029 2030 4400
@chaptertweets
chapter.org
02
Croeso
029 2030 4400
CROESO Defnyddiwch y côd QR hwn i lawr-lwytho copi digidol o gylchgrawn Chapter
Delwedd y clawr: Sarah Duffy, Enjoy The Silence. Sub-cell: A View From Below, The Old Police Cells Museum, Brighton, 2014. Delwedd: Alice Jacobs.
Chapter Heol y Farchnad, Caerdydd CF5 1QE 029 2030 4400 www.chapter.org ymholiadau@chapter.org
Dylunio: Nelmes Design
Mae hi’n amser Experimentica eto (tt6-7)! Ddim eto’n gyfarwydd â’n gŵyl gelfyddydau byw? Os byddwch yn ymweld â Chapter yn ystod wythnos gyntaf mis Tachwedd, mae hynny’n siŵr o newid. Â’i rhaglen o berfformiadau arbrofol a chwareus gan artistiaid o bedwar ban byd, mae Experimentica yn aml yn gorlifo allan o ofod yr Oriel a’r theatr i mewn i’r caffi, y sinema a mannau eraill o amgylch yr adeilad. Mae’n chwa o awyr iach — ac yn ddogn iach hefyd o bethau boncyrs… Yn nes ymlaen y mis hwn, byddwn yn tapio ein traed ac yn mwynhau ychydig o ddawnsio arloesol, yng nghwmni Gŵyl Ddawns gyntaf Caerdydd (tt14-16) — mae Chapter yn falch iawn o fod yn un o ganolfannau’r ŵyl. Draw yn ein sinema, rydym yn parhau i gael ein ‘sgubo oddi ar ein traed gan dymor Cariad (tt2931). Ac er ein bod ni wrth ein boddau â thrip i’r sinema, byddwn yn mynd â phethau gam ymhellach y mis hwn drwy ddangos ambell stori serch hyfryd mewn cestyll godidog. Felly gwisgwch ddillad cynnes ac ymunwch â ni yng Nghastell Caerffili (t29) i wylio ffilm â mwg o siocled poeth moethus. Beth allai fod yn well ar noson dywyll ym mis Tachwedd? Diolch am ddarllen ac fe welwn ni chi cyn hir!
chapter.org
Uchafbwyntiau
Oriel tudalennau 4–9
Yfed Bwyta Llogi tudalen 10
Cefnogwch Ni
03
CYMRYD RHAN
tudalen 11
Theatr
Cerdyn CL1C
tudalennau 12–18
Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawrlwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!
Chapter Mix tudalen 19
Ffrindiau Chapter Sinema tudalennau 20–32
Addysg tudalen 33
Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40
Cadwch mewn cysylltiad Ymunwch â ni ar-lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.
Gwybodaeth a Sut i archebu tocynnau tudalen 34
eAmserlen rad ac am ddim eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch adam.chard@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.
Siaradwch â ni @chaptertweets facebook.com/chapterarts
Cymryd Rhan tudalen 35
Calendr tudalennau 36–37
Nodwch os gwelwch yn dda bod copïau print bras o’n cylchgrawn ar gael ar gais. Cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau ar 029 2030 4400.
Oriel
George Barber, The Freestone Drone. Fideo MU, 2013. Gyda chaniat창d waterside contemporary, Llundain.
04 029 2030 4400
chapter.org
Oriel
05
GEORGE BARBER: AKULA DREAM Tan ddydd Sul 10 Ionawr 2016 Daeth George Barber i’r amlwg yn y 1980au fel arloeswr gyda mudiad Scratch Video. Ers hynny, datblygodd gorff sylweddol ac amrywiol o waith, sydd yn ymgorffori deunydd ffilm hapgael, ymsonau perfformiadol a ffilmiau naratif. Rydym yn falch iawn o gyflwyno arddangosfa unigol uchelgeisiol o’r enw ‘Akula Dream’ a fydd yn cynnwys perfformiad cyntaf o waith newydd o’r un enw, ar y cyd â gweithiau diweddar o bwys, gan gynnwys Fences Make Senses (2014), The Freestone Drone (2013) a The Very, Very End (2014).
George Barber, ‘Beyond Language’: Gweithiau Fideo Dethol 1983 — 2008
Home Taping
I gyd-fynd â’n harddangosfa o weithiau diweddar a darnau newydd gan George Barber, rydym yn hynod falch o gyflwyno rhaglen LUX o ffilmiau a gynhyrchwyd gan yr artist rhwng 1983 a 2008. Mae’r dangosiad yn cynnwys nifer o weithiau enwocaf Barber — ac eraill hefyd — gan gynnwys Absence of Satan (1985), Yes Frank No Smoke (1985), 1001 Colours Andy Never Thought Of (1989), Hysbyseb Schweppes (1993), I Was Once Involved In A Shit Show (2003), Walking Off Court (2003), Automotive Action Painting (2007) a Following Your Heart Can Lead to Wonderful Things (2008).
Sad 7 Tachwedd 12pm Yn y 1980au cynnar, roedd cyfryngau’r prif ffrwd yn ymdebygu i lyfrgell anferth y gellid ei hysbeilio at bwrpasau chwareus a phryfoclyd. Boed hynny drwy ffilmio sgriniau teledu gyda chamera Super 8 neu gopïo tâp-i-dâp, aeth artistiaid ati i ddewis a dethol eu deunyddiau amrywiol a gosod y rheiny at ei gilydd er mwyn tarfu ar ideolegau dominyddol yr oes a chynhyrchu cerddoriaeth weledol newydd. Mae’r rhaglen yn cynnwys enghreifftiau nodedig o waith mudiad dylanwadol Scratch Video, gan gynnwys y gweithiau arloesol ‘Tilt’ a ‘Branson’ gan George Barber a ffilmiau gan The Duvet Brothers a Gorilla Tapes. Mae ‘Home Taping’ yn un o saith o raglenni ffilm wedi’u curadu yn rhan o’r prosiect teithiol nodedig, THIS IS NOW: FILM AND VIDEO AFTER PUNK. Cyflwynir y sioe gan LUX ar y cyd ag Archif Cenedlaethol y BFI. Mae’r gyfres yn archwilio gwaith artistiaid ffilm a fideo o’r cyfnod ôl-pync (1978-1985), pan arweiniodd argaeledd technoleg ddomestig rad at greu dulliau newydd o fynegiant a hynny mewn arddull DIY ddiedifar. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn www.lux.org.uk Hyd y rhaglen gyfan: 75 min Cyflwynir y dangosiad gan George Barber ac fe’i dilynir gan sgwrs rhwng Barber a Rik Lander (The Duvet Brothers). RHAD AC AM DDIM
Gyda chyflwyniad a thrafodaeth yng nghwmni George Barber a Louisa Fairclough Sad 5 Rhagfyr 2pm
RHAD AC AM DDIM
O’r chwith i’r dde: Delwedd o Gorilla Tapes, The Commander in Chief, 1984; Delwedd o Duvet Brothers, Blue Monday, 1984, pob un o’r delweddau â chaniatâd caredig yr artistiaid a LUX
Arddangosfa ar agor: Dyddiau Mawrth, Mercher, Sadwrn a Sul 12-6pm; dydd Iau a dydd Gwener 12-8pm; ar gau ar ddydd Llun
06
Oriel
029 2030 4400
EXPERIMENTICA15 ARE YOU ASKING FOR EVIDENCE OF THE TRUTH?
MER 4 — SUL 8 TACHWEDD KATHRYN ASHILL, GEORGE BARBER, RICHARD BOWERS, TIM BROMAGE, GARETH CLARK, TOM CASSANI, HOLLY DAVEY, Sian Robinson Davies, GABRIEL DHARMOO, KARIN DIAMOND & DUNCAN BETT, DOG KENNEL HILL PROJECT, DOPPELGANGSTER, SARAH DUFFY, Tim Etchells, THOMAS GODDARD, HARANCZAK/NAVARRE, SamUEL Hasler, ANNA NATT, ROSA NUSSBAUM, PHIL OWEN & PHIL HESSION, PME-ART, MIKE PEARSON, JOHN ROWLEY & IAN WATSON, SLEEPDOGS, BEN TINNISWOOD & TRACY HARRIS, AARON WILLIAMSON, GREG WOHEAD & RACHEL MARS, DAWN WOOLLEY Mae EXPERIMENTICA yn ŵyl bum-niwrnod o gelfyddyd, perfformiadau a phrosiectau rhyngddisgyblaethol byw ac mae’n llwyfan pwysig i artistiaid o Brydain ac o bedwar ban byd. Mae EXPERIMENTICA yn ddifyr, yn beryglus, yn ddryslyd, yn wir bob gair, yn chwareus, yn bryfoclyd, yn ffraeth ac yn boenus — ac yn unrhyw beth arall dan haul! I gael gwybodaeth am yr holl artistiaid sy’n cymryd rhan, codwch lyfryn Experimentica. Mae gwybodaeth a Thocynnau Gŵyl ar gael yn www.chapter.org/cy/experimentica15. Gyda’r cloc o’r chwith uchaf: Anna Natt, Uro. Llun: Roger Rossell; HARANCZAK / NAVARRE, Seven Falls2 Llun: Richard Kenworthy, PME-ART. Llun: David Jacques; Kathryn Ashill, Poster Boy; Tom Cassani
chapter.org
Oriel
07
Oriel
029 2030 4400
Magda Archer, Text Me Yeah?, 2014
08
CELFYDDYD YN Y BAR
Magda Archer #givemeeverythingandnothingbaby Llun 16 Tachwedd 2015 — Sul 24 Ionawr 2016 Mae arddangosfa Magda Archer, #givemeeverythingandnothingbaby, yn ymosodiad ar bla sy’n dinistrio ein mannau cyhoeddus — disgwrs sydd yn llawn negeseuon siwgwrllyd, datganiadau ac athroniaeth rad, deunydd pacio ‘vintage’, cardiau cyfarch, graffeg retro a melyster sitrig sy’n cuddio’r gwirionedd chwerw dan yr wyneb. Bydd Magda Archer yn llenwi muriau ein Caffi Bar â ffragmentau enfysaidd wrth iddi archwilio emosiynau sy’n seiliedig ar sothach a dilysrwydd honedig ar-lein. “Yn fy sioe #givemeeverythingandnothingbaby, mae’r rhyngrwyd yn rhyw fath o ffair fodern: mae’n gyffrous, yn ddeniadol, yn gyflym ac yn sgleiniog — ond y mae hefyd yn siomedig ac yn dorcalonnus. Gallwch gael torri eich calon yn ystod yr amser a gymer i gael reid ar y ‘dodgems’. Gall eich hunan-barch gael ei chwalu gan sylw diofal gan ‘ffrind’ ar Facebook. Gall eich ego gael ei dorri’n ddarnau mân ar ôl i rywun eich tagio mewn llun ... ydych chi wir yn edrych fel yna?
