029 2030 4400
@chaptertweets
chapter.org
02
Croeso
chapter.org
CROESO Croeso i gylchgrawn llawn dop mis Hydref! Yn ogystal â’r holl ddangosiadau ffilm a’r perfformiadau arferol, mae yna nifer o wyliau a digwyddiadau arbennig i chi eu mwynhau y mis hwn hefyd. Rydym yn falch iawn o fod yn un o brif leoliadau Artes Mundi 6 (tt4–9). Byddwn yn croesawu tri artist rhyngwladol i’n horiel ac yn arddangos gwaith sydd wedi cyrraedd rhestr fer gwobr gelf fwyaf y DG. Bydd ein sinema yn lansio tymor Gwyddonias (tt20–23), ac fe fydd yna nifer o ddangosiadau a digwyddiadau oddi ar y brif safle i ddathlu gweithiau clasurol gwyddonias. Bydd Afrovibes yn ymweld â’n theatr hefyd yn rhan o daith Brydeinig (tt12-14). Mae hon yn ŵyl sy’n dathlu dawns, theatr a diwylliant y De Affrica newydd ac fe allwn ddisgwyl rhaglen i gyffroi a swyno. Bydd y Caffi Bar hefyd yn cymryd rhan trwy weini ambell bryd traddodiadol o Dde Affrica i roi blas i chi o fywyd y ‘townships’. Ac, os byddwch chi’n ymweld â’r Caffi Bar, cofiwch yr Oktoberfest blynyddol, bythol boblogaidd sy’n cael ei gynnal eleni ar Hydref 15-18 (t11). Gallwch weld rhestr lawn o’r cwrw fydd ar gael ar ein gwe-fan. Hefyd, i godi archwaeth arnoch ar gyfer danteithion blynyddol ein gŵyl flynyddol o gelfyddydau arbrofol, mae yna ragflas o Experimentica ar dudalen 10. Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at y wledd sy’n ein disgwyl ym mis Hydref, er y bydd angen rhywfaint o orffwys arnom erbyn canol mis Tachwedd, mae’n siŵr! Diolch am ddarllen ac fe welwn ni chi cyn hir!
Defnyddiwch y côd QR hwn i lawr-lwytho copi digidol o gylchgrawn Chapter
Delwedd y clawr: Afrovibes
Chapter Heol y Farchnad, Caerdydd CF5 1QE 029 2030 4400 www.chapter.org ymholiadau@chapter.org
chapter.org
Uchafbwyntiau
Oriel tudalennau 4–10
Bwyta Yfed Llogi tudalen 11
03
CYMRYD RHAN
Theatr
Cerdyn CL1C
tudalennau 12–19
Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawrlwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!
Chapter Mix tudalen 20
Ffrindiau Chapter Addysg tudalen 21
Sinema tudalennau 22–39
Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40
Cadwch mewn cysylltiad Ymunwch â ni ar-lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.
Gwybodaeth a Sut i archebu eAmserlen rad ac am ddim eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch tocynnau adam.chard@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ tudalen 40
ym mhennawd yr e-bost.
Siaradwch â ni @chaptertweets facebook.com/chapterarts ymholiadau@chapter.org
Cymryd Rhan tudalen 41
Calendr tudalennau 42–43
04
Arddangosfa ar agor: Dyddiau Mawrth, Mercher, Sadwrn a Sul 12-6pm; dydd Iau a dydd Gwener 12-8pm; ar gau ar ddydd Llun
Oriel
029 2030 4400
chapter.org
Oriel
05
Artes Mundi 6
Gwe 24 Hydref 2014 — Sul 22 Chwefror 2015
Yn dilyn ein cydweithrediad llwyddiannus ag un o artistiaid rhestr fer Artes Mundi 5, Phil Collins, rydym yn falch iawn o gael y cyfle i gydweithio eto ac i gyflwyno gwaith gan Karen Mirza a Brad Butler o’r DG a Sharon Lockhart o’r Unol Daleithiau. Bydd gwaith y chwe artist arall ar restr fer gwobr Artes Mundi yn cael ei ddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd, ac yn Ffotogallery, Penarth. Cynhelir Artes Mundi bob yn ail flwyddyn ac mae’n dangos peth o gelfyddyd gyfoes fwyaf arloesol a blaenllaw’r byd. Hi yw’r wobr fwyaf yn y DG am gelfyddyd. Mae hi hefyd yn cyflwyno rhaglen addysgol ac yn hybu ymwneud ag ystod eang o gymunedau yng Nghymru a thu hwnt.
Cafodd rhestr fer Artes Mundi 6 ei dewis gan Adam Budak, curadur annibynnol, a Sabine Schaschl, Cyfarwyddwr a Churadur Amgueddfa Haus Konstruktiv, Zurich. Fe wnaed y detholiad o blith dros 800 o enwebiadau. Ar y rhestr fer mae Carlos Bunga (Portiwgal), Omer Fast (Israel), Theaster Gates (UDA), Sanja Iveković (Croatia), Ragnar Kjartansson (Gwlad yr Iâ), Sharon Lockhart (UDA), Renata Lucas (Brasil), Renzo Martens (Yr Iseldiroedd) a The Institute of Human Activity, Karen Mirza a Brad Butler (DG). Cefnogir arddangosfa Artes Mundi 6 gan dîm o Dywyswyr Byw a fydd yn arwain teithiau wythnosol rhad ac am ddim, ynghyd â gweithdai a gweithgareddau galw heibio i’r teulu cyfan i archwilio’r themâu a drafodir yng ngweithiau’r artistiaid. I gael mwy o wybodaeth ewch i www.artesmundi.org
Gyda’r cloc o’r brig: Omer Fast, Continuity, 2012, Sianel fideo sengl Manylder Uwch, Lliw, Sain (Almaeneg gydag is-deitlau Saesneg) Hyd: 40 munud ar lwp; Ragnar Kjartansson, God, 2007, Fideo, lwp o 30 munud; Carlos Bunga, Mausoleum, gosodiad safle-benodol yn y Pinacoteca do Estado de São Paulo, São Paulo, 2012, Cardfwrdd, tâp pacio, paent mat, glud a 45 o gerfluniau o gasgliad y Pinacoteca Llun: trwy garedigrwydd yr artist; Sanja Iveković, GENXX, (Ljubica Gerovac), (1997-2001), 6 phrint jet inc, pob un yn 100 x 70cm, o gasgliad yr artist.
06
Sharon Lockhart, Redzienco, (delwedd o ffilm), 2014, Sharon Lockhart, Podworka, 2008. Gyda chaniat창d yr artist, neugerriemschneider, Berlin, Oriel Gladstone, Efrog Newydd a Brwsel, a Blum & Poe, Los Angeles.
Oriel
029 2030 4400
chapter.org
Oriel
07
Sharon Lockhart, Milena, Jarosław, 2013-2014. Gyda chaniatâd yr artist, neugerriemschneider, Berlin, Oriel Gladstone, Efrog Newydd a Brwsel, a Blum & Poe, Los Angeles.
Artes Mundi 6 yn Chapter
Sharon Lockhart Mae Sharon Lockhart yn gweithio gydag unigolion a grwpiau i greu delweddau symudol a llonydd sydd yn weledol gymhellol ac yn arddangos ymagweddiad cymdeithasol sicr. Mae ei chydweithrediadau weithiau’n para blynyddoedd ac mae hi’n gweithio’n agos gyda thestunau ei gweithiau er mwyn deall gwahanol agweddau ar eu bywydau. Mae’r ffilmiau a’r ffotograffau sy’n deillio o hynny yn ymgorfforiad o brofiadau creadigol cyfun. Mae’r arddangosfa hefyd yn troi’n gydweithrediad ac yn gyfle i ystyried y dyfeisiau cynrychioliadol a ddefnyddir i fframio ac ymwneud â thestunau’r gwaith a’r gwyliwr ei hun. Mewn gweithiau blaenorol — Lunch Break (2008) a Double Tide (2009), er enghraifft — taflodd Lockhart ei hun ar ei phen i fywydau gweithwyr. Mae Lunch Break yn disgrifio amser a lle penodol: gwaith haearn Maine, ar ddechrau’r 21ain ganrif. Mae Double Tide yn waith mwy oesol, ac yn ddogfen o waith cloddwraig cregyn bylchog (‘clams’) sy’n gweithio yn ystod ‘llanw dwbl’ prin — diwrnod o ddau lanw isel yn ystod oriau golau dydd, y naill ar doriad gwawr a’r llall wrth iddi nosi. Ym mhob achos, caiff testun y gwaith celfyddydol ei fframio gan y gweithle.
Mewn nifer o weithiau diweddar, gan gynnwys Podwórka (2009) a Milena (2013), bu Sharon yn canolbwyntio ar blant. Yng nghyrtiau (podwórka) dinas adfeiliedig yng Ngwlad Pwyl, dilynwn grwpiau o blant wrth iddynt greu eu mannau chwarae eu hunain oddi mewn i’r bensaernïaeth sydd ohoni. Ar set y ffilm, daeth Sharon i fod yn ffrindiau â Milena, a fyddai, maes o law, yn dod yn ffigwr allweddol yn ei bywyd ac yn ysbrydoli cyfres o weithiau eraill. Bydd arddangosfa Sharon yma yn Chapter yn cynnwys syniadau am blentyndod, ymholi athronyddol a syniadau am wleidyddiaeth y llais. Dangosir ffilm newydd, Rudzienko (2014), sy’n seiliedig ar ei gwaith ymchwil am y pedagog Pwylaidd Iddewig, Januz Korczak, a’i waith arloesol ef, ‘Hawliau’r Plentyn’. Cafodd y gwaith ei gyd-gomisiynu gan Bienâl Lerpwl, FACT a Sefydliad Celfyddyd Kadist ac fe’i dangosir am y tro cyntaf yn FACT ym mis Hydref 2014. Mae Artes Mundi 6 yn falch iawn o allu gweithio gyda Bienâl Lerpwl i gyflwyno’r gwaith hwn yn Chapter.
08
Artes Mundi 6 yn Chapter
Oriel
Karen Mirza a Brad Butler Mae’r ‘Museum of Non Participation’ yn amgueddfa ddychmygol a grëwyd gan yr artistiaid o Lundain, Karen Mirza a Brad Butler. Iddyn nhw, mae ‘peidio â chymryd rhan’ yn ddyfais ddefnyddiol ar gyfer cwestiynu a herio’r amodau cyfredol ar gyfer ymwneud â gwleidyddiaeth a gwneud safiad. Sut mae cymryd rhan mewn gwirioneddau gwleidyddol — neu ymwrthod â’r fath beth — yn unigol ac yn gyfun? Pa ofodau cymdeithasol sy’n galluogi neu’n rhwystro gweithredu o’r fath? A sut all celfyddyd gynrychioli, hwyluso neu ymyrryd yn y broses hon? Yn cynnwys ffilm, sain, testun a gweithredoedd wedi’u perfformio, mae’r ‘Museum of Non Participation’ yn llwyfan cysyniadol ar gyfer archwilio’r cwestiynau hyn. Yn Artes Mundi 6, bydd Mirza & Butler yn arddangos The Unreliable Narrator, detholiad o weithiau sy’n manteisio ar y bwlch rhwng ffuglen a realiti. Yn You are the Prime Minister, mae neon llachar yn troi’n wahoddiad i dderbyn rôl y Prif Weinidog mewn ffuglen ffantasïol. Ond buan y datgelir bod hyn yn gamarweiniol: mae’r datganiad yn perthyn i destun ehangach, rhan o arholiad ysgoloriaeth i fechgyn tair ar ddeg oed sy’n mynd i Goleg Eton, ysgol elitaidd a hyfforddodd 19 o Brif Weinidogion Prydain a 12 aelod
029 2030 4400
Karen Mirza a Brad Butler, The Unreliable Narrator, 2014, fideo, gosodiad fideo 2-sianel, sain 16’20 “. Gyda chaniatâd caredig waterside contemporary, Llundain.
o’r Llywodraeth bresennol. Mewn gosodiad fideo, mae llais yn sôn am yr ymosodiadau ym Mumbai yn 2008, o safbwyntiau terfysgwyr a sylwebydd ymddangosiadol ddiduedd am yn ail. Mae’r fideo, a gymerwyd o recordiadau teledu cylch cyfyng o’r gwarchae, ac o sgyrsiau ffôn rhwng yr ymosodwyr a’u rheolwyr, yn awgrymu bod y digwyddiad ei hun yn cael ei berfformio er budd y camerâu newyddion: “Dim ond trêl yw hwn; mae’r ffilm ei hun eto i ddod”. Wrth i’r Adroddwr barhau i ddefnyddio rhethreg disgwrs diwylliannol a gwleidyddol, mae Mirza & Butler yn cyflwyno gweithred o dafleisio abswrd. ´ Mae Mirza & Butler wedi arddangos eu gwaith yn rhyngwladol, yn FACT, Lerpwl, Centro de Arte Dos De Mayo, Madrid, La Capella, Barcelona, Arnolfini, Bryste, ac Oriel Serpentine, Llundain. Yn fwy diweddar, fe ddangoson nhw waith yn ‘The New Deal at the Walker Art Center’, Minneapolis, ac yn ‘The Guest of Citation’, yn Performa 13, Efrog Newydd. Fe’u henwebwyd ar gyfer Gwobr Jarman 2013 ac fe’u cynrychiolir gan Galeri Non (Istanbul) a Waterside Contemporary (Llundain).
Karen Mirza a Brad Butler, Museum of Non Participation : The Guest of Citation, delwedd o berfformiad, 2013.
chapter.org
Oriel
Bydd Artes Mundi 6 hefyd yn cyflwyno:
The Exception and the Rule Y Deml Heddwch Sad 8 Tachwedd 2pm Cyflwyniad gan Artes Mundi / Chapter ar gyfer EXPERIMENTICA14 Mae Karen Mirza a Brad Butler yn gwahodd trigolion lleol i weithdy i ddehongli The Exception and the Rule, drama Bertolt Brecht a ysgrifennwyd yn 1929 sy’n adrodd hanes am lygredd, ecsbloetio, ac anghyfiawnder — stori y mae iddi adleisiau trawiadol â diwylliant cyfoes.
09
Oriel
029 2030 4400
Gyda’r cloc o’r brig: Haranczak/Navarre: Control Signal, llun: Jemima Yong, GETINTHEBACKOFTHEVAN, Number 1, The Plaza, llun: Ludovic des Cognets, Mark Leahy, Muster Page Habit
10
I ddod yn fuan
Experimentica14 Co–Existence Has Never Been Easy Mer 5 — Sul 9 Tachwedd Tim Bromage, Gavin Krastin, Matt Ball & Tracy Harris, Nathan Walker, GETINTHEBACKOFTHEVAN, Cian Donnelly, Sam Playford-Greenwell & Lucie Akerman, Karen Christopher, Phil Hession, Cathy Gordon, Dustin Harvey & Adrienne Wong, Mark Leahy, Threatmantics, Sian Robinson Davies, Eleanor Sikorski & Alberto Ruiz Soler, Karen Mirza & Brad Butler, Paul Hurley, OFF THE PAGE, Andre Stitt, There There, Beth Greenhalgh & John Abell, Iwan ap Huw Morgan, Haranczak/Navarre, Lolo y Lauti, Florence Peake & Jonathan Baldock gyda Ian Watson, good cop bad cop, Rhodri Davies a mwy o enwau i’w cadarnhau ... Sefydlwyd Experimentica, ein gŵyl bum-niwrnod flynyddol, yn 2001. Mae Experimentica yn cyflwyno rhaglen ddeinamig o gelfyddyd, perfformiadau a phrosiectau rhyngddisgyblaethol byw ac mae’n llwyfan pwysig sy’n caniatáu i artistiaid Prydeinig ac o bedwar ban byd gynhyrchu neu gyflwyno eu gwaith. Gall yr Ŵyl fod yn ddifyr, yn beryglus, yn ddryslyd, yn wir bob gair, yn chwareus, yn bryfoclyd, yn ffraeth ac yn boenus — ac yn unrhyw beth arall dan haul! Daw teitl yr Ŵyl eleni o ffilm wyddonias 2009, ‘District 9’ (wedi’i chyfarwyddo gan Neill Blomkamp). Mae
honno’n alegori aml-haenog sy’n archwilio ein hagweddau at estroniaid. Nid thema yw’r teitl fel y cyfryw ond man cychwyn sy’n galluogi i gyfranogwyr archwilio syniadau am gyd-fodolaeth. Bydd manylion llawn y rhaglen i’w gweld yng nghylchgrawn mis Tachwedd neu gellir eu lawrlwytho o’n gwe-fan. Cefnogir Experimentica14 gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Artes Mundi a Chaerdydd Gyfoes
chapter.org
Bwyta Yfed Llogi
Bwyta
Yfed
Yma yng Nghaffi Bar Chapter, rydym wrth ein bodd yn addasu ein bwydlen i gyd-fynd â chyffro a dylanwadau newydd y rhaglen artistig ac rydym yn ceisio gwneud hynny mor aml ag y gallwn. Felly, pan glywom ni bod Afrovibes yn dod i Chapter ym mis Hydref, fe feddyliom yn syth bin y byddai’n gyfle i goginio rhywbeth blasus. Byddwn ni’n cynnig prydau arbennig wedi’u hysbrydoli gan Dde Affrica ynghyd â gwinoedd hyfryd y wlad dros gyfnod yr ŵyl. Bydd manylion ar gael yn fuan. Ewch i dudalennau 12-14 i weld manylion rhaglen Afrovibes, ac i dudalennau 32-34 i weld rhaglen ffilmiau’r ŵyl.
