Chapter Tachwedd 2014

Page 1

029 2030 4400

@chaptertweets

chapter.org


02

Croeso

chapter.org

CROESO Mae hi’n fis llawn dop arall yn Chapter wrth i brysurdeb gwyllt yr hydref barhau. Dyma’r hyn sydd gennym ar eich cyfer ym mis Tachwedd. Ydych chi’n mwynhau gweld gweithiau celfyddydol mewn lleoliadau anghonfensiynol? Wel, mae gennym newyddion da i chi! Mae Experimentica, ein gŵyl flynyddol o gelfyddyd fyw ac amseryddol, yn dychwelyd rhwng 5 a 9 Tachwedd (tt6-9). Â pherfformiadau a digwyddiadau ledled y ganolfan a ledled y ddinas, fe welwch chi bethau gwych a rhyfedd wrth i chi alw heibio Chapter y mis hwn. Byddwn hefyd yn gweithio gyda’r artist Richard Woods wrth iddo drawsnewid adeilad yng Nghastell Caerdydd (t10) i greu gwaith lliwgar a ffraeth. Yn y sinema, bydd ein tymor Gwyddonias yn parhau ag ambell glasur cwlt, ffilmiau mud a ffilmiau am ‘aliens’ a chydfodolaeth. Gallwch ymuno â ni hefyd ar deithiau i Gastell Coch a Chastell Rhaglan — gwisgwch ddillad cynnes i wylio ffilmiau ffantastig yn awyr agored oer mis Tachwedd (t32)! Ydych chi’n dod i Chapter gydag aelodau iau y teulu? Os felly, mae yna nifer o weithdai i wneuthurwyr ffilm ifainc a brwdfrydig a chwrs gwnïo a fydd yn cyflwyno hanfodion y grefft mewn modd hwyliog a chymdeithasol. Diolch am ddarllen ac fe welwn ni chi cyn hir!

Defnyddiwch y côd QR hwn i lawr-lwytho copi digidol o gylchgrawn Chapter

Delwedd y Clawr: Mark Leahy, Answering Machine, 2014

Chapter Heol y Farchnad, Caerdydd CF5 1QE 029 2030 4400 www.chapter.org ymholiadau@chapter.org


chapter.org

Uchafbwyntiau

Oriel tudalennau 4–10

Bwyta Yfed Llogi tudalen 11

03

CYMRYD RHAN

Theatr

Cerdyn CL1C

tudalennau 12–16

Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawrlwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Chapter Mix tudalen 17

Ffrindiau Chapter Sinema tudalennau 18–34

Addysg tudalen 35

Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40

Cadwch mewn cysylltiad Ymunwch â ni ar-lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

Gwybodaeth eAmserlen rad ac am ddim a Sut i eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch archebu adam.chard@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ tocynnau ym mhennawd yr e-bost. tudalen 36

Siaradwch â ni @chaptertweets facebook.com/chapterarts

Cymryd Rhan tudalen 37

Calendr tudalennau 38–39


04

Oriel

029 2030 4400

Chwith: Sharon Lockhart, Redzienco, (delwedd o’r ffilm) 2014. Gyda chaniatâd caredig yr artist a neugerriemschneider, Berlin, Gladstone Gallery New York a Brussels, a Blum & Poe Los Angeles Isod: Deep State (delwedd o’r ffilm) 2012-2014. Gyda chaniatâd caredig yr artistiaid a Waterside Contemporary


chapter.org

Oriel

05

Artes Mundi 6 Tan ddydd Sul 22 Chwefror 2015

Rydym yn falch iawn o allu cydweithio gydag Artes Mundi i gyflwyno gwaith gan Karen Mirza a Brad Butler (DG), Renzo Martens (Yr Iseldiroedd) a Sharon Lockhart (UDA). Mae gweithiau gan yr artistiaid eraill ar restr fer gwobr Artes Mundi 6 i’w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac yn Ffotogallery, Penarth. I weld manylion yr holl artistiaid ar y rhestr fer ac oriau agor y lleoliadau eraill, gallwch ymweld â www.artesmundi.org

Renzo Martens and the Institute for Human Activities Y Blwch Golau a Chyntedd y Theatr

Mae Renzo Martens yn byw ac yn gweithio ym Mrwsel ac yn Kinshasa ac yn adnabyddus am ei ffilmiau ysgytwol am wledydd wedi’u difetha gan ryfel, lle mae e’n ei osod ei hun wrth galon y digwyddiadau cythryblus er mwyn dangos sut y mae gwylwyr Gorllewinol yn ‘prosesu’ digwyddiadau trawmatig mewn gwledydd pell. Bydd Martens yn cyflwyno ‘Episode 3 (Enjoy Poverty)’, ffilm am ei ymweliad â’r Congo adfeiliedig. Cynhaliodd gyfweliadau â ffotograffwyr, perchnogion planhigfeydd a chwarae rhannau’r newyddiadurwr Gorllewinol, y gormeswr, y cenhadwr a’r gweithiwr cymorth. Mae ei ffilm yn canolbwyntio ar un prif bwynt: taw tlodi yw allforyn mwyaf gwerthfawr Affrica a’i fod, fel adnoddau naturiol eraill, yn cael ei ecsbloetio gan y byd Gorllewinol. Mae e’n cyflwyno darlithoedd i’r bobl leol ac yn sôn am dlodi fel nwydd ac yn eu hannog wedi hynny i werthu eu lluniau eu hunain o newyn a marwolaeth yn hytrach na gadael i newyddiadurwyr y Gorllewin elwa ar eu trychinebau dyngarol.

Sharon Lockhart Oriel Mae Sharon Lockhart yn gweithio gydag unigolion a grwpiau i greu delweddau symudol a llonydd sydd yn weledol gymhellol ac yn arddangos ymagweddiad cymdeithasol sicr. Un o weithiau pennaf Lockhart yw Lunch Break (2008), sy’n dangos 42 o weithwyr mewn iard longau yn ystod eu hawr ginio. Yn ystod y cyfnod hwnnw, gwelwn weithwyr yn cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau — darllen, cysgu, a siarad — yn ogystal â bwyta eu cinio. Ar gyfer Artes Mundi 6 bydd Lockhart yn dangos un o ddwy ffilm o Lunch Break o’r enw Exit. Wedi’i ffilmio dros gyfnod pumniwrnod yr wythnos waith, mae pob un o’r pum golygfa yn Exit yn dangos y gweithwyr yn gadael y Bath Iron Works ar ddiwedd eu shifft. Gan ddwyn i gof ffilm Louis Lumière, Leaving the Lumière Factory, mae Exit yn canolbwyntio ar lif amser a manylion profiadau bob dydd. Arddangosfa ar agor: Dyddiau Mawrth, Mercher, Sadwrn a Sul 12-6pm; dydd Iau a dydd Gwener 12-8pm; ar gau ar ddydd Llun

Karen Mirza and Brad Butler Oriel a Celfyddyd yn y Bar

Bu Mirza a Butler yn cydweithio ers 1998, ac maent wedi datblygu corff o waith aml-haenog sy’n cynnwys ffilm, gosodiadau, perfformio, cyhoeddi a churadu. Mae eu gwaith yn her i dermau fel cyfranogi a chydweithredu ac i syniadau traddodiadol am yr artist fel cynhyrchydd a’r gynulleidfa fel derbynnydd. Ar gyfer Artes Mundi 6 bydd Mirza a Butler yn cyflwyno The Unreliable Narrator, clwstwr o weithiau sy’n chwarae â’r bwlch rhwng ffuglen a realiti. Yn You are the Prime Minister, mae neon llachar yn troi’n wahoddiad i dderbyn rôl y Prif Weinidog mewn ffuglen ffantasïol. Mewn gosodiad fideo, mae llais yn sôn am yr ymosodiadau ym Mumbai yn 2008, o safbwyntiau terfysgwyr a sylwebwyr ymddangosiadol ddiduedd am yn ail.

Digwyddiadau Amser Cinio Dyddiau Iau 1.05-1.30pm Bydd perfformwyr o bob cwr o Gymru yn creu ymatebion unigryw i Artes Mundi 6, gan dynnu ysbrydoliaeth o weithiau, deunyddiau, themâu neu wledydd yr artistiaid ar y rhestr fer:

Iau 6 Tachwedd ‘Wimmin’ Première byd-eang o waith newydd gan yr artistiaid dawns, Sarah Hudson a Cêt Haf.

Iau 20 Tachwedd Bydd detholiad o feirniaid Cymraeg yn ymuno ag awduron, beirdd a chantorion Sherman 5, er mwyn ymateb i arddangosfa Artes Mundi 6 yn Chapter.

Sgyrsiau am 2 Sad 1, Sad 15, Sad 29 Tachwedd 2pm Teithiau tywysedig rhad ac am ddim drwy’r arddangosfa yng nghwmni ein tywyswyr byw.Gweler y we-fan am fanylion.


06

Oriel

029 2030 4400

Experimentica14 CO-Existence has never been easy

Tim Bromage, Gavin Krastin, Matt Ball, Justin Cliffe & Tracy Harris, Nathan Walker, GETINTHEBACKOFTHEVAN, Cian Donnelly, Sam Playford-Greenwell & Lucie Akerman, Phil Hession, Cathy Gordon, Dustin Harvey & Adrienne Wong gyda Zuppa Theatre, Mark Leahy, Threatmantics, Siân Robinson Davies, Eleanor Sikorski & Alberto Ruiz Soler, Karen Mirza & Brad Butler, Paul Hurley, OFF THE PAGE gyda Samuel Hasler, André Stitt, There There, Beth Greenhalgh & John Abell, Iwan ap Huw Morgan, Haranczak/Navarre, Lolo y Lauti, Florence Peake & Jonathan Baldock gyda Ian Watson, good cop bad cop, Rhodri Davies & Lina Lapelyte. Sefydlwyd Experimentica, gŵyl bum niwrnod flynyddol Chapter, yn 2001. Mae Experimentica yn cyflwyno rhaglen ddeinamig o gelfyddyd, perfformiadau a phrosiectau rhyngddisgyblaethol byw ac mae’n llwyfan pwysig sy’n caniatáu i artistiaid o Brydain ac o bedwar ban byd gynhyrchu neu gyflwyno eu gwaith. Gall yr Ŵyl fod yn ddifyr, yn beryglus, yn ddryswch pur, yn wir bob gair, yn chwareus, yn bryfoclyd, yn ffraeth — ac yn unrhyw beth arall dan haul! Daw teitl yr ŵyl eleni o ffilm wyddonias 2009, District 9 (wedi’i chyfarwyddo gan Neill Blomkamp). Mae’r ffilm honno’n alegori aml-haenog sy’n archwilio ein hagweddau at estroniaid. Nid thema yw’r teitl fel y cyfryw ond man cychwyn sy’n galluogi i gyfranogwyr archwilio syniadau am gyd-fodolaeth. Cefnogir Experimentica14 gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chaerdydd Gyfoes. Caiff thema ‘Cyd-fodolaeth’ ei harchwilio hefyd yn ein tymor o ffilmiau Gwyddonias. Trowch i dudalennau 28-32 i weld manylion ein dangosiad o District 9, a sawl clasur cwlt arall ynghyd â nifer o ffilmiau byrion Affro-ddyfodoliaeth sy’n dathlu gweledigaethau amgen o’r dyfodol.

GWYBODAETH AM DOCYNNAU Pàs gŵyl 5 niwrnod: £25 Pàs 1 dydd: £10 Tocynnau i ddigwyddiadau unigol: £5 Archebu 029 2030 4400 www.chapter.org

TRWY GYDOL YR ŴYL LOLO Y LAUTI: SELF-PORTRAIT SWEATSHOP 8 Arcêd y Dug, 12–5pm

Gwaith cyfranogol mewn siop yng nghanol y ddinas lle cafodd cyfranogwyr eu hurio i greu portreadau o’r artistiaid y gall y cyhoedd eu prynu maes o law. www.loloylauti.com

good cop bad cop: OCCUPATION Canol Dinas Caerdydd, 12–6pm

Yn y cefndir, allan o’r ffrâm ac ymhell o’r goleuadau, maent yn aros i wneud eu hymddangosiad. Maent yn gwybod sut mae lladd amser ac maen nhw wedi paratoi. Maen nhw’n mynd i ddilyn y rheolau ac yna fe gânt eu talu. “Action”! www.gcbccentral.com

BETH GREENHALGH & JOHN ABELL: MURDER BALLAD: AN ELEGY CANOL DINAS CAERDYDD, 12–5PM

Wrth gyfuno defodau, perfformio, cerflunwaith, print a thestun, bydd Beth a John yn meddiannu set gyfnewidiol ac yn cyflwyno ymyriadau a fydd yn adrodd straeon am lofruddiaeth, mythau, iwtopia a dystopia. http://johnabell.blogspot.co.uk http://intangiblestudio.co.uk/ipfc/beth-greenhalgh/

THERE THERE: TEXT HOME TO 78070 Chapter a Chanol Dinas Caerdydd

Albwm cysyniad llafar wedi’i ysbrydoli gan ymgyrch ddrwg-enwog y Swyddfa Gartref yn 2013. Un nod sydd i’r cyflwyniad hwn: helpu newydd-ddyfodiaid i’r UE i integreiddio, i gymhathu ac i ymdreiddio i gymdeithas y DG. www.therethere.eu

Andre Stitt, Art is not a mirror it’s a fucking hammer, 1978

Mer 5 — Sul 9 Tachwedd


chapter.org

Oriel

07

Gyda’r cloc o’r chwith uchaf: Tim Bromage, The Odyssey, 2014. Photo: Kusa; GETINTHEBACKOFTHEVAN, Number 1, The Plaza. Photo/ Llun: Ludovic des Cognets; Lucie Akerman and Samuel Playford-Greenwell, Towards A Cavendish Group Sigil, 2014

