029 2030 4400
@chaptertweets
chapter.org
02
Croeso
chapter.org
CROESO Croeso i’ch cylchgrawn misol sy’n rhestru holl ddigwyddiadau Chapter ym mis Medi. Mae’n amser smwddio’r gwisgoedd ysgol ac i bacio’r bagiau at y tymor newydd, ac i lawer bydd hi’n amser i adael i fynd i goleg neu brifysgol. Yma yn Chapter, mae gennym gynllun aelodaeth i fyfyrwyr sy’n llawn cynigion arbennig a fydd yn eich helpu chi i ymgartrefu yn eich bywyd academaidd newydd. Am fwy o fanylion, gweler tudalen 13. A welsoch chi sioe boblogaidd Waking Exploits, Love and Money, y llynedd? Wel, maen nhw yn eu holau ac yn cyflwyno gwaith gwobrwyol a gwych y dramodydd, Gary Owen, Crazy Gary’s Mobile Disco. Mae’r ddrama yn ein tywys i dref fach Gymreig ar nos Sadwrn gyffredin ac yn bortread miniog o argyfwng gwrywdod (t11). Bydd ein sinema yn dipyn o hafan i ffans cerddoriaeth gyda’n rhaglen Sineffonig boblogaidd (t19). Byddwn yn dangos 20,000 Days on Earth — diwrnod ym mywyd yr ardderchog Nick Cave, ac yn mwynhau perfformiad byw arbennig gan y dyn ei hun ar gysylltiad lloeren o Ganolfan Barbican, yn ogystal â sesiwn holi-ac-ateb gyda chyfarwyddwyr y ffilm ar ddydd Mercher 17 Medi. Bydd Finding Fela hefyd yn bwrw golwg feiddgar ar fywyd, cerddoriaeth a gwleidyddiaeth Fela Kuti, sylfaenydd unigryw symudiad Afrobeat ac un o gewri cerddoriaeth Nigeria. Bydd arddangosfa Christoph Dettmeier yn yr Oriel yn dirwyn i ben ym mis Medi (tt4-5) — mae’r gweithiau ynddi yn ystyried y modd yr awn ati i goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf, ac effeithiau’r rhyfel ar ein diwylliant poblogaidd. Ewch i’w gweld tra bydd hi’n dal yno! Diolch am ddarllen ac fe welwn ni chi cyn hir!
Defnyddiwch y côd QR hwn i lawr-lwytho copi digidol o gylchgrawn Chapter
Delwedd y clawr: In the Mood for Love
Chapter Heol y Farchnad, Caerdydd CF5 1QE 029 2030 4400 www.chapter.org ymholiadau@chapter.org
chapter.org
Uchafbwyntiau
Oriel tudalennau 4–7
Bwyta Yfed Llogi tudalen 8
Chapter Mix tudalen 9
03
CYMRYD RHAN
Theatr
Cerdyn CL1C
tudalennau 10–12
Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawrlwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!
Chapter i Fyfyrwyr tudalen 13
Ffrindiau Chapter Sinema tudalennau 14–28
Addysg tudalen 29
Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40
Cadwch mewn cysylltiad Ymunwch â ni ar-lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.
Gwybodaeth eAmserlen rad ac am ddim a Sut i eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch archebu adam.chard@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ tocynnau ym mhennawd yr e-bost. tudalen 30
Siaradwch â ni @chaptertweets facebook.com/chapterarts ymholiadau@chapter.org
Cymryd Rhan tudalen 31
Calendr tudalennau 32–33
Oriel
Christoph Dettmeier, The American Friend (manylyn), 2014. Llun: Warren Orchard
04 029 2030 4400
Oriel
05
Christoph Dettmeier, Ghosts of Mars (manylyn), 2014. Llun: Warren Orchard
chapter.org
Christoph Dettmeier: Happy Birthday Arddangosfa: tan 21 Medi Perfformiad: Gwener 19 Medi, 7pm Roedd difrifoldeb y Rhyfel Byd Cyntaf yn fodd o helpu cyfrwng cymharol newydd — ffilm — i gael ei dderbyn yn ehangach, wrth i ffilmiau newyddion gyrraedd adref o faes y gad, dan reolaeth adrannau propaganda’r wladwriaeth. Ar ôl y rhyfel, roedd gwneuthurwyr ffilm Almaenaidd yn awyddus i drawsnewid y ffurf — o adloniant torfol yn ffurf gelfyddydol — ac fe ystyrir bod yr avant-garde ynghyd â genres arswyd a gwyddonias yn ffurfiau â’u gwreiddiau yn yr Almaen. Mae diwylliant ffilm Weimar yn cynrychioli rhai o enghreifftiau mwyaf amlwg y cyfnod hwn o’r hyn a elwir yn ‘Shell Shock Cinema’: The Cabinet of Dr Caligari (1920), Nosferatu (1922), Metropolis (1927) (1927), i enwi ond ambell un. Roedd ffilmiau o’r fath yn hanfodol wrth fynegi dealltwriaeth anuniongyrchol ond mwy teimladwy o drawma na’r ffilmiau rhyfel traddodiadol. Cafodd y profiad o ryfel ei gyfleu â llengoedd o feirw byw, zombies, fampirod a chwsgrodwyr; roedd hynny’n fodd o fynegi teimladau’r ‘cenedlaethau coll’ ynghyd â diffyg ymddiriedaeth cynyddol yn swyddogaethau dogfennol ffilm a ffotograffiaeth fel ei gilydd. Mae ‘Happy Birthday’ — arddangosfa unigol gyntaf Dettmeier yn y DG — yn cychwyn â’r newidiadau diwylliannol a hunaniaethol sylweddol a welwyd yn ystod ac ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn ymwneud yn chwareus â’r hyn y mae hi’n ei olygu, yn 2014, i nodi can mlynedd ers cychwyn y rhyfel. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar ei we-fan, www.christoph-dettmeier.de
Ydy’r delweddau o ‘Shell Shock Cinema’ a’r cyfeiriadau at ffilmiau gwyddonias cynnar wedi tanio’ch diddordeb? Byddwn yn dangos ‘The Cabinet of Dr Caligari’ o ddydd Gwener 29 Awst tan ddydd Llun 1 Medi — gweler tudalen 15 am fanylion.
Sgwrs am 2 Sad 13 Medi 2pm
Cynhelir ein ‘Sgyrsiau am 2’ bob yn ail ddydd Sadwrn yn ystod cyfnodau ein harddangosfeydd ac fe’u cyflwynir gan ein Tywyswyr Byw, Richard Higlett a Samuel Hasler. Maent yn gyfle i ddysgu mwy am yr arddangosfa gyfredol ac agweddau’r artistiaid at greu gweithiau celfyddydol. Ni fydd dwy sgwrs yn union yr un fath ond y gobaith yw y byddan nhw’n ddiddorol ac yn agored bob amser. Mae’r Sgyrsiau am 2 yn rhad ac am ddim ac nid oes angen archebu lle ymlaen llaw — dewch draw i’r Oriel i ymuno â ni! RHAD AC AM DDIM
Tooth & Clawr Maw 9 Medi 7pm
Mae trafodaethau grŵp darllen Tooth & Clawr yn seiliedig ar arddangosfeydd Oriel Chapter. Rydym yn canolbwyntio ar ddarllen darnau byrion o destunau a ddewisir o blith ystod eang o ffynonellau — o destunau beirniadol i farddoniaeth — ac fe gaiff y rhain eu defnyddio fel sail ar gyfer trafodaeth am yr arddangosfa. Mae’r sesiynau anffurfiol yn cael eu harwain gan Catherine Angle a Phil Owen ac nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol o theori celf arnoch chi. Rydym yn dewis testunau y teimlwn eu bod yn cyd-fynd â’r gweithiau yn yr arddangosfa ac fe’ch anogwn i wneud yr un peth. Boed y darn yn ddarn o’ch gwaith eich hun, neu’n destun y daethoch ar ei draws, mae croeso i bob cyfraniad. £3 Arddangosfa ar agor: Dyddiau Mawrth, Mercher, Sadwrn a Sul 12-6pm; dydd Iau a dydd Gwener 12-8pm; ar gau ar ddydd Llun
Oriel
029 2030 4400
Bob a Roberta Smith, ‘All Schools Should be Art Schools’, 2012, paent arwyddion ar fwrdd
06
Celfyddyd yn y Bar Bob a Roberta Smith: All Schools Should Be Art Schools Tan ddydd Sul 12 Hydref ‘Celfyddyd, delweddau, arteffactau, caneuon; diwylliant yw’r ffordd orau sydd gan fodau dynol o’u diffinio’u hunain.’ Bob a Roberta Smith, Llythyr at Michael Gove, 2011 Yn dilyn marwolaeth Lucian Freud ac Amy Winehouse yn 2011, ysgrifennodd Bob a Roberta Smith lythyr agored at Michael Gove yn mynegi pryderon dwfn am y broses wleidyddol, cyflwr byd addysg a’r bwriad i gyflwyno’r EBacc — Bagloriaeth Lloegr — a fyddai’n gwthio Celfyddyd, Dylunio a Cherddoriaeth i’r naill ochr mewn ysgolion uwchradd. Wedi’i yrru ymhellach gan y cynnydd mewn ffioedd dysgu sy’n wynebu myfyrwyr, uchafswm o £9,000 y flwyddyn ar hyn o bryd, mae llythyr Smith yn hyrwyddo ac yn amddiffyn amrywiaeth greadigol a diwylliannol Prydain. Yn dilyn y llythyr hwn, ac ar ôl derbyn cefnogaeth gan gyd-artistiaid, myfyrwyr ac addysgwyr, trefnodd Smith yr Art Party Conference yn Scarborough yn 2013, dathliad o’r celfyddydau a digwyddiad o bwys lle’r aeth y cynadleddwyr ati i drafod pwysigrwydd
celfyddyd i fyd addysg ac i’r gymdeithas ehangach. Roedd y diwrnod hefyd yn cynnwys perfformiadau, ffilmiau, cerddoriaeth, darlithoedd, seminarau, comedi ac areithiau podiwm, yn ogystal â gorymdaith brotest lle’r anogwyd cyfranogwyr i wneud eu baneri a’u fflagiau eu hunain. Daw’r ymadrodd ‘All Schools Should Be Art Schools’ o un o arwyddion nodweddiadol Smith, wedi’i baentio â llaw. Mae negeseuon Bob a Roberta Smith, sydd yn cael eu paentio fel arfer ar ddarnau o bren a’u hoelio at ei gilydd, yn aml yn bryfoclyd ac yn wleidyddol neu gymdeithasol grafog. Eu nod yw cychwyn trafodaeth mewn ffordd hwyliog a doniol. Yn lliwgar a beiddgar, mae estheteg yr arwyddion yn benthyg yn helaeth o gelfyddyd werin ac maent yn adleisio hysbysiadau dros dro a phrotestiadau cynnar y mudiad pync.