Llogi
Mae nifer o ystafelloedd a chyfleusterau Chapter ar gael i’w llogi, ac fe ddefnyddir y rhain yn rheolaidd gan amrywiaeth eclectig o ddosbarthiadau dydd a nos. Ewch i’n gwe-fan neu codwch daflen yn y swyddfa docynnau i weld yr hyn sydd ar gael. Os ydych chi’n chwilio am ystafell ar gyfer parti, cyfarfod neu gynhadledd, neu am ofod i saethu fideo, i ymarfer neu i gynnal gweithgareddau adeiladu tîm, bydd ein cyfleusterau gwych, ein harbenigedd technegol a’n staff cyfeillgar yn gallu sicrhau bod eich digwyddiad yn un cyffyrddus, unigryw a chofiadwy. Gallwn ddarparu amrywiaeth o opsiynau arlwyo ar gyfer eich digwyddiad hefyd. Os oes gennych chi gwestiynau penodol neu os hoffech chi fwy o wybodaeth am ein cyfleusterau, rhowch ganiad i’n rheolwr llogi, Nicky, ar 029 2031 1058, neu anfonwch e-bost at nicky.keeping@chapter.org.
11
Oktoberfest
Mer 15 – Sad 18 Hydref Mae’r haf yn dirwyn i ben, ond mae Oktoberfest yn ein disgwyl! Eleni, fel bob blwyddyn, byddwn yn cynnig detholiad o fwy na 30 gwahanol gwrw o Bafaria a Ffranconia. Gallwch ddisgwyl gweld rhai o’r hen ffefrynnau ochr yn ochr ag ambell gwrw syfrdanol a fydd yn cyrraedd Chapter am y tro cyntaf. Er enghraifft, rydym yn falch iawn o allu cynnig am y tro cyntaf yr Hofmann Helles, lager euraid melys o Munich. Fe gewch chi fwy o fanylion ar Twitter yn nes at y dyddiad. Cadwch lygad ar agor hefyd am ambell bryd Almaenaidd blasus ar fwydlen y caffi. Os yw Oktoberfests y gorffennol yn unrhyw fath o arwydd, fel ddylai gŵyl eleni fod yn un i’w chofio. Dewch i fwynhau! Prost! Fel arall, rydym yn falch iawn hefyd o gyflwyno ein rhestrau gwin newydd. Ewch i’n gwe-fan i weld y manylion www.chapter.org
I ddod yn fuan!
Parti Nos Galan Mer 31 Rhagfyr
Roedd parti Nos Galan y llynedd yn ddigwyddiad ardderchog ac fe ddaethom ni i’r casgliad ein bod ni’n gallu trefnu parti a hanner. Eleni, fely, fe fydd yna un arall. Shape Records fydd yn gyfrifol am y trefniadau eleni a bydd y parti’n cynnwys bandiau byw, DJs ac fe fydd Caffi Bar gwych Chapter yn diwallu pob angen am fwyd a diod tan yr oriau mân. Bydd y manylion yn llawn ar gael cyn bo hir ond, yn y cyfamser, cadwch lygad ar ein gwe-fan www.chapter.org i weld y newyddion diweddaraf.
Theatr
029 2030 4400
Afrovibes
12
Theatr
13
O’r chwith i’r dde: Rainbow Scars, Rhetorical
chapter.org
Gŵyl Afrovibes Llun 20 — Sad 25 Hydref Mae Gŵyl Afrovibes yn ddigwyddiad rhyngwladol o bwys sy’n dod â rhai o’r gweithiau a’r perfformiadau celfyddydol gorau o Dde Affrica i’r DG a’r Iseldiroedd. Eleni, bydd yr ŵyl yn meddiannu canolfan Chapter am y tro cyntaf. Yn 2014, mae Gŵyl Afrovibes yn nodi pen-blwydd y De Affrica newydd yn 20 oed: 20 mlynedd ers diwedd apartheid a dyfodiad democratiaeth. Bydd artistiaid creadigol gwobrwyol yn cyflwyno cerddoriaeth, theatr, dawns a ffilm, ac yn ystyried ac yn cyfleu peth o ysbryd De Affrica yr 21ain ganrif. Cynnig Arbennig 3 sioe am bris 2: Archebwch docynnau ar gyfer 2 berfformiad Afrovibes ac fe gewch chi weld trydydd yn rhad ac am ddim! Nid yw’r cynnig hwn ar gael ar-lein. Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2030 4400 i archebu eich tocynnau.
Rainbow Scars
Rhetorical
Llun 20 Hydref 8pm Cyflwynir gan Ganolfan Theatr Artscape Ysgrifennwyd gan Mike Van Graan Cyfarwyddwyd gan Lara Bye
Maw 21 Hydref 8pm Cyflwyniad gan GBR Productions mewn cydweithrediad â Theatr Gwladwriaeth Pretoria Cyfarwyddwyd gan: Mpumelelo Paul Grootboom Ysgrifennwyd gan: Mpumelelo Paul Grootboom & Aubrey Sekhabi
Yn ystod cyfnod y cymodi, anogodd Nelson Mandela drigolion De Affrica i estyn allan ac i ymwneud â bywydau’i gilydd: mabwysiadodd Ellen Robinson, a’i theulu dosbarth canol gwyn, ferch deirblwydd ddu o’r enw Lindiwe. Nawr, bedair blynedd ar ddeg yn ddiweddarach, mae hi yn yr ysgol uwchradd ac yn ceisio dod i delerau â’i bywyd mewn De Affrica sy’n newid. Mae ei dyfodol wedi’i farcio allan iddi ond mae ei hunaniaeth yn ansicr. Mae popeth fel petai’n iawn — tan i’w chefnder hŷn ddod i chwilio amdani a’i gorfodi i wynebu ei gwir dreftadaeth...
‘Mae Mike Van Graan yn dal i fod yn un o ddramodwyr mwyaf treiddgar a gwych y wlad. Mae’r gallu ganddo i gyfleu hanfod psyche De Affrica’ Artlink South Africa
Thabo Mbeki oedd olynydd Nelson Mandela fel Arlywydd De Affrica, a daeth i rym yn 1999. Yn cynnwys llu o gymeriadau, a bortreadir gan bump o actorion yn unig, mae’r ddrama hon yn ailystyried rhai o areithiau enwocaf Mbeki, ac yn dangos yn glir ei allu fel areithiwr a’i allu i berswadio. Caiff ei naw mlynedd wrth y llyw — cyfnod a oedd yn aml yn ddadleuol — eu harchwilio, ynghyd â’i ffordd o lywodraethu ac effaith hynny ar ei ddinasyddion. Caiff y ddrama ei gyrru gan fewnwelediadau diddorol, grymus a dychanol yr arweinydd ieuenctid lliwgar, Dada Mokone, a chwaraeir gan Presley Chweneyagae. Mae dramâu treiddgar Grootboom yn hysbys eisoes i gynulleidfaoedd y DG. Yn sgil ei drioleg, Township Stories, Foreplay a Welcome to Rocksburg, enillodd y llysenw, ‘The Township Tarantino’.
£12/£10/£8 Argymhelliad oedran: 14+ oed
£12/£10/£8 Argymhelliad oedran: 12+ oed
Theatr
029 2030 4400
The Soil
Uncles and Angels + Dark Cell (Cyflwyniad Dwbl)
O’r brig: The Soil, Uncles and Angels
14
Mer 22 Hydref 8pm Cynhyrchiad gan Native Rhythms Mae’r grŵp lleisiol ‘a cappella’ hwn yn cyfuno amrywiaeth syfrdanol o arddulliau cerddorol: jazz y ‘townships’, hip-hop, Affro-Pop ac Affro-Soul. Dim offerynnau, dim gwersi cerddoriaeth — dim ond eu lleisiau ac ysbrydoliaeth y gymuned leol ... dyna’r cyfan yr oedd ar y bobl ifainc hyn ei angen yn ystod eu plentyndod yn Soweto. Rhoddir sail i’r gerddoriaeth gan lais bas rhythmig ardderchog neu gan lais yn bîtfocsio wrth i’r ddau arall ganu’r alawon a’r harmonïau. Mae’r triawd lleisiol gwobrwyol — ac enillwyr disg platinwm am werthiant — yn dod i Afrovibes 2014 o Theatr yr Apollo yn Harlem. £12/£10/£8 Addas i bobl o bod oed
“Mae’r triawd yn cynhyrchu cerddoriaeth wirioneddol anhygoel â dim ond eu lleisiau. Mae’n beth hyfryd i’w weld — ac i’w glywed.” The List
Iau 23 Hydref 8pm Mae Uncles and Angels yn gydweithrediad dawns a fideo rhyngweithiol syfrdanol rhwng y gwneuthurwr ffilmiau arbrofol, Mocke J van Veuren, a Nelisiwe Xaba, y mae ei chynyrchiadau arloesol wedi teithio ledled Affrica, Gogledd a De America ac Ewrop. Cyfeiriad canolog y darn hwn yw’r ‘Reed Dance’, sy’n adnabyddus yn Ne Affrica fel dathliad lliwgar a diwylliannol sydd i fod i ennyn parch at fenywod ifainc a chynnal yr arfer bod merched yn aros yn wyryfol tan iddyn nhw briodi. Wedi’i ysbrydoli hefyd gan hanes cyn-garcharorion gwleidyddol Ynys Robben yn Ne Affrica, mae gwaith dawns gwobrwyol Themba Mbuli, Dark Cell, yn defnyddio cell garchar fel trosiad o garchar meddyliol. £12/£10/£8
chapter.org
Theatr
15
Biko’s Quest
O’r chwith i’r dde: Skierlik, Biko’s Quest
Sad 25 Hydref 8pm Cyflwyniad gan The Steve Biko Foundation mewn cydweithrediad â JazzArt Cyfarwyddwr: Mandla Mbothwe Coreograffi gan Jackie Manyaapelo, Ina Wichterich-Mogane & Mzo Gasa
Skierlik Gwe 24 Hydref 8pm Cyflwyniad trwy drefniant â Lentswe Arts Projects Ysgrifennwyd a pherfformiwyd gan Philip Dikoltla Mae’r ddrama wobrwyol hon yn ailystyried yr arswyd a ddaeth yn sgil sbri saethu, ag iddo gymhelliad hiliol, yn setliad anghysbell Skierlik yn 2008. Symudodd Thomas oddi yno ar ôl i’w wraig a’u merch dri mis oed gael eu lladd yn yr erchylltra: roedd y baich o fyw yn y cartref teuluol ar ei ben ei hun yn annioddefol. Ond, yn awr, mae e’n dychwelyd. Ac fe gawn ni deithio gydag ef ar y ffordd lychlyd hir yn ôl i Skierlik. Wrth i ni ddilyn meddyliau Thomas, cawn brofiad hefyd o’r hyn sy’n ei ddisgwyl yn ôl adref yn ei gwt bychan: y cwt glas y mae e mor gyfarwydd ag ef, â’r clo ar y drws. Enillydd Gwobr y Cynhyrchiad Gorau yng Ngŵyl Theatr Zabalaza 2013 Enillydd Gwobr Standard Bank Ovation yn yr Ŵyl Gelfyddydau Genedlaethol 2013 £12/£10/£8 Argymhelliad oedran: 14+ oed
‘Fe adewais i Theatr Baxter â f’emosiynau ar chwâl ... gallwn arogli’r llwch coch wrth i mi eistedd yno yn y tywyllwch â’r dagrau’n powlio.’ Marilu Snyders, What’s On in Capetown
Cof — Hunaniaeth — Hanes — Emosiwn: y rhain yw conglfeini Biko’s Quest, cynhyrchiad theatr-ddawns grymus ac egnïol â chast sylweddol sy’n archwilio bywyd ac etifeddiaeth yr ymgyrchydd gwrthapartheid a lofruddiwyd gan yr heddlu cudd yn ystod cyfnod apartheid. Mae’r darn yn arwain y gynulleidfa ar daith emosiynol ingol sy’n llawn dawnsio a straeon ac yn amrywio o lawenydd mawr i ddyfnderoedd trasiedi. “Mae hi’n well marw dros syniad a fydd yn byw, na byw er mwyn syniad a fydd yn marw” Steve Biko. £12/£10/£8 Argymhelliad oedran: 10+ oed
‘Llwyddiant digamsyniol ... cynhyrchiad pwerus sy’n ysgogi’r meddwl; ysigol a bythgofiadwy’ Cape Times
Y ‘Township Cafe’ a Digwyddiadau ar Gyrion Gŵyl Afrovibes Dewch i ymuno â ni yn y Township Café ac i flasu detholiad o fwyd a diod De Affrica o fwydlen arbennig yr ŵyl — ac i weld perfformiadau, gweithdy argraffu wedi’i ysbrydoli gan Dde Affrica, sgyrsiau ar ôl sioeau a gweithdai dawns. Cyhoeddir yr amserlen lawn cyn bo hir. Gweler ein gwe-fan am fanylion ynglŷn â sut i gymryd rhan: http://www.chapter.org/ cy/season/afrovibes-2014 Trowch i dudalen 36 i weld manylion rhaglen ffilm Afrovibes a ffilmiau gŵyl Watch-Africa www.afrovibesUK.com Afrovibes UK @afrovibesUK #afrovibesUK
Theatr
Bara Caws yn cyflwyno
Lakin McCarthy yn cyflwyno
029 2030 4400
O’r chwith i’r dde: Garw, Robin Ince
16
Garw
gan Siôn Eirian Mer 1 + Iau 2 Hydref 7.30pm Dyffryn Aman, ddiwedd yr 80au. Mae byd Llew — cynlöwr a chyn-focsiwr — yn newid. Nid dwylo geirwon y dynion sy’n ennill y bara menyn bellach ond bysedd bywiog y merched. Ac wrth i orwelion Llew gulhau, mae gorwelion Sara, ei wraig, a Lowri, ei ferch, yn ehangu i gyfeiriadau annisgwyl. Ac yn sgil y newidiadau hyn, mae sylfeini’r cartref yn dechrau gwegian. Drama newydd heriol am bobl a’u brwydrau personol yn ystod cyfnod o newid mawr yng Nghymru. Cast: Rhys Parry-Jones, Eiry Thomas, Gwawr Loader, Sion Ifan. Cyfarwyddwr: Betsan Llwyd. £12/£10/£8 14+ oed
Robin Ince is (In and) Out of his Mind Sad 4 Hydref 8pm Mae Robin Ince, enillydd Gwobr Aur Sony a digrifwr a chanddo ddiddordeb brwd mewn gwyddoniaeth (Infinite Monkey Cage Radio 4 gyda’r Athro Brian Cox), yn cyflwyno un arall o’i ddarlithoedd comig gwallgo’. Ar ôl poetsian â Darwin a Feynman, a glanhau caets Cath Schrödinger, mae Robin bellach yn archwilio ei feddwl ei hun — a’ch meddwl chi hefyd, o bosib. O Freud a Jung i Laing a Milgram, o lygod mawr ar ôl iddyn nhw ennill gwobrau i drin gwallgofrwydd â smotiau inc, bydd Robin yn edrych ar 100 mlynedd o seiciatreg a seicoleg ac yn ystyried pa mor anodd yw bod yn hunan-ymwybodol ar y blaned hon. Dewch draw — fe allai ef eich gwella... £13 14+ oed
‘Pan ddaw rhywun i ysgrifennu hanes comedi fodern, fe ddylen nhw gadw lle i Robin Ince’ The Guardian
Theatr
17
Clwb Ifor Bach yn cyflwyno
Little Wander Ltd
Sul 5 Hyd 8pm
Gwe 10 Hydref 7pm + 9pm
Mae Clwb Ifor Bach yn ei holau, ynghyd â’u rhyfeddodau cerddorol. Bydd sioe y mis hwn yn cynnwys The Gentle Good. Enillodd ei albwm diweddaraf ef, Y Bardd Anfarwol, wobr Albwm Iaith Gymraeg y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Â phobl fel Meic Stevens, Cowbois Rhos Botwnnog a Georgia Ruth eisoes wedi perfformio yn Chapter, bydd y noson hon yn gyflwyniad arall o dalent Cymreig pur. Cadwch lygad ar y we-fan am fwy o fanylion.
