Chapter Mawrth 2015

Page 1

029 2030 4400

@chaptertweets

chapter.org


02

Croeso

chapter.org

CROESO Helo a chroeso i’ch cylchgrawn misol, lle cewch chi fanylion am bob un o ddigwyddiadau Chapter ym mis Mawrth. Rydym yn falch iawn o allu sôn ychydig am yr holl bethau gwych sy’n eich disgwyl y mis hwn, ac mae ein cylchgrawn yn ganllaw gwych — ond a wyddech chi y gallwch ei lawrlwytho hefyd ar ein gwe-fan? Mynnwch eich copi fan hyn: www.chapter.org/cy/newyddion-swn/llyfrynnau. Rydym yn falch iawn bob amser o gyflwyno gwaith newydd yn ein theatr ac, ym mis Mawrth, byddwn yn cyflwyno première Cymreig o waith newydd Philip Ridley, Dark Vanilla Jungle (t10). Eisiau cyflwyno byd y theatr i’r plant? Mae Flying Cow (t9) yn cyflwyno byd llawn dychymyg synhwyraidd trwy gyfrwng dawnsio a drama ac mae Boxy & Sticky, gan Theatr Iolo, yn antur theatrig hynod fywiog i blant 2–5 oed (t9). Ar y cyd â’r ffilmiau newydd gorau a detholiad ardderchog o sinema’r byd yng Ngŵyl WOW (tt26-28), byddwn yn ail-ddangos dwy ffilm y mae disgwyl iddyn nhw gystadlu am Oscars, Imitation Game (t18) a The Theory of Everything (t18), felly os na lwyddoch chi i weld y rhain y tro cyntaf, dyma gyfle i wneud yn iawn am hynny! Ac os ydych chi’n sychedig, beth am alw heibio’n bar? Bydd ein gŵyl gwrw ranbarthol yn cyflwyno diodydd o Lundain y mis hwn, ac fe fydd yna ddetholiad ardderchog o gwrw a jin o’r ddinas fawr. Gweler y manylion am ŵyl Stryd y Cwrw a’r Lôn Jin ar dudalen 6. Diolch am ddarllen ac fe welwn ni chi cyn hir!

Defnyddiwch y côd QR hwn i lawr-lwytho copi digidol o gylchgrawn Chapter

Delwedd y clawr: Mr & Mrs Clark The Medicine Show

Chapter Heol y Farchnad, Caerdydd CF5 1QE 029 2030 4400 www.chapter.org ymholiadau@chapter.org


chapter.org

Uchafbwyntiau

Oriel tudalennau 4–5

Bwyta/ Yfed/Llogi tudalen 6

03

CYMRYD RHAN

Chapter Mix

Cerdyn CL1C

tudalen 7

Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawr-lwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Theatr tudalennau 8–13

Ffrindiau Chapter Sinema tudalennau 14–29

Addysg tudalennau 30–31

Cefnogwch Ni tudalen 31

Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40

Cadwch mewn cysylltiad Ymunwch â ni ar-lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

Gwybodaeth a Sut i archebu tocynnau tudalen 32

eAmserlen rad ac am ddim eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch adam.chard@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.

Cysylltwch â ni @chaptertweets facebook.com/chapterarts

Cymryd Rhan tudalen 33

Calendr tudalennau 34–35

Nodwch os gwelwch yn dda bod copïau print bras o’n cylchgrawn ar gael ar gais. Cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau ar 029 2030 4400.


04

Oriel

029 2030 4400


chapter.org

Oriel

05

Interference Richard Higlett le degré (y radd) Sad 7 — Sul 15 Mar Roedd Henri Émile Benoît Matisse, a anwyd ar Nos Galan 1869, yn 44 oed ar ddechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Er ei fod yn gorfforol ffit ac yn barod i ymladd dros ei Ffrainc annwyl, dywedwyd wrtho ei fod yn rhy hen. Drwy gydol y rhyfel, roedd disgwyl iddo wneud yr hyn a fyddai orau, yn ei farn ef, i gefnogi ei gydwladwyr yn y ffosydd. A hynny a wnaeth — drwy brynu gwerth 600 ffranc o fara bob mis a’i bostio i’r ffrynt. Yr hanesyn hwn o fywyd un o artistiaid mwyaf yr ugeinfed ganrif yw man cychwyn prosiect nesaf Rhaglen ‘Interference’. Bydd un o breswylwyr stiwdio Chapter, Richard Higlett, yn edrych ar werthoedd cymharol trwy greu nifer cyfyngedig o ‘baguettes’ seramig a gaiff eu gwerthu i gefnogi gwaith elusennau i’r digartref. Bydd y rhain yn rhan o osodiad mwy o faint yn y gofod a oedd gynt yn gartref i siop yr oriel. Mae Richard Higlett yn gweithio ag ystod eang o ffurfiau celfyddydol am ei fod yn credu y dylai’r syniad ei hun bennu’r modd y caiff ei gynrychioli maes o law. Yn 2013, derbyniodd Ddyfarniad Cymru Greadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Gallwch weld mwy am ei waith ar y we-fan, www.richardhiglett.com. Mae ‘Interference’ yn rhan o raglen o breswyliadau byrion sy’n cael eu cynnal rhwng cyfnodau arddangos yr oriel. Fe’u cynigir i artistiaid sy’n gweithio yng Nghymru fel gofod i ddatblygu syniadau.

Sgyrsiau am 2 Sad 14 Mawrth 2pm Ymunwch â ni yn yr oriel ar ddydd Sadwrn 14 Mawrth pan fydd yr athro Mike Tooby yn sgwrsio ag artist prosiect ‘Interference’, Richard Higlett. Byddant yn trafod ‘le degré’ Matisse a phrosiectau eraill. Mae’r Sgyrsiau am 2 yn rhad ac am ddim ac nid oes angen archebu lle ymlaen llaw — ymunwch â ni y tu allan i fynedfa’r Oriel! RHAD AC AM DDIM

Matisse’s Baguette 2015 Llun: Richard Higlett

Arddangosfa ar agor: Dyddiau Mawrth, Mercher, Sadwrn a Sul 12-6pm; dydd Iau a dydd Gwener 12-8pm; ar gau ar ddydd Llun


06

Bwyta Yfed Llogi

029 2030 4400

BWYTA YFED LLOGI

Stryd y Cwrw a’r Lôn Jin

Maw 3 — Sad 7 Mawrth Bydd ein gŵyl gwrw ranbarthol flynyddol yn cyflwyno detholiad o flasau o’r ‘mwg mawr’ eleni. Bydd yna gwrw o fwy na 10 o fragdai annibynnol Llundain ynghyd â bwydlen arbennig. A fyddai hi ddim yn bosib cynnig blas ar Lundain heb ddiferyn o hoff ddiod gadarn y ddinas — jin! Bydd yna ddetholiad ardderchog o jins Llundeinig, gan ddistyllwyr hen a newydd. Gallwch ddisgwyl diferion yn hanu o Ealing i East Ham, o Clapham i Camden ac o bob gorsaf danddaearol rhyngddynt! Galwch draw i gael cwpwl o ‘King Lears’ neu ‘Ann Boleyn’ neu ddau!

Llogi Mae nifer o ystafelloedd a chyfleusterau Chapter ar gael i’w llogi, ac mae llawer o’r rhain yn cael eu defnyddio’n rheolaidd gan gymysgedd eclectig o ddosbarthiadau dydd a nos. Ewch i’n gwe-fan neu codwch daflen yn y swyddfa docynnau i weld yr hyn sydd ar gael. Os ydych chi’n chwilio am ystafell ar gyfer parti, cyfarfod neu gynhadledd, neu am ofod i saethu fideo, i ymarfer neu i gynnal gweithgareddau adeiladu tîm, bydd ein cyfleusterau gwych, ein harbenigedd technegol a’n staff cyfeillgar yn gallu sicrhau bod eich digwyddiad yn gyffyrddus, yn unigryw ac yn gofiadwy. Gallwn ddarparu amrywiaeth o opsiynau arlwyo ar gyfer eich digwyddiad hefyd. Os oes gennych chi gwestiynau penodol neu os hoffech chi fwy o wybodaeth am ein cyfleusterau, rhowch ganiad i’n rheolwr llogi, Nicky, ar 029 2031 1058 neu anfonwch e-bost at nicky.keeping@chapter.org.

I ddod yn fuan! Bydd ein ‘Pop Up Produce’ hynod boblogaidd yn dychwelyd fis nesa’!


chapter.org

Chapter Mix

Cylch Chwedleua Caerdydd

Darlith Cymdeithas Celfyddydau Cain ac Addurnol De Cymru

Sul 1 Mawrth 8pm

Dathlwch Ddydd Gŵyl Dewi â straeon! Dewch i rannu a gwrando ar gasgliad hyfryd o straeon — croeso i storïwyr a gwrandawyr fel ei gilydd! £4 (wrth y drws)

Dydd Iau Cyntaf y Mis Barddoniaeth a Ffuglen Newydd Iau 5 Mawrth 7.30pm

Noson yn cynnwys cyflwyniadau gan y bardd bywiog o Lundain, Graham Clifford, y meddylgar, Sundeep Sen, o Wasg Mulfran, a’r bardd a’r canwr-gyfansoddwr o Gymru, Paul Henry. I’w dilyn gan sesiwn meic agored. £2.50

Clwb Comedi The Drones

Gwe 6 + Gwe 20 Mawrth Drysau’n agor: 8.30pm Sioe’n dechrau: 9pm Clint Edwards sy’n cyflwyno’r ‘stand-ups’ addawol gorau. Gwelwyd peth o ddeunydd y nosweithiau hyn ar raglen ‘Identity Crisis’ Rob Brydon. Dydd Gwener cyntaf a thrydydd dydd Gwener y mis. Un o’r ‘Deg Peth Gorau i’w Gwneud yng Nghaerdydd’ yn ôl cylchgrawn The Big Issue. £3.50 (wrth y drws)

07

Iau 12 Mawrth 2pm ‘Your Country Needs You’: Celfyddyd a Dylunio yng nghyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf James Taylor MA, FRSA

Dewch i glywed am gyfraniad amhrisiadwy Celfyddyd a Dylunio i ymgyrchoedd milwrol 1914-1918. Byddwn yn clywed hanes Alfred Leete (1882-1933), a ddyfeisiodd un o bosteri mwyaf poblogaidd Prydain. Byddwn hefyd yn archwilio detholiad o weithiau celfyddydol swyddogol gan Bone, Lavery, Nash, Nevison, Sargent a Wilkinson. Ymwelwyr £6 (wrth y drws, yn ddibynnol ar le) www.swdfas.org

Jazz ar y Sul Sul 15 Mawrth 9pm

Ein noson fisol o jazz acwstig melodig yn y Caffi Bar, gyda Phedwarawd Glen Manby. RHAD AC AM DDIM www.glenmanby.com

Clonc yn y Cwtch Bob dydd Llun 6.30–8pm

Ydych chi’n dysgu Cymraeg? Ymunwch â ni i ymarfer eich Cymraeg yng nghwmni dysgwyr eraill. Croeso i bawb! RHAD AC AM DDIM Ar y cyd â Menter Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd


Theatr

‘Sioe wych i’r hen a’r ifanc ... Yn ystod y sioe, roedd rhywbeth newydd i’w ddarganfod ar hyd yr amser’ Matt (12 oed)

029 2030 4400

Flying Cow

08


Theatr

09

De Stilte yn cyflwyno

Theatr Iolo A CHAPTER yn cyflwyno

Flying Cow

Boxy & Sticky

Maw 24 Mawrth 4pm

Crëwyd a Chyfarwyddwyd gan Sarah Argent Maw 31 Mawrth — Iau 2 Ebrill + Llun 6 Ebrill 11am + 3pm

O’r chwith i’r dde: Flying Cow, Boxy & Sticky

chapter.org

Os oes yna dri ohonoch, pwy sy’n chwarae gyda phwy? Mae’r perfformiad dawns llawn dychymyg hwn, a grëwyd i blant yn benodol, yn ymwneud â chwarae. Mae chwarae yn hwyl, ac eto mae’n beth difrifol iawn. Yn eich dychymyg, gall unrhyw beth ddigwydd — fe all gwartheg hedfan, hyd yn oed! Mae tri o blant yn chwarae gyda’i gilydd ac fe ddaw gêm i’r amlwg: gêm o dderbyn a rhannu, unigrwydd a chyfeillgarwch ... Cyflwyniad gwych i ddawns a byd y synhwyrau gan gwmni dawns i blant o’r Iseldiroedd, De Stilte. £6 Addas i gynulleidfaoedd teuluol (4+ oed) Ymunwch â ni ar gyfer gweithdai gwych i ysgolion yng nghwmni De Stilte. Bydd y gweithdai yn addas ar gyfer disgyblion cyfnod allweddol 2 ac yn cael eu cynnal ar 16, 17 neu 18 Mawrth naill ai yn Chapter neu yn eich hysgol chi. I gael mwy o wybodaeth am y gweithdai, gweler tudalen 30. I gadw lle, anfonwch e-bost at learning@chapter.org.