Oriel
07
Karen Mirza a Brad Butler, The Exception and the Rule (Act 0165), 2013, trwy garedigrwydd Canolfan Gelfyddydau Walker, Ffotograffydd: Olga Ivanova
chapter.org
I ddod yn fuan!
Artes Mundi 6 Gwe 24 Hydref — Sul 22 Chwefror Carlos Bunga, Omer Fast, Theaster Gates, Sanja Iveković, Ragnar Kjartansson, Sharon Lockhart, Renata Lucas, Renzo Martens & Institute of Human Activity, Karen Mirza a Brad Butler. Rydym yn falch iawn unwaith eto o allu gweithio gydag Artes Mundi i gyflwyno arddangosfa o waith rhai o’r artistiaid ar restr fer gwobr Artes Mundi 6. Mae’r rhestr fer yn cynnwys detholiad amrywiol o artistiaid rhyngwladol. Maent yn rhychwantu gwahanol genedlaethau a diwylliannau ond yn rhannu sawl thema o bwys byd-eang. Mae’r rhain yn cynnwys gwleidyddiaeth gofod sefydliadol a dinesig a rheolaeth gymdeithasol. Caiff y themâu hyn eu datblygu yng ngwaith Renata Lucas, Carlos Bunga a Theaster Gates. Mae Sanja Iveković, Omer Fast a Renzo Martens wedyn yn mynd i’r afael â chynrychiolaeth a dylanwad cyfryngol ar fywydau. Cyrhaeddodd sawl un o’r artistiaid y rhestr fer am waith ar y cyd ag unigolion a chymunedau. Er enghraifft, er mwyn cwblhau ei ffilmiau a’i ffotograffau barddonol, treuliodd Sharon Lockhart gyfnod estynedig gyda’r bobl a ysbrydolodd y gweithiau, ac mae gwaith Karen Mirza a Brad Butler yn holi ynghylch natur cydweithio a chymryd rhan. Mae eu gwaith nhw’n cynnwys ffilm, perfformio, curadu a chyhoeddi. Mae gwaith Ragnar Kjartansson hefyd yn cynnwys elfen o gydweithio, gyda cherddorion yn aml, drwy gyfrwng perfformiadau
a gosodiadau, lle’r eir ati i archwilio themâu fel cyfeillgarwch, emosiynau dynol, cariad a harddwch. Mae’r holl artistiaid hyn yn defnyddio ystod eang o gyfryngau, ffyrdd o weithio a strategaethau er mwyn gwneud sylwadau ar yr hyn y mae bodolaeth ddynol yn y gymdeithas gyfoes yn ei olygu. Cafodd yr artistiaid eu dewis o blith mwy na 800 o enwebiadau gan ddau feirniad gwadd, Adam Budak, curadur annibynnol yn Washington a Sabine Schaschl, Cyfarwyddwr a Churadur Amgueddfa Haus Konstruktiv, Zurich. Roeddent yn edrych yn arbennig am artistiaid y mae eu gwaith yn archwilio ac yn sylwebu ar y cyflwr dynol a phrofiad. Bydd yr arddangosfa’n agor i’r cyhoedd ar 24 Hydref, 2014, a bydd yr artistiaid sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn cyflwyno gwaith yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd a Ffotogallery, Penarth. Cyhoeddir mwy o fanylion cyn hir ac fe fydd yna gyfres o berfformiadau a digwyddiadau cyffrous yn y tri lleoliad partner ac mewn canolfannau eraill ledled y ddinas. I gael mwy o wybodaeth ewch i www.artesmundi.org
08
Bwyta Yfed Llogi
Llogi
Cefnogi Chapter
Mae nifer o leoedd a chyfleusterau ar gael i’w llogi yn Chapter, ac fe ddefnyddir y rhain yn rheolaidd gan gymysgedd eclectig o ddosbarthiadau dydd a nos. Ewch i’n gwe-fan neu codwch daflen yn y swyddfa docynnau i weld yr hyn sydd ar gael. Os ydych chi’n chwilio am ystafell ar gyfer parti, cyfarfod neu gynhadledd, neu am ofod i saethu fideo, i ymarfer neu ar gyfer gweithgareddau adeiladu tîm, bydd ein cyfleusterau gwych, ein harbenigedd technegol a’n staff cyfeillgar yn gallu sicrhau bod eich digwyddiad yn un cyffyrddus, unigryw a chofiadwy. Gallwn ddarparu amrywiaeth o opsiynau arlwyo ar gyfer eich digwyddiad hefyd. Os oes gennych chi gwestiynau penodol neu os hoffech chi fwy o wybodaeth am ein cyfleusterau, rhowch ganiad i’n rheolwr llogi, Nicky, ar 029 2031 1058 neu anfonwch e-bost at nicky.keeping@chapter.org.
R’yn ni wedi ei ddweud o’r blaen, ond mae hi’n wir bob gair: allen ni ddim gwneud yr hyn a wnawn heb y gefnogaeth a dderbyniwn gan gynifer ohonoch. Mae ein rhaglen artistig amrywiol a’n gwaith addysg pwysig yn dibynnu ar gefnogaeth unigolion fel chi ac rydym yn ddiolchgar iawn am bob ceiniog a dderbyniwn. Os teimlwch y gallwch chi helpu, mae yna nifer o ffyrdd y gallwch chi wneud cyfraniad — er mwyn cyfrannu ar-lein, ewch i www.chapter.org/cy/cefnogwch-ni. I gyfrannu â cherdyn credyd, ffoniwch ein swyddfa docynnau ar 029 2030 4400 neu gallwch dalu â siec (yn daladwy i ‘Chapter (Caerdydd) Cyf’). Danfonwch hi at Elaina Gray, Chapter, Heol y Farchnad, CF5 1QE (neu gallwch bicio heibio a’i gadael yn y Swyddfa Docynnau). Gallwch wneud cyfraniadau â’ch ffôn hefyd yn awr — tecstiwch ‘Chap14’ ynghyd â’r swm yr hoffech ei gyfrannu at 70070. Fydd hi ddim yn costio ceiniog i chi anfon y neges destun ac fe fyddwn yn derbyn 100% o’r swm a gyfrannwch. I gael gwybodaeth am y rhannau o’r rhaglen y mae angen eich cefnogaeth chi fwyaf arnynt, neu i gael gwybodaeth gyffredinol am unrhyw un o’n gweithgareddau codi arian, cysylltwch ag Elaina yn y Swyddfa Ddatblygu — 029 2035 5662 / elaina.gray@chapter.org.
Bwyta + Yfed
Os nad ydych chi eto wedi mwynhau ein Picnic, dyma esboniad bras o’r syniad. Bob diwrnod gwaith, mae ein Caffi yn gweini detholiad o saladau cartref hyfryd, cigoedd a physgod wedi mygu a phrydau llysieuol a fegan blasus. Os ydych chi’n cael tamaid cyflym yn Chapter neu yn bwriadu mynd â phicnic gyda chi i’r swyddfa, mae gennym ddetholiad perffaith o fwydydd i chi. Ac os oes angen prawf annibynnol arnoch o wychder ein danteithion, rhoddodd Cylchgrawn Buzz adolygiad 4* i Picnic yn ddiweddar! Cadwch lygad ar agor am ein bwydlen newydd hefyd — i ddod ddiwedd mis Hydref.
029 2030 4400
chapter.org
Chapter Mix
Dydd Iau Cyntaf y Mis
Iau 4 Medi 7.30pm
Sad 13 Medi 10.30am-4.30pm
09
Barddoniaeth, Ffuglen a Hunangofiant Newydd
Diwrnod Agored Elusennol Gerddi NGS
Mae sesiynau Dydd Iau Cyntaf y Mis yn dychwelyd wedi gwyliau’r haf yng nghwmni Tony Curtis a Lesley Saunders, yn ogystal â’r sesiwn meic agored yn ail hanner y noson. Bydd Lesley’n cyflwyno gwaith o’i chasgliad newydd, The Walls Have Angels, a ysbrydolwyd gan blasty Tuduraidd a dau o’i westeion enwog, Harri VIII ac Anne Boleyn. Bydd Tony’n cyflwyno hanesion o My Life with Dylan Thomas ac yn adrodd hanesion gan gyfeillion Thomas. Bydd hefyd yn trafod dylanwad Thomas ar ei waith ei hun. Noddir gan Seren, Gwasg Mulfran a Llenyddiaeth Cymru.
