Chapter Sinema Mehefin

Page 1

029 2030 4400

@chaptertweets

chapter.org


02

Croeso

chapter.org

CROESO Croeso i Ganllaw Bach Sinema Chapter mis Mehefin. Mae’n addo bod yn fis bywiog, wrth i ni gynnal Gŵyl Ffilm Werdd y DG ar y cyd â Gŵyl Un Blaned dinas Caerdydd. Â phymtheg o ffilmiau sy’n tynnu sylw at faterion amgylcheddol, gallwch edrych ymlaen at weld dogfennau hardd a phryfoclyd fel Chasing Ice a More than Honey, neu fwynhau hen ffefrynnau o’r dyfodol ôl-apocalyptaidd fel Mad Max. Mae Cine Phonic, ein cyfres o ffilmiau cerddoriaeth newydd yn parhau gydag ambell ffilm ddogfen wych, yn cynnwys The Stone Roses: Made of Stone, gan y cyfarwyddwr nodedig, Shane Meadows (This Is England), sy’n dilyn y band chwedlonol wrth iddyn nhw ailffurfio ar ôl 16 mlynedd ar wahân ar gyfer gig o flaen 220,000 o’u ffans. Draw yng nghlwb nos Bogiez, bydd noson Noys R Us yn mynd â ni yn ôl i 1991 i fyd Sonic Youth, Nirvana a llu o fandiau cyffrous a oedd ar drothwy llwyddiant byd-eang. Mae yna ddigon o ffilmiau newydd hefyd, sy’n cynnwys fersiwn newydd gyffrous o Much Ado About Nothing a’r chwerw-felys Love is All You Need. Chwilio am arddangosfa neu berfformiad i brocio’r meddwl? Beth am gael golwg ar ein gwe-fan neu ar brif gylchgrawn Chapter — neu trowch i dudalen 12 i weld beth arall sy’n digwydd yn Chapter y mis hwn.

Siaradwch â ni @chaptertweets facebook.com/Chapter-cinema enquiry@chapter.org Delweddau’r clawr gyda’r cloc o’r chwith: Chasing Ice, Populaire, The Great Gatsby

Chapter Heol y Farchnad Caerdydd CF5 1QE 029 2030 4400 minicom 029 2031 3430 www.chapter.org enquiry@chapter.org


Sinema

03

O’r chwith i’r dde: The Great Gatsby, The Gatekeepers

chapter.org

The Great Gatsby Gwe 31 Mai — Iau 20 Mehefin Awstralia/2013/143 mun/12A. Cyf: Baz Luhrmann. Gyda Carey Mulligan, Jason Clarke, Joel Edgerton, Leonardo DiCaprio, Tobey Maguire.

Mae addasiad hir-ddisgwyliedig Luhrmann o nofel F. Scott Fitzgerald yn wledd i’r llygad, fel y byddech yn ei ddisgwyl gan gyfarwyddwr Moulin Rouge. Mae Nick Carraway, o’r Midwest, yn cael ei hudo i fyd afradlon ei gymydog, Jay Gatsby. Ond buan y daw Carraway i weld trwy’r craciau ym modolaeth nouveau riche Gatsby. Mae obsesiwn, gwallgofrwydd a thrasiedi yn eu disgwyl ...

The Gatekeepers Gwe 31 Mai — Iau 6 Mehefin

Yr Almaen/2012/101mun/is-deitlau mewn mannau/15. Cyf: Dror Moreh. Gyda: Ami Ayalon, Avi Dichter, Avraham Shalom, Carmi Gillon, Yaakov Peri, Yuval Diskin.

Mae’r ffilm ddogfen onest a syfrdanol hon gan Moreh, cyfarwyddwr o Israel, yn cynnwys cyfweliadau gyda chwech o gyn-benaethiaid Shin Bet, asiantaeth ddiogelwch Israel a sefydlwyd ym 1949 i arwain yr ymgyrch wrthderfysgaeth ac i gasglu cuddwybodaeth. Am y tro cyntaf, byddant yn siarad yn ddi-flewyn-ar-dafod am fyd du a gwyn o wleidyddiaeth a gwrthdaro. Nid oes angen gwybodaeth drylwyr o hanes modern y Dwyrain Canol er mwyn gwerthfawrogi’n llwyr ba mor ryfeddol yw’r cyfraniadau hyn.

Rebellion

Gwe 31 Mai — Iau 6 Mehefin Ffrainc/2011/136mun/is-deitlau/15. Cyf: Mathieu Kassovitz. Gyda: Mathieu Kassovitz, Benoit Jaubert

Pan fo rebeliaid yn un o drefedigaethau Ffrainc yn cymryd 30 o heddweision yn wystlon, caiff capten uned gwrth-derfysgaeth ei anfon i ganol yr helynt i drafod ateb heddychlon. Ond â hithau’n gyfnod etholiad arlywyddol yn Ffrainc, mae’r sefyllfa’n llawn tensiwn annisgwyl ac fe all unrhyw beth ddigwydd ... Mae Kassovitz (La Haine) yn dychwelyd — fel actor a chyfarwyddwr — â ffilm rymus a threisgar, yn seiliedig ar ddigwyddiadau go iawn.

Clwb Ffilmiau Gwael Supersonic Man Sul 2 Mehefin

Sbaen/1979/88mun/PG. Cyfarwyddwyd gan Juan Piquer Simon.

Mae alien yn cael ei anfon i’r ddaear i ymladd troseddwyr — mae Supersonic Man yn gallu gwrthsefyll bwledi, ymladd â nerth mil o ddynion a throi gynnau yn fananas. Yn anffodus, yr hyn nad yw e’n gallu’i wneud yw gwneud ffilm ystyrlon. Dewch i’n gweld ni’n achub y byd — fe allai eich bywyd chi fod yn y fantol! Noder: Cyflwynir sylwebaeth fyw gydol y ffilm.

MovieMaker Chapter Llun 3 Mehefin Sesiwn reolaidd i gyfarwyddwyr annibynnol ddangos ffilmiau byrion. RHAD AC AM DDIM

Dangosiad Graddedigion Prifysgol Morgannwg Llun 3 Mehefin, 6-8pm Ymunwch â ni ar gyfer y dangosiad hwn o ffilmiau gan fyfyrwyr y cwrs BA (Anrh) Ffilm a Fideo a’r cwrs BA (Anrh) mewn Cynhyrchu Cyfryngol, yn yr Atrium, Ysgol Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol Caerdydd, Prifysgol Morgannwg. Ar y noson, bydd yna wobrau i’r ffilm ddogfen orau ac i’r ddrama fer orau. Mae tocynnau yn rhad ac am ddim a gellir eu harchebu yn ein swyddfa docynnau.


04

Sinema

029 2030 4400

ˆ GWYL FFILM WERDD Y DG +UN BLANED, CAERDYDD Rydym yn falch iawn o allu dwyn ynghyd Ŵyl Ffilm Werdd y DG, sy’n cael ei chynnal mewn canolfannau ledled y DG, a Gŵyl Ffilm Caerdydd: One Planet Living. Mae manylion siaradwyr a digwyddiadau i’w gweld ar ein gwe-fan. Gallwch weld manylion digwyddiadau seiclo yr wythnos hon ar www.oneplanetcardiff.co.uk a www.cardiffcyclefestival.co.uk

Mad Max

Sul 2 + Maw 4 Mehefin Awstralia/1979/93mun/18. Cyf: George Miller. Gyda: Mel Gibson, Hugh Keays-Byrne.