Antur theatrig llawn direidi i ddifyrru a llonni plant 2-5 oed (a’u teuluoedd) Mae gen i focs Mae gen i ffon Gall fy mocs i fod beth bynnag y dymunaf iddo fod. Gallaf i fod — y tu mewn iddo. Y tu allan iddo. Oddi tano. Ar ei ben. Fy ffon i oedd y tegan cyntaf yn y byd. Gallaf dapio gydag ef ei daflu a’i ddal. Gallaf ei gydbwyso ar fy mhen! Drama newydd sbon gan y tîm a oedd yn gyfrifol am Out of the Blue a Luna. Yn cynnwys cerddoriaeth fyw a chyfle i ymuno â sesiwn chwarae ar ôl y perfformiad. £7 Addas i’r teulu cyfan (2+ oed) www.theatriolo.com


Theatr

Company of Sirens yn cyflwyno première Cymreig

Mr & Mrs Clark The Medicine Show

029 2030 4400

O’r chwith i’r dde: Dark Vanilla Jungle llun: J H Andersen, The Medicine Show

10

Dark Vanilla Jungle Gan Philip Ridley Cyf: Chris Durnall Maw 3 — Sad 7 Mawrth 7.30pm + Matinée dydd Sadwrn 2.30pm “Cefais fy mhigo gan gacynen unwaith — ydych chi eisiau clywed yr hanes? Wel, mae’n stori nad ydych wedi’i chlywed o’r blaen. Ac mae’n rhaid i mi ddechrau yn rhywle.” Mae pobl yn gofyn i Andrea o hyd a oes cywilydd arni. Cywilydd am yr hyn a wnaeth hi i’r milwr? Cywilydd am yr hyn a wnaeth hi i’r babi? Ond does ar Andrea ddim rhithyn o gywilydd. Ac mae hi’n awyddus i ddweud pam…. Dilynir y perfformiad agoriadol (Maw 3 Mawrth) gan sesiwn holiac-ateb gyda Philip Ridley. £10/£8 16+ oed Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, y Loteri Genedlaethol a Shelter Cymru. Gyda chaniatâd caredig Asiantaeth Hall Knight, Llundain.

‘Gwaith rhyfeddol... chwilboeth... sy’n serio’r meddwl... Ophelia gyfoes a despret’ The Scotsman Cwmni Theatr Everyman yn cyflwyno

Measure for Measure Gan William Shakespeare Maw 17 — Sad 21 Mawrth 7.30pm + Matinée dydd Sadwrn 2.30pm Anaml y perfformir Measure for Measure erbyn hyn ond fe ddewisodd y Royal Shakespeare Company y ddrama i fod yn rhan o ‘Open Stages 2014-16’, ac mae’r cynhyrchiad hwn gan Everyman yn addo bod yn brofiad theatrig cyfoethog. Ystyrir y ddrama amlhaenog a gwleidyddol hynod hon yn un o gomedïau gorau Shakespeare, ac mae ei chymeriadau mor gymhleth bob tamaid â’i lleoliad. Mae’r iaith yn ymdrybaeddu yng ngrym a rhagrith y wladwriaeth, ym mywyd y llys ac ym mywyd bas puteindai Fenis fel ei gilydd. £10/Matinée dydd Sadwrn £8

Iau 5 Mawrth 8pm Mae Mr a Mrs Clark yn dychwelyd i Chapter i gyflwyno’u ‘Medicine Show’, sydd yn gyfuniad o ganu, dawnsio a hiwmor tywyll. Bydd y sioe yn difyrru, yn gwawdio ac yn hyrwyddo arferion daionus. Gallwch ddisgwyl diagnosis o anhwylderau nad oeddech chi’n ymwybodol ohonynt o’r blaen, a chael eich gwella trwy ddulliau amgen unigryw. Ac, wrth gwrs, fe gewch chi eich diddanu gan gyfres o gyflwyniadau a fydd yn hyrwyddo bywyd dedwydd. Mae’r sioe, fel pob ‘Medicine Show’, yn dibynnu ar awydd y gynulleidfa i gredu, ac mae Mr a Mrs Clark yn ceisio ein diddanu a’n gwella, cyn ein harwain i lefel o hapusrwydd newydd sbon ac iwtopaidd. Mae Mr a Mrs Clark yn mynd â’u Medicine Show ar daith ar gychwyn dathliadau i nodi 10 mlynedd o greu perfformiadau theatr. Caiff holl elw’r cynhyrchiad ei gyfrannu i Wersyll Ffoaduriaid Kyangwali yn Uganda, lle gweithiodd Mr Clark yn ystod haf 2014, gyda Grŵp Theatr New Hope. Defnyddir y theatr fel modd o fynd i’r afael â’r pynciau y mae trigolion y gwersyll yn eu hwynebu ac fe’i hystyrir yn elfen hanfodol wrth geisio sicrhau dyfodol gwell, mwy cytûn.

Cyfarwyddwyd gan Denni Dennis Dylunio a Gwisgoedd gan Gareth Clark a Marega Palser £12/£10 www.mrandmrsclark.co.uk

Mae Mr a Mrs Clark yn artistiaid cyswllt gyda Chwmni Theatr Volcano. Cafodd The Mr a Mrs Clark Medicine Show ei datblygu yn rhan o gynllun ‘Deori’ Canolfan Mileniwm Cymru ac fe’i cefnogir gan No Fit State

‘Mae Mr Clark yn gitarydd secsi a “mastermind” telynegol. Mae Mrs Clark yn ymdebygu i briodferch Beetlejuice — mae hi’n stripio ac yn dawnsio ac yn llawn campau acrobatig.’ Edinburgh Evening News


Theatr

Cwmni Theatr Tin Shed yn cyflwyno

Mai oh Mai Productions yn cyflwyno

Of Mice and Men

The Harri-Parris: The Big Day

11

O’r chwith i’r dde: Of Mice and Men, The Harri-Parris: The Big Day, llun: Warren Orchard

chapter.org

Mer 25 + Iau 26 Mawrth 2.30pm + 7.30pm “Mae angen rhywun ar ddyn — i fod yn gwmni iddo. Dim ots pwy yw e, dim ond ei fod e gyda chi.” Mae Of Mice and Men yn adrodd hanes George Milton a Lenny Small, dau ddyn gwahanol iawn y mae rhagluniaeth wedi’u rhwymo at ei gilydd. Yn ystod y Dirwasgiad Mawr Americanaidd, mae’r prif gymeriadau truenus yn ffurfio cynllun er mwyn cefnu ar eu bywydau tlawd a dechrau o’r newydd. Mae popeth yn ymddangos yn syml ond, heb yn wybod iddynt, mae gan dynged rôl i’w chwarae o hyd. Prin fod angen cyflwyno Of Mice and Men gan John Steinbeck. Ers ei llwyfaniad cyntaf ym mis Tachwedd 1937, bu’n un o ddramâu anhepgorol theatr Prydain; mae symlrwydd godidog yr ysgrifennu, hyd at ei diweddglo dramatig, yn symud cynulleidfaoedd hen a newydd. Caiff stori afaelgar Steinbeck am ddau ddyn ag un freuddwyd ei hadrodd â dewrder a manylder trawiadol gan Gwmni Theatr Tin Shed — cwmni sy’n ymfalchïo yn eu gallu i ymwneud o’r newydd â’r ffyrdd y gellir adrodd straeon. Yn y cynhyrchiad hwn, maent yn canolbwyntio ar gymeriadau llachar Steinbeck ac yn gwneud hynny â chryn fedr ac emosiwn. Ffurfiwyd y cwmni yn 2008 gan Justin Cliffe, Georgina Harris ac Antonio Rimola ar sail awydd cyfun i greu corff o waith newydd a chyffrous. £12/£10

Maw 31 Mawrth – Sad 4 Ebrill 8pm Gan Llinos Mai Sioe gerdd gomedi newydd sbon gan y bobl a gyflwynodd The Harri-Parris: The Leaving Do. Mae’r Harri-Parris yn deulu fferm o orllewin Cymru. Maent yn ddifyr ac yn gamweithredol a does dim yn well ganddynt na chroesawu ymwelwyr. Chi, hynny yw! Mae Anni, unig ferch y fferm, yn priodi ac mae’r HarriParris eisiau dathlu’r diwrnod mawr yn eich cwmni chi. Wel, nid y diwrnod mawr ei hun — ‘dyn nhw ddim yn graig o arian. Beth am y noson flaenorol? Y noson y byddan nhw’n cwrdd â dyweddi Anni — Saes, llysieuwr a cherddor ‘indie’ — am y tro cyntaf un. Beth allai fynd o’i le? Tynnwch eich hetiau crand o’r cwpwrdd ac ymunwch â’r Harri-Parris am noson ddifyr o ganeuon, straeon a chacen. Lot fawr o gacen. £14/£12/£10 12+ oed @ TheHarri_Parris Ar y cyd â Chapter, Theatr y Torch a Little Wander. Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Bristol Ferment.

