Chapter Hydref 2015

Page 1

029 2030 4400

@chaptertweets

chapter.org


Croeso

Croeso i rifyn arbennig mis Hydref — sy’n rhestru pob un o ddigwyddiadau cyffrous Chapter y mis hwn. Wrth i’r nosweithiau ymestyn ac wrth i ni ddisgwyl brath oer y gaeaf, gallwn gynnig ambell ddihangfa ardderchog i chi. Mae yna amrywiaeth ardderchog o ffilmiau yn y sinema; byddwn yn lansio’r Ŵyl Ffilm Eidalaidd gyntaf (t26), sy’n cyflwyno ambell ffilm nodwedd hyfryd o’r Wlad Brydferth, ac yn cyflwyno hefyd dymor Tainted Love (tt28-29), a fydd yn gyfle i syrthio mewn cariad o’r newydd â ffilmiau eiconig. Draw yn yr Oriel, rydym yn falch iawn o allu cyflwyno arddangosfa unigol o waith gan yr artist arloesol, George Barber (tt4-6). Byddwn yn mynd ar daith i’r dyfnderoedd pell, drwy gyfrwng ei ffilm a saethwyd ar fwrdd llong danfor, Akula Dream. Os ydych chi’n awyddus i gofleidio’r tymor newydd yn hytrach na dianc oddi wrtho, gallwch fwynhau clydwch ein Caffi Bar a gŵyl Oktoberfest (t8) — mae detholiad o gwrw a phrydau gwych o Bafaria yn eich disgwyl. Ac fe fydd yna ddogn dda o gyffro Calan Gaeaf gan griw arswydus Abertoir (tt30-31). Diolch am ddarllen ac fe welwn ni chi cyn hir!

029 2030 4400

Defnyddiwch y côd QR hwn i lawr–lwytho copi digidol o gylchgrawn Chapter

Delwedd y clawr: Stories From a Crowded Room. Llun: Gemma Chapple

Chapter Heol y Farchnad, Caerdydd CF5 1QE 029 2030 4400 www.chapter.org ymholiadau@chapter.org

Dylunio: Nelmes Design

02


chapter.org

Uchafbwyntiau

03

Oriel tudalennau 4–7

Bwyta Yfed Llogi tudalen 8

Cefnogwch Ni tudalen 9

Theatr

Cerdyn CL1C

tudalennau 10–16

Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawr–lwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Chapter Mix tudalen 17

Ffrindiau Chapter Sinema tudalennau 18–32

Addysg tudalen 33

Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40

Cadwch mewn cysylltiad Ymunwch â ni ar–lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

Gwybodaeth a Sut i archebu tocynnau tudalen 34

eAmserlen rad ac am ddim eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E–bostiwch adam.chard@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e–bost.

Cysylltwch â ni @chaptertweets facebook.com/chapterarts

Cymryd Rhan tudalen 35

Calendr tudalennau 36–37

Nodwch os gwelwch yn dda bod copïau print bras o’n cylchgrawn ar gael ar gais. Cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau ar 029 2030 4400.


Oriel

George Barber, Shouting Match India, 2010, fideo 6 munud 14 eiliad

04 029 2030 4400


Oriel

05

George Barber, Akula Dream, fideo Manylder Uchel, 2015

chapter.org

GEORGE BARBER: AKULA DREAM Rhagolwg: Gwe 2 Hydref 6–9pm Arddangosfa: Iau 1 Hydref 2015 — Sul 10 Ionawr 2016 Daeth George Barber i amlygrwydd yn y 1980au fel arloeswr gyda mudiad ‘Scratch Video’, a oedd yn defnyddio samplau o ffilmiau Hollywood. Defnyddiodd dechnolegau samplo datblygol y cyfnod i greu trefniannau cerddorfaol digynsail o sain, deunydd gweledol, golygiadau ailadroddus a rhythm. Ers hynny, datblygodd Barber gorff sylweddol ac amrywiol o waith, sydd yn ymgorffori deunydd ffilm hapgael, ymsonau perfformiadol a ffilmiau naratif. Rydym yn falch iawn o gyflwyno arddangosfa unigol uchelgeisiol o’r enw ‘Akula Dream’. Mae darn newydd, â’r un enw, yn ganolbwynt i’r arddangosfa. Mae’r gwaith hwnnw yn pontio celfyddyd fideo a ffilmiau ‘sinematig’. Yn Akula Dream, mae capten newydd, o’r enw Pavel, yn cymryd cyfrifoldeb dros hen long danfor Akula Rwsiaidd – ond nid yw Capten Pavel fel petai’n poeni’n ormodol am ystyriaethau ymarferol neu brotocol. Mae e’n gwisgo casog ac yn tyfu barf hir. Ei

ddifyrrwch pennaf yw drymio siamanaidd. Yn ystod cwest amhenodol a rhyfedd, mae Capten Pavel a’r criw yn gweld y tu hwnt i’r llong ac yn mynd ar deithiau siamanaidd i fydoedd rhyfedd. Mae’r arddangosfa hefyd yn cyflwyno gweithiau diweddar o bwys, a’r rheiny’n cynnwys Fences Make Senses (2014) a The Freestone Drone (2013). Mae Fences Make Senses yn ymateb artistig i argyfwng byd-eang presennol — poblogaethau cyfain sy’n cael eu dadleoli a’u gorfodi i fudo — ac mae’n ailystyried y pynciau hynny gan ymwrthod â ffurfiau dogfennol arferol neu clichés y newyddion. Mae defnydd Barber o fyrfyfyrwyr yn rhoi llwyfan i’r dychymyg ac i empathi, ac yn pwysleisio realiti profiadau ffoaduriaid a mympwyoldeb yr amodau sy’n gosod rhywun ar un ochr i ffin yn hytrach nag ar yr ochr arall.


Oriel

Motiff canolog The Freestone Drone yw’r ‘drôn parablus’ — sy’n dioddef o ddiffyg hunan-barch a theimladau o euogrwydd. Mae’r darn yn gwest barddonol a gyflwynir o safbwynt drôn ifanc diniwed. Fel petai ag ymwybod plentyn, mae’r drôn yn ystyried dinasoedd, yn dod ar draws unigolion ac adroddiadau ac yn ystyried, yn y pen draw, ei ddefnyddioldeb a’i dynged ei hun. Mae The Freestone Drone yn fan cyfarfod i farddoniaeth ac athroniaeth ac yn fodd i ystyried pynciau moesegol a gwleidyddol cyfoes. Rydym hefyd yn falch iawn o allu cyflwyno The Shouting Match yn ei gyfanwaith, ar ffurf gosodiad pedair sgrin. Mae’r gwaith yn cyflwyno parau amrywiol sydd yn cystadlu â’i gilydd â grym lleisiol. Mae dweud dim byd – ddim ond i’r dim byd hwnnw fod mor uchel â phosib – yn drosiad addas o’n byd cyfoes. Dangoswyd gweithiau Barber mewn nifer o wyliau, cystadlaethau ac orielau rhyngwladol ac fe’u darlledwyd ar sianeli teledu ledled y byd gan ennill iddo wobrau o bwys. Yn ddiweddar, dangosodd waith yn Kate MacGarry, Oriel Whitechapel, Gŵyl Ffilm Split (Croatia), yr Academi Frenhinol, Tate Britain ac Amgueddfa Victoria ac Albert. Cynhaliwyd dau arolwg o bwys o’i waith, yn yr ICA ac yng Nghanolfan Celfyddydau Cyfoes Dundee. Yn ystod hydref 2015, bydd yn cyflwyno arddangosfeydd unigol yn Waterside Contemporary, Llundain, ac yn Young Projects, Los Angeles. Mae Barber yn Athro Celfyddyd a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol y Celfyddydau Creadigol ac fe’i cynrychiolir gan Waterside Contemporary (watersidecontemporary.com).

Sgyrsiau am 2

029 2030 4400

George Barber, The Freestone Drone. Fideo MU, 2013. Gyda chaniatâd waterside contemporary, Llundain

06

Comisiynwyd Akula Dream gan Chapter yn rhan o ‘Looking for America: Diffusion — Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Caerdydd’, 1-31 Hydref 2015. I gael mwy o wybodaeth, ewch i diffusionfestival.org

Sad 10 + Sad 24 Hydref 2pm Mae ein ‘Sgyrsiau am 2’ yn deithiau tywysedig o gwmpas yr arddangosfa gyfredol, yng nghwmni ein Tywyswyr Byw, Richard Higlett a Thomas Williams. Maent yn gyfle i ddysgu mwy am yr arddangosfa gyfredol ac am ddulliau gwaith unigryw yr artistiaid. Ni fydd dwy sgwrs yn union yr un fath ond y gobaith yw y byddan nhw’n ddiddorol ac yn agored bob amser. Mae’r Sgyrsiau am 2 yn rhad ac am ddim ac nid oes angen archebu lle ymlaen llaw — dewch draw i fynedfa’r Oriel i ymuno â ni! RHAD AC AM DDIM

I ddod yn fuan!

Experimentica15

Are You Asking for Evidence of the Truth? Mer 4 — Sul 8 Tachwedd Mae EXPERIMENTICA, a sefydlwyd yn 2001, yn ŵyl bum niwrnod flynyddol sydd yn cyflwyno rhaglen ddeinamig o gelfyddyd, perfformiadau a phrosiectau rhyngddisgyblaethol byw. Mae’n llwyfan pwysig sy’n caniatáu i artistiaid o Brydain ac o bedwar ban byd gynhyrchu neu gyflwyno gwaith. Eleni, mae EXPERIMENTICA yn chwilio am fersiynau newydd o’r gwirionedd. Gellir archebu tocynnau ar-lein neu yn y swyddfa docynnau ac mae tocyn gŵyl, ar gyfer pob un o’r pum niwrnod, yn ddim ond £30. www.chapter.org/experimentica15


Oriel

Celfyddyd yn y Bar

Gwobr Jarman 2015

07

Gwyn Williams, Blydi Cowbois, 2015

chapter.org

Gwyn Williams: Chipwood and Choppers Tan Sul 1 Tachwedd Mae cyfres newydd Gwyn Williams yn seiliedig ar ei freuddwydion a’i ddiddordeb yn yr hen ffordd Americanaidd o fyw. Mae Williams yn chwilota am luniau a delweddau archif ar y we a’r rheiny’n cyfleu golygfeydd o Americana clasurol: dynion a menywod wedi’u gwisgo fel cowbois mewn ffair haf; cwpl yn eistedd mewn canŵ ar lyn glas eang wedi’u hamgylchynu gan goed pinwydd; cipluniau sydd fel petaent wedi’u tynnu yn ystod gwyliau teuluol. Heb eu golygu na’u trin, mae Williams yn cyfosod y delweddau hiraethus hyn ag adrannau o bapur wal ‘chipwood’, deunydd sydd yn dwyn i’w gof yntau atgofion am ei blentyndod yng Ngogledd Cymru a’i ffantasïau am y ‘Freuddwyd Americanaidd’. Mae Gwyn Williams yn byw ac yn gweithio yn Clwt-ybont ger Caernarfon. Mae ei arddangosfeydd diweddar yn cynnwys, ‘The Scent of Dic Aberdaron’, Oriel Davies, Y Drenewydd (2015); ‘Y Lle Celf’, Eisteddfod Genedlaethol Cymru; ‘Oriel Davies Open’, Oriel Davies, Y Drenewydd (y ddwy yn 2014); ‘Pebbledash and Polaroids’, Hackney Picturehouse, Llundain; MOSTYN Open 18, MOSTYN, Llandudno (y ddwy yn 2013).

Maw 13 Hydref Adam Chodzko, Seamus Harahan, Gail Pickering, Alia Syed, Bedwyr Williams ac Andrea Luka Zimmerman. Mae Rhaglen Deithiol Gwobr Jarman yn gyflwyniad arbennig o waith gan y chwe artist ar restr fer Gwobr Jarman eleni. Mae Gwobr Jarman yn wobr flynyddol o bwys sy’n dathlu gwaith gwneuthurwyr ffilm/ artistiaid arloesol yn y DG. Bydd y dangosiad yn cynnwys gwaith gan bob un o’r gwneuthurwyr ffilm ac fe’i dilynir gan drafodaeth gyda un o’r artistiaid hynny, Andrea Luka Zimmerman. Ysbrydolwyd Gwobr Jarman flynyddol ‘Film London’ gan y gwneuthurwr ffilmiau dylanwadol, Derek Jarman. Fe’i lansiwyd yn 2007 i gydnabod a chefnogi artistiaid sy’n gweithio â delweddau symudol. Mae’n ddathliad hefyd o ysbryd arbrofol, dychmygus ac arloesol mewn gwaith gan wneuthurwyr ffilm artistig addawol. I gael mwy o wybodaeth am y dangosiadau, gweler t24 a’r calendr.


