029 2030 4400
@chaptertweets
chapter.org
02
Croeso
Croeso i gylchgrawn mis Medi. Wrth i ni ddod at ddiwedd yr haf, byddwn yn ffarwelio ag arddangosfa gyfredol yr Oriel, Thirteen Blackbirds Look at a Man. Byddwn yn flin i weld yr arddangosfa, â’i fideos o gaeau hafaidd tesog a chypyrddau’n llawn trugareddau a theimladau hiraethus am wyliau plentyndod yng Nghymru, yn dod i ben. Gallwch weld y sioe tan ddydd Sul 6 Medi (tt4–5). Draw yn ein theatr, bydd Waking Exploits yn eu holau â chynhyrchiad theatr newydd, NSFW (Not Safe for Work) (t14), sydd yn gomedi finiog am y byd cyfoes. A dyma gyhoeddiad arbennig i ffans Anime! Byddwn yn croesawu Kotatsu (tt24– 25), gŵyl animeiddio undydd Japan, yn ôl i Chapter — bydd honno’n cynnwys ffilmiau byrion, ffilmiau nodwedd a marchnad yn llawn dop o bethau hyfryd. Ydych chi’n fyfyriwr ar fin dechrau cwrs neu’n dychwelyd i goleg neu brifysgol? Mae gan Gaerdydd lawer i’w gynnig ac rydym yn falch iawn eich bod yn mwynhau dod i ymweld â ni. Ymunwch â Chynllun Myfyrwyr Chapter (yn rhad ac am ddim) ac fe gewch chi fwynhau llond lle o fanteision, gan gynnwys prisiau gostyngol ar docynnau ac yn ein Caffi Bar. Fe gewch chi’r holl wybodaeth – ac fe glywch chi gan un myfyriwr sydd yn byw ac yn bod yma yn Chapter — ar dudalen 8. Diolch am ddarllen ac fe welwn ni chi cyn hir.
chapter.org
Defnyddiwch y côd QR hwn i lawr–lwytho copi digidol o gylchgrawn Chapter
Delwedd y clawr: NSFW (Not Safe For Work). Llun: Farrows Creative/ Waking Exploits
Chapter Heol y Farchnad, Caerdydd CF5 1QE 029 2030 4400 www.chapter.org ymholiadau@chapter.org
chapter.org
Uchafbwyntiau
03
Oriel tudalennau 4–7
Cefnogwch Ni tudalennau 8–9
Bwyta Yfed Llogi tudalen 10
Chapter Mix
Cerdyn CL1C
tudalen 11
Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawr–lwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!
Theatr tudalennau 12–15
Ffrindiau Chapter Sinema tudalennau 16–28
Addysg tudalen 29
Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40
Cadwch mewn cysylltiad Ymunwch â ni ar–lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.
Gwybodaeth a Sut i archebu tocynnau tudalen 30
eAmserlen rad ac am ddim eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E–bostiwch adam.chard@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e–bost.
Cysylltwch â ni @chaptertweets facebook.com/chapterarts
Cymryd Rhan tudalen 31
Calendr tudalennau 32–33
Nodwch os gwelwch yn dda bod copïau print bras o’n cylchgrawn ar gael ar gais. Cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau ar 029 2030 4400.
Oriel
Cathie Pilkington, Lamb, 2004
04 029 2030 4400
chapter.org
Oriel
05
O’r Chwith i’r dde: Fiona MacDonald, Forage, 3 x lŵp fideo Manylder Uchel; Annie Whiles, One of the Gapers (manylyn), 2015
Thirteen Blackbirds Look at a Man Fiona MacDonald, Cathie Pilkington, Annie Whiles & Sean Ashton Tan ddydd Sul 6 Medi Daw teitl yr arddangosfa o’r gerdd ‘Thirteen Blackbirds Look at a Man’ gan RS Thomas ac mae’r arddangosfa ei hun yn cynnwys gwaith gan bedwar artist sydd yn ymwneud â’n bodolaeth mewn byd modern, ynghyd â’r modd y’n gwahanwyd ni o fyd natur, yn gymdeithasol, yn ysbrydol ac yn ddiwylliannol. Rydym yn byw mewn byd cymhleth lle mae cysylltedd, a ystyrid unwaith yn beth hudolus, yn cael ei ystyried bellach mewn ffyrdd mwyfwy rhesymegol. Mae’r artistiaid yn archwilio’r bylchau yn ein gwybodaeth gyfun a’n profiad personol ac yn cyflwyno cyfres o gyfarfyddiadau symbolaidd a dychmygol. Maent yn gwneud hynny â hiwmor, fel petai i’n cymell ni i gredu eu neges. Mae’r gweithiau’n osgoi elfennau bob dydd ac yn archwilio ffuglen a llên gwerin; maent yn aros yn y parth hwnnw, wedi hynny, yn hytrach na chwilio am
esboniadau neu ddadansoddiadau. Daw stori i’r amlwg yn raddol, drwy gyfrwng pytiau o naratif, sydd yn datgelu syniadau am gyfriniaeth weledol a’r ocwlt. Mae’r cymeriadau wedi eu tynnu o fywyd go iawn, o’r Beibl, ac o chwedlau Groegaidd neu straeon tylwyth teg Almaenaidd, ond caiff y straeon hyn eu troi ar eu pennau. Mae’r gweithiau’n tynnu at ei gilydd syniadau am y byd, rhai ohonynt yn cyfeirio at ddimensiwn lled– grefyddol neu ysbrydol. Mae’r weithred bersonol o grefftio — boed hynny’n gerfio, yn greu delweddau symudol, yn beintio, modelu neu frodio — yn ymwneud â thraddodiad o wrthrychau a delweddau ledled y cyfandiroedd: mewn crefydd uchel ac ar lafar gwlad, yn wrthrychau talismonaidd, gwrthrychau ffetis, creiriau neu wrthrychau lwcus.
06
Oriel
029 2030 4400
Fiona MacDonald, Wild Word, 2015
Celfyddyd yn y Bar
Fiona MacDonald: Wild Word Tan ddydd Sul 6 Medi Mae’r wyddor yn gynrychioliad o syniadau haniaethol a syniadau anthroposentrig am ystyr ac, o’r herwydd, yn gyferbyniad llwyr â materoldeb organig coed. Cafodd y ‘llythrennau’ eu dewis a’u trefnu o blith casgliad parhaus o ffotograffau o siapiau hapgael ac mae MacDonald yn dehongli’r rhain fel arwyddion a chyfathrebiadau o fyd natur annynol. Cynnig chwareus, difrifol, dwfn ac arwynebol y gwaith yw nad yw ystyron yr ystumiau a’r ffurfiau hyn yn cydnabod ffiniau rhywogaethol. Gall ystyr yr arwyddion fod yn fwy haniaethol hefyd, neu yn fwy diriaethol. Wrth greu ac astudio paentiadau, mae rhywun yn darllen amrywiadau cynnil o ran pwysau, lliw, gwead a disgleirdeb, sydd yn ymdebygu i’r modd y mae naturiaethwr yn dysgu adnabod blew neu lwybrau anifail: gall pob marc fod yn arwydd o newid
cyfeiriad neu fwriad. Mae Wild Word hefyd yn ystyried syniadau am symbolaeth gysegredig ac ‘amhur’ — yr ystyron cudd sydd i’w cael mewn gwrthrychau neu ddelweddau na ellir mo’u darllen ond gan ddarllenwr hyddysg. Un wedd ar hyn oedd ‘athrawiaeth y nodweddion’ Cristnogaeth ganoloesol (‘doctrine of signatures’) – sef y syniad y gallai planhigion a rhannau o anifeiliaid helpu (neu iachau) organau y tybid eu bod yn weledol debyg iddynt.
Oriel
07
Gwyn Williams, Blydi Cowbois, 2015
chapter.org
Celfyddyd yn y Bar
Gwyn Williams: Chipwood and Choppers Gwe 18 Medi — Sul 1 Tachwedd Mae cyfres newydd Gwyn Williams yn seiliedig ar ei freuddwydion a’i ddiddordeb yn yr hen ffordd Americanaidd o fyw. Mae Williams yn chwilota am luniau a delweddau archif ar y we a’r rheiny’n cyfleu golygfeydd o Americana clasurol: dynion a menywod wedi’u gwisgo fel cowbois mewn ffair haf; cwpl yn eistedd mewn canŵ ar lyn glas eang wedi’u hamgylchynu gan goed pinwydd; cipluniau sydd fel petaent wedi’u tynnu yn ystod gwyliau teuluol. Heb eu golygu na’u trin, mae Williams yn cyfosod y delweddau hiraethus hyn ag adrannau o bapur wal ‘chipwood’, deunydd sydd yn dwyn i gof yr artist atgofion am ei blentyndod yng Ngogledd Cymru a’i ffantasïau am y ‘Freuddwyd Americanaidd’. Mae Gwyn Williams yn byw ac yn gweithio yn Clwt–y–bont ger Caernarfon. Mae ei arddangosfeydd diweddar yn cynnwys, ‘The Scent of Dic Aberdaron’, Oriel Davies, Y Drenewydd (2015); ‘Y Lle Celf’, Eisteddfod Genedlaethol Cymru; ‘Oriel Davies Open’, Oriel Davies, Y Drenewydd (y ddwy yn 2014); ‘Pebbledash and Polaroids’, Hackney Picturehouse, Llundain; MOSTYN Open 18, MOSTYN, Llandudno (y ddwy yn 2013).
OFF THE PAGE Mer 9 Medi 6.30pm Mae OFF THE PAGE yn archwilio cysylltiadau rhwng ysgrifennu, cyhoeddi a pherfformio ac yn archwilio rhai o elfennau mwy anarferol y celfyddydau gweledol. Mae’r sesiynau’n cael eu cynnal mewn arddull anffurfiol, DIY, ac yn caniatáu i artistiaid roi cynnig ar bethau newydd ac i gymryd risgiau. Mae pob artist yn cyflwyno’i waith yn ei ddull unigryw a phersonol ei hun. Caiff sesiynau OFF THE PAGE eu curadu gan Samuel Hasler, artist sy’n gweithio yng Nghaerdydd ym meysydd testun a pherfformio. RHAD AC AM DDIM ond bydd angen tocyn — gallwch gadw lle drwy gysylltu â’n Swyddfa Docynnau.
