029 2030 4400
@chaptertweets
chapter.org
02
Croeso
029 2030 4400
CROESO Mis Mai yw mis yr Art Car Bootique yn Chapter. Caiff ein ffair bentref seicedelig flynyddol ei chynnal ar ddydd Sul 29 Mai (tt8-9). Mae’n ddathliad o gymuned greadigol Caerdydd ac yn cynnwys celfyddyd, perfformiadau, bwyd, cerddoriaeth fyw, ffasiwn ‘vintage’ a mwy. Mae popeth yn barod ar gyfer penwythnos gŵyl y banc hyfryd — does ond angen croesi bysedd am ychydig o heulwen hefyd! Afraid dweud y bydd gweddill y ganolfan yn llawn dop â gweithgareddau gwych hefyd. Mae’r Ŵyl Ffilmiau Gwyrdd boblogaidd (tt24-25) yn dychwelyd â detholiad o ffilmiau hardd sy’n adrodd hanes ein planed a’i dyfodol ansicr, ac fe fydd arddangosfa hynod boblogaidd Rose Wylie yn ein horiel yn cael ei hategu gan ddangosiad o ffilm Ben Rivers am yr artist, What Means Something (t6). Y mis hwn hefyd byddwn yn bwrw golwg ar ddementia drwy gyfrwng detholiad o ffilmiau (t28) a drama newydd arloesol Re-Live, Belonging (t14), sydd yn archwilio cyflwr sy’n effeithio ar gyfran gynyddol o’r boblogaeth. Gallwch ddisgwyl ambell foment o chwerthin pur ac ing — a byddwn yn chwalu ambell fyth hefyd ... Diolch am ddarllen ac fe welwn ni chi cyn hir!
Defnyddiwch y côd QR hwn i lawr-lwytho copi digidol o gylchgrawn Chapter
Delwedd y clawr: Miles Ahead
Dw i’n ei chael hi’n anodd dewis pa beth dw i’n edrych ymlaen ato fwyaf bob mis yn Chapter — mae’r dewis wastad yn ardderchog. Ond pan welais i bod Re-Live yn rhan o raglen y mis hwn, aeth eu sioe yn syth i frig fy rhestr o bethau i’w gweld. Os yw gwaith blaenorol Re-Live yn unrhyw fath o arwydd, bydd Belonging yn procio’r meddwl ac yn llawn golygfeydd grymus. Dw i hefyd, fel pawb arall yn yr adeilad, yn edrych ymlaen yn ofnadwy at yr Art Car Bootique, diwrnod llawn dop o weithgareddau. I weld sut y gallwch chi gefnogi’r digwyddiad gwych hwn, ewch i dudalen 10.
Chapter Heol y Farchnad, Caerdydd CF5 1QE 029 2030 4400 www.chapter.org ymholiadau@chapter.org
Dylunio: Nelmes Design
Jennifer Kirkham, Cynorthwy-ydd Datblygu
chapter.org
Uchafbwyntiau
Celfyddyd tudalennau 4–6
Bwyta Yfed Llogi tudalen 7
Art Car Bootique
03
CYMRYD RHAN
tudalennau 8–9
Cefnogwch Ni Cerdyn CL1C tudalen 10
Chapter Mix tudalen 11
Perfformiadau tudalennau 12–19
Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawrlwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!
Ffrindiau Chapter Addysg tudalen 19
Ffilm tudalennau 20–31
Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40
Clwb Chapter
Gwybodaeth a Sut i archebu tocynnau tudalen 32
Cynllun aelodaeth Chapter i fusnesau. Am ffi flynyddol fechan, gall eich busnes chi fwynhau manteision sylweddol yn Chapter, gan gynnwys gostyngiadau i chi a’ch staff ar fwyd, diod a thocynnau. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.chapter.org/cy/chapter-clwb.
Cadwch mewn cysylltiad Ymunwch â ni ar-lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.
eAmserlen rad ac am ddim Cymryd Rhan
eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch adam.chard@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.
tudalen 33
Siaradwch â ni
Calendar
@chaptertweets facebook.com/chapterarts
tudalennau 34–35
Nodwch os gwelwch yn dda bod copïau print bras o’n cylchgrawn ar gael ar gais. Cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau ar 029 2030 4400.
Celfyddyd
Rose Wylie: TILT THE HORIZONTAL INTO A SLANT. Gosodwaith yn Chapter, 2016. Llun: Adam Chard
04 029 2030 4400
CELFYDDYD
chapter.org
Celfyddyd
05
ROSE WYLIE TILT THE HORIZONTAL INTO A SLANT Tan Sul 29 Mai
Mae delweddau Rose Wylie yn feiddgar, yn anhrefnus o bryd i’w gilydd ac yn aml yn annisgwyl. Maent yn arddangos ysbryd annibynnol bob amser heb ychwaith fod yn ormesol. Mae Wylie’n gweithio’n uniongyrchol ar gynfasau heb eu paratoi, heb eu hestyn. Daw ei hysbrydoliaeth o nifer o wahanol ffynonellau, y rhan fwyaf ohonynt yn boblogaidd a gwerinol. Mae technegau collage a thechnegau fframio byd ffilm, ynghyd â stribedi cartŵn a phaneli’r Dadeni yn dod ynghyd yn ei chyfansoddiadau a’i motiffau cyson. Â hithau’n gweithio o gof, mae Wylie’n distyllu ei phynciau yn sylwadau cryno, gan ddefnyddio testun i roi pwyslais ychwanegol i’w hatgofion. Mae Wylie’n benthyg o ddelweddaeth uniongyrchol ei bywyd bob dydd yn ogystal ag o ffilmiau, papurau newydd, cylchgronau a theledu. Yn aml, yn ystod datblygiad darn o waith, ac wrth iddi baratoi’r darluniau cychwynnol ar bapur, mae hi’n dilyn llwybrau a chysylltiadau llac yn y meddwl. Mae’r peintiadau dilynol yn ddigymell ond maent wedi eu hystyried yn ofalus; maent yn cyfuno syniadau a theimladau o fydoedd allanol a phersonol. Mae Rose Wylie’n ffafrio’r penodol yn hytrach na’r cyffredinol; er bod pynciau ac ystyr yn bwysig iddi, mae’r weithred o ganolbwyntio ar elfen benodol yn bwysicach fyth. Mae pob delwedd wedi ei gwreiddio mewn eiliad o sylw penodol ac, er bod ei gwaith yn gyfoes o ran ei natur ddarniedig ac o ran y cyfeiriadau diwylliannol a welir ynddo, mae iddo wedd fwy traddodiadol a amlygir yn ei hymrwymiad at elfennau mwyaf sylfaenol y weithred o greu delwedd – arlunio, lliw a gweadedd.
Ynglŷn â Rose Wylie Ganwyd Rose Wylie ym 1934 ac mae hi’n byw ac yn gweithio yng Nghaint. Astudiodd yn Ysgol Gelfyddyd Folkestone a Dover ac yn y Coleg Celf Brenhinol. Yn 2015, fe’i hetholwyd yn Aelod Uwch o’r Academi Frenhinol. Cynrychiolodd Wylie Brydain yn ‘Women To Watch’, Amgueddfa Genedlaethol Menywod yn y Celfyddydau, Washington DC (2010) ac fe gynhaliwyd yr arolwg cyntaf o’i gyrfa yn Oriel Jerwood, Hastings (2012). Dilynwyd honno gan ei harddangosfa BP Spotlight yn Tate Britain (2013). Arweiniodd hynny at sioeau amgueddfa yn Philadelphia, UDA, Tonsberg, Norwy, Wolfsberg, yr Almaen, Gofod Prosiect Tal R, Copenhagen, Denmarc ac Oriel Douglas Hyde, Dulyn, Gweriniaeth Iwerddon. Yn 2011, derbyniodd Wobr Paul Hamlyn ac, yn 2014, enillodd Wobr Beintio John Moore. Yn 2015, enillodd Wobr Charles Wollaston am y ‘gwaith mwyaf nodedig’ yn Arddangosfa Haf yr Academi Frenhinol a hynny am Herr Rehlinger In White Armour, darn yr ydym yn falch iawn o fedru’i ddangos yn rhan o’r arddangosfa yn Chapter. Mae gwaith Wylie yn rhan o gasgliadau preifat a chyhoeddus a’r rheiny’n cynnwys Casgliad Tate Britain a Chasgliadau Cyngor y Celfyddydau, Sefydliad Jerwood, Casgliad Hammer, Oriel Gelfyddyd Walker, Oriel Gelfyddyd Dinas Efrog ac Amgueddfa Arario. Cynrychiolir yr artist gan Oriel UNION www.union-gallery.com.
Sgwrs am 4
Sgwrs am 4 yn Gymraeg
Mae ein ‘Sgyrsiau am 4’ yn deithiau tywysedig yng nghwmni ein Tywyswyr Byw, Richard Higlett a Thomas Williams. Maent yn gyfle i ddysgu mwy am yr arddangosfa gyfredol ac am ddulliau gwaith unigryw yr artistiaid. Ni fydd dwy sgwrs yn union yr un fath ond y gobaith yw y byddan nhw’n ddiddorol ac yn agored bob amser. Mae’r Sgyrsiau am 4 yn rhad ac am ddim ac nid oes angen archebu lle ymlaen llaw — dewch draw i fynedfa’r Oriel i ymuno â ni!
Ymunwch â ni am Sgwrs am 4 yn Gymraeg. Bydd y sgwrs ar agor i siaradwyr Cymraeg o bob lefel ac fe’i harweinir gan ein Cynorthwy-ydd Oriel, Thomas Williams. Does dim angen archebu ymlaen llaw — dewch draw i’r Oriel i ymuno â ni!
Sad 14 + Sad 28 Mai 4pm
RHAD AC AM DDIM
Sad 21 Mai 4pm
RHAD AC AM DDIM Arddangosfa ar agor: Dyddiau Mawrth, Mercher, Sadwrn a Sul 12-6pm; dydd Iau a dydd Gwener 12-8pm; ar gau ar ddydd Llun
Celfyddyd
029 2030 4400
Steven Shearer, Sorry Steve, 1999
06
CELFYDDYD YN Y BAR
DANGOSIAD FFILM
STEVEN SHEARER: SORRY STEVE
Ben Rivers: What Means Something
Gwe 18 Mawrth – Sul 19 Mehefin
Sad 7 Mai 2.30pm
Mae ‘Sorry Steve’ (1999) yn nodyn a ysgrifennwyd ar ddarn o bapur ac a chwyddwyd wedi hynny er mwyn ei ddyrchafu i statws datganiad. Y mae’n fwriadol bryfoclyd ac yn cyflwyno llais – a chymeriad – sydd yn ei osod ei hun uwchlaw cymeriad ‘Steve’. Mae gweithiau testunol Shearer, neu ei ‘gerddi’ fel y mae ef ei hun yn eu disgrifio, yn archwilio’r modd y mae iaith a sgyrsiau ‘byrhoedlog’ yn cael eu cadw a’u dyrchafu tan iddynt ddod yn rhan o’n hymwybyddiaeth gyfun. Mae’r gwaith hwn yn rhan o archif o destunau, geiriau a datganiadau sy’n ymwneud â themâu fel dieithrio, unigedd a’r modd y caiff hierarchaethau eu gorfodi arnom drwy gyfrwng iaith. Yn ei waith yn gyffredinol, mae Shearer yn gweithio ag ystod o gyfryngau ac yn creu gosodweithiau sy’n cyfuno elfennau o dechnegau arlunio, paentio, ffotograffiaeth, collage a thestun. Mae ei waith yn archwilio’r hyn sydd dan wyneb y farn gyhoeddus ac yn edrych yn fanylach ar isddiwylliannau ieuenctid a mudiadau diwylliannol nad ydynt yn llygad y cyhoedd. Drwy osod y datganiad hwn yng Nghaffi Bar Chapter, mae Shearer yn ein gwahodd ni i gwestiynu natur diwylliant aruchel a diwylliant bas – ynghyd â’r bobl a’r grymoedd sy’n diffinio’r naill a’r llall.