Bwyta Yfed Llogi

029 2030 4400

ChapterLive

Pop Up Produce

Mae ChapterLive yn gyfres o gyngherddau byw wedi’u curadu gan yr hyrwyddwyr profiadol, Jealous Lovers Club. Cynhelir y nosweithiau yn y Caffi Bar ar ddydd Gwener cyntaf a thrydydd dydd Gwener y mis. Does yna ddim genres penodol, felly mae’r nosweithiau’n gyfle i ddod o hyd i artistiaid newydd gwych. Bydd diddanwch mis Hydref yn cychwyn â’r cerddor gwerin o Awstralia, Emaline Delapaix, sydd ar ganol ei hail daith Brydeinig ar hyn o bryd. I gael mwy o wybodaeth am y grwpiau wrth iddyn nhw gael eu cadarnhau, ewch i www.chapter.org/chapterlive.

Mae ein marchnad fisol boblogaidd yn llawn dop â chynhyrchwyr bwyd lleol ac fe fydd y rheiny’n cynnig danteithion i dynnu dŵr o’ch dannedd. Ydych chi wedi sylwi ar fwlch yn narpariaeth Pop Up Produce? Os hoffech chi ymuno â ni unwaith y mis i werthu’ch cynnyrch chi, cysylltwch â Philippa — philippa.brown@chapter.org — i wneud cais am stondin.

ChapterLive: Emaline Delapaix

08

Gwe 2 + Gwe 16 Hydref 9pm

RHAD AC AM DDIM @JealousLovers1 #ChapterLive

Bwyta + Yfed Wrth i’r tywydd hydrefol afael, byddwn yn mwynhau ychydig o fwyd cysurlon, hen ffasiwn. Ac mae ein cogyddion dawnus wrth law i weini ambell bryd newydd-sbon hyfryd. Bydd ein holl ffefrynnau yn dal ar gael ar fwydlen newydd y gaeaf — ond fe fydd yna ddigon o ddanteithion newydd hefyd. Bydd y rheiny’n cynnwys: pwmpen rhost, cyri gwygbys a sbigoglys ffres; macrell wedi ffrio gyda thatws Ratte cynnes a llyrlys, ynghyd â dresin cyrens coch a betys, a Wellington o bwmpen a tharagon gyda llysiau tymhorol, colcanon a saws o ffrwythau’r gwrychoedd. @chapter_eats

Mer 7 Hydref 3-8pm

Gŵyl Gwrw Oktoberfest

Mer 14 — Sad 17 Hydref Bar ar agor: Mer + Iau: 5–11pm, Gwe: 5pm–12.30am, Sad: 12pm-12am Oes yna flwyddyn eisoes ers i ni storio ein Steins cwrw a’n hetiau Trenker?! Oes wir, ond y newyddion da yw bod yr Oktoberfest yn ei hôl! Mae’r ŵyl fel petai hi’n tyfu ac yn tyfu bob blwyddyn ac r’yn ni am sicrhau na fydd gŵyl eleni’n eithriad. Waeth beth fyddo’ch hoff fath o gwrw — schwarzbier o Sacsoni, kölsch o Cologne neu weissbier o Bafaria — byddwn yn cynnig detholiad o’r cwrw Almaenaidd gorau drwy gydol y penwythnos. Zum Wohl!

Noson Bwyd a Gwin Iau 22 Hydref 7.30pm

Ymunwch â ni i flasu gwinoedd cain a seigiau blasus wrth i ni gyflwyno ein rhestr win newydd. Cynhelir y noson gan Faye Moran o Nectar Imports ac fe fydd hi’n rhannu ei harbenigedd â connoisseurs Chapter. Noson i’r gwin-garwyr yn eich plith! £25


chapter.org

Cefnogwch Ni

09

CEFNOGWCH NI

Mae Chapter yn elusen gofrestredig ac rydym yn dibynnu ar gefnogaeth gan unigolion a busnesau er mwyn cyflwyno ein rhaglen artistig amrywiol a’n gwaith addysgol pwysig. Rydym yn ddiolchgar am bob ceiniog a dderbyniwn ac fe allwn gynnig ambell beth gwych i chi yn gyfnewid. Mae yna nifer o wahanol ffyrdd o gymryd rhan ...

Ffrindiau Ymunwch â chynllun Ffrindiau Chapter ac fe allwch chi fwynhau buddion sy’n amrywio o ostyngiadau ar docynnau a bwyd a diod yn ein Caffi Bar i wahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn Ffrindiau hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C.

Ffrind Efydd : £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40

Rhoddion Cofrestrwch i wneud cyfraniadau unigol neu roddion reolaidd i Chapter, er mwyn chwarae rhan lawn yn ein gwaith elusennol. Gallwch wneud cyfraniadau ar-lein, ar www.chapter.org/cy/cefnogwch-ni, neu drwy ymweld â’n Swyddfa Docynnau. Gallwch wneud cyfraniadau drwy neges destun erbyn hyn hefyd — tecstiwch ‘Chap15’, ynghyd â’r swm yr hoffech ei roi, i 70070. Fydd hi ddim yn costio ceiniog i chi anfon y neges ac fe fyddwn ni’n derbyn 100% o’ch cyfraniad.

Clwb

Cynllun aelodaeth Chapter i fusnesau. Am ffi flynyddol fechan, gall eich busnes chi fwynhau manteision sylweddol yn Chapter, a’r rheiny’n cynnwys cyfleoedd i rwydweithio, defnydd o’n mannau llogi hyblyg a gostyngiadau i chi a’ch staff ar docynnau sinema a theatr yn ogystal â phrisiau gostyngol yn ein Caffi Bar. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.chapter.org/cy/chapter-clwb.

Cynllun Myfyrwyr Chapter Ydych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth rad ac am ddim a manteisio ar ambell gynnig arbennig iawn? Ymunwch heddiw! Mae’r manteision yn cynnwys: • Prisiau gostyngol ar bob tocyn theatr a sinema • Gostyngiad o 10% yn ein Caffi Bar • Cyfleoedd i ennill gwobrau gwych • Cylchlythyrau ecsgliwsif • Gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig Cofrestrwch heddiw yn www.chapter.org/cy/ myfyrwyr. Bydd Chapter yn Ffair y Glas Prifysgol Caerdydd ar ddydd Llun 21 Medi ac yn y Ffair yn yr Atriwm, Prifysgol Morgannwg, ar ddydd Mawrth, 22 Medi. Byddwn hefyd yn Ysgol Gelfyddyd a Dylunio Prifysgol Fetropolitan Caerdydd ar ddydd Mawrth, 29 Medi. Piciwch draw i ddweud helo — bydd yr holl fyfyrwyr sy’n cofrestru ar gyfer ein cynllun yn ystod unrhyw un o’r digwyddiadau hyn yn derbyn cynnig 2-am-1 ar docynnau sinema ynghyd â bag o bopcorn rhad ac am ddim gan ein noddwyr hyfryd, Portlebay.

I gael mwy o wybodaeth am unrhyw un o’r materion uchod, cysylltwch os gwelwch yn dda ag Elaina Gray — ffoniwch 029 2035 5662 neu e-bostiwch elaina.gray@chapter.org.


Theatr

Yuri. Delwedd: Jorge Lizalde. Dylunio graffig: Matthew Wright

10 029 2030 4400


Theatr

August 012 yn cyflwyno

The Drowned Girl

11

The Drowned Girl

chapter.org

Yuri Iau 8 — Sad 17 Hydref (Perfformiadau yn Gymraeg a Saesneg ac mewn BSL, gweler isod am fanylion) Dyw Patrick ac Adele ddim yn gallu cael plant. Yna mae Yuri’n ymddangos. Ond pwy yw Yuri? Pam mae e yna? A yw e’n beryglus? Ai Rwsiad yw e? Drama am anffrwythlondeb, Scrabble, archfarchnadoedd, rhyw, dieithrwch y byd a’r dieithryn yn yr ystafell fyw yw Yuri. Mae hi hefyd yn stori am gariad. Ar ôl cael eu henwebu yng Ngwobrau Theatr Wales yn 2013 a 2014, yng nghategori’r Cynhyrchiad Gorau yn yr Iaith Saesneg (Caligula a Roberto Zucco), mae cwmni August 012 yn ei holau. Mae’r awdur gwobrwyol, Dafydd James, wedi addasu comedi abswrd ´ Fabrice Melquiot, Yuri, i’r Gymraeg ac i’r Saesneg am y tro cyntaf a bydd y cynhyrchiad yn cynnwys perfformiadau gan Carys Eleri, Ceri Murphy a Guto Wynne Davies.

Awdur: Fabrice Melquiot. Addasiad: Dafydd James. Cyfarwyddo: Mathilde López.

£12/£10 neu £20/£16 am docyn i weld y sioe yn Gymraeg ac yn Saesneg (Argymhelliad oedran: 18+) Perfformiadau yn Saesneg (gydag is-deitlau Cymraeg): Iau 8 Hydref 9pm, Gwe 9 Hydref 8pm, Sad 10 Hydref 8pm, Maw 13 Hydref 8pm, Iau 15 Hydref 8pm + Sad 17 Hydref 2pm. Perfformiadau yn Gymraeg (gydag is-deitlau Saesneg): Iau 8 Hydref 7.30pm, Sad 10 Hydref 2pm, Llun 12 Hydref 8pm, Mer 14 Hydref 8pm, Gwe 16 Hydref 8pm + Sad 17 Hydref 8pm. Perfformiad â chyflwyniad BSL: Iau 15 Hydref

Mer 30 Medi — Sad 3 Hydref 8pm Dywedodd Nain Kelly wrthi iddi gael ei geni’n fôrforwyn ac, o’r herwydd, roedd ei phlentyndod yn llawn anturiaethau môr-forwynaidd a chynffonnau wedi’u gwneud o focsys creision ŷd. Doedd dim ots nad oedd Kelly’n gallu nofio. Ond roedd hynny i gyd amser maith yn ôl ac mae pethau’n wahanol iawn erbyn hyn. Mae Kelly’n boddi mewn swydd ddiddim yn Asda ac fe fu farw ei hannwyl nain flwyddyn yn ôl. Mae yna gysur iddi yn ei breuddwydion, wrth iddi blymio i realiti hollol wahanol yn llawn môr-forynion ac atgofion hapus o fod ar lan y môr ond, wrth i’r breuddwydion ddechrau ei meddiannu, rhaid i Kelly ddysgu nofio eto. Weithiau’n ddoniol, weithiau’n drist, mae The Drowned Girl yn ddrama un-fenyw am ieuenctid coll, anwyliaid coll a môr-forynion. Ymunwch â Kelly mewn byd lle daw rhith a realiti’n un, wrth iddi rannu ei straeon â chi.

Ysgrifennu a Pherfformio: Kelly Jones. Cyfarwyddo: Anna Poole. Cerddoriaeth: Chris Young. Cynhyrchu: Olivia Harris.

Cefnogir The Drowned Girl gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chynllun TEAM National Theatr Wales. £12/£10 (Oed: 14+)


Theatr

029 2030 4400

Volcano Theatr yn cyflwyno

Cwmni Theatr Arad Goch yn cyflwyno

147 Questions About Love

HOLA!

Iau 8 — Sad 10 Hydref 8.30pm

Sul 18 Hydref 11am + 2pm Cynhyrchiad yn Gymraeg.

147 Questions About Love

12

Mae e’n siarad, gan mwyaf. Mae hi’n dawnsio. Mae 147 Questions About Love yn sgwrs ddoniol agosatoch rhwng dyn, menyw a chynulleidfa. Mae’r perfformiad tyner ac anarferol hwn yn seiliedig ar nofel wedi’i chyfansoddi â chwestiynau’n unig. A yw eich emosiynau’n bur? A ddylid tocio coeden? Ydych chi erioed wedi sefyll yn noeth yn y glaw? A oedd eich tad yn fastard llwyr, yn fastard canolig neu yn fastard bach? Ydych chi’n cael y cwestiynau hyn yn ddiddorol, yn ddigywilydd neu yn amhosib eu hateb?