08
Cefnogwch Ni
029 2030 4400
CEFNOGWCH NI
Mae Chapter yn elusen gofrestredig ac rydym yn dibynnu ar gefnogaeth gan unigolion a busnesau er mwyn cyflwyno ein rhaglen artistig amrywiol a’n gwaith addysgol pwysig. Rydym yn ddiolchgar am bob ceiniog a dderbyniwn ac fe allwn gynnig ambell beth gwych i chi yn gyfnewid. Mae yna nifer o wahanol ffyrdd o gymryd rhan ...
Christian Webb Myfyriwr
Aelodaeth i Fyfyrwyr Ydych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth rad ac am ddim a manteisio ar ambell gynnig arbennig iawn? Ymunwch heddiw! Mae’r manteision yn cynnwys: • Prisiau gostyngol ar bob tocyn theatr a sinema • Gostyngiad o 10% yn ein Caffi Bar • Cyfleoedd i ennill gwobrau gwych • Cylchlythyrau ecsgliwsif • Gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig Cofrestrwch heddiw yn www.chapter.org/cy/myfyrwyr.
Dw i ar fin dechrau ar fy mlwyddyn olaf fel myfyriwr Hanes ym Mhrifysgol Caerdydd. Clywais am Chapter am y tro cyntaf yn ystod fy ffair gyntaf un i las– fyfyrwyr (roedd hynny ddwy flynedd yn ôl ond mae’n teimlo fel oes yn barod ... aaa!). Mae Aelodaeth Chapter i Fyfyrwyr yn cynnig ambell ffordd ardderchog o arbed arian, fel 10% oddi ar fwyd a diod (gan gynnwys alcohol os ydych chi dros 18 oed!), a thocynnau sinema a theatr am bris gostyngol. Ar ben hynny, mae cerdyn Myfyriwr yn golygu y gallwch chi gasglu pwyntiau i’w gwario wedi hynny ... Dw i’n aml yn gwahodd fy ffrindiau i Chapter ar nosweithiau llwm yng nghanol yr wythnos ar ôl oriau yn y llyfrgell ac mae hi wastad yn rhyddhad gallu mwynhau ffilm yn y sinema, a sgwrs wedi hynny gyda rhai o ddarlithwyr Prifysgol Caerdydd ei hun. Gall fod yn anodd perswadio myfyrwyr i ddod i Dreganna o ochr arall Caerdydd ond, wedi i chi lwyddo y tro cyntaf, maen nhw’n dychwelyd dro ar ôl tro — dyna ddigwyddodd i fi, beth bynnag!
chapter.org
Cefnogwch Ni
Unigolion
Busnesau
Ffrindiau
Clwb
Ymunwch â chynllun Ffrindiau Chapter ac fe allwch chi fwynhau buddion sy’n amrywio o ostyngiadau ar docynnau a bwyd a diod yn ein Caffi Bar i wahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn Ffrindiau hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C.
Cynllun aelodaeth Chapter i fusnesau. Am ffi flynyddol fechan, gall eich busnes chi fwynhau manteision sylweddol yn Chapter, a’r rheiny’n cynnwys cyfleoedd i rwydweithio, defnydd o’n mannau llogi hyblyg a gostyngiadau i chi a’ch staff ar docynnau sinema a theatr yn ogystal â phrisiau gostyngol yn ein Caffi Bar. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.chapter.org/cy/chapter–clwb.
Ffrind Efydd : £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40
09
Nawdd
Cofrestrwch i wneud cyfraniadau unigol neu roddion reolaidd i Chapter, er mwyn chwarae rhan lawn yn ein gwaith elusennol. Gallwch wneud cyfraniadau ar– lein, ar http://www.chapter.org/cy/cefnogwch–ni, neu drwy ymweld â’n Swyddfa Docynnau. Gallwch wneud cyfraniadau drwy neges destun erbyn hyn hefyd — tecstiwch ‘Chap15’, ynghyd â’r swm yr hoffech ei roi, i 70070. Fydd hi ddim yn costio ceiniog i chi anfon y neges ac fe fyddwn ni’n derbyn 100% o’ch cyfraniad.
Yn 2014, dyfarnodd Celfyddydau & Busnes Cymru Wobr Gyffredinol Categori’r Celfyddydau i Chapter am ein perthynas waith ragorol â busnesau. Mae yna nifer fawr o gyfleoedd i’n noddi a’r rheiny’n cynnig buddion ardderchog, gan gynnwys cyfranogiad staff, lletygarwch corfforaethol a chyfleoedd i hyrwyddo eich brand. I gael mwy o wybodaeth am unrhyw un o’r materion uchod, cysylltwch os gwelwch yn dda ag Elaina Gray — ffoniwch 02920 355662 neu e–bostiwch elaina.gray@chapter.org.
Rhoddion
Cymynroddion Mae gadael cymynrodd i Chapter yn fodd i ddiogelu ein gwaith at y dyfodol. Os hoffech chi ystyried gadael rhodd i Chapter yn eich Ewyllys, dylech ofyn am gyngor gan eich cyfreithiwr yn y lle cyntaf. Os ydych chi eisoes wedi crybwyll Chapter yn eich Ewyllys, rhowch wybod i ni, fel y gallwn gydnabod eich cyfraniad yn y modd mwyaf priodol.
Ein cefnogwyr wrth eu gwaith: Stiwdios Sweet Spot yw cefnogwyr diweddaraf Chapter ac fe ddatblygodd y berthynas o ganlyniad i berthynas Chapter â Richer Sounds. Mae’r fenter newydd hon, dan arweiniad Andie Bosley, yn cynnig stiwdios recordio proffesiynol a fforddiadwy a hynny mewn awyrgylch croesawgar a diogel sy’n annog unigolion i ymlacio ac i’w mynegi eu hunain pryd bynnag a sut bynnag y gwelant yn dda. Mae elfen recordio symudol ychwanegol y stiwdio yn caniatáu i Andie fynd at y gymuned yn uniongyrchol. Mae e’n mynd i gartrefi unigolion nad ydyn nhw’n gallu dod ato fe neu at bobl nad oes ganddyn nhw ddigon o hyder i fynd i stiwdio. Gall unigolion recordio eu lleisiau, eu straeon neu eu cerddoriaeth – mae’r deunydd yn mynd yn ôl i’r stiwdio wedi hynny i gael ei brosesu, ei gynhyrchu a’i gymysgu. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.sweetspotstudio.uk.com. Gallwch ffonio 07815848195 hefyd neu e–bostio contact@ sweetspotstudio.uk.com.
I gael mwy o wybodaeth am unrhyw un o’r materion uchod, cysylltwch os gwelwch yn dda ag Elaina Gray — ffoniwch 02920 355662 neu e–bostiwch elaina.gray@chapter.org.
10
Bwyta Yfed Llogi
Bwyta + Yfed
Llogi
Ar hyn o bryd, rydym yn mwynhau diweddaru bwydlenni Brecwast a Picnic Chapter, ein deli amser cinio poblogaidd. Cadwch lygad ar ein gwe–fan, www.chapter.org, a dilynwch ni ar Twitter @chapter_eats i gael y newyddion diweddaraf!
Mae nifer o ystafelloedd a chyfleusterau Chapter ar gael i’w llogi ac mae llawer o’r rhain yn cael eu defnyddio’n rheolaidd gan gymysgedd eclectig o ddosbarthiadau dydd a nos. Ewch i’n gwe–fan neu codwch daflen yn y swyddfa docynnau i weld yr hyn sydd ar gael. Os ydych chi’n chwilio am ystafell ar gyfer parti, cyfarfod neu gynhadledd, neu am ofod i saethu fideo, i ymarfer neu i gynnal gweithgareddau adeiladu tîm, bydd ein cyfleusterau gwych, ein harbenigedd technegol a’n staff cyfeillgar yn gallu sicrhau bod eich digwyddiad yn gyffyrddus, yn unigryw ac yn gofiadwy. Gallwn gynnig amrywiaeth o opsiynau arlwyo ar gyfer eich digwyddiad hefyd. Os oes gennych chi gwestiynau penodol, neu os hoffech chi fwy o wybodaeth am ein cyfleusterau, rhowch ganiad i’n rheolwr llogi, Nicky, ar 029 2031 1058 neu anfonwch e–bost at nicky.keeping@chapter.org.
ChapterLive
Gwe 4 Medi + Gwe 18 Medi 9pm Mae ChapterLive yn gyfres o gyngherddau byw wedi’u curadu gan yr hyrwyddwyr profiadol, Jealous Lovers Club, sydd yn cyflwyno detholiad o’u hoff grwpiau o’r DG, Ewrop a gwledydd pellennig eraill yn Chapter. Cynhelir ChapterLive yn y Caffi Bar ar ddydd Gwener cyntaf a thrydydd dydd Gwener y mis. Does yna ddim genres penodol, felly mae’r nosweithiau’n gyfle i chi ddod o hyd i artistiaid newydd gwych. A rhag ofn bod angen mwy o berswâd arnoch, mae mynediad i’r nosweithiau’n rhad ac am ddim. Ffordd wych o gychwyn y penwythnos! I gael mwy o wybodaeth am y grwpiau wrth iddyn nhw gael eu cadarnhau, ewch i’n gwe–fan. RHAD AC AM DDIM @JealousLovers1 #ChapterLive
029 2030 4400
Pop Up Produce Mer 2 Medi 3–8pm
Mae ein marchnad fisol boblogaidd yn llawn dop â chynhyrchwyr bwyd lleol ac fe fydd y rheiny’n cynnig danteithion i dynnu dŵr o’ch dannedd. Ar ddydd Mercher cyntaf bob mis, byddwn yn cyflwyno rhai o’ch hen ffefrynnau ynghyd ag ambell stondin newydd a fydd yn gwerthu siocledi, jamiau, bara arbenigol, nwyddau o Sbaen, pice ar y maen, gwin, teisennau heb glwten, te, mêl a nwyddau i’r cartref. Ydych chi’n cynhyrchu bwyd? Ydych chi wedi sylwi ar fwlch yn narpariaeth Pop Up Produce? Os felly, ac os hoffech chi ymuno â ni unwaith y mis i werthu’ch cynhyrchion chi, cysylltwch â Philippa — philippa.brown@chapter.org — i wneud cais am stondin.
