029 2030 4400
@chaptertweets
chapter.org
02
Croeso
chapter.org
Croeso i ganllaw bach Sinema Chapter mis Medi. Mae gennym ddigon o ffilmiau newydd i’ch difyrru chi tan ddiwedd yr haf, gan gynnwys y ffilm ddadlennol a garw, Lovelace (t4), a dychweliad hir-ddisgwyliedig y ‘trysor cenedlaethol’ Alan Partridge yn Alpha Papa (t4). Fel bob amser, mae gennym ddetholiad o ffilmiau dogfen grymus, gan gynnwys Hawking (t5), sy’n treiddio i ddarganfyddiadau gwyddonol a bywyd rhyfeddol gwyddonydd byw enwocaf y byd, yr Athro Stephen Hawking, i’w dilyn gan ddarllediad lloeren byw o sesiwn holi-ac-ateb gyda’r dyn ei hun a gwesteion eraill. Mae Cine Phonic (t8-9) yn cyflwyno rhai o’r ffilmiau cerddorol gorau, ac fe fyddwn yn mynd ar daith yn ôl i oes aur ffilmiau mud, gyda’r campwaith cynnar, The Passion of Joan of Arc (t8) a fydd yn cynnwys cyfeiliant byw gan y pianydd a’r cyfansoddwr, Paul Shallcross. Bydd Morrissey 25: Live (t9) yn dod â ni yn ôl i’r presennol — y ffilm “swyddogol” gyntaf am y seren cegog ers dros 9 mlynedd, ac fe fydd The Blueblack Hussar (t9) yn bwrw golwg ddadlennol ar y cerddor Neo-Ramantaidd eiconig, Adam Ant, wrth iddo ymgodymu ag enwogrwydd am yr eildro. Ar dudalen 12, fe welwch chi ein Ffilmiau i’r Teulu Cyfan, ynghyd â rhai uchafbwyntiau o weddill rhaglen Chapter y mis hwn.
Siaradwch â ni @chaptertweets facebook.com/Chapter-cinema enquiry@chapter.org Delweddau’r clawr, o’r chwith uchaf: Kelly & Victor, The Great Beauty, The Kings of Summer
Chapter Heol y Farchnad Caerdydd CF5 1QE 029 2030 4400 minicom 029 2031 3430 www.chapter.org enquiry@chapter.org
Sinema
Only God Forgives
When the Dragon Swallowed the Sun
03
Gyda’r cloc o’r chwith: Only God Forgives, When the Dragon Swallowed the Sun, World War Z
chapter.org
Gwe 23 Awst — Iau 5 Medi UDA/2013/90mun/18. Cyf: Nicholas Winding Refn. Gyda: Ryan Gosling, Kristen Scott Thomas, Yayaying Rhhatha Phongam.
Mae Julian yn ffigwr uchel ei barch yn isfyd troseddol Bangkok ac yn gyfrifol, gyda’i frawd treisgar, Billy, am glwb bocsio — sy’n fodd o guddio’u busnes smyglo cyffuriau. Pan gaiff Billy ei lofruddio, mae eu mam, Jenna — pennaeth y cynllwyn troseddol — yn ei orfodi i ddod o hyd i’r sawl sy’n gyfrifol ac i ‘godi twrw’. Ond mae heddwas â chleddyf yn ei erlid. Ffilm gyffro hunllefus gan gyfarwyddwr a seren Drive.
What Maisie Knew Gwe 30 Awst — Iau 5 Medi
UDA/2013/99mun/15. Cyf: Scott McGehee, David Siegel. Gyda: Julianne Moore, Steve Coogan, Alexander Skarsgård.
Yn y diweddariad cyfoes a grymus hwn o nofel Henry James, rydym yn cwrdd â Maisie, merch fach y mae ei rhieni newydd ysgaru; cyn-seren roc, Susanne, a masnachwr celf Prydeinig o’r enw Beale. Mae’r cyngariadon yn cystadlu i ofalu am y plentyn, ond yn gwneud hynny er mwyn sgorio pwyntiau yn erbyn ei gilydd yn hytrach nag am eu bod yn poeni amdani. Mae eu partneriaid newydd yn cael eu dal yn y dadlau ond maent yn amharod i fod yn gyfrifol am y plentyn. Perfformiad ardderchog gan y newydd-ddyfodiad Onata Aprile a golwg frathog ar fywyd teuluol cyfoes. + Sain-ddisgrifio & is-deitlau meddal Maw 3 Medi.
Gwe 30 Awst — Iau 5 Medi UDA/2010/115mun/15. Cyf: Dirk Simon. Gyda: Richard Gere, Y Dalai Lama.
 buddiannau economaidd a’r addewid o farchnad enfawr yn Tsieina yn denu llywodraethau Gorllewinol, caiff troseddau yn erbyn hawliau dynol eu hanwybyddu. Mae’r diffyg datblygiad parthed Tibet hunanlywodraethol yn annog mwy o bobl yn y rhanbarth i ystyried polisi dadleuol y Dalai Lama — Ffordd Ganol, a chyfaddawd ar bwnc annibyniaeth. Gyda chyfweliadau gan siaradwyr blaenllaw o’r gymuned Fwdhaidd yn ogystal ag arweinwyr byd, mae’r ffilm yn olwg ar gymhlethdod y frwydr ac yn cynnwys trac sain anhygoel gan Philip Glass a Thom Yorke, ymhlith eraill.
