mae’r cymeriadau wedi eu tynnu o fywyd go iawn, o’r Beibl, o chwedlau Groegaidd neu o straeon tylwyth teg Almaenaidd ond maent wedi eu gwreiddio bob un mewn perthynas â ‘naratifau cysegredig’. Cynhyrchwyd cyhoeddiad yn cynnwys ysgrif gan Sean Ashton i gyd–fynd â’r arddangosfa a bydd hwn ar gael am £10 yn ein swyddfa docynnau o fis Awst ymlaen. I archebu copi ymlaen llaw, e–bostiwch visual.arts@chapter.org. Cofiwch gynnwys y côd 13JULY i gael gostyngiad o 20%, cyn diwedd mis Gorffennaf.

Oriau agor yr arddangosfa: Dyddiau Mawrth, Mercher, Sadwrn a Sul 12–6pm; dydd Iau a dydd Gwener 12–8pm; ar gau ar ddydd Llun


06

Mae Fiona MacDonald yn tynnu ar reolau diwylliannol straeon tylwyth teg a’r dychymyg. Mae’r hierarchaeth draddodiadol rhwng pobl, anifeiliaid a phlanhigion yn diflannu ac mae hi’n archwilio syniadau am ansicrwydd, croesrywedd a chyd–ddibyniaeth. www.fionamacdonald.co.uk

Mae Cathie Pilkington yn gerflunydd ac yn creu darnau ag amrywiaeth eang o ddeunyddiau. Mae hi’n cynnwys elfennau parod yn eu gwaith – caiff y rhain eu rhoi at ei gilydd mewn modd anstrwythuredig – yn ogystal â thechnegau a phrosesau mwy cyfarwydd fel modelu, cerfio a phaentio. www.marlboroughfineart.com

Mae Annie Whiles yn ymwneud â chelfyddyd fel petai’n ymwneud â pheth tra amheus. Mae ganddi ddiddordeb yn ein perchnogaeth o hud a lledrith, fel petai’n rhyw fath o eiddo coll diwylliannol. Mae gwaith Whiles yn cyfeirio at iaith arwyddluniol ac at arteffactau

Oriel

seremonïol, defodol a chymdeithasol. Mae hi’n creu cerfiadau pren, darnau wedi’u brodio â llaw, darluniau a ffilm. www.anniewhiles.com

Mae Sean Ashton yn gelwyddgi sy’n byw yn Llundain. Mae ei gelwyddau diweddar yn cynnwys ‘Mr Heggarty Goes Down’ i Collapse Vol. VIII — stori am academydd sy’n defnyddio’i gorff i brofi damcaniaeth am bosibiliadau radical — a ‘The Portrait of Cary Grant’, sydd yn waith dychanol am gasglwr gweithiau celfyddydol gan enwogion. Yn 2007, cyhoeddodd lyfr o gelwyddau, ‘Sunsets and Dogshits’ (Alma Books), casgliad o adolygiadau o weithiau celf apocryffaidd, llyfrau, digwyddiadau chwaraeon a ffenomenau diwylliannol eraill. Derbyniodd yr arddangosfa hon gefnogaeth ariannol gan Sefydliad Henry Moore, Prifysgol Goldsmiths Llundain a Chanolfan Diwylliant a’r Celfyddydau Prifysgol Beckett Leeds. Gyda diolch i Oriel Celfyddyd Gain Marlborough, Llundain.

029 2030 4400

Sgwrs am 2

Sad 18 Gorffennaf 2pm Mae ein ‘Sgyrsiau am 2’ yn deithiau tywysedig o gwmpas yr arddangosfa gyfredol, yng nghwmni ein Tywyswyr Byw, Richard Higlett a Thomas Williams. Maent yn gyfle i ddysgu mwy am yr arddangosfa gyfredol ac am ddulliau gwaith unigryw yr artistiaid. Nid oes angen archebu ymlaen llaw — dewch draw i flaen yr Oriel cyn 2pm i ymuno â ni! RHAD AC AM DDIM


chapter.org

Gyda’r cloc o’r brig: Cathie Pilkington, Singerie, 2004. Jesmonit, ffwr, gwlân, pren, ategolion parti, 200 x 140 x 100cm. Gyda chaniatâd yr artist a Marlborough Fine Art, Llundain; Fiona MacDonald, Rubbing in a Wood (with beech) 2015, Gwaith ar y gweill, graffit a chyfryngau cymysg ar bapur melyn, 290 x 420cm; Fiona MacDonald, Actaeon’s Second Look, 2015, Fideo Manylder Uchel, hyd 5 munud.

Oriel

07


08

Cefnogwch Ni

029 2030 4400

Mae Chapter yn elusen gofrestredig ac rydym yn dibynnu ar gefnogaeth gan unigolion a busnesau er mwyn gallu cyflwyno ein rhaglen artistig amrywiol a’n gwaith addysgol pwysig. Rydym yn ddiolchgar am bob ceiniog a dderbyniwn ac fe allwn gynnig ambell beth gwych i chi yn gyfnewid. Mae yna nifer o wahanol ffyrdd o gymryd rhan...

Unigolion

Busnesau

Ffrindiau

Clwb

Ymunwch â chynllun Ffrindiau Chapter ac fe gewch chi fuddion sy’n amrywio o ostyngiadau ar docynnau a bwyd a diod yn ein Caffi Bar, i wahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn Ffrindiau hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C.

Cynllun aelodaeth Chapter i fusnesau. Am ffi flynyddol fechan, gall eich busnes chi fwynhau manteision sylweddol yn Chapter, a’r rheiny’n cynnwys cyfleoedd i rwydweithio, defnydd o’n mannau llogi hyblyg a gostyngiadau i chi a’ch staff ar docynnau sinema a theatr yn ogystal â phrisiau gostyngol yn ein Caffi Bar. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.chapter.org/cy/chapter–clwb.

Ffrind Efydd : £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40

Rhoddion Cofrestrwch i wneud cyfraniadau unigol neu roddion reolaidd i Chapter, er mwyn chwarae rhan lawn yn ein gwaith elusennol. Gallwch wneud cyfraniadau ar–lein, ar www.chapter.org/cy/ cefnogwch–ni neu drwy ymweld â’n Swyddfa Docynnau. Gallwch wneud cyfraniadau drwy neges destun erbyn hyn hefyd — tecstiwch ‘Chap15’, ynghyd â’r swm yr hoffech ei roi, at 70070. Fydd hi ddim yn costio ceiniog i chi anfon y neges destun ac fe fyddwn ni’n derbyn 100% o’ch cyfraniad.

Myfyrwyr

Ydych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth rad ac am ddim a manteisio ar gynigion arbennig ardderchog, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? Cofrestrwch heddiw drwy ymweld â www.chapter.org/cy/ chapter–student–membership.

Nawdd

Yn 2014, dyfarnodd Celfyddydau & Busnes Cymru Wobr Gyffredinol Categori’r Celfyddydau i Chapter am ein perthynas waith ragorol â busnesau. Mae yna nifer o gyfleoedd ar gael i noddi a’r rheiny’n cynnig buddion gwych, gan gynnwys cyfranogiad staff, lletygarwch corfforaethol a hyrwyddo brand.

Cymynroddion

Mae gadael cymynrodd i Chapter yn fodd i ddiogelu ein gwaith at y dyfodol. Os hoffech chi ystyried gadael rhodd i Chapter yn eich Ewyllys, dylech ofyn am gyngor gan eich cyfreithiwr yn y lle cyntaf. Os ydych chi eisoes wedi crybwyll Chapter yn eich Ewyllys, rhowch wybod i ni, fel y gallwn gydnabod eich cyfraniad yn y modd mwyaf priodol.

I gael mwy o wybodaeth am unrhyw un o’r materion uchod, cysylltwch os gwelwch yn dda ag Elaina Gray ar 02920 355662 neu e– bostiwch elaina.gray@chapter.org.


chapter.org

Bwyta Yfed Llogi

Burgerstock

adeiladu tîm, bydd ein cyfleusterau gwych, ein harbenigedd technegol a’n staff cyfeillgar yn gallu sicrhau bod eich digwyddiad yn gyffyrddus, yn unigryw ac yn gofiadwy. Gallwn gynnig amrywiaeth o opsiynau arlwyo ar gyfer eich digwyddiad hefyd. Os oes gennych chi gwestiynau penodol neu os hoffech chi fwy o wybodaeth am ein cyfleusterau, rhowch ganiad i’n rheolwr llogi, Nicky, ar 029 2031 1058 neu anfonwch e–bost at nicky.keeping@chapter.org.

Iau 2 — Sad 4 Gorffennaf Bydd i’n gŵyl fyrgyrs flynyddol flas Americanaidd eleni a byddwn yn cyfuno’r gloddesta â detholiad o gwrw gwych o’r Unol Daleithiau. Fel bob amser, byddwn yn gweini prydau arbennig blasus gan gynnwys bygrys wedi’u stwffio a mozzarella ac wedi’u lapio mewn cig moch. Bydd yna ddewisiadau llysieuol a fegan blasus hefyd. I gyd–fynd â’r byrgyrs, byddwn yn codi ein hetiau Stetson i gydnabod diwylliant bragu tra amrywiol yr Unol Daleithiau. Daeth diwylliant bragu eang ac eclectig i’r amlwg yn UDA dros y blynyddoedd diwethaf a byddwn yn dathlu Diwrnod Annibyniaeth â chwrw Flying Dog, Anchor Brewery, Left Hand Brewing Co, Founders a Brooklyn. Bydd yna gerddoriaeth fyw ar y nos Wener a DJs ar y nos Sadwrn. Cadwch lygad ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar ein gwe–fan am fanylion.

Llogi

Mae nifer o ystafelloedd a chyfleusterau Chapter ar gael i’w llogi, ac mae llawer o’r rhain yn cael eu defnyddio’n rheolaidd gan gymysgedd eclectig o ddosbarthiadau dydd a nos. Ewch i’n gwe–fan neu codwch daflen yn y swyddfa docynnau i weld yr hyn sydd ar gael. Os ydych chi’n chwilio am ystafell ar gyfer parti, cyfarfod neu gynhadledd, neu am ofod i saethu fideo, i ymarfer neu i gynnal gweithgareddau

09

Pop Up Produce Mer 1 Gorffennaf 3–8pm

Mae ein marchnad fisol boblogaidd yn llawn o gynhyrchwyr bwyd lleol a fydd yn cynnig danteithion i dynnu dŵr o’ch dannedd. Ar ddydd Mercher cyntaf bob mis, byddwn yn cyflwyno rhai o’ch hen ffefrynnau ynghyd ag ambell stondin newydd a fydd yn gwerthu siocledi, jamiau, bara arbenigol, nwyddau o Sbaen, pice ar y maen, gwin, teisennau heb glwten, te, mêl a nwyddau i’r cartref. Ydych chi’n cynhyrchu bwyd? Ydych chi wedi sylwi ar fwlch yn narpariaeth Pop Up Produce? Os hoffech chi ymuno â ni unwaith y mis i werthu’ch cynnyrch chi, cysylltwch â Philippa — philippa.brown@chapter.org — i wneud cais am stondin.


