029 2030 4400
@chaptertweets
chapter.org
02
Croeso
029 2030 4400
CROESO Ar ôl hoe fach dros yr haf, mae ein theatr yn gyffro i gyd unwaith eto ac mae yna ddewis ardderchog o ddramâu, comedi a gigs i gyfarch y tymor newydd (tt10-15). Mae Motherlode yn ôl ar ôl taith lwyddiannus yn America a byddant yn cyflwyno The Good Earth, drama amserol am drigolion pentref bach sy’n ymladd yn erbyn datblygiad corfforaethol i geisio diogelu ei ffordd o fyw (tt10-11). Mae’r diwrnod mawr ar gyrraedd o’r diwedd – ar ddydd Mawrth 13 Medi byddwn yn dathlu canmlwyddiant geni Roald Dahl â detholiad gwych o ffilmiau, gan gynnwys dangosiad gwisg ffansi o The Witches a dangosiad ‘crafu ac arogli’ o Matilda (tt18-21). Ymunwch â ni i ddathlu un o storïwyr mwyaf poblogaidd Cymru! Y mis hwn byddwn yn gwneud y mwyaf o ddyddiau ola’r haf yn yr awyr agored ... Efallai eich bod chi eisoes yn gwybod am blotiau gwobrwyol Gerddi Cymunedol Canton o amgylch ein hadeilad. Os nad ydych, bydd yna ddiwrnod agored ar Sad 3 Medi (t17). Bydd hwn yn gyfle gwych i archwilio’r ardd a’i chwch gwenyn ardderchog ac i ddysgu mwy amdanynt. Dyma’n garddwr, Roger Phillips, i sôn ychydig mwy am bethau. Diolch am ddarllen ac fe welwn ni chi cyn hir!
Defnyddiwch y côd QR hwn i lawr-lwytho copi digidol o gylchgrawn Chapter
Delwedd y clawr: Julieta
Roeddem wrth ein boddau pan ddyfarnwyd Gwobr Baner Werdd gan Cadw Cymru’n Daclus i Erddi Cymunedol Treganna yn gynharach eleni. Mae’r wobr yn cydnabod parciau a mannau gwyrdd o safon uchel. Mae’r gwirfoddolwyr wedi mwynhau blwyddyn arall o dwf a llewyrch yn ein ‘gardd fwytadwy’. Bu’r malwod hefyd yn frwd iawn eleni, felly mae’r letys yn brin ond mae’r danadl yn tyfu’n dda ac yn denu pryfed, sydd o fudd mawr i’r ardd. Mae’r danadl hefyd yn dda iawn mewn cawl. Mae ysgolion lleol yn dal i ymweld ac i fwynhau blasu popeth -
mae’r garlleg gwyllt yn ffefryn bob amser. Rydym yn croesawu gwirfoddolwyr o 6.30pm ar nos Lun ac o 9.30am ymlaen ar fore dydd Iau. Ein digwyddiad nesaf fydd Diwrnod Elusennol Gerddi Agored NGS ar ddydd Sadwrn 3 Medi (11.30am-2.30pm) pan fyddwn yn gwerthu mêl gwenyn Chapter ac yn cynnig cyfle i brynu planhigion ac i siarad â’n gwirfoddolwyr. Caiff y tâl mynediad o £3 ei gyfrannu at elusen y Cynllun Gerddi Cenedlaethol ac fe gewch chi baned a chacen a chyfle i flasu cynnyrch yr ardd.
I gael mwy o wybodaeth am Ddiwrnod Elusennol Gerddi Agored NGS trowch i dudalen 17.
Chapter Heol y Farchnad, Caerdydd CF5 1QE 029 2030 4400 www.chapter.org ymholiadau@chapter.org
Dylunio: Nelmes Design
Roger Phillips Garddwr a Chydlynydd Gwirfoddolwyr, Gerddi Cymunedol Treganna
chapter.org
Uchafbwyntiau
Celf tudalennau 4–7
Bwyta Yfed Llogi tudalen 8
Cefnogwch Ni
03
CYMRYD RHAN
tudalen 9
Perfformiadau Cerdyn CL1C tudalennau 10–15
Chapter Mix tudalennau 16–17
Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawrlwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!
Ffrindiau Chapter Ffilm tudalennau 18–30
Addysg tudalen 31
Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40
Clwb Chapter
Gwybodaeth a Sut i archebu tocynnau tudalen 32
Cynllun aelodaeth Chapter i fusnesau. Am ffi flynyddol fechan, gall eich busnes chi fwynhau manteision sylweddol yn Chapter, gan gynnwys gostyngiadau i chi a’ch staff ar fwyd, diod a thocynnau. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.chapter.org/cy/chapter-clwb.
Cadwch mewn cysylltiad Ymunwch â ni ar-lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.
eAmserlen rad ac am ddim Cymryd Rhan
eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch adam.chard@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.
tudalen 33
Siaradwch â ni
Calendr
@chaptertweets facebook.com/chapterarts chaptertweets
tudalennau 34–35
Nodwch os gwelwch yn dda bod copïau print bras o’n cylchgrawn ar gael ar gais. Cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau ar 029 2030 4400.
Celfyddyd
029 2030 4400
Nicholas Pope, ‘The Condundrum of the Chalices of the Seven Deadly Sins and Virtues’. Cwpanau cymun (gyda James Maskrey) ac 14 o ddarluniau olew, 2015. Llun: Warren Orchard
04
Sticky Intimacy: Katie Cuddon, Emma Hart & Nicholas Pope Tan Sul 18 Medi Mae ‘Sticky Intimacy’ yn dwyn ynghyd artistiaid o wahanol genedlaethau sydd yn archwilio bob un berthynas chwilfrydig â deunyddiau a’r broses o wneud. Mae’r sioe yn sgwrs ar sail arddulliau ffurfiol a thematig cyfun ac, er bod y gweithiau’n amrywiol, mae pob artist yn creu gweithiau sydd yn gwrthod syniad o ‘gerflunwaith fawreddog’. Gan ddefnyddio deunyddiau fel gwydr, pren a chlai, mae Cuddon, Hart a Pope yn trawsnewid eu hamgylchiadau a’u profiadau eu hunain yn weithiau afieithus, llawn emosiwn. Boed hynny trwy gyfrwng prosesau o gerflunio gyda chlai, darlunio neu ddefnydd o wydr wedi’i chwythu, adlewyrchir delwedd o’r corff amherffaith a hynny mewn ffurfiau lletchwith ac anghymesur, pob un ohonynt yn ymwneud â syniad o agosatrwydd ac o ‘wneud â llaw’. Mae Katie Cuddon yn archwilio perthnasedd clai a’r ymwneud corfforol a bennir gan y gwrthrych cerfluniol. Mae ei cherfluniau’n adnabyddus am eu harwynebau aflonydd wedi’u gwneud o grwyn clai sydd yn dod at ei gilydd i greu ffurfiau llawnion. Mae’r
ffurfiau hyn yn aml yn lletchwith a chorffog ac mae eu gorffeniadau peintiedig yn tynnu sylw at arwynebau aflonydd a llithrig sy’n cuddio gofod mewnol gwag. Mae llithrigrwydd hefyd yn rhan o amwysedd y ffurfiau, sy’n gwrthod bodoli oddi mewn i un diffiniad unigol, sefydlog. Mae’r rhyngweithio ffurfiol rhwng gwrthrychau, rhwng gwrthrych a gwyliwr, yn ein hannog i ystyried yr ystrydebau sydd yn sail i’r gweithiau: themâu sydd yn ymwneud â rhyw a rhywioldeb, gwrthodiad, methiant, colled a chywilydd. Mae’r naratifau personol yn gwahodd y gwyliwr i ddehongli’r gwaith yn ôl ei brofiad ei hun. Mae ‘Penumbra’, cerflun seramig di-wyneb, di-ryw, o faint plentyn, yn awgrymu bwgan hollbresennol yn yr oriel. Mae’r arwyneb powdrog yn awgrym o berson yn ceisio cael syniad o hyd a lled y creadur hwn, fel petai gwasgu, tylino a theimlo parhaus yn fodd o ryddhau cynnwys y gwaith neu o ddeall yn well yr hyn sydd o dan yr wyneb. Mae ‘Leg Plough’ yn amrywio rhwng comedi a melancoli ac mae eiddilwch y coesau clai plentynnaidd yn galw i gof syniadau am rwystredigaeth, ac o fateroldeb wedi’i
chapter.org
Celfyddyd
chwalu dan bwysau entropi a bygythiad parhaus. Nodweddir gwaith Emma Hart gan estheteg anarchaidd sy’n tanseilio ac yn tarfu ar y broses o wylio, ac sydd yn cyfleu dryswch a straen profiadau bob dydd. Mae Hart yn defnyddio deunyddiau sy’n cyfeirio at brofiadau lletchwith a thrwy hynny yn archwilio’r ffin rhwng rheolaeth ac anhrefn. Mae amlinelliadau seramig o wydrau gwin yn arllwys diodydd seramig dros wal yr oriel. Mae’r pyllau hyn yn ‘swigod sgwrs’ sy’n deillio o’r siapiau ceg y mae Hart ei hun wedi eu brathu yn y clai. Mae’r gweithiau’n amrwd - mae breichiau seramig yn taro, ac yn cyrlio o gwmpas y corff i sychu’r dagrau; mae coesau’n chwysu, ac fe gânt eu cyfleu mewn printiau a osodir wedyn mewn clai gwydrog. Mae cerfluniau o wallt yn cyfeirio at densiynau rhwng bywyd, rhyddid, rheolaeth a stasis. Mae’r gwallt hir yn y fan hon yn cael ei ddal yn ei le gan ‘scrunchies’ mawrion sydd fel petaent yn ceisio dofi’r clai. Mae Hart yn newid y gofod sydd ar gael i’r gwyliwr gan ddefnyddio naratifau sydd ar y naill law yn gyhoeddus ac ar y llaw arall yn hynod breifat. Fel gwaith nifer o’i gyfoedion a ddaeth i’r amlwg yn y 1970au, ac a oedd yn awyddus i ddod o hyd i iaith gerfluniol newydd, mae gwaith Nicholas Pope yn ddatgysylltiad â chenhedlaeth flaenorol. Daeth Pope i amlygrwydd am ddefnyddio deunyddiau naturiol yn bennaf, deunyddiau yr aeth ati i’w cerfio neu, yn syml ddigon, i’w pentyrru a’u casglu ynghyd. Yn dilyn ei arddangosfa yn 1980, pan gynrychiolydd Brydain yn Biennale Fenis, aeth Pope i ymweld â Zimbabwe a Tanzania – profiad a effeithiodd arno byth ers hynny ac a drawsnewidiodd ei waith artistig yn llwyr. Wrth symud tuag at ddeunyddiau mwy meddal a mwy hydrin, fel gwydr, porslen, tecstilau, alwminiwm a seramig, dechreuodd Pope greu gwaith haniaethol sy’n cyfeirio at themâu cymhleth fel ysbrydolrwydd, hunanladdiad a chymdeithas. Ar gyfer yr arddangosfa hon, gweithiodd Pope gyda’r meistr-wydrwr James Maskrey, o’r Ganolfan Wydr Genedlaethol yn Sunderland, i greu cyfres newydd o 14 o gwpanau cymun wedi’u hysbrydoli gan y Saith Rhinwedd a’r Saith Pechod Marwol. Ar sail darluniau gwreiddiol yr artist, mae’r cwpanau cymun yn trawsnewid y cynlluniau gwreiddiol ac yn amlygu perthynas gymhleth rhwng yr artist a’r gwneuthurwr. Â’r darluniau’n cael eu harddangos ochr yn ochr â’r cwpanau cymun, dyma gyfle unigryw i gynulleidfaoedd weld y trawsnewidiad hwn mewn manylder.
Ynglŷn â’r artistiaid
Cafodd arddangosfa ‘Sticky Intimacy’ ei churadu gan Hannah Firth ar ran Chapter ac fe’i datblygwyd ar y cyd ag Oriel Celfyddyd Gyfoes y Gogledd (NGCA), Sunderland. ‘Baldock Pope Zahle’ oedd rhan gyntaf y diptych a gyflwynir yn yr arddangosfa hon ac fe guradwyd y gwaith hwnnw gan George Vasey ar ran NGCA. Comisiynwyd arddangosfa Nicholas Pope ‘Seven Virtues and Seven Deadly Sins’ gan NGCA ar ran ‘Baldock Pope Zahle’ a dderbyniodd gefnogaeth hael gan Gyngor Dinas Sunderland, Y Ganolfan Wydr Genedlaethol, C’Art, Cyngor Celfyddydau Lloegr a Sefydliad Grosserer LF Foghts.
