Chapter Mai 2014

Page 1

029 2030 4400

@chaptertweets

chapter.org


02

Croeso

chapter.org

CROESO Fe wyddoch, efallai, bod Chapter yn elusen gofrestredig. Mae ein rhaglen artistig ac addysgol yn cael ei ariannu trwy gyfuniad o werthiant tocynnau, incwm o’n Caffi Bar, grantiau, nawdd a rhoddion. Ac fe allwch chi chwarae rhan bwysig yn hynny o beth! Mae pob ceiniog a wariwch yn Chapter yn cyfrannu’n uniongyrchol at gefnogi’r gweithiau celfyddydol a welwch yma. Rydym yn gwerthfawrogi pob ceiniog ac, os ydych chi’n teimlo y gallech chi wneud cyfraniad ychwanegol, mae yna nifer o ffyrdd y gallwch ein helpu. Gallwch wneud cyfraniadau unigol neu gyfrannu’n fisol. Mae modd i chi wneud hynny mewn amrywiaeth o ffyrdd: • Trwy anfon neges destun at 70070 — teipiwch CHAP14 a’r swm y dymunwch ei gyfrannu • Ar-lein, drwy gyfrwng ein ffurflen gyfrannu ddiogel, ar www.chapter.org • Yn Swyddfa Docynnau’r ganolfan Mae yna seddi hefyd yn ein dwy Sinema sydd ar gael i’w mabwysiadu. Am gyfraniad unigol o £250, caiff eich enw (neu enw arall o’ch dewis chi) ei ysgythru ar blac a fydd yn addurno un o’n seddau hyfryd yn un o’r ddwy Sinema am gyfnod o 10 mlynedd. I gael mwy o wybodaeth, neu i wneud cyfraniad, cysylltwch ag Elaina yn y Swyddfa Ddatblygu — 029 2035 5662 / elaina.gray@chapter.org

Defnyddiwch y côd QR hwn i lawr-lwytho copi digidol o gylchgrawn Chapter

Delwedd y clawr: Frank

Chapter Heol y Farchnad, Caerdydd CF5 1QE 029 2030 4400 www.chapter.org ymholiadau@chapter.org


chapter.org

Uchafbwyntiau

Oriel tudalennau 4–10

Bwyta Yfed Llogi tudalen 11

Theatr tudalennau 12–18

Chapter Mix tudalen 19

03

CYMRYD RHAN Cerdyn CL1C Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawrlwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Ffrindiau Chapter Sinema tudalennau 20–30

Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40

Cadwch mewn cysylltiad Ymunwch â ni ar-lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

Addysg tudalen 31

Gwybodaeth a sut i archebu tocynnau tudalen 32

Cymryd Rhan tudalen 33

Calendr tudalennau 34–35

eAmserlen rad ac am ddim eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch adam.chard@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.

Siaradwch â ni @chaptertweets facebook.com/chapterarts ymholiadau@chapter.org


04

Oriel

ORIEL

029 2030 4400


chapter.org

Oriel

05

Jonathan Baldock: The Soft Machine Gwe 18 Ebrill — Sul 29 Mehefin Mae ffurfiau hybrid Jonathan Baldock yn afreolaidd ar y naill law ac, ar y llaw arall, yn hynod gain. Maent yn meddiannu gofod yr oriel fel addurniadau ac fel gwrthrychau. Mae The Soft Machine, arddangosfa unigol gyntaf Jonathan yng Nghymru, yn edrych ar y berthynas rhwng y corff a cherfluniau gan ddefnyddio gosodiadau a pherfformiad. Mae ei waith yn gwneud cysylltiadau annisgwyl rhwng cyfeiriadau diwylliannol ymddangosiadol wahanol — llenyddiaeth, hanes celf, defodau paganaidd, sinema, ffasiwn a defodau carnifalaidd. Mae trawsnewid yn fotiff canolog yng ngwaith Jonathan: mae mygydau, nythod a chregyn yn cynnig rhyw fath o loches. Maent yn groen newydd; yn fannau gwarchodol, cudd. Meddai Oscar Wilde, “Nid yw dyn yn llai tebyg iddo fe ei hun na phan siarada yn ei enw ei hun. Rhowch iddo fwgwd, ac fe ddywed y gwir.” I Jonathan, mae’r mwgwd yn caniatáu i berson fod yn driw i’w hunan. Mae ei wisgoedd yn gartrefi symudol i berfformiwr neu berson. Mae deunyddiau di-nod yn troi’n gofebion ac yn dod yn fyw trwy gyfrwng symudiadau a choreograffi gofalus; rhoddir bywyd i’r difywyd ac fe ddaw’r annifyr yn ddoniol. Mae ei gerfluniau’n rhyw fath o ofod diogel sy’n consurio atgofion am straeon cysurus i blant — er eu bod nhw hefyd yn cyfeirio at atyniadau brawychus y ffair. Mae Jonathon yn archwilio rôl anghofiedig neu ymylol y crefftwr yn ein diwylliant, ac yn datblygu iaith weledol lle mae deunyddiau yn parhau i chwarae rôl o bwys. Caiff deunyddiau ‘bas’ eu trawsnewid yn wrthrychau o statws ac maent yn herio ein rhagdybiaethau am yr hyn y gallan nhw fod neu wneud. Mae gwaith Jonathan yn gwrthod naratifau penodol o blaid sgwrs — rhwng traddodiad a chrefft, symudiad a llonyddwch, y gwrthrych a’r corff.

Arddangosfa ar agor: Dyddiau Mawrth, Mercher, Sadwrn a Sul 12-6pm; dydd Iau a dydd Gwener 12-8pm; ar gau ar ddydd Llun

Uchod o’r chwith i’r dde: Jonathan Baldock, ‘Costumes’, 2013, Gwlân wedi’i grosio â llaw, gwlân, tylinwyr cefn a cherameg; Jonathan Baldock, ‘Eyeplates and Dusting Bells’, 2013, cerameg wedi’i wydro, gwallt synthetig a chlychau.

Bywgraffiad Ganwyd Jonathan Baldock ym 1980 yn Pembury, y DG. Graddiodd o’r Coleg Celf Brenhinol yn 2005 ac mae e bellach yn byw ac yn gweithio yn Llundain. Mae ei arddangosfeydd unigol diweddar yn cynnwys: Hot Spots, The Apartment, Vancouver (Canada), 2014; A Strange Mix Between a Butcher’s Shop and a Nightclub, Canolfan Gelfyddydau Wysing, Caergrawnt (DG) 2013; The Blue Epoch, Colloredo-Mansfeldský Palác, AMoYA, Prâg (Gweriniaeth Tsiec) 2012; Musica, Oriel Annarumma, Napoli, (Yr Eidal) 2011; Pierrot, PeregrineProgram, Chicago (UDA) 2011. Mae ei arddangosfeydd grŵp yn cynnwys: Two Figures in a Landscape (coreograffi gan Grŵp Dawns Rubato), Amgueddfa Gelfyddyd Rockbund, Shanghai (Tsieina) 2013; Relativity Absolute, Canolfan Gelfyddydau Wysing, Caergrawnt (DG), 2013; The Gathering, Oriel Mytoro, Hambwrg (Yr Almaen), 2013; Implausible Imposters, Oriel Ceri Hand, Llundain (DG), 2013; Pile, Chapter, Caerdydd (Cymru) 2011. Yn ddiweddar, dyfarnwyd Cymrodoriaeth Abbey yr Ysgol Brydeinig yn Rhufain (Yr Eidal) iddo ynghyd â Phreswyliad Swatch Art Peace Hotel, Shanghai (Tsieina).

Perfformiad Sad 17 Mai, amser i’w gadarnhau Bydd Jonathan Baldock yn cydweithio gyda’r artist Florence Peake i greu perfformiad newydd a fydd yn ymateb uniongyrchol i’r arddangosfa ac yn bywiocáu’r gweithiau yn y sioe. Florence Peake Mae Florence Peake yn artist o Lundain a fu’n cynhyrchu gwaith ers 1995. Wedi’i hyfforddi mewn dawns ac â chefndir fel peintiwr, mae perfformiadau Florence Peake yn defnyddio dylanwadau amrywiol arlunio, peintio a cherflunio a gaiff eu cyfuno â gwrthrychau hapgael, ynghyd â gwrthrychau eraill, er mwyn diffinio perthynas â’r corff symudol. Mae’r safle a’r gynulleidfa, testun byw a thestun wedi’i recordio, ffraethineb a hiwmor yn allweddol i’w gwaith. Mae gwaith diweddar Florence yn cynnwys: MAKE yn BALTIC (2013) a Pharc Cerfluniau Swydd Efrog (2012); Comisiwn ‘Duckie Goes to the Gateways’ (2013); REMAKE yn Baltic 39 (2012) ac Oriel Lanchester (2012).


Oriel

029 2030 4400

Andrew Morris, What’s Left Behind? 2013. 6x7” fformat canolig

06

Celfyddyd yn y Bar Andrew Morris: What’s Left Behind? Gwe 14 Mawrth — Sul 18 Mai Mae darluniau Andrew Morris o ofodau mewnol yn ymddangos yn dawel a myfyriol, fel petaent yn llefydd dros dro, mannau rhwng llawnder a gwacter. Mae sbectol yn dal i eistedd ar sil y ffenest a’r gwelyau mewn ystafelloedd gwely newydd gael eu gwneud. Fe allech chi dybio’n rhwydd bod y perchennog newydd bicio allan. Ond edrychwch eto ac fe welwch chi fod yna rywbeth nad yw cweit fel y dylai fod. Mae’r papur wal yn pilio, mae yna ffotograff ar silff lyfrau a fyddai fel arall yn wag; cartrefi yw’r rhain sydd yn y broses o gael eu clirio, ar ôl marwolaeth eu perchnogion. Mae Morris yn portreadu’r golygfeydd hyn â sensitifrwydd mawr. Mae’n gwneud mwy na chanolbwyntio ar yr eiddo sy’n weddill; fe’n harweinia i fyfyrio ac ystyried syniadau am gartref, teulu a pherchnogaeth.

Bywgraffiad Mae Andrew Morris yn byw ac yn gweithio yn Abertawe. Graddiodd yn ddiweddar o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Abertawe, lle’r astudiodd Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau. Morris yw deiliad cyntaf Gwobr Artist Ifanc Rhyngwladol Cymru a gyflwynwyd iddo gan Gyngor Prydeinig Cymru am y corff hwn o waith. Gwobr Artist Ifanc Rhyngwladol Cymru Lansiwyd Gwobr Artist Ifanc Rhyngwladol Cymru yn 2013 gan Gyngor Prydeinig Cymru gyda’r nod deuol o ddod o hyd i dalentau newydd ifainc yn y sectorau creadigol ac o feithrin y talentau hynny gan roi cyfle i artistiaid ifainc o Gymru ddangos eu gwaith yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae’r enillydd yn derbyn gwobr o £500 a chyfle i arddangos ei waith ar chwe chyfandir ac mewn mwy na 100 o wledydd. Beirniaid 2013 oedd Hannah Firth, Chapter, Melissa Hinkin, Artes Mundi a’r cynhyrchydd / curadur annibynnol, Marc Rees.