Theatr

Sioned Huws: Coreograffydd a dawnsiwr, Prosiect Parhaus Rikuzentakata (Iwate, Japan)

10 029 2030 4400


Theatr

Sioned Huws: Coreograffydd a Dawnsiwr Prosiect Parhaus Rikuzentakata (Iwate, Japan)

Theatr Ffynnon yn cyflwyno

11

Larvae

chapter.org

Gwe 3 Gorffennaf 7pm ‘O edrych ar y llun, gwelwn olygfa gyffredin — dim byd arbennig o drawiadol. Mae hi’n 2013, dw i’n dawnsio Rikuzentakata–ondo gyda Tomoko, Katsuko, Hikari, Abe–san a Sugawara–san, ac yn sefyll ar frig ‘Home For All’ yn Takekoma. Mae J–san yn cymryd llun ac yn dal y foment. ‘O edrych y tu hwnt i’r ddawns, gwelwn y fan lle safai Dinas Rikuzentakata, cartref i holl drigolion y fan, a olchwyd ymaith gan swnami 2011, dinas gyfan mewn cwta ugain munud; collwyd ugain mil o fywydau yn rhanbarth Tohoku. Mae ein cyfryngau ni yn darlledu’r newyddion am y dinistr am ychydig ddyddiau ac, ar ôl hynny, does yna ddim delweddau cryfion i’w darlledu — a ydym ni eisoes wedi anghofio? ‘Mae ein celfyddydau a’n diwylliant yn graddol leihau ein pellter o’r digwyddiad, fel y postmon sy’n dod â negeseuon i stepen y drws. Pan gaiff gofod ei ddinistrio, sylweddolwn ei bwysigrwydd; mae dawns yn ymwneud â bywyd, ag ymdeimlad o fyw.’ Artistiaid Preswyl: J.Pacena II (Ynysoedd y Philipinau), Leo van der Kleij (Yr Iseldiroedd), Tawatchai Pattanaporn (Gwlad Thai), Cornelia Konrads (Yr Almaen) a Sioned Huws (Cymru). Rhad ac am ddim ond bydd angen tocyn — cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau Gyda chefnogaeth Rhaglen Breswyl Artist Rikuzentakata 2013–15 a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru.

Larvae Gwe 10 + Sad 11 Gorffennaf 8pm Mae Larave yn stori am y byd allanol a adlewyrchir yn ein meddyliau, ein teimladau, ein breuddwydion a’n hatgofion — y pethau hynny a brofwn ar hyd ein bywydau. Bydd y darn dawns hwn yn canolbwyntio ar y newidiadau mewnol sy’n adlewyrchu ein hymddangosiad allanol, ac yn ceisio ail–greu siâp, strwythur, lliw a phatrwm y corff dynol. A ydym yn edrych tuag at rywbeth neu o safbwynt rhywbeth? Beth welwn ni fel unigolion, a beth welwn ni o edrych yn rhan o grŵp? Sut mae defnyddio’r profiadau hynny er budd ein datblygiad a’n lles ein hunain? Mae ein hamgylchfyd yn ein hadlewyrchu ni — beth yw arwyddocâd hynny? A oes yna gyfyngiadau i hunanfynegiant? A oes angen ffrâm neu strwythurau arnom? A ydym yn wirioneddol annibynnol? Mae Larvae yn dilyn cynhyrchiad dawns/symudiad Theatr Ffynnon, “M: Brio”, a gyflwynwyd ym mis Medi 2014 yng Nghanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon, Casnewydd. Larvae yw ail gam eu prosiect “Metamorfoza” ac mae’n seiliedig ar bedwar cam datblygiad dynol. Perfformir LARAVE gan naw o aelodau Theatr Ffynnon. Coreograffi/Cyfarwyddo: Aleksandra Jones Cyfarwyddo/Cynhyrchu: Patricia O’Sullivan Cynorthwy–ydd Creadigol: Lisa Harris Goleuo: Hristo Takov Cynhelir sesiynau holi-ac-ateb ar ôl perfformiadau’r ddwy noson yng nghwmni cartwnydd. Cânt eu hwyluso gan Gyfarwyddwr Theatr Ffynnon, Patricia O’Sullivan, a’r Coreograffydd/Cyfarwyddwr, Aleksandra Jones. £8.50/£7


12

Theatr

029 2030 4400

De Oscuro ar y cyd â Chapter a Chanolfan Mileniwm Cymru yn cyflwyno

Triptych

Mae miloedd o gyn–filwyr yn cael eu poenydio gan yr hyn a welsant a chan eu gweithredoedd eu hunain ar flaen y gad. Mae colli coes neu fraich yn graith weladwy ond nid felly poenau’r meddwl — ac mae hi’n llawer haws anwybyddu creithiau o’r fath. Mae nifer helaeth o filwyr yn ceisio cuddio’u trallod meddyliol am eu bod yn teimlo cywilydd ac, o ganlyniad, mae eu cyflwr yn gwaethygu. Mae eu teuluoedd yn dioddef. Mae tor priodas yn gyffredin. Mae cyfraddau hunanladdiad yn uchel. Mae hwn yn gyflwyniad dirdynnol sy’n cynnwys tystiolaeth uniongyrchol, saga deuluol rymus a deuawd gyffrous i ddau ddawnsiwr gwrywaidd. At ei gilydd, mae’r cyflwyniad yn gipolwg brawychus, tywyll, doniol ac ingol ar ganlyniadau mynd i’r gad ‘yn enw Brenhines a gwlad’.

Triptych I

Triptych II

Triptych III

Tŷ Portland, Stryd Bute a thu allan i Chapter Iau 2 — Sad 11 Gorffennaf, 10am–7pm bob dydd (o 5pm ar 2 Gorffennaf)

Tŷ Portland, Stryd Bute Iau 2 — Sad 11 Gorffennaf 7.30pm

Canolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd Iau 2 — Sad 11 Gorffennaf 9.30pm

Gosodiad ffilm ysgytwol lle mae dynion a menywod, cyn–filwyr, eu mamau, eu partneriaid a’u gwragedd yn siarad yn agored ac yn uniongyrchol am effeithiau gwasanaeth milwrol — ar y milwyr eu hunain ac ar eu hanwyliaid. RHAD AC AM DDIM — dewch draw

Saga deuluol rymus wedi’i chreu gan Gwyneth Glyn a Judith Roberts. Wedi’i gosod yng nghymoedd De Cymru, ac wedi’i hysbrydoli gan drasiedïau’r Hen Roeg, mae hon yn stori bwerus am deulu wedi’i ddal mewn gwe o gyfrinachau a chelwyddau. Cast yn cynnwys Rhys Parry Jones, Rebecca Harries, Huw Rhys, Ceri Murphy a Catrin Morgan. £16/£14 (neu £22/£18 gyda thocyn i Triptych III)

Darn cyffrous i ddau ddawnsiwr gwrywaidd sy’n archwilio artaith Anhwylder Straen Ôl–drawmatig. Coreograffi gan Gwyn Emberton. £22/£18 (yn cynnwys tocyn i Triptych II)

Triptych

Iau 2 — Sad 11 Gorffennaf


Theatr

13

Sucking on Sugar Cane: Looking for Meaning Ten Years after Hurricane Katrina

Hijinx & Punchdrunk Enrichment yn cyflwyno

O’r brig: Beneath the Streets: Lost and Found, Sucking on Sugar Cane, Looking for Meaning Ten Years after Hurricane Katrina Llun: Lowri Rees

chapter.org

Mer 1 Gorffennaf 7.30pm Cyfuniad o farddoniaeth, llefaru a jazz sydd yn gydweithrediad rhwng Pumawd Gareth Roberts a’r bardd clare e. potter, a dreuliodd ddeng mlynedd yn ninas New Orleans. Bydd y gwaith hybrid hwn yn archwilio llwybrau cyfun geiriau, nodau a thawelwch ac yn caniatáu i’r ddau berfformiwr a’r gynulleidfa ystyried yr hyn a ddaeth yn sgil Corwynt Katrina ac i fyfyrio ar ddiwylliant, pobl a lle, ac ar golled a iachâd. Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys set o farddoniaeth unigol a jazz gwreiddiol wedi’i berfformio gan y pumawd gwobrwyol. £8/£6 www.garethtrombone.co.uk

Beneath the Streets: Lost and Found Gwe 26 Mehefin — Gwe 3 Gorffennaf Mae pob un ohonom wedi colli rhywbeth — sbectol, allweddi, atgofion, cariad, anwyliaid, ein ffordd adre’ ... A yw’r pethau hyn yn cael eu colli am byth neu a ydyn nhw’n dod o hyd i gartref yn rhywle arall? O’r golwg yng Nghaerdydd, mae yna fyd o bethau coll. Yn y cysgodion, y tu ôl i ddrysau caeedig, rydym yn aros amdanoch. Yn dilyn rhediad hynod lwyddiannus yn 2014, mae Hijinx a Punchdrunk Enrichment yn dod at ei gilydd unwaith eto i gyflwyno’r dilyniant i Beneath the Streets, mewn lleoliad newydd. Mae’r profiad theatrig unigryw hwn, a enwebwyd am wobr Cynhyrchiad Gorau yn yr iaith Saesneg Gwobrau Theatr Cymru 2015, yn cynnwys cast helaeth o actorion gydag ac heb anableddau. Lleoliad dirgel yng Nghanol Dinas Caerdydd a ddatgelir ar ôl i chi archebu. £10/£6 Gyda chefnogaeth Canolfan Mileniwm Cymru.


Theatr

029 2030 4400

Gyda’r cloc, o’r chwith uchaf: Nish Kumar, Tom Parry, Mathew Crosby, Ed Gamble, Grainne Maguire, Emma Sidi

14

Rhagolygon Caeredin

Penwythnosau Comedi Little Wander Mae’r tîm sy’n gyfrifol am Ŵyl Gomedi Machynlleth yn cyflwyno rhagolygon yn Chapter dros ddau benwythnos. Mae’r holl sioeau yn addas i bobl 14+ oed yn unig. Mae tocynnau i sioeau unigol yn £6.

Gwe 3 Gorffennaf

Sad 4 Gorffennaf

6.30pm

5pm

Nish Kumar: Long word... Long word... Blah Blah Blah... I’m so clever

Emma Sidi: Character Breakdown

‘Stand–up’ gan fachgen clyfar. Fe’i clywyd ar The Now Show (BBC Radio 4) ac ar lu o raglenni Newsjack (BBC Radio 4 Extra).

Bydd y digrifwr cymeriad, Emma Sidi, yn cyflwyno ambell gymeriad difrifol. Mae dawns, geiriau, lleisiau ac ystumiau yn cyfuno i greu awr ddoniol o anobaith, ynghyd ag ymdrechion i osgoi’r dibyn.