05
Graddiodd Nicholas Pope o Academi Gelfyddyd Caerfaddon yn 1973. Cynrychiolodd Brydain yn Biennale Fenis a chymerodd ran yn ‘British Art Now, An American Perspective’ yn Amgueddfa Guggenheim, a deithiodd ledled America (y ddwy arddangosfa yn 1980). Yn 1996, dangosodd ei waith ‘Apostles Speaking in Tongues’ yn Tate Britain, ac fe ail-ddangoswyd hwnnw yn ddiweddar yn Eglwys Gadeiriol Salisbury (2014). Yn 2013, cynhaliwyd arddangosfa unigol o’i waith yng Nghanolfan Celfyddyd Newydd Parc Cerfluniaeth Roche Court, Salisbury. Hefyd yn 2013, cyhoeddwyd Ridinghouse, monograff sylweddol am yr artist. Cafodd gwaith Pope ei gynnwys yn arddangosfa ‘United Enemies: The Problem of Sculpture in Britain in the 1960s and 1970s’ yn Sefydliad Henry Moore, Leeds, y DG (2011). Mae ei waith yn rhan o nifer o gasgliadau cyhoeddus gan gynnwys Casgliad y Cyngor Celfyddydau, Amgueddfa Muller Kroller, Amgueddfa Solomon R Guggenheim, Amgueddfa Stedelijk, y Tate, Oriel Gelf Wakefield ac Oriel Gelf Walker. www.nicholaspope.co.uk Mae Katie Cuddon yn byw ac yn gweithio yn Newcastle. Graddiodd o’r Coleg Celf Brenhinol yn 2006 ac erbyn hyn mae hi’n dysgu Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Newcastle. Mae ei harddangosfeydd unigol yn cynnwys ‘Pontoon Lip’ (gyda Celia Hempton), Gofod Prosiect Cell, Llundain (2014); ‘Waiting for the Cue’, Oriel Simon Oldfield, Llundain, y DG, ‘Spanish Lobe’, Cymrodoriaeth Serameg, Canolfan Gelfyddydau Camden, Llundain, y DG (2011); ‘’I no longer know what the money is’, Oriel Alma Enterprises, Llundain, y DG (2010). Mae ei harddangosfeydd grŵp yn cynnwys ‘The Stone of Folly’, Downstairs, Henffordd, y DG, ‘Sioe Aelodau Stiwdio Voltaire, Llundain, y DG (y ddwy yn 2012); ‘Friendship of the Peoples’, Oriel Simon Oldfield, Llundain, y DG (2011), ‘Spazi Aperti’, Accademia di Romania, Rhufain, Yr Eidal (2009). Yn 2010, dyfarnwyd cymrodoriaeth serameg gyntaf Canolfan Gelfyddydau Camden i Cuddon ac roedd hi hefyd yn Ysgolor Cerfluniaeth ac Arlunio Sainsbury yn yr Ysgol Brydeinig yn Rhufain yn 2008/09. www.katiecuddon.com Derbyniodd Emma Hart radd MA mewn Celfyddyd Gain o Ysgol Gelf y Slade a chwblhaodd ei doethuriaeth mewn Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Kingston yn 2013. Mae hi’n ddarlithydd ar gwrs BA Celfyddyd Gain Coleg Celf Central Saint Martins. Mae ei harddangosfeydd diweddar yn cynnwys ‘Sticky’, Fforwm Diwylliannol Awstria, Llundain (2015); ‘Giving It All That’, ‘Triennial’ Folkestone (2014) a ‘Dirty Looks’, Canolfan Gelfyddydau Camden (2013). Mae ei harddangosfeydd grŵp yn cynnwys ‘SUCKERZ’, L’etrangere, Llundain (2015) gyda Jonathan Baldock, a ‘Only the Lonely’, La Galerie CAC, Noisy Le Sec, Ffrainc (2015). Derbyniodd Emma Wobr Gelfyddyd Max Mara yn 2016. www.emmahart.info
Celfyddyd
Sgwrs am 4
I DDOD YN FUAN:
029 2030 4400
Nástio Mosquito, ‘Flourishing Seeds’, 2012. Perfformiad Byw yn Y Tanciau, Tate Modern, Llundain. Gyda chaniatâd Nástio Mosquito ©
06
Sad 10 Medi 4pm Mae ein ‘Sgyrsiau am 4’ yn deithiau tywysedig yng nghwmni ein Tywyswyr Byw, Richard Higlett a Thomas Williams. Maent yn gyfle i ddysgu mwy am yr arddangosfa gyfredol ac am ddulliau gwaith unigryw yr artistiaid. Ni fydd dwy sgwrs yn union yr un fath ond y gobaith yw y byddan nhw’n ddiddorol ac yn agored bob amser. Mae’r Sgyrsiau am 4 yn rhad ac am ddim ac nid oes angen archebu lle ymlaen llaw – dewch draw i fynedfa’r Oriel i ymuno â ni! RHAD AC AM DDIM
Symposiwm ‘Sticky Intimacy’ Sad 17 Medi 10am — 4.30pm I gyd-fynd â’n harddangosfa gyfredol, Sticky Intimacy, rydym yn falch iawn o allu cydweithio gyda’r curadur George Vasey i gyflwyno symposiwm undydd lle gwahoddir artistiaid i dreulio 30 munud yn trafod un o’u gweithiau eu hunain sydd o bwys penodol iddynt. Drwy gyfrwng darlleniad manwl o’u gwaith ymchwil eu hunain, bydd cyfranwyr yn ystyried ystod eang o ddylanwadau a chyfeirbwyntiau. Sut mae mynd ati i sôn am ‘waith unigol’? A ddylid gwneud hynny yng nghyd-destun y gwaith ei hun neu yng nghyd-destun arddangosfa? Rhwydwaith neu wrthrych? Bwriad neu dderbyniad y gwaith dan sylw? Mae’r digwyddiad hwn yn dilyn y digwyddiad yn NGCA ym Mehefin 2016 a oedd yn cynnwys sgyrsiau gyda Johann Arens, Emily Hesse, Fay Nicolson, Lorna Macintyre, William Cobbing a Luke McCreadie. Mae’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn yn agored i bawb ond mae nifer y llefydd sydd ar gael yn brin. Cadwch le drwy ymweld â chapter.org neu cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau drwy ffonio 029 2030 4400. Trefnir y digwyddiad hwn gan NGCA ar y cyd â Chapter.
Artes Mundi 7 Gwe 21 Hydref - Sul 26 Chwefror 2017 Bob dwy flynedd, mae Arddangosfa Gwobr Artes Mundi yn cyflwyno rhai o artistiaid cyfoes gorau’r byd yng Nghaerdydd. Bydd Artes Mundi 7, un o wobrau celfyddyd mwyaf y DG, yn cael cartref yn Chapter ac yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, a byddwch yn gallu gweld gweithiau gan saith artist rhyngwladol. Yr artistiaid ar restr fer Artes Mundi 7 yw: John Akomfrah (DG), Neil Beloufa (Ffrainc/ Algeria), Amy Franceschini/Futurefarmers (UDA/ Gwlad Belg), Lamia Joreige (Libanus), Nástio Mosquito (Angola) a Bedwyr Williams (Cymru).
Canolfannau Artes Mundi 7: Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NP. Ar agor: Maw - Sul 10am–5pm Chapter, Heol y Farchnad, Treganna CF5 1QE. Ar agor: Maw, Mer, Sad, Sul 12–6pm Iau + Gwe 12-8pm www.artesmundi.org
chapter.org
Celfyddyd
07
CELFYDDYD YN Y BAR
Lorna Macintyre Tan Sul 25 Medi I gyd-fynd ag arddangosfa Sticky Intimacy yn yr oriel, aeth Lorna Macintyre ati i gymryd cyfres o ffotograffau o dŷ a stiwdio Nicholas Pope yn Swydd Henffordd. Mae’r printiau gelatin arian yn ddogfen anarferol o’i waith ac yn cyflwyno portread o artist trwy gyfrwng gwrthrychau yn gymaint â thrwy gyfrwng ei waith. Mae’r ffotograffau’n awgrymu dylanwad yr artist ac yn creu rhyw fath o atsain ffurfiol a chysyniadol ar hyd y cenedlaethau.
Lorna Macintyre, o’r gyfres ‘Much Marcle’, 2016, print gelatin arian wedi’i drin â Pope’s Perry
Ynglŷn â’r artist Lorna Macintyre (g. 1977, Glasgow, yr Alban). Mae arddangosfeydd unigol diweddar Macintyre yn cynnwys ‘Material Language Or All Truth Waits In All Things’, Mary Mary, Glasgow, ‘Solid Objects’, Glasgow Project Room (y ddwy yn 2015) a ‘Four Paper Fugues’, Mount Stuart, Bute (rhan o ‘Generation’, 25 mlynedd o Gelfyddyd Gyfoes yn yr Alban) (2014). Mae ei harddangosfeydd grŵp diweddar yn cynnwys ‘Surface Tension’, Streetlevel Photoworks, Glasgow, ‘Representing Space’, CCA Andratx, Mallorca (2015), ‘Polarity and Resonance’, Sammlung Lenikus, Fiena a ‘Dirt and Not Copper’, 221a, Vancouver. Cynrychiolir Lorna gan Mary Mary, Glasgow. Comisiynwyd yr arddangosfa hon gan NGCA a derbyniodd gefnogaeth hael gan Ymddiriedolaeth Elephant, Cyngor Celfyddydau Lloegr a Chyngor Dinas Sunderland.
08
Bwyta Yfed Llogi
Pop Up Produce
I DDOD YN FUAN
Mae ein marchnad fisol boblogaidd o ddanteithion gan gynhyrchwyr lleol yn ei hôl! Dewch i lanw’r cypyrddau â bara crefftus, siytni a jamiau cartref, cacennau blasus, siocledi a llawer iawn mwy. Os ydych yn gynhyrchydd bwyd ac os hoffech chi ymuno â ni unwaith y mis i werthu eich cynhyrchion chi, cysylltwch â Paul - paul.turton@chapter.org i wneud cais am stondin.
Cadwch lygad yn agored am Oktoberfest, ein gŵyl flynyddol o gwrw Almaenaidd o fragdai arbennig iawn ym mis Hydref eleni.
Mer 7 Medi 11am–4pm
Cynnig arbennig yn y Caffi Bar! Disgownt CPD Dinas Caerdydd Ar ôl haf anhygoel i bêl-droed Cymru, rydym yn falch iawn o gyhoeddi y byddwn yn cynnig ein cynllun disgownt i gefnogwyr ‘City’ unwaith eto eleni ar ddiwrnodau gêm. Rydym yn credu bod gan yr Adar Gleision siawns o ennill dyrchafiad y tymor hwn ac rydym yn awyddus i gefnogi’r cefnogwyr! Felly os dangoswch chi eich tocyn tymor neu docyn gêm yn y Caffi Bar*, fe gewch chi ostyngiad o 10% ar unrhyw fwyd a diod. Mae Chapter yn cynnig awyrgylch agored a chyfeillgar i’r teulu, ynghyd ag amrywiaeth eang o fwydydd a diodydd gwych i’w mwynhau cyn ac ar ôl gêm. Rydym hefyd yn cynnig gostyngiad o £5 i ddeiliaid tocyn tymor pan fyddan nhw’n ymuno â Chynllun Ffrindiau Chapter (gofynnwch am fanylion yn y Swyddfa Docynnau). *rhaid dangos pas neu docyn i hawlio’r cynnig hwn.
029 2030 4400
OKTOBERFEST
ChapterLive
Gwe 9 + Gwe 23 Medi 9pm Bandiau i’w cadarnhau Mae ChapterLive yn gyfres o gyngherddau byw wedi’u curadu gan yr hyrwyddwyr profiadol, Jealous Lovers Club, a fydd yn cyflwyno detholiad o’u hoff grwpiau o’r DG, Ewrop a gwledydd pellennig eraill yn Chapter. Mae ChapterLive yn gyfle i ddarganfod artistiaid newydd gwych. I gael mwy o wybodaeth am y grwpiau wrth iddyn nhw gael eu cadarnhau, ewch i’n gwefan. RHAD AC AM DDIM @JealousLovers1 #ChapterLive
Llogi Mae nifer o ystafelloedd a chyfleusterau Chapter ar gael i’w llogi ac mae llawer o’r rhain yn cael eu defnyddio’n rheolaidd gan gymysgedd eclectig o ddosbarthiadau dydd a nos. Ewch i’n gwe-fan neu codwch daflen yn y swyddfa docynnau i weld yr hyn sydd ar gael. Os ydych chi’n chwilio am ystafell ar gyfer parti, cyfarfod neu gynhadledd, neu am ofod i saethu fideo, i ymarfer neu i gynnal gweithgareddau adeiladu tîm, bydd ein cyfleusterau gwych, ein harbenigedd technegol a’n staff cyfeillgar yn gallu sicrhau bod eich digwyddiad yn gyffyrddus, yn unigryw ac yn gofiadwy. Gallwn gynnig amrywiaeth o opsiynau arlwyo ar gyfer eich digwyddiad hefyd. Os oes gennych chi gwestiynau penodol, neu os hoffech chi fwy o wybodaeth am ein cyfleusterau, rhowch ganiad i’n rheolwr llogi, Nicky, ar 029 2031 1058 neu anfonwch e-bost at nicky.keeping@chapter.org.
chapter.org
Cefnogwch Ni
09
Mae Chapter yn elusen gofrestredig ac rydym yn dibynnu ar gefnogaeth gan unigolion a busnesau er mwyn gallu cyflwyno ein rhaglen artistig amrywiol a’n gwaith addysgol pwysig. Rydym yn ddiolchgar am bob ceiniog a dderbyniwn ac fe allwn gynnig ambell beth gwych i chi yn gyfnewid. Mae yna nifer o wahanol ffyrdd o gymryd rhan…
Ffrindiau
Clwb
Ymunwch â chynllun Ffrindiau Chapter ac fe allwch chi fwynhau buddion sy’n amrywio o ostyngiadau ar docynnau ac ar fwyd a diod yn ein Caffi Bar i wahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig, fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn Ffrindiau hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C.