Crëwyd a pherfformiwyd gan Catherine Bennett a Paul Davies. Cynllunio gan Cadi Lane. Sioe wedi’i hysbrydoli gan y nofel The Interrogative Mood gan Padgett Powell. £10/£6

“Darn bach hyfryd, sydd yn hapus i beidio â gwybod yr atebion i gyd ...” Cylchgrawn Fest

Stori hynod y bobl gyffredin o Gymru a ymfudodd i Batagonia i greu bywyd newydd 150 o flynyddoedd yn ôl. Mae’r ddrama newydd bwerus hon gan Mari Rhian Owen yn dilyn anturiaethau’r émigrés ac yn archwilio eu gobeithion a’u hofnau. Mae Hola! yn addas i blant 7-11 oed a’u teuluoedd. £7/£5


Theatr

13

O’r chwith i’r dde: My True North, Tetris

chapter.org

Theatr Iolo, Arch 8 aC Erik Kaiel yn cyflwyno:

Antur Ddawns Hanner Tymor i bobl ifainc a’r rheiny sy’n ifanc eu hysbryd. Dyma alw pob dawnsiwr a phob troed-dapiwr! Ymunwch â Theatr Iolo yn ystod gwyliau hanner tymor am antur deuddydd i’r teulu cyfan yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter — a digwyddiadau a fydd yn cynnwys cyfuniad cyffrous o berfformiadau gan y cwmni o’r Iseldiroedd, Arch 8, a gweithdai ymarferol creadigol i blant 6+ oed.

My True North/No Man is an Island gan Erik Kaiel Iau 29 Hydref 11am (Gweithdy: 12–1pm) Gwe 30 Hydref 3pm (Gweithdy: 4–5pm)

Deuawdau dawns syfrdanol sy’n gwthio terfynau corfforol. Ar ôl gweld y rhaglen ddwbl eithriadol hon, dywedodd un beirniad “na ddylid ceisio copïo’r symudiadau hyn adre’...” Dyma’ch cyfle chi i weld pam! Yn My True North, mae’r dawnswyr yn arddangos dycnwch goruwchddynol wrth iddyn nhw roi llif o symudiadau diddiwedd at ei gilydd — troelli, troi a dringo — heb golli cysylltiad â’i gilydd am eiliad. Mae No Man is an Island yn gêm o gydbwyso rhyfeddol wrth i un dawnsiwr ddringo a symud ar ben y llall, heb osod blaen troed ar y ddaear.

Tetris

gan Erik Kaiel Iau 29 Hydref 3pm (Gweithdy 4–5pm) Gwe 30 Hydref 11am (Gweithdy 12–1pm) Wedi’i hysbrydoli gan y gêm gyfrifiadurol â’r un enw, mae Tetris yn ymwneud â ffitio i mewn i grŵp a dilyn eich trywydd eich hun. Mae hi’n sioe i herio disgyrchiant ac fe fydd pedwar o ddawnswyr yn fflipio, yn llithro, yn neidio ac yn plymio dros ei gilydd. Erbyn diwedd y perfformiad, bydd yna wahoddiad i’r gynulleidfa roi cynnig arni hefyd! Mae’r sioe’n archwilio’r ffyrdd yr ydym yn ymwneud â’n gilydd, nid drwy ffitio i batrymau’r Byd ond drwy newid y Byd i ffitio’n patrymau ni. Oed 6+

Oed 6+

Bu Cyfarwyddwr Artistig Arch8, Erik Kaiel, yn creu gweithiau dawns ers dros 20 mlynedd mewn gorsafoedd tanddaearol, parciau cerfluniau, pyllau nofio gwag a strydoedd dinesig (ac mewn theatrau hefyd). Mae e wedi cyflwyno gwaith blaengar Arch 8 o flaen cynulleidfaoedd ifainc ledled y byd. Mae’r holl weithdai hyn yn gyfle perffaith i blant 6–14 oed archwilio’r syniadau, y symudiadau a’r technegau a ddefnyddir yn y darnau dawns hyn. Arweinir y gweithdai gan Theatr Iolo ar y cyd ag Adran Ddawns Prifysgol Fetropolitan Caerdydd. Mae’r gweithdai ar gael i ddau grŵp oedran: 6-10 ac 11-14 oed. 20 o leoedd fydd ar gael ymhob gweithdy. Tocyn i un sioe am £7 neu docyn cyfun i ddwy sioe am £12 Sioe + Gweithdy: £12 2 sioe + 2 weithdy: £22


Theatr

Polari yn Chapter

Dirty Protest yn cyflwyno

029 2030 4400

O’r brig: Polari. Llun: Justin David, Parallel Lines

14

Maw 6 Hydref 7.30pm Daw salon llenyddol LHDT arobryn Llundain i Gaerdydd yn rhan o daith genedlaethol i arddangos y talentau llenyddol hoyw gorau, yn awduron newydd a phrofiadol fel ei gilydd. Fe’i disgrifiwyd gan The Huffington Post fel “Mudiad llenyddol mwyaf cyffrous Llundain ... yn llawn egni, syniadau a chyffro”. Enillodd Polari hefyd wobr ‘Digwyddiad Diwylliannol LHDT y Flwyddyn’ yng ngwobrau ‘Co-op Respect Loved by You’ 2013. Cyflwynir y salon gan Paul Burston ac fe fydd yr awduron gwadd a’r perfformwyr yn cynnwys VG Lee, David Llewellyn ac Alex Drummond. Bydd yna weithdy dwy awr o hyd rhad ac am ddim hefyd — From Page to Performance — i awduron sy’n awyddus i rannu eu gwaith â chynulleidfa. Bydd yna gyfle i un cyfranogwr gymryd rhan yn y perfformiad ei hun. Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o Daith Genedlaethol Polari a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Lloegr.

Parallel Lines Mer 21 — Sad 24 Hydref 8pm Mae Steph yn 15 mlwydd oed — mae hi’n wrthryfelgar, yn gryf ac yn glyfar. Mae ei mam yn ddigywilydd ac yn llawn o swyn nodweddiadol Caerdydd. Mae Simon yn athro sensitif a chlyfar ac yn ffefryn gan Steph. Ond daw eu bydoedd i wrthdrawiad â’i gilydd pan wna Steph gyhuddiad difrifol yn ei erbyn... Mae’r dramodydd gwobrwyol, Katherine Chandler, yn archwilio gwirionedd, dosbarth cymdeithasol a phŵer yn y Gymru gyfoes. Cyflwynwyd Parallel Lines gan Dirty Protest am y tro cyntaf yn 2013. Yn dilyn galw mawr am adfywiad, mae’r cwmni wedi cychwyn allan ar daith genedlaethol am y tro cyntaf. Ysgrifennwyd Parallel Lines gan Katherine Chandler ac fe’i cyfarwyddwyd gan Catherine Paskell. Enillydd Gwobr Drama Cymru yn 2012. Cyflwynir Parallel Lines ar y cyd â Chapter ac fe dderbyniodd y cynhyrchiad gefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

£8/£6

£10/£8 (Oed: 14+)

“Wastad yn hwyl, wastad yn procio’r meddwl — r’ych chi’n siŵr o gael noson ardderchog” Sarah Waters

“Ychydig iawn o bobl sy’n creu gwaith theatr mor gyffrous yng Nghymru heddiw.” The Guardian


O’r chwith i’r dde: Tim Bowness, Siôn Russell Jones

chapter.org

Theatr

15

Newsoundwales yn cyflwyno:

Siôn Russell Jones + Tom Lüneburger + Lily Beau Chapter a Burning Shed yn cyflwyno

Tim Bowness, Peter Chilvers, David Rhodes a Theo Travis Sad 3 Hydref 7pm Noson o ganeuon a gwaith byrfyfyr gan rai o gerddorion mwyaf nodedig y DG. Mae Tim Bowness yn ganwr/cyfansoddwr gyda’r grŵp No-Man, sydd yn gydweithrediad hir-dymor rhyngddo fe a Steve Wilson. Gweithiodd hefyd gyda Richard Barbieri (Japan), Peter Hamill a Phil Manzanera o Roxy Music. Rhyddhaodd Bowness ei albwm unigol diweddaraf, Stupid Things that Mean the World, ym mis Medi eleni. Yn gydweithredwr rheolaidd â Brian Eno a Karl Huyde o Underworld, mae Pete Chilvers yn adnabyddus am waith arloesol ag apiau cynhyrchiol (‘generative’) a defnydd dychmygus o weadau electronig. David Rhodes yw un o’r gitaryddion mwyaf nodedig a dyfeisgar yn y byd — gweithiodd gyda Peter Gabriel, Kate Bush, Talk Talk, Paul McCartney ac eraill lawer. Mae gan y sacsoffonydd a’r ffliwtydd, Theo Travis, enw da yn rhyngwladol fel un o sêr sîn jazz cyfoes y DG. Yn fwy diweddar, daeth Travis i’r amlwg fel ffigwr allweddol yn y byd ‘art rock’; gweithiodd gyda Robert Fripp, David Sylvian, Bill Bruford ac eraill. Mae Burning Shed, a sefydlwyd yn 2001, yn label a siop ar-lein. Maent yn arbenigwyr byd-eang mewn cerddoriaeth roc, ‘prog’ a cherddoriaeth ‘ambient’ ac electronig. £15 www.burningshed.com

Sad 31 Hydref 7.30pm Mae Siôn Russell Jones yn gyfansoddwr a chanwr o Gaerdydd a chanddo lais unigryw a ategir gan alawon gitâr cywrain a chytganau ardderchog. Ers rhyddhau ei albwm cyntaf ‘And Suddenly’, mae cynulleidfaoedd Siôn ledled Ewrop wedi cynyddu’n sylweddol ac fe chwaraewyd ei ganeuon yn rheolaidd ar sianeli fel BBC6 Music, SRF 3 yn y Swistir a RTL ym Mharis. Eleni, teithiodd Siôn yn eang — ymwelodd â’r Almaen a Japan, lle mae ei albwm diweddar, ‘Lost No More’, ar gael gan This Time Records. Bydd ei westeion arbennig yn cynnwys y cyfansoddwr a’r canwr o’r Almaen, Tom Lüneburger, a’r hynod dalentog Lily Beau o Gaerdydd. £10

CubAfrobeat Gwe 2 Hydref 7.30pm Disgrifiwyd grŵp y pianydd Kishon Khan, Lokkhi Terra, fel “cyfrinach fwyaf Llundain a’r grŵp AfrobeatCiwbaidd-Bangladeshi gorau yn y byd, yn ôl pob tebyg” gan gylchgrawn Songlines. Byddant yn cydweithio â chyn allweddellydd Fela Kuti, Dele Sosimi, llysgennad gwobrwyol Afrobeat yn y DG, i greu sioe gerddorol ddihafal yng Nghaerdydd. Mae CubAfrobeat yn drên cerddorol sy’n teithio rhwng Lagos, Nigeria a Hafana, Ciwba. Grŵp yn cynnwys aelodau o Lokkhi Terra a Cherddorfa Afrobeat Dele Sosimi. Pawb i weiddi “Yeah, yeah, si, si”! £8/£5/am ddim i fyfyrwyr a phobl dan 18 oed Cyflwynir y perfformiad hwn gan Ysgol Gerddoriaeth Prifysgol Caerdydd.


Theatr

029 2030 4400

Stories From a Crowded Room. Llun: Chris Nash

16

Earthfall yn cyflwyno

Stories from a Crowded Room Maw 27 Hydref — Sul 1 Tachwedd (Maw — Iau 8pm, Gwe + Sad 6pm + 8.30pm, Sul 2pm) Cyffyrddwch, aroglwch ac anadlwch wrth i chi gerdded drwy’r ystafell neu guddio yn y dorf. Yn y cynhyrchiad hwn sy’n nodi pen-blwydd y cwmni yn 25 oed, bydd Earthfall yn archwilio straeon symudol trwy gyfrwng dawnsio hynod gorfforol, cerddoriaeth fyw, testun a ffilm amgylchynol. Byd o freuddwydion drylliedig a chyrff ar ffo; mae Earthfall yn eich gosod, yn gorfforol, yng nghanol y digwydd a’r symudiadau cyflym o’ch cwmpas. Mae’r cynhyrchiad yn brofiad amgylchynol i’r gynulleidfa. Bydd y perfformiad yn para ryw 60 munud ac fe fydd yn gwbl hygyrch ond ni fydd seddi ar gael. Mae gweithdai ar gael ar gais — cysylltwch â education@earthfall.org. uk am fanylion pellach. £14/£12/£10 (Addas i bobl 14+ — iaith gref a chyfeiriadau rhywiol) Cymrwch ran yn y cynhyrchiad drwy anfon eich #EFsorry atom. Mwy o wybodaeth: www.earthfall.org.uk @earthfall #EFStories


chapter.org

Chapter Mix

17

CHAPTER MIX Dydd Iau Cyntaf y Mis

Gweithdy:

Ffuglen a Barddoniaeth Newydd

Gwneud y Gorau o’ch Llais gyda Frankie Armstrong

Bydd y bardd, Rosie Shepperd, yn darllen o’i chasgliad cyntaf, Man at the Corner Table, Alison Layland yn cyflwyno ei chyfieithiad o The Colour of Dawn, gan yr awdur o Haiti, Yanick Lahens, a bydd Alison Lauppe Dunbar yn cyflwyno ei nofel newydd, Dark Mermaids, a gyhoeddir gan wasg Seren.