“Peidiwch â dweud wrtha’ i — #dwiddimeisiaugwybod. Gall yr emosiynau hyn arwain at deimladau o anobaith, gofid neu dor-calon. Gallwn wagio ein pocedi wrth geisio ennill rhywbeth nad oeddem ni ei eisiau yn y lle cyntaf. Rydym yn addunedu i beidio byth a dychwelyd ac yn gwybod, go iawn, ‘bod y shit yma’n ein diraddio’. Ond r’ych chi yn dychwelyd, mae’r goleuadau’n eich denu, mae’r gerddoriaeth yn uchel ac yn atyniadol — ac mae pawb arall yno. R’ych chi’n dod ar draws ffrindiau eich ffrind ac maen nhw’n ffrindiau i chi nawr hefyd, on’d ‘yn nhw?” — Magda Archer, Ebrill 2015 Cafodd #givemeeverythingandnothingbaby ei churadu gan Bren O’Callaghan ac fe’i comisiynwyd gan Ganolfan Gelfyddydau HOME, Manceinion. Cewch fwy o wybodaeth yn www.homemcr.org
Oriel
09
Heather & Ivan Morison, Love Me Or Leave Me Alone. Llun: Jaime Woodley
chapter.org
Oddi ar y brif safle
Dyddiad i’r dyddiadur
HEATHER & IVAN MORISON LOVE ME OR LEAVE ME ALONE
Artes Mundi 7
Cerflun cywrain a chrefftus yw LOVE ME OR LEAVE ME ALONE. Y mae hefyd yn adeilad gweithredol — adeilad parhaol cyntaf yr artistiaid yn y DG — a chiosg a fydd yn cynnig bwyd a diod unigryw. Ysbrydolwyd yr artistiaid gan eglwysi erwydd Norwy a siediau ad hoc ar draethau ar arfordir gorllewinol America yn y 1960au. Aethant ati i greu ffurf anifeilaidd sydd yn ddyfeisgar ac yn chwareus ei dyluniad. Mae manylder y gwaith — ynghyd â’i hynodrwydd — yn sicrhau darn o gelfyddyd arbennig iawn a fydd yn siŵr o ddod yn gyrchfan hynod a phoblogaidd yn y rhan newydd-ei-hadfywio hon o Gaerdydd. Nod LOVE ME OR LEAVE ME ALONE yw creu canolbwynt hefyd ar gyfer amrywiaeth o raglenni ym Mae Caerdydd. Mae Chapter yn falch iawn o allu gweithio gyda Heather ac Ivan, ac â’r gymuned leol, i ddatblygu rhaglen ddatblygol o weithgareddau yn seiliedig ar y cerflun. Comisiynwyd LMOLMA gan Igloo a Phrosiectau EMP ar y cyd â Chapter.
21 Hydref 2016 — 26 Chwefror 2017 JOHN AKOMFRAH (DG), NEÏL BELOUFA (FFRAINC / ALGERIA), AMY FRANCESCHINI / FUTUREFARMERS (UDA / GWLAD BELG), LAMIA JOREIGE (LIBANUS), NÁSTIO MOSQUITO (ANGOLA), HITO STEYERL (YR ALMAEN / JAPAN), BEDWYR WILLIAMS (DG / CYMRU) Ers ei lansio yn 2003, bu Artes Mundi yn hybu ac yn cefnogi gwaith artistiaid arloesol rhyngwladol a chyfoes, artistiaid y mae eu gwaith yn ymwneud â realiti cymdeithasol a phrofiadau bywyd. Bydd yr arddangosfa o waith yr artistiaid ar restr fer gwobr Artes Mundi 7 yn cael ei chynnal rhwng 21 Hydref 2016 a 26 Chwefror 2017 yn yr Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd, ac yn Chapter.
10
Bwyta Yfed Llogi
029 2030 4400
Pop Up Produce
BWYTA YFED LLOGI
ChapterLive
NODWCH Y DYDDIAD!
Mae ChapterLive yn gyfres o gyngherddau byw wedi’u curadu gan yr hyrwyddwyr profiadol, Jealous Lovers Club. Byddan nhw’n cyflwyno detholiad o’u hoff grwpiau o’r DG, Ewrop a gwledydd pellennig eraill yn Chapter. Cynhelir ChapterLive yn y Caffi Bar ar ddydd Gwener cyntaf a thrydydd dydd Gwener bob mis. Does yna ddim genres penodol felly mae’r nosweithiau hyn yn gyfle gwych i ddod o hyd i artistiaid newydd. A rhag ofn bod angen mwy o berswâd arnoch, mae mynediad i’r nosweithiau yn rhad ac am ddim. Ffordd wych o gychwyn y penwythnos!
Sul 13 Rhagfyr 11am–6pm
Gwe 6 + Gwe 20 Tachwedd 9pm
RHAD AC AM DDIM @JealousLovers1 #ChapterLive
Pop Up Produce Mer 4 Tachwedd 3–8pm
Mae ein marchnad fisol boblogaidd yn llawn dop â chynhyrchwyr bwyd lleol ac fe fydd y rheiny’n cynnig danteithion i dynnu dŵr o’ch dannedd. Ar ddydd Mercher cyntaf bob mis, byddwn yn cyflwyno rhai o’ch hen ffefrynnau ynghyd ag ambell stondin newydd a fydd yn gwerthu siocledi, jamiau, bara arbenigol, nwyddau o Sbaen, pice ar y maen, gwin, teisennau heb glwten, te, mêl a nwyddau i’r cartref. Ydych chi’n cynhyrchu bwyd? Ydych chi wedi sylwi ar fwlch yn narpariaeth Pop Up Produce? Os hoffech chi ymuno â ni unwaith y mis i werthu eich cynnyrch, cysylltwch â Paul — paul.turton@chapter.org — i wneud cais am stondin.
Ffair Fwyd Nadoligaidd Fyddai hi ddim yn Nadolig go iawn heb ffair fwyd flynyddol Chapter, felly peidiwch â cholli’r cyfle hwn i brynu danteithion Nadoligaidd blasus ac i ganu carolau dan y goeden.
Llogi Mae nifer o ystafelloedd a chyfleusterau Chapter ar gael i’w llogi ac mae llawer o’r rhain yn cael eu defnyddio’n rheolaidd gan gymysgedd eclectig o ddosbarthiadau dydd a nos. Ewch i’n gwe-fan neu codwch daflen yn y swyddfa docynnau i weld yr hyn sydd ar gael. Os ydych chi’n chwilio am ystafell ar gyfer parti, cyfarfod neu gynhadledd, neu am ofod i saethu fideo, i ymarfer neu i gynnal gweithgareddau adeiladu tîm, bydd ein cyfleusterau gwych, ein harbenigedd technegol a’n staff cyfeillgar yn gallu sicrhau bod eich digwyddiad yn gyffyrddus, yn unigryw ac yn gofiadwy. Gallwn gynnig amrywiaeth o opsiynau arlwyo ar gyfer eich digwyddiad hefyd. Os oes gennych chi gwestiynau penodol, neu os hoffech chi fwy o wybodaeth am ein cyfleusterau, rhowch ganiad i’n rheolwr llogi, Nicky, ar 029 2031 1058 neu anfonwch e-bost at nicky.keeping@chapter.org.
chapter.org
Cefnogwch Ni
11
CEFNOGWCH NI Mae Chapter yn elusen gofrestredig ac rydym yn dibynnu ar gefnogaeth gan unigolion a busnesau er mwyn gallu cyflwyno ein rhaglen artistig amrywiol a’n gwaith addysgol pwysig. Rydym yn ddiolchgar am bob ceiniog a dderbyniwn ac fe allwn gynnig ambell beth gwych i chi yn gyfnewid. Mae yna nifer o wahanol ffyrdd o gymryd rhan ...
Unigolion Ffrindiau Ymunwch â chynllun Ffrindiau Chapter ac fe allwch chi fwynhau buddion sy’n amrywio o ostyngiadau ar docynnau ac ar fwyd a diod yn ein Caffi Bar i wahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn Ffrindiau hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Cynhelir Parti Nadolig Ffrindiau Chapter ar ddydd Iau 17 Rhagfyr. Byddwch yn derbyn eich gwahoddiad mewn da bryd — cofiwch ddychwelyd eich RSVP i Jennifer (jennifer.kirkham@chapter.org) cyn gynted a phosib! Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40
Rhoddion Cofrestrwch i wneud cyfraniadau unigol neu roddion reolaidd i Chapter, er mwyn chwarae rhan lawn yn ein gwaith elusennol. Gallwch wneud cyfraniadau ar-lein, ar http://www.chapter.org/cy/cefnogwch-ni, neu drwy ymweld â’n Swyddfa Docynnau. Gallwch wneud cyfraniadau drwy neges destun erbyn hyn hefyd — tecstiwch ‘Chap15’ ynghyd â’r swm yr hoffech ei roi i 70070. Fydd hi ddim yn costio ceiniog i chi anfon y neges ac fe fyddwn ni’n derbyn 100% o’ch cyfraniad.
Myfyrwyr Ydych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth rad ac am ddim a manteisio ar gynigion arbennig ardderchog, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? Cofrestrwch heddiw drwy ymweld â www.chapter.org/cy/myfyrwyr.
Cymynroddion Mae gadael cymynrodd i Chapter yn fodd i ddiogelu ein gwaith at y dyfodol. Os hoffech chi ystyried gadael rhodd i Chapter yn eich Ewyllys, dylech ofyn am gyngor gan eich cyfreithiwr yn y lle cyntaf. Os ydych chi eisoes wedi crybwyll Chapter yn eich Ewyllys, rhowch wybod i ni, fel y gallwn gydnabod eich cyfraniad yn y modd mwyaf priodol.
Busnesau Clwb Cynllun aelodaeth Chapter i fusnesau. Am ffi flynyddol fechan, gall eich busnes chi fwynhau manteision sylweddol yn Chapter, a’r rheiny’n cynnwys cyfleoedd i rwydweithio, defnydd o’n mannau llogi hyblyg a gostyngiadau i chi a’ch staff ar docynnau sinema a theatr — yn ogystal ag ar fwyd a diod yn ein Caffi Bar. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.chapter.org/cy/chapter-clwb.
Nawdd Yn 2014, dyfarnodd Celfyddydau & Busnes Cymru Wobr Gyffredinol Categori’r Celfyddydau i Chapter am ein perthynas waith ragorol â busnesau. Mae yna nifer o gyfleoedd i’n noddi ac mae’r rheiny’n cynnwys buddion o bwys — cyfranogiad staff, lletygarwch corfforaethol a chyfleoedd i hyrwyddo eich brand. I gael mwy o wybodaeth am unrhyw un o’r materion uchod, cysylltwch os gwelwch yn dda ag Elaina Gray - ffoniwch 02920 355662 neu e-bostiwch elaina.gray@chapter.org.
Theatr
Stories From A Crowded Room. Llun: Chris Nash
12 029 2030 4400
Theatr
Stories From a Crowded Room. Llun: Gemma Chapple
chapter.org
Earthfall yn cyflwyno
Stories From A Crowded Room Maw 27 Hydref — Sul 1 Tachwedd (Maw — Iau 8pm, Gwe + Sad 6pm + 8.30, Sul 2pm) Cyffyrddwch, aroglwch ac anadlwch wrth i chi gerdded drwy’r ystafell neu guddio yn y dorf. Yn y cynhyrchiad hwn sy’n nodi pen-blwydd y cwmni yn 25 oed, bydd Earthfall yn archwilio straeon symudol drwy gyfrwng dawnsio hynod gorfforol, cerddoriaeth fyw, testun a ffilm amgylchynol. Byd o freuddwydion drylliedig a chyrff ar ffo; mae Earthfall yn eich gosod, yn gorfforol, yng nghanol y digwydd a’r symudiadau cyflym o’ch cwmpas. Mae’r cynhyrchiad hwn yn brofiad amgylchynol i’r gynulleidfa. Bydd y perfformiad yn para ryw 60 munud ac fe fydd yn gwbl hygyrch ond ni fydd seddi ar gael. Mae gweithdai ar gael ar gais — cysylltwch ag education@earthfall.org. uk i gael manylion pellach. £14/£12/£10 (Addas i bobl 14+ oed; sioe’n cynnwys iaith gref a chyfeiriadau rhywiol) Cymrwch ran yn y cynhyrchiad drwy anfon eich #EFsorry atom. Cewch fwy o wybodaeth yn www.earthfall.org.uk @earthfall #EFStories
13
Theatr
029 2030 4400
O’r chwith i’r dde: Idiot-Syncrasy. Llun: Alicia Clarke; Yellow Towel. Llun: Maxyme G Delisle
14
Gŵyl Ddawns Caerdydd Darnau dawns i ennyn trafodaeth. Dawnswyr y byddwch chi eisiau cwrdd â nhw. Maw 10 — Sul 22 Tachwedd Mae Gŵyl Ddawns Caerdydd yn ŵyl newydd a gynhelir bob dwy flynedd — cyflwynir digwyddiadau yn Chapter, yn y Tŷ Dawns ac yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Bydd yna berfformiadau i’w gweld, prosiectau i gymryd rhan ynddynt a gweithdai a thrafodaethau i gyffroi eich meddwl a’ch corff. Mae rhaglen yr ŵyl yn cynnwys gwaith gan ambell artist rhyngwladol eithriadol ynghyd â gwythïen gyfoethog o’r darnau gorau o Gymru. Cewch fwy o wybodaeth a gallwch archebu tocynnau ar-lein yn www.dance.wales.