8pm

6.30pm

Tom Parry: Yellow T–shirt! Mae Parry, o Pappy’s, yn gwisgo crysau–T melyn ac yn gallu profi bod gwisgo gwisg ffansi yn gwneud i chi fyw’n hirach.

“Parry yw Arglwydd yr Afreolus” The Guardian 9.30pm

Matthew Crosby: Smaller Than Life Mae Matthew (Pappy’s, Badults ar BBC3) yn dychwelyd â sioe fach hyfryd arall. Dewch draw, chwarddwch, gadewch ac anghofiwch am y noson am byth bythoedd.

Grainne Maguire: Great People Making Great Choice Ymunwch â Grainne Maguire (Stewart Lee’s Alternative Comedy Experience) wrth iddi geisio dysgu byw bywyd daionus.

8pm

Ivo Graham: No Filter Trydydd albwm (The Queen is Dead, OK Computer, ayyb) Graham ar ôl ‘sioe afieithus’ (Evening Standard) 2014. Ac eleni, mae gwaith y bachan hwn yn fwy brathog a pheryglus fyth. A all hynny fod yn wir? Mae hi’n werth mynd i weld drosoch eich hun, yn sicr.

9.30pm

Ed Gamble: Lawman Mae enillydd Gwobr Chortle, Ed Gamble, yn ei ôl â sioe ‘stand–up’ newydd sbon sy’n ceisio datgelu pam ei bod hi’n cŵl i fod yn sgwâr. Mae e’n broffwyd, yn siaman ac yn awdur deunydd broliant syfrdanol o wallus.


Theatr

Gwe 17 Gorffennaf

Sad 18 Gorffennaf

6.30pm

5pm

Henry Widdicombe: Plain Facts for the Old and Young

Tom Neenan: The Andromeda Paradox

15

Gyda’r cloc, o’r chwith uchaf: John Luke Roberts, Mike Wozniak, Tom Neenan, Stuart Laws, Holly Burn, Joseph Morpurgo

chapter.org

Mae Henry Widdicombe yn dychwelyd i fyd comedi ar ôl pedair blynedd — a hynny am fod ganddo rywbeth i’w ddweud am rawnfwyd.

Pan gaiff arteffact dirgel a chynhanesyddol ei ddarganfod o dan strydoedd Llundain, mae’r Athro Bernard Andromeda yn credu ei fod yn dystiolaeth o dechnoleg aliwn.

8pm

6.30pm

John–Luke Roberts: Stdad Up Sioe gomedi hynod wirion am gael ac yna am beidio â chael tad – ac am ba mor dwp y mae angen i chi ymddangos er mwyn gallu amharchu’r meirw heb ofni eu dialedd.

Joseph Morpurgo: Soothing Sounds For Baby Mae’r digrifwr aml–gyfryngol nodedig, Joseph Morpurgo, yn dychwelyd ag awr newydd sbon o hiwmor feinyl a hyperkonzept.

“Deallus, manwl a difrifol ddoniol” Chortle

8pm

9.30pm

Holly Burn ar y cyd â Kirsty K yn cyflwyno: I am Kirsty K

Mike Wozniak: One Man Dad Cat Band Mae clerwr crwydrol y busnes yn cyflwyno rhagolwg o stori a gododd ar ei deithiau. Enwebiad am Wobr Fosters am y Newydd–ddyfodiad Gorau yng Nghaeredin yn 2013.

Kirsty K ydw i. Dw i erioed wedi gadael cartref cyn nawr — dw i eisiau cael profiadau newydd a dod o hyd i ffrindiau newydd! Edrych ymlaen at gael amser da yng Nghaerdydd. Ffoniwch neu decstiwch os hoffech chi sgwrs — dw i’n mynd yn reit unig weithiau. 07908899966.

9.30pm

Stuart Laws: Who Said Anything About Stopping It (Sioe awr o hyd) Trydedd sioe gan y dyn sy’n creu’r holl ddigrifwch gyda Turtle Canyon Comedy. Mae e hefyd yn aelod anffyddiol o dîm pêl–droed Cristnogol, yn adarwr ifanc ac yn gymaint o ffeministaidd fel ei fod yn silafu’r gair Saesneg ‘misogynist’ fel hyn: msogynist.


16

Theatr

029 2030 4400

Gyda’r cloc, o’r chwith: Grav, Mark Thomas, Flossy and Boo’s Curiosity Shop

Rhagolygon Caeredin

Cwmni Theatr y Torch yn cyflwyno

Grav Llun 27 — Iau 30 Gorffennaf 8pm Ym mis Hydref 2007, bu farw Ray Gravell, dyn a oedd i lawer yn ymgorfforiad o’r hyn yw bod yn Gymro. Roedd yn 56 mlwydd oed. Yn adnabyddus i filiynau am ei gampau ar y cae rygbi, yr oedd ‘Grav’ — ac y mae’n dal i fod — yn llawer mwy na hynny; actor, eicon diwylliannol, tad, gŵr, dyn a’i fywyd yn llawn straeon sydd yn haeddu cael eu clywed unwaith yn rhagor. Mae Cwmni Theatr y Torch yn cyflwyno Gareth Bale yn rhan ‘Grav’, mewn drama gan Owen Thomas sydd yn ddathliad o’r dyn a’r myth. Â sêl bendith Mari, gweddw Ray, ac â chyfraniadau gan ei gyd–chwaraewyr yn nhimau Cymru a’r Llewod, mae’r sioe un dyn hon yn archwilio bywyd gŵr a oedd mor hynod oddi ar y cae chwarae ag yr oedd yn ddi–ildio yn ei grys rygbi coch. Wedi’i chyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Artistig Theatr y Torch, Peter Doran, mae ‘Grav’ yn fodd o dynnu sylw unwaith eto at fywyd unigryw ac at ddyn a wnaeth gymaint yn fwy na chwalu canolwyr egwan. £13/£11 Tocynnau’n prysur ddiflannu!

Flossy and Boo’s Curiosity Shop Maw 21 Gorffennaf 8pm Mae Flossy a Boo wedi dianc o’r syrcas i sefydlu eu ‘Curiosity Shop’ teithiol eu hunain — un a fydd yn teithio’r byd ac yn casglu straeon, caneuon a thrugareddau bychain i’w storio ar eu trol. Dewch i glywed eu hanesion rhyfeddol (ac anghredadwy, braidd)! Ac i fwynhau eu caneuon hynod grefftus — caneuon nad ydyn nhw byth–bythoedd, wir yr, yn wirion! Rhyfeddwch at y cymeriadau hynod y maen nhw wedi dod i gyfarfod â hwynt ar hyd y ffordd! Yn cynnwys cerddoriaeth wreiddiol fyw, theatr gorfforol a chomedi, mae Flossy and Boo’s Curiosity Shop yn sioe theatr ryngweithiol! Dewch draw! Dewch i weld y merched ardderchog hyn cyn iddynt ei heglu hi i Fringe Caeredin! £10/£8/£6

Mark Thomas — Trespass Maw 14 Gorffennaf 8pm Mae Trespass yn barhad o sioe flaenorol Mark, 100 Acts of Minor Dissent. Mae’r cyflwyniad newydd hwn yn gymysgedd rhyfedd (a chyfarwydd) o theatr, ‘stand up’, newyddiaduraeth, ymgyrchu ac anhrefn. Pwy a ŵyr ble ddaw’r sioe i ben — ymunwch ag ef ar daith hynod. £10 16+ oed Dim tocynnau ar ôl


chapter.org

Theatr

17

Gŵyl Gomedi Caerdydd, Rhagolygon o Sioeau Caeredin Cynnig arbennig: Prynwch docynnau ar gyfer sioeau Mer 22 + Sul 26 am ddim ond £15/£12. Pob sioe: 18+ oed

Sul 26 Gorffennaf 8–10.30pm

MC Clint Edwards

Phil Jerrod Dechreuodd Phil Jerrod ei yrfa ‘stand up’ dan fwyty Angus Steakhouse yn 2012. Ers hynny, methodd ag ennill ei radd PhD, gadawodd ei swydd yn y byd cyhoeddi a bu’n diddanu cynulleidfaoedd ledled y wlad â’i rants ysbrydoledig am rai o broblemau annealladwy bywyd modern. Enwebiad yn ddiweddar am Wobr Digrifwr y Flwyddyn y Leicester Mercury.

Charlie Baker

Mer 22 Gorffennaf 8–10.30pm

MC Clint Edwards Mae Clint Edwards yn ‘stand–up’ gwobrwyol sydd wedi cefnogi Rhod Gilbert ar daith ac wedi ysgrifennu ar gyfer sioeau teledu a radio niferus, gan gynnwys Never Mind the Buzzcocks. Mae e ar hyn o bryd yn gyflwynydd stiwdio rhaglen Modern Life is Goodish Dave Gorman.

Bethan Roberts

Ers dechrau gweithio fel ‘stand up’ yn 2012, mae Bethan wedi mwynhau llwyddiannau niferus, gan gynnwys cael ei choroni â theitl Newydd–ddyfodiad ‘What the Frock’ yn 2013 ac ennill Gwobr Digrifwr Heb Gytundeb Cymru yn 2014. Enillodd wobr Act Newydd Caerfaddon yn gynharach eleni hefyd.