Dydd Mercher 5 Tachwedd

Dydd Iau 6 Tachwedd

MATT BALL, JUSTIN CLIFFE & TRACY HARRIS: BOTTLED

NATHAN WALKER: S C A W

Pwynt Cyfryngol, 6pm

Ydych chi erioed wedi bod i briodas ac wedi clywed araith gan y gwas priodas a aeth yn rhy bell? Angladd lle roedd pob teyrnged yn cynnwys y gwir, yr holl wir a dim ond y gwir? Ymunwch â Matt Ball, Justin Cliffe a Tracy Harris am noson o wirioneddau, dathliadau, cyffesion a ffrwydradau. Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru www.mattball.me

RHODRI DAVIES & Lina Lapelyte Stiwdio, 7.30pm

Mae Rhodri Davies yn delynor sy’n ymwrthod â chysyniadau traddodiadol am y delyn ac yn herio’r ffiniau rhwng cyfansoddi a byrfyfyrio. Mae Rhodri a Lina ill dau yn aelodau o grŵp Common Objectives ac yn cydweithio gyda’i gilydd ar achlysuron arbennig. www.linalapelyte.com www.rhodridavies.com

Ystafell Gyffredin, 12–8pm

Mae S C A W yn osodiad gweithredol wyth awr o hyd sy’n archwilio ysgrifennu awtomatig, gweithredoedd cylchol a llefaru. www.nathan-walker.co.uk

LUCIE AKERMAN & SAMUEL PLAYFORDGREENWELL: TOWARDS A CAVENDISH GROUP SIGIL Pwynt Cyfryngol, 6pm

Cwlt rhyngrwyd dychmygol yn seiliedig ar fananas a thrafodaethau o bynciau amrywiol. Bydd Grŵp Cavendish yn cyflwyno hanes cryno o syniadau am gyfunoliaeth wleidyddol. samplayfordgreenwell.wordpress.com

CIAN DONNELLY: BLEACH BOX Stiwdio, 7pm

TIM BROMAGE: THE ODYSSEY

Mae Bleach Box yn berfformiad arbrofol ar ffurf cyfres o vignettes sy’n pendilio rhwng naratif barddonol, pop arbrofol ac adloniant rhith-weledol.

Theatr, 9pm

www.ciandonnelly.com

Bydd Tim Bromage yn cyflwyno dehongliad llac o gerdd epig Homer, wedi’i haddasu ar gyfer y llwyfan gyda sain gan Jon Ruddick a fideo gan Kusa.

GETINTHEBACKOFTHEVAN: NUMBER 1, THE PLAZA

vimeo.com/97986683

Theatr, 9pm

Drws ffrynt coch. Rhif 1 euraid. Twll pipio pitw. Edrychwch o’ch cwmpas. Mae GETINTHEBACKOFTHEVAN yn awyddus i agor y drysau er mwyn caniatáu i chi ddod i mewn. Yr holl ffordd i mewn. Fel y gallwch chi gael profiad go iawn o’r hyn sydd yno. www.getinthebackofthevan.com


Oriel

029 2030 4400

Gyda’r cloc o’r chwith uchaf: Adrienne Wong & Dustin Harvey gyda Zuppa Theatre, LANDLINE; Haranczak/ Navarre: Control Signal, llun: Jemima Yong; Gavin Krastin, Rough Musick. llun: Cat Pennels

08

Dydd Gwener 7 Tachwedd MARK LEAHY: ANSWERING MACHINE Sinema 2, 12pm

Mae ‘Answering Machines’ yn gosod y perfformiwr ar drugaredd y gynulleidfa neu’r cyfranogwyr, wrth iddyn nhw benderfynu beth y dylai ddweud; mae’r perfformiwr yn gyfuniad o oracl a phyped. Caiff ei reoli gan gyfarwyddiadau’r gynulleidfa. www.markleahy.net

CATHY GORDON: HAMMER THE HISTORY OF CATHY GORDON’S ANGER Ystafell Gyffredin, 2pm

Yn gydblethiad o ffeithiau a ffuglen bersonol, mae HAMMER yn cynnig ‘technegau ar gyfer prosesu dicter’ ac yn archwiliad o gydymffurfiaeth, ffeministiaeth a chyfrifoldeb cymdeithasol. www.cathygordon.com

ADRIENNE WONG & DUSTIN HARVEY: LANDLINE: CARDIFF TO HALIFAX Cwtch, 3–6.45pm

Mae Landline yn defnyddio strydoedd y ddinas, technoleg symudol ac awgrymiadau barddonol i gynnwys aelodau’r gynulleidfa mewn gêm o gyfarfyddiadau annhebygol. Ewch i’r we-fan i drefnu slot ac i weld y cyfarwyddiadau ar gyfer cymryd rhan. www.landlineontour.wordpress.com www.dustinharvey.cm

PHIL HESSION: A VERSION OF BARBARA ALLEN Stiwdio, 6pm

Mae Phil Hession yn defnyddio ‘lathe’ hunanadeiledig, canu byw a fideos YouTube i greu ‘mashup’ o’r faled draddodiadol, ‘Barbara Allen’. www.philhession.com

HARANCZAK/NAVARRE PERFORMANCE PROJECTS: CONTROL SIGNAL — DEUAWD GAN KAREN CHRISTOPHER & SOPHIE GRODIN Theatr, 9pm

Mae Control Signal yn archwilio dylanwadau anweledig a’r cysylltiadau anesboniadwy y teimlwn weithiau heb allu eu hesbonio na hyd yn oed eu hadnabod. www.haranczaknavarre.co.uk

Dydd Sadwrn 8 Tachwedd GAVIN KRASTIN: ROUGH MUSICK Ystafell Gyffredin, 12pm

Dechreuodd yr arfer o greu ‘Rough Music’ ym mhentrefi bychain Lloegr yn ystod y canol-oesoedd er mwyn i’r cyhoedd ddwyn gwarth a gwaradwydd ar fân-droseddwyr, gwyredigion (‘deviants’) rhywiol ac ‘eraill’. Wedi’i ysbrydoli gan yr arferion cynnar hyn, mae Gavin Krastin yn creu fersiwn gyfoes ohonynt ac yn ail-ymwneud â’r defodau tywyll. www.gavinkrastin.com

KAREN MIRZA & BRAD BUTLER: THE EXCEPTION AND THE RULE

Y Deml Heddwch, Canol Dinas Caerdydd, 2pm Cydweithiodd Mirza a Butler gyda thrigolion Caerdydd er mwyn llwyfannu un o ‘ddramâu dysgu’ byrion Bertolt Brecht, The Exception and the Rule. www.mirza-butler.net

ADRIENNE WONG & DUSTIN HARVEY: LANDLINE: CARDIFF TO HALIFAX Cwtch, 3–6.45pm

Gweler manylion dydd Gwener


O’r chwith i’r dde: Threatmantics, Florence Peake a Jonathan Baldock, Soft Machine, 2014. Llun: Warren Orchard

chapter.org

Oriel

09

Dydd Sul 9 Tachwedd ANDRE STITT: PERFORMING POLITICAL ACTS Sinema, 12pm

SIÂN ROBINSON DAVIES: ASSUMPTIONS Theatr, 5pm

Fe ddechreuwn ag ambell ragdybiaeth, am mai dyna’r man cychwyn bob amser. Fodd bynnag, byddwn yn ceisio mynd y tu hwnt i’r rhagdybiaethau hynny, hyd yn oed os taw’r oll a gawn yn y pen draw fydd celwyddau a nonsens. www.sianrobinsondavies.com

ALBERTO RUIZ SOLER & ELEANOR SIKORSKI Theatr, 8pm

Mae Eleanor & Alberto yn eithaf sinigaidd wrth sôn am gariad. Maent yn gwthio’i gilydd hyd at flinder corfforol ac yn dadlennu methiannau personol wrth fynd — maent yn ‘wingmen’ ac yn ‘divas’. www.bertruiz.net www.eleanorsikorski.com

THREATMANTICS: THE BALLAD OF SHOTGUN BILLY Stiwdio, 9.30pm

Yn seiliedig ar y gân ‘Shotgun Billy’ o albwm Threatmantics, Kid McCoy, mae’r sioe hon yn opera roc glyweledol sy’n llawn sioc ac arswyd. www.threatmantics.com

IWAN AP HUW MORGAN: THE MYTH OF THE URBAN SHAMAN Chapter, 11pm

Gwaith byw newydd sydd yn esbonio’r heriau eithafol y mae’r artist yn eu wynebu fel prentis siaman sy’n byw mewn cyd-destun dinesig. www.gweld.wordpress.com/iwan-ap-huw-morgan/

Darlith gan André sy’n archwilio celfyddydau perfformio yng Ngogledd Iwerddon yn ystod cyfnod ‘Y Trafferthion’. Fe’i dilynir gan ffilm, One Inch To The Left, sy’n canolbwyntio ar berfformiad diweddar gan André, Alastair MacLennan a Adrian Hall (sy’n perfformio hefyd dan yr enw Triple AAA). www.andrestitt.com

PAUL HURLEY: I FALL TO PIECES Ystafell Gyffredin, 2–6pm

Bydd Paul Hurley yn cyflwyno gwaith newydd sy’n archwilio diddordeb ffurfiol mewn symudiadau haniaethol, perfformio a phrofiadau personol o alar. www.paulhurley.org

ADRIENNE WONG & DUSTIN HARVEY GYDA Zuppa Theatre: Landline: Cardiff to Halifax Cwtch, 3–6.45pm

Gweler manylion dydd Gwener

OFF THE PAGE: WEDI’I GURADU GAN SAMUEL HASLER Pwynt Cyfryngol, 4pm

Mae OFF THE PAGE yn ddigwyddiad rheolaidd sy’n caniatáu i artistiaid ac awduron arddangos, i berfformio neu i drafod gwaith newydd. Rydym yn ceisio sicrhau bod OFF THE PAGE yn ofod diogel ar gyfer arbrofi a thrwy hynny annog artistiaid i gymryd risgiau. Fe allai’r sesiwn fod yn dawel neu fe allai pethau fod yn anhrefn llwyr — bydd yn rhaid i ni aros i gael gweld.

FLORENCE PEAKE & JONATHAN BALDOCK: APPARITION OF THE PHANTOM LIMBS Sgôr Sain gan Ian Watson. Stiwdio, 7pm

Bydd Jonathan a Florence yn cydweithredu ac yn eu hail-ddiffinio’u hunain fel alcemyddion abswrd ´ er mwyn creu celfyddyd a defodoli’r broses o greu cerfluniau ar ffurf ddynol. www.jonathan-baldock.com www.florencepeake.com www.uhohwatson.com


Oriel

Caerdydd Gyfoes

Richard Woods Cardiff Rebuild

029 2030 4400

Richard Woods: Cardiff Rebuild, Castell Caerdydd, 2014. Gyda chaniatâd caredig Stiwdio Richard Woods

10

Tan Sul 9 Tachwedd Mae gŵyl Caerdydd Gyfoes yn ŵyl a gynhelir bob dwy flynedd i ddathlu a hyrwyddo’r celfyddydau gweledol. Datblygwyd y fenter hon gan Gyngor Caerdydd ar y cyd ag artistiaid, dylunwyr a phenseiri’r ddinas. Mae’r ŵyl yn cynnig rhaglen gyfoethog ac amrywiol o arddangosfeydd, digwyddiadau a gweithgareddau ym mhob cwr o’r ddinas. Mae gan Gaerdydd enw da am gyflwyno digwyddiadau a gwyliau o’r radd flaenaf, ac nid yw Caerdydd Gyfoes yn eithriad. Eleni, mae’r arlwy’n cynnwys dros 30 o brosiectau comisiwn arbennig a thri phreswyliad, ar y cyd ag arddangosfeydd mewn orielau a phedair gŵyl. Thema’r ŵyl yw Datgelu/Cuddio. O’r South Wales Echo i Orsaf Caerdydd Canolog, ac o Gastell Caerdydd i leoliadau cudd o dan y ddaear, mae Caerdydd Gyfoes yn defnyddio’r ddinas gyfan fel oriel gelf. Mae artistiaid wedi ail-ystyried y ddinas trwy gyfrwng celfyddyd ac yn cyflwyno mannau mewn ffyrdd arloesol, bywiog, hudolus a heriol. Nod gŵyl Caerdydd Gyfoes yw sicrhau bod cynnwys yr ŵyl ar gael i gymaint o bobl â phosib ar hyd a lled y ddinas. I gael mwy o wybodaeth ac i weld rhaglen lawn yr ŵyl ewch i www.cardiffcontemporary.co.uk

Prosiect oddi ar brif safle Chapter yng Nghastell Caerdydd Tan Sul 9 Tachwedd Mae Richard Woods wedi ennill enw da yn rhyngwladol am ei drawsnewidiadau pensaernïol ac am baentiadau a cherfluniau sy’n uno hanes y celfyddydau addurnol, dylunio swyddogaethol ac iaith graffeg â delweddau ac arwynebau ffraeth. Wedi’i ysbrydoli gan hanes Castell Caerdydd — a chan y bartneriaeth bwysig rhwng 3ydd Marcwis Bute a’r pensaer William Burges yn benodol — mae Woods wedi gweithio ar dir y castell i greu teyrnged annisgwyl, llawn hiwmor i’r ystafelloedd moethus yno. Ynglŷn â’r Artist Ganwyd Richard Woods ym 1966 yn Swydd Gaer a chafodd ei addysg yn Ysgol Gelf Winchester ac Ysgol Celfyddyd Gain y Slade. Mae e’n byw ac yn gweithio yn Llundain. Mae Woods wedi arddangos ei waith yn rhyngwladol ac mae ei brosiectau diweddar o bwys yn cynnwys comisiynau mawrion ym Mhrifysgol Caerfaddon (2014); ‘A Maze for Yorkshire’, Wakefield (2013); Cronfa Celfyddyd Gyhoeddus a Thŷ Lever, Efrog Newydd (2010). Mae e hefyd wedi cydweithredu ar amrywiaeth eang o ddodrefn gyda Established & Sons. Mae gwaith Woods yn rhan o sawl casgliad pwysig gan gynnwys Casgliad Saatchi, Llundain, Casgliad Frank Cohen, Manceinion / Wolverhampton; a Chasgliad Jumex, Mecsico. Cefnogir prosiect Richard Woods gan Gaerdydd Gyfoes, Castell Caerdydd a Works I Projects www.worksprojects.co.uk.


chapter.org

Bwyta Yfed Llogi

11

BWYTA YFED LLOGI

Bwyta + Yfed Â’r cysgodion yn hirhau a’r tywydd yn oeri, rydym yn dyheu am brydau swmpus a gaeafol. Wrth lwc, bydd bwydlen newydd y gaeaf ar gael y mis yma. Yn cynnwys ambell ffefryn o’r fwydlen bresennol ynghyd â phrydau tymhorol, bydd yna ffocws ar flasau traddodiadol wedi’u paratoi mewn arddulliau cyfoes. Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at lenwi’n boliau â phrydau iachus, sylweddol a blasus. Ar ôl bwydlen mis Hydref, a ysbrydolwyd gan Afrovibes, byddwn yn parhau i gynnig rhai o winoedd ardderchog De Affrica — cyfuniad perffaith â’r prydau ardderchog a fydd ar gael.

