Chapter Rhagfyr 2015

Page 1

029 2030 4400

@chaptertweets

chapter.org


02

029 2030 4400

Croeso

CROESO Defnyddiwch y côd QR hwn i lawr-lwytho copi digidol o gylchgrawn Chapter Oriau Agor dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd: Iau 24 Rhagfyr Cau am 5pm (bydd y Swyddfa Docynnau yn cau am 2pm a’r Gegin yn cau am 4pm) Gwener 25 + Sad 26 Rhagfyr: Chapter ar gau — Nadolig Llawen! Sul 27 — Mer 30 Rhagfyr: Ar agor fel arfer Iau 31 Rhagfyr Ar gau tan 7pm: Parti Nos Galan Chapter 2015 7pm-2am (gweler y manylion ar dudalen 5).

Delwedd y clawr: Fly Robin Fly, Magda Archer

Chapter Heol y Farchnad, Caerdydd CF5 1QE 029 2030 4400 www.chapter.org ymholiadau@chapter.org

Dylunio:: Nelmes Design

Helo a chroeso i’ch cylchgrawn misol sy’n cynnwys holl fanylion rhaglen Chapter ym mis Rhagfyr. Â’r Nadolig yn nesáu, rydym wedi creu canllaw bach defnyddiol i ddigwyddiadau’r ŵyl yn Chapter. Trowch i dudalennau 4-5 i weld bwydlen Nadoligaidd swmpus y Caffi Bar ac i weld manylion y ffilmiau a’r cynyrchiadau theatr a fydd yn cymell ysbryd y Nadolig — heb anghofio ein parti Nos Galan ardderchog i groesawu’r flwyddyn newydd! Hefyd y mis hwn, byddwn yn rhoi sylw i dalentau lleol â dangosiadau o Under Milk Wood (t22), y ffilm ddogfen ddadlennol, Mr Calzaghe (t22), a llwyfaniad o Macbeth gan Gwmni Richard Burton y Coleg Cerdd a Drama (t12). Byddwn yn croesawu Dirty Protest yn eu holau i Chapter — byddan nhw’n cyflwyno Christmas Songbook (t13), yn dilyn eu cyflwyniad nodedig o Parallel Lines. Ac fe fyddwn yn dianc i fyd hynod Bond â dangosiadau o ffilm ddiweddaraf yr ysbïwr, Spectre (t17). Diolch am ddarllen ac fe welwn ni chi cyn hir!


chapter.org

Uchafbwyntiau

Nadolig yn Chapter tudalennau 4-5

Oriel tudalennau 6–9

03

CYMRYD RHAN

Theatr

Cerdyn CL1C

tudalennau 10–13

Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawrlwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Chapter Mix tudalen 14

Llogi tudalen 15

Ffrindiau Chapter Sinema tudalennau 16–27

Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40

Clwb Chapter

Addysg tudalennau 28–29

Gwybodaeth a Sut i archebu tocynnau tudalen 30

Cynllun aelodaeth Chapter i fusnesau. Am ffi flynyddol fechan, gall eich busnes chi fwynhau manteision sylweddol yn Chapter, gan gynnwys gostyngiadau i chi a’ch staff ar fwyd, diod a thocynnau. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.chapter.org/cy/chapter-clwb.

Cadwch mewn cysylltiad Ymunwch â ni ar-lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

eAmserlen rad ac am ddim Cymryd Rhan

eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch adam.chard@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.

tudalen 31

Siaradwch â ni

Calendr

@chaptertweets facebook.com/chapterarts

tudalennau 32–33

Nodwch os gwelwch yn dda bod copïau print bras o’n cylchgrawn ar gael ar gais. Cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau ar 029 2030 4400.


04

Nadolig yn Chapter

029 2030 4400

Nadolig Llawen Chapter i bawb! Ah, adeg hyfrytaf y flwyddyn! Rydym wrth ein boddau â’r Nadolig ei hun ond y trimins — y nosweithiau allan a’r partïon a’r cyfarfodydd dros wydraid o win cynnes — dyna sy’n twymo’n calonnau ni go iawn. Felly, dyma’n canllaw ni i holl digwyddiadau campus y Nadolig yma yn Chapter. Deuddeg o resymau — fel deuddeg dydd y dathlu — i dreulio’r Nadolig gyda ni eleni. Nadolig Llawen!

1

3

Siopa Nadolig yn Chapter

Ffair Fwyd Nadoligaidd

Codwch rodd hyfryd o’n siop. Rydym yn gwerthu gemwaith wedi’i wneud â llaw gan EllyMental, Kate Dumbleton a Layla Amber, nwyddau enamel ‘retro’ gan Mini Moderns, darnau serameg anifeilaidd hyfryd gan Quail a dewis helaeth o bethau hyfryd i lenwi’r hosan Nadolig. Neu beth am brynu taleb y gellir ei defnyddio yn y Sinema, y Theatr, y Siop neu’r Caffi Bar. Pob peth y bydd ei angen arnoch i gael Nadolig Llawen! Bydd yna ambell ffair lyfrau Nadoligaidd hefyd yn ystod y mis, yng nghwmni Parthian Books a Seren — gweler y manylion ar dudalen 14.

Fyddai hi ddim yn Ddolig heb ymweliad â Ffair Fwyd Nadoligaidd Chapter. Unwaith eto, rydym yn cydweithio â Green City Events i arddangos a blasu bwyd gan rai o’r cynhyrchwyr gorau o Gymru ac o barthau mwy diarffordd. Llenwch eich cypyrddau â bwydydd blasus, siocledi a chacennau hyfryd a chigoedd a chwrw ardderchog. Bydd Green City Events hefyd yn cynnal gweithdai a gweithgareddau i’r teulu cyfan drwy gydol y diwrnod ac fe fydd yna sesiwn o ganu carolau dan y goeden.

Drwy gydol mis Rhagfyr

2

Oh So Crafty

Sad 5 Rhagfyr 11am–6pm Ymunwch â ni i chwilota drwy’r crefftau lleol gorau. Bydd yna decstilau a gemwaith, nwyddau i’r cartref a serameg hardd ynghyd â detholiad o bethau ‘vintage’ gwych! RHAD AC AM DDIM

Sul 13 Rhagfyr 11am–6pm

RHAD AC AM DDIM

4

Ffrindiau Chapter Ydych chi’n chwilio am anrhegion i ffrindiau neu aelodau o’r teulu? Os oes yna ffans o Chapter yn eich plith, neu os hoffech chi gyflwyno’r ganolfan i rywun, beth am brynu tanysgrifiad i gynllun Ffrindiau Chapter? Mae ein Ffrindiau yn derbyn gostyngiadau gydol y flwyddyn ar ddigwyddiadau a gwasanaethau ledled y ganolfan ac fe all pris aelodaeth fod cyn lleied â £20 y flwyddyn — rhodd fforddiadwy a phoblogaidd.


chapter.org

Nadolig yn Chapter

5

10

ChapterLive

Bwydlen Arbennig y Nadolig

Gwe 4 Rhagfyr + Gwe 18 Rhagfyr 9pm Mae ChapterLive yn gyfres o gyngherddau byw wedi’u curadu gan yr hyrwyddwyr profiadol, Jealous Lovers Club, sydd yn cyflwyno detholiad o’u hoff grwpiau o’r DG, Ewrop a gwledydd pellennig eraill yn Chapter. Cynhelir ChapterLive yn y Caffi Bar ar ddydd Gwener cyntaf a thrydydd dydd Gwener y mis ac mae’r nosweithiau’n gyfle i chi ddod o hyd i artistiaid newydd gwych. I gael mwy o wybodaeth am y grwpiau wrth iddyn nhw gael eu cadarnhau, ewch i’n gwe-fan.

Bydd prydau Nadolig dau gwrs ar gael rhwng dydd Llun a dydd Gwener tan 6pm a hynny tan ddydd Gwener 18 Rhagfyr. Perffaith ar gyfer parti gwaith neu gyfarfod hamddenol â ffrindiau. Gweler y manylion ar www.chapter.org/cy/festive-menu.

11

RHAD AC AM DDIM @JealousLovers1 #ChapterLive

Ewch allan i weld cynhyrchiad neu ffilm Nadoligaidd y mis hwn

6

Noson Gymdeithasol Clwb Chapter

Theatr:

The Wonderful World of Christmas Sul 13 Rhagfyr 7pm

Iau 10 Rhagfyr 6–8pm

Gweler y manylion ar dudalen 13.

Byddwn yn cynnal noson Nadoligaidd rad ac am ddim i Aelodau ein Clwb a busnesau lleol. Os hoffech chi neu aelod o staff eich busnes fynychu, anfonwch RSVP at amy.sears@chapter.org erbyn Maw 1 Rhagfyr, os gwelwch yn dda.

Dirty Protest yn cyflwyno ‘Christmas Songbook’ Mer 16 — Sad 19 Rhagfyr 8pm

Parti Nadolig Caerdydd Greadigol

The Polar Express

7

Mer 16 Rhagfyr 7.30–11pm

Parti wedi’i gynnal gan Caerdydd Greadigol a Chapter i gymuned greadigol Caerdydd. I gael mwy o wybodaeth, ewch i dudalen 14.

8

Noson Gymdeithasol Ffrindiau Chapter Iau 17 Rhagfyr 5–7pm

Os ydych yn un o Ffrindiau Chapter, ymunwch â ni i ddathlu tymor y Nadolig â gwydraid o win cynnes. Os hoffech chi ymuno â ni, anfonwch RSVP at jennifer. kirkham@chapter.org erbyn Llun 7 Rhagfyr, os gwelwch yn dda.

9

Dewch â’ch Parti Nadolig chi i Chapter! Mae ystafelloedd ar gael i’w llogi drwy gydol y flwyddyn ac rydym yn ymfalchïo yn ein gallu i gynnig gwasanaeth cyfeillgar, proffesiynol a thechnegol er mwyn sicrhau bod eich digwyddiadau yn gofiadwy. Ydych chi’n trefnu parti gwaith neu ddigwyddiad teuluol ym mis Rhagfyr? Beth am logi gofod yn Chapter? Gweler y manylion ar dudalen 15.

05

Gweler y manylion ar dudalen 13.

Sinema: Sad 12 — Maw 22 Rhagfyr Gweler y manylion ar dudalen 27.

It’s A Wonderful Life Sul 20 — Iau 24 Rhagfyr Gweler y manylion ar dudalen 26.

Muppets Christmas Carol Gwe 18 — Mer 30 Rhagfyr Gweler y manylion ar dudalen 27.