I gyd-fynd â’n harddangosfa, TILT THE HORIZONTAL INTO A SLANT, rydym yn falch iawn o allu cyflwyno portread Ben Rivers o’r artist Rose Wylie, What Means Something. “Fel pan fydd Rose yn cychwyn ar baentiad, mae creu portread ar ffilm yn ymrwymiad agored; mae’r ffurf yn ei datgelu’i hun yn ystod y broses o greu. Dechreuais drwy ymweld â Rose, ar sawl achlysur, yn ei chartref yng Nghaint a’i ffilmio yn ei stiwdio, yn ei thŷ ac yn yr ardd.” Ynglŷn â Ben Rivers Mae Ben Rivers (g. 1972, Gwlad yr Haf) yn byw ac yn gweithio yn Llundain. Derbyniodd nifer o wobrau am ei waith, gan gynnwys: Gwobr 68fed Gŵyl Ffilm Fenis (am ei ffilm nodwedd gyntaf, Two Years at Sea); Gwobr Artangel Open 2013; Gwobr Ffilm gyntaf Robert Gardner, 2012; Gwobr Gelf Baloise, Art Basel, 2011, ac fe gyrhaeddodd restr fer Gwobr Jarman yn 2010 a 2012.
Ynglŷn â Steven Shearer Ganwyd Steven Shearer yn New Westminster, Canada, ym 1968. Mae e bellach yn byw ac yn gweithio yn Vancouver. Gwelwyd arddangosfeydd unigol o’i waith yng Nghasgliad Charles Riva, Gwlad Belg; Galerie Eva Presenhuber yn Zurich; Oriel Genedlaethol Canada, Ottawa; Yr Oriel Newydd ac Oriel Barbara Gladstone, Efrog Newydd; Oriel IKON, Birmingham a Chymdeithas y Dadeni yn Chicago. Cafodd Shearer ei ddewis i gynrychioli Canada yn Biennale Fenis 2011.
I gael mwy o wybodaeth am y ffilm, ewch i dudalen 22.
chapter.org
Bwyta Yfed Llogi
07
BWYTA YFED LLOGI
Maibock
Mer 25 — Sul 29 Mai Oriau agor bar yr ŵyl: Mer + Iau 5pm–11pm, Gwener 5pm–12.30am, Sad 12pm–12am + Sul 12pm–11.30pm Mae ein gŵyl flynyddol o gwrw gwanwyn yr Almaen yn dychwelyd! Mae cwrw Maibock o Bafaria yn ysgafnach, yn draddodiadol, ac yn fwy hopysaidd na chwrw “bock” cryf — mae hynny’n adlewyrchu dyfodiad y gwanwyn ar ôl y gaeaf. Fel y llynedd, bydd y digwyddiad hwn yn cyd-fynd â’r Art Car Bootique ardderchog (tt8-9).
Pop Up Produce Mer 4 Mai 3–8pm
Mae ein marchnad fisol boblogaidd o ddanteithion gan gynhyrchwyr lleol yn dychwelyd y mis hwn ar ôl hoe fach. Ar ddydd Mercher cyntaf y mis, byddwn yn cyflwyno rhai o’ch hen ffefrynnau ynghyd ag ambell stondin newydd a fydd yn gwerthu siocledi, jamiau, bara arbenigol, nwyddau o Sbaen, pice ar y maen, gwin, teisennau heb glwten, te, mêl a nwyddau i’r cartref. Ydych chi’n cynhyrchu bwyd? Ydych chi wedi sylwi ar fwlch yn narpariaeth Pop Up Produce? Os hoffech chi ymuno â ni unwaith y mis i werthu eich cynhyrchion chi, cysylltwch â Paul — paul.turton@ chapter.org — i wneud cais am stondin.
ChapterLive
Gwe 13 Mai 9pm: Danielle Lewis + Eve Rowlands Gwe 27 Mai 9pm: Blind River Scare + Tom Crow Mae ChapterLive yn gyfres o gyngherddau byw wedi’u curadu gan yr hyrwyddwyr profiadol, Jealous Lovers Club, a fydd yn cyflwyno detholiad o’u hoff grwpiau o’r DG, Ewrop a gwledydd pellennig eraill yn Chapter. Mae ChapterLive yn gyfle i ddarganfod artistiaid newydd gwych. I gael mwy o wybodaeth am y grwpiau wrth iddyn nhw gael eu cadarnhau, ewch i’n gwe-fan. RHAD AC AM DDIM @JealousLovers1 #ChapterLive
Llogi Mae nifer o ystafelloedd a chyfleusterau Chapter ar gael i’w llogi ac mae llawer o’r rhain yn cael eu defnyddio’n rheolaidd gan gymysgedd eclectig o ddosbarthiadau dydd a nos. Ewch i’n gwe-fan neu codwch daflen yn y swyddfa docynnau i weld yr hyn sydd ar gael. Os ydych chi’n chwilio am ystafell ar gyfer parti, cyfarfod neu gynhadledd, neu am ofod i saethu fideo, i ymarfer neu i gynnal gweithgareddau adeiladu tîm, bydd ein cyfleusterau gwych, ein harbenigedd technegol a’n staff cyfeillgar yn gallu sicrhau bod eich digwyddiad yn gyffyrddus, yn unigryw ac yn gofiadwy. Gallwn gynnig amrywiaeth o opsiynau arlwyo ar gyfer eich digwyddiad hefyd. Os oes gennych chi gwestiynau penodol, neu os hoffech chi fwy o wybodaeth am ein cyfleusterau, rhowch ganiad i’n rheolwr llogi, Nicky, ar 029 2031 1058 neu anfonwch e-bost at nicky.keeping@chapter.org.
08
Art Car Bootique
029 2030 4400
ART CAR BOOTIQUE
ART CAR BOOTIQUE Sul 29 Mai 11am–6pm (y tu allan yn y maes parcio) 6–11.30pm (yn y Caffi Bar) Mae Chapter a Something Creatives yn falch iawn o gyflwyno Art Car Bootique eleni, ar y thema ‘EURO-VISION’! Â’r refferendwm ar adael yr Undeb Ewropeaidd ar ein gwarthaf, byddwn yn ystyried pob math o faterion Ewropeaidd – o dîm Cymru ym Mhencampwriaeth Ewrop UEFA i sioe fawreddog a ‘kitsch’ yr Eurovision a’r bleidlais bosib dros ‘Brexit’. Ers ei sefydlu yn 2011, mae’r digwyddiad hwn, sy’n gymysgedd eclectig ac ecsentrig o gelfyddyd, perfformiadau, bwyd, cerddoriaeth, ffasiwn ‘vintage’ a phrosiectau wedi’u curadu, wedi bod yn ddathliad egnïol o gymuned greadigol Caerdydd. O 11am tan 6pm, bydd ein maes parcio yn cael ei drawsnewid yn ffair bentref seicedelig — bydd yna fwy na 70 o stondinau i chi eu mwynhau. Mae’r Art Car Bootique yn ddigwyddiad rhyngweithiol rhyfedd a hwyliog sy’n cynnig rhywbeth i bawb. Trowch i dudalen 10 i weld sut y gallwch chi gyfrannu £1 i gefnogi’r digwyddiad hefyd. www.facebook.com/artcarbootique www.artcarbootique.com www.somethingcreatives.com
Noddir y digwyddiad gan Stills Branding ac fe’i cefnogir gan Ffrindiau Chapter
Delweddau o’r Art Car Bootique, gyda chaniatâd caredig Noel Dacey
chapter.org
Art Car Bootique
09
10
Cefnogwch Ni
029 2030 4400
CEFNOGWCH NI DONATE NOW text ACBC16 £1 to 70070
CEFNOGWCH NI #ACBC16 Cyfrannwch £1 yn unig a helpwch ni i sicrhau taw digwyddiad eleni yw’r gorau hyd yn hyn! Mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn cefnogi dros 50 o artistiaid lleol ac yn croesawu mwy nag 11,000 o bobl. Mae hyn i gyd yn dipyn o gamp ac, fel elusen gofrestredig, mae pob ceiniog yn cyfrif ac yn ein helpu ni i gynnal y digwyddiad gwych hwn — mae’r holl arian yn cael ei wario ar logi offer, gweithdai teuluol, gwobrau’r cystadlaethau, bandiau byw a mwy. Ein nod yw codi £5,000 a, diolch i gefnogaeth hael Stills Branding a Ffrindiau Chapter, rydym eisoes wedi codi 80% o’r swm hwnnw. Helpwch ni i godi’r £1,000 sydd yn weddill er mwyn gwneud #ACBC16 yn ddigwyddiad i’w gofio. Cyfrannwch £1 yn awr ac ymunwch â ni ar Sul 29 Mai am andros o barti! Testun ACBC16 £1 i 70070 neu ewch i chapter.org/cy/ cyfrannwch-nawr. I gael mwy o wybodaeth am unrhyw un o’r materion uchod, cysylltwch â Jennifer Kirkham ar Jennifer.kirkham@chapter.org
TE GYDAG UN O WIRFODDOLWYR CHAPTER!
Wythnos y Celfyddydau Gwirfoddol Iau 12 Mai 6–8pm Bu rhaglen wirfoddol Chapter yn weithredol ers pedair blynedd ac erbyn hyn mae gennym 100 o wirfoddolwyr campus. Yn rhan o raglen o weithgarwch ehangach ledled y wlad, yn ystod Wythnos y Celfyddydau Gwirfoddol 2016, hoffem ddathlu llwyddiannau ac ymrwymiad yr holl bobl wych sy’n rhoi o’u hamser i gefnogi digwyddiadau ardderchog Chapter. Os hoffech chi fwy o wybodaeth am wirfoddoli yn Chapter neu os hoffech chi siarad â’n gwirfoddolwyr am eu profiadau, dewch draw i gwrdd â’r tîm yn ystod Wythnos y Celfyddydau Gwirfoddol. Bydd yna de a theisennau yn Chapter rhwng 6 ac 8pm ar ddydd Iau 12 Mai. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu ein gwirfoddolwyr presennol ac at gwrdd ag ambell un newydd hefyd, efallai.
chapter.org
Chapter Mix
11
CHAPTER MIX
Cylch Chwedleua Caerdydd Sul 1 Mai 8pm
Straeon ar Dro’r Flwyddyn. Dewch i ddathlu Calan Mai a dyfodiad yr haf gyda straeon a chaneuon. Croeso i bawb! £4 (wrth y drws)
DYDD IAU CYNTAF Y MIS
Ffuglen a Barddoniaeth Newydd Iau 5 Mai 7.30pm
Mae yna thema ddyfrllyd i’r dydd Iau hwn. Bydd y bardd, Lynne Hejlmgaard, yn darllen o’i llyfr am deithio ar draws yr Iwerydd, A Boat Called Annalise, a bydd Gwasg Mulfran yn cyflwyno llyfr o straeon byrion gan Beverley Kemp, Splash. Ynghyd â sesiwn meic agored. £2.50 (wrth y drws)
Clwb Comedi The Drones
Gwe 6 + Gwe 20 Mai Drysau’n agor: 8.30pm Sioe’n dechrau: 9pm Clint Edwards sy’n cyflwyno’r ‘stand-ups’ addawol gorau. Gwelwyd peth o ddeunydd y nosweithiau hyn ar raglen ‘Identity Crisis’ Rob Brydon. Dydd Gwener cyntaf a thrydydd dydd Gwener y mis. Un o’r ‘Deg Peth Gorau i’w Gwneud yng Nghaerdydd’ yn ôl cylchgrawn The Big Issue. £3.50 (wrth y drws)
Jazz ar y Sul Sul 22 Mai 9pm
Ein noson fisol o jazz acwstig melodig yn y Caffi Bar gyda Phedwarawd Jazz Chapter — Glen Manby, Jim Barber, Don Sweeney a Greg Evans. RHAD AC AM DDIM www.glenmanby.com
Darlith Cymdeithas Celfyddydau Cain ac Addurnol De Cymru Iau 12 Mai 2pm Charles R. Hajamach: ‘Dale Chiluly — Prif Artist Gwydr y Byd’
Dale Chiluly yw seren digamsyniol byd gwydr. Mae ei gariad at y ffurf, ei awydd diflino i arbrofi, a’i dalent aruthrol wedi trawsnewid byd gwydr stiwdio ac wedi newid unwaith ac am byth ein canfyddiadau o bosibiliadau gweledol y deunydd rhyfeddol hwn.