Oriel

07

Kelly Best, Untitled Drawing, 2013, pensiliau lliw ar bapur

chapter.org

Celfyddyd yn y Bar Kelly Best: Out Lines Gwe 23 Mai — Sul 3 Awst Mae Kelly’n defnyddio ffotograffau o strwythurau pensaernïol fel man cychwyn ar gyfer ei gwaith ac yn stripio’r ffotograffau hynny fel eu bod yn datgelu siapiau a ffurfiau elfennol. Mae hi’n peintio dros rannau o’r cefndir ac fe ddaw’r ffurf yn fwy amlwg; mae adeiladau’n troi’n gyfres o linellau fertigol rhwng gofodau gweigion; mae pontydd yn cysylltu gofodau gweigion, fel petaent yn hongian yn ddiymadferth ar y cynfas. Mae Best yn ymddiddori yn y gofodau afreolaidd sy’n dechrau ymddangos yn ystod cyfnod cynnar y broses o ddarlunio a pheintio. Mae’r defnydd syml o linellau a lliw yn ei gwaith diweddaraf yn creu ffug deimlad o bersbectif; mae cysgodion rhyfedd yn ymddangos ac yn gwyrdroi syniad y gwyliwr o’r gofod o’i gwmpas. Mae Out Lines yn ddarn newydd o waith a gwblhawyd fel ymateb uniongyrchol i ofod a phensaernïaeth Caffi Bar Chapter. Mae’n dwyn ynghyd nifer o’r syniadau y mae Best wedi bod yn eu datblygu’n ddiweddar, yn ystod ei chyfnod preswyl gyda g39, Caerdydd.

Bywgraffiad Ganwyd Kelly Best yng Nghaint ym 1984 a chwblhaodd radd BA Celfyddyd Gain mewn peintio ym Mhrifysgol Kingston, Llundain. Mae hi bellach yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd. Mae ei harddangosfeydd diweddar yn cynnwys ‘Preswyliad Unit(e)’, g39, Caerdydd (2014), ‘Y Lle Celf’, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Dinbych, ‘Arddangosfa o Beintiadau’, Stiwdio B, Caerdydd (y ddwy yn 2013), ‘Gwobr Baentio John Moores’, Oriel Gelf Walker, Lerpwl, ‘Cardiff Open 2012’, Caerdydd, Gwobr ‘Door Painting’, Oriel Centrespace, Bryste (pob un yn 2012).


08

Oriel

029 2030 4400


chapter.org

Oriel

09

Pob llun: Art Car Bootique, gyda chaniatâd caredig g39 a Jon Poutney

Art Car Bootique Sul 25 Mai 11am-6pm Perfformiadau yn y Caffi Bar o 6pm tan yn hwyr Mae Chapter a Something Creative yn falch o gyhoeddi digwyddiad Art Car Bootique 2014, sy’n dathlu ‘Diwedd Oes o Ddiniweidrwydd.’ Ers ei sefydlu yn 2011, mae’r digwyddiad hwn yn dathlu Cymuned Greadigol Caerdydd. Mae’n gymysgedd eclectig ac ecsentrig o gelfyddyd, perfformiadau, bwyd, cerddoriaeth, ffasiwn ‘vintage’ a phrosiectau wedi’u curadu. Bydd amrywiaeth o grwpiau, unigolion a sefydliadau yn trefnu stondinau, a’r rheiny’n cynnwys g39, Tim Bromage, Boogaloo Stu, Spit and Sawdust, Casey Raymond, Recordiau Peski a CAAPO. O 11am tan 6pm, bydd ein maes parcio yn cael ei drawsnewid yn ffair bentref seicedelig — bydd mwy na 70 o stondinau i chi eu harchwilio a’u mwynhau. Mae Art Car Bootique yn ddigwyddiad rhyngweithiol rhyfedd a hwyliog sy’n cynnig rhywbeth i bawb. Mae’r Art Car Bootique yn cyd-fynd eleni, trwy gydddigwyddiad hapus, â Maibock, ein gŵyl gwrw Almaenaidd flynyddol (t11). Bydd yna berfformiadau byw yn ein Caffi Bar o 6pm tan yn hwyr. Cadwch lygad ar ein gwe-fan, www.chapter.org, am fwy o fanylion www.artcarbootique.com www.somethingcreatives.com


Oriel

029 2030 4400

Sgyrsiau am Ddau

Gweithdy Teuluol Hanner Tymor gyda Thomas Goddard

Tooth and Clawr

10

Sad 10 + Sad 24 Mai 2pm Cynhelir ein ‘Sgyrsiau am 2’ bob yn ail ddydd Sadwrn yn ystod cyfnodau ein arddangosfeydd ac fe’i cyflwynir gan ein Tywyswyr Byw, Richard Higlett a Samuel Hasler. Mae’r sgyrsiau’n gyfle i ddysgu mwy am yr arddangosfa gyfredol ac am ddulliau gwaith unigryw yr artistiaid a’r curadur. Ni fydd dwy sgwrs yn union yr un fath ond y gobaith yw y byddan nhw’n ddiddorol ac yn agored bob amser. Mae’r Sgyrsiau am 2 yn rhad ac am ddim ac nid oes angen archebu lle ymlaen llaw — dewch draw i fynedfa’r Oriel erbyn 2 o’r gloch i ymuno â ni!

Tooth and Clawr Maw 20 Mai 7pm Mae trafodaethau grŵp darllen Tooth and Clawr yn seiliedig ar arddangosfeydd Oriel Chapter. Rydym yn canolbwyntio ar ddarlleniadau o ddarnau byrion o destunau wedi’u dewis o blith ystod eang o ffynonellau — o destunau beirniadol i farddoniaeth. Caiff y testunau hyn eu defnyddio fel sail ar gyfer trafod yr arddangosfa. Mae’r sesiynau, a arweinir gan Catherine Angle a Phil Owen, yn anffurfiol eu naws ac nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am theorïau celfyddydol. Rydym yn dewis testunau sydd, yn ein barn ni, yn adleisio agweddau ar y gwaith celfyddydol yn y sioe ac yn eich annog chi i wneud yr un modd. Gall y darn hwnnw o ysgrifennu fod yn ddarn o’ch gwaith eich hun neu’n destun a ddarllenoch yn rhywle. Mae croeso mawr i gyfraniadau o bob math. £3

Mer 28 Mai 4-9 oed: 10am–12pm 10+ oed: 1–3pm

Byddwch yn greadigol yn ystod gwyliau hanner tymor! Bydd yr artist Thomas Goddard yn arwain dau weithdy difyr wedi’u hysbrydoli gan arddangosfa gyfredol yr Oriel, ‘The Soft Machine’ gan Jonathan Baldock. Rhaid i bob plentyn o dan 10 oed fod yng nghwmni oedolyn. Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig felly bydd gofyn i chi gadw lle ymlaen llaw. Gellir prynu tocynnau ar-lein neu yn y Swyddfa Docynnau. 4-9 oed: £5 / 10+ oed: £8


chapter.org

Bwyta Yfed Llogi

11

BWYTA YFED LLOGI

Pop Up Produce

Bwyta

Bob dydd Mercher 4–7pm

Rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno danteithion ein Caffi yn yr awyr agored, yn ystod yr Art Car Bootique (tt8-9). Bydd yna farbeciw ar ein cwrt, lle gallwch lenwi’ch bol â byrgyrs, cŵn poeth a phorc wedi’i goginio’n araf, heb sôn am ambell ddewis iach fel eog wedi’i bobi a salad, a ffalaffel cartref â cous-cous. Os bydd chwant bwyd arnoch wrth i chi grwydro’r stondinau, bydd yna ail stondin fwyd yn y maes parcio prysur. Bydd hon yn cynnig detholiad o fwydydd o daleithiau deheuol America — cyw iâr ‘gumbo’ a chorizo gyda bara corn cynnes, salad o gyw iâr Cajun rhost, berdys (‘shrimp’) Caribïaidd wedi ffrio a draenog y môr (‘bass’) gyda salad ffenigl ac oren.

Mae ein marchnad dros dro reolaidd yn cynnwys cynhyrchwyr bwyd lleol sy’n gwerthu bwydydd blasus a chrefftus. Llanwch eich cypyrddau â bara hyfryd, cacennau blasus, cigoedd a siytni arbenigol a llawer iawn mwy. I weld manylion y cynhyrchwyr a fydd yn bresennol, ewch i’n gwe-fan.

Llogi Mae nifer o ofodau a chyfleusterau Chapter ar gael i’w llogi, ac mae llawer ohonynt yn cael eu defnyddio’n rheolaidd gan amrywiaeth eclectig o ddosbarthiadau dydd a nos. Edrychwch ar ein gwe-fan neu codwch daflen yn y swyddfa docynnau i weld yr hyn sydd ar gael. Os ydych chi’n chwilio am ystafell ar gyfer parti, cyfarfod, cynhadledd, neu am ofod i saethu fideo, i ymarfer neu ar gyfer gweithgareddau adeiladu tîm, bydd ein cyfleusterau gwych, ein harbenigedd technegol a’n staff cyfeillgar yn gallu sicrhau bod eich digwyddiad yn un cyffyrddus, unigryw a chofiadwy. Gallwn gynnig amrywiaeth o opsiynau arlwyo ar gyfer eich digwyddiad hefyd. Os oes gennych chi gwestiynau penodol neu os hoffech chi fwy o wybodaeth am ein cyfleusterau, rhowch ganiad i’n rheolwr llogi, Nicky, ar 029 2031 1058 neu anfonwch e-bost at nicky.keeping@chapter.org

Maibock Mer 21 — Sul 25 Mai Mer + Iau 5pm–11pm, Gwe 5pm–12.30am, Sad 1pm–12am + Sul 12pm–10.30pm Mae hi’n amser am ŵyl gwrw flynyddol y gwanwyn eto. Hwre — mae Maibock yn ei ôl! Mae cwrw Maibock Bafaria yn draddodiadol ysgafnach a mwy hopysaidd na chwrw Bock cryf — mae hynny’n adlewyrchu’r trawsnewid o’r gaeaf i’r gwanwyn. Rydym yn dal i baratoi ein rhestr gwrw ar gyfer y digwyddiad eleni ond gallwch fod yn hyderus y byddwn, fel bob amser, yn cynnig ambell frag newydd, ar y cyd â ffefrynnau Chapter. Eleni, bydd bar yr ŵyl ar agor am ddiwrnod ychwanegol i gyd-fynd â’r Art Car Bootique (25 Mai, gweler tudalennau 8-9), er mwyn caniatáu i chi fwynhau peint o gwrw Almaenaidd blasus wrth i chi gael cip ar y stondinau y tu allan ... yn haul y gwanwyn, gobeithio! Prost!