Cynllun aelodaeth Chapter i fusnesau. Am ffi flynyddol fechan, gall eich busnes chi fwynhau manteision sylweddol yn Chapter, a’r rheiny’n cynnwys cyfleoedd i rwydweithio, defnydd o’n mannau llogi hyblyg a gostyngiadau i chi a’ch staff ar docynnau sinema a theatr yn ogystal â phrisiau gostyngol yn ein Caffi Bar. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.chapter.org/cy/chapter-clwb
Nodwch os gwelwch yn dda: gall deiliad tocyn tymor CPD Dinas Caerdydd gael gostyngiad o £5 wrth ymuno â Chynllun Ffrindiau Chapter (gweler y manylion ar dudalen 8).
Cynllun Myfyrwyr Chapter
Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40
Rhoddion Cofrestrwch i wneud cyfraniadau unigol neu roddion reolaidd i Chapter, er mwyn chwarae rhan lawn yn ein gwaith elusennol. Gallwch wneud cyfraniadau ar-lein ar www.chapter.org/cy/cefnogwch-ni neu drwy ymweld â’n Swyddfa Docynnau. Gallwch wneud cyfraniadau drwy neges destun erbyn hyn hefyd – tecstiwch ‘Chap16’ ynghyd â’r swm yr hoffech ei roi i 70070. Fydd hi ddim yn costio ceiniog i chi anfon y neges ac fe fyddwn ni’n derbyn 100% o’ch cyfraniad.
Ydych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth rad ac am ddim a manteisio ar ambell gynnig arbennig iawn? Ymunwch heddiw!
Mae’r manteision yn cynnwys: • Prisiau gostyngol ar bob tocyn theatr a sinema • Gostyngiad o 10% yn ein Caffi Bar • Cyfleoedd i ennill gwobrau gwych • Cylchlythyrau ecsgliwsif • Gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig Cofrestrwch heddiw yn www.chapter.org/cy/myfyrwyr. Bydd Chapter yn bresennol mewn Ffeiriau Glasfyfyrwyr ledled Caerdydd, felly galwch draw i ddweud helo – bydd pob myfyriwr sy’n cofrestru ar gyfer ein cynllun myfyrwyr ar y diwrnod ei hun yn derbyn bag o bethau da ac ambell gynnig arbennig iawn.
I gael mwy o wybodaeth am unrhyw un o’r materion uchod, cysylltwch ag Elaina Johnson os gwelwch yn dda ffoniwch 029 2035 5662 neu e-bostiwch elaina.johnson@chapter.org.
10
Perfformiadau
029 2030 4400
PERFFORMIADAU
The Good Earth
Cefnogir Theatrau Chapter gan rodd David Seligman er cof am Philippa Seligman
Perfformiadau
MOTHERLODE A THEATRAU RHCT YN CYFLWYNO
Abse and Co
11
Abse and Co
chapter.org
The Good Earth Iau 15 - Sad 24 Medi 8pm + Matinées ar Sad 17 + Sad 24 Medi 3pm (Dim perfformiadau ar Sul 18 + Llun 19 Medi) Drama newydd ffrwydrol wedi’i hysbrydoli gan ddigwyddiadau go iawn. Ar ôl i ganolfan newydd agor, mae grŵp o drigolion lleol dan bwysau i symud o’u cartrefi. Ond yn lle ildio, maent yn penderfynu brwydro dros eu hachos. Stori fywiog yn llawn canu gwerin Cymreig ysgytwol. Mae The Good Earth yn bortread o gwm wedi’i rwygo’n ddau gan y cyngor lleol, gan fusnesau mawrion a chan y trigolion eu hunain, yn y pen draw.
Cyfarwyddwr: Rachael Boulton Cyfarwyddwr Cerddorol: Max Mackintosh
Cyd-gynhyrchiad gan Motherlode a Theatrau RhCT, ar y cyd â Chapter, Canolfan Mileniwm Cymru a Sefydliad y Glowyr, Y Coed Duon, gyda chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Ysgrifennwyd a dyfeiswyd gan Motherlode.
£12/£10 Oed: 14+
“ Darn doniol a difrifol na ddylid ei golli” Wales Online
Sad 3 Medi 7.30pm Mae ‘Abse and Co’ yn gyd-gynhyrchiad rhwng y diweddar fardd, Dannie Abse, y cerddor / awdur, Anthony Reynolds, a’r gyfansoddwraig, Rachel Gill. Mae’r ensemble hefyd yn cynnwys aelodau o Recovery Cymru. Gyda chymeradwyaeth ystâd Abse, mae Reynolds a’i grŵp wedi gosod rhai o gerddi mwy anodd Abse i gyfeiliant sain a cherddoriaeth. Mae’r ensemble hefyd wedi ysgrifennu cerddi a chaneuon newydd yn ymateb uniongyrchol i gerddi Abse. Hwn yw’r perfformiad cyntaf o ‘Abse and Co’ a dyma’r cyfle cyntaf i chi glywed caneuon o’r albwm a gyhoeddir yn seiliedig ar y prosiect. Gyda gwestai arbennig, y gwneuthurwr ffilmiau / ysgrifennwr, Kirk Lake. Ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
£10/£8
Perfformiadau
029 2030 4400
THE WYRD WONDER YN CYFLWYNO
THE WYRD WONDER YN CYFLWYNO
Noson o ganu pop heulog a seicedelig - a mwy
Noson gyda Andi Sex Gang
Andi Sex Gang. Llun gan G O D Photography
12
Gyda No Thee No Ess, Guto Dafis, Harri Davies Maw 6 Medi 8pm Bydd No Thee No Ess, cydweithrediad gan y cerddorion Andy Fung a Paul Battenbough, yn perfformio set acwstig arbennig yn cynnwys caneuon o’u halbwm newydd, ‘California’, yn ogystal â deunydd o’u recordiau blaenorol. Mae’r chwaraewr ‘squeezebox’, Guto Dafis, yn adnabyddus fel un o’r dehonglwyr mwyaf nodedig o ganeuon traddodiadol Cymreig, boed ei berfformiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd Guto’n perfformio caneuon ingol am gariad, bywyd, goleuni a’r tywyllwch. Bydd y canwr/cyfansoddwr o Gaerdydd, Harri Davies, yn cyflwyno cymysgedd crefftus ac emosiynol o ganu gwerin / pop / jazz. Meddyliwch am John Martyn / Nick Drake a fyddwch chi ddim yn rhy bell ohoni. £7
Maw 27 Medi 8pm Ymunwch â ni am berfformiad prin a phersonol gan y cerddor, yr artist a’r raconteur diwylliannol, Andi Sex Gang. Mae Andi’n adnabyddus am ei waith gyda’r arloeswyr ôl-pync, Sex Gang Children, ac am ei gydweithrediadau â myrdd o artistiaid gan gynnwys Marc Almond, Mick Ronson a Dario Argento. Gyda chymorth y gitarydd Mathew Saw, gallwch ddisgwyl clywed amrywiaeth o ddeunydd o wahanol gyfnodau gyrfa Andi, gan gynnwys clasuron fel Sebastiane. Cefnogaeth gan y grŵp gwerin-asid o Gaerdydd, Zeuk. £10/£7
Perfformiadau
Allan Yn Y Fan: Taith 6 & 20
NEWSOUNDWALES YN CYFLWYNO
13
Bella Collins
chapter.org
Sul 25 Medi 6pm I ddathlu 20 mlynedd ers ffurfio, bydd y chwechawd aml-offerynnol a lleisiol yn mynd ar daith yng Nghymru am y tro cyntaf ers 2012, i gyflwyno eu halbwm newydd sbon, NEWiD. Yn enwog am eu perfformiadau byw egnïol, maent yn llwyddo i lywio’n ddiymdrech rhwng fersiynau newydd sbon o gerddoriaeth draddodiadol Gymreig a’u cyfansoddiadau hudolus eu hunain. Gan harneisio holl rym a dirgelwch y traddodiad Celtaidd, mae Allan Yn Y Fan yn chwarae miwsig llawen ac afieithus ac yn ei chyflwyno mewn ffordd ysgafn a hwyliog sy’n siŵr o blesio cynulleidfaoedd hen ac ifainc fel ei gilydd. Cyd-gynhyrchiad Steam Pie / Gwasanaeth Hamdden, Celfyddydau a Diwylliant Aneurin gyda chefnogaeth Sefydliad y Glowyr, Y Coed Duon.
£10/£8 www.ayyf.co.uk
+ Os oes gennych ddiddordeb yn nhrysorfa cerddoriaeth werin Cymru, beth am ddod â’ch lleisiau a’ch offerynnau i sesiwn anffurfiol rad ac am ddim o 3.30pm ymlaen, cyn y gyngerdd am 6pm? Mae’r sesiwn hon yn addas ar gyfer y teulu cyfan ac fe’i cyflwynir yn Gymraeg ac yn Saesneg.
“ Y band Celtaidd gorau o Gymru yn yr 21ain ganrif, yn ôl pob tebyg” Maverick Magazine
Lansiad Albwm Bella Collins + Gwesteion arbennig Dave Morris & The Knock + Siobhan McCrudden Gwe 30 Medi 7.30pm Noson i ddathlu lansiad albwm hir-ddisgwyliedig cyntaf y gantores / gyfansoddwraig o Gaerdydd, Bella Collins, a’i chaneuon ffres, crefftus a newydd. Bydd rhai o gerddorion blŵs gorau Cymru yn cyfeilio, pob un yn storfa o brofiadau a phrosiectau blaenorol. Bydd y gig yn gyfuniad o hen arddulliau rhythm a blŵs, soul, jazz a roc a rôl. Daw’r gefnogaeth gan y perfformiwr acwstig nodedig a’r cyn-aelod o Whistling Biscuits, Dave Morris, a’i fand newydd yntau, The Knock, ynghyd â’r lleisydd gwerin trawiadol, Siobhan McCrudden.. £9
Perfformiadau
MAI OH MAI YN CYFLWYNO
Ed Aczel Foreign Policy
029 2030 4400
Sioe Radio The Harri-Parris. Llun: Kirsten McTernan
14
Sioe Radio The Harri-Parris — Cyfres 2 Sul 11 + Llun 12 Medi 8pm Ysgrifennwyd gan Llinos Mai, Chris Buxton & Owen Lewis. Mae’r Harri-Parris yn ôl ac yn recordio cyfres newydd sbon ar gyfer BBC Radio Cymru, yn seiliedig ar eu sioeau llwyfan llwyddiannus. Ymunwch â theulu amaethyddol mwyaf cyfeiliornus Gorllewin Cymru yn y gomedi sefyllfa ddoniol hon gyda chaneuon. Dewch i glywed am y Dydd San Ffolant lleiaf rhamantus yn hanes y byd, y stag a’r iâr mwyaf siomedig yr ochr yma i Abergwaun a phriodas sydd yn plymio ar ei phen i drychineb. Dewch i fod yn rhan o’r gynulleidfa ar gyfer Pennod 1 a gaiff ei recordio ar Sul 11 Medi a phenodau 2 a 3 ar Llun 12 Medi. Rhad ac am ddim ond bydd angen tocyn Oed: 12+
Rob Auton: The Sleep Show Mer 7 Medi 8pm Mae hon yn sioe am gwsg. Mae hi’n addas ar gyfer y rheiny sydd wedi cysgu. Yn dilyn The Yellow Show yn 2012, The Sky Show yn 2013, The Face Show yn 2014 a The Water Show yn 2015, mae’r awdur a’r perfformiwr gwobrwyol, Rob Auton, yn dychwelyd â sioe 2016, The Sleep Show. “Trist” (Vanessa Feltz). “Hollol angenrheidiol” (Scotsman). “Syfrdanol” (Daniel Kitson). “Digrifwr gwirioneddol wreiddiol. Barddonol, athronyddol, dyngarol, swynol a hynod ddoniol.” (The Guardian). “Fel gwylio plentyn wedi’i ddal yng ngoleuadau’r llwyfan yn ystod ei sioe Nadolig gyntaf” (Venue.co.uk). £8/£7/£6 Oed: 14+
Iau 29 Medi 8pm Ar gyfer ei drydedd daith Brydeinig, mae “gwrthddigrifwr mwyaf Prydain” (The Guardian) yn plymio ar ei ben i bwnc dyrys Polisi Tramor. Ydych chi erioed wedi ystyried y gallai eich perthynas â’ch cymydog yn y tŷ drws nesa’ fod yn enghraifft mewn gwirionedd o bolisi tramor? Na? Wel dyna wers gyntaf ffefryn ‘dead-pan’ y beirniaid, Ed Aczel. Tasai pob un yn ymddwyn yn gwrtais, byddai’n fyd hyfryd. Ymunwch ag Ed i weld sut mae hyn yn ymwneud â’r trobwll o broblemau byd-eang presennol ... Mae’r sioe yn gyfle i’r gwrth-ddigrifwr hwn ystyried rhai o gwestiynau mawrion polisi tramor yr oes, mewn ffordd linol a daearyddol. Bydd e hefyd yn chwilio am bolisi tramor personol y gall pob un uniaethu ag ef. Pryd gaiff Tsieina ‘Lynges Dŵr Glas’? A phwy sy’n becso? A all Rwsia gael gafael ar borthladd dŵr cynnes a beth sy’n mynd ymlaen yn Wcráin? Beth am Ogledd Corea? A beth alla’ i ei wneud dros Brydain os na all Brydain wneud unrhyw beth drosta’ i? £11/£10/£9 Oed: 14+
“ Un o’r digrifwyr mwyaf cofiadwy a dyfeisgar ar y gylchdaith ar hyn o bryd” The Scotsman
Perfformiadau
15
O’r chwith i’r dde: Babs Onions - Polari, Tim Bromage. Llun: Roger Graham
chapter.org
Polari Iau 8 Medi 7.30pm (Dehongliad mewn iaith arwyddion) Daw salon llenyddol LHDT arobryn Llundain i Gaerdydd yn rhan o daith genedlaethol i arddangos y talentau llenyddol hoyw gorau, yn awduron newydd a phrofiadol fel ei gilydd. Fe’i disgrifiwyd gan The Huffington Post fel “Mudiad llenyddol mwyaf cyffrous Llundain ... yn llawn egni, syniadau a chyffro”. Enillodd Polari hefyd wobr ‘Digwyddiad Diwylliannol LHDT y Flwyddyn’ yng ngwobrau ‘Co-op Respect: Loved by You 2013’. Cyflwynir y salon gan Paul Burston ac fe fydd yr awduron gwadd a’r perfformwyr yn cynnwys RJ Arkhipov, Mark Lock, Ursula Martinez, Karen Mcleod a Carey Wood. £8/£6 Oed: 18+ Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o Daith Genedlaethol Polari a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Lloegr.
