029 2030 4400
@chaptertweets
chapter.org
02
Croeso
chapter.org
croeso Mae Chapter yn ganolfan gelfyddydol ryngwladol sy’n adnabyddus am wneud i bethau ddigwydd. Rydym yn canolbwyntio ar gelfyddyd a chynulleidfaoedd ac ar greu mannau artistig a chymdeithasol sy’n dylanwadu ar ein ffyrdd o feddwl, ein syniad o’r hyn ydym a’r hyn yr hoffem fod. Rydym yn mwynhau risg a her. A mwynhad ynddo’i hun. Rydym yn fan cyfarfod ar gyfer syniadau, ysbrydoliaeth ac arloeswyr. Gallwch hefyd ddod i Chapter i ymlacio a sgwrsio, mewn awyrgylch cartrefol a chroesawgar.
Andy Eagle Cyfarwyddwr Croeso i gylchgrawn mis Tachwedd Chapter. Mae rhaglen wych arall o ddigwyddiadau yn eich disgwyl ac fe hoffwn i argymell yn benodol ŵyl Experimentica (gweler tudalennau 4-7 a 20-21). Hefyd, gwnewch yn siŵr eich bod yn mentro i un o garafannau Phil Collins o flaen y brif fynedfa, sydd yn rhan o’n cydweithrediad ni ag Artes Mundi (tudalennau 8-9). Mae yna lwythi o bethau gwych i’w gweld — gormod i sôn amdanynt! — felly darllenwch ymlaen a dewiswch drosoch chi’ch hun. Mwynhewch!
Graham Hill Rheolwr TGCh Mae gŵyl Soundtrack yn addo bod yn ardderchog eleni. Dw i’n edrych ymlaen at glywed David Arnold, cyfansoddwr James Bond, yn siarad am ei waith. Roeddwn i wrth fy modd â’i sgôr ar gyfer Casino Royale, mae’n waith cynnil iawn. Chapter Heol y Farchnad Caerdydd CF5 1QE 029 2030 4400 minicom 029 2031 3430 www.chapter.org enquiry@chapter.org
chapter.org
Uchafbwyntiau
Experimentica Tudalennau 4–7 a 20–21
Oriel ac Artes Mundi Tudalennau 8–10
03
CYMRYD RHAN
Bwyta, Yfed, Llogi Cerdyn CL1C tudalen 11
Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawr lwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!
Cerdyn Chapter Theatr tudalennau 12–17
Chapter Mix tudalennau 18–19
Sinema tudalennau 20–28
Gallwch arbed £££oedd ar bris pob tocyn sinema a theatr; cewch gopi am ddim bob mis o’r cylchgrawn hwn drwy’r post, taleb sinema am ddim a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig. Mae’r cerdyn hefyd yn gweithio fel Cerdyn CL1C. Cerdyn Sengl: £20/£10 Cerdyn i Ddau: £25/£20 (2 berson yn yr un cartref) Aelodaeth Lawn: Mwy fyth o fanteision — byddwch yn derbyn gwahoddiad i’r Cyfarfod Blynyddol a chopi o’r adroddiad blynyddol ynghyd â holl fanteision eraill Cerdyn Chapter. £40/£30
Cadwch mewn cysylltiad Ymunwch â ni ar-lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.
eAmserlen rad ac am ddim eAmserlen wythnosol yn eich blwch derbyn. E-bostiwch megan.price@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.
Siaradwch â ni Gwybodaeth
@chaptertweets facebook.com/chapterarts
tudalen 29
Cefnogwch ni tudalen 32
Amserlen & sut i archebu tudalen ganol Delwedd y clawr: Cathy Gordon, Moles Dancing, 2012. Delwedd trwy garedigrwydd yr artist.
04
Experimentica
experimentica 2012: Anweledig / Unseen
Uchod: Christoph Dettmeier, Ride ‘Em Jewboy, 2009. Delwedd trwy garedigrwydd yr artist. Chwith: Cathy Gordon, Moles Dancing, 2012. Delwedd trwy garedigrwydd yr artist.
