Chapter Rhagfyr 2012 / Ionawr 2013

Page 1

029 2030 4400

@chaptertweets

chapter.org


02

Croeso

chapter.org

CROESO Mae Chapter yn ganolfan gelfyddydol ryngwladol sy’n adnabyddus am wneud i bethau ddigwydd. Rydym yn canolbwyntio ar gelfyddyd a chynulleidfaoedd ac ar greu mannau artistig a chymdeithasol sy’n dylanwadu ar ein ffyrdd o feddwl, ein syniad o’r hyn ydym a’r hyn yr hoffem fod. Rydym yn mwynhau risg a her. A mwynhad ynddo’i hun. Rydym yn fan cyfarfod ar gyfer syniadau, ysbrydoliaeth ac arloesi. Gallwch hefyd ddod i Chapter i ymlacio a sgwrsio, mewn awyrgylch cartrefol a chroesawgar. Oriau agor y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd Llun 24 Rhagfyr Adeilad ar agor fel arfer Caffi ar agor 9am-6pm, bwydlen brynsh arbennig 10am-4pm Swyddfa Docynnau ar agor 10am-4pm Bar ar agor 12-10pm

Elaina Gray Pennaeth Datblygu Y mis hwn, rydym yn edrych ymlaen at lansio ein partneriaeth newydd â Funky Monkey Feet sy’n noddi ein Ffilmiau Teuluol (gweler tudalen 31) ... piciwch draw i’w siop yn Arcêd y Castell – fe gewch chi groeso cynnes gan Heidi a’r tîm ac fe fyddan nhw’n falch iawn o’ch helpu chi os ydych chi’n chwilio am esgidiau i’r plantos!

Mawrth 25 + Mercher 26 Rhagfyr Chapter ar gau – Nadolig Llawen!

Iau 27 – Sul 30 Rhagfyr Ar agor fel arfer

Llun 31 Rhagfyr + Mawrth 1 Ionawr Chapter ar gau – Blwyddyn Newydd Dda!

O ddydd Mercher 2 Ionawr Ar agor fel arfer

Abigail Lawrence Rheolwr Gweithrediadau Blaen y Tŷ Dw i wrth fy modd adeg y Nadolig – yr holl addurniadau disglair a’r gwin cynnes. Eleni, dw i’n edrych ymlaen at ein penwythnos o ddigwyddiadau Nadoligaidd arbennig, yng nghwmni Oh So Crafty, a’r Ffair Fwyd Nadoligaidd (gweler tudalennau 8-9). Dw i’n sicr yn mynd i brynu stoc helaeth o gawsiau arbenigol a siytni cartref! Chapter Heol y Farchnad Caerdydd CF5 1QE 029 2030 4400 minicom 029 2031 3430 www.chapter.org enquiry@chapter.org


chapter.org

Uchafbwyntiau

Oriel tudalennau 4–8

Nadolig yn Chapter tudalennau 8–9

03

CYMRYD RHAN Cerdyn CL1C Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawrlwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Cerdyn Chapter Theatr tudalennau 10–15

Chapter Mix tudalennau 16–17

Sinema tudalennau 18–31

Gallwch arbed £££oedd ar bris pob tocyn sinema a theatr; cewch gopi am ddim bob mis o’r cylchgrawn hwn drwy’r post, taleb sinema am ddim a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig. Mae’r cerdyn hefyd yn gweithio fel Cerdyn CL1C. Cerdyn Sengl: £20/£10 Cerdyn i Ddau: £25/£20 (2 berson yn yr un cartref) Aelodaeth Lawn: Mwy fyth o fanteision – byddwch yn derbyn gwahoddiad i’r Cyfarfod Blynyddol a chopi o’r adroddiad blynyddol ynghyd â holl fanteision eraill Cerdyn Chapter. £40/£30

Cadwch mewn cysylltiad Ymunwch â ni ar-lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

eAmserlen rad ac am ddim eAmserlen wythnosol yn eich blwch derbyn. E-bostiwch megan.price@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.

Siaradwch â ni Gwybodaeth

@chaptertweets facebook.com/chapterarts

tudalen 32

Amserlen & sut i archebu tudalen 33–36

Cefnogwch ni tudalen 37 Delwedd y clawr: A Curious Zoo, p10. Llun gan Sabin & Tyler.


04

Oriel

029 2030 4400

ORIEL

Brig: The indirect exchange of uncertain value 2011 Dau strwythur a osodwyd yng Ngholeg Fettes, Caeredin, 5-28 Awst 2011 a gweithiau gan Chris Evans a Elizabeth Price. Strwythur y gath: Pren haenog/pren/ paent, 590 x 710 x 150 cm Gosodiad: The indirect exchange of uncertain value, prosiect cydweithredol oddi ar y brif safle, Coleg Fettes, Caeredin, 2011 Chwith: Rhetoric Works & Vanity Works & Other Works (Goma, Glasgow, 2011) 2011 Efydd, paent, pren, MDF, porslen, argaen collen Ffrengig Americanaidd, pren haenog, cwyr gwenyn 469 x 582.5 cm x 480 (‘strwythur’ trionglog wedi paentio: 280 x 480 x 582.5 cm x 330) Gosodiad: You, Me, Something Else, Oriel Celfyddyd Fodern, Glasgow, 2011 Lluniau: Ruth Clark, trwy garedigrwydd yr Artistiaid a’r Modern Institute / Toby Webster Ltd, Glasgow


chapter.org

Oriel

05

Joanne Tatham and Tom O’Sullivan: A Tool For The Making Of Signs

Bywgraffiad

Bu Joanne Tatham a Tom O’Sullivan yn cydweithio ers 1995 ac, ar hyn o bryd, maent yn byw ac yn gweithio yn Newcastle upon Tyne. Mae eu prosiectau a’u harddangosfeydd diweddar yn cynnwys Celfyddyd Ledled y Ddinas, Abertawe a Stiwdio Voltaire, Llundain (y ddwy yn 2012); Oriel Collective (oddi ar y brif safle), Caeredin a Tramway, Glasgow (y ddwy yn 2011); CCA, Glasgow (2010); La Salle de Bains (2009). Fe’u cynrychiolir gan y Modern Institute/Toby Webster, Glasgow; Galerie Francesca Pia, Zurich a Campoli Presti, Llundain/Paris.

Oriel ar agor: Dyddiau Mawrth, Mercher, Sadwrn a Sul 12-6pm; dydd Iau a dydd Gwener 12-8pm; ar gau ar ddydd Llun

Gwener 7 Rhagfyr — Sul 24 Chwefror Mae’r ddeuawd gydweithredol Joanne Tatham a Tom O’Sullivan yn creu gwaith pryfoclyd a heriol sy’n ymwneud yn aml â photensial chwedlonol celfyddyd. Trwy gyfrwng cerflunwaith, paentio, pensaernïaeth, delweddau hap-gael, perfformiad, llenyddiaeth, beirniadaeth sefydliadol a churadu, mae’r artistiaid yn creu llwybrau gofalus, dadleoliadau a gwyriadau er mwyn ail-lwyfannu ac ail-gyflwyno geirfa ddelweddol, ymadroddion a ffurfiau sy’n rhan o hanes cyffredin; offer ar gyfer archwilio byd celfyddyd a’i chyfriniaeth gyfun o ffurfiau, gwrthrychau a hanes. Mae’r arddangosfa hon yn cynnwys nifer o elfennau sy’n herio dehongliadau, gan gynnwys y motiff cartŵn sy’n ymddangos ar y blwch golau a llyfryn yr arddangosfa, yn ogystal â theitl y gwaith: A tool for the making of signs. Yn yr Oriel, mae strwythur sylweddol wedi’i leoli’n lletchwith rhwng dwy ystafell. Mae ‘darllen’ y cerflun yn ei gyfanrwydd bron yn amhosib ac mae angen i’r gwyliwr chwilio am gliwiau a thrwy hynny fod yn rhan o’r broses o greu ei ystyr. Mae’r strwythur ei hun yn defnyddio symbol y ‘ddraig’ – wedi’i gyflwyno mewn ffordd sy’n nodweddiadol o arddull Tatham ac O’Sullivan. Mae’n archwilio adleisiau penodol mewn hunaniaeth Gymreig ond yn cynnwys hefyd botensial ar gyfer ystyron lluosog, cysefin. Mae’r strwythur yn gweithredu fel cymhariaeth a gwrthbwynt i’r ffaith bod yr arddangosfa hefyd yn cynnwys gweithiau dau-ddimensiwn a gweithiau sain gan yr arlunydd a’r bardd modernaidd David Jones. Trwy integreiddio ei waith ef â’r strwythur ei hun, mae’r artistiaid yn gofyn i ni ystyried y berthynas rhwng celfyddyd gyfoes a chelfyddyd a gynhyrchwyd tua chanol yr 20fed ganrif, ac yn arbennig y modd y mae artistiaid cyfoes yn edrych yn ôl ar waith blaenorol ac yn ymgorffori’r diddordeb hwnnw mewn trafodaethau cyfredol.


06

Oriel

Phil Collins This Unfortunate Thing Between Us Comisiwn Blwch Golau Tan ddydd Mawrth 4 Rhagfyr Mae Chapter yn falch o gyhoeddi gwaith newydd ar gyfer y blwch golau gan yr artist Phil Collins, a enwyd ar restr gwobr Artes Mundi. Wedi’i gomisiynu gan Chapter yn rhan o Experimentica 2012, mae’r blwch golau yn cyflwyno montage bywiog o gymeriadau o osodiad fideo nodedig Collins, This Unfortunate Thing Between Us (TUTBU TV) - a fydd i’w weld yn Chapter tan 13 Ionawr 2013. Cafodd detholiad helaeth o ddelweddau ei gasglu ynghyd i’n harwain ni y tu ôl i’r llen ac i mewn i fyd Collins o deledu theatrig. Gyda chast o gymeriadau lliwgar, sy’n cynnwys yr arwr pop Cymreig, Gruff Rhys, mae’r gwaith yn gefnlen ddramatig i fideos yr artist, a fydd i’w gweld yng ngharafannau TUTBU TV y tu allan i’r brif fynedfa. Mae’r ddwy garafán ail-law hyn yn gartref i’r première Prydeinig o This Unfortunate Thing Between Us (2011). Wedi’i berfformio am y tro cyntaf ym mis Medi 2011 a’i ddarlledu’n fyw ar deledu digidol yn yr Almaen, mae TUTBU TV yn sianel siopa sy’n gwerthu profiadau o fywyd go iawn am brisiau gostyngedig, yn hytrach na’r amrywiaeth arferol o nwyddau rhad. Yng nghwmni criw o actorion a gweithwyr porn, ac i gyfeiliant trac sain byw gan Gruff Rhys a Y Niwl, mae TUTBU TV yn atgynhyrchu fformat tele-siopa, gyda chyflwyniadau, arddangosiadau a chyfleoedd i ffonio’r rhaglen. Mae’n gipolwg pryfoclyd ar un dyfodol posib i deledu masnachol. Mae This Unfortunate Thing Between Us, 2011 ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sul, 12-6pm, mynediad am ddim. Bydd comisiwn y blwch golau i’w weld drwy’r dydd a’r nos. Cyflwynir TUTBU TV yn Chapter yn rhan o Artes Mundi www.artesmundi.org Derbyniodd gwaith comisiwn y blwch golau gefnogaeth ariannol gan Gaerdydd Gyfoes www.cardiffcontemporary.co.uk