chapter.org
Chapter Mix
Clwb Comedi The Drones
Jazz ar y Sul
Gwe 4 + Gwe 18 Medi Drysau’n agor am 8.30pm Sioe’n dechrau am 9pm
Clint Edwards sy’n cyflwyno’r ‘stand–ups’ addawol gorau. Gwelwyd peth o ddeunydd y nosweithiau hyn ar raglen ‘Identity Crisis’ Rob Brydon. Dydd Gwener cyntaf a thrydydd dydd Gwener y mis. Un o’r ‘Deg Peth Gorau i’w Gwneud yng Nghaerdydd’ yn ôl cylchgrawn The Big Issue. £3.50 (wrth y drws)
Gerddi Agored NGS ar Ddiwrnod yr Elusennau Sad 5 Medi 10.30am–4.30pm
Ar ddydd Sadwrn 5 Medi, bydd Gardd Gymunedol Chapter yn cymryd rhan yn y Cynllun Gerddi Cenedlaethol: Gerddi Agored ar Ddiwrnod yr Elusennau. Mae’r cynllun yn sicrhau bod gerddi diddorol, llawn cymeriad, yng Nghymru a Lloegr, ar agor i’r cyhoedd, a hynny er mwyn codi arian i elusennau. Ers ei sefydlu ym 1927, cododd y cynllun dros £40 miliwn ac mae mwy na hanner miliwn o bobl yn ymweld â gerddi bob blwyddyn. Dewch draw i weld ein gardd ogoneddus yn ei blodau hydrefol hardd; fe fydd yna gyfle i gyfnewid planhigion, i ddysgu am gompostio ac i glywed am wenyn Chapter – a blasu eu mêl ardderchog! Fyddwch chi’n dod gyda’r teulu? Bydd yna weithgareddau hwyliog i blant o ganol dydd ymlaen. £2.50 (mynediad yn cynnwys te/coffi a chacen am ddim) www.ngs.org.uk www.cantoncommunitygardens.co.uk
Sul 20 Medi 9pm
Ein noson fisol o jazz acwstig melodig yn y Caffi Bar, gyda Phedwarawd Jazz Chapter — Glen Manby, Jim Barber, Don Sweeney a Greg Evans. RHAD AC AM DDIM www.glenmanby.com
Fforest Breuddwydion Gwe 25 Medi 8pm
‘Fforest Breuddwydion: Straeon o Goetiroedd Gwylltion Cymru’, gyda’r storïwr, Fiona Collins, a cherddorion gwadd. £5/£4
Gˆ wyl ‘New Under the Sun’ Sad 26 Medi 11am–7pm
11am–12pm: Ffaith neu Ffuglen? Gyda’r nofelwyr, Gary Raymond a Lewis Davies, a chroniclwr Clwb Pêl–droed Dinas Caerdydd, Nick Fisk. RHAD AC AM DDIM
12–2pm: Ffair Lyfrau RHAD AC AM DDIM
2–3pm: Cyfieithu Llenyddiaeth Bydd Wil Roberts a Tony Bianchi yn trafod cyfieithiadau newydd o’u nofelau Cymraeg.
4–5pm: Dihangfa, Awydd a Chyflyrau’r Meddwl Bydd Gee Williams, Alix Nathan a Susmita Bhattacharya yn trafod eu nofelau diweddaraf sydd yn teithio drwy amser ac ar hyd a lled y cyfandiroedd.
6.15–7pm: Esgidiau Clown a Doppelgängers
Sul 6 Medi 8pm
Gweithiau byrion newydd a nodedig gan Rebecca F. John & Mark Blayney. Sesiwn wedi’i chadeirio gan Jon Gower.
Cylch Chwedleua Caerdydd Dewch i rannu a gwrando ar gasgliad hyfryd o straeon — croeso i storïwyr a gwrandawyr fel ei gilydd! £4 (wrth y drws)
Darlith Cymdeithas Celfyddydau Cain ac Addurnol De Cymru Iau 10 Medi 2pm ‘The England of Eric Ravilious (1903–1942)’ David Boyd Haycock BA (Anrh) MA PhD
Roedd Eric Ravilious yn artist Prydeinig nodedig yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel byd. Byddwn yn edrych ar ei yrfa fel artist dyfrlliwiau, murluniwr, seramegydd ac ysgithrwr pren, a hynny yng nghyd–destun cymdeithasol a diwylliannol Lloegr y 1920au a’r 30au. Cynhaliwyd arddangosfa nodedig o waith Ravilious yn Oriel Dulwich yn ystod haf 2015. £6 i ymwelwyr (wrth y drws, yn ddibynnol ar le) www.swdfas.org
11
Mae tocynnau ar gyfer pob sesiwn o 2pm ymlaen yn £6 yr un neu gallwch brynu tocynnau ar gyfer pob un o’r tair sesiwn am £12. Ar y cyd â Gwasg Parthian
nutscardiff.wordpress.com @nutscardiff
“ Egnïol, ysbrydolgar a theimladwy” Theatr Critics Wales
Theatr
029 2030 4400
The Good Earth. Llun: Tom Flannery
12
Theatr
Motherlode yn cyflwyno
Homo irrationalis
13
Homo irrationals. Llun: John Collingswood / Marc Heatley
chapter.org
The Good Earth Mer 9 — Sad 12 Medi 7.30pm Stori Gymreig newydd am y frwydr i achub cymuned. Sut fyddech chi’n teimlo pe deuai rhywun o’r tu allan i’r pentref lle mae eich teulu wedi trigo ers cenedlaethau a dweud wrthych chi i gyd am adael? Wedi’i gosod yn nwfn y Cymoedd, mae The Good Earth yn brotest newydd ffrwydrol wedi’i hysbrydoli gan ddigwyddiadau go iawn. Mae’r digwydd yn datblygu drwy gyfrwng theatr gorfforol, caneuon gwerin Cymreig godidog a gwaith ysgrifenedig newydd, a’r cwbl yn cyflwyno bywyd mewn cwm sydd wedi’i rwygo’n ddau gan y cyngor lleol, gan fusnesau mawrion — a chan y trigolion eu hunain, yn y pen draw.
Syniad gwreiddiol a chyfarwyddo gan Rachael Boulton. Cyfarwyddo cerddorol & Threfniannau gan Max Mackintosh. Dyfeisiwyd gan Motherlode.
The Good Earth yw cynhyrchiad cyntaf Motherlode — mae’n gydweithrediad rhwng Fragments, Motherlode & Rhondda Cynon Taf, ar y cyd â Chanolfan Mileniwm Cymru a Chapter. Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.
£12/£10 14+ oed
Gwe 11 Medi 8pm + Sad 12 Medi 4pm Perfformir H.i. gan dri dawnsiwr gwrywaidd clyfar ond hynod hurt; mae’r sioe’n ymgais gorfforol a doniol i ddod o hyd i wir natur dynol ryw. Mae Homo Irrationalis (Lladin: “bod dynol afresymol”) yn gangen newydd a ddarganfuwyd yn ddiweddar oddi mewn i rywogaeth yr Homo Sapiens (Lladin: “bod dynol doeth”). O ganlyniad i addasiad esblygiadol, mae bodau H.i. wedi colli’r gallu i fod yn ddeallus (i feddwl neu i fod yn ddoeth), ac felly maent yn gaeth i batrymau o ymddygiad mwyfwy ansicr, anesboniadwy ac afresymol. Fe’ch gwahoddir chi gan dri ymchwilydd gwych ac anghonfensiynol i gyflwyniad a fydd yn defnyddio symudiadau, tafluniadau a hiwmor amharchus i’ch harwain ar daith o organebau un gell i “fodau dynol deallus” a thu hwnt.
Coreograffi: Karol Cysewski. Cynhyrchydd: Laura H Drane Associates. £12.50/£10.50 @kcysewskidance
Theatr
029 2030 4400
NSFW (Not Safe For Work). Llun: Farrows Creative / Waking Exploits.
14
Waking Exploits yn cyflwyno
NSFW (Not Safe For Work) Maw 15 — Sad 26 Medi 8pm (dim perfformiad ar Sul 20 Medi) Perfformiadau matinée ar Sad 19 + Sad 26 Medi 2.30pm “The articles are sh*t. No offence Charlotte. But no–one buys our publication principally for the literature. I think it’s important to acknowledge that.” Mae Carrie’n dangos eu bronnau i’r bois. Mae Charlotte yn ddiolchgar bod ganddi swydd, mae disgwyl i Sam werthu mwy na’i gorff ac mae Aidan yn ceisio cadw Doghouse rhag mynd i’r wal. Arian, rhyw a Photoshop. Mae comedi finiog Lucy Kirkwood yn archwilio grym a phreifatrwydd yn ein byd cyfoes. [NSFW: ‘Not Safe for Work’ — deunydd ar–lein nad yw’r defnyddiwr fel arfer yn awyddus iawn i gael ei weld yn ei wylio mewn lleoliad cyhoeddus neu ffurfiol fel y gweithle].
Ysgrifennwyd gan Lucy Kirkwood. Cyfarwyddwyd gan Anna Poole. £14/£12/£10 Oed 14+ (sioe’n cynnwys iaith gref) www.wakingexploits.co.uk @wakingexploits
Theatr
The Drowned Girl
chapter.org
The Drowned Girl Mer 30 Medi — Sad 3 Hydref 8pm Dywedodd nain Kelly wrthi iddi gael ei geni’n fôr–forwyn ac, o’r herwydd, roedd ei phlentyndod yn llawn anturiaethau môr–forwynaidd a chynffonnau wedi’u gwneud o focsys creision ŷd. Doedd dim ots nad oedd Kelly’n gallu nofio... Ond roedd hynny i gyd amser maith yn ôl ac mae pethau’n wahanol iawn erbyn hyn. Mae Kelly’n boddi mewn swydd heb ddyfodol yn Asda ac fe fu farw ei hannwyl nain flwyddyn yn ôl. Mae yna gysur iddi yn ei breuddwydion, wrth iddi blymio i realiti hollol wahanol yn llawn môr– forynion ac atgofion hapus o fod ar lan y môr, ond wrth i’r breuddwydion ddechrau ei meddiannu, rhaid i Kelly ddysgu nofio eto. Weithiau’n ddoniol, weithiau’n drist, mae The Drowned Girl yn ddrama un– fenyw am ieuenctid coll, anwyliaid coll a môr–forynion. Ymunwch â Kelly mewn byd lle daw rhith a realiti’n un, wrth iddi rannu ei straeon â chi.