029 2030 4400
chapter.org
Experimentica
05
Mercher 21 — Sul 25 Tachwedd
DELAINE LE BAS, TIM BROMAGE, THE COLLECT, BEN EWART-DEAN, CATHY GORDON, MOMUS & DAVIDA HEWLETT, SIONED HUWS & EDDIE LADD, MAMORU IRIGUCHI, MONICA ROSS: DATGANIAD O GOF, MATT COOK A SOUNDPOCKET, JOOST Nieuwenburg, GOOD COP BAD COP, RICHARD BOWERS, CHARLIE TWEED, THE STRANGE NAMES COLLECTIVE, RICHARD HIGLETT, VERTICAL CINEMA, RANDOM PEOPLE, SAM HASLER & KATHRYN ASHILL, AMBER MOTTRAM, HOLLY DAVEY, TOM MARSHMAN, ZIERLE & CARTER, PHIL BABOT, TERESA MARGOLLES, PHIL COLLINS, TANIA BRUGUERA, MIRIAM BÄCKSTRÖM, APOLONIJA ŠUŠTERŠIČ & MEIKES CHALK, CHRISTOPH DETTMEIER AC AARON WILLIAMSON Mae Experimentica yn arddangosfa flynyddol fywiog o brosiectau rhyngddisgyblaethol a pherfformiadau sy’n cynnwys gwaith ffilm, gosodiadau, celfyddyd fideo, sain, dawns a theatr. Eleni, rydym yn cyflwyno amrywiaeth o weithiau cyffrous sy’n ymwneud mewn gwahanol ffyrdd â’r syniad o fod yn ‘anweledig’: gweithiau heriol, arbrofol, sy’n diffinio’u genres. Nid thema ar gyfer yr ŵyl yw ‘anweledig’; y mae’n fwy o gatalydd, yn hytrach, ar gyfer syniadau ac yn gyfle i archwilio mannau cudd, neu fannau a gaiff eu hanwybyddu fel arfer; y tir canol, y ffin. Caiff y rhaglen — a fydd yn cael ei chyflwyno eleni yn yr oriel a’r theatr, yn ein sinemâu a’n blwch golau, yn ein stiwdios a’n mannau cyhoeddus — ei hategu hefyd gan dymor o ffilmiau yn y sinema i ddathlu 100 mlynedd o fodolaeth Bwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain (BBFC) (gweler tudalennau 20 a 21), a rhaglen gydweithredol o ddigwyddiadau yn rhan o Artes Mundi 5 (gweler tudalennau 8 a 9). Yn y cyfamser, os hoffech chi gymryd rhan yn yr ŵyl eleni, darllenwch ymlaen, dros y ddalen. Bydd amserlen lawn o weithgareddau ar gael i’w lawr-lwytho o’n gwefan, www.chapter.org. Mae tocyn diwrnod yn costio £12/£10/£8 neu, am £40 (£30 cyn 7 Tachwedd), gallwch gael mynediad i unrhyw ddigwyddiad yn ystod y 5 niwrnod (gydag ambell eithriad). Cefnogir Experimentica gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chaerdydd Gyfoes.
Hannah Firth Pennaeth Celfyddydau Gweledol & Byw Rydym yn edrych ymlaen yn arw at ŵyl Experimentica eleni, sy’n cael ei chynnal yn y theatr, y sinema, yr oriel ac yn ein mannau cymdeithasol — yn ogystal ag mewn lleoliadau ledled y ddinas. Rydym hefyd yn cydweithio am y tro cyntaf ag Artes Mundi i gyflwyno arddangosfa ychwanegol o waith rhai o’r artistiaid sydd ar restr fer y gystadleuaeth honno. Cadwch lygad ar agor am amserlen y 5 niwrnod yn llyfryn Experimentica neu ar-lein.
06
Experimentica
029 2030 4400
experimentica 2012: Anweledig / Unseen
MONICA ROSS DATGANIAD O GOF: GALW AM GYFRANWYR Mae ‘Pen-blwydd — Datganiad o Gof’ yn gyfres o berfformiadau mewn 60 act sy’n canolbwyntio ar bwysigrwydd a pherthnasedd y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol (UDHR). Mae Datganiad o Gof yn awyddus i recriwtio perfformwyr a fydd, ar y cyd â’r artist Monica Ross, yn dysgu ac yn adrodd o gof rai o Erthyglau’r Datganiad, yn eu dewis iaith. Mae’r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol wedi ei gyfieithu i 385 o ieithoedd ac, hyd yn hyn, mae mwy na 400 o bobl wedi cymryd rhan yn y gwaith, mewn mwy na 50 o ieithoedd. Er nad yw’r testun yn newid, mae pob llais yn cyfrannu ei gyddestun ei hun ac rydym yn annog cyfranogwyr i ddathlu amrywiaeth ieithyddol Caerdydd a Chymru. Ymunwch â ni am weithdy gyda Monica Ross am 7pm ar ddydd Iau, 1 Tachwedd, lle bydd yr artist yn siarad am y prosiect ac yn amlinellu sut y bydd yn mynd ati i weithio yn Chapter. Bydd y perfformiad yn digwydd am hanner dydd ar ddydd Sadwrn, 24 Tachwedd, yn rhan o ŵyl Experimentica. Bydd gofyn, felly, i gyfranogwyr fod yn rhydd ar y dyddiad hwnnw.
EXPERIMENTICA: RHAGLEN WIRFODDOL Mercher 21 — Sul 25 Tachwedd
Mae Experimentica yn chwilio am wirfoddolwyr brwdfrydig, cyfeillgar ac egnïol i gymryd rhan yn yr ŵyl eleni. Fel rhan o’r tîm, byddwch yn rhan annatod o drefniadau’r ŵyl o ddydd i ddydd ac fe fyddwch yn croesawu artistiaid, gwesteion a’r cyhoedd i Chapter. Bydd angen i chi fod ar gael rhwng 19 a 25 Tachwedd a bod yn barod i weithio oriau hyblyg yn unol ag anghenion yr ŵyl. Os hoffech chi wneud cais i fod yn rhan o’r tîm, danfonwch CV a llythyr eglurhaol (dim mwy na 2 ochr A4 os gwelwch yn dda) i nodi eich diddordeb a’ch profiad at visual. arts@chapter.org, erbyn canol dydd ar ddydd Mercher, 7 Tachwedd 2012.