029 2030 4400

Gruff Rhys ac Y Niwl Sul 16 Rhagfyr 8pm Bydd Gruff Rhys yn ymuno â’r band syrff o Ogledd Cymru, Y Niwl, i chwarae gig agos-atoch arbennig, i gyd-fynd â chyfraniad Phil Collins at Artes Mundi 5. Bydd band mewnol This Unfortunate Thing Between Us (TUTBU TV) yn ail-greu trac sain y perfformiad a’r gosodiad. £15 www.gruffrhys.com


chapter.org

Oriel

07

Celfyddyd yn y Bar Gordon Dalton: We Care A Lot Gwener 30 Tachwedd – Sul 6 Ionawr Mae i beintiadau Gordon Dalton hiwmor melancolaidd sy’n cwestiynu eu difrifoldeb a’u bwriadau. Mae’r ymagweddu ymddangosiadol ddidaro fel petai’n nacáu cynildeb arwynebol er mwyn datgelu hoffter o ddelweddau lletchwith. Mae i’r lluniau gymeriad adolesent – maent ar y naill law yn fregus ac, ar y llaw arall, yn llawn ymffrost. Mae yna wrthddywediad trallodus ar waith yma – mae’r darnau fel petaent yn ymwybodol o’r hyn ydynt, ac o’u methiannau posib. Anwybyddir teimladau o angst, fodd bynnag; mae yma elfen o haerllugrwydd ac agwedd ffwrdd-â-hi. Mae paentiadau yn yr arddangosfa’n brwydro â’i gilydd am oruchafiaeth tra bod eraill yn brwydro yn erbyn paentiad arall ar y mur sy’n goch fel gwaed. Mae’r gweithiau’n denu ac yn gwrthod, yn eich herio chi i’w hoffi, ac i rannu hefyd brofiad o ‘atal-dweud’ sydd fel petai’n treiddio drwyddynt. Fel artist, mae Dalton yn newid safleoedd yn gyson – yn pendilio rhwng y Dr Frankenstein, ei anghenfil, a’r dorf wyllt sy’n udo am waed. Bron nad ydych chi’n teimlo ei fod yn eich pryfocio chi, yn galw enwau arnoch y tu ôl i’ch cefn – ac mae hynny’n ddigon tebygol. Mae cyfeiriadau’n frith yn y gwaith, fel y cwpwrdd dillad yn ystafell wely arddegwr Americanaidd: mae’n llawn clustogau ‘Whoopee’, cerddoriaeth roc trwm, peli troed, ieir rwber, cartwnau, ffilmiau arswyd, jôcs gwael, ac ambell lyfr hanes celf wedi’i ddwyn o’r llyfrgell. Mae paentiadau Dalton fel petaen nhw’n ceisio stwffio popeth i mewn i’r cwpwrdd – gan wybod hefyd y bydd popeth yn gorlifo eto’n syth bin. Mae’r brwydrau parhaol hyn yn herio’r gwyliwr i edrych yn ofalus ac i dalu sylw penodol. Gyrrir y cyfan gan ymchwiliad obsesiynol i’r hyn yw paentio, a’r rhesymau pam y mae’n dal i’n hudo ni. Mae bywgraffiad llawn ar gael ar www.chapter.org www.gordondalton.co.uk

Gordon Dalton, Trojan Curfew, 42 x 30cm, Print Giclée ar Bapur Celfyddyd Gain Gweadog Siriol, 2012. Argraffiad o 25. £125 Argraffwyd gan www.siriol-lifestyle.co.uk


08

Oriel

029 2030 4400

Nadolig yn

Celfyddyd yn y Bar: Thomas Goddard

Siopa Nadolig Masnach Deg Gyda’r Hwyr

Gwener 11 Ionawr — Sul 10 Mawrth

Mawrth 4 Rhagfyr 5pm-8pm

Mae Thomas Goddard yn gweithio ag ystod eang o gyfryngau sy’n cynnwys arlunio, animeiddio, printio, perfformio a gwaith cymdeithasol. Mae ei waith diweddar yn archwilio’r berthynas rhwng yr unigolyn a chymdeithas a rôl ffug-wybodaeth a gyflwynir gan y cyfryngau. Mae e’n mynd ati i archwilio effeithiau’r ffactorau hyn ar ddiwylliant cyfoes. Crëir gweithiau sy’n manylu ar ddifaterwch, dadrithiad, credoau paradocsaidd, pŵer, gwrthiant, hanes, y dyfodol, gormodedd a phryder a hynny yng nghyd-destun byd cyfoes sy’n llawn o ailadrodd obsesiynol a dewisiadau sy’n ymddangos yn ddi-bendraw. Mae bywgraffiad llawn ar gael ar www.chapter.org www.ohmygodtom.com www.cerbyd.org www.beatenblackblueredgreengold.tumblr.com www.beastofbala.com

Llun: Thomas Goddard, From Ape to Adam to Apocalypse 1983, Inc ar bapur, 2011

Bydd Chapter a Fair Dos yn dod at ei gilydd ar gyfer noson o siopa masnach deg. Codwch ddetholiad o anrhegion Nadolig masnach deg yn siop Fair Dos (10 Heol Llandaf, Treganna) yna piciwch draw i gaffi bar Chapter am fins pei cartref masnach deg, glased o win cynnes masnach deg neu sudd oren cynnes masnach deg. www.fairdos.com

Oh So Crafty Sadwrn 15 Rhagfyr 11am–6pm Ymunwch â ni i chwilota drwy’r detholiad gorau o grefftau lleol, yn amrywio o emwaith a nwyddau cartref wedi’u gwneud â llaw i decstilau a gwaith cerameg crefftus a hardd. Yn cynnwys Cool4Cats, Ellymental, Kate Dumbleton, Daizee Made, Mayfifth, Emma Passey, Helen O’Leary, Catrin Peart, The Pocket Pirate, Clare Waller, Prosiect Printmarket, Natalia Dias a Natalie Ollis, ynghyd ag ambell un o hen ffefrynnau Siop Chapter – y cyfan ar un stondin unigryw. Dewch i godi anrhegion unigryw ac i wneud yn siŵr taw chi fydd y Siôn Corn gorau, haelaf a mwyaf gwreiddiol!


chapter.org

Nadolig yn Chapter

09

Chapter

Ffair Fwyd Nadoligaidd 2012 Sul 16 Rhagfyr 11am–6pm Cyflwynir gan Chapter a Green City Events.
 Yn dilyn llwyddiant digwyddiad y llynedd, eleni eto rydym yn cynnal Ffair Fwyd Nadoligaidd! Byddwn yn cyflwyno’r bwydydd a’r diodydd gorau gan gynhyrchwyr Cymreig lleol. Mae hwn yn gyfle perffaith i chi lanw’r hamper ac i ddod o hyd i ddanteithion Nadoligaidd i’ch ysbrydoli – cawsiau arbenigol blasus, cacennau a bara ffres i dynnu dŵr o’ch dannedd, cyffeithiau, cigoedd blasus a charcuterie, ynghyd â detholiad arbennig Chapter o bleserau bwydgarol! Mae rhestr lawn o’r stondinwyr ar gael ar wefan Chapter. Bydd Green City Events hefyd yn cynnal gweithdai a gweithgareddau teuluol gan gynnwys sesiynau gwneud crochenwaith ailgylchedig, gwneud basgedi/ sgiliau gwledig, crefftau ailgylchedig, sesiwn potio papur gyda Transition a sesiwn paentio wynebau Nadoligaidd gyda Sefydliad SAFE. Neu beth am helpu Caffi Pedal i oleuo’r goeden Nadolig drwy bedalu a chynhyrchu pŵer ar gyfer y goleuadau? www.facebook.com/GreenCityEvents

Rhoddion yn Chapter Yn y cyfnod cyn y Nadolig, byddwn yn gwerthu detholiad bychan o anrhegion a chardiau yn ein Swyddfa Docynnau, o addurniadau coeden Nadolig wedi’u hysbrydoli gan garthenni Cymreig i ffônau retro hynod cŵl o’r 60au. Bydd yna nwyddau delfrydol ar gyfer yr hosan Nadolig a detholiad newydd ffasiynol o fygiau a bagiau Chapter. A pheidiwch ag anghofio Talebau Rhodd Chapter, y gellir eu defnyddio i brynu tocynnau ar gyfer y Sinema a pherfformiadau yn y Theatr, neu Docyn Aelodaeth Chapter sy’n galluogi’r derbynnydd lwcus i fanteisio ar flwyddyn gyfan o docynnau am bris gostyngol. Rhoddion perffaith i’ch ffrindiau a’ch teulu (neu i chi’ch hun, hyd yn oed!).

Bwyta ac Yfed yn Chapter

Cofiwch am fwydlen flasus arbennig caffi bar Chapter y Nadolig hwn - a’n detholiad penigamp o ddiodydd sy’n siŵr o ennyn ychydig o hwyl yr ŵyl. Bydd yna ddigonedd o fins peis a gwin cynnes ac, yn dilyn ei llwyddiant y llynedd, gallwch ymuno â ni ar Noswyl y Nadolig eleni eto i flasu ein bwydlen brynsh arbennig rhwng 10am a 4pm.

Mae cysylltiad di-wifr rhad ac am ddim ar gael yng Nghaffi Bar Chapter

Llogi Mae nifer o leoedd a chyfleusterau ar gael i’w llogi yn Chapter, ac fe fydd Lex, rheolwr y caffi, hefyd yn gallu darparu amrywiaeth o opsiynau arlwyo ar gyfer eich digwyddiad. Os oes gennych gwestiynau ynglŷn â llogi neu os hoffech chi fwy o wybodaeth, rhowch ganiad i Nicky, rheolwr y gwasanaeth llogi, ar 029 2031 1050/58 neu anfonwch e-bost at nicky.keeping@chapter.org


10

Theatr

029 2030 4400

‘’ Haiku hyfryd — mae gwaith Sabin yn gynnil, yn dyner ac yn wledd i’r llygad’’. The Guardian am LifeDeathLife

A Curious Zoo. Llun gan Sabin & Tyler

THEATR


chapter.org

MAN ARALL

Caroline Sabin yn cyflwyno A Curious Zoo Mercher 12 – Sadwrn 15 Rhagfyr & Mercher 19 – Sadwrn 22 Rhagfyr 7pm a 9pm Mae hi’n oer. Mae hi’n dywyll. Mae hi’n oer ac yn dywyll ond r’yn ni’n cynnau’r canhwyllau ac yn pobi pasteiod - yn chwerthin am ben y gaeaf ond yn ofni hefyd na ddaw’r haf fyth eto. Oes yna ddigon o fwyd? Oes digon o goed tân? A beth yw’r sŵn yna tu allan sy’n swnio fel blaidd yn anadlu drwy’r blwch llythyrau? Oes gan y blaidd ddigon i’w fwyta…? Bydd grŵp anhygoel a gwobrwyol o berfformwyr, dawnswyr, awduron a chyfansoddwyr yn llenwi tŷ teras bach yn Nhreganna er mwyn cyflwyno awr o adloniant theatrig hudolus y Nadolig hwn. Bydd Jon Gower, Deborah Light, Gerald Tyler a James Williams yn trawsffurfio’n greaduriaid hynod a rhyfeddol i’ch diddanu. Dan arweiniad y dawnsiwr/artist gweledol, Caroline Sabin, a gyda chymorth gwisgoedd cain Neil Davies, fe’ch gwahoddir i fyd o hud a lledrith ac eira, yn llawn o harddwch tawel, delweddau gwaedlyd, straeon cysurus, angel, cerddoriaeth, pibonwy a mins peis. Byddwch lawen. Byddwch yn wyliadwrus. Bwytewch y pastai. £12/£10/£8

Out of the Blue

Cynhelir y perfformiad hwn mewn tŷ teras cyffredin yn Nhreganna. Gweler manylion am y lleoliad ar www.chapter.org

Theatr

11

Sarah Argent & Theatr Iolo Out of the Blue Iau 13 – Iau 20 Rhagfyr Amseroedd i’w gweld ar y calendr Mae e’n aros. Yn aros i rywbeth gyrraedd. Ding, dong, cloch y drws. “Pecyn i chi.” Parsel. Agorwch ef ... “Beth sydd ar y tu fewn?” Mae yna bapur i chi chwarae ag ef — ei sgrwnsio, ei rwygo. Cuddio… “Pî-pô!” Ac yna, un diwrnod, yn sydyn reit, y syrpreis hyfrytaf un… Perfformiad agos-atoch, hudolus i fabanod / plant bach rhwng 6 a 18 mis oed (ac oedolion). Cyflwyniad perffaith i fyd y theatr — yn llawn o ddelweddau cyfareddol a seiniau diddorol — a chyfle wedi’r sioe i’r plant chwarae hefyd! £7.50 am docyn oedolyn a phlentyn / £5 i bob oedolyn neu blentyn ychwanegol Crëwyd gyda chefnogaeth Small Size (y Rhwydwaith Ewropeaidd ar gyfer cyflwyno’r celfyddydau perfformio i blant blynyddoedd cynnar) a Diwylliant 2000

“Roedd fy mab (10 mis) wedi’i gyfareddu o’r dechrau i’r diwedd! Am 25 munud cyfan, roedd yr olwg ar ei wyneb yn un o syndod pur – a phob un o’i ffrindiau hefyd. “ Adborth gan y gynulleidfa


12

Theatr

Clwyd Theatr Cymru Theatr i Bobl Ifainc HUMBUG!

Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru
 Cwmni Richard Burton yn cyflwyno Picnic gan William Inge

Mercher 19 Rhagfyr 7pm “Nadolig Llawen! Ba hawl sydd gennych chi i fod yn hapus? Ba reswm dros fod yn hapus?” meddai Scrooge. Gan ddefnyddio stori enwog Dickens “A Christmas Carol” fel man cychwyn, mae’r awdur/cyfarwyddwr, Tim Baker, wedi troi’r stori oesol hon yn sioe deuluol wych. Gallwch ddisgwyl hwyl a sbri, cerddoriaeth fyw, ychydig o anghydfod a hud a lledrith theatrig! Mae Humbug! yn sioe Nadoligaidd arbennig ac yn gyflwyniad perffaith i waith Dickens a thymor o ddigwyddiadau i nodi deucanmlwyddiant ei eni ym 1812. Peidiwch â bod yn ‘humbug’ y Nadolig hwn. Ymunwch â ni yn hwyl yr ŵyl.