Igor & Moreno
Dana Michel
Idiot-Syncrasy
Yellow Towel
Ar y dechrau, roeddem yn awyddus i newid y byd â’n perfformiadau. Roeddem yn teimlo’n hurt braidd. Yna fe aethom ni ati i ddawnsio. A neidio. Fe dynnom ni ar draddodiadau gwerin Sardinia a Gwlad y Basg. Fe ganom ni ganeuon. A neidio. Ac ymroi. Nawr, rydym yn addo aros gyda’n gilydd. Rydym yn addo dyfalbarhau. Rydym yn addo gwneud ein gorau.
Yn blentyn, byddai Dana Michel yn lapio tywel melyn am ei phen er mwyn ceisio efelychu’r merched blond yn yr ysgol. Yn oedolyn erbyn hyn, mae hi’n ailymweld â byd dychmygol ei alter ego mewn perfformiad heb sensoriaeth neu hunan-dwyll. Mae Yellow Towel yn archwilio stereoteipiau y diwylliant du ac yn eu troi nhw tu chwith er mwyn gweld beth ddaw allan y pen arall. O’i hatgofion dyfnion, daw creadur rhyfedd i’r amlwg a hwnnw’n addasu i’w amgylchfyd drwy gyfrwng metamorffosis araf ac anesmwythol. Ar ôl cael ei denu yn y lle cyntaf gan estheteg ffasiwn, clipiau fideo, diwylliant ‘queer’ a ‘chomedi, mae Dana wedi gwneud ei marc yn rhan o sîn ddawns annibynnol Montréal.
Mer 11 + Iau 12 Tachwedd 8pm
£14/£12 / £7 i’r rheiny dan 25 oed www.igorandmoreno.com @igorandmoreno
“Sioe gynnes, wych a doniol” The Guardian
Maw 17 + Mer 18 Tachwedd 8pm
Un o ddeg sioe ddawns orau Time Out Efrog Newydd yn 2014. £14/£12 / £7 i’r rheiny dan 25 oed
Theatr
Jonathan Burrows a Matteo Fargion
Jan Martens
Cheap Lecture a The Cow Piece
ODE TO THE ATTEMPT
15
O’r chwith i’r dde: The Cow Piece. Llun: Flavio Romualdo Garofano; ODE TO THE ATTEMPT
chapter.org
Iau 19 Tachwedd 8pm Dros y deng mlynedd diwethaf, mae Burrows a Fargion wedi creu detholiad o ddeuawdau sy’n cyfuno ffurfioldeb cyfansoddiadau cerddoriaeth glasurol ag agwedd agored ac anarchaidd at berfformiad a chynulleidfaoedd. Yn y broses, maent wedi ennill dilynwyr ledled y byd. Yn Cheap Lecture, mae dau ddyn yn dwyn ffurf darlith John Cage, ‘Lecture on Nothing’, er mwyn cyflwyno amddiffyniad angerddol — a chynyddol wallgo’ — o’u gwaith eu hunain. Dilynir y darn hwnnw gan The Cow Piece, gwaith sy’n ailystyried y ddarlith fel ffurf ac yn ei throi’n ddathliad afreolus o derfynau rhesymeg, lle caiff dau fwrdd eu troi yn ofod i 12 o wartheg plastig ddawnsio, canu, siarad, meddwl, cysgu, mynd, dod a marw a hynny mewn cyfres o weithredoedd sydd wedi swyno a syfrdanu cynulleidfaoedd ledled y byd. £14/£12 / £7 i’r rheiny dan 25 oed www.jonathanburrows.info
“Llwyddodd Jonathan Burrows a Matteo Fargion i greu perfformiad sy’n dawnsio yn eich meddwl. Mae’n wych” De Morgen, Gwlad Belg
Gwe 20 Tachwedd 8pm + Sad 21 Tachwedd 9pm Mae perffeithrwydd yn undonog. Mae ODE TO THE ATTEMPT yn ddarn solo a grëwyd gan Martens iddo fe’i hun. Mae e’n symud yng nghyddestun gwahanol eithafion — dilysrwydd, manipiwleiddio, perffeithiaeth a hiwmor. Canlyniad hynny yw hunan-bortread sy’n cyflwyno’r dewisiadau moel sy’n ei wynebu o ran gweithio a byw. “Ar ôl creu gwaith grŵp i wyth o ddawnswyr, mae bod ar ben eich hun ar lwyfan fel dychwelyd adref. Ar yr un pryd, mae’n gychwyn brwydr — â chi’ch hun — oherwydd dyna yw hanfod creu celfyddyd: dweud rhywbeth un diwrnod cyn amau, y diwrnod wedyn, a yw’r hyn a ddywedwyd o’r pwys lleiaf i unrhyw un.” Cyflwynir perfformiad Jan ar Gwe 20 Tachwedd ar y cyd â gwaith solo a grëir yn ystod yr ŵyl gan artist a ddewisir ar ôl proses ddethol agored. Sioe dydd Gwener (yn cynnwys y perfformiad solo cysylltiedig): £14/£12 / £7 i’r rheiny dan 25 oed Dydd Sadwrn: £10 / £8 / £5 i’r rheiny dan 25 oed Bydd tocynnau ar gyfer y perfformiad ar ddydd Sadwrn o ODE TO THE ATTEMPT yn hanner pris os archebwch docynnau ar gyfer Good News from the Future ar yr un pryd. www.janmartens.com
Theatr
Good News From The Future
Joanna Young
029 2030 4400
Studies For Maynard. Llun: Ray Jacobs
16
Sad 21 Tachwedd 7pm “Rydym yn hapus yn ein crwyn ein hunain — daeth ein haeddfedrwydd â detholiad hollol newydd o bleserau yn ei sgil.” Mae Good News From The Future yn dwyn ynghyd weithwyr arloesol byd theatr gorfforol, ambell un nad ydyn nhw wedi perfformio ers amser maith ac ambell un sydd ond newydd ddechrau. Mae’n nodi ac yn dathlu’r doethinebau sy’n llechu mewn cyrff hŷn ac ysbryd anturus y rheiny a fu ar y daith ers meitin. £10/£8 / £5 i’r rheiny dan 25 oed
Simon Whitehead
Studies For Maynard Sad 14 Tachwedd 2–6pm Gosodwaith byw yn cynnwys symudiadau, dawnsio, delweddau a sain. Mae dawnsiwr yn gorwedd ar y llawr, mae e’n edrych ar yr awyr ac yn anadlu’r cymylau. Mae gofodwr ar Apollo 9 yn disgrifio’r golygfeydd o’r ddaear a wêl drwy ei ffenest. Caiff y dis ei rolio. Ffabrig yw’r syniad o gartref, wedi’i wau o linynnau sy’n symud ac yn uno. Ar ôl treulio blynyddoedd lawer yn mynd â’i waith — ac yn mynd ag ef ei hun — i fannau pellennig, manteisiodd Simon ar y cyfle, wrth baratoi Studies for Maynard, i feddwl am yr hyn y mae hi’n ei olygu i fod “adref”. RHAD AC AM DDIM www.simonwhitehead.net @studiesmaynard #maynard
Don’t Think About A Purple Daisy Sul 15 Tachwedd, o 2pm ymlaen Bydd Joanna Young a’i chydweithwyr, Jamie McCarthy a Belinda Neave, yn preswylio yn Chapter yn ystod wythnos gyntaf Gŵyl Ddawns Caerdydd ac yn gweithio ar gyfnod olaf y broses o gynhyrchu eu sioe, Don’t Think About a Purple Daisy. Bydd y cyflwyniad o waith ar y gweill, ar y dydd Sul, yn cynnwys perfformiad a gosodwaith. Os hoffech chi wahoddiad, anfonwch e-bost at info@dance.wales. Bydd Joanna yn cynnal cyfres o sesiynau agored yn ystod y cyfnod preswyl. Caiff manylion y sesiynau hyn eu cyhoeddi ar ei gwe-fan (joannayoung.co.uk) ac ar yr hysbysfwrdd yng nghyntedd Chapter. RHAD AC AM DDIM
chapter.org
Theatr
Theatr Ffynnon & Theatr Iolo yn cyflwyno
The Unique Me Iau 19 + Gwe 20 Tachwedd 7.30pm
The Unique Me
Roedd hi’n ddiwrnod glawiog a llwyd ym mis Tachwedd ac roeddwn i’n crwydro strydoedd ein tref fach ni ac yn fy holi fy hun i ba le yr oeddwn yn mynd? Ble oeddwn i wedi bod? O ba le y deuthum? Pwy ydw i MEWN GWIRIONEDD? Yn y pellter, gallwn weld yr Hen Lyfrgell ac yno, y tu allan i’r adeilad, roedd yna ddyn hynod yn tywys pobl i mewn ac allan, mewn ffordd hypnotig. Yna, daliodd rhywbeth fy sylw. Edrychais i lawr ac, mewn pwll o ddŵr, yn arnofio ar ddeilen, roedd yna amlen a f’enw wedi’i ysgrifennu ar ei blaen. Yn chwilfrydig reit, codais yr amlen. Ysgydwais y diferion dŵr oddi ar yr amlen — roedd yr inc wedi rhedeg ond gallwn weld fy enw arni o hyd! Roedd fy nghalon yn curo’n uchel — cymrais anadl ddofn ... agor yr amlen yn ofalus a thynnu’r nodyn oedd ar y tu mewn. Yno, mewn llythrennau breision roedd y geiriau ... YOUR APPOINTMENT AT THE ARCHIVE BUREAU OF DISTINCT POSSIBILITIES IS FOR THIS EVENING AT 7.30PM. DO NOT BE LATE! Ymunwch â Theatr Ffynnon a Theatr Iolo am noson oleuedig a chraff pan fyddwn yn chwilio am y peth hwnnw sy’n ein gwneud ni’n fodau unigryw. Mae Theatr Ffynnon yn gwmni theatr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl ifainc ac oedolion ag anableddau dysgu.
Cyfarwyddwyd gan Kevin Lewis. Cynorthwywyr creadigol: Angharad Evans, Alastair Sill. Cynllunio Set & Gwisgoedd: Saz Moir. Goleuo: Hristo Takov. Cynhyrchydd: Patricia O’Sullivan. £8.50/£6.50
Mae’r rhain yn berfformiadau hygyrch: bydd yna ddehongliad mewn Iaith Arwyddion a Disgrifiadau Sain.