Cyfle i fwynhau gweithdy llais gyda sylfaenydd nodedig y Natural Voice Network. I archebu lle, e-bostiwch Meg Ward, bemorefearless@hotmail.co. uk, neu ffoniwch 07597155436.

Iau 1 Hydref 7.30pm

Noddir gan Wasg Seren, Gwasg Mulfran a Llenyddiaeth Cymru.

Sul 11 ​​Hydref 10am–4.30pm

£40/£30 Blaendal: £10 www.naturalvoice.net

+ Sesiwn meic agored. £2.50 (wrth y drws)

Root of the Tudor Rose gan Mari Griffith

Clwb Comedi The Drones Gwe 2 + Gwe 16 Hydref Drysau’n agor: 8.30pm Sioe’n dechrau: 9pm

Clint Edwards sy’n cyflwyno’r ‘stand-ups’ addawol gorau. Gwelwyd peth o ddeunydd y nosweithiau hyn ar raglen ‘Identity Crisis’ Rob Brydon. Dydd Gwener cyntaf a thrydydd dydd Gwener y mis. Un o’r ‘Deg Peth Gorau i’w Gwneud yng Nghaerdydd’ yn ôl cylchgrawn The Big Issue. £3.50 (wrth y drws)

Cylch Chwedleua Caerdydd Sul 4 Hydref 8pm Dewch i rannu ac i wrando ar gasgliad hyfryd o straeon — croeso i storïwyr a gwrandawyr fel ei gilydd! £4 (wrth y drws)

Darlith Cymdeithas Celfyddydau Cain ac Addurnol De Cymru Iau 8 Hydref 2pm Peter Medhurst GRSM ARCM ‘We Three Kings: Music, Art, Poetry and Legends Inspired by the Magi’

Dim ond yn Efengyl Sant Mathew y ceir sôn am y Doethion. Yn ôl y cofnod hwnnw, daeth y ffigyrau amwys hyn â rhoddion o aur, thus a myrr i’r Crist. Byddwn yn archwilio effaith y Doethion ar ddiwylliant genedlaethau’n ddiweddarach ynghyd â’r corff sylweddol o gerddoriaeth, barddoniaeth a chelfyddyd a ysbrydolwyd ganddynt. £6 i ymwelwyr (wrth y drws, yn ddibynnol ar le) www.swdfas.org

Lansiad Llyfr:

Mer 14 Hydref 7.30pm

Meddwl eich bod chi’n gwybod popeth am y Tuduriaid? Harri VIII? Ann Boleyn? Mae pawb yn gwybod amdanyn nhw, on’d ydyn nhw? Wel, efallai y bydd yn syndod i chi ddysgu bod y gŵr a roddodd ei enw i linach enwocaf hanes Lloegr yn Gymro, mewn gwirionedd. Owain ap Maredudd ap Tudur oedd hwnnw. Does yna ddim llawer o bobl sy’n gwybod hynny. Yn ystod sgwrs â Jon Gower, bydd Mari Griffith yn esbonio pam ei bod hi mor awyddus i egluro’r sefyllfa hanesyddol, yn ei nofel, Root of the Tudor Rose. Bydd yna gyfle i chi brynu copi o’r llyfr sydd eisoes ar restr Deg-uchaf Amazon o’r gwerthwyr gorau. Nodwch os gwelwch yn dda taw digwyddiad ar gyfer cynulleidfa wadd yw hwn. Os hoffech chi fynychu, cysylltwch â info@accentpress.co.uk.

Jazz ar y Sul Sul 18 Hydref 9pm

Ein noson fisol o jazz acwstig melodig yn y Caffi Bar, gyda Phedwarawd Jazz Chapter — Glen Manby, Jim Barber, Don Sweeney a Greg Evans. RHAD AC AM DDIM

Clonc yn y Cwtsh Bob dydd Llun 6.30–8pm

Ydych chi’n dysgu Cymraeg? Ymunwch â ni i ymarfer eich Cymraeg yng nghwmni dysgwyr eraill. Croeso i bawb! RHAD AC AM DDIM Ar y cyd â Menter Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd


Sinema

029 2030 4400

Irrational Man

18


Sinema

19

A Walk in the Woods

Mia Madre

Gwe 25 Medi — Iau 8 Hydref

Gwe 2 — Iau 8 Hydref

UDA/2015/104mun/15. Cyf: Ken Kwapis. Gyda: Robert Redford, Nick Nolte, Emma Thompson.

Yr Eidal/2015/106mun/is-deitlau/15. Cyf: Nanni Moretti. Gyda: Marghertia Buy, John Tuturro.

Mae’r awdur taith enwog, Bill Bryson, wedi symud yn ôl i’r Unol Daleithiau ac wedi ei herio’i hun i gerdded ar hyd Llwybr yr Appalachiaid. Yr unig berson sy’n fodlon ymuno ag ef yw ei ffrind, Dylan Katz, sy’n gweld y daith fel modd i osgoi bywyd go iawn. Mae’r ddau ddyn yn rhag-weld teithiau tra gwahanol; mae Bill yn chwilio am lonyddwch a Katz yn chwilio am antur. Maen nhw ar fin dysgu nad yw’r hwyl yn dechrau ond pan fyddwch chi’n eich gwthio eich hun i’r eithaf.

Mae cyfarwyddwr ffilmiau, Margherita, yn cael trafferth ymdopi — â seren Americanaidd hunanol ei ffilm nodwedd ddiweddaraf, â’i hymddieithriad cynyddol oddi wrth ei merch yn eu harddegau ac â mam sydd yn graddol golli’i hiechyd. Mae’r ffilm ffraeth, ystyriol a huawdl hon yn archwilio heneiddio, rhywedd a’r broses o wneud ffilmiau.

O’r chwith i’r dde: A Walk in the Woods, Mia Madre

chapter.org

Os ydy Mia Madre yn apelio, trowch i dudalen 26 i weld manylion ein Gŵyl Ffilm Eidalaidd.

Irrational Man

Clwb Ffilmiau Gwael

Gwe 25 Medi — Iau 8 Hydref

Bula Quo

UDA/2015/98mun/12A. Cyf: Woody Allen. Gyda: Joaquin Phoenix, Emma Stone, Parker Posey.

Ar ôl i athro prifysgol gwych ond lluddedig dderbyn swydd mewn coleg cymharol ddi-nod, mae trigolion y dref yn cyffroi’n lân. Mae e’n dechrau perthynas â darlithydd ac â myfyriwr dawnus ond bydd angen gweithred dywyll, ddramatig a dirfodol cyn iddo ddechrau gweld y byd o bersbectif mwy gobeithiol. Bydd Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael. Gweler y calendr am fanylion. + Ymunwch â ni am gyflwyniad a thrafodaeth ar ôl y dangosiad ar ddydd Iau 8 Hydref gyda chriw Tinted Lens, cydweithrediad newydd rhwng Chapter, Prifysgol Caerdydd a’r BFI.

Sul 4 Hydref DG/2013/90mun/PG. Cyf: Stuart St. Paul. Gyda: Rick Parfitt, Francis Rossi, Jon Lovitz.

Beth yn union sy’n digwydd pan fydd dau hen rocar yn dystion i lofruddiaeth gang wrth iddyn nhw grwydro o gwmpas ynysoedd Ffiji? A beth petai’r rocars hynny yn dianc ac yn mynd â thystiolaeth hollbwysig gyda nhw? A beth fyddai eich ymateb tasen ni’n dweud wrthych taw Status Quo yw’r hen rocars dan sylw a taw’r ffilm hon oedd eu hymgais nhw i wneud argraff ar y byd ffilm? Gwarth? Digon posib! Dewch i weld gwaith sydd, yn ôl The Guardian, yn “un o’r ffilmiau gwaethaf erioed ...Nid Schindler’s List mohoni.” Nodwch os gwelwch yn dda y bydd yna sylwebaeth fyw yn ystod y ffilm hon. Fe all y ffilm a ddangosir newid ar y funud olaf.


Sinema

029 2030 4400

Sineffonig yw ein detholiad rheolaidd o ffilmiau am gerddoriaeth. Mae’r gymysgedd eclectig yn cynnwys ffilmiau sydd naill ai’n trin a thrafod cerddoriaeth a cherddorion yn uniongyrchol neu yn cynnwys trac sain ardderchog.

Orion: The Man Who Would Be King

Straight Outta Compton

DG/2014/87mun/12A. Cyf: Jeanie Finlay.

Yng nghanol y 1980au, roedd strydoedd Compton, California, yn rhai o strydoedd peryclaf UDA. Pan aeth pump o ddynion ifanc ati i droi eu profiadau yn gerddoriaeth angerddol ac onest — a gwrthryfela yn erbyn awdurdodau anghyfiawn — fe ddaethon nhw’n gynrychiolwyr i genhedlaeth a oedd, cyn hynny, yn fud. Ffilm sy’n dilyn cynnydd — a chwymp — syfrdanol NWA; mae hon yn stori ryfeddol am chwyldro a newidiodd ddiwylliant cerddoriaeth a phop am byth.

Gwe 25 Medi — Iau 1 Hydref

Stori Jimmy Ellis yw hon — canwr anhysbys a ddaeth i enwogrwydd yn sgil cynllun gwallgo’ i esgus taw ef oedd Elvis wedi codi o farw’n fyw. Â’i hunaniaeth ffuglennol, ac â chefnogaeth gan label chwedlonol Sun Records, ynghyd â llais a oedd fel petai’n perthyn i’r Brenin ei hun, roedd y cynllwyn yn llwyddiant ysgubol ac fe gychwynnwyd y myth bod “Elvis yn fyw”... + Ymunwch â ni am sesiwn holi-ac-ateb gyda’r cyfarwyddwr, Jeanie Finlay, ar ddydd Sul 27 Medi.

The Damned: Don’t You Wish That We Were Dead Gwe 25 Medi — Iau 1 Hydref

UDA/2015/90mun/15. Cyf: Wes Orshoski. Gyda: Chrissie Hynde, Mick Jones, Lemmy.

Stori arloeswyr anghofiedig pync, The Damned — y pyncs Prydeinig cyntaf i recordio a’r rhai cyntaf i groesi’r Iwerydd. Mae’r ffilm yn ceisio dilyn hanes cymhleth y band a’u dadleuon niferus — rhai o’r aelodau yn cychwyn allan ar eu pennau eu hunain, eraill yn brwydro yn erbyn canser. + Ewch i’n sianel YouTube (http://bit.ly/chapdamn) i wylio’r sesiwn holi-ac-ateb gyda Paul Gray, Bryn Merrick, Rick Rogers a’r cyfarwyddwr, Wes Orshoski, a gynhaliwyd yn Chapter yn ystod yr haf, dan arweiniad S Mark Gubb.

Gwe 16 — Iau 22 Hydref

UDA/2015/147mun/15. Cyf: F. Gary Gray. Gyda: O’Shea Jackson Jr, Corey Hawkins, Jason Mitchell, Paul Giamatti

Bydd Is-deitlau Meddal ar gael. Gweler y calendr am fanylion.

The Ecstasy of Wilko Johnson Gwe 16 — Iau 22 Hydref

DG/2015/91mun/15. Cyf: Julien Temple.

Stori anhygoel y cerddor chwedlonol, Wilko Johnson, a aeth ar daith ffarwel ar ôl cael diagnosis o ganser marwol. Ond fel pob stori dda, mae gan stori Wilko dro yn y gynffon; ddwy flynedd yn ddiweddarach, ac yn groes i’r disgwyl, mae Wilko yn dal yn fyw. Mae hon yn stori lawn gobaith am wynebu hunllefau a’u troi nhw wyneb i waered. + Gwrandewch ar y sesiwn holi-ac-ateb gyda’r cyfarwyddwr, Julien Temple, a recordiwyd yn Chapter yn ystod yr haf: https://soundcloud.com/chapternoise.

Straight Outta Compton

20


Sinema

They Will Have To Kill Us First

Legend

21

Gyda’r cloc, o’r brig: Orion: The Man Who Would Be King, Legend, They Will Have To Kill Us First

chapter.org

Gwe 30 Hyd — Iau 5 Tachwedd

DG/2015/105mun/TiCh. Cyf: Johanna Schwartz.