029 2030 4400

Gwener 30 Tachwedd – Sadwrn 8 Rhagfyr 7.30pm Mae’r dieithryn golygus Hal Carter yn cyrraedd tref fechan yn Kansas. Mae’n denu sylw’r holl ferched ac yn tarfu ar berffeithrwydd cymuned ffensys-prengwyn Flo Owens a Helen Potts. Mae’r ddrama nwydus, chwantus a doniol hon - a enillodd Wobr Pulitzer ym 1953 - yn glasur Americanaidd oesol sy’n datgelu byd o ddyheadau dan yr wyneb. £10/£8 Addas i’r rheiny dros 14 oed Archebwch eich tocynnau gan y Coleg Cerdd a Drama drwy ffonio 029 2039 1391 neu archebwch ar-lein ar www.rwcmd.ac.uk

£8/£5

Caiff drama yng Ngholeg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru ei chefnogi’n hael gan Ymddiriedolaeth Richard Carne. Cyflwynir y cynhyrchiad amatur hwn trwy drefniant arbennig â Josef Weinberger Cyf.

Likely Story A Monster Christmas Adventure

Kitsch N Sync Collective Private Eye Detective

Iau 27 Rhagfyr 1.30pm a 5pm Gwener 28 + Sadwrn 29 Rhagfyr 11am a 4pm

Sadwrn 1 + Sul 2 Rhagfyr 8pm Mae’r cynhyrchiad theatr ddawns chwareus hwn yn barodi o genre y stori dditectif glasurol ac fe’i ysbrydolwyd gan ffasiynau vintage a retro, ffilm noir a cherddoriaeth swing electro. Dewch wedi’ch gwisgo fel ‘dapper dan’ neu femme fatale, prynwch ddiod yn y bar a mwynhewch y perfformiad cabaret unigryw hwn.

Mae pob plentyn yn gwneud dymuniad adeg y Nadolig, ond eleni mae Amy wedi dymuno am rywbeth ofnadwy. Mae hi wedi dymuno i’w llystad ddiflannu. Ac, yn waeth na hynny, cafodd y dymuniad ei wireddu. Nawr, gyda chymorth ei chyfaill, yr hosananghenfil Sebastian, rhaid iddi adael diogelwch ei hystafell wely a brwydro trwy fyd rhyfedd a hudolus er mwyn dod ag ef yn ôl cyn Dydd Nadolig. Mae’r stori dylwyth teg fodern hon yn gymysgedd egnïol o stori dda, theatr gorfforol, hiwmor, arddull weledol chwareus, pypedau, cerddoriaeth wreiddiol, angenfilod o dan y gwely a llawer iawn o hwyl. Addas ar gyfer bwystfilod ifainc ac angenfilod hynafol fel ei gilydd.

£10/£8 www.facebook.com/kitschnsynccollective

Theatr Ffynnon Pieces of Hate Mawrth 4 + Mercher 5 Rhagfyr 7.30pm

£7/£5

Cyfarwyddwyd gan John Norton. Mae Theatr Ffynnon yn gwmni theatr cymunedol unigryw sy’n gweithio gydag oedolion a phobl ifanc ag anableddau dysgu, anableddau corfforol a phroblemau iechyd meddyliol. Yn y cynhyrchiad heriol hwn, Pieces of Hate, mae’r 14 o berfformwyr yn dramateiddio pum stori sy’n deillio naill o’u bywydau neu o’u profiadau eu hunain er mwyn creu perfformiad amrwd, onest a dewr. Tocynnau: £8/£6.50/£5 i ofalwyr

A Monster Christmas Adventure

www.theatrffynnon.co.uk


chapter.org

Theatr

Beyond the Border Sarah Rundle: Gawain & The Green Knight

New Sound Wales Henry’s Funeral Shoe, The Boy Royals & Big Colours

Mercher 5 Rhagfyr 8pm

Sadwrn 8 Rhagfyr 7.30pm

Stori Geltaidd hynafol a champwaith llenyddol o’r 14eg ganrif, wedi’i hail-lunio ag amarch a deallusrwydd gan y storïwr, Sarah Rundle. Mae Gawain hardd, nai y Brenin, yn cyrchu allan ar gefn ei geffyl gwyn wedi’i wisgo mewn arfwisg aur. Mae ei ymgyrch yn dra pheryglus a’r daith yn hir ac oer. Mae yna ymosodiadau yn ei ddisgwyl ymhobman ond daw’r perygl mwyaf o du ei galon ei hun ... Mae themâu fel anrhydedd, hud ac arwriaeth yn plethu ag abswrdiaeth yn y stori aeafol glasurol hon o Lys y Brenin Arthur.

Mae Newsoundwales yn dychwelyd i Chapter i gyflwyno tri o fandiau byw mwyaf cyffrous Cymru. Wedi’u dylanwadu gan y blŵs a bandiau’r 60au, mae record hir gyntaf Henry’s Funeral Shoe, ‘Donkey Jacket,’ wedi gwthio’r band i reng flaen bandiau Cymru. Mae dylanwad The Jam, The Who a bandiau Britpop i’w glywed yng ngherddoriaeth The Boy Royals (Town gynt) ac fe gafodd eu sengl ‘Teenage Sky’ ei chwarae ar y radio gan DJs fel Steve Lamacq a Huw Stephens. Mae Big Colours yn driawd ifanc a ryddhaodd EP, ‘Farewell to Forever’, yn 2012. Wedi’u dylanwadu gan artistiaid fel The Clash a The Dead Kennedys, maent yn addo pethau mawr yn 2013.

£7.50/£6

“Yn llawn elfennau modern ac yn llawn o egni gwyllt seler gwrw. Afieithus!” Cylchlythyr Chwedleua Llundain

Trifle Gathering Productions A Curious Evening of Trance and Rap with the Ogden Sisters

O’r Chwith i’r Dde: A Curious Evening of Trance and Rap with the Ogden Sisters, Fist of the First Man

Iau 6 Rhagfyr 8pm Teithiwch yn ôl mewn amser i fyd y cyfryngwyr (‘mediums’) Fictoraidd. Mae gan Lettie Ogden ddawn. Wedi’i geni ym 1867, yr ieuengaf o bedair merch, mae Lettie yn dechrau profi ‘raps’ o’r ochr draw ar ôl marwolaeth drasig ei thad a’i gefeilles Vivienne. Yn benderfynol o ddianc o greulondeb ei magwraeth a meistres y tŷ, Mrs Skunt, mae Lettie a’i dwy chwaer hŷn, Adeline a Constant, yn cychwyn ar daith i rannu dawn y chwaer fach ag unrhyw un sy’n fodlon gwrando. Mae’r cynhyrchiad hwn yn brawf o rym rhyfeddol straeon ac yn brofiad theatrig unigryw sy’n adrodd hanes tair menyw a gredai mewn bydoedd eraill mwy caredig. £12/£10/£8

“Rydym yn nhiriogaeth Spike Milligan a Monty Python ac mae na fwy nag elfen o’r Goons yma hefyd.” Adolygiad y “Fringe”

13

£10/£8

Sŵn ac Arc Vertiac yn cyflwyno Lansiad albwm Fist Of The First Man Gwener 14 Rhagfyr 8pm Ar ôl ennill cystadleuaeth ‘Filtered’ Warp Records a sicrhau cytundeb recordio yn gynharach eleni, mae’r cerddor lleol Tom Raybould (Zwolf) wedi ysgrifennu albwm o gerddoriaeth newydd dan yr enw Fist Of The First Man. Dewch i’r theatr i ddathlu lansiad yr albwm ac i weld detholiad o westeion arbennig, cyflwyniad gweledol rhyngweithiol gan Nic Finch/Casey Raymond ac i brynu nwyddau ecsgliwsif o ddrud mewn argraffiadau cyfyngedig! www.fistofthefirstman.tumblr.com www.soundcloud.com/fistofthefirstman www.bleep.com/artist/25755 £7/£5


14

Theatr

Marega Palser: Sometimes We Look

Tymor Hong Kong Peter Suart Melencolia

Mercher 16 – Sadwrn 19 Ionawr 8pm Mae’r cyfuniad safle-benodol hwn o ddawnsio, arlunio, animeiddio a gwneud printiau yn ymchwiliad i’r modd y gall marciau syml effeithio ar ffyrdd o greu symudiadau a sut y gall dawns, wedi hynny, ddylanwadu ar y weithred o dynnu llun. Mae Marega Palser yn cyfuno’i hyfforddiant ym myd dawns a chelfyddyd gain er mwyn cyflwyno’r arddangosfa berfformiadol hon o’i gwaith ar y cyd â thri o artistiaid symudiad gorau Cymru – Catherine Bennett, Belinda Neave a Rosalind Brooks. Mae’r dawnswyr a’r coreograffydd yn defnyddio’u harddulliau a’u profiadau personol i gyflwyno safbwynt cynnil a phersonol ar waith celfyddydol a’r gofod arddangos. £10/£8/£6

“[Mae dawnsio a darlunio Marega yn] hoelio’r sylw, yn fedrus, yn ddifrifol, doniol, personol a hael” Caroline Sabin, artist a dawnswraig

andGo yn cyflwyno Confusions gan Alan Ayckbourn Mercher 30 Ionawr – Sadwrn 2 Chwefror 8pm (+ Sadwrn 2 Chwefror 3pm) Mae mam yn treulio cymaint o amser ar ei phen ei hun gyda’i phlant fel ei bod yn trin pawb fel plant... mae ei gŵr, gwerthwr yn ôl ei alwedigaeth, yn eistedd mewn bar mewn gwesty ac yn chwilio am fwy na diod ... mae gweinydd yn clustfeinio ar berthnasau problematig ciniawyr... mae cynghorydd lleol yn derbyn gwahoddiad i agor ffair bentref... mae pum dieithryn yn eistedd ar eu pennau’u hunain ac yn siarad - ond a fydd unrhyw un yn gwrando? Mae cyfres ddyfeisgar Ayckbourn o vignettes comig yn gipolwg y tu ôl i lenni swbwrbia ar ddyhead, obsesiwn ac unigrwydd.

029 2030 4400

Gwener 25 Ionawr 8pm Suart oedd un o gyd-sylfaenwyr, ym 1987, yr ensemble theatrig a cherddorol o Hong Kong, ‘the box’. Mae e hefyd yn awdur a darlunydd llyfrau Tik Tok ac yn darlunio hefyd i Gymdeithas Ffolio. Roedd Chapter yn gartref i’r gwaith cyntaf a gyflwynwyd ganddo yn y DG – Fragile (2011), darn sy’n ymdrin ag afiechyd corfforol. Mae Melencolia - sy’n seiliedig ar dri phrint enwog gan Albrecht Dürer - yn delio ag afiechyd meddyliol. Trwy gyfrwng symudiad, delweddau, cerddoriaeth wreiddiol (byw ac ar dâp), a geiriau wedi’u llefaru a’u taflunio (yn Saesneg, Cantoneg, Almaeneg a Lladin), mae Melencolia yn edrych ar fywyd a chyfnod Dürer, gan archwilio syniadau am y felan, yr Ellylles Eiconoclastig, dirywiad Cristnogaeth ym Mhrydain, cyfieithu, cŵn du, terfysgoedd Hong Kong 1967, a ffotograffau o Hong Kong yr unfed ganrif ar bymtheg. Gwaith dwys, melancolaidd a chomig. £12/£10/£8 Cyflwynir ar y cyd â’r Intangible Studio.