17
Theatr
Everyman Theatre yn cyflwyno
Familia de la Noche
Season’s Greetings gan Alan Ayckbourn
The Greatest Liar In All The World
Maw 24 — Sad 28 Tachwedd 7.30pm Perfformiad matinée ar Sad 28 Tachwedd 2.30pm
Maw 24 Tachwedd 7pm
029 2030 4400
The Greatest Liar In All The World
18
Daw hanner dwsin o ffrindiau a pherthnasau at ei gilydd ar Noswyl Nadolig, Dydd Nadolig a Gŵyl San Steffan yn nhŷ Neville a Belinda. Fel yn ystod unrhyw Nadolig teuluol, mae’r cymeriadau’n dadlau ac mae rhai o’r dadleuon hyn yn mynd i’r byw yn fwy nag eraill. Mae yna blant yn y parti hefyd ac, er na wêl y gynulleidfa mohonynt, mae eu presenoldeb i’w deimlo ymhobman. Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys sioe bypedau afreolus a golygfa garu am hanner nos sy’n rhoi ar waith gôr aflafar o deganau Nadolig mecanyddol. Cyflwynwyd y ddrama am y tro cyntaf yn Theatr Stephen Joseph, Scarborough, ym mis Medi 1980. £10/£8 (perfformiadau Maw + Iau yn unig)
“Pwy ddywedodd taw gŵyl i’r plant yw’r Nadolig? Mae’n Armagedon i oedolion” Independent
Mae taith ryfeddol y Familia de la Noche yn dilyn hanes Y Celwyddgi. Perfformiwr yw hwn sydd wedi cyrraedd pen ei dennyn — ac sydd wedi bygwth cymryd ei fywyd ei hun yn fyw ar lwyfan. Mae ei gwmni o gynorthwywyr hardd — a rhai nad ydyn nhw cweit mor hardd hefyd — yn llwyddo i’w berswadio i adrodd hanes ei wreiddiau, yn hytrach na chanolbwyntio ar ei dranc. Â chyfuniad o dechnegau clown, pypedau, cerddoriaeth a chysgodion, mae The Greatest Liar In All The World wedi swyno cynulleidfaoedd rhwng 8 ac 88 oed. £10/£8 Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Canolfan Gelfyddydau Pontardawe a Neuadd Gerddoriaeth Wiltons.
“Dychmygwch fynd am dro trwy feddyliau Tim Burton a Terry Gilliam” Such Small Portions
chapter.org
Chapter Mix
19
CHAPTER MIX Cylch Chwedleua Caerdydd Sul 1 Tachwedd
Straeon ar droad y flwyddyn — straeon a chaneuon i groesawu’r gaeaf. £4 (wrth y drws)
Barddoniaeth a Ffuglen Newydd — Dydd Iau Cyntaf y Mis Iau 5 Tachwedd 7.30pm
Bydd Tamar Yoseloff yn darllen o’i chasgliad newydd, ‘A Formula for Night: New and Selected Poems’, ochr yn ochr â’r bardd, Carrie Etter, a fydd yn cyflwyno ‘A Crater the Size of Calcutta’, gan Linda Lamus (Mulfran), a Mary-Ann Constantine, a fydd yn darllen o’i nofel gyntaf, ‘Star-shot’, a gyhoeddir gan Seren. + Sesiwn meic agored.
Iau 12 Tachwedd 2pm Tu ôl i’r Llen — Curadu Amgueddfa Gelf Anna Harnden BA MA
Cawn gipolwg ar y broses o benderfynu ble a sut y mae arddangosfa ‘blockbuster’ yn cael ei llwyfannu; y broses ddethol, y tensiwn, yr amser a gymer y cwbl ac ambell agwedd ymarferol ar y gwaith o bacio darnau celfyddydol delicet a’u cludo mewn pecynnau pwrpasol o leoedd fel y Fatican i’r Amgueddfa Brydeinig. Mae hwn yn gip y tu ôl i’r llen ar weithrediadau mewnol rhai o brif amgueddfeydd y byd. £6 i ymwelwyr (wrth y drws, yn ddibynnol ar le) www.swdfas.org
Jazz ar y Sul
Sul 15 Tachwedd 9pm
Noddir gan Wasg Seren, Gwasg Mulfran a Llenyddiaeth Cymru.
Ein noson fisol o jazz acwstig melodig yn y Caffi Bar, gyda Phedwarawd Jazz Chapter — Glen Manby, Jim Barber, Don Sweeney a Greg Evans.
£2.50 (wrth y drws)
Clwb Comedi The Drones
Gwe 6 + Gwe 20 Tachwedd. Drysau’n agor am 8.30pm. Sioe’n dechrau am 9pm Clint Edwards sy’n cyflwyno’r ‘stand-ups’ addawol gorau. Gwelwyd peth o ddeunydd y nosweithiau hyn ar raglen ‘Identity Crisis’ Rob Brydon. Dydd Gwener cyntaf a thrydydd dydd Gwener y mis. Un o’r ‘Deg Peth Gorau i’w Gwneud yng Nghaerdydd’ yn ôl cylchgrawn The Big Issue £3.50 (wrth y drws)
Darlith Cymdeithas Celfyddydau Cain ac Addurnol De Cymru
RHAD AC AM DDIM www.glenmanby.com
Clonc Yn Y Cwtch Bob dydd Llun 6.30–8pm
Ydych chi’n dysgu Cymraeg? Ymunwch â ni i ymarfer eich Cymraeg yng nghwmni dysgwyr eraill. Croeso i bawb! RHAD AC AM DDIM Ar y cyd â Menter Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd
PENNOD NEWYDD YN Y FARCHNAD RHENTU TAI
Gwasanaeth pwrpasol i landlordiaid Prisiau onest a chystadleuol Mae 100% o’n landlordiaid yn aros gyda ni Cefnogaeth i brosiectau cymunedol lleol Gwella delwedd y diwydiant rhentu tai - fesul un cwsmer bodlon Am ragor o wybodaeth, ffoniwch ni ar 0300 5000 601 neu ewch i’n gwefan www.adorecardiff.co.uk
20
Sinema
029 2030 4400
Mississsippi Grind
SiNEMA
Sinema
Mississippi Grind
Gŵyl Ffilmiau Oska Bright
21
O’r chwith i’r dde: Taxi Tehran, Sons and Mothers
chapter.org
Gwe 6 — Iau 12 Tachwedd UDA/2015/108mun/15. Cyf: Anna Boden, Ryan Fleck. Gyda: Ben Mendelsohn, Ryan Reynolds, Sienna Miller, Alfre Woodard.
Mae Gerry yn chwaraewr pocer talentog ond mae ei ‘habit’ yn ei drechu. Ar ôl cwrdd â’r Curtis carismatig, mae Gerry’n penderfynu ei fod ef yn dod â lwc dda iddo. Maent yn cychwyn allan ar daith gyda’i gilydd ac yn gamblo’u ffordd i gêm bocer bwysig yn New Orleans. Stori benfeddwol am fyd o gamblwyr diollwng, byd o gaethiwed a phendilio parhaus rhwng gobaith a pharanoia.
Maw 10 Tachwedd
“Mae Mendelsohn yn profi ei fod yn un o actorion ffilm gorau’r cyfnod cyfoes” Jordan Hoffman, Guardian
Mae’r gwneuthurwr ffilmiau cymunedol, Tom, yn ceisio helpu animeiddiwr ac artist awtistig o’r enw Michael i greu ffilm ei freuddwydion. Mae’r artist yn benderfynol o wneud drama Hollywood am lwynog diafolaidd treisgar o ddimensiwn arall. Mae’r gwneuthurwr ffilmiau, yntau, yn gwybod bod yn rhaid iddo wneud ffilm ddogfen sy’n treiddio i fyd dychmygol rhyfedd yr artist ond sydd yn aros hefyd ar dir cadarn.
Taxi Tehran Gwe 6 — Mer 18 Tachwedd Iran/2015/82mun/is-deitlau/TiCh. Cyf: Jafar Panahi.
Os ydych chi’n wneuthurwr ffilmiau ac yn cael eich gwahardd rhag cyfarwyddo ffilmiau, mae’n rhaid i chi ailhyfforddi. Felly beth am fod yn yrrwr tacsi? Neu’n well fyth, beth am esgus bod yn yrrwr tacsi a chwblhau ffilm er gwaetha’ pob rhwystr? Dyna wnaeth Jafar Panahi. Nawr, mae e’n eich gwahodd chi i’w dacsi ac i fynd gydag ef ar daith drwy strydoedd Tehran i gyfarfod â thrigolion y ddinas.
Ymunwch â chriw Gŵyl Ffilmiau Oska Bright, a ddarlledir yn fyw o Brighton, wrth iddyn nhw gyflwyno noson yn llawn talentau newydd cyffrous.
Dawn Of The Dark Fox (gwaith ar y gweill) DG/2015/15mun/TiCh. Cyf: Tom Stubbs, Michael Smith.
Dilynir y dangosiad gan sesiwn holi fer gyda’r cyfarwyddwyr.
+
Sons And Mothers Awstralia/2013/80mun/TiCh. Cyf: Christopher Houghton.
Mae criw theatr, dynion yn unig, yn mynd ati i greu llythyr o gariad theatrig i’w mamau. Wrth iddyn nhw roi o’u cariad a’u calonnau i’r sioe, mae cymhlethdodau’n codi ac nid pob aelod o’r cwmni sy’n cael gweld y noson agoriadol. Mae Sons and Mothers yn bortread teimladwy o saith unigolyn rhyfeddol nad yw eu hanableddau yn eu hatal rhag datgelu eu gonestrwydd, eu gras a’u hiwmor amharchus.
22
Sinema
029 2030 4400
O’r chwith i’r dde: They Will Have To Kill Us First, The Martian
Sineffonig
“ Maen nhw eisiau gwahardd cerddoriaeth? Bydd yn rhaid iddyn nhw ein lladd ni gynta’ ” Disco Walet Oumar
They Will Have To Kill Us First Gwe 30 Hyd — Iau 5 Tachwedd
DG/2015/105mun/15. Cyf: Johanna Schwartz.
Yn 2012, meddiannodd eithafwyr Islamaidd Ogledd Mali a rhoi ar waith gyfraith Sharia lem a gwahardd cerddoriaeth yn llwyr. Ym Mali, cerddoriaeth yw’r gwead cymdeithasol, enaid bywydau’r trigolion ac mae llawer o’r trigolion mwyaf uchel eu parch yn gerddorion. Mae’r stori hon yn dilyn rhai o sêr cerddorol Mali wrth iddyn nhw frwydro i adennill eu gwlad, eu bywoliaethau a’u rhyddid.
Man With A Movie Camera + sgôr fyw Sul 22 Tachwedd
Yr Undeb Sofietaidd/1929/65mun/is-deitlau/U. Cyf: Dziga Vertov.
Yn y ffilm arloesol hon — y ffilm ddogfen orau erioed yn ôl cylchgrawn Sight and Sound — mae dyn yn teithio o amgylch dinas â chamera dros ei ysgwydd. Mae e’n creu portread caleidosgopig o fywyd yn Odessa. Mae’r frwydr rhwng bywyd organig a geometreg diwydiannol modernaidd yn cael ei hymladd mewn “symffoni ddinesig” — taith gyffrous a syfrdanol o ddyfeisgar a gyflwynir yn y fan hon â sgôr gerddorol fyw. + Sgôr fyw wedi’i chyfansoddi a’i pherfformio gan Harmonie Band.
“Mae hwn yn faniffesto afieithus sy’n dathlu posibiliadau diddiwedd y sinema” Peter Bradshaw, The Guardian
The Martian Gwe 13 — Iau 19 Tachwedd UDA/2015/130mun/12A. Cyf: Ridley Scott. Gyda: Matt Damon, Jessica Chastain, Kristen Wiig.
Yn ystod cyrch i blaned Mawrth, mae’r gofodwr, Mark Watney, yn cael ei adael ar ôl yn y gred ei fod wedi marw. Ond mae Watney wedi goroesi ac yn ei gael ei hun heb gwmni ar blaned elyniaethus. Â chyflenwadau pitw’n unig o fwyd a diod, rhaid iddo ddefnyddio ei ddyfeisgarwch a’i ddychymyg i ddod o hyd i ffordd o ddangos i bobl ar y Ddaear ei fod yn dal yn fyw. Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael — gweler y calendr am fanylion.