World War Z
Gwe 30 Awst — Iau 5 Medi UDA/2013/116mun/15. Cyf: Marc Foster. Gyda: Brad Pitt, Mireille Enos, Peter Capaldi.
Mae Gerry, cyn-ymchwilydd gyda’r Cenhedloedd Unedig, yn cael ei dynnu yn ôl i’w hen broffesiwn pan ddaw byddin o ‘zombies’ i fygwth dinistrio’r byd. Â feirolegydd a thîm milwrol yn gwmni iddo, mae e’n gwibio o amgylch y byd i chwilio am y claf cyntaf un. Caiff pwerau’r hen fyd eu rhoi i’r neilltu wrth i’r frwydr i ladd neu wella’r hil ddynol fynd rhagddi. Ffilm gyffro ddeallus a thrawiadol â phwyslais ar geowleidyddiaeth yn hytrach nag ar drais — a’r cwbl yn ddibynnol ar berfformiad cadarn gan gynhyrchydd a seren y ffilm, Brad Pitt.
Sinema
029 2030 4400
O’r chwith i’r dde: The Big City, Lovelace
04
The Big City
Moviemaker Chapter
Sul 1 + Maw 3 Medi
Llun 2 Medi
India/1963/135mun/PG. Cyf: Satyajit Ray. Gyda: Anil Chatterjee, Madhabi Mukherjee.
Sesiwn reolaidd i gyfarwyddwyr annibynnol ddangos ffilmiau byrion. O bryd i’w gilydd, bydd y ffilmiau â ddangosir yn ystod sesiynau Moviemaker Chapter yn cynnwys deunydd anaddas i bobl ifainc felly rydym yn argymell y dylai mynychwyr fod dros 18 oed.
Dylai menyw fod yng nghwmni ei sosbenni bob amser; dyna gred gadarn Subrata Mazumdar, clerc banc ifanc sy’n ei chael hi’n anodd cynnal ei deulu estynedig ar gyflog pitw. Ac ar ôl i’w wraig, Arati, gynnig mynd i weithio, er mwyn estyn help llaw ariannol, mae e’n arswydo. Mae portread rhyfeddol Satyajit Ray o ddinas Calcutta yn y 50au, a chymdeithas sy’n dal i addasu i annibyniaeth, yn llawn cynhesrwydd, ffraethineb a chraffter gwirioneddol ac yn cynnwys cast eang o gymeriadau diddorol. Wedi’i hail-ryddhau gan y BFI i ddathlu pen-blwydd y ffilm yn hanner cant oed, mae The Big City, a’i phwyslais ar werthoedd cymdeithasol yn gwrthdaro â’i gilydd — a rôl menywod yn arbennig — yn teimlo mor ffres a pherthnasol ag erioed.
Clwb Ffilmiau Gwael The Ultimate Weapon Sul 1 Medi UDA/1998/110mun/15. Cyf: Jon Cassar. Gyda: Hulk Hogan.
Hulk Hogan yw seren y ffilm hon sy’n addo llond whilber o gyffro ond sy’n cynnig, mewn gwirionedd, ddigon i lanw soser. Mae’r Hulk yn filwr proffesiynol sy’n cael ar ddeall bod ei gyflogwyr yn asiantau dwbl sy’n gweithio gyda’r IRA. Mae e’n cynllwynio, felly, i ddial ar y milwyr a’i twyllodd. Actio gwych, cyffro, stori anhygoel… welwch chi’r un o’r rhain yn y ffilm hon. Ond fe fydd hi’n codi’ch calon o beth dipyn. Bydd sylwebaeth fyw yn cyd-fynd â’r ffilm — ac fe all y rhaglen newid yn ddirybudd.
Rhad Ac Am Ddim
Lovelace Gwe 6 — Iau 12 Medi UDA/2013/92mun/18. Cyf: Rob Epstein. Gyda: Amanda Seyfried, Peter Sarsgaard.
Ym 1972, cyn i’r rhyngrwyd sicrhau bod pornograffi ar gael ar bob sgrin, roedd Deep Throat yn ffenomen: y ffilm nodwedd bornograffig gyntaf i gael ei sgriptio a’i dangos mewn sinemâu, a ffilm a oedd yn cynnwys stori, jôcs a seren anhysbys ac annisgwyl, Linda Lovelace. Yn hanu o deulu crefyddol llym, daeth Linda o hyd i ryddid a chyffro ar ôl iddi syrthio mewn cariad â ‘hustler’ carismatig, Chuck Traynor, ac fe ddaeth hi’n ‘centerfold’ ac yn wrthrych ffantasi rhyngwladol. Yn ei rôl newydd, roedd Linda’n llefarydd brwdfrydig dros ryddid rhywiol ond, chwe blynedd yn ddiweddarach, roedd yna elfennau ychwanegol i’w stori a naratif mwy tywyll o lawer...
Alan Partridge: Alpha Papa Gwe 6 — Iau 12 Medi DG/2013/90mun/15. Cyf: Declan Lowney. Gyda: Steve Coogan, Colm Meaney.