+ Ymunwch â ni am weithdy ysgrifennu dwy awr o hyd (12-2pm). Bydd un o’r cyfranogwr yn cael cynnig slot yn y perfformiad ei hun gyda’r hwyr.
Well Thumbed Mer 28 Medi 7.30pm Dyfeisiwyd a pherfformiwyd gan Terry Victor Mae yna genhedlaeth sydd yn dal i gofio’r addysg erotig a’r cyffroadau synhwyrus a oedd i’w cael yn nhudalennau parchus llyfrgelloedd cyhoeddus; addewid a themtasiynau geiriau a darnau awgrymog a oedd yn atyniad sicr i ddarllenwyr ifainc-ary-pryd. Ac, yn awr, mae yna genhedlaeth newydd y mae angen ei gwthio i’r cyfeiriad iawn ... Mae ‘Well Thumbed & well out of copyright’ yn daith dyner – a budr – drwy ambell un o dudalennau mwyaf ‘poblogaidd’ ein llenyddiaeth. Detholiad o fudreddi clasurol sy’n cynnwys geiriau gan Jane Austen, Thomas Otway, William Shakespeare a James Joyce, i enwi ond ambell un. £10/£8 Oed: 16+ (addas i oedolion)
Tim Bromage Shift Sad 1 Hydref 8pm “The vehicle sat on the red bock driveway, squat and sullen. The ritual should have been simple... but there was so much he did not know, he had not observed it for so long, and now fear, coupled with a sense of obligation had led to an unexpected cry for help. After all you heard horror stories, heard of those moments when a vehicle died with no warning, at eighty mile an hour… out on the great tarmac. One moment hurtling forward, and then... nothing. Not a whisper, nor cough. Coasting mockingly to a halt, never to move again” O ‘The Driver’ gan Gordon Lang 1945 Mae Tim Bromage yn cyflwyno Shift, perfformiad newydd sy’n seiliedig ar fytholeg Groeg ac Oracl Delffi yn arbennig. Yn gyfuniad o amrywiaeth eang o ddisgyblaethau, gan gynnwys cerddoriaeth, rhyddiaith a gweithgareddau eraill, mae’r gwaith yn archwilio gwirionedd, ffuglen a thynged. Ond nid tywyllwch dudew yw popeth. Mae yna realiti amgen, cyfle i ddarllen meddyliau ac ymddangosiad gorfoleddus gan Bobby Darin hefyd hyd yn oed. £10/£8
16
Chapter Mix
Gyda’r cloc o’r brig: Diwrnod Gerddi Agored Elusen NGS, Cylch Chwedleua Chapter, Glen Manby (Jazz ar y Sul)
029 2030 4400
chapter.org
Chapter Mix
Clwb Comedi The Drones
Dathlu’r bardd Tony Conran
Gwe 2 + Gwe 16 Medi. Drysau’n agor: 8.30pm Sioe’n dechrau: 9pm Clint Edwards sy’n cyflwyno’r ‘stand-ups’ addawol gorau. Gwelwyd peth o ddeunydd y nosweithiau hyn ar raglen ‘Identity Crisis’ Rob Brydon. Dydd Gwener cyntaf a thrydydd dydd Gwener y mis. Un o’r ‘Deg Peth Gorau i’w Gwneud yng Nghaerdydd’ yn ôl cylchgrawn The Big Issue. £3.50 (wrth y drws)
Gerddi Agored NGS ar Ddiwrnod yr Elusennau Sad 3 Medi 11.30am–3pm
Bydd Gardd Gymunedol Chapter yn cymryd rhan yn y Cynllun Gerddi Cenedlaethol: Gerddi Agored ar Ddiwrnod yr Elusennau. Mae’r cynllun yn sicrhau bod gerddi diddorol, llawn cymeriad, yng Nghymru a Lloegr, ar agor i’r cyhoedd ac yn codi arian hefyd at achosion da. Dewch draw i weld ein gardd wobrwyol ogoneddus yn ei blodau hydrefol hardd ac ymunwch â thaith dywysedig o gwmpas yr ardd a’r cychod gwenyn. £3 (pris mynediad yn cynnwys te/coffi a chacen am ddim), rhad ac am ddim i blant www.ngs.org.uk www.cantoncommunitygardens.co.uk Trowch i dudalen 2 i ddarllen mwy am Ardd Gymunedol Treganna, gan y Garddwr a Chydlynydd y Gwirfoddolwyr, Roger Phillips.
Cylch Chwedleua Caerdydd Sul 4 Medi 8pm
Dewch i rannu a gwrando ar gasgliad hyfryd o straeon - croeso cynnes i storïwyr a gwrandawyr fel ei gilydd! £4 (wrth y drws)
Darlith Cymdeithas Celfyddydau Cain ac Addurnol De Cymru Brian Stater: ‘When Britain Clicked – Fab Photos From The Swinging Sixties’ Iau 8 Medi 2pm
Roedd y 1960au yn oes aur i ffotograffiaeth ym Mhrydain. Daeth newydd-ddyfodiaid ifainc a thalentog i chwalu waliau’r stiwdio ac i chwyldroi canfyddiadau o ffasiwn, portreadau a diwylliant poblogaidd. Bydd y ddarlith hon yn archwilio amrywiaeth o ddelweddau gwych gan ffotograffwyr fel David Bailey, Terence Donovan, Lewis Morley, Tony Ray-Jones a Jane Brown. £6 i ymwelwyr (wrth y drws, yn ddibynnol ar le) www.swdfas.org
17
Gwe 9 Medi 7.30pm
Bydd y Conran Poetry Chorus yn cyflwyno detholiadau o symffonïau barddonol olaf Tony Conran gan ddefnyddio dulliau llefaru, canu, cerddoriaeth offerynnol, siarad corawl a mwy i greu perfformiad bywiog. Mae’r digwyddiad yn dathlu cyhoeddi ‘Three Symphonies’ Tony Conran gan Agenda Edition. Roedd Conran yn fardd modernaidd a gwreiddiol y mae ei lais yn adlewyrchu swyddogaeth gymdeithasol barddoniaeth Gymraeg (roedd Conrad hefyd yn gyfieithydd nodedig). Disgrifiodd farddoniaeth fel ‘dawns y cordiau lleisiol a’r genau a ddaw’n fyw ddim ond pan fyddwch yn ei chlywed ac yn ei gweld’. www.tonyconran.cymru www.agendapoetry.co.uk £6 (wrth y drws) Mae pris tocyn yn cynnwys diod a gostyngiad ar bris copi o ‘Three Symphonies’.
Jazz ar y Sul Sul 18 Medi 9pm
Ein noson fisol o jazz acwstig melodig yn y Caffi Bar gyda Phedwarawd Jazz Chapter - Glen Manby, Jim Barber, Don Sweeney a Greg Evans. RHAD AC AM DDIM www.glenmanby.com
Meddygfa Cyfryngau Cymdeithasol Treganna Mer 21 Medi 5–7pm
Oes gennych chi stori i’w hadrodd am eich cymuned chi neu am fater o bwys yn lleol? Efallai eich bod yn perthyn i grŵp cymunedol sydd am hyrwyddo gweithgareddau a digwyddiadau ar-lein, neu rannu lluniau, fideos a gwybodaeth? Croeso i’r Cyfryngau Cymdeithasol! Gall gwefannau am ddim fel Facebook, Twitter, Flickr, YouTube a blogiau eich helpu chi neu eich grŵp i gyrraedd cynulleidfa ehangach drwy gyfrwng y rhyngrwyd. Ydych chi’n ansicr sut mae’r cyfan oll yn gweithio a sut y gallai fod o fudd i chi? Dewch i weld Meddygon y Cyfryngau Cymdeithasol. Gallwn eich helpu chi neu eich grŵp cymunedol i roi cynnig arni. Hefyd, os ydych chi neu eich grŵp eisoes yn blogio, yn trydar ac yn rhannu ar-lein ac yn awyddus i ennill mwy o hyder, dewch draw - gallwn eich helpu chi i fod yn fwy effeithiol. Sesiynau anffurfiol, rhad ac am ddim ac mor annhechnegol ag y dymunwch iddynt fod! RHAD AC AM DDIM
Clonc Yn Y Cwtch Bob dydd Llun 6.30–8pm
Ydych chi’n dysgu Cymraeg? Mae hwn yn gyfle gwych i ymarfer eich Cymraeg yng nghwmni dysgwyr eraill. Croeso i bawb! RHAD AC AM DDIM Ar y cyd â Menter Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd
Ffilm
029 2030 4400
Gyda chefnogaeth y BFI ac ar y cyd ag ystâd Roald Dahl, bydd ffans o bob oed yn cael ail-fyw eu hatgofion mwyaf hudolus, wrth i ffilmiau Roald Dahl ddod yn fyw ar y sgrin fawr. Y mis hwn byddwn yn archwilio rhai o straeon tywyll a dieflig Dahl i oedolion. Gallwch hefyd ymuno â ni am barti pen-blwydd ar ddydd Mawrth 13 Medi pan fydd yna wahoddiad i chi i ddangosiad gwisg ffansi o The Witches, dangosiad ‘crafu ac arogli’ o Matilda a Stinky Flicks yn cyflwyno Charlie and the Choclate Factory. Gallwch chi gael tynnu eich llun hefyd yn y bwth lluniau arbennig gan Guest Who. #RoaldDahlOnFilm Ymunwch â byd Roald Dahl ar Ffilm ar-lein drwy chwarae’r gêm ar wefan roalddahlonfilm.com Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael ar gyfer nifer fawr o’n ffilmiau. Fodd bynnag, fe all y wybodaeth amdanynt newid wedi i ni anfon y cylchgrawn hwn i’r wasg - mae manylion pellach i’w cael ar ein gwe-fan. Nid yw’n bosib bob amser i ni gadarnhau gwybodaeth am Ddisgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal cyn i ni anfon y cylchgrawn hwn i’r wasg. Cadwch lygad ar agor am y symbolau hyn, sy’n golygu y bydd angen cadarnhau’r wybodaeth am Ddisgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal. Fe sylwch chi ar y logo hwn ger manylion rhai ffilmiau a pherfformiadau. Mae’r F yn dynodi ffilmiau a pherfformiadau wedi’u cyfarwyddo gan ferched, wedi’u hysgrifennu gan ferched neu / ac sydd yn cynnwys rhannau canolog i ferched ar y sgrin neu ar y llwyfan.
The Witches
18
chapter.org
Ffilm
19
O’r chwith i’r dde: Tales of the Unexpected, Gremlins
ROALD DAHL AR FFILM
The Witches
Gremlins
Iau 1 - Sul 4 + Maw 13 Medi
Sad 10 + Sul 11 Medi
DG/1990/91mun/PG. Cyf: Nicolas Roeg. Gyda: Anjelica Huston, Mai Zettering, Jason Fisher.
UDA/1984/106mun/12A. Cyf: Joe Dante. Gyda: Zach Galligan, Phoebe Cates, Hoyt Axton.
Ar ôl i’w rieni farw mewn damwain car, mae Luke yn teithio gyda’i fam-gu ecsentrig i westy llwm yng Nghernyw. Yn y gwesty, ar yr un pryd, cynhelir cyfarfod blynyddol y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Blant. Mae Luke yn clywed rhan o’r cyfarfod – ac yn darganfod taw cwfen erchyll o wrachod ydynt mewn gwirionedd sydd eisiau troi pob plentyn ym Mhrydain yn llygoden. Â pherfformiad maleisus a gwych gan Anjelica Huston a phypedau llawn dychymyg gan siop greaduriaid Jim Henson, mae fersiwn dywyll a ffraeth Roeg yn rhoi cnawd annifyr ac unigryw ar fyd ffantasïol Dahl.
Wrth chwilio am anrheg unigryw i’w fab, mae dyfeisiwr yn prynu ‘Mogwai’ ciwt gan ŵyr i siopwr yn Chinatown, sydd yn ei rybuddio i beidio byth â gwlychu’r creadur na’i fwydo ar ôl hanner nos. Yn naturiol, mae pethau’n mynd ar chwâl ac mae’r creadur yn trawsnewid gan greu byddin o angenfilod dieflig a phanig ar y strydoedd. Wedi’i hysbrydoli’n fras gan y creaduriaid yn stori Dahl “Gremlin Gus”, mae’r ffilm hon yn deyrnged i angenfilod y B-movies ac yn glasur Nadoligaidd hefyd!