Mae Key (sy’n 37 erbyn hyn) yn gwisgo’i ddillad bardd eto ac yn pwyso ar ei feicroffon am saith deg munud arall. Wedi aeddfedu erbyn hyn, bydd yn adrodd hanesion syml am gariad, yn syllu â llygaid meirwon ar y merched, yn adrodd barddoniaeth ac yn siarad. Mae llawer o ddŵr eitha’ brwnt wedi llifo dan bont Key yn ddiweddar, felly bydd e’n corddi peth ar hwnnw. Mae e’n awyddus hefyd i godi’r caead ar Hollywood. Bydd yna ychydig o farddoniaeth Indiaiadd, cwrw Indiaidd ac, os gall e drefnu pethau mewn pryd, sbotolau. Bydd themâu posib eraill yn cynnwys tylluanod a thylwyth teg.
O’r chwith i’r dde: The Gentle Good, Tim Key
chapter.org
The Gentle Good
£8
Marcel Lucont – Is Sad 1 Tachwedd 8pm Doethinebau mawreddog un dyn modern ar farwolaeth, moesoldeb a gwrywdod. Mélange amlgyfrwng o ardderchowgrwydd. Enillydd Gwobr ‘Fringe World’ am y Sioe Gomedi Orau 2013. Enillydd Gwobr ‘Amused Moose’ 2012. Gwelwyd Marcel cyn hyn ar raglen Set List ar Sky Atlantic, Russell Howard’s Good News ar BBC3 ac ar Live At The Electric. £12
‘Ffres, hygyrch, doniol’ The Guardian
Tim Key: Single White Slut
Enillydd Gwobr Gomedi Caeredin Perfformiwr Comig y Flwyddyn, Cylchgrawn Time Out £15/£12.50 18+ oed sioe’n cynnwys deunydd anaddas i bobl iau
Theatr
029 2030 4400
The Wyrd Wonder yn cyflwyno
Atresbandes
Iau 9 Hydref 7pm
Mer 15 + Iau 16 Hydref 7.30pm
Ers ei ffurfio gan Sonny Condell a Leo O’Kelly ym 1970, mae’r deuawd gwerin Gwyddelig blaengar wedi rhyddhau tri albwm anfarwol ar Recordiau Chrysalis, wedi cael canu eu clodydd gan John Peel ac wedi teithio gyda phobl fel Fairport Convention, The Who a Roxy Music. Ar gyfer yr ymddangosiad prin hwn yn Chapter, bydd Tir na nOg yn perfformio deunydd ‘vintage’ yn ogystal â deunydd newydd sy’n cynnwys eu cyfuniad unigryw nhw o waith gitâr trawiadol, lleisio hudolus a geiriau barddonol. Daw’r gefnogaeth gan y grŵp lleol, Smudges, sy’n creu cerddoriaeth werin ag arlliwiau o ganu gwlad, a’r band ‘seic-werin’ addawol, FUR.
Beth sy’n digwydd pan ddaw eich ofnau mwyaf i’r tŷ i gael cinio a phan fydd eich meddyliau dyfnaf, tywyllaf yn gwrthod cilio’n dawel i’r cysgodion? Solfatara — agoriadau mewn tir folcanig sy’n allyrru nwyon poeth, sylffyraidd. Rydym yn llawn o’r ffenomenau daearegol hyn, tyllau sy’n caniatáu i’r tu mewn i ni ddod i’r wyneb. Sioe ffraeth, ddoniol ac egnïol sy’n dangos cwpwl ifanc a’r rhwystredigaethau sy’n ffrwydro i’r wyneb ag onestrwydd trychinebus wrth i ffigwr dirgel eu procio i leisio eu gwir deimladau. Perfformiad yn Sbaeneg gydag uwch-deitlau yn Saesneg y mae ganddynt eu bywyd a’u rhesymeg tanseiliol eu hunain! Gwobr Gyntaf a Gwobr y Gynulleidfa, Gŵyl BE 2012, Birmingham
O’r chwith i’r dde: Tir na nOg, Solfatara
18
Tir na nOg
£12/£10
The Merchant of Venice gan William Shakespeare Llun 6 Hydref 7.30pm Cynhyrchiad gan Ganolfan Gelfyddydau Pontardawe Cyfarwyddwyd gan Derek Cobley “If you prick us, do we not bleed? If you tickle us, do we not laugh? If you poison us, do we not die? And if you wrong us, shall we not revenge?...” Stori am ragfarn a dial, cariad ac arian. Cynhyrchiad egnïol, cyffrous a hygyrch o’r ddrama fytholboblogaidd. Â chast llawn, bydd y stori’n llenwi’r llwyfan â chariad, casineb, trachwant a dial. Peidiwch â cholli’r cyfle gwych hwn i brofi gwefr geiriau Shakespeare yn un o’i ddramâu mwyaf poblogaidd. Mae cymhlethdod cymeriadau fel Portia, Antonio a Shylock yn parhau i swyno actorion, beirniaid a chynulleidfaoedd fel ei gilydd, yn un o storïau enwocaf byd y ddrama. £12/£10/£8 Oed: 10+
Solfatara
Cyfarwyddo Gorau & Actor Gorau, Gwyl Skena Up, Kosovo, 2012 Enwebiad am Wobr Total Theatre, ‘Fringe’ Caeredin 2013 £12/£10 Oed: 16+ (iaith gref a chynnwys rhywiol, dim noethni) www.atresbandes.com atresbandesteatre @ATRESBANDES
‘Afradlon ac anghwrtais, ffyrnig a doniol ac ingol o onest — sioe glyfar iawn gan driawd o berfformwyr syfrdanol o ddawnus’ Total Theatre Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Lloegr, Institut Ramon Llull Centre Cívic Can Felipa a Gŵyl BE
chapter.org
Theatr
19
Theatr Iolo yn cyflwyno
Adventures in the Skin Trade
Addaswyd ar gyfer y llwyfan gan Lucy Gough gyda Theatr Iolo Mae Theatr Iolo yn falch o gyhoeddi cynhyrchiad newydd cyffrous ar gyfer tymor Gŵyl 100 Dylan Thomas. Mae Samuel Bennett yn gadael ei gartref yn Ne Cymru i ddilyn gyrfa yn Llundain. Ag agwedd bwrpasol — ond yn ddi-hid ac yn ddiobaith — mae e’n cyrraedd dinas hunllefus. Ystafell yn llawn dodrefn, amrywiaeth o gymeriadau rhyfedd a phrofiad rhywiol cyntaf hynod letchwith mewn bath oer. Ymunwch â Samuel wrth iddo wneud ei ffordd drwy’r byd breuddwydiol hwn, a’r cyfan â photel gwrw yn sownd ar ei fys bach. Caiff nofel anorffenedig a swreal Dylan Thomas am ddod i oed ei dramateiddio ag asbri a medr gan yr awdur o fri, Lucy Gough (Wuthering Heights, enillydd Gwobr Cymru Greadigol), mewn cynhyrchiad arbennig i nodi canmlwyddiant geni Thomas. £12/10 14+ oed www.theatriolo.com #adventuresSK
Run Ragged Productions yn cyflwyno
Transition
Gwe 31 Hydref 7pm + Sad 1 Tachwedd 3pm Mae Jem yn 50 y flwyddyn nesaf. Mae Ella’n 11 oed. Maent yn dad a merch. Mae Ella wedi gwirioni ar ballet a newydd ddechrau ymarfer y pointe. Mae Jem yn ddawnsiwr cyfoes proffesiynol. Maen nhw wedi dawnsio gyda’i gilydd ar garped y gegin erioed. Mae Transition yn archwilio’r berthynas newidiol rhyngddynt trwy gyfrwng dawns, sgwrs a ffilm. Cyflwynir y rhagolwg hwn gan Run Ragged ar y cyd â Theatr Iolo ac fe’i datblygwyd trwy gyfrwng WalesLab NTW. Wedi’i fwriadu ar gyfer plant dros eu 7 oed £6 / Tocyn teulu (i 4) £20
+ Gweithdy Teuluol
Sad 1 Tachwedd 10am–12pm Fe’ch gwahoddir i ymuno â sesiwn ddawns a theatr hwyliog ar gyfer rhiant a phlentyn wedi’i harwain gan Jem Treays (Run Ragged) a Kevin Lewis (Theatr Iolo). Mae’r gweithdy’n rhad ac am ddim — i gymryd rhan nodwch eich diddordeb drwy ffonio Swyddfa Docynnau Chapter. Gwisgwch ddillad cyffyrddus a fydd yn eich galluogi i symud yn rhwydd. 7+ oed
O’r brig: Adventures in the Skin Trade, Caitlin, llun: Warren Orchard
gan Dylan Thomas Mer 8 — Maw 14 Hydref 7.30pm (Dim perfformiad ar ddydd Sul 12 Hydref)
Light, Ladd & Emberton
Caitlin
Mer 29 + Iau 30 Hydref 6.30pm + 8.30pm Caitlin oedd gwraig y bardd Dylan Thomas. Ar ddechrau’r 1970au, 20 mlynedd ar ôl iddo farw, dechreuodd fynychu cyfarfodydd Alcoholics Anonymous. Mewn cylch o 40 o gadeiriau, wedi’u trefnu ar gyfer cyfarfod AA, mae Caitlin yn gwneud ymdrech i ddelio â’i gorffennol tymhestlog. Mae’r gynulleidfa o 20 yn eistedd gyda Caitlin yn y cylch wrth iddi ail-archwilio’i bywyd gyda Dylan. Mae’r cadeiriau gwag yn dod yn rhan o’r digwydd yn y deuawd corfforol a phwerus hwn. Comisiynwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn rhan o ddathliadau canmlwyddiant geni Dylan Thomas eleni. Gyda chefnogaeth Sefydliad Scottish Power a DT100. Cyfarwyddwyd gan Deborah Light Creadigaeth a pherfformiad ar y cyd gan Eddie Ladd a Gwyn Emberton Sain gan Siôn Orgon Gwisgoedd gan Neil Davies Delweddau gan Warren Orchard £12/£10/£8
Chapter Mix
029 2030 4400
Dydd Iau Cyntaf y Mis
Darlith Cymdeithas Celfyddydau Cain ac Addurnol De Cymru
O’r chwith i’r dde: Jazz ar y Sul, Music Geek Monthly
20
Barddoniaeth a Ffuglen Newydd Iau 2 Hydref 7.30pm
Gydag enillydd Gwobr Forward, Hilary Menos, a fydd yn darllen cerddi o’i chasgliad newydd, Red Devon, a Tiffany Murray, a fydd yn darllen o’i nofel ddirgelwch hanesyddol newydd, Sugar Hall. Noddir gan Seren, Gwasg Mulfran a Llenyddiaeth Cymru. £2.50 (wrth y drws)
Clwb Comedi The Drones
Gwe 3 + Gwe 17 Hydref. Drysau’n agor: 8.30pm. Sioe’n dechrau: 9pm Clint Edwards sy’n cyflwyno’r ‘stand-ups’ addawol gorau. Gwelwyd peth o ddeunydd y nosweithiau hyn ar raglen ‘Identity Crisis’ Rob Brydon. Dydd Gwener cyntaf a thrydydd dydd Gwener y mis. Un o’r ‘Deg Peth Gorau i’w Gwneud yng Nghaerdydd’ yn ôl cylchgrawn The Big Issue. Bydd yna rifyn arbennig o Drones ar ddydd Gwener 3 Hydref: ‘Clwb Comedi The Drones: Gwaith ar y Gweill gyda Clint Edwards a Dan Mitchell’. £3.50 (wrth y drws)
Cylch Chwedleua Caerdydd Sul 5 Hydref 8pm
Dewch i rannu a gwrando ar gasgliad hyfryd o straeon — croeso cynnes i storïwyr a gwrandawyr fel ei gilydd! £4 (wrth y drws)
Clonc yn y Cwtsh Bob dydd Llun 6.30-8pm
Ydych chi’n dysgu Cymraeg? Ymunwch â ni i ymarfer eich Cymraeg gyda dysgwyr eraill. Croeso i bawb! RHAD AC AM DDIM Ar y cyd â Menter Caerdydd
Iau 9 Hydref 2pm ‘Fascinating Friendships’ Ghislaine Howard BA
Mae artistiaid yn bobl — pobl sy’n ymwneud â chyfeillgarwch, cystadleuaeth a chariad, a phobl sydd hefyd yn cweryla â’u cyfoedion ac yn euog o genfigen proffesiynol. Y rhain yw’r elfennau craidd a arweiniodd at greu peth o gelfyddyd fwyaf cyffrous y 200 mlynedd diwethaf — a rhai o’r straeon mwyaf diddorol hefyd! Byddwn yn ystyried nifer o’r perthnasau mwyaf nodedig hyn ac yn archwilio’r modd y mae artistiaid / cyfeillion / cariadon / modelau wedi cydweithio â’i gilydd, ac effeithiau cyfnodau o gyd-gysylltiad ar y gweithiau celfyddydol a ddeilliodd ohonynt. £6 i ymwelwyr (wrth y drws, yn ddibynnol ar le) www.swdfas.org
Jazz ar y Sul Sul 19 Hydref 9pm
Ein noson fisol o jazz acwstig melodig yn y Caffi Bar gyda Phedwarawd Glen Manby. RHAD AC AM DDIM www.glenmanby.com
Music Geek Monthly Iau 30 Hydref 8pm
Trafodir un clasur o albwm ac un albwm newydd sbon yn y Pwynt Cyfryngol ar ddydd Iau olaf y mis. RHAD AC AM DDIM www.musicgeekmonthly.tumblr.com
chapter.org
Addysg
Animeiddio i Bobl ifainc ar Sbectrwm Awtistiaeth
Dangosiadau Astudiaethau Ffilm AS / A2
O ddydd Mercher 1 Hydref 5.30-7pm (am 10 wythnos) Oed 8-18 Yn dilyn blwyddyn gyntaf lwyddiannus ein cyrsiau animeiddio i bobl ifainc ar sbectrwm awtistiaeth a phobl ifainc ag anghenion addysgol arbennig, byddwn yn cynnal cwrs arall 10 wythnos o hyd. Mae’r sesiynau 90 munud o hyd hyn yn caniatáu i’r bobl ifainc fagu hyder cymdeithasol ac i ddysgu a datblygu sgiliau animeiddio mewn amgylchfyd cefnogol a chreadigol. Bydd pob sesiwn yn hunangynhaliol neu gellir mynychu’r sesiynau fel cyfres. Fe all ein staff profiadol drefnu rhaglenni dysgu unigol os bydd angen hefyd. Nifer cyfyngedig o leoedd fydd ar gael bob wythnos. Er mwyn ymuno â’r sesiynau, cysylltwch â learning@ chapter.org. Bydd Chapter hefyd yn ehangu’r rhaglen er mwyn cyflwyno nifer cyfyngedig o sesiynau blasu mewn ysgolion sy’n darparu gwasanaethau i bobl ifainc ar sbectrwm awtistiaeth. Os ydych yn meddwl y gallai eich hysgol chi fod yn gymwys, cysylltwch â ni i drefnu gweithdy. £25 Cefnogwyd gan
21
Dangosiad o Tsotsi + Sesiwn holi-ac-ateb
Llun 20 Hydref 10.45am–2.30pm Bydd y dangosiad hwn i ysgolion, sy’n addas ar gyfer myfyrwyr Lefel AS/A2, yn berffaith ar gyfer y rheiny sy’n astudio sinema’r byd. Fe’i dilynir gan gyfweliad â Presley Chweneyagae, sy’n chwarae’r brif ran yn y ffilm hon a enillodd Oscar yn 2005. Nifer cyfyngedig o leoedd fydd ar gael ar gyfer y digwyddiad poblogaidd hwn ac fe allai fod yna alw mawr amdanynt. Sicrhewch, felly, eich bod yn archebu eich tocynnau mewn da bryd. £5 i bob myfyriwr
District 9 + Darlith ar ôl y dangosiad Maw 21 Hydref 10am
Yn rhan o’n Tymor Gwyddonias, bydd y dangosiad hwn i ysgolion — a fydd yn addas i fyfyrwyr Safon AS / A2 — yn cael ei ddilyn gan ddarlith ryngweithiol gan Matt Beere, Swyddog Addysg Chapter. Bydd y ddarlith 45 munud yn gosod y ffilm yng nghyd-destun sinema gyfoes De Affrica ac yn archwilio’r ffilm fel trosiad o gyfundrefn Apartheid. £5 i bob myfyriwr.