Clonc yn y Cwtch Bob dydd Llun 6.30–8pm
Ydych chi’n dysgu Cymraeg? Mae hwn yn gyfle gwych i ymarfer eich Cymraeg yng nghwmni dysgwyr eraill. Croeso i bawb! RHAD AC AM DDIM Ar y cyd â Menter Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd
GŴYL ADRODD STRAEON BEYOND THE BORDER 2016 Gwe 1 — Sul 3 Gorffennaf Castell Sain Dunwyd, Bro Morgannwg
Mae Beyond the Border yn ŵyl fywiog o straeon a cherddoriaeth o Gymru a phedwar ban byd. Mae themâu gŵyl 2016, a gefnogir gan Chapter, yn cynnwys archwiliad heriol o’r trawsnewidiadau a welir mewn straeon traddodiadol ynghyd â straeon epig o India, storïau’r gof a mythau Celtaidd o Gymru ac Iwerddon. Gŵyl hefyd yn cynnwys: Bwyd o Bedwar Ban Byd, Cwrw Go Iawn, Marchnad Grefftau, Gweithdai, Theatr y Stryd, Teithiau Cerdded Storïol, Meic Agored, Lle chwarae, Gwersylla am ddim. Gostyngiad o 10% ar bris tocyn penwythnos i oedolyn o archebu ymlaen llaw — cofiwch sôn am CHAPTERSTORY wrth archebu www.beyondtheborder.com
12
Perfformiadau
029 2030 4400
PERFFORMIADAU Cefnogir Theatrau Chapter gan rodd David Seligman er cof am Philippa Seligman
chapter.org
Perfformiadau
13
NEST Gwe 6 Mai 6.30pm + Sad 7 Mai 3.30pm + Gweithdy i bontio’r cenedlaethau ar Sul 8 Mai 3pm Wrth iddi amldasgio fel artist ac fel mam, mae Anushiye Yarnell yn dawnsio gyda’i merch bedair oed, Hepzibah, er mwyn ceisio datgelu syniad o gariad mewn bywyd bob dydd ac er mwyn ceisio dod o hyd i ffyrdd o gael at gwestiynau mawrion bywyd. Syniadau am esblygiad, rhaglenni newyddion fel ffenestr sy’n agor i’r byd, senarios go iawn a dychmygol gyda’r teulu, trafodaethau gyda byd natur a gwareiddiad, rhyngweithio â cheir ac â dieithriaid. Sut a phryd ddylech chi adael i’r ochr dywyll ddod i’r wyneb? “Mama, sut mae mae cael y tu allan y tu mewn?” Dewch i mewn, os gwelwch yn dda. Mae yna groeso mawr i bob un. Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru. £6 www.anushiyeyarnell.com Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru
“ …gwaith gyda’r mwyaf huawdl, ysgafn, heriol a hardd” Sally Marie, Cyfarwyddwr, Sweetshop Revolution
Llaeth Gareth Chambers Sad 7 Mai 8pm Mae Llaeth yn ddarn o symudiad/dawnsio byw arbrofol sy’n archwilio’r berthynas a fodolai ar un tro rhwng y corff gwrywaidd a chorff y Fam. Pam fod bwydo o’r fron yn cael ei weld fel tabŵ gan rai yn ein cymdeithas? Pam fod y Fam yn cael ei pharchu — ac eto’n cael ei gormesu pan ddaw hi’n fater o ystyried statws menywod yn y gweithle? Mae theori seicdreiddiad yn mynnu ein bod ar un adeg, cyn i ni gael ein derbyn yn nhrefn Symbolaidd iaith a chymdeithas, yn un â chyrff benywaidd ein Mamau ac yn gallu byw heb farn a gormes. Pan ddown ni’n ymwybodol o’n hunaniaeth ein hunain a’r rheolau sy’n ein helpu i’w chreu, caiff y Fam a’i chorff eu gwrthod er mwyn galluogi i ni ddatblygu syniad ohonom ni ein hunain. Gall unrhyw beth a gysylltir â’r corff benywaidd gael ei weld fel tabŵ o’r herwydd. Mae’r corff hwnnw’n tarfu, yn drysu ac yn gwrthod cydnabod ffiniau a threfn. A yw’r gwirionedd i’w gael yng nghorff/egni’r Fam? Y Fam yr ydym wedi gorfod ei gwrthod er mwyn bod yn unigolion. £6
Gallwch brynu tocyn ar gyfer Nest a Llaeth am bris cyfun o £10
Nest. Llun: Maria Alzamora
Perfformiadau
029 2030 4400
Belonging Re-Live
14
Belonging Re-Live Llun 2 — Sad 7 Mai 2pm + 7.30pm Ar Gwe 6 Mai bydd dehongliad mewn iaith arwyddion BSL ar gael yn y ddau berfformiad (Nodwch os gwelwch yn dda: ar Llun 2 + Sad 7 Mai ni fydd yna berfformiadau am 2pm) Mae Belonging yn ddrama newydd bwerus ac ysbrydolgar sy’n dangos bywydau dau deulu wrth iddyn nhw ddysgu nad oes angen i chwerthin a chariad ddod i ben o ganlyniad i dementia. Mae’r cynhyrchiad dwyieithog hwn yn seiliedig ar gyfweliadau manwl Re-Live gyda phobl sy’n byw gyda dementia, aelodau o’u teuluoedd a gofalwyr proffesiynol. Mae Belonging yn chwalu rhai o’r mythau sydd ynghlwm â’r cyflwr ac yn taflu goleuni ar Gymru dementia-gyfeillgar y gellir ei chreu drwy fod yn driw i’n hunain, byw yn y foment ... a pherthyn. Drama newydd sbon gan Karin Diamond, wedi’i chyfarwyddo gan Peter Doran (Grav, Oh Hello!, Who’s Afraid of Rachel Roberts?). Mae Belonging yn gwbl hygyrch i siaradwyr Cymraeg ac i’r di-Gymraeg fel ei gilydd a bydd yn mynd ar daith ledled y wlad yn ystod mis Mai a Mehefin 2016. Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad Baring, Gwanwyn, Chapter a Chwmni Theatr y Torch. £10/£8 Argymhelliad oedran: 12+ Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad Baring, Gwanwyn, Chapter a Chwmni Theatr y Torch.
“ Mae Belonging yn mynd â ni i galon profiadau pobl sy’n byw gyda dementia. Mae’r ddrama’n goleuo, yn herio ac yn diddanu. Ac mae hi hefyd yn chwalu ambell fyth arbennig o styfnig!” Mark Jones, Cynghorydd Gofal Dementia, Gwasanaeth Ymddangosiad Dementia mewn Pobl Iau, Caerdydd
Perfformiadau
EVERYMAN YN CYFLWYNO
THEATR FFYNNON YN CYFLWYNO
Brief Encounter
Pupa
Maw 17 — Sad 21 Mai 7.30pm
Gwe 20 + Sad 21 Mai 8pm Bydd y ddau berfformiad yn rhai hygyrch ac yn cynnwys dehongliad BSL wedi’i integreiddio a Disgrifiadau Sain
15
Pupa
chapter.org
Mae cynhyrchiad mis Mai Theatr Everyman, Brief Encounter, yn addasiad gan Emma Rice o fersiwn Kneehigh Theatre o sgript ffilm glasurol Noel Coward. Mae’r fersiwn lwyfan arloesol hon yn cyfuno cerddoriaeth, canu, dawnsio a chomedi er mwyn adrodd hanes cariad oesol Laura ac Alec. Mae’r addasiad yn driw i’r ffilm, a’i holl gymeriadau adnabyddus — gan gynnwys Fred, gŵr caredig ond diflas Laura, a Dolly, y cyfaill â bwriadau da sy’n difetha cyfarfod olaf y cariadon. “Faint ohonom sy’n byw ein bywydau heb deimlo atyniad at rywun sy’n mynd y tu hwnt i atyniad corfforol? A pha mor ofnadwy fyddai hi pe cai ein hemosiynau a’n teimladau eu difetha cyn gallu blaguro?” £10/£8 (disgownt ar ddyddiau Mawrth a Iau yn unig)
THEATR SILURES YN CYFLWYNO
Under Milk Wood gan Dylan Thomas Sad 14 Mai 1.30pm + 7.30pm Mae Theatr Silures yn falch iawn o gyflwyno campwaith Dylan Thomas, Under Milk Wood, i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Dylan. Dewch i brofi gwefr drydanol a synhwyrus geiriau Dylan Thomas wrth i’r cwmni theatr arloesol hwn eich arwain i fyd lliwgar Llareggub. £12/£10
“Anadlwch i mewn, anadlwch allan, teimlwch. Rydych chi’n blaned, rydych chi’n seren. Ac rydych chi’n disgleirio yn rhywle yn y Bydysawd.” Yn dilyn perfformiad llwyddiannus o ‘Larvae’ yn 2015, ‘Pupa’ yw’r darn nesaf yng nghyfres ‘Metamorfoza’. A ‘Larvae’ yn canolbwyntio ar bobl ifainc a’r frwydr fewnol i ddod o hyd i le yn y byd, mae ‘Pupa’ yn ein harwain drwy’r cam nesaf wrth i oedolion greu a meithrin cysylltiadau â chyfeillion, teuluoedd a pherthnasau. Pwy fyddem ni heb ein cysylltiadau emosiynol? Sut allwn ni newid a datblygu os nad ydym yn fodlon ymwneud â phobl eraill? £9/£7.50/tocyn gofalwr £6
Perfformiadau
Jonny & The Baptists: THE END IS NIGH
Tim Garland
029 2030 4400
O’r chwith i’r dde: Jonny & the Baptists, Tim Garland
16
Llun 9 Mai 8pm Comedi gerddorol am deulu, cyfeillgarwch a thrychineb amgylcheddol. Llynedd, dywedodd Jonny wrth ei nith bedair blwydd oed — ar ddamwain — y byddai newid hinsoddol yn arwain at ddiwedd y byd. I’w hatal rhag crio, dywedodd Paddy yr âi e ati i drwsio pethau. Ac fe wnaeth ei orau glas ... Mae digrifwyr cerddorol mwyaf chwilboeth y DG yn cyflwyno eu menter fwyaf — a mwyaf apocalyptaidd — hyd yma. Mae’n gyfuniad o gomedi, theatr a gig roc ac yn llawn dychan deifiol a gwiriondeb gwych. £10/£9/£8 Argymhelliad oedran: 14+ www.jonnyandthebaptists.co.uk Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Lloegr.