Yn 2012, meddiannodd eithafwyr Islamaidd Ogledd Mali a rhoi ar waith gyfraith Sharia lem a gwahardd cerddoriaeth yn llwyr. Ym Mali, cerddoriaeth yw’r gwead cymdeithasol, enaid bywydau’r trigolion ac mae llawer o’r trigolion mwyaf uchel eu parch yn gerddorion. Mae’r stori hon yn dilyn rhai o sêr cerddorol Mali wrth iddyn nhw frwydro i adennill eu gwlad, eu bywoliaethau a’u rhyddid.

“Maen nhw eisiau gwahardd cerddoriaeth? Bydd yn rhaid iddyn nhw ein lladd ni er mwyn gallu gwneud hynny” Disco Walet Oumar

Gwe 2 — Iau 8 Hydref DG/2015/131mun/18. Cyf: Brian Helgeland. Gyda: Tom Hardy, David Thewlis, Paul Bettany, Emily Browning.

Stori am hynt a helynt gangsters mwyaf drwg-enwog Llundain, Reggie a Ron Kray, a gaiff eu portreadu’n rymus gan Tom Hardy. Golwg ar hanes cudd Llundain y 1960au a hanes rhyfeddol y brodyr milain. Bydd Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael. Gweler y calendr am fanylion.

Life Gwe 9 — Iau 15 Hydref Canada/2015/111mun/15. Cyf: Anton Corbijn. Gyda: Dane DeHaan, Robert Pattinson, Ben Kingsley.

Mae Dennis Stock yn ffotograffydd gyda chylchgrawn Life ac yn breuddwydio am fod yn artist. Mae e’n cwrdd â’r James Dean ifanc ac yn cael ei hudo ar unwaith, yn ei ddilyn i glybiau jazz ac, yn y pen draw, i gartref di-nod y seren yn Indiana. Golwg fyfyriol ar dynfa fagnetig — a beichiau — enwogrwydd. Bydd Is-deitlau Meddal ar gael. Gweler y calendr am fanylion.

BAFTA Cymru yn cyflwyno Mer 14 Hydref Ein dangosiad rheolaidd o’r ffilmiau Cymreig gorau o’r archif a’r cyfnod cyfoes. www.bafta.org/wales


22

Sinema

029 2030 4400

Image

GWyl Gwobr Iris

 llygaid y byd ar Gwpan Rygbi’r Byd 2015, mae Gŵyl Gwobr Iris yn falch iawn o agor gŵyl eleni â Scrum, ffilm ddogfen bwerus sy’n ymwneud â mwy na rygbi. Cynhelir yr ŵyl ledled Caerdydd rhwng Mer 7 a Sul 11 Hydref. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.irisprize.org.

Sad 10 Hydref 10.30am:

Ffilmiau Byrion Iris: Rhaglen 5 Amrywiol wledydd/2015/81mun/15.

12.15pm:

How to Win at Checkers (Every Time) Gwlad Thai/2015/80mun/TiCh. Cyf: Josh Kim. Gyda: Toni Rakkaen, Ingkarat Damrongsakkul, Thira Chutikul.

Ar ôl colli’i ddau riant, mae Oat, 11 oed, yn wynebu dyfodol ansicr wrth i’w frawd hŷn orfod cymryd rhan yn loteri flynyddol drafft milwrol Gwlad Thai. Ar ôl methu ag argyhoeddi ei frawd i wneud pob dim o fewn ei allu i newid ei dynged, mae Oat yn gweithredu ar ei liwt ei hun — ac mae hynny’n arwain at ganlyniadau annisgwyl.

1pm:

The Summer of Sangaile Lithwania/2015/88mun/TiCh. Cyf: Alanté Kavaïté. Gyda: Julija Steponaityte, Aiste Dirziute, Laurynas Jurgelis.

Mae Sangaile, 17 oed, wrth ei bodd ag awyrennau sty`nt. Mae hi’n cyfarfod ag Auste, merch o’r un oed â hi, mewn sioe awyrennau — rhywun sydd, o’r diwedd, yn ei deall. Mae’r ffilm yn gwneud y mwyaf o olygfeydd trawiadol ac yn cynnwys delweddau gwirioneddol ddramatig o’r awyr ynghyd â dau berfformiad canolog nerthol. Mae’r awyrgylch hafaidd a chariad cyntaf yn dod i’r amlwg mewn ffilm gain a phrydferth. Enillydd Gwobr Gyfarwyddo Sinema’r Byd yng Ngŵyl Ffilm Sundance 2015

2.15pm:

Ffilmiau Byrion Iris: Rhaglen 6 Amrywiol wledydd/2015/78mun/15.


Sinema

23

3pm:

5.30pm:

Love in the Time of Civil War

Scrum

Canada/2015/120mun/TiCh. Cyf: Rodrigue Jean. Gyda: Ana Cristina Alva, Catherine-Audrey Lachapelle, Alexandre Landry.

Awstralia/2015/56mun/TiCh. Cyf: Poppy Stockell. Gyda: Aki Mizutani, Brennan Bastyovansky, Charlie Winn, Pearse Egan.

Mae Alex yn ‘addict’ ifanc sy’n gorfod gwerthu ei gorff ym Montreal. Mae ei ffrindiau, ei gariadon a’i gleientiaid wedi eu dal, bob un, yn yr un cylch dieflig o ddibyniaeth. Yn wystlon i resymeg marchnad cymdeithas, maent yn angylion darostyngedig mewn cyfnod tywyll a threisgar. Ffilm ddiedifar ac anodd ei gwylio ar brydiau sydd hefyd yn brofiad ingol ac yn llawn cydymdeimlad.

Mae ‘jock’ o Ganada, bacpaciwr gordew Gwyddelig a gŵr o Japan ar gyrion cymdeithas yn dod at ei gilydd dan faner rygbi er mwyn cystadlu am le yng Nghwpan Bingham 2014 — cwpan rygbi hoyw y byd.

4pm:

The Smell of Us

From

chapter.org

Ffilmiau Byrion Iris: Rhaglen 7 Amrywiol wledydd/2015/78mun/15.

Delweddau: Gyda’r cloc o’r chwith uchaf: How to Win at Checkers (Every Time), The Smell of Us, Scrum, Tomgirl (Ffilmiau Byrion Iris), The Summer of Sangaile

“Mae Scrum yn stori ddiddorol, onest ac emosiynol-rymus am ymwneud dynol” 4.3 6pm: Ffrainc/2014/92mun/TiCh. Cyf: Larry Clark. Gyda: Lukas Ionesco, Diane Rouxel, Theo Cholbi.

Mae arddegwyr chwantus, blysig ym Mharis yn creu hafoc. Pan nad ydyn nhw’n sglefrfyrddio strydoedd y ddinas, mae’r bobl ifainc freintiedig — ond diflas – hyn yn gwerthu eu cyrff. Caiff rhai o’r sesiynau eu ffilmio. A’r hen ddyn a welwn mewn cyflwr diymadferth ar ddechrau’r ffilm? Neb llai na’r cyfarwyddwr ei hun — bron i 20 mlynedd ers iddo syfrdanu’r byd â’i ffilm gyntaf feistrolgar, ‘Kids’.


24

Sinema

029 2030 4400

Celfyddyd a Ffilm

Rhaglen Deithiol Gwobr Jarman 2015

Y LLWYFAN AR Y SGRIN

Maw 13 Hydref DG/2015/90mun/15arf.

O’r brig: Macbeth, NT Live: Hamlet

Dewch i weld ffilmiau gan artistiaid o’r DG sy’n chwalu ffiniau byd y ddelwedd symudol. Ymgollwch mewn ffilmiau dogfen sy’n plygu genres a theithiau drwy amser yng ngweithiau diweddaraf y chwe artist ar restr fer Gwobr Jarman eleni — Adam Chodzko, Seamus Harahan, Gail Pickering, Alia Syed, Bedwyr Williams ac Andrea Luka Zimmerman. + Sesiwn holi-ac-ateb gyda Andrea Luka Zimmerman. www.filmlondon.org.uk/jarmanaward @FL_FLAMIN #JarmanAward

Moviemaker Chapter Llun 5 Hydref Sesiwn reolaidd sy’n caniatáu i gyfarwyddwyr annibynnol ddangos eu ffilmiau byrion. I gael mwy o wybodaeth am ddangos eich ffilm chi, neu unrhyw fanylion eraill, e-bostiwch moviemaker@chapter.org. O bryd i’w gilydd, dangosir ffilmiau sy’n cynnwys deunydd anaddas i bobl iau. Awgrymwn, felly, bod sesiynau Moviemaker Chapter yn addas ar gyfer pobl 18+ oed.

Macbeth

Gwe 16 — Iau 29 Hydref DG/2015/113mun/15. Cyf: Justin Kurzel. Gyda: Michael Fassbender, Marion Cotillard, David Thewlis, Paddy Constantine.

Mae Macbeth, dug Albanaidd a rhyfelwr dewr, yn clywed proffwydoliaeth gan dair gwrach y bydd e, un diwrnod, yn frenin. Wedi’i oresgyn gan uchelgais ac, yn dilyn ysgogiadau ei wraig, mae Macbeth yn lladd y brenin ac yn hawlio’r goron — ond ni all ddianc rhag ei dynged. Fersiwn wefreiddiol ac angerddol o un o gymeriadau mwyaf grymus hanes a llenyddiaeth. + Ymunwch â ni am gyflwyniad gan Dr Ceri Sullivan o Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd ar ddydd Iau 22 Hydref.

NT Live: Hamlet Iau 15 Hydref (WEDI GWERTHU ALLAN) Encore: Llun 26 Hydref DG/2015/240mun/12A. Cyf: Lyndsey Turner. Gyda: Benedict Cumberbatch.

Wrth i wlad baratoi at ryfel, mae teulu’n ei rwygo’i hun yn ddarnau. Wedi’i orfodi i ddial am farwolaeth ei dad ond wedi’i barlysu gan y dasg sy’n ei wynebu, mae Hamlet yn ymateb yn chwyrn i’w sefyllfa amhosib; mae hynny’n bygwth ei bwyll ac yn peryglu’r wladwriaeth ei hun.

RSC Live: The Famous Victories of Henry V Mer 21 Hydref DG/2015/90 mun/PG. Cyf: Owen Horsley.

Mae Harri IV wedi marw ac mae Hal yn frenin bellach. Â Lloegr mewn cyflwr o aflonyddwch, rhaid iddo adael ei ieuenctid gwrthryfelgar ar ei ôl ac ymdrechu i ennill parch ei uchelwyr a’i bobl. Ar ôl sarhad gan y Dauphin yn Ffrainc, mae Henry’n casglu ei filwyr ynghyd ac yn paratoi at rhyfel a fydd, gobeithio, yn adennill tir yn Ffrainc ac yn uno ei deyrnas.


chapter.org

Sinema

25

O’r chwith i’r dde: Misery Loves Comedy, Everest

O’r RIl i’r Real

Weithiau mae bywyd go iawn mor ryfedd a hudolus bob tamaid â ffilm Hollywood. ‘O’r Rîl i’r Real’ yw ein rhaglen reolaidd o ffilmiau dogfen ac mae’n cynnwys ffilmiau sy’n cyflwyno digwyddiadau a phobl gwirioneddol ddiddorol ar y sgrin fawr.

Red Army

Everest

Rwsia/2014/84mun/is-deitlau/15. Cyf: Gabe Polsky.

UDA/2014/121mun/12A. Cyf: Baltasar Kormákur. Gyda: Jake Gyllenhaal, Josh Brolin, Keira Knightley.

Gwe 9 — Iau 15 Hydref Stori anhygoel tîm hoci iâ hynod lwyddiannus yr Undeb Sofietaidd a’u hymgiprys symbolaidd â’r Unol Daleithiau. Aeth capten y tîm, Slava Fetisov, o fod yn arwr cenedlaethol i fod yn elyn gwleidyddol, wrth i’r gamp adlewyrchu symudiadau cymdeithasol a diwylliannol y cyfnod. Ffilm eang ei byd-olwg sy’n gipolwg rhyfeddol ar y datblygiadau diwylliannol dyfnion a brofwyd gan y Rwsiaid wrth iddynt adael ar eu holau y cyfnod Sofietaidd.

Misery Loves Comedy Gwe 23 — Iau 29 Hydref

UDA/2015/94mun/TiCh. Cyf: Kevin Pollak. Gyda: Jimmy Fallon, Amy Schumer, Judd Apatow, Larry David.