Moviemaker Iau
Sad 4 Hydref 10.30am-12pm Os ydych chi rhwng 9 ac 16 oed ac yn wneuthurwr ffilmiau uchelgeisiol, dewch i weld yr hyn sydd gennym i’w gynnig. Rydym yn gwylio ac yn trafod ffilmiau byrion — ac yn dangos eich ffilmiau chi hefyd. Fe allai’r ffilmiau byrion a ddangosir yn ystod sesiynau Moviemaker Iau gynnwys golygfeydd sy’n cyfateb â thystysgrif PG y BBFC — dylai rhieni gadw hynny mewn cof. £1.50
Chapter Sewcial
Sul 5, Sul 19, Sul 26 Hydref 3.30-5pm (Cwrs 10 Wythnos) Bydd y cwrs gwnïo hwn i bobl ifainc yn defnyddio themâu diddorol, gweadau a deunyddiau o’n rhaglen ffilm, theatr a chelfyddydau gweledol fel ysbrydoliaeth ar gyfer dysgu sgiliau gwnïo sylfaenol. £40 am 10 wythnos. Nifer cyfyngedig o leoedd.
Diwrnod Gweithgareddau Ffilm Tymor Gwyddonias
Earth to Echo
Llun 27 Hydref 9.30am-3.30pm Gwyliwch y ffilm cyn ymuno â Matt Beere, Swyddog Addysg Chapter, am ddiwrnod o weithgareddau hwyliog a chreadigol sy’n canolbwyntio ar fyd y ffilm hon. £20 (Yn cynnwys pris tocyn sinema) Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael, dylid archebu ymlaen llaw.
* Bydd Taflenni Gweithgareddau Teuluol hefyd ar gael yn dilyn ein dangosiadau cyhoeddus o Earth to Echo.
Diwrnod Gweithgareddau Ffilm Calan Gaeaf
Super 8
Gwe 31 Hydref 9.30-3.30pm Gwyliwch y ffilm cyn ymuno â Matt Beere, Swyddog Addysg Chapter, am ddiwrnod o weithgareddau hwyliog a chreadigol yn seiliedig ar ŵyl Calan Gaeaf, Angenfilod a themâu Super 8. £20 (Yn cynnwys pris tocyn sinema) Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael, dylid archebu ymlaen llaw. I archebu tocynnau ar gyfer unrhyw un o’n digwyddiadau addysgol, cysylltwch â’n swyddfa docynnau, 029 2030 4400. I gael unrhyw wybodaeth arall, anfonwch e-bost at learning@chapter.org
Sinema
029 2030 4400
Tymor Gwyddonias y BFI: Days of Fear and Wonder Syniadau mawrion a delweddau sinematig ysblennydd yw pennaf nodweddion sinema wyddonias ac, yn ystod yr hydref, byddwn yn dathlu gwreiddioldeb a gweledigaeth rhai o olygfeydd mwyaf y genre. Gallwch weld ffilmiau mud, clasuron cwlt ac ystyried gweledigaethau cyfoes o fyd y dyfodol — yn obeithion iwtopaidd ac ofnau dyfnion.
Metropolis
22
Sinema
Tymor Gwyddonias y BFI: Days of Fear and Wonder Cyflwyniad i Ffilm Wyddonias
Metropolis
23
Metropolis
chapter.org
Llun 6 Hydref — Llun 8 Rhagfyr, bob nos Lun, 7-9pm
Ymunwch â’r gwneuthurwr ffilmiau Ben Ewart-Dean am archwiliad dros gyfnod o ddeg wythnos o hanes, themâu a syniadau ffilmiau gwyddonias. Trwy gyfuniad o ddarlithoedd a thrafodaethau anffurfiol, wedi’u hategu â chlipiau ffilm, bydd pob sesiwn yn canolbwyntio ar thema wahanol, o sinema fud y cyfnod cynnar i ffilmiau B y 1950au, ac o baranoia’r 1970au i ffilmiau ‘blockbuster’ cyfoes. Y nod yw creu darlun cyfoethog o un o genres mwyaf dychmygus hanes y sinema. Bydd y cwrs yn costio £65 / £55 (consesiynau) ac fe fydd aelodau’r cwrs yn gallu manteisio ar brisiau gostyngol i weld unrhyw ffilm yn nhymor gwyddonias y BFI. Gweler ein gwe-fan, www.chapter.org, am fwy o fanylion a chysylltwch, os gwelwch yn dda, â’n swyddfa docynnau i archebu tocynnau.
Clwb Ffilmiau Gwael:
Meteor
Sul 5 Hydref Cyf: Ronald Neame. Gyda: Sean Connery, Natalie Wood. UDA/1979/108mun/15.
Mae’r Clwb Ffilmiau Gwael yn cyflwyno ffilm y mis hwn sydd yn fwy na ‘thrychinebus’ ac yn llai o lawer na ‘chyffrous’: Meteor, ffilm drychineb am y rhyfel oer. Â meteor yn plymio tua’r ddaear, rhaid i arlywydd America, Henry Fonda, ddefnyddio’i ddawn ddiplomyddol i greu cysylltiadau newydd â’r Undeb Sofietaidd fel y gallant gyfuno’u harfau niwclear i ffrwydro’r meteor wrth iddo agosáu at y Ddaear. Nodwch os gwelwch yn dda: Mae’r ffilm yn cynnwys sylwebaeth fyw ar ei hyd.
Sul 5 + Maw 7 Hydref Yr Almaen/1927/148mun/PG. Cyf: Fritz Lang. Gyda: Alfred Abel, Gustav Fröhlich, Rudolf Klein-Rogge, Fritz Rasp.
Mae dinas ddyfodolaidd Metropolis, â’i thyrau enfawr a’i chyfoeth helaeth, yn faes chwarae i’r dosbarth llywodraethol sy’n byw’n fras tra bod y gweithwyr yn byw fel caethweision. Mae Freder, sy’n fab i ‘bensaer’ y ddinas, yn syrthio mewn cariad â Maria, proffwyd dosbarth gweithiol sy’n rhag-weld dyfodiad gwaredwr a fydd yn dileu’r gwahaniaethau rhyngddynt. Mae tad Freder yn awyddus i weld diwedd ar y berthynas ac yn awdurdodi’r dyfeisiwr Rotwang i herwgipio Maria a’i defnyddio hi i greu robot a fydd yn cadw’r gweithwyr yn ufudd. Dangosir y fersiwn hir, newydd ei hadfer, o’r ffilm ddylanwadol hon — ffilm a gyfrannodd ddetholiad o ddelweddau a syniadau bythgofiadwy at hanes y sinema. + Cyflwyniad gan arweinydd y cwrs gwyddonias, Ben EwartDean, ar ddydd Sul 5 Hydref.
24
Sinema
029 2030 4400
Ymunwch â ni mewn lleoliadau gwirioneddol ryfeddol wrth i ni ymweld â Chastell Coch, Castell Rhaglan a Chastell Caerffili, ac wrth i Ystafelloedd Tywyll dychwelyd i Techniquest, i barhau â’n rhaglen o ddangosiadau safle-benodol. Mae’n bosib y bydd yna gynhesrwydd i’w gael yn y straeon eu hunain ond fydd hynny ddim yn ddigon i warchod rhag oerfel y gaeaf yn y dangosiadau awyr agored hyn, felly gwisgwch ddillad cynnes os gwelwch yn dda. Mae tocynnau yn £12/£10 (gostyngiadau), neu yn £6 ar gyfer dangosiadau i deuluoedd ac maent ar gael ar ein gwe-fan www.chapter.org neu o swyddfa docynnau Chapter, 02920 304400.
Castell Caerffili Gwe 24 Hydref
Willy Wonka and the Chocolate Factory UDA/1971/100mun/PG. Cyf: Mel Stuart. Gyda: Gene Wilder, Jack Albertson, Peter Ostrum.
Mae’r gwneuthurwr melysion enigmatig, Willy Wonka, yn cuddio pum tocyn aur yn ei fariau siocled blasus — a’r wobr i’r bobl lwcus a ddaw o hyd iddynt? Taith o amgylch ei ffatri a chyflenwad oes o’i siocled a’i losin! Mae Charlie Bucket a phedwar o blant eraill yn dod o hyd i’r tocynnau ond buan y dôn nhw i sylweddoli bod yn rhaid iddynt barchu’r rheolau — neu fe ddaw’r Oompa Loompas i’w hebrwng nhw ymaith ...
Frankenstein
UDA/1931/70mun/PG. Cyf: James Whale. Gyda: Boris Karloff, Colin Clive.
Mae’r gwyddonydd gwallgo’ ac obsesiynol, Dr Henry Frankenstein, yn creu anghenfil drwy gymryd rhannau o gyrff y meirw a’u rhoi at ei gilydd. Ar ôl gosod ymennydd ym mhen yr anghenfil, mae Henry a’i gynorthwyydd, Fritz, yn synnu gweld y creadur yn dod yn fyw. Ond ar ôl i’r anghenfil ladd ar gam ferch ifanc o’r enw Maria, mae trigolion y dref yn mynnu cyfiawnder. Maen nhw’n dod o hyd i’r anghenfil a’i greawdwr mewn hen felin wynt, lle mae’r anghenfil ar fin lladd ei greawdwr...
Sad 25 Hydref
Wizard of Oz UDA/1939/101mun/PG. Cyf: Victor Fleming. Gyda: Judy Garland, Bert Lahr, Frank Morgan, Ray Bolger.
Yn y stori hon am ddyfeisiadau, hud a rhyfeddod, mae Dorothy Gale yn cael ei chludo i Wlad Oz gan gorwynt ac, yng nghwmni ei ffrindiau — y llew llwfr, y dyn tun, y bwgan brain a’i chi, Toto -, mae hi’n cychwyn ar antur i weld y Dewin a fydd yn gallu ei helpu hi i ddychwelyd adref.
Invasion of the Bodysnatchers UDA/1956/80mun/PG. Cyf: Don Siegel. Gyda: Kevin McCarthy, Dana Wynter, Larry Gates.
Mae Dr Miles Bennell yn cael bod nifer o’i gleifion yn dioddef o gyflwr paranoid sy’n gwneud iddyn nhw feddwl bod eu ffrindiau neu’u perthnasau yn ymhonwyr (“impostors”). Mae e’n amheus ar y cychwyn, yn enwedig gan fod y doppelgängers honedig yn gallu ateb cwestiynau manwl am fywydau’r bobl y maen nhw’n eu meddiannu, ond caiff ei berswadio yn y pen draw fod rhywbeth rhyfedd wedi digwydd ac mae e’n penderfynu ceisio mynd at wraidd y peth.
Ystafelloedd Tywyll yn cyflwyno
The Fly
Yn Techniquest Sad 4 Hydref UDA/1986/96mun/18. Cyf: David Cronenberg. Gyda: Jeff Goldblum, Geena Davis, John Getz.
Mae’r gwyddonydd Seth Brundle yn gwahodd newyddiadurwraig i’w labordy er mwyn arddangos ei ddyfais newydd — telepod sy’n gallu trosglwyddo mater trwy ofod. Wrth i berthynas y ddau ddatblygu, mae’r newyddiadurwraig yn pryfocio Seth i arbrofi â bodau dynol yn hytrach na gwrthrychau difywyd. Mae Seth ei hun yn mynd i mewn i’r telepod ac yn paratoi i drosglwyddo ei hun trwy’r ether ond, heb yn wybod iddo, mae e’n rhannu’r telepod â chleren fechan. Ymunwch â ni am ychydig o hwyl pryfetaidd yng Nghanolfan Wyddoniaeth Caerdydd.
The Fly
Pop Up Chapter
Sinema
25
Robocop
Dr Strangelove
Sul 12 + Maw 14 Hydref
Sul 26 + Maw 28 Hydref
UDA/1987/99mun/18. Cyf: Paul Verhoeven. Gyda: Edward Neumeier, Michael Miner.
DG/1964/90mun/PG. Cyf: Stanley Kubrick. Gyda: Peter Sellers, George C Scott, Sterling Hayden, Slim Pickens.
Yn ninas ddystopaidd ac afreolus Detroit mae heddwas a ddioddefodd anafiadau marwol yn dychwelyd i’w waith ar ôl cael ei drawsnewid yn seiborg pwerus. Ond mae e’n cael ei blagio gan weledigaethau o’r gorffennol — ac yn benderfynol, felly, o ddial ar y dihirod a’i lladdodd.
Mae awyren fomio Americanaidd sy’n drymlwythog ag arfau thermoniwclear yn hedfan yn agos at yr Undeb Sofietaidd ac yn derbyn gorchymyn gan y Cadfridog Ripper i ddechrau ymosod. Ar y ddaear, mae Capten Mandrake yn ceisio darbwyllo’r Cadfridog i newid ei feddwl ac, yn y Pentagon, mae’r Arlywydd Muffley yn cyfarfod â’i ymgynghorwyr i geisio deall y sefyllfa — ddim ond i wneud pethau’n waeth. Mae’r ffilm ddychanol a thywyll hon yn seiliedig ar nofel yr awdur Cymreig, Peter George, Red Alert, ac Argyfwng Taflegrau Ciwba — pan oedd y byd ar drothwy cyflafan niwclear. Dyw diwedd dynoliaeth erioed wedi ymddangos mor ddifyr.
O’r chwith i’r dde: Roboacop, Dr Strangelove
chapter.org
+ Cyflwyniad ar ddydd Sul 12 Hydref
Westworld Gwe 17 + Maw 21 Hydref UDA/1973/85mun/15. Cyf: Michael Crichton. Gyda: Yul Brynner, Richard Benjamin, James Brolin.
Croeso i Delos, ynys wyliau anghysbell lle gallwch fwynhau eich ffantasïau mwyaf gwallgo’. Mae’r dynion busnes, Peter a John, wedi gwirioni ar y gorllewin gwyllt ac yn mynd i’r rhan o Westworld sy’n cynnwys robotiaid ar ffurf ‘desperadoes’, cowbois a pherfformwyr ‘dance-hall’. Fodd bynnag, dyw’r system berffaith ddim yn bodoli ac mae i Delos hefyd ei diffygion angheuol. Â pherfformiad iasol gan Yul Bryner fel ‘gunslinger’ diwyro, mae hon yn ffilm am barc antur dystopaidd. + Ymunwch â ni ar ddydd Gwener 17 Hydref am gyflwyniad gan yr artist a’r arbenigwr ar roboteg, Paul Granjon.
+ Ymunwch â ni ar ddydd Sul 26 Hydref am gyflwyniad cerddorol gan Gwenno Saunders ac i glywed am ymateb Cymru i fygythiad niwclear a sut y mae’r awduron Peter George ac Owain Owain yn cael eu hysbrydoli gan fygythiad technoleg newydd.
The Day the Earth Caught Fire Maw 28 Hydref DG/1961/98mun/PG. Cyf: Val Guest. Gyda: Edward Judd, Janet Munro, Leo McKern.
Mae panig gwyllt wedi meddiannu’r byd ar ôl i’r Unol Daleithiau a’r Undeb Sofietaidd benderfynu ffrwydro dyfeisiau niwclear ar yr un pryd gan achosi i’r Ddaear droi oddi ar ei hechel a phlymio tuag at yr haul. Mae papur newydd cenedlaethol yn adrodd hanes y newidiadau dramatig yn hinsawdd y byd ac yn llwyddo i berswadio’r Llywodraeth i gyfaddef bod y sefyllfa’n waeth o lawer nag a ddychmygwyd. Mae hwn yn ddarn deallus ac aflonyddol o ffuglen wyddonias sy’n seiliedig ar ofnau go iawn am ymosodiad niwclear.