Oques Grasses + Grace Hartrey Gwe 13 Mai 7.30pm Mae Oques Grasses yn dychwelyd i Gymru ar ôl eu cyngerdd ryfeddol yng Ngŵyl Blue Lagoon yn Sir Benfro y llynedd. Mae’r band o Gatalonia wedi mwynhau llwyddiant a chynnydd aruthrol dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac maent bellach yn un o’r bandiau byw mwyaf poblogaidd yn Ewrop. Mae eu cerddoriaeth yn gyfuniad o reggae, pop, egni diddiwedd a doniau cerddorol digymar ac mae’r cwbl yn dod at ei gilydd mewn modd a fydd yn gwneud i chi ddawnsio drwy’r nos, eich dwylo yn yr awyr a gwên fel gât ar eich wyneb. Daw’r gefnogaeth gan Grace Hartrey & The Garden Party, sy’n arbenigo mewn arddulliau gitâr a lleisio gwerinaidd. Maent eisoes wedi chwarae mewn canolfannau fel yr O2 yn Llundain. £12 oquesgrasses.com https://soundcloud.com/grace-hartrey/
Iau 12 Mai 8pm Bydd yr arloeswr jazz Prydeinig, Tim Garland, yn lansio One, ei albwm stiwdio newydd. Yng nghwmni rhai o’i gydweithwyr rheolaidd, Jason Rebello, Asaf Sirkis ac Ant Law, bydd y maestro yn archwilio llawer o’r dylanwadau ffurfiannol arno, a’r rheiny’n cynnwys jazz-roc (ei wreiddiau yng Nghaergaint); chwaraewyr sacsoffon o ddwy ochr môr Iwerydd; cerddoriaeth gitâr Geltaidd ei brosiect hir-dymor, Lammas; yr arlliwiau Lladin a Sbaenaidd sydd yn rhan mor greiddiol o gerddoriaeth Chick Corea; ac amrywiaeth o batrymau rhythmig a ddysgodd gan ddrymwyr athrylithgar fel Bill Bruford ac Asaf Sirkis. £15/£12 http://www.timgarland.com/
“ Athrylith o ddyfnder anghyffredin” Chick Corea
Ensemble Cymru: Cerddoriaeth i Delyn, Pedwarawd Llinynnol, Ffliwt a Chlarinét Sad 14 Mai 7pm Cyngerdd gyntaf Ensemble Cymru yn Chapter, sy’n hyrwyddo perfformiadau o gerddoriaeth siambr. Â repertoire ardderchog gan gyfansoddwyr Ffrengig a Chymreig, bydd y gyngerdd yn croesawu’r delynores Elisa Netzer, Artist Gwadd Rhaglen Ryngwladol Ensemble Cymru o Gyfnewid Diwylliannol.
Bydd y rhaglen yn cynnwys: Cyflwyniad ac Allegro — Ravel Pumawd rhif 1 — Jean Francaix Seithawd — John Metcalf Sonata i Ffliwt, Fiola a Thelyn — Debussy Bagatelle opws 59 — Christopher Painter £10/£8/myfyrwyr £3
Perfformiadau
17
O’r chwith i’r dde: Guto Dafis, Glen Manby
chapter.org
Guto Dafis: Abduction and Enchantment Sad 21 Mai 8pm Mae’r ‘Llanfabon Changeling’, Melltith Pantannas a thrydedd gainc y Mabinogi, Manawydan, yn straeon sydd, bob un, yn cynnwys cymeriadau a gaiff eu herwgipio gan bwerau arallfydol a hynny er mwyn dial camweddau sy’n rhychwantu’r cenedlaethau. Cyflwynir y perfformiad hwn yn Saesneg ond mae defnydd achlysurol y storïwr meistraidd, Guto Dafis, o’r Gymraeg yn gwreiddio’r straeon hyn yn y cymunedau lle maen nhw wedi’u gosod; mae ei ddefnydd o gerddoriaeth hefyd yn ategu ac yn cyfeilio’r naratif, ac yn creu hudoliaeth sy’n ein cludo rhwng bydoedd naturiol a goruwchnaturiol. Bydd y sioe hon hefyd i’w gweld yng ngŵyl straeon Beyond the Border yng Nghastell Sain Dunwyd ym mis Gorffennaf. £8/£6
Extraction Music Sad 28 Mai 2pm–10.30pm Diwrnod codi arian â’r holl elw yn mynd i elusen leol sy’n gweithio gyda ffoaduriaid. I gynnwys perfformiadau gan Yol, Kevin Sanders, From Constants, Clive Henry, Marlo De Lara, Deej Dhariwal (Thought Forms), Murray Royston Ward, Seth Cook & Dominic Lash a Howlround. A setiau DJ gan Charlie Romijn (Thought Forms/ Laval Thief) The Joy Collective & Celestial Communications. £10
“Mae ‘Extraction Music’ yn cynnwys dogn helaeth o gerddoriaeth drôn ynghyd ag ychydig o seicedelia, curiadau a chynhwysion eraill. Gall fod yn drwm ac yn egnïol ond nid yw, fel rheol, yn arw neu’n ymosodol. Yn lle hynny, mae’r sain yn cwmpasu rhywun, yn ei amgylchynu’n llwyr. “ Rob Hayler — Radio Free Midwich
Pumawd Glen Manby Mer 1 Mehefin 8pm Bydd y sacsoffonydd alto, Glen Manby, yn dod â’i bumawd jazz newydd cyffrous i Chapter ar gyfer eu gig cyntaf yng Nghymru. Mae’r band yn cynnwys rhai o’r cerddorion jazz uchaf eu parch ym Mhrydain heddiw: enillydd y categori trwmped yng Ngwobrau Jazz Prydain 2014, Steve Waterman; y pianydd Leon Greening, a ddisgrifiwyd fel “un o’r pianyddion gorau a gynhyrchwyd gan y wlad erioed”; y drymiwr, Matt Home, sydd, yn ogystal â bod yn un o’r drymwyr mwyaf poblogaidd ar y gylchdaith genedlaethol, yn ymddangos yn rheolaidd yn rhan o fand sefydlog Ronnie Scott — fel y mae’r basydd, Adam King, enillydd Gwobr Cerddor Jazz Ifanc y Worshipful Company of Musicians yn 2015. £10/£8
Perfformiadau
3 CRATE PRODUCTIONS YN CYFLWYNO
RISING APE YN CYFLWYNO
Blavatsky’s Tower
Your Choice
Maw 24 — Sad 28 Mai 7.30pm Bydd perfformiad Mer 25 Mai yn cynnwys dehongliad mewn iaith arwyddion BSL
Llun 23 Mai 7.30pm
029 2030 4400
Blavatsky’s Tower
18
Mae Blavatsky’s Tower yn gofyn beth ddigwyddai o beidio byth ag agor y drws ffrynt. Ysgrifennwyd Blavatsky’s Tower gan Moira Buffini, awdur ‘Handbagged’ a enillodd wobr Olivier. Ar ôl penderfynu peidio â gadael eu fflat, mae plant teulu Blavatsky wedi dysgu ymwneud â’i gilydd ac â’r byd mewn ffordd ... fwy anarferol. Beth fydd yn digwydd pan ddaw meddyg i’w byd a cheisio dod â rhywfaint o’n byd ni gydag ef? Bydd Blavatsky’s Tower yn eich cymell i chwerthin ac i ddwys ystyried. + Trafodaeth ar ôl y sioe gyda’r cyfarwyddwr ar Iau 26 Mai am effeithiau ynysu cymdeithasol ar iechyd meddyliol. £10/£8 Oed: 12+
Mae Your Choice yn noson unigryw sy’n cyfuno perfformiadau ingol yn seiliedig ar dreialon clinigol a gêmau chwarae rôl cyflym a chystadleuol a fydd yn eich gwahodd chi a’ch tîm i chwarae rôl ymchwilwyr canser. Mae Rising Ape Collective, ar y cyd â Cancer Research UK, wedi bod yn brysur yn casglu straeon y bobl hynny sy’n ymwneud agosaf â threialon clinigol — cleifion canser, ymchwilwyr a nyrsys — fel y gallwch chi eu clywed drosoch eich hun. Mae treialon clinigol yn darparu tystiolaeth sy’n galluogi i driniaethau canser gael eu datblygu ac maent yn helpu i adnabod y therapïau sy’n gweithio orau. Trwy ddewis bod yn rhan o dreial, mae cleifion yn dewis hybu a datblygu ein gwybodaeth gyfun am ganser, fel y gallwn ei guro yn gynt. Mae Your Choice yn ddathliad o gyfraniadau anhygoel. Dewch i ddysgu am y dewisiadau y mae’r bobl hyn yn eu gwneud am ganser yn eich ardal chi. Gallwch ymuno â thîm ar y noson neu ddod gyda’ch tîm cwis tafarn — mae yna wobrau i’w hennill! Dyfeisiwyd gan Rising Ape Collective ar y cyd â Cancer Research UK.
£7/£5 Oed: 14+ https://rising-ape.com/
Perfformiadau / Addysg
I DDOD YN FUAN THEATR SKAM YN CYFLWYNO
ADDYSG
19
Fashion Machine, Llun: Pamela Bethel Photography
chapter.org
Fashion Machine Sad 4 + Sul 5 Mehefin 2pm Sbectacl rhyfeddol. Bydd plant rhwng 10 a 13 oed yn herio aelodau’r gynulleidfa i fynd i mewn i’r Peiriant Ffasiwn er mwyn i’w dillad gael eu hail-ddychmygu’n llwyr! Yn ystod y sesiynau hanner tymor hyn, bydd plant yn mynychu gweithdai am ddim dan arweiniad arbenigwyr ar theatr, ffotograffiaeth, cynhyrchu dillad a dylunio. Bydd y gweithdai’n dod i uchafbwynt â pherfformiadau pan fydd y plant yn cyf-weld ag aelodau’r gynulleidfa, yn ail-ddylunio ac yn ail-wneud eu dillad yn fyw ac yna’n disgrifio sioe ffasiwn ar sail y dillad newydd sbon. £10/£8
“ Mae pob peth y mae Theatr Skam yn ei wneud yn aur theatraidd pur.” John Kaplan, Cylchgrawn NOW, Toronto I gael mwy o wybodaeth ynglŷn â chymryd rhan, ewch i we-fan Chapter neu e-bostiwch cathy.boyce@chapter.org. Nodwch os gwelwch yn dda: Er mwyn cymryd rhan bydd angen i blant fod ar gael ar yr adegau canlynol: Maw 31 Mai — Gwe 3 Mehefin 10am–1pm a Sad 4 — Sul 5 Mehefin 1pm–4pm (cyflwynir y sioe am 2pm)
‘Sewcial’ Chapter Gwneud Bagiau Sul 15 Mai 1pm–5pm
Bydd y bobl ifainc sy’n cymryd rhan yn mynd ati i greu rhywbeth ychydig yn fwy diddorol na bag ‘tote’ syml — byddant yn creu bag ysgwydd, delfrydol ar gyfer diwrnod allan yn yr haf. Byddant yn treulio’r prynhawn yn dysgu sut i wneud dolenni solet, yn dewis pocedi ac yn creu cyfuniadau diddorol o liwiau. £22.50 (Dewch â thamaid i fwyta a photel o ddŵr)
Academi Ffilm Pobl Ifainc: Dosbarth 2016 Llongyfarchiadau i’r gwneuthurwyr ffilm uchelgeisiol canlynol (bob un ohonynt rhwng naw a 12 oed) a gwblhaodd gwrs yr Academi Ffilm i Bobl Ifainc yn llwyddiannus dros gyfnod o bedair wythnos ym mis Chwefror a mis Mawrth. Mynychodd y bobl ifainc ddarlithoedd a dangosiadau ac fe ddatblygon nhw eu sgiliau ymarferol a’u technegau gwneud ffilm. Gallwn ddiolch, bob un ohonom, bod dyfodol ffilm yng Nghymru mewn dwylo da! Llongyfarchiadau i chi ar eich gwaith caled, eich canolbwyntio a’ch gwaith creadigol: Riley Mullins, Jude Jones, Theo Hulm, Gina Robinson, Frankie Carver, Robyn Wilkie, Lucy Ashworth, Branwen Clay, Stephen Rooney-Dyke, Fred Ewart, Kit Warner, Archie Gray, Dylan Jones, Max Slaughter, Elen Capey, Megan Lewis Os hoffech chi fwy o wybodaeth am weithdai ffilm creadigol i bobl ifainc, cysylltwch â learning@chapter.org
Ffilm
029 2030 4400
Eye in the Sky
20
Ffilm
21
Midnight Special
Disorder
Gwe 29 Ebrill — Iau 5 Mai
Gwe 29 Ebrill — Iau 5 Mai
DG/2016/102mun/15. Cyf: Gavin Hood. Gyda: Helen Mirren, Alan Rickman, Barkhad Abdi, Aaron Paul, Jeremy Northam.