Wedi’i gosod mewn dyfodol ôl-apocalyptaidd lle mae darnau diffaith o briffyrdd yng nghefn gwlad Awstralia wedi troi’n feysydd brwydrau gwaedlyd, mae’r heddwas vigilante, Max Rockatansky, yn mynd ati i ddial cam ei bartner a’i deulu a gafodd eu llofruddio gan aelodau o gang beic modur gwyllt.

Diwrnod Amgylchedd y Byd: ‘Trashed’ + Ffilm fer A Love Story in Milk Mer 5 Mehefin

UDA/2012/98mun+2fun/12A. Cyf: Candida Brady. Gyda: Jeremy Irons.

Mae Jeremy Irons yn mynd ati i ddarganfod ystod ac effeithiau gwastraff byd-eang wrth iddo deithio o amgylch y byd i gyrchfannau prydferth sydd wedi cael eu distrywio gan lygredd. Mae hon yn daith ddewr, fanwl a hynod ddiddorol sy’n ein harwain ni i dristwch ac arswyd a gobaith.

Big Boys Gone Bananas Sad 8 Mehefin

Sweden/2011/90mun+10mun/dim tyst. Cyf: Fredrik Gertten.

Them!

Sul 9 + Maw 11 Mehefin UDA/1954/94mun/PG. Cyf: Gordon Douglas. Gyda: James Whitmore, Edmund Gwenn, Joan Weldon.

Un o’r ffilmiau gorau am greaduriaid ar ddechrau’r oes atomig. Mae Them! yn dychmygu proffwydoliaeth Feiblaidd sy’n cael ei gwireddu ar ôl profion atomig yn New Mexico. Caiff morgrug eu troi’n angenfilod rheibus sy’n bygwth dynolryw.

O’r top i’r gwaelod: Mad Max, Trashed, Big Boys Gone Bananas

Yn 2009, ymgyrchodd Dole Food Company i atal pâr o wneuthurwyr ffilm o Sweden rhag dangos eu ffilm ddogfen, Bananas! yng ngŵyl ffilm Los Angeles. Mae Gertten yn adrodd hanes ei archwiliad personol o’r hawl ar ryddid mynegiant a’r hyn sy’n digwydd i wneuthurwr ffilmiau dogfen pan fydd yn ceisio brwydro yn erbyn corfforaeth fawr fel Dole.


Sinema

05

O’r chwith i’r dde: More Than Honey, Soylent Green

chapter.org

F*ck For Forest

Gwe 14 — Llun 17 Mehefin Gwlad Pwyl/2012/86mun/18. Cyf: Michal Marczak. Gyda: Tommy Hol Ellingsen, Leona Johansson.

F*ck For Forest ym Merlin yw un o elusennau rhyfeddaf y byd. Yn seiliedig ar y syniad y gall rhyw achub y byd, mae’r NGO yn codi arian ar gyfer achosion amgylcheddol drwy werthu ffilmiau erotig cartref ar-lein. Dewch i gwrdd â Danny, enaid cythryblus, wrth iddo ymuno â’r sefydliad lliwgar hwn. O strydoedd Berlin i ddyfnderoedd yr Amazon, maen nhw ar genhadaeth i achub y blaned, i brynu darn o goedwig ac achub y pobloedd brodorol sy’n byw yno o grafangau maleisus y byd Gorllewinol.

More Than Honey

+ Ffilm fer The Lonely Dodo Sul 16 Mehefin

Y Swistir/2012/95mun+10mun/dim tyst. Cyf: Markus Imhoof.

Mae’r ffilm ddogfen rymus hon yn defnyddio technegau arloesol i daflu goleuni ar yr argyfwng gwenyn byd-eang, yng Nghaliffornia, y Swistir, Tsieina ac Awstralia. Mae tranc heidiau cyfain wedi anrheithio’r boblogaeth ac mae gwyddonwyr yn dal yn ansicr o union natur y ffenomen farwol. Mae’r gwenynwr Imhoof yn cyf-weld â gwenynwyr eraill, yn mynd ati i archwilio natur y drychineb ac yn trafod atebion posib.

“Pan fydd pobl yn meddwl am wenyn, maen nhw’n meddwl fel arfer am fêl a phigiadau. Mae cadw gwenyn yn debyg iawn i’r ddelwedd honno — mae yna uchafbwyntiau ac isafbwyntiau. Heb sôn am ddioddef o glefydau byd-eang, mae gwenyn yn greaduriaid sy’n agored i newid o ganlyniad i newidiadau hinsoddol. Mae ein gwanwyn anarferol o oer wedi achosi marwolaeth llawer iawn ohonynt, o unigrwydd a newyn, gan fod y tywydd oer yn ei gwneud hi’n anodd iddyn nhw ddod o hyd i fwyd y tu allan i’w clystyrau. “ — Roger Phillips, Garddwr i Erddi Cymunedol Treganna.

Peak

+ Ffilm fer The Man Who Lived on his Bike Sul 16 Mehefin

Yr Almaen/2011/86min+3mun/dim tyst. Cyf: Hannes Lang.

Mae’r mynyddoedd yn galw a phob blwyddyn mae cannoedd o filoedd o dwristiaid yn heidio i’w paradwys wen, aeafol. Mae’r ffilm hon yn bortread godidog o’r Alpau yng nghyd-destun technoleg sy’n gorthrymu byd natur yn ddi-baid.

Valley of Saints

+ Ffilm fer A Shifting Culture Sul 16 Mehefin

India/2012/82mun+10mun/is-deitlau/dim tyst. Cyf: Musa Syeed. Gyda: Mohammed Afzal, Gulzar Ahmed Bhat, Neelofar Hamid.

Mae rhyfel a thlodi yn gorfodi Gulzar, cychwr ifanc sy’n darparu gwasanaethau i dwristiaid, i adael Kashmir gyda’i ffrind gorau. Ond daw ymgyrch filwrol i amharu ar eu dihangfa ac fe gânt eu caethiwo yn y pentref. Wrth iddyn nhw aros i’r sefyllfa newid, dônt o hyd i fenyw ddirgel, ac maen nhw’n mentro allan, er gwaetha’r cyrffyw, i astudio’r llyn sy’n marw. Wrth i Gulzar syrthio mewn cariad â’r fenyw, mae cystadleuaeth a chenfigen yn bygwth ei gyfeillgarwch â’i ffrind, ynghyd â’u cynlluniau i ddianc. Hon yw’r ffilm gyntaf i gael eu gosod yn y cymunedau gerllaw llyn dan fygythiad yn Kashmir. Mae Valley of Saints yn cyfuno ffuglen a dogfen i arwain cynulleidfaoedd i fan cwbl unigryw.

Soylent Green

Sul 16 + Maw 18 Mehefin UDA/1973/97mun/15. Cyf: Richard Fleischer. Gyda: Charlton Heston, Leigh Taylor-Young, Edward G Robinson, Joseph Cotton.

Mewn dyfodol o orboblogi dybryd, mae ditectif heddlu yn Efrog Newydd yn ei gael ei hun ar restr o bobl i’w lladd gan asiantau llywodraethol ar ôl iddo ddysgu am fwyd newydd chwyldroadol a chyfrinachol. Mae cynsail y ffilm gyffro gwlt hon mor frawychus heddiw ag yr oedd 40 mlynedd yn ôl.