Ysgrifennu a Pherfformio: Kelly Jones. Cyfarwyddwr: Anna Poole. Cerddor: Chris Young. Cynhyrchydd: Olivia Harris.
Cefnogir The Drowned Girl gan Gyngor Celfyddydau Cymru a chynllun TEAM National Theatr Wales.
£12/£10 14+ oed
15
Sinema
The Diary of a Teenage Girl
16 029 2030 4400
Sinema
17
45 Years
Gemma Bovery
Gwe 28 Awst — Iau 10 Medi
Gwe 28 Awst — Iau 10 Medi
DG/2015/97mun/15. Cyf: Andrew Haigh. Gyda: Charlotte Rampling, Tom Courtenay, Geraldine James.
Ffrainc/2015/100mun/is–deitlau/15. Cyf: Anne Fontaine. Gyda: Gemma Arterton, Jason Flemyng, Fabrice Luchini.
Wythnos yn unig sydd yna tan i Kate Mercer a’i gŵr ddathlu 45 mlynedd o briodas. Ond pan ddaw llythyr i’w gŵr, Geoff, mae holltau’n ymddangos mewn priodas ymddangosiadol hapus. Daethpwyd o hyd i gorff ei gariad cyntaf ef, mewn rhewlif yn Alpau’r Swistir. Mae’r ffilm hon yn talu sylw manwl i fecaneg bob dydd perthynas gariadus ac mae hi’n cynnwys perfformiadau anhygoel.
Yn y gomedi swynol hon, mae’r cwpl Prydeinig, Gemma a Charles Bovery, yn ymfudo i bentref bychan yn Normandi, ac yn symud i dŷ gyferbyn â phobydd canol oed lleol — a ffan pybyr o Flaubert — o’r enw Martin Joubert. Mae dychymyg eu cymydog yn ei arwain i gymharu Gemma ag arwres drasig Madame Bovary. Ag yntau’n benderfynol o atal y diweddglo trist hwnnw yn y byd go iawn, mae e’n dod yn rhan o’u bywydau.
O’r chwith i’r dde: 45 Years, Gemma Bovery
chapter.org
The Diary of a Teenage Girl Gwe 28 Awst — Iau 3 Medi UDA/2015/102mun/18. Cyf: Marielle Heller. Gyda: Bel Powley, Alexander Skarsgård, Kristen Wiig.
Fel y rhan fwyaf o ferched yn eu harddegau, mae Minnie’n ysu am gariad, am gael ei derbyn ac am sicrhau teimlad o bwrpas yn y byd. Mae hi’n cychwyn ar garwriaeth gymhleth gyda chariad ei mam, sy’n arwain at stori finiog a doniol, stori bryfoclyd a diduedd, am ddeffroad rhywiol ac artistig merch yng ngwrth–ddiwylliant San Francisco y 1970au.
Moviemaker Chapter Llun 7 Awst
Sesiwn reolaidd sy’n caniatáu i gyfarwyddwyr annibynnol ddangos eu ffilmiau byrion. I gael mwy o wybodaeth ynglŷn â dangos eich ffilm chi, neu unrhyw wybodaeth arall, e–bostiwch moviemaker@ chapter.org. O bryd i’w gilydd, dangosir ffilmiau sy’n cynnwys deunydd anaddas i bobl iau. Awgrymwn, felly, bod sesiynau Moviemaker Chapter yn addas ar gyfer pobl 18+ oed.
+ Gemma Bovery: Addasiadau Maw 1 Medi
Mae’r ffilm hon yn gyfle i ddilyn gwe o addasiadau amrywiol. Mae Gemma Bovery, a gyfarwyddwyd gan Anne Fontaine, yn seiliedig ar y nofel graffig gan Posy Simmonds sydd, yn ei thro, yn seiliedig ar y clasur Ffrengig gan Gustave Flaubert sydd, yn ei fersiwn Saesneg, yn gyfieithiad — sef math o addasiad ynddo’i hun! Wrth fynd ati i greu darn o gelfyddyd, mae pob aelod o’r gynulleidfa yn cynnig ei ddehongliad ei hun, felly mae ein grŵp trafod, Addasiadau, yn gyfle i ddatod y gwahanol glymau hyn ac i gael clonc a lleisio barn ar ôl y ffilm.
18
Sinema
029 2030 4400
I nodi canmlwyddiant geni un o’r ffigyrau mwyaf carismatig a diddorol yn hanes y sinema, rydym yn falch iawn o allu dangos detholiad o waith Orson Welles. Mae’r campweithiau pryfoclyd a diddorol hyn yn mynegi gobaith — a brwydrau tywyll — y freuddwyd Americanaidd. Bydd yna gyfle hefyd i glywed llais bariton bythgofiadwy y dyn ei hun yn ei waith radio arloesol.
Magician: The Astonishing Life and Work of Orson Welles
The Mercury Theatr on the Air (digwyddiadau gwrando) Cyf: Orson Welles. Gyda: Orson Welles, Joseph Cotten, Agnes Moorehead, Kenny Delmar.
Gwe 28 Awst — Mer 2 Medi
Cyfle i eistedd yn ôl ym moeth Sinema 2 a mwynhau’r recordiadau a lansiodd yrfa Welles a’i gwmni o actorion, i gyfeiliant cerddoriaeth gan Bernard Herrmann.
DG/2015/91mun/12A. Cyf: Chuck Workman. Gyda: Orson Welles, Martin Scorsese, Peter Bogdanovich.
War of the Worlds gan HG Wells
Yn bianydd rhyfeddol yn 10 oed, yn beintiwr ac yn gyfarwyddwr dramâu gan Shakespeare yn 14 oed ac yn seren y llwyfan a’r radio yn 20 oed, aeth Orson Welles ati, yn 25 oed, i gyfarwyddo ffilm sydd yn aml yn dod i frig rhestrau beirniaid o’r ffilmiau gorau erioed. Dweud llai na’r gwirionedd fyddai dweud iddo gael bywyd hudolus a rhyfeddol. Mae’r ffilm ddogfen hon yn defnyddio golygfeydd o’i yrfa doreithiog ac yn cynnwys enghreifftiau o ffraethineb chwedlonol Welles ynghyd â chyfraniadau gan edmygwyr enwog di–ri.
Rhad ac am ddim ond bydd angen tocyn.
Sad 5 Medi Mae gohebydd newyddion yn dyst i ymosodiad gan fodau arallfydol o’r blaned Mawrth yn y ddrama radio arloesol hon. Mor effeithiol oedd hi, yn wir, fel yr achosodd banics gwyllt ymysg gwrandawyr diniwed nad oedden nhw’n sylweddoli mai ffrwyth dychymyg oedd y darllediad.
Bram Stoker’s Dracula Sad 12 Medi Mae dyn ifanc yn mynd i weithio dros ŵr bonheddig dirgel yn Nwyrain Ewrop ond yn ei gael ei hun yn sownd mewn gwe sydd yn arwain yn y pen draw at ei ddyweddi annwyl ac at beryglu dyfodol Lloegr. Hwn oedd cynhyrchiad radio cyntaf Welles ac mae’n bortread dramatig a phwerus o fampir enwocaf llenyddiaeth.
The Immortal Sherlock Holmes Sad 19 Medi Drama wreiddiol, sydd yn addasiad llac o blotiau straeon byrion Arthur Conan Doyle am y ditectif byd–enwog.
Magician: The Astonishing Life and Work of Orson Welles
Tymor Orson Welles
Sinema
19
Citizen Kane
Touch of Evil
UDA/1941/119mun/U. Cyf: Orson Welles. Gyda: Orson Welles, Joseph Cotten, Dorothy Comingore.
UDA/1957/104mun/12A. Cyf: Orson Welles. Gyda: Charlton Heston, Janet Leigh, Orson Welles, Marlene Dietrich.
Caiff gohebydd ei gyflogi i ddehongli’r geiriau a ynganwyd gan berchennog papurau newydd, Charles Foster Kane, ar ei wely angau. Mae ei ymchwiliad yn datgelu dyn cymhleth a gododd o ddim i’r uchelfannau. Mae’r campwaith arloesol hwn — ffilm gyntaf Welles — yn cyfleu gwagedd y freuddwyd Americanaidd ac fe gyrhaeddodd frig sawl rhestr nodedig o’r ffilmiau gorau erioed.
Mae Vargas yn heddwas delfrydyddol sy’n gweithio ar y ffin rhwng Mecsico a’r UDA. Mae e’n priodi Susan, blonden Americanaidd hardd. Mae hynny’n cythruddo prif swyddog cam o’r enw Quinlan, sydd yn ceisio cynnal y status quo llygredig. Mae yntau’n penderfynu defnyddio’r gang cyffuriau lleol i ymosod ar Susan mewn gwesty anghysbell a’i fframio hi fel un sy’n gaeth i gyffuriau. Ffilm emosiynol–afaelgar ac artistig–arloesol sydd yn wledd i’r llygaid ac yn llawn cyffro tanbaid.
O’r chwith i’r dde: Citizen Kane, Touch of Evil
chapter.org
Sul 6 + Maw 8 Medi
The Lady from Shanghai Sul 13 + Maw 15 Medi
UDA/1947/87mun/PG. Cyf: Orson Welles. Gyda: Rita Hayworth, Orson Welles, Everett Sloane.