Ffrainc/2015/98mun/15. Cyf: Alice Winocour. Gyda: Matthias Schoenaerts, Diane Kruger.
Yn y ffilm gyffro ddramatig hon mae Roy yn benderfynol o amddiffyn ei fab unigryw a dawnus, Alton, wyth-mlwydd-oed. Mae e’n ceisio’i arwain i guddfan gyfrinachol er mwyn ei gadw o afael sect crefyddol eithafol a thasglu llywodraethol.
Ar ôl i ddiagnosis o PTSD ei rwystro rhag parhau â’i yrfa filwrol, mae Vincent yn dychwelyd i dde Ffrainc i weithio fel swyddog diogelwch preifat i ddyn busnes cyfoethog o Libanus sydd hefyd yn delio mewn arfau anghyfreithlon. Ar ôl i’w gyflogwr adael ei wraig a’i fab ifanc adref i fynd ar daith fusnes, mae Vincent yn cael gorchymyn i’w gwarchod. Mae e’n dechrau amau bod grymoedd allanol yn bygwth y teulu ond ai paranoia yn unig yw hynny neu a yw byd llwgr a breintiedig cyflogwr Vincent yn dechrau dadfeilio? Ffilm gyffro rymus ag iddi drac sain egnïol gan DJ Gesaffelstein.
O’r chwith i’r dde: Midnight Special, Disorder
chapter.org
Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael — gweler y calendr am fanylion.
Eye in the Sky Gwe 29 Ebrill — Iau 5 Mai DG/2016/102mun/15. Cyf: Gavin Hood. Gyda: Helen Mirren, Alan Rickman, Barkhad Abdi, Aaron Paul, Jeremy Northam.
Mewn tref sianti yn Kenya, mae’r grŵp terfysgol al-Shabaab yn trefnu cyfarfod ac mae lluoedd milwrol Kenya, gyda chymorth dronau milwrol yr Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig, yn dechrau eu gwylio. Cawn olwg ar y gêm wleidyddol ehangach ac ar y tu mewn i’r ymgyrch: cyrnol llym yng nghanolfan byddin Prydain; peilotiaid y dronau yn Nevada; gweinidogion y peiriant gwleidyddol a’r asiantau ar lawr gwlad yn Kenya. Mae’r sgript yn ffraeth ac amserol ac mae yna gast gwych hefyd (sy’n cynnwys perfformiad olaf Alan Rickman). Mae’r ffilm yn gip pryfoclyd ar un o weithgareddau mwyaf dadleuol y cyfnod modern. Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael — gweler y calendr am fanylion.
Louder Than Bombs Gwe 29 Ebrill — Iau 5 Mai Norwy/2015/109mun/15. Cyf: Joachim Trier. Gyda: Jesse Eisenberg, Gabriel Byrne, Isabelle Huppert, Devin Druid.
Mae’r ffotograffydd rhyfel enwog, Isabelle Reed, wedi marw mewn damwain car ar ôl dychwelyd o flaen y gad. Dair blynedd yn ddiweddarach, mae ei dau fab a’i gweddw yn ceisio cyflwyno arddangosfa o’i gwaith ond yn cael nad ydynt wedi dod i delerau go iawn â’u colled. Stori dynn a chynnil sy’n cynnwys perfformiadau gwych; portread cain o effeithiau galar ar berthnasau teuluol. I’w gadarnhau: Fe allai Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal fod ar gael — gweler y calendr am fanylion.
Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael ar gyfer nifer fawr o’n ffilmiau. Fodd bynnag, fe all y wybodaeth amdanynt newid wedi i ni anfon y cylchgrawn hwn i’r wasg — mae manylion pellach i’w cael ar ein gwe-fan. Nid yw’n bosib bob amser i ni gadarnhau gwybodaeth am Ddisgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal cyn i ni anfon y cylchgrawn hwn i’r wasg. Cadwch lygad ar agor am y symbolau hyn, sy’n golygu y bydd angen cadarnhau’r wybodaeth am Ddisgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal. Fe sylwch chi ar y logo hwn ger manylion rhai ffilmiau a pherfformiadau. Mae’r F yn dynodi ffilmiau a pherfformiadau wedi’u cyfarwyddo gan ferched, wedi’u hysgrifennu gan ferched neu / ac sydd yn cynnwys rhannau canolog i ferched ar y sgrin neu ar y llwyfan.
Ffilm
029 2030 4400
Son of Saul
Court
Gwe 6 — Iau 19 Mai
Gwe 6 — Iau 12 Mai
Hwngari/2015/107mun/is-deitlau/15. Cyf: László Nemes. Gyda: Géza Röhrig, Levente Molnár, Urs Rechn.
India/2014/116mun/is-deitlau/PG. Cyf: Chaitanya Tamhane. Gyda: Usha Bane, Vivek Gomber, Pradeep Joshi.
Mae Saul yn Sonderkommando (grŵp o garcharorion y rhoddwyd iddynt dasgau arbennig a mân freintiau) yn Auschwitz ac yn gyfrifol am losgi’r meirw. Ar ôl dod o hyd i gorff sy’n edrych fel ei fab, mae e’n ceisio trefnu claddedigaeth Iddewaidd iddo. Mae aelodau eraill yr uned yn cynllwynio i ddianc ond mae Saul yn canolbwyntio ar ei gwest personol. Mae naratif person cyntaf hynod benodol yn ein gorfodi ni i dystio i ddioddefaint absoliwt Saul a golygfeydd o ddinistr emosiynol a moesol hollol.
Caiff canwr gwerin mewn oed ei gyhuddo o “gynorthwyo hunanladdiad” ar ôl i gorff gweithiwr carthffosiaeth gael ei ddarganfod ym Mumbai. Â sgript gynnil a chast ensemble gwych o actorion proffesiynol ac amatur, mae hwn yn bortread cyfoethog o gymdeithas Indiaidd sy’n cyfleu nid yn unig yr achos llys ond hefyd y bywydau preifat sy’n rhan ohono. Cymysgedd effeithiol o gomedi a thrasiedi abswrd ’ a phortread gafaelgar o’r India gyfoes.
O’r chwith i’r dde: Son of Saul, Court
22
Enillydd y Grand Prix yn Cannes
“ Rhagorol ... ffilm yn llawn ffocws a dewrder eithriadol” Peter Bradshaw, Guardian
Celfyddyd + Ffilm
The Brand New Testament
Sad 7 Mai
Gwe 6 — Iau 12 Mai Ffrainc/2015/115mun/is-deitlau/15. Cyf: Jaco Van Dormael. Gyda: Pili Groyne, Benoît Poelvoorde, Catherine Deneuve.
Comedi dywyll ddyfeisgar â Duw yn byw mewn fflat ddiddim ym Mrwsel. Ac mae’r Duw hwn yn dal dig — mae e’n sicrhau bod pob tafell o dost yn glanio â’r jam am i lawr a bod pob ciw yn para oes. Mae e’n byw gyda’i wraig ddiniwed a’u plant, y ferch siarp, Ea, a’r mab, “JC”. Gyda’i gilydd, maent yn ffurfio cynllun: recriwtio chwe disgybl newydd a chreu set newydd o destunau crefyddol yn seiliedig ar obeithion a breuddwydion eu cymdogion – breuddwydion sydd yn aml yn ingol a chwerthinllyd.
“ Nid yw Duw wedi marw — mae e jyst yn dda i ddim, yn y ffilm ddychan felys a chableddus hon” Jordan Hoffman, Guardian
What Means Something DG/2015/66mun/TiCh. Cyf: Ben Rivers.
I gyd-fynd â’n harddangosfa, TILT THE HORIZONTAL INTO A SLANT, rydym yn falch iawn o allu cyflwyno portread Ben Rivers o’r artist Rose Wylie, What Means Something. “Fel pan fydd Rose yn cychwyn ar baentiad, mae creu portread ar ffilm yn ymrwymiad agored; mae’r ffurf yn ei datgelu’i hun yn ystod y broses o greu. Dechreuais drwy ymweld â Rose, ar sawl achlysur, yn ei chartref yng Nghaint a’i ffilmio yn ei stiwdio, yn ei thŷ ac yn yr ardd. O dipyn i beth, datblygodd y ffilm tan ei bod yn hwy o lawer nag a fwriadwyd — roedd hynny, gan mwyaf, am fy mod i eisiau mynd nôl i weld Rose dro ar ôl tro.” RHAD AC AM DDIM OND BYDD ANGEN TOCYN I gael mwy o wybodaeth am arddangosfa gyfredol Rose Wylie yn yr Oriel, trowch i dudalennau 4-6.
O’r brig: Henry V, Shakespeare Lives
chapter.org
Ffilm
23
Shakespeare Lives Wrth i ni ddathlu bywyd a gwaith Shakespeare, dyma fwrw golwg ar fersiynau ffilm o’i ddramâu ac ar berthnasedd ei straeon yng Nghymru a thu hwnt. Byddwn yn cyflwyno hefyd gyfres o drafodaethau, gweithdai a nodiadau esboniadol arbennig i blant ac oedolion. Cydlynwyd y digwyddiadau hyn gan y Cyngor Prydeinig yn rhan o dymor ‘Shakespeare Lives’, sy’n nodi 400 mlynedd ers marwolaeth y bardd.
Hamlet gyda Maxine Peake
Henry V
DG/2015/195mun/dim tyst. (Sioe’n cynnwys defnydd o gyffuriau a thrais ysgafn). Cyf: Sarah Frankcom. Gyda: Maxine Peake.
DG/1989/132mun/PG. Cyf: Kenneth Branagh. Gyda: Christian Bale, Kenneth Branagh, Brian Blessed, Ian Holm.
Mae tad Hamlet wedi marw ac mae gan Ddenmarc frenin newydd. Mae Hamlet yn galaru ac yn ceisio dial — ond mae i hynny ganlyniadau trychinebus. Drama oesol am deyrngarwch, cariad, brad, llofruddiaeth a gwallgofrwydd. Diffinnir pob cynhyrchiad o Hamlet gan yr actor sy’n chwarae’r brif ran. Yn y fersiwn gynnil, ffres a chyflym hon, a gyflwynwyd am y tro cyntaf yn y Royal Exchange yn 2014, mae Maxine Peake yn cyflwyno dehongliad o Hamlet sy’n gweddu’n ardderchog i’r cyfnod cyfoes.
Ar ôl trechu Owain Glyndŵr, rhaid i’r Brenin Hal adael ei ieuenctid gwrthryfelgar ar ei ôl a cheisio ennill parch ei uchelwyr a’i bobl. Mae Henry’n casglu ei filwyr ynghyd ac yn paratoi at ryfel — rhyfel a fydd, gobeithio, yn adennill rhannau o Ffrainc ac yn uno’i deyrnas.
Sul 1 Mai
+ Ymunwch â ni ar ôl y dangosiad am drafodaeth a fydd yn archwilio rhyw a thraws-gastio ym myd Shakespeare â phanelwyr yn cynnwys Yvonne Murphy, cyfarwyddwr Omidaze (a gyflwynodd fersiwn merched yn unig o Henry VI a Richard III), a’r awdurdod ar Shakespeare, yr Athro Carol Rutter. RHAD AC AM DDIM OND BYDD ANGEN TOCYN.
Gwe 27 Mai
+ Ymunwch â ni am ddarllediad byw cyn y ffilm o gyfweliad gyda Syr Kenneth Branagh ac Adrian Wooton.
24
Ffilm
029 2030 4400
The Shore Break
GWYL FFILMIAU GWYRDD Y DG
Deep Time
The Shore Break
UDA/2015/89mun/TiCh. Cyf: Noah Hutton.
De Affrica/2014/90mun/TiCh. Cyf: Ryley Grunenwald.