Clwb Ffilmiau Gwael: Dangosiad Dwbwl Dolig Sul 6 Rhagfyr Gweler y manylion ar dudalen 23.

12

Parti Nos Galan Chapter 2015

Iau 31 Rhagfyr 7pm–2am (Mynediad olaf am 10pm) Byddwn yn croesawu’r flwyddyn newydd mewn steil â pharti mawr wedi’i guradu gan yr anhygoel Vinyl Vendettas o Gaerdydd. Mae partïon Nos Galan yn y gorffennol, wedi’u curadu gan Mel Fung a Shape Records, wedi bod yn wych ac ni fydd ein parti eleni yn eithriad. Ymunwch â ni am noson o gerddoriaeth fyw gan Keith TOTP, The Blood Arm, Face + Heel a Jemma Roper ynghyd â set DJ gan y Vinyl Vendettas eu hunain. Tocyn ymlaen llaw (ar gael tan Llun 30 Tachwedd) £20 Tocynnau o Maw 1 Rhagfyr ymlaen £25 Pris tocyn yn cynnwys gwydraid o Prosecco 18+ oed yn unig Sylwer: Ni fydd ein cegin ar agor ond bydd cyflenwad digonol o fyrbrydau ar gael wrth y bar!


06

Oriau agor yr arddangosfa: Dyddiau Mawrth, Mercher, Sadwrn a Sul 12–6pm; dydd Iau a dydd Gwener 12–8pm; ar gau ar ddydd Llun

Oriel

Oriau agor yr oriel dros gyfnod y Nadolig: Noswyl Nadolig 12-4pm; Dydd Nadolig AR GAU; Gŵyl San Steffan AR GAU; Sul 27 Rhagfyr AR GAU; Llun 28 Rhagfyr AR GAU (fel arfer); Maw 29 Rhagfyr 12-6pm; Mer 30 Rhagfyr 12-6pm; Iau 31 Rhagfyr AR GAU; Gwe 1 Ionawr AR GAU; Sad 2 Ionawr 12-6pm

029 2030 4400


chapter.org

Oriel

07

GEORGE BARBER AKULA DREAM Tan ddydd Sul 10 Ionawr 2016

‘Dream Myself Outside’: ynglŷn â George Barber Gellid maddau i rywun am feddwl bod yna sawl artist fideo o’r enw George Barber. Ai’r un George Barber sydd yn gyfrifol am Absence of Satan (1985), â’i samplau o deledu a sinema rwtsh America wedi’u gosod mewn montage afresymegol i gyfeiliant cerddoriaeth gitâr electro trwm, ac am I Was Once Involved in a Shit Show (2003), sydd yn stori yn y person cyntaf — hynod Seisnig, hynod ddoniol a phruddglwyfus — am brofiad trist mewn arddangosfa wedi’i noddi gan berchennog gwaith sment? A yw hi’n bosib taw’r un Barber wnaeth Automotive Action Painting (2007), gwaith un olygfa wedi’i ffilmio o’r awyr o geir yn igam-ogamu drwy lond lle o baent lliwgar wedi’i dywallt ar lain lanio, ag a wnaeth Akula Dream (2015), gwaith cywrain sy’n llawn o effeithiau CGI a geiriau wedi’u sgriptio’n ofalus? Wel, ydy, mae hi’n bosib ac nid peth damweiniol yw’r ymagweddu anuniongred hwn, o ystyried bod gwaith Barber — er gwaetha’i amrywiaeth — wedi targedu uniongrededd niweidiol erioed. Mae Akula Dream, er enghraifft, ac yn ffurfiol o leiaf, fel petai mor bell o arddull arloesol Scratch Video Barber yn yr 1980au — er bod yna ddogn dda o hiwmor yn y ddau — ag y mae cymeriadau’r ffilm newydd hon yn bell o dir cadarn. Ar waelod y môr, ym 1988, mewn llong danfor niwclear Sofietaidd, mae Capten Pavel yn llwyr ymwrthod â disgwyliadau ei rôl ac yn ymgolli mewn drymio siamanaidd a theithiau serol. Mae’r criw, gan mwyaf, yn amharod i ymuno ag ef ac i geisio meddwl y tu hwnt i ffiniau eu blwch metel. Yn y cyfamser, mae yna awgrymiadau clir bod i’r stori hon adleisiau trosiadol tywyll. Mae’r criw yn clywed gan eu rheolwr taw ‘y ddynoliaeth yw’r arf niwclear go iawn’ a bod ‘y byd yn ein galw ni’. Annisgwyl wedyn, felly, yw clywed cân garej ‘vintage’ — y gyntaf o nifer o fideos pop byrion yn y ffilm — sy’n cyfleu ymwybyddiaeth ecolegol gynyddol aelod o’r criw. Ond dyna sy’n digwydd. Yn The Very Very End (2013), mae Barber unwaith eto yn tynnu sylw at bosibiliadau plastig ei gyfrwng drwy deithio yn ôl ac ymlaen mewn amser — mae e’n cyfeirio at nofel apocalyptaidd Neville Shute, On the beach (1957) (paranoia hanesyddol unwaith eto am ryfel niwclear), ac yn gosod ei stori yntau am Ddydd y Farn mewn cyrchfan gwyliau cyfoes. Gyda’r cloc o’r brig: George Barber, Akula Dream, fideo Manylder Uchel 2015. Delwedd: Adam Chard; Shouting Match, fideo, 2010; The Freestone Drone, fideo MU, 2013. Delweddau: Aga Hosking


Oriel

029 2030 4400

George Barber, ‘Beyond Language’: Gweithiau Fideo Dethol 1983-2008. Gyda chaniatâd caredig George Barber a Lux, Llundain

08

Mae The Freestone Drone (2013) yn gydymaith i The Very Very End ac yn cyfnewid pryderon hanesyddol am un o’r pryderon cyfoes mwyaf arwyddocaol, sef rhyfela o bell. Yma eto mae Barber yn ceisio mynd y tu hwnt i ymatebion parod wrth ddadansoddi; mae drôns yn ennyn ofn heddiw am eu bod yn cynrychioli ffordd o ryfela sydd yn ddyfodolaidd ddifeddwl. Er mwyn pwysleisio hyn, ac er mwyn gwrthdroi’r senario, mae Barber yn dynoli’r drôn. Mae’n ei gymharu â Tomos y Tanc (ac yn gwneud defnydd o gerddoriaeth enwog y gyfres honno). Mae’n rhoi iddo bersonoliaeth, llais gwirion ac ambell linell o ddeialog tywyll a doniol am drôn sydd ‘jyst yn digwydd eich ffrwydro chi’n yfflon’. Awgrym Barber yw nad yw drôns yn arfau gwaeth nag arfau’r gorffennol ond eu bod fel petaent yn codi mwy o ofn arnom — a bod hynny’n werth ei ystyried. Yn Fences Make Senses (2014), mae’r artist yn dangos ychydig o realiti plaen ymfudo. Gwneir cymariaethau pigog rhwng ffa mewn lori (sy’n derbyn gofal am eu bod yn gynhyrchion) a phobl mewn lori (nad ydyn nhw’n derbyn gofal o gwbl), a’r ffaith bod bisgedi yn cael eu pacio fel na chânt eu malu tra bod ymfudwyr, fel y gwyddom, yn aml yn marw yn ystod eu teithiau nhw. Datguddir syniad o realiti wedi’i ddiffinio gan ddinasyddion cyfoethog y Gorllewin a’u teimladau o gyfrifoldeb tuag at y tlodion hynny sy’n sail i’w cyfoeth eu hunain. Felly hefyd yr esgusodion parod a leisir gan actorion Barber: ‘All neb ddatrys problem sy’n cynnwys hanner can miliwn o bobl.’ Ym mhedair ffilm Shouting Match, a ffilmiwyd yn Llundain, Bangalore, Tel Aviv a New Orleans, mae e’n creu sefyllfa sydd, yn ei symlrwydd, yn dwyn i gof gynyrchiadau pur ei gelfyddyd fideo gynnar. Mae dau berson yn eistedd ar gadeiriau, wedi’u gosod ar draciau, ac yn gweiddi ar ei gilydd: mae cynorthwywyr yn asesu pa un o’r ddau sydd yn gweiddi uchaf ac yn ei wthio ymlaen neu yn ei dynnu’n ôl, i mewn ac allan o ffrâm y camera. Mae pob lleoliad dinesig yn cynhyrchu gwahanol fath o ymryson, gan awgrymu nid yn unig bod bodau dynol yn bodoli mewn gwrthdaro parhaol â’i gilydd, a bod y gwrthdaro hwnnw’n ymddangos yn reit hurt o’i weld o’r tu allan, ond bod cenhedloedd hefyd yn cynhyrchu eu mathau eu hunain o ymddygiad ymosodol. Bu pobl yn anghydweld ers cyn cof, wrth gwrs, ond mae Barber fel petai’n ymddiddori yn y fan hon yn y modd y gallai hynny fod yn alegori ar gyfer oes gyfalafol, brynwriaethol, lle mae sylw yn gynnyrch i’w werthu ar y farchnad rydd. Detholiad o ysgrif hirach gan Martin Herbert. Ar gael yn rhad ac am ddim o’r Oriel neu ar ein gwe-fan.

George Barber, ‘Beyond Language’, Gweithiau Fideo Dethol 1983 — 2008 Hyd: 120 mun.

Gyda chyflwyniad a thrafodaeth yng nghwmni George Barber a Louisa Fairclough Sad 5 Rhagfyr 2pm I gyd-fynd â’n harddangosfa, rydym yn hynod falch o gyflwyno rhaglen LUX o ffilmiau a gynhyrchwyd gan yr artist rhwng 1983 a 2008. Mae’r dangosiad yn cynnwys nifer o weithiau enwocaf Barber — ac eraill hefyd — gan gynnwys Absence of Satan (1985), Yes Frank No Smoke (1985), 1001 Colours Andy Never Thought Of (1989), Hysbyseb Schweppes (1993), I Was Once Involved In A Shit Show (2003), Walking Off Court (2003), Automotive Action Painting (2007) a Following Your Heart Can Lead to Wonderful Things (2008). Rhad ac am ddim ond bydd angen tocyn.