26
Sinema
029 2030 4400
Calan Gaeaf Cyflwyniad Calan Gaeaf gan Ŵyl Ffilm Arswyd Abertoir! Gwe 31 Hydref
Unwaith eto, bydd Abertoir, Gŵyl Arswyd Ryngwladol Cymru (www.abertoir.co.uk), yn ymweld â Chapter o Aberystwyth ac yn cynnig noson arall o erchyllterau gwyddonias ar gyfer noson Calan Gaeaf! Fydd yna ddim ‘tricks’ — ond gallwch ddisgwyl llond lle o ‘treats’! Gellir prynu tocynnau unigol neu gallwch fynychu’r noson gyfan am ddim ond £20.
Gyda’r cloc o’r brig: Lifeforce, Coherence, Abertoir Cold Cuts
Abertoir’s Cold Cuts 70mun
Casgliad o ffilmiau arswyd byrion newydd sy’n cynnwys plant rhyfedd, reidiau carnifal iasol ac ysbrydion arswydus. Ac os oeddech chi’n meddwl bod ieir bach yr haf yn bethau hyfryd ...! Bydd yna gymysgedd gyffrous o ddarganfyddiadau newydd ynghyd â goreuon ein cystadlaethau ffilm fer — y cyfan yn dod at ei gilydd i greu noson wirioneddol arswydus.
Clwb Ffilmiau Gwael:
The Faculty
UDA/1999/104mun/15. Cyf: Robert Rodriguez. Gyda: Josh Hartnett, Elijah Wood, Clea DuVall.
Mae hi’n noson Calan Gaeaf a pha ffordd well o warchod rhag ysbrydion ac angenfilod na mynd ar daith i ysgol uwchradd lle mae’r myfyrwyr yn amau bod yr athrawon yn aliens? Wrth i fyfyrwyr fynd ar goll ac wrth i ymddygiad yr athrawon ymddangos yn gynyddol ryfedd, a ddaw’r gwir i’r amlwg cyn i’r boblogaeth gyfan gael ei dileu? Er ei bod yn eithaf isel ar Raddfa’r Clwb Ffilmiau Gwael, mae’r ffilm hon yn cynnwys un o berfformiadau ‘gorau’ Jon Stewart ers Death to Smoochy. Nodwch os gwelwch yn dda: Mae’r ffilm yn cynnwys sylwebaeth fyw ar ei hyd.
Coherence
UDA/2013/89mun/TiCh. Cyf: James Ward Byrkit. Gyda: Emily Baldoni, Maury Sterling, Nicholas Brendon.
Ffilm wyddonias wreiddiol a thrawiadol sy’n chwarae’n ddeheuig â’r theori adnabyddus bod i bob penderfyniad ganlyniadau gwahanol sy’n cael eu gwireddu mewn realiti cyfochrog. Ond beth fyddai’n digwydd petai pob realiti cyfochrog yn digwydd yn yr un gofod ffisegol? Ffilm i ddrysu’r meddwl lle mae grŵp o westeion mewn parti cinio yn eu cael eu hunain mewn hunllef ddiddiwedd o baranoia lle mae pawb a phopeth allan o’i le.
Gyda’r cloc o’r brig: The House at the End of Time, Life After Beth, Lefeforce
chapter.org
Sinema
27
The House at the End of Time Feneswela/2013/101mun/TiCh. Cyf: Alejandro Hidalgo. Gyda: Rosmel Bustamante, Adriana Calzadilla, Simona Chirinos.
Mae mam yn dychwelyd adref ar ôl treulio blynyddoedd yn y carchar am lofruddio’i gŵr. Ond mae cyfres o ddigwyddiadau goruwchnaturiol brawychus yn awgrymu bod yna gyfrinachau syfrdanol yn y tŷ, lle nad yw amser ei hun fel petai’n hollol ddibynadwy. Hon oedd y ffilm fwyaf masnachol-boblogaidd yn Feneswela y llynedd; mae’r sgriptio’n glyfar ac mae yna gymaint o bethau i ogleisio’r ymennydd fel y byddwch chi’n siŵr o fod eisiau astudio mecaneg cwantwm ar ôl ei gweld!
Lifeforce
DG/1985/97mun/18. Cyf: Tobe Hooper. Gyda: Steve Railsback, Mathilda Mai, Peter Firth.
Yng nghynffon comed Halley, mae gofodwyr yn darganfod llong ofod hynafol â phobl ar eu bwrdd. Cânt eu dwyn i Lundain i gael eu hastudio. Ond mae yna rywbeth — a maleisus — o’i le ar y dynolion hyn ... Mae’r Arolygydd Caine a’r gofodwr, Carlsen, yn benderfynol o’u hatal wrth iddyn nhw greu hafoc yn y ddinas. Ffilm sydd yn hynod ddifyr ac yn anhygoel o camp — un o glasuron coll ffilmiau gwyddonias Prydeinig.
Life After Beth Gwe 31 Hydref — Iau 6 Tachwedd UDA/2014/89mun/15. Cyf: Jeff Baena. Gyda: Audrey Plaza, Dane DeHaan, John C. Reilly.
Mae Zach yn galaru am ei gariad, Beth, ac yn cael cysur o dreulio amser gyda’i rhieni hi, sy’n ei drin ef fel mab. Yna, un noson mae Beth yn ymddangos: mae yna dwll mawr yn y ddaear lle mae ei charreg fedd a dyw hi ddim yn cofio marw. Ar ôl wynebu ei sioc, mae Zach yn ei gael ei hun mewn gwynfyd. Ac mae diffyg cof Beth hyd yn oed wedi dileu’r ffaith ei bod hi’n awyddus i orffen eu perthynas ychydig cyn iddi farw. Ond wrth i amser fynd heibio, daw ei hymddygiad yn fwyfwy rhyfedd — ac nid hi yw’r unig un. Weithiau’n dyner, weithiau’n wyllt, mae’r ffilm hon yn ddoniol bob amser.
Sinema
029 2030 4400
NT Live Encore: A Streetcar Named Desire
In Order of Disappearance
O’r chwith i’r dde: NT Live Encore: A Streetcar Named Desire, In Order of Disappearance
28
Maw 7 + Sul 19 Hydref DG/2014/180mun/12A. Cyf: Benedict Andrews. Gyda: Gillian Anderson, Ben Foster, Vanessa Kirby. Wrth i fyd bregus Blanche ddadfeilio, mae hi’n troi at ei chwaer, Stella, am gysur. Ond, yn ei chwymp, daw Blanche wyneb yn wyneb â’r Stanley Kowalski creulon a didostur. Fersiwn drawiadol newydd o gampwaith oesol Tennessee Williams sy’n llawn emosiwn amrwd.
RSC: The Two Gentlemen of Verona Encore: Mer 1 Hydref DG/2014/180mun/12A. Cyf: Simon Godwin.
Mae Valentine a Proteus yn ffrindiau pennaf — tan i’r ddau ohonynt syrthio mewn cariad â Silvia, merch Dug Milan. Mae Proteus eisoes wedi tyngu llw i Julia, yn eu cartref yn Ferona, ac nid yw’r Dug yn credu bod Valentine yn deilwng o’i ferch. Caiff y cariadon eu hunain ar helfa wyllt drwy’r coed ac fe fydd yna gymhlethdodau di-ri i’w goroesi, heb sôn am herwyr ffyrnig, cyn daw cymod. Mae tocynnau i’r dangosiadau encore wedi’u recordio ymlaen llaw yn £13/£11/£10
Gwe 26 Medi – Iau 9 Hydref Norwy/2014/116mun/is-deitlau/15. Cyf: Hans Petter Moland. Gyda: Stellan Skarsgård, Kristofer Hivju, Bruno Ganz.
Yn y ffilm gyffro hon, sydd mor dywyll a chomig ag y mae eira’n wyn, down i adnabod Nils, Dinesydd y Flwyddyn, ym mynyddoedd gwyllt Norwy. Caiff y dathliadau eu difetha pan gaiff ei fab ei lofruddio. Yn benderfynol o ddial, mae ei weithredoedd yn tanio rhyfel rhwng y gangster fegan, ‘The Count’, a phennaeth y maffia Serbaidd, ‘Papa’. Nid ar chwarae bach y mae ennill brwydr o’r fath — ond mae gan Nils ddau beth o’i blaid: peiriannau trymion a lwc mwngrel.
Of Horses and Men Llun 29 Medi — Iau 2 Hydref
Gwlad yr Iâ/2013/81mun/is-deitlau/15. Cyf. Benedikt Erlingsson. Gyda: Ingvar E. Sigurdsson, Charlotte Bøving.
Wedi’i hadrodd mewn cyfres o vignettes, mae hon yn stori am bobl yng nghefn gwlad garw Gwlad yr Iâ a’r symbiosis a’r ymwahanu rhwng dynion a cheffylau. Mae yma olygfeydd godidog a rhoddir sylw hefyd nid yn unig i harddwch ceffylau ond i’w personoliaethau a’u hystumiau unigol. Cyd-blethir cariad a marwolaeth ac mae’r canlyniadau’n rhyfeddol. Gwelwn hynt a helynt pobl trwy lygaid a thrwy gyfrwng hiwmor sych y ceffylau.
chapter.org
Sinema
29
20,000 Days on Earth
Sineffonig
Noys R Us yng Nghlwb y Full Moon
Mae Sinema Chapter, ar y cyd â The Full Moon, yn cyflwyno nosweithiau ffilm Noys R Us. Unwaith y mis byddwn yn dangos y ffilmiau alt / roc / metel / pync gorau. Yfwch, ymlaciwch a mwynhewch rai o’r ffilmiau cerddorol mwyaf ffrwydrol erioed.
Mae tocynnau’n £5 a gellir eu prynu o www.chapter.org a The Full Moon.
Super Duper Alice Cooper Llun 20 Hydref
Drysau’n agor: 7pm. Ffilm yn dechrau 8pm.
UDA/2014/98mun/15. Cyf: Sam Dunn, Reginald Harkema, Scot McFadyen. Trwy gyfuniad o ddeunydd archif a chyfweliadau, mae’r ffilm yn adrodd hanes Vincent Furnier, mab i bregethwr a gododd ofn ar rieni ym mhobman fel Alice Cooper, seren roc y rhyfedd a’r bisâr. O’i ddechreuadau fel prif leisydd grŵp o ‘freaks’ o Phoenix yn y chwedegau i hedoniaeth ac enwogrwydd y saithdegau a’i ailddyfodiad fel brenin metel glam yn ystod yr wythdegau, gallwch weld Alice a Vincent yn brwydro am eu heneidiau’i gilydd ...
20,000 Days on Earth Gwe 26 Medi — Iau 2 Hydref
DG/2014/97mun/15. Cyf: Iain Forsyth, Jane Pollard. Gyda: Nick Cave, Kylie Minogue, Warren Ellis, Ray Winstone.
Gweledigaeth feiddgar gan yr artistiaid Ian Forsyth a Jane Pollard o brosesau artistig Nick Cave. Treuliwn ddiwrnod yn ei gwmni a chyfarfod â’r bobl sydd wedi cael dylanwad ar ei fywyd, yn bersonol ac yn broffesiynol. Yn cynnwys delweddau o’u berfformiadau trydanol ac eiliadau o hiwmor coeglyd, mae’r ffilm yn ddathliad o bŵer drawsnewidiol yr ysbryd creadigol.
Space is the Place Sul 19 Hydref
UDA/1974/85mun/15arf. Cyf: John Coney. Gyda: Sun Ra, Ray Johnson.
Proffwyd, digrifwr, siaman ac arweinydd band avantjazz. Mae Sun Ra yn trefnu cyngerdd i gyflwyno’i weledigaeth o gerddoriaeth fel iachawdwriaeth i’r gymuned ddu. Ond mae The Overseer, uwch-arglwydd satanaidd, yn benderfynol o’i rwystro rhag cyrraedd y bobl ac maent yn brwydro dros dynged yr alaeth. Cyfuniad rhyfedd a hwyliog o ‘blaxploitation’, gwyddonias a jazz rhydd — ac un o destunau allweddol Affroddyfodoliaeth. Os yw Get On Up a Space is the Place yn swnio’n apelgar, mae’n bosib y bydd Afrovibes o ddiddordeb i chi hefyd, gweler tudalennau 12-14 am fanylion
30
Sinema
029 2030 4400
Goltzius and The Pelican Company
Celfyddyd+Ffilm
Goltzius and The Pelican Company Gwe 3 — Iau 9 Hydref
DG/2014/128mun/18. Cyf: Peter Greenaway. Gyda: F. Murray Abraham, Giulio Berruti, Vincent Riotta. Ym 1590, mae’r arlunydd enwog o’r Iseldiroedd, Hendrik Goltzius, yn perswadio ei noddwr, Margrave o Alsace, i dalu am argraffiad arbennig o’r Hen Destament a fydd yn cynnwys darluniau gonest o straeon Beiblaidd erotig. Er mwyn gwneud y fargen yn fwy deniadol i’r llys, a Chwmni Argraffu Pelican, mae Goltzius yn cynnig llwyfannu dramateiddiadau byw o chwe chwedl, pob un yn arddangos tabŵ rhywiol gwahanol. Mae’r ffilm newydd ddireidus hon gan y cyfarwyddwr Cymreig chwedlonol Greenaway yn edrych ar dechnolegau newydd a’u perthynas â rhyw. + Trafodaeth Come Along Do gyda Gill Nicol ar ôl dangosiad Llun 6 Hydref. Pris tocynnau fydd £2.50 ac fe fyddant ar gael yn ein swyddfa docynnau ac ar-lein.
The Jarman Awards Mer 8 Hydref
DG/2014/65mun+Egwyl+65mun/12A.
Mae Rhaglen Deithiol Gwobr Jarman yn cyflwyno detholiad o waith ffilm sgrin sengl gan y deg artist ar restr fer Gwobr Jarman fawreddog Ffilm Llundain eleni: John Akomfrah, Sebastian Buerkner, Laura Buckley, Marvin Gaye Chetwynd, Steven Claydon, Redmond Entwistle, Iain Forsyth a Jane Pollard, Ursula Mayer, Rachel Reupke a Stephen Sutcliffe + Wedi’i ddilyn gan drafodaeth yng nghwmni Iain Forsyth a Jane Pollard. Bydd eu ffilm nhw 20,000 Days on Earth i’w gweld yn Chapter y mis hwn (manylion ar dudalen 27).
Episode III: Enjoy Poverty Sad 25 Hydref
Yr Iseldiroedd / 2008/90mun / dim tyst. Cyf: Renzo Martens.
Delweddau o dlodi yw cynnyrch mwyaf proffidiol y Congo o ran allforion — maent yn cynhyrchu mwy o refeniw nag allforion traddodiadol fel aur, diemwntau neu goco. Fodd bynnag, fel gyda’r allforion mwy traddodiadol, ychydig iawn o elw sy’n cyrraedd y bobl hynny sy’n darparu’r deunydd crai. Yng nghanol rhyfel ethnig ac ymelwa economaidd di-baid, mae Martens yn ceisio dysgu’r bobl dlawd i fanteisio ar eu hadnodd mwyaf. Enwyd y cyfarwyddwr Renzo Martens ar restr fer Artes Mundi 6 (mae Chapter yn un o ganolfannau partner y wobr). Gallwch ddarllen mwy am Artes Mundi 6 ar dudalennau 4-8. Mae gwaith Martens i’w weld yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd. Efallai y bydd diddordeb gennych hefyd yn Afrovibes, ar dudalennau 12-14, a ffilmiau Watch Africa, ar dudalennau 32-34.
Outcasting: Fourth Wall Festival (O:4W)
Ewch i’n gwe-fan i weld manylion ein dangosiadau cyffrous o ffilmiau byrion gan artistiaid drwy gydol mis Hydref. www.4wfilm.org
Sinema
Pride
Still the Enemy Within
31
Pride
chapter.org
Gwe 26 Medi — Iau 16 Hydref DG/2014/120mun/15. Cyf: Matthew Warchus. Gyda: Imelda Staunton, Bill Nighy, Dominic West, Paddy Considine, George MacKay, Freddie Fox, Jessie Cave, Sophie Evans. Haf 1984. Mae Margaret Thatcher yn Brif Weinidog ac mae Undeb Cenedlaethol y Glowyr ar streic. Yn y Gay Pride yn Llundain, mae ymgyrchwyr lesbiaidd a hoyw yn penderfynu codi arian i gefnogi teuluoedd y glowyr. Ond mae yna broblem — dyw’r NUM ddim fel petai’n fodlon derbyn eu cefnogaeth. Mae’r ymgyrchwyr yn penderfynu anwybyddu’r Undeb a mynd at y glowyr yn uniongyrchol, felly. Maent yn clustnodi pentref glofaol yng nghrombil Cymru ac yn cychwyn allan mewn bws mini. A dyna ddechrau stori wir ryfeddol ac angerddol am ddwy gymuned ymddangosiadol wahanol sy’n ffurfio partneriaeth orfoleddus. + Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1, Is-deitlau Meddal ar bedwar dyddiad, gweler y calendr am fanylion pellach. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai’r dyddiad hwn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau). + Ymunwch â ni am drafodaeth Lavender Screen ar ddydd Iau 2 Hydref gyda Stonewall Cymru ac aelodau o’r gymuned LGBTQ.