Cysylltwch â visual.arts@chapter.org am fwy o wybodaeth neu i nodi eich diddordeb.
Delweddau o’r chwith i’r dde: Monica Ross, Datganiad o Gof, hawlfraint yr artist. Mamoru Iriguchi, Projector / Conjector. hawlfraint yr artist, Phil Babot, Grounded, 2006.
chapter.org
Experimentica
07
EXPERIMENTICA: CWRS AIL LEFEL Cyflwyniad i Gelfyddyd Perfformio: Lefel 2
Dyddiau Mawrth rhwng 22 Ionawr a 12 Mawrth 2013, 7-9pm Yn dilyn llwyddiant cyrsiau 2011 a 2012, mae Chapter yn falch o gyhoeddi ail lefel y ‘Cyflwyniad i Gelfyddyd Perfformio’. Mae’r cwrs hwn yn gyfle i’r rheiny a fynychodd gwrs Lefel 1, ‘Cyflwyniad i Gelfyddyd Perfformio’, neu artistiaid sy’n ymddiddori yn y maes neu’n gwybod rhyw gymaint eisoes am gelfyddyd perfformio, barhau â’u hastudiaethau. Mae’r cwrs gyda’r nos hwn, a ddyfeisiwyd ac a gyflwynir gan Davida Hewlett, yn para am wyth wythnos ac yn cynnig cyfle i astudio, i greu gwaith ac i drafod ein dealltwriaeth gyfoes o gelfyddyd perfformio a themâu mawrion y maes. Mae’r term ‘Celfyddyd Perfformio’ yn disgrifio gweithiau sy’n amrywio o weithredoedd celfyddydol a pherfformiadau arbrofol i osodiadau a chelfyddyd fyw ac yn cynnwys dawns a theatr hefyd. Mae’n parhau i gael dylanwad ar lawer o waith cyfoes mewn lleoliadau fel Chapter yn ogystal ag orielau, amgueddfeydd, gwyliau a phrosiectau artistig ledled y byd.
Mae’r ‘Cyflwyniad i Gelfyddyd Perfformio: Lefel 2’ yn rhoi’r pwyslais ar weithredu ymarferol ac yn cynnwys tasgau a gweithgareddau penodol, sesiynau unigol a thrafodaethau grŵp. Mae’r dull hwn o fynd ati yn rhoi cyfle i bobl ddatblygu gwaith sydd eisoes ar y gweill neu i gynhyrchu deunydd newydd mewn awyrgylch chwareus a chefnogol. Bydd darlithoedd anffurfiol yn archwilio gwaith artistiaid penodol ac fe ddadansoddir gweithiau hefyd trwy gyfrwng fframwaith hanesyddol a thematig. Bydd yna bwyslais arbennig ar archwilio’r berthynas rhwng celfyddyd gain, perfformio a thueddiadau cyfredol. Mae nifer y lleoedd ar y cwrs yn gyfyngedig ac fe ofynnir i’r rheiny sy’n cymryd rhan ymrwymo i fynychu pob un o’r gwersi. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â visual.arts@chapter.org £75/£50
08
Artes Mundi 5
MIRIAM BÄCKSTRÖM, TANIA BRUGUERA, PHIL COLLINS, SHEELA GOWDA, TERESA MARGOLLES, DARIUS MIKŠYS AC APOLONIJA ŠUŠTERŠIC.
Y TU ALLAN I CHAPTER BLWCH GOLAU
Tan 13 Ionawr, 2013
029 2030 4400
Phil Collins: This Unfortunate Thing Between Us (2011) Tan 13 Ionawr
Artes Mundi yw gwobr gelfyddyd fwyaf y DG ac mae’n cynnwys arddangosfa o waith saith artist sy’n torri tir newydd ledled Ewrop, America Ladin, India a Sgandinafia. Mae’r gwaith a gynhwysir yn arddangosfa Artes Mundi 5 yn archwilio themâu cymdeithasol o bob cwr o’r byd a hynny â dogn helaeth o dosturi a hiwmor. Mae’n cynnwys pynciau mor amrywiol â thrais y fasnach gyffuriau ym Mecsico, teledu realiti, amgylchiadau gwaith yn India a chymdeithaseg a gwleidyddiaeth bywyd trefol. Fel gydag Artes Mundi 1-4, cyflwynir y brif arddangosfa yn yr Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd tan 13 Ionawr, ac fe gyhoeddir enw enillydd y wobr ar 29 Tachwedd. Eleni am y tro cyntaf, mae Chapter yn falch iawn o gydweithio gydag Artes Mundi i gyflwyno amrywiaeth o brosiectau gan rai o’r artistiaid ar y rhestr fer.