‘Roeddwn i wrth fy modd! Teimladwy, doniol a gwreiddiol!’ Les Dennis, yn sôn am ‘The Leaving Do’


Theatr

029 2030 4400

Three Cane Whale

Blue-Eyed Hawk

Mer 4 Mawrth 8pm

Gwe 6 Mawrth 8pm

Mae’r triawd aml-offerynnol acwstig, Three Cane Whale, yn cyfuno dylanwadau gwerin, minimaliaeth, cerddoriaeth glasurol a cherddoriaeth ffilm er mwyn creu cyfanwaith y mae iddo ‘arogl dail mwdlyd a hen ddanadl poethion’ (The Observer). Cafodd albwm eponymaidd cyntaf y band ei recordio’n fyw ym Mryste mewn eglwys o’r ddeunawfed ganrif. Cafodd eu hail albwm, Holts and Hovers, ei recordio mewn 20 o leoliadau gwahanol, gan cynnwys eglwysi, capeli, ysgubor, sied rhandir, ar ben rhaeadr yng Nghymru a than drosffyrdd ym Mryste. Roedd yn un o Recordiau Gorau’r Flwyddyn cylchgrawn fRoots ac yn un o ‘Hidden Gems 2013’ papur newydd The Observer. Aelodau Three Cane Whale yw:

Daw’r enw o linell yng ngherdd WB Yeats, ‘Under the Moon’. Mae Blue-Eyed Hawk yn fand jazz o Lundain sy’n dwyn ynghyd bedwar o berfformwyr/ cyfansoddwyr ifainc mwyaf nodedig y DG: y lleisydd, Lauren Kinsella, y trwmpedwr, Laura Jurd, y gitarydd, Alex Roth, a’r drymiwr, Corrie Dick. Yn gyfuniad o ‘art-rock’, jazz a cherddoriaeth finimalaidd ac electronig, cafodd albwm cyntaf BlueEyed Hawk ei gyd-gynhyrchu gan Tom Herbert o Polar Bear ac fe’i disgrifiwyd fel “un o albymau mwyaf meddylgar a dychmygus y flwyddyn” (musicOMH). Yn dilyn sioeau hynod lwyddiannus, pan werthwyd pob tocyn, yn y King’s Place, y Barbican ac Ystafell Elgar y Royal Albert Hall yn Llundain, bydd Blue-Eyed Hawk yn chwarae eu sioe gyntaf yng Nghymru yn Chapter.

Three Cane Whale llun: Rob Harbron

12

Alex Vann — mandolin, saltring (‘psaltery’), sither, bouzouki, banjo tenor. Pete Judge — trwmped, harmoniwm, dylsiton, corn tenor, telyn, glockenspiel. Paul Bradley — gitâr acwstig, telyn fechan. £8/£6 www.threecanewhale.com

‘Perffaith. Antur ogoneddus o ganu gwerin newydd’ Cerys Matthews

£12/£10/£8

‘Gogoneddus o wreiddiol’ The Jazz Mann


Theatr

13

Newsoundwales yn cyflwyno

‘Overboard’ – Gig Codi Arian ‘The Boat Studio’

O’r chwith i’r dde: Luke Jackson, The Wyrd Wonder

chapter.org

Luke Jackson + The Brwmys Gwe 13 Mawrth 7.30pm Mae Luke Jackson yn ganwr-gyfansoddwr ‘roots’ ifanc o Gaergaint a chanddo lais unigryw a beiddgar ac arddull gitâr sydd yn felys ac ergydiol. Fe’i enwebwyd yn 2013 ar gyfer Gwobrau ‘Young Folk’ Radio 2 ac, yn raddol, enillodd enw da iddo’i hun ar y gylchdaith werin a ‘roots’ a chefnogi enwogion fel Amy Wadge, Show of Hands a Sarah Jarosz. Mae e wedi rhyddhau dau albwm, ‘More Than Boys’, a gynhyrchwyd gan Martyn Joseph a ‘Fumes and Faith’ a gyd-gynhyrchwyd gan y cynhyrchydd Americanaidd sy’n gweithio yng Nghaerdydd, Mason Neely. Mae’r ail record yn adlewyrchiad sicr o’i ddatblygiad fel cyfansoddwr ac fel perfformiwr. £8 (ymlaen llaw)/£10 (wrth y drws) Tocynnau ar gael o siop Spillers Records ac ar-lein yn https://www.wegottickets.com/event/304144

‘Etifedd teilwng i bobl fel Richard Thompson a Martin Simpson’ Cylchgrawn Acoustic The Wyrd Wonder yn cyflwyno

An evening of ghastly delight Gwe 13 Mawrth 7.30pm Ymunwch â ni am noson o adloniant Gothig a fydd yn cynnwys darlleniadau o lyfr newydd o Gaerdydd, ‘The Ghastling’, ffuglen Gothig ffres gan Wasg Parthian, cerddoriaeth fyw seicedelig a thywyll gan Zeuk ac ymweliad gan Dr Jekyll a Mr Hyde! £7/£6

Maw 17 Mawrth 4pm–10.30pm Mae ‘The Boat Studio’ yn gynllun cyffrous ac arloesol i drawsnewid cwch camlas yn ofod amlddisgyblaethol a fydd yn gallu cynnal preswylfeydd celfyddydol, dangosiadau ffilm a gigs. Yn dilyn ymgyrch ariannu torfol lwyddiannus y llynedd, mae aelodau o staff Chapter, Ellie ac Amber, yn parhau i godi arian i brynu eu cwch. Ymunwch â nhw am noson o adloniant a fydd yn cynnwys ocsiwn gelfyddydol fyw, darlleniadau o farddoniaeth, perfformiadau a cherddoriaeth fyw gan bobl fel HMS Morris, Les Frotteurs, John Mouse, Tim Bromage, Test Pressings, Rhodri Brooks, Matthew Joseph, The Lite Bites ac eraill. Bydd holl elw’r noson yn cael ei gyfrannu i The Boat Studio — Dewch i’w helpu nhw i i lansio’r cwch i’r dŵr! £8 (ymlaen llaw) /£9.50 (wrth y drws) www.ambermottram.com/the-boat-studio/ /The-Boat-Studio @theboatstudio

Show And Tell yn cyflwyno

Simon Munnery sings Søren Kierkegaard Sad 7 Mawrth 8pm Bydd yr arloeswr parhaol, Simon Munnery, yn ymdrechu i berfformio detholiad o ysgrifau yr athronydd dirfodol, eu trafod wedyn, a gwneud y cwbl lot yn ddoniol. Sioe ‘stand-up’ newydd gan y digrifwr gwobrwyol a welwyd ac a glywyd yn ddiweddar ar yr Alternative Comedy Experience, ar Comedy Central, The Culture Show ar BBC2 a News Quiz Radio 4. £12/£11/£10 (14+ oed)

‘Un o ddigrifwyr mwyaf doniol a gwreiddiol yr ugain mlynedd diwethaf’ The Guardian


14

Sinema

029 2030 4400

Ex Machina

SiNEMA


Sinema

15

Ex Machina

The Turning

Llun 2 — Iau 5 Mawrth

Maw 3 + Mer 4 Mawrth

DG/2015/108mun/15. Cyf: Alex Garland. Gyda: Domhnall Gleeson, Oscar Isaac, Alicia Vikander.

Awstralia/2013/107mun/15. Cyf: Justin Kurzel, Mia Wasikowska (ac eraill, gweler y we-fan am fanylion). Gyda: Cate Blanchett, Hugo Weaving, Rose Byrne.

A Most Violent Year

chapter.org

Mae Caleb, peiriannydd côd 24 mlwydd oed gyda chwmni rhyngrwyd mwyaf y byd, yn ennill cystadleuaeth i dreulio wythnos mewn encil mynydd preifat sy’n perthyn i Nathan, Prif Swyddog Gweithredol dirgel y cwmni. Ond ar ôl i Caleb gyrraedd y fan anghysbell, ymddengys fod yn rhaid iddo gymryd rhan mewn arbrawf rhyfedd — ymwneud â deallusrwydd artiffisial arloesol, ar ffurf robot benywaidd hardd.

Trash Sul 1 — Thu 5 Mawrth DG/2014/114mun/is-deitlau/15. Cyf: Stephen Daldry. Gyda: Rooney Mara, Martin Sheen, Wagner Moura.

Yn favelas bywiog a marwol Rio de Janeiro, mae’r arddegwyr, Raphael a Gardo, yn darganfod rhywbeth mewn tomen sbwriel sy’n eu gorfodi i ffoi rhag yr heddlu. Gyda chymorth eu ffrind, Rato, offeiriad Americanaidd a gweithiwr cymorth, maent yn ceisio gwneud iawn am gamwedd ofnadwy. Portread dilys o ieuenctid yng nghladdfeydd sbwriel gwenwynig Brasil sy’n cynnwys perfformiadau grymus.

Casgliad o ffilmiau byrion yn seiliedig ar straeon gan yr awdur Tim Winton, wedi’u gosod mewn cymuned arfordirol fechan lle mae’r gwahanol straeon yn ymgordeddu ac yn gorgyffwrdd. Wrth i gymeriadau wynebu ansicrwydd, ac wrth i berthnasau ddatblygu ac esblygu, mae bywydau yn newid am byth.

A Most Violent Year Sul 1 — Iau 5 Mawrth UDA/2014/125mun/15. Cyf: JC Chandor. Gyda: Oscar Isaac, Jessica Chastain, David Oyelowo.

Yn ystod gaeaf 1981, yn ninas Efrog Newydd, mae mewnfudwr uchelgeisiol yn brwydro i amddiffyn ei fusnes a’i deulu yn ystod un o’r blynyddoedd mwyaf treisgar a pheryglus yn hanes y ddinas. Ar ôl talu blaendal ar gyfer warws a fydd yn caniatáu iddo geisio gwireddu ei Freuddwyd Americanaidd, mae gan y mewnfudwr, Abel, 30 diwrnod i ddod o hyd i weddill yr arian. Ond mae trais, pydredd a llygredd yn rhemp yn y ddinas ac yn bygwth dinistrio popeth. Enillydd Gwobr Ffilm Orau 2014 y National Board of Review


Sinema

029 2030 4400

Gyda’r cloc o’r chwith uchaf: RSC Live: Love’s Labour’s Won (Much Ado About Nothing), Hamlet, Behind the Beautiful Forevers

16

Y Llwyfan ar y Sgrin NT Live: Behind the Beautiful Forevers Iau 12 Mawrth + Encore Sul 29 Mawrth

DG/2015/180mun/15. Cyf: Rufus Norris. Gyda: Meera Syal.

Yng nghysgod gwestai moethus maes awyr Mumbai, mae yna slym dros dro sy’n orlawn o bobl ddyfeisgar ac uchelgeisiol. Ond mae bywyd yno’n fregus ac mae cyhuddiad difrifol yn bygwth chwalu’r gymdogaeth. Mae’r dramodydd nodedig, David Hare, wedi creu drama liwgar, fywiog a dyrchafol am fywyd ar ymylon cymdeithas.

RSC Live Yn rhan o dymor i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, mae cwmni o actorion yn llwyfannu dau o gomedïau mwyaf pefriog Shakespeare, wedi’u gosod yng nghysgod y rhyfel.

RSC Live: Love’s Labour’s Won (Much Ado About Nothing) Mer 4 Mawrth

DG/2015/210mun/12A. Cyf: Christopher Luscombe. Gyda: Edward Bennett, Michelle Terry.

Hydref 1918. Mae grŵp o filwyr yn dychwelyd o’r ffosydd. Mae Benedick, sydd wedi diflasu ar y byd, a’i gyfaill, Claudio, yn cael eu haduno â Beatrice a Hero. Wrth i atgofion am y rhyfel ildio i fywyd o bartïon a dawnsfeydd, mae Claudio a Hero yn syrthio mewn cariad yn bendramwnwgl, a Benedick a Beatrice yn ceisio aildanio eu perthynas mwy ymfflamychol eu hunain. Mae rhamant yn blodeuo, caiff cariadon eu siomi ac mae’r syniad o hapusrwydd fel petai dan fygythiad, cyn i heddwch leddfu’r boen. Gweler manylion ein tymor o ddigwyddiadau’n archwilio Effeithiau Gwrthdaro a’r Rhyfel Byd Cyntaf ar dudalen 24.

Hamlet gyda Maxine Peake Llun 23 Mawrth + Encore Llun 6 Ebrill DG/2015/195mun. Cyf: Sarah Frankcom.