Sgyrsiau am 2 Sad 5 Rhagfyr 2pm

Mae ein ‘Sgyrsiau am 2’ yn deithiau tywysedig o gwmpas yr arddangosfa gyfredol, yng nghwmni ein Tywyswyr Byw, Richard Higlett a Thomas Williams. Maent yn gyfle i ddysgu mwy am yr arddangosfa gyfredol ac am ddulliau gwaith unigryw yr artistiaid. Ni fydd dwy sgwrs yn union yr un fath ond y gobaith yw y byddan nhw’n ddiddorol ac yn agored bob amser. Mae’r Sgyrsiau am 2 yn rhad ac am ddim ac nid oes angen archebu lle ymlaen llaw — dewch draw i fynedfa’r Oriel i ymuno â ni! RHAD AC AM DDIM


Oriel

09

Magda Archer, I Hate Art, acrylig ar bapur, 2009

chapter.org

CELFYDDYD YN Y BAR

Magda Archer #givemeeverythingandnothingbaby Tan ddydd Sul 24 Ionawr 2016 Mae arddangosfa Magda Archer, #givemeeverythingandnothingbaby, yn ymosodiad ar bla sy’n dinistrio ein mannau cyhoeddus — disgwrs sydd yn llawn negeseuon siwgwrllyd, datganiadau ac athroniaeth rad, deunydd pacio ‘vintage’, cardiau cyfarch, graffeg retro a melyster sitrig sy’n cuddio’r gwirionedd chwerw dan yr wyneb. Bydd Magda Archer yn llenwi muriau ein Caffi Bar â ffragmentau enfysaidd wrth iddi archwilio emosiynau sy’n seiliedig ar sothach a dilysrwydd honedig ar-lein. “Yn fy sioe #givemeeverythingandnothingbaby, mae’r rhyngrwyd yn rhyw fath o ffair fodern: mae’n gyffrous, yn ddeniadol, yn gyflym ac yn sgleiniog — ond y mae hefyd yn siomedig ac yn dorcalonnus. Gallwch gael torri eich calon yn ystod yr amser a gymer i gael reid ar y ‘dodgems’. Gall eich hunan-barch gael ei chwalu gan sylw diofal ‘ffrind’ ar Facebook. Gall eich ego gael

ei dorri’n ddarnau mân ar ôl i rywun eich tagio mewn llun... ydych chi wir yn edrych fel yna? Peidiwch â dweud wrtha’ i — #dwiddimeisiaugwybod. Gall yr emosiynau hyn arwain at deimladau o anobaith, gofid neu dor-calon. Gallwn wagio ein pocedi wrth geisio ennill rhywbeth nad oeddem ni ei eisiau yn y lle cyntaf. Rydym yn addunedu i beidio byth a dychwelyd ac yn gwybod, go iawn, ‘bod y shit yma’n ein diraddio’. Ond r’ych chi yn dychwelyd, mae’r goleuadau’n eich denu, mae’r gerddoriaeth yn uchel ac yn atyniadol — ac mae pawb arall yno. R’ych chi’n dod ar draws ffrindiau eich ffrind ac maen nhw’n ffrindiau i chi nawr hefyd, on’d ‘yn nhw?” — Magda Archer, Ebrill 2015 Cafodd #givemeeverythingandnothingbaby ei churadu gan Bren O’Callaghan ac fe’i comisiynwyd gan Ganolfan Gelfyddydau HOME, Manceinion.


Theatr

Touch Blue Touch Yellow. Llun: J H Andersen

10 029 2030 4400


Theatr

11

Touch Blue Touch Yellow. Llun: J H Andersen

chapter.org

Winterlight yn cyflwyno

Touch Blue Touch Yellow gan Tim Rhys Maw 1 — Sad 5 Rhagfyr 8pm Perfformiadau matinée Mer 2 + Sad 5 Rhagfyr 2.30pm “Awtistiaeth ydw i. Dw i’n gwybod ble r’ych chi’n byw. Byddaf yn eich torri. Byddaf yn mynd â phob gobaith oddi arnoch. Dydw i ddim yn cysgu, felly dw i am sicrhau na allwch chi chwaith ... Byddaf yn brwydro i fynd â phob gobaith oddi arnoch. Byddaf yn cynllwynio i ddwyn eich plant a’ch breuddwydion.” (Geiriau Awtistiaeth) Mae Carl yn deall sêr, galaethau a phlanedau eraill ond mae dirgelion y byd an-awtistaidd o’i amgylch yn ddirgelwch peryglus. Mae’r ddrama newydd hon yn archwilio rhai o’r mythau camarweiniol am awtistiaeth. Mae’n dilyn taith un dyn ifanc, wrth iddo chwilio am gyfeillgarwch ac ystyr i’w fywyd ar noson a allai fod ei noson olaf ar y Ddaear. “Weithiau mae bod yn awtistig yn y byd hwn yn golygu cerdded drwy torf o bobl tawel ddiflas a cheisio cario eich hapusrwydd fel tasech chi’n cario cyfrinach neu fabi, gadael iddo eich cynhesu wrth i’ch meddwl ddilyn llwybrau cyfarwydd obsesiwn.” (Julia Bascom, The Obsessive Joy of Autism).

Mae’r ddrama gomisiwn arbennig hon gan Tim Rhys yn seiliedig ar dystiolaeth uniongyrchol gan bobl ifainc ar sbectrwm awtistiaeth ynghyd â’u rhieni a’u gofalwyr. Mae’n dilyn cynhyrchiad Winterlight yn 2013 o ‘Mathew’s Passion’, gan Mike James, a gyflwynwyd am y tro cyntaf yn Theatr Sherman Cymru. Diolch arbennig i ddisgyblion a staff Ysgol Ashgrove ym Mhenarth.

Cyfarwyddo gan Chris Durnall Barddoniaeth gan Tracey Rhys. Cynllunio gan Georgina Miles. Trafodaeth ar ôl y sioe ar Maw 1 Rhagfyr £12/£10 Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru Winterlight yw chwaer-gwmni Company of Sirens www.companyofsirens.com


Theatr

029 2030 4400

O’r chwith i’r dde: Sean Hughes, Bina a Robin Williamson. Llun: Kevin Garland

12

Sean Hughes Mumbo Jumbo Maw 8 Rhagfyr 8pm Ar hyd ei fywyd, bu Sean Hughes yn brwydro i aros ar yr ochr iawn i’r ffin â gorffwylledd. Yn ganol oed bellach, sylweddolodd bod dwy ochr ei ymennydd yn bodoli mewn cyflwr cyson o wrthdaro. Mae hi’n frwydr rhwng synnwyr cyffredin a mumbo jumbo ac mae’r mumbo jumbo fel petai’n cael y llaw drechaf. Mae’r sioe yn cynnwys straeon am gael ei serenadu gan Robert Smith ar doriad gwawr, gorilaod mynydd yn Rwanda a dod i’r casgliad na fydd yn llwyddo byth i gael sgwrs gall gyda’i fam annwyl. Bydd yna ambell gerdd a sioe gerdd dair munud o hyd am heneiddio. £10/£8 14+ oed Nodwch y caiff y perfformiad hwn ei ffilmio ar gyfer recordiad DVD o Mumbo Jumbo.

‘Un o’i sioeau mwyaf doniol a mwyaf dwys’ The Sunday Herald Cwmni Richard Burton Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn cyflwyno

Macbeth gan William Shakespeare Gwe 4 — Sad 12 Rhagfyr 7.30pm Perfformiad matinée Mer 9 Rhagfyr 2.30pm (Dim perfformiadau Sul & Llun) Mae gwaed yn mynnu gwaed, medden nhw. Ar ôl dychwelyd o ryfel mlinedig, mae Macbeth yw wynebu ei frwydr fwyaf un. Ag yntau’n mwynhau enwogrwydd a bri, mae rhagargoelion rhyfedd a dyheadau dyfnion ei wraig yn ei arwain ar hyd llwybr didrugaredd. Mae’r fersiwn newydd hon o Macbeth Shakespeare yn archwilio effaith rhyfel ar bobl a’r modd yr amlygir ei erchylltra yn y meddwl ac yn y cartref.

Cyfarwyddo gan Caroline Byrne.

I archebu tocynnau cysylltwch â swyddfa docynnau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru — 029 2039 1391 — neu ewch i’w gwe-fan, www.rwcmd.ac.uk. £12/£10 / £6 i’r rheiny dan 25 oed

Caneuon, Straeon a Cherddoriaeth Robin a Bina Williamson Iau 10 Rhagfyr 8pm Mae Robin a Bina yn creu cyfuniad perffaith o leisiau, gan dynnu ar amrywiaeth eang o draddodiadau gwerin gwreiddiol, hudolus a dirgel o fydoedd Celtaidd, Indiaidd, Seisnig — ac o’r gorffennol yn fwy cyffredinol. Mae Robin yn gerddor, yn storïwr ac yn awdur o fri rhyngwladol. Bu ar flaen y gad mewn sawl genre yn ystod gyrfa 50 mlynedd o hyd. Mae Bina yn gyfansoddwraig, cantores ac aml-offerynnwr ysbrydoledig a dawnus. Mae ganddi lais persain hudolus. Mae eu perfformiadau teimladwy yn cynnwys harmonïau o’r Dwyrain a’r Gorllewin — cyflwynir y rheiny i gyfeiliant telyn, saltring ac offerynnau amrywiol eraill. £12

“Harddwch pur, syml” Robert Plant


Theatr

Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth & Joio yn cyflwyno

Dirty Protest yn cyflwyno

13

O’r chwith i’r dde: Saturday Night Forever, Christmas Songbook

chapter.org

Saturday Night Forever gan Roger Williams Gwe 11 Rhagfyr 7.30pm + Sad 12 Rhagfyr 5pm (perfformiad hygyrch) + 8.30pm Taith wyllt drwy fywyd hoyw Caerdydd gyda’r nos wrth i Lee adael ei gariad ac addunedu i beidio byth â syrthio mewn cariad eto. Mae pob un o’i gwmpas yn yfed gormod, yn dawnsio tan yr oriau mân ac yn gwneud fel y gall... Ond ar ôl i Lee dderbyn gwahoddiad i barti mewn tŷ mae’r amgylchiadau fel petaen nhw’n berffaith. Dim ond saith awr, potel o fodca a’r diafol bach ar ei ysgwydd sydd eu hangen arno i wneud iddo dorri ei addewid ac ildio i goflaid edmygwr newydd. Mae Saturday Night Forever yn dilyn Lee ar daith drwy lanast o berthnasau blaenorol a chamau cynnar carwriaeth addawol newydd. Am gyfnod, mae bywyd yn braf ond, ar ôl pob nos Sadwrn, daw realiti anghynnes bore Sul ac, fel y daw Lee i sylweddoli, does dim byd yn para am byth. £12/£10/£8 Argymhelliad oedran: 14+ Ar daith gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru

Christmas Songbook Mer 16 — Sad 19 Rhagfyr 8pm Anghofiwch eich partïon Nadolig, eich bwydlenni gosod drudfawr a’r sgwrsio lletchwith gyda’r bos. Bydd Dirty Protest yn meddiannu cyfnod y Nadolig ac yn cyflwyno gwaith newydd gan rai o ddramodwyr, actorion a chyfarwyddwyr mwyaf cyffrous Cymru. Dewch i weld llond sled o ddramâu newydd wedi’u hysbrydoli gan eich hoff ‘hits’ Nadoligaidd. Â chyfeiliant cerddorol ardderchog, bydd yna ddigon o gyfle i chi ymuno yn yr hwyl — a bydd gwin cynnes a pharti ar ôl y sioe. Dewch i fod yn rhan o achlysur mwya’r tymor! £10/£8

The Wonderful World Of Christmas Sul 13 Rhagfyr 7pm Mae Côr Merched Affinity yn cyflwyno noson lawen o gerddoriaeth i ddathlu tymor y Nadolig. Mae’r côr cymunedol o ddeugain yn parhau i ffynnu ac mae eu mwynhad o ganu yn gwbl amlwg. Eleni maen nhw wedi creu rhaglen sydd yn gyfuniad o gerddoriaeth dymhorol draddodiadol a chlasuron modern i annog pawb i fynd i hwyl yr ŵyl. Bydd yna gyfle hefyd i godi cân eich hun, os dymunwch, felly dewch draw i fod yn rhan o’r rialtwch! £8/£6


14

Chapter Mix

029 2030 4400

CHAPTER MIX Ffair Lyfrau Nadoligaidd Sad 12 + Sul 13 Rhagfyr

Bydd Parthian yn cyflwyno penwythnos yn llawn llyfrau, syniadau am anrhegion, sesiynau llofnodi, darlleniadau a thinsel ac yn gwerthu detholiad o deitlau cyfoes a chlasurol. Bydd Gwasg Firefly hefyd yn ymuno â nhw ac yn cynnig amrywiaeth gyffrous o lyfrau a digwyddiadau i blant oed ysgol gynradd: ‘Drawing Dragons’ gyda’r awdur a’r darlunydd, Shoo Rayner (dydd Sadwrn 11am), a ‘Grumpy Ghosts and Singing Pirates’ gyda Dan Anthony, Laura Sheldon a Huw Aaron (Sadwrn 2pm). Ynghyd â Pharti Nadolig Parthian (Sadwrn 6pm). I weld y manylion yn llawn ewch i www.parthianbooks.com a www.fireflypress.co.uk. @parthianbooks Gwybodaeth am docynnau: I brynu tocynnau ymlaen llaw, a fydd yn cynnwys pris bwffe, cysylltwch â Susie — susieparthian@gmail.com. Bydd mwy o docynnau ar gael wrth y drws. Mae digwyddiadau Gwasg Firefly yn £5 (ymlaen llaw) i bob teulu (gallwch hawlio pris y tocyn yn ôl os prynwch chi lyfr) ac maent ar gael drwy fireflypress@yahoo.co.uk neu wrth y drws.

Siop Lyfrau Dros Dro Seren Gwe 18 — Llun 21 Rhagfyr

Dydd Iau Cyntaf y Mis:

Ffuglen a Barddoniaeth Newydd Iau 3 Rhagfyr 7.30pm

Gyda David Foster-Morgan, Masculine Happiness (Seren Poetry); Stephen Payne, Pattern Beyond Chance (Happenstance Poetry) a Jasmine Donahaye, a fydd yn cyflwyno ei chyfrol, Losing Israel (Seren). £2.50 (wrth y drws) + gostyngiad o £2.50 ar bris llyfrau

Clwb Comedi The Drones

Gwe 4 + Gwe 18 Medi Drysau’n agor am 8.30pm Sioe’n dechrau am 9pm Clint Edwards sy’n cyflwyno’r ‘stand-ups’ addawol gorau. Gwelwyd peth o ddeunydd y nosweithiau hyn ar raglen ‘Identity Crisis’ Rob Brydon. Dydd Gwener cyntaf a thrydydd dydd Gwener y mis. Un o’r ‘Deg Peth Gorau i’w Gwneud yng Nghaerdydd’ yn ôl cylchgrawn The Big Issue. £3.50 (wrth y drws)

Cylch Chwedleua Caerdydd Sul 6 Rhagfyr 7.30pm

Dewch i rannu a gwrando ar gasgliad hyfryd o straeon — croeso cynnes i storïwyr a gwrandawyr fel ei gilydd! £4 (wrth y drws)

Parti Nadolig Caerdydd Greadigol Mer 16 Rhagfyr 7.30–11.30pm

Bydd Caerdydd Greadigol a Chapter yn cynnal parti Nadolig i aelodau cymuned greadigol Caerdydd. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar ein gwe-fan, www. chapter.org. £10 (pris tocyn yn cynnwys gwydraid o win cynnes a bwffe poeth)

Jazz ar y Sul Sul 13 Rhagfyr 9pm

Ein noson fisol o jazz acwstig melodig yn y Caffi Bar, gyda Phedwarawd Jazz Chapter — Glen Manby, Jim Barber, Don Sweeney a Greg Evans. RHAD AC AM DDIM www.glenmanby.com

Clonc yn y Cwtsh Bob dydd Llun 6.30–8pm

Ydych chi’n dysgu Cymraeg? Ymunwch â ni i ymarfer eich Cymraeg yng nghwmni dysgwyr eraill. Croeso i bawb! RHAD AC AM DDIM Ar y cyd â Menter Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd


chapter.org

Llogi

15

Llogi Mae nifer o ystafelloedd a chyfleusterau Chapter ar gael i’w llogi ac mae llawer o’r rhain yn cael eu defnyddio’n rheolaidd gan gymysgedd eclectig o ddosbarthiadau dydd a nos. Ewch i’n gwe-fan neu codwch daflen yn y swyddfa docynnau i weld yr hyn sydd ar gael. Os ydych chi’n chwilio am ystafell ar gyfer parti, cyfarfod neu gynhadledd, neu am ofod i saethu fideo, i ymarfer neu i gynnal gweithgareddau adeiladu tîm, bydd ein cyfleusterau gwych, ein harbenigedd technegol a’n staff cyfeillgar yn gallu sicrhau bod eich digwyddiad yn gyffyrddus, yn unigryw ac yn gofiadwy. Gallwn gynnig amrywiaeth o opsiynau arlwyo ar gyfer eich digwyddiad hefyd. Os oes gennych chi gwestiynau penodol, neu os hoffech chi fwy o wybodaeth am ein cyfleusterau, rhowch ganiad i’n rheolwr llogi, Nicky, ar 029 2031 1058 neu anfonwch e-bost at nicky.keeping@chapter.org. Yn ddiweddar, daeth United Welsh i Chapter a llogi ystafelloedd ar gyfer eu cynhadledd. Dyma oedd gan eu Rheolwr Partneriaethau, David Williams, i’w ddweud: Roedd Chapter yn hyblyg, yn gyfleus ac yn gefnogol drwy gydol y broses gynllunio ac fe ofalon nhw am 140 o gynadleddwyr drwy gydol y diwrnod — sicrhaodd hynny bod fy nhîm a fi yn gallu canolbwyntio’n llwyr ar y gynhadledd ei hun. Roedd yr arlwyo’n wych (mae pobl yn dal i sôn am y cacennau) ac roedd cael defnyddio Sinema 1 yn brif leoliad yn goron ar y cyfan. Canolfan gynadledda yr ydym yn siŵr o’i ddefnyddio eto.

Elaina Gray Cyfarwyddwr Datblygu Mae #GivingTuesday yn ‘ddiwrnod cyfrannu’ byd-eang ar ddechrau tymor y Nadolig ac, eleni, bydd Chapter yn cymryd rhan. Rydym am fachu ar y cyfle hwn i roi sylw i’r gwaith elusennol gwych sy’n digwydd diolch i’r gefnogaeth a dderbyniwn drwy gyfrwng rhoddion, grantiau a phob un o’n gweithgareddau codi arian. Felly cadwch eich llygaid ar agor ar Maw 1 Rhagfyr i weld sut y gallwch chi gymryd rhan a’n helpu ni i roi’r gair ar led!


16

Sinema

029 2030 4400

Spectre

SiNEMA


Sinema

17

The Lady In The Van

NT Live: Jane Eyre

Gwe 27 Tachwedd — Iau 10 Rhagfyr

Maw 8 Rhagfyr

DG/2015/104mun/12A. Cyf: Nicholas Hytner. Gyda: Maggie Smith, Alex Jennings, James Corden.

DG/2015/210mun/12A. Cyf: Sally Cookson. Gyda: Joannah Tincey, Richard Hurst.

Mae’r ffilm hon yn adrodd y stori wir am y berthynas rhwng Alan Bennett a’r Miss Shepherd unigolyddol, gwraig o darddiad ansicr a barciodd ei fan o flaen tŷ Bennett yn Llundain ‘dros dro’ — ac a fu’n byw yno wedi hynny am 15 mlynedd.

O’i phlentyndod fel plentyn amddifad tlawd, mae’r arwres nwyfus, Jane Eyre, yn wynebu rhwystrau bywyd, yn goresgyn tlodi, anghyfiawnder a brad, cyn penderfynu dilyn ei chalon yn y pen draw. Cafodd y fersiwn newydd hon o gampwaith Brontë ei llwyfannu am y tro cyntaf y llynedd, gan y Bristol Old Vic, pan berfformiwyd y stori dros gyfnod o ddwy noson. Yn awr, mae’r cyfarwyddwr, Sally Cookson, yn cyflwyno ei chynhyrchiad arobryn yn y National, ar ffurf perfformiad unigol hynod.

O’r chwith i’r dde: The Lady In The Van, NT Live: Jane Eyre

chapter.org

Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael — gweler y calendr am fanylion.

Gŵyl Ffilmiau Antur Maw 17 Tachwedd, Maw 24 Tachwedd, Maw 1 Rhagfyr I ddathlu’r ffilmiau gorau a’r campau mwyaf eithafol, ymunwch â ni am noson o gyffro ac adrenalin — a detholiad o ffilmiau sy’n dathlu gwthio corff a meddwl i’r eithaf. O feicio mynydd i sgïo, caiacio i neidio BASE, teithiau llafurus a champau na welwyd eu tebyg o’r blaen, mae pob un o’n tair rhaglen ffilm gyffrous yn cynnwys rhywbeth i bawb. I weld rhestr lawn o’r ffilmiau ac i gael mwy o wybodaeth, ewch i www.adventurefest.co.uk. * Ddim yn gymwys ar gyfer cynnig Disgownt Dydd Mawrth. Pris tocyn arferol.