Y tu allan i’n mynedfa, mae dwy garafán ail-law yn gartref i’r première Prydeinig o This Unfortunate Thing Between Us. Wedi’i berfformio am y tro cyntaf ym mis Medi 2011, mewn theatr yng nghanol Berlin ac mewn darllediad byw ar deledu digidol yn yr Almaen, mae TUTBU yn sianel siopa amgen sy’n gwerthu profiadau bywyd go iawn am brisiau disgownt, yn lle’r amrywiaeth arferol o nwyddau rhad a gemwaith. Wedi’i berfformio gan gast o actorion a gweithwyr porn, ac i gyfeiliant trac sain gan rai o hoelion wyth cerddoriaeth Cymru, Gruff Rhys ac Y Niwl, mae TUTBU yn efelychu fformat sianel delesiopa — gyda chyflwyniadau, cynigion arbennig a chyfle i ffonio’r rhaglen. Mae’r gwaith yn gipolwg pryfoclyd ar un dyfodol posib i deledu masnachol. Felly, gwnewch baned, ymlaciwch a swatiwch o flaen y teledu gyda ffrindiau hen a newydd, i wylio’r unig sianel sy’n gweithio: TUTBU TV — mae’n brofiad a hanner! RHAD AC AM DDIM
chapter.org
Artes Mundi 5
09
Miriam Bäckström, Kira Carpelan, 2007
byddai Carpelan yn ei rheoli’n llwyr. Aeth Bäckström ati i ffilmio’r broses o gydweithio a’i chyfrifoldeb hi oedd y ffilm orffenedig. Pris tocyn sinema arferol, gweler y tudalennau canol.
Phil Collins: Sesiwn holi-ac-ateb Iau 22 Tachwedd 6pm
Ar y cyd â dangosiadau o marxism today (prologue) ac use! value! exchange! (y ddau ddarn yn dyddio o 2010), bydd Phil Collins yn trafod ei waith yng nghwmni’r artist, yr awdur a’r curadur, Jason Bowman. £10/£5 (£5 i ddeiliaid tocyn gŵyl Experimentica)
ORIEL
Artes Mundi 1X1X1: Un Artist, Un Diwrnod, Un Ffilm
Mercher 21 — Sul 25 Tachwedd 12–8pm Mae Chapter wedi gwahodd Artes Mundi i guradu rhaglen o ffilmiau gan rai o artistiaid y rhestr fer eleni yn rhan o Experimentica 2012 (gweler tudalennau 4-7). Bydd pob diwrnod yn gyfle i weld un ffilm gan un o’r artistiaid, pob un yn ymateb i thema’r ŵyl eleni, ‘ANWELEDIG’: 21 Tachwedd: Teresa Margolles, Irrigación, 2012 22 Tachwedd: Phil Collins, soy mi madre, 2008 23 Tachwedd: Tania Bruguera, Tatlin’s Whisper no. 6 (Havana version), 2009 24 Tachwedd: Miriam Bäckström, Rebecka, 2004 25 Tachwedd: Apolonija Šušteršič & Meike Schalk, Alienation, 2005 Rhad ac am ddim
LIGHTBOX
THEATR
Phil Collins: This Unfortunate Thing Between Us
Miriam Bäckström: Motherfucker
Fel rhan o TUTBU, ac i gyd-fynd ag Experimentica 2012, derbyniodd Phil Collins gomisiwn i gynhyrchu gwaith newydd ar gyfer blwch golau Chapter a fydd yn gefnlen ddramatig i garafannau TUTBU.
Mae Motherfucker yn archwilio’r rolau, y swyddogaethau a’r safbwyntiau cymhleth sydd yn bodoli oddi mewn i berthynas. Mae cyfarwyddwr benywaidd yn gofyn i actor gwrywaidd greu cymeriad y byddai hi eisiau cwrdd ag ef er mwyn gallu ei adael. Wrth i’r ddrama ddatblygu, felly hefyd syniadau o reolaeth a dibyniaeth. Daw cywilydd a gwawd yn offer ac yn ddeunydd crai. Mae’r fenyw yn awyddus i greu cymeriad sy’n dryloyw yn ei ffieidd-dra. Mae hi’n cynnig cyfeiriad iddo ond yn awyddus iddo weithredu o’i wirfodd ac yn gofyn iddo gymryd rôl y ‘bastard’ a’i wthio fel nad yw’n actio mwyach ond yn ymgorfforiad o’r ‘Motherfucker’. Ategir y perfformiad gan lif fideo byw, sy’n creu paradocs rhwng yr hyn sy’n real a’r hyn a gyflwynir ar yr un pryd trwy gyfrwng y fideo.
Gwener 9 Tachwedd — Mawrth 4 Rhagfyr
Derbyniodd y comisiwn gymorth grant gan Caerdydd Gyfoes www.cardiffcontemporary.co.uk
SINEMA
Miriam Bäckström: Kira Carpelan Mercher 21 Tachwedd 3pm (78 Mun)
Mae Kira Carpelan yn adrodd hanes blwyddyn Miriam Bäckström o gydweithio â’r artist o’r un enw, cyfnod pan gafodd Carpelan ryddid pur i ymwneud â Bäckström a’i gwaith fel y dymunai. Cafodd Carpelan ganiatâd i ddefnyddio gweithiau Bäckström ynghyd â’i nodiadau, ei gwybodaeth, ei hadnoddau a’i rhwydweithiau er mwyn datblygu arddangosfa y
Mercher 28 Tachwedd 7pm & 9pm Première o ddrama’r artist (2011-12)
£10/£5 gost.