Mae tad Hamlet wedi marw ac mae gan Ddenmarc frenin newydd. Mae Hamlet yn galaru ac yn ceisio dial — ond mae i hynny ganlyniadau trychinebus. Drama oesol am deyrngarwch, cariad, brad, llofruddiaeth a gwallgofrwydd. Diffinnir pob cynhyrchiad o Hamlet gan yr actor sy’n chwarae’r brif ran. Yn y fersiwn gynnil, ffres a chyflym hon, mae Maxine Peake yn cyflwyno dehongliad o Hamlet sy’n gweddu’n ardderchog i’r cyfnod cyfoes.

NT Encore: A View From the Bridge

Mer 1 Ebrill (Darllediad gwreiddiol ar ddydd Iau 26 Mawrth) DG/2014/150mun/12A. Cyf: Ivo van Hove. Gyda: Mark Strong.

Yn Brooklyn, mae’r llwythwr llongau, Eddie Carbone, yn croesawu ei gefndryd o Sisili i wlad breuddwydion. Ond ar ôl i un ohonynt syrthio mewn cariad â’i nith hardd, maent yn darganfod bod rhyddid yn beth drudfawr. Mae cenfigen Eddie yn datgelu cyfrinach ddofn, annisgrifiadwy sy’n ei yrru, yn y pen draw, i gyflawni gweithred o frad eithafol. Mae’r dramodydd mawr, Arthur Miller, yn ymwneud â’r freuddwyd Americanaidd yn y stori dywyll ac angerddol hon.


chapter.org

Sinema

17

Hana Lewis Rheolwr Strategol, Canolfan Ffilm Cymru

Oska Bright Film Festival

Mae Canolfan Ffilm Cymru yn un o naw o ganolfannau ledled y DG a ddaeth at ei gilydd i greu Rhwydwaith Cynulleidfaoedd Ffilm y Sefydliad Ffilm Prydeinig. Ein nod yng Nghymru yw ehangu mynediad i gynulleidfaoedd i sinema annibynnol o Brydain ac o bedwar ban byd a Chapter yw ein sefydliad arweiniol. Rydym yn estyn allan i bobl drwy gyfrwng ein haelodau a rhwydwaith o arddangoswyr Cymreig o bob lliw a llun, sy’n amrywio o ganolfannau celfyddydau cymysg i glybiau ffilm, gwyliau a lleoliadau cymunedol. Rydym wedi cefnogi mentrau o bob math — o dymhorau sinema yn yr awyr agored i ddangosiad mewn eglwys, pan gafwyd cyfeiliant byw i’r ffilm Nosferatu gan yr offeiriad ei hun, ynghyd ag organ, clogyn a pheiriant mwg! Mae ein haelodau yn ein hysbrydoli ac maent yn gwneud fy ngwaith i fel Rheolwr Strategol yn werth chweil. Y mis hwn, dw i’n edrych ymlaen at weld ‘White God’. Dw i’n hoff iawn o gŵn ac mae gennyf gi traws-frid felly mae’r pwnc ei hun yn apelio — ond dw i hefyd wedi clywed adolygiadau ardderchog gan y tîm! http://www.chapter.org/cy/canolfan-ffilm-cymru.

Taith Gŵyl Ffilm Oska Bright Iau 19 Mawrth Yr ŵyl ffilm gyntaf a phwysicaf yn y byd ar gyfer ffilmiau byrion wedi’u gwneud gan artistiaid a chanddynt anableddau dysgu. Bydd Oska Bright yn cyflwyno dwy raglen o ffilmiau byrion, ‘Ffilmiau am Bobl’ a ‘Ffilmiau o Bedwar Ban Byd’. Cynhelir y dangosiad rhwng 10am a 12pm a bydd tocynnau’n costio £3. I gael mwy o wybodaeth am Ŵyl Ffilm Oska Bright, ewch i www.carousel.org.uk

Dangosiadau Dan Amodau Arbennig Ymunwch â ni yn ein dangosiadau misol arbennig i blant a phobl ifanc ar sbectrwm awtistiaeth a’u teuluoedd, eu ffrindiau a’u gofalwyr. Er mwyn sicrhau bod y dangosiadau hyn yn addas i bobl ifainc sy’n sensitif i sain a golau, ni ddiffoddir golau’r awditoriwm ac fe fydd lefelau sain y ffilm yn is. Mae croeso i gwsmeriaid symud o gwmpas yn y sinema, i wneud sŵn neu i gael seibiant yn ystod y ffilm. Gweler adran Ffilmiau Teuluol am fanylion. + Mae’n bosib y bydd y ffilm newydd X & Y o ddiddordeb i chi hefyd. Gweler y manylion ar dudalen 29

Clwb Ffilmiau Gwael

Left Behind Sul 1 Mawrth UDA/2014/110mun/15. Cyf: Vic Armstrong. Gyda: Nicholas Cage.

Mae’r Clwb Ffilmiau Gwael yn dychwelyd i gyflwyno mwy o ddiflastod ar seliwloid! Y mis hwn, bydd mab afradlon y Clwb, Nicholas Cage, yn dychwelyd yn y ffilm, Left Behind. Mae grŵp bach o oroeswyr yn cael eu gadael ar ôl wedi i filiynau ddiflannu’n sydyn ac ar ôl i’r byd blymio i drobwll o anhrefn a dinistr. I ble’r aethant? Pwy sy’n gyfrifol? Beth ddigwyddodd i Nicholas Cage? Roedd e’n arfer bod yn dda. Nodwch os gwelwch yn dda y bydd yna sylwebaeth fyw drwy gydol y ffilm ac y gall y ffilm a ddangosir newid ar y funud olaf.

Moviemaker Chapter Llun 2 Mawrth Sesiwn reolaidd sy’n caniatáu i gyfarwyddwyr annibynnol ddangos eu ffilmiau byrion. I gael mwy o wybodaeth am ddangos eich ffilm chi, neu unrhyw fanylion eraill, e-bostiwch moviemaker@chapter.org. O bryd i’w gilydd, dangosir ffilmiau sy’n cynnwys deunydd anaddas i bobl iau. Awgrymwn, felly, bod sesiynau Moviemaker Chapter yn addas ar gyfer pobl 18+ oed.


Sinema

029 2030 4400

The Imitation Game

Life of Riley

Gwe 6 — Iau 12 Mawrth

Gwe 13 — Iau 19 Mawrth

DG/2014/112mun/12A. Cyf: Morten Tyldum. Gyda: Benedict Cumberbatch, Keira Knightley, Matthew Goode.

Ffrainc/2014/108mun/12A. Cyf: Alain Resnais. Gyda: Sabine Azéma, Hippolyte Girardot, Caroline Sihol.

Stori wir gyfareddol a thrasig Alan Turing, y cêlddadansoddwr a graciodd gyfrinachau côd enigma y Natsïaid ond a gafodd ei erlid a’i gollfarnu am ddatgelu ei gyfrinachau ei hun. Cafodd ei arestio am wrywgydiaeth ym 1951 ac mae’r ffilm yn archwilio bywyd dyn nad oedd yn fodlon derbyn confensiynau cymdeithasol na gorchmynion – ac a gafodd achubiaeth ym myd cyfrin rhifau.

Ar ganol y cyfnod ymarfer ar gyfer drama newydd, mae tri chwpwl sy’n rhan o griw drama amatur yn clywed bod eu ffrind agos, George, yn ddifrifol wael a thaw misoedd yn unig sydd ganddo ar ôl. Mae’r datguddiad yn chwalu’r mwgwd cwrtais bourgeois ac yn arwain at ddicter, brad a datguddiadau difrifol. Yn addasiad o ddrama gan Alan Ayckbourn, mae hon yn gomedi ôl-fodern gain.

Cake

The Theory of Everything

Gwe 6 — Iau 12 Mawrth

Gwe 13 — Iau 19 Mawrth

UDA/2014/102mun/15. Cyf: Daniel Barnz. Gyda: Jennifer Anniston, Anna Kendrick, Sam Worthington.

DG/2014/123mun/12A. Cyf: James Marsh. Gyda: Eddie Redmayne, Felicity Jones, David Thewlis.

Mae Claire yn gwella ar ôl damwain car sydd wedi achosi creithiau a phoen cefn cronig iddi – ac sydd wedi ei gwneud hi hefyd yn hynod anoddefgar ac annhosturiol. Mae ei phriodas yn dioddef ac mae hi’n tramgwyddo ffrindiau yn ei grwp cymorth â’i jôcs amhriodol am hunanladdiad diweddar un arall o’r aelodau. Astudiaeth graff o gymeriad ag iddi ochr finiog a pherfformiad canolog nodedig.

Mae’r gwyddonydd ifanc addawol, Stephen Hawking, yn cwrdd â chyd-fyfyriwr, Jane, yng Nghaergrawnt, ond caiff eu cariad ei brofi wedi iddo fe gael diagnosis a fydd yn cael effaith bellgyrhaeddol ar ei symudiad a’i leferydd. Wrth iddo gychwyn ar ei waith mwyaf uchelgeisiol, daw’n fwyfwy anodd iddo gyfathrebu ei syniadau. Diolch i Jane a’i hymdrechion diflino, maent yn cyflawni mwy nag y gallen nhw fod wedi’i ddychmygu. Stori garu ffraeth ac afieithus sy’n cynnwys dau berfformiad canolog ardderchog.

The Theory of Everything

18

Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau neu ewch i’n gwe-fan i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).


chapter.org

Sinema

19

Appropriate Behaviour

Diwrnod Rhyngwladol y Merched

The Piano

Appropriate Behaviour

Seland Newydd/1993/120mun/15. Cyf: Jane Campion. Gyda: Holly Hunter, Harvey Keitel, Sam Neill.

DG/2015/90mun/12A. Cyf: Desiree Akhavan. Gyda: Desiree Akhavan, Rebecca Henderson, Scott Adsit.

Nid yw Ada wedi yngan gair ers ei chwech oed — a does neb yn gwybod pam. Wedi’i mewnforio i fod yn wraig i dwpsyn o dirfeddiannwr o’r enw Stewart, mae hi’n llawn dicter ar ôl iddo fe wrthod cludo ei phiano annwyl — yr offeryn mae hi’n ei ddefnyddio i gyfathrebu. Portread ingol ac atgofus o obsesiwn corfforol a syrthni gan enillydd benywaidd cyntaf y Palme d’Or.

Mae Shirin yn ceisio byhafio fel y ferch BersiaiddAmericanaidd ddelfrydol, ac fel person deurywiol gwleidyddol gywir a ‘Brooklynite’ ifanc a hip — ond mae hi’n methu a tharo’r nod â’r un o’r hunaniaethau hyn. Ffilm gyntaf glyfar ac eofn sy’n llawn rhywioldeb onest a doniolwch.

Sul 1 + Maw 3 Mawrth

Kumiko the Treasure Hunter Gwe 6 — Iau 12 Mawrth

UDA/2014/105mun/is-deitlau/12A. Cyf: David Zellner. Gyda: Rinko Kiruchi.

Mae Kumiko yn teimlo rhwystredigaeth â’i bywyd cyffredin tan iddi ddod o hyd i dâp VHS rhyfedd o’r ffilm Fargo — a thybio taw ffilm ddogfen ydyw. Yn benderfynol o ddod o hyd i’r fan lle mae’r arian wedi’i guddio, yn nhirwedd anghyfannedd Gogledd Dakota — ac yn y gred bod y trysor yn real — mae hi’n gadael Tokyo ar antur beryglus sydd yn hollol wahanol i unrhyw beth y mae hi wedi’i weld ar y sgrin fawr.