Spectre Gwe 20 Tachwedd — Iau 10 Rhagfyr / Sul 27 — Mer 30 Rhagfyr DG/2015/148mun/12A. Cyf: Sam Mendes. Gyda: Daniel Craig, Christoph Waltz, Lea Seydoux, Ralph Fiennes.

Mae neges gryptig o orffennol Bond yn arwain yr ysbïwr ar drywydd sefydliad sinistr. Wrth i M frwydro â grymoedd gwleidyddol am ddyfodol y gwasanaeth cudd, mae Bond yn datguddio haenau o dwyll wrth geisio dod o hyd i’r gwirionedd ofnadwy am SPECTRE.


18

Sinema

029 2030 4400

He Named Me Malala

O’r RIl i’r Real

Weithiau mae bywyd go iawn mor ryfedd a hudolus bob tamaid â ffilm Hollywood. ‘O’r Rîl i’r Real’ yw ein rhaglen reolaidd o ffilmiau dogfen ac mae’n cynnwys ffilmiau sy’n cyflwyno digwyddiadau a phobl gwirioneddol ddiddorol ar y sgrin fawr.

He Named Me Malala

Star Men

UDA/2015/87mun/PG. Cyf: Davis Guggenheim.

Canada/2015/88mins/PG. Cyf: Alison E Rose.

Golwg ysbrydolgar ar y digwyddiadau a arweiniodd at ymosodiad y Taliban ar y ferch ifanc o Bacistan, Malala Yousafzai, wedi iddi hi leisio barn ynglŷn ag addysg i ferched. Cawn gip hefyd ar yr hyn ddaeth wedyn, gan gynnwys araith rymus Malala i’r Cenhedloedd Unedig. Portread agos-atoch o’r person ieuengaf erioed i ennill Gwobr Heddwch Nobel.

Mae pedwar o seryddwyr mwyaf blaenllaw’r byd yn dathlu 50 mlynedd o gyfeillgarwch a chyd-ymchwilio yn ystod trip aduno drwy dde-orllewin America.

Gwe 27 — Iau 3 Rhagfyr

Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael — gweler y calendr am fanylion.

Gwe 4 — Iau 10 Rhagfyr

Clwb Ffilm Merched WOW Maw 8 Rhagfyr

Mae’r dangosiadau poblogaidd hyn i ferched yn unig yn cynnig cyfle i weld ffilm a’i thrafod gyda ffrindiau hen a newydd. I gael mwy o fanylion, cysylltwch â Chydlynydd y Clwb Ffilm, Rabab Ghazoul, ar 07759 933311, neu anfonwch e-bost at wowfilmclub@gmail.com.


Sinema

19

O’r brig: Dressed As A Girl, Death Of A Gentleman

chapter.org

Dressed As A Girl Maw 15 Rhagfyr

DG/2015/101mun/18. Cyf: Colin Rothbart.

Mae’r ffilm hon yn tynnu’r wigiau ac yn sychu’r masgara wrth fynd y tu ôl i’r llen i ddangos sêr drag dwyrain Llundain a’u bywydau y tu hwnt i’r llwyfan. Dilynwn chwe seren cwlt — Jonny Woo, Holestar, Scottee, Amber, Pia Abert a John Sizzle — wrth iddyn nhw ymwneud â brwydrau personol a’r pwysau sy’n deillio o fod yn unigolion yn rhan o grŵp. + Ymunwch â ni ar ôl y dangosiad ar gyfer parti Nadolig Lavender Screen gyda Hell’s Bent DJs ac ymddangosiad gan y frenhines drag, Lucy Fur. * Ddim yn gymwys ar gyfer cynnig Disgownt Dydd Mawrth. Pris tocyn arferol.

Brand: A Second Coming Gwe 18 + Sad 19 Rhagfyr

DG/2015/100mun/15. Cyf: Ondi Timoner. Gyda: Russell Brand, Simon Amstell, Andrew Antonio.

Mae ffilm ddogfen Ondi Timoner yn olrhain hanes y digrifwr/ymgyrchydd, Russell Brand, stori sy’n cynnwys cyffuriau, rhyw, enwogrwydd, priodas, dadleuon cyfryngol, edifeirwch, gweithredu gwleidyddol a chyflwr Meseia hunan-gydnabyddedig. Rhwng golygfeydd o’i yrfa wyllt a dadleuol, cawn gip ar y bersonoliaeth sy’n celu dan yr arwyneb manig a’r ddelwedd o Brand a welir ar y cyfryngau.

Death Of A Gentleman Gwe 18 — Mer 23 Rhagfyr

DG/2015/99mun/12A Cyf: Johnny Blank, Sam Collins, Jarrod Kimber.

Mae dau newyddiadurwyr criced yn cychwyn ar daith i galon y gêm y maent yn ei charu — ond dônt ar draws un o’r sgandalau mwyaf yn hanes chwaraeon. Ffilm am angerdd, trachwant a phŵer — ac am fod yn driw i’r hyn sydd yn bwysig.


Sinema

SINEFFONIG

029 2030 4400

Celfyddyd a Ffilm

Hand Gestures Llun 7 + Mer 9 Rhagfyr

Yr Eidal/2015/77mun/is-deitlau/TiCh. Cyf: Francesco Clerici.

Mae’r ffilm ddogfen hardd hon yn ein harwain i galon ffowndri efydd hanesyddol ym Milan sy’n dal i ddefnyddio technegau’r 4edd ganrif cyn Crist. Mae’n fan lle daw’r gorffennol a’r presennol at ei gilydd ac mae’r ffilm farddonol hon yn dangos bod yr artist a’r crefftwr, ill dau, yn hanfodol yn y weithred o greu. + Ymunwch â ni am sesiwn holi-ac-ateb gyda’r cyfarwyddwr, Francesco Clerici, ar ddydd Llun 7 Rhagfyr. Enillydd Gwobr Ryngwladol Beirniaid FIPRESCI yn Berlinale 2015

George Barber, ‘Beyond Language’, Gweithiau Fideo Dethol 1983 — 2008 Sleaford Mods — Invisible Britain Gwe 4 — Iau 10 Rhagfyr

DG/2015/85mun/TiCh. Cyf: Paul Sng, Nathan Hannawin.

Stori am un o grwpiau mwyaf amserol a phwysig Prydain ers blynyddoedd — a’r modd yr aethant ati i godi dau fys ar wleidyddion aneffeithiol. Dilynwn eu taith i rannau anghofiedig o’r DG ac mae’r hyn sy’n deillio o hynny yn bortread sy’n cynnwys deunydd amrwd, cyfweliadau a golwg ar yr hyn y mae unigolion a chymunedau yn ei wneud i frwydro yn erbyn anobaith. + Sesiwn holi-ac-ateb gyda’r cyfarwyddwyr, Paul a Nathan, ar Gwe 4 Rhagfyr

Gyda chyflwyniad a thrafodaeth yng nghwmni George Barber a Louisa Fairclough Sad 5 Rhagfyr I gyd-fynd â’n harddangosfa o weithiau diweddar a darnau newydd gan George Barber, rydym yn hynod falch o gyflwyno rhaglen LUX o ffilmiau a gynhyrchwyd gan yr artist rhwng 1983 a 2008. Mae’r dangosiad yn cynnwys nifer o weithiau enwocaf Barber — ac eraill hefyd — gan gynnwys Absence of Satan (1985), Yes Frank No Smoke (1985), 1001 Colours Andy Never Thought Of (1989), Hysbys Schweppes (1993), I Was Once Involved In A Shit Show (2003), Walking Off Court (2003), Automotive Action Painting (2007) a Following Your Heart Can Lead to Wonderful Things (2008). RHAD AC AM DDIM

Gyda’r cloc o’r chwith uchaf: Sleaford Mods — Invisible Britain, Hand Gestures, Sleaford Mods — Invisible Britain

20


Sinema

21

Hector

Bridge Of Spies

Gwe 11 — Iau 17 Rhagfyr

Gwe 18 — Mer 30 Rhagfyr

DG/2015/87mun/15. Cyf: Jake Gavin. Gyda: Peter Mullan, Keith Allen, Natalie Gavin.

UDA/2015/141mun/12A. Cyf: Steven Spielberg. Gyda: Tom Hanks, Alan Alda, Mark Rylance, Amy Ryan.

Mae Hector wedi bod yn byw ar y traffyrdd ers blynyddoedd. Cafodd bywyd teuluol cyffyrddus ei ddisodli gan gyfres ddiddiwedd o wasanaethau a garejys sydd yn cynnig lloches, bwyd, cyfleusterau ymolchi a’r posibilrwydd o fod yn anhysbys. Yn ystod ei bererindod flynyddol, adeg y Nadolig, i loches dros dro yn Llundain, daw ei fywyd blaenorol i’r wyneb unwaith eto. Astudiaeth dyner a theimladwy o wendidau dynol.

Mae Jim Donovan yn gyfreithiwr yswiriant sy’n derbyn cais gan ei lywodraeth i amddiffyn yr ysbïwr Sofietaidd, Rudolph Abel, a gafodd ei ddal ar anterth y Rhyfel Oer. Cyn pen dim, mae theatr y llys barn a phroses o gyfnewid carcharorion yn troi’n gêm beryglus ac mae’n rhaid i Donovan drechu gelynion ar ddwy ochr y ddadl er mwyn gwarchod gwerthoedd democratiaeth.

Gyda’r cloc o’r brig: Hector, Hard To Be A God, Bridge Of Spies

chapter.org

Black Mass

Gwe 11 — Iau 17 Rhagfyr UDA/2015/122mun/15. Cyf: Scott Cooper. Gyda: Johnny Depp, Benedict Cumberbatch, Dakota Johnson.

Stori wir Whitey Bulger, a oedd yn frawd i seneddwr ac yn un o’r troseddwyr treisgar enwocaf yn hanes De Boston. Dechreuodd Whitey basio gwybodaeth i’r FBI, er mwyn cael gwared ar un o deuluoedd y Maffia a geisiodd feddiannu ei deyrnas. Ffilm gangster ddigywilydd sydd yn cynnwys actio a chyfarwyddo egnïol — a pherfformiad sy’n awgrymu bod Johnny Depp yn ei ôl go iawn ... Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael — gweler y calendr am fanylion.

Hard To Be A God Sul 27 — Mer 30 Rhagfyr

Rwsia/2013/177mun/is-deitlau/18. Cyf: Aleksey Almaeneg. Gyda: Gali Abaydulov, Yuriy Ashikhmin, Remigijus Bilinskas.