Maw 14 Hydref
DG/2014/112mun/15arf. Cyf: Owen Gower. Gyda: Wesley Lloyd.
Yn 1984, mae llywodraeth Geidwadol Margaret Thatcher yn brwydro’n ffyrnig ag undebau llafur Prydain, ac yn herio’r undeb mwyaf dylanwadol yn y wlad, Undeb Cenedlaethol y Glowyr. Ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, clywn am brofiadau rhai a oedd yn rhan o streic hiraf Prydain. Â deunydd archif prin, dyma olwg unigryw ar y digwyddiadau dramatig. + Sesiwn holi-ac-ateb gyda’r cyfarwyddwr, Owen Gower, a gwesteion arbennig.
The Riot Club
Gwe 31 Hydref — Iau 6 Tachwedd DG/2014/106mun/15. Cyf: Lone Scherfig. Gyda: Natalie Dormer, Sam Claflin, Douglas Booth.
Wedi’i gosod ym myd elite breintiedig Prifysgol Rhydychen, dilynwn Miles ac Alistair, dau fyfyriwr blwyddyn gyntaf sy’n benderfynol o ymuno â’r ‘Riot Club’ drwg-enwog, lle gall enw da person gael ei greu neu ei chwalu mewn un noson. Mae’r clwb yn fersiwn ffuglennol o’r Bullingdon Clwb enwog ac yn addasiad o’r ddrama wobrwyol, Posh. Mae’n waith sydd yn llawn cwestiynau pigog am cliques a choridorau grym gwleidyddiaeth Prydain. + Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai’r dyddiad hwn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).
32
Sinema
029 2030 4400
ˆ
Gwyl Gwobr Iris
Diwrnod Addysg iris Mer 8 Hydref 9am — 4pm
Diwrnod i bobl ifainc rhwng 14 a 18 oed sy’n edrych ar bob agwedd ar fyd ffilm, gan gynnwys marchnata, cyfarwyddo a pherfformio. Bydd yna gyfle hefyd i weld ffilmiau ac i gwrdd â’r gwneuthurwyr ffilm. Cyflwynir y diwrnod addysg ar y cyd ag Equiversal a thîm Gwobr Iris. Gweler www.irisprize.org/education am fanylion llawn.
Ffilmiau Byrion Pobl Ifainc Sad 11 Hydref
DU/2014/65mun/dim tyst.
Rhaglen o ffilmiau byrion wedi’u dethol o raglen Gwobr Iris 2014 ar gyfer cynulleidfa ifanc (dros 12 oed). Peth iaith gref yn bosib.
Boy Meets Girl Sad 11 Hydref
UDA/2014/95mun/15arf. Cyf: Eric Schaeffer. Gyda: Michael Welch, Michelle Hendley, Alexandra Turshen.
Comedi dyner sy’n archwilio’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn ddyn neu’n fenyw go iawn a pha mor bwysig yw dewrder — peidio a gadael i ofn eich atal rhag dilyn eich breuddwydion. Mae castio’r actor trawsryweddol, Michelle Hendley, yn y brif ran yn sicrhau dilysrwydd a sensitifrwydd y ffilm brydferth hon, sy’n croesi pob ffin o ran rhyw a chyfeiriadedd rhywiol.
Hands United Sad 11 Hydref
Ffrainc/2014/63mun/dim tyst. Cyf: Yannick Delhaye.
Disgrifir Israel yn aml fel gwlad lawn paradocsau. Ar y cyd ag ystyriaethau am ryfel a heddwch, mae gan y wlad hefyd ddiwylliant agored ac y mae wedi croesawu newid diwylliannol er gwaetha’ popeth. Mae’r ffilm ddogfen newydd hon yn archwilio’r modd y daeth Israel yn bwerdy ar gyfer sinema LGBT. Yn ystod y degawdau diwethaf, datblygodd cenhedlaeth o wneuthurwyr ffilm cyffrous, gan gynnwys ffefryn Iris, Eytan Fox; artistiaid sydd yn arloeswyr go iawn ac yn mynd ati i geisio gwyrdroi meddylfryd a cheidwadaeth crefyddol. Dilynir y dangosiad gan drafodaeth wedi’i chadeirio gan Nir Cohen, awdur y llyfr ‘Soldiers, Rebels, and Drifters – Gay Representation in Israeli Cinema’. Mae’r dangosiad yn rhan o ffocws yr ŵyl eleni ar sinema LGBT ac Israel.
chapter.org
Sinema
33
Gyda’r cloc o’r chwith uchaf: Hands United, Tru Love, Happy End
Ffilmiau Byrion — Rhaglen 5 Sad 11 Hydref Boygame Sweden/15 mun. Cyf: Anna Osterlund Nolskog.
The Package Brasil/2013/18mun. Cyf: Rafael Aidar.
Black is Blue UDA/2014/15 mun. Cyf: Cheryl Dunye.
Zebra Yr Almaen/2013/3mun. Cyf: Julia Ocker.
Bombshell UDA/14 mun. Cyf: Erin Sanger.
Ffilmiau Byrion Prydeinig Gorau — Rhaglen 2 Sad 11 Hydref Brace DG/24mun. Cyf: Sophy Holland, Alicya Eyo.
Happy End
Wannabe
Yr Almaen/2014/86mun/15arf. Cyf: Petra Clever. Gyda: Klaus Nierhoff, Meike Gottschalk, Sinha Gierke.
Butterfly
Sad 11 Hydref
Mae Lucca yn fyfyrwraig ar ei blwyddyn olaf yn yr ysgol ramadeg ac mae disgwyl iddi ennill marciau rhagorol yn ei harholiadau a sicrhau lle yn Harvard. Yn anffodus, caiff ei hun mewn trafferth â’r heddlu ac mae’n rhaid iddi gwblhau cyfnod o wasanaeth cymunedol mewn hosbis lleol, lle mae hi’n cyfarfod â Valerie. Yn benderfynol o gyflawni dymuniad olaf ei ffrind, Herma (80 oed), ac yn groes i ddymuniadau’r teulu, â Val a Lucca — ynghyd â llwch Herma — ar daith wyllt i’r Almaen ...
Tru Love
Sad 11 Hydref Canada/2013/87mun/15. Cyf: Kate Johnston, Shauna MacDonald. Gyda: Shauna MacDonald, Kate Trotter, Christine Horne.
Stori garu atgofus a hyfryd am fywydau tair o ferched. Mae Alice wedi colli ei gŵr ac, yn ei galar, wedi penderfynu ymweld â’i merch, Suzanne, yn y ddinas fawr. Â Suzanne yn rhy brysur i dreulio amser gyda’i mam, mae hi’n gofyn i’w chyfaill, Tru, gadw cwmni i Alice. Mae’r ffilm yn bortread pryfoclyd a didwyll o golled, cariad a derbyn; mae’r sgriptio a’r perfformiadau yn dod at ei gilydd i greu ffilm unigryw.
DG/12mun. Cyf: Marco Calabrese. DG/14mun. Cyf: Stuart McLaughlin.
Siren DG/23mun. Cyf: Marie Cooke.
We Are Fine DG/5mun. Cyf: Simon Savory.
Ffilmiau Byrion — Rhaglen 6 Sad 11 Hydref
Lives Under The Red Light Cambodia/2013/29mun. Cyf: Vanna Hem.
Middle Man DG/5mun. Cyf: Charlie Francis.
Remission DG/19mun. Cyf: Christopher Brown.
Aban + Korshid UDA/2013/15mun. Cyf: Darwin Serink.
FH2: Faghag2000 Awstralia/2012/12mun. Cyf: Em LaGrutta.
I gael mwy o wybodaeth am ffilmiau eraill yr ŵyl a’r rhaglenni eraill o ffilmiau byrion, gweler www.irisprize.org.
Sinema
029 2030 4400
Ida
A Most Wanted Man
Gwe 3 — Iau 16 Hydref
Gwe 10 — Iau 23 Hydref
Gwlad Pwyl/2014/82mun/is-deitlau/12A. Cyf: Pawel Pawlikowski. Gyda: Agata Kulesza, Agata Trzebuchowska, Dawid Ogrodn.
DG/2014/122mun/15. Cyf: Anton Corbijn. Gyda: Philip Seymour Hoffman, Issa Karpov, Willem Dafoe, Rachel McAdams, Robin Wright.
O’r chwith i’r dde: Ida, A Most Wanted Man
34
Yng Ngwlad Pwyl yn y 1960au, mae lleian ifanc o’r enw Anna yn cael ei hanfon i ymweld â Wanda — modryb iddi nad yw hi’n ei hadnabod, a menyw y mae ei bywyd louche fel alcoholig yn wrthgyferbyniad llwyr â bodolaeth naïf Anna. Mae Wanda’n datgelu — yn araf a di-emosiwn — bod Anna wedi ei geni i deulu Iddewig a bod ei rhieni wedi eu llofruddio yn ystod y rhyfel ac mae hi’n cymryd ei nith gyda hi ar daith i ddod o hyd i’w beddau. Yn ystod y daith, maent yn clywed cyfrinachau o’r gorffennol a hynny’n ennyn chwilfrydedd newydd yn Anna am y byd y mae hi ar fin ei adael. Drama gain a diaddurn sy’n disgrifio â symlrwydd a hiwmor lwybrau’r menywod hyn drwy fywydau sydd wedi eu heffeithio am byth gan hanes. Enillydd y Grand Prix yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Llundain 2014
Moviemaker Chapter
Ar ôl i fewnfudwr hanner-Mwslim hanner-Chechen sydd wedi cael ei arteithio’n enbyd gyrraedd cymuned Islamaidd Hamburg i hawlio ffortiwn ei dad, mae asiantaethau diogelwch yr Almaen a’r Unol Daleithiau fel ei gilydd yn cadw llygad barcud ar y sefyllfa. Â’r cloc yn ticio, rhaid iddyn nhw ddod o hyd i wir hunaniaeth y gŵr. A yw e’n ddioddefwr gormes neu’n eithafwr a’i fryd ar derfysg? Yn seiliedig ar y nofel gan John le Carré, mae hon yn stori glyfar, lawn tensiwn am ysbïo ôl-9/11 ac yn cynnwys perfformiadau canolog grymus. + Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1, Is-deitlau Meddal ar nifer o ddyddiau, gweler y calendr am fanylion pellach. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai’r dyddiad hwn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).
Before I Go to Sleep
Llun 6 Hydref
Gwe 10 — Iau 16 Hydref
Sesiwn reolaidd sy’n galluogi i gyfarwyddwyr annibynnol ddangos ffilmiau byrion. I gael mwy o wybodaeth am sut i ddangos eich ffilm chi, neu unrhyw wybodaeth arall, e-bostiwch moviemaker@ chapter.org. O bryd i’w gilydd, dangosir ffilmiau sy’n cynnwys deunydd anaddas i bobl iau. Awgrymwn, felly, bod sesiynau Moviemaker Chapter yn addas ar gyfer pobl 18+ oed.
DG/2014/92mun/15. Cyf: Rowan Joffe. Gyda: Nicole Kidman, Colin Firth, Mark Strong.
Ffilm gyffro dywyll gan Joffe (28 Weeks Later, Brighton Rock). Mae Christine yn deffro bob bore wedi anghofio’r diwrnod blaenorol – effaith damwain drawmatig yn y gorffennol. Ond mae ei bywyd yn newid pan ddaw gwirioneddau brawychus newydd i’r wyneb a’i gorfodi i gwestiynu pawb a phopeth o’i chwmpas. + Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1, Is-deitlau Meddal ar ddau ddyddiad, gweler y calendr am fanylion pellach. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai’r dyddiad hwn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).
Sinema
Magic in the Moonlight
Withnail and I
Gwe 17 — Iau 30 Hydref
Sad 18 – Maw 21 Hydref
UDA/2014/97mun/12A. Cyf: Woody Allen. Gyda: Colin Firth, Emma Stone, Eileen Atkins, Marcia Gay Harden. Wedi’i gosod ym mhlastai cyfoethog de Ffrainc a byd bywiog Oes Jazz y Cote D’Azur ffasiynol, mae’r gomedi ramant newydd hon gan Allen yn dilyn y cymhlethdodau personol a phroffesiynol sy’n codi ar ôl i Sais gyrraedd y fan a datgelu achos posib o dwyll.
DG/1987/107mun/15. Cyf: Bruce Robinson. Gyda: Richard E. Grant, Paul McGann, Richard Griffiths, Ralph Brown.
35
O’r brig: Magic in the Moonlight, Maps to the Stars
chapter.org
+ Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1, Is-deitlau Meddal ar dri dyddiad, gweler y calendr am fanylion pellach. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai’r dyddiad hwn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).
Maps to the Stars Sad 18 — Iau 23 Hydref Canada/2014/111mun/18. Cyf: David Cronenberg. Gyda: Julianne Moore, Mia Wasikowska, Olivia Williams, Sarah Gadon.
Golwg frathog a ffraeth ar deulu yn Hollywood y mae ei haelodau’n profi gwahanol gyfnodau enwogrwydd. Maent yn eiddigeddus o’i gilydd ac mae ysbrydion di-baid o’u gorffennol yn dod i’r amlwg mewn ffilm ddychan iasol gan Cronenberg (A History of Violence, Videodrome).
Mae Llundain y 1960au yn frwnt a di-ramant ac mae dau actor aflwyddiannus wedi cael llond bol ar bentyrrau enfawr o lestri brwnt a delwyr cyffuriau gwallgo’. Maent yn penderfynu gadael eu fflat ffiaidd a mynd ar wyliau i gefn gwlad, i aros yng nghartref ewythr Withnail, Monty. Ond nid mater hawdd yw goroesi yng nghefn gwlad ac mae pethau’n mynd o ddrwg i waeth â dyfodiad Monty ei hun. Â’i sgript finiog, hynod ddyfynadwy a pherfformiadau perffaith, mae hon yn glasur cyfoes.
36
Sinema
029 2030 4400
Rydym yn falch iawn o allu cyflwyno rhai o ffilmiau gorau sinema gyfoes Affrica drwy gyfrwng Gŵyl Ffilm Watch-Africa: dathliad o ben-blwydd y De Affrica rhydd yn 20 oed a dathliad hefyd o Affroddyfodoliaeth, sy’n cynnwys ffilm fud brin â cherddoriaeth fyw yn ogystal â thrafodaethau panel a gweithdai. Bydd yna wythnos lawn-dop o ddangosiadau a digwyddiadau gwych i’w mwynhau ochr yn ochr â gŵyl Afrovibes. www.watchafrica.co.uk
1994: Bloody Miracle Llun 20 Hydref
De Affrica/2014/90mun/15arf. Cyf: Meg Rickards, Bert Haitsma.
Wrth i Dde Affrica baratoi i ddathlu 20 mlynedd ers dyfodiad democratiaeth yn 1994, mae’n anodd credu y bu bron i ‘Wyrth Mandela’ beidio â digwydd. Mewn ton o drais a ‘sgubodd ar hyd a lled y wlad, roedd rhai’n benderfynol o danseilio’r etholiadau rhydd cyntaf. Nawr, am y tro cyntaf, mae’r rheiny a oedd yn gyfrifol am farwolaethau ac anhrefn di-ri yn egluro sut y daethant o fewn dim i rwygo De Affrica’n ddarnau mân. Golwg iasol ar yr hyn y gwnaeth y dynion caled hyn i rwystro democratiaeth — ac hefyd ar y modd yr aethant ati wedi hynny, yn eu ffyrdd eu hunain, i geisio cymod anghysurus â ‘Chenedl yr Enfys’. + Trafodaeth banel i ddilyn
Four Corners Maw 21 Hydref
De Affrica/2013/114mun/TiCh. Cyf: Ian Gabriel. Gyda: Brendon Daniels, Jezzriel Skei, Lindiwe Matshikiza.