Llogi Mae nifer o ystafelloedd a chyfleusterau Chapter ar gael i’w llogi ac fe ddefnyddir y rhain yn rheolaidd gan amrywiaeth eclectig o ddosbarthiadau dydd a nos. Ewch i’n gwe-fan neu codwch daflen yn y swyddfa docynnau i weld yr hyn sydd ar gael. Os ydych chi’n chwilio am ystafell ar gyfer parti, cyfarfod neu gynhadledd, neu am ofod i saethu fideo, i ymarfer neu i gynnal gweithgareddau adeiladu tîm, bydd ein cyfleusterau gwych, ein harbenigedd technegol a’n staff cyfeillgar yn gallu sicrhau bod eich digwyddiad yn un cyffyrddus, unigryw a chofiadwy. Gallwn ddarparu amrywiaeth o opsiynau arlwyo ar gyfer eich digwyddiad hefyd. Os oes gennych chi gwestiynau penodol neu os hoffech chi fwy o wybodaeth am ein cyfleusterau, rhowch ganiad i’n rheolwr llogi, Nicky, ar 029 2031 1058, neu anfonwch e-bost at nicky. keeping@chapter.org.

I ddod yn fuan!

Parti Nos Galan Mer 31 Rhagfyr Roedd parti Nos Galan y llynedd yn ddigwyddiad ardderchog ac fe ddaethom ni i’r casgliad ein bod ni’n gallu trefnu parti a hanner. Eleni, felly, fe fydd yna un arall. Shape Records fydd yn gyfrifol am y trefniadau y tro hwn. Bydd y parti’n cynnwys bandiau byw a DJs ac fe fydd Caffi Bar gwych Chapter yn diwallu pob angen am fwyd a diod tan yr oriau mân. Bydd y manylion yn llawn ar gael cyn bo hir ond, yn y cyfamser, cadwch lygad ar ein gwe-fan, www.chapter.org, i weld y newyddion diweddaraf.


Theatr

“ Artist idiosyncratig y mae ei sioeau’n aflonyddu ac yn difyrru ... maent yn fesmerig a ffraeth, yn llawn dychymyg, yn anghysurus ac yn amhosib eu rhag-weld” David Adams

029 2030 4400

PUNISHMENT

12


Theatr

Sean Tuan John: PUNISHMENT

Man arall

13

Unease

chapter.org

Iau 27 — Sad 29 Tachwedd 7.30pm Mae un o ffefrynnau Chapter, Sean Tuan John, yn dychwelyd yr hydref hwn â’i sioe newydd ddigyfaddawd, PUNISHMENT. Mae’r sioe yn ddatblygiad o’i ffocws ar bobl ar y Tu Allan; y bobl anghofiedig hynny sy’n cuddio ar gyrion ein cymdeithas. Mae PUNISHMENT yn archwilio’r syniad o wyriad (‘deviance’); beth sy’n digwydd i bobl sy’n gweithredu y tu hwnt i’r normau derbyniol? Sut mae mynd ati i ddeall? A allwn ni ddechrau maddau? Mae PUNISHMENT yn waith tywyll, doniol, pryfoclyd, llawn emosiwn ac yn archwilio systemau cyfiawnder wrth i bedwar dawnsiwr gwrywaidd gorfforoli elfennau ysgytwol a pheryglus yn ymwneud â throsedd, dieithrio ac effeithiau gwyriad cymdeithasol. Perfformiad newydd rhyfeddol gan goreograffydd mwyaf beiddgar Cymru. Wedi’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae PUNISHMENT yn gyd-gynhyrchiad â Chanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, gyda chefnogaeth Chapter a Phrifysgol De Cymru. £12/£10 16+ oed

Sinffonia Cymru & Tom Raybould: Unease Mer 12 — Gwe 14 Tachwedd 7.30pm + 9pm R’ych chi’n iawn i fod ofn y tywyllwch, ofn bod ar eich pen eich hun ac ofn pethau nad ydych chi’n eu deall. Mae ofn yn beth da. Gall ofn eich harwain. Mae grŵp o gerddorion clasurol a chyfoes rhagorol ynghyd â gwneuthurwyr ffilm a theatr yn cyflwyno eu casgliadau o seiniau, delweddau ac atgofion annifyr er mwyn lliwio’r gofod tywyll o’ch cwmpas. O ganlyniad i’w gysylltiadau, ei natur dechnegol, ei gyfeiriadau neu’i hanes, mae pob darn yn cynrychioli agwedd ar ofn yr artist unigol. Y contract creadigol yw na fydd unrhyw un yn cael osgoi ei ofnau ei hun. Ar ôl llwyddiant eu cydweithrediad blaenorol, ‘unbuttoned’, mae Sinffonia Cymru a Tom Raybould yn datblygu eu partneriaeth greadigol feiddgar drwy gynnwys yr artist fideo John Collingswood, y cyfarwyddwr theatr Gerald Tyler a’r cynhyrchydd profiadau hollgynhwysol, Alison John, er mwyn cyflwyno dathliad o anesmwythyd. £14/£12

Nodwch os gwelwch yn dda bod cyfyngiadau’r lleoliad yn golygu nad yw’r cynhyrchiad hwn yn hygyrch i gadeiriau olwyn.

unease.co.uk Cefnogir Unease gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad Paul Hamlyn a Chapter.


Theatr

029 2030 4400

Transition

14

Run Ragged Productions: Transition Gwe 31 Hydref 7pm + Sad 1 Tachwedd 3pm Mae Jem yn 50 y flwyddyn nesaf. Mae Ella’n 11 oed. Maent yn dad a merch. Mae Ella wedi gwirioni ar ballet a newydd ddechrau ymarfer y pointe. Mae Jem yn ddawnsiwr cyfoes proffesiynol. Maen nhw wedi dawnsio gyda’i gilydd ar garped y gegin erioed. Mae Transition yn archwilio’r berthynas newidiol rhyngddynt trwy gyfrwng dawns, sgwrs a ffilm. Cyflwynir y rhagolwg hwn gan Run Ragged ar y cyd â Theatr Iolo ac fe’i datblygwyd trwy gyfrwng WalesLab NTW. £6 / Tocyn teulu (i 4) £20 7+ oed

+ Gweithdy Teuluol

Sad 1 Tachwedd 10am–12pm Fe’ch gwahoddir i ymuno â sesiwn ddawns a theatr hwyliog ar gyfer rhiant a phlentyn wedi’i harwain gan Jem Treays (Run Ragged) a Kevin Lewis (Theatr Iolo). Mae’r gweithdy’n rhad ac am ddim — i gymryd rhan, ffoniwch Swyddfa Docynnau Chapter 029 2030 4400. Gwisgwch ddillad cyffyrddus a fydd yn eich galluogi i symud yn ddidrafferth. 7+ oed


Theatr

Marcel Lucont: Is

Theatr Everyman: Oh What a Lovely War

15

O’r chwith i’r dde: Marcel Lucont — Is, Oh What a Lovely War

chapter.org

Sad 1 Tachwedd 8pm Doethinebau mawreddog dyn modern ar farwolaeth, moesoldeb, gwrywdod. Mélange amlgyfrwng o ardderchowgrwydd. Enillydd Gwobr ‘Fringe World’ am y Sioe Gomedi Orau 2013. Enillydd Gwobr ‘Amused Moose’ 2012. Gwelwyd Marcel cyn hyn ar raglen Set List Sky Atlantic, Russell Howard’s Good News ar BBC3 ac ar Live At The Electric. £12

‘Ffres, hygyrch, doniol’ The Guardian

Maw 11 — Sad 15 Tachwedd 7.30pm (+ matinée am 2.30pm ar ddydd Sadwrn 15 Tachwedd) Mae’r ddrama gerddorol hon yn gronicl o ddechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf ac yn cynnwys sgetsys, golygfeydd, caneuon a dawnsfeydd sy’n portreadu erchyllterau bywyd yn y ffosydd a gwleidyddiaeth y rhyfel. Yn coffáu eleni ganmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Mawr, cafodd Oh What a Lovely War ei llwyfannu am y tro cyntaf ym 1963 gan Theatr Gweithdy Joan Littlewood ac fe ryddhawyd fersiwn ffilm ryfeddol Richard Attenborough ym 1969. Yn deyrnged i 50-mlwyddiant y cynhyrchiad Broadway cyntaf, byddwn yn dychwelyd at arddull Joan Littlewood — gwisgoedd Pierrot, effeithiau clyweledol a sleidiau. Trwy gyfrwng comedi a hurtwch, gwelwn sut yr oedd polisïau delfrydyddol a system ddosbarth y cyfnod yn fodd o sicrhau parhad y rhyfel ac yn fodd hefyd o ddad-ddynoli’r milwyr. Mae’r ddrama’n gri ffyrnig yn erbyn rhyfel. Cyfarwyddwr Cerdd: Lindsey Allen Coreograffydd: Richard Thomas Cyfarwyddwyd gan Jackie Hurley £10/£8 (consesiynau ar ddydd Mawrth + Iau yn unig)


Theatr

029 2030 4400

Re-Live: Memoria

DESTINO Dance Company (Ethiopia): Ene Man Negn (Pwy ydw i) / Chase the Chaos

Memoria

16

Iau 20 — Sad 22 Tachwedd 8pm Mae Re-Live yn dychwelyd â chynhyrchiad pwerus ac amserol sy’n archwilio byd cymhleth dementia. Am y tro cyntaf yn y DG, bydd pobl sy’n byw â dementia, eu hanwyliaid a’u gofalwyr proffesiynol yn ymddangos ar lwyfan i rannu eu straeon anghyffredin â chynulleidfa. Yn gyfuniad o theatr, cerddoriaeth a ffilm, bydd y perfformiad arloesol hwn yn cyfleu taith emosiynol, swreal, a doniol hefyd, ar adegau — taith y rheiny sy’n cael eu heffeithio gan un o heriau mwyaf cymdeithas. O rannu atgof nis collir. Mae Re-Live yn creu gweithiau theatrig gyda phobl ar gyrion cymdeithas, ac yn eu galluogi i fod yn berfformwyr, fel y gall cynulleidfaoedd gael profiad cyfun o straeon dirgel ein hoes. Caiff y perfformiad ar 20 Tachwedd ei ddarlledu ar-lein. Gallwch gael mwy o fanylion drwy ymweld â www.re-live.org.uk Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Chapter a Legal & General £10/£8

Iau 13 Tachwedd 8pm Yn dilyn eu cynhyrchiad hynod lwyddiannus y llynedd, The World Behind Walls, mae’r dawnswyr a’r coreograffwyr nodedig o Ethiopia, Addisu Demissie a Junaid Jemal Sendi (Mentor et Protégé Rolex, 2004), yn ymuno â Jessie Brett. Byddant yn perfformio yng Nghymru i ddathlu creu eu Cwmni Dawns Gyfoes newydd, Destino. Mae’r cwmni’n gweithio i annog pobl ifainc ddifreintiedig i ddatblygu eu potensial a’u hunan-hyder. Maent yn tynnu hefyd ar eu llwyddiannau eu hunain — perfformiadau rhagorol yn The Place, Sadler’s Wells, ac mewn gwyliau ledled Affrica ac Ewrop. Mae eu harddull unigryw yn gyfuniad o’u treftadaeth Ethiopiaidd gyfoethog a dylanwadau rhyngwladol cyfoes. Bydd Destino yn cyflwyno dau ddarn: Ene Man Negn (Pwy ydw i), deuawd am hunaniaeth, dewisiadau a thynged yn nheithiau dau berson drwy fywyd. Chase the Chaos, darn o goreograffi wedi’i berfformio ar y cyd â Jessie Brett. + Sgwrs ar ôl y sioe (digwyddiad i’w gadarnhau) £12/£10


Chapter Mix

Cylch Chwedleua Caerdydd

Darlith Cymdeithas Celfyddydau Cain ac Addurnol De Cymru

17

Dance Shorts, llun: Jamie Morgans

chapter.org

Sul 2 Tachwedd 8pm

Dewch i rannu a gwrando ar gasgliad hyfryd o straeon — croeso cynnes i storïwyr a gwrandawyr fel ei gilydd! £4 (wrth y drws)

Dydd Iau Cyntaf y Mis:

Barddoniaeth a Ffuglen Newydd Iau 6 Tachwedd 7.30pm

Bydd Dydd Iau Cyntaf y Mis hwn yn cyflwyno’r bardd Mir Mahfuz Ali, a fydd yn darllen o’i gyfrol gyntaf rymus, ‘Midnight, Dhaka’ a Jo Mazelis, a fydd yn darllen rhan o’i nofel newydd, ‘Significance’. Sesiwn meic agored hefyd. Noddir gan Llenyddiaeth Cymru a Seren Books. £2.50 (wrth y drws)

Clwb Comedi The Drones

Iau 13 Tachwedd 2pm Celfyddyd a Rhyfeloedd Napoleon: darlith i ddathlu deucanmlwyddiant Brwydr Waterloo 1815 Lois Oliver MA, AMA, LTCL I nodi deucanmlwyddiant Brwydr Waterloo, bydd y ddarlith hon yn atodiad i’r arddangosfa fawr a gynhelir yn yr Academi Frenhinol yn 2015. Cafodd y rhan fwyaf o bobl y cyfnod brofiad o’r rhyfel nid ar faes y gad ond drwy gyfrwng gweithiau celfyddydol. Byddwn yn archwilio’r safbwyntiau cyferbyniol a gyflwynir gan artistiaid o Brydain a Ffrainc, gan gynnwys Turner a JL David. Byddwn hefyd yn ystyried ffurfiau celfyddydol llai aruchel, a’r rheiny’n amrywio o wyntyllau menywod ag arnynt ddarluniau o’r newyddion milwrol diweddaraf i ailberfformiadau o frwydrau morwrol ar ddŵr go iawn yn Theatr Sadler’s Wells.