Oriel
029 2030 4400
Tony Albert, Bydd Wych / Be Deadly, 2012 (Rhan o The Future’s Not What It Used To Be)
10
Cyfle olaf i weld The future’s not what it used to be Tan ddydd Sul 4 Tachwedd Mae ein harddangosfa ddiweddaraf yn cynnwys gwaith gan ddeg artist rhyngwladol sy’n archwilio cysyniadau yn ymwneud â’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol. Gan ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau, mae’r artistiaid yn cyflwyno safbwyntiau gwahanol ar dirwedd sy’n newid ac yn ein hannog i ddiffinio ac ailddiffinio ein perthynas â’r byd. Mae Susan Hiller, Vernon Ah Kee a Tony Albert yn rhoi llais i ddiwylliannau brodorol yn y gobaith y gallwn ddysgu gwersi’r gorffennol; mae gweithiau pensaernïol a cherfluniol Marjetica Portč a Monika Sosnowska yn archwilio barddoneg a gwleidyddiaeth lle; mae Amie Siegel a Jeremy Millar yn archwilio’r modd y mae digwyddiadau hanesyddol yn atseinio yn ein dealltwriaeth a’n profiad o’r presennol; mae Patricia Piccinini yn gwneud i ni ystyried natur newidiol ein hamgylchfyd; ac mae Darren Almond a Matt Bryans yn marcio, yn trin ac yn dileu amser. Derbyniodd yr arddangosfa hon gefnogaeth gan Sefydliad Henry Moore a Llywodraeth Queensland trwy gyfrwng Asiantaeth Marchnata ac Allforio Celfyddydau Brodorol (QIAMEA). Derbyniwyd nawdd ychwanegol gan GB-Sol a City Satellite. Gyda diolch i’r holl artistiaid ac hefyd i Oriel Milani, Brisbane, White Cube, Llundain; Oriel Timothy Taylor, Llundain; Oriel Nordenhake, Berlin; Oriel Roslyn Oxley9, Sydney; The Modern Institute / Toby Webster Cyf, Glasgow; Kate MacGarry, Llundain; Sally Brand, Roger Moll, a’r benthycwyr preifat.
Oriel ar agor: Dyddiau Mawrth, Mercher, Sadwrn a Sul 12-6pm; dydd Iau a dydd Gwener 12-8pm; ar gau ar ddydd Llun
I ddod yn fuan: Celfyddyd yn y Bar Gordon Dalton: We Care A Lot Gwener 30 Tachwedd — Sul 6 Ionawr Mae i beintiadau Gordon Dalton hiwmor melancolaidd sydd fel petai’n cwestiynu eu difrifoldeb a’u bwriadau. Mae ei agwedd ymddangosiadol ddidaro yn nacáu cynildeb arwynebol ac yn datgelu hoffter o ddelweddau lletchwith. Mae i’r lluniau gymeriad adolesent — maent ar y naill law yn fregus ac ar y llaw arall yn llawn ymffrost. Bydd mwy o wybodaeth ar gael yng nghylchgrawn mis Rhagfyr/Ionawr.
chapter.org
Bwyta Yfed Llogi
11
Bwyta Yfed Llogi
Mae cysylltiad rhyngrwyd di-wifr rhad ac am ddim ar gael yng Nghaffi Bar Chapter.
Llogi
Bwyta
Mae nifer o leoedd a chyfleusterau yn Chapter ar gael i’w llogi, ac mae llawer ohonynt yn cael eu defnyddio’n rheolaidd gan amrywiaeth eclectig o ddosbarthiadau dydd a nos. Ewch i’n gwefan neu gallwch godi taflen yn y swyddfa docynnau i weld yr hyn sydd ar gael. Os ydych chi’n chwilio am ystafell ar gyfer parti, cyfarfod, cynhadledd, neu ofod ar gyfer ffilmio fideo neu ar gyfer ymarferion neu weithgareddau tîm, mae ein cyfleusterau arloesol, ein gwybodaeth dechnegol a’n staff cyfeillgar ar gael i’ch helpu chi i greu digwyddiad cyffyrddus, unigryw a chofiadwy. Bydd rheolwr ein caffi, Lex, hefyd yn gallu cynnig amrywiaeth o opsiynau arlwyo ar gyfer eich digwyddiad. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â llogi neu os hoffech chi fwy o wybodaeth, rhowch ganiad i Nicky, rheolwr y gwasanaeth llogi, ar 029 2031 1050/58 neu anfonwch e-bost at nicky.keeping@chapter.org.
Mae mis Tachwedd yn Fis Cenedlaethol Feganiaid ac rydym yn mynd i hwyl pethau yma yn Chapter. Mae gennym ddetholiad gwych o brydau fegan ar ein bwydlen — o gnocchi blasus i saladau sawrus, yn ogystal â’n sŵp fegan hynod boblogaidd. Drwy gydol mis Tachwedd byddwn yn cynnig mwy fyth o ddewis i’r llysieuwyr yn eich plith (a’r rheiny sydd awydd newid) a bydd nifer o brydau arbennig i feganiaid hefyd ar gael. . www.govegan.org.uk *Nodwch os gwelwch yn dda y bydd gwasanaeth cyfyngedig yn y caffi ar nos Fawrth, 6 Tachwedd. Ewch i www.chapter.org am fanylion pellach.