I ddod ym mis Chwefror Between Text & Performance (Hong Kong-Cymru) yn cyflwyno Who Killed The Elephant? / Deialog Noson o sain, fideo, testun a pherfformiadau o Hong Kong a Chymru sy’n cyflwyno archwiliadau cyfochrog o gyfieithu a’r syniad o le. Artistiaid yn cynnwys: Matt Cook, Valmai Jones, Rebecca Knowles, Vee Leong, Mathilde Lopez, Remus, Jennie Savage, James Tyson a Rico Wu. + Gweler tudalen 25 am fanylion y ffilm o Hong Kong, Big Blue Lake, a gyflwynir gan Vee Leong a James Tyson

O’r Chwith i’r Dde: Marega Palser, Melencolia

£10/£8


chapter.org

Theatr

15

COMEDi Jo Caulfield Gwener 7 Rhagfyr 8pm Y funud y daw Jo Caulfield i’r llwyfan, r’ych chi’n gwybod eich bod chi am gael amser da. Gallwch ddisgwyl arsylwadau brathog a heriol gan Jo wrth iddi drafod cariadon diflas, dweud y pethau ‘anghywir’, persawr selebs, teledu realiti, symud tŷ a gwneud ffŵl ohoni’i hun yn gyhoeddus. Yn ei blaen wedyn i ymdrin, yn ei ffordd finiog ei hun, â pherthnasau, ffrindiau meddw, gwasanaeth gwael a reslo gyda’r hunan-sganiwr yn Tesco. Dewch i rannu eich dicter. £14

“Perfformiad miniog a dinesig sy’n siŵr o blesio. Fel gwerslyfr cymdeithaseg gyda jôcs.” – The Times

Mawrth 18 Rhagfyr 7.30pm Mae Tony Law - a welwyd ar Have I Got News For You, Never Mind The Buzzcocks, Russell Howard’s Good News a Stewart Lee’s Comedy Vehicle - yn dychwelyd i Chapter i recordio DVD o’r sioe bum seren, lawn eliffantod, Maximum Nonsense, a gyflwynwyd ganddo yng Ngŵyl Caeredin. Bydd crëwr cylchgrawn Viz, Simon Donald, hefyd yn perfformio’i sioe, School of Swearing. Pasiwch eich ‘cwrs’ ag A seren mewn iaith anweddus. £10

Josie Long: Romance & Adventure

“Mae nonsens athrylithgar Law yn gwneud i Salvador Dali ymddangos mor haniaethol â Constable” – Metro

Sadwrn 15 Rhagfyr 8pm

John Robins

Chweched sioe unigol Josie - ac mae hi wedi ceisio’i gorau glas i sicrhau taw hon fydd yr orau eto. Cyffrôdd drwyddi ddim ond o ysgrifennu’r teitl - ac mae’n rhaid bod hynny’n beth da ... Dewch draw mae’r sioe’n siŵr o fod yn wirion ac yn hwyl ac mae Josie hyd yn oed wedi addo llai o regfeydd y tro hwn! Dau Enwebiad am Wobr Comedi Gorau. Enillydd Gwobr y Newydd-ddyfodiad Gorau. Dringwr dibrofiad. Pregethwr. £12/£11/£10 www.josielong.com twitter.com/JosieLong

Dyma sioe orau Josie Long hyd yn hyn - o’r galon, angerddol, ardderchog.” – Time Out

O’r Chwith i’r Dde: Josie Long, Tony Law

Go Faster Stripe Tony Law a Simon Donald – Sesiwn Ddwbl – Recordio DVD

Sadwrn 26 Ionawr 8pm Yn 2011, cafodd John ei ddisodli o banel sioe deledu gan seren ‘The Only Way is Essex,’ Amy Childs - am fod ganddi, yn ôl y cynhyrchydd, ‘hanes personol mwy diddorol’. Mae John,felly, wedi plymio i ddyfnderoedd ei orffennol i chwilio am hanesion a straeon i’w gwrthbrofi hi! Dewch i weld yr hyn y daeth o hyd iddo yn ei sioe unigol newydd. £8/£7/£6

“Mae awr yn ei gwmni dymunol, onest a hael yn bleser cwbl ddiymdrech.” – Chortle


16

Theatr

029 2030 4400

CHAPTER MIX Music Geek Monthly

Clwb Comedi The Drones

Iau 29 Tachwedd 8pm & Sadwrn 8 Rhagfyr 3.30pm Iau 24 Ionawr 8pm & Sadwrn 9 Chwefror 3.30pm

Gwener 7 a Gwener 21 Rhagfyr a Gwener 18 Ionawr 8.30pm

Trafodir un clasur o albwm ac un albwm newydd sbon yn y Pwynt Cyfryngol ar ddydd Iau olaf y mis. Cynhelir y gwrandawiad cysylltiedig ym moeth Sinema 2 ar ddydd Sadwrn.

Clint Edwards yn cyflwyno’r digrifwyr stand-up newydd gorau.

RHAD AC AM DDIM www.musicgeekmonthly.tumblr.com

Bwrw’r Sul â Gêmau Bwrdd

Sul 2 Rhagfyr a Sul 6 Ionawr 8pm Dewch i rannu a gwrando ar ddetholiad hyfryd o straeon - real neu ddychmygol ond gwir bob gair bob un. £4 (wrth y drws)

MovieMaker Chapter Llun 7 Ionawr Sesiwn reolaidd i wneuthurwyr ffilm annibynnol ddangos ffilmiau byrion. RHAD AC AM DDIM

Clonc yn y Cwtch Bob dydd Llun 6.30-8pm Ydych chi’n dysgu Cymraeg? Ymunwch â ni i ymarfer eich Cymraeg gyda dysgwyr eraill. Croeso i bawb! RHAD AC AM DDIM ar y cyd â Menter Caerdydd.

Dydd Iau Cyntaf y mis Iau 6 Rhagfyr 7.30pm Noson lenyddol fisol Seren a Llenyddiaeth Cymru sy’n dathlu ffuglen, gweithiau ffeithiol a barddoniaeth. Dewch draw i gwrdd ag awduron gwych ac i’w clywed nhw’n darllen o’u gwaith; neu gallwch gymryd rhan yn y sesiwn ‘meic agored,’ lle bydd cyfle i awduron newydd ddarllen cerdd neu dudalen o ryddiaith. £2.50

Sul 9 Rhagfyr a Sul 13 Ionawr 5.30pm Ymunwch â siop gêmau gyfeillgar Caerdydd, Rules of Play, yn ein Caffi Bar ar gyfer y noson gêmau fisol hon. Dewch â’ch hoff gemau bwrdd neu dewch yn waglaw a benthycwch gêm am y noson. RHAD AC AM DDIM

On The Edge I am Angela Brazil gan Lucinda Coxon Archwiliad o afael tynn y gorffennol ar y presennol a’r gwrthddywediadau sy’n cyd-fodoli oddi mewn i garedigrwydd dynol. Reit ar ddechrau’r cynhyrchiad, caiff rhith y theatr ei chwalu a’i gadarnhau a thrwy hynny caiff y cywilydd sy’n perthyn i wahanol agweddau ar fywyd yr Angela Brasil hon ei wrthrychu.

Mawrth 11 Rhagfyr 8pm Sioe un fenyw! – gyda Boyd Clack Mae Boyd Daniel Clack yn awdur, actor a cherddor Cymreig. Cafodd ei eni yn Vancouver, Canada, ond magwyd ef yn Nhonyrefail. Mae ei waith fel actor yn cynnwys Twin Town, High Hopes a Satellite City. Roedd hefyd yn gyd-awdur High Hopes a Satellite City. Roedd i’w weld yn ddiweddar yn rhaglen BBC Cymru, Baker Boys. Y sesiwn ddiweddaraf o ddarlleniadau sgript-mewnllaw Michael Kelligan. Cyfarwyddo gan Hugh Thomas. £4

The Third Uncles

Cylch Chwedleua Caerdydd

£3.50 (wrth y drws)


chapter.org

Theatr

17

Darlith SWDFAS The Punch and Judy Show gan Bertie Pearce Mae Punch yn un o ddisgynyddion y clown Eidalaidd, Pulcinella, o draddodiad Commedia Del’Arte y bymthegfed ganrif. Hyd yn oed heddiw, mae’r Arglwydd Afreolus yn defnyddio’i slapstic i sicrhau ei awdurdod gormesol, ac yn datgan yn groch, “Dyna fel y mae hi!” £6 (wrth y drws, yn ddibynnol ar le) www.swdfas.org.uk

The Forge Iau 17 Ionawr 7.30pm Mae The Forge yn galluogi artistiaid o wahanol ddisgyblaethau i ymwneud â chynulleidfaoedd er mwyn archwilio syniadau creadigol ac i brofi gwaith sydd ar y gweill. Bydd rhai o’r dangosiadau’n arw, bydd rhai yn barod i dderbyn adborth gan y gynulleidfa - os hoffech chi leisio barn, hynny yw. Dewch i ddarganfod y sêr mawr nesaf ac i fod yn rhan o ddyfodol y theatr a pherfformio yng Nghymru. Os hoffech chi ddangos gwaith yn The Forge, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y digwyddiad, e-bostiwch contacttheforge@gmail.com

O’r Chwith i’r Dde: Spring Awakening, Private Eye Detective

£3 Cyflwynir gyda chefnogaeth hael Chapter.

Jazz ar y Sul Sul 27 Ionawr 9pm Noson o jazz acwstig melodig yn y Caffi Bar gyda Phedwarawd Glen Manby. RHAD AC AM DDIM

The Magistrate

Iau 10 Ionawr 2pm

NATIONAL THEATRE LIVE: Cynyrchiadau theatr o safon byd wedi’u darlledu’n fyw o Lundain. Os hoffech chi archebu diod ymlaen llaw ar gyfer yr egwyl, gwnewch hynny yn ein caffi/bar cyn y perfformiad.

The Magistrate Iau 17 Ionawr Drysau’n agor am 6.30pm, dangosiad byw yn dechrau am 7pm yn union Cyf: Arthur Wing Pinero. Gyda John Lithgow, Nancy Carroll

Â’i natur louche a’i hoffter o gamblo, ysmygu, port a menywod, mae’n anodd credu bod Cis Farringdon yn ddim ond 14 oed. Am nad ydyw, mewn gwirionedd. Tociodd ei fam, Agatha, bum mlynedd oddi ar ei hoedran ei hun ac oedran ei mab pan ailbriododd â’r Posket hawddgar. “Wel, pan glywais bod fy nhad newydd yn ynad yr heddlu, ces i fraw. Dywedais wrthyf fy hun, ‘Os na fydda i’n ofalus, bydd y ‘Guv’nor’ yn fy nirwyo ac yn cymryd fy arian poced i gyd.’ “ Mae dyfodiad arfaethedig tad bedydd Cis yn arwain Agatha, mewn cuddwisg, i’r Hôtel des Princes i gyfaddef ei thwyll wrth ei mab. Ond dyna’r union fan lle mae Cis wedi perswadio’i lystad parchus i ymuno ag ef am sesiwn wyllt. Caiff yr heddlu eu galw i dawelu pethau ac mae’r gwesteion yn prysuro i guddio rhag ei gilydd a rhag yr heddlu. A’r diwrnod wedyn, mae yna fwy fyth o anffawd wrth i Posket, ynad yr heddlu, orfod cymryd yr awenau yn y llys.


18

Sinema

029 2030 4400

“ Mae’r themâu’n ddadleuol, efallai, ond mae’r driniaeth ohonynt yn berffaith. Os bu ffilm erioed i annog y cloff i gerdded a’r dall i weld, mae’n bosib taw The Master yw’r ffilm honno.” The Guardian (The Master)

The Master

SINEMA


Sinema

19

The Master

Amour

Gwener 7 — Iau 3 Ionawr

Gwener 30 Tachwedd — Sul 30 Rhagfyr

UDA/2012/137mun/15 Cyf: Paul Thomas Anderson. Gyda Philip Seymour Hoffman, Joaquin Phoenix, Amy Adams.

Awstria/2012/127mun/12A/isdeitlau. Cyf: Michael Haneke. Gyda Jean-Louis Trintignant, Emmanuelle Riva, Isabelle Huppert.

Yn y blynyddoedd ar ôl yr Ail Ryfel Byd, mae deallusyn Americanaidd carismatig yn cyhoeddi ei lyfr, The Cause, sy’n arwain at greu crefydd newydd ac addewidion o derfyn i ryfel a thlodi a iachâd ar gyfer canser. Pan mae’r awdur yn cwrdd â ‘drifter’ dioddefus, mae’n ei wahodd i’w helpu i ledaenu’r ffydd newydd. Wrth i’w cynulleidfa gynyddu, mae’r ‘drifter’ yn dechrau holi cwestiynau am y grefydd a’i cynhaliodd dros dro ac am y mentor a roddodd gyfeiriad i’w fywyd.

Mae Georges ac Anne yn athrawon cerdd wedi ymddeol. Maen nhw’n bobl ddiwylliedig, yn eu hwythdegau, ac yn byw mewn fflat hardd ym Mharis. Pan gaiff Anne bwl o salwch un dydd, caiff cwlwm cariad y cwpwl ei brofi i’r eithaf. Er bod Haneke yn adnabyddus am ffilmiau heriol, mae hon yn ffilm ingol ac anghyffredin o dyner – ac mae hi wedi’i hactio’n gampus. Dangosir misoedd trasig olaf perthynas sydd wedi para chwe degawd, wrth i ŵr o Ffrainc ofalu am wraig sy’n gynyddol flin ar ôl dioddef dwy strôc wanychol.