Gwe 7 + Gwe 21 Tachwedd Drysau’n agor: 8.30pm Sioe’n dechrau: 9pm

Ymwelwyr £6 (wrth y drws, yn ddibynnol ar le) www.swdfas.org

Clint Edwards sy’n cyflwyno’r ‘stand-ups’ addawol gorau. Gwelwyd peth o ddeunydd y nosweithiau hyn ar raglen ‘Identity Crisis’ Rob Brydon. Dydd Gwener cyntaf a thrydydd dydd Gwener y mis. Un o’r ‘Deg Peth Gorau i’w Gwneud yng Nghaerdydd’ yn ôl cylchgrawn The Big Issue

Jazz ar y Sul

Sul 16 Tachwedd 9pm Ein noson fisol o jazz acwstig melodig yn y Caffi Bar gyda Phedwarawd Glen Manby.

£3.50 (wrth y drws)

RHAD AC AM DDIM www.glenmanby.com

Clonc yn y Cwtch

Dance Shorts

Bob dydd Llun 6.30–8pm

Ydych chi’n dysgu Cymraeg? Ymunwch â ni i ymarfer eich Cymraeg gyda dysgwyr eraill. Croeso i bawb! RHAD AC AM DDIM Ar y cyd â Menter Caerdydd

Music Geek Monthly Iau 27 Tachwedd 8pm

Trafodir un clasur o albwm ac un albwm newydd sbon yn y Pwynt Cyfryngol ar ddydd Iau olaf y mis. RHAD AC AM DDIM www.musicgeekmonthly.tumblr.com

Dawnsio Newydd mewn Mannau Cyhoeddus Gwe 21 Tachwedd 8.15pm Mae’r ‘Dance Shorts’ yn berfformiadau rhad ac am ddim mewn mannau cyhoeddus ac yn agored i bob un. Cyfle i gynulleidfaoedd Cymru weld 10 munud o ddawnsio newydd sbon. Rydym yn falch o gyflwyno’r dawnsfeydd byrion hyn yn ein Caffi Bar:

Alex Marshall Parsons yn cyflwyno Gary a Pel… Brenin a Brenhines yr ysgol uwchradd; Mr a Mrs popeth afresymegol. Deuawd theatr ddawns ddifyr a hwyliog sy’n addas i bawb. RHAD AC AM DDIM


18

Sinema

029 2030 4400

Bydd ein tymor Gwyddonias yn parhau drwy gydol mis Tachwedd. Dewch i weld clasuron cwlt neu ymunwch â ni ar gyfer un o’n dangosiadau gwych oddi ar y brif safle yng Nghastell Rhaglan (gweler y manylion ar dudalennau 28-32).

The Riot Club

SiNEMA


Sinema

19

Life After Beth

’71

Gwe 31 Hydref — Iau 6 Tachwedd

Gwe 24 Hydref — Iau 6 Tachwedd

UDA/2014/89mun/15. Cyf: Jeff Baena. Gyda: Audrey Plaza, Dane DeHaan, John C. Reilly.

DG/2014/99mun/15. Cyf: Yann Demange. Gyda: Jack O’Connell, Sean Harris, Sam Reid.

Mae Zach yn galaru am ei gariad, Beth, ac yn cael cysur o dreulio amser gyda’i rhieni hi, sy’n ei drin ef fel mab. Yna, un noson mae Beth yn ymddangos: mae yna dwll mawr yn y ddaear lle mae ei charreg fedd a dyw hi ddim yn cofio marw. Ar ôl wynebu ei sioc, mae Zach yn ei gael ei hun mewn gwynfyd. Ac mae diffyg cof Beth hyd yn oed wedi dileu’r ffaith ei bod hi’n awyddus i orffen eu perthynas ychydig cyn iddi farw. Ond wrth i amser fynd heibio, daw ei hymddygiad yn fwyfwy rhyfedd — ac nid hi yw’r unig un. Weithiau’n dyner, weithiau’n wyllt, mae’r ffilm hon yn ddoniol bob amser.

Yn y ddrama afaelgar a digyfaddawd hon, mae Gary, sydd newydd gael ei recriwtio gan y fyddin Brydeinig, yn cael ei wahanu oddi wrth ei uned. Wrth i derfysg dychrynllyd ffrwydro ar strydoedd Belffast, rhaid iddo oroesi noson danllyd ac ysgytwol a dysgu gwahaniaethu rhwng cyfaill a gelyn.

O’r chwith i’r dde: Life After Beth, ‘71

chapter.org

Clwb Ffilmiau Gwael

Shark Attack 3: Megalodon Sul 2 Tachwedd UDA/2002/99mun/15. Cyf: David Worth. Gyda: John Barrowman.

Roedd hi’n fis cyn ‘Dolig, ac roedd pob man a phob peth yn dawel — popeth ar wahân i siarc enfawr arswydus, hynny yw! Mae’r Clwb Ffilmiau Gwael yn cyflwyno un o’u hoff ffilmiau gwael erioed, Shark Attack 3. Â John Barrowman yn ‘serennu’, mae’r ffilm yn adrodd hanes digon normal am siarc cynhanesyddol sy’n codi ofn ar ymwelwyr â thraeth ym Mecsico. Mae dyn, menyw a llawfeddyg triniaethau cosmetig yn gorfod brwydro yn erbyn cyllideb CGI isel, plot dryslyd a llu o ddiffygion eraill. Pwy fydd yn ennill? Bydd yn rhaid i chi ddod i weld drosoch eich hun.

The Riot Club Gwe 31 Hydref — Iau 6 Tachwedd DG/2014/106mun/15. Cyf: Lone Scherfig. Gyda: Natalie Dormer, Sam Claflin, Douglas Booth.

Wedi’i gosod ym myd elît breintiedig Prifysgol Rhydychen, dilynwn Miles ac Alistair, dau fyfyriwr blwyddyn gyntaf sy’n benderfynol o ymuno â’r ‘Riot Club’ drwg-enwog, lle gall enw da person gael ei greu neu ei chwalu mewn un noson. Mae’r clwb yn fersiwn ffuglennol o’r Bullingdon Clwb enwog ac yn addasiad o’r ddrama wobrwyol, Posh. Mae’n waith sydd yn llawn cwestiynau pigog am cliques a choridorau grym gwleidyddiaeth Prydain. + Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1. Is-deitlau Meddal Llun 3 Tach, 5.45pm a Iau 6 Tach, 2.30pm. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hynny newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

“Cartŵn miniog, dychanol o’r ryfel dosbarth Seisnig a chynllwynio cymdeithasol” The Guardian


20

Sinema

029 2030 4400

Celfyddyd+Ffilm

Mr Turner Gwe 14 — Iau 27 Tachwedd DG/2014/150mun/12A. Cyf: Mike Leigh. Gyda: Timothy Spall, Paul Jesson, Dorothy Atkinson.

+ Trafodaeth Come Along Do gyda Gill Nicol ar ôl dangosiad Llun 17 Tachwedd. Pris tocynnau fydd £2.50 ac fe fyddant ar gael yn ein swyddfa docynnau ac ar-lein. + Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1. Is-deitlau Meddal ar Mer 19 Tach, 10.30am a 5.45pm a Sul 23 Tach, 7pm. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

Effie Gray Gwe 7- Iau 13 Tachwedd DG/2014/108mun/12A. Cyf: Richard Laxton. Gyda: Dakota Fanning, Emma Thompson, Claudia Cardinale.

Un o feddylwyr mawr oes Fictoria: roedd y beirniad celf, y pensaer a’r bardd, John Ruskin, yn un o gefnogwyr y mudiad Cyn-Raffaëlaidd ac roedd Proust a Ghandi ymhlith ei edmygwyr. Fodd bynnag, mae yna gyfnod yn ei fywyd sy’n dal i beri dryswch i ysgolheigion: ei briodas fer, anghyflawn â’r Effie Gray hardd. Mae’r ddrama gywrain hon gan Emma Thompson yn archwilio cymeriad a chanfyddiadau Ruskin ac yn llawn disgleirdeb, ffraethineb a deallusrwydd.

O’r brig: Mr Turner, NT Live: Frankenstein

Taith drwy flynyddoedd olaf yr artist JMW Turner wrth iddo deithio, paentio a’i gael ei hun yn aelod poblogaidd, os anarchaidd hefyd, o’r Academi Frenhinol. Yn ddyn cyffredin a chanddo dalent eithriadol, mae e’n cymryd y wraig sy’n cadw tŷ iddo yn ganiataol, er ei bod hi’n ei garu, ac yn ffurfio perthynas agos â thafarnwraig mewn tref lan-môr. Wedi’i ffilmio’n hardd, mae hwn yn waith tyner a chynnil ac yn cynnwys perfformiad canolog anhygoel.

NT Live Encore: Frankenstein Maw 4 + Sul 16 Tachwedd 162mun/15. Cyf: Danny Boyle. Awdur: Nick Dear. Gyda: Benedict Cumberbatch, Johnny Lee Miller.

Yn blentynnaidd ei ffordd ond yn grotesg ei bryd a’i wedd, caiff Frankenstein ei fwrw allan i fydysawd gelyniaethus gan ei greawdwr ofnus. Ar ôl dioddef creulondeb ymhobman, mae’r Creadur di-gyfaill, cynyddol anobeithiol a dialgar, yn penderfynu chwilio am ei greawdwr a tharo bargen frawychus ag ef. Mae Cumberbatch a Miller yn cyfnewid rhannau Victor Frankenstein a’r Creadur ym mhob fersiwn. Caiff rôl Victor Frankenstein ei chwarae gan Cumberbatch ar ddydd Mawrth 4 Tachwedd a chan Miller ar ddydd Sul 16 Tachwedd. Mae tocynnau i’r dangosiadau encore wedi’u recordio ymlaen llaw yn £13/£11/£10


Sinema

Gyda’r cloc o’r chwith uchaf: Un Homme de Têtes, The Haunted House, Une Excursion Incohérente

chapter.org

Ffilmiau Arswyd Byrion Cynnar Sul 23 + Maw 25 Tachwedd Detholiad o ffilmiau o ddechrau’r 20fed ganrif, bob un yn cynnwys cyflwyniad a sgôr newydd wedi’u comisiynu gan Ŵyl Arswyd Abertoir. Byddwn yn archwilio agweddau gwahanol ar ymwneud y sinema gynnar â’r arallfydol. Sgorau wedi’u cyfansoddi a’u perfformio’n fyw gan Paul Shallcross. Er cof am Afan ab Alun — cyflwynir y sesiynau hyn o ganlyniad i’w rodd hael.

Un Homme de Têtes

The Thieving Hand

Ffrainc/1898/1mun. Cyf: Georges Méliès.

UDA/1908/6mun. Cyf: J. Stuart Blackton.

Ffilm wedi’i hysgrifennu, ei chyfarwyddo a’i hactio gan yr arloeswr Ffrengig mawr, Georges Méliès, ac sy’n cynnwys pedwar pen heb gorff, pob un ohonynt yn perthyn i Méliès.

Mae gan fraich artiffisial awydd afreolus i ddwyn. Mae’n meddiannu bywyd prynwr diniwed ac yn ei arwain at yr unig le y gall y fraich deimlo’n ddiogel.

Une Excursion Incohérente Ffrainc/1909/9mun. Cyf: Segundo de Chomón.

Mae trip teuluol i’r goedwig yn troi’n ddiwrnod o arswyd. Mae teisen siocled fwydod, rholiau cynrhon ac wyau llygod ar y fwydlen bob un wrth i Chomón weini ambell un o’i ffantasïau swrrealaidd mwyaf blasus.

Prelude DG/1927/8mun. Cyf: Castleton Knight.

Ffilm dywyll hardd a chrefftus am ddyn sy’n darllen Edgar Allan Poe ac yn cael bod i wrthrychau cyffredin agweddau sinistr. Ysbrydolwyd y gwaith gan Prélude enwog Rachmaninov yn C# leiaf.