Yng nghyd-destun newid hinsoddol ac amgylcheddol a bywydau pobl frodorol Gogledd Dakota, mae’r ffilm hon yn bortread o dirfeddianwyr, swyddogion y wladwriaeth a gweithwyr olew yn ystod y ‘bŵm’ olew mwyaf ers blynyddoedd lawer.
Mae llwyth y Pondo yn wynebu dewis dirdynnol ar eu tir ar Arfordir Gwyllt De Affrica. Mae Nonhle, â chefnogaeth Brenin a Brenhines y Pondo, yn dymuno datblygu eco-dwristiaeth a chynnal y ffordd o fyw draddodiadol, tra bod ei chefnder, Madiba, am i’r bobl elwa ar y darganfyddiad o Titaniwm — opsiwn sydd wrth fodd llywodraeth De Affrica hefyd. Mae’r ffilm rymus hon yn adrodd hanes y gwrthdaro rhwng aelodau’r teulu a’r frwydr i warchod y tir.
Gwe 6 Mai
Population Boom Sad 7 Mai
Awstria/2013/91mun/TiCh. Cyf: Werner Boote.
Yn ystod y flwyddyn y cyrhaeddodd poblogaeth y Ddaear gyfanswm o saith biliwn, teithiodd y gwneuthurwr ffilmiau, Werner Boote, ledled y byd i ailystyried y farn bod newid hinsoddol a lleihad mewn adnoddau yn ganlyniad i orboblogi. Penderfynodd ofyn cwestiwn gwahanol: Pwy sy’n dweud bod yna ormod ohonom? A phwy sy’n gyrru’r weledigaeth drychinebus hon? A yw gorboblogi yn fyth a ledaenir er mwyn bychanu problem o ordreuliant ehangach?
Sul 8 Mai
Racing Extinction Sul 8 Mai
UDA/2015/90mun/TiCh. Cyf: Louie Psihoyos.
Mae gwyddonwyr yn darogan y byddwn yn colli hanner o holl rywogaethau’r blaned erbyn diwedd y ganrif. Gelwir y cyfnod hwn yr Anthroposen (‘Oes Bodau Dynol’) â’r dystiolaeth yn dangos bod y colledion trychinebus hyn yn ganlyniad i ymyrraeth gan ddyn. Yn y ffilm newydd hon gan griw The Cove, mae’r Gymdeithas er Cadwraeth Forol yn defnyddio technoleg arloesol er mwyn ein hysbrydoli ni i dderbyn yr atebion a fydd yn atal y fersiwn affwysol hon o’r dyfodol a sicrhau bod y blaned yn un ffyniannus i genedlaethau’r dyfodol.
Ffilm
25
The Messenger
The Great Invisible
Canada/2015/89mun/TiCh. Cyf: Su Rynard.
UDA/2014/92mun/TiCh. Cyf: Margaret Brown.
Ers talwm, arferai pobl astudio patrymau hedfan a chanu adar er mwyn rhag-weld y dyfodol. Mae’r ffilm hon yn archwilio ymdrechion adar cân ledled y byd i oroesi mewn amodau adfydus sydd yn ganlyniad i ymyrraeth bodau dynol. Mae’n gofyn a yw eu tranc yn arwydd o chwâl hollol yr ecosystem fyd-eang, fel diflaniad gwenyn mêl neu doddiad y rhewlifoedd.
Yn 2010, cafodd cymunedau ar hyd a lled Gwlff yr Arfordir yn yr Unol Daleithiau eu difrodi gan ffrwydrad rig olew BP, Deepwater Horizon. Lladdodd y ffrwydrad 11 o bobl ac achosi pelen dân a welwyd 35 milltir i ffwrdd. Arweiniodd hefyd at yr arllwysiad olew morol mwyaf yn hanes yr Unol Daleithiau a llygru ecosystem fregus. Mae Brown yn teithio i gwrdd â phobl a brofodd y digwyddiad hwn drostynt eu hunain ac a aeth ati i geisio gwneud iawn am bethau wedi i lygaid y byd droi at orwelion eraill.
Gyda’r cloc o’r chwith uchaf: The Messenger, The Great Invisible, Just Eat It: A Food Waste Story
chapter.org
Sul 8 Mai
Just Eat It: A Food Waste Story Sul 8 Mai
Canada/2014/75mun/TiCh. Cyf: Grant Baldwin.
Fel cymdeithas, rydym yn mwynhau sioeau, cylchgronau a blogiau coginio dirifedi — ond mae bron i hanner ein bwyd yn cael ei wastraffu. Aeth y gwneuthurwyr ffilm a’r bwydgarwyr, Jen a Grant, ati i gychwyn arbrawf chwe mis o hyd. Gyda chymorth ymgyrchwyr a gwyddonwyr, dechreuont fwyta dim ond y bwyd hwnnw a deflid neu a oedd ar fin cael ei daflu, er mwyn ailystyried eu profiad nhw o fwyta.
Sul 8 Mai
The Divide Sad 14 Mai
DG/2014/79mun/12A. Cyf: Katherine Rownd.
Wedi’i hysbrydoli gan y llyfr poblogaidd, “The Spirit Level”, gan Richard Wilkinson a Kate Pickett, mae’r ffilm hon yn canolbwyntio ar saith unigolyn sy’n ceisio bywyd gwell yn yr UDA a’r DG ac yn archwilio sut y mae gwahaniaethau economaidd yn creu rhaniadau cymdeithasol. Wrth blethu’r straeon hyn ag archifau newyddion o 1979 hyd y dydd heddiw, mae’r ffilm yn rhybudd telynegol a grymus am y bwlch cynyddol rhwng tlawd a chyfoethog. + Ymunwch â ni am drafodaeth ar ôl y dangosiad.
26
Ffilm
029 2030 4400
Eddie the Eagle
O GYMRU
PARTI LANSIO LLYFR 10FED PEN-BLWYDD Y CLWB FFILMIAU GWAEL!
Can’t Stop the Music Sul 1 Mai Parti’n dechrau am 7.30pm Ffilm yn dechrau am 8.15pm UDA/1980/118mun/PG. Cyf: Nancy Walker. Gyda: Steve Guttenberg, Valerie Perrine, Bruce Jenner.
Mae’r Clwb yn dathlu’i ben-blwydd yn 10 oed drwy gyhoeddi llyfr arbennig — felly dyma’ch gwahodd chi i ddathliad arbennig o ffilmiau gwael a lansiad y llyfr. A pha ffilm allai fod yn fwy addas na sioe gerdd y Village People, Can’t Stop the Music? Ymunwch â ni wrth i ni geisio gweithio allan pa gyfran o’r ffilm Steve Guttenberg hon sy’n seiliedig ar ddigwyddiadau go iawn a pha gyfran sy’n deillio o freuddwydion gwyllt dawnsiwr disgo gwallgo’. Bydd yna nibls, ffilmiau gwael ac fe fydd Joe’n gwisgo het galed. O, a pheidiwch ag anghofio am y llyfr! Ymunwch â ni yn y parti! Dalier sylw: Bydd yna sylwebaeth fyw drwy gydol y ffilm ac fe all y ffilm a ddangosir newid ar y funud olaf.
Chapter Moviemaker
BAFTA Mer 11 Mai Ein dangosiad rheolaidd o’r ffilmiau Cymreig gorau o’r archif ac o’r cyfnod cyfoes. www.bafta.org/wales
Eddie the Eagle Gwe 13 — Iau 26 Mai DG/2016/106mun/PG. Cyf: Dexter Fletcher Gyda: Taron Egerton, Hugh Jackman, Christopher Walken, Kevin Allen.
Er nad oedd ganddo unrhyw allu amlwg yn y maes, roedd Michael “Eddie” Edwards yn benderfynol o wireddu’i uchelgais a bod yn athletwr Olympaidd — breuddwyd a gynhaliwyd diolch i ddogn epig o hunangred. Ar ôl gofyn i gyn-enillydd Olympaidd ei hyfforddi, dechreuodd ar ei daith i Gêmau Olympaidd Calgary — taith a arweiniai yn y pen draw at ennill statws fel gwir arwr Prydeinig. Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael — gweler y calendr am fanylion. Gweler y manylion ar dudalen 28 am y dangosiad o Eddie the Eagle sy’n addas i bobl sy’n byw â dementia.
Llun 2 Mai Sesiwn reolaidd sy’n caniatáu i gyfarwyddwyr annibynnol ddangos eu ffilmiau byrion. I gael mwy o wybodaeth am ddangos eich ffilm chi neu unrhyw fanylion eraill, e-bostiwch moviemaker@chapter.org. O bryd i’w gilydd, dangosir ffilmiau sy’n cynnwys deunydd anaddas i bobl iau. Awgrymwn, felly, bod sesiynau Moviemaker Chapter yn addas ar gyfer pobl 18+ oed.
Rydym yn falch iawn o allu cefnogi GFfDAC – Gŵyl Ffilmiau Dogfen Annibynnol Cymru – o ddydd Iau 12 tan ddydd Sadwrn 14 Mai. Cewch fwy o wybodaeth ar we-fan yr ŵyl: www.filmfreeway.com/festival/WIDF
chapter.org
Ffilm
27
SINEFFONIG
Miles Ahead
“ Jazz yw brawd mawr y Chwyldro. Mae Chwyldro yn dilyn y gerddoriaeth i bobman” Miles Davis Sineffonig yw ein detholiad rheolaidd o ffilmiau am gerddoriaeth. Mae’r gymysgedd eclectig yn cynnwys ffilmiau sydd naill ai’n trin a thrafod cerddoriaeth a cherddorion yn uniongyrchol neu sydd yn cynnwys sgôr sain ardderchog. Mae mwy o fanylion i’w cael ar: http://www.chapter.org/cy/season/cine-phonic
Miles Ahead
Florence Foster Jenkins
UDA/2015/100mun/15. Cyf: Don Cheadle. Gyda: Don Cheadle, Ewan McGregor, Emayatzy Corinealdi, Michael Stuhlbarg.
DG/2016/110mun/PG. Cyf: Stephen Frears. Gyda: Meryl Streep, Hugh Grant, Simon Helberg.
Yn y ffilm fywgraffyddol ffurfrydd hon, cawn gip ar fywyd cythryblus y cerddor jazz, Miles Davis. Mewn ffilm gyntaf ddychmygus fel cyfarwyddwr, mae Don Cheadle yn archwilio pennod chwedlonol ym mywyd y trwmpedwr, ym 1979, pan oedd Davis yn cael eu boenydio gan newyddiadurwyr a oedd yn awyddus i ddeall ei athrylith a chan ei gwmni recordiau a oedd yn torri bol eisiau record newydd i ddod â rhywfaint o arian i’r coffau. Ond roedd dibyniaeth Davis ar gyffuriau ar ei anterth ar y pryd a’r awen yn swil.
Golwg ysgafn ar stori wir ‘socialite’ o Efrog Newydd a aeth ati’n obsesiynol i geisio gwireddu ei breuddwyd o fod yn gantores opera. Roedd y llais a glywai Florence yn ei phen yn fendigedig ond, i bawb arall, roedd yn amhersain ofnadwy. Roedd ei phartner, yr actor aristocrataidd o Loegr, St. Clair Bayfield, yn benderfynol o amddiffyn ei anwylwyd rhag y gwir. Felly pan drefna Florence gyngerdd gyhoeddus yn Neuadd Carnegie, mae St. Clair yn wynebu ei her fwyaf.
Gwe 20 Mai — Iau 2 Mehefin
I Am Belfast
Llun 9 — Gwe 13 Mai DG/2015/84mun/15. Cyf: Mark Cousins.