+ Ymunwch â ni am ddangosiad Gwisg Ffansi ar ben-blwydd Roald Dahl ar Maw 13 Medi.
Tales of the Unexpected Maw 6 + Maw 20 Medi DG/1979-1988/25mun/12A.
Detholiad o benodau o’r gyfres deledu arswyd glasurol, yn llawn isleisiau sinistr ac eironig, yn seiliedig ar straeon byrion gan Roald Dahl. Yn cynnwys rhai o ddoniau actio mwyaf y cyfnod, gan gynnwys Joseph Cotton, Ron Moody, Joan Collins, Brian Blessed, Julie Harris, Syr John Gielgud, Susan George a Michael Gambon.
The Night Digger Sul 11 + Maw 13 Medi DG/1971/110mun/18arf. Cyf: Alastair Reid. Gyda: Patricia Neal, Pamela Brown, Nicholas Clay.
Caiff bywyd diflas y Maura ddibriod ganol oed ei weddnewid â dyfodiad y tasgmon ifanc Billy Jarvis – gŵr y mae tipyn o ddirgelwch amdano. Mae hi’n arswydo ar ôl deall pam y mae Billy yn treulio cymaint o amser y tu allan ar ôl iddi nosi ac mae sgôr iasol Bernard Herrmann yn cynyddu’r tensiwn wrth i Patricia Neal, gwraig Dahl ar y pryd, ymwneud â thensiwn rhywiol ac arlliwiau Gothig stori hynod.
Bydd y gynulleidfa yn pleidleisio dros y penodau y maen nhw am eu gweld - gweler y rhestr lawn o benodau ar ein gwefan. Mae Chapter yn falch o fod yn Sefydliad Arweiniol gyda Chanolfan Ffilm Cymru, rhan o Rwydwaith Cynulleidfaoedd Ffilm y BFI, sydd yn cefnogi Sinema Brydeinig a Sinema Annibynnol ledled y DG. www.filmhubwales.org
Ffilm
029 2030 4400
You Only Live Twice
Esio Trot
Sul 4 + Maw 6 Medi
Sad 17 + Sul 18 Medi
DG/1967/117mun/PG. Cyf: Lewis Gilbert. Gyda: Sean Connery, Akiko Wakabayashi, Mie Hama.
DG/2015/88mun/PG. Cyf: Dearblha Walsh. Gyda: James Corden, Salo Gardner, Dustin Hoffman.
O’r chwith i’r dde: You Only Live Twice, Matilda
20
Pan gaiff llong ofod Americanaidd ei llyncu gan yr hyn sy’n edrych fel llong ofod o Rwsia, mae amheuon yn dod i’r wyneb. Rhaid i Bond ymchwilio i sefydliad dirgel SPECTRE mewn ras yn erbyn cloc dydd y farn. Un o ffilmiau mwyaf nodedig 007 sy’n cynnwys sgript gan Roald Dahl ei hun..
Mae’r hen lanc Mr Hoppy yn byw mewn fflat yn Llundain. Mae ganddo ddau gariad pennaf - yr ardd ar ei falconi a Mrs Silver, y wraig weddw yn y fflat isod. Ond mae Mrs Silver yn rhy hoff o’i chrwban, Alfie, i dalu sylw iddo fe. Ar ôl sylwi bod Mrs Silver yn poeni’n arw am Alfie, mae e’n dyfeisio cynllun i ddangos gwir natur ei deimladau.
Alfred Hitchcock Presents
Rhad ac am ddim ond bydd angen tocyn, trwy garedigrwydd y BBC ac Endor Productions.
UDA/1962-1965/tua 25 mun/dim tyst.
‘Crafu ac arogli’: Matilda
Detholiad o benodau annisgwyl a ysgrifennwyd gan Dahl ar gyfer yr antholeg hanesyddol a gyflwynwyd gan feistr y ffilm gyffro, Alfred Hitchcock.
Maw 13 Medi
Mrs Bixby and the Colonel’s Coat The Landlady Lamb to the Slaughter Maw 27 Medi
A Dip in the Pool The Man from the South Poison
Maw 13 Medi UDA/1996/98mun/PG. Cyf: Danny DeVito. Gyda: Mara Wilson, Pam Ferris, Danny DeVito.
Mae’r Wormwoods anobeithiol ac anfoesgar yn rhieni i ferch fach hyfryd o’r enw Matilda - sydd hefyd yn digwydd bod yn athrylith. Mae hi’n cael ei hanwybyddu adre ac yn treulio’i hamser yn darllen yr holl lyfrau yn y llyfrgell leol. Yna caiff ei hanfon i Crunchem Hall, ysgol hunllefus dan arweiniad y Miss Trunchbull sadistaidd. Yn y fan hon daw ei galluoedd i’r amlwg, ac mae ei phŵer ymenyddol a’i phwerau telecinetig yn denu sylw’r athrawes garedig ac addfwyn, Miss Honey. + Ymunwch â ni am ddangosiad gyda chardiau ‘crafu ac arogli’ arbennig.
Ffilm
Willy Wonka and the Chocolate Factory
Four Rooms
21
O’r chwith i’r dde: Willy Wonka and the Chocolate Factory, Four Rooms
chapter.org
Llun 19 Medi UDA/1971/100mun/U. Cyf: Mel Stuart. Gyda: Gene Wilder, Jack Albertson, Peter Ostrum.
Mae’r byd yn syfrdan pan gyhoedda Willy Wonka, a fu’n feudwy ers blynyddoedd, y bydd pump o bobl lwcus yn cael mwynhau taith o amgylch ei ffatri a gweld holl gyfrinachau ei fyd melys anhygoel. Ac fe fydd un o blith y pump hynny yn ennill cyflenwad oes o siocled! Does neb eisiau’r wobr yn fwy na’r Charlie ifanc ond, â’i deulu mor dlawd fel bod hyd yn oed un bar o siocled yn wledd, mae hi’n annhebygol iawn y daw ef o hyd i docyn euraid lwcus ... Ond mae hud a lledrith yn bodoli weithiau ac mae Charlie yn cael ei gyfle, ynghyd â phedwar o blant – atgas – eraill.
36 Hours Sul 18 + Maw 20 Medi UDA/1965/115mun/12Aarf. Cyf: George Seaton. Gyda: James Garner, Eva Marie Saint, Rod Taylor.
Ddiwrnodau cyn D-Day, mae’r Natsïaid yn herwgipio’r Uwchgapten Jefferson Pike yn Lisbon ac yn ei gludo i’r Almaen. Maent yn mynd ati trwy gyfrwng triciau cymhleth i’w berswadio ei bod hi eisoes yn 1950 a bod y rhyfel wedi dod i ben ers meitin. Maent yn dweud wrtho ei fod wedi colli ei gof – er mwyn ceisio cael gafael ar gynlluniau’r goresgyniad yn Normandi cyn i hwnnw ddigwydd. Wedi iddo sylweddoli ei fod yn cael ei dwyllo, rhaid i Pike argyhoeddi’r Natsïaid taw celwydd oedd ei atebion blaenorol a cheisio dianc hefyd. Stori dynn a chyffrous yn seiliedig ar stori fer Dahl o 1944, ‘Beware of the Dog’.
Sul 25 + Maw 27 Medi UDA/1995/138mun/18. Cyf: Alisson Anders, Alexandre Rockwell, Robert Rodriguez, Quentin Tarantino. Gyda: Sammi Davis, Madonna, Antonio Banderas.
Mae hi’n Nos Galan mewn hen westy crand yn Hollywood ac mae pethau’n mynd o chwith. Yn ystod ei noson gyntaf yn y swydd, gofynnir i’r porthor helpu cwfen o wrachod, i warchod plant gangster ac i fod yn ddyfarnwr mewn bet erchyll. Pedair stori ryngblethedig sydd yn seiliedig yn rhannol ar weithiau byrion Dahl i oedolion.
Chitty Chitty Bang Bang Sad 24 + Sul 25 Medi DG/1968/146mun/U. Cyf: Ken Hughes. Gyda: Dick Van Dyke, Sally Ann Howes, Lionel Jeffries, Robert Helpmann.
Mae’r dyfeisiwr ecsentrig, Caratacus Potts, yn troi hen gar yn gerbyd hedfan gwych i’w blant. Ond mae’r Barwn Bombast drwg yn dwyn y peiriant ymaith i’w wlad hudol – ac yn herwgipio tad cu y plant hefyd. Mae’r teulu, ynghyd â’r aeres hyfryd, Truly Scrumptious, yn prysuro i geisio achub Grandpa a’r cerbyd gwallgo. Addasiad o stori Ian Fleming gyda sgript gan Roald Dahl. Trowch i dudalen 27 i weld manylion Porco Rosso, ffilm arall wedi’i hysbrydoli gan Roald Dahl.
Ffilm
029 2030 4400
A Bigger Splash
Adult Life Skills
Gwe 19 Awst - Iau 1 Medi
Gwe 26 Awst - Iau 1 Medi
Yr Eidal/2015/120mun/15. Cyf: Luca Guadagnino. Gyda: Tilda Swinton, Ralph Fiennes, Dakota Johnson, Matthias Schoenaerts.
DG/2016/94mun/15. Cyf: Rachel Tunnard. Gyda: Jodie Whittaker, Lorraine Ashbourne, Brett Goldstein.
O’r chwith i’r dde: The Wait, Adult Life Skills
22
Mae Marianne yn seren roc ac yn gwella ar ôl llawdriniaeth ar ei chordiau lleisiol. Mae hi ar ynys ym Môr y Canoldir gyda’i chariad, y gwneuthurwr ffilmiau, Paul. Yn gwbl annisgwyl, mae cyn-gariad iddi, Harry, a’i ferch hardd ond pigog ef yn ymddangos yn ei fila. Drama seicolegol bryfoclyd sy’n llawn rhamant, cenfigen a chynllwynion di-foes.
Yn dilyn marwolaeth ei gefell, mae Anna’n treulio’i hamser mewn byd ffantasi, yn sied ei mam, heb rhyw lawer o bwrpas. Ond daw ei bywyd i ffocws wrth iddi nesu at ei phen-blwydd yn 30 oed a chwrdd â hen ffrind ysgol. Ffilm chwareus, chwerw-felys am geisio ymdopi â bywyd ar ôl marwolaeth.
“Coctel o emosiynau dwys, tirweddau trosgynnol a throeon annisgwyl ... gwledd go iawn” Andrew Pulver, Guardian
Summertime
The Wait
Yn ystod haf poeth 1971, mae Delphine, sy’n dod o gymuned wledig geidwadol, yn cwrdd â’r Carole fydol mewn protest ffeministaidd ym Mharis. Ond caiff eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol, mewn byd cosmopolitan a mwy cyfartal, eu chwalu pan ddaw trasiedi i ran teulu Delphine a hithau’n gorfod dychwelyd adref. Stori am gariad, dyhead a theyrngarwch teuluol wedi’i saethu â harddwch a sensitifrwydd mawr.
Gwe 26 Awst - Iau 1 Medi Yr Eidal/2016/100mun/is-deitlau/12A. Cyf: Piero Messina. Gyda: Juliette Binoche, Giorgio Colangeli, Lou de Laâge.
Mae Anna’n byw ar ystâd a arferai berthyn i deulu ei chyn ŵr. Mae Jeanne, cariad ei mab, yn dod i ymweld ond yn cyrraedd ar adeg sydd yn drasig o anghyfleus. Pan ffonia o’r maes awyr, mae Anna yn rhoi gwybod iddi bod ei chariad – mab Anna - wedi marw mewn damwain. Mae delweddaeth grefyddol a statws Sisili fel cartref i gwerylon gwaedlyd hynafol, ynghyd â defodau canoloesol a thrasiedïau’r Hen Roeg, yn plethu yn ei gilydd mewn melodrama brydferth am alar mam. Mae perfformiad Juliette Binoche yn syfrdanol.
BAFTA Mer 14 Medi Ein dangosiad rheolaidd o’r ffilmiau Cymreig gorau o’r archif ac o’r cyfnod cyfoes. www.bafta.org/cymru
Gwe 26 Awst - Iau 1 Medi Ffrainc/2016/105mun/is-deitlau/15. Cyf: Catherine Corsini. Gyda: Cécile De France, Izia Higelin, Noémie Lvovsky.
Chapter Moviemaker Llun 5 Medi Sesiwn reolaidd sy’n galluogi i gyfarwyddwyr annibynnol ddangos eu ffilmiau byrion. I gael mwy o wybodaeth am ddangos eich ffilm chi neu unrhyw fanylion eraill, e-bostiwch moviemaker@chapter.org. O bryd i’w gilydd, dangosir ffilmiau sy’n cynnwys deunydd anaddas i bobl iau. Awgrymwn, felly, bod sesiynau Moviemaker Chapter yn addas ar gyfer pobl 18+ oed. RHAD AC AM DDIM
Ffilm
23
The Carer
Wiener-Dog
Gwe 2 - Mer 7 Medi
Gwe 2 - Iau 15 Medi
DG/2016/88mun/15. Cyf: János Edelényi. Gyda: Brian Cox, Coco König, Emilia Fox, Karl Johnson, Anna Chancellor.