Robin Morgan

Un o’r perfformwyr mwyaf nodedig yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae ffraethineb Robin a’i swyn naturiol, ynghyd â natur ddrygionus, wedi ei wneud yn ffefryn sicr gyda chynulleidfaoedd. Mae e’n awdur comedi radio profiadol — cyfrannodd ddeunydd at The News Quiz, the Now Show, Newsjack, a nifer o raglenni ar BBC Radio Wales. £8/£6

Mae natur hoffus Charlie Baker a’i arddull hawddgar wedi ennill enw da iddo fel ‘fersiwn well o’r “showman” modern’ (The Guardian). Mae e’n wyneb poblogaidd ar sioeau panel ar y teledu a bu’n gapten tîm ar sioeau yn cynnwys A Short History of Everything Else (Channel 4), dwy gyfres o Never Mind the Buzzcocks (BBC2) a sioe Nadolig arbennig Rob Brydon (BBC1). £12/£8

Ted Shiress: I am not Sting Mer 15 Gorffennaf 7.30pm Nid Sting yw Ted Shiress, mae hynny’n bendant. Nid unrhyw seren roc arall mohono chwaith. Mae sêr roc yn cael y merched. Yn wahanol i Ted. Disgwyliwch iddo rantio a chwyno am hynny a rhwystredigaethau eraill yng Ngŵyl Gomedi Caerdydd. Bydd doniau comig unigryw Ted yn cael eu hategu gan bresenoldeb Dean Burnett — doethur go iawn mewn niwrowyddoniaeth sydd yn gweithio hefyd fel awdur comedi a digrifwr. Bydd y noson yn cynnwys perfformiad cyntaf o’r bennod newydd o we–gyfres Ted, Cynic. Yn honno mae e’n chwarae ef ei hun — nid Sting. £8/£6


Theatr

029 2030 4400

Theatr Bara Caws yn cyflwyno

Clwb Ifor Bach yn cyflwyno

No Wê

Huw M

gan Barry ‘Archie’ Jones Iau 23 — Sad 25 Gorffennaf 7.30pm

+ Anelog Sul 12 Gorffennaf 8pm

Crëwyd firws cyfrifiadurol digon nerthol i chwalu’r We Fyd–eang. Mae Judi Stench, pennaeth Mi69, yn galw ar James Bondage am help a, gyda chymorth ei ysgrifenyddes, Miss Moneyshot, yr asiant Double D o Wasanaeth Cudd Gwlad Thai a brodyr Brigyn (deuawd pop o Gymru), mae gan Bondage 60 munud i ddod o hyd i’r drwgweithredwyr ac i achub y we. Mae No Wê yn sioe glwb newydd gan enillydd gwobr BAFTA, yr awdur Barry ‘Archie’ Jones. Bydd y sioe yn teithio o amgylch Cymru, cyn cyrraedd Sir Drefaldwyn a’r Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst. Cast yn cynnwys: Iwan Charles, Llyr Evans, Gwenno Elis Hodgkins, Maldwyn John a Catrin Mara. Cyfarwyddwr: Barry ‘Archie’ Jones. Mae hwn yn gynhyrchiad iaith Cymraeg. Bydd crynodeb Saesneg ar gael ar gais.

Huw M yw’r cyfansoddwr a’r perfformiwr Huw Meredydd Roberts. Bydd y sielydd, Lucy Simmonds, y gantores a’r acordionydd, Bethan Mai, a’r drymiwr, Iolo Whelan, yn ymuno ag ef yn Chapter. Gyda’i gilydd, maent yn chwarae detholiad o alawon gwreiddiol a chaneuon gwerin Cymreig. Daw eu dylanwadau o bedwar ban byd ac mae’r cyfan yn dod at ei gilydd i greu cerddoriaeth swynol a deallus. Yn ôl Stuart Maconie o BBC 6 Music, roedd record sengl gyntaf Huw M yn “ddarn o gerddoriaeth syfrdanol o hardd”. Enwyd ei ail albwm, Gathering Dusk, ar restr fer Gwobrau Cerddoriaeth Cymru. Ar gyfer y gig yn Chapter, bydd Huw M yn cyflwyno caneuon o’i drydydd albwm (i’w ryddhau yn yr hydref) a’i recordiad cyntaf i label ardderchog I Ka Ching. Ar gyfer y record honno, gweithiodd Huw gyda’r Chwiorydd Marshall o Gaerdydd gan gyfuno canu Gospel cynnar â chanu gwerin Cymreig, ynghyd hefyd â llwyaid o ddwyster, tor–calon a hiraeth.

No Wê

18

£12/£10 Argymhelliad oedran: 18+

£8


chapter.org

Chapter Mix

Barddoniaeth a Ffuglen Newydd — Dydd Iau Cyntaf y Mis

Capoeira

Iau 2 Gorffennaf 7.30pm

Yng nghwmni’r bardd a’r amgylcheddwr Cymreig, Robert Minhinnick, a’r seren newydd o Cumbria, y bardd Kim Moore. Ynghyd â sesiwn meic agored (dewch â cherdd neu dudalen o ryddiaith). £2.50

Clwb Comedi The Drones

Gwe 3 + Gwe 17 Gorffennaf. Drysau’n agor: 8.30pm. Sioe’n dechrau: 9pm Clint Edwards sy’n cyflwyno’r ‘stand–ups’ addawol gorau. Gwelwyd peth o ddeunydd y nosweithiau hyn ar raglen ‘Identity Crisis’ Rob Brydon. Dydd Gwener cyntaf a thrydydd dydd Gwener y mis. Un o’r ‘Deg Peth Gorau i’w Gwneud yng Nghaerdydd’ yn ôl cylchgrawn The Big Issue. £3.50 (wrth y drws)

Cylch Chwedleua Caerdydd Sul 5 Gorffennaf 8pm

Dewch i rannu a gwrando ar gasgliad hyfryd o straeon — croeso i storïwyr a gwrandawyr fel ei gilydd! £4 (wrth y drws)

19

Sul 19 Gorffennaf 2–4pm Bydd y grŵp capoeira lleol, Nucleo de Capoeiragem (c–m Claudio Campos), yn cyflwyno’u roda awyr agored misol yng Ngardd Gymunedol Chapter yn ystod misoedd yr haf. Mae Capoeira yn gamp Affro– Frasilaidd sy’n ymgorffori crefft ymladd chwareus, “floreos” acrobatig ac elfennau o ddawns, cerddoriaeth acwstig fyw a chanu. Croeso i bawb! RHAD AC AM DDIM

Jazz ar y Sul

Sul 19 Gorffennaf 9pm Ein noson fisol o jazz acwstig melodig yn y Caffi Bar, gyda Phedwarawd Jazz Chapter — Glen Manby, Jim Barber, Don Sweeney a Greg Evans. RHAD AC AM DDIM www.glenmanby.com

Clonc yn y Cwtsh Bob dydd Llun 6.30–8pm

Ydych chi’n dysgu Cymraeg? Ymunwch â ni i ymarfer eich Cymraeg yng nghwmni dysgwyr eraill. Croeso i bawb! RHAD AC AM DDIM Ar y cyd â Menter Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd


Sinema

029 2030 4400

Slow West

20


Sinema

21

Slow West

Futuro Beach

Gwe 26 Mehefin — Iau 2 Gorffennaf

Gwe 26 Mehefin — Iau 2 Gorffennaf

UDA/2015/84mun/15. Cyf: John Maclean. Gyda: Ben Mendelsohn, Michael Fassbender, Kodi Smit–McPhee.

Brasil/2014/106mun/is–deitlau/15. Cyf: Karim Aïnouz. Gyda: Wagner Moura, Clemens Schick, Jesuíta Barbosa.

Mae Jay Cavendish yn uchelwr Albanaidd ifanc a dibrofiad yn Colorado yn y 1870au. Mae e’n cychwyn allan ar drywydd gwrthrych ei serch, Rose, sydd wedi ffoi i America gyda’i thad. Ar ôl dadl gyda milwyr, mae Jay’n ymuno â’r ‘bounty hunter’, Silas, ond dyw e ddim yn ymwybodol eu bod nhw eu hunain yn erlid Rose a’i thad, er mwyn hawlio gwobr ariannol. Ffilm gyntaf freuddwydiol a threisgar gan gerddor y Beta Band, John MacLean, sy’n llawn perfformiadau godidog a hiwmor tywyll.

Mae Donato yn achubwr bywydau ar draeth ym Mrasil sydd yn llwyddo i achub bywyd Konrad, twrist o’r Almaen, ond yn methu ag achub ei ffrind arall. Mae eu profiad cyfun o’r digwyddiad yn arwain at berthynas ac mae Donato yn gadael popeth, gan gynnwys ei fam ddioddefus a’i frawd iau, Ayrton, er mwyn teithio i Berlin gyda Konrad. Ar ôl cyrraedd yno, mae ei ymchwil am gariad yn troi’n ymchwil dyfnach i ddod o hyd i’w hunaniaeth ei hun ac, wyth mlynedd yn ddiweddarach, mae ymweliad annisgwyl gan Ayrton yn dod â’r tri tri dyn at ei gilydd unwaith yn rhagor, i geisio dod i delerau â phoen, colled a hiraeth. Ffilm deimladwy am golli a chael hyd o’r newydd i fywyd.

O’r chwith i’r dde: London Road, Futuro Beach

chapter.org

Disgrifiadau Sain ar gael ymhob dangosiad ac Is–deitlau Meddal ar Mer 1 Gorffennaf 6.25pm a Iau 2 Gorffennaf 2.30pm. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau neu ewch i’n gwe–fan i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

+ Ymunwch â ni ar ôl y dangosiad ar ddydd Mawrth 30 Mehefin am gyfarfod o grŵp trafod ffilm LGBTQ Chapter.

London Road Gwe 26 Mehefin — Iau 2 Gorffennaf DG/2015/92mun/15. Cyf: Rufus Norris. Gyda: Olivia Coleman, Tom Hardy, Anita Dobson.

Addasiad o sioe gerdd arobryn y National Theatre sy’n croniclo’r digwyddiadau a ysgydwodd drigolion Suffolk yn 2006, pan gafwyd hyd i gyrff pump o fenywod yn Ipswich. Cafodd trigolion London Road eu hunain reit yng nghanol y digwyddiadau trasig ac mae’r gwaith arloesol hwn yn gwau at ei gilydd eiriau’r rheiny a oedd yn rhan o’r profiad er mwyn creu stori ddyrchafol am gymuned sy’n dod at ei gilydd yn ystod cyfnod tywyll iawn.

Electric Boogaloo: The Wild, Untold Story of Cannon Films Gwe 26 Mehefin — Iau 2 Gorffennaf UDA/2014/107mun/18. Cyf: Mark Hartley.

Yn y 1970au, dechreuodd dau gefnder reoli cwmni ffilmiau ‘grindhouse’ Cannon Films ac, er gwaethaf eu harferion busnes diegwyddor a’u dewisiadau artistig amheus, roedden nhw’n gyfrifol am rai o ffilmiau mwyaf cofiadwy y 1980au. Yn eu rôl fel stiwdio amgen, roedden nhw’n enwog am eu gwaith gyda sêr fel Chuck Norris, Charles Bronson a Jean Claude Van Damme ac am ffilmiau fel Breakin, King Solomon’s Mines, Lifeforce a champweithiau fel Otello gan Zeffirelli. Mae’r ffilm hon yn olwg afieithus ar un o stiwdios chwedlonol Hollywood.


Sinema

029 2030 4400

Mr Holmes

The Choir

Gwe 3 — Iau 16 Gorffennaf

Gwe 10 — Iau 23 Gorffennaf

DG/2015/103mun/PG. Cyf: Bill Condon. Gyda: Ian McKellen, Laura Linney, Hiroyuki Sanada.

UDA/2014/103mun/PG. Cyf: François Girard. Gyda: Dustin Hoffman, Kathy Bates, Josh Lucas.

Ym 1947, mae’r Sherlock Holmes oedrannus yn dychwelyd o daith i Japan, lle gwelodd drosto’i hun ddinistr arfau niwclear. Yn ei ffermdy anghysbell ar lan y môr, mae Holmes yn wynebu diwedd ei fywyd drwy ofalu am ei wenyn a dim ond gwraig tŷ a’i mab ifanc, Roger, yn gwmni iddo. Daw Holmes i ddibynnu ar y bachgen wrth iddo ailystyried yr achos — heb ei ddatrys — a’i gorfododd i ymddeol, ac mae e’n chwilio am atebion i ddirgelion bywyd a chariad cyn iddi fynd yn rhy hwyr.