The Haunted House UDA/1921/21mun Cyf: Buster Keaton.

Mae ‘spoof’ Keaton o’r genre ysbryd a oedd yn boblogaidd iawn ar y pryd yn llawn gags a styntiau gwyllt a fydd wrth fodd pob un. Ar wahân i Keaton ei hun, mae’r brif ran yn y ffilm hon yn cael ei chwarae gan set o risiau tra arbennig.

21


Sinema

029 2030 4400

God Help the Girl

Jimi: All is by My Side

DG/2014/112mun/15. Cyf: Stuart Murdoch. Gyda: Olly Alexander, Hannah Murray, Pierre Boulanger.

DG/2014/118mun/15. Cyf: John Ridley. Gyda: André Benjamin, Imogen Poots, Hayley Atwell.

Ar ôl i Eve ddechrau ysgrifennu caneuon fel ffordd o ddatrys ambell broblem emosiynol, mae hi’n cyfarfod â James a Cassie, dau gerddor sydd wedi cyrraedd eu croesffordd eu hunain yn y stori deimladwy hon am ddod-i-oed sydd hefyd yn fath o sioe gerdd ‘indiepop’ swynol. Dechreuodd y ffilm fel cyfres o ganeuon gan Belle & Sebastian ac mae hi wedi’i gosod ym myd bohemaidd Gorllewin Glasgow, yn llawn mods, rocers a phobl ifainc ‘emo’ sy’ ond yn rhy barod i ddechrau canu a dawnsio.

Cawn ein harwain yn freuddwydiol drwy’r flwyddyn y daeth Jimi Hendrix yn seren, yng nghwmni’r ddwy fenyw a’i helpodd i ennill llwyddiant yn y DG: Linda Keith, a’i cyflwynodd i’r cyffur LSD a’r diwydiant cerddorol, a’i gariad hirdymor, Kathy Etchingham. Portread agos-atoch o artist ifanc sensitif sy’n datgelu mwy mewn amser cymharol fyr na’r rhan fwyaf o ‘biopics’ confensiynol.

Gyda’r cloc o’r brig: Northern Soul, Jimi: All is by My Side, God Help the Girl

22

Sul 9 — Iau 13 Tachwedd

Gwe 14 — Iau 20 Tachwedd


chapter.org

Sinema

23

Nas: Time is Illmatic Gwe 14 Tachwedd

UDA/2014/74mun/15. Cyf: Erik Parker. Gyda: Q-Tip, Alicia Keyes, Pharrell Williams, Pete Rock. O’r brig: Nas: Time is Illmatic, Northern Soul

Stori wefreiddiol am esblygiad bardd stryd ifanc i fod yn MC dylanwadol. Cawn olwg ar brosesau creadigol yr artist hip-hop Nas wrth iddo baratoi ei albwm cyntaf. Wrth iddo ddychwelyd i gartref cyfnod ei blentyndod, clywn am ddylanwad ei dad, a oedd yn gerddor jazz, a’r modd y mae ei ‘lif’ geiriol arloesol yn ysbrydoli ei gyfoedion.

The Possibilities are Endless Maw 18 — Iau 20 Tachwedd

Northern Soul

Sul 16 + Llun 17 Tachwedd DG/2014/102mun/15. Cyf: Elaine Constantine. Gyda: Elliot James Langridge, Josh Whitehouse, Jack Gordon.

Mae hon yn ffilm am ddiwylliant ieuenctid a newidiodd genhedlaeth gyfan ac a ddylanwadodd ar gyfansoddwyr, cynhyrchwyr, DJs a dylunwyr am ddegawdau i ddod. Mae bywyd yn newid am byth i ddau ffrind ifanc ar ôl iddynt fynd i’r Casino yn Wigan a chlywed cerddoriaeth ‘soul’ yr America ddu.

DG/2014/83mun/12A. Cyf: James Hall, Edward Lovelace. Gyda: Edwyn Collins, William Collins, Grace Maxwell.

Dychmygwch bod eich meddwl wedi cael ei ddileu: atgofion, gwybodaeth, profiadau, iaith — pob gair a lefarwyd gennych, y cwbl, wedi diflannu. Tasech chi’n gallu siarad eto yn y pen draw, beth fyddech chi’n ei ddweud? Dyma stori anhygoel Edwyn Collins, y cyfansoddwr a’r cerddor o’r Alban a gafodd strôc, ffrwydrad yn ei ymennydd a lwyddodd i ddileu, i bob pwrpas, holl gynnwys ei feddwl. Mae’n adrodd hanes ei wraig Grace hefyd, a’i tynnodd yn ôl i’r byd. Dathliad o ddylanwad cariad, cerddoriaeth ac iaith ar ein bywydau.


Sinema

029 2030 4400

Gone Girl

Giovanni’s Island

Gwe 7- Iau 13 Tachwedd

Mer 12 + Iau 13 Tachwedd

UDA/2014/149mun/18. Cyf: David Fincher. Gyda: Ben Affleck, Rosamund Pike, Neil Patrick Harris.

Japan/2014/102mun/is-deitlau/TiCh. Cyf: Mizuho Nishikubo. Gyda: Natalie Hoover, Masachika Ichimura, Polina Ilyushenko

Ar eu pumed pen-blwydd priodas, mae Nick Dunne yn dweud wrth yr heddlu bod ei wraig, Amy, wedi mynd ar goll. Ond ar ôl i’r wasg gael gafael ar y stori, mae Nick yn ei gael ei hun yn destun sylw pan gyfyd amheuaeth nad yw e’n gwbl ddieuog. Mae’r ffilm gyffro hon, yn seiliedig ar y nofel gan Gillian Flynn, yn datguddio’r cyfrinachau sydd wrth wraidd priodas fodern.

Ar ynys fechan Shikotan, ar ôl brwydro ffyrnig, mae cyfeillgarwch rhwng dau blentyn o wledydd gwahanol yn dechrau blodeuo, wrth iddynt geisio goresgyn rhwystrau ieithyddol a dylanwad pellgyrhaeddol hanes. Wedi’i hysbrydoli gan stori wir am bresenoldeb y Rwsiaid ar Ynysoedd Kuril oddi ar arfordir Japan, mae hon yn ffilm ddynol a thyner sy’n cynnwys gwaith animeiddio-â-llaw hynod gelfydd a hardd.

Gone Girl

24

+ Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1. Is-deitlau meddal Sul 8 Tach, 5.45pm a Maw 11 Tach, 10.30am (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

The Babadook Gwe 21 — Maw 25 Tachwedd Awstralia/2014/94mun/15. Cyf: Jennifer Kent. Gyda: Essie Davis, Daniel Henshall, Tiffany Lyndall-Knight.

Chwe mlynedd ar ôl marwolaeth dreisgar ei gŵr, mae Amelia’n brwydro i ddisgyblu ei mab ifanc Samuel. Mae e’n cael ei boenydio, yn ei freuddwydion, gan anghenfil sinistr o’i lyfr stori, anghenfil sydd ar ei ffordd i ladd y ddau ohonynt. Ar ôl i Amelia ddechrau sylwi ar bresenoldeb sinistr o’i chwmpas ymhobman, mae hi’n dechrau meddwl y gallai rhybuddion Samuel fod yn wir wedi’r cyfan. + Is-deitlau meddal Gwe 21 Tach, 6pm. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

Chapter Moviemaker Llun 3 Tachwedd Sesiwn reolaidd sy’n galluogi i gyfarwyddwyr annibynnol ddangos ffilmiau byrion. I gael mwy o wybodaeth am sut i ddangos eich ffilm chi, neu unrhyw wybodaeth arall, e-bostiwch moviemaker@ chapter.org. O bryd i’w gilydd, dangosir ffilmiau sy’n cynnwys deunydd anaddas i bobl iau. Awgrymwn, felly, bod sesiynau Moviemaker Chapter yn addas ar gyfer pobl 18+ oed.


Sinema

25

Nightcrawler

peth mwyaf brawychus am fod yn oedolyn ond gadael i eraill ei helpu a’i charu. Wedi’i hangori gan berfformiad canolog nodedig, mae hon yn ffilm gyntaf dynn sy’n llawn comedi amrwd ac eiliadau o onestrwydd dynol ingol.

O’r chwith i’r dde: Nightcrawler, Serena

chapter.org

Gwe 21 — Iau 27 Tachwedd UDA/2014/117mun/15. Cyf: Dan Gilroy. Gyda: Jake Gyllenhaal, Rene Russo, Bill Paxton.

Mae Lou Bloom yn ddyn ifanc sy’n chwilio’n daer am waith yn L.A. ac yn darganfod isddiwylliant y ‘nightcrawlers’: gweithwyr llawrydd sy’n gwerthu fideos o ddamweiniau treisgar a llofruddiaethau i orsafoedd teledu llwgr. Mae ei ddycnwch a’i fenter yn denu sylw Nina, un o bobl brofiadol y maes, ac mae e’n ffynnu yn y byd tanddaearol a thywyll hwn. Ffilm gyffro hynod afaelgar sy’n cynnwys perfformiadau pwerus, a pherfformiad tra nodedig gan Gyllenhaal.

Obvious Child Gwe 7 — Iau 13 Tachwedd UDA/2014/85mun/15. Cyf: Gillian Robespierre. Gyda: Jenny Slate, Jake Lacy, Gaby Hoffman.

Ar y llwyfan, nid yw’r ddigrifwraig Donna yn ofni cellwair am bynciau sy’n deillio’n union o’i phrofiad ei hun — ei bywyd rhywiol a’i dillad isaf, er enghraifft. Ond ar ôl i’w chariad ei gadael, ac ar ôl iddi golli ei swydd a’i chael ei hun yn feichiog, mae Donna’n dechrau sylweddoli nad bod ar ei phen ei hun yw’r

Serena Gwe 21 — Iau 27 Tachwedd UDA/2014/110mun/15. Cyf: Susanne Bier. Gyda: Jennifer Lawrence, Bradley Cooper, Rhys Ifans.

Yn Nhaleithiau’r De yn ystod y Dirwasgiad Mawr, mae Serena, sydd newydd briodi perchennog gwaith coed o’r enw George Pemberton, yn dysgu nad yw hi’n gallu cael plant. Wrth i’r cwpwl ddod i delerau â’r newyddion, mae Serena’n bachu ar y cyfle i ymwneud fwyfwy â’r busnes teuluol. Ond, o dipyn i beth, daw ei huchelgais a chyfrinachau o orffennol ei gŵr i ddechrau dryllio eu partneriaeth.


26

Sinema

029 2030 4400

O’r real i’r ril

Tony Benn: Will and Testament

Weithiau mae bywyd go iawn mor rhyfedd a hudolus bob tamaid â ffilm Hollywood. ‘Real to reel’ yw ein rhaglen reolaidd o ffilmiau dogfen ac mae’n cynnwys ffilmiau sy’n cyflwyno digwyddiadau a phobl gwirioneddol ddiddorol ar y sgrin fawr.

Lion Ark Maw 11 Tachwedd UDA/2013/100mun/12A. Cyf: Tim Phillips. Gyda: Remy Ballivan, Bob Barker, Martin Beltran.

Mewn ffilm sy’n fwy o ddrama antur nag o ddogfen draddodiadol, awn ar daith gydag Animal Defenders International, wrth iddynt geisio cwblhau cyrch uchelgeisiol a beiddgar i achub anifeiliaid. Mae perchnogion syrcas yn Bolifia yn herio’r gyfraith trwy gadw eu llewod mewn amodau ofnadwy a’u trin â chryn greulondeb. Adeiladwyd cartref i’r anifeiliaid yn yr Unol Daleithiau a’r cyfan sydd angen ei wneud nawr yw eu hachub — ond mae hynny’n golygu perygl i’r anifeiliaid ac i’r achubwyr eu hunain. + Sesiwn holi-ac-ateb gyda’r cyfarwyddwr Tim Phillips

Mirage Men Mer 26 + Iau 27 Tachwedd DG/2014/85mun/arf12A. Cyf: Roland Denning, John Lundberg, Kypros Kyprianou.

Ymhlith y dogfennau a ddatgelwyd gan Edward Snowden roedd delweddau o gyflwyniad o’r enw ‘The Art of Deception’. Yn rhyfedd ddigon, wedi’u gwasgu i ganol y ddogfen, roedd yna dri ffotograff o UFOs ffug clasurol: ‘hub cap’, balŵns, ac un UFO a oedd yn wylan, mewn gwirionedd. Ai dull newydd o hyfforddi yw hwn neu a yw’r syniad o fodau arallfydol yn gynllwyn sy’n bodoli ers degawdau lawer? Mae rhai arbenigwyr ar UFOs yn awgrymu taw ‘double bluff’ ydoedd, wedi’i fwriadu i gelu cyswllt go iawn gan fodau arallfydol. Mae’r ffilm hon yn tynnu’r gwyliwr i fyd o ddrychau a gweledigaethau lle mae pob celwydd yn cynnwys elfennau o’r gwir.

Tony Benn: Will and Testament Maw 18 — Iau 20 Tachwedd DG/2014/90mun/12A. Cyf: Skip Kite.

Tony Benn oedd calon ac enaid yr adain chwith Brydeinig ac fe ellid dadlau mai ef oedd y gwleidydd mwyaf poblogaidd yn y DG erioed. Mae’r ffilm hon yn bortread byw o ddyn y llwyddodd ei yrfa i drosgynnu gwleidyddiaeth. Gwelwn ef yn ystyried llwyddiannau a methiannau ei fywyd personol a gwleidyddol, o’i frwydr i gadw ei sedd yn Nhŷ’r Cyffredin ar ôl iddo gael ei urddoli, at ei gefnogaeth i Adeiladwyr Llongau afon Clud Uchaf ym 1971-72, a’i frwydrau niferus â phapurau newyddion gelyniaethus. Cwblhawyd y ffilm deyrnged deimladwy hon am yr AS Llafur profiadol toc cyn ei farwolaeth ym mis Mawrth 2014.