Eleni, bydd Gardd Gymunedol Chapter yn cymryd rhan yn y Cynllun Gerddi Cenedlaethol: Diwrnod Agored i Elusennau. Mae’r cynllun yn sicrhau bod gerddi diddorol, llawn cymeriad, yng Nghymru a Lloegr, ar agor i’r cyhoedd, er mwyn codi arian i elusennau. Ers ei sefydlu ym 1927, cododd y cynllun dros £40 miliwn, ac mae yna fwy na hanner miliwn o ymweliadau â gerddi bob blwyddyn. Dewch draw i weld ein gardd ogoneddus yn ei blodau hydrefol hardd; fe fydd yna gyfleoedd i gyfnewid planhigion, i ddysgu am gompostio ac i glywed am wenyn Chapter — ac i flasu’u mêl ardderchog! Ac os byddwch chi’n dod gyda’r teulu, bydd yna lond lle o weithgareddau ‘Green City’ i blant hefyd.
Gwe 5 + Gwe 19 Medi Drysau’n agor: 8.30pm Sioe’n dechrau: 9pm
£2.50 (wrth y drws)
Clwb Comedi The Drones
£2.50 (mynediad yn cynnwys te/coffi a chacen am ddim) www.ngs.org.uk www.cantoncommunitygardens.co.uk
Clint Edwards sy’n cyflwyno’r ‘stand-ups’ addawol gorau. Gwelwyd peth o ddeunydd y nosweithiau hyn ar raglen ‘Identity Crisis’ Rob Brydon. Dydd Gwener cyntaf a thrydydd dydd Gwener bob mis. Un o’r ‘Deg Peth Gorau i’w Gwneud yng Nghaerdydd’ yn ôl cylchgrawn The Big Issue.
Jazz ar y Sul
£3.50 (wrth y drws)
Cylch Chwedleua Caerdydd Sul 7 Medi 8pm
Dewch i rannu a gwrando ar gasgliad hyfryd o straeon — croeso cynnes i storïwyr a gwrandawyr fel ei gilydd!
Sul 21 Medi 9pm
Ein noson fisol o jazz acwstig melodig yn y Caffi Bar gyda Phedwarawd Glen Manby. RHAD AC AM DDIM www.glenmanby.com
Music Geek Monthly Iau 25 Medi 8pm
Trafodir un clasur o albwm ac un albwm newydd sbon yn y Pwynt Cyfryngol ar ddydd Iau olaf y mis.
£4 (wrth y drws)
RHAD AC AM DDIM www.musicgeekmonthly.tumblr.com
Darlith Cymdeithas Celfyddydau Cain ac Addurnol De Cymru Iau 11 Medi 2pm ‘Love, Power and Scandal: A Jewel for Every Occasion’ Gyda Susan Rumfitt BA, M Phil
O dlysau grymus y Tuduriaid i dlysau llawn sgandal Siarl II, George IV, a Duges Windsor a’r straeon rhamantus am dlysau’r Frenhines Victoria, bydd y ddarlith hon yn profi bod yna emau brenhinol at bob achlysur. £6 i ymwelwyr (wrth y drws, yn ddibynnol ar le) www.swdfas.org
Clonc yn y Cwtsh Bob dydd Llun 6.30-8pm
Ydych chi’n dysgu Cymraeg? Ymunwch â ni i ymarfer eich Cymraeg gyda dysgwyr eraill. Croeso i bawb! RHAD AC AM DDIM
Ar y cyd â Menter Caerdydd
Theatr
“Mae hi’n bleser pur dod ar draws awdur fel Owen, sy’n fodlon ymdrybaeddu yn nyfroedd llygredig iaith. Mae Owen yn ysgrifennu fel angel aflan...” Lyn Gardner, The Guardian
029 2030 4400
Crazy Gary’s Mobile Disco. Delweddau o gyfres ‘Cardiff After Dark’ gan Maciej Dakowicz
10
Theatr
11
Crazy Gary’s Mobile Disco. Delweddau o gyfres ‘Cardiff After Dark’ gan Maciej Dakowicz
chapter.org
Waking Exploits yn cyflwyno
Crazy Gary’s Mobile Disco Gan Gary Owen Mer 17 — Sad 27 Medi 8pm matinee Sad 27 Medi 2.30pm (Dim perfformiadau ar ddydd Sul 21 neu ddydd Llun 22 Medi) Nos Sadwrn mewn tref fechan yng Nghymru. Llanast o destosteron, cwrw a chyffuriau. Dim byd anarferol, felly. Dilynwn fywydau bwli ysgol sydd wedi datblygu i fod yn gangster tiriogaethol, garw, ‘geek’ sy’n dyheu am ddianc, a brenin y peiriant karaoke mewn stori am chwant, trais, dial ac ymgais i ddod o hyd i’r ferch berffaith. Yn bortread miniog o argyfwng gwrywdod, mae Crazy Gary’s Mobile Disco yn pendilio rhwng anobaith a gorfoledd, y torcalonnus a’r doniol, bywyd bob dydd a digwyddiadau rhyfeddol.
Wedi’i hysgrifennu gan yr awdur gwobrwyol Gary Owen (Baker Boys, Love Steals Us From Loneliness, The Shadow of a Boy), caiff Crazy Gary’s Mobile Disco ei chyflwyno yng Nghymru unwaith eto gan Waking Exploits, yn dilyn llwyddiant Love and Money, Pornography a Serious Money. £14/£12 14+ oed www.wakingexploits.co.uk @waking_exploits
Theatr
Cwmni Welsh Fargo ar y cyd â Chapter yn cyflwyno
Tony Law Enter the Tonezone
029 2030 4400
O’r chwith i’r dde: Downtown Paradise, Enter the Tonezone
12
Downtown Paradise
gan Mark Jenkins Mer 10 — Sad 13 Medi 7.30pm Gyda Habib Nasib Nader a Catriona James Cyfarwyddwyd gan Michael Kelligan Mae Rachel Bloom yn gyfreithwraig Iddewig radical ac yn brwydro ar ran ei chleient — ‘Black Panther’ sydd wedi’i garcharu — mewn drama sy’n sicr o brocio’r meddwl. Cyflwyniad llawn emosiwn sy’n cynnwys perfformiadau grymus gan Habib Nasib Nader a Catriona James. Chwaraeodd Habib brif rôl Vimak the Goliath yn y ffilm Dungeons and Dragons 3: The Book of Vile Darkness, ac ymddangosodd hefyd yn Law and Order UK ac mewn tair cyfres o Little Britain. Mae Mark Jenkins yn adnabyddus am ei ddrama Playing Burton, a gyfieithwyd i nifer o ieithoedd ac sy’n dal i gael ei chyflwyno mewn nifer o wledydd. Cafodd ei throi’n ffilm yn ddiweddar a’i dangos ar Sky Arts 2. Mae prosiect Michael Kelligan, On The Edge, bellach yn 11 oed — mae’r prosiect yn cyflwyno perfformiadau sgript-mewn-llaw o ddramâu newydd gan awduron sy’n byw yng Nghymru. £12/£10/£8 16+ oed www.welshfargostagecompany.com
“Mae yna bŵer a dirgelwch digamsyniol yn llais ac yn harddwch Catriona James” The Telegraph
Maw 30 Medi 7pm + 9pm Plymiwch i fyd rhyfedd y Tone yn sioe newydd sbon y digrifwr gwobrwyol sy’n enwog am ei nonsens deallus a difyr. Seren Have I Got News For You, Never Mind The Buzzcocks, 8 Out of 10 Cats, The Alternative Comedy Experience, Charlie Brooker’s Weekly Wipe a mwy. Yn dilyn taith hynod lwyddiannus a chyfnod estynedig yn y West End yn 2013, mae Mr Tony Law yn teithio eto ac yn cyflwyno ei sioe newydd sbon yr hydref hwn. Enwebwyd Tony am Wobr Comedi Caeredin 2012, enillodd Wobr Chortle am y Sioe Fyw Orau yn 2013, a Gwobr Chortle am y Sioe Orau gan Ddigrifwr Newydd yn 2012. £13 14+ oed www.showandtelluk.com @mrtonylaw @show_and_tell
Gŵyl Afrovibes Llun 20 — Sad 26 Hydref 20 mlynedd yn ddiweddarach ... theatr, cerddoriaeth, dawns, ffilm a diwylliant o’r De Affrica newydd. I weld y manylion yn llawn, ewch i www.chapter.org/cy/season/afrovibes-2014
Chapter i Fyfyrwyr
13
Llun gan Matthew Evans
chapter.org
Galw ar fyfyrwyr… Mae gan Chapter gynllun aelodaeth cyffrous i fyfyrwyr sy’n cynnig manteision sylweddol, gan gynnwys gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein Caffi Bar. A’r peth gorau un? Mae’n rhad ac am ddim! Pan fyddwch chi wedi cofrestru, bydd gennych hawl ar y canlynol: • Gostyngiadau ar docynnau ar gyfer ffilmiau, cynyrchiadau theatr, digwyddiadau comedi, gigs a gwyliau • 10% o ostyngiad yn ein Caffi Bar — Mae Chapter yn cynnig ystod eang o gynhyrchion lleol blasus, gan gynnwys bwydydd fegan a chynhyrchion heb glwten • Cyfle i gystadlu am wobrau gwych • Ein cylchlythyr chwarterol ecsgliwsif • Gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig, gan gynnwys rhagolygon yn yr Oriel a premières ffilm.
Bydd eich cerdyn myfyriwr hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C (cerdyn teyrngarwch Chapter) — byddwch yn derbyn 10 pwynt am bob £1 a wariwch yn y Swyddfa Docynnau! Rydym yn gobeithio y cewch gyfle i ddod draw i Chapter y tymor hwn, boed hynny i weld ffrindiau dros ddiod yn ein Caffi Bar, i weld y gweithiau celf yn ein horiel neu i weld ffilm yn y sinema. I ymaelodi’n rhad ac am ddim, ewch i www.chapter.org/cy/aelodaeth-myfyrwyr-chapter neu, i gael gwybodaeth bellach, cysylltwch â Jennifer — Jennifer.kirkham@chapter.org
Sinema
029 2030 4400
The Rover
14
Sinema
15
Venus in Fur
The Cabinet of Dr Caligari
Gwe 29 Awst — Iau 4 Medi
Gwe 29 Awst — Llun 1 Medi
Ffrainc/2013/96mun/is-deitlau/15. Cyf: Roman Polanski Gyda: Emmanuelle Seigner, Mathieu Amalric.