Theatr

“Mae gan y tir hwn leisiau eraill hefyd”

029 2030 4400

Lleisiau / Voices

12


Theatr

13

Lleisiau / Voices

chapter.org

good cop bad cop a Chapter yn cyflwyno

Lleisiau / Voices Iau 8 — Sad 10 Mai 7.30pm

O dân a brwmstan pregethwyr y diwygiad, i gyflwyniadau’r cyfarwydd a ‘chanu’ barddoniaeth ganoloesol, a darlleniadau Burton o waith Dylan Thomas, mae gan Gymru hanes cyfoethog ac amrywiol o berfformio llafar a chyfoeth o draddodiadau lleisiol. Mae Lleisiau / Voices yn berfformiad a darllediad rhyngrwyd byw. Ei nod yw darganfod a chyflwyno detholiad o rai o leisiau llai adnabyddus Cymru. Aeth yr alwad allan ledled y wlad a gofynnwyd i bobl rannu eu doniau â ni. Roeddem yn awyddus i weld yr amrywiol ac anarferol ffyrdd sydd gan bobl o ddefnyddio’u lleisiau yn eu bywydau bob dydd. Fe siaradom ag arwerthwyr, masnachwyr marchnad, beirdd a gwerthwyr papurau newydd a chasglu lleisiau o Fangor a Wrecsam a Rhaeadr i Lanelli a Chaerdydd. Pan aeth y testun hwn i’r wasg, nid oedd union raglen y digwyddiad wedi’i bennu. Yr hyn sydd yn hysbys, fodd bynnag, yw y bydd yna berfformiad comisiwn arbennig gan y New York City Players a barddoniaeth ar lif byw o Seland Newydd. Mae Lleisiau / Voices yn ganlyniad i ymgais frwd gan lond llaw o bobl i gasglu ynghyd enghreifftiau o’r defnyddiau gwahanol a wneir o’r llais yn y Gymru gyfoes. Mae’n arolwg anghyflawn — amhosib ei gwblhau — ac yn waith y bwriadwn ei ddatblygu yn y dyfodol Comisiynwyd Lleisiau / Voices gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru yn rhan o ddathliadau Gŵyl 100 Dylan Thomas. Diolch i Ffwrnes, Oriel Wrecsam, UnDegUn, This Project, Theatr Mwldan, Pontio a Jean Forsythe, Maer Bangor. £12/£10/£8

Alice Burrows Cynorthwy-ydd Personol / Gweinyddwr y Rhaglen Theatr Mae yna ddetholiad ardderchog o waith yn y theatr y mis hwn: comedi, dawns, cerddoriaeth — ambell ddrama hefyd, hyd yn oed! Un o’r uchafbwyntiau i mi fydd, Lleisiau / Voices, rhan o ddathliadau canmlwyddiant Dylan Thomas. Roedd hi’n ddiddorol iawn gweld y gwahanol bobl a ddaeth i’r diwrnodau agored — ac i glywed eu lleisiau, wrth gwrs. Dw i’n edrych ymlaen at weld sut y bydd good cop bad cop yn mynd ati i dynnu’r cwbl at ei gilydd. Ac fe fydd yr Art Car Bootique yn hwyl difrifol hefyd, wrth gwrs!


14

Theatr

029 2030 4400

Coreo Cymru a Chapter yn cyflwyno:

Proses Agored Dance Roads ar Daith Iau 22 + Gwe 23 Mai 8pm

Andrea Gallo Rosso, perfformiwr

Mae Dance Roads yn bartneriaeth ryngwladol sy’n cefnogi datblygiad coreograffwyr arloesol o Gymru, Canada, yr Eidal, Ffrainc a’r Iseldiroedd. Mae’r rhaglen deithiol o bum gwaith byr yn addo noson amrywiol o ddawnsio cyfoes o safon ryngwladol. Bydd yn ddelfrydol ar gyfer cynulleidfaoedd dawns profiadol a’r rheiny sy’n gweld cynhyrchiad dawns am y tro cyntaf. Yn dilyn llwyddiant preswyliad rhyngwladol 2013, a’r cyflwyniad o waith ar y gweill yn Chapter fis Medi diwethaf, bydd y tri artist ar ddeg yn dychwelyd i Gaerdydd ym mis Mai i berfformio eu darnau gorffenedig. DROP yw’r prosiect dawns cyntaf i gael ei arwain o Gymru dan nawdd Rhaglen Ddiwylliant yr UE a’r nod yw datblygu ac ehangu’r ddarpariaeth gyfredol i’r sector dawnsio cyfoes ar raddfa fechan yn Ewrop. Cyflwynir y prosiect gan Coreo Cymru, Chapter, a phartneriaid rhyngwladol Dance Roads. Ymunwch ag artistiaid Dance Roads ar gyfer sgwrs ar ôl y sioe ar ddydd Iau 22 Mai i glywed am eu profiadau yn rhan o raglen DROP ac i gynnig adborth ar eu gwaith. www.danceroads.eu

Coreograffwyr DROP Jo Fong — Cymru

Andrea Gallo Rosso — Yr Eidal

Mae Jo yn gyfarwyddwr, yn goreograffydd ac yn berfformiwr ac yn gweithio ym myd dawns, ffilm, theatr a’r celfyddydau gweledol. Bu’n gweithio fel perfformiwr ers dros 20 mlynedd gyda chwmnïau fel Rosas, DV8 Physical Theatre, Cwmni Dawns Rambert, Mark Bruce Company, Theatr y Young Vic, Igloo a Quarantine Theatre.

Ar ôl cwblhau ei hyfforddiant dawns yn Torino, parhaodd Andrea i ddatblygu ei grefft ar y cyd ag artistiaid eraill megis David Zambrano, Emio Greco, Ismael Ivo, Pedro Berdayes & Jose Reches ac Ivan Wolfe ac mae e wedi cyflwyno gwaith mewn gwyliau cenedlaethol a rhyngwladol.

Teilo Troncy — Ffrainc

Taniwyd diddordeb Sarah mewn dawnsio gan ei hymwneud â dawnsio fflamenco yn 2003 ac, ar ôl graddio yn y Cyfryngau Newydd yn 2009, parhaodd â’i hyfforddiant mewn dawns gyfoes ym Montreal ac ym Mharis. Cymrodd ran yn Transforme-Se Prolonger yn Abbaye Royaumont (Ffrainc), lle cafodd gyfle i gydweithio â choreograffwyr a chyfansoddwyr electro-acwstig ar amrywiaeth eang o greadigaethau.

Ar ôl gorffen ei astudiaethau mewn actio a dawnsio cyfoes yn y Conservatoire yn Bordeaux (Ffrainc), symudodd Teilo i Amsterdam i astudio yn yr SNDO er mwyn ehangu, herio a dyfnhau ei waith fel crëwr, dawnsiwr a pherfformiwr.

Jasper Van Luijk — Yr Iseldiroedd Yn 2011, dewiswyd Jasper i gymryd rhan yn y Voorjaarsontwakenevent fel coreograffydd ac ers hynny mae e wedi cyflwyno gwaith mewn nifer o wyliau gan gynnwys Gŵyl Holland Dance 2012, CaDance a a/d Werf. Yn 2012, derbyniodd Jasper Wobr Goreograffi ITS — gwobr genedlaethol i’r rheiny sy’n graddio mewn coreograffi.

Sarah Bronsard — Canada

£12/£10 Derbyniodd y prosiect hwn nawdd gan y Comisiwn Ewropeaidd. Mae’r testun hwn yn cyfleu barn yr awdur yn unig, ac ni fydd y Comisiwn yn gyfrifol am unrhyw ddefnydd a wneir o’r wybodaeth a gyflwynir yn y fan hon.


Theatr

Deialog — Deuawd Gwaith newydd gan Jo Fong a Heloise Godfrey-Talbot

Mr Magik’s House

15

Llun: Deialog, gyda chaniatâd Heloise Godfrey-Talbot

chapter.org

Iau 1 Mai 8pm Mae’r cyflwyniad cymysg hwn yn cynnwys perfformiadau, gwaith clyweledol a chyflwyniad cyntaf o Deialog — Deuawd. Mae’r cydweithrediad yn archif esblygol o waith — peiriant casglu, fel petai, sy’n dwyn ynghyd ddeunyddiau, cyflyriadau, syniadau a deialog. Fe’i hysbrydolwyd gan ffilm ingol Amanda Baggs, ‘In My Language’. Y nod yw creu gwaith byw, digymell ac onest. Mae’r ddrama yn yr hyn sy’n digwydd yn y foment. Mae Jo yn gyfarwyddwr, yn goreograffydd ac yn berfformiwr ac mae hi’n gweithio ym myd dawns, ffilm, theatr a’r celfyddydau gweledol. Mae Heloise Godfrey-Talbot yn artist clyweledol sy’n gweithio gyda pobl a chymunedau yn bennaf. £12/10 www.jofong.com www.HeloiseGodfrey-Talbot.com

Sul 1 Mehefin Perfformiadau teuluol a gweithdy Perfformiadau: 11am + 3pm. Gweithdy: 1pm Mae Mr Magik yn hen ddewin sydd ar goll yn ei atgofion ac yn breuddwydio am fyd hudol i ddod. Ond aiff pethau’n ffradach wrth iddo geisio ail-greu ei hoff driciau gyda chymorth ei ddau ofalwr. Mae Bombastic yn arbenigo mewn creu sioeau theatr ddawns doniol a gweledol gyfoethog, a gweithiau wedi’u hanimeiddio i gynulleidfaoedd iau. Mae tîm Bombastic yn gwahodd teuluoedd i ymuno â nhw ar gyfer gweithdy rhad ac am ddim er mwyn helpu Mr Magik i ddawnsio’n ddrygionus. Ewch i we-fan Bombastic, www.bombasticdance.org, i chwarae gêm hud Mr Magik ar eich cyfrifiadur, tabled neu ddyfais symudol. £8 i oedolion, £5 i blant Mae’r gweithdy’n rhad ac am ddim ond mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig. Archebwch eich lle yn ein Swyddfa Docynnau os gwelwch yn dda. 6+ oed


Theatr

029 2030 4400

Eska + Kizzy Meriel Crawford + Eve Goodman

Ymlaciwch, gadewch i’ch clustiau eich arwain a cheisiwch ddyfalu beth glywch chi nesaf yn ystod noson anghyffredin o wych o ganu.

O’r chwith i’r dde: Eska, 366 Days of Kindness

16

Maw 27 Mai, Drysau’n agor: 7.30pm Sioe’n dechrau: 8pm Yn ddiweddar, rhyddhaodd Eska yr EP ‘Gatekeeper’ — record sy’n llawn dop o offer arloesol a chaneuon crefftus, ac arddull leisiol hynod a theimladwy. Mae hi’n dychwelyd i Gaerdydd ar ôl chwarae set trawiadol yng Ngŵyl Sŵn 2013. Mae Kizzy Meriel Crawford wedi cyflawni cryn dipyn ers dechrau ei gyrfa ddwy flynedd yn ôl. Roedd 2013 yn flwyddyn fawr iddi — perfformiodd yn Sŵn a WOMEX. Mae hi’n canu yn Gymraeg gan mwyaf ac fe ryddhaodd ei sengl gyntaf, ‘The Starling’, ym mis Tachwedd 2013. Mae Eve Goodman yn gantores-gyfansoddwraig dalentog o Gaernarfon sydd, yn ogystal â chwarae sioeau unigol, hefyd yn perfformio gyda’r band Life in Cold Climates. Ar agor i bobl o bob oed (dylai pobl ifainc dan 14 oed fod yng nghwmni oedolyn) £8/£6

£10/£8

White Rabbit: 366 Days of Kindness Mer 28 Mai 8pm Ar ôl terfysg mis Awst 2011, taerodd Bernadette Russell y byddai’n garedig i ddieithryn unwaith bob dydd am flwyddyn gyfan. Mae’r sioe aml-gyfryngol hon yn adrodd hanes torcalonnus, hynod a heriol y flwyddyn honno, a ddechreuodd â mwg adeiladau’n llosgi ac a ddaeth i ben yn fflam y ffagl Olympaidd, a’r cwbl yn erbyn cefnlen fyd-eang o aflonyddwch cymdeithasol ac argyfwng economaidd. Yn gyfuniad o chwedleua, ‘stand-up’ a dogfen fyw, mae’r sioe’n cynnwys swper â gwesteion annisgwyl — y Dalai Lama, Liam Neeson a’r Dywysoges Diana — ac ymgais i ateb y cwestiwn, ‘A yw hi’n bosib newid y byd â charedigrwydd yn unig”? £12/£10/£8

Mike Wozniak: The Magnificent AK47 gyda Take the Hit Iau 29 Mai 8pm A Fanfare of Strumpets Gwe 30 Mai 8pm Ers ffoi rhag bodolaeth ddi-ddim yng Ngogledd Sir Wiltshire ryw chwe blynedd yn ôl, bu The Magnificent AK47 yn swyno cynulleidfaoedd gyda’u harmonïau Georgaidd a’u hurtwch heintus. Nawr mae’r hogiau’n mentro dros afon Hafren i ymuno â’u chwiorydd cerddorol, A Fanfare o Strumpets, ar gyfer sioe unigryw a pherfformiad lleisiol amheuthun. Gallwch ddisgwyl clywed caneuon mewn Georgeg, Bwlgareg ac ambell gân Gymraeg wedi’i chanu yn Saesneg, ambell farf hefyd a llawer o hetiau. Bydd A Fanfare of Strumpets, o Gymru, yn cyflwyno harmonïau gogoneddus, caneuon gwerin, caneuon dawns a fersiynau dychanol o ganeuon canoloesol.