Ar ôl marwolaeth ei fam, mae bachgen amddifad dig a gwyllt o’r enw Stet yn ei gael ei hun yng nghôr yr ysgol. Mewn byd anghyfarwydd, mae hi’n frwydr am oruchafiaeth rhyngddo a chôr–feistr heriol. Mae hwnnw’n gweld talent unigryw yn y bachgen ifanc ac ei wthio i ddarganfod ei enaid creadigol yn y gerddoriaeth.

Gyda’r cloc, o’r chwith uchaf: Mr Holmes, The Choir, Still Alice

22

Disgrifiadau Sain ar gael ymhob dangosiad ac Is–deitlau Meddal ar Maw 7 Gorffennaf 10.30am, Mer 8 Gorffennaf 6.10pm, Mer 15 Gorffennaf 10.30am a Iau 16 Gorffennaf 6.10pm. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau neu ewch i’n gwe–fan i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

+ Ymunwch â ni ar ôl y ffilm ar Maw 7 Gorffennaf am drafodaeth Tinted Lens, cydweithrediad newydd gan Chapter, Prifysgol Caerdydd a’r BFI. Byddwn yn archwilio’r meddwl a chysyniadau’n ymwneud â normalrwydd a phatholeg, gan ganolbwyntio ar golled a galar, ffantasi a rhith, dealltwriaeth o amser a chyflyrau ymwybyddiaeth.

Still Alice

Gwe 3 — Iau 9 Gorffennaf UDA/2014/101mun/12A. Cyf: Wash Westmoreland, Richard Glatzer. Gyda: Julianne Moore, Kristen Stewart, Kate Bosworth.

Mae Alice Howland, gwraig a mam i dri o blant mewn oed, yn athro ieithyddiaeth enwog sy’n dechrau anghofio geiriau. Ar ôl diagnosis ysgytwol a dinistriol, caiff undod teulu Alice ei brofi i’r eithaf. Mae ei brwydr i aros mewn cysylltiad â’r person yr arferai hi fod yn frawychus, yn dorcalonnus ac yn ysbrydoledig — a’r perfformiad canolog yn odidog.

The Salvation

Gwe 17 — Iau 23 Gorffennaf Denmarc/2014/92mun/15. Cyf: Kristian Levring. Gyda: Mads Mikkelsen, Eva Green, Jeffrey Dean Morgan.

Yn y Gorllewin Gwyllt yn y 1870au, mae trais yn bla yng nghymdeithas Black Creek. Mae Jon wedi gadael milisia Denmarc i ddechrau o’r newydd gyda’i deulu ond buan y caiff y freuddwyd ei chwalu ac, â’r siryf llwfr a’r maer yn amharod i’w helpu, rhaid iddo geisio dial ar ei ben ei hun. Disgrifiadau Sain ar gael ymhob dangosiad ac Is–deitlau Meddal ar Sul 19 Gorffennaf 6.05pm, Maw 21 Gorffennaf 6.20pm a Iau 23 Gorffennaf 10.30am. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau neu ewch i’n gwe–fan i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).


Sinema

23

Maggie

Survivor

Gwe 17 — Iau 23 Gorffennaf

Sad 25 — Iau 30 Gorffennaf

UDA/2015/95mun/12A. Cyf: Henry Hobson. Gyda: Arnold Schwarzenegger, Abigail Breslin, Joely Richardson.

DG/2015/94mun/12A. Cyf: James McTeigue. Gyda: Milla Jovovich, Pierce Brosnan, Angela Bassett.

Mae ffermwr yn y Midwest o’r enw Wade yn ceisio cynnal y busnes teuluol pan ddaw firws zombiaidd marwol i heintio ei ferch, sydd yn ei harddegau. Fe fydd hi’n ildio i’r salwch o fewn chwech wythnos ac, yn y cyfamser, rhaid i’r teulu wneud eu gorau i oroesi a dod i delerau â’r newid. Mae rôl ddiweddaraf Schwarzenegger yn newid cyfeiriad i’w groesawu — mae’r sgript yn gynnil a thôn y ffilm yn bruddglwyfus a myfyriol.

Ar ôl cael ei fframio am ymosodiad terfysgol, rhaid i Swyddog Gwasanaeth Tramor osgoi cael ei ddal gan y llywodraeth — ac osgoi cael ei ladd gan lofrudd didostur — er mwyn atal cynllun marwol y troseddwyr go iawn.

+ Ymunwch â’r gwneuthurwr ffilmiau a’r ffan pybyr o ffilmiau arswyd, Ben Ewart–Dean, ar ôl y dangosiad ar ddydd Mercher 22 Gorffennaf i drafod rhai o themâu’r ffilm.

Yr Eidal/2014/111mun/is–deitlau/15. Cyf: Alice Rohrwacher. Gyda: Monica Bellucci, Alba Rohrwacher, Maria Alexandra Lungu.

O’r chwith i’r dde: Survivor, The Wonders

chapter.org

Black Coal Thin Ice Gwe 17 — Iau 23 Gorffennaf Tsieina/2014/110mun/is–deitlau/15. Cyf: Yi’nan Diao. Gyda: Fan Liao, Lun Mei Gwei, Xuebing Wang

Mae ditectif mewn tref fechan yn ymuno â chyn– bartner pan ddaw achos newydd o lofruddiaeth i’r amlwg, a hwnnw’n debyg i’r un a arweiniodd at ei gwymp. Â rhannau o gyrff yn ymddangos mewn llwythi o lo, a gwraig weddw amheus ond urddasol yn rhan o’r dirgelwch, â’r ddau ati i ddadansoddi’r cliwiau. Ffilm noir hardd, atmosfferig wedi’i thrwytho â realaeth gymdeithasol. Enillydd yr Arth Euraid yng Ngŵyl Ffilm Berlin 2014

The Wonders

Gwe 24 — Iau 30 Gorffennaf Ym mryniau Tysgani, mae teulu o wenynwyr Almaenaidd–Eidalaidd yn ceisio cynnal ffordd o fyw draddodiadol sydd dan warchae. Gelsomina, deuddeg oed, yw’r hynaf o bedair chwaer ac mae hi’n helpu’i thad yn ddiwyd, tan i griw rhaglen realiti ddod i chwilio am deulu i’w ffilmio ac iddi hi ddechrau ystyried bywyd y tu hwnt i’w bywyd presennol. Stori hudolus am ddod–i–oed, wedi’i ffilmio’n hardd ar ffilm 16mm, a phortread cain o ddiwylliant sy’n diflannu. Enillydd y Grand Prix yng Ngŵyl Ffilm Cannes 2014


Sinema

029 2030 4400

“Mae’r meddwl Celtaidd, yn ei eiliadau o unigrwydd, yn fôr byrlymus o gariad a thrugaredd a rhamantiaeth a niwrosis” Ray Milland

Dial M for Murder

24


Sinema

25

Y ddwy ddelwedd: Hostile Witness

chapter.org

Ray Milland Ganwyd Reginald Truscott–Jones yng Nghastell–nedd a gweithiodd y gŵr a adwaenid wedi hynny fel ‘Ray’ fel hyfforddwr ceffylau yng Nghaerdydd cyn dechrau ar yrfa fel actor. Aeth i Hollywood, lle daeth yn seren. Wedi hynny, cymrodd yr awenau ei hun a dod yn gyfarwyddwr, gan wneud ambell glasur cwlt. Yn enwog am ei hiwmor hawddgar a’i berfformiadau grymus, byddwn yn cymryd golwg ar yrfa amrywiol a rhyfeddol y Cymro Mawr hwn.

Dial M for Murder

Hostile Witness

UDA/1940/101mun/PG. Cyf: Alfred Hitchcock. Gyda: Ray Milland, Grace Kelly, Robert Cummings.

DG/1967/101mun/U. Cyf: Ray Milland. Gyda: Ray Milland, Sylvia Syms, Felix Aylmer.

Mae’r cyn–chwaraewr tenis, Tony Wendice, yn amau bod ei wraig gyfoethog, Margot, yn cael perthynas ag Americanwr golygus, felly mae e’n blacmelio cyn– gydymaith o’r fyddin i’w llofruddio hi a gwneud i’r peth edrych fel lladrad. Ond dyw Wendice ddim wedi ystyried y posibilrwydd y gallai Margot ei hamddiffyn ei hun.

Ar ôl i ferch Simon Crawford, bargyfreithiwr llwyddiannus, gael ei lladd mewn damwain ar y ffordd, ac ar ôl i’r heddlu fethu â dod o hyd i’r troseddwr, mae Crawford yn tyngu llw i ddod o hyd i’r gyrrwr a dial arno. Fodd bynnag, mae ei lid yn ei arwain ar ei ben i ddirgelwch – a hwnnw yn nes at adref nag y gallai fod wedi dychmygu.

Sul 12 + Maw 14 Gorffennaf

Ac fel rhodd fach ychwanegol, bydd un o ffilmiau llai nodedig Milland, Frogs, yn cael ei dangos gan ein Clwb Ffilmiau Gwael poblogaidd y mis hwn.

Sul 5 + Maw 7 Gorffennaf

Ministry of Fear

Sul 26 + Maw 28 Gorffennaf

UDA/1944/85mun/PG. Cyf: Fritz Lang. Gyda: Ray Milland, Marjorie Reynolds, Carl Esmond.

Mae Stephen Neale newydd gael ei ryddhau o ysbyty meddwl yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan glyw am gynllun Natsïaidd ysgeler. Ffilm noir ryfeddol o atmosfferig wedi’i thrwytho â pharanoia. Mae’r ffilm hefyd yn fan cyfarfod i dri thalent rhyfeddol — Milland, y mynegiadwr Almaenaidd, Fritz Lang, a’r awdur, Graham Greene.

Clwb Ffilmiau Gwael: Frogs

Panic in Year Zero! Sul 19 + Maw 21 Gorffennaf

UDA/1962/90mun/15. Cyf: Ray Milland. Gyda: Ray Milland, Jean Hagen, Frankie Avalon.

Mae Harry Baldwin yn gadael Los Angeles gyda’i deulu i fynd ar daith wersylla toc cyn i fom niwclear ddinistrio’r ddinas. Wrth i anhrefn fynd yn rhemp, rhaid i’r tad frwydro i gadw ei deulu ar dir y byw. Roedd y ffilm nodwedd gyntaf hon gan Milland yn dempled dylanwadol ar gyfer paranoia y rhyfel oer.

Sul 5 Gorffennaf UDA/1972/88mun/15. Cyf: George McCowan. Gyda: Ray Milland, Sam Elliott, Joan Van Ark.