Yr Almaen/1920/66mun/mud gyda rhyng-deitlau / U. Cyf: Robert Wiene. Gyda: Werner Krauss, Conrad Veidt, Lil Dagover.
Mae’r awdur-gyfarwyddwr Thomas ar ei ben ei hun mewn theatr ym Mharis ac yn cael trafferth castio rôl y ‘dominatrix’ yn ei ddrama newydd — cyn iddo gyfarfod â Vanda. Ar y cychwyn, dyw hi ddim fel petai hi’n arbennig o addas ond, ar ôl cytuno i roi clyweliad iddi, caiff Thomas ei swyno. Wrth i’r clyweliad fynd yn ei flaen, mae’r berthynas yn trawsnewid, o atyniad i obsesiwn, a’r berthynas rhyngddynt yn newid yn gyfan-gwbl. Golwg ddeifiol, gynnil a thywyll ar ryw, rhywioldeb a pherfformio.
Caiff Francis ei ddenu i weld arddangosfa yn y ffair a fydd yn cael effaith sinistr a phellgyrhaeddol arno. Ar ôl i Dr Caligari ddeffro’r cysgadur seicig Cesare o’i gwsg, mae ei broffwydoliaeth yn frawychus. Yn ystod y dyddiau nesaf, mae yna gyfres o lofruddiaethau dirgel yn y pentref. Â’r llofrudd yn nesu at ddyweddi Francis, Jane, rhaid i’r darpar was priodas dewr ddatguddio cyfrinachau rhyfedd Dr Caligari cyn y bydd hi’n rhy hwyr...
O’r chwith i’r dde: The Rover, The Cabinet of Dr Caligari
chapter.org
The Rover
Gwe 29 Awst — Iau 11 Medi Awstralia/2014/103mun/15. Cyf: David Michod. Gyda: Guy Pearce, Robert Pattinson.
Ddeng mlynedd ar ôl tranc cymdeithas, mae cyfraith a threfn wedi mynd ar chwâl ac mae bywyd fel petai’n gwbl ddi-werth. Mae Eric yn teithio trwy drefi anghyfannedd yr ‘outback’ ond ar ôl i griw o ladron ddwyn ei gar, maen nhw’n gadael y Rey clwyfedig ar eu hôl. Mae Eric yn gorfodi Rey i’w helpu i ddod o hyd i’r giang — ac yn dangos ei fod yn fodlon gwneud unrhyw beth i ddod o hyd i’r un peth yn y byd sydd yn dal yn werthfawr iddo. Â pherfformiadau anhygoel ac wedi’i ffilmio â harddwch milain, mae’r ffilm hon yn ddilyniant teilwng i Animal Kingdom. + Is-deitlau meddal ar ddydd Llun 1 Medi, 6.10pm a dydd Mercher 3 Medi, 10.30am. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).
Enghraifft eiconig o’r ‘Shell Shock Cinema’. Mae The Cabinet of Dr Caligari yn un o nifer o ffilmiau sy’n cyflwyno trawma y Rhyfel Byd Cyntaf trwy gyfrwng ffantasi. Trowch i dudalennau 4-5 i weld manylion ein harddangosfa gyfredol yn yr Oriel — mae Christoph Dettmeier yn archwilio effaith y rhyfel ar weithiau gwyddonias cynnar.
Jersey Boys Gwe 15 Awst — Maw 2 Medi UDA/2014/134mun/15. Cyf: Clint Eastwood. Gyda: John Lloyd Young, Erich Bergen, Michael Lomenda, Vincent Piazza, Christopher Walken.
Hanes grŵp o ffrindiau yn New Jersey y 1960au, a chofiant cerddorol am lwyddiannau a methiannau y bois a oedd yn fwy adnabyddus fel y sêr pop eiconig, The Four Seasons. Mae’r ffilm yn mynd at wraidd perthnasau’r band (dan arweiniad y gŵr ifanc â’r falsetto pwerus, Frankie Valli) wrth iddyn nhw wynebu colli cysylltiad â’u teuluoedd a nesu at y maffia. + Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn Sinema 1 (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Dylech ffonio ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).
16
Sinema
029 2030 4400
Rhowch gymeradwyaeth hael i John Waters, wrth i ni gyflwyno ambell un o’i ffilmiau mwyaf twymgalon a doniol — ynghyd ag ambell un i godi cyfog! Bydd ein teyrnged i ‘Dywysog Cyfog’ yn cynnwys dangosiad Odorama o’r ffilm drwg-enwog, Polyester.
Hairspray
Polyester
UDA/1988/88mun/12. Cyf: John Waters. Gyda: Ricki Lake, Divine, Sonny Bono, Debbie Harry, Ruth Brown, Mink Stole.
UDA/1981/86mun/15. Cyf: John Waters. Gyda: Divine, Tab Hunter.
Sul 14 — Maw 16 Medi Ym maestrefi Baltimore yn 1962, mae The Corny Collins Show yn boblogaidd gydag arddegwyr sy’n gwirioni ar ddawnsio. Mae Tracy Turnblad yn ennill cyfle i ddawnsio ar y sioe ac yn ennill lle hefyd yng nghalon Link. Ond dyw hynny ddim wrth fodd yr Amber von Tussle sbeitlyd... Mae ei chreadigaethau gwalltog gorffwyll hi yn ei gwneud hi’n niwsans cyhoeddus — felly mae hi’n encilio i galon y gymuned ddu. Yno, mae DJ Motormouth Maybelle yn ei chyflwyno i ddawnsiau newydd chwilboeth a gwleidyddiaeth hil. Ymunwch â ni ar ol y dangosiad ar ddydd Sul 14 Medi ar gyfer cyfarffod o grwp trafod ffilm LGBT Chapter.
Pink Flamingos Sul 21 + Maw 23 Medi
UDA/1972/93mun/18. Cyf: John Waters. Gyda: Divine, David Lochary, Mary Vivian Pearce, Mink Stole.
Mae Babs Johnson ar ffo rhag yr FBI ac yn cuddio mewn trelar gyda’i mam — menyw a chanddi obsesiwn ag wyau — ei mab gwyllt, Crackers, a chymeriad sinistr o’r enw Cotton. Yn falch o’i statws fel y ‘Person Mwyaf Budr ar Dir y Byw’, dyw hi ddim yn hapus pan aiff cwpwl atgas o’r enw Connie a Raymond Marble ati i geisio dwyn ei theitl. Â’i hamrywiaeth syfrdanol o wyrdroadau rhywiol, roedd y ffilm hon yn fodd o hyrddio Divine a John Waters i galon byd ffilmiau budron.
Sad 27 Medi
Mae Francine Fishpaw yn wraig tŷ y mae ei bywyd yn uffern ar y ddaear. Mae ei gŵr anffyddlon yn rheoli theatr porno, mae ei phlant y tu hwnt i bob rheolaeth ac mae hyd yn oed ei chi yn cyflawni hunanladdiad. Ond yna daw perchennog golygus y sinema arbrofol, Todd Tomorrow, i’w bywyd ac maent yn cychwyn ar berthynas danbaid. Ffilm chwyldroadol a gwyrdroëdig, am gariad a rhamant sy’n berffaith a brwnt a hudolus. + Cyflwynir y ffilm fel y bwriadwyd iddi gael ei dangos — mewn fformat Odorama persawrus!
Female Trouble Sul 28 — Maw 30 Medi
UDA/1974/84mun/18. Cyf. John Waters. Gyda: Divine, Mink Stole, Edith Massey, David Lochary, Mary Vivian Pearce.
Mae merch ysgol o’r enw Dawn Davenport yn rhedeg bant o gartref ac yn beichiogi ar fatres mewn iard sbwriel wrth iddi ffawdheglu. Yn y pen draw, daw’n fodel mewn parlwr harddwch, lle caiff ei gorfodi i wneud pethau rhyfedd ag ‘eyeliner’ a chymryd lluniau o fenywod yn cyflawni troseddau. Ffilm o ddiffyg chwaeth epig — a chlasur o’i bath!
John Waters
Welcome to Dreamland: John Waters
chapter.org
Gyda’r cloc o’r chwith uchaf: Female Trouble, Pink Flamingos, Pink Flamingos, Polyester, Hairspray
Sinema
17
Sinema
The Guest
Chapter Wails
029 2030 4400
O’r chwith i’r dde: The Guest, Phase IV
18
Gwe 12 — Iau 18 Medi UDA/2014/100mun/15. Cyf: Adam Wingard. Gyda: Ethan Embry, Dan Stevens, Joel David Moore.
Mae’r Petersons yn galaru am eu mab, a laddwyd mewn brwydr, ac mae yna gysur o fath iddynt pan ddaw dieithryn i guro ar eu drws. Mae David, sydd newydd gael ei ryddhau o’r fyddin, yn honni ei fod wedi dod yno i gyflawni addewid a wnaeth i’r milwr marw ac fe gaiff groeso yn y cartref — ond mae cyfres o ddigwyddiadau rhyfedd yn gwneud i’r rhieni amau a yw popeth fel yr ymddengys. Ffilm gyffro slic, dreisgar a chyffrous sy’n cynnwys perfformiad tra nodedig gan Dan Stevens.
Clwb Ffilmiau Gwael:
Bug
UDA/1975/99mun/15. Cyf: Jeannot Szwarc. Gyda: Bradford Dillman, Joanna Miles, Richard Gilliland.