Sinema

029 2030 4400

Chasing Ice

The Village at The End of the World

O’r chwith i’r dde: Chasing Ice, The Village at the End of the World

06

Maw 18 — Iau 20 Mehefin UDA/2012/76mun/12A. Cyf: Jeff Orlowski. Gyda James Balog, Svavar Jonatansson

Dilynwn ffotograffydd National Geographic, James Balog, ar draws yr Arctig wrth iddo fynd ati i greu delweddau o newidiadau i rewlifoedd y byd. Mae fideos ingol Balog yn cywasgu blynyddoedd i rai eiliadau ac yn cofnodi symudiadau mynyddoedd iâ hynafol wrth iddyn nhw ddiflannu yn beryglus o gyflym. Gyda thîm ifanc ar daith ar hyd tri chyfandir, mae’r risgiau’n enfawr wrth iddo ddilyn y stori fwyaf yn hanes dynoliaeth.

The Day the Earth Caught Fire Sul 23 + Maw 25 Mehefin

UDA/1961/98mun/PG. Cyf: Val Guest. Gyda: Edward Judd, Janet Munro, Leo McKern, Michael Goodliffe.

Mae panig gwyllt wedi meddiannu’r byd ar ôl i’r Unol Daleithiau a’r Undeb Sofietaidd benderfynu ffrwydro dyfeisiau niwclear ar yr un pryd. Mae hyn yn achosi i’r Ddaear droi oddi ar ei hechel a phlymio tuag at yr Haul, ynghyd â llifogydd a thanau difrifol. Mae papur newydd cenedlaethol yn adrodd hanes y newidiadau dramatig yn hinsawdd y byd ac yn llwyddo i berswadio’r Llywodraeth i gyfaddef bod y sefyllfa’n waeth o lawer nag a ddychmygwyd. Ffilm gwlt ddeallus a brawychus sy’n gofyn y cwestiwn, “Beth os...?”.

The China Syndrome Sul 30 Mehefin

UDA/1979/122mun/PG. Cyf: James Bridges. Gyda: Jane Fonda, Jack Lemmon, Michael Douglas.

Pan fo gohebydd teledu yn digwydd gweld mor agos y mae’r orsaf niwclear leol at ddamwain ddifrifol, mae’n darganfod bod trachwant corfforaethol a thorri corneli wedi arwain at ddiffygion a allai fod yn angheuol. Wrth iddi geisio dod â’r achos i lygad y cyhoedd, mae marwolaethau dirgel tystion allweddol yn profi ei bod hi’n rhan o stori fwy o lawer nag a ddychmygodd.

Gwe 7 — Iau 12 Mehefin

DG/2012/78mun/is-deitlau/PG. Cyf: Sarah Gavron.

Mae pentrefan anghysbell o’r enw Niaqornat, yng ngogledd pell Yr Ynys Las, yn gartref i 59 o bobl a 100 o gŵn. Clywn gyfres o sgyrsiau onest â Lars, arddegwr sy’n hoff o hip-hop a Man Utd ac sy’n chwilio am gariad ar Facebook ac Annie, yr henadur sy’n cofio dulliau’r Shaman. Caiff y cyfan ei gydblethu â delweddau trawiadol o newidiadau tymhorol y rhew a’r eira. Mae’r ffilm yn gipolwg optimistaidd ar y modd y mae’r pentrefwyr yn addasu i effeithiau newid hinsoddol ac effeithiau globaleiddio ar ‘fywyd sy’n diflannu’.

“Saga i dwymo’r galon o’r Gogledd Pell rhewllyd” Hollywood Reporter

Club Foot Foot yn Cyflwyno... LOLcataclysm: Cultural Meltdown Spectacular! Mer 26 Mehefin

Mae Club Foot Foot yn dychwelyd â’u detholiad unigryw o sbwriel sinematig, sothach gwych a bagbibau i’r llygaid! Ymunwch â Casey Raymond am olwg anghytbwys ar broffwydoliaethau o ddiwedd y byd, trychinebau amgylcheddol a’r dyfodol ôl-apocalyptaidd yn y casgliad hwn o ffilmiau byrion, fideos a delweddau hapgael sy’n sicr o wneud i chi weddïo am gael gweld y diwedd yn dod! (Noder: nid yr un sioe yw hon â Cultural Meltdown Spectacular y llynedd, wir yr!) www.clubfootfoot.com www.caseyraymond.com


chapter.org

Sinema

Populaire

The Audience

Gwe 7 — Iau 20 Mehefin

Iau 13 Mehefin, encore ar ddydd Llun 24 Mehefin

Ffrainc/2013/111mun/12A. Cyf: Regis Roinsard. Gyda: Romain Duris, Berenice Bejo, Deborah Francois.

Wedi’i lleoli yn Ffrainc y 1950au, mae’r ffilm hon yn adrodd hanes Rose, merch i siopwr sy’n breuddwydio am ddianc o’i phentref bach a phrofi ychydig o gyffro bywyd. Ar ôl gadael ei chartref i weithio fel ysgrifenyddes, mae ei dawn arbennig â theipiadur yn denu sylw Louis Echard, sy’n hyfforddi Rose i gystadlu yng nghystadlaethau teipio ffyrnig y wlad. Ag arddull weledol syfrdanol a gwisgoedd gwych, mae Populaire yn gomedi-ramant chic a moethus, ac yn disgleirio â swyn Hollywoodaidd oes a fu.

“Cyfuniad o Mad Men a The Artist” Hollywood Reporter

A Hijacking Gwe 7 — Mer 12 Mehefin Denmarc/2012/99mun/is-deitlau/15. Cyf: Tobias Lindholm. Gyda: Johan Philip Asbaek, Soren Maling, Dar Salim.

Gyda’r cloc o’r chwith i’r dde: Populaire. A Hijacking, Love is All You Need

Mae’r llong gargo MV Rozen ar ei ffordd i’r harbwr pan gaiff ei herwgipio gan fôr-ladron o Somalia yng Nghefnfor India. Ymysg y dynion ar ei bwrdd mae cogydd y llong, Mikkel, a’r peiriannydd, Jan, sydd, ynghyd â gweddill y morwyr, yn wystlon mewn gêm sinigaidd o fywyd a marwolaeth. Wrth i’r môr-ladron ofyn am filiynau o ddoleri yn gyfnewid am fywydau’r morwyr, mae drama seicolegol yn datblygu rhwng Prif Swyddog Gweithredol y cwmni a’r môr-ladron eu hunain.

07

Cyf: Stephen Daldry. Gyda: Helen Mirren.

Dros gyfnod o drigain mlynedd, mae Elizabeth II wedi cyfarfod â phob un o’i deuddeg o Brif Weinidogion mewn cyfarfod preifat wythnosol ym Mhalas Buckingham. Mae The Audience yn dychmygu cyfres o gyfarfodydd allweddol â Phrif Weinidogion o Churchill i Cameron — cyfarfodydd sydd weithiau’n ffrwydrol ac ar brydiau eraill yn debycach i gyffesgell. Wrth olrhain camau ei bywyd — o fod yn fam ifanc i fod yn fam gu — mae’r gwleidyddion yn mynd ac yn dod. Ond drwy’r cyfan, mae’r frenhines yn aros i groesawu’r Prif Weinidog nesaf. Mae tocynnau ar gyfer y dangosiad byw yn £17.50 / £14 / £13 Mae tocynnau ar gyfer yr encore wedi’i recordio ymlaen llaw, ar Llun 24 Mehefin, yn £13/£11/£10

Love Is All You Need Gwe 14 — Iau 20 Mehefin Denmarc/2012/116mun/15. Cyf: Susanne Bier. Gyda: Pierce Brosnan, Trine Dyrholm, Paprika Steen.