Yn rhan o’n teyrnged i Ray Milland, rydym yn trosglwyddo’r awenau i Nicko a Joe a fydd yn taro golwg serchog ar y ffilm waethaf yn ei yrfa ddisglair ef. Fel penteulu sarrug, mae Milland yn hapus i lygru’r bijou yn Fflorida — tan i natur ddial arno ac anfon pla o frogaod maleisus. Nodwch os gwelwch yn dda y bydd yna sylwebaeth fyw drwy gydol y ffilm ac y gall y ffilm a ddangosir newid ar y funud olaf.


Sinema

029 2030 4400

Station to Station

Fare Thee Well: Celebrating 50 years of the Grateful Dead

Station to Station

26

Gwe 3 — Iau 9 Gorffennaf

UDA/2015/71mun/15arf. Cyf: Doug Aitken.

Gwibdaith drwy greadigrwydd modern sy’n cynnwys 62 o ffilmiau munud–o–hyd a ffilmiwyd yn ystod taith ar hyd Gogledd America. Mae pob un o’r ffilmiau yn dal eiliadau bythgofiadwy ac unigryw a gwelwn gymysgedd o gyfranogwyr, gan gynnwys Beck, sy’n perfformio gyda chôr gospel yn anialwch Mojave, Jackson Browne sy’n myfyrio ar ddylanwad y rheilffordd ar ei gerddoriaeth ef ac Ed Ruscha, sy’n trafod tirwedd America. Caleidosgop o brofiadau sy’n adrodd hanes ein diwylliant esblygol.

Elliott Smith: Heaven Adores You Gwe 3 — Iau 9 Gorffennaf

UDA/2015/104mun/12A. Cyf: Nickolas Rossi.

Mae’r ffilm agos–atoch hon am fywyd a cherddoriaeth y cyfansoddwr Elliott Smith yn archwilio’r tair dinas fawr a oedd yn gartref iddo. Yn rhyw fath o lyfr lloffion o ddelweddau o’i blentyndod hyd at ei hunanladdiad trasig, mae’r ffilm yn edrych ar yr effaith y mae ei gerddoriaeth yn dal i’w chael ar ei ffans, ei ffrindiau a chyd–gerddorion.

Llun 6 Gorffennaf

UDA/2015/240mun/12A. Cyf: Martin Scorsese.

Mynnwch eich sedd yn y rhes flaen ar gyfer yr aduniad unigryw hwn! Wedi’i ffilmio’n fyw y noson cyn ei darllediad yn Soldier Field, Chicago, cynhelir y digwyddiad epig hwn bron i 20 mlynedd i’r diwrnod ers cyngerdd olaf y Grateful Dead gyda Jerry Garcia. Bydd pedwar aelod gwreiddiol y grŵp, Mickey Hart, Bill Kreutzmann, Phil Lesh a Bob Weir, yn ymuno â’r cerddorion enwog, Trey Anastasio (Phish, Trey Anastasio Band), Jeff Chimenti (RatDog, The Dead, Furthur) ac enillydd gwobrau Grammy niferus, Bruce Hornsby. Am un noson yn unig, ar ddarllediad lloeren byw ledled y byd — y tro olaf i’r band chwarae gyda’i gilydd erioed.


Sinema

27

Gyda’r cloc, o’r chwith uchaf: The Wrecking Crew, The Ecstasy of Wilko Johnson, Eden

chapter.org

The Wrecking Crew Gwe 10 – Mer 15 Gorffennaf

UDA/2015/95mun/12A. Cyf: Denny Tedesco.

Gofynnodd Brian Wilson i grŵp o gerddorion o arfordir y gorllewin yn UDA, pobl a ddysgodd eu crefft drwy wrando ar sgorau ffilmiau a ‘jingles’, i greu seiniau cefndirol i Pet Sounds ac, yn rhinwedd eu gwybodaeth a’u hegni, daeth y “Wrecking Crew” i fodolaeth. Dros y degawd nesaf, darparodd y criw nifer helaeth o’r riffiau a’r ‘licks’ a fyddai’n diffinio sŵn eiconig y gorllewin Americanaidd. Daeth rhai o’r cerddorion hyn, fel Glen Campbell a Leon Russell, yn sêr eu hunain ond arhosodd nifer o’r gweddill — fel tad y cyfarwyddwr, Tommy Tedesco — yn y cysgodion, er iddynt gyfrannu at recordiau hynod gan Sonny & Cher, The Monkees, The Byrds a Simon & Garfunkel. Teyrnged hwyliog a thyner i’r cerddorion anweledig a ddiffiniodd sŵn cenhedlaeth.

Eden

Gwe 31 Gorffennaf — Iau 6 Awst Ffrainc/2014/131mun/is–deitlau/15. Cyf: Mia Hansen–Løve. Gyda: Félix de Givry, Pauline Etienne, Greta Gerwig.

O ddechrau’r 90au a thros gyfnod o ddau ddegawd, gwelwn hanes Paul a’i ffrindiau, clybwyr pybyr, a datblygiad sin gerddoriaeth electronig greadigol y “French touch”. O rêfs anghyfreithlon i hits rhyngwladol gan grwpiau fel Daft Punk, gwelwn realiti bywyd i’r rheiny y cyd–blethwyd eu bywydau â’r llwyddiannau hyn. Mae curiadau ffres ac iwfforia yn ildio i felancoli wrth i Paul geisio cadw cydbwysedd rhwng ei gelfyddyd, ei gariad a’i iechyd.

The Ecstasy of Wilko Johnson

Gwe 24 — Iau 30 Gorffennaf DG/2015/91mun/15arf. Cyf: Julien Temple.

Stori anhygoel y cerddor chwedlonol, Wilko Johnson, a aeth ar daith ffarwel ar ôl cael diagnosis o ganser marwol. Ac fel pob stori dda, mae gan stori Wilko dro yn y gynffon. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, ac yn groes i’r disgwyl, mae Wilko yn dal yn fyw. Stori lawn gobaith am wynebu ein hunllefau a’u troi nhw wyneb i waered. + Ymunwch â ni am sesiwn holi–ac–ateb gyda’r cyfarwyddwr, Julien Temple, ar ddydd Gwener 24 Gorffennaf.


Sinema

Dear White People

BAFTA Cymru yn cyflwyno:

029 2030 4400

Dear White People

28

Gwe 24 — Iau 30 Gorffennaf UDA/2014/108mun/15. Cyf: Justin Simien, Adriana Serrano. Gyda: Tyler James Williams, Tessa Thompson, Kyle Gallner.

Mewn prifysgol o fri yn America, mae Sam, sy’n fyfyrwraig uchel ei chloch, yn dechrau defnyddio ei sioe radio i sôn am hiliaeth ddofn ei hysgol. Wrth iddi wynebu adlach ei chyd–fyfyrwyr caiff ei radicaliaeth ei herio — a hynny mewn modd tra annisgwyl. Ffilm ddychan ffres a thanllyd am yr America ôl–hiliol honedig sydd yn feicrocosm o wleidyddiaeth cyfnod Obama.

Gŵyl Ffilm Fechan Caerdydd: Comedi Sul 26 Gorffennaf DG/2015/120mun/18arf.

Mae gan Ŵyl Ffilm Fechan Caerdydd raglen o ddeg ffilm gomedi ar eich cyfer, wedi’u gwneud gan dalentau mwyaf addawol Cymru. Cafodd y ffilmiau eu cloriannu a’u gosod ar y rhestr fer gan Jonny Owen (Svengali). Bydd yr ardderchog Boyd Clack (Twin Town, High Hopes) yn cyflwyno’r digwyddiad hwn ac yn cyflwyno’r gwobrau i’r enillwyr. Dewch i gefnogi dyfodol ffilm yng Nghymru — bydd cyfle i chi bleidleisio dros eich hoff ffilm gomedi chi hefyd.

The Marriage of Reason and Squalor Fersiwn Ryngwladol Mer 8 Gorffennaf DG/2015/90mun/15. Cyf: Jake Chapman. Gyda: Rhys Ifans, Sophie Kennedy Clark.

Mae’r artist Jake Chapman, a enwebwyd am Wobr Turner, yn cychwyn pennod newydd fel cyfarwyddwr dramâu â’r addasiad hwn o’i nofel ddychanol ei hun. Mae priodferch o’r enw Lydia yn derbyn ynys yn rhodd gan ei dyweddi. Ond ar ôl cyrraedd y fan, mae hi’n cyfarfod ag awdur dirgel o’r enw Helmut Mandragorass sydd eisoes yn byw yno. Mae’r hyn sy’n dilyn yn gyfuniad o rith a realiti. + Sesiwn holi–ac–ateb gyda’r cyfarwyddwr, Jake Chapman, a’r cynhyrchydd, Colin Vaines.

Moviemaker Chapter Llun 6 Gorffennaf Sesiwn reolaidd sy’n caniatáu i gyfarwyddwyr annibynnol ddangos eu ffilmiau byrion. I gael mwy o wybodaeth am ddangos eich ffilm chi, neu unrhyw fanylion eraill, e–bostiwch moviemaker@chapter.org. O bryd i’w gilydd, dangosir ffilmiau sy’n cynnwys deunydd anaddas i bobl iau. Awgrymwn, felly, bod sesiynau Moviemaker Chapter yn addas ar gyfer pobl 18+ oed yn unig.


chapter.org

Y Llwyfan ar y Sgrin

Sinema

29

Effeithiau Gwrthdaro a Rhyfel Mae ein tymor o ffilmiau sy’n edrych ar effeithiau gwrthdaro yn parhau. I gael mwy o wybodaeth am y rhaglen ac i ymuno â’r sgwrs, ewch i www.conversationsaboutcinema.co.uk neu ymunwch â ni ar Twitter — @convocinema #convocinema.

O’r chwith i’r dde: NT Live: Everyman, Salt of the Earth

Cyflwyniad ar y cyd â Watershed, Bryste, a Theatr Ffilm y Frenhines, Belffast. Prosiect gan Rwydwaith Cynulleidfaoedd Ffilm y BFI gyda chefnogaeth y BFI, sy’n dyfarnu arian Y Loteri Genedlaethol.

NT Live: Everyman Iau 16 Gorffennaf Encore: Llun 3 Awst

DG/2015/90mun/12A. Cyf: Rufus Norris. Gyda: Chiwetel Ejiofor. Mae Everyman yn llwyddiannus, yn boblogaidd ac ar ben ei ddigon pan ddaw Death i alw amdano. Caiff ei orfodi i roi’r gorau i’r bywyd a greodd iddo’i hun a chychwyn ar gwest gwyllt olaf i recriwtio ffrind, unrhyw un o gwbl, i siarad ar ei ran. Ond mae Death yn dynn ar ei sodlau ac mae amser yn prinhau. Yn un o’r mythau oesol ac ysbrydol mawrion, ac yn un o gonglfeini’r ddrama Saesneg ers y 15fed ganrif, daw’r ddrama hon yn fyw ar lwyfan o’r newydd mewn cynhyrchiad syfrdanol sy’n cynnwys geiriau gan fardd y frenhines, Carol Ann Duffy, a symudiadau gan Javier De Frutos.