Mae rhieni ei wraig wedi symud i fyw atyn nhw. Yn barhaol. Nid sioe yw hon yn gymaint ag esgus i un dyn adael y tŷ. Ond nac ofnwch — mae gan Wozniak fwy o adloniant yn ei fwstas nag yn ei fys bach. Beth amdanoch chi? Fe gawn ni’r ateb, os bydd yna ddigon o amser. ‘Arwr newydd byd comedi’, meddai Time Out am Mike oesoedd yn ôl. ‘Syfrdanol o ddoniol, sioe i’w gweld ar bob cyfrif’ (3 News — sianel go iawn, sy’n darlledu yn Seland Newydd). Enillodd Wozniak gyfanswm o 43 seren — o nifer anhysbys o adolygiadau. £8/£7/£6


chapter.org

Theatr

17

O’r chwith i’r dde: Equus, Tender Napalm

Company of Sirens, ar y cyd â Theatr Iolo a Chapter, yn cyflwyno:

Everyman Theatre yn cyflwyno

Tender Napalm

Equus

Iau 29 — Sad 31 Mai 7.30pm Gan Philip Ridley, Cyfarwyddo gan Chris Durnall Goleuo gan Jane Lalljee

Clasur digamsyniol Peter Shaffer Maw 20 — Sad 24 Mai 7.30pm (Matinée dydd Sadwrn 2.30pm)

Stori bwerus a phryfoclyd am fachgen stabl a seiciatrydd sy’n ceisio deall dirgelwch rhywiol a chrefyddol. Mae’r cyfan yn arwain at ddigwyddiad dramatig, anghredadwy. £10/£8 (gostyngiadau ar gael ar ddyddiau Mawrth, Iau a Sadwrn matinee yn unig.) Argymhelliad oedran: addas i bobl 15+ oed; iaith gref a noethni.

Beyond the Border

Hunting the Giant’s Daughter Mer 14 Mai 8pm Michael Harvey, Storïwr Lynne Denman, Cantores Stacey Blythe, Cyfansoddwr / Cerddor Ar anterth gwledd yn llys y Brenin Arthur, mae ymwelydd ifanc yn gofyn am gymorth. Mae e dros ei ben a’i glustiau mewn cariad — ond dyw e’n gwybod dim am y ferch ond ei henw. Wrth i’r cwest i ddod o hyd iddi fynd rhagddo — a bygwth dinistrio popeth y mae Arthur wedi’i greu — caiff cariad, ymffrost a dewrder eu profi i’r eithaf… Ers ei gomisiynu gan Beyond the Border, ar gyfer Gŵyl Adrodd Straeon Castell Sain Dunwyd yn 2003, mae Hunting the Giant’s Daughter wedi bod ar daith ar hyd a lled y DG ac wedi ennill clod uchel. Mae’r cynhyrchiad yn dychwelyd — yn fuddugoliaethus! — i Dde Cymru. Cynhyrchiad gan Adverse Camber. £10/£8

“Gallwn i wasgu bwled rhwng y gwefusau yna. Ei wasgu rhwng y gwefusau coch fel rhosyn. Ei wthio rhwng y dannedd gwynion. Yn ysgafn reit. Fyddwn i ddim yn torri’r un dant.” Mae dyn a menyw ar adeg tyngedfennol yn eu perthynas. Maent yn caru’i gilydd ond mae rhywbeth ofnadwy wedi digwydd. Mae Tender Napalm yn ddrama ysgytwol, wreiddiol sy’n archwilio’r berthynas rhwng dyn a menyw. Mae’n ffrwydrol, yn farddonol ac yn greulon, ac yn plethu at ei gilydd dapestri theatrig sy’n ail-archwilio ac yn ail-ddiffinio iaith cariad. £12/£10/£8 Oed 16+ (Sioe’n cynnwys iaith gref a golygfeydd o natur rywiol a threisgar.)

Mercury Fur Maw 27 Mai + Mer 28 Mai 7.30pm Gan Philip Ridley, Cyfarwyddo gan Chris Durnall “Dw i’n dy garu di gymaint gallwn i ffrwydro’n fflamau tanbaid.” Mae Mercury Fur wedi ei gosod mewn fersiwn ôl-apocalyptaidd o East End Llundain, lle mae terfysgaeth, gangiau, trais a chyffuriau ar ffurf ieir bach yr haf yn tra-arglwyddiaethu. Mae’r prif gymeriadau yn griw o bobl ifanc, sy’ brwydro i oroesi. Maent yn delio cyffuriau — ieir bach yr haf — ac yn cyfnewid gwrthrychau o leoedd fel yr Amgueddfa Brydeinig, wedi’u hysbeilio gan gwsmeriaid sy’n gaeth i’r glöynnod byw. Ond prif ffynhonnell eu ‘hincwm’ yw’r partïon maen nhw’n eu trefnu i gleientiaid cyfoethog, lle caiff ffantasïau mwyaf gwyllt y rheiny eu gwireddu. Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Lloegr a’r Loteri Genedlaethol. £8/£6/£5 Oed: 16+

Cynnig arbennig: Gallwch brynu tocyn cyfun ar gyfer Tender Napalm a Mercury Fur am £18/£15/£11


Theatr

029 2030 4400

The Magic Toyshop, Angela Carter

Theatr Iolo yn cyflwyno cynhyrchiad gan Made in China

O’r chwith i’r dde: The Magic Toyshop, Angela Carter, Gym Party

18

Addasiad gan Alan Harris Cyfarwyddo gan Sita Calvert-Ennals Mer 7 — Sad 17 Mai 7.30pm (Dim perfformiad ar ddydd Sul 11 Mai) Ar y cyd â Theatr Iolo, mae Invisible Ink yn cyflwyno addasiad o nofel arloesol Angela Carter. Mae’r stori dylwyth teg sinistr a rhywiol hon am drawsffurfiadau yn adrodd hanes Melanie, merch ifanc sy’n cael ei gorfodi i adael ei chartref gwledig cysurus i fyw gyda pherthnasau nad yw hi wedi cyfarfod â nhw erioed. Mae’r rhain yn cynnwys Modryb Margaret, a fu’n fud ers diwrnod ei phriodas, y Francie gerddorol a’r Finn afreolus, sy’n cusanu Melanie am y tro cyntaf. Yn gysgod drostyn nhw i gyd mae Wncwl Phillip, sy’n caru’r pypedau mae e’n eu creu yn ei weithdy ond fawr o neb arall ... Mae Invisible Ink yn gydweithrediad newydd cyffrous rhwng un o awduron mwyaf blaenllaw Cymru, Alan Harris, a Sita Calvert-Ennals. Mae’r sioe’n cynnwys golygfeydd o natur rywiol a threisgar. £12/£10 Addas i bobl 14+ oed

Gym Party

Gwe 16 + Sad 17 Mai 8pm Archwiliad miniog, tywyll a chomig o’r awydd i ennill waeth beth fyddo’r gost. Mae tri chystadleuydd dewr yn cystadlu mewn cyfres o gêmau — rhai ohonynt yn hurt, rhai yn ddibynnol ar hap a damwain ac eraill yn hollol dorcalonnus. Mae Chris, Jess ac Ira yn gwneud yr hyn a allant i ennill — i’ch plesio chi, hynny yw, y gynulleidfa. Maen nhw hefyd yn awyddus i rannu eu straeon, eu safbwyntiau ac ambell i ddawns letchwith hefyd. Yn llawn egni anarchaidd, ond yn waith meddylgar ac ingol hefyd, bydd Gym Party yn plesio unrhyw un sy’n poeni am gyflwr y byd a’n triniaeth o’n gilydd — cyn i’w sylw gael ei fynnu gan gyfrif Twitter person enwog, hynny yw. Gwaith comisiwn a ddatblygwyd yng Nghanolfan Gelfyddydau Battersea. Cyd-gomisiynwyr: Pulse, Mayfest, Sprint a Sampled Festivals. Gyda chefnogaeth gan Theatr Almeida a National Theatre Studio. Cefnogaeth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Lloegr. £12/£10, Oed 14+

“Awr hyfryd o anarferol… Mae Gym Party yn dod o hyd i’r man hwnnw rhwng chwarae, dychan sosio-wleidyddol a chyffesu personol… miniog, gwirion a rhyfeddol o dyner.” The Times

Cynnig arbennig: Gallwch brynu tocyn cyfun ar gyfer Magic Toyshop a Gym Party am £20/£18.


chapter.org

Chapter Mix

Dydd Iau Cyntaf y Mis

On The Edge

Barddoniaeth a Ffuglen Newydd Iau 1 Mai 7.30pm Meic Agored

Yng nghwmni darllenwyr gwadd nodedig: y bardd, Zoë Skoulding, y mae ei chasgliad The Museum of Disappearing Sounds newydd gael ei enwebu ar gyfer gwobr Ted Hughes, Tiffany Murray, nofelydd, a fydd yn darllen rhan o’i stori ysbryd newydd, Sugar Hall, a’r bardd / dramodydd / cyfansoddwr, Jenny Lewis, a fydd yn cyflwyno cerddi newydd wedi’u hysbrydoli gan ei theithiau yn y Dwyrain Canol. Noddir gan Seren, Gwasg Mulfran a Llenyddiaeth Cymru. £2.50

Clwb Comedi The Drones

Gwe 2 + Gwe 16 Mai, Drysau’n agor: 8.30 Sioe’n dechrau: 9pm Clint Edwards sy’n cyflwyno’r ‘stand-ups’ addawol gorau. Gwelwyd peth o ddeunydd y nosweithiau hyn ar raglen ‘Identity Crisis’ Rob Brydon. Dydd Gwener cyntaf a thrydydd dydd Gwener y mis. Un o’r ‘Deg Peth Gorau i’w Gwneud yng Nghaerdydd’ yn ôl cylchgrawn The Big Issue £3.50 (wrth y drws)

Cylch Chwedleua Caerdydd Sul 4 Mai 8pm

Straeon ar Droad y Flwyddyn — straeon a chaneuon i groesawu’r haf. Croeso cynnes i storïwyr a gwrandawyr fel ei gilydd! £4 (wrth y drws)