Gwe 6 — Mer 11 Mawrth

Gweler tudalen 27 am fanylion trafodaeth WOW o sinema Iran

Dreamcatcher Sad 7 — Iau 12 Mawrth

UDA/2015/97mun/TiCh. Cyf: Kim Longinotto.

Mae Brenda Myers-Powell – a oedd yn butain ifanc ond sydd bellach yn fenyw mewn oed — yn cynnig gobaith i’r diobaith ac yn herio’r drefn er mwyn bod yn eiriolwr pwerus dros newid. Archwiliad grymus a di-syfl o esgeulustod, trais ac ecsbloetio sy’n dangos y gall unigolyn – ynghyd â dogn dda o gynhesrwydd a hiwmor — wneud gwahaniaeth sylweddol. + Cyflwyniad gan Cymorth i Ferched Cymru.


Sinema

Gyda’r cloc o’r brig: Open Bethlehem, The Duke of Burgundy, Gaslight, The Apple

20 029 2030 4400


chapter.org

Sinema

Gaslight

The Apple

UDA/1944/109mun/PG. Cyf: George Cukor. Gyda: Charles Boyer, Ingrid Bergman, Joseph Cotton.

Iran/1998/83mun/is-deitlau/PG. Cyf: Samira Makhmalbaf. Gyda: Massoumeh Naderi, Zahra Naderi, Ghorban Ali Naderi.

Ddeng mlynedd ar ôl llofruddiaeth ei modryb, y gantores opera, Alice Alquist, mae Paula’n symud yn ôl i’r plasty lle digwyddodd y drosedd. Mae ei gŵr, Gregory, yn cario baich trwm a chyfrinach dywyll y mae e’n fodlon gwneud unrhyw beth i’w chadw oddi wrthi. Mae e’n ceisio ei hargyhoeddi ei wraig ei bod hi’n colli ei phwyll... Adroddir yr hanes drwy gyfrwng sinematograffi noir a chyffro a ddadlennir â chliwiau ac ystumiau cynnil. Ffilm gyffro seicolegol wirioneddol gyffrous.

Mae stori wir am garchariad dwy ferch ifanc gan eu tad yn troi’n alegori o waredigaeth ac iachawdwriaeth yn y ffilm hon o Iran. Wedi’i hadrodd mewn modd diduedd a thwyllodrus o syml, mae’r stori’n feirniadaeth ddamniol o ddiwylliant patriarchaidd Iran.

+ Ymunwch â ni ar ôl y ffilm am drafodaeth Tinted Lens, cydweithrediad newydd gan Chapter, Prifysgol Caerdydd a’r BFI. Byddwn yn archwilio’r meddwl a chysyniadau’n ymwneud â normalrwydd a phatholeg, gan ganolbwyntio ar golled a galar, ffantasi a rhith, dealltwriaeth o amser a chyflyrau ymwybyddiaeth.

Mae Cynthia yn astudio gwyfynod a glöynnod byw ac, mewn pentref prydferth o ferched yn unig, mae hi’n gwthio’r ffiniau gyda’i morwyn, Evelyn. Yn y byd deniadol a llawn steil hwn, mae perthynas dywyll, chwilfrydig ac anodd Evelyn a Cynthia yn bortread o agwedd ar rywioldeb dynol nas trafodir yn aml.

Sul 8 + Maw 10 Mawrth

Golden Gate Girls Sad 7 Mawrth

UDA/2013/88mun/is-deitlau/PG. Cyf: Louisa Wei.

Mae’r ffilm ddogfen hynod bersonol hon yn olrhain ymdrechion y gyfarwyddwraig Louisa Wei i ail-greu bywyd a gyrfa Esther Eng, cyfarwyddwraig TseiniaiddAmericanaidd a aned yn San Francisco yn y 1900au cynnar. Erbyn heddiw, cafodd Eng ei hanghofio bron yn llwyr. Mae ffilm Wei yn cynnig cipolwg diddorol ar yrfa Eng, a chwalodd ffiniau rhyw a hil yn Hollywood a Hong Kong, ar adeg pan oedd cyfleoedd i fenywod Tsieineaidd yn y diwydiant yn brin. + Sesiwn holi-ac-ateb Skype

Brave Miss World Sul 8 Mawrth

UDA/2013/88mun/15. Cyf: Cecilia Peck.

Chwech wythnos cyn cystadlu yng nghystadleuaeth Miss World, cafodd Miss Israel, Linor Abargil, a oedd yn 18 oed ar y pryd, ei chipio, ei thrywanu a’i threisio ym Milan. Wedi iddi ennill y gystadleuaeth, addawodd yr âi ati i godi ymwybyddiaeth o droseddau yn erbyn merched. Mae’r ffilm rymus hon yn dilyn ei chrwsâd am gyfiawnder ac fe welwn ei datblygiad o fod yn ddioddefwr yn ei harddegau i fod yn gyfreithwraig ac ymgyrchydd. + Cyflwyniad

21

Sul 15 + Maw 17 Mawrth

The Duke of Burgundy Gwe 13 — Iau 19 Mawrth

DG/2014/101mun/is-deitlau/18. Cyf: Peter Strickland. Gyda: Chiara D’Anna, Sidse Babett Knudsen.

Ffilm sy’n cynnwys golygfeydd rhywiol di-gêl

Open Bethlehem Gwe 27 + Sul 29 Mawrth

Palesteina/2014/90 mun/PG. Cyf: Leila Sansour.

Hanes taith ryfeddol y gyfarwyddwraig Leila Sansour yn ôl i Bethlehem, y ddinas lle cafodd hi ei magu. Â chamera a char teuluol sy’n torri i lawr o hyd ac o hyd, mae hi’n cychwyn allan i ffilmio portread agos-atoch o dref hanesyddol mewn perygl. Bum mlynedd yn ddiweddarach, ac â mwy na 700 awr o ddeunydd ffilm ganddi erbyn hynny, mae’r gwaith terfynol yn gwrthdroi pob un o’i disgwyliadau. + Cyflwyniad gan Ymgyrch Undod â Phalesteina ar ddydd Sul 29 Mawrth


Sinema

029 2030 4400

White God

It Follows

Gwe 13 — Iau 19 Mawrth

Gwe 27 Mawrth — Iau 2 Ebrill

Hwngari/2014/121mun/is-deitlau/15. Cyf: Kornél Mundruczó. Gyda: Zsófia Psotta, Sándor Zsótér, Lili Horváth.

UDA/2014/100mun/15. Cyf: David Robert Mitchell. Gyda: Linda Boston, Caitlin Burt, Heather Fairbanks.

Mae’r Lili ifanc yn cael ei gorfodi i ffarwelio â’i chi annwyl, Hagen, ar ôl i’r wladwriaeth ddweud ei fod yn anifail ‘anaddas’. Mae hi’n cychwyn allan ar daith beryglus i ddod o hyd iddo, yn y gred y gall cariad goncro pob grym gwrthwynebus. Yn y cyfamser, mae’r holl gŵn ‘anaddas’, digartref a digariad, yn dod at ei gilydd dan arweiniad Hagen, sydd wedi newid yn ystod ei gyfnod ar y stryd. Mae hon yn ffilm gyffro anghonfensiynol ag iddi ddannedd miniog!

Ar ôl profiad rhywiol rhyfedd, mae merch yn ei harddegau yn dioddef gweledigaethau hunllefus a theimlad annifyr bod rhywbeth yn ei herlid. Archwiliad o ofnau rhywiol a chymdeithasol, a golwg ffres ar genre arswyd.

O’r brig: White God, It Follows

22

Mommy Gwe 27 Mawrth — Iau 2 Ebrill Canada/2014/139mun/18. Cyf: Xavier Dolan. Gyda: Anne Dorval, Antoine-Olivier Pilon, Suzanne Clément.

Mae mam sengl weddw eofn yn ei chael ei hun yn gorfod gofalu rownd y rîl am ei mab 15-mlwydd-oed afreolus. Wrth iddynt ymdrechu i gael deupen y llinyn ynghyd, mae Kyla, y cymydog newydd rhyfedd, yn cynnig helpu ... Ffilm gomedi ryfygus a gwobrwyol.


Sinema

23

Pride

chapter.org

Oddi ar y brif safle yn Big Pit Sad 7 Mawrth A hithau’n ddeng mlynedd ar hugain ers diwedd Streic y Glowyr, byddwn yn dangos rhaglen o ffilmiau dros y misoedd nesaf ar y cyd ag Amgueddfeydd Cymru, ac yn archwilio effaith y gwrthdaro rhwng yr NUM a llywodraeth Prydain ar gymunedau glofaol De Cymru.

Pride

Still the Enemy Within

DG/2014/117mun/15. Cyf: Matthew Warchus. Gyda: Imelda Staunton, Bill Nighy, Dominic West, Paddy Considine.

DG/2014/112mun/15. Cyf: Owen Gower. Gyda: Wesley Lloyd.

Haf 1984. Mae Margaret Thatcher yn Brif Weinidog ac mae Undeb Cenedlaethol y Glowyr ar streic. Yn y Gay Pride yn Llundain, mae ymgyrchwyr lesbiaidd a hoyw yn penderfynu codi arian i gefnogi teuluoedd y glowyr. Ond mae yna broblem — dyw’r NUM ddim fel petai’n fodlon derbyn eu cefnogaeth. Mae’r ymgyrchwyr yn penderfynu anwybyddu’r Undeb a mynd at y glowyr yn uniongyrchol, felly. Maent yn clustnodi pentref glofaol yng nghrombil Cymru ac yn cychwyn allan mewn bws mini. A dyna ddechrau stori wir ryfeddol ac angerddol am ddwy gymuned ymddangosiadol wahanol sy’n ffurfio partneriaeth orfoleddus.

Ym 1984, mae llywodraeth Geidwadol Margaret Thatcher yn brwydro’n ffyrnig ag undebau llafur Prydain, ac yn herio’r undeb mwyaf dylanwadol yn y wlad, Undeb Cenedlaethol y Glowyr. Ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, clywn am brofiadau rhai a oedd yn rhan o streic hiraf Prydain. Â deunydd archif prin, dyma olwg unigryw ar y digwyddiadau dramatig.


24

Sinema

029 2030 4400

Yn rhan o’n rhaglen o ffilmiau sy’n archwilio brwydrau cyfoes dros ddemocratiaeth a rhyddid, ynghyd ag effeithiau parhaus y Rhyfel Byd Cyntaf, mae Swyddfa’r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru yn noddi pedair ffilm Ewropeaidd. Mae’r dangosiadau hyn yn cynnig safbwyntiau ar y Rhyfel Byd Cyntaf o wledydd Ewropeaidd eraill ac fe’u bwriedir i ategu coffâd cenedlaethol Llywodraeth Cymru — Cymru’n Cofio/Wales Remembers.

Hedd Wyn

A Very Long Engagement

Cymru/1993/110mun/is-deitlau/12A. Cyf: Paul Turner. Gyda: Huw Garmon, Sue Roderick, Judith Humphreys

Ffrainc/2004/128mun/is-deitlau/15. Cyf: Jean Pierre Jeunet. Gyda: Audrey Tautou, Gaspard Ulliel, Jodie Foster, Denis Lavant.