RSC Live: The Merchant of Venice Mer 22 Gorffennaf

DU/2015/180mun/12A. Cyf: Polly Findlay.

Mae Bassanio yn gofyn i’w gyfaill, y masnachwr o Fenis, Antonio, am fenthyg arian, er mwyn talu am ei garwriaeth â Portia. Ond â chyfoeth Antonio ynghlwm â mentrau morwrol, mae e’n benthyg yr arian gan fenthyciwr arian o’r enw Shylock. Mae tensiynau hiliol yn mudferwi a’r ddau ddyn yn gwbl elyniaethus i’w gilydd. Mynna Shylock gytundeb sy’n dweud y bydd ganddo hawl ar bwys o gnawd Antonio os na ad–delir y ddyled. Yna, daw’r newyddion bod llongau Antonio wedi dryllio ar y môr mawr ...

West

Gwe 10 — Iau 16 Gorffennaf Yr Almaen/2014/102mun/is–deitlau/15. Cyf: Christian Schwochow. Gyda: Jördis Triebel, Tristan Göbel, Alexander Scheer.

Yn Nwyrain yr Almaen yn y 1970au, mae Nelly’n penderfynu dianc o’r tu ôl i wal Berlin gyda’i mab Alexej, ar ôl i’w chariad, Wassilij, ddiflannu. Y dyb yw ei fod ef wedi marw. Mae Nelly’n esgus priodi gŵr o Orllewin yr Almaen ac yn croesi’r ffin i ddechrau bywyd newydd. Ond daw ei gorffennol i ddechrau aflonyddu arni, wrth i Wasanaethau Cudd y Cynghreiriaid ddod i holi am Wassilij. A yw e’n dal yn fyw? A oedd e’n ysbïwr? Rhaid i Nelly ddewis rhwng y gwir am ei chyn–gariad a’i gobeithion am ddyfodol gwell.

Salt of the Earth

Gwe 24 — Iau 30 Gorffennaf Brasil/2015/110mun/12A. Cyf: Juliano Ribeiro Salgado, Wim Wenders.

Am ddeugain mlynedd, bu’r ffotograffydd Sebastião Salgado yn teithio yn ôl troed y ddynoliaeth fythol newidiol. Bu’n dyst i ddigwyddiadau mawr ar bob cyfandir — gwrthdaro rhyngwladol, newyn ac ymadawiadau ar lefel enfawr. Mae e bellach yn chwilio am dirweddau mawreddog er mwyn talu teyrnged i harddwch y blaned. Yn y ffilm gain a gweledol hyfryd hon, cawn fyfyrio ar “ymddygiad anifeilaidd” dynoliaeth drwy gyfrwng ei delweddau ffotograffig amheuthun.


Sinema

029 2030 4400

Iris

Far From the Madding Crowd

O’r chwith i’r dde: Iris, Far From the Madding Crowd

30

Gwe 31 Gorffennaf — Iau 6 Awst UDA/2015/87mun/PG. Cyf: Albert Maysles.

Mae Iris Apfel yn wraig 93 oed ddeallus a lliwgar a bu’n ddylanwad egnïol ar sîn ffasiwn Efrog Newydd ers degawdau. Mae’r ffilm ddogfen hon yn fwy na ffilm ffasiwn — mae hi’n stori am greadigrwydd, gan y cyfarwyddwr Grey Gardens, sy’n ein hatgoffa bod gwisgo, a bywyd yn wir, yn ddibynnol ar arbrofi.

True Story

Gwe 31 Gorffennaf — Iau 6 Awst UDA/2015/99mun/15. Cyf: Rupert Goold. Gyda: James Franco, Jonah Hill, Felicity Jones.

Caiff Christian Longo ei arestio ym Mecsico ar amheuaeth o lofruddio ei wraig a’u tri o blant. Mae e’n ffoi ac yn dechrau chwarae rôl newyddiadurwr drwg– enwog y New York Times, Michael Finkel. Mae’r Michael go iawn yn awyddus i adfer ei yrfa ac mae e’n cytuno,felly, i gyf–weld â Christin. Fodd bynnag, mae haerllugrwydd Michael yn ei arwain i gêm ryfedd â Christian, sydd yn barod i fanteisio ar y sefyllfa. Yn seiliedig ar stori go iawn, mae’r ffilm hon yn llawn perfformiadau cynnil ac yn stori hynod am ryfyg a balchder.

Gwe 31 Gorffennaf — Iau 6 Awst DG/2015/119mun/12A. Cyf: Thomas Vinterberg. Gyda: Carey Mulligan, Michael Sheen, Matthias Schoenaerts.

Mae’r Bathsheba Everdene annibynnol a phengaled yn denu sylw tri dyn gwahanol iawn: Gabriel Oak, ffermwr defaid, Frank Troy, sarjant di–hid a William Boldwood, hen lanc cyfoethog. Mae’r stori oesol hon am ddewisiadau a nwydau Bathsheba yn archwilio natur perthnasau a chariad, yn ogystal â’r gallu dynol i oresgyn caledi â gwydnwch a dyfalbarhad. Disgrifiadau Sain ar gael ymhob dangosiad ac Is–deitlau Meddal ar Gwe 31 Gorffennaf 8.20pm, Maw 4 Awst 8.20pm a Iau 6 Awst 10.30am a 8.20pm. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau neu ewch i’n gwe– fan i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

Os na lwyddoch chi i fynychu trafodaeth Addasiadau/ Adaptations o Far From the Madding Crowd, mae pynciau’r drafodaeth ac ysgrifau perthnasol ar gael ar ein gwe–fan.


chapter.org

31

Sinema

Ffilmiau i’r Teulu Cyfan

Song of the Sea

Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn a dydd Sul am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn. Archebwch ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Carry on Screaming Bob dydd Gwener am 11am, mae Carry On Screaming yn cynnig cyfle i rieni neu ofalwyr weld ffilm heb orfod poeni y bydd eu babi’n aflonyddu ar eraill. Gweler y calendr am fanylion y dangosiadau arbennig hyn i bobl â babanod dan flwydd oed.

Two by Two

Sad 4 + Sul 5 Gorffennaf Dangosiad mewn Amgylchiadau Cefnogol Arbennig: Sul 5 Gorffennaf Yr Almaen/2015/87mun/U. Cyf: Toby Genkel, Sean McCormack. Gyda: Dermot Magennis, Callum Maloney, Tara Flynn.

Mae llifogydd ar y ffordd ac fe adeiladwyd arch i achub pob anifail. Ond, yn anffodus, does yna ddim lle i’r Nestriaid, Dave a’i fab Finny. Maent yn sleifio i fwrdd y llong gyda’r Grymps, Hazel a Leah, ac yn credu eu bod nhw’n ddiogel — tan i’r plant chwilfrydig ddisgyn oddi ar yr Arch. Disgrifiadau Sain ar gael ymhob dangosiad ac Is–deitlau Meddal ar Sul 5 Gorffennaf 11am. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau neu ewch i’n gwe–fan i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

Noddir gan Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk 02920 666688

Jurassic World

Sad 18 — Iau 23 Gorffennaf UDA/2015/124mun/12A. Cyf: Colin Trevorrow. Gyda: Chris Pratt, Bryce Dallas–Howard.

Ddwy flynedd ar hugain ar ôl digwyddiadau Jurassic Park, mae Isla Nublar bellach yn gartref i barc dinosoriaid, Jurassic World, sydd yn driw i weledigaeth wreiddiol John Hammond. Ar ôl 10 mlynedd o weithgarwch ac wrth i nifer yr ymwelwyr leihau, mae’r parc yn creu atyniad newydd i geisio aildanio diddordeb y cyhoedd — ond mae hi i hynny oblygiadau ofnadwy. Disgrifiadau Sain ar gael ymhob dangosiad ac Is–deitlau Meddal ar Sul 19 Gorffennaf 11am. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau neu ewch i’n gwe–fan i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

Minions

Sad 25 — Iau 30 Gorffennaf UDA/2015/104mun/TiCh. Cyf: Kyle Balda, Pierre Coffin. Gyda: Chris Renaud, Pierre Coffin, Sandra Bullock, Jon Hamm.

Tomorrowland: A World Beyond

Mae’r Minions, Stuart, Kevin a Bob, yn cael eu recriwtio gan Scarlet Overkill, uwch–ddihiryn sydd, ar y cyd â’i gŵr, y dyfeisiwr Herb, yn ffurfio cynllun i reoli’r byd.

UDA/2015/130mun/12A. Cyf: Brad Bird. Gyda: George Clooney, Britt Robertson, Hugh Laurie.

Gwe 31 Gorffennaf — Iau 6 Awst

Sad 11 + Sul 12 Gorffennaf

Wedi’u huno gan dynged gyfun, mae arddegwr â photensial gwyddonol a chyn–athrylith ifanc yn cychwyn ar daith i ddod o hyd i fan cyfrinachol sy’n bodoli yn rhywle mewn gofod ac amser, yn eu cof cyfun.

Song of the Sea

Iwerddon/2015/93mun/PG. Cyf: Tomm Moore. Gyda: David Rawle, Brendan Gleeson, Lisa Hannigan.

Mae Saoirse, merch fach sy’n gallu’i thrawsnewid ei hun yn forlo, yn mynd ar antur gyda’i brawd i achub byd ysbrydion a bodau hudol eraill.


32

Addysg

Gweithgareddau Ffilm yr Haf Dyddiau Mawrth 28 Gorffennaf — 18 Awst 9.30am–3.30pm Ymunwch â’n Swyddog Addysg Ffilm, Matt, am ddiwrnodau hwyliog yn llawn gweithgareddau creadigol a fydd yn archwilio themâu a syniadau ein rhaglen o ffilmiau gwych i blant. Mae’r diwrnodau’n cynnwys dangosiad ffilm yn ogystal â gweith– gareddau ymarferol fel animeiddio ‘stop–motion’, cynllunio sain, sgiliau cyfarwyddo sylfaenol, cynllunio ac adeiladu, gwneud modelau, gêmau, posau a llawer mwy. Dewch draw, cymrwch ran, dysgwch sgiliau newydd a dewch i gael hwyl wrth greu! Dewch â phecyn bwyd gyda chi, os gwelwch yn dda. £22 fesul plentyn fesul diwrnod

Maw 21 Gorffennaf

Jurrasic World Hwyl cynhanesyddol a byd o ddinosoriaid. 12 — 16 oed

Maw 28 Gorffennaf

Minions Hwyl, gêmau, animeiddio a bananas. 8 — 12 oed

Maw 4 Awst

Song of the Sea Celfyddydau, crefftau a blas ar ddiwylliant Japan. 8 — 12 oed

Maw 11 Awst

Dr Proctor’s Fart Powder Dyfeisiadau gwallgo’ a chelfyddydau gwirion. 8 — 12 oed

Maw 18 Awst

Minions Mwy o hwyl gyda’r Minions! (Os bu i chi golli’r digwyddiad ym mis Gorffennaf.) 8 — 12 oed

029 2030 4400

‘Sewcials’ yr Haf

Mer 29 Gorffennaf + Mer 5 Awst 10.45–3pm Dewch i wylio ffilm ac i gael eich ysbrydoli wedi hynny gan ddosbarthiadau ‘Sewcial’ yr Haf. Bydd cyfranogwyr yn dysgu ac yn datblygu sgiliau gwnïo a hynny mewn ffordd hwyliog mewn gweithdai gwnïo dwy awr o hyd ar ôl ffilm. Delfrydol ar gyfer dechreuwyr neu bwythwyr canolradd 8 –12 oed Dewch â phecyn bwyd gyda chi, os gwelwch yn dda. £12 i bob cyfranogwr (yn cynnwys tocyn a’r deunyddiau angenrheidiol)

Mer 29 Gorffennaf

Minions (PG) Mer 5 Awst

Song of the Sea (PG)


chapter.org

Addysg

Ysgol Haf Theatr Ieuenctid Chapter (8–12 oed)

I ddod yn fuan!