Darlith SWDFAS

The Gilded Stage: A Social and Cultural History of Opera: Daniel Snowman Iau 8 Mai 2pm

O ddechreuadau opera ar ddiwedd cyfnod y Dadeni yn yr Eidal, dilynwn hanes y ffurf trwy gyfnod Louis XIV yn Versailles, Handel yn Llundain, Verdi yn yr Eidal a Wagner yn yr Almaen. O’r fan honno, byddwn yn teithio i Oes Aur America a datblygiad byd-eang y ffurf yn ystod yr 20fed ganrif. £6 i ymwelwyr (wrth y drws, yn ddibynnol ar le) www.danielsnowman.org.uk www.swdfas.org.uk

Clonc yn y Cwtsh

Bob dydd Llun 6.30 — 8pm Ydych chi’n dysgu Cymraeg? Ymunwch â ni i ymarfer eich Cymraeg gyda dysgwyr eraill. Croeso i bawb! RHAD AC AM DDIM Ar y cyd â Menter Caerdydd

19

The War is Dead — Long Live the War Gan Patrick Jones Maw 13 Mai 8pm Y Rhyfel Mawr (1914-1918) a Rhyfel y Gwlff (1990-1991) Adfywiad o dymor cyntaf On The Edge yn 2004. Mae’r cyfarwyddwr Michael Kelligan wedi datblygu perthynas artistig a phersonol agos â Patrick Jones, ar ôl iddynt gydweithio ar Absents, (2005), ac Everything Must Go, (2006), ynghyd â’r daith nodedig o Dandelion yn ystod hydref 2013. Mae Kelligan yn bachu ar y cyfle hwn i ail-lwyfannu drama Patrick Jones gydag Alan Humphries a Neal McWilliams. £4

Music Geek Monthly Iau 29 Mai 8pm

Trafodir un clasur o albwm ac un albwm newydd sbon yn y Pwynt Cyfryngol ar ddydd Iau olaf y mis. RHAD AC AM DDIM www.musicgeekmonthly.tumblr.com

Gwobrau Blogiau Cymru 2014 Iau 15 Mai 7.30pm (Diodydd am 7pm)

Mae Gwobrau Blogiau Cymru yn dychwelyd i Chapter am y bedwaredd flwyddyn i ddathlu talentau blogosffêr Cymru. Mae’r seremoni wobrwyo boblogaidd yn rhoi sylw i flogiau creadigol a diddorol sy’n trafod ystod eang o bynciau, gan gynnwys bwyd a diod, chwaraeon a’r gymuned leol, ynghyd â blogiau amlgyfrwng. Eleni, mae mwy na 300 o flogwyr brwdfrydig yn rhan o’r gystadleuaeth a grëwyd gan ymgynghoriaeth cysylltiadau cyhoeddus Warwick Emanuel yng Nghaerdydd. Cyflwynir y gwobrau ar y cyd â Media Wales. £12

Jazz ar y Sul Sul 18 Mai 9pm

Ein noson fisol o jazz acwstig melodig yn y Caffi Bar, gyda Phedwarawd Glen Manby. RHAD AC AM DDIM


20

Sinema

029 2030 4400

Exhibition

SiNEMA


Sinema

21

O’r chwith i’r dde: An Episode in the Life of an Iron Picker, The Curious Incident of the Dog in the Night-Time

chapter.org

An Episode in the Life of an NT LIVE King Lear Iron Picker Gwe 25 Ebrill — Iau 1 Mai Rwmania/2013/74mun/12A. Cyf: Danis Tanovic. Gyda: Nazif Mujic, Senada Alimanovic, Semsa Mujic.

Iau 1 Mai. Dangosiadau encore: Sul 11 + Iau 29 Mai (Matinée i ysgolion, Gwener 16 Mai 10am) Cyf: Sam Mendes. Gyda: Simon Russell Beale.

Mae Nazif yn masnachu metel o hen geir tra bod ei wraig, Senada, yn gofalu am eu dwy ferch fach. Un dydd, mae Senada, sy’n feichiog, yn teimlo poen yn ei bol ac, yn yr ysbyty, mae hi’n dysgu bod rhywbeth yn bod ar y plentyn. Ond does dim yswiriant meddygol ganddi ac mae pennaeth yr ysbyty yn gwrthod caniatáu iddi dderbyn triniaeth. Mae portread neorealaidd Tanovic o dlodi yn Bosnia-Herzegovina yn drawiadol a bythgofiadwy.

Mae brenin oedrannus yn penderfynu rhannu ei deyrnas rhwng ei dair merch, ac yn barnu eu teilyngdod ar sail eu huodledd a’u canmoliaeth iddo. Mae ei ffefryn, Cordelia, yn gwrthod cymryd rhan yn y charade hwn — ac mae byd Lear yn troi wyneb-i-waered.

Exhibition

Dangosiad encore: Iau 22 Mai

Gwe 25 Ebrill — Iau 1 Mai DG/2014/105mun/15. Cyf: Joanna Hogg. Gyda: Viv Albertine, Tom Hiddleston.

Yn y portread cyfoethog a chymhleth hwn o gwpl artistig sy’n paratoi i werthu eu tŷ yn Llundain, mae Hogg yn archwilio bywydau mewnol pobl y mae ganddyn nhw bopeth, i bob golwg. Mae Hiddleston yn cydweithio’n gyson â Hogg ac mae perfformiad cyngitarydd y Slits, Viv Albertine, yn gynnil a chelfydd. Llwyddodd y gyfarwyddwraig i lunio ffilm grefftus sydd yn syndod o deimladwy.

The Double Gwe 18 — Iau 1 Mai DG/2013/93mun/15. Cyf: Richard Ayoade. Gyda: Mia Wasikowska, Jesse Eisenberg, Chris O’Dowd.

Mae Simon yn ddyn swil ac unig sy’n cael ei anwybyddu yn y gwaith, ei wawdio gan ei fam a’i anwybyddu gan ferch ei freuddwydion. Ond caiff ei fywyd ei droi ben i waered â dyfodiad cyd-weithiwr newydd, James. +Disgrifiadau Sain ym mhob dangosiad ac Is-deitlau Meddal ar ddydd Iau 1 Mai, 2.30pm. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai’r dyddiad hwn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

The Curious Incident of the Dog in the Night-Time Yn seiliedig ar nofel enwog Mark Haddon, mae’r ddrama hon yn adrodd hanes bachgen pymtheg oed o’r enw Christopher a’i feddwl rhyfeddol. Mae e’n fathemategydd eithriadol ond yn llai dawnus pan ddaw hi’n fater o ddehongli bywyd bob dydd. Pan gaiff ei amau o ladd ci Mrs Shears, mae e’n cofnodi pob ffaith am y digwyddiad yn ei lyfr, er mwyn datrys dirgelwch y llofruddiaeth. Ond mae ei waith ditectif, nad yw wrth fodd ei dad, yn ei arwain ar daith frawychus sy’n gweddnewid ei fyd. Enillydd 7 Gwobr Olivier.

RSC yn cyflwyno

Henry IV Part I Yn fyw ar ddydd Mercher 14 Mai. Dangosiad Encore: Llun 26 Mai. Cyf: Gregory Doran. Gyda: Anthony Sher, Jasper Britton, Alex Hassell.

Wrth i’w dad, Harri IV, baratoi i fynd i ryfel i amddiffyn ei goron, mae’r Tywysog Hal yn mwynhau bywyd yn nhafarnau a phuteindai Llundain, ac yn byw’n fras gyda’i gyfaill amheuthun, y drwg-enwog Syr John Falstaff. Wrth i’r ryfel agosáu, mae Hal a Falstaff yn cael eu gwthio i faes y gad, lle mae’n rhaid i Hal wynebu ei gyfrifoldebau i’w deulu ac i’r orsedd. Mae tocynnau i’r dangosiadau byw yn £17.50/£14/£13 Mae tocynnau i’r dangosiadau encore wedi’u recordio ymlaen llaw yn £13/£11/£10


22

Sinema

029 2030 4400

O’r chwith i’r dde: American Interior, We Are The Best!

Sineffonig

American Interior

We Are The Best!

Gwe 9 — Iau 22 Mai

Gwe 9 — Iau 15 Mai

Cymru/2014/88mun/PGarf. Cyf: Dylan Goch. Gyda: Gruff Rhys.

Sweden/2013/102mun/is-deitlau/15. Cyf: Lukas Moodysson. Gyda: Mira Barkhammar, Mira Grosin, Liv LeMoyne.

Ym 1792, teithiodd gwas fferm o Eryri o’r enw John Evans i America i geisio dod o hyd i lwyth o Americanwyr Brodorol ar y Gwastadeddau Mawrion y tybid eu bod yn siarad Cymraeg. Dros ddau gan mlynedd yn ddiweddarach, dilynodd Gruff Rhys, sy’n perthyn o bell i Evans, ôl ei draed, dros y cyfandir, ar Daith Gyngerdd Ymchwiliol. Mae hwn yn brosiect unigryw sy’n chwalu’r ffiniau rhwng cerddoriaeth, llenyddiaeth a ffilm ac yn ymchwilio i’r hyn a ddigwyddodd go iawn yng nghalon y byd newydd. Gyda rhagolwg arbennig + sesiwn holi-ac-ateb gyda Gruff Rhys a’r criw ar ddydd Mercher 30 Ebrill.

Separado! Gwe 9 Sad — Llun 12 Mai Cymru/2009/84mun/is-deitlau/12A. Cyf: Dylan Goch. Gyda: Gruff Rhys.

Mae Gruff Rhys yn mynd ar antur i ddod o hyd i’w ddisgynyddion ymhlith y criw o fewnfudwyr Cymreig a aeth i Batagonia tua diwedd y 19eg ganrif. Ffilm chwareus a cherddorol sy’n adrodd hanes taith ar hyd De America ac yn olrhain symudiadau’r gymuned Gymreig, wrth i Rhys chwilio am seren bop Archentaidd y 1970au, René Griffiths.

Stockholm, 1982. Mae Bobo a Klara, ffrindiau gorau eofn 13 oed, yn treulio’u nosweithiau yn gwrando ar ganeuon pync ar eu Walkmans, er bod pawb yn mynnu bod pync wedi marw. Yn benderfynol o brofi pwynt i’r dynion yn y clwb ieuenctid, maen nhw’n recriwtio’r virtuoso, Hedvig, ac yn dechrau band. Dôs o egni swnllyd a byw gan Moodysson a ffilm am fod yn ddigon dewr i fod yn driw i ch’ch hun.

Chapter Moviemaker Llun 5 Mai Sesiwn reolaidd ar gyfer dangos ffilmiau byrion gan wneuthurwyr ffilm annibynnol. I holi am y posibilrwydd o ddangos eich ffilm neu i gael gwybodaeth am unrhyw beth arall, e-bostiwch moviemaker@chapter.org. O bryd i’w gilydd, dangosir ffilmiau sy’n cynnwys deunydd anaddas i bobl iau. Awgrymwn, felly, bod sesiynau Moviemaker Chapter yn addas ar gyfer pobl 18+ oed. RHAD AC AM DDIM


Sinema

23

Frank

NOYS R US

Gwe 9 — Iau 22 Mai

Mae Sinema Chapter, ar y cyd â The Full Moon, yn cyflwyno nosweithiau ffilm Noys R Us. Unwaith y mis, byddwn yn cyflwyno’r ffilmiau alt / roc / metel / pync gorau. Yfwch, ymlaciwch a gwyliwch rai o’r ffilmiau cerddorol mwyaf ffrwydrol erioed.