The Case Against 8 Iau 20 Tachwedd

UDA/2014/109mun/arf15. Cyf: Ben Cotner, Ryan White.

Ffilm ddogfen hynod ddiddorol sy’n croniclo ymgyrch bum mlynedd o hyd i sicrhau bod y llys ffederal yn gwyrdroi ‘Proposition 8’ yng Nghaliffornia — cymal a oedd yn gwahardd priodasau hoyw yn y dalaith. Mae’r ffilm yn cysylltu prosesau gweithdrefnol achosion cyfreithiol mawrion â brwydrau unigol y rheiny sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r ddeddfwriaeth. Mae’n ffilm a fydd yn ysbrydoliaeth hefyd i’r rheiny sy’n dal i frwydro dros gydraddoldeb. Ymunwch â ni ar ôl y dangosiad ar gyfer cyfarfod o grŵp trafod LGBTQ Chapter.


Sinema

Life Itself

Doctor Who: Death in Heaven

27

O’r chwith i’r dde: Life Itself, Doctor Who

chapter.org

Gwe 14 — Llun 17 Tachwedd UDA/2014/120mun/TiCh. Cyf: Steve James. Gyda: Roger Ebert, Chaz Ebert, Gene Siskel.

Ffilm gynnes, onest a theimladwy am fywyd y diweddar newyddiadurwr, sgriptiwr a beirniad ffilm, Roger Ebert, a ffilmiwyd yn ystod dyddiau olaf ei frwydr yn erbyn canser. Cynhyrchwyd y darn gan ei gyfaill, Martin Scorsese. Yn ystod ei yrfa, treuliodd Ebert flynyddoedd meddwol yn ysgrifennu gyda Russ Meyer, cyn cwrdd â chariad ei fywyd — y gyfreithwraig hawliau sifil, Chaz. Enillodd ei egni rhyfeddol a’i ewyllys bendant barch gan gyfoedion a gwneuthurwyr ffilm, ond arweiniodd hefyd at gwerylon niferus. +Is-deitlau Meddal ar Sul 16 Tach, 5.30pm. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

Cyfle i weld rhan olaf y gyfres ddiweddaraf ardderchog o Doctor Who, cyn iddi gael ei darlledu ar BBC One. Bydd y ddeuddegfed bennod yn cynnig atebion i holl gwestiynau cyfres gyntaf Peter Capaldi ym mhrif ran sioe boblogaidd BBC Cymru. Gyda Peter Capaldi, Jenna Coleman a Michelle Gomez. I gael mwy o wybodaeth a phrisiau tocynnau, ewch i: www.chapter.org/doctorwho Sinema Pop-up, ar y cyd â BAFTA Cymru, BBC Cymru a Chanolfan Ffilm Cymru. Rhan o gyfres o chwe digwyddiad Doctor Who, ar thema Angenfilod a Dihirod, i’w cynnal ar hyd a lled Cymru.


28

Sinema

029 2030 4400

Wrth i’n tymor Gwyddonias barhau, byddwn yn archwilio cyd-fodolaeth wrth i ni edrych ar y ffyrdd y mae dynoliaeth wedi integreiddio â thechnoleg a chyswllt â bodau arallfydol. Wedi’n hysbrydoli gan syniadau mawrion a delweddau sinematig ysblennydd, byddwn yn cyflwyno rhai o eiliadau mwyaf nodedig a mwyaf gwreiddiol sinema Wyddonias, gan gynnwys ffilmiau mud, clasuron cwlt a gweledigaethau cyfoes o’n gobeithion a’n hofnau dyfnaf.

Cyflwyniad i Ffilm Wyddonias

Alive in Joburg

Nosweithiau Llun tan Llun 8 Rhagfyr 7 — 9pm

De Affrica/2005/6mun. Cyf: Neill Blomkamp.

Ymunwch â’r gwneuthurwr ffilmiau Ben Ewart-Dean i archwilio hanes, themâu a syniadau ffilmiau gwyddonias trwy gyfrwng cyfuniad o ddarlithoedd a thrafodaethau anffurfiol, ynghyd ag enghreifftiau pwrpasol o ffilmiau nodedig.

Mae ‘aliens’ wedi dod i’r ddaear yn y ffilm fer hon a arweiniodd yn y pen draw at y ffilm nodwedd, District 9.

Jonah

Bydd y cwrs yn costio £65 /£55 (consesiynau) ac fe fydd aelodau’r cwrs yn gallu manteisio ar brisiau gostyngol i weld unrhyw ffilm yn nhymor gwyddonias y BFI. Gweler ein gwe-fan, www.chapter.org, am fwy o fanylion a chysylltwch, os gwelwch yn dda, â’n swyddfa docynnau i archebu tocynnau.

DG/2013/17mun. Cyf: Kibwe Tavares.

Mae Mwbana a Juma yn tynnu llun pysgodyn enfawr wrth iddo neidio o’r môr ac mae’r ffotograff yn troi eu tref fechan yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid.

Kitchwateli Kenya/2011/8mun. Cyf: Muchiri Njenga.

Ffilmiau Byrion Affroddyfodoliaeth (82mun) Mer 5 Tachwedd

Mae Watch Africa wedi curadu rhaglen o ffilmiau byrion i ddathlu Affroddyfodoliaeth fodern sy’n tynnu ar elfennau cerddorol, ffilm a gwyddonias er mwyn ffurfio athroniaeth hollgynhwysol a gweledigaethau o ddyfodol amgen.

Mewn slym ôl-apocalyptaidd, awn ar daith drwy feddwl bachgen ifanc a chanddo deledu lle dylai ei ben fod.

Pumzi Kenya/2009/23mun. Cyf: Wanuri Kahiu.

Ar ôl i ryfeloedd dŵr ddinistrio’r byd, mae merch ifanc yn berchen ar hedyn sydd ar fin egino.

Drexciya Yr Almaen-Burkina Faso/2012/28mun. Cyf: Simon Rittmeier.

Mae masnachwr dynol yn ei gael ei hun ar arfordir Affrica. + Trafodaeth ar ôl y dangosiad

Kitchwateli

Tymor Gwyddonias y BFI: All Hail the New Flesh!


Sinema

29

Videodrome

Liquid Sky

Sul 2 + Maw 4 Tachwedd

Iau 6 Tachwedd

Canada/1983/84mun/18. Cyf: David Cronenberg. Gyda: James Woods, Deborah Harry, Sonya Smits.

UDA/1983/110mun/18. Cyf: Slava Tsukerman. Gyda: Anne Carlisle, Paula E. Sheppard, Bob Brady.

Mae rhaglennydd sianel deledu cebl annifyr o’r enw Max yn dechrau gweld ei fywyd ei hun a dyfodol y cyfryngau yn dadfeilio ar ôl iddo brynu Videodrome ar ran ei orsaf a mynd ati i geisio’r gwir am y Bianca O’Blivion ddirgel. Gwaith gan feistr ffilmiau arswyd corfforol sydd yn archwiliad ymenyddol o gaethiwed, rhywioldeb peryglus ac obsesiwn technolegol. Mae i’r ffilm hon galon dywyll!

Mae ‘aliens’ yn glanio ar ben fflat yn Efrog Newydd lle mae deliwr cyffuriau’n byw gyda’i chariad, sydd yn fodel androgynaidd, nymffomaniad. Mae’r ‘aliens’ yn cael bod fferomonau a grëir gan yr ymennydd yn ystod orgasm yn farwol-feddwol ac, o dipyn i beth, mae partneriaid rhyw achlysurol y fodel yn dechrau diflannu. Wedi’u harsylwi gan wyddonydd unig o’r Almaen, mae’r ‘aliens’ yn creu isddiwylliant bregus. Ffilm gwlt dywyll a doniol am anobaith — dyma gyfle prin i weld y trysor bychan hwn sydd wedi’i wreiddio yn y sîn ôl-pync cŵl.

O’r brig: Videodrome, District 9

chapter.org

District 9 Sad 1 + Mer 5 Tachwedd De Affrica/2009/108mun/15. Cyf: Neill Blomkamp. Gyda: Sharlto Copley, Jason Cope.

Genhedlaeth ers iddynt gysylltu â dynion am y tro cyntaf, ond heb iddynt fygwth yr hil ddynol na chynnig unrhyw ddatblygiadau technolegol, mae’r ‘aliens’ yn cael eu gorfodi i fyw mewn tlodi eithafol. Cânt hyd i enaid hoff cytûn mewn asiantaeth lywodraethol — gŵr sydd wedi dod dan effaith biotechnoleg yr estroniaid. Mae’r ffilm hon yn alegori o broblemau cyfoes ac yn olwg ddyfeisgar ac egnïol ar eironïau rhagfarn a pheryglon trin eraill yn annynol. Mae iddi gyffyrddiadau ysgafn hyfryd a dogn sylweddol o hiwmor. + Cyflwyniad gan Cylina Simmonds ar ddydd Mercher 5 Tachwedd.

Ydych chi’n edrych ymlaen at weld clasuron sinema Wyddonias sy’n archwilio syniadau am gyd-fodolaeth? Os felly, trowch i dudalennau 6-9 i weld manylion Experimentica, gŵyl celfyddyd fyw flynyddol Chapter. Syniad creiddiol yr Ŵyl eleni yw ‘coexistence has never been easy’, a’i man cychwyn yw’r ffilm, District 9.


Sinema

029 2030 4400

Altered States

Solaris

Gwe 7 Tachwedd

Sul 9 Tachwedd

UDA/1980/98mun/18. Cyf: Ken Russell. Gyda: William Hurt, Blair Brown, Bob Balaban.

Rwsia/1973/162mun/is-deitlau/PG. Cyf: Andrei Tarkovsky. Gyda: Natalya Bondarchuk, Donatas Banionis, Juri Jarvet.

Wrth iddo ymgodymu â rôl dynolryw yn y bydysawd, mae’r Athro Eddie Jessup yn ymchwilio’n obsesiynol i syniadau am wahanol lefelau ymwybyddiaeth ddynol — i’r fath raddau fel ei fod yn cael ei ddieithrio o’i deulu ei hun. Ar ôl cytuno i gymryd rhan mewn arbrofion i ehangu’r meddwl gyda chyffur rhithweledol mewn siambr ynysu, mae ei weledigaethau yn arwain at newid corfforol. Ffilm gyffrous, freuddwydaidd am wallgofrwydd a thrawsnewid.

Mae’r seicolegydd gweddw, Kris Kelvin, yn cael ei anfon i orsaf ofod sy’n cylchdroi planed Solaris er mwyn ymchwilio i farwolaeth ddirgel meddyg ar ei bwrdd a’r problemau meddyliol sy’n effeithio ar y gofodwyr. Pan ddaw ar draws ei wraig farw, Khari, daw’n amlwg bod Solaris yn treiddio i isymwybod y criw ac mae Kelvin yn gorfod cwestiynu ei ganfyddiad o realiti. Enillydd Uwch Wobr y Rheithgor yng Ngŵyl Ffilm Cannes 1972 a ffilm sydd yn archwiliad enigmatig a dwys o golled, y cof a hiraeth.

Gyda’r cloc o’r chwith: Altered States, The Live, Solaris

30

They Live Sad 8 Tachwedd UDA/1988/90mun/18. Cyf: John Carpenter. Gyda: Roddy Piper, Keith David, Meg Foster.

Mae crwydryn digartref yn cael hyd i’r rheswm dros y bwlch cynyddol rhwng y cyfoethog a’r tlawd: cynllwyn gan ‘aliens’ sydd wedi treiddio i gymdeithas America ar ffurf ‘yuppies’ cyfoethog. Gyda chymorth sbectol haul arbennig sy’n dangos wynebau go-iawn yr estroniaid, ac ar ôl i’w negeseuon isganfyddol gael eu darlledu gan y cyfryngau mae ein harwr yn ceisio atal y goresgyniad. Ffilm ddychan ddylanwadol a hynod ddifyr am gyfalafiaeth fodern.

+ Ymunwch â ni ar ôl y ffilm am drafodaeth Tinted Lens, cydweithrediad newydd gan Chapter, Prifysgol Caerdydd a’r BFI. Byddwn yn archwilio’r meddwl a chysyniadau’n ymwneud â normalrwydd a phatholeg, gan ganolbwyntio ar golled a galar, ffantasi a rhith, dealltwriaeth o amser a chyflyrau ymwybyddiaeth.


Sinema

Village of the Damned

Close Encounters of the Third Kind

31

Gyda’r cloc o’r brig: Village of the Damned, Close Encounters of the Third Kind, The Man Who Fell to Earth

chapter.org

Sul 9 Tachwedd DG/1960/75mun/12. Cyf: Wolf Rilla. Gyda: George Sanders, Barbara Shelley, Martin Stephens.

Un bore ym mhentref Midwich, mae pob un o’r trigolion yn cwympo i gysgu cyn deffro eto mor sydyn bob tamaid. Dydyn nhw ddim fel petaent wedi’u heffeithio gan y ffenomenon — ar wahân i’r ffaith bod pob menyw sy’n ddigon hen i gael plant bellach yn feichiog. Caiff y babanod eu geni ar yr un eiliad yn union ac maent bob un yn edrych yn union yr un fath. Bedair blynedd yn ddiweddarach, mae un o’r tadau’n sylwi bod y plant yn meddu ar bwerau goruwchnaturiol ac yn penderfynu bod yn rhaid eu hatal. Â pherfformiadau i oeri’r gwaed ac awyrgylch o gynildeb cywrain, mae hon yn un o ffilmiau mwyaf dylanwadol y 1960au.