Llun 27 — Gwe 31 Gorffennaf 10.30am — 4pm ‘Extravaganza’ theatr gerddorol pum niwrnod o hyd. Bydd yr ysgol haf hon i blant 8 — 12 oed yn archwilio byd Frozen Disney. Bydd cyfranogwyr yn dysgu caneuon, yn ail–greu golygfeydd ac yn datblygu eu sgiliau perfformio. Felly, os ydych chi wrth eich bodd â Frozen ac yn hoff o actio, dyma’r ysgol haf i chi! Bydd cyfranogwyr yn paratoi ar gyfer perfformiad agored ar ddiwedd yr wythnos ym mhrif ofod theatr Chapter. Bydd angen pecyn bwyd a photel ychwanegol o ddŵr bob dydd. £100

33

Dewch i Animeiddio!

Gweithdai Animeiddio i Bobl Ifainc ar Sbectrwm Awtistiaeth Llun 3 + Llun 10 + Llun 17 + Llun 20 Awst 10.30am, 12.30pm + 2.30pm bob dydd O ganlyniad i boblogrwydd y gweithdai ymarferol ardderchog hyn i bobl ifainc ar sbectrwm awtistiaeth, byddwn yn cynnal deuddeg o weithdai ychwanegol yr haf hwn. Nifer cyfyngedig o leoedd fydd ar gael ac fe gânt eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin gaiff falu. Mae’r sesiynau hyn yn gyfle i’r bobl ifainc gychwyn allan ym maes animeiddio ac i ddysgu a datblygu sgiliau mewn awyrgylch cefnogol a chreadigol. Does dim angen profiad o animeiddio felly pa un ai ydych chi wedi cymryd rhan yn un o’n cyrsiau deg wythnos blaenorol neu yn awyddus i animeiddio am y tro cyntaf, bydd yna groeso cynnes i chi yn Chapter! £12 y sesiwn neu £40 am bob un o’r 4 sesiwn (1 yr wythnos)

I gael mwy o wybodaeth am unrhyw un o’r cyrsiau hyn, a manylion ynglŷn â sut i gofrestru, cysylltwch â learning@ chapter.org.


34

Archebu/Gwybodaeth

029 2030 4400

GWYBODAETH Sut i Archebu Tocynnau

Gwybodaeth

Dros y ffôn — ffoniwch ni ar 029 2030 4400. Rydym yn derbyn pob un o’r prif gardiau credyd. Galwch heibio — mae ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 11am–8.30pm, ac ar y Sul o 3pm–8.30pm. Ar–lein: Gallwch archebu ar www.chapter.org bob awr o’r dydd a’r nos Consesiynau: Mae cyfraddau disgownt ar gael i fyfyrwyr, pobl dros 60 oed, plant, y di–waith, pobl anabl, deiliaid cerdyn MAX ac i Ffrindiau Chapter a deiliaid Cerdyn Chapter. Bydd angen i chi gyflwyno prawf o’ch cymhwyster i dderbyn cyfradd ostyngol. Archebion grŵp: Prynwch 8 tocyn ac fe gewch chi’r 9fed yn RHAD AC AM DDIM. Noder os gwelwch yn dda • dim ond un disgownt y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw un adeg • rydym yn hapus i dderbyn archebion ymlaen llaw ond ni allwn gadw tocynnau i’r naill ochr • os cyrhaeddwch chi’n hwyr mae hi’n bosib y cewch chi’ch atal rhag mynychu eich digwyddiad. Cyflwynir rhai o’n ffilmiau â Disgrifiadau Sain ac Is–deitlau Meddal ond nid yw’r wybodaeth hon bob amser ar gael ar adeg argraffu’r cylchgrawn. Gweler ein gwe–fan am fanylion neu piciwch draw i’r Swyddfa Docynnau yn ystod yr wythnos y mae’r ffilm yn cael ei rhyddhau.

Cwmnïau ac Artistiaid Cysylltiedig Mae Chapter yn gartref i gwmnïau theatr, cwmnïau dawns, stiwdios animeiddio, gwneuthurwyr printiau, crochenwyr, dylunwyr graffeg, dylunwyr deunydd symudol, cyfansoddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, cyhoeddwyr cylchgronau, artistiaid annibynnol a llawer iawn mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Sinema Cyn 5pm O 5pm ymlaen Llawn £4.50 (£4.00) £7.90 (£7.20) Cons £3.50 (£3.00) £5.80 (£5.10) Cerdyn + Cons £3.00 (£2.50) £5.00 (£4.50) DISGOWNT DYDD MAWRTH Tocynnau’r holl brif ddangsiadau — £4.40

Gweithdai a Dosbarthiadau Rydym yn cynnal amrywiaeth eang o weithdai dyddiol a dosbarthiadau gydag ymarferwyr annibynnol, gan gynnwys ballet, zumba, ioga, crefft ymladd, massage i fabanod, cerddoriaeth i blant, pilates, tango, fflamenco, ysgrifennu creadigol, gwersi cerddoriaeth a mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Sut i gyrraedd Chapter Fe ddewch chi o hyd i ni yn Nhreganna, i’r gorllewin o ganol y ddinas. Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE Ar Droed Mae hi’n daith gerdded hamddenol o ryw 20 munud o ganol y ddinas. Ar Fws Mae bysus rhif 17, 18 a 33 yn aros gerllaw ac yn gadael bob pum munud o ganol y ddinas. Ar Feic Mae digon o raciau beic ar flaen yr adeilad. Parcio Mae gennym faes parcio yng nghefn yr adeilad ac mae meysydd parcio lleol eraill wedi eu nodi ar y map. Gofynnwn i chi barchu ein cymdogion os gwelwch yn dda drwy osgoi parcio mewn strydoedd cyfagos.

Prisiau ymlaen llaw/ar–lein mewn cromfachau. Mae “Ymlaen llaw” yn golygu unrhyw bryd cyn diwrnod y dangosiad.

aff nd Lla

Springfield Pl.

ad

mC ha cen res

Ha m i l t o n

St

t

Gr

King’s Ro

nd Wy

ane

Road

L Gray

. Library St

St. ay

Treganna

Le c h kwit

Church Rd.

Heol Ddwy rein i o l y B o n t F a en Penllyn Rd.

Harve

St Talbot

Orc h a r d P l.

rn Seve

St. Gray M a rk e t P l .

treet yS

e St. Glynn

d Roa

d hna arc lyF

Heo

o 6pm

rt S

t.

Road

Earle Pl.

A l be

P — meysydd parcio rhad ac am ddim — rac feics

r R—oadarhosfan bysus Majo

I Ganol Dinas Caerdydd ton ling Wel

et Stre

Mynediad i bawb Mae Chapter yn croesawu ymwelwyr anabl. Os oes gennych anghenion mynediad penodol, ffoniwch ein swyddfa docynnau ar 029 2030 4400, minicom 029 2031 3430.


chapter.org

Cymryd Rhan

35

CYMRYD RHAN Cerdyn CL1C

Cadwch mewn cysylltiad

Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawr–lwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Ymunwch â ni ar–lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

Ffrindiau Chapter Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40

eAmserlen rad ac am ddim eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E–bostiwch adam.chard@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e–bost.

Cynllun Myfyrwyr Chapter Ydych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth am ddim a manteisio ar gynigion arbennig nodedig, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Jennifer — jennifer.kirkham@chapter.org www.chapter.org/cy/aelodaeth–myfyrwyr–chapter

Rydym yn falch o fod yn rhan o Hynt. www.hynt.cym Hoffai Chapter gydnabod cefnogaeth hael y sefydliadau a’r grwpiau canlynol:

Cronfa Gymunedol Tirlenwi Sefydliad Esmée Fairbairn Rhaglen Ddiwylliant yr UE Sefydliad Baring Sefydliad Garfield Weston Sefydliad Foyle Gwobr Biffa Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston Grŵp Admiral Cyf Sefydliad Moondance ar gyfer y Celfyddydau a Chwaraeon Sefydliad Elusennol Trusthouse Y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru Plant mewn Angen y BBC Sefydliad Waterloo Ymddiriedolaeth Ynni Gwyrdd ScottishPower Yr Ymddiriedolaeth Ddarlledu Gymreig SEWTA

Richer Sounds Sefydliad y Brethynwyr Momentum Sefydliad Henry Moore Google Sefydliad Jane Hodge Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson Ymddiriedolaeth People’s Postcode Ymddiriedolaeth Feddygol Dunhill Legal & General Institut für Auslandsbeziehungen e.V Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm Ymddiriedolaeth Ernest Cook Lloyds TSB Arwyddion Morgan Ymddiriedolaeth Elusennol y Garrick Barclays

Celfyddydau & Busnes Cymru Ymddiriedolaeth Austin & Hope Pilkington Sefydliad Rhyngwladol Singapore Gwestai Puma: Gwesty’r Angel Caerdydd Maes Awyr Caerdydd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru Ymddiriedolaeth Elusennol Gibbs Cynllun Cymunedol Ceredigion Ymddiriedolaeth Elusennol Steel Sefydliad Boshier–Hinton 1st Office Ymddiriedolaeth Oakdale Cwmni Plastig Dipec Nelmes Design

Ymddiriedolaeth Elusennol Coutts Elusen Wake Bruce Funky Monkey Feet Sefydliad Finnis Scott Banc Unity Trust Hugh James Cymdeithas Celfyddydau Cyfoes Cymru Dot Foundry Gidden & Rees Western Power Distribution Ymddiriedolaeth Follett Celfyddydau & Phlant Cymru Aduniad Merched Ysgol Uwchradd Canton Grŵp y Co–operative Llysgenhadaeth Gwlad Belg Llywodraeth Queensland


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.