Yn y ffilm noir lawn steil hon, cawn gwrdd â O’Hara, morwr masnachol sy’n cael ei gyflogi gan y cyfreithiwr cyfoethog, Bannister, a’i wraig hardd, Elsa, i weithio ar eu llong foethus. Ond nid yw popeth fel yr ymddengys a daw gorffennol dirgel Elsa i’r amlwg, cyn i O’Hara ei gael ei hun yn rhan o gynllwyn cymhleth sy’n cynnwys llofruddiaeth...
“Mae Welles yn cyfleu byd o ddieithrwch breuddwydiol â dogn hallt o gomedi dywyll a cherrynt o fygythiad ac awydd; [mae i’r ffilm hon] egni anorchfygol” Peter Bradshaw, The Guardian
Sul 20 + Maw 22 Medi
The Magnificent Ambersons Sul 27 + Maw 29 Medi
UDA/1942/86mun/U. Cyf: Orson Welles. Gyda: Joseph Cotten, Dolores Costello, Anne Baxter, Agnes Moorehead.
Yn feistres ar Blasty’r Ambersons, caiff Isabel ei rhwygo rhwng ei chariad cyntaf, Eugene, a’r Wilbur cyfoethog, oeraidd. Mae hi’n dewis dyletswydd ac yn pentyrru ei serch ar eu mab George, sy’n cael ei ddifetha, a hynny’n arwain at oblygiadau trychinebus i’r teulu. Yn rhy hir ac yn rhy ddrud, aeth y stiwdio ati i gwblhau fersiwn derfynol y ffilm hon ond, er gwaetha’ hynny, goroesodd syniad gwreiddiol Welles ar gyfer y ffilm, ynghyd â’i sinematograffi syfrdanol a’i pherfformiadau pwerus.
Sinema
029 2030 4400
Theeb
Closed Curtain
Gwe 4 — Iau 10 Medi
Gwe 4 — Iau 10 Medi
Yr Emiradau Arabaidd Unedig/2014/100mun/is–deitlau/PG. Cyf: Naji Abu Nowar. Gyda: Jacir Eid Al–Hwietat, Hussein Salameh Al–Sweilhiyeen.
Iran/2014/106mun/is–deitlau/12Aarf. Cyf: Jafar Panahi. Gyda: Jafar Panahi, Maryam Moqadam, Kambuzia Partovi.
O’r brig: Theeb, Closed Curtain
20
Yn Anialwch Arabia ym 1916 mae Theeb (‘blaidd’ yn yr iaith Arabeg), bachgen Bedwynaidd ifanc sydd newydd golli ei dad, yn cychwyn ar daith beryglus ar hyd yr anialwch. Os yw Theeb am oroesi, bydd yn rhaid iddo ddysgu am ymddiriedaeth a cholled – a dysgu hefyd nad oes brad yn ystyr yr enw a gafodd gan ei dad. Enillydd Gwobr y Cyfarwyddwr Gorau, Gŵyl Ffilm Fenis
“Ffilm antur glasurol o’r iawn ryw” Variety
Cartel Land Gwe 11 — Iau 17 Medi UDA/2014/98mun/is–deitlau/15. Cyf: Matthew Heineman.
Yn nhref fach Michoacán, Mecsico, mae’r Dr Jose Mireles, “El Doctor”, yn arwain gwrthryfel poblogaidd yn erbyn y cartel cyffuriau treisgar a fu’n rheibio’r rhanbarth ers blynyddoedd. Yn y cyfamser, yn Nyffryn Altar yn Arizona (coridor cul, 52 milltir o hyd yn yr anialwch a adwaenir fel ‘Cocaine Alley’), mae Tim Foley yn arwain grŵp parafilwrol sy’n ceisio atal rhyfel cyffuriau Mecsico rhag croesi’r ffin i’r Unol Daleithiau. Llwyddodd gwneuthurwyr y ffilm i dreiddio i fannau nas gwelwyd o’r blaen i greu’r ffilm hon sydd yn daith angerddol i galon y rhyfel cyffuriau.
Mae sgriptiwr yn Iran yn ffoi gyda’i gi ar ôl i’r llywodraeth ddatgan bod cŵn yn “amhur” a’u gwahardd o fywyd cyhoeddus. Mae e’n tywyllu’r holl ffenestri yn ei fila lan–môr ac yn paratoi i fyw, mewn heddwch cymharol, gyda’i anifail anwes annwyl. Mae dyn a dynes ifanc yn ymddangos, mewn cyflwr o ofn a dryswch ymddangosiadol, ac mae e’n teimlo rheidrwydd i’w croesawu nhw i’w dŷ. Cwblhawyd y ffilm hon yn y dirgel, o ganlyniad i waharddiad Panabi rhag gwneud ffilmiau; mae’r cyfarwyddwr yn cyflwyno, er gwaetha’ hynny, astudiaeth o gymdeithas lle mae hurtrwydd bellach yn rhan o fywyd bob dydd.
13 Minutes
Gwe 11 — Iau 17 Medi Yr Almaen/2015/114mun/is–deitlau/15. Cyf: Oliver Hirschbiegel. Gyda: Christian Friedel, Katharina Schüttler, Burghart Klaußner.
Yn 1938, ceisiodd y gwneuthurwr clociau, Georg Elser, lofruddio Hitler ym Munich. Fodd bynnag, ffrwydrodd ei fom 13 munud yn rhy hwyr i achub 55 miliwn o fywydau. Mae’r ffilm hon yn gipolwg meddylgar ar y gŵr rhamantaidd ac addfwyn a welodd ei ffrindiau’n dioddef o ganlyniad i’w credoau ac a benderfynodd weithredu ...
Orion: The Man Who Would Be King
chapter.org
Sinema
21
Sineffonig yw ein detholiad rheolaidd o ffilmiau am gerddoriaeth. Mae’r gymysgedd eclectig yn cynnwys ffilmiau sydd naill ai’n trin a thrafod cerddoriaeth a cherddorion yn uniongyrchol neu yn cynnwys sgôr sain ardderchog.
Zeitghost: I Speak Machine Sul 13 Medi
Cyf: Maf Lewis. Perfformiwr / Cyfansoddwr: Tara Busch.
Cyflwyniad arbennig sy’n cynnwys y ffilm wyddonias, The Silence, a’r ffilmiau arswyd byrion, See Me a 1985, trwy ddefnydd o Synchronika — proses o gyfansoddi cydamserol sy’n uno sain a deunydd gweledol er mwyn creu darn o gelfyddyd gyfun. Ysbrydolwyd y broses gan Ennio Morricone a bydd y sgôr fyw yn cael ei pherfformio ar allweddellau analog ‘vintage’. Bydd deunydd lleisiol hefyd yn cyd–fynd â’r ffilmiau. £12/£10/£8
The Damned: Don’t You Wish That We Were Dead Gwe 25 Medi — Iau 1 Hydref
UDA/2015/110mun/TiCh (18arf). Cyf: Wes Orshoski. Gyda: Chrissie Hynde, Mick Jones, Lemmy.
Ffilm newydd gan gyfarwyddwr Lemmy, Wes Orshoski, sy’n adrodd hanes arloeswyr anghofiedig pync, The Damned. Nhw oedd y pyncs Prydeinig cyntaf i recordio a’r rhai cyntaf i groesi’r Iwerydd. Yn cynnwys cyfweliadau â llu o’u cyfoedion, cafodd y ffilm ei saethu ledled y byd dros gyfnod o dair blynedd ac mae’n adrodd hanes cymhleth y band a’u dadleuon niferus. Wrth iddynt ddathlu pen–blwydd y band yn 35 oed, gwelwn gyn–aelodau yn cychwyn allan ar eu teithiau pen–blwydd eu hunain, wrth i eraill frwydro yn erbyn canser.
Orion: The Man Who Would Be King Gwe 25 Medi — Iau 1 Hydref
DG/2014/87mun/TiCh. Cyf: Jeanie Finlay.
Stori Jimmy Ellis yw hon — canwr anhysbys a ddaeth i enwogrwydd yn sgil cynllun gwallgo’ i esgus taw ef oedd Elvis wedi codi o farw’n fyw. Â’i hunaniaeth ffuglennol, a oedd fel petai wedi’i thynnu o dudalennau nofel, ac â chefnogaeth gan label chwedlonol Sun Records, ynghyd â llais a oedd fel petai’n perthyn i’r Brenin ei hun, roedd y cynllwyn yn llwyddiant ysgubol ac fe gychwynnwyd y myth bod “Elvis yn fyw”.... + Sesiwn holi–ac–ateb gyda’r cyfarwyddwr, Jeanie Finlay, ar Sul 27 Medi
Roger Waters: The Wall Maw 29 Medi
Cyf: Roger Waters, Sean Evans.
Ffilm o un o’r sioeau byw mwyaf uchelgeisiol a chymhleth erioed. Mae’r gwaith yn cyflwyno’r albwm lled–hunangofiannol enwog ac yn tynnu at ei gilydd orffennol Waters a phrotestiadau gwrth–ryfel — mae’r cwbl at ei gilydd yn ddogfen ddiddorol o bennod ddylanwadol yn ein diwylliant poblogaidd. £12/£10/£8
Sinema
The Legend of Barney Thomson
Mistress America
029 2030 4400
O’r brig: The Legend of Barney Thomson, Mistress America
22
Gwe 18 — Iau 24 Medi DG/2015/96mun/15. Cyf: Robert Carlyle. Gyda: Robert Carlyle, Emma Thompson, Ray Winstone, Tom Courtenay.
Mae’r barbwr addfwyn a lletchwith, Barney, yn cael damwain yn y gwaith sy’n ei arwain ar ei ben i fyd grotesg a hurt llofrudd cyfresol. Mae e’n troi am gymorth at ei fam ffyrnig, Cemolina, wrth iddi geisio ei lywio ef o afael heddwas diamynedd o’r enw Holdall. Mae’r ffilm gyntaf dywyll hon gan Carlyle, wedi’i haddasu o lyfrau Douglas Lindsay, yn llawn o hiwmor miniog Glasgow.
Miss Julie
Gwe 11 — Iau 17 Medi Norwy/2014/129mun/12A. Cyf: Liv Ullmann. Gyda: Jessica Chastain, Colin Farrell, Samantha Morton.