The Program Gwe 13 — Iau 19 Tachwedd DG/2015/104mun/15. Cyf: Stephen Frears. Gyda: Ben Foster, Chris O’Dowd, Jesse Plemons, Dustin Hoffman.
Y stori wir anhygoel am Lance Armstrong; ei lwyddiannau a’r ymchwil i ddod o hyd i’r gwir am yr honiadau o dwyllo. Mae newyddiadurwr chwaraeon yn Iwerddon yn cael ei argyhoeddi bod perfformiadau Lance Armstrong yn ystod ei fuddugoliaethau yn y Tour de France yn seiliedig ar defnydd o gyffuriau. Felly mae e’n dechrau chwilio am dystiolaeth i ddatguddio’r gwir am Armstrong — ac i ddatguddio un o’r achosion mwyaf o dwyll yn holl hanes chwaraeon. Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael — gweler y calendr am fanylion.
BAFTA Cymru yn cyflwyno Mer 11 Tachwedd Ein dangosiad rheolaidd o’r ffilmiau Cymreig gorau o’r archif a’r cyfnod cyfoes. www.bafta.org/wales
Sinema
23
Spectre
Sicario
Gwe 20 Tachwedd — Iau 3 Rhagfyr
Gwe 20 — Iau 26 Tachwedd
DG/2015/150mun/12A. Cyf: Sam Mendes. Gyda: Daniel Craig, Christoph Waltz, Léa Seydoux, Ralph Fiennes.
UDA/2015/121mun/15. Cyf: Denis Villeneuve. Gyda Emily Blunt, Benicio Del Toro, Josh Brolin, Jon Bernthal.
Mae neges gryptig o orffennol Bond yn arwain yr ysbïwr ar drywydd sefydliad sinistr. Wrth i M frwydro â grymoedd gwleidyddol am ddyfodol y gwasanaeth cudd, mae Bond yn datguddio haenau o dwyll er mwyn datgelu’r gwirionedd ofnadwy am SPECTRE.
Mae Asiant Macer o’r FBI yn gwneud darganfyddiad annymunol wrth weithio ar achos yn ymwneud â chyffuriau ac mae ei fos, Matt, a’i gydymaith enigmatig yntau, Alejandro, yn galw arno i ymchwilio i’r cartelau pwerus sy’n smyglo cyffuriau i’r Unol Daleithiau. Yn y ffilm gyffro dreisgar a hyderus hon, cawn olwg ar yr amwysedd moesol sydd wrth galon y frwydr yn erbyn cyffuriau.
Gyda’r cloc o’r brig: Spectre, Sicario, The Black Panthers: Vanguard Of The Revolution
chapter.org
The Black Panthers: Vanguard Of The Revolution Gwe 20 — Iau 26 Tachwedd UDA/2015/113mun/TiCh. Cyf: Stanley Nelson.
Mae’r ffilm ddogfen hon yn adrodd hanes cynnydd a chwymp y Black Panther Party, un o sefydliadau mwyaf deniadol a dadleuol yr 20fed ganrif a mudiad a ddenodd sylw’r byd am bron i 50 mlynedd.
Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael — gweler y calendr am fanylion.
Under Milk Wood Gwe 27 Tachwedd — Iau 3 Rhagfyr Cymru/2014/86mun/15. Cyf: Kevin Allen. Gyda: Rhys Ifans, Charlotte Church, Sharon Morgan.
Addasiad newydd â chast godidog o ddrama enwog Dylan Thomas i leisiau. Datgelir bywydau mewnol trigolion Llareggub wrth iddyn nhw ddyheu am gyngariadon ac ail-fyw buddugoliaethau’r gorffennol.
24
Sinema
029 2030 4400
2015: Blwyddyn Menywod ar Ffilm
O’r chwith i’r dde: Make More Noise! Suffragette
Ar hyn o bryd, mae gwneuthurwyr ffilmiau benywaidd yn ymwneud â dim ond 26% o’r holl ffilmiau nodwedd a gaiff eu rhyddhau bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig. Dim ond 7% o’r ffilmiau ‘blockbuster’ a gynhyrchwyd yn y cyfnod 2013-14 a gafodd eu cyfarwyddo gan ferched. I geisio gwneud iawn am yr anghydbwysedd hwn, rydym yn cynnig cyfle prin i weld ffilmiau gan rai o arloeswyr y sinema arbrofol a byddwn yn dathlu cyfraniadau ein chwiorydd swffragét.
“Mae’n rhaid i chi wneud mwy o sŵn nag unrhyw un arall, mae’n rhaid i chi eich gwneud eich hun yn fwy amlwg nag unrhyw un arall, mae’n rhaid i chi lenwi mwy o ofod yn y papurau newydd nag unrhyw un arall.” Emmeline Pankhurst
Thursday’s Child Mer 4 Tachwedd
Cymru/1989/54mun/dim tyst. Cyf: Michelle Ryan. Gyda: Sharon Morgan, Gwyn A Williams.
Mae’r hanesydd, Gwyn Alf Williams, yn ein tywys drwy hanes Sylvia Pankhurst. Er ei bod hi’n adnabyddus yn bennaf am ei hymwneud â’r mudiad swffragét, roedd hi hefyd yn gefnogwr brwd o’r Chwyldro yn Rwsia, yn un o sylfaenwyr y Blaid Gomiwnyddol ym Mhrydain ac yn artist gweledol talentog. + Ymunwch â ni am drafodaeth banel gyda Rhwydwaith Cydraddoldeb Merched Cymru cyn y dangosiad.
Mae THE TIME IS NOW yn brosiect ffilm Prydeinig, i’w lansio ar 15 Hydref, a fydd yn dathlu gallu merched i orfodi newidiadau cymdeithasol. Caiff y prosiect ei guradu a’i gynhyrchu gan Showroom Workstation a Film Hub North ar y cyd â Pathé a Twentieth Century Fox. Mae THE TIME IS NOW yn fenter gan Rwydwaith Cynulleidfaoedd Ffilm y BFI ac fe dderbyniodd gefnogaeth gan y BFI, sy’n dyfarnu arian Y Loteri Genedlaethol.
Suffragette
Gwe 30 Hyd — Iau 12 Tachwedd DG/2015/106mun/12A. Cyf: Sarah Gavron. Gyda: Carey Mulligan, Helena Bonham-Carter, Brendan Gleeson, Meryl Streep.
Mae bywyd Maud, sydd yn wraig a mam, yn cael ei newid am byth ar ôl iddi gael ei recriwtio gan fudiad swffragetiaid y DG. Dan ddylanwad Emmeline Pankhurst, mae Maud yn ymuno ag ymgyrchwyr y mudiad ffeministaidd cynnar, menywod o gefndiroedd amrywiol sy’n dilyn trywydd peryglus mewn gwladwriaeth gynyddol creulon. Wedi’i hysbrydoli gan ddigwyddiadau go iawn, mae’r ddrama ingol hon yn archwilio angerdd a thor-calon y rheiny a roddodd bopeth er mwyn sicrhau hawl merched i bleidleisio. Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael — gweler y calendr am fanylion.
Make More Noise! Suffragettes In Silent Film Llun 2 + Iau 5 Tachwedd
DG/1899 — 1917/80mun/PG. Casgliad archifol newydd o Archif Cenedlaethol y BFI.
Roedd araith chwedlonol arweinydd y swffragetiaid, Emmeline Pankhurst, ym mis Tachwedd 1913 yn adlewyrchiad o dactegau a dyheadau tanbaid y mudiad. Ceisiodd cynrychiolwyr fynychu cymaint o ddigwyddiadau cyhoeddus ym Mhrydain â phosib er mwyn gweiddi ‘Pleidleisiau i ferched!’ Ganed cyfrwng y sinema tua’r adeg yr oedd eu hymgyrch yn mynd o nerth i nerth ac mae’r detholiad hwn yn gyfle i weld sut y portreadwyd y merched ar y sgrin, wrth iddyn nhw eu hunain gymryd rhan mewn brwydrau allan ar y stryd.
chapter.org
Sinema
25
‘Onwards and Outwards’ Happy Bees
Rhaglen unigryw o ffilmiau a wnaed gan ferched ym Mhrydain dros y 50 mlynedd diwethaf. Mae’r rhaglen yn tynnu sylw at yr anawsterau sy’n wynebu merched yn niwydiant ffilm y DG ac at gyfarwyddwyr benywaidd a aeth ati i ragori a chreu gweithiau annibynnol a gwreiddiol er gwaetha’r rhwystrau. Dan arweiniad yr ICA, ac ar y cyd ag un ar ddeg o ganolfannau diwylliannol eraill yn y DG, mae’r rhaglen hon yn llwyfan cyhoeddus ar gyfer gwyntyllu safbwyntiau a dadleuon cadarnhaol gerbron cynulleidfaoedd tra amrywiol.
Moviemaker Chapter Llun 2 Tachwedd
Sesiwn reolaidd sy’n caniatáu i gyfarwyddwyr annibynnol ddangos eu ffilmiau byrion. Y mis hwn, bydd yna ffocws arbennig a byddwn yn dathlu gwaith cyffrous a heriol gan wneuthurwyr ffilmiau benywaidd.
Happy Bees + Ffilmiau Byrion i Blant Sul 1 Tachwedd
Dathliad o’r awdur, y bardd a’r gwneuthurwr ffilmiau o Ynysoedd Erch, Margaret Tait — un o arloeswyr cyfnod cynnar y sinema. Detholiad o ffilmiau byrion prydferth sy’n cynnwys delweddau barddonol o blentyndod a byd natur.
Happy Bees DG/1955/16mun/U. Cyf: Margaret Tait.
Portread o blentyndod — haul rownd y rîl a phob dim yn byrlymu gan fywyd!
+
The Orquil Burn DG/1955/36mun/U. Cyf: Margaret Tait.
Taith ar hyd ‘burn’ ar Ynysoedd Erch — cyfle i gerdded ac i ddod o hyd i fywyd gwyllt yn y dŵr ac ar hyd y glannau.
Splashing DG/1966/5mun/U. Cyf: Margaret Tait.
Mae tri o blant yn chwarae mewn ‘burn’ a gardd, yn sblasio ac yn mwynhau.
+
All These New Relations DG/1955/21mun/U. Cyf: Margaret Tait.
Golwg serchog ar aeddfedrwydd ac aeddfedu; portread hardd o ddatblygiad dynol a ffilm sydd fel petai’n disgrifio Amser er mwyn gallu ei gadw dan glo.
Mam
Maw 3 Tachwedd Cymru/1988/52mun/dim tyst. Cyf: Michelle Ryan. Gyda: Sharon Morgan, Rachel Thomas.
Bu’r ‘Fam Gymreig’ yn rhan ganolog o fywyd cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd cymoedd De Cymru ers cenedlaethau. Mewn llyfrau ac ar ffilm, fe’i portreadwyd fel matriarch rymus oddi mewn i ffiniau cartref y glöwr a’r teulu. Drwy gyfrwng cyfweliadau, drama a ffilmiau archif, cawn gip y tu hwnt i’r mythau hyn ac fe archwilir realiti bywyd i ferched Cymru, yn y gorffennol a’r presennol fel ei gilydd, ynghyd â’r ffyrdd y gall myth fod yn fodd i gelu gormes a darostyngiad. + Ymunwch â ni am sesiwn holi-ac-ateb gyda’r cyfarwyddwr, Michelle Ryan.
+
Derbyniodd ‘Onwards and Outwards’ gefnogaeth gan y BFI, sy’n dyfarnu arian Y Loteri Genedlaethol.