Iau 5 Mawrth

Mae bardd ifanc yng Ngogledd Cymru yn cystadlu am gadair yr Eisteddfod Genedlaethol dan ei enw barddol, Hedd Wyn. Ond cyn seremoni’r cadeirio, caiff ei anfon i ymladd, ar y cyd â’r Saeson, yn ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae sinematograffi godidog y ffilm yn cyferbynnu harddwch ei gartref ym Meirionnydd ag erchyllterau Passchendaele ac yn dangos oferedd rhyfel. Hon oedd y ffilm gyntaf o Gymru i gael ei henwebu am Oscar y Ffilm Iaith Dramor Orau. + Ymunwch â ni am drafodaeth banel arbennig, yng nghwmni’r bardd, Gillian Clarke, a Syr Deian Hopkin, wrth i ni drafod cyfraniad Hedd Wyn i ddiwylliant Cymru

Iau 26 Mawrth

Wrth i’r Rhyfel Byd Cyntaf dynnu tua’i derfyn, mae Mathilde yn clywed bod Manech, ei dyweddi, yn un o bump o filwyr clwyfedig sydd wedi bod o flaen llys milwrol ac wedi cael eu gwthio allan i dir neb. Yn anfodlon derbyn ei bod wedi colli Manech am byth, mae Mathilde yn cychwyn ar daith ryfeddol i geisio dod o hyd i’r gwir am ei chariad.

A Very Long Engagement

Effeithiau Gwrthdaro a Rhyfel


Sinema

25

Suite Française

chapter.org

Suite Française Gwe 20 — Iau 26 Mawrth DG/2015/107mun/15. Cyf: Saul Dibb. Gyda: Margot Robbie, Michelle Williams, Sam Riley, Kristin Scott Thomas.

Mewn pentref yn Ffrainc yn ystod blynyddoedd cynnar meddiannaeth yr Almaenwyr, mae Lucile yn disgwyl newyddion gan ei gŵr, sydd yn garcharor rhyfel. Wrth i ffoaduriaid o Baris a milwyr yr Almaen heidio i’w tref fechan, a’r rheiny’n cynnwys y swyddog diwylliedig, Bruno, caiff bywyd Lucile ei droi ben i waered. + Ymunwch â ni ar ôl y dangosiad ar Maw 24 Mawrth ar gyfer sesiwn ‘Addasiadau/Adaptations’, pan fyddwn yn trafod y nofel gan Irène Némirovsky a roddodd fod i’r ffilm.

X&Y Gwe 20 — Iau 26 Mawrth DG/2015/111mun/12A. Cyf: Morgan Matthews. Gyda: Asa Butterfield, Rafe Spall, Sally Hawkins.

Mae Nathan yn ei chael hi’n anodd ymwneud â phobl eraill. Mae’n well ganddo aros yn niogelwch ei fyd preifat ei hun a chwilio am gysur mewn rhifau a mathemateg. Daw’n amlwg ei fod yn ddigon dawnus i ennill lle ar y tîm Prydeinig a fydd yn cystadlu yn yr Olympiad Mathemateg Rhyngwladol nodedig. Mae’r stori hyfryd hon yn adrodd hanes perthynas anghonfensiynol a doniol rhwng myfyriwr ac athro, a phrofiad cyntaf annealladwy o gariad.

BAFTA Cymru yn cyflwyno:

High Tide Mer 11 Mawrth Llun 23 — Maw 31 Mawrth Cymru/2015/93mun/15arf. Cyf: James Gillingham, Jimmy Hay. Gyda: Melanie Walters, Samuel Davies, Claire Cage.

Mae Bethan yn mynd i nôl ei mab Josh o’r ysgol — mae eu cartref wedi troi’n faes y gad ac mae hi’n dyheu am gyfle i siarad ag ef yn onest, ar ei ben ei hun. Ar ôl ambell i ddatguddiad a fydd yn newid eu bywydau am byth, mae’r pâr yn eu cael eu hunain mewn parti sy’n dangos iddynt ffordd wahanol o fyw. Portread dwys a thyner o gariad, maddeuant a siawns a ddatgelir dros gyfnod o bedair awr ar hugain ym mywydau dau unigolyn. + Ymunwch â ni am sesiwn holi ac ateb gyda’r cast a’r criw ar ddydd Mercher 11 Mawrth


26

Sinema

029 2030 4400

Mae Gŵyl Ffilm Cymru Un Byd yn dychwelyd â’i detholiad diddorol ac eclectig o sinema o bedwar ban byd. Bydd yna ffocws arbennig ar Iran eleni, a dathliad o Nowruz, y Flwyddyn Newydd Bersiaidd. Dewch i ddathlu gyda chynnig arbennig WOW — £20 (gostyngiadau £15) am ddiwrnod cyfan o ffilmiau a siaradwyr ar ddydd Sadwrn 21 Mawrth. Neu prynwch Basport Gŵyl WOW am £35 (£30 gostyngiad) i weld holl ffilmiau WOW.

Dukhtar

Margarita, with a Straw

Pacistan/2014/93mun/is-deitlau/12A. Cyf: Afia Nathaniel. Gyda: Samiya Mumtaz, Mohib Mirza, Saleha Aref.

India/2014/100mun/is-deitlau/15. Cyf: Shonali Bose. Gyda: Kalki Koechlin, Revathy, Sayani Gupta, William Moseley.

Mae mam ddewr yn ffoi gyda’i merch 10-mlwydd-oed i’w hachub rhag priodas â rhyfelwr lleol. Â chiwed lofruddgar yn eu herlid, mae gyrrwr lori cyfeillgar yn eu helpu, yn erbyn ei ewyllys. ‘Road movie’ afaelgar ac archwiliad cynnil o’r berthynas rhwng mam a merch sy’n cynnwys perfformiadau gwych a delweddau hardd o uchelderau’r Himalayas.

Yn seiliedig ar stori wir, dyma hanes Leila, merch ifanc wrthryfelgar sy’n dioddef o barlys yr ymennydd ac sydd yn gadael ei chartref yn Delhi i astudio yn Efrog Newydd. Yn y fan honno, mae hi’n syrthio mewn cariad ac yn cychwyn ar daith o hunanddarganfyddiad cyffrous. Ffilm swynol a rhythmig sydd yn llawn hiwmor.

Enwebiad Pacistan ar gyfer Oscar y Ffilm Iaith Dramor Orau 2014

Ar y cyd â Gŵyl Gwobr Iris

Gwe 20 + Maw 24 Mawrth

Gwe 20 Mawrth

Charlie’s Country Gwe 20 + Maw 24 Mawrth

Awstralia/2014/106mun/is-deitlau/15. Cyf: Rolf de Heer. Gyda: David Gulpilil, Peter Djigirr, Luke Ford.

Stori ingol am fywyd yr actor chwedlonol o Awstralia, David Gulpilil (Walkabout, Ten Canoes). Mae’r ffilm yn bortread grymus a theimladwy o ddiwylliant yr Aborijini ac yn feirniadaeth chwyrn o’r driniaeth greulon o’r Awstraliaid brodorol. Mae hi hefyd yn llawn o hiwmor hynod Gulpilil.

Bashu, the Little Stranger Sul 22 Mawrth

Iran/1990/120mun/is-deitlau/15. Cyf: Bahram Beizai. Gyda: Susan Taslimi, Adnan Afravian, Parvis Pourhosseini.

Wedi’i ffilmio yn ystod rhyfel Iran-Irac, ac ar ôl cael ei gwahardd yn y lle cyntaf, cafodd y ffilm hon ei henwi’n ffilm orau Iran y cyfnod ôl-1979 gan feirniaid sinema’r wlad. Â pherfformiad gwych gan yr actores, Susan Taslimi, mae’r gwaith yn adrodd hanes gwraig fferm dlawd sy’n ceisio annog ffoadur rhyfel ifanc i adael ei ofn a’i drawma yn y gorffennol.

Charlie’s Country

GWyl Ffilm WOW Cymru Un Byd


Sinema

27

Gyda’r cloc o’r brig: Dukhtar, Bashu, Fish and Cat

chapter.org

Diwrnod Ffilm Blwyddyn Newydd Iran Nowruz Hapus! Sad 21 Mawrth Bydd Gŵyl Ffilm WOW Cymru Un Byd yn dathlu oes aur y sinema Iranaidd ar y cyd â Chyngor Prydeinig Iran, yn rhan o Dymor Diwylliant y DG-Iran. Come and celebrate with WOW’s special offer of £20 (£15 concessions) for a whole day of films and speakers.

Where is My Friend’s Home?

Under the Skin of the City

Iran/1997/83mun/is-deitlau/PG. Cyf: Abbas Kiarostami. Gyda: Babel Ahmed Poor, Ahmed Ahmed Poor, Kheda Barech Defai.

Iran/2001/92mun/is-deitlau/15. Cyf: Rakhshan Bani-Etemad. Gyda: Golab Adineh, Mohammad Reza Forutan, Baran Kosari.

Rhaid i fachgen ifanc ddychwelyd llyfr nodiadau ei ffrind ar ôl iddo ei gymryd ar ddamwain — a thrwy hynny arbed y ffrind rhag cael ei ddiarddel o’r ysgol. Mae’r ffilm yn datgelu cymdeithas wedi’i gwreiddio mewn gorchmynion awdurdodaidd, ond y mae hefyd yn ein hatgoffa ni fod plant yn bethau brau a’i bod hi’n hawdd iawn iddynt gael eu niweidio gan gyfrifoldebau byd oedolion. Mae’r trysor twyllodrus o syml hwn yn llawn trylwyredd a harddwch atgofus gwaith gorau Kiarostami.

Mae gweithiwr mewn ffatri decstilau yn Tehran o’r enw Tuba yn byw gyda’i gŵr methedig, merch feichiog y mae ei gŵr yn ei churo, a mab yn ei arddegau sydd mewn trafferth o ganlyniad i’w wleidyddiaeth radical. Mae ei mab arall eisiau symud i Japan. Mae Tuba’n brwydro yn ei blaen ac yn ceisio cadw’r teulu gyda’i gilydd er gwaetha’r treialon. Portread dilys a thrawiadol o fywydau merched a drama deuluol ingol gan un o gyfarwyddwyr benywaidd mwyaf blaenllaw Iran.

Hamoun Iran/1990/120mun/is-deitlau/15. Cyf: Dariush Mehrjui. Gyda: Ezzatolah Entezami, Bita Farahi, Khosro Shakibai.

Mae swyddog canol-oed rhwystredig o’r enw Hamoun mewn argyfwng. Mae ganddo obsesiwn â Kierkegaard a JD Salinger ac mae e’n breuddwydio am fod yn awdur. Mae ei wraig, Mashid, yn blino ar ei ymddygiad diofal ac afreolus ac yn gofyn am ysgariad. Comedi dywyll am gwpwl sy’n ceisio byw bywyd modern wrth barchu arferion traddodiadol hefyd. Mae hi hefyd yn bortread swreal a diddorol o fywyd priodasol yn Iran.

Fish and Cat Iran/2013/134mun/is-deitlau/15. Cyf: Shahram Mokri. Gyda: Babak Karimi, Saeed Ebrahimifar, Ainaz Azarhoush.

Mae grŵp o fyfyrwyr yn dod at ei gilydd ger llyn anghysbell ar gyfer taith wersylla a gŵyl hedfan barcutiaid. Triawd o gogyddion amheus — a llofruddgar, efallai — yw’r unig bobl eraill sydd gerllaw, mewn bwyty llwm. Wedi’i hadrodd ag un siot hir, mae’r ffilm yn llwyddo i ddatgymalu amser ac i gyfleu, mewn digwyddiadau ymddangosiadol gyffredin, argraff swynol ac atgofus. Ffilm wirioneddol ryfeddol sy’n chwarae â’n canfyddiadau o amser, gofod a gwirionedd.