Ar ôl dychwelyd adref o sesiwn olaf triniaeth gemotherapi lwyddiannus, mae Ida yn canfod ei llabwst o ŵr yn y gwely ag un o’i gyd-weithiwr. Mae hi’n mynd ar ei phen ei hun i Sorrento, i fynychu priodas ei merch Astrid â Patrick. Hefyd yn bresennol mae Philip, tad di-lol Patrick, sy’n ŵr gweddw golygus ond anfodlon ei fyd. Pan gaiff hapusrwydd y cwpl ifanc ei beryglu, caiff Ida a Philip eu dwyn at ei gilydd i geisio adfer y sefyllfa — ac i ddysgu bod yna ail gyfle iddyn nhw hefyd, efallai.


Sinema

029 2030 4400

Gyda’r cloc o’r chwith: Like Someone In Love, Much Ado About Nothing, Therese Desqueyroux

08

Like Someone in Love Gwe 21 — Iau 27 Mehefin Ffrainc/2012/109mun/12A. Cyf: Abbas Kiarostami. Gyda: Denden, Rin Takanashi, Ryo Kase.

Gadawodd Kiarostami (Certified Copy a Ten) ei gartref yn Iran er mwyn cwblhau’r ddrama ramantus a hardd hon a gafodd ei ffilmio’n gyfan-gwbl yn Japan. Yn canolbwyntio ar gyfarfyddiad byr rhwng athro oedrannus a myfyrwraig cymdeithaseg sy’n gweithio hefyd fel ‘escort girl’, mae’r cleient diweddaraf fel petai’n fwy awyddus i goginio cawl a sgwrsio nag i gael rhyw. Wrth iddi wawrio, mae yna wrthdaro a thensiwn wrth i gariad cenfigennus y fyfyrwraig ymddangos ond, fel yn y rhan fwyaf o ffilmiau Kiarostami, dyw popeth ddim fel yr ymddengys ar yr wyneb.

“Ffilm gain a chelfydd. Gêm hudolus o nwydau rhyfedd a hunaniaethau ansicr” Hollywood Reporter

Much Ado About Nothing Gwe 21 — Iau 27 Mehefin UDA/2012/107mun/12A. Cyf: Joss Whedon. Gyda: Alexis Denisof, Amy Acker, Clark Gregg.

Golwg gyfoes ar gomedi glasurol Shakespeare gan y cyfarwyddwr, Joss Whedon [Avengers Assemble, Buffy The Vampire Slayer]. Wedi ei ffilmio mewn du a gwyn dros gyfnod o 12 diwrnod yn unig ym mhlasty’r cyfarwyddwr ei hun yn LA, mae hanes y cariadon dadleugar, Beatrice a Benedick, yn gipolwg tywyll, rhywiol ac abswrd ar gêm gymhleth cariad. Wrth i gynllwynion gael eu rhoi ar waith ac wrth i’r cymeriadau esgus bod yn bobl eraill, buan y gwelwn fod casineb a chariad yn llathenni o’r un brethyn.

Thérèse Desqueyroux Gwe 28 Mehefin — Iau 11 Gorffennaf Ffrainc/2012/110 mun/is-deitlau/12A. Cyf: Claude Miller.Gyda: Audrey Tautou, Gilles Lellouche, Anais Demoustier.

Mae Thérèse yn wraig ifanc rwystredig yn Ffrainc yr 1920au ac yn mygu mewn priodas o gyfleustra. Ar ôl gweld ei ffrind gorau yn cychwyn ar garwriaeth angerddol â dyn ifanc golygus, mae Thérèse yn ysu am gael dianc i fywyd bohemaidd oes jazz Paris. Mae hi’n dysgu bod meddyginiaeth ei gŵr yn cynnwys arsenig ac yn rhoi cynllun ar waith ... Mae’r ffilm yn felodrama gyfnod ac yn addasiad gogoneddus o nofel glasurol François Mauriac ac mae Tautou yn cyfleu cymeriad dwys a chymhleth, yn llawn o ddolur a phoen a chariad a thristwch.

“Ar ôl Amélie, mae Tautou wedi dod o hyd i rôl sy’n gwneud cyfiawnder â’i doniau” Piers Handling, Gŵyl Ffilm Ryngwladol Toronto


O’r chwith i’r dde: The Stone Roses: Made of Stone, The Year Dolly Parton Was My Mom

chapter.org

Sinema

09

Cine Phonic The Stone Roses: Made Of Stone Gwe 21 — Iau 27 Mehefin

DG/2012/96mun/TICh. Cyf: Shane Meadows. Gyda: The Stone Roses.

Yn ystod haf 2012, ailffurfiodd y band enwog, The Stone Roses, ar ôl 16 mlynedd ar wahân. Mae’r cyfarwyddwr nodedig, Shane Meadows, yn rhoi ei arddull, ei hiwmor a’i ddyfnder emosiynol unigryw ar waith mewn ffilm am y band, wrth iddyn nhw ymarfer ar gyfer eu gigs buddugoliaethus yn Heaton Park ym Manceinion, o flaen cynulleidfa o 220,000. Yn cynnwys deunydd nas gwelwyd o’r blaen, mae’r gwaith hwn yn gofnod cyflawn o yrfa’r band dros gyfnod o 25 mlynedd.

Something In The Air Gwe 21 — Iau 27 Mehefin

Ffrainc/2012/122mun/is-deitlau/12A. Cyf: Oliver Assayas. Gyda: Clement Metayer, Lola Creton, Felix Armand.

1971. Mae Gilles yn fyfyriwr ysgol uwchradd ym Mharis. Yn ymddiddori mewn chwyldroadau celfyddydol a cherddorol, caiff ei hun yn rhan o brotestiadau gwleidyddol peryglus, dan ddylanwad ei ffrindiau a’i gariad radicalaidd, Christine, yn arbennig. Ar ôl fandaleiddio’r ysgol, mae Gilles a’i ffrindiau yn ffoi i’r Eidal lle maen nhw’n treulio haf bohemaidd yn symud o barti i barti ac o ralïau i ddangosiadau ffilm agitprop, a’r cwbl i gyfeiliant trac sain roc godidog.

Lavender Screen Maw 25 Mehefin

The Year Dolly Parton Was My Mom UDA/95mun/2011/PG. Cyf: Tara Johns. Gyda: Dolly Parton, Gil Bellows, Julia Sarah Stone.