Sinema
029 2030 4400
He Named Me Malala
The Lady In The Van
Gwe 27 Tachwedd — Iau 3 Rhagfyr
Gwe 27 Tachwedd — Iau 3 Rhagfyr
UDA/2015/87mun/PG. Cyf: Davis Guggenheim.
DG/2015/104mun/12A. Cyf: Nicholas Hytner. Gyda: Maggie Smith, Alex Jennings, James Corden.
O’r chwith i’r dde: He Named Me Malala, The Lady In The Van
26
Golwg ysbrydolgar ar y digwyddiadau a arweiniodd at ymosodiad y Taliban ar y ferch ifanc o Bacistan, Malala Yousafzai, wedi iddi hi leisio barn ar addysg i ferched. Cawn gip hefyd ar yr hyn ddaeth wedyn, gan gynnwys araith rymus Malala i’r Cenhedloedd Unedig. Portread agos-atoch o’r person ieuengaf erioed i ennill Gwobr Heddwch Nobel.
Mae’r ffilm hon yn adrodd y stori wir am y berthynas rhwng Alan Bennett a’r Miss Shepherd unigolyddol, gwraig o darddiad ansicr a barciodd ei fan o flaen tŷ Bennett yn Llundain ‘dros dro’ — ac a fu’n byw yno wedi hynny am 15 mlynedd.
Clwb Ffilmiau Gwael:
Gŵyl Ffilmiau Antur
The Apple
Maw 17 Tachwedd + Maw 24 Tachwedd + Maw 1 Rhagfyr
Sul 1 Tachwedd
I ddathlu’r ffilmiau gorau a’r campau mwyaf eithafol, ymunwch â ni am noson o gyffro ac adrenalin — a detholiad o ffilmiau i wthio’r corff a’r meddwl i’r eithaf. O feicio mynydd i sgïo, caiacio i neidio BASE, teithiau llafurus a champau na welwyd mo’u tebyg o’r blaen, mae pob un o’n tair rhaglen ffilm gyffrous yn cynnwys rhywbeth i bawb.
Gadewch i’r Clwb Ffilmiau Gwael roi gwên ar eich wyneb ym mis Tachwedd wrth iddyn nhw gyflwyno ychydig o ‘glitz’ disgo yr 80au a hynny mewn byd dystopaidd lle mae’r X-Factor fel petai’n rheoli’r boblogaeth. Mae The Apple yn adrodd hanes cwpwl ifanc wrth iddyn nhw gael eu denu i fyd o gerddoriaeth a chyffuriau — mae hi hefyd yn cynnwys ambell gân ryfedd ar y naw ac actio hyd yn oed yn waeth.
I weld rhestr lawn o’r ffilmiau ac i gael mwy o wybodaeth, ewch i www.adventurefest.co.uk. * Ddim yn gymwys ar gyfer cynnig Disgownt Dydd Mawrth. Pris tocyn arferol.
UDA/1980/90mun/PG.
Nodwch os gwelwch yn dda y bydd yna sylwebaeth fyw yn ystod y ffilm hon. Fe all y ffilm a ddangosir newid ar y funud olaf.
chapter.org
27
Experimentica
O’r chwith i’r dde: NT Live: Of Mice And Men, F For Fake
Y Llwyfan ar y Sgrin
Sinema
NT Live:
Chapter 13 yn cyflwyno:
Of Mice And Men
F For Fake
UDA/2015/240mun/TiCh. Cyf: Anna D. Shapiro. Gyda: Chris O’Dowd, James Franco.
Ffrainc/1975/89mun/PG. Cyf: Orson Welles. Gyda: Orson Welles, Oja Kodat, François Reichenbach.
Mae’r cynhyrchiad Broadway nodedig, a ffilmiwyd ar lwyfan yn Efrog Newydd, yn adfywiad o bwys o ddrama John Steinbeck, a enillodd Wobr Nobel. Mae’n bortread grymus o’r ysbryd Americanaidd ac yn tystio’n ingol i rwymau cyfeillgarwch.
Myfyrdod ar ffugio, esgus a cham-arwain ar ffilm. Mae Welles yn cyflwyno stori hynod y ffugiwr celf enwog, Elmyr de Hory, yr aeth y newyddiadurwr Americanaidd, Clifford Irving, ati i ysgrifennu ei gofiant ar ôl ei gael ei hun dan swyn y gŵr hynod hwn. Mae ‘na dristwch gaeafol a dwyster yn ffilm olaf ond un Welles, wrth iddo encilio i neuadd o ddrychau cain.
Iau 19 Tachwedd
NT Encore:
Hamlet
Sul 15 Tachwedd DG/2015/240mun/12A. Cyf: Lyndsey Turner. Gyda: Benedict Cumberbatch.
Wrth i wlad baratoi at ryfel, mae teulu’n ei rwygo’i hun yn ddarnau. Ar ôl cael ei orfodi i ddial am farwolaeth ei dad ond ag yntau wedi’i barlysu gan ei dasg, mae Hamlet yn ymateb yn chwyrn i’w sefyllfa amhosib. Mae hynny’n bygwth ei bwyll ac yn peryglu’r wladwriaeth ei hun.
Llun 16 Tachwedd
+ Cyflwyniad a thrafodaeth ar ôl y ffilm gyda’r gwneuthurwr ffilmiau a’r ffan pybyr o ffilmiau cwlt, Ben Ewart-Dean. Byddwn yn plymio ar ein pennau i fyd o gymhlethdodau ffaith a ffuglen.
Home Taping Sad 7 Tachwedd
DG/1980-1985/72mun/dim tyst.
Yn y 1980au cynnar, roedd cyfryngau’r prif ffrwd yn ymdebygu i lyfrgell anferth y gellid ei hysbeilio at bwrpasau chwareus a phryfoclyd. Boed hynny drwy ffilmio sgriniau teledu gyda chamera Super 8 neu gopïo tâp-i-dâp, aeth artistiaid ati i ddewis a dethol eu deunyddiau amrywiol a gosod y rheiny at ei gilydd er mwyn tarfu ar ideolegau dominyddol yr oes a chynhyrchu cerddoriaeth weledol newydd. + Ymunwch â ni am gyflwyniad gan George Barber. Mae manylion pellach am y digwyddiad ac arddangosfa Baker yn yr Oriel ar gael ar dudalen 5. Rhad ac am ddim ond bydd angen tocyn.
Sinema
Gyda’r cloc o’r brig: Brooklyn, Wings Of Desire, The Lobster, Gone With The Wind, Letter From An Unknown Woman
28 029 2030 4400
Cariad
chapter.org
Sinema
29
Yr hydref hwn, byddwn yn cyflwyno tymor o ffilmiau i dorri’ch calon ac i wneud i chi syrthio mewn cariad eto wedi hynny! Gall grym cariad symud mynyddoedd — ond pan â pethau o chwith, gall emosiynau pensyfrdanol chwalu’r byd yn ddarnau mân. Rhan o dymor ‘BFI Love’ ar y cyd â Plusnet bfi.org.uk/love.
The Lobster
Brooklyn
DG/2015/118mun/15. Cyf: Yorgos Lanthimos. Gyda: Colin Farrell, Léa Seydoux, Rachel Weisz, John C. Reilly, Olivia Coleman.
Iwerddon/2015/112mun/12A. Cyf: John Crowley. Gyda: Saoirse Ronan, Domhnall Gleeson, Michael Zegan.
Stori garu wedi’i gosod yn y dyfodol agos lle mae pobl sengl, yn unol â rheolau The City, yn cael eu harestio a’u trosglwyddo i The Hotel. Yn y fan honno, rhaid iddynt ddod o hyd i gymar o fewn pedwar deg pump o ddiwrnodau. Gallant ennill dyddiau ychwanegol os llwyddan nhw i ddal y bodau unig sy’n byw yn y coed. Os methant, cânt eu trawsnewid yn anifeiliaid o’u dewis nhw a’u rhyddhau yn y goedwig. Daw Dyn a’i frawd (ar ffurf ci) i geisio gwneud synnwyr o’r byd peryglus hwn.
Mae Eilis Lacey — mewnfudwr Gwyddelig ifanc wedi’i denu gan addewid America — yn gadael cysur cartref ei mam am fywyd newydd yn Efrog Newydd. Mae hualau hiraeth yn llacio wrth i berthynas ramantus newydd flaguro. Ond buan y daw ei gorffennol i amharu ar ei bywyd newydd ac mae’n rhaid i Eilis ddewis rhwng dwy wlad a’r gwahanol fywydau sy’n bodoli oddi mewn iddynt.
Gwe 30 Hyd — Iau 12 Tachwedd
Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael — gweler y calendr am fanylion. + Ymunwch â ni am gyflwyniad a thrafodaeth ar ôl y dangosiad ar ddydd Llun 9 Tachwedd gyda chriw Tinted Lens, cydweithrediad newydd rhwng Chapter, Prifysgol Caerdydd a’r BFI.
Wings Of Desire Sul 1 + Maw 3 Tachwedd
Yr Almaen/1987/128mun/15. Cyf: Wim Wenders. Gyda: Bruno Ganz, Solveig Dommartin, Otto Sander.
Mae Damien a Cassiel yn angylion sy’n gwylio ac yn symud yn anweledig drwy ddinas ranedig Berlin — yn arsylwi, yn gwrando ac yn cymharu profiadau. Ni allant newid pethau na gwrando ar feddyliau’r dinasyddion islaw yn uniongyrchol — tan i Damien syrthio mewn cariad ag artist trapîs unig a hardd. Rêverie feistrolgar sy’n cynnwys sinematograffi cain yr Henri Alekan chwedlonol.
Gone With The Wind Sul 8 + Maw 10 Tachwedd
UDA/1939/238mun/PG. Cyf: Victor Fleming. Gyda: Clark Gable, Vivien Leigh, Thomas Mitchell.
Ffilm epig foethus a digymar o oes aur ffilm ac un o’r ffilmiau cyntaf i gael ei saethu mewn Technicolor ysblennydd. Enillodd stori Scarlett O’Hara a Rhett Butler Oscars di-ri ym 1939. Mae Scarlett yn belle benboeth sy’n creu hafoc ym mywydau pobl eraill, yn ei hymwneud â Rhett ac wrth iddi geisio ennill serch Ashley Wilkes. Caiff eu straeon personol eu gosod yn erbyn cefndir o newidiadau seismig yn y De yn ystod Rhyfel Cartref America.
Gwe 13 — Iau 26 Tachwedd
Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael — gweler y calendr am fanylion.
Brief Encounter
Gwe 13 — Maw 17 Tachwedd DG/1945/86mun/PG. Cyf: David Lean. Gyda: Celia Johnson, Trevor Howard, Stanley Holloway.
Ar ôl cyfarfod siawns ar blatfform gorsaf drenau, mae meddyg priod a gwraig tŷ faestrefol yn cychwyn ar berthynas dawel ond angerddol; perthynas y mae ffawd wedi pennu ei hyd a’i lled eisoes. Â’i leoliad noir-aidd, sgôr ramantaidd gan Rachmaninoff a pherfformiadau cain sy’n amrywio o sinigiaeth flinderus i anhapusrwydd Seisnig amheuthun, mae clasur mawr Lean yn gampwaith sy’n llawn angerdd swil.
Letter From An Unknown Woman Sul 22 + Maw 24 Tachwedd
UDA/1948/86mun/U. Cyf: Max Ophüls. Gyda: Joan Fontaine, Louis Jordan, Mady Christians.
Â’i gwaith camera gogoneddus a pherfformiadau canolog ysgubol, mae hon yn stori am Lise — merch ifanc freuddwydiol yn Fiena — a’i dyhead am ddyn anghyraeddadwy sy’n byw mewn byd aruchel. Campwaith crand i dorri’ch calon sy’n goferu o wirioneddau trist a syml: nid yw’r ffaith bod rhywun yn caru yn golygu y cerir y person hwnnw yn ei dro.