Ar ôl dirwyn Peartree Productions i ben, mae Partridge yn gweithio gyda North Norfolk Digital ac yn cyflwyno sioe “Mid-Morning Matters”. Caiff yr orsaf radio ei phrynu gan gwmni cyfryngol mawr a’i hailstrwythuro — ac mae’r DJ isel-ei-ysbryd, Pat Farrell, yn colli’i slot ganol nos. Yn ei ddicter, mae Pat yn dial trwy gymryd y staff yn wystlon yn ystod parti swyddfa ac yn gwrthod trafod ag unrhyw un ond Alan. Â’i fryd ar adennill ei statws fel trysor cenedlaethol, a all Alan achub y dydd?
chapter.org
Sinema
^
05
^
O Ril i Ril Gyda’r cloc o’r chwith: More Than Honey, Hawking, InRealLife
“ Nid oes yna’r fath beth ag un ddelwedd unigryw o realiti.” Stephen Hawking.
More Than Honey Gwe 13 — Iau 19 Medi Y Swistir/2012/95mun/tich. Cyf: Markus Imhoof. Trosleisio gan John Hurt.
Mae’r ffilm ddogfen rymus hon yn defnyddio technegau arloesol i daflu goleuni ar yr argyfwng gwenyn byd-eang, yng Nghaliffornia, y Swistir, Tsieina ac Awstralia. Mae tranc heidiau cyfain wedi anrheithio’r boblogaeth ac mae gwyddonwyr yn dal yn ansicr o union natur y ffenomen farwol. Mae’r gwenynwr Imhoof yn cyf-weld â gwenynwyr eraill, yn mynd ati i archwilio natur y drychineb ac yn trafod atebion posib. Gyda chyflwyniad gan Julian Riggs o Gymdeithas Ryngwladol Ymchwil Gwenyn www.ibra.org.uk ar Ddydd Mawrth 17 o Fedi.
Hawking + Darllediad Lloeren Iau 19 Medi
InRealLife + Darllediad Lloeren Sul 22 Medi DG/2013/86mun (hyd y digwyddiad cyfan: 150mun)/tich. Cyf: Beeban Kidron.
Mae Stephen Hawking, y gwyddonydd byw enwocaf yn y byd, yn adrodd hanes ei fywyd yn ei eiriau ei hun. Ar ôl cael caniatâd i ymwneud yn agos â’r ffisegydd, mae’r gwneuthurwr ffilmiau Stephen Finnigan yn ymchwilio i atgofion o ddyddiau Hawking fel myfyriwr, yn sôn am ei ddarganfyddiadau gwyddonol rhyfeddol ac yn portreadu ei frwydr yn erbyn Clefyd Niwronau Motor. Cafodd Hawking, sydd bellach yn 71 oed, wybod ei fod yn dioddef o’r clefyd yn ŵr ifanc 21 oed. Portread agos atoch ac ysbrydoledig o ddyn hynod.
Beth yn union yw’r rhyngrwyd a pha effaith y mae’n ei gael ar ein plant? Mae’r gwneuthurwr ffilmiau Beeban Kidron yn ein harwain ar daith o ystafelloedd gwely pobl ifainc Prydain i Silicon Valley ac yn awgrymu bod pobl ifanc yn cael eu rhwydo’n gynyddol mewn byd masnachol — yn hytrach nag yn yr addewid o rynggysylltedd agored, rhad ac am ddim. Mae’n fyd sy’n ymddangos yn hudolus o’r tu allan — ond gall fod yn ofod llawn dieithrwch a chaethiwed. Mae InRealLife yn datblygu’i dadl yn dawel hyderus ac yn gofyn a allwn ni fforddio anwybyddu ein plant wrth iddyn nhw fynd yn gaeth i fywyd o gysylltedd 24/7?
Dilynir y dangosiad gan ddarllediad lloeren byw o sesiwn holi-ac-ateb gyda Stephen Hawking a gwesteion eraill o noson agoriadol Gŵyl Ffilm Caergrawnt.
Dilynir y dangosiad gan ddigwyddiad lloeren byw a fydd yn cynnwys trafodaeth banel wedi’i harwain gan Jon Snow yng nghwmni Beeban a rhai o’r bobl ifainc a welir yn y ffilm.
DG/2013/86mun/tich. Cyf: Stephen Finnigan. Gyda: Stephen Hawking, Nathan Chapple, Arthur Pelling.
Sinema
029 2030 4400
The Kings of Summer
Ain’t Them Bodies Saints
Gwe 6 — Iau 12 Medi
Gwe 13 – Mer 25 Medi
UDA/2013/95mun/15. Cyf: Jordan Vogt-Roberts. Gyda: Nick Robinson, Gabriel Basso, Moises Arias, Nick Offerman.
UDA/2012/97mun/tich. Cyf: David Lowery. Gyda: Casey Affleck, Rooney Mara, Ben Foster.
Treuliodd Joe, Patrick a Biaggio eu plentyndod gyda’i gilydd mewn tref ym ‘mid-west’ America ac, yn 15 oed erbyn hyn, maen nhw wedi penderfynu y bydd yr haf hwn yn un arbennig. Maent yn gadael eu rhieni anghenus ac od ac yn adeiladu tŷ yn y goedwig a gwireddu’u ffantasïau o fyw’n annibynnol a dibynnu ar y tir. Yn y stori ffraeth a chyfoethog hon, mae awydd y bechgyn i fod yn ddynion ac i ymfalchïo yn eu rhyddid a’u profiad am ychydig yn fyfyrdod ar yr hyn y mae “bod yn rhydd” yn ei olygu mewn gwirionedd.