Yn y ffilm drosiadol hon, mae’r ddinas yng Ngogledd Iwerddon yn fenyw 10,000-oed sy’n ein harwain ar daith emosiynol drwy hanes cyfoethog, cymhleth a thrasig y lle. Mae gallu Mark Cousins i ddod o hyd i harddwch mewn golygfeydd di-ddim a’i ddelweddau a’i gyfansoddiadau artistig yn cydblethu â chlipiau ffilm a deunydd archif. Â sgôr anhygoel gan ei gydfrodor o Belffast, David Holmes, mae’r ffilm yn llythyr o gariad gwleidyddol a dyfeisgar i ddinas enedigol Cousins. Mae Is-deitlau Meddal ar gael — gweler y calendr am fanylion.
Gwe 27 Mai — Iau 2 Mehefin
Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael — gweler y calendr am fanylion.
Calamity Jane Sul 15 + Maw 17 Mai
UDA/1953/99mun/U. Cyf: David Butler. Gyda: Doris Day, Howard Keel, Allyn Ann McLerie.
Pan nad yw hi’n rhedeg reiat rownd dre’, mae Jane yn treulio’i hamser yn collfarnu Wild Bill Hickok. Ar ôl addo i ddinasyddion Deadwood y bydd seren Chicago, Adelaide Adams, yn dod i’r dref i berfformio, mae Jane, yn ddiarwybod iddi, yn dod â morwyn Adelaide, Katie, i’r fan. Ond mae perfformiad Katie yn llwyddiant ysgubol ac, er mwyn dangos ei diolchgarwch, mae Katie’n addo troi Jane yn ‘ledi’. Mae’r fersiwn ysgafn hon o arwres go iawn y Gorllewin Gwyllt yn sioe gerdd ‘western’ sydd yn llawn asbri, salŵns a gynnau. + Ymunwch â ni ar ôl y dangosiad ar Sul 15 Mai am drafodaeth Lavender Screen, pan fyddwn yn trafod Martha Jane Canary, y Calamity Jane go iawn, a statws y ffilm hon yn y canon o ffilmiau hoyw. Gweler y manylion ar dudalen 28 am y dangosiad o Calamity Jane sy’n addas i bobl sy’n byw â dementia.
28
Ffilm
029 2030 4400
Still Alice
WYTHNOS YMWYBYDDIAETH O DEMENTIA
Still Alice
On Golden Pond
UDA/2015/101mun/12A. Cyf: Wash Westmoreland, Richard Glatzer. Gyda: Julianne Moore, Alec Baldwin, Kristen Stewart.
UDA/1981/109mun/PG. Cyf: Mark Rydell. Gyda: Katharine Hepburn, Henry Fonda, Jane Fonda.
Llun 16, Mer 18 + Sad 21 Mai
Mae Alice Howland, sydd yn wraig ac yn fam i dri o blant mewn oed, yn athro ieithyddiaeth enwog sy’n dechrau anghofio geiriau. Ar ôl cael diagnosis ysgytwol, dinistriol, caiff undod teulu Alice ei brofi i’r eithaf. Mae ei brwydr i aros mewn cysylltiad â’r person yr arferai hi fod yn frawychus, yn dorcalonnus ac yn ysbrydoledig — a’r perfformiad canolog yn odidog.
Playtime
Llun 16, Sad 21 + Sul 29 Mai Ffrainc/1967/115mun/PG. Cyf: Jacques Tati. Gyda: Jacques Tati, Barbara Dennek, Rita Maiden.
Yn y gomedi feistrolgar a dyfeisgar hon, mae Monsieur Hulot yn ceisio gwneud ei ffordd o gwmpas y Baris fodern â’i chwmwl-grafwyr gwydra-dur modern a hynny ar y cyd â grŵp o dwristiaid Americanaidd. + Ymunwch â ni am drafodaeth ar ôl y dangosiad yng nghwmni grŵp ffilmiau cwlt Chapter 13 ar Llun 16 Mai.
Iau 19 + Gwe 20 Mai
Yn eu tŷ haf ar lannau llyn, caiff gwyliau heddychlon yr hen bâr priod, Ethel a Norman, ei ddifetha gan eu merch, Chelsea, sy’n cyrraedd yno gyda’i dyweddi newydd a’i fab yntau. Mae Chelsea’n cyhoeddi ei bod am dreulio mis yn teithio gyda’i chariad newydd — ac mae hi’n gadael y bachgen gyda’r hen gwpwl. Ffilm ddelicet am heneiddio a perthnasoedd teuluol sy’n cynnwys perfformiadau anhygoel gan rai o enwau mwyaf Hollywood.
“ Wrth wylio’r ffilm, teimlwn fy mod yn cael cip ar rywbeth prin a gwerthfawr” Roger Ebert
Myles Leadbeatter Cydlynydd Prosiect Dementia I gyd-fynd ag wythnos o ymwybyddiaeth o dementia sy’n dechrau ar ddydd Sul 15 Mai, bydd Chapter yn cyflwyno wythnos o ddangosiadau i godi ymwybyddiaeth ynghyd â dangosiadau i bobl sy’n byw â dementia ar 19 a 20 Mai. Cyflwynir y dangosiadau hyn mewn awyrgylch hamddenol a chyfeillgar — bydd goleuadau’r sinema ychydig yn llai tywyll nag arfer ac fe fydd staff hyfforddedig wrth law hefyd. Bydd te, coffi a bisgedi ar gael ar ôl y dangosiadau ar 19 a 20 Mai ac fe fydd yna gyfle i chi gymdeithasu. Bydd cymdeithas Alzheimer hefyd yn bresennol yn Chapter yn ystod yr wythnos ac yn darparu sesiynau hyfforddi ‘ffrindiau dementia’ i unrhyw un a fydd yn dymuno mynychu. I gael mwy o, fanylion ewch i www.chapter. org/cy/season/dementia-friendlyscreenings neu ffoniwch ein swyddfa docynnau ar 02920304400.
Ffilm
29
Gyda’r cloc o’r chwith: Robot and Frank, NT Encore: A View From A Bridge, Poetry
chapter.org
Robot and Frank
Mer 18, Gwener 20 + Maw 31 Mai UDA/2012/85mun/12A. Cyf: Jake Schreier. Gyda: Frank Langella, James Marsden, Liv Tyler, Susan Sarandon.
Yn y dyfodol agos, mae Frank yn lleidr wedi ymddeol ac mae ei blant mewn oed yn poeni na all fyw mwyach ar ei ben ei hun. Maent yn cael eu temtio i’w osod mewn cartref nyrsio tan i fab Frank ddewis opsiwn arall: yn groes i ddymuniadau’r hen ddyn, mae e’n prynu robot iddo, robot sy’n cerdded, yn siarad ac wedi cael ei raglennu i wella iechyd corfforol a meddyliol yr hen ddyn. Mae’r stori ddilynol yn ddoniol ac yn dorcalonnus ac yn awgrymu bod ffrindiau a theulu i’w canfod yn y mannau mwyaf annisgwyl. Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael — gweler y calendr am fanylion. + Ymunwch â ni ar ôl y dangosiad ar Gwe 20 Mai am drafodaeth Tinted Lens, cydweithrediad rhwng Chapter, Prifysgol Caerdydd a’r BFI.
Poetry
Maw 17, Iau 19 + Sul 22 Mai De Corea/2010/136mun/12A. Cyf: Lee Chang-dong. Gyda: Jeong-hie Yun, Nae-sang Ahn, Hira Kim.
Â’i merch yn byw ymhell i ffwrdd, mae Mija’n gofalu em ei hŵyr cythryblus ac yn gweithio hefyd fel nyrs. Fodd bynnag, ar ôl cael diagnosis o glefyd Alzheimer, ac ar sail digwyddiad o’i gorffennol, mae hi’n penderfynu cofrestru ar gyfer dosbarth barddoniaeth. Mae Disgrifiadau Sain ar gael — gweler y calendr am fanylion.
NT Encore: A View From A Bridge Iau 12 Mai DG/2014/150mun/12A. Cyf: Ivo van Hove. Gyda: Mark Strong.
Yn Brooklyn, mae’r llwythwr llongau, Eddie Carbone, yn croesawu ei gefndryd o Sisili i deyrnas breuddwydion. Ond ar ôl i un ohonynt syrthio mewn cariad â’i nith hardd, maent yn darganfod bod rhyddid yn beth drudfawr. Mae cenfigen Eddie yn datgelu cyfrinach ddofn, annisgrifiadwy sy’n ei yrru, yn y pen draw, i gyflawni gweithred o frad eithafol. Mae’r dramodydd mawr, Arthur Miller, yn ymwneud â’r freuddwyd Americanaidd yn y stori dywyll ac angerddol hon.
Ffilm
029 2030 4400
Mustang
Jane Got a Gun
Gwe 13 — Iau 19 Mai
Llun 23 — Iau 26 Mai
Twrci/2016/97mun/is-deitlau/15. Cyf: Deniz Gamze Ergüven.
UDA/2015/98mun/15. Cyf: Gavin O’Connor. Gyda: Natalie Portman, Joel Edgerton, Ewan McGregor.
O’r chwith i’r dde: Mustang, Jane Got a Gun
30
Mewn pentref yng ngogledd Twrci, mae Lale a’i phedair chwaer yn cerdded adref o’r ysgol ac yn chwarae’n ddiniwed â chwpwl o fechgyn. Mae anfoesoldeb honedig eu chwarae yn tanio sgandal ag iddi ganlyniadau annisgwyl. Caiff cartref y teulu ei drawsnewid yn raddol yn garchar; mae gwersi cadw tŷ yn disodli gwersi ysgol a phriodasau’n dechrau cael eu trefnu. Mae ffoi fel petai’n amhosib — ond mae’n rhaid iddynt roi cynnig arni. Archwiliad pwerus, dwys a hardd o rywioldeb benywaidd a rhagrith mewn cymdeithas geidwadol. Enwebiad am Oscar y Ffilm Dramor Orau yng Ngwobrau’r Academi 2016
The Man Who Knew Infinity Gwe 2o Mai — Iau 2 Mehefin DG/2016/109mun/12A. Cyf: Matt Brown. Gyda: Jeremy Irons, Dev Patel, Stephen Fry, Toby Jones.
Ar ôl cael ei godi mewn tlodi ym Madras, India, mae Srinivasa Ramanujan Iyengar yn ennill mynediad i Brifysgol Caergrawnt yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Dyw e ddim wedi derbyn rhyw lawer o addysg ond mae ganddo ddau lyfr nodiadau yn llawn damcaniaethau a fformiwlâu. A than arweiniad yr Athro GH Hardy, mae e’n dangos bod athrylith, weithiau, yn wahanol iawn i’r bydysawd, yn anesboniadwy. Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael — gweler y calendr am fanylion.
Mae Jane a’i gŵr yn cael eu herlid gan y ‘bounty hunter’, John Bishop. Ond ar ôl dod o hyd i gorff celain ei gŵr, mae Jane yn sylweddoli bod angen iddi ei hamddiffyn ei hun ac mae hi’n cyflogi ei hen ffrind, Dan Frost, i’w helpu. ‘Western’ hen ffasiwn sydd hefyd yn gipolwg cyfoes ar gyfnod yr arloeswyr.
Demolition Gwe 27 Mai — Iau 2 Mehefin UDA/2015/101mun/15. Cyf: Jean-Marc Vallée. Gyda: Jake Gyllenhaal, Naomi Watts, Chris Cooper.
Ar ôl colli ei wraig mewn damwain car, mae Davis yn ei chael hi’n amhosib ymdopi â’i golled ac mae e’n dechrau dadfeilio. Mewn eiliad o ddicter, mae e’n ysgrifennu cwyn at gwmni sy’n gwneud peiriannau gwerthu ac yn dod i sylw’r swyddog gwasanaeth cwsmeriaid, Karen. Mae hynny’n arwain at berthynas annhebygol. Ar ôl dymchwel ei fywyd blaenorol, yn gorfforol ac yn emosiynol, mae Davis yn dechrau ailadeiladu ei fyd, o’r tu mewn. Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael — gweler y calendr am fanylion.
chapter.org
31
Ffilm
Kung Fu Panda 3
FFILMIAU I’R TEULU CYFAN Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Cinderella
Sul 1 + Llun 2 Mai UDA/1950/71mun/U. Cyf: Wilfred Jackson, Clyde Geronimi, Hamilton Luton Luske. Gyda: Ilene Woods, James MacDonald, Eleanor Audley.