Mae hi’n 1976 ac mae Elizabeth Alison Gray yn blentyn 11 oed digon normal. Mae hi’n byw mewn maestref ddigon normal ac yn edrych ymlaen at fod yn arddegwr. Ond mae hynny cyn iddi ddysgu bod ei bywyd cyfan, tan y foment honno, wedi bod yn seiliedig ar gelwydd. Â dim ond ei dychymyg i’w harwain, mae hi’n rhedeg i ffwrdd i ddod o hyd i’w gwir hunaniaeth. Gwaith teimladwy a doniol am ddod i oed sy’n edrych ar y tensiwn rhwng creu hunaniaeth a dod o hyd i hunaniaeth sydd eisoes yn bodoli ar y tu mewn. Ymunwch â ni ar ôl y dangosiad ar gyfer grŵp trafod ffilm LGBT Chapter

I Don’t Feel at Home in This World Anymore: Ffilmiau, straeon a delweddau o archif Mississippi Records ac Alan Lomax Sul 30 Mehefin 8pm

Deunydd ffilm prin a rhyfeddol sy’n dwyn ynghyd dros 400 awr o ddelweddau, rhwng 1978 ac 1985, o archif chwedlonol Alan Lomax, ac archif canu gwerin, blŵs, gospel, cerddoriaeth fyd-eang a phync Eric Isaacson o Mississippi Records. Gyda chyflwyniad gan Eric ei hun, a fydd yn bresennol i adrodd straeon am y cerddorion, mae hon yn addo bod yn noson ardderchog a dathliad unigryw o gerddoriaeth danddaearol a welodd olau dydd diolch i archif rhyfeddol Lomax.

Noys R Us ym Mar Roc a Chlwb Nos Bogiez

Ar ddydd Sul olaf y mis byddwn yn cymryd eich hoff ffilmiau alt/roc/metal/pync i’ch hoff glwb roc. Yfwch, ymlaciwch a gwyliwch rai o’r ffilmiau cerddorol mwyaf ffrwydrol erioed.

1991: The Year Punk Broke

Sul 30 Mehefin Drysau’n agor am 7.00pm, Ffilm am 8pm UDA/1992/99mun. Cyf: David Markey.

Mae’r ffilm ddogfen hon yn dilyn yr arloeswyr avantgarde Sonic Youth ar eu taith i wyliau Ewropeaidd ym 1991, wrth iddyn nhw gyflwyno brîd newydd o fandiau a oedd ar fin newid hanes cerddoriaeth boblogaidd am byth. Wedi’i ffilmio fis cyn rhyddhau albwm nodedig Nirvana, ‘Nevermind’, mae’r ddogfen hon yn cynnwys lluniau o’r band a oedd, yn ddiarwybod iddyn nhw, ar fin arwain mudiad diwylliannol enfawr. Yn llawn sgrechian adborth a muriau o sŵn, mae Sonic Youth yn arwain y frwydr yn erbyn byd roc arwynebol yr 80au, ynghyd â pherfformwyr fel Dinosaur Jr, Babes in Toyland, Courtney Love a Bob Mould. Mae tocynnau’n costio £5 a gellir eu prynu drwy www.chapter.org ac yn Bogiez


10

Sinema

029 2030 4400

Gyda’r cloc o’r chwith: The Act of Killing, Come As You Are, The Iceman

The Act of Killing Gwe 28 Mehefin — Iau 4 Gorffennaf Denmarc/2013/115mun/15. Cyf: Joshua Oppenheimer.

Yn y 1960au, roedd Anwar Congo yn un o arweinwyr mudiad para-filwrol yn Indonesia o’r enw Ieuenctid Pancasila ac roedd yn gyfrifol, ar y cyd â’i ddilynwyr taer, am lofruddio ac arteithio mwy na miliwn o Gomiwnyddion honedig, Tsieiniaid ethnig a deallusion. Yn falch o’u gweithredoedd ac â’u traed yn rhydd, mae Anwar a’i ffrindiau yn defnyddio actorion, yn adeiladu setiau cywrain a hyd yn oed yn defnyddio effeithiau pyrotecnig i ail-greu’r llofruddiaethau ar gyfer y ffilm ddogfen hon. Mae Anwar yn frwdfrydig iawn ar y cychwyn ond, wrth i drais y ffilm gael ei ailgreu, mae e’n dechrau teimlo anesmwythder ... ac edifeirwch.

“Dw i ddim wedi gweld ffilm mor bwerus, mor swrrealaidd a mor frawychus ers degawd o leiaf… Mae hwn yn waith digymar yn hanes y sinema.” — Werner Herzog

Come As You Are Gwe 28 Mehefin — Iau 11 Gorffennaf Gwlad Belg/2012/108mun/is-deitlau/15. Cyf: Geoffrey Enthoven. Gyda: Robrecht Vanden Thoren, Gilles De Schryver, Tom Audenaert.

Mae tri ffrind ifanc anabl yn penderfynu mynd ar daith i golli eu gwyryfdod ar ôl clywed am buteindy yn Sbaen i “bobl fel ni”. Mae Josef bron yn gyfan gwbl ddall, mae Philip mewn cadair olwyn ac mae Lars yn dioddef o salwch terfynol dirywiol sy’n achosi parlys a ffitiau achlysurol. Wedi’i ysbrydoli gan brofiadau’r ymgyrchydd a’r siaradwr ysgogol, Asta Philpot, mae’r ffilm orfoleddus hon yn dilyn hanes y cymeriadau ar ôl i Lars dderbyn prognosis anffafriol, pan â’r ffrindiau gyda’i gilydd i’w helpu ef i fwynhau i’r eithaf weddill ei fywyd.

The Iceman Gwe 28 Mehefin — Iau 4 Gorffennaf UDA/2012/105mun/15. Cyf: Ariel Vromen. Gyda: Michael Shannon, Winona Ryder, James Franco, Ray Liotta, Chris Evans, David Schwimmer.

Ffilm yn seiliedig ar stori wir, am Richard Kuklinski, llofrudd cyflog â chysylltiadau â theuluoedd troseddol arfordir Dwyreiniol yr UDA yn ystod y 1950au hwyr. Ar ôl ennill y llysenw “The Iceman”, yn dilyn ei arfer o rewi cyrff er mwyn twyllo ymchwilwyr yr heddlu, mae’r ffilm gyffro iasol hon yn cyfleu ymddygiad gwaed oer y prif gymeriad a’i effeithlonrwydd marwol. Er byw mewn byd o glybiau pŵl, theatrau porno a lladd-dai gwaedlyd, mae Richie’n llwyddo i gynnal bywyd teuluol cymharol normal gyda’i wraig a’i blant — tan i’w “swydd” arswydus ddod i’r amlwg, yn araf bach a bob yn dipyn.

“Un o bleserau pennaf ‘The Iceman’ yw rhagoriaeth dawel y cast ensemble — mae’r ffilm yn llawn perfformiadau cain ac annisgwyl”. Variety


chapter.org

Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn. Archebwch ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Chimpanzee

Gwe 31 Mai + Sad 1 Mehefin

UDA/2012/78mun/U. Cyf: Alastair Fothergill, Mark Linfield. Gyda: Tim Allen (adroddwr)

Mae tsimpansî 3-mis-oed yn cael ei wahanu oddi wrth ei gyd-anifeiliaid ac yn cael ei fabwysiadu gan ddyn yn y ffilm ddogfen hardd hon gan Disney.

Dangosiad mewn Amgylchiadau Arbennig o The Croods [2D] Diwrnod Ffilm Rhad ac am Ddim i’r Teulu Cyfan Sul 2 Mehefin, 10.30am-2pm

Ymunwch â ni am ddiwrnod ffilm rhad ac am ddim i’r teulu cyfan, ynghyd â gweithdy creadigol dan ofal Contact a Family Cymru. Mae’r digwyddiad hwn yn agored i deuluoedd plant ag anableddau a/neu anghenion ychwanegol. Dyfyniad gan Riant: “Doedd dim angen poeni am blentyn yn crio neu’n ymddwyn yn amhriodol — a dim ond ar ôl i mi gyrraedd adref y sylweddolais nad oeddwn i wedi bod dan straen o gwbl yn ystod y diwrnod — ac nad oedd yr un o’r teuluoedd eraill i’w weld dan straen chwaith. Dw i’n siŵr i hyn gael effaith gadarnhaol ar y plant. Roedd yn brofiad arbennig iawn i’r teulu cyfan.” I gael mwy o wybodaeth ac i archebu lle i’ch teulu chi, anfonwch e-bost at wales.events@cafamily.org.uk neu gallwch ffonio 029 2039 6624 neu 01978 351769.