Ffilm am angerdd a byw y tu hwnt i’r gyfraith ym mryniau Tecsas yn y 1970au. Ar ôl i Ruth niweidio heddwas, mae ei gŵr, Bob, yn mynd i’r carchar yn ei lle. Mae hi’n dysgu toc wedi hynny ei bod hi’n feichiog. Bedair blynedd yn ddiweddarach, mae Ruth wedi gwneud bywyd iddi’i hun fel rhiant sengl ac mae’r Siryf Patrick yn ymweld â hi’n rheolaidd — tra bod Bob, ar ôl ceisio dianc o’r carchar bum gwaith yn flaenorol, yn llwyddo’r chweched tro. Ar ei ffordd adref, nid yw Bob yn ymwybodol bod yna rymoedd mwy o lawer na Patrick yn ceisio cadw Ruth ac ef ar wahân. Yn llawn gwaith camera breuddwydiol a pherfformiadau gwych, mae hon yn ffilm fythgofiadwy am densiwn triongl serch.
Gyda’r cloc o’r chwith uchaf: The Kings of Summer, Ain’t Them Bodies Saints, Heaven’s Gate
06
Heaven’s Gate Sul 15 Medi
UDA/1981/216mun/15. Cyf: Michael Cimino. Gyda: Kris Kristofferson, Christopher Walken, Jeff Bridges, Isabelle Huppert.
Pan ddaw cyfreithiwr o Harvard o’r enw Averill ar draws cymuned o fewnfudwyr Ewropeaidd sy’n cael trafferth â chymdeithas greulon o berchnogion gwartheg, mae e’n gwneud yr hyn a all i’w helpu nhw yn y gwrthdaro gwaedlyd a gâi ei adnabod wedyn fel Rhyfel Johnson County, 1892. Stori am gariad trallodus sydd wrth galon Heaven’s Gate, rhwng y Marshal Ffederal, Averill, y madam lleol, Ella, a Nate, milwr tâl sy’n gweithio i gymdeithas y perchnogion. Mae’r ffilm hefyd yn cynnwys sinematograffi ysblennydd o dirwedd anhygoel America ac yn myfyrio ar arwyddocâd y tir hwnnw yn y cyfnod ar ôl y Rhyfel Cartref.
“Ar adegau, mae’r delweddau marwnadol yn dwyn i gof Terrence Malick ond mae sgriptio Lowery yn dynnach ac yn fwy hygyrch. Mae ganddo lais gwirioneddol newydd a chyffrous.” The Guardian
Pieta Gwe 13 — Mer 18 Medi De Corea/2012/104mun/is-deitlau/18. Cyf: Kim Ki-Duk. Gyda: Min-soo Jo, Jeong-jin Lee, Ki-Hong Woo.
Mae’r Kang-do golygus yn gweithio gyda’r maffia yn Seoul ac mae ei sadistiaeth yn ddi-ben-draw. Ond, un diwrnod, daw menyw ddirgel i stepen y drws gan honni bod yn fam iddo ac ymbil am faddeuant am ei adael pan oedd yn faban. Drama fachog, glawstroffobig a chymhleth sy’n defnyddio trais a hiwmor tywyll i drafod creulondeb arian a’r llanast emosiynol y gall y trywydd hwnnw ei achosi. Enillydd Gwobr y Llew Euraid yng Ngŵyl Ffilm Fenis 2012.
Sinema
Elysium
The Great Beauty
07
Gyda’r cloc o’r chwith uchaf: Elysium, The Great Beauty, Kelly & Victor
chapter.org
Gwe 13 — Iau 19 Medi
Gwe 20 — Iau 26 Medi
UDA/2013/109mun/15. Cyf: Neill Blomkamp. Gyda: Matt Damon, Jodie Foster, Sharlto Copley.
Yr Eidal/2013/141mun/is-deitlau/15. Cyf: Paolo Sorrentino. Gyda: Toni Servillo, Carlo Verdone, Sabrina Ferilli.
Yn y flwyddyn 2154 mae yna ddau ddosbarth o bobl: yr hynod gyfoethog, sy’n byw ar orsaf ofod o’r enw Elysium, a’r gweddill, sy’n byw ar Ddaear sydd wedi’i gorboblogi a’i difetha. Pan geisia rhai o drigolion y Ddaear ddianc, mae ambell un o drigolion Elysium yn fodlon gwneud unrhyw beth i weithredu cyfreithiau gwrth-fewnfudo ac i gynnal eu ffordd foethus o fyw. Mae gwir angen cyrraedd Elysium ar Max ac, â’i fywyd yn y fantol, mae’n cychwyn allan ar y daith beryglus. Os bydd yn llwyddo, fe allai arbed nid yn unig ei fywyd ei hun ond bywydau miliynau o bobl ar y Ddaear hefyd.
Yn ystod haf diofal, mae Jep Gamberdella yn mwynhau bywyd cymdeithasol Rhufain i’r eithaf. Yn ddyn ifanc, ysgrifennodd nofel nodedig ac mae e wedi byw ar ei enwogrwydd ers hynny. Erbyn hyn, mae e’n newyddiadurwr ac yn ferchetwr — ond yn dechrau blino ar ei ffordd o fyw ac yn breuddwydio am gydio unwaith eto yn ei ysgrifbin ac yn ei atgofion o gariad ifanc. Ond a fydd e’n gallu goresgyn ei deimladau o ffieidd-dod — ato’i hun ac at eraill — mewn dinas y mae ei harddwch disglair weithiau’n parlysu’i thrigolion? Mae camera symudol Sorrentino yn cyfleu’n berffaith y Ddinas Dragwyddol a thrigolion yr Eidal yng nghyfnod Berlusconi.