The Man Who Fell to Earth Sad 15 + Maw 18 Tachwedd DG/1976/133mun/18. Cyf: Nicolas Roeg. Gyda: David Bowie, Rip Tom, Candy Clark.

Mae’r gofodwr teithiol, Jerome Thomas Newton, yn glanio ar y Ddaear ac yn gofyn am help ar ran ei blaned sy’n dioddef o sychder. Ar ôl sicrhau patentau ar gyfer technoleg uwch, mae e’n dod yn ddiwydiannwr hynod gyfoethog. Ond mae arian — a phopeth a ddaw yn ei sgil — yn ddylanwad cryfach o lawer arno. Mae David Bowie yn berffaith fel ‘alien’ yn yr archwiliad myfyrgar a dwys hwn ar werthoedd a dyheadau ein diwylliant.

Sul 30 Tachwedd + Maw 2 Rhagfyr UDA/1977/129mun/PG. Cyf: Steven Spielberg. Gyda: Richard Dreyfuss, Francois Truffaut, Teri Garr, Melinda Dillon.

Tra’n gyrru un noson, mae Roy Neary yn gweld UFO. Mae ei wraig yn amheus yn y lle cyntaf, yna mae hi’n dechrau poeni wrth i brofiad ei gŵr droi’n obsesiwn. Mae e’n cysylltu â phobl eraill sydd wedi gweld UFOs, gan gynnwys Jillian, mam sengl y diflannodd ei mab yn ystod ei chyswllt â’r UFO, a’r gwyddonydd Claude Lacombe. Cânt eu denu bob un, trwy dynfa ddirgel, at fynydd ym ‘mid-west’ America. + Ymunwch â ni am sioe olau arbennig gan yr artist Myles Leadbetter, perfformiad gan Bedwarawd Glen Manby a chystadlaethau cerflunio tatws stwnsh ar ddydd Sul 30 Tachwedd.


32

Sinema

029 2030 4400

Sinema Dros Dro Ymunwch â ni mewn dau leoliad gwirioneddol hynod, Castell Coch a Chastell Rhaglan, wrth i ni barhau â’n rhaglen o ddangosiadau safle-benodol. Mae hi’n bosib y bydd yna gynhesrwydd i’w gael yn y straeon eu hunain ond fydd hynny ddim yn ddigon i warchod rhag oerfel y gaeaf yn y dangosiadau awyr agored hyn. Sicrhewch, felly, eich bod yn gwisgo ddillad cynnes, os gwelwch yn dda.

Castell Coch

Castell Rhaglan

Gwe 14 Tachwedd

Sad 22 Tachwedd

Willy Wonka and the Chocolate Factory

Gyda chymorth Prifysgol De Cymru, byddwn yn cynnal y dangosiadau ‘drive-in’ hyn ar safle godidog castell Cadw. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar ein gwe-fan, www.chapter.org.

5pm

UDA/1971/100mun/PG. Cyf: Mel Stuart. Gyda: Gene Wilder, Jack Albertson, Peter Ostrum.

Mae Willy Wonka, yn cuddio pum tocyn aur yn ei fariau siocled blasus — a’r wobr i’r bobl lwcus a ddaw o hyd iddynt? Taith o amgylch ei ffatri a chyflenwad oes o’i siocled a’i losin! Mae Charlie Bucket a phedwar o blant eraill yn dod o hyd i’r tocynnau ond buan y dôn nhw i sylweddoli bod yn rhaid iddynt barchu’r rheolau neu fe ddaw’r Oompa Loompas i’w hebrwng nhw ymaith.

Frankenstein 8pm

UDA/1931/70mun/PG. Cyf: James Whale. Gyda: Boris Karloff, Colin Clive.

Mae’r gwyddonydd gwallgo’ ac obsesiynol, Dr Henry Frankenstein, yn creu anghenfil drwy gymryd rhannau o gorff y meirw a’u rhoi at ei gilydd. Ond ar ôl i’r anghenfil ladd ar gam ferch ifanc o’r enw Maria, mae trigolion y dref yn mynnu cyfiawnder.

Sad 15 Tachwedd

The Wizard of Oz 5pm

UDA/1939/101mun/PG. Cyf: Victor Fleming. Gyda: Judy Garland, Bert Lahr, Frank Morgan, Ray Bolger.

Yn y stori hon am ddyfeisiadau, hud a rhyfeddod, mae Dorothy Gale yn cael ei chludo i Wlad Oz gan gorwynt ac, yng nghwmni ei ffrindiau, y Llew Llwfr, y Dyn Tun, y Bwgan Brain a’i chi, Toto, yn cychwyn ar antur i weld y Dewin a fydd yn gallu ei helpu hi i ddychwelyd adref.

Invasion of the Bodysnatchers 8pm

UDA/1956/80mun/PG. Cyf: Don Siegel. Gyda: Kevin McCarthy, Dana Wynter, Larry Gates.

Mae Dr Miles Bennell yn cael bod nifer o’i gleifion yn dioddef o gyflwr paranoid sy’n gwneud iddyn nhw feddwl bod eu ffrindiau neu’u perthnasau yn ymhonwyr (‘impostors’). Caiff ei berswadio yn y pen draw fod rhywbeth rhyfedd wedi digwydd ac mae e’n penderfynu ceisio mynd at wraidd y peth.

Time Bandits 5pm

DG/1981/111mun/PG. Cyf: Terry Gilliam. Gyda: Michael Palin, Shelley Duvall, Sean Connery, David Rappaport, Kenny Baker, David Warner, Craig Warnock.

Mae bachgen ysgol o’r enw Kevin yn cael ei ddeffro gan fand trwsgwl o gorachod sydd wedi dwyn map o byrth amser y bydysawd — ac mae un o’r pyrth hynny yn digwydd bod yn ei ystafell wely. Mae’r corachod yn ysbeilio’r gorffennol ac yn chwilio am gyfoeth, ond mae’r ‘Supreme Being’ a’r ‘Evil Genius’ yn eu herlid ... Wedi’i ffilmio yng Nghastell Rhaglan, mae’r ffilm hon yn olwg wallgo’ ar hanes a mythau’r byd ac yn ein harwain drwy gyfnodau a bydoedd Robin Hood, Napoleon ac Agamemnon.

The Rocky Horror Picture Show 8pm

DG/1975/98mun/12A. Cyf: Jim Sharman. Gyda: Tim Curry, Susan Sarandon, Richard O’Brien, Patricia Quinn, Little Nell, Meat Loaf, Barry Bostwick.

Mae cwpwl newydd ddyweddïo, Brad a Janet, yn torri i lawr yn eu car un noson dywyll a stormus ac yn galw yng nghastell rhyfedd y Dr Frank N. Furter. Mae’r gwyddonydd gwallgo’ o blaned arall yn datgelu ei greadigaeth newydd gyda chymorth Columbia, Magenta a Riff Raff. Dyma gyfle prin i chi ymwneud ag ochr wyllt eich personoliaeth mewn dangosiad rhyngweithiol o’r sioe gerdd gwlt. CASTELL COCH Mae tocynnau ar gyfer y Dangosiadau yng Nghastell Coch yn £12/£10 (dangosiadau 8pm) a £6 (dangosiadau teuluol am 5pm). Gellir eu prynu drwy ein gwe-fan, www.chapter.org, neu o’n Swyddfa Docynnau, 029 2030 4400. CASTELL RHAGLEN Mae tocynnau ar gyfer y dangosiadau o Time Bandits yng Nghastell Rhaglan yn £15 fesul car. Bydd tocynnau ar gyfer dangosiadau o The Rocky Horror Picture Show yn £20 fesul car. Bydd tocynnau ar gyfer y ddwy ffilm gyda’i gilydd yn costio £30 i bob car.


Sinema

33

Fury

Gone Too Far

Gwe 28 Tachwedd — Iau 4 Rhagfyr

Gwe 28 + Sad 29 Tachwedd

UDA/2014/134mun/15. Cyf: David Ayer. Gyda: Brad Pitt, Shia LaBeouf, Logan Lerman.

DG/2013/87mun/12A. Cyf: Destiny Ekaragha. Gyda: Malachi Kirby, Adelayo Adedayo, Bhasker Patel.

Mis Ebrill, 1945. Wrth i’r Cynghreiriaid gynnal un ymgyrch olaf yn Ewrop, mae rhingyll caled o’r enw Wardaddy yn gyfrifol am danc Sherman a chriw o bump ar gyrch marwol y tu ôl i linellau’r gelyn. Â phopeth yn eu herbyn, ac â milwr hollol ddibrofiad yn rhan o’u criw, maent yn wynebu pob her posib wrth iddyn nhw geisio treiddio i galon yr Almaen Natsïaidd.

Ar ôl i arddegwr o Brydain, Yemi, gyfarfod o’r diwedd a’i frawd o Nigeria, Ikudaisy, caiff bod treftadaeth Affricanaidd ei deulu estynedig — a’u dillad rhyfedd — yn effeithio ar ei ‘street cred’ ei hun. Wrth i densiynau glasoed a thensiynau hiliol ffrwydro un diwrnod ar ei stad, rhaid i Yemi a Ikudaisy fel ei gilydd benderfynu i bwy ac i beth y byddan nhw’n driw. Mae’r addasiad hwn o ddrama Bola Agbaje (a enillodd Wobr Olivier) yn llwyddo i ddod o hyd i hiwmor hyd yn oed wrth drafod tensiynau llwythol modern.

O’r chwith i’r dde: Fury, Gone Too Far

chapter.org

+ Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1. Is-deitlau meddal Sul 30, 7.50pm. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

The Hundred-Foot Journey Gwe 28 Tachwedd — Iau 4 Rhagfyr India/2014/122mun/PG. Cyf: Lasse Hallström. Gyda: Helen Mirren, Om Puri, Manish Dayal.

Mae perchennog bwyty gweddw o’r enw Papa Kadam yn ffoi gyda’i deulu rhag trais ym Mumbai ac yn setlo mewn pentref prydferth yn Ffrainc, lle mae e’n agor busnes gyferbyn â’r bwyty mwyaf crand yn yr ardal. Mae perchennog y bwyty, Madame Mallory, yn wrthwynebus ac mae pethau’n cymhlethu ymhellach ar ôl i fab Kadam, Hassan, gwympo mewn cariad â sous chef hyfryd Madame, Marguerite. Wrth i Madame a Papa geisio tir cyffredin cymod, mae Hassan a Marguerite yn pendilio rhwng pleserau serch a methiannau proffesiynol. Yn llawn perfformiadau blasus, mae’r ffilm hon yn bleser sawrus, synhwyraidd.

+ Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1. Is-deitlau meddal Gwe 28 Tach, 5.30pm a Sad 29 Tach, 8.40pm. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

Winter Sleep

Gwe 28 Tachwedd — Iau 4 Rhagfyr Twrci/2014/196mun/is-deitlau/arf15. Cyf: Nuri Bilge Ceylan. Gyda: Haluk Bilginer, Melisa Sözen, Demet Akbag.

Mae Aydin yn gyn-actor ac yn rheoli gwesty bach ar y paith Anatolaidd godidog. Mae ganddo berthynas stormus â’i wraig ifanc, Nihal, ac mae ei chwaer, Necla, yn dioddef ar ôl ei hysgariad diweddar. Wrth i’r eira ddechrau disgyn, mae’r gwesty’n troi’n hafan ond hefyd yn garchar sy’n bwydo drwgdeimlad. Mae hon yn stori hardd a beiddgar gan un o wneuthurwyr ffilm mwyaf medrus y byd. Enillydd y Palme d’Or yn Cannes


34

Sinema

029 2030 4400

Ffilmiau i’r Teulu Cyfan

Noddir gan Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk 02920 666688

Super 8

Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn a dydd Sul am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn. Archebwch ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Carry on Screaming

Bob dydd Gwener am 11am, mae Carry On Screaming yn galluogi i rieni neu ofalwyr weld ffilm heb orfod poeni y bydd eu babi’n aflonyddu ar eraill. Gweler y calendr am fanylion y dangosiadau arbennig hyn ar gyfer y rheiny â babanod dan flwydd oed.

Dangosiad mewn Amgylchiadau Cefnogol: The Boxtrolls (PG) Diwrnod Ffilm Rhad ac am Ddim i Deuluoedd Sul 23 Tachwedd 10am–3pm

Ymunwch â ni ar gyfer ein diwrnod ffilm i’r teulu cyfan. Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac yn cynnwys gweithdy creadigol i ddathlu pen-blwydd Contact a Family Wales yn 15 oed. Mae’r digwyddiad ar agor i blant a chanddynt anableddau a/neu anghenion ychwanegol a’u teuluoedd. I gael mwy o wybodaeth ac i gadw lle ar gyfer eich teulu chi, anfonwch e-bost at wales.events@cafamily.org.uk neu ffoniwch 02920 396624 neu 01978 351769.

Super 8

Gwe 31 Hydref — Sul 2 Tachwedd UDA/2011/112mun/12A. Cyf: JJ Abrams. Gyda: Elle Fanning, AJ Michalka, Kyle Chandler.

Yn ystod haf 1979, mae grŵp o ffrindiau mewn tref fechan yn Ohio yn gweld damwain trên ddifrifol tra’n gwneud ffilm ‘super 8’ ac yn dechrau amau nad damwain ydoedd mewn gwirionedd. Toc wedyn, mae yna gyfres o ddiflaniadau anarferol a digwyddiadau anesboniadwy yn y dref, ac mae’r Dirprwy lleol yn ceisio dod o hyd i’r gwir — sydd yn fwy brawychus nag y gallai unrhyw un ohonynt fod wedi ei ddychmygu.

E.T.