Mae grŵp o wyddonwyr yn cael eu hanfon i’r blaned Arkanar i helpu’r boblogaeth leol, sydd ar ganol cyfnod Canoloesol eu gwareiddiad, fel y gallant ddod o hyd i’r llwybr iawn. Ond rhwystrir y gwyddonwyr gan awydd moesegol i beidio ag ymyrryd. Cymrodd 15 mlynedd i gwblhau’r ffilm hon — fe’i gorffennwyd yn y pen draw gan fab Alesky German, yn dilyn marwolaeth y tad yn 2013. Mae’n waith sydd yn olwg caleidosgopig ar bandemoniwm ac yn gerdd ryddieithol ddi-ildio am ofn.


22

Sinema

029 2030 4400

Under Milk Wood

O Gymru

Under Milk Wood

Moviemaker Chapter

Cymru/2014/86mun/15. Cyf: Kevin Allen. Gyda: Rhys Ifans, Charlotte Church, Sharon Morgan.

Sesiwn reolaidd sy’n galluogi i gyfarwyddwyr annibynnol ddangos eu ffilmiau byrion. I gael mwy o wybodaeth ynglŷn â dangos eich ffilm chi, neu unrhyw wybodaeth arall, e-bostiwch moviemaker@ chapter.org. O bryd i’w gilydd, dangosir ffilmiau sy’n cynnwys deunydd anaddas i bobl iau. Awgrymwn, felly, bod sesiynau Moviemaker Chapter yn addas ar gyfer pobl 18+ oed.

Gwe 27 Tachwedd — Iau 3 Rhagfyr Addasiad newydd â chast godidog o ddrama enwog Dylan Thomas i leisiau. Datgelir bywydau mewnol trigolion Llareggub wrth iddyn nhw ddyheu am gyngariadon ac ail-fyw buddugoliaethau’r gorffennol. Enwebiad y DG ar gyfer y Ffilm Orau Heb fod yn yr Iaith Saesneg yng Ngwobrau’r Academi 2016

Mr Calzaghe

Gwe 4 — Iau 10 Rhagfyr Cymru/2015/hyd i’w gadarnhau/15. Cyf: Vaughan Sivell. Gyda Joe Calzaghe, Enzo Calzaghe.

Golwg ar fywyd a gyrfa hynod y paffiwr o Gymro Eidalaidd, Joe Calzaghe, a’i dad a’i hyfforddwr, Enzo. Gwelwn blentyndod Joe, ei hyfforddi diflino a’r driniaeth enbyd a wynebodd gan fwlis — a’i yrfa wedi hynny yn herio rhai o focswyr gorau’r byd.

Llun 7 Rhagfyr

BAFTA

Mer 9 Rhagfyr Detholiad o ffilmiau byrion newydd o Gymru a sesiwn holi-ac-ateb yng nghwmni ambell westai arbennig iawn. Gweler y manylion ar www.bafta.org/wales.


O’r chwith i’r dde: Cruel Summer, Saving Christmas, Cruel Summer

chapter.org

Sinema

23

Dangosiad Dwbwl y Clwb Ffilmiau Gwael: Sul 6 Rhagfyr

Saving Christmas UDA/2014/80mun/12. Cyf: Darren Doan.

GFfAC yn cyflwyno: Cruel Summer Sad 12 Rhagfyr

DG/2015/78mun/15arf. Cyf: Craig Newman, Phil Escott. Gyda: Danny Miller, Richard Pawulski, Natalie Martins

Mae Danny, bachgen awtistig yn ei arddegau, yn ffoi o’r ddinas i gefn gwlad i gwblhau cymhwyster Gwobr Dug Caeredin. Ond, yn ddiarwybod iddo, mae’r Nicholas dialgar yn ei erlid, a hynny yn sgil celwydd a gychwynnwyd gan y Julia genfigennus. + Cyflwyniad première arbennig gan Ŵyl Ffilmiau Annibynnol Caerdydd (GFfAC) o’r ffilm hon a saethwyd yn yr ardal leol. Dewch i gwrdd â’r gwneuthurwyr ffilm mewn derbyniad gwin yn y cyntedd ar ôl y dangosiad.

+

New Year’s Evil UDA/1980/90mun/15. Cyf: Emmett Alston.

Mae hi’n amser am ddangosiad dwbwl Parti Nadolig y Clwb Ffilmiau Gwael. Eleni, mae gennym ddeuawd o ddanteithion wedi’u tynnu reit o waelod sach Siôn Corn. Yn gyntaf, mae Saving Christmas gan Kirk Cameron, ffilm sy’n cynnwys holl nodweddion pregethwrol ceidwadaeth Gristnogol yr asgell dde a phob un o’r elfennau arswydus y gellid disgwyl eu gweld mewn ffilm ag iddi sgôr o 0% ar Rotten Tomatoes. Wedi hynny, byddwn yn cyflwyno New Year’s Evil. Pan gaiff cyflwynydd sioe alwad ffôn gan ddyn sy’n swnio fel robot dan ddŵr ac sy’n dweud ei fod yn mynd i ladd person ym mhob parth amser ar Nos Galan, mae helfa wyllt yn cychwyn i’w ddal cyn i’r cloc daro hanner nos. Ychydig fel Sinderela — ond â chyllyll a lot mwy o waed. Gwaith o arswyd camp a chawslyd, gyda’r gorau a’r gwaethaf o’i fath. Nodwch os gwelwch yn dda: Bydd yna sylwebaeth fyw drwy gydol y ffilmiau hyn ac fe all y ffilm a ddangosir newid ar y funud olaf. Gallwch wylio’r ddwy ffilm am bris arbennig, £12/£10, neu brynu tocynnau i ffilmiau unigol am y pris arferol.


24

Sinema

029 2030 4400

TYMOR ‘CARIAD’ Y BFI

Gyda’r cloc o’r brig: A Matter Of Life And Death, Sunset Song, Doctor Zhivago, Carol


chapter.org

Sinema

25

Y gaeaf hwn, byddwn yn cyflwyno tymor o ffilmiau i dorri’ch calon ac i wneud i chi syrthio mewn cariad eto wedi hynny! Gall grym cariad symud mynyddoedd — ond pan â pethau o chwith, gall emosiynau pensyfrdanol chwalu’r byd yn ddarnau mân. Rhan o dymor ‘CARIAD’ y BFI ar y cyd â Plusnet bfi.org.uk/love.

Doctor Zhivago

Sunset Song

UDA/1965/188mun/PG. Cyf: David Lean. Gyda: Omar Sharif, Julie Christie, Rod Steiger, Alec Guinness.

DG/2015/135mun/TiCh. Cyf: Terence Davies. Gyda: Peter Mullan, Agyness Deyn, Jack Greenlees.

Yn seiliedig ar y nofel gan Boris Pasternak a enillodd Wobr Nobel, mae addasiad Lean yn epig sy’n cwmpasu’r Chwyldro yn Rwsia a mwy. Mae’r bardd a’r meddyg, Yevgraf Zhivago, yn ceisio dod o hyd i ferch ei hanner-brawd, Yuri, a’i gariad, Lara. Stori am awydd, anffyddlondeb a chynnau tân ar hen aelwyd yn nhraddodiad mawreddog y nofel Rwsiaidd.

Addasiad di-ildio o nofel Albanaidd glasurol Lewis Grassic Gibbon sy’n adrodd hanes Chris Guthrie, merch ffarm yn ei harddegau sy’n byw dan ormes ei thad treisgar. Daw Chris o hyd i deimlad rhyfedd o ryddid wrth i’w theulu chwalu ac wrth i drasiedi — yn sgil tymer wyllt ei thad — ddinistrio eu bywydau. Mae harddwch oeraidd Chris yn denu sylw gwas fferm o’r enw Ewan ac mae rhamant yn blaguro a hynny yng nghysgod marwol y Rhyfel Mawr.

Sul 29 Tachwedd + Maw 1 Rhagfyr

A Matter Of Life And Death

Gwe 11 — Maw 29 Rhagfyr

Sul 6 + Maw 8 Rhagfyr

Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael — gweler y calendr am fanylion.

DG/1946/104mun/U. Cyf: Michael Powell, Emeric Pressburger. Gyda: David Niven, Kim Hunter.

Mae’r Arweinydd Sgwadron, Peter Carter, yn paratoi i farw ar ôl i’w awyren gael ei tharo ac mae’n rhannu ei gyfrinachau dyfnaf â gweithredwraig radio. Drwy wyrth, mae e’n goroesi, yn cwrdd â’r ferch y siaradodd â hi dros y radio ac maent yn syrthio mewn cariad. Er ei fod fel petai’n ddianaf, mae’r gnoc yn cymell rhithweledigaethau. Yn y rhithweledigaethau hyn, mae Carter yn cyfarfod â chymeriadau o fyd arall ac mae ei ysbryd yn cael ei roi ar brawf: bydd dyfarniad y llys yn penderfynu a fydd yn cael byw — neu’n gorfod marw. Mae ffilm Powell a Pressburger am achubiaeth gyda’u mwyaf dychmygus, dyfeisgar a direidus.

Carol

Gwe 11 — Mer 30 Rhagfyr DG/2015/118mun/15. Cyf: Todd Haynes. Gyda: Cate Blanchett, Rooney Mara, Sarah Paulson.

Yn Efrog Newydd yn y 1950au, mae dwy ferch o gefndiroedd gwahanol iawn yn eu cael eu hunain dros eu pennau a’u clustiau mewn cariad. Mae Therese yn glerc sy’n gweithio mewn siop adrannol ym Manhattan ac yn breuddwydio am fywyd mwy ystyrlon — cyn iddi gwrdd â Carol, gwraig hudolus sy’n gaeth mewn priodas ddigariad. Stori garu hynod deimladwy a chain sy’n tynnu bywydau mewnol y cymeriadau i’r wyneb â deallusrwydd a sensitifrwydd hynod. + Ymunwch â ni ar ôl y dangosiad ar Mer 16 Rhagfyr am gyfarfod o Lavender Screen, grŵp trafod ffilm LGBTQ Chapter.

The Apartment

Sul 13 + Maw 15 Rhagfyr UDA/1960/125mun/PG. Cyf: Billy Wilder. Gyda: Jack Lemmon, Shirley MacLaine.