+ Sain-ddisgrifio & is-deitlau meddal Llun 16 Medi.
Kelly & Victor Gwe 20 — Iau 26 Medi Cymru/2012/95mun/18. Cyf: Kieran Evans. Gyda: Antonia Campbell-Hughes, Julian Morris, Claire Keelan.
Mae Kelly a Victor yn cyfarfod mewn clwb nos yn Lerpwl, yn crwydro drwy’r nos i’w fflat hi ac yn caru â ffyrnigrwydd nad yw’r naill na’r llall wedi ei brofi o’r blaen. Fodd bynnag, mae eu bywydau cyffredin digysur yn bygwth eu gwahanu, er gwaetha’u hangerdd. Mae’r stori hyfryd hon am chwilio am hud a lledrith cariad mewn gwagle ysbrydol yn addasiad amrwd, ingol ac ysigol o’r nofel gan Niall Griffiths. + Sesiwn holi-ac-ateb gyda’r cyfarwyddwr Kieran Evans ar Ddydd Sul 22 o Fedi.
08
Sinema
029 2030 4400
O’r chwith i’r dde: Rock and Roll’s Greatest Failure: Otway The Movie, The Great Hip Hop Hoax
“ Ymgollais mewn cerddoriaeth pan oeddwn i’n ifanc a dw i bod yno byth ers hynny.” Morrissey
Rock and Roll’s Greatest Failure: Otway The Movie Iau 5 Medi DG/2013/90mun/12A. Cyf: Steve Barker.
Yn ystod chwyldro pync Prydain yn y 70au, ac ar ôl ymddangosiad nodedig ar y teledu, pan welodd ryw bum miliwn a hanner o bobl ef yn cwympo ac yn glanio ar ran arbennig o boenus o’r corff, roedd Otway yn uchelfannau’r siartiau. Trueni, felly, na ddaeth ei ‘hit’ nesaf am 25 mlynedd arall. Mae gyrfa John Otway yn wers hudolus ar hunan-hyrwyddo – recriwtiodd ei gefnogwyr ar gyfer prosiectau dros-ben-llestri di-ri a arweiniodd, ymysg pethau eraill, at record yn y Deg Uchaf ar achlysur ei ben-blwydd yn 50 oed a ffilm nodwedd ar ei ben-blwydd yn 60 oed. Bydd John Otway yn ymuno â ni ar ôl y dangosiad hwn am sesiwn holi-ac-ateb.
The Great Hip Hop Hoax Gwe 6 — Iau 12 Medi DG/2013/88mun/tich. Cyf: Jeanie Finlay. Gyda: Billy Boyd, Gavin Bain.
Daw twyll cymhleth yn ffordd ryfedd o fyw. Mae’r ddeuawd rap o Galiffornia, Silibil ‘n’ Brains yn barod i goncro’r byd cerddorol. Maen nhw’n argyhoeddi’n llwyr a newydd dderbyn taliad sylweddol gan un o’r prif labeli cerddoriaeth. Beth allai fynd o’i le? Mae’r gwir yn fwy rhyfedd o beth wmbredd yn y ffilm ddogfen ryfeddol, ddoniol a theimladwy hon sy’n ymwneud â materion am hunaniaeth genedlaethol yr Alban tra’n dangos hefyd y pethau eithafol y mae pobl yn fodlon eu gwneud er mwyn bod yn enwog. + Sesiwn holi-ac-ateb gyda Jeanie Finlay ar Ddydd Iau 12 Medi + Sain-ddisgrifio & is-deitlau meddal Dydd Mawrth 10 Medi.
The Passion of Joan of Arc Sul 8 + Maw 10 Medi Ffrainc/1928/88mun/ffilm fud gyda chyfeiliant byw/PG. Cyf: Carl Theodor Dreyer. Gyda: Maria Falconetti, Eugene Silvain, Andre Berley.
Addasiad o drawsgrifiadau treial Jeanne d’Arc; mae’r ffilm ryfeddol a hardd hon yn gampwaith o gyfnod cynnar y sinema. Ar ôl gweld gweledigaethau pan yn ferch dlawd, credai Joan bod Duw wedi’i dewis hi i arwain y Ffrancwyr yn erbyn y Saeson. Wedi’i dal yn ystod y frwydr, a than bwysau i wadu ei chredoau, mae’r ffilm yn saga rymus am ffydd dan warchae, artaith a thrallod personol — a’r cyfan wedi’i gyfleu mewn golygfeydd agos o greulondeb torcalonnus. Bydd y pianydd Paul Shallcross yn cyfeilio’r clasur mud hwn. £12/£10/£8. Matinée Dydd Mawrth £7/£6/£5.
Thomas Dolby’s The Invisible Lighthouse Maw 17 Medi DG/2013/30mun(Digwyddiad cyfan: 120mun)/dim tyst.
Ffilm ddogfen argraffiadol am y goleudy ar ynys ddirgel a daflodd belydrau o gysur, am ddegawdau cyfain, drwy ffenest ystafell wely Thomas Dolby. Â’r goleudy ar fin cau, mae’r artist yn gorfod chwilio am lwybr creadigol newydd. Mae’r ffilm, sy’n cynnwys sgôr fyw, yn ein harwain drwy wahanol gyfnodau ei yrfa hynod amrywiol, wrth i’r arloeswr electronig a digidol edrych ar letraws ar dechnolegau darfodedig, colled a’r cyflwr dynol. Tocynnau £20. Enillydd Gwobr Cyfarwyddwr y Ffilm Fer Orau a’r Ffilm Ddogfen Orau yng Ngŵyl Ffilm DIY.
chapter.org
Sinema
09
The Blueblack Hussar Gwe 20 Medi O’r chwith i’r dde: Morrissey 25: Live, The Blueblack Hussar
DG/2012/99mun/18 arf. Cyf: Jack Bond.