UDA/2016/90mun/15. Cyf: Todd Solondz. Gyda: Greta Gerwig, Ellen Burnstyn, Kieran Culkin, Julie Delphy, Danny DeVito.
Mae Syr Michael Gifford yn actor Shakespeareaidd wedi ymddeol. Mae e’n dioddef o glefyd Parkinson, yn fyr ei amynedd ac yn sownd yn ei ystâd wledig. Mae e wedi pechu llu o ofalwyr ond mae ei ferch yn gorfodi iddo dderbyn gofalwr newydd – merch ifanc o Hwngari a chanddi ei dyheadau creadigol ei hun. Ffilm gynnes a ffraeth sy’n cynnwys perfformiadau swynol, gan gynnwys perfformiad campus gan Brian Cox ym machlud ei yrfa.
Math o ddilyniant i’r ffilm fythgofiadwy, ‘Welcome to the Dollhouse’, a stori am dachshund (‘wiener dog’ mewn bratiaith Americanaidd) sy’n teithio ledled y wlad i gartrefi gwahanol berchnogion, pob un o’r rheiny a’i broblemau ei hun (gan gynnwys Dawn Weiner o ‘Dollhouse’). Caiff ysgafnder ymddangosiadol y stori ei ddadwneud gan bersbectif arsylwadol ffyrnig ac annifyr – a threiddgarwch nodweddiadol – Solondz.
O’r chwith i’r dde: The Childhood of a Leader, Julieta
chapter.org
“ Un o ddanteithion sinematig mwyaf blasus 70ain Gŵyl Ffilm Ryngwladol Caeredin eleni” Movie Review World
The Childhood of a Leader Gwe 2 - Iau 15 Medi DG/2015/115mun/is-deitlau/12A. Cyf: Brady Corbet. Gyda: Liam Cunningham, Bérénice Bejo, Tom Sweet, Robert Pattinson.
Wedi’i gosod yn y cyfnod ar ôl y Rhyfel Mawr yn Ffrainc, cawn gwrdd â Prescott, plentyn angylaidd y mae ei ymddygiad cynyddol ddrygionus yn achosi rhwyg ym mywyd bregus a gormesol y teulu. Mae yna ymdrechion ofer gan ei rieni i’w ddisgyblu - mae’r tad yn ddiplomydd Americanaidd a’r fam yn Almaenes felancolaidd y mae ei hunigrwydd ei hun yn ei harwain i gyfeiriad ffanatigiaeth grefyddol. Teyrnged anarferol a chain i ffilm Michael Haneke, The White Ribbon, sy’n cynnwys sgôr enigmatig gan Scott Walker.
CLWB FFILMIAU GWAEL
Ffilm Ddirgel Sul 4 Medi Byddwn yn dathlu 10 mlynedd o ffilmiau ofnadwy â syrpreis o’r seler.
Julieta Gwe 9 - Mer 21 Medi Sbaen/2016/96mun/is-deitlau/15. Cyf: Pedro Almodóvar. Gyda: Inma Cuesta, Adriana Ugarte, Emma Suárez.
Mae Antía ar fin symud o Madrid i Bortiwgal gyda’i phartner newydd pan aiff ar goll. Mae ei mam, Julieta, yn gorfod ymchwilio i fywyd ei merch a’u straeon cyfun. Mae Julieta wrth galon y dirgelwch mewn ffilm lawn emosiwn. Addasiad o stori fer feistrolgar Alice Munro gan gyfarwyddwr meistrolgar.
“ Astudiaeth syfrdanol a difrifol o alar, euogrwydd a baich” Dave Calhoun, Time Out
24
Ffilm
029 2030 4400
Sineffonig yw ein detholiad rheolaidd o ffilmiau am gerddoriaeth. Mae’r cymysgedd eclectig yn cynnwys ffilmiau sydd naill ai’n trin a thrafod cerddoriaeth a cherddorion yn uniongyrchol neu ffilmiau a chanddynt sgôr sain ardderchog.
Android in La La Land
Born to be Blue
DG/2016/85mun/15. Cyf: Steve Read, Rob Alexander.
UDA/2016/98mun/15. Cyf: Robert Budreau. Gyda: Ethan Hawke, Carmen Ejogo, Callum Keith Rennie.
Iau 1 Medi
Ar ddiwedd y 1970au, dechreuodd y pync ifanc o Tubeway Army, Gary Webb, arbrofi gyda thechnolegau newydd ac ailddyfeisio’i hun fel ‘Gary Numan’ a thrwy hynny chwyldroi cerddoriaeth â’i synau dyfodolaidd. Yn y tirwedd sonig newydd hwn datblygodd bersona robotig, di-emosiwn – a oedd, fe ddywedodd wedyn, yn ganlyniad i ddiagnosis o syndrom Asperger. Ar ôl brwydrau ag iselder, aeth trwy gyfnod hesb, cyn syrthio mewn cariad ag un o’i ffans mwyaf a’i helpodd ef i ailddarganfod ei gariad at gerddoriaeth. + Ymunwch â ni am sesiwn holi-ac-ateb gyda’r cyfarwyddwr, Rob Alexander.
Nick Cave: Once More with Feelings Iau 8 Medi
DG/2016/85mun/18. Cyf: Andrew Dominik.
I ddathlu rhyddhau’r albwm newydd, Skeleton Tree, byddwn yn cael golwg y tu ôl i’r llen ar y broses o ysgrifennu a recordio’r albwm ac yn gweld hefyd ddeunydd o berfformiadau gan Nick Cave and the Bad Seeds. Dechreuodd y ffilm fel syniad cydweithredol rhwng y band a’r gwneuthurwr ffilmiau, Andrew Dominik, ond fe fagodd fwy o arwyddocâd wrth i gefndir trasig yr albwm ddod i’r amlwg. Albwm amrwd a bregus a ddechreuwyd yn Brighton yn 2014 ac a orffennwyd yn Ffrainc flwyddyn yn ddiweddarach.
Gwe 9 - Iau 15 Medi
Yn y 1950au, roedd Chet Baker yn un o drwmpedwyr enwocaf y byd ac yn adnabyddus fel un o arloeswyr sîn jazz Arfordir y Gorllewin ac fel eicon o’r ‘cool’ melancolig. Ond erbyn y 1960au roedd ei yrfa a’i fywyd personol yn draed moch yn dilyn blynyddoedd o gaethiwed difrifol i heroin. Mae’r ffilm hon yn ailddychmygu rhan o fywyd Baker wrth iddo geisio ailafael yn ei yrfa dan ddylanwad cariad newydd. Mae’r gwaith yn ystyried celfyddyd ac athrylith byrfyfyr jazz ac yn cynnwys perfformiad canolog anghyffredin gan Ethan Hawke.
“ Mae Ethan Hawke yn ardderchog fel Chet Baker ac mae’r ffilm yn fywgraffiad egnïol o drwmpedwr chwedlonol” The Telegraph
Rebel of the Keys Mer 21 Medi
DG/2016/90mun/TiCh (PGarf). Cyf: Mark Charles.
Astudiaeth hynod ddiddorol o fywyd ac amserau’r pianydd, y cyfansoddwr a’r ‘enfant-terrible’, Andre Tchaikowsky. Adroddir y stori ar y cyd â hanes y perfformiad cyntaf o’i addasiad opera ef o The Merchant of Venice – llwyfannu honno oedd ei ddymuniad olaf wrth farw. Mae cymhlethdod cerddoriaeth Andre ynghyd ag ambell ddigwyddiad syfrdanol yn ei fywyd yn arwain at ddiweddglo a fyddai wrth fodd prif gymeriad a oedd yn chwithig ond yn hynod ddiddorol. + Ymunwch â ni am sesiwn holi-ac-ateb gydag Opera Cenedlaethol Cymru ar ôl y ffilm.
Born to be Blue
“ Mae creadigrwydd, dw i’n meddwl, yn rym na ellir mo’i rwystro. Mae’r grym yn dal ei afael ynoch ar hyd eich bywyd” Gary Numan
Ffilm
Première Byw: The Beatles – Eight Days a Week
NT Live: Threepenny Opera
25
The Beatles - Eight Days a Week
chapter.org
Iau 15 Medi Dangosiadau ‘encore’ heb ddeunydd ychwanegol Gwe 16 - Iau 22 Medi Dangosiad Addas i Bobl â Dementia ar Llun 19 Medi DG/2016/180mun/TiCh. Cyf: Ron Howard.
Yn ystod y cyfnod rhwng 1962 ac 1966, pan deithiodd The Beatles i bobman, fe newidiodd y pedwar bachgen o Lerpwl y byd am byth. Drwy gyfrwng 166 o gyngherddau, o’u dyddiau cynnar yng Nghlwb y Cavern i’w cyngerdd olaf yn San Francisco, daeth John Lennon, Paul McCartney, George Harrison a Ringo Starr at ei gilydd a chreu ffenomenon anghyffredin.
Iau 22 Medi
DG/2016/180mun/15arf. Cyf: Rufus Norris. Gyda: Rory Kinnear, Haydn Gwynne, Rosalie Craig.
Mae Llundain yn paratoi i goroni’r Frenhines. Mae’r lladron yn brysur, felly hefyd y puteiniaid ac mae Mac the Knife yn ôl yn y ddinas. Mae’r heddlu yn gwneud cytundebau i gadw’r cyfan allan o’r golwg. Mae Mr a Mrs Peachum yn edrych ymlaen at ddiwrnod o gardota i’w gofio ond ddaeth eu merch ddim adre’ neithiwr ac mae popeth ar fin mynd ar chwâl ... Mae’r gomedi dywyll feiddgar ac anarchaidd hon yn fersiwn newydd o sioe gerdd aflafar Bertolt Brecht a Kurt Weill ac yn addasiad newydd gan Simon Stephens.
£10/£8.50/£7 Caiff y première ei ddarlledu’n fyw trwy loeren.
£17.50/£14/£13 Ffilm yn cynnwys golygfeydd o natur rywiol a threisgar ac iaith anweddus.
Dangosiadau i Bobl â Dementia
Un Homme Qui Dort
Mae ein dangosiadau newydd sy’n addas i bobl â dementia yn gyfle gwych i fwynhau ffilm mewn awyrgylch cyfeillgar a hamddenol. Cyflwynir y dangosiadau eu hunain heb hysbysebion neu ragolygon o ffilmiau newydd ac fe fydd yr awditoriwm ychydig yn llai tywyll nag arfer. Pan fydd yn bosib, byddwn yn dangos ffilmiau gydag is-deitlau meddal a disgrifiadau sain. Ar ôl y dangosiadau, bydd yna gyfle i gymdeithasu dros baned o de neu goffi. Mae’r dangosiadau hyn ar agor i bobl sy’n byw gyda dementia – h.y. i’r rheiny sydd wedi cael diagnosis o dementia ynghyd ag aelodau o’u teuluoedd, ffrindiau, cymdogion neu ofalwyr. Bydd yna groeso cynnes hefyd i weithwyr elusennol, gweithwyr meddygol proffesiynol, staff cartrefi gofal, gweithwyr cymdeithasol a staff cymorth. £4.50 yn cynnwys paned o de neu goffi
Mer 28 Medi
Ffrainc/1974/77mun/TiCh. Cyf: Bernard Queysanne. Gyda: Jacques Spiesser, Ludmila Mikaël.
Mae myfyriwr 25-mlwydd-oed yn stopio poeni am y byd o’i gwmpas ac yn teimlo dieithriwch ac anobaith pwerus wrth iddo deithio drwy strydoedd Paris. Caiff profiadau meddyliol y gŵr eu cyfleu gan lais benywaidd ifanc oddi ar y sgrin. £15/£12/£10 + I gyfeiliant sgôr fyw gan Animat, sydd wedi mynd ati i gyfansoddi a chynhyrchu trac sain newydd ar sail elfennau o’r naratif gwreiddiol (yn Saesneg ac yn Ffrangeg), a hynny’n creu seinwedd electronig hypnotig ac amgylchynol sy’n cyd-fynd yn berffaith â naws y ffilm.
26
Ffilm
GWYL ANIMEIDDIO KOTATSU JAPAN
We welcome back the festival of anime, featuring Welsh premieres of Japanese Animation features, the fabulous Japanese market and an opportunity to win some unique prizes. Please see the festival website www.kotatsufestival.com for details of the raffle prizes. Festival Passes to see all films are £30/£25. You can book tickets for individual screenings via our website or call 029 2030 4400 to book a festival pass. Kotatsu logo Japan foundation logo Cardiff university logo
Gyda’r cloc o’r brig: Psycho-Pass the Movie, Empire of Corpses, Kotatsu Shorts, Porco Rosso
029 2030 4400
chapter.org
Ffilm
SAD 24 MEDI
SUL 25 MEDI
10.30am
11am
Japan/2015/93mun/is-deitlau/12A. Cyf: Keiichi Hara. Gyda: Kumiko Asô, Gaku Hamada, Kengo Kôra.
Japan/2015/119mun/TiCh. Cyf: Tatsuyuki Nagai. Gyda: Inori Minase, Koki Uchiyama, Sora Amamiya
Roedd gan yr artist Tetsuzo (a oedd yn fwy adnabyddus fel ‘Hokusai’) ferch dalentog iawn, O-Ei, y llwyddodd ei thalent a’i phersonoliaeth i drosgynnu cymdeithas gwrtais Japan. Mae’r animeiddiad hyfryd hwn yn dychmygu eu bywyd gyda’i gilydd, wrth iddynt greu a gofalu am eu paentiadau ac am ei gilydd. + Kitsune Tsuki (Fox Fears)
Mae Naruse Meh, merch ifanc siaradus, yn colli ei llais ar ôl trawma teuluol. Ond mae ei hagwedd at bethau’n newid pan ddaw o hyd i gerddoriaeth a chyfeillgarwch - a sylweddoli’r fath rym a rhyfeddod sy’n gallu deillio o ddefnyddio eich llais.