Sinema

029 2030 4400

Natural Sciences

Difret

Ariannin/2014/71mun/is-deitlau/PG. Cyf: Matias Lucchesi. Gyda: Paula Hertzog, Paola Barrientos, Alvin Astorga.

Ethiopia/2014/99mun/is-deitlau/15. Cyf: Zeresenay Berhane Mehari. Gyda: Meron Getnet, Tizita Hagere.

Ym mhellafoedd mynyddoedd Patagonia, mae merch ifanc benstiff a hunangynhaliol o’r enw Lila yn benderfynol o ddod o hyd i’w thad — gŵr nad yw hi wedi ei adnabod erioed. Mae athro o’r enw Marta yn cydymdeimlo â’r ferch ac yn penderfynu ei helpu, er gwaetha’r awelon croes. Maent yn cychwyn allan ar daith a’r unig gliw sydd ganddynt yw plât enw bychan, rhydlyd wedi’i dynnu o beilon. Ffilm ddoniol a choeglyd — a phrofiad dwys, cyfoethog.

Yng nghefn gwlad godidog Ethiopia, mae Hirut, merch ddisglair 14 oed, ar ei ffordd adref o’r ysgol pan ddaw dynion ar gefn ceffyl a’i herwgipio. Wrth iddi geisio dianc, mae hi’n saethu ei darpar ŵr ac yn wynebu cyhuddiad o lofruddiaeth. Mae cyfreithiwr dygn, Meaza Ashenafi, yn cyrraedd o Addis Ababa i amddiffyn Hirut. Mae Meaza’n herio patriarchaeth ddisyfl y traddodiad hynafol a’r wladwriaeth fodern fel ei gilydd ac yn peryglu ei yrfa ei hun er mwyn achub bywyd Hirut.

O’r chwith i’r dde: Natural Sciences, August Winds

28

Sul 22 Mawrth

Timbuktu Sul 22 Mawrth

Ffrainc/2014/97mun/is-deitlau/15. Cyf: Abderrahmane Sissako. Gyda: Ibrahim Ahmed, Toulou Kik, Abel Jafri, Fatoumata Diawara.

Yn llawn delweddau hardd o dirweddau anial ac afon befriog, mae’r ffilm hon yn bortread gloyw o effaith anheddiad jihadis tramor ar fywyd bob dydd yn Timbuktu. Clywn straeon Mwslemiaid sy’n chwarae’r blŵs, ffermwr ac Imam rhyddfrydol, wrth iddynt geisio addasu i fywyd dan warchae. Mae ymdeimlad miniog â’r abswrd yn sicrhau bod yr astudiaeth hon o wrthdaro diwylliannol mor ddoniol bob tamaid ag y mae’n frawychus. Ar y cyd â Gŵyl Ffilm Affrica Cymru

August Winds Llun 23 Mawrth

Brasil/2014/77mun/is-deitlau/15. Cyf: Gabriel Mascaro.Gyda: Dandra De Morais, Geova Manoel Dos Santos.

Mewn pentref arfordirol anghysbell ym Mrasil, mae Shirley yn gofalu am ei nain oedrannus, yn gyrru tractor ar y blanhigfa cnau coco leol ac yn treulio amser gyda’i chariad, Jeison. Mae darganfyddiad annisgwyl yn eu gorfodi i wynebu’r ornest rhwng môr a thir, ieuenctid ac oedran, colled a chofio. Ffilm hudolus sydd yn fyfyrdod tyner ar natur bywyd a marwolaeth.

Mer 25 Mawrth

Deep Listening (Dadirri) Mer 25 Mawrth

Awstralia/2014/64mun/is-deitlau/PG. Cyf: Helen Iles. Gyda: John Seed, David Holmgren, Glen Ochre.

Clywn hanesion aelodau o genhedlaeth sydd, dros y 40 mlynedd diwethaf, wedi ceisio creu ffordd amgen o fyw yn seiliedig ar barch at y tir, at bobl frodorol ac at ei gilydd. Mae aelodau’r gymuned yn rhannu eu profiadau ac yn sôn am yr hyn a ddysgwyd ar ôl oes o fyw gyda’i gilydd. Cawn olwg fanwl ar natur perthnasau mewn ‘cymunedau bwriadol’ ac mae’r ffilm yn archwilio cysyniad Aborijini, ac amserol, o’r enw ‘Dadirri (Dwfn wrando). Yn gefnlen i’r cwbl mae tirwedd cyfoethog ac amrywiol Awstralia. + Ymunwch â ni am sesiwn holi-ac-ateb ar Skype gyda’r cyfarwyddwr, Helen Iles @WOWFilm www.facebook.com/WOWfilmfest


chapter.org

29

Sinema

Into the Woods

Ffilmiau i’r Teulu Cyfan Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn a dydd Sul am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn. Archebwch ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.

The Book of Life

Sad 28 Chwefror + Sul 1 Mawrth UDA/2014/91mun/U. Cyf: Jorge R. Gutierrez. Gyda: Zoe Saldana, Channing Tatum, Ron Perlman.

Mae Manolo yn freuddwydiwr ac yn cychwyn allan ar daith epig drwy fydoedd hudolus, chwedlonol a rhyfeddol er mwyn achub ei wir gariad ac amddiffyn ei bentref. Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1. Is-deitlau Meddal ar ddydd Sul 1 Mawrth am 11am. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau neu ewch i’n gwe-fan i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau). Nodwch os gwelwch yn dda y bydd yna ddangosiad dan amodau cefnogol arbennig ar ddydd Sul 1 Mawrth.

Into the Woods Sad 7 — Maw 10 Mawrth

UDA/2014/124mun/PG. Cyf: Rob Marshall. Gyda: Meryl Streep, Anna Kendrick, Chris Pine, Johnny Depp.

Mae gwrach yn gorfodi pobydd di-blant a’i wraig i gael gafael ar eitemau hudolus o straeon tylwyth teg clasurol er mwyn dadwneud y felltith ar eu teulu. Yn gydblethiad o straeon tylwyth teg Grimm a cherddoriaeth Stephen Sondheim, mae hon yn sioe gerdd epig a mawreddog.

Night at the Museum 3: Secret of the Tomb Sad 14 + Sul 15 Mawrth

UDA/2014/98mun/PG. Cyf: Shawn Levy. Gyda: Ben Stiller, Owen Wilson, Robin Williams.

Mae Larry’n mynd ar daith o Efrog Newydd i Lundain i dreulio noson yn yr Amgueddfa Brydeinig, ac yn dod â hen ffefrynnau a chymeriadau newydd at ei gilydd wrth iddo geisio achub tabled hud cyn iddo ddiflannu am byth.

Noddir gan Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk 02920 666688

Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau meddal ymhob dangosiad. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau neu ewch i’n gwe-fan i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

Shaun the Sheep Sad 21 + Sul 22 Mawrth

DG/2015/hyd/U. Cyf: Mark Burton, Richard Starzack.

Mae Shaun yn penderfynu cael diwrnod bant i gael ychydig o hwyl — ond mae yna lawer iawn o gyffro yn ei ddisgwyl... Mae cymhlethdodau â’r Ffermwr, carafán a bryn serth iawn yn ei arwain i’r Ddinas Fawr ac mae’n rhaid i Shaun a’r praidd ffeindio’i ffordd yn ôl i ddiogelwch — a glaswellt ir — eu cartref.

Big Hero 6

Gwe 27 Mawrth — Iau 2 Ebrill UDA/2015/108mun/PG. Cyf: Don Hall, Chris Williams. Gyda: Ryan Potter, Scott Adsit, Jamie Chung.

Ffilm sy’n adrodd hanes y berthynas arbennig sy’n datblygu rhwng robot Baymax chwyddadwy a’r plentyn rhyfeddol, Hiro Hamada, sy’n ymuno â grŵp o ffrindiau i ffurfio gang o arwyr technolegol. Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau meddal ymhob dangosiad. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau neu ewch i’n gwe-fan i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

Carry on Screaming Bob dydd Gwener am 11am, mae Carry On Screaming yn rhoi cyfle i rieni neu ofalwyr weld ffilm heb orfod poeni y bydd eu babi’n aflonyddu ar eraill. Gweler y calendr am fanylion y dangosiadau arbennig hyn i bobl â babanod dan flwydd oed.


30

Addysg

029 2030 4400

ADDYSG

Animeiddio ar gyfer Pobl Ifainc ar Sbectrwm Awtistiaeth + Gweithdai mewn ysgolion

Mer 4 Mawrth, Mer 11 Mawrth, Mer 18 Mawrth, Mer 25 Mawrth, Mer 15 Ebrill, Mer 22 Ebrill, Mer 29 Ebrill, Mer 6 Mai, Mer 13 Mai, Mer 20 Mai 5.15–6.45pm (10 wythnos) Hwn fydd ein 4ydd cwrs 10 wythnos o hyd i bobl ifainc ar sbectrwm awtistiaeth a phobl ifainc a chanddynt anghenion addysgol arbennig. Mae’r sesiynau 90 munud o hyd hyn yn caniatáu i’r bobl ifainc fagu hyder cymdeithasol ac i ddysgu a datblygu sgiliau animeiddio mewn awyrgylch cefnogol a chreadigol. Gall pob sesiwn fod yn sesiwn unigol neu’n rhan o gynllun gwaith mwy – gallwn drefnu rhaglenni dysgu unigol i bob cyfranogwr. Nifer cyfyngedig o leoedd fydd ar gael bob wythnos. £30 am 10 sesiwn. 8-18 oed Gyda chefnogaeth

Cadw mewn Cysylltiad Mae adran Addysg Chapter bellach yn defnyddio Schoop — ap newydd cyffrous rhad ac am ddim sy’n hysbysu defnyddwyr am weithgareddau sydd o ddiddordeb iddynt. Lawr-lwythwch Schoop a chwiliwch am Chapter: Schoop ID 4400. Gyda Schoop, r’ych chi yn y lŵp!