Gweithdy Animeiddio ‘Stop’ dan ofal Make More Films a Green City Sul 16 Mehefin, 11am-4pm

Gweithdy i blant 8-14 oed a fydd yn canolbwyntio ar greu animeiddio ‘stop’ â deunyddiau sydd i’w canfod yn ein bagiau ailgylchu. Ffordd hwyliog a chreadigol o ymwneud â phynciau amgylcheddol. £8/7

Sinema

11

Noddir gan Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk 02920 666688

Carry On Screaming!

Bob dydd Gwener am 11am, mae Carry On Screaming yn galluogi i rieni neu ofalwyr weld ffilm heb orfod poeni y bydd eu babi’n aflonyddu ar eraill. Gweler y calendr am fanylion. Ar gyfer pobl â babanod dan flwydd oed yn benodol.

The Croods[2D] Sul 2 + Sad 8 Mehefin

UDA/2013/90mun/U. Cyf: Chris Sanders, Kirk DeMicco. Gyda: Nicolas Cage, Emma Stone, Ryan Reynolds, Catherine Keener.

Pan gaiff eu hogof ei dinistrio, mae teulu’r Croods, o Oes y Cerrig, yn gorfod dod o hyd i gartref newydd mewn byd rhyfedd ac annisgwyl lle mae Natur yn dal i greu’r creaduriaid mwyaf anarferol a lle mae’r cyfandiroedd yn dal heb gael eu pennu’n derfynol.

The Odd Life of Timothy Green Sad 15 Mehefin

UDA/2012/100mun/U. Cyf: Peter Hedges. Gyda: Jennifer Garner, Joel Edgerton.

Ar ôl i gwpl sy’n dymuno cael plentyn yn fwy nag unrhyw beth arall ysgrifennu eu dymuniad ar ddarn o bapur a’i gladdu yn yr ardd, mae syrpreis arbennig iawn yn eu disgwyl y bore wedyn.

All Stars [2D] Sad 22 Mehefin

UDA/2013/106mun/U. Cyf: Ben Gregor. Gyda: Theo Stevenson, Akai Osei-Mansfield.

Mae dau ffrind ifanc yn penderfynu cyflwyno sioe ddawns uchelgeisiol er mwyn achub eu canolfan ieuenctid yn y ddrama hwyliog hon sy’n llawn dawnsio afieithus.

Epic [2D]

Sad 29 Mehefin UDA/2013/mun/U. Cyf: Chris Wedge. Gyda: Beyoncé Knowles, Colin Farrell.

Epic

Mae byddin o bryfed yn galw ar greaduriaid mytholegol o’r enw ‘Leaf Men’ i’w helpu nhw i warchod eu gardd rhag brenhines ddrwg y corynnod mewn cartŵn sy’n seiliedig ar y llyfr i blant gan William Joyce.


12

Sinema

029 2030 4400

Celfyddyd

Perfformiadau

Mae’r Oriel yn cynnal arddangosfa unigol gyntaf Maurizio Anzeri yng Nghymru, sy’n cynnwys gweithiau comisiwn newydd a darnau nas gwelwyd o’r blaen, ynghyd â’i ddarnau ‘ffoto-gerfluniol’ nodedig. Bydd Celfyddyd yn y Bar yn cyflwyno gweithiau hardd ac atgofus Emma Bennett. Mae hi’n rendro powlenni o ffrwythau aeddfed, anifeiliaid marw a darnau o ffabrig cyfoethog â pherffeithrwydd absoliwt — ac yn cyfeirio hefyd at ochr dywyll y traddodiad hir o baentio bywyd llonydd. Mae cyfres o gardiau post ar gael, mewn argraffiadau cyfyngedig, i gyd-fynd â’r ddwy arddangosfa, ynghyd â dau boster arbennig gan Maurizio Anzeri. Ar gael o’r Swyddfa Docynnau.

Bydd mis Mehefin yn cychwyn â thriawd o berfformiadau gan Ffin Dance a noson o gerddoriaeth jazz, gwerin a blŵs yng nghwmni Sarah Gillespie. Wedi’u hysbrydoli gan nofelig Dostoiefsci, Y Dwbl, bydd Cwmni Theatr Volcano yn cyflwyno Blinda, antur synhwyraidd ac annisgwyl. Bydd y grŵp ‘psych-prog’ poblogaidd, Islet, yn lansio ail albwm a Dr Freud’s Cabaret yn lansio’i halbwm nhw, Studies in Hysteria — gwaith sydd wedi’i ysbrydoli gan gleifion enwog Freud. Daw arlwy’r mis i ben â chyflwyniad Faction Theatre, ‘Are you surprised my blood is the same colour as yours?’ a sioe Notional Theatre, “Awkward Turtle Flips the Bird”.

O’r chwith i’r dde: Maurizio Anzeri, Emma Bennett, Reverie, Tin Shed Theatre a Mercury Theatre Wales

Nid sinema yn unig yw Chapter. Dyma rai o’r cyflwyniadau — yn Gelfyddyd Weledol a Pherfformiadau — a fydd i’w gweld yn y ganolfan yn ystod mis Mehefin. I weld manylion llawn y rhaglen, gallwch lawr-lwytho ein llyfryn chwarterol o www.chapter.org.


Cerdyn Chapter

Gallwch arbed £££oedd ar bris pob tocyn sinema a theatr; cewch gopi am ddim bob mis o’r cylchgrawn hwn drwy’r post; taleb sinema am ddim a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig. Mae’r cerdyn hefyd yn gweithio fel Cerdyn CL1C. Cerdyn Sengl: £20/£10 Cerdyn i Ddau: £25/£20 (2 berson yn yr un cartref) Aelodaeth Lawn: Mwy fyth o fanteision — byddwch yn derbyn gwahoddiad i’r Cyfarfod Blynyddol a chopi o’r adroddiad blynyddol ynghyd â holl fanteision eraill Cerdyn Chapter. £40/£30

Chapter Card

Save £££s on all cinema and theatre tickets; free monthly mailing of this magazine; free cinema voucher; invitations to special events. Also doubles up as a CL1C Card. Single Card: £20/£10 Dual Card: £25/£20 (2 people in the same household) Full Membership: Get even more involved — You’ll be invited to our AGM, receive the annual report and get all the benefits of a Chapter Card. £40/£30

Weekly eListings straight to your inbox. E-mail megan.price@chapter.org with ‘Join Listings’ in the subject line.

Free eListings

Join us online www.chapter.org is the best place to go for more info on everything we do.

eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch megan.price@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.

eAmserlen rad ac am ddim

Ymunwch â ni ar-lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

Cadwch mewn cysylltiad

Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflrn y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawrlwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Chapter’s own reward card. Collect points when you visit the cinema or theatre and you’ll be surprised at how quickly you can claim a free ticket. Pick up a form next time you’re in or download from www.chapter.org. Watch out for this symbol to double your points!