Ar ôl gwyliau haf dymunol, mae Nicko a Joe a’r Clwb Ffilmiau Gwael yn eu holau er mwyn eich helpu chi i ymdrybaeddu yn yr iselder sy’n dilyn pob peth braf... A does yna ddim ffordd well o gyfleu’r iselder hwnnw na thrwy gyfrwng chwilod miwtant duon sydd hefyd yn pyromaniacs! Yn Bug (1975), mae tref fechan yn colli pob rheolaeth ar ôl i ddaeargryn ddeffro’r creaduriaid aflonydd o’u trwmgwsg. Ond beth yw eu gwir fwriadau? Bydd yn rhaid i chi weld y ffilm i gael gwybod. Nodwch os gwelwch yn dda: Mae’r ffilm yn cynnwys sylwebaeth fyw ar ei hyd.
Phase IV Gwe 26 Medi
UDA/1974/82mun/PG. Cyf: Saul Bass. Gyda: Nigel Davenport, Michael Murphy, Lynne Frederick.
Yn anialwch Arizona, mae morgrug yn cychwyn ar gam esblygol newydd ac yn defnyddio eu deallusrwydd cyfun i frwydro yn erbyn trigolion y fan. Dim ond dau wyddonydd a merch leol all eu hatal. Ond mae gan y morgrug syniadau eraill. Yn unig ffilm nodwedd y dylunydd enwog, Saul Bass, mae deialog yn brin ond mae yna olygfeydd hynod ddylanwadol a llond gwlad o ddyfeisiau gweledol. + Ymunwch â ni am berfformiad cerddorol, The Mind Colony, cyn y ffilm ac, ar ôl y ffilm, am drafodaeth o themâu’r ffilm a’r genre arswyd, yng nghwmni’r gwneuthurwr ffilmiau — a ffan pybyr o ffilmiau arswyd — Ben Ewart-Dean. £2.50 (bydd angen prynu tocynnau ar gyfer y ffilm ar wahân).
I ddod yn fuan! Byddwn yn mynd ar ein pennau i fyd gwyddonias yr hydref hwn. Bydd yna ddangosiadau ffilm yn Chapter ac oddi ar y brif safle, mewn Cestyll ac mewn nifer o lleoliadau gwych eraill. Cadwch lygad ar agor am ddangosiadau aml-synhwyraidd a chwmpasol o’ch hoff ffilmiau gwyddonias clasurol.
chapter.org
Sinema
19
20,000 Days on Earth
Sineffonig “Mae’n rhaid i chi fod yn effro bob amser i ryw epiffani artistig bychan...” Nick Cave Finding Fela Noys R Us Gwe 5 — Iau 11 Medi
Mae Sinema Chapter, ar y cyd â The Full Moon, yn cyflwyno nosweithiau ffilm Noys R Us. Unwaith y mis byddwn yn dangos y ffilmiau alt / roc / metel / pync gorau. Yfwch, ymlaciwch a mwynhewch rai o’r ffilmiau cerddorol mwyaf ffrwydrol erioed.
UDA/2014/119mun/is-deitlau/TiCh. Cyf: Alex Gibney. Gyda: Fela Kuti, Yeni Kuti.
Stori am fywyd a chyfraniad cymdeithasol a gwleidyddol Fela Anikulapo Kuti, crëwr mudiad Afrobeat. Defnyddiodd Kuti gerddoriaeth i fynegi ei safbwyntiau gwleidyddol chwyldroadol yn erbyn llywodraeth unbenaethol Nigeria yn y 1970au a’r 1980au, ac roedd ei ddylanwad carismataidd yn gyfraniad at ddyfodiad democratiaeth i’r wlad ac yn fodd o hyrwyddo gwleidyddiaeth Pan-Affricanaidd yng ngweddill y byd.
20,000 Days on Earth
Mer 17 Medi + Gwe 26 Medi — Iau 2 Hydref DG/2014/97mun/15. Cyf: Iain Forsyth, Jane Pollard. Gyda: Nick Cave, Kylie Minogue, Warren Ellis, Ray Winstone.
Golwg feiddgar gan yr artistiaid Ian Forsyth a Jane Pollard ar brosesau artistig Nick Cave. Treuliwn ddiwrnod yn ei gwmni a chyfarfod â’r bobl sydd wedi cael dylanwad ar ei fywyd, yn bersonol ac yn broffesiynol. Yn cynnwys perfformiadau trydanol ac eiliadau o hiwmor coeglyd, mae’r ffilm yn ddathliad o rym trawsnewidiol yr ysbryd creadigol. + Ymunwch â ni ar gyfer rhagolwg arbennig ar ddydd Mercher 17, wedi’i ddilyn gan berfformiad byw gan Nick Cave, trwy loeren, o Ganolfan Barbican, yn ogystal â sesiwn holi-ac-ateb gyda chyfarwyddwyr y ffilm a gwesteion arbennig.
Kill All Redneck Pricks: KARP Lives! 1990-1998 Llun 8 Medi. Drysau’n agor: 7pm Ffilm yn dechrau: 8pm
UDA/2010/89mun/TiCh. Cyf: William Badgley.
Wedi’i gosod yn iwtopia roc indie y 90au cynnar, yn Olympia, Washington, mae ‘Kill All Redneck Pricks’, yn croniclo taith tri ffrind o blentyndod i fyd oedolion. Yn rhan o chwedloniaeth bandiau fel Beat Happening, Bikini Kill, Unwound a The Melvins, mae KARP yn adrodd hanes tri ffrind ifanc sy’n codi uwch eu hamgylchiadau cyfarwydd i ffurfio band. Dilynwn eu hynt a’u helynt wrth iddynt geisio gwireddu eu breuddwydion. Mae KARP yn ffilm am gerddoriaeth sydd, bymtheg mlynedd yn ddiweddarach, yn swnio mor ffres ag erioed. Hir oes i KARP! Cafodd y deunydd ei ddethol o blith rhyw 150 awr o gyfweliadau ac 20 awr o ffilmiau cyngerdd ac mae’n cynnwys cyfweliadau gyda The Melvins, Unwound, Calvin Johnson, Kathleen Hannah, Joe Preston ac eraill lawer.
Sinema
029 2030 4400
Night Moves
Life of Crime
Gwe 5 — Iau 11 Medi
Gwe 12 — Iau 25 Medi
UDA/2013/112mun/15. Cyf: Kelly Reichardt. Gyda: Jesse Eisenberg, Dakota Fanning, Peter Sarsgaard.
UDA/2014/94mun/TiCh. Cyf: Daniel Schechter. Gyda: John Hawkes, Mos Def, Tim Robbins, Jennifer Anniston.
Mae tri amgylcheddwyr radical o gefndiroedd gwahanol iawn yn dod at ei gilydd i gymryd rhan ym mhrotest fwyaf eu bywydau: ffrwydro argae hydroelectrig, sydd yn ffynhonnell ac yn symbol o ddiwylliant diwydiannol atgas. Mae’r ffilm yn fyfyrdod llawn tensiwn ar ganlyniadau eithafiaeth wleidyddol a gweithredu i newid y byd.
Wedi’i haddasu o lyfr Elmore Leonard, The Switch, mae hon yn stori wedi’i gosod yn y 1970au am fândroseddwyr sy’n herwgipio gwraig dyn busnes ‘sleazy’ a chyfoethog. Pan ddaw hi’n amlwg nad yw hwnnw’n rhyw awyddus iawn i gael ei wraig yn ôl, gwelwn gyfres o ddigwyddiadau twyllodrus a chymhleth. Comedi ddu sionc sy’n plethu plot abswrdaidd, deialog disglair a pherfformiadau gwych.
Gwe 5 — Iau 11 Medi
The Grand Seduction
Gwlad Belg/2014/95mun/is-deitlau/15. Cyf: Jean-Pierre Dardenne, Luc Dardenne. Gyda: Marion Cotillard, Fabrizio Rongione.
Gwe 12 — Iau 25 Medi
Mae Sandra’n dychwelyd i’r gwaith ar ôl dioddef o iselder ac yn cael bod ei chydweithwyr wedi dewis cadw bonws o €1,000 a roddwyd iddynt ar ôl i’w swydd hi gael ei diddymu. Mae ganddi benwythnos i’w perswadio i newid eu meddyliau cyn iddynt bleidleisio mewn pleidlais gudd ar fore dydd Llun. Ffilm am wedduster ac ymddygiad dynol yn wyneb straen ariannol.
Canada/2014/113mun/12A. Cyf: Don McKellar. Gyda: Brendan Gleeson, Taylor Kitsch, Liane Balaban.
Rhaid i bentref pysgota bychan yn Newfoundland gyflogi meddyg er mwyn ennill cytundeb busnes o bwys. A phan ddaw, Paul, meddyg o’r ddinas fawr, ar gyfnod prawf i’r pentref, mae’r trigolion yn gwneud eu gorau glas i’w berswadio i aros.
Gyda’r cloc o’r chwith uchaf: Night Moves, Life of Crime, Two Days, One Night
20
Two Days, One Night
+ Is-deitlau meddal ar ddydd Llun 15 Medi, 6pm, dydd Mawrth 16 Medi, 10.30am a dydd Sul 21 Medi, 8pm. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).
chapter.org
Sinema
21
Gyda’r cloc o’r brig: Accident, Hell is a City, Accident
Arolwg o yrfa Stanley Baker
Accident
Hell is a City
DG/1967/101mun/12A. Cyf: Joseph Losey. Gyda: Dirk Bogarde, Stanley Baker, Jacqueline Sassard, Michael York.
DG/1960/92mun/PG. Cyf: Val Guest. Gyda: Stanley Baker, Donald Pleasence, Billie Whitelaw.
Mae Stephen yn athro prifysgol priod yn Rhydychen ac yn wynebu argyfwng canol oed a gormes emosiynol ei gymdeithas barchus. Ond mae pethau’n newid ar ôl iddo gyfarfod ag Anna, myfyrwraig hardd sydd yn ddyweddi i un arall o’i fyfyrwyr. Er ei fod yn teimlo’n fyw yn ei phresenoldeb, all teimladau Stephen at Anna arwain at ddim ond un pen draw: trasiedi. Wedi’i sgriptio gan Harold Pinter, mae’r ffilm hon yn astudiaeth gynnil a ffraeth o densiwn rhywiol a gwrthdaro rhwng dosbarthiadau economaidd.