Mae CC Baxter yn glerc swyddfa sy’n rhoi benthyg ei fflat i’w gydweithwyr priod fel y gallant fwynhau cyfarfodydd ‘allgyrsiol’. Mae bywyd carwriaethol Baxter ei hun yn dawelach nag y byddai protestiadau ei gymdogion yn ei awgrymu — mae e’n caru gweithredwraig y lifft, yr hudolus Miss Kubelik, o bell. Fodd bynnag, caiff ymddygiad ei fos, Mr Sheldrake, effaith bellgyrhaeddol ar fywyd yn y cartref llwm. Diffiniodd perfformiadau Lemmon a MacLaine yrfaoedd y naill fel y llall ac mae perfformiad Fred MacMurray fel Sheldrake, y gŵr slei ond diflas, yn dra chofiadwy.

Mae Chapter yn falch o fod yn Sefydliad Arweiniol gyda Chanolfan Ffilm Cymru, rhan o Rwydwaith Cynulleidfaoedd Ffilm y BFI, sydd yn cefnogi dangosiadau ffilm ledled Cymru. I gael mwy o wybodaeth am weithgarwch Chapter a’r aelodau eraill, ewch i www.filmhubwales.org @filmhubwales.


Sinema

029 2030 4400

It’s A Wonderful Life

My Beautiful Laundrette

UDA/1947/130mun/U. Cyf: Frank Capra. Gyda: James Stewart, Donna Reed, Lionel Barrymore.

DG/1986/97mun/15. Cyf: Stephen Frears. Gyda: Saeed Jaffrey, Roshan Seth, Daniel Day-Lewis.

Mae George Bailey yn fachgen lleol sydd, ar Noswyl Nadolig, yn ei gael ei hun ar ymyl y dibyn ... Ond mae ei angel gwarcheidiol, Clarence, yn dangos bydysawd cyfochrog iddo — byd lle nad yw’n bodoli, a’r gwagle yn y gymuned hebddo. Mae campwaith Frank Capra yn apêl am fyd mwy caredig ac addfwyn ac yn glasur Nadoligaidd go iawn.

Does gan y Llundeiniwr ifanc, Omar, ddim gormod o syniad beth i’w wneud â’i fywyd ond mae ei ewythr Nasser yn cynnig llwybr amheus iddo ar ôl gofyn iddo reoli ei olchdy — busnes sydd, mewn gwirionedd, yn fodd o guddio trafodion anghyfreithlon. Ar ôl cyfarfod ar hap â ffrind ysgol o’r enw Johnny, mae’r pâr yn cychwyn ar berthynas ddirgel wrth i Omar geisio delio hefyd â’i atyniad at ferch Nasser. Mae’r cipolwg byw hwn gan Hanif Kureishi ar Brydain cyfnod Thatcher mor bwerus a pherthnasol heddiw ag yr oedd 30 mlynedd yn ôl.

O’r chwith i’r dde: It’s A Wonderful Life, My Beautiful Laundrette

26

Sul 20 — Iau 24 Rhagfyr

All That Heaven Allows Sul 27 — Mer 30 Rhagfyr

UDA/1955/87mun/U. Cyf: Douglas Sirk. Gyda: Jane Wyman, Rock Hudson, Agnes Moorehead.

Mae Cary Scott yn wraig weddw gyfoethog sy’n ymwneud o’r newydd â’i bywyd cymdeithasol a’i chyfoedion diflas mewn clwb i aelodau. Ei hunig bleser yw ymweliadau wythnosol ei phlant, sydd bellach wedi gadael y nyth. Ond ar ôl i Cary gwrdd â dyn ifanc golygus, Ron, sy’n berchen ar fusnes tirlunio, mae eu rhamant yn achosi gwrthdaro a thensiynau rhwng Cary, ei phlant, ac aelodau’r clwb dethol.

Sad 19 Rhagfyr


chapter.org

Sinema

Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn a dydd Sul am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn. Archebwch ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Maya The Bee

Sad 5 + Sul 6 Rhagfyr Dangosiad mewn Amgylchiadau Cefnogol Arbennig: Sul 6 Rhagfyr Awstralia/2014/89mun/U. Cyf: Alexs Stadermann. Gyda: Kodi Smit-McPhee, Noah Taylor.

Mae Maya yn wenynen fach a chanddi galon fawr- ac mae hi’n gwrthod ufuddhau i reolau’r cwch gwenyn. Ymunwch â hi a’i ffrind Willy ar antur epig wrth iddynt geisio ffeindio’r gwalch sydd wedi dwyn y Jeli Brenhinol. * Gweler manylion ein Dangosiadau mewn Amgylchiadau Cefnogol Arbennig isod.

The Polar Express

Sad 12 + Sul 13 / Sul 20 + Maw 22 Rhagfyr UDA/2004/100mun/U. Cyf: Robert Zemeckis. Gyda: Tom Hanks, Leslie Demeckis, Eddie Deezen.

Mae Billy Young yn dyheu am gredu yn Siôn Corn ond yn ei chael hi’n anodd gwneud â’i deulu’n mynnu taw nonsens yw’r holl beth. Ond mae popeth yn newid pan ddaw trên dirgel yng nghanol y nos i fynd ag ef a phlant lwcus eraill i Begwn y Gogledd.

The Muppet Christmas Carol Gwe 18 — Mer 30 Rhagfyr

UDA/1992/85mun/U. Cyf: Brian Henson. Gyda: Michael Caine, Dave Goelz, Steve Whitmire.

Mae Scrooge yn hen fenthyciwr arian chwerw a chybyddlyd sy’n anwybyddu casglwyr elusennol ac yn meddwl taw ‘humbug’ yw’r Nadolig. Caiff ei orfodi i ailystyried ei agwedd at y byd ar ôl cyfres o ymweliadau gan ysbrydion ar Noswyl y Nadolig — ac mae’r Muppets yn cael hwyl garw wrth gyflwyno eu fersiwn nhw o chwedl oesol Dickens.

27

Noddir gan Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk 02920 666688

Beauty And The Beast Sul 27 — Mer 30 Rhagfyr

UDA/1991/88mun/U. Cyf: Gary Trousdale, Kirk Wise. Gyda: Paige O’Hara, Robby Benson.

Mae merch ddewr o’r enw Belle yn mynd i gastell y Bwystfil ar ôl iddo garcharu ei thad, Maurice. Â chymorth ei weision, sy’n cynnwys y Mrs Potts gorffog, mae Belle yn dechrau dadmer calon oer y Bwystfil a llacio gafael ei unigrwydd arno.

Carry on Screaming

Bob dydd Gwener am 11am, mae Carry On Screaming yn cynnig cyfle i rieni neu ofalwyr weld ffilm heb orfod poeni y bydd eu babi’n aflonyddu ar eraill. Gweler y calendr am fanylion y dangosiadau arbennig hyn i bobl â babanod dan flwydd oed. Mae Dangosiadau mewn Amgylchiadau Cefnogol Arbennig yn ddangosiadau i blant ac oedolion ar sbectrwm awtistiaeth, neu bobl a chanddynt anableddau dysgu, ynghyd â’u teuluoedd, eu ffrindiau a’u gofalwyr. Yn ystod y dangosiadau hyn, cedwir goleuadau isel ynghynn yn yr awditoriwm ac ni fydd lefel y trac sain mor uchel ag arfer.


28

Addysg

Dyma Matt Beere, ein swyddog addysg a chyfranogiad, i sôn ychydig am ein gweithgarwch diweddar ac am y ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan!

Adran Addysg Chapter yn Asiant Creadigol

Adran Addysg Chapter yn Bartner Creadigol Ar y cyd â Live Music Now, mae adran addysg Chapter yn cymryd rhan ar hyn o bryd ym mhrosiect ‘Vision and Voice’ ac yn creu fideos cerddoriaeth gyda disgyblion o Ysgol Headlands ym Mhenarth. Mae Live Music Now yn gweithio gydag ystod amrywiol o bobl nad ydyn nhw’n cael llawer o gyfleoedd i ymwneud â cherddoriaeth fyw. Yn dilyn cyfres o berfformiadau cerddorol byw a gweithdai cerddoriaeth rhyngweithiol, mae’r disgyblion yn cydweithio â dau gerddor proffesiynol er mwyn cyfansoddi eu caneuon eu hunain. Bydd tiwtoriaid ffilm o dîm addysg Chapter wedyn yn gweithio gyda’r disgyblion i gyflwyno sgiliau gwneud ffilm sylfaenol ac i hwyluso’r broses o greu fideos cerddoriaeth cysylltiedig.

029 2030 4400

Mae cynllun Ysgolion Arweiniol Creadigol, a ariennir gan CCC a Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn rhaglen genedlaethol bum mlynedd o hyd sy’n ceisio hyrwyddo ffyrdd newydd o weithio. Mae’n cynnig rhaglenni arloesol a phwrpasol a gynlluniwyd i godi ansawdd addysg a dysgu ar hyd y cwricwlwm. Caiff asiant creadigol ei glustnodi i weithio gyda phob ysgol sy’n llwyddo â chais i fod yn Ysgol Greadigol Arweiniol. Fel un o asiantau creadigol dynodedig CCC, bydd tîm dysgu Chapter yn tynnu ar brofiad ymarferol o ‘greadigrwydd’ ac yn gweithio fel catalydd er mwyn ymateb i flaenoriaethau ac anghenion datblygiadol ysgolion unigol. Byddwn yn defnyddio ein sgiliau a’n profiad i herio, cefnogi a chynnal arferion newydd ym maes dysgu creadigol.


chapter.org

Addysg

Adran Addysg Chapter mewn Ysgolion

I ddod yn fuan!

Ar hyn o bryd mae tîm dysgu Chapter yn cyflwyno rhaglen wyth wythnos o hyd i grŵp o fyfyrwyr o Ysgol Uwchradd Willows (ysgol ‘Educating Cardiff’) sy’n cynnwys sesiynau animeiddio ‘stop-motion’ wythnosol. Yn ogystal â dysgu hanfodion animeiddio ‘stop-motion’, bydd ein tîm dysgu yn cefnogi myfyrwyr wrth iddynt fynd ati i gynnig am Wobr Efydd yn y Celfyddydau a datblygu sgiliau fel rhannu, ymchwilio, cyfranogi gweithredol a meddwl yn feirniadol.

Adran Addysg Chapter yn y Gymuned

Mae Teuluoedd yn Cyflawni Newid Gyda’i Gilydd (FACT), yn wasanaeth a ddarperir ym Mro Morgannwg gan Adran Gwasanaethau Plant a Phobl Ifainc yr awdurdod lleol. Cynigir rhaglen o gefnogaeth sy’n annog teuluoedd i wneud newidiadau cadarnhaol a hynny er mwyn lleihau nifer y teuluoedd sy’n datblygu anghenion mwy cymhleth a heriol wedi hynny. Gan ddefnyddio’r model a ddatblygwyd ar gyfer ein cyrsiau Animeiddio ac Awtistiaeth (a ariannwyd gan BBC Plant mewn Angen), rydym wrthi’n cyflwyno rhaglen 10 wythnos o ddosbarthiadau animeiddio, er mwyn cynnig gweithgarwch creadigol wythnosol i bobl ifainc.