Yn ystod noson o haf, ac mewn awyrgylch o rialtwch gwyllt a chyfyngiadau cymdeithasol llac, mae gwraig fonheddig o’r enw Miss Julie a valet ei thad, John, yn dawnsio, yn yfed ac yn manipiwleiddio’i gilydd. Yn ddarlun o frwydrau cymdeithasol a brwydrau rhwng y rhywiau am rym a goruchafiaeth, mae’r ffilm yn addasiad moethus o ddrama glasurol Strindberg, wedi’i gosod yn Iwerddon, lle mae dihangfa ac achubiaeth mor aruchel ac mor erchyll â thrasiedi Roegaidd.
Gwe 11 — Iau 24 Medi UDA/2014/84mun/15. Cyf: Noah Baumbach. Gyda: Greta Gerwig, Lola Kirke.
Yn y gomedi finiog hon, mae Tracy’n cyrraedd Efrog Newydd i fynd i’r brifysgol ond yn cael nad yw bywyd yno mor fetropolitan a soffistigedig ag y dychmygodd. Ond pan ddaw hi dan ddylanwad y ferch sydd am fod yn llyschwaer iddi, mae ei siom yn diflannu ac mae hi’n ymroi i gynlluniau gwallgo’ ac atyniadol Brooke.
“Ffilm sy’n cadarnhau bod Gerwig yn un o comediennes mwyaf a mwyaf eofn ei chenhedlaeth” Variety
BAFTA Cymru’n cyflwyno:
Y Gwyll Mer 9 Medi Rhagolwg arbennig o bennod gyntaf cyfres newydd Y Gwyll ynghyd â sesiwn holi–ac–ateb gyda’r cynhyrchwyr, Ed Thomas ac Ed Talfan (Fiction Factory), Gwawr Martha Lloyd (Comisiynydd Drama S4C) a’r actores, Mali Harries.
Sinema
23
Ruth & Alex
The Second Mother
Gwe 18 — Mer 23 Medi
Gwe 18 — Iau 24 Medi
UDA/2015/92mun/12A. Cyf: Richard Loncraine. Gyda: Diane Keaton, Morgan Freeman, Cynthia Nixon.
Brasil/2015/114mun/is–deitlau/15. Cyf: Anna Muylaert. Gyda: Regina Casé, Antonio Abujamra, Helena Albergaria.
Mae Ruth ac Alex wedi treulio’u bywydau yng nghwmni ei gilydd yn yr un fflat yn Efrog Newydd ac, wedi ymddeol bellach, maent yn gobeithio treulio’u blynyddoedd olaf mewn rhan llai hip o’r byd. Ar ôl derbyn beirniadaeth am werthu eu fflat, maent yn ailystyried yr hyn sydd ganddynt ynghyd â’u rhesymau dros fod eisiau newid byd. Mae’r ffilm hon yn gomedi swynol am agweddau at fywyd yn y ddinas fawr.
Mae Val wedi treulio 13 mlynedd yn cadw tŷ yn Sao Paulo, ac yn byw â’r euogrwydd o fod wedi gadael ei merch, Jessica, i gael ei chodi gan berthnasau iddi yng nghefn gwlad. Er eu bod wedi ymddieithrio, mae Jessica’n dod i’r ddinas i ymweld â’i mam ac mae ei phresenoldeb yn ymyrryd â’r drefn arferol, wrth i’w phersonoliaeth afieithus effeithio ar bawb yn y tŷ. Drama fanwl a chymhleth am wahaniaethau cymdeithasol a pherthnasau teuluol.
O’r brig: Ruth & Alex, The Second Mother
chapter.org
Clwb Ffilmiau Gwael
Road House Sul 6 Medi UDA/1989/114mun/18. Cyf: Rowdy Herrington.
Gall dychwelyd ar ôl gwyliau’r haf fod yn brofiad anodd felly gadewch i’r Clwb Ffilmiau Gwael godi’ch calon â Road House. Yn y ffilm cic–focsio zen glasurol hon, mae Patrick Swayze yn gorfod brwydro yn erbyn biliwnydd lleol sydd yn benderfynol o feddiannu’r dref. A fydd ei jîns glas a’i dechnegau swyno od yn ddigon i ennill y dydd? Nodwch os gwelwch yn dda y bydd yna sylwebaeth fyw yn ystod y ffilm hon. Fe all y ffilm a ddangosir newid ar y funud olaf hefyd.
Sinema
029 2030 4400
Short Peace
24
Gŵyl Animeiddio Kotatsu Japan Sad 26 Medi Byddwn yn cyflwyno dangosiadau Cymreig cyntaf o ffilmiau nodwedd o Japan, ynghyd â chystadlaethau i ennill gwobrau unigryw a marchnad Japaneaidd wych. Gweler gwe–fan yr ŵyl www.kotatsufestival.com am fanylion y gweithdy i blant a gwobrau’r raffl. Pris Pas Gŵyl i weld yr holl ffilmiau fydd £30/£25. Gallwch archebu tocynnau ar gyfer dangosiadau unigol drwy ein gwe–fan. Ffoniwch 029 2030 4400 i archebu tocyn gŵyl.
11am:
1.15pm:
A Letter to Momo
Short Peace + rhaglen o ffilmiau byrion
Japan/2012/120mun/PG. Cyf: Hiroyuki Okiura. Gyda: Karen Miyama, Toshiyuki Nishida, Yuka, Koichi Yamadera, Cho.
Ar ôl marwolaeth ei thad, mae merch ifanc o’r enw Momo a’i mam, Ikuko, yn symud o ddinas brysur Tokyo i gartref plentyndod ei mam ar ynys anghysbell. Mae Momo’n ei chael hi’n anodd ymdopi â marwolaeth ei thad a’i hamgylchiadau newydd ond, ar ôl iddi ddod o hyd i hen lyfr lluniau yn atig ei chartref newydd, a hwnnw’n cynnwys brasluniau o greaduriaid rhyfeddol, mae pethau rhyfedd yn dechrau digwydd ac mae hi’n sylweddoli ei bod yn rhannu tŷ â thri ‘yokai’ direidus.
Japan/2013/68+24mun/15.
Casgliad o saith ffilm fer sy’n rhychwantu’r canrifoedd:
Possessions Cyf: Shuhei Morita.
Yn Japan y ddeunawfed ganrif, mae teithiwr unig yn nwfn y mynyddoedd yn colli ei ffordd ar noson stormus ac yn dod ar draws cysegrfan sydd yn gartref i greaduriaid arallfydol.
Combustible
Cyf: Katsuhiro Otomo.
Yn Japan y ddeunawfed ganrif, mae Owaka a Matsukichi yn ysu am gael bod gyda’i gilydd, ond ar ôl i Matsukichi fynd yn ddyn tân a chael ei ddiarddel gan ei deulu, ac ar ôl i rieni Owaka drefnu priodas iddi hi, dyw pethau ddim yn edrych yn rhy obeithiol. Mae ffawd fel petai yn eu herbyn ond fe ddaw tân â nhw at ei gilydd o’r newydd.
Sinema
Gambo
6.30pm:
25
O’r brig: A Letter to Momo, Tiger and Bunny the Rising
chapter.org
Cyf: Hiroaki Ando.
Mae diafol coch enfawr yn ymddangos ac yn ymosod ar bentref anghysbell yn ardal fynyddig yng ngogledd–ddwyrain Japan ar ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg. Mae merch ifanc o’r enw Kao yn gofyn am gymorth gan arth wen ddirgel i amddiffyn ei chartref.
A Farewell to Weapons Cyf: Hajime Katoki.
Mewn dyfodol rhyfelgar yn Tokyo, mae platŵn o filwyr arfog yn brwydro yn erbyn tanc robotig.
4pm:
Tiger and Bunny the Rising Japan/2014/108mun/12A. Cyf: Yoshitomo Yonetani. Gyda: Hiroaki Hirata, Masakazu Morita, Yuuichi Nakamura.
Caiff partneriaeth Wild Tiger a Barnaby Brooks Jr ei chwalu gan berchennog newydd cwmni cyfryngol Apollon. Rhaid i Barnaby weithio gyda’i bartner newydd, Golden Ryan, ond mae’r bygythiad sy’n wynebu Dinas Sternbild mor ddifrifol fel y bydd angen cymorth Wild Tiger arnynt.
Royal Space Force: The Wings of Honneamise Japan/1987/121mun/PG. Cyf: Hiroyuki Yamaga. Gyda: Leo Morimoto, Mitsuki Yayoi, Kazuyuki Sogabe, Aya Murata.
Ar Ddaear amgen, ac mewn cenedl sydd ar fin mynd i ryfel, mae dyn ifanc o’r enw Shiro a fethodd fel peilot gyda’r Llynges yn ymuno â’r Llu Gofod Brenhinol. Caiff ei ysbrydoli i anelu am y sêr ar ôl cyfarfod ar hap â heddychwr ond mae amser yn ei erbyn ac mae’n rhaid iddo adael y Ddaear ar frys. Mae rhyfel ar eu gwarthaf ac mae gan ambell un o gefnogwyr Shiro gymhellion cudd.
8.45pm:
Perfect Blue Japan/1997/80mun/18. Cyf: Satoshi Kon. Gyda: Junko Iwao, Rica Matsumoto, Shinpachi Tsuji, Masaaki Okura, Yosuke Akimoto.
Mae Mima Kirigoe yn gadael grŵp J–pop hynod lwyddiannus o’r enw Cham! i ddilyn gyrfa fel actores. Mae ei phenderfyniad yn gwylltio ffans obsesiynol y grŵp, sydd yn ei dilyn hi, yn y byd go iawn ac ar–lein hefyd, ar we–fan o’r enw ‘Mima’s Room’. Mae un o’r stelcwyr hyn, Me–Mania, yn bygwth ei bywyd. Wrth i’r sefyllfa ddwysau, ac wrth i’r bobl sy’n ymwneud â gyrfa Mima ymddangos fesul un yn farw gelain, caiff Mima ei hun yng ngafael paranoia difrifol ac mae hi’n colli golwg ar y ffin rhwng realiti a hunllef.