Mae’r Arolygydd Martineau yn amau bod lleidr ar ffo, Don Starling, yn mynd i ddychwelyd i Fanceinion i nôl y gemau a guddiodd cyn cael ei ddyfarnu’n euog — ac mae llofruddiaeth greulon yn awgrymu fod amheuon yr Arolygydd yn iawn. Mae e’n dechrau erlid y llofrudd, felly, ynghyd â’r criw o ddynion sy’n gweithio gydag ef, wrth i’r tensiwn gynyddu bob gafael. Mae’r criw, o un i un, yn syrthio — a dim ond y llofrudd sydd ar ôl bellach...
Sul 31 Awst + Maw 2 Medi
Sul 7 + Maw 9 Medi
Sinema
029 2030 4400
Spring in a Small Town
22
‘Electric Shadows’: Canrif o Sinema Tsieina O hudoliaeth a dyfais y 1930au ac oes aur Shanghai, i gyfyngiadau’r Chwyldro Diwylliannol ac adfywiad yr ysbryd annibynnol tua diwedd yr 20fed ganrif a dechrau’r 21ain, cawn flas, y mis hwn, o hanes cyfoethog Sinema Tsieina.
Song at Midnight
In the Mood for Love
Maw 2 Medi
Maw 16 Medi
Tsieina/1937/113mun/is-deitlau/PG. Cyf: Weibang Ma-Xu. Gyda: Menghe Zu, Ping Hu, Shan Jin.
Tsieina/2000/92mun/is-deitlau/PG. Cyf: Wong Kar-Wai. Gyda: Tony Leung, Maggie Cheung.
Daeth y fersiwn sain gyntaf o Phantom of the Opera nid o Hollywood ond o Tsieina. Caiff y canwr opera, Dan-Ping, ei anffurfio’n ofnadwy gan ryfelwr treisgar sy’n ei amau o fod â chysylltiadau â’i elynion gwleidyddol. Mae e’n ffoi, felly, i drawstiau’r tŷ opera gwag i hiraethu am ei gariad, merch y rhyfelwr ei hun. Mae Weibang yn cynnal teimlad o wae drwy gyfrwng sinematograffi melodramatig a pherfformiad theatraidd yr actor, mewn ffilm a ystyrir gan lawer yn ffilm arswyd gyntaf y diwydiant Tsieineaidd.
Mae dyn a menyw yn symud, ar yr un diwrnod, i fflatiau cyfagos yn Hong Kong ac yn ffurfio cwlwm cyfrin ar ôl amau bod eu partneriaid yn cael affêrs. Maent yn cyfarfod yn y dirgel, ac yn dychmygu wynebu eu partneriaid â’u hamheuon, wrth i’w perthynas eu hunain ddatblygu... Ystyrir y ffilm hon yn un o gampweithiau ‘Ail Don’ sinema Hong Kong; mae’n bortread sensitif a gweledol gyfoethog o ffataliaeth, ymataliaeth a disgwyliad.
Spring in a Small Town Maw 9 Medi
Tsieina/1948/98mun/is-deitlau/U. Cyf: Fei Mu. Gyda: Chaoming Cui, Wei Li, Yu Shi.
Mae’r claf diglefyd ac isel ei ysbryd, Liyan, yn byw mewn tŷ wedi’i ddifrodi gan fomiau Japan ac yn tindroi yn yr adfeilion ac mewn priodas anhapus. Pan ddaw meddyg swynol i ymweld â’r teulu, mae ei wraig, Yuwen, yn datgelu’r teimladau cudd sydd ganddi at ei chyn-gariad ac fe gaiff ei thynnu rhwng hiraeth a dyletswydd. Mae perfformiad Wei Wei yn rhan Yuwen yn wych ac mae ei thros-lais hiraethus yn cynnig cipolwg ar deimladau cymhleth. Llwyddodd Fei Mu i greu darn ensemble hudolus sydd yn astudiaeth gynnil a grymus o angerdd dan glo, hannergwirioneddau ac ysbrydion y gorffennol. Gyda diolch i Archif Ffilm Tsieina.
The Red Detachment of Women Maw 23 Medi
Tsieina/1961/92mun/is-deitlau/U. Cyf: Xie Jin. Gyda: Qiang Chen, Niu Tei, Xin-Gang Wang.
Un o chwe ffilm a wnaed yn ystod Chwyldro Diwylliannol Mao Zedong — a ffilm o fawl i ‘kitsch’ Comiwnyddol. Mae’r werinwraig, Wu Qinghua, yn ffoi o’i phentref a chrafangau arglwydd lleol creulon ac yn ymuno â byddin o filwyr benywaidd o’r enw ‘The Red Detachment of Women’, sy’n rhyddhau’r pentref ac yn diorseddu’r unben treisgar. Addasiad o’r ballet o’r un enw, mae’r ffilm wedi’i gosod yn ystod dyfodiad gwleidyddol y Comiwnyddion. Mae’n gân feiddgar a theatrig o fawl i Mao yr Ymerawdwr Coch ac yn enghraifft glasurol o bropaganda amrwd.
chapter.org
Sinema
Gyda’r cloc o’r brig: Song at Midnight, the Red Detachment of Women, In the Mood for Love
Trefnwyd y rhaglen ar y cyd â TIFF a’r BFI.
23
Sinema
029 2030 4400
O’r brig: Wakolda, Leave to Remain
24
Wakolda
Dinosaur 13
Gwe 19 — Iau 25 Medi
Gwe 12 — Iau 18 Medi
Ariannin/2013/93mun/is-deitlau/15arf. Cyf: Lucia Puenzo. Gyda: Natalia Oreiro, Diego Peretti, Alex Brendemuhl.
UDA/2014/113mun/PG. Cyf: Todd Douglas Miller. Gyda: Stan Adelstein, Lanice Archer, Robert Bakker.
Ffilm drawiadol, gynnil, lawn tensiwn sy’n archwilio’r berthynas rhwng Lilith, merch benfelen, lygatlas o’r Ariannin, a Josef Menegle, y meddyg Natsïaidd ar ffo o ganlyniad i’w droseddau yn Auschwitz. Nid yw Lilith a’i theulu’n ymwybodol o orffennol Mengele ond, i’r gwyliwr, mae’r tensiwn yn annioddefol, wrth i berthynas y ddau ddatblygu. Ffilm atmosfferig, ryfeddol, sy’n llawn delweddau godidog o Batagonia.
Leave to Remain Gwe 19 — Iau 25 Medi
DG/2014/89mun/15. Cyf: Bruce Goodison. Gyda: Jake Davies, Toby Jones, Zarrien Masieh.
Mae’r arddegwr Affgan, Omar, ar fin clywed canlyniad ei gais am statws ffoadur pan ddaw bachgen o adre’ a bygwth newid popeth. Rhwng bywyd a marwolaeth, mae gan Omar ddau ddewis: dweud y gwir anhygoel neu adrodd stori dda. Â pherfformiadau pwerus gan gast sydd, gan mwyaf, yn ffoaduriaid eu hunain, mae’r ffilm yn dangos yr hyn sy’n digwydd pan ddaw pobl ifainc ar eu pennau eu hunain i wlad elyniaethus: Y Deyrnas Gyfunol.
Roedd y paleontolegydd Peter Larson a’i dîm o Sefydliad Black Hills yn gyfrifol am y darganfyddiad pwysicaf erioed o olion deinosor yn 1990; y Tyrannosaurus Rex mwyaf a mwyaf cyflawn erioed. Ond yn ystod brwydr ddengmlynedd o hyd gyda llywodraeth yr Unol Daleithiau, amgueddfeydd pwerus, llwythau o Americanwyr Brodorol a gwyddonwyr, cawsant eu hunain yn brwydro nid yn unig i gadw eu deinosor ond i amddiffyn eu rhyddid hefyd.
Sinema
Pride
chapter.org
Pride Mer 10 Medi + Gwe 26 Medi — Iau 9 Hydref DG/2014/120mun/15. Cyf: Matthew Warchus. Gyda: Imelda Staunton, Lisa Palfrey, Jessica Gunning, Bill Nighy, Dominic West, Paddy Considine, George MacKay.
Haf 1984. Mae Margaret Thatcher yn Brif Weinidog ac mae Undeb Cenedlaethol y Glowyr ar streic. Yn Llundain, mae ymgyrchwyr lesbiaidd a hoyw yn penderfynu codi arian i gefnogi teuluoedd y glowyr, ond mae yna broblem, â’r NUM fel petai’n anfodlon derbyn eu cefnogaeth. Maent yn penderfynu mynd at y glowyr yn uniongyrchol, felly, ac yn clustnodi pentref glofaol yng Nghwm Dulais. Mae hon yn stori wir ryfeddol ac angerddol am ddwy gymuned ymddangosiadol wahanol sy’n ffurfio partneriaeth orfoleddus. + Ymunwch â ni ar ddydd Mercher 10 Medi am ragolwg arbennig yng nghwmni BAFTA Cymru ac aelodau o’r cast a’r criw. Nifer cyfyngedig o docynnau fydd ar gael felly archebwch ymlaen llaw.
BAFTA Cymru’n cyflwyno: Mae hi bron yn amser dyfarnu Gwobrau Academi Brydeinig Cymru ac mae yna gyfle i chi weld y tair ffilm ar y rhestr fer cyn i’r enillydd gael ei gyhoeddi yn y seremoni wobrwyo ar ddydd Sul 26 Hydref (gweler www.bafta.org/cymru am fwy o wybodaeth). Cyn pob un o’r tri dangosiad bydd cyfle i weld y tair ffilm fer a enwebwyd ar gyfer y Wobr am Ffilm Fer ac Animeiddio. Dewch i fod yn rhan o gyffro’r BAFTAs. Gweler ein gwe-fan, www.chapter.org — bydd mwy o fanylion ar gael ar ôl 12 Medi.