Ar ôl i lysfam greulon Cinderella ei hatal rhag mynychu’r ddawns frenhinol, caiff y ferch ifanc help annisgwyl gan y llygod hoffus, Gus a Jaq, a chan ei Dewines Garedig. Yn seiliedig ar yr un stori werin ag a ysbrydolodd ddrama Shakespeare, King Lear, mae’r ffilm hon yn un o glasuron oesol Disney.
Noddir gan Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk 02920 666688
Inside Out
Sad 21 + Sul 22 Mai UDA/2015/94mun/U. Cyf: Pete Docter, Ronaldo Del Carmen. Gyda: Amy Poehler, Bill Hader.
Ar ôl i’r Riley ifanc gael ei thynnu o’i bywyd yn y Midwest a’i symud i San Francisco, mae ei hemosiynau — Llawenydd, Ofn, Dicter, Ffieidd-dod a Thristwch — yn ymaflyd â’i gilydd er mwyn dod o hyd i’r ffordd orau o ymdopi â dinas, tŷ ac ysgol newydd. Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael — gweler y calendr am fanylion.
The Iron Giant: Signature Edition
Up
UDA/1999/83mun/U. Cyf: Brad Bird. Gyda: Jennifer Aniston, Vin Diesel, Harry Connick Jr.
Ar ôl bygythiad i ddymchwel ei dŷ, mae Carl Fredricksen, 78 oed, yn mynd â’i gartref i Paradise Falls gyda chymorth balwnau niferus. Ond, yn ddiarwybod iddo, mae teithiwr cudd ifanc o’r enw Russell wedi ymuno ag ef ar y daith.
Sad 7 + Sul 8 Mai
Mae bachgen ifanc yn dod yn ffrindiau â robot mawr o’r gofod ond mae asiant llywodraethol paranoid eisiau dinistrio ei gyfaill newydd. I ddathlu penblwydd y ffilm hon yn 15 oed, dyma fersiwn newydd ohoni sy’n cynnwys dwy olygfa newydd.
Kung Fu Panda 3
Sad 7 + Sul 8, Sad 14 + Sul 15 Mai UDA/2016/95mun/PG. Cyf: Alessandro Carloni, Jennifer Yuh. Gyda: Jack Black, Bryan Cranston, Angelina Jolie.
Yn yr antur newydd ardderchog hon, rhaid i Po wynebu dau fygythiad epig a gwahanol: un sydd yn oruwchnaturiol a’r llall yn nes o dipyn at adre’.
Zootropolis
Sad 28 Mai — Iau 2 Mehefin UDA/2016/108mun/PG. Cyf: Byron Howard, Rich Moore, Jared Bush. Gyda: Idris Elba, Shakira, JK Simmons, Jason Bateman.
Mewn dinas wedi’i rheoli gan anifeiliaid, rhaid i lwynog twyllodrus ar ffo a heddwas o gwningen weithio gyda’i gilydd i ddatguddio cynllwyn dirgel. Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael — gweler y calendr am fanylion.
Sad 21 + Sul 22 Mai UDA/2009/97mun/U. Cyf: Pete Docter, Bob Peterson. Gyda: Christopher Plummer, Edward Asner, Jordan Nagai.
Batman vs Superman Sad 28 Mai — Iau 2 Mehefin
UDA/2016/151mun/12A. Cyf: Zack Snyder. Gyda: Ben Affleck, Henry Cavill, Amy Adams, Gal Gadot.
Mae Batman yn poeni bod Superman yn gweithredu’n ddireolaeth ac yn mynd ati, felly, i herio’r uwch-arwr mewn coch a glas. Â Batman a Superman yn ymladd ei gilydd, mae Lex Luthor yn creu bygythiad newydd, o’r enw Doomsday. Rhaid i Superman a Batman gymodi — ac ymuno a Wonder Woman hefyd — i atal Lex Luthor a Doomsday rhag dinistrio Metropolis. Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael — gweler y calendr am fanylion.
Carry On Screaming Bob dydd Gwener am 11am, mae Carry On Screaming yn cynnig cyfle i rieni neu ofalwyr weld ffilm heb orfod poeni y bydd eu babi’n aflonyddu ar eraill. Gweler y calendr am fanylion y dangosiadau arbennig hyn i bobl â babanod dan flwydd oed.
32
Gwybodaeth / Archebu
029 2030 4400
GWYBODAETH Sut i Archebu Tocynnau
Gwybodaeth
Dros y ffôn — ffoniwch ni ar 029 2030 4400. Rydym yn derbyn pob un o’r prif gardiau credyd. Galwch heibio — mae ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 11am–8.30pm, ac ar y Sul o 3pm–8.30pm. Ar–lein: Gallwch archebu ar www.chapter.org bob awr o’r dydd a’r nos Consesiynau: Mae cyfraddau disgownt ar gael i fyfyrwyr, pobl dros 60 oed, plant, y di–waith, pobl anabl, deiliaid cerdyn MAX ac i Ffrindiau Chapter a deiliaid Cerdyn Chapter. Bydd angen i chi gyflwyno prawf o’ch cymhwyster i dderbyn cyfradd ostyngol. Archebion grŵp: Prynwch 8 tocyn ac fe gewch chi’r 9fed yn RHAD AC AM DDIM. Noder os gwelwch yn dda • dim ond un disgownt y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw un adeg • rydym yn hapus i dderbyn archebion ymlaen llaw ond ni allwn gadw tocynnau i’r naill ochr • os cyrhaeddwch chi’n hwyr mae hi’n bosib y cewch chi’ch atal rhag mynychu eich digwyddiad. Cyflwynir rhai o’n ffilmiau â Disgrifiadau Sain ac Is–deitlau Meddal ond nid yw’r wybodaeth hon bob amser ar gael ar adeg argraffu’r cylchgrawn. Gweler ein gwe–fan am fanylion neu piciwch draw i’r Swyddfa Docynnau yn ystod yr wythnos y mae’r ffilm yn cael ei rhyddhau.
Cwmnïau ac Artistiaid Cysylltiedig Mae Chapter yn gartref i gwmnïau theatr, cwmnïau dawns, stiwdios animeiddio, gwneuthurwyr printiau, crochenwyr, dylunwyr graffeg, dylunwyr deunydd symudol, cyfansoddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, cyhoeddwyr cylchgronau, artistiaid annibynnol a llawer iawn mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.
Sinema Cyn 5pm O 5pm ymlaen Llawn £4.50 (£4.00) £7.90 (£7.20) Disg £3.50 (£3.00) £5.80 (£5.10) Cerdyn + Disg £3.00 (£2.50) £5.00 (£4.50) DISGOWNT DYDD MAWRTH Tocynnau’r holl brif ddangsiadau — £4.40
Gweithdai a Dosbarthiadau Rydym yn cynnal amrywiaeth eang o weithdai dyddiol a dosbarthiadau gydag ymarferwyr annibynnol, gan gynnwys ballet, zumba, ioga, crefft ymladd, massage i fabanod, cerddoriaeth i blant, pilates, tango, fflamenco, ysgrifennu creadigol, gwersi cerddoriaeth a mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.
Sut i gyrraedd Chapter Fe ddewch chi o hyd i ni yn Nhreganna, i’r gorllewin o ganol y ddinas. Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE Ar Droed Mae hi’n daith gerdded hamddenol o ryw 20 munud o ganol y ddinas. Ar Fws Mae bysus rhif 17, 18 a 33 yn aros gerllaw ac yn gadael bob pum munud o ganol y ddinas. Ar Feic Mae digon o raciau beic ar flaen yr adeilad. Parcio Mae gennym faes parcio yng nghefn yr adeilad ac mae meysydd parcio lleol eraill wedi eu nodi ar y map. Gofynnwn i chi barchu ein cymdogion os gwelwch yn dda drwy osgoi parcio mewn strydoedd cyfagos.
Prisiau ymlaen llaw/ar–lein mewn cromfachau. Mae “Ymlaen llaw” yn golygu unrhyw bryd cyn diwrnod y dangosiad.
aff nd Lla
d Roa
e St. Glynn
arc
lyF
Heo
o 6pm
cen res
Ha m i l t o n
St
t
Gr
ad
mC ha
Road
St. ay
Treganna
Le c h kwit
Church Rd.
Heol Ddwy rein i o l y B o n t F a en Penllyn Rd.
Harve
nd Wy
rn Seve
ane
. Library St
L Gray
M a rk e t P l . treet yS
St Talbot
Orc h a r d P l.
King’s Ro
d hna
Springfield Pl.
St. Gray
rt S
t.
Road
Earle Pl.
A l be
P — meysydd parcio rhad ac am ddim — rac feics
r R—oadarhosfan bysus Majo
I Ganol Dinas Caerdydd ton
ling Wel
Stre
et
Mynediad i bawb Mae Chapter yn croesawu ymwelwyr anabl. Os oes gennych anghenion mynediad penodol, ffoniwch ein swyddfa docynnau ar 029 2030 4400.
chapter.org
Cymryd Rhan
33
CYMRYD RHAN Cerdyn CL1C
Cadwch mewn cysylltiad
Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawr–lwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!
Ymunwch â ni ar–lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.
Ffrindiau Chapter Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40
eAmserlen rad ac am ddim eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E–bostiwch adam.chard@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e–bost.
Cynllun Myfyrwyr Chapter Ydych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth am ddim a manteisio ar gynigion arbennig nodedig, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Jennifer — jennifer.kirkham@chapter.org www.chapter.org/cy/myfyrwyr
Rydym yn falch o fod yn rhan o Hynt. www.hynt.cymru Hoffai Chapter gydnabod cefnogaeth hael y sefydliadau a’r grwpiau canlynol:
Noddir Theatrau Chapter gan rodd David Seligman er cof am Philippa Seligman Sefydliad Esmée Fairbairn Cronfa Gymunedol Tirlenwi Rhaglen Ddiwylliant yr UE Sefydliad Garfield Weston Sefydliad Foyle Gwobr Biffa Cronfa Loteri Fawr Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston Grŵp Admiral Cyf Sefydliad Moondance ar gyfer y Celfyddydau a Chwaraeon Sefydliad Elusennol Trusthouse Plant mewn Angen y BBC Waitrose Sefydliad Waterloo Sefydliad Henry Moore Ymddiriedolaeth Ynni Gwyrdd ScottishPower SEWTA Sefydliad y Brethynwyr
WRAP Google Sefydliad Jane Hodge Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson Ymddiriedolaeth People’s Postcode Ymddiriedolaeth Feddygol Dunhill Legal & General Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm Ymddiriedolaeth Ernest Cook Sefydliad Boshier–Hinton Lloyds TSB Barclays Celfyddydau & Busnes Cymru Ymddiriedolaeth Austin & Hope Pilkington Gwestai Puma: Gwesty’r Angel Caerdydd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru
Ymddiriedolaeth Elusennol Gibbs Ymddiriedolaeth Elusennol Steel Ymddiriedolaeth Oakdale Cwmni Plastig Dipec Nelmes Design Ymddiriedolaeth Elusennol Coutts Elusen Wake Bruce Funky Monkey Feet Sefydliad Finnis Scott Cote Brasserie Banc Unity Trust RWE Tidal Lagoon Power Hugh James Cymdeithas Celfyddydau Cyfoes Cymru Western Power Distribution
Aelodau Clwb Chapter: Prifysgol Fetropolitan Caerdydd Clearstream Technology Broomfield & Alexander Tincan 1st Office Urban Solar Patronbase Golley Slater Effective HRM Little Casino Stills Branding CDF Cyfrifwyr BPU MLM Cartwright Rheolwyr Cyfoeth SLD Capital Law Modern Television Arup Cyfrifwyr EST Tradebox Media