Sad 8 + Sul 9 Tachwedd UDA/1982/115mun/U. Cyf: Steven Spielberg. Gyda: Henry Thomas, Drew Barrymore, Peter Coyote.

Ffilm am y berthynas rhwng ‘alien’ bach a bachgen ifanc. Yn raddol, caiff ET ei integreiddio i fywyd y cartref, lle mae e’n dysgu siarad a chyfathrebu. Stori oesol am gariad, tosturi a dealltwriaeth.

Teenage Mutant Ninja Turtles Sad 15 + Sul 16 Tachwedd

UDA/2014/101mun/12A. Cyf: Jonathan Liebesman. Gyda: Megan Fox, Will Arnett, William Fichtner.

Mae Shredder a’i Foot Clan maleisus yn rheoli’r ddinas. Mae pethau’n edrych yn dywyll tan i bedwar brawd godi o’r ffosydd tanddaearol a derbyn eu tynged fel y Teenage Mutant Ninja Turtles. Maent yn gweithio gyda’r gohebydd eofn April i achub y ddinas. + Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1. Is-deitlau meddal ar Sad 15 Tach, 11am a Sul 16 Tach, 11am (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

The Boxtrolls

Sad 22 + Sul 23 Tachwedd DG/2014/100mun/PG. Cyf: Anthony Stacchi, Graham Annable. Gyda: Simon Pegg, Elle Fanning, Toni Collette.

Mae bachgen amddifad ifanc a godwyd gan gasglwyr sbwriel mewn ogof danddaearol yn ceisio achub ei gyfeillion rhag drwgweithredwr creulon. + Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1. Is-deitlau meddal ar Sul 22 Tach 11am (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

The Book of Life

Sad 29 + Sul 30 Tachwedd UDA/2014/95mun/U. Cyf: Jorge R. Gutierrez. Gyda: Zoe Saldana, Channing Tatum, Ron Perlman.

Mae Manolo yn freuddwydiwr ac yn cychwyn allan ar daith epig drwy fydoedd hudolus, chwedlonol a rhyfeddol er mwyn achub ei wir gariad ac amddiffyn ei bentref. + Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1. Is-deitlau meddal Sul 22 Tach, 11am (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).


chapter.org

Addysg

35

ADDYSG Moviemaker Iau

Sad 1 Tachwedd 10.30am–12pm Os ydych chi rhwng 9 ac 16 oed ac yn wneuthurwr ffilmiau uchelgeisiol, dewch i ymuno â ni. Rydym yn gwylio ac yn trafod ffilmiau byrion — ac yn dangos eich ffilmiau chi hefyd. Fe allai’r ffilmiau byrion a ddangosir yn ystod sesiynau Moviemaker Iau gynnwys golygfeydd sy’n cyfateb â thystysgrif PG y BBFC — dylai rhieni gadw hynny mewn cof. £1.50

Chapter Sewcial

Bob dydd tan Sul 30 Tachwedd 3.30–5pm 9 -12 oed Bydd y cwrs gwnïo hwn i bobl ifainc yn defnyddio themâu diddorol, gweadau a deunyddiau o’n rhaglen ffilm, theatr a chelfyddydau gweledol fel ysbrydoliaeth ar gyfer dysgu sgiliau gwnïo sylfaenol. Nifer cyfyngedig o leoedd. £5 y sesiwn

Animeiddio ac Awtistiaeth

Bob dydd Mercher tan Mer 3 Rhagfyr 5.30–7pm 8-18 oed Mae’r sesiynau 90 munud hyn yn annog pobl ifainc ar sbectrwm awtistiaeth i fagu hyder cymdeithasol ac i ddysgu neu ddatblygu sgiliau animeiddio mewn awyrgylch cefnogol a chreadigol. Bydd pob sesiwn yn hunangynhaliol neu gellir mynychu’r sesiynau fel cyfres. Fe all ein staff profiadol drefnu rhaglenni dysgu unigol os bydd angen hefyd. Bydd Chapter hefyd yn ehangu’r rhaglen er mwyn cyflwyno nifer cyfyngedig o sesiynau blasu mewn ysgolion sy’n darparu gwasanaethau i bobl ifainc ar sbectrwm awtistiaeth. Os ydych yn meddwl y gallai eich hysgol chi fod yn gymwys, cysylltwch â ni i drefnu gweithdy. £2.50 y sesiwn Gyda chefnogaeth

I gael mwy o wybodaeth am unrhyw un o’n gweithgareddau addysg, cysylltwch â learning@chapter.org. I archebu tocynnau, cysylltwch â’r swyddfa docynnau ar 029 2030 4400.

Dangosiadau Gŵyl ‘Into Film’ i Ysgolion Mae Gŵyl ‘Into Film’ yn ddathliad blynyddol rhad ac am ddim o ffilm ac addysg i ysgolion a phobl ifainc ledled y DG.

American Interior (12) Llun 17 Tachwedd 10am

Mae’r canwr roc o Gymru, Gruff Rhys, yn adrodd hanes ei daith ar hyd perfeddwlad America yn y ffilm ddogfen chwareus a barddonol hon.

I am Kalam (PG)

I’w dilyn gan Oxfam Maw 18 Tachwedd 10am Hanes doniol a thyner am fachgen Indiaidd o’r enw Chhotu sy’n cael gwireddu ei freuddwyd o fynd i’r ysgol ar ôl i Dywysog dyngarol ei helpu.

The Lion King (U)

Ynghyd â chyflwyniad ar ddosbarthu ffilmiau gan y BBFC Mer 19 Tachwedd 10am Ffilm Disney sy’n llawn caneuon adnabyddus am lew ifanc sy’n gadael ei deulu a thrwy hynny yn caniatáu i’w ewythr drwg ddod yn frenin.

Hedd Wyn (12A)

Iau 20 Tachwedd 10am Archwiliad cynnil o wladgarwch cyfnod rhyfel a grym y gair ysgrifenedig. Mae pob un o’r dangosiadau hyn yn rhad ac am ddim: i gadw lle, ewch i http://www.intofilm.org/festival

Penwythnosau Gwneud Ffilmiau ‘Into Ffilm’

Gweithdy Ffilm Penwythnos

9-12 oed Sad 8 + Sul 9 Tachwedd 9.30am–4.30pm Dewch i gymryd rhan yn y gweithdy gwneud ffilmiau hwn ac i fod yn rhan o’ch criw ffilmio eich hun wrth i chi fynd ati i greu ffilm 60 eiliad o hyd. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. I gadw lle, ewch i http://www.intofilm.org/festival RHAD AC AM DDIM

Gweithdy Ffilm Penwythnos

13-16 oed Sad 15 + Sul 16 Tachwedd 9.30am–4.30pm Dewch i gymryd rhan yn y gweithdy gwneud ffilmiau hwn ac i fod yn rhan o’ch criw ffilmio eich hun wrth i chi fynd ati i greu ffilm 60 eiliad o hyd. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. I gadw lle, ewch i http://www.intofilm.org/festival RHAD AC AM DDIM


36

Archebu / Gwybodaeth

029 2030 4400

GWYBODAETH Sut i Archebu Tocynnau

Gwybodaeth

Dros y ffôn — ffoniwch ni ar 029 2030 4400. Rydym yn derbyn pob un o’r prif gardiau credyd. Galwch heibio — mae ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 11am-8.30pm, ac ar y Sul o 3pm–8.30pm. Ar-lein: Gallwch archebu ar www.chapter.org bob awr o’r dydd a’r nos Consesiynau: Mae cyfraddau disgownt ar gael i fyfyrwyr, pobl dros 60 oed, plant, y di-waith, pobl anabl, deiliaid cerdyn MAX ac i Ffrindiau Chapter a deiliaid Cerdyn Chapter. Bydd angen i chi gyflwyno prawf o’ch cymhwyster i dderbyn cyfradd ostyngol. Archebion grŵp: Prynwch 8 tocyn ac fe gewch chi’r 9fed yn RHAD AC AM DDIM. Noder os gwelwch yn dda • dim ond un disgownt y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw un adeg • rydym yn hapus i dderbyn archebion ymlaen llaw ond ni allwn gadw tocynnau i’r naill ochr • os cyrhaeddwch chi’n hwyr mae hi’n bosib y cewch chi’ch atal rhag mynychu eich digwyddiad. Cyflwynir rhai o’n ffilmiau â Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ond nid yw’r wybodaeth hon bob amser ar gael ar adeg argraffu’r cylchgrawn. Gweler ein gwe-fan am fanylion neu piciwch draw i’r Swyddfa Docynnau yn ystod yr wythnos y mae’r ffilm yn cael ei rhyddhau.

Cwmnïau ac Artistiaid Cysylltiedig Mae Chapter yn gartref i gwmnïau theatr, cwmnïau dawns, stiwdios animeiddio, gwneuthurwyr printiau, crochenwyr, dylunwyr graffeg, dylunwyr deunydd symudol, cyfansoddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, cyhoeddwyr cylchgronau, artistiaid annibynnol a llawer iawn mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Sinema Cyn 5pm O 5pm ymlaen £4.50 (£4.00) £7.90 (£7.20) Llawn Cons £3.50 (£3.00) £5.80 (£5.10) Cerdyn + Cons £3.00 (£2.50) £5.00 (£4.50) DISGOWNT DYDD MAWRTH Tocynnau’r holl brif ddangosiadau — £4.40

Gweithdai a Dosbarthiadau Rydym yn cynnal amrywiaeth eang o weithdai dyddiol a dosbarthiadau gydag ymarferwyr annibynnol, gan gynnwys ballet, zumba, ioga, crefft ymladd, massage i fabanod, cerddoriaeth i blant, pilates, tango, fflamenco, ysgrifennu creadigol, gwersi cerddoriaeth a mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Sut i gyrraedd Chapter Fe ddewch chi o hyd i ni yn Nhreganna, i’r gorllewin o ganol y ddinas. Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE Ar Droed Mae hi’n daith gerdded hamddenol o ryw 20 munud o ganol y ddinas. Ar Fws Mae bysus rhif 17, 18 a 33 yn aros gerllaw ac yn gadael bob pum munud o ganol y ddinas. Ar Feic Mae digon o raciau beic ar flaen yr adeilad. Parcio Mae gennym faes parcio yng nghefn yr adeilad ac mae meysydd parcio lleol eraill wedi eu nodi ar y map. Gofynnwn i chi barchu ein cymdogion os gwelwch yn dda drwy osgoi parcio mewn strydoedd cyfagos.

Prisiau ymlaen llaw/ar-lein mewn cromfachau. Mae “Ymlaen llaw” yn golygu unrhyw bryd cyn diwrnod y dangosiad.

aff nd Lla

Springfield Pl.

ad

mC ha cen res

Ha m i l t o n

St

t

Gr

King’s Ro

nd Wy

ane

Road

L Gray

. Library St

St. ay

Treganna

Le c h kwit

Church Rd.

Heol Ddwy rein i o l y B o n t F a en Penllyn Rd.

Harve

St Talbot

Orc h a r d P l.

rn Seve

St. Gray M a rk e t P l .

treet yS

e St. Glynn

d Roa

d hna arc lyF

Heo

o 6pm

rt S

t.

Road

Earle Pl.

A l be

P — meysydd parcio rhad ac am ddim — rac feics

r R—oadarhosfan bysus Majo

I Ganol Dinas Caerdydd to n ling Wel

t

e Stre

Mynediad i bawb Mae Chapter yn croesawu ymwelwyr anabl. Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad penodol ffoniwch ein swyddfa docynnau ar 029 2030 4400, minicom 029 2031 3430.


chapter.org

Cymryd Rhan

37

CYMRYD RHAN Cerdyn CL1C

Cadwch mewn cysylltiad

Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawrlwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Ymunwch â ni ar-lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

Ffrindiau Chapter Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40

eAmserlen rad ac am ddim eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch adam.chard@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.

Cynllun Myfyrwyr Chapter Ydych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth am ddim a manteisio ar gynigion arbennig nodedig, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Jennifer — jennifer.kirkham@chapter.org www.chapter.org/cy/aelodaeth-myfyrwyr-chapter

Hoffai Chapter gydnabod cefnogaeth hael y sefydliadau a’r grwpiau canlynol:

Landfill Community Fund Esmée Fairbairn Foundation EU Culture Programme The Baring Foundation Garfield Weston Foundation Foyle Foundation Biffa Award Colwinston Charitable Trust Admiral Group plc Moondance Foundation Foundation for Sport and the Arts Trusthouse Charitable Foundation Community Foundation in Wales BBC Children in Need The Waterloo Foundation ScottishPower Green Energy Trust The Welsh Broadcasting Trust

SEWTA Richer Sounds The Clothworkers’ Foundation Momentum The Henry Moore Foundation Google Jane Hodge Foundation Simon Gibson Charitable Trust People’s Postcode Trust Dunhill Medical Trust Legal & General Institut für Auslandsbeziehungen e.V Millennium Stadium Charitable Trust The Ernest Cook Trust Lloyds TSB Morgan Signs Garrick Charitable Trust

Barclays Arts & Business Cymru Penderyn The Austin & Hope Pilkington Trust Singapore International Foundation Puma Hotels Collection: Cardiff Angel Hotel Cardiff Airport Wales Arts International Gibbs Charitable Trust Ceredigion Community Scheme The Steel Charitable Trust The Boshier-Hinton Foundation 1st Office Oakdale Trust Dipec Plastics Nelmes Design

The Coutts Charitable Trust Bruce Wake Charity Funky Monkey Feet Finnis Scott Foundation Unity Trust Bank Hugh James Contemporary Art Society for Wales The Dot Foundry JVH Gidden & Rees Western Power Distribution Follett Trust Arts & Kids Cymru Canton High School Girl’s Reunion Co-operative Group Renault Cardiff Embassy of Belgium Queensland Government


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.