Mae dros hanner cant o enwogion hynod ddoniol (gwneuthurwyr ffilm, awduron, actorion a digrifwyr) yn rhannu eu profiadau a’u safbwyntiau wrth geisio ateb y cwestiwn creiddiol: a oes angen i chi fod yn drist a diflas i fod yn ddoniol?

Gwe 9 — Iau 22 Hydref Wedi’i hysbrydoli gan hanes gwirioneddol yr ymgais i gyrraedd copa mynydd uchaf y byd yn 1996, mae hon yn ffilm syfrdanol am ddau gwest gwahanol i herio’r eithafion yng nghanol un o’r stormydd eira ffyrnicaf erioed. Caiff gwytnwch y dringwyr ei brofi i’r eithaf gan dywydd mwyaf garw’r blaned a bydd yn rhaid iddynt wynebu rhwystrau rhyfeddol, wrth i obsesiwn oes droi’n frwydr i oroesi. Bydd Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael. Gweler y calendr am fanylion.

The Epic of Everest Gwe 9 — Sul 18 Hydref

DG/1924/82mun/U. Cyf: J.B.L. Noel. Gyda: Andrew Irvine, George Mallory.

Yng nghofnod ffilm swyddogol Capten John Noel o’r trydydd ymgais i goncro Everest, dilynwn y dringwyr Prydeinig, George Mallory ac Andrew Irvine. Mae diweddglo trasig y cwest — diflannodd Mallory ac Irvine — yn dal i fod yn destun trafodaeth a dirgelwch. Mae’r adferiad digidol, gan y BFI, o ffilm drawiadol Noel yn cynnwys trac sain newydd gan Simon Fisher Turner.


Sinema

029 2030 4400

Gŵyl Ffilmiau’r Eidal Sad 17 Hydref Bydd Gŵyl Ffilmiau Eidalaidd gyntaf Caerdydd yn cynnig portread deinamig ac amrywiol o’r Eidal, ei chymdeithas gyfoes a’i gwrthddywediadau. Fe’i cynhelir yng Nghaerdydd ac ym Mhenarth. www.iccw.wales

2.30pm:

5.30pm:

Gweithdy Eidaleg i Blant

Il Giovane Favoloso (Leopardi)

Gweithdy 50 munud o hyd, yn agored i blant 5+ oed, a fydd yn defnyddio dulliau Montessori i ddysgu Eidaleg. Cynhelir y gweithdy gan Ganolfan Diwylliant Eidalaidd Prifysgol Caerdydd ac fe’i hysbrydolir gan themâu y ffilm deuluol, It Will be a Country, sef mythau a gobaith.

Yr Eidal/2014/143mun/is-deitlau/TiCh. Cyf: Mario Martone. Gyda: Elio Germano, Michele Riondino, Massimo Popolizio.

Rhad ac am ddim ond bydd angen tocyn, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau am fanylion.

3.30pm:

Sara’ Un Paese (It Will Be a Country) Yr Eidal/2014/77mun/is-deitlau/TiCh. Cyf: Nicola Campiotti. Gyda: Sista Bramini, Nicola Campiotti, Gianluca Foresi.

Mae Nicola yn ei dridegau ac yn wynebu dyfodol ansicr, wrth i’w frawd iau, Elia, ymgymryd â thaith drwy’r Eidal. Drwy gyfrwng wynebau a lleoedd, realiti poenus ac atgofion hanesyddol, mae’r daith yn troi’n drywydd addysgol a dychmygol. Wedi’i hysbrydoli gan yr arwr chwedlonol o Phoenicia, Cadmus, a oedd yn gyfrifol am gyflwyno cysyniad yr wyddor, mae hon yn ffilm sy’n bodoli ar y ffin rhwng dogfen a ffuglen, ac yn disgrifio gobeithion gwlad a fydd.

italian film festival cardiff 10 & 16-17 october 2015

Mae’r ffilm hon yn adrodd hanes bywyd byr ond rhyfeddol y bardd a’r athronydd, Giacomo Leopardi, a ystyrir yn awdur gorau’r Eidal ers Dante. Cafodd ei eni i deulu bonheddig ac fe astudiodd Giacomo yn llyfrgell eang palas ei dad yn Rencati yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Fodd bynnag, roedd yn meddu ar ysbryd chwilfrydig, aflonydd a hwnnw’n groes i’r disgwyliadau yr âi ati i gynnal ffortiwn a bri ei deulu. Gwelwn Giacomo yn ystyried y profiad dynol wrth iddo deithio a syrthio mewn cariad. Enillydd Gwobr yr Actor Gorau yng Ngŵyl Ffilm Fenis 2014

8.30pm:

Le Cose Belle (The Beautiful Things) Yr Eidal/2013/88mun/is-deitlau/TiCh. Cyf: Agostino Ferrente, Giovanni Piperno. Gyda: Fabio Rippa, Adele Serra, Silvana Sorbetti.

Yn 1999, holwyd Fabio, Enzo, Adele a Silvana am y baich o ddod yn oedolion, ac am angst arddegaidd a’u breuddwydion am y “pethau prydferth” a oedd yn eu disgwyl. Ddeng mlynedd wedyn, dychwelodd y gwneuthurwyr ffilm i weld y bobl ifainc a, thros gyfnod o dair blynedd, fe aethon nhw ati i weld sut y cafodd y disgwyliadau hynny eu gwireddu a sut yr aeth y bobl ifainc ati i nofio weithiau yn erbyn y cerrynt. + Ymunwch â ni am sgwrs ar gysylltiad lloeren gyda’r cyfarwyddwr, Agostino Ferrente.

Il Giovane Favoloso (Leopardi)

26


Sinema

27

Just Jim

The Lobster

Gwe 23 — Iau 29 Hydref

Gwe 30 Hyd — Iau 5 Tachwedd

Cymru/2015/84mun/15. Cyf: Craig Roberts. Gyda: Craig Roberts, Emile Hirsch, Richard Harrington, Mark Lewis Jones.

DG/2015/118mun/15. Cyf: Yorgos Lanthimos. Gyda: Colin Farrell, Lea Seydoux, Rachel Weisz, John C. Reilly, Olivia Coleman.

Mae Jim yn sownd mewn tref ddi-nod tan i Dean, Americanwr dirgel a’r dyn mwyaf cŵl i Jim gyfarfod ag ef erioed, symud i’r tŷ drws nesaf. Maent yn cychwyn cyfeillgarwch — ond a yw Dean yr hyn a ymddengys go iawn? Comedi gyntaf dywyll ac idiosyncratig gan yr actor/cyfarwyddwr, Roberts.

Stori gariad wedi’i gosod yn y dyfodol agos lle mae pobl sengl, yn unol â rheolau The City, yn cael eu harestio a’u trosglwyddo i The Hotel. Yn y fan honno, rhaid iddynt ddod o hyd i gymar o fewn pedwar deg pump o ddiwrnodau. Gallant ennill dyddiau ychwanegol os llwyddan nhw i ddal y bodau unig sy’n byw yn y coed. Os methant, cânt eu trawsnewid yn anifeiliaid o’u dewis nhw a’u rhyddhau yn y goedwig. Daw Dyn a’i frawd (ar ffurf ci) i geisio gwneud synnwyr o’r byd peryglus hwn.

Just Jim

chapter.org

99 Homes Gwe 23 — Iau 29 Hydref UDA/2014/112mun/15. Cyf: Ramin Bahrani. Gyda: Andrew Garfield, Michael Shannon, Laura Dern.

Wedi’i gosod yng nghanol argyfwng y farchnad dai yn 2008, mae dyn gweithgar, gonest o’r enw Dennis Nash yn brwydro i achub cartref ei deulu. Cânt eu taflu i’r stryd gan yr asiant tai diegwyddor, Mike Carver, sy’n cynnig cyfle i Dennis adennill yr hyn a gollodd drwy orfodi eraill i ddioddef yr hyn a ddioddefodd yntau. Portread craff a chymhleth o haenau llwm y freuddwyd Americanaidd.

Suffragette

Gwe 30 Hyd — Iau 5 Tachwedd DG/2015/106mun/12A. Cyf: Sarah Gavron. Gyda: Carey Mulligan, Helena Bonham-Carter, Brendan Gleeson, Meryl Streep.

Mae bywyd Maud, sydd yn wraig a mam, yn cael ei newid am byth ar ôl iddi gael ei recriwtio gan fudiad swffragetiaid y DG. Dan ddylanwad Emmeline Pankhurst, mae Maud yn ymuno ag ymgyrchwyr y mudiad ffeministaidd cynnar, menywod o gefndiroedd amrywiol sy’n dilyn trywydd peryglus mewn Gwladwriaeth gynyddol greulon. Wedi’i hysbrydoli gan ddigwyddiadau go iawn, mae’r ddrama ingol hon yn archwilio angerdd a thorcalon y rheiny a aberthodd bopeth er mwyn sicrhau hawl merched i bleidleisio. Bydd Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael. Gweler y calendr am fanylion.


Sinema

029 2030 4400

TYMOR ‘TAINTED LOVE’ Yr hydref hwn, byddwn yn cyflwyno tymor o ffilmiau i dorri’ch calon ac i wneud i chi syrthio mewn cariad eto wedi hynny! Gall grym cariad symud mynyddoedd — ond pan â pethau o chwith, gall emosiynau pensyfrdanol chwalu’r byd yn ddarnau mân. Rhan o dymor ‘Love’ y BFI, ar y cyd â Plusnet bfi.org.uk/love

Dangosiadau Cadw + Pop Up Chapter Castell Coch: Gwe 9 + Sad 10 Hydref Castell Caerffili: Gwe 20 + Sad 21 Tachwedd Ymunwch â ni mewn dau leoliad gwirioneddol anhygoel wrth i ni deithio i Gastell Coch a Chastell Caerffili i barhau â’n rhaglen o ddangosiadau safle-benodol. Efallai y bydd yna gynhesrwydd i’w gael yn y storïau ac yn ymyriadau cerddorol Opera Cenedlaethol Cymru ond fydd hynny ddim yn ddigon i’ch gwarchod chi rhag oerfel y gaeaf yn y dangosiadau hyn yn yr awyr agored — cofiwch wisgo’n gynnes felly! Mae tocynnau ar gyfer ffilmiau am 8pm yn £15/£12 a thocynnau i’r ffilmiau am 5pm yn £10/£8. Maent ar gael ar ein gwe-fan www.chapter.org neu o Swyddfa Docynnau Chapter, 029 2030 4400.

Beauty and the Beast

Princess Bride

UDA/1991/84mun/U. Cyf: Gary Trousdale, Kirk Wise. Gyda: Paige O’Hara, Robby Benson.

DG/2008/98mun/PG. Cyf: Rob Reiner. Gyda Robin Wright, Cary Elwes, Peter Falk, Mandy Patinkin, Andre the Giant.

Mae merch ddewr o’r enw Belle yn mynd i gastell y Bwystfil ar ôl iddo garcharu ei thad, Maurice. Â chymorth y gweision, sy’n cynnwys y Mrs Potts gorffog, mae Belle yn dechrau dadmer calon oer y Bwystfil a’i dynnu o afael ei unigrwydd.

Mae menyw ifanc hardd yn cael ei dal gan dywysog trahaus sydd yn bwriadu iddi fod yn wraig iddo — ond mae ei chalon yn eiddo eisoes i’w gwir gariad. Bydd yn rhaid iddo fe frwydro yn erbyn grymoedd dieflig teyrnas chwedlonol Florin i’w hadennill hi. Stori dylwyth teg hyfryd sy’n gyfuniad deallus o gyffro, rhamant a chomedi.

Castell Coch: Gwe 9 Hydref 5pm Castell Caerffili: Gwe 20 Tachwedd 5pm

Dewch i Ganu Frozen!

Castell Coch: Sad 10 Hydref 5pm Castell Caerffili: Sad 21 Tachwedd 5pm UDA/2013/102mun/PG. Cyf: Chris Buck, Jennifer Lee. Gyda: Kristen Bell, Josh Gad.

Mae Anna’n cychwyn allan ar daith epig drwy’r eira a’r oerfel ac yn dod ar draws dyn eira doniol o’r enw Olaf. Mae hi’n ceisio dod o hyd i’w chwaer, Elsa — mae ei phwerau rhewllyd hithau wedi sicrhau bod y deyrnas yn bodoli mewn gaeaf tragwyddol... + Gyda sesiwn ganu dan ofal Opera Cenedlaethol Cymru.

Castell Coch: Gwe 9 Hydref 8pm Castell Caerffili: Gwe 20 Tachwedd 8pm

Phantom of the Opera

Castell Coch: Sad 10 Hydref 8pm Castell Caerffili: Sad 21 Tachwedd 8pm UDA/1925/93mun/PG. Cyf: Rupert Julian. Gyda: Lon Chaney, Mary Philbin, Norman Kerry.