O’r Chwith i’r Dde: The Hunt, Amour

chapter.org

+ Bydd SciSCREEN yn dychwelyd â sesiwn holi-ac-ateb ar ôl y dangosiad ar ddydd Llun 10 Rhagfyr. Archebwch eich tocyn am ddim yn y Swyddfa Docynnau. Bydd angen i chi archebu tocynnau ar gyfer y ffilm ar wahân. www.cardiffsciscreen.blogspot.com

The Alps Gwener 30 Tachwedd — Iau 6 Rhagfyr Gwlad Groeg/2012/93mun/15/isdeitlau. Cyf: Giorgos Lanthimos. Gydag Aggeliki Papoulia, Ariane Labed, Aris Servetalis, Johnny Vekris, Stavros Psyllakis.

Mae nyrs, parafeddyg, a mabolgampwr a’i hyfforddwr wedi dod at ei gilydd i gynnig gwasanaeth ar log. Maent yn cymryd lle pobl sydd wedi marw ac yn cael eu llogi gan berthnasau, ffrindiau neu gydweithwyr yr ymadawedig. Enw’r cwmni yw Yr Alpau. Mae eu harweinydd, y parafeddyg, yn ei alw’i hun yn Mont Blanc. Ac er bod yr arweinydd yn mynnu bod aelodau’r Alpau yn gweithredu yn unol â threfn ddisgybledig, nid yw’r nyrs yn gwneud hynny.

The Hunt Gwener 30 Tachwedd — Iau 3 Ionawr Denmarc/2012/111mun/15. Cyf: Thomas Vinterberg. Gyda: Mads Mikkelsen, Thomas Bo Larsen, Annika Wedderkop.

Mae Lucas, un o hoelion wyth y gymuned leol ac athro kindergarten, yn chwarae rhan gwbl fodlon yn nhraddodiadau lleol y pentref, gan gynnwys yr helfa geirw flynyddol. Ond aiff pethau o chwith i Lucas pan wneir cyhuddiad yn ei erbyn a phan ddatblyga’r sefyllfa y tu hwnt i bob rheolaeth.

Claire Vaughan Swyddog y Rhaglen Ffilm a Sinema Mae’n Nadolig, dw i’n 7 mlwydd oed a dw i ddim yn gallu cysgu yn ein tŷ newydd. Ar ôl sleifio lawr llawr ar fy mhen fy hun, dw i’n dechrau gwylio Vertigo ar y teledu. Delweddau Hitchcock o obsesiwn oedd dechrau’r daith i fi o ran fy sineffilia. Dw i’n edrych ymlaen at weld cymaint o ffilmiau’r mesitr ar y sgrin fawr (gweler tudalennau 26-27). Mae hi hefyd yn amser gwych i ddod o hyd i leisiau newydd a ffilmiau bywiog o Rwmania, Gwlad Groeg a’r DG, a rhaglen arbennig o ffilmiau byrion NBCQ (gweler tudalen 20). Vive le cinéma!


20

Sinema

Laurence Anyways

The Joy Of Six: A Programme Of New British Crafted Short Films

Canada/2012/159mun/TICh/isdeitlau Cyf: Xavier Dolan. Gyda Melvil Poupaud, Suzanne Clement.

Mae Laurence yn awdur ac athro ac yn byw, gyda Fred ei gariad, mewn swigen gyffyrddus. Maent yn ddirmygus a heriol ac yn gwrthod normau cymdeithasol. Fodd bynnag, pan gyhoedda Laurence ei fod yn fenyw sy’n gaeth mewn corff dyn, caiff eu perthynas ei newid ac mae’r ffilm yn dilyn y pâr wrth i Fred geisio gweithio allan a fedr hi dderbyn Laurence fel menyw ac os gall hi fod mor herfeiddiol â hynny yn wyneb pwysau teuluol a chymdeithasol cynyddol.

Clwb Ffilmiau Gwael: Deuawd Rats! & You Better Watch Out Sul 2 Rhagfyr Mae’r Clwb Ffilmiau Gwael yn dychwelyd i Chapter am y tro olaf yn 2012, ac r’ych chi’n gwybod beth mae hynny’n ei olygu ... Parti Nadolig Mawreddog y Clwb Ffilmiau Gwael! Dwy ffilm wael ynghyd â gemau, gwobrau, mins peis, craceri a thalp go dda o anhrefn. Y ffilm gyntaf yw Rats! Mae hi’n 2230 ac mae rhyfel niwclear wedi dinistrio’r byd. Mae grŵp o feicwyr modur yn chwilio am fwyd pan ddaw miloedd o lygod mawr mwtant i ymosod arnynt a cheisio bwyta’u cnawd. Gyda chymorth amrywiol arfau, rhaid i’r beicwyr frwydro yn erbyn y creaduriaid blewog er mwyn goroesi ... Wedi hynny, byddwn yn cyflwyno You Better Watch Out lle mae seicopath mewn siwt Siôn Corn yn penderfynu delio â’r plant ar y ‘rhestr o blant drwg’ yn ei ffordd ddihafal ei hun.

New British Sinema Quarterly Llun 3 Rhagfyr DG/2012/73mun/TICh.

Mae NBCQ yn cyflwyno pecyn perffaith o ffilmiau byrion, sy’n cyflwyno rhai o gyfarwyddwyr ac actorion mwyaf nodedig Prydain. Mae’n bosib taw hwn fydd eich unig gyfle i weld y Fonesig Judi Dench ar Facebook, yn chwarae rhan menyw sy’n ceisio denu arweinydd ei chôr ar wefannau cymdeithasol, Peter Mullan yn cyflwyno dosbarth meistr ar sut i ysmygu sigarét (heb i’r lludw syrthio), neu i weld yr hynod olygus Luke Treadaway yn rhedeg a rhedeg – a rhedeg.

Arbrawf Ffilm Valtari Digwyddiad Sigur Ros Gwener 7 Rhagfyr Gwlad yr Iâ/2012/120mun/15arf.

Ar ôl rhyddhau’r albwm Valtari, rhoddodd Sigur Ros yr un swm cymharol fychan o arian i ddwsin o wneuthurwyr ffilm a gofyn iddyn nhw greu’r hyn a ddeuai i’w meddyliau wrth iddyn nhw wrando ar ganeuon o’r albwm. Y nod oedd gwyrdroi’r broses artistig arferol er mwyn rhoi gwir ryddid creadigol i’r artistiaid. Mae’r gwneuthurwyr ffilm yn cynnwys Alma Har’el, Andrea Arnold, Floria Sigismondi, Ramin Bahrani a John Cameron Mitchell. Ar yr un pryd, gofynnodd y band i’w ffans gyfrannu eu creadigaethau personol eu hunain. Ymunwch â ni – a gwylwyr ar y saith cyfandir (gan gynnwys Antarctica) – ar gyfer y dangosiad tra arbennig hwn. (Cyflwyniad yn cynnwys noethni.)

O’r Chwith i’r Dde: Joy of Six, Valtari Film Experiment

Gwener 30 Tachwedd — Iau 6 Rhagfyr

029 2030 4400


chapter.org

Sinema

21

KOTATSU: ˆ From Up on Poppy Hill

Gwyl Animeiddio Japanaidd

Sadwrn 1 Rhagfyr

Yr unig ŵyl yng Nghymru sy’n arbenigo mewn Animeiddio Japanaidd. Bydd y digwyddiad undydd hwn yn cynnwys llu o ddangosiadau arbennig gan gynnwys dau première Cymreig, sesiwn holi-ac-ateb Skype o Japan, gweithdy Manga a marchnad Japanaidd trwy gydol y dydd. www.kotatsufestival.com Cefnogir gan Sefydliad Japan.

Marchnad Japanaidd 11am-5pm

Bydd gennym ddetholiad o stondinau, blwch bento Japanaidd, comics gwreiddiol gan Asuka Tanaka, celf a chrefft gan artistiaid lleol, siop gomics a nwyddau anime. Mae tocynnau raffl ar gael o’r Swyddfa Docynnau am 50c ac fe fydd y gwobrau’n cynnwys meddlawedd Stop-motion Pro a phrint wedi’i fframio o gelfyddyd Japanaidd. Tynnir y tocynnau raffl buddugol o’r het am 5.45pm.

Gweithdy dylunio cymeriadau Manga/Anime 3pm-4pm

Ewch ati i ddarlunio eich cymeriad! Gyda Asuka Tanaka. Oed 15+ £5 Archebwch le drwy e-bostio info@kotatsufestival.com

Première Cymreig

From Up On Poppy Hill Japan/2012/91mun/PGarf. Cyf: Goro Miyazaki.

Yn Japan y 1960au, ychydig cyn y Gêmau Olympaidd, mae Umi, merch ifanc weithgar, yn gofalu am ei theulu tra bod ei mam yn America. Un diwrnod, mae hi’n gweld cerdd ym mhapur newydd yr ysgol sydd fel petai wedi’i chyfeirio ati hi. Yn fuan wedi hynny, mae hi’n cwrdd â Shun, llanc ifanc beiddgar sy’n rhan o ymgyrch yn yr ysgol i achub y clwb lleol rhag cael ei ddymchwel. Mae’r ymgyrch yn cael ei arwain gan fechgyn yn bennaf ond cytuna Umi i helpu. Datblyga’r berthynas rhyngddi hi a Shun ond cânt eu gwahanu’n sydyn gan gyfrinach syfrdanol.

Arrietty Japan/2010/94mun/U
Cyf: Hiromasa Yonebayashi. Gyda Bridgit Mendler, Amy Poehler.

Gweler Ffilmiau Teuluol ar dudalen 30.

Komaneko / Komaneko’s Christmas Japan/2006&2009/80mun/U. Cyf: Tsuneo Godâ.

Mae Komaneko yn gath fach sy’n byw gyda’i thaid yn eu cartref mynyddig, lle mae Komaneko wrth ei bodd yn crefftio pethau â llaw. Mae hi’n edrych ymlaen at y Nadolig. + Dilynir gan sesiwn holi-ac-ateb fyw gyda’r cyfarwyddwr Tsuneo Godâ a’r animeiddiwr stop-motion, Hirokazu Minegishi, ar Skype o Japan.

Children Who Chase Lost Voices Japan/2011/116mun/TICh/isdeitlau. Cyf: Makoto Shinkai. Gyda Hisako Kanemoto, Kazuhiko Inoue, Miyu Irino

Pan mae creadur brawychus yn ymosod ar Asuma, mae hi’n cael ei hachub gan fachgen dirgel o’r enw Shun sy’n ei harwain hi ar antur anhygoel. Noddir y première Cymreig hwn gan KAZE, www.kaze.fr. Caiff y ffilm ei rhyddhau ym mis Ionawr 2013.

Berserk: Egg Of The King – Rhan 1 Japan/2012/80mun/15arg/isdeitlau. Cyf: Toshiyuki Kubooka.

Mae’r milwr cyflog Guts yn teithio o fan i fan ac yn curo’i wrthwynebwyr â chleddyfyddiaeth heb ei hail. Buan y caiff Guts ei recriwtio i grŵp o filwyr cyflog, ‘The Band of the Hawk’. Ond er gwaethaf eu llwyddiant, mae Guts yn dechrau amau ei resymau dros ymladd. Noddir y première Cymreig hwn gan KAZE, www.kaze.fr. Caiff y ffilm ei rhyddhau ym mis Rhagfyr 2012.


Sinema

029 2030 4400

O’r Chwith i’r Dde: Argo, Under Milk Wood

22

BAFTA Cymru’n cyflwyno: Under Milk Wood gyda’r cyfarwyddwr Andrew Sinclair Mercher 12 Rhagfyr

Argo Gwener 7 Rhagfyr – Mer 2 Ionawr UDA/2012/121mun/15 Cyf: Ben Affleck. Gyda Ben Affleck, Alan Arkin, John Goodman.

Mae Ben Affleck yn cyfiawnhau unwaith eto ei statws fel cyfarwyddwr gyda’r ffilm nodwedd ddifyr hon yn seiliedig ar stori wir asiant gyda’r CIA, Tony Mendez (Affleck). Mae 1979 yn tynnu tua’i therfyn ac mae’r chwyldro yn Iran wedi cyrraedd pwynt hollbwysig. Pan gaiff Llysgenhadaeth America ei goresgyn gan chwyldroadwyr, mae Mendez yn dyfeisio cynllun peryglus i ryddhau chwe Americanwr sydd wedi dianc i lysgenhadaeth Canada. Mae e’n esgus ei fod yn gynhyrchydd ffilm sci-fi newydd ac yn mynd i Tehran. Mae e’n dweud ei fod yn chwilio am leoliadau ac mae e hyd yn oed wedi mynd i’r drafferth o greu swyddfa gynhyrchu ffug yn Hollywood er mwyn sicrhau prawf allanol o wirionedd ei stori.

Ystafelloedd Tywyll yng Ngwesty’r Angel

It’s a Wonderful Life Sul 9 Rhagfyr 3.30pm + 7pm

UDA/1946/130mun/U. Cyf: Frank Capra. Gyda James Stewart, Donna Reed, Lionel Barrymore.