Springsteen & I Sad 21 + Mer 25 Medi UDA/2013/80mun+15 munud/PG. Cyf: Baillie Walsh.
Mae’r cawr roc Bruce Springsteen yn un o artistiaid mwyaf America. O strydoedd ei New Jersey brodorol i uchelfannau buddugoliaethus areithiau Arlywydd du cyntaf yr Unol Daleithiau, ‘does na’r un artist arall sy’n fwy o ymgorfforiad o uchafbwyntiau ac isafbwyntiau y Freuddwyd Americanaidd. Mae’r ffilm yn cyfuno deunydd archif nas gwelwyd o’r blaen o berfformiadau Bruce dros gyfnod o 40 mlynedd a chyfraniadau gan y dyn ei hun a’i ffans. Bydd y dangosiad yn cynnwys delweddau o’i daith gyfredol mewn ffilm fer 15 munud o hyd. Tocynnau £10.
Morrissey 25: Live [2D] Maw 24 Medi UDA/2013/92mun/dim tyst.
Mae’r ffilm “swyddogol” gyntaf am Morrissey ers 9 mlynedd yn dathlu gyrfa solo anghyffredin 25 mlynedd o hyd. Wedi’i recordio’n fyw yn Ysgol Uwchradd Hollywood, LA, ar 2 Mawrth, 2013, mae hwn yn gyfle unigryw i weld y gŵr â’r geg fawr mewn lleoliad agos-atoch a pherfformiad anhygoel sy’n cynnwys llawer o’u draciau enwocaf, gan gynnwys Meat Is Murder, Everyday is Like Sunday, Irish Blood, English Heart, Please, Please, Please Let Me Get What I Want a The Boy With The Thorn In His Side.
Ffilm sy’n dilyn dychweliad dewr a rhyfeddol Adam Ant ar ei daith gerddorol gyntaf ers 15 mlynedd, ar ôl blynyddoedd o broblemau iechyd meddwl. Caiff personoliaeth aml-haenog Adam ei datgelu trwy gyfrwng y cymeriadau y daw i gysylltiad â nhw ar ei daith. Mae’r rhain yn cynnwys y cynhyrchydd Mark Ronson, ei fentor yn y coleg celf a’r Artist Pop, Allen Jones, a’r actores Charlotte Rampling, a ysbrydolodd ei albwm cyntaf, ‘Dirk Wears White Sox’. Mae Jack Bond, un o gyfarwyddwyr mwyaf arloesol Prydain, yn dychwelyd at ei wreiddiau a Sinema Verité ei ffilm Dali New York (1965) er mwyn portreadu talent creadigol “athrylith gwallgof” arall. Dilynir y dangosiad gan sesiwn holi-ac-ateb gyda’r cyfarwyddwr chwedlonol, Jack Bond.
“Mae’n cymharu’n ffafriol â Pennebaker a’r Brodyr Maysles.” Sam Dunn, BFI
Noys R Us ym Mar Roc a Chlwb Nos Bogiez
Mae Sinema Chapter, ar y cyd â Bar Roc a Chlwb Nos Bogiez, yn cyflwyno Noson Ffilm Noys R Us. Ar ddydd Sul olaf y mis byddwn yn dangos y ffilmiau alt / roc / metel / pync yn eich hoff glwb roc. Yfwch, ymlaciwch a gwyliwch rai o’r ffilmiau cerddorol mwyaf ffrwydrol erioed.
Until the Light Takes Us Sul 29 Medi Drysau’n agor am 6pm, ffilm am 7pm UDA/2008/93min/18 arf. Cyf: Aites Aaron, Audrey Ewell.
Golwg ddiddorol ar fyd chwedlonol Metel Du; isddiwylliant cerddorol sydd mor enwog am gyfres o lofruddiaethau a ffrwydradau mewn eglwysi ag y mae am ei arddull cerddorol a gweledol unigryw. Gyda chyfweliadau dadlennol â cherddorion allweddol, ynghyd â ffilmiau prin o ddyddiau cynharaf y genre, mae Until the Light Takes Us yn archwilio pob agwedd ar fudiad dadleuol sydd wedi dal sylw’r byd. Gwelwn genre Metel Du trwy lygaid y rheiny a’i creodd a’r rheiny sy’n byw yn ei gysgod, a chawn gipolwg ar fudiad cysgodol a dirgel. Mae tocynnau’n £5 a gellir eu prynu drwy www.chapter.org ac yn Bogiez
Sinema
029 2030 4400
Plein Soleil
The Artist and The Model
Sul 22 + Maw 24 Medi
Gwe 27 Medi — Iau 3 Hyd
Ffrainc/1960/113mun/is-deitlau/PG. Cyf: Réné Clement. Gyda: Alain Delon, Marie Laforet, Maureice Ronet.
Sbaen/2012/104mun/is-deitlau/15 arf. Cyf: Fernando Trueba. Gyda: Jean Rochefort, Aida Folch, Claudia Cardinale.