Diodydd Yr Ynys Werdd sydd wedi ysbrydoli ein detholiad arbennig o gwrw y tu ôl i’r bar y mis hwn — mae yna driawd o ddiodydd blasus o fragdy O’Hara yn Sir Carlow ar gael i’ch helpu i dorri syched. Yn gwrw drafft, byddwn yn cynnig yr IPA a enillodd brif wobr IrishCraftBrewers.com yn 2010, yn ogystal â Stowt Gwyddelig sydd wedi ennill gwobrau niferus ac sy’n cael ei fragu â hopys Fuggles i greu blas espresso cyfoethog. Mewn poteli, gallwch flasu’r Irish Red traddodiadol; mae pinsiad o haidd yn ychwanegu blas siarp at y cwrw sy’n cyd-fynd yn berffaith â charamel melys y brag. Mae teulu O’Hara wedi bod yn bragu cwrw crefftus yn Carlow ers 1996 ac rydym yn falch iawn o gael dod â’u diodydd dros y dŵr i Gymru! www.carlowbrewing.com
Pop Up Produce Bob dydd Mercher 4–7pm
Mae ein marchnad reolaidd yn cynnig detholiad o fwydydd blasus a chrefftus gan gynhyrchwyr lleol. Mae gan gwmni Bara Mark ddewis ardderchog o fara sy’n cynnwys sawl torth arbenigol — bara tatws, surdoes rhosmari neu fara resins a charwe! Mae Get Fresh! yn cynnig saladau a llysiau organig ffres ynghyd â llu o fwydydd crefftus eraill i dynnu dŵr o’ch dannedd. Mae’r Gegin Fach yn coginio pice ar y mân ffres i rysáit gyfrinachol mam-gu Rhian ac mae Sebon Soaps yn cynnig detholiad o sebonau wedi’u gwneud â llaw, heb olewau palmwydd. Mae Charcutier Ltd, cwmni charcuterie bychan, yn arbenigo mewn cigoedd hallt ac wedi mygu o Brydain, De Ewrop a Gogledd America.
12
Theatr
029 2030 4400
The Utah Bride “Mae’r awdur yn adnabod ei chymeriadau ac yn cyfleu bywyd teuluol yn ei holl ogoniant” Ymateb Aelod o’r Gynulleidfa
The Utah Bride
THEATR
chapter.org
Theatr
1.618 Theatre The Utah Bride
Omidaze Productions Things Beginning with M
Wedi’i hysgrifennu gan Carmen Medway Stephens, ei chyfarwyddo gan Louise Osborn, a’i pherfformio gan Sharon Morgan a Sara Lloyd Gregory, mae’r ddrama hon wedi’i gosod mewn pentref sy’n dioddef o effeithiau diweithdra a thlodi ac yn canolbwyntio ar freuddwydion un ferch ifanc. Pan wêl hi ei chyfle i ddianc o’r dyffryn, mae hi’n ei gymryd. Mae hi’n priodi cenhadwr Mormon er mwyn byw ei breuddwyd Americanaidd, ond beth fydd canlyniadau ei gweithredoedd? Yn aml, rhyfeloedd yn y cartref yw’r rhai mwyaf ciaidd; fe’u hymleddir â chyllyll a ffyrc, byrddau a chadeiriau. Mae’r ddrama hon yn archwilio syniadau am ‘gartref’ a’r cwlwm teuluol gan ofyn beth sy’n gwneud i ni ddyheu am fan gwyn fan draw?
Sut mae menywod yn adrodd eu hanesion wrth ei gilydd? Sut mae menywod yn mapio’u teithiau trwy fenywdod, o lencyndod i henaint? Ble mae menywod yn rhannu eu gwybodaeth, eu cyngor, eu ffeithiau a’u straeon, eu gwirioneddau, eu doethinebau a’u cyfrinachau fel y gallwn ni ddysgu gan ein gilydd? A pham fod popeth yn dechrau gydag M? Cyfuniad arbrofol a chydweithredol o theatr, ysgrifennu newydd, comedi, symudiad a chelfyddyd weledol sy’n gwneud defnydd o straeon menywod go iawn.
Iau 15 — Sadwrn 17 Tachwedd 8pm
‘ Fe laddodd Thatcher y cwm… oeddech chi’n disgwyl i fi aros yma a phriodi chwaraewr rygbi lleol?’ £12/£10/£8
Llun 29 Hydref — Gwener 2 Tachwedd 8pm
£10/£8
Theatr Bara Caws Un Bach Arall Eto!
Gwener 9 — Sadwrn 10 Tachwedd 8pm
Derbyniodd The Utah Bride gefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Adran Lenyddol Sherman Cymru a Chapter
Mae Ron y Tafarnwr dros ei ben a’i glustiau mewn dyled ac mae cwsmeriaid y ‘Cwch a’r Capten’ mor brin â rhaglen dda ar S4C. Mae’r hen greadur a’i din at y wal a dyw Lava, ei wraig, yn fawr o help. Pur anaml mae hi’n glanhau a fedar hi ddim chwcio chwaith — cwcio ddudson ni! Be’ ddaw o’r hen le? Fedar y ddau godi’r hen byb yn ôl ar ei draed? Noson ddifyr yng nghwmni llu o gymeriadau lliwgar wrth i un o sioeau glybiau mwyaf poblogaidd Bara Caws gael ei hatgyfodi.