Sinema
Chapter Wails yn cyflwyno
A Walk in the Woods
029 2030 4400
O’r chwith i’r dde: Eyes Without a Face, A Walk in the Woods
26
Eyes Without a Face Llun 21 Medi Ffrainc/1960/90mun/is–deitlau/15. Cyf: Georges Franju. Gyda: Pierre Brasseur, Edith Scob, Alida Valli.
Bu’r ffilm greulon a thyner hon, sydd yn cyfuno arddulliau ‘pulp’, arswyd a barddoniaeth, yn ddylanwad mawr ar wneuthurwyr ffilm mor amrywiol â Jesús Franco a Pedro Almodóvar. Mae’r Dr Genessier yn llawfeddyg plastig gwych a’i obsesiwn yw adfer wyneb ei ferch, a gafodd ei anharddu. Mae e’n cael cymorth yn hyn o beth gan ei gynorthwy–ydd ffyddlon, Louise, sydd yn denu menywod ifainc diniwed i’r feddygfa gudd yn ei chateau diarffordd. + Cyflwyniad a thrafodaeth ar ôl y ffilm yng nghwmni’r gwneuthurwr ffilmiau a’r ffan pybyr o ffilmiau arswyd, Ben Ewart–Dean (Chapter Wails).
Gwe 25 — Iau 8 Hydref UDA/2015/98mun/15. Cyf: Ken Kwapis. Gyda: Robert Redford, Nick Nolte, Emma Thompson.
Mae’r awdur taith enwog, Bill Bryson, wedi symud yn ôl i’r Unol Daleithiau ac wedi’i herio’i hun i gerdded ar hyd Llwybr yr Appalachiaid. Yr unig berson sy’n fodlon ymuno ag ef yw ei ffrind, Dylan Katz, sy’n gweld y daith fel modd i osgoi bywyd go iawn. Mae’r ddau ddyn yn rhag–weld teithiau tra gwahanol; mae Bill yn chwilio am lonyddwch a Katz yn chwilio am antur. Maen nhw ar fin dysgu nad yw’r hwyl yn dechrau ond pan fyddwch chi’n eich gwthio eich hun i’r eithaf.
chapter.org
Sinema
27
O’r chwith i’r dde: Irrational Man, NT Live: The Beaux’ Stratagem
Y Llwyfan ar y Sgrin
Irrational Man Gwe 25 — Iau 8 Hydref UDA/2015/98mun/12A. Cyf: Woody Allen. Gyda: Joaquin Phoenix, Emma Stone, Parker Posey.
Ar ôl i athro prifysgol gwych ond lluddedig dderbyn swydd mewn coleg cymharol ddi–nod, mae trigolion y dref yn cyffroi’n lân. Mae e’n dechrau perthynas â darlithydd ac â myfyriwr dawnus ond bydd angen gweithred dywyll, ddramatig a dirfodol cyn iddo newid ei fywyd a dechrau gweld y byd o bersbectif mwy gobeithiol.
NT Live: The Beaux’ Stratagem Iau 3 Medi Encore: Llun 14 Medi DG/2015/180mun/12A. Cyf: Simon Godwin.
My Brief Eternity
Mae dau ddyn ifanc afradlon wedi gwario eu hetifeddiaeth. O gywilydd, ac yn ddyledwyr bellach, maent yn ffoi i Lichfield i briodi am arian. Yn y dafarn leol, ac wrth iddyn nhw esgus bod yn feistr a gwas, maent yn wynebu amrywiaeth eang o rwystrau. Ac ar ôl cwrdd â Dorinda a Mrs Sullen, mae’r Beaux yn sylweddoli eu bod wedi dod wyneb yn wyneb â chwpwl tra theilwng ...
Llun 21 Medi
Cymru/2015/hyd i’w gadarnhau/TiCh. Cyf: Clare Sturges.
Gwnaeth yr artist o Lansteffan, Osi Rhys Osmond, gyfraniad o bwys i gymuned gelfyddydol Cymru dros gyfnod o fwy na deugain mlynedd drwy gyfrwng ei fyfyrdodau ar y cyflwr dynol a’i waith addysgol. Mae’r ffilm ddogfen hon yn edrych ar brofiad Osi wrth iddo geisio ymdopi â chanser ac archwilio ei dreftadaeth ddiwylliannol. Cyflwyniad gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Canolfannau Maggie a BAFTA Cymru.
NT Encore: Coriolanus Iau 24 Medi DG/2013/180mun/12A. Cyf: Josie Rourke. Gyda: Tom Hiddleston, Mark Gatiss.
Pan ddaw hen elyn i fygwth Rhufain, mae’r ddinas yn galw unwaith yn rhagor ar ei harwr a’i hamddiffynnwr, Coriolanus. Ond mae ganddo fe elynion hefyd. Mae newyn yn bygwth y ddinas ac mae hynny’n datblygu’n awydd ar ran y bobl am newid. Ar ôl dychwelyd o faes y gad, rhaid i Coriolanus wynebu ystyriaethau realpolitik a dicter y dinasyddion. Enillydd Gwobr yr Actor Gorau yng Ngwobrau Theatr yr Evening Standard 2014
Sinema
Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn a dydd Sul am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn. Archebwch ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.
029 2030 4400
Noddir gan Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk 02920 666688
Two by Two
Fantastic Four
Yr Almaen/2015/87mun/U. Cyf: Toby Genkel, Sean McCormack. Gyda: Dermot Magennis, Callum Maloney, Tara Flynn.
UDA/2015/100mun/12A. Cyf: Josh Trank. Gyda: Miles Teller, Kate Mara, Michael B. Jordan.
Mae llifogydd ar y ffordd ac fe adeiladwyd arch i achub pob anifail. Ond, yn anffodus, does yna ddim lle i’r Nestriaid — Dave a’i fab, Finny. Maent yn sleifio i fwrdd y llong gyda Grymps, Hazel a Leah, ac yn credu eu bod nhw’n ddiogel, tan i’r plant chwilfrydig ddisgyn oddi ar yr Arch. Rhaid i Dave a Hazel roi’r gorau i’w dadlau wedi hynny ac achub eu plant.
Mae pedwar person ifanc ar gyrion cymdeithas yn telegludo i fydysawd gwahanol a pheryglus sydd yn altro’u cyrff mewn ffyrdd dychrynllyd. Rhaid i’r pedwar ddysgu defnyddio eu galluoedd newydd a gweithio gyda’i gilydd i achub y Ddaear rhag cyn–gyfaill sydd bellach yn elyn pennaf.
Gwe 28 Awst — Iau 3 Medi
Disgrifiadau Sain ar gael ymhob dangosiad (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau neu ewch i’n gwe–fan i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).
Sad 12 + Sul 13 Medi
Pixels
Sad 19 + Sul 20 Medi
UDA/2015/105mun/12A. Cyf: Chris Columbus. Gyda: Adam Sandler, Peter Dinklage, Kevin James, Michelle Monaghan.
Gwe 4 – Mer 9 Medi Dangosiad mewn Amgylchiadau Cefnogol Arbennig: Sul 6 Medi
Ar ôl i aliwns gamddehongli llif byw o gêmau arcêd clasurol fel cyhoeddiad rhyfel, maent yn ymosod ar y Ddaear ac yn gwneud hynny drwy gyfrwng gêmau fideo.
Inside Out
UDA/2015/94mun/U. Cyf: Pete Docter, Ronaldo Del Carmen. Gyda: Amy Poehler, Bill Hader.
Ar ôl i’r Riley ifanc gael ei thynnu o’i bywyd yn y Midwest a’i symud i San Francisco, mae ei hemosiynau — Llawenydd, Ofn, Dicter, Ffieidd–dod a Thristwch — yn ymaflyd â’i gilydd er mwyn dod o hyd i’r ffordd orau o ymdopi â dinas, tŷ ac ysgol newydd. * gweler isod fanylion ein Dangosiadau mewn Amgylchiadau Cefnogol Arbennig.
Carry on Screaming
Max
Sad 26 + Sul 27 Medi UDA/2015/111mun/PG. Cyf: Boaz Yakin. Gyda: Thomas Haden Church, Josh Wiggins, Luke Kleintank.
Mae ci a helpodd Lynges yr Unol Daleithiau yn Affganistan yn dychwelyd i’r Unol Daleithiau ac yn cael ei fabwysiadu gan deulu ei feistr ar ôl iddo fe gael profiad trawmatig.
Bob dydd Gwener am 11am, mae Carry On Screaming yn cynnig cyfle i rieni neu ofalwyr weld ffilm heb orfod poeni y bydd eu babi’n creu stŵr. Gweler y calendr am fanylion y dangosiadau arbennig hyn i bobl â babanod dan flwydd oed. Mae Dangosiadau mewn Amgylchiadau Cefnogol Arbennig yn ddangosiadau i blant ac oedolion ar sbectrwm awtistiaeth, neu bobl a chanddynt anableddau dysgu, ynghyd â’u teuluoedd, eu ffrindiau a’u gofalwyr. Yn ystod y dangosiadau hyn, cedwir goleuadau isel ynghynn yn yr awditoriwm ac ni fydd lefel y trac sain mor uchel ag arfer. Fydd yna ddim hysbysebion cyn y ffilm ac fe all ymwelwyr godi a symud o gwmpas y sinema fel y mynnant.
Inside Out
28
chapter.org
Addysg
Sesiynau ‘Sewcial’ Chapter
Animeiddio ac Awtistiaeth
O ddydd Sul 27 Medi ymlaen
Dyddiau Mercher o ddydd Mercher 23 Medi ymlaen, 5.15–6.45pm
Gweithdai creadigol i bobl ifainc sy’n awyddus i ddechrau gwnïo. Mae’r dosbarthiadau hyn yn annog plant i uwchgylchu, i feddwl yn greadigol ac i gymryd ffrwyth eu gwaith adre’ gyda nhw ar ddiwedd pob sesiwn. Croeso i fechgyn a merched fel ei gilydd!
Dosbarth Dechreuwyr (8–12 oed) Sul 27 Medi 1.30–3pm Bob dydd Sul am gyfnod o 10 wythnos
Bydd y cwrs hwn yn dysgu sgiliau sylfaenol fel mesur a thorri ffabrig, gwnïo botymau a siapiau ac amrywiaeth o bwythau hwyliog. Darperir yr holl ddeunyddiau angenrheidiol. £50 am 10 wythnos neu £6 y sesiwn (yn ddibynnol ar le; bydd cyfanswm o wyth lle ar gael bob wythnos).