Mae Tom Ripley’n cael ei dalu i deithio i’r Eidal i argyhoeddi’r ‘playboy’ ar gyfeiliorn, Philippe Greenleaf, i fynd yn ôl i San Francisco at ei deulu cyfoethog. Ar y dechrau, mae’r ddau’n mwynhau’r bywyd bras, er mawr siom i Marge, dyweddi Philippe. Pan ddaw’n amlwg nad yw Philippe yn bwriadu dychwelyd i’r Unol Daleithiau, mae Tom yn gorfod ystyried dulliau mwy ysgeler o gynnal ei ffordd o fyw afradlon. Addasiad o nofel Patricia Highsmith, The Talented Mr Ripley, ag is-destun homoerotig ym mherthynas Tom a Philippe yn mudferwi dan yr wyneb ac yn esgor ar densiwn o gariad a chasineb sy’n ffrwydro yn ystod mordaith.
Mae’r cerflunydd enwog, oedrannus Marc Cross yn byw gyda’i wraig yn ne Ffrainc, y tu hwnt i wallgofrwydd y Rhyfel Byd sy’n ffrwydro yn y pellter. Mae e fel petai’n agosáu at ddiwedd ei fywyd pan ddônt ar draws ffoadur gwleidyddol ifanc a hardd o Sbaen sy’n cytuno i fod yn fodel iddo yn gyfnewid am fwyd a lloches. Mae Trueba (Belle Epoque, Chico and Rita) yn cydweithio â’r sgriptiwr chwedlonol JeanClaude Carrière (Goya’s Ghosts) i gyflwyno stori farddonol am harddwch ac ysbrydoliaeth artistig ac yn archwilio cymhlethdodau’r cyflwr dynol yn ystod cyfnod tyngedfennol.
The Artist and The Model
10
Ymunwch â ni ar ôl y dangosiad matinée ar ddydd Mawrth 24 Medi ar gyfer trafodaeth grŵp ffilm LGBT Chapter
About Time
“Gem o ffilm, llawn delweddau hardd a grym tawel.” Dazed and Confused
The Stuart Hall Project
Gwe 27 Medi — Iau 10 Hyd
Sul 29 + Maw 1 Hyd
DG/2013/123mun/12A. Cyf: Richard Curtis. Gyda: Domhall Gleeson, Rachel McAdams, Bill Nighy.
DG/2013/103mun/12A. Cyf: John Akomfrah. Gyda: Stuart Hall.
Yn 21 oed, mae Tim yn darganfod y gall deithio mewn amser a newid yr hyn sy’n digwydd ac sydd wedi digwydd yn ei fywyd. Ond mae mynd ati i wella ei fywyd trwy ddod o hyd i gariad yn anos o lawer na’r disgwyl. Gyda pherfformiadau gwych gan Domhall Gleeson a Bill Nighy fel y tad a’r mab sy’n gorfod delio â rhoddion etifeddiaeth, mae Richard Curtis yn dychwelyd â stori garu swynol am ddysgu sut i fwynhau bywyd heb unrhyw driciau arbennig.
Stuart Hall yw un o feddylwyr mwyaf dylanwadol a nodedig ei genhedlaeth. Fel athronydd a sylwebydd gwleidyddol, mae ei gymheiriaid yn cynnwys cewri fel Noam Chomsky, Susan Sontag, Alan Ginsberg, Michel Foucault a Gore Vidal. Mae ffilm eangfrydig, fawreddog John Akomfrah yn arwain y gwyliwr trwy wrthdaro a chyfnodau allweddol yr 20fed ganrif — canrif o ymgyrchu ac o newid gwleidyddol a diwylliannol pellgyrhaeddol.
Sinema
Chapter Wails yn cyflwyno rhaglen ddwbl, Flipside
In A World…
11
Gyda’r cloc o’r chwith uchaf: Sleepwalker, In A World…, The Insomniac
chapter.org
Llun 23 Medi
Sleepwalker DG/1984/49mun/15. Cyf: Saxon Logan. Gyda: Joanna David, Bill Douglas, Fulton Mackay.
Pan aiff y cwpl cyfoethog Richard ac Angela i ymweld â Marion ac Alex yn eu cartref teuluol dirywiedig, mae noson o feddwdod a chystadlu rhywiol yn troi’n waed wrth i’r gwesteion ddod ar draws ymosodwr gwallgof. Gyda pherfformiad prin gan y cyfarwyddwr Bill Douglas, mae’r gwaith yn gymysgedd herfeiddiol o ddychan brathog ac arswyd llawn steil sy’n dwyn i gof waith deuawd digon anghydnaws, Lindsay Anderson a Dario Argento.
YNGHYD Â
The Insomniac DG/1971/45mun/15. Cyf: Rodney Giesler. Gyda: Morris Perry, Valerie Van Ost, Phoebe Nicholls.
Hanes rhyfedd anghysgadur sydd yn edrych allan o’i ffenestr liw nos ac yn gweld gardd wledig wedi’i goleuo’n llachar — byd dychmygol ei blant — yn hytrach na’r ddinas lwyd y mae’n disgwyl ei gweld. Mae’n penderfynu mynd ati i archwilio’r ffantasi ac, mewn parti, yn cyfarfod â merch ifanc sy’n ei ddilyn ar ddihangfa i gefn gwlad anghyfannedd o haul tanbaid. Maent yn nofio mewn llyn, yn caru ac, o’r diwedd, yn cysgu. Caiff Sleepwalker ei rhyddhau mewn Argraffiad Fformat Deuol (DVD & Blu-ray) gan BFI Flipside. Cynhwysir The Insomniac a ffilmiau Prydeinig prin eraill yn yr argraffiad fel deunydd ychwanegol.