Cathy Boyce Cydlynydd y Rhaglen (Theatr)
£12/£10 Nifer cyfyngedig o leoedd — archebwch mewn da bryd! Addas i’r rheiny dros 18 oed.
Mae Sharon Morgan wedi hen ennill enw iddi’i hun fel un o’n hactorion mwyaf medrus. Roedd yn hyfryd ei gweld hi’n ennill gwobr Actores Orau BAFTA am y trydydd tro yn ddiweddar, am ei rôl yn yr addasiad ffilm o nofel Owen Sheers, Resistance. Mae ganddi gysylltiad hir ac anrhydeddus â Chapter — mae hi wedi perfformio ei gwaith ei hun yma yn ogystal â rhai o’r gweithiau cyfoes gorau gan ddramodwyr Cymreig. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ei chroesawu yn ôl fel prif berfformiwr yn The Utah Bride.
Un Bach Arall Eto!
13
14
Theatr
Pappy’s: Last Show Ever!
Felicity Aston Alone in Antarctica
Mae Pappy’n dychwelyd â sioe newydd sbon sy’n llawn o sgetsys, caneuon a ffolineb. Ond ai dyma ddiwedd y daith i ‘griw sgetsys mwyaf doniol y “Fringe” ‘? (Scotsman) Ar ôl ymddangosiadau ar Channel 4, Radio 4 a BBC3, pum sioe boblogaidd yng Nghaeredin, tair taith genedlaethol a dau bodlediad gwobrwyol, ydyn nhw am roi’r ffidil yn y to o’r diwedd? Enwebiadau ar gyfer Gwobr Caeredin, Enillwyr Gwobr Chortle, enillwyr Loaded LAFTA. £10/£9/£8 Nifer cyfyngedig o leoedd — archebwch mewn da bryd! www.pappyscomedy.com
“Perfformiad rhyfeddol, jôc-bob-eiliad” Chortle “digrifwyr dyfeisgar, meistrolgar” The Guardian
Gwener 9 Tachwedd 7.30pm
Ym mis Ionawr 2012, bron i 100 mlynedd i’r diwrnod ar ôl i Capten Scott gyrraedd Pegwn y De, Felicity Aston oedd y fenyw gyntaf erioed i sgïo ar draws yr Antarctig ar ei phen ei hun. Am 59 diwrnod, llusgodd Felicity 85kg o gyflenwadau ar daith o 1744km dros gyfandir oeraf y ddaear, lle gall y tymheredd gyrraedd mor isel â minws 40 gradd a lle mae’r gwynt yn chwip stormus. Roedd treulio deufis ar ei phen ei hun ar dirwedd eithafol, lle gall hyd yn oed y camgymeriadau lleiaf fod yn angheuol, yn brofiad blinderus ond rhyfeddol. Gan ddefnyddio ei deunydd ffilm ei hun a delweddau trawiadol o’i thaith, bydd Felicity yn arwain y gynulleidfa trwy un o’r ychydig wir anialdiroedd sy’n dal i fodoli. £12/£10
Guto Dafis a Megan Lloyd A Date With The Devil Sadwrn 17 Tachwedd 8pm
Beth yw pris eich enaid? A fyddech chi’n ildio i ddyhead ac yn gwneud cytundeb â’r Gŵr Drwg ei hun? Noson o straeon rhyfygus, triciau a bargeinion, mwynhad a difaru, ac o fywyd a marwolaeth. Caiff y straeon eu hadrodd i gyfeiliant cerddoriaeth, canu, dawnsio a jolihoetian gan ddau o storïwyr pennaf Cymru. Bydd Guto yn perfformio stori Bywyd a Marwolaeth Jackie Kent a bydd Megan yn adrodd hanes Dyheadau’r Gof. £7/£5
O’r Chwith i’r Dde: Last Show Ever!, Alone in Antarctica
Iau 8 Tachwedd 8pm
029 2030 4400
chapter.org
Hanns Eisler
Roedd Hanns Eisler (1898-1962) yn un o gyfansoddwyr mwyaf diddorol a dadleuol Awstria yn yr ugeinfed ganrif. Yn llawn o argyhoeddiadau dwys, cysegrodd ei fywyd i ymladd gormes gwleidyddol a chymdeithasol o bob math, a dioddefodd sarhad dwbl: alltudiaeth orfodol o’r Almaen dan y Natsïaid ac wedi hynny o America yng nghyfnod McCarthy. Roedd yn gyfaill i Albert Einstein, Charlie Chaplin, Thomas Mann, Charles Laughton ac, yn fwyaf nodedig, Bertolt Brecht. Cyfansoddodd Eisler weithiau mewn genres amrywiol: o ddarnau siambr i faledi ‘agitprop’ a chytganau ar gyfer Mudiad y Gweithwyr; o weithiau symffonig llawn i sgorau ffilm mwy confensiynol ar gyfer Hollywood.