Mae Leila, meddyg a hyfforddodd yn Llundain, yn dychwelyd i’r Cape Flats drwg-enwog ar gyfer angladd ei thad ac yn dod ar draws ffrind o’i plentyndod, Farakahn, troseddwr diwygiedig sydd newydd ei ryddhau o’r carchar. Mae hi’n cael ei thynnu i mewn i’w fyd ef wrth iddo geisio gosod esiampl i’w fab Ricardo, sy’n chwaraewr gwyddbwyll rhyfeddol ac yn cael ei ddenu ar y naill law gan ryfel y bwrdd gwyddbwyll a’r bri a ddaw o ymuno â gang stryd pwerus.
Life Above All Mer 22 Hydref
De Affrica/2010/100mun/12Aarf. Cyf: Oliver Schmitz. Gyda: Khomotso Manyaka, Keaobaka Makanyane, Harriet Lenabe.
Ar ôl marwolaeth ei chwaer newydd-anedig, mae Chanda, 12 oed, yn clywed si sy’n lledaenu fel tân gwyllt drwy ei phentref bychan ac yn chwalu ei theulu. Wedi synhwyro bod y clecs yn deillio o ragfarn ac ofergoeliaeth, mae Chanda’n gadael ei chartref i geisio’r gwirionedd. Drama bwerus am ferch ifanc sy’n brwydro yn erbyn yr ofn a’r cywilydd sydd wedi gwenwyno ei chymuned a ffilm sy’n cynnwys perfformiad cyntaf anhygoel gan Khomotso Manyaka.
+ ffilm fer
1994: Bloody Miracle
Watch Africa
Sinema
37
Les Saignantes
Felix
Camerŵn/2005/97mun/is-deitlau/dim tyst. Cyf: Jean-Pierre Bekolo. Gyda: Adèle Ado, Dorylia Calmel, Emile Abossolo M’bo.
De Affrica/2013/97mun/PGarf. Cyf: Roberta Durrant. Gyda: Okwethu Banisi, Andrea Dondolo, Nicholas Ellenbogen.
Ffilm wedi’i gosod mewn Camerŵn ddychmygol yn 2025. Mae dwy wraig ifanc brydferth yn defnyddio eu harddwch i ennill ffafrau’r dynion pwerus mewn cymdeithas lwgr. Ond, ar ôl i un o’r dynion pwerus hyn farw, dyma gychwyn ar gyfres o ddigwyddiadau sy’n cynnwys pen toredig, cymdeithas gyfrinachol o fenywod a chenedl gyfan sy’n wynebu trybini. Ffilm gyffro wyddonias ag iddi neges wleidyddol bwysig. + Ymunwch â ni am drafodaethau am ffilm Affricanaidd ac Affroddyfodoliaeth.
Mae Felix Xaba, 13 oed, yn breuddwydio am fod yn sacsoffonydd fel ei ddiweddar dad, ond mae ei fam, Lindiwe, yn meddwl taw cerddoriaeth y diafol yw jazz. Ar ôl i Felix adael ei ffrindiau yn y ‘township’ i gychwyn ysgoloriaeth gerddorol gradd wyth mewn ysgol breifat elitaidd, mae’n herio ei fam ac yn troi at ddau aelod mewn oed o hen fand ei dad i’w helpu i baratoi ar gyfer cyngerdd jazz yr ysgol.
Gyda’r cloc o’r brig: Four Corners, Hear Me Move, Life Above All
chapter.org
Iau 23 Hydref
Siliva The Zulu Gwe 24 Hydref
De Affrica, Yr Eidal/1928/64mun/dim tyst. Cyf: Attilio Gatti.
Wedi’u hysbrydoli gan Nannook o’r Gogledd, aeth y fforiwr Attilio Gatti a’r anthropolegydd Lidio Cipriani ati i wneud ffilm a fyddai’n portreadu’r brodorion Zulu ac yn adrodd stori wedi’i sgriptio am wrthdaro cariad. Mae’r clasur hwn, y tybiwyd ei fod wedi mynd ar goll ond a gafodd ei ailddarganfod yn ddiweddar, yn cynnwys golygfeydd hanesyddol amhrisiadwy o fywyd bob dydd, gan gynnwys defodau iachau, dawnsio a seremonïau hudol. + Gyda chyfeiliant piano byw gan Juwon Ogungbe a thrafodaeth i ddilyn.
Sad 25 Hydref
Hear Me Move Sad 25 Hydref
De Affrica/2014/104mun/15arf. Cyf: Scottnes L. Smith. Gyda: Wandile Molebatsi.
Mae Muzi yn fab i ddawnsiwr stryd ‘pantsula’ anhygoel ac yn cychwyn allan ar daith o hunanddarganfyddiad er mwyn cael y gwir am farwolaeth ei dad. Ar ôl ymuno â phartner dawns ei dad, caiff ei hun yng nghanol cystadleuaeth chwerw sy’n ei wthio ef i’r eithaf. A fydd Muzi yn fodlon derbyn ei dynged? Yn ysbryd ffilmiau Americanaidd am ddawnsio stryd, mae hon yn ffilm annwyl a hynod ddifyr.
Sinema
029 2030 4400
‘71
Manuscripts Don’t Burn
Gwe 24 Hydref — Iau 6 Tachwedd
Sul 26 — Iau 30 Hydref
DG/2014/99mun/15. Cyf: Yann Demange. Gyda: Jack O’Connell, Sean Harris, Sam Reid.
Iran/2013/125mun/is-deitliau/15. Cyf: Mohammad Rasoulof.
O’r chwith i’r dde: ‘71, Manuscripts Don’t Burn
38
Yn y ddrama afaelgar a digyfaddawd hon, mae Gary, sydd newydd gael ei recriwtio gan y fyddin Brydeinig, yn cael ei wahanu oddi wrth ei uned. Wrth i derfysg dychrynllyd ffrwydro ar strydoedd Belffast, rhaid iddo oroesi noson danllyd ac ysgytwol a dysgu gwahaniaethu rhwng cyfaill a gelyn.
Boyhood
Gwe 24 – Mer 29 Hydref UDA/2014/166mun/15. Cyf: Richard Linklater. Gyda: Patricia Arquette, Ellar Coltrane, Ethan Hawke, Lorelei Linklater.
Wedi’i ffilmio dros gyfnod o 12 mlynedd gyda’r un cast, mae’r ffilm arloesol hon yn adrodd stori am ddod i oed trwy lygaid plentyn o’r enw Mason. Gwelwn fywyd a datblygiad Mason a thystiwn i lwyddiannau a siomedigaethau ei deulu, o’i flwyddyn gyntaf yn yr ysgol tan ei lencyndod. Mae yma deithiau a chiniawau teuluol, pen-blwyddi a seremonïau graddio, ynghyd â’r holl eiliadau bychain yn y canol.
Mae’r ffilm gyffro wleidyddol danbaid hon yn tynnu ar ddigwyddiadau go iawn er mwyn adrodd stori rhy gyffredin o lawer am ormes yn yr Iran gyfoes. Mae Fourouzadeh yn gyn-garcharor gwleidyddol ac yn cael ei fonitro’n ofalus gan y gwasanaethau diogelwch. Ond mae e wedi bod yn ysgrifennu ei hunangofiant yn y dirgel ac yn bwriadu gadael y wlad wedi iddo gael ei gyhoeddi. Mae Khosrow yn despret am arian i dalu am driniaeth ei fab. Ei waith ef yw cael gafael ar y llawysgrif ymfflamychol. Mae’r ffilm yn ffrwydrad tawel o ddicter gwrth-awdurdodol gan gyfarwyddwr a waharddwyd rhag gwneud ffilmiau am 20 mlynedd. Ni ellir enwi’r cast rhag iddynt ddioddef erledigaeth a dial.
The Galapagos Affair: Satan Came to Eden Mer 29 + Iau 30 Hydref UDA/2013/120mun/15arf. Cyf: Daniel Geller, Dayna Goldfine. Gyda: Cate Blanchett, Sebastian Koch, Thomas Kretschmann.
Stori afaelgar am ddelfrydiaeth sy’n mynd o chwith, wedi’i hadrodd ar sail llythyrau, dyddiaduron a ffilmiau cartref, ac wedi’u gosod ar dir creulon ond hudolus Ynysoedd y Galapagos. Yn ystod y 1920au, aeth cwpwl o’r Almaen a oedd yn chwilio am lonydd i fyw ar ynys anghyfannedd Floreana — ac fe’u gwylltiwyd pan benderfynodd cwpwl arall wneud yr un peth yn union. Ond dim ond wedi i’r ‘Farwnes’ hunanddiffiniedig gyrraedd y daeth y trafferthion go iawn. Dameg am yr ymchwil am baradwys a’r hyn sy’n digwydd pan fo llond llaw o bobl unigolyddol yn setlo ar yr un ynys fechan i geisio rhoi ar waith eu syniadau gwahanol am Eden.
chapter.org
Sinema
39
Ffilmiau i’r Teulu Cyfan
Noddir gan Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk 02920 666688
Moomin and Midsummer Madness
Detholiad o ffilmiau gwych i’r teulu cyfan bob dydd Sadwrn a dydd Sul am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn. Cysylltwch â ni i gael manylion am ein Dangosiadau mewn Amgylchiadau Arbennig i deuluoedd.
Carry on Screaming
Bob dydd Gwener am 11am, mae Carry On Screaming yn galluogi i rieni neu ofalwyr weld ffilm heb orfod poeni y bydd eu babi’n aflonyddu ar eraill. Gweler y calendr am fanylion y dangosiadau arbennig hyn ar gyfer y rheiny â babanod dan flwydd oed.
The Nut Job
Sad 4 + Sul 5 Hydref UDA/2014/86mun/U. Cyf: Peter Lepeniotis. Gyda: Will Arnett, Brendan Fraser, Liam Neeson.
Mae gwiwer alltud hunanol yn ei gael ei hun yn helpu ei gyn-gyfeillion yn y parc i ddwyn o siop gnau er mwyn sicrhau eu bod yn goroesi. Ond mae eu cyrch yn fodd o guddio cyrch arall — lladrad banc gan gang o ddynion.
Moomin and Midsummer Madness Sul 12 Hydref
Y Ffindir/2008/88mun/U. Cyf: Maria Lindberg. Gyda: Outi Alanen, Stig Hoffmeyer, Vuokko Hovatta.
Mae ffrwydrad folcanig yn achosi llifogydd yn Nyffryn Moomin ac yn gorfodi’r teulu i chwilio am loches mewn theatr sy’n arnofio. A digon o bropiau a gwisgoedd i’w difyrru, maent yn creu’r cynhyrchiad llwyfan Moomin cyntaf erioed.
The Boxtrolls
Sad 18 + Sul 19 Hydref DG/2014/100mun/PG. Cyf: Anthony Stacchi, Graham Annable. Gyda: Simon Pegg, Elle Fanning, Toni Collette.
Mae bachgen amddifad ifanc a godwyd gan gasglwyr sbwriel mewn ogof danddaearol yn ceisio achub ei gyfeillion rhag drwgweithredwr creulon.
+ Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad o The Boxtrolls yn sinema 1, Is-deitlau Meddal ar ddydd Sul 19 Hydref, 11am. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai’r dyddiad hwn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).
Earth to Echo Fri 24 – Thu 30 Oct
USA/2014/91mins/PG. Dir: Dave Green. With: Teo Halm, Astro, Reese Hartwig.
Mae Tuck, Munch, Alex ac Emma yn ffrindiau anwahanadwy ac mae eu bywydau ar fin newid ar ôl iddynt dderbyn cyfres ryfedd o arwyddion ar eu ffônau symudol. Maent yn mynd ati i chwilio am ffynhonnell y negeseuon ac yn dod o hyd i rywbeth hollol anhygoel: alien bach sydd yn sownd ar y Ddaear *Bydd Taflenni Gweithgareddau Teuluol hefyd ar gael.
Super 8
Gwe 31 Hydref — Sul 2 Tachwedd UDA/2011/112mun/12A. Cyf: JJ Abrams. Gyda: Elle Fanning, AJ Michalka, Kyle Chandler
Yn ystod haf 1979, mae grŵp o ffrindiau mewn tref fechan yn Ohio yn gweld damwain trên ddifrifol tra’n gwneud ffilm ‘super 8’ ac yn dechrau amau nad damwain ydoedd mewn gwirionedd. Toc wedyn, mae yna gyfres o ddiflaniadau a digwyddiadau anesboniadwy yn y dref ac mae’r Dirprwy lleol yn ceisio datguddio’r gwir — sydd yn fwy brawychus nag y gallai unrhyw un ohonynt fod wedi ei ddychmygu.
40
Archebu / Gwybodaeth
029 2030 4400
GWYBODAETH Sut i Archebu Tocynnau
Gwybodaeth
Dros y ffôn — ffoniwch ni ar 029 2030 4400. Rydym yn derbyn pob un o’r prif gardiau credyd. Galwch heibio — mae ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 11am-8.30pm, ac ar y Sul o 3pm–8.30pm. Ar-lein: Gallwch archebu ar www.chapter.org bob awr o’r dydd a’r nos Consesiynau: Mae cyfraddau disgownt ar gael i fyfyrwyr, pobl dros 60 oed, plant, y di-waith, pobl anabl, deiliaid cerdyn MAX ac i Ffrindiau Chapter a deiliaid Cerdyn Chapter. Bydd angen i chi gyflwyno prawf o’ch cymhwyster i dderbyn cyfradd ostyngol. Archebion grŵp: Prynwch 8 tocyn ac fe gewch chi’r 9fed yn RHAD AC AM DDIM. Noder os gwelwch yn dda • dim ond un disgownt y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw un adeg • rydym yn hapus i dderbyn archebion ymlaen llaw ond ni allwn gadw tocynnau i’r naill ochr • os cyrhaeddwch chi’n hwyr mae hi’n bosib y cewch chi’ch atal rhag mynychu eich digwyddiad. Cyflwynir rhai o’n ffilmiau â Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ond nid yw’r wybodaeth hon bob amser ar gael ar adeg argraffu’r cylchgrawn. Gweler ein gwe-fan am fanylion neu piciwch draw i’r Swyddfa Docynnau yn ystod yr wythnos y mae’r ffilm yn cael ei rhyddhau.
Cwmnïau ac Artistiaid Cysylltiedig Mae Chapter yn gartref i gwmnïau theatr, cwmnïau dawns, stiwdios animeiddio, gwneuthurwyr printiau, crochenwyr, dylunwyr graffeg, dylunwyr deunydd symudol, cyfansoddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, cyhoeddwyr cylchgronau, artistiaid annibynnol a llawer iawn mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.
Sinema Cyn 5pm O 5pm ymlaen Llawn £4.50 (£4.00) £7.90 (£7.20) Cons £3.50 (£3.00) £5.80 (£5.10) Cerdyn + Cons £3.00 (£2.50) £5.00 (£4.50) DISGOWNT DYDD MAWRTH Tocynnau’r holl brif ddangosiadau — £4.40
Gweithdai a Dosbarthiadau Rydym yn cynnal amrywiaeth eang o weithdai dyddiol a dosbarthiadau gydag ymarferwyr annibynnol, gan gynnwys ballet, zumba, ioga, crefft ymladd, massage i fabanod, cerddoriaeth i blant, pilates, tango, fflamenco, ysgrifennu creadigol, gwersi cerddoriaeth a mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.
Sut i gyrraedd Chapter Fe ddewch chi o hyd i ni yn Nhreganna, i’r gorllewin o ganol y ddinas. Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE Ar Droed Mae hi’n daith gerdded hamddenol o ryw 20 munud o ganol y ddinas. Ar Fws Mae bysus rhif 17, 18 a 33 yn aros gerllaw ac yn gadael bob pum munud o ganol y ddinas. Ar Feic Mae digon o raciau beic ar flaen yr adeilad. Parcio Mae gennym faes parcio yng nghefn yr adeilad ac mae meysydd parcio lleol eraill wedi eu nodi ar y map. Gofynnwn i chi barchu ein cymdogion os gwelwch yn dda drwy osgoi parcio mewn strydoedd cyfagos.
Prisiau ymlaen llaw/ar-lein mewn cromfachau. Mae “Ymlaen llaw” yn golygu unrhyw bryd cyn diwrnod y dangosiad.
aff nd Lla
nad rch
ad King’s Ro
ane
Road
cen res mC ha nd Wy
rn Seve
L Gray
. Library St
H am i l t o n
St
t
St. ay
Treganna
Heol Ddwy rein i o l y B o n t F a en
Lec h kwit
Penllyn Rd.