Gwe 27 Medi — Iau 3 Hyd UDA/2013/93mun/tich. Cyf: Lake Bell. Gyda: Lake Bell, Fred Melamed, Nick Offerman.
Yn y ffilm swynol hon am “actorion llais”, rydym yn cyfarfod â Carol, hyfforddwr llais sydd am ddod o hyd i waith yn y byd trosleisio ffilm ond sy’n cael y byd hwnnw’n llawn dynion â lleisiau garw. Wedi’i hamgylchynu gan falchder, rhywiaeth a theuluoedd camweithredol, mae hi’n mynd ati i geisio newid y canfyddiad o “lais cenhedlaeth” mewn byd o “misfits” ac eneidiau coll. Golwg ddiddorol a ffraeth ar gornel fechan o Hollywood nas gwelir yn aml iawn.
Kick-Ass 2
Gwe 27 Medi — Iau 3 Hyd DG/2013/103mun/15. Cyf: Jeff Wadlow. Gyda: Aaron TaylorJohnson, Chloe Grace Moretz, Jim Carrey.
Ar ôl iddyn nhw ddychwelyd i’w bywydau bob dydd fel disgyblion ysgol cyffredin, daw grŵp o ddinasyddion – gan gynnwys yr efyngylwr, Stars and Stripes — â’u bryd ar lanhau baw troseddol y strydoedd, i ymuno â Kick-Ass a Hit Girl. Fodd bynnag, mae Red Mist yn ei ail-frandio’i hun ac yn casglu at ei gilydd fyddin o ddihirod arbennig i ddial am farwolaeth ei dad. Trais llawn steil a sgript sy’n brathu fel llafn cyllell — mae’r ffilm hon am y dialwyr lletchwith yn llwyddiant digamsyniol.
12
Sinema
Noddir gan Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk 02920 666688
O’r chwith i’r dde: The Lone Ranger, Planes
Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn. Cysylltwch â ni i gael manylion am Ddangosiadau Mewn Amgylchiadau Arbennig.
029 2030 4400
Carry On Screaming!
Bob dydd Gwener am 11am, mae Carry On Screaming yn galluogi i rieni neu ofalwyr weld ffilm heb orfod poeni y bydd eu babi’n aflonyddu ar eraill. Gweler y calendr am fanylion y dangosiadau arbennig hyn i bobl â babanod blwydd oed neu iau.
Monsters University [2D] Sad 7 Medi
UDA/2013/110mun/U. Cyf: Dan Scanlon. Gyda: John Goodman, Billy Crystal.
Mae Mike a Sully yn anwahanadwy bellach — ond doedd hynny ddim wastad yn wir. Gwelwn hanes cyfeillgarwch y bwystfilod anghydnaws — a’u casineb cychwynnol cyn iddyn nhw ddod yn ffrindiau gorau.
The Lone Ranger
Planes
Sad 21 Medi UDA/2013/92mun/U. Cyf: Klay Hall. Gyda: Dane Cook, Stacy Keach, Brad Garrett.
Mae Dusty yn awyren sy’n dyfrio planhigion ac mae’n breuddwydio am gystadlu mewn ras awyr enwog. Yr unig drafferth yw ei fod yn ofni uchder. Gyda chymorth ei fentor, Skipper, a llu o ffrindiau newydd, mae Dusty’n mynd ati i wireddu ei freuddwydion.
The Wolverine [2D] Sad 28 Medi
UDA/2013/hyd i’w gadarnhau/12A. Cyf: James Mangold. Gyda: Hugh Jackman, Famke Jenssen.
Mae Wolverine yn teithio i’r Japan gyfoes lle mae’n dod ar draws hen elyn a fydd yn cael cryn effaith ar ei ddyfodol.
Sad 14 Medi
UDA/2013/150mun/12A. Cyf: Gore Verbinski. Gyda: Johnny Depp, Armie Hammer.
Mae’r rhyfelwr o Americanwr Brodorol, Tonto, yn adrodd yr hanesion creulon a arweiniodd at drawsnewid gŵr parchus o’r enw John Reid yn ffigwr chwedlonol yn y frwydr yn erbyn anghyfiawnder.
CELFYDDYD
Mae Sean Edwards yn defnyddio gofod yr Oriel, mannau arddangos Celfyddyd yn y Bar a’r Blwch Golau ar gyfer ei arddangosfa unigol gyntaf o bwys yng Nghymru, Drawn in Cursive. I gael mwy o wybodaeth, ymunwch â’n cynorthwywyr oriel am daith dywysedig am 2pm ar ddydd Sadwrn, 14 Medi. Ar ddiwedd y mis, bydd ein ffair grefftau Oh So Crafty yn dychwelyd (Sad 21 Medi).
PERFFORMIO
Bydd Sinfonia Cymru yn trawsnewid y theatr yn fan chwarae hollgynhwysol yn ystod noson o berfformiadau clyweledol rhyngweithiol byw (Gwe 6 Medi) ac ar ddiwedd y mis byddwn yn cyflwyno gweithiau dawns newydd gan y coreograffwyr Karol Cysewski a Joanna Young (Sul 22 Medi).