Mae gŵr gwallgo’ sy’n byw yn y catacwmau o dan Opera Paris yn cael ei hudo gan lais cantores ifanc. Mae e’n ei chipio ac yn ei llusgo i’r dyfnderoedd, fel na all ganu ond iddo fe. Mae’r campwaith hwn o arswyd mud clasurol yn cynnwys perfformiad grotesg anhygoel gan Lon Chaney. + Gyda sgôr fyw wedi’i pherfformio gan Steepways Sound a chyflwyniad cyn y digwyddiad gan Opera Cenedlaethol Cymru.

Castell Coch: Lleoliad dangosiadau Cadw & Pop Up Chapter. Llun: Jon Pountney

28


chapter.org

Sinema

29

Blue Velvet Gyda’r cloc o’r chwith uchaf: Rebecca, Blue Velvet, Notorious

Sul 25 + Maw 27 Hydref UDA/1986/115mun/18. Cyf: David Lynch. Gyda: Kyle MacLachlan, Isabella Rossellini, Dennis Hopper, Laura Dern.

Tra’n cerdded trwy gae ger ei gartref, daw Jeffrey Beaumont o hyd i glust ddynol ac mae e’n ei chymryd ar unwaith at yr heddlu. Mae eu diffyg diddordeb nhw yn tanio chwilfrydedd Jeff ac fe gaiff ei dynnu ar ei ben i ddrama beryglus sy’n datgelu ei ochr dywyll ef ei hun, a gynrychiolir gan y gantores ‘lounge’, Dorothy Vallens, a Frank Booth, sy’n gaeth i ether. Ffilm gyffro rithiol sy’n edrych dan wyneb siriol yr America faestrefol.

Rebecca

Sul 4 + Maw 6 Hydref DG/1940/130mun/PG. Cyf: Alfred Hitchcock. Gyda: Laurence Olivier, Joan Fontaine, George Sanders, Judith Anderson.

Mae’r ail Mrs de Winter yn fenyw ifanc swil a naïf sy’ dros ei phen a’i chlustiau mewn cariad â’r Maxim de Winter cyfareddol. Ar ôl priodi, maent yn dychwelyd i ystâd enfawr Maxim, Manderley, yn Lloegr. Yn y fan honno, mae’r Mrs de Winter newydd yn cyfarfod â chriw o weision a oedd yn addoli Rebecca, gwraig gyntaf Max — mae ei marwolaeth hithau yn dal yn ddirgelwch. Wrth i elyniaeth y gweision gynyddu, mae ofnau’r ail wraig yn tyfu tan iddi gael, yn y pen draw, at y gwir am Rebecca ...

Notorious

Sul 11 + Maw 13 Hydref UDA/1946/101mun/U. Cyf: Alfred Hitchcock. Gyda: Cary Grant, Ingrid Bergman, Claude Rains.

Mae Asiant Ffederal Americanaidd, Devlin, yn cyflogi Alicia, merch hardd i ysbïwr Natsïaidd drwg-enwog, mewn cynllwyn i gael gwybodaeth am Sebastian, sydd yn Natsi ar ffo yn Brasil. Caiff Alicia ei thynnu rhwng ei chariad at y Devlin oer a chreulon a’i gŵr — dyn dymunol sydd hefyd yn coleddu tueddiadau gwleidyddol gwrthun. Un o glasuron mawr Hitchcock, sy’n llawn cariad a brad, a’r cyfarwyddwr wrth ei fodd yn chwarae â chymhlethdodau moesol ei gymeriadau.

Psycho

Llun 19 Hydref UDA/1960/109mun/15. Cyf: Alfred Hitchcock. Gyda: Anthony Perkins, Janet Leigh, Vera Miles.

Un prynhawn, mae Marion Crane yn penderfynu peidio â thalu derbyniadau ei swyddfa i mewn i’r banc — a ffoi yn lle hynny gyda’r arian. Mae hi’n cyrraedd y Bates Motel, i aros y nos, lle mae hi’n cyfarfod â’r rheolwr nerfus ond cyfeillgar, Norman Bates. + Ymunwch â ni am gyflwyniad gan Chapter 13 wrth i ni ystyried yr holl bethau hynny y byddem yn fodlon eu gwneud dros deulu a chariad.

Vertigo

Sul 18 + Maw 20 Hydref UDA/1958/123mun/PG. Cyf: Alfred Hitchcock. Gyda: James Stewart, Kim Novak, Barbara Bel Geddes.

Mae ditectif preifat wedi ymddeol, o’r enw Scottie Ferguson, yn cael ei berswadio i helpu ei hen ffrind o’r coleg, Gavin Elster. Mae gan wraig Elster, Madeline, obsesiwn â pherthynas drasig a hardd — gwraig sydd wedi marw ers cryn amser — ac mae e’n ofni ei bod hi wedi cael ei meddiannu gan ysbryd y fenyw farw. Mae Scottie yn dechrau cwympo mewn cariad â Madeline ac mae hi fel petai hi mewn cariad ag ef hefyd ... Yna, daw trasiedi i’w rhan ac mae pob tro yn y stori yn newid ein rhagdybiaethau am y cymeriadau a’r digwyddiadau. Y Ffilm Orau Erioed yn ôl Pôl Piniwn nodedig Sight and Sound yn 2012


30

Sinema

029 2030 4400

O’r brig: Corpse Bride, Mad Love

Cyflwyniad Calan Gaeaf gan Ŵyl Ffilm Arswyd Abertoir

Sad 31 Hydref Byddwn yn croesawu byd tywyll, troëdig Abertoir, Gŵyl Arswyd Ryngwladol Cymru i Chapter wrth iddyn nhw gyflwyno eu ffilmiau mwyaf arswydus ac erchyll ar noson Calan Gaeaf. Fydd yna ddim ‘tricks’ — ond gallwch ddisgwyl llond lle o ‘treats’! www.abertoir.co.uk Gellir prynu tocynnau unigol neu gallwch ddod am y noson gyfan am ddim ond £20.

3pm

3.30pm

Corpse Bride

Mad Love

UDA/2005/74mun/PG. Cyf: Tim Burton. Gyda: Johnny Depp, Helena Bonham-Carter, Emily Watson.

UDA/1935/68mun/TiCh. Cyf: Karl Freund. Gyda: Peter Lorre, Colin Clive, Frances Drake.

Ar ôl i briodfab swil, yn ddiarwybod iddo, ymarfer ei addunedau priodasol ym mhresenoldeb gwraig ifanc sydd wedi marw, mae hi’n codi o’r bedd gan dybio bod y dyn ifanc wedi ei phriodi hithau.

Mae llawfeddyg gwych, Dr Gogol, mewn cariad â Yvonne, sydd yn hapus yn ei phriodas â’r pianydd, Stephen Orlac. Ar ôl i Orlac golli ei ddwylo mewn damwain trên, mae Yvonne yn erfyn ar i Gogol achub ei gŵr. Mae Gogol yn gwneud hynny ond, ar ôl gosod dwylo llofrudd a ddienyddiwyd ar freichiau Orlac, mae yntau’n cael ei fod wedi datblygu gallu hynod i daflu cyllyll ynghyd â thuedd anffortunus i geisio ennill dadleuon drwy dagu ei wrthwynebwyr.


Sinema

5pm

9.30pm

Nina Forever

Hellraiser

DG/2015/98mun/18arf. Cyf: Ben Blaine, Chris Blaine.

DG/1987/89mun/18. Cyf: Clive Barker. Gyda: Andrew Robinson, Clare Higgins, Ashley Laurence.

31

Nina Forever

chapter.org

Mae Holly mewn cariad â Rob. Dyw Rob ddim yn gallu dod i delerau â marwolaeth ei gariad, Nina. A dyw’r Nina flin ddim am adael i’w chorff celain fod yn rhwystr i’w perthynas ... Ffilm Brydeinig dywyll a throëdig am ddyhead un fenyw i gadw gafael ar ei chariad! + Cyflwyniad Chapter 13 gan yr artist a’r gwneuthurwr ffilmiau, Ben Ewart Dean.

7.15pm

‘Shocker’ Calan Gaeaf y Clwb Ffilmiau Gwael!

Jaws the Revenge UDA/1987/90mun/12. Cyf: Joseph Sargent. Gyda: Michael Caine, Lorraine Gary.

Pa ffordd well o ddathlu strafagansa Calan Gaeaf/ Tainted Love na gwylio’r ffilm hon am siarc llofruddgar anferth? Mae’n debyg nad Jaws the Revenge fydd syniad pawb o stori garu ond, ar ôl ei gwylio yng nghwmni bois y Clwb Ffilmiau Gwael, fyddwch chi byth yn gallu meddwl amdani ond fel hynny. Siarcod rwber, actio prennaidd a Michael Caine yn dawnsio — dim ond ambell un o’r pethau sy’n fwy brawychus na mynd yn ôl i’r dŵr ... Nodwch os gwelwch yn dda y bydd yna sylwebaeth fyw yn ystod y ffilm hon. Fe all y ffilm a ddangosir newid ar y funud olaf.

Mae blwch posau rhyfedd yn troi’n borth i fyd hunllefus yn y ffilm gyntaf hon gan yr awdur arswyd poblogaidd, Clive Barker. Wedi’i ddenu gan y si bod y blwch yn cynnwys cyfrinach pleser di-ben-draw, mae’r arbrofwr rhywiol, Frank, yn datgloi’r ddyfais ac yn dod dan ddylanwad cythreuliaid Cenobite. Flynyddoedd yn ddiweddarach, mae brawd Frank a’i deulu yn symud i’r tŷ, Mae hynny’n tanio’i ddyhead yntau ac mae e’n mynd ati i chwilio am wraig ei frawd, a arferai fod yn gariad iddo.

11.30pm

Yakuza Apocalypse Japan/2015/115mun/is-deitlau/18arf. Cyf: Takashi Miike. Gyda: Yayan Ruhian, Rirî Furankî, Pierre Taki.

Mae yna si ar led bod bos yr Yakuza, Kamiura, yn anorchfygol — ond y gwir yw ei fod yn fampir sy’n sugno gwaed! Mae Kageyama, ei was mwyaf ffyddlon, yn cael ei ddirmygu gan weddill aelodau’r gang. Mae grŵp o lofruddion, sydd yn ymwybodol o gyfrinach Kamiura, yn rhoi dewis iddo fe: dychwelyd at y syndicâd rhyngwladol a adawyd ganddo flynyddoedd yn ôl neu farw. Mae Kamiura’n gwrthod ac fe gaiff ei ladd. Â’i anadl olaf, mae’n trosglwyddo ei bwerau fampir i Kageyama. Wrth iddo ddechrau sylweddoli hyd a lled ei bwerau newydd, mae Kageyama yn awyddus i ddial am lofruddiaeth ei fos, Kamiura, ac mae hynny’n ei arwain ar ei ben i wrthdaro treisgar.


Sinema

Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn a dydd Sul am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn. Archebwch ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Strange Magic

Sad 3 + Sul 4 Hydref Dangosiad mewn Amgylchiadau Cefnogol Arbennig: Sul 4 Hydref UDA/2015/99mun/U. Cyf: Gary Rydstrom. Gyda: Alan Cumming, Evan Rachel Wood, Elijah Kelley.

Mae Sunny yr elff yn gorfod dod o hyd i betalau briallu er mwyn cael moddion hud gan Sugar Plum Fairy, sydd yn garcharor i’r Bog King yn y goedwig dywyll. Yn y fan honno, mae e’n cwrdd â Marianne, tywysoges benderfynol sydd yn dioddef o dorcalon. Bydd Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael. Gweler y calendr am fanylion. * Gweler isod am fanylion ein Dangosiadau mewn Awyrgylch Cefnogol.

Song of the Sea Sad 10 + Sul 11 Hydref

Iwerddon/2015/94mun/PG. Cyf: Tomm Moore. Gyda: David Rawle, Brendan Gleeson, Lisa Hannigan.

Mae Saoirse, merch fach sy’n gallu ei thrawsnewid ei hun yn forlo, yn mynd ar antur gyda’i brawd i achub byd yr ysbrydion a bodau hudol eraill.

Carry on Screaming

Bob dydd Gwener am 11am, mae Carry On Screaming yn cynnig cyfle i rieni neu ofalwyr weld ffilm heb orfod poeni y bydd eu babi’n creu stŵr. Edrychwch ar y calendr i weld manylion y dangosiadau arbennig hyn i bobl â babanod dan flwydd oed.