Doctor Zhivago
Sul 29 Tachwedd + Maw 1 Rhagfyr UDA/1965/193mun/PG. Cyf: David Lean. Gyda: Omar Sharif, Julie Christie, Rod Steiger, Alec Guinness.
Yn seiliedig ar y nofel gan Boris Pasternak a enillodd Wobr Nobel, mae addasiad Lean yn epig sy’n cwmpasu’r Chwyldro yn Rwsia a mwy. Mae’r bardd a’r meddyg, Yevgraf Zhivago, yn ceisio dod o hyd i ferch ei hanner-brawd, Yuri, a’i gariad, Lara. Stori am awydd, anffyddlondeb a chynnau tân ar hen aelwyd yn nhraddodiad mawreddog y nofel Rwsiaidd. + Ymunwch â ni am sesiwn ‘Addasiadau’ ar Sul 29 Tachwedd. Mae ‘Addasiadau’ yn grŵp sy’n trafod addasiadau ffilm o lyfrau.
30
Sinema
029 2030 4400
Dangosiadau Dros Dro Chapter + Cadw Castell Caerffili: Gwe 20 + Sad 21 Tachwedd Ymunwch â ni mewn lleoliad gwirioneddol anhygoel wrth i ni ymweld â Chastell Caerffili i barhau â’n rhaglen o ddangosiadau safle-benodol. Efallai y bydd yna gynhesrwydd i’w gael yn y storïau hyn ac yn ymyriadau cerddorol Opera Cenedlaethol Cymru ond fydd hynny ddim yn ddigon i’ch gwarchod chi rhag oerfel y gaeaf yn y dangosiadau awyr-agored hyn. Cofiwch wisgo dillad cynnes felly! Mae tocynnau ar gyfer y dangosiadau am 8pm yn £15/£12 a thocynnau dangosiadau am 5pm yn £10/£8. Maent ar gael drwy ein gwe-fan, www.chapter.org, neu o’n Swyddfa Docynnau, 029 2030 4400.
Beauty And The Beast
Dewch i Ganu — Frozen
UDA/1991/84mun/U. Cyf: Gary Trousdale, Kirk Wise. Gyda: Paige O’Hara, Robby Benson.
UDA/2013/102mun/PG. Cyf: Chris Buck, Jennifer Lee. Gyda: Kristen Bell, Josh Gad.
Mae merch ddewr o’r enw Belle yn mynd i gastell y Bwystfil ar ôl iddo garcharu ei thad, Maurice. Â chymorth ei weision, sy’n cynnwys y Mrs Potts gorffog, mae Belle yn dechrau dadmer calon oer y Bwystfil a llacio gafael ei unigrwydd arno.
Mae’r Anna eofn yn cychwyn allan ar daith epig drwy’r eira a’r oerfel ac yn dod ar draws dyn eira doniol o’r enw Olaf. Mae Anna’n ceisio dod o hyd i’w chwaer, Elsa — mae ei phwerau rhewllyd hithau wedi sicrhau bod y deyrnas yn bodoli mewn gaeaf tragwyddol.
Gwe 20 Tachwedd
Sad 21 Tachwedd
+ Sesiwn ganu dan ofal Opera Cenedlaethol Cymru.
Princess Bride Gwe 20 Tachwedd
DG/1987/98mun/PG. Cyf: Rob Reiner. Gyda Robin Wright, Cary Elwes, Peter Falk, Mandy Patinkin, Andre the Giant.
Mae menyw ifanc hardd yn cael ei dal gan dywysog trahaus sydd yn bwriadu iddi fod yn wraig iddo, ond mae ei chalon yn eiddo eisoes i’w gwir gariad. Bydd yn rhaid iddo fe frwydro yn erbyn grymoedd dieflig teyrnas chwedlonol Florin i’w hadennill hi. Stori dylwyth teg hyfryd sy’n gyfuniad deallus o gyffro, rhamant a chomedi.
Phantom Of The Opera Sad 21 Tachwedd
UDA/1925/93mun/PG. Cyf: Rupert Julian. Gyda: Lon Chaney, Mary Philbin, Norman Kerry.
Mae gŵr gwallgo’ sy’n byw yn y catacwmau o dan Opera Paris yn cael ei hudo gan lais cantores ifanc. Mae e’n ei chipio ac yn ei llusgo i’r dyfnderoedd fel na all ganu ond iddo fe. Mae’r campwaith hwn o arswyd mud clasurol yn cynnwys perfformiad grotesg anhygoel gan Lon Chaney. + Sgôr fyw wedi’i pherfformio gan Steepways Sound a chyflwyniad cyn y digwyddiad gan Opera Cenedlaethol Cymru.
Castell Caerffili: Un o leoliadau ‘Dangosiadau Dros Dro’ Chapter + Cadw
CARIAD
chapter.org
31
Sinema
Watch Africa Sad 21 Tachwedd
Lamb
Dathliad o’r ffilmiau gorau o wledydd ledled Affrica a fydd yn cynnwys hefyd weithgareddau rhyngweithiol i gyflwyno a gwyntyllu safbwyntiau ffres ar fywyd economaidd, cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol y cyfandir. Eleni, byddwn yn canolbwyntio ar straeon serch o’r galon. Rhan o dymor ‘BFI Love’, ar y cyd â Plusnet bfi.org.uk/love.
11am + 3pm
3pm
Sad 21 + Sul 22 Tachwedd
Yr Aifft/1958/77mun/is-deitlau/TiCh. Cyf: Youssef Chahine. Gyda: Farid Shawqi, Hend Rostom, Youssef Chahine.
Zarafa
Ffrainc/2015/78mun/PG. Cyf: Rémi Bezançon, Jean-Christophe Lie.
Dan goeden baobab, ac wedi’i amgylchynu gan grŵp o blant, mae hen ddyn yn adrodd hanes y cyfeillgarwch oesol rhwng Maki, 10 oed, a Zarafa, jiráff amddifad, a anfonwyd yn rhodd gan Pasha yr Aifft i Frenin Ffrainc, Charles X. Caiff Hassan, Tywysog yr Anialwch, orchymyn gan y Pasha i fynd â Zarafa i Ffrainc. Ond mae Maki wedi penderfynu gwneud popeth a all i’w atal rhag gwneud ac mae e’n benderfynol o ddod â’r jiráff yn ôl i’w wlad enedigol, hyd yn oed os yw hynny’n golygu peryglu ei fywyd ei hun.
1pm
Lamb Ethiopia/2015/96mun/is-deitlau/TiCh. Cyf: Yared Zeleke. Gyda: Rediat Amare, Kidist Siyum, Welela Assefa.
Mae bugail ifanc o’r enw Ephraim yn cael ei adael gan ei dad a’i anfon i ofal perthnasau iddo. Nid yw’n fugail da iawn ond mae ganddo dalent cudd — mae e’n gogydd ardderchog. Un diwrnod, dywed ei ewythr wrtho bod yn rhaid iddynt aberthu ei ddefaid ar gyfer y wledd grefyddol nesaf. Mae’r bachgen ifanc yn fodlon gwneud unrhyw beth i achub ei unig gyfaill a dychwelyd adref. Detholiad Swyddogol Gŵyl Cannes 2015
Cairo Station Mae Qinawi, pedlar anabl sy’n gwneud ei fywoliaeth drwy werthu papurau newydd yng ngorsaf drenau ganolog Cairo, wedi ei hudo’n llwyr gan Hannouma, menyw ifanc ddeniadol sy’n gwerthu diodydd oer. Er ei bod yn trin Qinawi â charedigrwydd, mae Hannouma mewn cariad â Abu Siri, porthor nerthol ac uchel ei barch yn yr orsaf. Ar ôl iddi wrthod Qinawi, mae ei obsesiwn yntau’n troi’n wallgofrwydd. + Ymunwch â ni am sesiwn holi-ac-ateb ar ôl y dangosiad.
6pm
Stories Of Our Lives Kenya/2014/60mun/is-deitlau/TiCh. Cyf: Jim Chuchu.
Yn 2013, dechreuodd ‘Grŵp y Nyth’ yn Kenya gasglu straeon gan bobl sy’n hunan-ddiffinio fel pobl LGBTI a throi’r straeon hynny’n gyfres o ffilmiau byrion. Mae’r antholeg, sy’n cyfleu hanesion sydd yn aml yn aros o’r golwg yn Affrica, yn rymus ac ysbrydolgar. + Ymunwch â ni am sesiwn holi-ac-ateb ar ôl y dangosiad.
8.30pm
Breathe Umphemulo
De Affrica/2015/90mun/is-deitlau/TiCh. Cyf: Mark Donford-Mai. Gyda: Noluthando Boqwana, Zamile Gantana, Sifiso Lupuzi.
Mae’r addasiad ffilm hwn o ‘La Bohème’ Puccini, dan gyfarwyddyd cerddorol Malefane a Mandisi Dyantis, yn adrodd hanes dau gariad, Mimi a Lungelo, sy’n brwydro yn erbyn gwirioneddau creulon cymdeithas gyfoes De Affrica. Wrth iddynt wneud eu gorau i ddod o hyd i fwyd, lloches a meddyginiaethau, mae eu hymlyniad i’w gilydd yn taro tant arbennig o iasol yn ein byd modern. Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael.
32
Sinema
029 2030 4400
Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn a dydd Sul am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn. Archebwch ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.
Noddir gan Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk 02920 666688
Hotel Transylvania 2
Bill
UDA/2015/89mun/U. Cyf: Genndy Tartakovsky. Gyda: Adam Sandler, Selena Gomez, Nick Offerman.
DG/2015/94mun/PG. Cyf: Richard Bracewell. Gyda: Mathew Baynton, Simon Farnaby, Martha Howe-Douglas.
 Mavis a Jonathan wedi croesawu eu anghenfil bach eu hunain i’r byd, mae Dracula yn dad-cu bellach. Mae Mavis yn dal i bendilio rhwng Transylvania a California, felly mae angen i Drac addysgu ei ŵyr bach cyn iddi fynd yn rhy hwyr.
Yng ngwaith diweddaraf y tîm a oedd yn gyfrifol am ‘Horrible Histories’ y BBC, mae’r chwaraewr liwt anobeithiol a’r diogyn diedifar, ‘Bill’ Shakespeare, yn gadael ei dref enedigol i chwilio am ffortiwn yn Llundain. Yn y fan honno, caiff ei hun yng nghanol cynllwyn i lofruddio’r frenhines.
Gwe 23 Hydref — Sul 1 Tachwedd
Happy Bees + Ffilmiau Byrion i Blant Sul 1 Tachwedd
DG/1955-1966/78mun/U. Cyf: Margaret Tait.
Dathliad o’r awdur, y bardd a’r gwneuthurwr ffilmiau o Ynysoedd Erch, Margaret Tait — un o arloeswyr cyfnod cynnar y sinema. Ffilmiau byrion prydferth sy’n cynnwys delweddau barddonol o blentyndod a byd natur. Gweler t25 am fwy o fanylion.
Lady And The Tramp Sad 7 + Sul 8 Tachwedd
UDA/1955/76mun/U. Cyf: Clyde Geronimi, Wilfred Jackson. Gyda: Barbara Luddy, Larry Roberts.
Mae Lady — sy’n cael ei difetha’n rhacs — yn digio ar ôl i’w pherchnogion, Jim Dear a Darling, ddod â babi i’r tŷ ac ar ôl i Modryb Sarah ychwanegu dwy gath Síam at y botes hefyd. Ar ochr beryglus y ddinas, mae hi’n dod ar draws y Tramp direidus a swynol, sy’n ei harwain ar antur yn llawn rhamant a serch.
Sad 14 + Sul 15 Tachwedd
Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael — gweler y calendr am fanylion.