Adran Addysg Chapter ledled Cymru

Fel hwylusydd rhanbarthol i’r BFI a Phroject ‘Cinelive’ Ymddiriedolaeth Wellcome, ‘What’s the Grey Matter with Gregory?’, mae tîm addysg Chapter yn arwain gweithdai ac ymarferion drama ar y cyd â Choleg Gŵyr Abertawe, Theatr Ieuenctid y Torch, Aberdaugleddau, a rhaglen Theatr i Bobl Ifainc Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug. Bydd y gweithdai a’r ymarferion hyn yn cyrraedd eu huchafbwynt â thri digwyddiad theatr undydd ar ddiwedd mis Ionawr i fwy na 300 o ddisgyblion ysgol uwchradd. Bydd gweithdai addysgol yn rhan greiddiol o’r perfformiadau hyn a phob un yn dod i ben â dangosiad o’r ffilm glasurol o’r 1980au, Gregory’s Girl.

29

Academi Ffilm Pobl Ifainc 2016 Sad 27 Chwefror, Sad 5 Mawrth, Sad 12 Mawrth, Sad 19 Mawrth 10.30–2.30pm

Ym mis Chwefror, bydd ein rhaglen lwyddiannus a phoblogaidd i’r genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr ffilm yn dychwelyd. Os ydych chi rhwng naw a 12 oed ac yn awyddus i ddysgu mwy am y broses o wneud ffilmiau, cysylltwch â ni cyn gynted â phosib - nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Bob wythnos, bydd cyfranogwyr yn dysgu am agweddau penodol ar y broses o wneud ffilmiau a bydd cyfle hefyd i wylio ffilm sy’n enghreifftio’r agwedd honno ar iaith ffilm.

Sad 27 Chwefror: ‘Sut Caiff Ffilmiau eu Gwneud’ Sad 5 Mawrth: ‘Hanes y Sinema’ Sad 12 Mawrth: ‘R’ych chi eisiau bod yn gyfarwyddwr, felly?’ Sad 19 Mawrth: ‘Sut i olygu ffilm’

Erbyn diwedd y pedair wythnos, bydd cyfranogwyr wedi derbyn yr holl wybodaeth y bydd ei hangen arnynt i wneud eu ffilmiau eu hunain! Er bod yr Academi wedi’i fwriadu i fod yn becyn cyflawn, gellir mynychu pob sesiwn hefyd fel sesiwn unigol felly nid oes angen i gyfranogwyr fod yn bresennol ar gyfer pob un o’r pedair sesiwn. Nodwch os gwelwch yn dda y bydd angen pecynnau bwyd bob dydd. Mae nifer y lleoedd ar y cwrs yn gyfyngedig i 16 felly archebwch mewn da bryd i osgoi cael eich siomi. £12 y sesiwn (yn cynnwys tocyn i weld y ffilm) £40 am bob un o’r pedair sesiwn (yn cynnwys tocynnau i weld y ffilm).


30

Archebu/Gwybodaeth

029 2030 4400

GWYBODAETH Sut i Archebu Tocynnau

Gwybodaeth

Dros y ffôn — ffoniwch ni ar 029 2030 4400. Rydym yn derbyn pob un o’r prif gardiau credyd. Galwch heibio — mae ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 11am–8.30pm, ac ar y Sul o 3pm–8.30pm. Ar–lein: Gallwch archebu ar www.chapter.org bob awr o’r dydd a’r nos Consesiynau: Mae cyfraddau disgownt ar gael i fyfyrwyr, pobl dros 60 oed, plant, y di–waith, pobl anabl, deiliaid cerdyn MAX ac i Ffrindiau Chapter a deiliaid Cerdyn Chapter. Bydd angen i chi gyflwyno prawf o’ch cymhwyster i dderbyn cyfradd ostyngol. Archebion grŵp: Prynwch 8 tocyn ac fe gewch chi’r 9fed yn RHAD AC AM DDIM. Noder os gwelwch yn dda • dim ond un disgownt y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw un adeg • rydym yn hapus i dderbyn archebion ymlaen llaw ond ni allwn gadw tocynnau i’r naill ochr • os cyrhaeddwch chi’n hwyr mae hi’n bosib y cewch chi’ch atal rhag mynychu eich digwyddiad. Cyflwynir rhai o’n ffilmiau â Disgrifiadau Sain ac Is–deitlau Meddal ond nid yw’r wybodaeth hon bob amser ar gael ar adeg argraffu’r cylchgrawn. Gweler ein gwe–fan am fanylion neu piciwch draw i’r Swyddfa Docynnau yn ystod yr wythnos y mae’r ffilm yn cael ei rhyddhau.

Cwmnïau ac Artistiaid Cysylltiedig Mae Chapter yn gartref i gwmnïau theatr, cwmnïau dawns, stiwdios animeiddio, gwneuthurwyr printiau, crochenwyr, dylunwyr graffeg, dylunwyr deunydd symudol, cyfansoddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, cyhoeddwyr cylchgronau, artistiaid annibynnol a llawer iawn mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Sinema Cyn 5pm O 5pm ymlaen Llawn £4.50 (£4.00) £7.90 (£7.20) Disg £3.50 (£3.00) £5.80 (£5.10) Cerdyn + Disg £3.00 (£2.50) £5.00 (£4.50) DISGOWNT DYDD MAWRTH Tocynnau’r holl brif ddangsiadau — £4.40

Gweithdai a Dosbarthiadau Rydym yn cynnal amrywiaeth eang o weithdai dyddiol a dosbarthiadau gydag ymarferwyr annibynnol, gan gynnwys ballet, zumba, ioga, crefft ymladd, massage i fabanod, cerddoriaeth i blant, pilates, tango, fflamenco, ysgrifennu creadigol, gwersi cerddoriaeth a mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Sut i gyrraedd Chapter Fe ddewch chi o hyd i ni yn Nhreganna, i’r gorllewin o ganol y ddinas. Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE Ar Droed Mae hi’n daith gerdded hamddenol o ryw 20 munud o ganol y ddinas. Ar Fws Mae bysus rhif 17, 18 a 33 yn aros gerllaw ac yn gadael bob pum munud o ganol y ddinas. Ar Feic Mae digon o raciau beic ar flaen yr adeilad. Parcio Mae gennym faes parcio yng nghefn yr adeilad ac mae meysydd parcio lleol eraill wedi eu nodi ar y map. Gofynnwn i chi barchu ein cymdogion os gwelwch yn dda drwy osgoi parcio mewn strydoedd cyfagos.

Prisiau ymlaen llaw/ar–lein mewn cromfachau. Mae “Ymlaen llaw” yn golygu unrhyw bryd cyn diwrnod y dangosiad.

aff nd Lla

Springfield Pl.

ad

mC ha cen res

Ha m i l t o n

St

t

Gr

King’s Ro

nd Wy

ane

Road

L Gray

. Library St

St. ay

Treganna

Le c h kwit

Church Rd.

Heol Ddwy rein i o l y B o n t F a en Penllyn Rd.

Harve

St Talbot

Orc h a r d P l.

rn Seve

St. Gray M a rk e t P l .

treet yS

e St. Glynn

d Roa

d hna arc lyF

Heo

o 6pm

rt S

t.

Road

Earle Pl.

A l be

P — meysydd parcio rhad ac am ddim — rac feics

r R—oadarhosfan bysus Majo

I Ganol Dinas Caerdydd to n ling Wel

et Stre

Mynediad i bawb Mae Chapter yn croesawu ymwelwyr anabl. Os oes gennych anghenion mynediad penodol, ffoniwch ein swyddfa docynnau ar 029 2030 4400, minicom 029 2031 3430.


chapter.org

Cymryd Rhan

31

CYMRYD RHAN Cerdyn CL1C

Cadwch mewn cysylltiad

Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawr–lwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Ymunwch â ni ar–lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

Ffrindiau Chapter Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40

eAmserlen rad ac am ddim eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E–bostiwch adam.chard@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e–bost.

Cynllun Myfyrwyr Chapter Ydych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth am ddim a manteisio ar gynigion arbennig nodedig, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Jennifer — jennifer.kirkham@chapter.org www.chapter.org/cy/aelodaeth–myfyrwyr–chapter

Rydym yn falch o fod yn rhan o Hynt. www.hynt.cymru Hoffai Chapter gydnabod cefnogaeth hael y sefydliadau a’r grwpiau canlynol:

Sefydliad Esmée Fairbairn Cronfa Gymunedol Tirlenwi Rhaglen Ddiwylliant yr UE Sefydliad Garfield Weston Sefydliad Foyle Gwobr Biffa Cronfa Loteri Fawr Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston Grŵp Admiral Cyf Sefydliad Moondance ar gyfer y Celfyddydau a Chwaraeon Sefydliad Elusennol Trusthouse Plant mewn Angen y BBC Waitrose Sefydliad Waterloo Sefydliad Henry Moore Ymddiriedolaeth Ynni Gwyrdd ScottishPower SEWTA

Sefydliad y Brethynwyr WRAP Google Sefydliad Jane Hodge Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson Ymddiriedolaeth People’s Postcode Ymddiriedolaeth Feddygol Dunhill Legal & General Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm Ymddiriedolaeth Ernest Cook Sefydliad Boshier–Hinton Lloyds TSB Barclays Celfyddydau & Busnes Cymru Ymddiriedolaeth Austin & Hope Pilkington Gwestai Puma: Gwesty’r Angel Caerdydd

Celfyddydau Rhyngwladol Cymru Ymddiriedolaeth Elusennol Gibbs Ymddiriedolaeth Elusennol Steel Ymddiriedolaeth Oakdale Cwmni Plastig Dipec Nelmes Design Ymddiriedolaeth Elusennol Coutts Elusen Wake Bruce Funky Monkey Feet Sefydliad Finnis Scott Cote Brasserie Banc Unity Trust RWE Tidal Lagoon Power Hugh James Cymdeithas Celfyddydau Cyfoes Cymru Western Power Distribution

Aelodau Clwb Chapter: Prifysgol Fetropolitan Caerdydd Clearstream Technology Broomfield & Alexander Tincan 1st Office Urban Solar Patronbase Golley Slater Effective HRM Little Casino Stills Branding CDF Cyfrifwyr BPU Cyfreithwyr MLM Rheolwyr Cyfoeth SLD Capital Law Modern Television Arup Cyfrifwyr EST


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.