Stephen Phillips Swyddog Dros Dro, Rhaglen y Sinema. Wrth iddi ddechrau tywyllu rhyw fymryn yn gynt, byddaf yn y sinema a hynny am ran fwyaf y mis wrth i ddau dymor rhagorol gychwyn: teyrnged twymgalon i frenin ‘trash’, John Waters, a’n tymor gwyddonias epig, sy’n dechrau â ‘Phase IV’. Yn ogystal â hynny, bydd yna ddangosiad lloeren byw o ddramaddogfen Nick Cave ‘20,000 Days on Earth’ a pherfformiad byw o’r Barbican. Mae hynny’n addo bod yn wych. Byddaf hefyd yn cymryd rhan yn Niwrnod Agored Elusennol ein gardd gymunedol wrth i ni ddechrau meddwl am blannu hadau at y gwanwyn.
25
Sinema
029 2030 4400
In Order of Disappearance
Of Horses and Men
Gwe 26 Medi — Maw 7 Hydref
Llun 29 Medi — Iau 2 Hydref
Norwy/2014/116mun/is-deitlau/15. Cyf: Hans Petter Moland. Gyda: Stellan Skarsgård, Kristofer Hivju, Bruno Ganz.
Gwlad yr Iâ/2013/81mun/is-deitlau/15. Cyf: Benedikt Erlingsson. Gyda: Ingvar E. Sigurdsson, Charlotte Bøving.
Yn y ffilm gyffro hon, sydd mor dywyll a chomig ag y mae eira’n wyn, down i adnabod Nils, Dinesydd y Flwyddyn, ym mynyddoedd gwyllt Norwy. Caiff y dathliadau eu difetha ar ôl i’w fab gael ei lofruddio. Yn benderfynol o ddial, mae ei weithredoedd yn tanio rhyfel rhwng y gangster fegan, ‘The Count’, a phennaeth y maffia Serbaidd, ‘Papa’. Nid ar chwarae bach y mae ennill brwydr o’r fath — ond mae gan Nils ddau beth o’i blaid: peiriannau trymion a lwc mwngrel.
Wedi’i hadrodd mewn cyfres o vignettes, mae hon yn stori am bobl yng nghefn gwlad garw Gwlad yr Iâ a’r symbiosis a’r ymwahanu rhwng dynion a cheffylau. Mae yma olygfeydd godidog a rhoddir sylw hefyd nid yn unig i harddwch ceffylau ond i’w personoliaethau a’u hystumiau unigol. Cyd-blethir cariad a marwolaeth ac mae’r canlyniadau’n rhyfeddol. Gwelwn hynt a helynt pobl trwy lygaid a thrwy gyfrwng hiwmor sych y ceffylau.
O’r brig: In Order of Disappearance, Of Horses and Men
26
“Ffilm gyntaf o brydferthwch oeraidd a fydd yn llonni’ch calon” Robbie Collin, The Telegraph
Sinema
27
NT Live: Medea
chapter.org
RSC: The Two Gentlemen of The Institution Sul 28 Medi Verona Cyfarwyddo a Choreograffi gan Sean Tuan John Darllediad Byw: Mer 3 Medi Drysau’n agor: 6.30pm. Llif byw: 7pm Encores: Sul 14 Medi + Llun 22 Medi Cyf: Simon Godwin.
Mae Valentine a Proteus yn ffrindiau pennaf — tan i’r ddau ohonynt syrthio mewn cariad â Silvia, merch Dug Milan. Mae Proteus eisoes wedi tyngu llw i Julia, yn eu cartref yn Ferona, ac nid yw’r Dug yn credu bod Valentine yn deilwng o’i ferch. Caiff y cariadon eu hunain ar helfa wyllt drwy’r coed, ac fe fydd yna gymhlethdodau di-ri i’w goroesi — heb sôn am herwyr ffyrnig — cyn daw cymod.
NT Live
Medea Iau 4 Medi Cyf: Carrie Cracknell. Gyda: Helen McCrory.
Mae Medea, er lles ei gŵr, Jason, wedi gadael ei chartref ac wedi esgor ar ddau fab yn ystod ei halltudiaeth. Ond ar ôl iddo fe adael ei deulu i ddechrau bywyd newydd, mae Medea yn wynebu colli’i phlant. Mewn cyfyng-gyngor, mae hi’n gofyn am ddiwrnod o ras ac yn cychwyn proses ofnadwy o ddial — gan ddinistrio popeth sy’n annwyl iddi. Mae gweithredoedd ofnadwy yn blaguro mewn calonnau ar chwâl.
Cymru/2014/30mun/15.
Mae’r ffilm ddawns bryfoclyd hon yn dangos 24 awr mewn adran lywodraethol ddychmygol lle caiff y gwesteion gynnig therapi a sesiynau dad-rhaglennu er mwyn iddynt gael eu hadsefydlu a gallu dychwelyd i gymdeithas afreolus y tu hwnt i furiau’r sefydliad. Mae’r ffilm yn cymysgu hiwmor tywyll, dawnsio idiosyncratig ac emosiwn corfforol tanbaid wrth i’r camera hedfan a hofran, yn osgeiddig ac yn voyeuraidd, drwy ystafelloedd a choridorau gan dystio i ymdrechion rhyfedd y gweithwyr i orfodi’r trigolion i ddawnsio’u hofnau. Mae’r canlyniadau yn gomig, yn drasig ac yn erchyll. + Ymunwch â ni am sesiwn holi-ac-ateb gyda’r cyfarwyddwr a chwmni dawns uhhuh wedi’r ffilm.
28
Sinema
029 2030 4400
Ffilmiau i’r Teulu Cyfan
Noddir gan Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk 02920 666688
Planes 2: Fire and Rescue (2D)
Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn a dydd Sul am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn. Archebwch ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.
Carry on Screaming!
Bob dydd Gwener am 11am, mae Carry On Screaming yn galluogi i rieni neu ofalwyr weld ffilm heb orfod poeni y bydd eu babi’n aflonyddu ar eraill. Gweler y calendr am fanylion y dangosiadau arbennig hyn ar gyfer y rheiny â babanod dan flwydd oed.
Dawn of the Planet of the Apes (2D) Gwe 5 + Sad 6 Medi
UDA/2014/130mun/12A. Cyf: Matt Reeves.Gyda: Andy Serkis, Jason Clarke, Gary Oldman, Keri Russell, Toby Kebbell, Kodi SmitMcPhee, Kirk Acevedo, Judy Greer.
Yn sgil dirywiad araf y gwareiddiad dynol, mae’r tsimpansî, Caesar, yn rheoli cymdeithas heddychlon o epaod sy’n benderfynol o fyw ar y cyd â dynion. Yn erbyn ei ewyllys, caiff ei hun yn rhan o frwydr am oruchafiaeth gyda’r Dreyfus creulon a’i garfan o fodau dynol dialgar. + Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn Sinema 1 (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau.)
Guardians of the Galaxy Sad 13 + Sul 14 Medi UDA/2014/122mun/12A. Cyf: James Gunn. Gyda: Chris Pratt, Vin Diesel, Bradley Cooper, Glenn Close, Benicio Del Toro.
Yn rhannau mwyaf pellennig y gofod, mae’r peilot Americanaidd, Peter Quill, yn cael ei erlid yn ffyrnig ar ôl iddo ddwyn orb y mae’r Ronan ysgeler yn awyddus i’w gael iddo’i hun.
Planes 2: Fire and Rescue (2D) Sad 20 + Sul 21 Medi
UDA/2014/84mun/U. Cyf: Roberts Gannaway. Gyda: Dane Cook, Julie Bowen, Patrick Warburton.
Mae Dusty, yr awyren rasio byd-enwog, yn herio ffawd a pheiriant wedi torri i frwydro tân mawr gwyllt ar y cyd â thîm o awyrennau dewr, hofrennydd a chriw gorhyderus o gerbydau 4x4. Ac mae e’n dysgu, wrth i’r antur fynd rhagddi, sut i fod yn arwr...
Godzilla (2D)
Sad 27 + Sul 28 Medi UDA/2014/123mun/12A. Cyf: Gareth Edwards. Gyda: Aaron TaylorJohnson, Elizabeth Olsen, Bryan Cranston, Juliette Binoche.
Yn groes i’r disgwyl, mae’r llywodraeth wedi llwyddo i gadw Godzilla’n gyfrinach. Ond mae brenin y madfallod yn cael ei ddeffro o’i drwmgwsg gan archwiliadau cyson y tad a’r mab, Joe a Ford Brody. Canlyniad anochel hyn yw anhrefn, tswnamis a brwydr epig â’r anifail ysglyfaethus hynafol. + Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn Sinema 1 (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau.)
chapter.org
Addysg
29
ADDYSG
Moviemaker Iau
Sad 6 Medi 10.30am-12pm Os ydych chi rhwng 9 ac 16 oed ac yn wneuthurwr ffilm brwd, dewch i weld yr hyn sydd gennym i’w gynnig. Byddwn yn gwylio ac yn trafod ffilmiau byrion ac yn dangos eich ffilmiau chi hefyd. Nodyn i rieni: Fe allai’r ffilmiau byrion a ddangosir yn ystod sesiynau Moviemaker Iau gynnwys golygfeydd sy’n cyfateb â thystysgrif PG y BBFC. £1.50
Animeiddio ar gyfer Pobl Ifainc ar Sbectrwm Awtistiaeth O ddydd Mercher 1 Hydref 5.30 — 7pm (am 10 wythnos) 8-18 oed
Yn dilyn blwyddyn gyntaf lwyddiannus ein cyrsiau animeiddio i bobl ifainc ar sbectrwm awtistiaeth a phobl ifainc ag anghenion addysgol arbennig, byddwn yn cynnal cwrs arall 10-wythnos o hyd. Mae’r sesiynau 90-munud o hyd hyn yn caniatáu i bobl ifainc fagu hyder cymdeithasol ac i ddysgu a datblygu sgiliau animeiddio mewn cyd-destun cefnogol a chreadigol. Bydd pob sesiwn yn hunangynhaliol neu gellir hefyd fynychu’r sesiynau fel cyfres. Gall ein staff profiadol drefnu rhaglenni dysgu unigol os bydd angen hefyd. Nifer cyfyngedig o leoedd fydd ar gael bob wythnos. Er mwyn cymryd rhan, cysylltwch â learning@chapter.org. Bydd Chapter hefyd yn ehangu’r rhaglen er mwyn cyflwyno nifer cyfyngedig o sesiynau blasu mewn ysgolion sy’n darparu gwasanaethau i bobl ifainc ar sbectrwm awtistiaeth. Os ydych yn credu y gallai eich ysgol chi fod yn gymwys i gymryd rhan, cysylltwch â ni i drefnu gweithdy.