Pa le mwy priodol na Gwesty’r Angel i ddangos clasur Capra am yr angel gwarcheidiol sy’n helpu George Bailey i weld sut le fyddai’r byd hebddo? Pwy a ŵyr, efallai y gallwn ni helpu ambell i angel newydd i ‘gael hyd i’w adenydd’ yn ystod y dangosiad arbennig hwn gan Ystafelloedd Tywyll. £10/£6

DG/1972/88mun/15. Cyf: Andrew Sinclair. Gydag Elizabeth Taylor, Peter O’Toole, Richard Burton.

Yn yr addasiad sgrin cyntaf erioed o ddrama glasurol Dylan Thomas, Under Milk Wood, llwyddodd Richard Burton i wireddu uchelgais oes a chwarae’r rhan a ysgrifennwyd gan ei ffrind, Thomas, yn arbennig ar ei gyfer. Cyflwynwyd y ddrama wreiddiol ymhob gwlad yn y byd, bron iawn, ac, ar seliwloid, mae hi’n waith mor hardd, swynol, doniol a diamser bob tamaid – golwg arobryn ar fywyd dynol yn ei holl amrywiaeth. + Bydd cyfarwyddwr y ffilm, Andrew Sinclair, yn ymuno a ni ar gyfer y dangosiad ac fe fydd yn falch o ateb eich cwestiynau am y profiad o weithio gyda Richard Burton. + Gweler hefyd, ar ein gwefan, fanylion digwyddiad arbennig BAFTA ar ddydd Mercher 16 Ionawr.

Sightseers Gwener 14 – Iau 20 Rhagfyr DG/2012/89mun/15. Cyf: Ben Wheatley. Gyda Steve Ram, Alice Lowe.

Pan aiff Chris â Tina ar daith drwy Brydain yn ei annwyl garafán Abbey Oxford, mae e eisiau gwneud pethau ei ffordd ei hun. Ond ymhen dim o dro mae ei freuddwyd yn pylu. Mae sbwriel, pobl ifainc swnllyd a safleoedd carafannau siomedig, heb sôn am fam fusneslyd Tina, yn cynllwynio i chwalu breuddwydion Chris ac i’w arwain, ac unrhyw un sy’n ei groesi, ar hyd llwybr peryglus iawn. Y gomedi dywyll hon yw ateb y Canolbarth i Bonnie a Clyde ac mae’n brawf pellach bod Ben Wheatley (Kill List) yn un o gyfarwyddwyr newydd mwyaf nodedig Prydain.

“Llawn cyffro, eiliadau annisgwyl a chomedi dywyll fel y fagddu” Xan Brooks, The Guardian


O’r Chwith i’r Dde: Great Expectations, Seven Psychopaths

chapter.org

Sinema

23

Seven Psychopaths Gwener 21 – Iau 10 Ionawr

DG/2012/110mun/15 Cyf: Martin McDonagh. Gyda Colin Farrell, Sam Rockwell, Christopher Walken, Woody Harrelson, Abbie Cornish, Olga Kurylenko.

Great Expectations Gwener 14 Rhagfyr – Iau 10 Ionawr

DG/2012/129mun/12A Cyf: Mike Newell. Gyda Ralph Fiennes, Helena Bonham Carter, Jeremy Irvine, Robbie Coltrane, Sally Hawkins.

Ar ôl cael ei ddychryn a chytuno i gynorthwyo carcharor sydd wedi dianc, mae’r Pip ifanc, amddifad yn tynnu ei chwaer greulon a’i warcheidwad am ei ben ac fe’i anfonir i wasanaethu’r Miss Havisham gyfoethog a’i merch fabwysiedig hardd, Estella. Gyda chyfoeth o actorion Prydeinig talentog a gwisgoedd gothig gwych gan Beatrix Aruna Pasztor (Drugstore Cowboy; The Fisher King), mae’r ffilm yn addasiad gweledol ysblennydd o’r nofel glasurol ac yn ddiweddglo teilwng i ddathliadau deucanmlwyddiant bywyd a gwaith Charles Dickens. + Mae sain-ddisgrifiad ar gael ac fe fydd yna ddangosiadau ag isdeitlau ‘meddal’ ar ddydd Mawrth 18 Rhagfyr a dydd Mercher 9 Ionawr

Gremlins Sadwrn 15 + Sul 16 Rhagfyr UDA/1984/106mun/12A. Cyf: Joe Dante. Gyda Hoyt Axton, John Louie, Keye Luke.

Mae e’n ciwt, ydy. Wrth gwrs – cadwch e ar bob cyfri. Ond dyma dri rhybudd i chi: Peidiwch byth â’i wlychu. Cadwch ef yn bell o olau llachar. A’r peth pwysicaf un, yr un peth na ddylech chi’i anghofio, waeth faint y bydd yn crio, neu’n erfyn ... peidiwch byth, byth â’i fwydo ar ôl hanner nos. Â’r cyfarwyddiadau dirgel hyn, mae’r Billy Peltzer ifanc yn dechrau gofalu am ei anifail anwes newydd – sy’n fwy o lond llaw na’r disgwyl.

Mae Marty yn awdur aflwyddiannus yn LA sy’n breuddwydio am orffen ei sgript ffilm, ‘Seven Psychopaths’. Y cyfan sydd ei angen arno yw ychydig o ffocws ac ysbrydoliaeth. Fodd bynnag, pan fod ffrind gorau Marty yn dwyn - yn anfwriadol - Shih-Tzu hoff Charlie, gangster anwadal a hynod o beryglus, cânt eu hunain yn ddwfn yn isfyd LA ac mae’n rhaid iddyn nhw dynnu ar bob gronyn o ffocws ac ysbrydoliaeth er mwyn aros ar dir y byw. Mae’r enillydd Oscar, y sgriptiwr a’r cyfarwyddwr, Martin McDonagh, yn dilyn ei ffilm lwyddiannus flaenorol, In Bruges, â chomedi ddu sy’n llawn o sêr a gwaed.

Aurora

Gwener 4 – Iau 10 Ionawr Rwmania/2012/181mun/12A Cyf: Cristi Puiu.

Hanes cwymp dyn cyffredin. Mae Viorel yn dad ac yn beiriannydd sydd newydd ysgaru. Yn y gwaith, mae yna anghydfod rhyngddo ac un o’i gyd-weithwyr, sydd mewn dyled ariannol iddo. Mae e’n galw i mewn ar weithiwr arall sy’n rhoi iddo ddau bin tanio ar gyfer reiffl hela. Wrth i Viorel grwydro strydoedd Bwcarést, mae’n teimlo ryw nerfusrwydd rhyfedd, pryder annelwig ac awydd i roi terfyn ar yr ansefydlogrwydd sy’n rheoli’i fywyd. Mae’n prynu reiffl a bwledi ac yn mynd adref i weld sut mae’r arf yn gweithio. Dilyniant hir-ddisgwyliedig Puiu i The Death of Mr Lazarescu a’r ail yn ei gyfres arfaethedig o 6 ffilm sy’n edrych ar fywyd yn Rwmania.

“Un o’r ffilmiau mwyaf digyfaddawd a gynhyrchwyd eleni” Sight & Sound


Sinema

029 2030 4400

Chasing Ice

Gambit

Gwener 4 - Iau 10 Ionawr

Gwener 11 – Mercher 16 Ionawr

UDA/2012/76mun/Dim Tyst. Cyf: Jeff Orlowski. Gyda James Balog, Svavar Jonatansson.

UDA/2012/89mun/12A. Cyf: Michael Hoffman. Gyda Colin Firth, Cameron Diaz, Alan Rickman, Stanley Tucci.

Yn ystod gwanwyn 2005, aeth y ffotograffydd James Balog i’r Arctig ar aseiniad anodd - tynnu lluniau a fyddai’n tystio i newidiadau hinsoddol y Ddaear trwy ddefnyddio camerâu treigl amser chwyldroadol a gynlluniwyd i gofnodi delweddau o rewlifoedd y byd dros gyfnod o flynyddoedd. Roedd y daith gyntaf honno i’r gogledd yn agoriad llygad - golwg ar y stori fwyaf yn hanes dynoliaeth ac fe daniwyd ysfa ynddo a arweiniai maes o law at roi ei yrfa a’i fodolaeth ei hun yn y fantol. Mae fideos ingol Balog yn cywasgu blynyddoedd i rai eiliadau ac yn cofnodi symudiadau mynyddoedd iâ hynafol wrth iddyn nhw ddiflannu yn beryglus o gyflym. Mae’r ffilm hon yn adrodd hanes ymgais un dyn i geisio newid llif hanes trwy gasglu tystiolaeth ddiymwad am y newidiadau sy’n effeithio ar ein planed.

Mae Harry Dean yn guradur celfyddydol o Brydain sy’n penderfynu dial ar ei fos ymosodol drwy ei berswadio i brynu Monet ffug gyda chymorth brenhines rodeo ecsentrig o Decsas. Buan y daw i sylweddoli, fodd bynnag, nad oes yna’r fath beth â chynllun anffaeledig wrth i bethau ddatblygu y tu hwnt i bob rheolaeth. Gyda sgript gan y brodyr Coen, cyfarwyddo gan Hoffman [The Last Station] a chast gwych, mae’r fersiwn newydd hon o ffilm wreiddiol 1966 yn addo bod yn waith celfyddydol cwbl ddilys. + Dangosiad gydag isdeitlau ‘meddal’ ar ddydd Mercher 16; sain-ddisgrifiad ar gael hefyd

O’r Chwith i’r Dde: Chasing Ice, Gambit

24

“Os bu yna ffilm i’w gweld ar sgrin fawr erioed, dyma hi.” — David Courier, Uwch-raglennydd Sundance

Clwb Ffilmiau Gwael: Bats Sul 6 Ionawr Mae’r Clwb Ffilmiau Gwael yn dychwelyd i ddathlu wyth mlynedd yn Chapter! I nodi’r achlysur arbennig hwn, byddant yn cyflwyno’r clasur o ffilm gwael, Bats. Ar ôl i arbrawf llywodraethol fynd o’i le, mae ystlumod mwtant, llofruddiol wedi datblygu deallusrwydd dieflig - ac yn mynnu brathu wynebau pobl. Mae’r arbenigwr ar ystlumod, Sheila Casper, a’i chynorthwyydd, Jimmy, wrth law ond dyw’r fyddin ddim yn gallu gwrthsefyll y demtasiwn i gymryd rhan hefyd. Yn ffodus i ni, mae Lou Diamond Phillips wrth y llyw.

Love Crime Gwener 11 - Mawrth 15 Ionawr Ffrainc/2010/106mun/15/isdeitlau. Cyf: Alain Corneau. Gyda Kristin Scott Thomas, Ludivine Sagnier.

Ar ôl i Christine, sydd yn swyddog pwerus, gyflogi ingénue ifanc a naïf o’r enw Isabelle yn gynorthwyydd iddi, mae hi’n mwynhau chwarae gêmau â diniweidrwydd y ferch ifanc a dysgu gwersi anodd iddi. Ond â rhai o syniadau’r ferch ifanc yn ddigon da i Christine fod eisiau eu hawlio nhw fel eu rhai eu hun, daw uchelgais Isabelle i’r amlwg ac mae’r ddwy fenyw’n datgan rhyfel ar ei gilydd. Y ffilm gyffro seicolegol hon oedd ffilm olaf Corneau [Fear and Trembling] fel cyfarwyddwr ac mae’n stori droëdig am wleidyddiaeth y gweithle a chystadlu milain.


O’r Chwith i’r Dde: Elena, Silver Linings Playbook

chapter.org

Sinema

25

Silver Linings Playbook Gwener 11 - Iau 17 Ionawr UDA/2012/122mun/15. Cyf: David O Russell. Gyda Bradley Cooper, Jennifer Lawrence, Robert De Niro.

Elena Gwener 11 – Mercher 16 Ionawr Rwsia/2012/109mun/12A/isdeitlau. Cyf: Andrei Zvyagintsev. Gyda Aleksey Rozin, Andrey Smirnov.

Mae Vladimir, sydd yn ei chwedegau, ac Elena ei wraig, yn rhannu ei fflat balasaidd ef ym Moscow. Ond mae e’n ŵr cyfoethog, egnïol o hyd, ac mae hi’n gynnyrs blaen sydd wedi priodi’n dda. Mae e wedi ymddieithrio o’i ferch wyllt ei hun ac yn casáu mab ei wraig, Vladimir, a gweddill ei theulu hi. Pan ddaw salwch sydyn ac aduniad annisgwyl i fygwth etifeddiaeth bosib gwraig ufudd y tŷ, mae’n rhaid iddi droi at gynllun beiddgar a despret. Gyda cherddoriaeth gan Philip Glass, mae Elena yn ffilm afaelgar ac yn fersiwn fodern o’r ffilm gyffro noir glasurol - archwiliad cynnil o drosedd, cosb a’r natur ddynol.