Keep in touch

Cerdyn CL1C

CL1C Card

GET INVOLVED CYMRYD RHAN Institut für Auslandsbeziehungen e.V Millennium Stadium Charitable Trust The Ernest Cook Trust Lloyds TSB Morgan Signs Garrick Charitable Trust Barclays Arts & Business Cymru The Austin & Hope Pilkington Trust Singapore International Foundation Puma Hotels Collection: Cardiff Angel Hotel Cardiff Airport Wales Arts International Gibbs Charitable Trust Ceredigion Community Scheme The Steel Charitable Trust The Boshier-Hinton Foundation Oakdale Trust Nelmes Design

The Coutts Charitable Trust Bruce Wake Charity Funky Monkey Feet Finnis Scott Foundation Unity Trust Bank Hugh James Contemporary Art Society for Wales The Dot Foundry JVH Gidden & Rees Western Power Distribution HARMAN technology Limited Laguna Health & Spa Follett Trust Arts & Kids Cymru Canton High School Girl’s Reunion Co-operative Group IKEA Renault Cardiff GB-Sol Ltd City Satellites Embassy of Belgium Queensland Government

Registered Charity No. 500813* Rhif Elusen 500813

And all those individuals who have generously supported us through the redevelopment and beyond A’r holl unigolion hynny sydd wedi’n cefnogi ni’n hael drwy gydol cyfnod yr ailddatblygu ac ar ôl hynny

Landfill Community Fund Esmée Fairbairn Foundation The Baring Foundation Garfield Weston Foundation Foyle Foundation Biffaward Colwinston Charitable Trust Admiral Group plc Moondance Foundation Foundation for Sport and the Arts Trusthouse Charitable Foundation Community Foundation in Wales The Welsh Broadcasting Trust Richer Sounds Momentum The Henry Moore Foundation Google Jane Hodge Foundation Simon Gibson Charitable Trust People’s Postcode Trust Dunhill Medical Trust Legal & General

Chapter gratefully acknowledges the support it receives from the following: Hoffai Chapter gydnabod cefnogaeth hael y sefydliadau a’r grwpiau canlynol:


Events Digwyddiadau

Sat 1 Chimpanzee (U) p11 11.00 Rebellion (15) p3 5.30 Sad Chimpanzee (U) p11 3.00 The Gatekeepers (15) p3 8.20 The Great Gatsby (12A) p3 5.00 The Great Gatsby (12A) p3 8.00 Sun 2 Supportive Environment — The Croods (2D) (U) p11 11.00 Mad Max (18) p4 5.00 Cardiff Storytelling Circle 8.00 Sul The Great Gatsby (12A) p3 2.30 Bad Film Club: Supersonic Man (PG) p3 7.45 The Great Gatsby (12A) p3 5.30 The Great Gatsby (12A) p3 8.30 Mon 3 The Great Gatsby (12A) p3 8.15 The Great Gatsby (12A) p3 2.30 Welsh Unsigned Standup Award 7.30 Clonc yn y Cwtch 6.30 Llun University of Glamorgan Graduation Showcase p3 6.00 Chapter Moviemaker p3 6.00 Rebellion (15) p3 8.30 Tue 4 Mad Max (18) p4 2.30 Rebellion (15) p3 5.45 Maw The Great Gatsby (12A) p3 5.30 The Gatekeepers (15) p3 8.30 The Great Gatsby (12A) p3 8.30 Wed 5 The Great Gatsby (12A) p3 5.30 Rebellion (15) p3 2.30 Pop Up Produce Mer The Great Gatsby (12A) p3 8.30 World Environment Day: Trashed (12A) p4 6.00 4.00-7.00 The Gatekeepers (15) p3 8.15 Social Media Surgery 5.00-7.00 Thu 6 The Great Gatsby (12A) p3 2.30 Rebellion (15) p3 5.45 First Thursday 7.30 Iau The Great Gatsby (12A) p3 5.30 The Gatekeepers (15) p3 8.30 Ffin Dance triple bill 8.00 The Great Gatsby (12A) p3 8.30 Fri 7 Carry on Screaming: Populaire (12A) p7 11.00 A Hijacking (15) p7 6.00 Sarah Gillespie 8.00 Gwe Populaire (12A) p7 2.30 Village at the End of the World (PG) p6 8.10 Drones Comedy Club 8.30 The Great Gatsby (12A) p3 5.30 Populaire (12A) p7 8.30 Sat 8 The Croods (2D) (U) p11 11.00 Big Boys Gone Bananas (no cert) p4 6.00 Islet 7.30 Sad The Croods (2D) (U) p11 3.00 A Hijacking (15) p7 8.00 Populaire (12A) p7 5.30 The Great Gatsby (12A) p3 8.00 Sun 9 Populaire (12A) p7 2.30 Them! (PG) p4 5.00 Boardgaming Sunday Sul The Great Gatsby (12A) p3 5.15 A Hijacking (15) p7 7.30 5.30 Populaire (12A) p7 8.15 Mon 10 Populaire (12A) p7 5.45 A Hijacking (15) p7 6.00 Clonc yn y Cwtch 6.30 Llun The Great Gatsby (12A) p3 8.15 Village at the End of the World (PG) p6 8.10 Tue 11 Them! (PG) p4 2.30 Village at the End of the World (PG) p6 6.00 Maw The Great Gatsby (12A) p3 5.30 A Hijacking (15) p7 8.00 Populaire (12A) p7 8.30 Wed 12 Populaire (12A) p7 2.30 Village at the End of the World (PG) p6 6.00 Volcano: Blinda 8.00 Pop Up Produce Mer Populaire (12A) p7 5.45 A Hijacking (15) p7 8.00 4.00-7.00 The Great Gatsby (12A) p3 8.15 Thu 13 NT Live: The Audience p7 7.00 The Great Gatsby (12A) p3 2.30 Volcano: Blinda 8.00 SWDFAS Lecture 2.00 Iau Populaire (12A) p7 5.45 Dr Freud’s Cabaret Album Launch 8.00 The Great Gatsby (12A) p3 8.10 Fri 14 Populaire (12A) p7 5.45 Carry on Screaming: The Great Gatsby (12A) p3 11.00 Volcano: Blinda 8.00 Gwe Love Is All You Need (15) p7 8.15 Love Is All You Need (15) p7 2.30 The Great Gatsby (12A) p3 5.30 F*ck For Forest (18) p5 8.30 Sat 15 The Odd Life of Timothy Green (U) p11 11.00 F*ck For Forest (18) p5 6.15 Volcano: Blinda 8.00 Music Geek Monthly Sad The Odd Life of Timothy Green (U) p11 3.00 The Great Gatsby (12A) p3 8.15 3.30 Love Is All You Need (15) p7 6.00 Populaire (12A) p7 8.30 Sun 16 Populaire (12A) p7 5.45 More Than Honey (no cert) p5 2.15 Sul The Great Gatsby (12A) p3 8.15 Soylent Green (15) p5 4.15 Peak (no cert) p5 6.15 Valley of Saints (no cert) p5 8.15 Mon 17 Love Is All You Need (15) p7 6.00 F*ck For Forest (18) p5 6.15 Welsh Unsigned Standup Award 7.30 Clonc yn y Cwtch 6.30 Llun Populaire (12A) p7 8.30 The Great Gatsby (12A) p3 8.15 Volcano: Blinda 8.00

Cinema 1 Sinema 1 Cinema 2 Sinema 2 Theatre Theatr Gallery Oriel

June MEHEFIN

Art in the Bar: Emma Bennett: Thief of Time

Maurizio Anzeri: It’s Not Too Late It’s Only Dark


Before 5pm Cyn 5pm £4.50 (£4.00) £3.50 (£3.00) £3.00 (£2.50)

From 5pm O 5pm ymlaen £7.90 (£7.20) £5.80 (£5.10) £5.00 (£4.50)

Welsh Labour Festival Offsite: Noys R Us 7.00 1991 The Year…

Welsh Labour Festival

Welsh Labour Festival

Pop Up Produce 4.00-7.00

Clonc yn y Cwtch 6.30

Sunday Jazz 9.00

Pop Up Produce 4.00-7.00

Advanced/online prices in brackets. Prisiau ymlaen llaw/ar-lein mewn cromfachau. NB: Advanced = any time before the day of the screening. DS: Ymlaen llaw = unrhyw bryd cyn diwrnod y dangosiad.