£25
I ddod yn fuan:
Dangosiad o Tsotsi + Sesiwn holi-ac-ateb Llun 20 Hydref 12pm
Bydd y dangosiad hwn i ysgolion, sy’n addas ar gyfer myfyrwyr Lefel AS/A2, yn berffaith ar gyfer y rheiny sy’n astudio sinema’r byd. Dilynir y dangosiad gan gyfweliad â Presley Chwenegae, sy’n chwarae’r brif ran yn y ffilm nodedig hon, a enillodd Oscar yn 2005. Nifer cyfyngedig o leoedd fydd ar gael ar gyfer y digwyddiad poblogaidd hwn, ac fe allai fod yna alw mawr amdanynt. Sicrhewch, felly, eich bod yn archebu eich tocynnau mewn da bryd. I brynu tocynnau, cysylltwch â’n swyddfa docynnau 029 2030 4400. £5 i bob myfyriwr.
Academi Ffilm Pobl Ifainc Ionawr 2015
Yn ystod mis Mehefin a mis Gorffennaf, trefnodd Chapter ddwy Academi Ffilm i bobl ifainc mewn dau leoliad gwahanol. Daeth cyfanswm o 35 o bobl ifainc i gymryd rhan a, thros gyfnod o bedair wythnos, aethant ati i ddysgu elfennau sylfaenol hanes ffilm, iaith ffilm, a thechnegau cyfarwyddo a golygu. Cynhelir y ddwy Academi nesaf ym mis Ionawr 2015 ac fe fyddant yn addas ar gyfer plant 9-12 oed. I gadw lle, cysylltwch â learning@chapter.org Mae Ffotogallery yn trefnu cyrsiau achrededig mewn ffotograffiaeth, fideo digidol a fideo ar y we, yn ystafelloedd dosbarth y sefydliad yma yn Chapter. Gallwch weld yr hyn sydd ar gael yn ystod mis Medi fan hyn: http://www.ffotogallery.org/cy/cyrsiau. Fel arall, gallwch e-bostio education@ffotogallery.org i gael prosbectws.
30
Archebu / Gwybodaeth
029 2030 4400
GWYBODAETH Sut i Archebu Tocynnau
Gwybodaeth
Dros y ffôn — ffoniwch ni ar 029 2030 4400. Rydym yn derbyn pob un o’r prif gardiau credyd. Galwch heibio — mae ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 11am-8.30pm, ac ar y Sul o 3pm–8.30pm. Ar-lein: Gallwch archebu ar www.chapter.org bob awr o’r dydd a’r nos Consesiynau: Mae cyfraddau disgownt ar gael i fyfyrwyr, pobl dros 60 oed, plant, y di-waith, pobl anabl, deiliaid cerdyn MAX ac i Ffrindiau Chapter a deiliaid Cerdyn Chapter. Bydd angen i chi gyflwyno prawf o’ch cymhwyster i dderbyn cyfradd ostyngol. Archebion grŵp: Prynwch 8 tocyn ac fe gewch chi’r 9fed yn RHAD AC AM DDIM. Noder os gwelwch yn dda • dim ond un disgownt y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw un adeg • rydym yn hapus i dderbyn archebion ymlaen llaw ond ni allwn gadw tocynnau i’r naill ochr • os cyrhaeddwch chi’n hwyr mae hi’n bosib y cewch chi’ch atal rhag mynychu eich digwyddiad. Cyflwynir rhai o’n ffilmiau â Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ond nid yw’r wybodaeth hon bob amser ar gael ar adeg argraffu’r cylchgrawn. Gweler ein gwe-fan am fanylion neu piciwch draw i’r Swyddfa Docynnau yn ystod yr wythnos y mae’r ffilm yn cael ei rhyddhau.
Cwmnïau ac Artistiaid Cysylltiedig Mae Chapter yn gartref i gwmnïau theatr, cwmnïau dawns, stiwdios animeiddio, gwneuthurwyr printiau, crochenwyr, dylunwyr graffeg, dylunwyr deunydd symudol, cyfansoddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, cyhoeddwyr cylchgronau, artistiaid annibynnol a llawer iawn mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.
Sinema Cyn 5pm O 5pm ymlaen £4.50 (£4.00) £7.90 (£7.20) Llawn Cons £3.50 (£3.00) £5.80 (£5.10) Cerdyn + Cons £3.00 (£2.50) £5.00 (£4.50) DISGOWNT DYDD MAWRTH Tocynnau’r holl brif ddangosiadau — £4.40
Gweithdai a Dosbarthiadau Rydym yn cynnal amrywiaeth eang o weithdai dyddiol a dosbarthiadau gydag ymarferwyr annibynnol, gan gynnwys ballet, zumba, ioga, crefft ymladd, massage i fabanod, cerddoriaeth i blant, pilates, tango, fflamenco, ysgrifennu creadigol, gwersi cerddoriaeth a mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.
Sut i gyrraedd Chapter Fe ddewch chi o hyd i ni yn Nhreganna, i’r gorllewin o ganol y ddinas. Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE Ar Droed Mae hi’n daith gerdded hamddenol o ryw 20 munud o ganol y ddinas. Ar Fws Mae bysus rhif 17, 18 a 33 yn aros gerllaw ac yn gadael bob pum munud o ganol y ddinas. Ar Feic Mae digon o raciau beic ar flaen yr adeilad. Parcio Mae gennym faes parcio yng nghefn yr adeilad ac mae meysydd parcio lleol eraill wedi eu nodi ar y map. Gofynnwn i chi barchu ein cymdogion os gwelwch yn dda drwy osgoi parcio mewn strydoedd cyfagos.
Prisiau ymlaen llaw/ar-lein mewn cromfachau. Mae “Ymlaen llaw” yn golygu unrhyw bryd cyn diwrnod y dangosiad.
aff nd Lla d Roa
e St. Glynn
arc
lyF
Heo
o 6pm
St
St. ay
Treganna
Lec h kwit
Church Rd.
Heol Ddwy rein i o l y B o n t F a en Penllyn Rd.
Harve
H am i l t o n
t
Gr
cen res
Road
mC ha nd Wy
rn Seve
ane
. Library St
L Gray
Market Pl. treet yS
St Talbot
Or c h a r d P l.
ad King’s Ro
d hna
Springfield Pl.
St. Gray
rt S
t.
Road
Earle Pl.
A l be
P — meysydd parcio rhad ac am ddim — rac feics
— arhosfan bysus
I Ganol Dinas Caerdydd to ling Wel
t ree n St
Mynediad i bawb Mae Chapter yn croesawu ymwelwyr anabl. Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad penodol ffoniwch ein swyddfa docynnau ar 029 2030 4400, minicom 029 2031 3430.
chapter.org
Cymryd Rhan
31
CYMRYD RHAN Cerdyn CL1C
Cadwch mewn cysylltiad
Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawrlwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!
Ymunwch â ni ar-lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.
Ffrindiau Chapter Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40
eAmserlen rad ac am ddim eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch adam.chard@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.
Cynllun Myfyrwyr Chapter Ydych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth am ddim a manteisio ar gynigion arbennig nodedig, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Jennifer — jennifer.kirkham@chapter.org www.chapter.org/cy/aelodaeth-myfyrwyr-chapter
Hoffai Chapter gydnabod cefnogaeth hael y sefydliadau a’r grwpiau canlynol:
Landfill Community Fund Esmée Fairbairn Foundation EU Culture Programme The Baring Foundation Garfield Weston Foundation Foyle Foundation Biffa Award Colwinston Charitable Trust Admiral Group plc Moondance Foundation Foundation for Sport and the Arts Trusthouse Charitable Foundation Community Foundation in Wales BBC Children in Need The Waterloo Foundation ScottishPower Green Energy Trust The Welsh Broadcasting Trust SEWTA
Richer Sounds The Clothworkers’ Foundation Momentum WRAP The Henry Moore Foundation Google The Principality Jane Hodge Foundation Simon Gibson Charitable Trust People’s Postcode Trust Dunhill Medical Trust Legal & General Institut für Auslandsbeziehungen e.V Millennium Stadium Charitable Trust The Ernest Cook Trust Lloyds TSB Morgan Signs Garrick Charitable Trust
Barclays Arts & Business Cymru Penderyn The Austin & Hope Pilkington Trust Singapore International Foundation Puma Hotels Collection: Cardiff Angel Hotel Cardiff Airport Wales Arts International Gibbs Charitable Trust Ceredigion Community Scheme The Steel Charitable Trust The Boshier-Hinton Foundation Taylor Wimpey 1st Office Oakdale Trust Dipec Plastics Nelmes Design
The Coutts Charitable Trust Bruce Wake Charity Funky Monkey Feet Finnis Scott Foundation Unity Trust Bank Hugh James Contemporary Art Society for Wales The Dot Foundry JVH Gidden & Rees Western Power Distribution Follett Trust Arts & Kids Cymru Canton High School Girl’s Reunion Co-operative Group Renault Cardiff Embassy of Belgium Queensland Government