Miss Hokusai
Japan/2015/8mun/TiCh. Cyf: Miyo Sato.
Mae bachgen ifanc o’r enw Bunroku yn mynd i ŵyl bentrefol gyda’i ffrind ac yn ymweld â siop glocsiau ar y ffordd. Yno mae e’n clywed hen ofergoel am y llwynog.
12.50pm
The Murder Case of Hana & Alice Japan/2015/110mun/is-deitlau/TiCh. Cyf: Shunji Iwai. Gyda: Yû Aoi, Anne Suzuki, Shôko Aida.
Ar ôl i’w rhieni wahanu, mae’r Tetsuko 14 oed yn symud gyda’i mam i dref newydd. Mae hi’n cael ei bwlio yn ei hysgol newydd ar ôl cael ei rhoi i eistedd wrth ddesg myfyriwr a lofruddiwyd flwyddyn cyn hynny. Mae hi’n gofyn am gymorth Hana, meudwy sy’n byw yn y tŷ drws nesaf nad yw hi wedi gallu mynychu gwersi ers i ‘Judas’ ddiflannu.
5.30pm
Cerddoriaeth Fyw: Tsukumogami Mae Tsukumogami yn ddarn o gerddoriaeth wreiddiol a gyfansoddwyd gan y cerddor Japaneaidd, Kina Miyamoto. Bydd yn chwarae’r piano i gyd-fynd â’r animeiddiad a ysbrydolwyd gan y sgrôl cain, Tsukuogami-emaki. I gael mwy o wybodaeth am stori Tsukumogami-emaki ewch i wefan: www.edb.kulib.kyoto-u.ac.jp/exhibit-e/otogi/ tsukumo/tsukumo.html
6.30pm
Genius Party Japan/2007/85mun/is-deitlau/TiCh. Cyf: Amrywiol.
Blodeugerdd amrywiol o ffilmiau gweledol-gain gan rai o enwau mwyaf blaenllaw byd animeiddio cyfoes Japan. + Rhaglen Ffilmiau Byrion Kotatsu (23mun) (gweler y manylion ar y wefan)
8.40pm
Psycho-Pass the Movie Japan/2015/113mun/is-deitlau/TiCh. Cyf: Katsuyuki Motohiro, Naoyoshi Shiotani. Gyda: Major Attaway, Z. Charles Bolton, Cole Brown.
Yn y flwyddyn 2116, mae’r South East Asia Union (SEAUn) yn cyflwyno System Sibyl o robotiaid drôn fel modd posib o gynorthwyo’r rhyfel cartref. Mae terfysgwyr wedi cyrraedd Japan felly caiff Akane Tsunemori a’i thîm eu galw i ymateb. Ond mae Akane yn dod ar draws cynllwyn sy’n cynnwys ei hen gydweithiwr, Kogami, ac mae hi’n penderfynu mynd ar ôl y gwir.
27
Anthem of the Heart
3.15pm
Harmony Japan/2015/119mun/TiCh. Cyf: Michael Arias, Takashi Nakamura. Gyda: Jamie Marchi, Shin’ichirô Miki, Junpei Morita.
Mewn byd iwtopaidd yn y dyfodol, a dynoliaeth wedi llwyddo i ddatgloi cyfrinachau bywyd tragwyddol, mae Tuan, asiant uchel ei barch gyda Sefydliad Iechyd y Byd, yn ymchwilio i don o achosion o hunanladdiad ac argyfwng sy’n bygwth harmoni’r byd.
5.45pm
Empire of Corpses Japan/2015/120mun/15. Cyf: Ryôtarô Makihara. Gyda: Kana Hanazawa, Yoshimasa Hosoya, Taiten Kusunoki.
Mewn bydysawd amgen, mae’r gwyddonydd Victor Frankenstein yn darganfod dull o ailfywiogi cyrff – ond ar ôl i’w greadigaeth gael ei dinistrio, caiff dull o’r enw Necroware ei ddatblygu, a hwnnw’n mewnblannu enaid artiffisial fel rhyw fath o raglen gyfrifiadurol. Daw hyn yn arfer cyffredin a daw peiriannu cyrff marw yn fusnes ffyniannus, wrth i gyrff gael eu defnyddio fel robotiaid. Mae John Watson yn creu ei fersiwn anghyfreithlon ei hun o’r Necroware ac yn cael ei siarsio gan y gwasanaethau cudd i ddatblygu’r dechnoleg.
SAD 24 + SUL 25 MEDI 1.30–3.30pm
Gweithdy Arlunio Manga Dewch i ddarlunio eich cymeriad! Gyda Asuka Bochanska Tanaka. I gadw lle, anfonwch e-bost at kropla.asuka@gmail.com. £20 Oed: 12+
Porco Rosso Sad 24 + Sul 25 Medi Japan/1992/94mun/PG. Cyf: Hayao Miyazaki. Gyda: Michael Keaton, Susan Egan.
Yn yr Eidal yn ystod y 1930au cynnar, mae awyr-ladron a gwehilion o bob math yn rheoli’r awyr. Y mwyaf cyfrwys a medrus o’r rhain yw Porco Rosso, cyn beilot sydd yn edrych fel mochyn ar ôl cael ei felltithio wedi i’w sgwadron gael ei chwalu. Ar ôl cael ei drechu mewn brwydr, mae e’n llochesi mewn awyrendy ger Milan ac yn paratoi i frwydro yn erbyn ei wrthwynebwyr unwaith ac am byth. Mae’r clasur hwn gan Stiwdio Ghibli yn ymdebygu i stori fer Roald Dahl, “They Shall Not Grow Old”.
Ffilm
Weithiau mae bywyd go iawn mor ryfedd a hudolus bob tamaid â ffilm Hollywood. ‘O’r Real i’r Rîl’ yw ein rhaglen reolaidd o ffilmiau dogfen ac mae’n fodd i ddangos digwyddiadau a phobl gwirioneddol hynod ar y sgrin fawr.
The Clan
029 2030 4400
O’r chwith i’r dde: Author: The JT LeRoy Story, The Clan
28
Author: The JT LeRoy Story Gwe 2 - Iau 8 Medi
UDA/2016/111mun/15. Cyf: Jeff Feuerzeig.
Yn 2005, roedd yna sioc i’r byd celf pan ddatgelwyd bod yr “It Boy” a’r wunderkind JT LeRoy, a’i ryddiaith arw am blentyndod dioddefus, yn dric cymhleth a grëwyd gan yr artist Laura Albert. I Albert, roedd y persona amgen yn gyfle nid yn unig i gael hwyl am ben y sefydliad ond hefyd i archwilio rhyw a hunaniaeth. Mae’r ffilm hynod ddiddorol hon yn archwilio’r stori wir y tu ôl i’r amrywiol gelwyddau a bywyd carped coch hudolus ‘JT LeRoy’. + Ymunwch â ni am drafodaeth Lavender Screen, ein grŵp trafod ffilm LHBTQ misol, ar ôl y dangosiad ar Mer 7 Medi.
“ Hynod hynod ddiddorol ... ffilm sy’n cyffroi gymaint bob tamaid â’r ffugiad llenyddol” The Guardian
Ingrid Bergman: In Her Own Words Gwe 23 - Iau 29 Medi Sweden/2016/111mun/is-deitlau/PG. Cyf: Stig Björkman.
Gyda chymorth dyddiaduron a ffilmiau cartref Ingrid Bergman, cawn bortread agos-atoch o actores fwyaf Sweden. Roedd ei charwriaeth â Roberto Rossellini yn sgandal i’w chefnogwyr yn ‘Middle America’ ond roedd ei hysfa i lwyddo yn syfrdanol ac, ar y cyd ag atgofion cynnes ei phlant, cawn gipolwg ar seren ddigamsyniol na lwyddodd marwolaeth i ddiffodd ei goleuni.
Gwe 16 - Iau 22 Medi Yr Ariannin/2015/110mun/is-deitlau/TiCh. Cyf: Pablo Trapero. Gyda: Guillermo Francella, Peter Lanzani, Lili Popovich.
Arquímedes yw patriarch carismataidd teulu Puccio. Yn ddi-waith ar ôl Rhyfel y Falklands, mae e’n dechrau herwgipio aelodau o deuluoedd bonheddig a chyfoethog a gofyn am arian yn gyfnewid am eu rhyddid – a hynny reit yng ngolwg ei deulu ei hun. Yn seiliedig ar stori wir ryfeddol teulu ymddangosiadol normal a drodd at droseddu ar adeg pan oedd yr unbennaeth filwrol yn arbenigo mewn ‘diflannu’ gwrthwynebwyr gwleidyddol, mae hon yn ddrama ffraeth a thynn sy’n archwilio natur awdurdodyddiaeth a chyffredinedd drygioni.
Sweet Bean Gwe 16 - Iau 29 Medi Japan/2016/113mun/is-deitlau/PG. Cyf: Naomi Kawase. Gyda: Kirin Kiki, Masatoshi Nagase, Kyara Uchida.
Mae Sentaro, pobydd unig yn Japan, yn cyflogi’r Tokue 76 oed i’w gynorthwyo ac yn dysgu, ymhen dim, bod ganddi rysáit ardderchog ar gyfer past ffa coch melys. Ond caiff eu partneriaeth ei bygwth pan ddatgela Tokue ei bod yn dioddef o salwch difrifol.
“ Ffilm wedi’i hactio a’u ffilmio’n hyfryd, sydd yn cyfleu gwir obaith trwy wynebu tor-calon go iawn a hynny â dewrder a thosturi” The New York Times
Ffilm
29
Captain Fantastic
Cosmos
Gwe 23 Medi - Iau 6 Hydref
Gwe 30 Medi - Iau 6 Hydref
UDA/2016/118mun/15. Cyf: Matt Ross. Gyda: Viggo Mortensten, George McKay, Kathryn Hahn, Frank Langella.
Ffrainc/2015/102mun/15. Cyf: Andrzej Zulawski. Gyda: Sabine Azéma, Jean-François Balmer, Jonathan Genet.
Mae Ben yn byw ymhell o bobman gyda’i chwech o blant ac yn rhoi addysg gorfforol a deallusol drwyadl o’i wneuthuriad ei hun iddynt. Ond mae argyfwng teuluol yn ei orfodi i ail-ymwneud â’r byd. Mae cyflwyno ffordd hollol wahanol o fyw i’w blant yn arwain at heriau ac mae’n rhaid i Ben ailasesu ei syniad o’r hyn yw bod yn rhiant. Stori bwerus sydd yn ystyried ffyrdd o fyw amgen ac sydd yn cynnwys perfformiadau anhygoel.
Ar ôl methu ei arholiadau yn y gyfraith, mae Witold yn mynd i wely-a-brecwast am brêc bach yng nghwmni ffrind. Yn y fan honno, maent yn dod ar draws cyfres o olygfeydd rhyfedd: aderyn y to yn hongian yn y goedwig, a darn o bren wedyn yn hongian yr un modd. Mae realiti Witold yn trawsffurfio’n gorwynt o densiwn, rhagargoelion a rhesymeg swrrealaidd wrth iddo ddatblygu obsesiwn â merch Madame Woytis, Lena, sydd newydd briodi. Mae’r ffilm olaf hon gan y cyfarwyddwr Pwylaidd chwedlonol, Andrzej Zulawski, yn archwiliad bygythiol a manig o ddyhead.
O’r chwith i’r dde: Captain Fantastic, Cosmos
chapter.org
“ Cynnil a dyfeisgar ... didwyll, doniol, hyfryd” Brian Moylan, The Guardian
Café Society Gwe 23 Medi - Iau 6 Hydref UDA/2015/96mun/12A. Cyf: Woody Allen. Gyda: Jesse Eisenberg, Kristen Stewart, Steve Carell, Sheryl Lee.
Yn y 1930au, Oes Aur Hollywood, mae Bobby, o Efrog Newydd, yn mynd i Los Angeles i geisio gwneud ei enw yn y diwydiant ffilm. Mae ei ewythr, yr asiant ffilm Phil, yn ei gyflwyno i hudoliaeth y ddinas newydd a’i gynorthwy-ydd ifanc hardd, Vonnie. Comedi newydd chwerwfelys a gosgeiddig gan Woody Allen.
Hunt for the Wilderpeople Gwe 30 Medi - Iau 6 Hydref Seland Newydd/2016/101mun/TiCh. Cyf: Taika Waititi. Gyda: Sam Neill, Julian Dennison, Rima Te Wiata, Rhys Darby.
Mae Ricky Baker yn ‘misfit’ anghwrtais a gaiff ei anfon gan y gwasanaethau cymdeithasol at deulu maeth newydd, sydd yn cynnwys Wncwl Hec, Anti Bella a’r ci bach Tupac, yng nghefn gwlad Seland Newydd. Ond ar ôl i Ricky redeg i mewn i’r ‘bush’, a chael ei erlid gan Hec, mae’n rhaid iddynt weithio gyda’i gilydd ar daith gerdded hir er mwyn dod i ben. Â pherfformiadau carismatig a deallus gan y cast, mae’r ffilm hon yn weledol ddyfeisgar ac yn ddiymdrech ddoniol.