Dosbarth Canolradd (8–14 oed) Sul 27 Medi 3.30–5pm Bob dydd Sul am gyfnod o 10 wythnos Y tymor hwn, bydd y cwrs yn canolbwyntio ar ddysgu technegau newydd ac yn defnyddio rhaglen y Sinema a’r Oriel fel ysbrydoliaeth ar gyfer ambell i brosiect gwych. Darperir yr holl ddeunyddiau angenrheidiol. £50 am 10 wythnos neu £6 y sesiwn (yn ddibynnol ar le; bydd cyfanswm o 10 lle ar gael bob wythnos).
29
Yn ystod yr hydref byddwn yn cyflwyno dau gwrs pump wythnos o hyd i bobl ifainc ar sbectrwm awtistiaeth a phobl ifainc a chanddynt anghenion addysgol arbennig. Mae’r sesiynau 90 munud o hyd hyn yn caniatáu i’r bobl ifainc fagu hyder cymdeithasol ac i ddysgu a datblygu eu sgiliau animeiddio mewn awyrgylch cefnogol a chreadigol. Gall pob sesiwn fod yn sesiwn unigol neu’n rhan o gynllun gwaith mwy — gallwn drefnu rhaglenni dysgu unigol i bob cyfranogwr. Bydd wyth o leoedd ar gael bob wythnos. £25
Cwrs 1 Dyddiau Mercher: 23 Medi, 30 Medi, 7 Hydref, 14 Hydref, 21 Hydref 5.15–6.45pm
Cwrs 2
Dyddiau Mercher: 4 Tachwedd, 11 Tachwedd, 18 Hydref, 25 Tachwedd, 2 Rhagfyr 5.15 — 6.45pm
Moviemaker Iau Sad 26 Medi 10.30am–12pm Os ydych chi rhwng naw ac 16 oed ac yn wneuthurwr ffilmiau uchelgeisiol, dewch i weld yr hyn sydd gennym i’w gynnig. Rydym yn gwylio ac yn trafod ffilmiau byrion — a byddwn yn dangos eich ffilmiau chi hefyd! Fe allai’r ffilmiau byrion a ddangosir yn ystod sesiynau Moviemaker Iau gynnwys golygfeydd sy’n cyfateb â thystysgrif PG y BBFC — dylai rhieni gadw hynny mewn cof. £1.50
I archebu lle ar unrhyw un o’r cyrsiau hyn, cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau ar 029 2030 4400 os gwelwch yn dda.
30
Archebu/Gwybodaeth
029 2030 4400
GWYBODAETH Sut i Archebu Tocynnau
Gwybodaeth
Dros y ffôn — ffoniwch ni ar 029 2030 4400. Rydym yn derbyn pob un o’r prif gardiau credyd. Galwch heibio — mae ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 11am–8.30pm, ac ar y Sul o 3pm–8.30pm. Ar–lein: Gallwch archebu ar www.chapter.org bob awr o’r dydd a’r nos Consesiynau: Mae cyfraddau disgownt ar gael i fyfyrwyr, pobl dros 60 oed, plant, y di–waith, pobl anabl, deiliaid cerdyn MAX ac i Ffrindiau Chapter a deiliaid Cerdyn Chapter. Bydd angen i chi gyflwyno prawf o’ch cymhwyster i dderbyn cyfradd ostyngol. Archebion grŵp: Prynwch 8 tocyn ac fe gewch chi’r 9fed yn RHAD AC AM DDIM. Noder os gwelwch yn dda • dim ond un disgownt y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw un adeg • rydym yn hapus i dderbyn archebion ymlaen llaw ond ni allwn gadw tocynnau i’r naill ochr • os cyrhaeddwch chi’n hwyr mae hi’n bosib y cewch chi’ch atal rhag mynychu eich digwyddiad. Cyflwynir rhai o’n ffilmiau â Disgrifiadau Sain ac Is–deitlau Meddal ond nid yw’r wybodaeth hon bob amser ar gael ar adeg argraffu’r cylchgrawn. Gweler ein gwe–fan am fanylion neu piciwch draw i’r Swyddfa Docynnau yn ystod yr wythnos y mae’r ffilm yn cael ei rhyddhau.
Cwmnïau ac Artistiaid Cysylltiedig Mae Chapter yn gartref i gwmnïau theatr, cwmnïau dawns, stiwdios animeiddio, gwneuthurwyr printiau, crochenwyr, dylunwyr graffeg, dylunwyr deunydd symudol, cyfansoddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, cyhoeddwyr cylchgronau, artistiaid annibynnol a llawer iawn mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.
Sinema Cyn 5pm O 5pm ymlaen Llawn £4.50 (£4.00) £7.90 (£7.20) Disg £3.50 (£3.00) £5.80 (£5.10) Cerdyn + Disg £3.00 (£2.50) £5.00 (£4.50) DISGOWNT DYDD MAWRTH Tocynnau’r holl brif ddangsiadau — £4.40
Gweithdai a Dosbarthiadau Rydym yn cynnal amrywiaeth eang o weithdai dyddiol a dosbarthiadau gydag ymarferwyr annibynnol, gan gynnwys ballet, zumba, ioga, crefft ymladd, massage i fabanod, cerddoriaeth i blant, pilates, tango, fflamenco, ysgrifennu creadigol, gwersi cerddoriaeth a mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.
Sut i gyrraedd Chapter Fe ddewch chi o hyd i ni yn Nhreganna, i’r gorllewin o ganol y ddinas. Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE Ar Droed Mae hi’n daith gerdded hamddenol o ryw 20 munud o ganol y ddinas. Ar Fws Mae bysus rhif 17, 18 a 33 yn aros gerllaw ac yn gadael bob pum munud o ganol y ddinas. Ar Feic Mae digon o raciau beic ar flaen yr adeilad. Parcio Mae gennym faes parcio yng nghefn yr adeilad ac mae meysydd parcio lleol eraill wedi eu nodi ar y map. Gofynnwn i chi barchu ein cymdogion os gwelwch yn dda drwy osgoi parcio mewn strydoedd cyfagos.
Prisiau ymlaen llaw/ar–lein mewn cromfachau. Mae “Ymlaen llaw” yn golygu unrhyw bryd cyn diwrnod y dangosiad.
aff nd Lla
Springfield Pl.
ad
mC ha cen res
Ha m i l t o n
St
t
Gr
King’s Ro
nd Wy
ane
Road
L Gray
. Library St
St. ay
Treganna
Le c h kwit
Church Rd.
Heol Ddwy rein i o l y B o n t F a en Penllyn Rd.
Harve
St Talbot
Orc h a r d P l.
rn Seve
St. Gray M a rk e t P l .
treet yS
e St. Glynn
d Roa
d hna arc lyF
Heo
o 6pm
rt S
t.
Road
Earle Pl.
A l be
P — meysydd parcio rhad ac am ddim — rac feics
r R—oadarhosfan bysus Majo
I Ganol Dinas Caerdydd to n ling Wel
et Stre
Mynediad i bawb Mae Chapter yn croesawu ymwelwyr anabl. Os oes gennych anghenion mynediad penodol, ffoniwch ein swyddfa docynnau ar 029 2030 4400, minicom 029 2031 3430.
chapter.org
Cymryd Rhan
31
CYMRYD RHAN Cerdyn CL1C
Cadwch mewn cysylltiad
Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawr–lwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!
Ymunwch â ni ar–lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.
Ffrindiau Chapter Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40
eAmserlen rad ac am ddim eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E–bostiwch adam.chard@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e–bost.
Cynllun Myfyrwyr Chapter Ydych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth am ddim a manteisio ar gynigion arbennig nodedig, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Jennifer — jennifer.kirkham@chapter.org www.chapter.org/cy/aelodaeth–myfyrwyr–chapter
Rydym yn falch o fod yn rhan o Hynt. www.hynt.cymru Hoffai Chapter gydnabod cefnogaeth hael y sefydliadau a’r grwpiau canlynol:
Sefydliad Esmée Fairbairn Cronfa Gymunedol Tirlenwi Rhaglen Ddiwylliant yr UE Sefydliad Garfield Weston Sefydliad Foyle Gwobr Biffa Cronfa Loteri Fawr Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston Grŵp Admiral Cyf Sefydliad Moondance ar gyfer y Celfyddydau a Chwaraeon Sefydliad Elusennol Trusthouse Plant mewn Angen y BBC Waitrose Sefydliad Waterloo Sefydliad Henry Moore Ymddiriedolaeth Ynni Gwyrdd ScottishPower SEWTA
Sefydliad y Brethynwyr WRAP Google Sefydliad Jane Hodge Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson Ymddiriedolaeth People’s Postcode Ymddiriedolaeth Feddygol Dunhill Legal & General Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm Ymddiriedolaeth Ernest Cook Sefydliad Boshier–Hinton Lloyds TSB Barclays Celfyddydau & Busnes Cymru Ymddiriedolaeth Austin & Hope Pilkington Gwestai Puma: Gwesty’r Angel Caerdydd
Celfyddydau Rhyngwladol Cymru Ymddiriedolaeth Elusennol Gibbs Ymddiriedolaeth Elusennol Steel Ymddiriedolaeth Oakdale Cwmni Plastig Dipec Nelmes Design Ymddiriedolaeth Elusennol Coutts Elusen Wake Bruce Funky Monkey Feet Sefydliad Finnis Scott Cote Brasserie Banc Unity Trust RWE Tidal Lagoon Power Hugh James Cymdeithas Celfyddydau Cyfoes Cymru Western Power Distribution
Aelodau Clwb Chapter: Prifysgol Fetropolitan Caerdydd Clearstream Technology Cake Communications Broomfield & Alexander Lloyds Spindogs Tincan 1st Office Urban Solar Patronbase Golley Slater Effective HRM Little Casino Stills Branding CDF Cyfrifwyr BPU Cyfreithwyr MLM Rheolwyr Cyfoeth SLD