Theatr Ieuenctid Chapter Dyddiau Mawrth 4.30–6pm I blant 7–16 oed

Mae Theatr Ieuenctid Chapter yn cyflwyno gwersi drama, dawns a symud wythnosol i blant rhwng 7 ac 11 oed a phobl ifainc rhwng 12 ac 16 oed. Yn rhan o Theatr Ieuenctid Chapter, bydd cyfle hefyd i gyfranogwyr gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr yn ystod gwyliau hanner tymor a gweithdai wythnos o hyd yn ystod gwyliau’r haf. Bydd dosbarthiadau Theatr Ieuenctid Chapter yn help i fagu hyder wrth berfformio ac yn fodd o ddysgu sgiliau a thechnegau newydd wrth i gyfranogwyr baratoi ar gyfer perfformiad cyhoeddus yn un o ofodau theatr proffesiynol Chapter. Dyddiadau: 3, 10, 17, 24 Mawrth 14, 21, 28 Ebrill, 5, 12, 19 Mai . £6 y sesiwn, neu £50 am bob un o’r 10 sesiwn. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. I gael mwy o wybodaeth am unrhyw un o’r cyrsiau hyn, a manylion ynglŷn â sut i gofrestru, cysylltwch â learning@chapter.org

Datblygiad Proffesiynol Parhaus i Athrawon Mae Chapter bellach yn darparu sesiynau DPP ‘Into Film’. Os ydych chi’n athro, neu yn cynrychioli ysgol a hoffai fanteisio ar hyfforddiant am ddim, cysylltwch â ni i gael gwybodaeth am gyrsiau a fydd yn eich galluogi i wneud defnydd o ffilmiau yn yr ystafell ddosbarth.


chapter.org

Addysg

31

Dosbarthiadau Meistr Theatr Ieuenctid Chapter:

Once Upon A Time

Llun 30 + Maw 31 Mawrth 10am–4pm Defnyddir themâu a strwythurau o straeon tylwyth teg i hybu’r dychymyg a datblygu sgiliau actio yn y dosbarth meistr theatr dau ddiwrnod hwn i blant 7-11 oed. Bydd cyfranogwyr yn paratoi ar gyfer perfformiad ar ddiwedd yr ail ddiwrnod. 7-11 oed

Gweithdai ‘Flying Cow’ i Ysgolion

Gellir archebu gweithdai ar gyfer Llun 16, Maw 17 + Mer 18 Mawrth Mae Flying Cow yn berfformiad dawns llawn dychymyg a grëwyd ar gyfer plant yn benodol gan gwmni dawns De Stilte o’r Iseldiroedd. Cynhelir y gweithdy ar ddydd Mawrth 24 Mawrth. I gyd-fynd â’r perfformiad, bydd yna weithdai i ddisgyblion Cyfnod Allweddol 2, a gellir cynnal y rhain yn Chapter neu mewn ysgol benodol. Yn ogystal â bod yn hwyl garw, mae gwaith De Stilte yn delio â rhai o brif feysydd addysg plant ifainc, gan gynnwys iaith a chyfathrebu, datblygiad corfforol a datblygiad personol, cymdeithasol ac emosiynol. Mae’r gweithdai’n para 45 munud a byddant yn cael eu teilwra fel eu bod yn addas ar gyfer galluoedd ac oedrannau’r plant dan sylw. I gael mwy o fanylion am drefnu gweithdy i’ch hysgol chi, cysylltwch â learning@chapter.org. I gael mwy o fanylion am y perfformiad o Flying Cow ar Maw 24 Mawrth, gweler tudalen 9.

Dyfeisio Theatrig/ Sgiliau Byrfyfyr

Mer 1 + Iau 2 Ebrill 10am–4pm Wedi’i fwriadu ar gyfer pobl ifainc rhwng 12 ac 16 oed a chanddynt rywfaint o brofiad o ddrama, bydd y dosbarth meistr dau ddiwrnod hwn o ddyfeisio a byrfyfyrio yn cael ei gyflwyno gan arweinwyr gweithdai profiadol Theatr Ieuenctid Chapter ac yn archwilio’r modd y gellir defnyddio technegau byrfyfyrio i gynhyrchu deunydd, a sut i gyfuno’r deunydd hwnnw i greu darn y gellir ei berfformio. 12-16 oed Nodwch os gwelwch yn dda: Dim ond 12 o leoedd a fydd ar gael ar gyfer pob diwrnod. £40 (£20 y dydd)

Cefnogwch Ni Mae Chapter yn elusen gofrestredig ac rydym yn dibynnu ar gefnogaeth gan unigolion a busnesau er mwyn gallu cyflwyno ein rhaglen artistig amrywiol a’n gwaith addysgol pwysig. Rydym yn ddiolchgar am bob ceiniog a dderbyniwn ac fe allwn gynnig ambell beth gwych i chi yn gyfnewid. Mae yna nifer o wahanol ffyrdd o gymryd rhan ...

Busnesau Clwb Cynllun aelodaeth Chapter i fusnesau. Am ffi flynyddol fechan, gall eich busnes chi fwynhau manteision sylweddol yn Chapter, a’r rheiny’n cynnwys cyfleoedd i rwydweithio, defnydd o’n mannau llogi hyblyg a gostyngiadau i chi a’ch staff ar docynnau sinema a theatr. Gallwch gael gostyngiadau hefyd ar fwyd a diod yn ein Caffi Bar. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.chapter.org/ cy/chapter-clwb

Nawdd Yn 2014, dyfarnodd Celfyddydau & Busnes Cymru Wobr Gyffredinol Categori’r Celfyddydau i Chapter am ein perthynas waith ragorol â busnesau. Mae yna nifer o gyfleoedd ar gael i’n noddi ac mae’r rheiny’n cynnig buddion gwych, gan gynnwys cyfranogiad staff, lletygarwch corfforaethol a hyrwyddo brand.


32

Archebu/Gwybodaeth

029 2030 4400

GWYBODAETH Sut i Archebu Tocynnau

Gwybodaeth

Dros y ffôn — ffoniwch ni ar 029 2030 4400. Rydym yn derbyn pob un o’r prif gardiau credyd. Galwch heibio — mae ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 11am-8.30pm, ac ar y Sul o 3pm–8.30pm. Ar-lein: Gallwch archebu ar www.chapter.org bob awr o’r dydd a’r nos Consesiynau: Mae cyfraddau disgownt ar gael i fyfyrwyr, pobl dros 60 oed, plant, y di-waith, pobl anabl, deiliaid cerdyn MAX ac i Ffrindiau Chapter a deiliaid Cerdyn Chapter. Bydd angen i chi gyflwyno prawf o’ch cymhwyster i dderbyn cyfradd ostyngol. Archebion grŵp: Prynwch 8 tocyn ac fe gewch chi’r 9fed yn RHAD AC AM DDIM. Noder os gwelwch yn dda • dim ond un disgownt y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw un adeg • rydym yn hapus i dderbyn archebion ymlaen llaw ond ni allwn gadw tocynnau i’r naill ochr • os cyrhaeddwch chi’n hwyr mae hi’n bosib y cewch chi’ch atal rhag mynychu eich digwyddiad. Cyflwynir rhai o’n ffilmiau â Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ond nid yw’r wybodaeth hon bob amser ar gael ar adeg argraffu’r cylchgrawn. Gweler ein gwe-fan am fanylion neu piciwch draw i’r Swyddfa Docynnau yn ystod yr wythnos y mae’r ffilm yn cael ei rhyddhau.

Cwmnïau ac Artistiaid Cysylltiedig Mae Chapter yn gartref i gwmnïau theatr, cwmnïau dawns, stiwdios animeiddio, gwneuthurwyr printiau, crochenwyr, dylunwyr graffeg, dylunwyr deunydd symudol, cyfansoddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, cyhoeddwyr cylchgronau, artistiaid annibynnol a llawer iawn mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Sinema Cyn 5pm O 5pm ymlaen Llawn £4.50 (£4.00) £7.90 (£7.20) Cons £3.50 (£3.00) £5.80 (£5.10) Cerdyn + Cons £3.00 (£2.50) £5.00 (£4.50) DISGOWNT DYDD MAWRTH Tocynnau’r holl brif ddangsiadau — £4.40

Gweithdai a Dosbarthiadau Rydym yn cynnal amrywiaeth eang o weithdai dyddiol a dosbarthiadau gydag ymarferwyr annibynnol, gan gynnwys ballet, zumba, ioga, crefft ymladd, massage i fabanod, cerddoriaeth i blant, pilates, tango, fflamenco, ysgrifennu creadigol, gwersi cerddoriaeth a mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Sut i gyrraedd Chapter Fe ddewch chi o hyd i ni yn Nhreganna, i’r gorllewin o ganol y ddinas. Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE Ar Droed Mae hi’n daith gerdded hamddenol o ryw 20 munud o ganol y ddinas. Ar Fws Mae bysus rhif 17, 18 a 33 yn aros gerllaw ac yn gadael bob pum munud o ganol y ddinas. Ar Feic Mae digon o raciau beic ar flaen yr adeilad. Parcio Mae gennym faes parcio yng nghefn yr adeilad ac mae meysydd parcio lleol eraill wedi eu nodi ar y map. Gofynnwn i chi barchu ein cymdogion os gwelwch yn dda drwy osgoi parcio mewn strydoedd cyfagos.

Prisiau ymlaen llaw/ar-lein mewn cromfachau. Mae “Ymlaen llaw” yn golygu unrhyw bryd cyn diwrnod y dangosiad.

aff nd Lla

Springfield Pl.

ad

mC ha cen res

Ha m i l t o n

St

t

Gr

King’s Ro

nd Wy

ane

Road

L Gray

. Library St

St. ay

Treganna

Le c h kwit

Church Rd.

Heol Ddwy rein i o l y B o n t F a en Penllyn Rd.

Harve

St Talbot

Orc h a r d P l.

rn Seve

St. Gray M a rk e t P l .

treet yS

e St. Glynn

d Roa

d hna arc lyF

Heo

o 6pm

rt S

t.

Road

Earle Pl.

A l be

P — meysydd parcio rhad ac am ddim — rac feics

r R—oadarhosfan bysus Majo

I Ganol Dinas Caerdydd to n ling Wel

et Stre

Mynediad i bawb Mae Chapter yn croesawu ymwelwyr anabl. Os oes gennych anghenion mynediad penodol, ffoniwch ein swyddfa docynnau ar 029 2030 4400, minicom 029 2031 3430.


chapter.org

Cymryd Rhan

33

CYMRYD RHAN Cerdyn CL1C

Cadwch mewn cysylltiad

Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawr-lwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Ymunwch â ni ar-lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

Ffrindiau Chapter Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40

eAmserlen rad ac am ddim eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch adam.chard@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.

Cynllun Myfyrwyr Chapter Ydych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth am ddim a manteisio ar gynigion arbennig nodedig, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Jennifer — jennifer.kirkham@chapter.org www.chapter.org/cy/aelodaeth-myfyrwyr-chapter

Hoffai Chapter gydnabod cefnogaeth hael y sefydliadau a’r grwpiau canlynol:

Cronfa Gymunedol Tirlenwi Sefydliad Esmée Fairbairn Rhaglen Ddiwylliant yr UE Sefydliad Baring Sefydliad Garfield Weston Sefydliad Foyle Gwobr Biffa Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston Grŵp Admiral Cyf Sefydliad Moondance ar gyfer y Celfyddydau a Chwaraeon Sefydliad Elusennol Trusthouse Y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru Plant mewn Angen y BBC Sefydliad Waterloo Ymddiriedolaeth Ynni Gwyrdd ScottishPower Yr Ymddiriedolaeth Ddarlledu Gymreig SEWTA

Richer Sounds Sefydliad y Brethynwyr Momentum Sefydliad Henry Moore Google Sefydliad Jane Hodge Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson Ymddiriedolaeth People’s Postcode Ymddiriedolaeth Feddygol Dunhill Legal & General Institut für Auslandsbeziehungen e.V Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm Ymddiriedolaeth Ernest Cook Lloyds TSB Arwyddion Morgan Ymddiriedolaeth Elusennol y Garrick Barclays

Celfyddydau & Busnes Cymru Penderyn Ymddiriedolaeth Austin & Hope Pilkington Sefydliad Rhyngwladol Singapore Gwestai Puma: Gwesty’r Angel Caerdydd Maes Awyr Caerdydd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru Ymddiriedolaeth Elusennol Gibbs Cynllun Cymunedol Ceredigion Ymddiriedolaeth Elusennol Steel Sefydliad Boshier-Hinton 1st Office Ymddiriedolaeth Oakdale Cwmni Plastig Dipec Nelmes Design

Ymddiriedolaeth Elusennol Coutts Elusen Wake Bruce Funky Monkey Feet Sefydliad Finnis Scott Banc Unity Trust Hugh James Cymdeithas Celfyddydau Cyfoes Cymru Dot Foundry JVH Gidden & Rees Western Power Distribution Ymddiriedolaeth Follett Celfyddydau & Phlant Cymru Aduniad Merched Ysgol Uwchradd Canton Grŵp y Co-operative Renault Caerdydd Llysgenhadaeth Gwlad Belg Llywodraeth Queensland


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.