30
Ffilm
Noddir gan Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk 02920 666688
Gyda’r cloc o’r brig: Finding Dory, Matilda, Gremlins
Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn.
029 2030 4400
Carry on Screaming Bob dydd Gwener am 11am, mae Carry On Screaming yn gyfle i rieni neu ofalwyr weld ffilm heb orfod poeni am eu babi’n creu stŵr. Gweler y calendr am fanylion y dangosiadau arbennig hyn i bobl â babanod dan flwydd oed.
Finding Dory
Gwe 26 Awst - Sul 11 Medi UDA/2016/103mun/U. Cyf: Andrew Stanton, Angus MacLane. Gyda: Ellen DeGeneres, Albert Brooks.
Mae’r pysgodyn tang glas cyfeillgar-ond-anghofus, Dory, yn ceisio dod o hyd i’w rieni. Y drafferth yw nad yw hi’n gwybod dim yw dim amdanyn nhw ac mae hi’n anodd dod o hyd i unrhyw wybodaeth ddefnyddiol. Caiff Dory ei sgubo i’r môr gan gerrynt cryf ac mae hi’n arnofio yn ei blaen, i geisio dysgu mwy amdani hi’i hun ac am ei theulu.
Trowch i dudalennau 18-21 i weld manylion holl ddangosiadau ‘Roald Dahl ar Ffilm’ The Witches: Iau 1 – Sul 4 + Maw 13 Medi Gremlins: Sad 10 + Sul 11 Medi Esio Trot: Sad 17 + Sul 18 Medi Matilda: Maw 13 Medi Fantastic Mr Fox: Sad 17 + Sul 18 Medi Porco Rosso: Sad 24 + Sul 25 Medi Chitty Chitty Bang Bang: Sad 24 + Sul 25 Medi
chapter.org
Addysg
Diwrnod Astudio Ffilm Fantastic Mr Fox (CA2)
chapter_looper
Llun 12 Medi 9.45am–2.30pm
Dangosiad a chyflwyniad wedi’u dilyn gan ginio a gweithdy dwy awr o hyd yn llawn gweithgareddau dysgu creadigol i ddatblygu dealltwriaeth o leoliad, cymeriadu a pherthnasau rhwng cymeriadau. Bydd y gweithdy yn cymharu testun ysgrifenedig a thestun ffilmig ac yn cynnwys ymarferion unigol a gwaith grŵp. Darperir yr holl daflenni a deunyddiau angenrheidiol. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. £3 i bob disgybl (am ddim i staff)
Pen-blwydd Hapus Roald Dahl Parti Gweithgarwch Ffilm (CA2) — Charlie and the Chocolate Factory (PG) Maw 13 Medi 9.45am–2.30pm
Mae’r dathliadau’n dechrau â phrofiad sinema unigryw. Cafodd y digwyddiad hollgynhwysol hwn ei greu gan bobl ifainc ac mae’n cynnwys ‘aroglau’ arbennig ac yn gwahodd y gynulleidfa i gymryd rhan. Caiff y dangosiad ei ddilyn gan ginio a chyfres o weithgareddau creadigol dan arweiniad tîm addysg Chapter. Dewch i wneud llyfrnodau, jariau breuddwydion a llwynogod papur, i ddylunio bariau siocled a llawer iawn mwy… Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. £5 i bob disgybl (am ddim i staff)
Cysylltwch â learning@chapter.org i gael mwy o wybodaeth ac i gadw lle ar gyfer y digwyddiadau i ysgolion. I gadw lle ar gyfer y gweithdai a’r gweithgareddau eraill cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau ar 029 2030 4400.
31
Sad 10 Medi 2–5pm
Ewch am dro o gwmpas ein harddangosfa gyfredol yn yr Oriel a chasglwch seiniau er mwyn creu eich trac sain unigryw eich hun. Gyda chymorth aelodau o dîm arloesol pyka, bydd cyfranogwyr yn ymateb yn greadigol i’r arddangosfa, ac yn cael ymgolli yn eu trac sain personol ac unigryw eu hunain. I gael mwy o wybodaeth am pyka a’r ap ailgymysgu, pyka_loop, ewch i www.wearepyka.com. 9 — 14 oed £12.50 (Nifer cyfyngedig o leoedd ar gael)
‘Sewcial’ Chapter
Tymor yr Hydref Ar gyfer plant 8-12 oed Bob dydd Sul am 6 wythnos o Sul 11 Medi ymlaen, 1.30–3pm Cyflwyniad perffaith i wnïo â llaw ac â pheiriant. Bydd sesiynau’r tymor hwn yn canolbwyntio ar uwchgylchu ac ar ymarfer technegau sylfaenol. Bydd yn ddelfrydol hefyd i bobl ifainc sydd eisiau gloywi ychydig ar sgiliau a ddysgwyd eisoes ac ymarfer gwnïo mewn awyrgylch hamddenol a chymdeithasol. Mae croeso cynnes i fechgyn a merched ac fe ddarperir yr holl ddeunyddiau angenrheidiol; os oes gennych unrhyw gwestiynau am oedran neu addasrwydd y dosbarthiadau, gofynnwch! £40 i bob plentyn
‘Sewcial’ Chapter
Tymor yr Hydref Ar gyfer pobl ifainc 10-14 oed Bob dydd Sul am 6 wythnos o Sul 11 Medi ymlaen, 3.30–5pm Sesiynau delfrydol ar gyfer pobl ifainc y mae ganddynt rywfaint o brofiad gwnïo ac sydd yn awyddus i roi cynnig ar dechnegau newydd. Byddwn hefyd yn mynd yn ôl dros dechnegau sylfaenol er mwyn datblygu hyder a chreadigrwydd. Mae croeso cynnes i fechgyn a merched ac fe ddarperir yr holl ddeunyddiau angenrheidiol; os oes gennych unrhyw gwestiynau am oedran neu addasrwydd y dosbarthiadau, gofynnwch! £40 i bob plentyn
32
Gwybodaeth / Archebu
029 2030 4400
GWYBODAETH Sut i Archebu Tocynnau
Gwybodaeth
Dros y ffôn — ffoniwch ni ar 029 2030 4400. Rydym yn derbyn pob un o’r prif gardiau credyd. Galwch heibio — mae ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 11am–8.30pm, ac ar y Sul o 3pm–8.30pm. Ar–lein: Gallwch archebu ar www.chapter.org bob awr o’r dydd a’r nos Consesiynau: Mae cyfraddau disgownt ar gael i fyfyrwyr, pobl dros 60 oed, plant, y di–waith, pobl anabl, deiliaid cerdyn MAX ac i Ffrindiau Chapter a deiliaid Cerdyn Chapter. Bydd angen i chi gyflwyno prawf o’ch cymhwyster i dderbyn cyfradd ostyngol. Archebion grŵp: Prynwch 8 tocyn ac fe gewch chi’r 9fed yn RHAD AC AM DDIM. Noder os gwelwch yn dda • dim ond un disgownt y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw un adeg • rydym yn hapus i dderbyn archebion ymlaen llaw ond ni allwn gadw tocynnau i’r naill ochr • os cyrhaeddwch chi’n hwyr mae hi’n bosib y cewch chi’ch atal rhag mynychu eich digwyddiad. Cyflwynir rhai o’n ffilmiau â Disgrifiadau Sain ac Is–deitlau Meddal ond nid yw’r wybodaeth hon bob amser ar gael ar adeg argraffu’r cylchgrawn. Gweler ein gwe–fan am fanylion neu piciwch draw i’r Swyddfa Docynnau yn ystod yr wythnos y mae’r ffilm yn cael ei rhyddhau.
Cwmnïau ac Artistiaid Cysylltiedig Mae Chapter yn gartref i gwmnïau theatr, cwmnïau dawns, stiwdios animeiddio, gwneuthurwyr printiau, crochenwyr, dylunwyr graffeg, dylunwyr deunydd symudol, cyfansoddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, cyhoeddwyr cylchgronau, artistiaid annibynnol a llawer iawn mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.
Sinema Cyn 5pm O 5pm ymlaen Llawn £4.50 (£4.00) £7.90 (£7.20) Disg £3.50 (£3.00) £5.80 (£5.10) Cerdyn + Disg £3.00 (£2.50) £5.00 (£4.50) DISGOWNT DYDD MAWRTH Tocynnau’r holl brif ddangsiadau — £4.40
Gweithdai a Dosbarthiadau Rydym yn cynnal amrywiaeth eang o weithdai dyddiol a dosbarthiadau gydag ymarferwyr annibynnol, gan gynnwys ballet, zumba, ioga, crefft ymladd, massage i fabanod, cerddoriaeth i blant, pilates, tango, fflamenco, ysgrifennu creadigol, gwersi cerddoriaeth a mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.
Sut i gyrraedd Chapter Fe ddewch chi o hyd i ni yn Nhreganna, i’r gorllewin o ganol y ddinas. Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE Ar Droed Mae hi’n daith gerdded hamddenol o ryw 20 munud o ganol y ddinas. Ar Fws Mae bysus rhif 17, 18 a 33 yn aros gerllaw ac yn gadael bob pum munud o ganol y ddinas. Ar Feic Mae digon o raciau beic ar flaen yr adeilad. Parcio Mae gennym faes parcio yng nghefn yr adeilad ac mae meysydd parcio lleol eraill wedi eu nodi ar y map. Gofynnwn i chi barchu ein cymdogion os gwelwch yn dda drwy osgoi parcio mewn strydoedd cyfagos.
Prisiau ymlaen llaw/ar–lein mewn cromfachau. Mae “Ymlaen llaw” yn golygu unrhyw bryd cyn diwrnod y dangosiad.
aff nd Lla
d Roa
e St. Glynn
arc
lyF
Heo
o 6pm
cen res
Ha m i l t o n
St
t
Gr
ad
mC ha
Road
St. ay
Treganna
Le c h kwit
Church Rd.
Heol Ddwy rein i o l y B o n t F a en Penllyn Rd.
Harve
nd Wy
rn Seve
ane
. Library St
L Gray
M a rk e t P l . treet yS
St Talbot
Orc h a r d P l.
King’s Ro
d hna
Springfield Pl.
St. Gray
rt S
t.
Road
Earle Pl.
A l be
P — meysydd parcio rhad ac am ddim — rac feics
r R—oadarhosfan bysus Majo
I Ganol Dinas Caerdydd to n ling Wel
et Stre
Mynediad i bawb Mae Chapter yn croesawu ymwelwyr anabl. Os oes gennych anghenion mynediad penodol, ffoniwch ein swyddfa docynnau ar 029 2030 4400.
chapter.org
Cymryd Rhan
33
CYMRYD RHAN Cerdyn CL1C
Cadwch mewn cysylltiad
Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawr–lwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!
Ymunwch â ni ar–lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.
Ffrindiau Chapter Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40
eAmserlen rad ac am ddim eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E–bostiwch adam.chard@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e–bost.
Cynllun Myfyrwyr Chapter Ydych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth am ddim a manteisio ar gynigion arbennig nodedig, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Jennifer — jennifer.kirkham@chapter.org www.chapter.org/cy/myfyrwyr
Rydym yn falch o fod yn rhan o Hynt. www.hynt.cymru Hoffai Chapter gydnabod cefnogaeth hael y sefydliadau a’r grwpiau canlynol:
Noddir Theatrau Chapter gan rodd David Seligman er cof am Philippa Seligman Sefydliad Esmée Fairbairn Cronfa Gymunedol Tirlenwi Rhaglen Ddiwylliant yr UE Sefydliad Garfield Weston Sefydliad Foyle Gwobr Biffa Cronfa Loteri Fawr Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston Grŵp Admiral Cyf Sefydliad Moondance ar gyfer y Celfyddydau a Chwaraeon Sefydliad Elusennol Trusthouse Plant mewn Angen y BBC Waitrose Sefydliad Waterloo Sefydliad Henry Moore Ymddiriedolaeth Ynni Gwyrdd ScottishPower SEWTA Sefydliad y Brethynwyr
WRAP Google Sefydliad Jane Hodge Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson Ymddiriedolaeth People’s Postcode Ymddiriedolaeth Feddygol Dunhill Legal & General Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm Ymddiriedolaeth Ernest Cook Sefydliad Boshier–Hinton Lloyds TSB Barclays Celfyddydau & Busnes Cymru Ymddiriedolaeth Austin & Hope Pilkington Gwestai Puma: Gwesty’r Angel Caerdydd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru
Ymddiriedolaeth Elusennol Gibbs Ymddiriedolaeth Elusennol Steel Ymddiriedolaeth Oakdale Cwmni Plastig Dipec Nelmes Design Ymddiriedolaeth Elusennol Coutts Elusen Wake Bruce Funky Monkey Feet Sefydliad Finnis Scott Cote Brasserie Banc Unity Trust RWE Tidal Lagoon Power Hugh James Cymdeithas Celfyddydau Cyfoes Cymru Western Power Distribution
Aelodau Clwb Chapter: Prifysgol Fetropolitan Caerdydd Clearstream Technology Broomfield & Alexander Urban Solar Patronbase Golley Slater Effective HRM BPU Accounting Cyfrifwyr BPU MLM Cartwright Rheolwyr Cyfoeth SLD Capital Law Modern Television Arup Cyfrifwyr EST Tradebox Media Kristen Osmundsen