Frank

chapter.org

Iwerddon/2013/95mun/15. Cyf: Lenny Abrahamson. Gyda: Domhnall Gleeson, Michael Fassbender, Maggie Gyllenhaal.

Mae cerddor ifanc o’r enw Jon yn ei gael ei hun allan o’i ddyfnder ar ôl iddo ymuno â band pop ecsentrig dan arweiniad dyn dirgel ac enigmatig o’r enw Frank. Wedi’i seilio’n fras ar gyfnod yr awdur Jon Ronson ym mand yr eicon cwlt, Frank Sidebottom, ac ar straeon am artistiaid anghonfensiynol fel The Space Lady a Daniel Johnston, mae hon yn ffilm gomedi dywyll a disglair. + Sesiwn holi-ac-ateb gyda’r awdur, Jon Ronson ar ddydd Gwener 9 Mai

The Punk Singer Gwe 30 Mai — Iau 5 Mehefin UDA/2013/80mun/15. Cyf: Sini Anderson. Gyda: Carrie Brownstein, Joan Jett, Kim Gordon, Kathleen Hana.

Daeth Kathleen Hanna, prif leisydd y band pync, Bikini Kill, a’r grŵp dawns-pync, Le Tigre, i sylw cenedlaethol fel cynrychiolydd answyddogol mudiad riot grrrl. Roedd yn un o eiconau ffeministaidd enwocaf a mwyaf cegog ei chyfnod ac roedd ei beirniaid niferus eisiau iddi gau ei cheg — a’i chefnogwyr niferus yn gobeithio na ddigwyddai hynny fyth. Yn 2005, felly, pan stopiodd Hanna weiddi, y cwestiwn mawr oedd ‘Pam?’

Noys R Us

A Band Called Death Mer 14 Mai Doors: 7pm, Film: 8pm UDA/2012/96mun/dim tyst. Cyf: Mark Christopher Covino. Gyda: Bobby Hackney, David Hackney, Dannis Hackney.

Ffilm ddogfen am Plague, triawd pync o’r 1970au, a’r enwogrwydd a ddaeth i’w rhan ddegawdau wedi iddyn nhw chwalu. Yn cynnwys cyfweliadau gydag enwogion byd roc fel Alice Cooper, Henry Rollins ac eraill lawer. Mae tocynnau’n £5 a gellir eu prynu drwy www.chapter.org a The Full Moon.

“Byddwch yn crio ac yn chwerthin ...Gall marwolaeth fod yn ofnadwy o ddifyr.” Huffington Post


Sinema

Calvary

Looking For Light: Jane Bown

029 2030 4400

O’r chwith i’r dde: Calvary, Looking For Light: Jane Bown

24

Gwe 2 — Iau 8 Mai Iwerddon/2013/101mun/15. Cyf: John Michael McDonagh. Gyda: Brendan Gleeson, Kelly Reilly, Chris O’Dowd, Dylan Moran.

Yn ddyn da â’i fryd ar wneud y byd yn lle gwell, mae’r Tad James yn cael ei siomi a’i ddadrithio gan drigolion sbeitlyd ac ymosodol ei dref fechan yn Sir Sligo. Ar ôl iddo gael ei fygwth yn ei gyffesgell, rhaid iddo frwydro yn erbyn y grymoedd tywyll sy’n ei amgylchynu. Dilyniant ffraeth a chwareus i ffilm gyntaf McDonagh, The Guard. + Disgrifiadau Sain ym mhob dangosiad (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai’r dyddiadau hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau.)

Clwb Ffilmiau Gwael

Dungeons and Dragons Sul 4 Mai UDA/2000/107mun/PG. Cyf: Courtney Solomon.

Mae’r Clwb Ffilmiau Gwael yn cyflwyno taith ffantasïol — a charreg filltir i ffilmiau gwael am gleddyfau a dewiniaeth. Â sgôr o 3.6/10 ar IMDb a sgôr o 10% ar Rotten Tomatos, fe ddylai’r ffilm hon am unben gwallgo sy’n ceisio disodli Ymerodres fod wedi bod yn wyliadwy os dim byd arall — ond ni allai holl arian ac effeithiau gweledol y byd fod wedi achub y cynhyrchiad hwn. Os ydych chi’n ‘nerd’ dig, dewch i ddatgan yn groch mor warthus yw hi bod un o raglenni gorau eich plentyndod wedi cael ei distrywio yn y fath fodd.

Maw 6 — Iau 8 Mai DG/2014/90mun/TiCh. Cyf: Luke Dodd, Michael Whyte.

Portread hardd o’r ffotograffydd Jane Bown a’i hysfa i lwyddo mewn proffesiwn sy’n cael ei reoli gan ddynion. Golwg ar ei phrosesau a’i gwaith, o’i ffotonewyddiaduraeth am ddigwyddiadau hanesyddol megis Comin Greenham, i’w chyfres o bortreadau o unigolion mor amrywiol â Bertrand Russell a Margaret Thatcher.

Ilo Ilo Gwe 2 — Iau 8 Mai Singapôr/2013/99mun/is-deitlau/12A. Cyf: Anthony Chen. Gyda: Koh Jia ler, Angeli Bayani, Tian Wen Chen.

Mae rhieni’r arddegwr Jiale Lim, Heck a Leng, dan bwysau. Ar ôl clywed bod babi arall ar y ffordd, maent yn cyflogi Teresa, mewnfudwr o’r Philipinau, i fyw gyda nhw fel morwyn. Fel rhywun o’r tu allan i’r teulu, ac o’r tu allan i Singapôr, mae Teresa’n cael trafferth ymdopi â chastiau Jiale ond, o dipyn i beth, mae cysylltiad unigryw yn ffurfio rhyngddynt. Mewn economi ansicr, fodd bynnag, mae eu cyfeillgarwch yn wynebu heriau newydd.


chapter.org

Sinema

25

O’r chwith i’r dde: The Raid 2, The Strange Colour of Your Body’s Tears

FFILMIAU CWLT

The Raid Gwe 2 + Sad 3 Mai Indonesia/2012/101mun/18. Cyf: Gareth Evans. Gyda: Iko Uwais, Ananda George, Ray Sahetapy.

Mae, Rama, aelod newydd o dîm elit yr heddlu, yn derbyn gorchymyn i aros yn y cefndir yn ystod cyrch cudd i arestio bos troseddol creulon mewn hen floc o fflatiau. Ond pan aiff y cyrch ar chwâl, rhaid i Rama sefyll yn y bwlch a chwilio pob twll a chornel o’r adeilad pymtheg llawr er mwyn cwblhau’r cyrch — ac arbed ei fywyd ei hun. Yn llawn cyffyrddiadau dyfeisgar a golygfeydd o gyffro pur, mae’r ffilm hon yn gyfle gwych i werthfawrogi doniau’r cyfarwyddwr o Gymru.

The Raid 2 Gwe 2 — Iau 8 Mai Indonesia/2014/148mun/18. Cyf: Gareth Evans. Gyda: Iko Uwais, Julie Estelle.

Yn y dilyniant syfrdanol hwn, wedi’i osod ychydig ar ôl y cyrch cyntaf, mae Rama’n gweithio yn y dirgel, yn rhan o grŵp o ddrwgweithredwyr yn Jakarta. Mae e’n bwriadu chwalu’r syndicet a datgelu llygredd ei gydweithwyr yn yr heddlu.

The Strange Colour of Your Body’s Tears Gwe 23 — Llun 26 Mai Gwlad Belg/2014/102mun/18. Cyf: Hélène Cattet, Bruno Forzani. Gyda: Klaus Tange, Ursula Bedena, Joe Koener.

Mewn bloc hardd o fflatiau Art Nouveau yn llawn grotesques a nodweddion hynod, daw Dan adre’ o’r maes awyr a chael bod y drws i’w fflat wedi’i gloi o’r tu fewn ond bod ei wraig ar goll. Ffilm giallo amryliw a ffantastig am farwolaeth a dyhead. + Ar ôl y dangosiad ar nos Lun 26 Mai, ymunwch â Ben EwartDean, gwneuthurwr ffilmiau a ffan pybyr o ffilmiau arswyd, am drafodaeth anffurfiol o themâu’r ffilm a’r genre arswyd. £2.50 (bydd angen prynu tocynnau ar gyfer y ffilm ar wahân)


Sinema

029 2030 4400

Tracks

Locke

Gwe 16 Mai — Llun 2 Mehefin

Gwe 16 Mai — Mer 4 Mehefin

Awstralia/2013/112mun/12A. Cyf: John Curran. Gyda: Mia Wasikowska, Adam Driver.

DG/2013/85mun/15. Cyf: Steven Knight. Gyda: Tom Hardy, Ruth Wilson.

Ym 1977 aeth Robyn Davidson ar daith o ryw 1,700 milltir ar hyd anialwch Gorllewin Awstralia gyda chamelod dig a chi ffyddlon yn gwmni. Bob chwech wythnos, byddai’n cyfarfod â ffotograffydd National Geographic, Rick Smolan — roedd hynny’n fodd o ariannu’r daith. Ffilm swynol ac ysbrydolgar, freuddwydiol a myfyriol sy’n cynnwys delweddau godidog ac emosiynau amlhaenog a chyfoethog.

Mae galwad ffôn ar y ffordd adref o’r gwaith yn arwain at ddadfeiliad ym mywyd rheolwr adeiladu llwyddiannus. Dim ond un cymeriad a welwn ar y sgrin yn yr arbrawf minimalaidd beiddgar a difyr hwn. Mae perfformiad Tom Hardy yn un grymus a chynnil.

O’r top i’r gwaelod:Tracks, Locke

26

Cupcakes Maw 13 + Iau 15 Mai Israel/2013/90mun/is-deitlau/arf15. Cyf: Eytan Fox. Gyda: Efrat Dor, Dana Ivgy, Keren Berger.

Mae Anat newydd glywed bod ei gŵr yn mynd i’w gadael hi. Mae hi’n gwahodd ei ffrindiau draw i wylio’r UniverSong Contest. Maen nhw’n mwynhau ac yn mynd ati i greu eu cân hwyliog eu hunain. Mae Ofer, ffrind i Anat sy’n athrawes, yn cyflwyno’r gân wedi hynny i’r gystadleuaeth ac, ymhen dim o dro, mae’r ffrindiau’n cynrychioli Israel yn swyddogol! Cyfuniad o gynhesrwydd, lliw a difyrrwch gan gyfarwyddwr Yossi, Eytan Fox. Ymunwch â ni ar ôl y dangosiad ar ddydd Mawrth 13 Mai am gyfarfod o grŵp ffilm LGBT Chapter.

+ Disgrifiadau Sain ym mhob dangosiad ac Is-deitlau Meddal ar ddydd Mercher 21 Mai, 6pm. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai’r dyddiad hwn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau.)


Sinema

27

The Wind Rises

Silent Sonata

Gwe 23 Mai — Iau 5 Mehefin

Gwe 23 — Iau 29 Mai

Japan/2013/126mun/PG. Cyf: Hayao Miyazaki.

Slofenia/2010/75mun/15. Cyf: Janez Burger. Gyda: Leon Lucev, Paulina Rasanen.