“Mae cynildeb llechwraidd y ffilm hon yn rhyfeddol” — The Guardian

Dyw bywyd ddim wastad yn dilyn cynllun clir. Mae Pat Solitano wedi colli popeth - ei dŷ, ei swydd a’i wraig. Mae e bellach yn ôl yn byw gyda’i fam a’i dad ar ôl treulio wyth mis mewn carchar o ganlyniad i fargen â’r awdurdodau. Mae Pat yn benderfynol o ailadeiladu ei fywyd, o gadw agwedd bositif at fywyd ac adennill ei wraig, er gwaethaf amgylchiadau anodd eu gwahanu. Y cyfan y mae rhieni Pat eisiau yw iddo godi ar ei draed yn ôl — a rhannu’r obsesiwn teuluol â thîm pêl-droed Americanaidd y Philadelphia Eagles. Pan mae Pat yn cwrdd â Tiffany, merch ddirgel â’i phroblemau ei hun, mae pethau’n cymhlethu eto ac mae hi’n cynnig helpu Pat i adennill ei wraig — ond mae ganddi un amod. Wrth i’w cytundeb gael ei gyflawni, mae uniad annisgwyl yn ffurfio rhyngddynt sy’n arwain at gysuron i’r naill a’r llall.

Big Blue Lake Iau 17 Ionawr Hong Kong/2011/98mun/PG/isdeitlau. Cyf: Jessey Tsang. Gyda Leila Tong, Lawrence Chou, Amy Chun.

Stori dwyllodrus o syml am actores, Lai-yee, sy’n dychwelyd i’w phentref genedigol i geisio ail-gysylltu â’i gorffennol. Yn ystod yr ymweliad, mae perthynas yn datblygu rhyngddi a bachgen o’i hen ddosbarth ysgol a, gyda’i gilydd, maent yn mynd i chwilio am y Llyn Glas chwedlonol. Wedi’i ffilmio ym mhentref Ho Chung yn Nhiriogaethau Newydd Hong Kong, mae ffilm Tsang yn fyfyrdod hardd ar y gorffennol, cofio a datblygiadau diymwad y byd modern. Roedd cyfarwyddwr Big Blue Lake yn enillydd teilwng Gwobr y Newydd-ddyfodiad Gorau yng Ngwobrau Ffilm Hong Kong 2012. + Cyflwyniad gan Vee Leong a James Tyson.


26

Sinema

029 2030 4400

Hitchcock: Meistr Go Iawn Pa ffordd well o hebrwng y flwyddyn newydd i mewn, a pharatoi at weld Anthony Hopkins yn chwarae rhan Hitchcock, na gwylio detholiad penigamp o’r mwy na 50 o ffilmiau nodwedd a gwblhawyd gan y meistr; corff o waith sydd yn llawn cyrff – llofruddiaethau gan wŷr a gwragedd ac adar – gêmau meddyliol milain, ffug-hunanladdiadau a dogn helaeth o seicoddadansoddi, voyeuriaeth, swrealaeth ac ysbïo Natsïaidd...

The Ring

Spellbound

DG/1927/116mun/PG. Cyf: Alfred Hitchcock. Gyda Carl Brisson, Lillian Hall-Davis, Ian Hunter.

UDA/1945/111mun/PG. Cyf: Alfred Hitchcock. Gyda Ingrid Bergman, Gregory Peck.

Portread hyfryd o Lundain yn y 1920au, mae hon yn felodrama am focsio ac yn adrodd stori dau focsiwr y mae eu cystadleuaeth garwriaethol yn cael ei hadlewyrchu yn eu gornestau yn y sgwâr. Trwy ddefnydd o gyffyrddiadau mynegiadol, symbolaeth a delweddau arddulliadol - dylanwad cyfnod Hitchcock yn yr Almaen, mae’n siŵr - mae’r print newydd hwn yn cynnwys y perfformiad cyntaf o sgôr jazz newydd a grëwyd ar gyfer y ffilm gan Soweto Kinch.

Mae Dr Constance Petersen yn seiciatrydd sy’n deall y natur ddynol yn iawn - neu dyna mae e’n ei feddwl, beth bynnag. Pan benodir y Dr Anthony Edwardes dirgel yn bennaeth newydd ei sefydliad, fodd bynnag, mae Constance yn plymio i drobwll o hunaniaethau cymhleth a seicoddadansoddi tanbaid - a’r peth peryclaf un nawr yw syrthio mewn cariad. Stori garu drosgynnol lawn cyffro a delweddau syfrdanol, sy’n cynnwys dilyniant breuddwydiol hudolus gan eicon swrealaeth, Salvador Dalí.

Sul 2, Mawrth 4 + Iau 6 Rhagfyr

Downhill

Sul 9, Mawrth 11 + Iau 13 Rhagfyr DG/1927/80mun/U. Cyf: Alfred Hitchcock. Gyda Ivor Novello, Ben Webster, Robin Irvine.

Perfformiad Novello o’i ddrama lwyfan ei hun. Mae e’n chwarae rhan (ag yntau’n 34 oed!) y bachgen ysgol perffaith, Roddy, a gyhuddir ar gam o feichiogi merch ifanc. Ar ôl iddo gael ei ddiarddel a’i gywilyddio, mae Roddy’n troi at rentu’i hun i fenywod unig a chyfoethog cyn cael ei hun yn sâl ac heb geiniog ym Marseille. Ffilm anarferol o dywyll yn ei chyfnod, mae Downhill yn un o’r enghreifftiau cyntaf o blot ‘y dyn a gafodd gam’ yng ngwaith Hitchcock. Gwaith a esgeuluswyd dros y blynyddoedd, a hynny’n gwbl annheg.

Gwener 21 – Sul 23 Rhagfyr

Notorious

Sul 30, Mercher 2 Rhagfyr + Iau 3 Ionawr UDA/1946/102mun/U. Cyf: Alfred Hitchcock. Gyda Cary Grant, Ingrid Bergman, Claud Rains.

Yn yr alegori wych hon o gariad a brad, mae Hitchcock yn cyfuno dwy o’i hoff elfennau: cyffro a rhamant. Mae menyw brydferth â gorffennol tywyll yn cael ei chyflogi gan yr asiant Americanaidd, Devlin, i ysbïo ar gylch o Natsïaid ar ôl y rhyfel yn Rio. Mae hyn yn arwain at roi ei bywyd yn y fantol ar ôl iddi briodi ag Alex, aelod mwyaf debonair y cylch o Natsïaid. Dim ond Devlin all ei hachub hi ond, er mwyn gwneud hynny, rhaid iddo wynebu ei rôl ef yn ei bywyd a chydnabod ei fod wedi ei charu hefyd ar hyd yr amser.

Rebecca

Rear Window

UDA/1940/130mun/PG. Cyf: Alfred Hitchcock. Gyda Laurence Olivier, Joan Fontaine, George Sanders.

UDA/1954/112mun/PG. Cyf: Alfred Hitchcock. Gyda James Stewart, Grace Kelly, Wendell Corey.

Addasiad o nofel Daphne Du Maurier, mae’r ffilm boblogaidd hon yn adrodd hanes merch naïf sy’n syrthio mewn cariad â Maxim de Winter – gŵr cyfoethog sy’n methu â dianc rhag ei orffennol. Ar ôl priodi, mae’r cwpwl yn dychwelyd i Manderley, stad wledig de Winter yng Nghernyw – ond mae Max yn cael ei boenydio o hyd gan ei wraig gyntaf, Rebecca, a fu farw mewn damwain hwylio y flwyddyn cynt. Ar ôl dadl â meistres y tŷ, Mrs Danvers, mae’r Mrs de Winter newydd yn darganfod bod gan Rebecca afael ryfedd o hyd ar bawb yn Manderley.

Mae hi’n haf poeth yn Efrog Newydd ac mae’r ffotograffydd cylchgrawn LB ‘Jeff’ Jeffries yn gaeth i gadair olwyn ar ôl torri ei goes yn ystod ei wasanaeth milwrol. Bob dydd, mae dramâu cyffredin yn datblygu yn y fflatiau bocsaidd gyferbyn â’i fflat yntau – yna, un noson, mae’n tybio iddo weld un o’i gymdogion yn cael gwared ar gorff ei wraig. Gyda chymorth ei nyrs grintachlyd a’i gariad ffyddlon, Lisa, sy’n aelod o set cymdeithasol Park Avenue, mae LB yn mynd ati i geisio profi euogrwydd y ‘dyn cyffredin’ sy’n gymydog iddo.

Sul 16, Mawrth 18 + Iau 20 Rhagfyr

Sul 6, Mawrth 8 + Iau 10 Ionawr


chapter.org

Sinema

27

Vertigo

Sadwrn 12, Sul 13 + Iau 17 Ionawr UDA/1958/125mun/PG. Cyf: Alfred Hitchcock. Gyda James Stewart, Kim Novak, Barbara Bel Geddes.

Mae cyn-dditectif sy’n dioddef o fertigo yn cael ei gyflogi i ddilyn menyw sydd fel petai wedi’i meddiannu gan y gorffennol yn yr archwiliad oesol hwn o ddyhead ac obsesiwn gwrywaidd.

The Paradine Case Llun 14 + Mawrth 15 Ionawr

DG/1947/131mun/PG. Cyf: Alfred Hitchcock. Gyda Gregory Peck, Ann Todd, Charles Laughton

Pan gaiff Keane, bargyfreithiwr priod, ei gyflogi i amddiffyn Mrs Paradine, sydd wedi’i chyhuddo o lofruddio, mae’n syrthio dros ei ben a’i glustiau mewn cariad a’r dramores ifanc, hardd ac enigmatig. Mae hi wedi’i chyhuddo o wenwyno ei gŵr dall - dyn milwrol wedi ymddeol - ac mae’n rhaid gofyn y cwestiwn: ai cyhuddiad ar gam ydyw neu a yw hi mewn gwirionedd yn femme fatale ddidostur?

Psycho Sad 19, Sul 20 + Iau 24 Ionawr UDA/1960/109mun/15. Cyf: Alfred Hitchcock. Gyda Anthony Perkins, Janet Leigh.

Dylai fod gan bob bachgen hobi ac, ar ôl i Marion Crane ddwyn $40,000 gan gleient ei chyflogwr a dianc gyda’r arian, mae hi’n aros dros nos ym motel teulu Bates ac yn cael y cyfle i ddysgu am hobi Norman ...

Marnie Llun 21 + Mawrth 22 Ionawr UDA/1964/130mun/15. Cyf: Alfred Hitchcock. Gyda Tippi Hedren, Sean Connery

Mae Marnie Edgar yn gwneud ei bywoliaeth trwy ddwyn gan ei chyflogwyr cyn symud ymlaen at y swydd nesaf. Pan gaiff ei dal o’r diwedd gan un o’i chyflogwyr, mae e’n ei blacmelio hi i’w briodi. Ar ôl sylweddoli bod ei hymddygiad yn ganlyniad i drawma yn ei phlentyndod, anallu i ymddiried mewn dynion ac ofn stormydd, taranau a’r lliw coch, mae e’n trefnu cyfarfod rhyngddi â’i mam er mwyn dod ag atgofion plentyndod i’r wyneb - a’i hachub hi rhag ei gorffennol.

The Birds O’r top: Hitchcock, The Ring, Notorious, Vertigo

Sadwrn 26, Sul 27 + Mawrth 29 Ionawr UDA/1963/119mun/15. Cyf: Alfred Hitchcock. Gyda Rod Taylor, Jessica Tandy, Suzanne Pleshette, Tippi Hedren.

Pan aiff Melanie Daniels gyfoethog â phâr o adar cariad i dŷ ym Mae Bodega ar arfordir Califfornia, ymosodir arni gan wylan ac mae hi’n cael ei pherswadio i aros dros nos er mwyn dod dros y sioc. Y diwrnod wedyn, fodd bynnag, mae yna enghreifftiau cynyddol o ymosodiadau gan adar ac mae Daniels yn gwneud popeth y gall i amddiffyn ei hun ac eraill rhag yr ymosodiadau ffyrnig a chwbl ddiesboniad.