Harve
St Talbot
Or c h a r d P l.
Gr
Church Rd.
y Fa
Springfield Pl.
St. Gray
Market Pl. treet yS
e St. Glynn
d Roa
l Heo
o 6pm
rt S
t.
Road
Earle Pl.
A l be
P — meysydd parcio rhad ac am ddim — rac feics
— arhosfan bysus
I Ganol Dinas Caerdydd ton
ling Wel
et
Stre
Mynediad i bawb Mae Chapter yn croesawu ymwelwyr anabl. Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad penodol ffoniwch ein swyddfa docynnau ar 029 2030 4400, minicom 029 2031 3430.
chapter.org
Cymryd Rhan
41
CYMRYD RHAN Cerdyn CL1C
Cadwch mewn cysylltiad
Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawrlwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!
Ymunwch â ni ar-lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.
Ffrindiau Chapter Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40
eAmserlen rad ac am ddim eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch adam.chard@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.
Cynllun Myfyrwyr Chapter Ydych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth am ddim a manteisio ar gynigion arbennig nodedig, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Jennifer — jennifer.kirkham@chapter.org www.chapter.org/cy/aelodaeth-myfyrwyr-chapter
Hoffai Chapter gydnabod cefnogaeth hael y sefydliadau a’r grwpiau canlynol:
Landfill Community Fund Esmée Fairbairn Foundation EU Culture Programme The Baring Foundation Garfield Weston Foundation Foyle Foundation Biffa Award Colwinston Charitable Trust Admiral Group plc Moondance Foundation Foundation for Sport and the Arts Trusthouse Charitable Foundation Community Foundation in Wales BBC Children in Need The Waterloo Foundation ScottishPower Green Energy Trust The Welsh Broadcasting Trust SEWTA
Richer Sounds The Clothworkers’ Foundation Momentum WRAP The Henry Moore Foundation Google The Principality Jane Hodge Foundation Simon Gibson Charitable Trust People’s Postcode Trust Dunhill Medical Trust Legal & General Institut für Auslandsbeziehungen e.V Millennium Stadium Charitable Trust The Ernest Cook Trust Lloyds TSB Morgan Signs Garrick Charitable Trust
Barclays Arts & Business Cymru Penderyn The Austin & Hope Pilkington Trust Singapore International Foundation Puma Hotels Collection: Cardiff Angel Hotel Cardiff Airport Wales Arts International Gibbs Charitable Trust Ceredigion Community Scheme The Steel Charitable Trust The Boshier-Hinton Foundation Taylor Wimpey 1st Office Oakdale Trust Dipec Plastics Nelmes Design
The Coutts Charitable Trust Bruce Wake Charity Funky Monkey Feet Finnis Scott Foundation Unity Trust Bank Hugh James Contemporary Art Society for Wales The Dot Foundry JVH Gidden & Rees Western Power Distribution Follett Trust Arts & Kids Cymru Canton High School Girl’s Reunion Co-operative Group Renault Cardiff Embassy of Belgium Queensland Government
We ask all our audience members to refrain from eating and drinking in the cinema auditoria, except for bottles of water. Gofynnir i aelodau’r gynulleidfa beidio â bwyta nac yfed yn y sinema. Gallwch fynd â photeli o ddŵr i’r sinema gyda chi.
AUDIO DESCRIPTION / Disgrifiadau Sain
Soft SubtitleS / Is–deitlau meddal
Sat 18 The Boxtrolls (PG) p39 11.00 + 3.00 Withnail and I (15) p35 5.45 Magic in the Moonlight (12A) p35 Sad 6.00 A Most Wanted Man (15) p34 8.00 Maps to the Stars (18) p35 8.15 11.00 The Boxtrolls (PG) p39 2.30 Sun 19 The Boxtrolls (PG) p39 Sul NT Encore: A Streetcar Named Desire (12A) p28 1.30 Space is the Place (15) p29 5.00 Maps to the Stars (18) p35 6.15 Withnail and I (15) p35 7.00 Magic in the Moonlight (12A) p35 8.30 Mon 20 Watch Africa: 1994: Bloody Miracle (adv15) p36 5.15 Maps to the Stars (18) p35 5.45 Afrovibes: Rainbow Scars p13 8.00 8.15 Llun + discussion A Most Wanted Man (15) p34 Magic in the Moonlight (12A) p35 8.30 Tue 21 Westworld (15) p25 2.30 Watch Africa: Four Corners (ctba) p36 5.45 Afrovibes: Rhetorical p13 8.00 Maw Magic in the Moonlight (12A) p35 6.00 Withnail and I (15) p35 8.15 Maps to the Stars (18) p35 8.30 District 9 + Lecture p21 2.30 A Most Wanted Man (15) p34 10.30 + 8.20 Afrovibes: The Soil p14 8.00 Wed 22 A Most Wanted Man (15) p34 Mer Maps to the Stars (18) p35 6.00 Watch Africa: Life Above All + short (adv12A) p36 6.00 Magic in the Moonlight (12A) p35 8.15 5.45 Afrovibes: Uncles and Angles 8.00 Magic in the Moonlight (12A) p35 10.30 + 6.00 Watch Africa: Les Saignantes (no cert) p37 Thu 23 Iau Maps to the Stars (18) p35 2.30 + 8.20 + discussion + Dark Cell p14 A Most Wanted Man (15) p34 8.15 Carry on Screaming: Magic in… (12A) p35 11.00 Boyhood (15) p38 2.30 + 8.00 Afrovibes: Skierlik p15 8.00 Fri 24 Gwe Earth to Echo (PG) p39 3.00 ’71 (15) p38 5.45 Watch Africa: Siliva the Zulu (no cert) p37 6.00 Magic in the Moonlight (12A) p35 8.15 Sat 25 Watch Africa: Felix (advPG) p37 11.00 + 3.00 Episode III: Enjoy Poverty (no cert) p30 12.00 Afrovibes: Biko’s Quest p15 8.00 Sad Magic in the Moonlight (12A) p35 6.00 Watch Africa: Hear Me Move (adv15) p37 5.40 ’71 (15) p38 8.15 Boyhood (15) p38 7.50 Earth to Echo (PG) p39 11.00 Earth to Echo (PG) p39 2.00 Sun 26 Sul Dr Strangelove (PG) + intro p25 5.00 Boyhood (15) p38 4.00 Magic in the Moonlight (12A) p35 7.30 Manuscripts Don’t Burn (15) p38 7.15 Mon 27 Manuscripts Don’t Burn (15) p38 6.00 Magic in the Moonlight (12A) p35 5.45 Llun ’71 (15) p38 8.30 Boyhood (15) p38 7.50 Tue 28 Earth to Echo (PG) p39 11.00 Magic in the Moonlight (12A) p35 10.30 Dr Strangelove (PG) p25 2.30 The Day the Earth Caught Fire (PG) p25 6.00 Maw ’71 (15) p38 6.15 Manuscripts Don’t Burn (15) p38 8.15 Magic in the Moonlight (12A) p35 8.20 Wed 29 Earth to Echo (PG) p39 11.00 Boyhood (15) p38 10.30 Caitlin p19 6.30 + 8.30 Mer Manuscripts Don’t Burn (15) p38 2.30 Manuscripts Don’t Burn (15) p38 5.45 Magic in the Moonlight (12A) p35 6.00 The Galapagos Affair: Satan Came… (adv15) p38 8.20 ’71 (15) p38 8.15 Thu 30 Earth to Echo (PG) p39 11.00 ’71 (15) p38 10.30 Caitlin p19 6.30 + 8.30 The Galapagos Affair: Satan Came… (adv15) p38 2.30 The Galapagos Affair: Satan Came… (adv15) p38 5.45 Iau ’71 (15) p38 6.00 Manuscripts Don’t Burn (15) p38 8.20 Magic in the Moonlight (12A) p35 8.15 Fri 31 Carry on Screaming: Super 8 (12A) p39 11.00 Abertoir: Cold Cuts (adv15) p26 4.00 Transition p19 7.00 Gwe Super 8 (12A) p39 3.00 Abertoir: Coherence (adv15) p26 6.00 Life After Beth (15 ) p27 6.15 Bad Film Club: The Faculty (15) p26 8.00 The Riot Club (15) p31 8.30 Abertoir: The House at the End… (adv15) p27 10.00 Abertoir: Lifeforce (18) p27 12.00 Artes Mundi 6 at Chapter, p4-9, Fri 24 Oct – Sun 22 Feb 2015
3.30-5.00 9.00
1.00-12.00
Halloween Film Activity Day: Super 8 p21
Music Geek Monthly p20
9.30-3.30
8.00
Animation for Young People p21 5.30-7.00 on the Autistic Spectrum
Film Activity Day: 9.30-3.30 Earth to Echo p21 Clonc yn y Cwtch p20 6.30-8.00 Introduction to Sci-Fi Film p23 7.00-9.00
Township Café + Festival Fringe p15 Offsite at Caerphilly Castle: 5.00 Willy Wonka… (PG) p24 Offsite at Caerphilly Castle: 8.00 Frankenstein (PG) p24 Township Café + Festival Fringe p15 Offsite at Caerphilly Castle: 5.00 Wizard of Oz (PG) p24 Offsite at Caerphilly Castle: 8.00 Invasion of the Bodysnatchers (PG) p24 Chapter Sewcial p21 3.30-5.00
Township Café + Festival Fringe p15 Animation for Young People p21 5.30-7.00 on the Autistic Spectrum Township Café + Festival Fringe p15
Township Café + Festival Fringe p15 AS/A2 Film Study Screening: 10.45 Tsotsi p21 Clonc yn y Cwtch p20 6.30-8.00 Offsite: Noys R Us p29 7.00 Introduction to Sci-Fi Film p23 7.00-9.00 Township Café + Festival Fringe p15 AS/A2 Film Study Screening: 10.00
Chapter Sewcial p21 Sunday Jazz p20
Oktoberfest p11
Theatre / Theatr
9.00–4.00 5.30-7.00
Iris Education Day p32 Animation for Young People on the Autistic Spectrum p21 SWDFAS p20
6.30-8.00 7.00-9.00
5.00-11.00 5.00-12.30 8.30
Oktoberfest p11 Oktoberfest p11 The Drones Comedy Club p20
Oktoberfest p11 5.00-11.00 Animation for Young People p21 5.30-7.00 on the Autistic Spectrum
Clonc yn y Cwtch p20 Introduction to Sci-Fi Film p23
6.30-8.00 7.00-9.00
Clonc yn y Cwtch p20 Introduction to Sci-Fi Film p23
2.00
3.30-5.00 8.00
Chapter Sewcial p21 Cardiff Storytelling Circle p20
10.30-12.00 7.00
8.30
The Drones Comedy Club p20 Junior Moviemaker p21 Offsite: Darkened Rooms
7.30
First Thursday p20
Animation for Young People 5.30-7.00 on the Autistic Spectrum p21
Gallery / Oriel Events / Digwyddiadau
Wed 1 RSC Encore: The Two Gentlemen‌ (12A) p28 1.30 Of Horses and Men (15) p28 10.30 + 6.00 Garw p16 7.30 Mer In Order of Disappearance (15) p28 6.00 20,000 Days on Earth (15) p29 8.00 Pride (15) p31 8.30 10.30 20,000 Days on Earth (15) p29 6.00 Garw p16 7.30 Thu 2 Pride (15) p31 Iau In Order of Disappearance (15) p28 2.30 Of Horses and Men (15) p28 8.30 Pride (15) + Lavender Screen p31 5.30 In Order of Disappearance (15) p28 8.40 Fri 3 Carry on Screaming: Ida (12A) p34 11.00 In Order of Disappearance (15) p28 5.45 Gwe Pride (15) p31 2.30 + 6.00 Goltzius and the Pelican Company (18) p30 8.15 Ida (12A) p34 8.30 Sat 4 The Nut Job (2D) (U) p39 11.00 + 3.00 Goltzius and The Pelican Company (18) p30 6.00 Robin Ince is (In and) 8.00 Sad Ida (12A) p34 6.10 In Order of Disappearance (15) p28 8.30 Out of his Mind p16 Pride (15) p31 8.10 at Techniquest: The Fly (18) p24 Sun 5 The Nut Job (2D) (U) p39 11.00 + 3.00 In Order of Disappearance (15) p28 2.30 The Gentle Good p17 8.00 5.15 Sul Metropolis (PG) + intro p23 5.00 Pride (15) p31 Ida (12A) p34 8.00 Bad Film Club: Meteor (15) p23 8.00 Goltzius and the Pelican Company (18) p30 Chapter Moviemaker (18) p34 6.00 The Merchant of Venice p18 7.30 Mon 6 Llun + Come Along Do 6.00 Ida (12A) p34 8.00 Pride (15) p31 8.40 Tue 7 Ida (12A) p34 10.30 Goltzius and the Pelican Company (18) p30 5.45 Maw Metropolis (PG) p23 2.30 In Order of Disappearance (15) p28 8.30 NT Encore: A Streetcar Named Desire (12A) p28 7.00 5.30 In Order of Disappearance (15) p28 10.30 + 8.00 Adventures in the Skin Trade p19 7.30 Wed 8 Pride (15) p31 Mer The Jarman Awards (12A) p30 8.00 Goltzius and The Pelican Company (18) p30 2.30 Ida (12A) p34 6.00 Ida (12A) p34 6.00 Pride (15) p31 10.30 Tir na nOg p18 7.00 Thu 9 Iau Pride (15) p31 8.00 Ida (12A) p34 2.30 Adventures in the Skin Trade p19 7.30 In Order of Disappearance (15) p28 6.00 Goltzius and The Pelican Company (18) p30 8.30 Fri 10 Carry on Screaming: Ida (12A) p34 11.00 Pride (15) p31 5.45 Tim Key p17 7.00 + 9.00 A Most Wanted Man (15) p34 Gwe 2.30 + 6.00 Ida (12A) p34 8.15 Adventures in the Skin Trade p19 7.30 Before I Go to Sleep (15) p34 8.30 Iris: Hands United (no cert) + discussion p32 10.00 Iris: Youth Shorts (no cert) p32 10.00 Adventures in the Skin Trade p19 7.30 Sat 11 Sad Iris Shorts Programme 5 (no cert) p33 12.00 Iris: Boy Meets Girl (adv 15) p32 12.00 Iris: Best British Shorts Programme 2 (no cert) p33 2.30 Iris: Happy End (adv 15) p33 2.00 Iris Shorts Programme 6 (no cert) p33 4.30 Iris: Tru Love (15) p33 6.00 Before I Go to Sleep (15) p34 6.30 Pride (15) p31 8.15 A Most Wanted Man (15) p34 8.30 Sun 12 Moomin and Midsummer Madness (U) p39 11.00 + 3.00 Pride (15) p31 2.15 Sul A Most Wanted Man (15) p34 5.45 Robocop (18) + intro p25 5.00 Before I Go to Sleep (15) p34 8.20 Ida (12A) p34 7.30 6.10 Ida (12A) p34 6.00 Adventures in the Skin Trade p19 7.30 Mon 13 Before I Go to Sleep (15) p34 A Most Wanted Man (15) p34 Llun 8.20 Pride (15) p31 8.00 10.30 + 8.20 Ida (12A) p34 2.30 Adventures in the Skin Trade p19 7.30 Tue 14 Before I Go to Sleep (15) p34 Robocop (18) p25 2.30 Still the Enemy Within (adv 15) + Q&A p31 6.00 Maw A Most Wanted Man (15) p34 5.45 Pride (15) p31 8.40 10.30 Ida (12A) p34 6.15 Solfatara p18 7.30 Wed 15 Pride (15) p31 Mer Ida (12A) p34 2.30 Pride (15) p31 8.10 Before I Go to Sleep (15) p34 6.00 A Most Wanted Man (15) p34 8.20 10.30 Pride (15) p31 6.10 Solfatara p18 7.30 Thu 16 A Most Wanted Man (15) p34 Iau Before I Go to Sleep (15) p34 2.30 + 8.45 Ida (12A) p34 8.40 A Most Wanted Man (15) p34 6.00 6.00 Fri 17 Carry on Screaming: Maps to the Stars (18) p35 11.00 A Most Wanted Man (15) p34 Gwe A Most Wanted Man (15) p34 2.30 Westworld (15) + intro p25 8.30 Magic in the Moonlight (12A) p35 5.45 + 8.10
Cinema 1 / Sinema 1 Cinema 2 / Sinema 2
OCTOBER / HYDREF