O’r top i’r gwaelod: The Wind Rises, Silent Sonata

chapter.org

Mae Jiro’n breuddwydio am hedfan awyrennau ond, yn fyr-ddall ac yn methu pasio’r profion i fod yn beilot, mae’n ymuno yn lle hynny ag is-adran awyrennau cwmni peirianneg mawr yn Japan lle mae e’n cwrdd â’r Nahoko hardd. Wedi’i hysbrydoli gan fywyd dylunydd Mitsubishi, Jiro Horikoshi, mae ffilm olaf Miyazaki yn bortread o freuddwydiwr sy’n ceisio troi ei weledigaethau yn wrthrychau o gig a gwaed — proses sy’n adleisio gyrfa’r cyfarwyddwr nodedig ei hun.

Starred Up

Mewn gwlad ddienw yn y Balcanau, mae ffermwr a’i blant yn galaru am wraig a mam ar ôl iddi hi gael ei llofruddio. Y noson honno, ar ôl gweld tryciau’n agosáu at ei gartref, mae’r ffermwr yn cydio yn ei reiffl i’w amddiffyn ei hun — ac yn sylweddoli mai syrcas deithiol sydd yno, yn ymweld â’u tir diffaith. Wrth i Feistr y syrcas orffwys yn ffermdy’r teulu, mae’r perfformwyr yn canu ac yn ymarfer eu sioe ac yn cyflwyno elfen o hud a lledrith i le sy’n llawn atgofion am ryfel a marwolaeth. Yn llawn elfennau abswrd a realaeth hudol, mae’r ffilm hon yn fyfyrdod cain ar fywyd mewn cyfnod o wrthdaro.

Maw 27 — Iau 29 Mai

“Godidog” Total Film

DG/2013/106mun/18. Cyf: David Mackenzie. Gyda: Jack O’Connell, Rupert Friend, Ben Mendelsohn.

Mae bachgen ansefydlog a threisgar yn ei arddegau yn cael ei drosglwyddo i garchar i oedolion ac yn taro o’r diwedd ar ei debyg — dyn sydd hefyd yn digwydd bod yn dad iddo.


Sinema

029 2030 4400

The Two Faces of January

Advanced Style

Gwe 30 Mai — Iau 12 Mehefin

Gwe 30 Mai — Iau 5 Mehefin

DG/2013/97 mun/12A. Cyf: Patricia Highsmith. Gyda: Viggo Mortensen, Kirsten Dunst, Oscar Isaac.

UDA/2013/65mun/TiCh. Cyf: Lina Plioplyte. Gyda: Joyce Carpati, Jacquie Murdock.

Mae’r cwpl Americanaidd urddasol, Chester a Colette, yn cwrdd â Rydal ar eu gwyliau, Americanwr ifanc sy’n siarad Groeg ac sy’n cael ei ddenu gan harddwch Colette a chyfoeth a soffistigeiddrwydd Chester. Ond nid yw popeth fel yr ymddengys a chyn hir caiff Rydal ei hun yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau sinistr sy’n sbarduno cenfigen a pharanoia. Daw’r daith ar hyd Gwlad Groeg a Thwrci yn frwydr beryglus rhwng y ddau ddyn — a Colette yn sownd yn y canol.

Portread delicet a lliwgar o saith o fenywod rhwng 62 a 95 oed sy’n gweddnewid syniadau confensiynol am harddwch a chwlt ieuenctid. Yn seiliedig ar flog ffasiwn enwog Ari Seth Cohen, bu eu steil a’u bywiogrwydd yn ddylanwad pwysig ar agweddau at heneiddio ac yn ysbrydoliaeth bwysig i’r genhedlaeth iau.

O’r chwith i’r dde: The Two Faces of January, Advanced Style

28

+ Disgrifiadau Sain ym mhob dangosiad ac Is-deitlau Meddal ar ddydd Gwener 30 Mai, 6pm. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai’r dyddiad hwn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau.)

A Thousand Times Good Night Gwe 23 — Iau 29 Mai Norwy/2013/117mun/12A. Cyf: Erik Poppe. Gyda: Juliette Binoche, Nikolaj Coster-Waldau, Lauryn Canny.

Mae Rebecca yn ffotograffydd rhyfel eofn ac mae ei gŵr a’i merched yn hen gyfarwydd â’i habsenoldebau estynedig. Ond ar ôl cyfnod yn y tŷ, yn gorffwys gyda’i theulu ar ôl gweithio mewn man peryglus, rhaid iddi ymdopi â storm emosiynol. Mae ei gŵr wedi cael llond bol, o’r diwedd, ar ei galwedigaeth. Wedi’i ffilmio’n gain gan Poppe, sydd yn gyn-ffotograffydd rhyfel ei hun, mae hon yn stori afaelgar am gyfrifoldeb ac aberth.


chapter.org

Sinema

29

Ten Minutes Older

Tymor ‘A Story Of Children and Film’ Mae ein tymor o ffilmiau y rhoddir sylw iddynt yn ffilm hyfryd Mark Cousins, A Story of Children and Film, yn parhau. Nid yw’r ffilmiau bythgofiadwy hyn wedi cael eu dangos yn sinemâu’r DG o’r blaen — mae hwn yn gyfle gwych, felly, i gynulleidfa Chapter weld rhai o emau gwirioneddol sinema’r byd. Cynnig Arbennig i ddeiliaid tocynnau Gŵyl Ffilm WOW Cymru Un Byd: dangoswch eich tocyn ar gyfer unrhyw un o ddangosiadau WOW ac fe gewch chi docyn ar gyfer unrhyw un o ddangosiadau tymor ‘Plant a Ffilm’ am £5 (£4.50 ymlaen llaw / ar-lein) neu £3 (£2.50) (dangosiadau matinée).

Crows Sul 4 + Maw 6 Mai Gwlad Pwyl/1994/63mun/TiCh. Cyf: Dorota Kedzierzawska. Gyda: Karolina Ostrozna, Kasia Szczepanik, Malgorzata Hajewska.

Mae merch gegog ond bregus â’r llysenw Wrona (Brân) yn cael ei gadael ar ei phen ei hun gan ei mam esgeulus. Mae hi’n destun gwawd i’w chydddisgyblion ac, ar ôl gweld ei chymydog iau, Mala, yn chwarae ar ei phen ei hun, mae Wrona’n herwgipio’r ferch am y diwrnod er mwyn cael rhywun i garu — a rhywun i’w charu hi. Mae’r archwiliad hwn o unigrwydd yn gipolwg gwefreiddiol ar fydoedd mewnol plant.

+

Ten Minutes Older Latfia/1978/10mun/dim tyst. Cyf: Herz Frank.

Mae amrywiaeth o emosiynau’n britho wyneb plentyn wrth iddo wylio sioe na welwn ni, y gynulleidfa, mohoni o gwbl. Ffilm ddeng munud o hyd sy’n dangos grym rhyfedd a swynol y sinema.

Forbidden Games Sul 11 + Maw 13 Mai Ffrainc/1952/86mun/12A. Cyf: René Clément. Gyda: Georges Poujouly, Brigitte Fossey, Amédée.

Mae merch ifanc ym Mharis yn derbyn lloches gan deulu gwerinol ar ôl i’w rhieni gael eu lladd yn un o gyrchoedd awyr y Natsïaid. Mae hi’n datblygu cyfeillgarwch gyda’r mab ieuengaf ac maent yn encilio gyda’i gilydd i fyd ffantasi, er mwyn ceisio dod

i delerau â realiti marwolaeth. Campwaith sy’n llawn delweddau godidog — a chondemniad chwerw a thorcalonnus o hunanoldeb oedolion.

Hugo and Josephine Sul 18 + Maw 20 Mai Sweden/1968/82mun/U. Cyf: Kjell Grede. Gyda: Fredrik Becklén, Marie Öhman, Beppe Wolgers.

Mae Josefin yn ferch fach chwe blwydd oed sy’n byw yng nghefn gwlad gyda thad sy’n offeiriad. Does ganddi ddim ffrindiau — tan iddi gyfarfod â Hugo, bachgen gwyllt a dibryder y mae’n well ganddo gerdded yn y goedwig na mynd i’r ysgol. Gyda chymorth cawr addfwyn o arddwr, maen nhw’n dyfeisio llond lle o weithgareddau difyr.

The King of Masks Sul 25 + Maw 27 Mai Tsieina/1996/91mun/TiCh. Cyf: Tian-Ming Wu. Gyda: Zhigang Zhang, Zhigang Zhao, Renying Zhou.

Mae Wang yn berfformiwr stryd unig a melancolig. Mae e’n heneiddio ac yn arfer crefft sydd ar drothwy ebargofiant. Yn awyddus i rannu ei sgiliau â rhywun arall, mae’n dechrau dysgu plentyn ifanc o’r enw “Doggie”. Mae’r ddau’n dod ymlaen yn ardderchog tan iddi ddod i’r amlwg bod Doggie yn ferch. Drama dyner wedi’i gosod mewn cyfnod o dlodi ac aflonyddwch enbyd yn Sichuan, Tsieina.


30

Sinema

029 2030 4400

Ffilmiau i’r Teulu Cyfan

Noddir gan Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk 02920 666688

Rio 2 (2D)

Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn. Archebwch ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Carry on Screaming!

Bob dydd Gwener am 11am, mae Carry On Screaming yn galluogi i rieni neu ofalwyr weld ffilm heb orfod poeni y bydd eu babi’n aflonyddu ar eraill. Edrychwch ar y calendr i weld manylion y dangosiadau arbennig hyn i bobl â babanod blwydd oed neu iau.

Khumba: A Zebra’s Tale (2D) Sad 3 + Sul 4 Mai

De Affrica/2013/85mun/U. Cyf: Anthony Silverston. Gyda: Jake T Austin, Liam Neeson, Steve Buscemi.

Mae Khumba, sebra a anwyd â streipiau dros ddim ond hanner ei gorff, yn ceisio ffeindio’i le yn nheyrnas yr anifeiliaid, gyda chymorth ambell ffrind newydd.

The King and the Mockingbird Sad 10 + Sul 11 Mai

Ffrainc/1980/83mun/U. Cyf: Paul Grimault.

Mae Brenin gormesol yn rheoli teyrnas ddychmygol Takicardia tan i’r Mr Bird egnïol a phluog feiddio sefyll yn ei erbyn. Un o gampweithiau digamsyniol ffilmiau wedi’u hanimeiddio — ac un o’r dylanwadu pennaf ar waith Miyazaki a Stiwdio Ghibli.

Tinkerbell and the Pirate Fairy (2D) Sad 17 + Sul 18 Mai

UDA/2014/78mun/U. Cyf: Peggy Holmes, Sean Laurie. Gyda: Mae Whitman, Kristin Chenoweth, Lucy Liu.

Ar ôl i dylwythen deg gamddealledig ddwyn y ‘llwch pixie’ glas, rhaid i Tinker Bell a’i chyfeillion fynd ar antur i Skull Rock i’w adennill.

Rio 2 (2D)

Gwe 23 Mai — Sul 1 Mehefin UDA/2014/101mun/U. Cyf: Carlos Saldanha. Gyda: Anne Hathaway, Rodrigo Santoro, Jesse Eisenberg.