28

Sinema

029 2030 4400

Outside Satan Gwener 18 – Iau 24 Ionawr

Ffrainc/2011/110mun/TICh. Cyf: Bruno Dumont. Gyda David Dewaele, Alexandra Lematre

“ Ffilm rodresgar a fydd yn eich gwylltio’n gacwn — ond a fydd hefyd yn eich swyno ac yn eich arwain i fan trosgynnol” — Variety

Outside Satan

Ar arfordir Gogledd Ffrainc, ar y Cote d’Opale, rhwng afon a chorstir, mae potsiwr unig yn byw; mae’n baglu trwy fywyd, yn potsio, yn gweddïo ac yn cynnau tanau. Mae merch o fferm leol yn gofalu amdano ac yn dod â bwyd iddo. Treuliant amser yng nghwmni’i gilydd yn eangderau trawiadol y twyni tywod a’r coedwigoedd, gan ddweud gweddïau preifat ar lannau’r llynnoedd bychain, lle mae’r gŵr drwg ei hun ar gerdded. Mae gwyrth yn datgelu ochr gudd i gymeriad y dyn unig a daw cyfres o farwolaethau treisgar i darfu ar lonyddwch cefn gwlad.


chapter.org

Sinema

29

Midnight’s Children Gwener 18 – Iau 24 Ionawr Canada/2012/148mun/12A/isdeitlau. Cyf: Deepa Mehta. Gyda Satya Bhabha, Shahana Goswami.

DG/2012/97mun/12A. Cyf: Dustin Hoffman. Gyda Maggie Smith, Tom Courtenay, Billy Connolly, Michael Gambon, Pauline Collins.

End Of Watch

O’r top: End of Watch, Quartet

Gwener 18 – Iau 31 Ionawr

Yn ei sgript ffilm nodwedd gyntaf, mae Salman Rushdie yn mynd ati i addasu’r nofel a enillodd iddo Wobr Booker. Mae’r saga alegorïaidd yn cyflwyno newidiadau dramatig yn hanes un teulu ar y cyd â’r digwyddiadau a fyddai maes o law yn diffinio’r India gyfoes yn y cyfnod rhwng diwedd yr oes drefedigaethol a’r Rhaniad â Phacistan. Wedi’i eni ar drothwy annibyniaeth India o Brydain, ac ar ôl i nyrs gyfnewid un babi ag un arall mewn gweithred gudd o brotest, daw tynged Saleem Sinai i fod yn annatod glwm nid yn unig â dyfodol ei wlad ond hefyd â dyfodol Shiva, y bachgen a ddylai fod wedi cael ei eni i fyd breintiedig Saleem. Pan ddaw Saleem i wybod fod ganddo bwerau arbennig a’i fod yn gallu cyfathrebu â phlant eraill a anwyd ar y dyddiad arwyddocaol hwn, cawn olwg ar gwrs hanes o nifer o safbwyntiau gwahanol.

Quartet Mae Wilf a Reggie wedi bod yn ffrindiau erioed ac yn byw erbyn hyn mewn cartref preswyl i gantorion opera sydd wedi ymddeol, ynghyd â chyngydweithiwr, Cissy. Bob blwyddyn, ar ben-blwydd Verdi, mae’r trigolion yn dod at ei gilydd i roi cyngerdd i godi arian ar gyfer y cartref. Ond pan ddaw Jean Horton, cyn-grande dame yr opera, cyn-wraig Reggie a phedwerydd aelod - yr enwocaf hefyd – o’r pedwarawd gynt, i fyw i’r cartref, mae’r cynlluniau ar gyfer cyngerdd y flwyddyn honno’n dechrau dadfeilio. Mae ffilm gyntaf Dustin Hoffman fel cyfarwyddwr yn stori ddifyr ac ysbrydolgar am ailddiffinio henaint a heneiddio. Dengys sut y mae’r ysbryd dynol yn parhau i ddisgleirio hyd yn oed ar ôl i’r sêr disgleiriaf ddechrau pylu. + Mae sain-ddisgrifiad ar gael ac fe fydd yna ddangosiadau ag isdeitlau ‘meddal’ ar ddydd Mawrth 22 a dydd Mercher 30 Ionawr.

Gwener 18 – Iau 24 Ionawr UDA/2012/109mun/15. Cyf: David Ayer. Gyda Jake Gyllenhaal, Michael Peña, Natalie Martines.

Mae’r Swyddogion Taylor a Zavala yn hoff o gymryd risgiau ac o weithredu ar ymyl eithaf y rheolau er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau posib. Ar ôl iddyn nhw ddarganfod a chymryd i’w meddiant stôr o ynnau ac arian, mae’r ymchwiliad cysylltiedig yn eu harwain i dir mwy tywyll o lawer a, chyn bo hir, maen nhw ar restr arweinydd milain prif gartél cyffuriau de LA o bobl i’w lladd. Mae’r ffilm hon yn dilyn gwaith blaenorol Ayer, Training Day, ac yn archwiliad pellach o isfyd treisgar Los Angeles.


Sinema

029 2030 4400

Living In The Future

Skyfall

Mawrth 22 Ionawr

Gwener 25 – Iau 31 Ionawr

Cymru/2012/48mun/TICh. Cyf: Helen Iles.

DG/2012/143mun/12A. Cyf: Sam Mendes. Gyda Daniel Craig, Javier Bardem, Judi Dench.

O’r Chwith i’r Dde: Skyfall, Happy Happy

30

Wedi’i gychwyn yn 2009, Lammas oedd eco-bentref cyntaf y DG. Mae’r ffilm yn adrodd hanes naw teulu a’r modd yr aethant ati i greu eu cartrefi naturiol a hardd ar borfeydd Sir Benfro. Hanfod eu stori yw’r angen dybryd i adeiladu eu tai fforddiadwy eu hunain ac i adnewyddu eu perthynas â’r tir. Yn wyneb y brwydrau cyfreithiol a gelyniaeth o du’r gymuned leol ehangach, mae’r teuluoedd yn ei chael hi’n anodd nid yn unig i greu ffordd newydd a chynaliadwy o fyw ond hefyd i ymdopi â’r pwysau parhaol i sicrhau bod Lammas yn gymuned lwyddiannus a allai fod yn enghraifft o sut i fyw yn y dyfodol. + Bydd yna sesiwn holi-ac-ateb gyda gwestai arbennig ar ôl y digwyddiad hwn; gweler y manylion ar ein gwefan yn nes at y dyddiad.

Les Miserables Gwener 25 Ionawr – Iau 7 Chwefror DG/2012/152mun/TICh. Cyf: Tom Hooper. Gyda Hugh Jackman, Russell Crowe, Anne Hathaway, Amanda Seyfried.

Mae Jean Valjean, Ffrancwr a garcharwyd am ddwyn bara, wedi torri telerau ei barôl ac mae’n rhaid iddo ffoi rhag yr Arolygydd Javert. Mae’r ymlid yn cael effaith ar fywydau’r ddau ddyn fel ei gilydd ac, ar ôl dau ddegawd o ffoi, mae Valjean yn ei gael ei hun yn faer ar dref fechan yn Ffrainc ar adeg Gwrthryfel mis Mehefin 1832 ym Mharis. Mae Hooper [The King’s Speech, The Damned United] wedi creu addasiad ffilm newydd o’r nofel boblogaidd â chast ensemble disglair. + Bydd ein grŵp ffilm a llenyddiaeth, Addasiadau / Adaptations, yn cyfarfod ar ôl y dangosiad ar ddydd Llun, 28 Ionawr, i drafod y ffilm. Archebwch eich tocynnau o’r swyddfa docynnau.

Mae teyrngarwch Bond i M yn cael ei brofi i’r eithaf pan ddaw ei gorffennol i’r wyneb i greu problemau. Wrth i MI6 ddod dan ormes, rhaid i 007 gael hyd i’r bygythiad a’i ddinistrio – waeth beth fydd y gost bersonol.

Happy Happy Gwener 25 – Iau 31 Ionawr Norwy/2010/85mun/15/isdeitlau. Cyf: Anne Sewitsky. Gyda Agnes Kittelsen, Henrik Rafaelsen

Teulu yw’r peth pwysicaf yn y byd i Kaja. Mae hi’n optimist tragwyddol er gwaetha’r ffaith ei bod hi’n byw gyda dyn y mae’n well o lawer ganddo fynd i hela gyda’r bechgyn ac sydd wedi hen roi’r gorau i garu gyda hi am nad yw hi’n “arbennig o ddeniadol mwyach”. Pan ddaw cwpwl perffaith i fyw i’r tŷ drws nesaf, fodd bynnag, mae Kaja’n brwydro i gadw rheolaeth dros ei hemosiynau. Nid yn unig y mae’r bobl lwyddiannus, ddeniadol a chyffrous hyn yn canu mewn côr, maen nhw hefyd wedi mabwysiadu plentyn – o Ethiopia. Mae’r cymdogion newydd yn agor byd newydd i Kaja ac mae yna oblygiadau i bob un. Pan ddaw adeg y Nadolig, mae hi’n amlwg na all pethau fod fel yr oeddent o’r blaen, hyd yn oed os yw Kaja’n gwneud ei gorau glas i sicrhau hynny.


chapter.org

Ffilmiau i’r Teulu Cyfan

FFILMIAU I’R TEULU CYFAN

Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn. Archebwch ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Arrietty

Frankenweenie [2D]

Sadwrn 1 Rhagfyr

Japan/2010/94mun/U
Cyf: Hiromasa Yonebayashi. Gyda Bridgit Mendler, Amy Poehler.

Mae teulu’r Clociaid yn bobl bedair modfedd o daldra sy’n byw’n ddienw yng nghartref teulu arall ac yn benthyca nwyddau syml er mwyn creu eu cartref eu hunain. Ond mae bywyd yn newid i’r Clociaid pan gaiff eu merch, Arrietty, ei darganfod. Rhan o Ŵyl Kotatsu - gweler tudalen 21

Madagascar 3: Europe’s Most Wanted [2D]

Sadwrn 8 Rhagfyr + Gwener 4 – Sul 6 Ionawr UDA/2012/93mun/PG. Cyf: Eric Darnell, Tom McGrath, Conrad Vernon. Gyda Ben Stiller, Chris Rock, David Schwimmer.

Mae Alex, Marty, Gloria a Melman yn dal i geisio dychwelyd adref i’w Hafal Mawr hoff. Mae eu taith yn eu harwain drwy Ewrop lle maen nhw’n dyfeisio’r cynllun perffaith: esgus bod yn syrcas deithiol (ond yn arddull Madagascar, wrth reswm).

Rise Of The Guardians [2D] Sadwrn 15 – Iau 20 Rhagfyr

UDA/2012/PG. Cyf: Peter Ramsey. Gyda Hugh Jackman, Alec Baldwin, Chris Pine.

Mae’r ffilm antur epig a hudolus hon yn adrodd hanes Siôn Corn, Bwni’r Pasg, Tylwythen Deg y Dannedd, Huwcyn Cwsg a Jac Barrug - cymeriadau chwedlonol a chanddynt alluoedd eithriadol. Pan ddaw ysbryd drygionus o’r enw Pitch i herio’r byd a bygwth ei reoli am byth, rhaid i’r Gwarcheidwaid anfarwol ddod at ei gilydd i amddiffyn gobeithion, credoau a dychymyg plant ymhobman.

31

Noddir gan Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk

Gwener 21 Rhag – Iau 3 Ionawr + Sadwrn 19 Ionawr UDA/2012/87mun/PG. Cyf: Tim Burton. Gyda Martin Landau, Winona Ryder.

Mae ci annwyl Victor, Sparky, yn cyrraedd diwedd ei daith mewn amgylchiadau trasig ac mae’r dyfeisiwr ifanc yn penderfynu dod ag ef o farw’n fyw yn ôl yn stori stop-motion swynol Burton – ei ymateb unigolyddol ef i fyth Frankenstein.

Ice Age 4: Continental Drift Sadwrn 12 Ionawr

UDA/2012/88mun/U. Cyf: Steve Martino, Mike Thurmeier. Gyda Ray Romano, Denis Leary

Mae Manny, Diego a Sid yn cychwyn ar antur arall ar ôl i’w cyfandir dorri’n rhydd o’i chlymau. Maen nhw’n defnyddio mynydd iâ fel llong ac yn cyfarfod â chreaduriaid y môr ac yn brwydro â môr-ladron wrth iddyn nhw ddarganfod byd newydd.

The Penguin King [2D] Sadwrn 26 Ionawr

DG/2012/78mun/U. Sgriptiwr ac Adroddwr: David Attenborough.

Ffilm ddogfen drawiadol am fywyd un pengwin a’r hyn y mae’n rhaid iddo’i wneud er mwyn gwarchod ei deulu rhag niwed mewn cynefin hardd ond llym.

Carry On Screaming!

Bob dydd Gwener am 11am, mae Carry On Screaming! yn galluogi i rieni neu ofalwyr weld ffilm heb orfod poeni y bydd eu babi’n aflonyddu ar eraill. Edrychwch ar y calendr i gael manylion y dangosiadau arbennig hyn, i bobl â babanod iau na blwydd oed.

O’r chwith i’r dde: Madagascar 3, Frankenweenie

Mynediad am ddim i fabanod. Nodwch os gwelwch yn dda nad yw tocynnau ar gyfer y dangosiadau hyn ar gael ar-lein. Dim mynediad heb fabi!


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.