Subtitled Screenings.

Bargain Tuesday! All main screening tickets £4.40 DISGOWNT DYDD MAWRTH Tocynnau’r holl brif ddangosiadau — £4.40

Cinema Sinema Full Llawn Concs Cons Card + Conc Cerdyn + Cons

Maurizio Anzeri: It’s Not Too Late It’s Only Dark

Sut i archebu tocynnau Dros y ffôn — ffoniwch ni ar 029 2030 4400. Rydym yn derbyn pob un o’r prif gardiau credyd. Galwch heibio — mae ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 11am-8.30pm, ac ar y Sul o 3pm — 8.30pm. Ar-lein: Gallwch archebu ar www.chapter.org bob awr o’r dydd a’r nos Consesiynau: Mae cyfraddau disgownt ar gael i fyfyrwyr, pobl dros 60 oed, plant, y di-waith, pobl anabl, deiliaid cerdyn MAX ac i Aelodau a deiliaid Cerdyn Chapter. Bydd angen i chi gyflwyno prawf o’ch cymhwyster i dderbyn cyfradd ostyngol. Archebion grŵp: Prynwch 8 tocyn ac fe gewch chi’r 9fed yn RHAD AC AM DDIM. Noder os gwelwch yn dda • dim ond un disgownt y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw un adeg • rydym yn hapus i dderbyn archebion ymlaen llaw ond ni allwn gadw tocynnau i’r naill ochr • os cyrhaeddwch chi’n hwyr mae hi’n bosib y cewch chi’ch atal rhag mynychu eich digwyddiad.

Art in the Bar: Emma Bennett: Thief of Time

How to Book By phone call us on 029 2030 4400. We accept all major credit cards. In person our Box Office is open Mon-Sat 11.00am — 8.30pm; Sun 3.00 — 8.30pm. Online: 24/7 booking at www.chapter.org Concessions: The concessionary rate applies to students, over 60s, children, unemployed, disabled people, MAX card, Chapter Members and Card holders. Proof of concession will be required. Group bookings: Buy 8 tickets and get the 9th free. Please Note • only one discount will be given at any one time • we are happy to take advance bookings but cannot reserve tickets • latecomers may be refused entry

Tue 18 Soylent Green (15) p5 2.30 The Great Gatsby (12A) p3 5.30 Volcano: Blinda 8.00 Maw Populaire (12A) p7 5.45 Chasing Ice (12A) p6 8.30 Love Is All You Need (15) p7 8.15 Wed 19 Chasing Ice (12A) p6 2.30 Chasing Ice (12A) p6 6.15 Volcano: Blinda 8.00 Mer Love Is All You Need (15) p7 6.00 The Great Gatsby (12A) p3 8.00 Populaire (12A) p7 8.30 Thu 20 Love Is All You Need (15) p7 2.30 The Great Gatsby (12A) p3 5.30 Volcano: Blinda 8.00 Iau Populaire (12A) p7 5.45 Chasing Ice (12A) p6 8.30 Slowly Rolling Camera 8.00 Love Is All You Need (15) p7 8.15 Fri 21 Carry on Screaming: Chasing Ice (12A) p6 11.00 The Stone Roses: Made of Stone (no cert) p9 6.15 Volcano: Blinda 8.00 Gwe Much Ado About Nothing (12A) p8 2.30 Something in the Air (12A) p9 8.30 Drones Comedy Club 8.30 Much Ado About Nothing (12A) p8 6.00 Like Someone in Love (12A) p8 8.20 Sat 22 All Stars (2D) (U) p11 11.00 Something in the Air (12A) p9 6.00 Josh Widdicombe 8.00 Sad All Stars (2D) (U) p11 3.00 The Stone Roses: Made of Stone (no cert) p9 8.30 Volcano: Blinda 8.00 Like Someone in Love (12A) p8 5.45 Much Ado About Nothing (12A) p8 8.15 Sun 23 Much Ado About Nothing (12A) p8 2.45 The Day the Earth Caught Fire (PG) p6 5.00 Sul Much Ado About Nothing (12A) p8 5.45 Something in the Air (12A) p9 7.30 Like Someone in Love (12A) p8 8.10 Mon 24 Encore NT Live: The Audience p7 1.30 The Stone Roses: Made of Stone (no cert) p9 6.15 Llun Like Someone in Love (12A) p8 6.00 Something in the Air (12A) p9 8.30 Much Ado About Nothing (12A) p8 8.20 Tue 25 The Day the Earth Caught Fire (PG) p6 2.30 Lavender Screen: The Year Dolly … (PG) p9 6.15 Maw Much Ado About Nothing (12A) p8 6.00 Something in the Air (12A) p9 8.30 Like Someone in Love (12A) p8 8.20 Wed 26 Like Someone in Love (12A) p8 6.00 The Stone Roses: Made of Stone (no cert) p9 2.30 Faction Theatre 8.00 Mer Much Ado About Nothing (12A) p8 8.20 Something in the Air (12A) p9 5.45 Club Foot Foot (18) p 6 8.30 Thu 27 Much Ado About Nothing (12A) p8 2.30 The Stone Roses: Made of Stone (no cert) p9 6.15 Faction Theatre 8.00 Iau Much Ado About Nothing (12A) p8 6.00 Something in The Air (12A) p9 8.30 Music Geek Monthly 8.00 Like Someone in Love (12A) p8 8.20 Fri 28 Carry on Screaming: Therese… (12A) p8 11.00 Come As You Are (15) p10 2.30 Faction Theatre 8.00 Gwe Therese Desqueyroux (12A) p8 2.30 Therese Desqueyroux (12A) p8 6.10 Therese Desqueyroux (12A) p8 6.00 The Act of Killing (15) p10 8.30 The Iceman (15) p10 8.30 Sat 29 Epic (2D) (U) p11 11.00 The Act of Killing (15) p10 6.00 Sad Epic (2D) (U) p11 3.00 Come As You Are (15) p10 8.30 Therese Desqueyroux (12A) p8 5.50 The Iceman (15) p10 8.15 Sun 30 The Act of Killing (15) p10 2.15 The China Syndrome (PG) p6 5.00 Sul The Iceman (15) p10 4.45 Therese Desqueyroux (12A) p8 7.30 I Don’t Feel At Home In This World Anymore p9 8.00

June MEHEFIN


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.