Zarafa
Sad 21 + Sul 22 Tachwedd Gwlad Belg/2015/78mun/PG.
Mae hen ddyn yn adrodd hanes y cyfeillgarwch oesol rhwng Maki, 10 oed, a Zarafa, jiráff amddifad, a anfonwyd yn rhodd gan Pasha yr Aifft i Frenin Ffrainc. Mae Maki’n penderfynu gwneud popeth a all i ddod â’r jiráff yn ôl i’w wlad enedigol, hyd yn oed os yw hynny’n golygu peryglu ei fywyd ei hun. Rhan o gyfres Watch Affrica — manylion yn llawn ar t31.
Pan
Sad 28 + Sul 29 Tachwedd UDA/2015/111mun/PG. Cyf: Joe Wright. Gyda: Hugh Jackman, Levi Miller, Jimmy Vee.
Stori plentyn amddifad sy’n cael ei ddwyn ymaith i deyrnas hudolus Neverland. Yn y fan honno, daw o hyd i hwyl a pheryglon cyn wynebu yn y pen draw ei dynged ei hun — sef bod yn arwr a chael ei adnabod am byth fel Peter Pan.
Lady And The Tramp
Ffilmiau i’r Teulu Cyfan
chapter.org
Addysg
33
Gŵyl ‘Into Film’
ADDYSG
Gŵyl ‘Into Film’
Llun 16 — Iau 19 Tachwedd (Digwyddiad lansio ar Mer 4 Tachwedd) Mae Chapter yn falch iawn o gynnal wythnos o ddangosiadau ffilm rhad ac am ddim i ysgolion. I weld y rhaglen lawn ac i gael gwybodaeth ynglŷn ag archebu tocynnau, ewch i http://www.intofilm.org/festival.
Moviemaker Iau
Sad 28 Tachwedd 10.30am–12.30pm Os ydych chi rhwng naw ac 16 oed ac yn wneuthurwr ffilmiau uchelgeisiol, dewch i weld yr hyn sydd gennym i’w gynnig. Rydym yn gwylio ac yn trafod ffilmiau byrion — a byddwn yn dangos eich ffilmiau chi hefyd! Fe allai’r ffilmiau byrion a ddangosir yn ystod sesiynau Moviemaker Iau gynnwys golygfeydd sy’n cyfateb â thystysgrif PG y BBFC — dylai rhieni gadw hynny mewn cof. Archebwch docynnau gan ein Swyddfa Docynnau 029 2030 4400. £1.50
Academi Ffilm Pobl Ifainc 2016 Gydol y flwyddyn, byddwn yn cyflwyno Academi Ffilm Pobl Ifainc Chapter. Bwriedir y cwrs ar gyfer pobl ifainc rhwng naw a 12 oed sy’n ymddiddori mewn ffilm a bydd yn gyflwyniad ardderchog i brosesau ymarferol ac iaith ffilm. Cyflwynir yr Academi Ffilm nesaf i Bobl Ifainc ym mis Ionawr 2016 a bydd lleoedd ar gael o ddydd Mawrth 1 Rhagfyr. Anfonwch e-bost at learning@chapter.org i nodi’ch diddordeb os gwelwch yn dda.
Mewn mannau eraill yn Chapter:
Animeiddio i Oedolion — Cwrs Dechreuwyr
Dyddiau Sul o ddydd Sul 1 Tachwedd 4 –7pm (Cwrs 6 wythnos) Dysgwch grefft newydd yn Chapter ym mis Tachwedd. Gallwch arbrofi â gwahanol dechnegau animeiddio fel darlunio, torri allan, ‘stop-motion’, peintio ar wydr ac animeiddio tywod a theimlo’r wefr o weld pethau’n dod yn fyw o flaen eich llygaid. Cyflwynir y cwrs dan arweiniad animeiddiwr proffesiynol o Winding Snake Productions a bydd yn para am chwe wythnos. I gadw lle neu i gael mwy o wybodaeth, ewch i: www.windingsnake.com/workshops/adults/Animation-for-Adults.
I ddod yn fuan!
Dangosiad i Ysgolion: We Went To War Llun 14 Rhagfyr 10am
Dangosiad i Ysgolion a Lansiad Adnodd iPad Rhyngweithiol, i’w ddilyn gan sesiwn holi-ac-ateb gyda’r cynhyrchydd, Rebekah Tolley.
34
Archebu/Gwybodaeth
029 2030 4400
GWYBODAETH Sut i Archebu Tocynnau
Gwybodaeth
Dros y ffôn — ffoniwch ni ar 029 2030 4400. Rydym yn derbyn pob un o’r prif gardiau credyd. Galwch heibio — mae ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 11am–8.30pm, ac ar y Sul o 3pm–8.30pm. Ar–lein: Gallwch archebu ar www.chapter.org bob awr o’r dydd a’r nos Consesiynau: Mae cyfraddau disgownt ar gael i fyfyrwyr, pobl dros 60 oed, plant, y di–waith, pobl anabl, deiliaid cerdyn MAX ac i Ffrindiau Chapter a deiliaid Cerdyn Chapter. Bydd angen i chi gyflwyno prawf o’ch cymhwyster i dderbyn cyfradd ostyngol. Archebion grŵp: Prynwch 8 tocyn ac fe gewch chi’r 9fed yn RHAD AC AM DDIM. Noder os gwelwch yn dda • dim ond un disgownt y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw un adeg • rydym yn hapus i dderbyn archebion ymlaen llaw ond ni allwn gadw tocynnau i’r naill ochr • os cyrhaeddwch chi’n hwyr mae hi’n bosib y cewch chi’ch atal rhag mynychu eich digwyddiad. Cyflwynir rhai o’n ffilmiau â Disgrifiadau Sain ac Is–deitlau Meddal ond nid yw’r wybodaeth hon bob amser ar gael ar adeg argraffu’r cylchgrawn. Gweler ein gwe–fan am fanylion neu piciwch draw i’r Swyddfa Docynnau yn ystod yr wythnos y mae’r ffilm yn cael ei rhyddhau.
Cwmnïau ac Artistiaid Cysylltiedig Mae Chapter yn gartref i gwmnïau theatr, cwmnïau dawns, stiwdios animeiddio, gwneuthurwyr printiau, crochenwyr, dylunwyr graffeg, dylunwyr deunydd symudol, cyfansoddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, cyhoeddwyr cylchgronau, artistiaid annibynnol a llawer iawn mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.
Sinema Cyn 5pm O 5pm ymlaen Llawn £4.50 (£4.00) £7.90 (£7.20) Disg £3.50 (£3.00) £5.80 (£5.10) Cerdyn + Disg £3.00 (£2.50) £5.00 (£4.50) DISGOWNT DYDD MAWRTH Tocynnau’r holl brif ddangsiadau — £4.40
Gweithdai a Dosbarthiadau Rydym yn cynnal amrywiaeth eang o weithdai dyddiol a dosbarthiadau gydag ymarferwyr annibynnol, gan gynnwys ballet, zumba, ioga, crefft ymladd, massage i fabanod, cerddoriaeth i blant, pilates, tango, fflamenco, ysgrifennu creadigol, gwersi cerddoriaeth a mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.
Sut i gyrraedd Chapter Fe ddewch chi o hyd i ni yn Nhreganna, i’r gorllewin o ganol y ddinas. Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE Ar Droed Mae hi’n daith gerdded hamddenol o ryw 20 munud o ganol y ddinas. Ar Fws Mae bysus rhif 17, 18 a 33 yn aros gerllaw ac yn gadael bob pum munud o ganol y ddinas. Ar Feic Mae digon o raciau beic ar flaen yr adeilad. Parcio Mae gennym faes parcio yng nghefn yr adeilad ac mae meysydd parcio lleol eraill wedi eu nodi ar y map. Gofynnwn i chi barchu ein cymdogion os gwelwch yn dda drwy osgoi parcio mewn strydoedd cyfagos.
Prisiau ymlaen llaw/ar–lein mewn cromfachau. Mae “Ymlaen llaw” yn golygu unrhyw bryd cyn diwrnod y dangosiad.
aff nd Lla
Springfield Pl.
ad
mC ha cen res
Ha m i l t o n
St
t
Gr
King’s Ro
nd Wy
ane
Road
L Gray
. Library St
St. ay
Treganna
Le c h kwit
Church Rd.
Heol Ddwy rein i o l y B o n t F a en Penllyn Rd.
Harve
St Talbot
Orc h a r d P l.
rn Seve
St. Gray M a rk e t P l .
treet yS
e St. Glynn
d Roa
d hna arc lyF
Heo
o 6pm
rt S
t.
Road
Earle Pl.
A l be
P — meysydd parcio rhad ac am ddim — rac feics
r R—oadarhosfan bysus Majo
I Ganol Dinas Caerdydd to n ling Wel
et Stre
Mynediad i bawb Mae Chapter yn croesawu ymwelwyr anabl. Os oes gennych anghenion mynediad penodol, ffoniwch ein swyddfa docynnau ar 029 2030 4400, minicom 029 2031 3430.
chapter.org
Cymryd Rhan
35
CYMRYD RHAN Cerdyn CL1C
Cadwch mewn cysylltiad
Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawr–lwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!
Ymunwch â ni ar–lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.
Ffrindiau Chapter Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40
eAmserlen rad ac am ddim eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E–bostiwch adam.chard@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e–bost.
Cynllun Myfyrwyr Chapter Ydych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth am ddim a manteisio ar gynigion arbennig nodedig, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Jennifer — jennifer.kirkham@chapter.org www.chapter.org/cy/aelodaeth–myfyrwyr–chapter
Rydym yn falch o fod yn rhan o Hynt. www.hynt.cymru Hoffai Chapter gydnabod cefnogaeth hael y sefydliadau a’r grwpiau canlynol:
Sefydliad Esmée Fairbairn Cronfa Gymunedol Tirlenwi Rhaglen Ddiwylliant yr UE Sefydliad Garfield Weston Sefydliad Foyle Gwobr Biffa Cronfa Loteri Fawr Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston Grŵp Admiral Cyf Sefydliad Moondance ar gyfer y Celfyddydau a Chwaraeon Sefydliad Elusennol Trusthouse Plant mewn Angen y BBC Waitrose Sefydliad Waterloo Sefydliad Henry Moore Ymddiriedolaeth Ynni Gwyrdd ScottishPower SEWTA
Sefydliad y Brethynwyr WRAP Google Sefydliad Jane Hodge Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson Ymddiriedolaeth People’s Postcode Ymddiriedolaeth Feddygol Dunhill Legal & General Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm Ymddiriedolaeth Ernest Cook Sefydliad Boshier–Hinton Lloyds TSB Barclays Celfyddydau & Busnes Cymru Ymddiriedolaeth Austin & Hope Pilkington Gwestai Puma: Gwesty’r Angel Caerdydd
Celfyddydau Rhyngwladol Cymru Ymddiriedolaeth Elusennol Gibbs Ymddiriedolaeth Elusennol Steel Ymddiriedolaeth Oakdale Cwmni Plastig Dipec Nelmes Design Ymddiriedolaeth Elusennol Coutts Elusen Wake Bruce Funky Monkey Feet Sefydliad Finnis Scott Cote Brasserie Banc Unity Trust RWE Tidal Lagoon Power Hugh James Cymdeithas Celfyddydau Cyfoes Cymru Western Power Distribution
Aelodau Clwb Chapter: Prifysgol Fetropolitan Caerdydd Clearstream Technology Cake Communications Broomfield & Alexander Lloyds Spindogs Tincan 1st Office Urban Solar Patronbase Golley Slater Effective HRM Little Casino Stills Branding CDF Cyfrifwyr BPU Cyfreithwyr MLM Rheolwyr Cyfoeth SLD Capital Law Modern Television