Mae’r byd yn lle gwyllt i Blu a’i deulu wrth iddyn nhw symud o’r ddinas i bellafoedd yr Amason. Mewn ymgais i gydymffurfio, mae Blu yn wynebu’r Nigel dialgar ac yn cwrdd â’r gelyn mwyaf arswydus un — ei dad-yng-nghyfraith. + Disgrifiadau Sain ym mhob dangosiad heblaw dydd Sul 25 Mai. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai’r dyddiad hwn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).


chapter.org

Addysg

31

ADDYSG

Sesiwn Moviemaker i Bobl Ifainc Sad 3 Mai 10–11.30am

Os ydych chi dan 16 oed ac yn awyddus i wneud ffilmiau, dewch i weld yr hyn sydd gennym i’w gynnig. Rydym yn gwylio ac yn trafod ffilmiau byrion ac os oes gennych chi syniad ar gyfer ffilm — neu os ydych chi eisoes wedi gwneud ffilm eich hun — dewch draw i’n gweld ni. Byddwn yn falch iawn o ddangos eich gwaith! Nod sesiynau Moviemaker yw rhannu syniadau a’ch galluogi chi i gwrdd â gwneuthurwyr ffilm brwdfrydig eraill. £1.50

Academi Ffilm Pobl Ifainc

Sad 10 Mai, Sad 17 Mai, Sad 14 Mehefin, Sad 21 Mehefin 10.30am–2pm Y mis yma, bydd ein rhaglen lwyddiannus a phoblogaidd i ddarpar wneuthurwyr ffilm yn dychwelyd. Os ydych chi rhwng 9 a 12 oed ac yn awyddus i ddysgu mwy am wneud ffilmiau, cysylltwch â ni cyn gynted â phosib (nifer cyfyngedig o leoedd ar y cwrs sydd ar gael). Bob wythnos bydd cyfranogwyr yn dysgu am agweddau penodol ar y broses o wneud ffilmiau cyn cael cyfle i wylio ffilm eu hunain.

Sad 10 Mai: ‘Sut mae ffilmiau’n cael eu creu?’ Sad 17 Mai: ‘Hanes y Sinema’ Sad 14 Mehefin: ‘R’ych chi eisiau bod yn gyfarwyddwr, felly?’ Sad 21 Mehefin: ‘Sut i olygu ffilm’

Erbyn diwedd y pedair wythnos, bydd cyfranogwyr wedi derbyn yr holl wybodaeth y bydd ei hangen arnynt i wneud eu ffilmiau eu hunain! Nodwch os gwelwch yn dda y bydd angen pecynnau bwyd ar gyfer pob un o’r sesiynau. £25 am y 4 sesiwn (gan gynnwys tocynnau ffilm).

Dyfarniad Efydd yn y Celfyddydau

Rydym ar hyn o bryd yn cyflwyno cwrs Dyfarniad Efydd yn y Celfyddydau i bobl ifainc 11+ oed Beth yw’r Dyfarniad Efydd yn y Celfyddydau? Mae Dyfarniad Efydd yn y Celfyddydau yn caniatáu i bobl ifainc gymryd rhan yn y celfyddydau ac i rannu eu sgiliau. Er mwyn ennill gwobr Efydd — cymhwyster cenedlaethol Lefel 1 — mae angen i bobl ifainc gymryd rhan mewn gweithgaredd celfyddydol y maen nhw’n ei fwynhau, neu fynychu digwyddiad celfyddydol, gwneud gwaith ymchwil am arwr/arwres o fyd y celfyddydau a rhannu eu sgiliau ag eraill. Sut mae’r cynllun yn gweithio? Bydd pobl ifainc yn gweithio gyda chynghorydd ac yn cadw cofnod o’u gwaith ar ffurf portffolio. Fe allai’r portffolio fod yn ffeil, yn llyfr sgetsys, yn ddyddiadur fideo neu’n we-fan — y plant eu hunain biau’r dewis. Pryd fydd hyn yn digwydd? Gallwch fynychu unrhyw un o’r sesiynau a dechrau gweithio’n syth bin. Bydd ein sesiynau ym mis Mai yn cael eu cynnal ar ddydd Mawrth 6 Mai ac ar ddydd Mawrth 20 Mai rhwng 6pm a 7.30pm.

Diwrnodau Ffilm i Blant Mer 28 Mai 9am–3.30pm

Dewch i gymryd rhan mewn Diwrnodau o Weithgareddau Ffilm wedi’u hysbrydoli gan y Muppets. Bydd y diwrnodau’n cynnwys gweithgareddau celfyddydol a chrefftaidd o bob math ynghyd â chyfle i wylio ffilm newydd y Muppets ar y sgrin fawr. £15 yr un (yn cynnwys pris tocyn i’r ffilm). Addas ar gyfer plant 7-11 oed. I gael mwy o wybodaeth neu i gadw lle ar unrhyw un o’r cyrsiau hyn, cysylltwch â learning@chapter.org


32

Archebu / Gwybodaeth

029 2030 4400

GWYBODAETH Sut i Archebu Tocynnau

Gwybodaeth

Dros y ffôn — ffoniwch ni ar 029 2030 4400. Rydym yn derbyn pob un o’r prif gardiau credyd. Galwch heibio — mae ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 11am-8.30pm, ac ar y Sul o 3pm–8.30pm. Ar-lein: Gallwch archebu ar www.chapter.org bob awr o’r dydd a’r nos Consesiynau: Mae cyfraddau disgownt ar gael i fyfyrwyr, pobl dros 60 oed, plant, y di-waith, pobl anabl, deiliaid cerdyn MAX ac i Ffrindiau Chapter a deiliaid Cerdyn Chapter. Bydd angen i chi gyflwyno prawf o’ch cymhwyster i dderbyn cyfradd ostyngol. Archebion grŵp: Prynwch 8 tocyn ac fe gewch chi’r 9fed yn RHAD AC AM DDIM. Noder os gwelwch yn dda • dim ond un disgownt y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw un adeg • rydym yn hapus i dderbyn archebion ymlaen llaw ond ni allwn gadw tocynnau i’r naill ochr • os cyrhaeddwch chi’n hwyr mae hi’n bosib y cewch chi’ch atal rhag mynychu eich digwyddiad. Cyflwynir rhai o’n ffilmiau â Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ond nid yw’r wybodaeth hon bob amser ar gael ar adeg argraffu’r cylchgrawn. Gweler ein gwe-fan am fanylion neu piciwch draw i’r Swyddfa Docynnau yn ystod yr wythnos y mae’r ffilm yn cael ei rhyddhau.

Cwmnïau ac Artistiaid Cysylltiedig Mae Chapter yn gartref i gwmnïau theatr, cwmnïau dawns, stiwdios animeiddio, gwneuthurwyr printiau, crochenwyr, dylunwyr graffeg, dylunwyr deunydd symudol, cyfansoddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, cyhoeddwyr cylchgronau, artistiaid annibynnol a llawer iawn mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Sinema Cyn 5pm O 5pm ymlaen Llawn £4.50 (£4.00) £7.90 (£7.20) Cons £3.50 (£3.00) £5.80 (£5.10) Cerdyn + Cons £3.00 (£2.50) £5.00 (£4.50) DISGOWNT DYDD MAWRTH Tocynnau’r holl brif ddangosiadau — £4.40

Gweithdai a Dosbarthiadau Rydym yn cynnal amrywiaeth eang o weithdai dyddiol a dosbarthiadau gydag ymarferwyr annibynnol, gan gynnwys ballet, zumba, ioga, crefft ymladd, massage i fabanod, cerddoriaeth i blant, pilates, tango, fflamenco, ysgrifennu creadigol, gwersi cerddoriaeth a mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Sut i gyrraedd Chapter Fe ddewch chi o hyd i ni yn Nhreganna, i’r gorllewin o ganol y ddinas. Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE Ar Droed Mae hi’n daith gerdded hamddenol o ryw 20 munud o ganol y ddinas. Ar Fws Mae bysus rhif 17, 18 a 33 yn aros gerllaw ac yn gadael bob pum munud o ganol y ddinas. Ar Feic Mae digon o raciau beic ar flaen yr adeilad. Parcio Mae gennym faes parcio yng nghefn yr adeilad ac mae meysydd parcio lleol eraill wedi eu nodi ar y map. Gofynnwn i chi barchu ein cymdogion os gwelwch yn dda drwy osgoi parcio mewn strydoedd cyfagos.

Prisiau ymlaen llaw/ar-lein mewn cromfachau. Mae “Ymlaen llaw” yn golygu unrhyw bryd cyn diwrnod y dangosiad.

aff nd Lla

Springfield Pl.

ad

mC ha cen res

Ha m i l t o n

St

t

Gr

King’s Ro

nd Wy

ane

Road

L Gray

. Library St

St. ay

Treganna

Le c h kwit

Church Rd.

Heol Ddwy rein i o l y B o n t F a en Penllyn Rd.

Harve

St Talbot

Orc h a r d P l.

rn Seve

St. Gray M a rk e t P l .

treet yS

e St. Glynn

d Roa

d hna arc lyF

Heo

o 6pm

rt S

t.

Road

Earle Pl.

A l be

P — meysydd parcio rhad ac am ddim — rac feics

r R—oadarhosfan bysus Majo

I Ganol Dinas Caerdydd to n ling Wel

et Stre

Mynediad i bawb Mae Chapter yn croesawu ymwelwyr anabl. Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad penodol ffoniwch ein swyddfa docynnau ar 029 2030 4400, minicom 029 2031 3430.


chapter.org

Cymryd Rhan

33

CYMRYD RHAN Cerdyn CL1C

Cadwch mewn cysylltiad

Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawrlwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Ymunwch â ni ar-lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

Ffrindiau Chapter Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40

eAmserlen rad ac am ddim eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch adam.chard@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.

Cynllun Myfyrwyr Chapter Ydych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth am ddim a manteisio ar gynigion arbennig nodedig, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Jennifer — jennifer.kirkham@chapter.org www.chapter.org/cy/aelodaeth-myfyrwyr-chapter

Hoffai Chapter gydnabod cefnogaeth hael y sefydliadau a’r grwpiau canlynol:

Landfill Community Fund Esmée Fairbairn Foundation EU Culture Programme The Baring Foundation Garfield Weston Foundation Foyle Foundation Biffa Award Colwinston Charitable Trust Admiral Group plc Moondance Foundation Foundation for Sport and the Arts Trusthouse Charitable Foundation Community Foundation in Wales BBC Children in Need The Waterloo Foundation ScottishPower Green Energy Trust The Welsh Broadcasting Trust

SEWTA Richer Sounds The Clothworkers’ Foundation Momentum The Henry Moore Foundation Google Jane Hodge Foundation Simon Gibson Charitable Trust People’s Postcode Trust Dunhill Medical Trust Legal & General Institut für Auslandsbeziehungen e.V Millennium Stadium Charitable Trust The Ernest Cook Trust Lloyds TSB Morgan Signs Garrick Charitable Trust

Barclays Arts & Business Cymru Penderyn The Austin & Hope Pilkington Trust Singapore International Foundation Puma Hotels Collection: Cardiff Angel Hotel Cardiff Airport Wales Arts International Gibbs Charitable Trust Ceredigion Community Scheme The Steel Charitable Trust The Boshier-Hinton Foundation 1st Office Oakdale Trust Dipec Plastics Nelmes Design

The Coutts Charitable Trust Bruce Wake Charity Funky Monkey Feet Finnis Scott Foundation Unity Trust Bank Hugh James Contemporary Art Society for Wales The Dot Foundry JVH Gidden & Rees Western Power Distribution Follett Trust Arts & Kids Cymru Canton High School Girl’s Reunion Co-operative Group Renault Cardiff Embassy of Belgium Queensland Government


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.