029 2030 4400

Noddir gan Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk 02920 666688

Inside Out

Sad 17 + Sul 18 Hydref UDA/2015/94mun/U. Cyf: Pete Docter, Ronaldo Del Carmen. Gyda: Amy Poehler, Bill Hader.

Ar ôl i’r Riley ifanc gael ei thynnu o’i bywyd yn y Midwest a’i symud i San Francisco, mae ei hemosiynau — Llawenydd, Ofn, Dicter, Ffieidd-dod a Thristwch — yn ymaflyd â’i gilydd er mwyn dod o hyd i’r ffordd orau o ymdopi â dinas, tŷ ac ysgol newydd. Bydd Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael. Gweler y calendr am fanylion.

Hotel Transylvania 2 Gwe 23 Hyd — Sul 1 Tachwedd

UDA/2015/89mun/U. Cyf: Genndy Tartakovsky. Gyda: Adam Sandler, Selena Gomez, Nick Offerman.

Mae Dracula bellach yn dad-cu, â Mavis a Jonathan wedi croesawu eu anghenfil bach eu hunain i’r byd. Mae Mavis yn dal i bendilio rhwng Transylvania a California, felly mae angen i Drac addysgu ei ŵyr bach cyn iddi fynd yn rhy hwyr.

Corpse Bride Sad 31 Hydref

UDA/2005/77mun/PG. Cyf: Tim Burton. Gyda: Johnny Depp, Helena Bonham-Carter, Emily Watson.

Ar ôl i briodfab swil, yn ddiarwybod iddo, ymarfer ei addunedau priodasol ym mhresenoldeb gwraig ifanc sydd wedi marw, mae hi’n codi o’r bedd gan dybio bod y dyn ifanc wedi ei phriodi hithau.

Mae Dangosiadau mewn Amgylchiadau Cefnogol Arbennig yn ddangosiadau i blant ac oedolion ar sbectrwm awtistiaeth, neu bobl a chanddynt anableddau dysgu, ynghyd â’u teuluoedd, eu ffrindiau a’u gofalwyr. Yn ystod y dangosiadau hyn, cedwir goleuadau isel ynghynn yn yr awditoriwm ac ni fydd lefel y trac sain mor uchel ag arfer. Fydd yna ddim hysbysebion cyn y ffilm ac fe all ymwelwyr godi a symud o gwmpas y sinema fel y mynnant.

Hotel Transylvania 2

32


Addysg

‘Sewcial’ Chapter

Animeiddio ac Awtistiaeth

33

‘Sewcial’ Chapter

chapter.org

O ddydd Sul 27 Medi ymlaen

Gweithdai creadigol i bobl ifainc sy’n awyddus i ddechrau gwnïo. Mae’r dosbarthiadau hyn yn annog plant i uwchgylchu, i feddwl yn greadigol ac i gymryd ffrwyth eu gwaith adre’ gyda nhw ar ddiwedd pob sesiwn. Croeso i fechgyn a merched fel ei gilydd!

Dosbarth Dechreuwyr (8-12 oed) Sul 27 Medi 1.30–3pm Bob dydd Sul am gyfnod o 10 wythnos

Bydd y cwrs hwn yn dysgu sgiliau sylfaenol fel mesur a thorri ffabrig, gwnïo botymau a siapiau ac amrywiaeth o bwythau hwyliog. Darperir yr holl ddeunyddiau angenrheidiol. £50 am 10 wythnos neu £6 y sesiwn (yn ddibynnol ar le; bydd cyfanswm o 8 lle ar gael bob wythnos).

Dosbarth Canolradd (8-14 oed) Sul 27 Medi 3.30–5pm Bob dydd Sul am gyfnod o 10 wythnos Y tymor hwn, bydd y cwrs yn canolbwyntio ar ddysgu technegau newydd ac yn defnyddio rhaglen y sinema a’r Oriel yn ysbrydoliaeth ar gyfer ambell brosiect ardderchog. Darperir yr holl ddeunyddiau angenrheidiol. £50 am 10 wythnos neu £6 y sesiwn (yn ddibynnol ar le; bydd cyfanswm o 10 lle ar gael bob wythnos).

Dyddiau Mercher o ddydd Mercher 23 Medi ymlaen, 5.15–6.45pm Yn ystod yr hydref byddwn yn cyflwyno dau gwrs pum wythnos o hyd i bobl ifainc ar sbectrwm awtistiaeth a phobl ifainc a chanddynt anghenion addysgol arbennig. Mae’r sesiynau 90 munud o hyd hyn yn caniatáu i’r bobl ifainc fagu hyder cymdeithasol ac i ddysgu a datblygu eu sgiliau animeiddio mewn awyrgylch cefnogol a chreadigol. Gall pob sesiwn fod yn sesiwn unigol neu’n rhan o gynllun gwaith mwy – gallwn drefnu rhaglenni dysgu unigol i bob cyfranogwr. Bydd wyth lle ar gael bob wythnos. £25

Cwrs 1 Dyddiau Mercher: 23 Medi, 30 Medi, 7 Hydref, 14 Hydref, 21 Hydref 5.15–6.45pm

Cwrs 2 Dyddiau Mercher: 4 Tachwedd, 11 Tachwedd, 18 Tachwedd, 25 Tachwedd, 2 Rhagfyr 5.15–6.45pm


34

Archebu/Gwybodaeth

029 2030 4400

GWYBODAETH Sut i Archebu Tocynnau

Gwybodaeth

Dros y ffôn — ffoniwch ni ar 029 2030 4400. Rydym yn derbyn pob un o’r prif gardiau credyd. Galwch heibio — mae ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 11am–8.30pm, ac ar y Sul o 3pm–8.30pm. Ar–lein: Gallwch archebu ar www.chapter.org bob awr o’r dydd a’r nos Consesiynau: Mae cyfraddau disgownt ar gael i fyfyrwyr, pobl dros 60 oed, plant, y di–waith, pobl anabl, deiliaid cerdyn MAX ac i Ffrindiau Chapter a deiliaid Cerdyn Chapter. Bydd angen i chi gyflwyno prawf o’ch cymhwyster i dderbyn cyfradd ostyngol. Archebion grŵp: Prynwch 8 tocyn ac fe gewch chi’r 9fed yn RHAD AC AM DDIM. Noder os gwelwch yn dda • dim ond un disgownt y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw un adeg • rydym yn hapus i dderbyn archebion ymlaen llaw ond ni allwn gadw tocynnau i’r naill ochr • os cyrhaeddwch chi’n hwyr mae hi’n bosib y cewch chi’ch atal rhag mynychu eich digwyddiad. Cyflwynir rhai o’n ffilmiau â Disgrifiadau Sain ac Is–deitlau Meddal ond nid yw’r wybodaeth hon bob amser ar gael ar adeg argraffu’r cylchgrawn. Gweler ein gwe–fan am fanylion neu piciwch draw i’r Swyddfa Docynnau yn ystod yr wythnos y mae’r ffilm yn cael ei rhyddhau.

Cwmnïau ac Artistiaid Cysylltiedig Mae Chapter yn gartref i gwmnïau theatr, cwmnïau dawns, stiwdios animeiddio, gwneuthurwyr printiau, crochenwyr, dylunwyr graffeg, dylunwyr deunydd symudol, cyfansoddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, cyhoeddwyr cylchgronau, artistiaid annibynnol a llawer iawn mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Sinema Cyn 5pm O 5pm ymlaen Llawn £4.50 (£4.00) £7.90 (£7.20) Disg £3.50 (£3.00) £5.80 (£5.10) Cerdyn + Disg £3.00 (£2.50) £5.00 (£4.50) DISGOWNT DYDD MAWRTH Tocynnau’r holl brif ddangsiadau — £4.40

Gweithdai a Dosbarthiadau Rydym yn cynnal amrywiaeth eang o weithdai dyddiol a dosbarthiadau gydag ymarferwyr annibynnol, gan gynnwys ballet, zumba, ioga, crefft ymladd, massage i fabanod, cerddoriaeth i blant, pilates, tango, fflamenco, ysgrifennu creadigol, gwersi cerddoriaeth a mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Sut i gyrraedd Chapter Fe ddewch chi o hyd i ni yn Nhreganna, i’r gorllewin o ganol y ddinas. Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE Ar Droed Mae hi’n daith gerdded hamddenol o ryw 20 munud o ganol y ddinas. Ar Fws Mae bysus rhif 17, 18 a 33 yn aros gerllaw ac yn gadael bob pum munud o ganol y ddinas. Ar Feic Mae digon o raciau beic ar flaen yr adeilad. Parcio Mae gennym faes parcio yng nghefn yr adeilad ac mae meysydd parcio lleol eraill wedi eu nodi ar y map. Gofynnwn i chi barchu ein cymdogion os gwelwch yn dda drwy osgoi parcio mewn strydoedd cyfagos.

Prisiau ymlaen llaw/ar–lein mewn cromfachau. Mae “Ymlaen llaw” yn golygu unrhyw bryd cyn diwrnod y dangosiad.

aff nd Lla

Springfield Pl.

ad

mC ha cen res

Ha m i l t o n

St

t

Gr

King’s Ro

nd Wy

ane

Road

L Gray

. Library St

St. ay

Treganna

Le c h kwit

Church Rd.

Heol Ddwy rein i o l y B o n t F a en Penllyn Rd.

Harve

St Talbot

Orc h a r d P l.

rn Seve

St. Gray M a rk e t P l .

treet yS

e St. Glynn

d Roa

d hna arc lyF

Heo

o 6pm

rt S

t.

Road

Earle Pl.

A l be

P — meysydd parcio rhad ac am ddim — rac feics

r R—oadarhosfan bysus Majo

I Ganol Dinas Caerdydd ton ling Wel

et Stre

Mynediad i bawb Mae Chapter yn croesawu ymwelwyr anabl. Os oes gennych anghenion mynediad penodol, ffoniwch ein swyddfa docynnau ar 029 2030 4400, minicom 029 2031 3430.


chapter.org

Cymryd Rhan

35

CYMRYD RHAN Cerdyn CL1C

Cadwch mewn cysylltiad

Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawr–lwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Ymunwch â ni ar–lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

Ffrindiau Chapter Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40

eAmserlen rad ac am ddim eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E–bostiwch adam.chard@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e–bost.

Cynllun Myfyrwyr Chapter Ydych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth am ddim a manteisio ar gynigion arbennig nodedig, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Jennifer — jennifer.kirkham@chapter.org www.chapter.org/cy/aelodaeth–myfyrwyr–chapter

Rydym yn falch o fod yn rhan o Hynt. www.hynt.cymru Hoffai Chapter gydnabod cefnogaeth hael y sefydliadau a’r grwpiau canlynol:

Sefydliad Esmée Fairbairn Cronfa Gymunedol Tirlenwi Rhaglen Ddiwylliant yr UE Sefydliad Garfield Weston Sefydliad Foyle Gwobr Biffa Cronfa Loteri Fawr Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston Grŵp Admiral Cyf Sefydliad Moondance ar gyfer y Celfyddydau a Chwaraeon Sefydliad Elusennol Trusthouse Plant mewn Angen y BBC Waitrose Sefydliad Waterloo Sefydliad Henry Moore Ymddiriedolaeth Ynni Gwyrdd ScottishPower SEWTA

Sefydliad y Brethynwyr WRAP Google Sefydliad Jane Hodge Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson Ymddiriedolaeth People’s Postcode Ymddiriedolaeth Feddygol Dunhill Legal & General Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm Ymddiriedolaeth Ernest Cook Sefydliad Boshier–Hinton Lloyds TSB Barclays Celfyddydau & Busnes Cymru Ymddiriedolaeth Austin & Hope Pilkington Gwestai Puma: Gwesty’r Angel Caerdydd

Celfyddydau Rhyngwladol Cymru Ymddiriedolaeth Elusennol Gibbs Ymddiriedolaeth Elusennol Steel Ymddiriedolaeth Oakdale Cwmni Plastig Dipec Nelmes Design Ymddiriedolaeth Elusennol Coutts Elusen Wake Bruce Funky Monkey Feet Sefydliad Finnis Scott Cote Brasserie Banc Unity Trust RWE Tidal Lagoon Power Hugh James Cymdeithas Celfyddydau Cyfoes Cymru Western Power Distribution

Aelodau Clwb Chapter: Prifysgol Fetropolitan Caerdydd Clearstream Technology Cake Communications Broomfield & Alexander Lloyds Spindogs Tincan 1st Office Urban Solar Patronbase Golley Slater Effective HRM Little Casino Stills Branding CDF Cyfrifwyr BPU Cyfreithwyr MLM Rheolwyr Cyfoeth SLD Capital Law Modern Television


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.