Bertolt Brecht a Hanns Eisler, darlun gan Herbert Sandberg, hawlfraint ddrbildarchiv.de®
2.30pm Bydd y prynhawn yn dechrau gyda Chôr Cochion Caerdydd a fydd yn perfformio dwy o ganeuon mwyaf adnabyddus Eisler: Cân o Gydgefnogaeth (Solidarity Song) a Chân y Ffrynt Unedig.
3pm
Nieuwe Gronden (Daear Newydd)
Yr Iseldiroedd/1933/30mun. Cyf: Joris Ivens.
Daeth Hanns Eisler a’r gwneuthurwr ffilmiau Joris Ivens i adnabod ei gilydd ym Mecca diwylliannol Berlin yr 1920au. Ar ôl arbrofion ffurfiol avant-garde, rhoddodd y ddau ddyn eu celfyddyd ar waith yn erbyn ffasgiaeth ac o blaid y mudiad llafur comiwnyddol yn ffilm drawiadol Ivens am y gwaith o adeiladu argloddiau Zuiderzee ger Amsterdam. Mae Daear Newydd yn bortread huawdl o’r trychinebau a ddaeth i ran y gweithwyr hyn o’r Iseldiroedd yn ddiweddarach, pan gafodd yr argloddiau hyn eu cau. Mewn cyfuniad o olygfeydd dramatig wedi’u hail-greu, fideo stoc a deunyddiau dogfennol, ac i gyfeiliant sgôr ysgytwol gan Eisler, mae Daear Newydd yn glasur o ffilm ddogfen wleidyddol.
Theatr
15
Bywyd o Chwyldro a Cherddoriaeth Sul 4 Tachwedd
Prynhawn o theatr, cerddoriaeth a hanes diwylliannol ar achlysur 50-mlwyddiant marwolaeth y cyfansoddwr hynod. £10
4pm
Datganiad Cerddorol Cyflwyniad o rai o gyfansoddiadau harddaf Eisler gan Philippa Reeves (llais), gyda chyfeiliant ar y piano.
5pm
Ask Me More About Brecht. Hanns Eisler yn sgwrsio â Hans Bunge Mae Sabine Berendse a Paul Clements yn cyflwyno’r cyfieithiad cyflawn cyntaf i’r Saesneg o recordiadau o sgyrsiau â Hanns Eisler. Trwy gyfrwng atgofion personol diddorol a difyr, ceir cipolwg ar hanner canrif o gynnwrf artistig a gwleidyddol. Weithiau’n ddoniol, weithiau’n ddwys, mae Eisler yn myfyrio ar syniadau am wleidyddiaeth ac arwyddocâd cymdeithasol ei gerddoriaeth; ymdrinnir hefyd â’i wrthwynebiad i Hitler a’i alltudiaeth ddilynol; ei gyfeillgarwch â Bertolt Brecht a’u cydweithio, ei ymwneud â Phwyllgor Gweithgareddau Gwrth-Americanaidd McCarthy; ac ansawdd artistig, gwleidyddol a deallusol bywyd yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen yn y 1950au a’r 60au cynnar. Bydd recordiadau gwreiddiol o Eisler ei hun yn canu ac yn chwarae’r piano, ynghyd ag oriel o luniau, yn cyd-fynd â’r perfformiad.
16
Theatr
029 2030 4400
The Third Uncles Sadwrn 10 Tachwedd 8pm Wrth i’r diddordeb mewn cerddoriaeth Gymreig gael ei aildanio, mae hi’n hen bryd, efallai, i ni roi sylw i un o’r arloeswyr cynnar. Efallai na lwyddon nhw i gyrraedd yr uchelfannau eu hunain — ond mae’n amhosib gwadu eu bod nhw wedi braenaru’r tir ar gyfer y rheiny ddaeth wedyn. Felly, tynnwch y paisley a’r cardigan llawn bathodynnau o’r drâr. Neidiwch i fyny ac i lawr. Dawnsiwch. A gwaeddwch ‘wooooooooooooo’ nerth esgyrn eich pen! £10/£8
The Third Uncles
Roedd The Third Uncles yn fand gitâr o Gaerdydd a oedd o flaen eu hamser. Wel, rhyw ddwy neu dair wythnos o flaen eu hamser, beth bynnag. Ar ôl arwyddo gyda Chrysalis ym 1988 a theithio’r DG gyda grwpiau fel The La’s a The Weather Prophets, fe ryddhaon nhw record sengl — ‘Bluedress Day’ — sydd bellach yn cael ei hystyried yn un o glasuron coll cerddoriaeth bop. Diolch byth ei bod wedi cael ei hailddarganfod erbyn hyn (y tu ôl i’r ffrij) a bod y band wedi ailffurfio er mwyn chwarae gig unigryw yn Chapter — eu cartref ysbrydol.
chapter.org
Theatr
Bedwas Boy Mandela
Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru Cwmni Richard Burton yn cyflwyno Picnic gan William Inge
Sadwrn 3 Tachwedd 8pm
Wedi’i ysgrifennu gan y gwneuthurwr ffilmiau Karl Francis, a thrwy ddefnydd o theatr fyw a ffilm, mae Bedwas Boy Mandela yn ffurfio dadl rhwng y gweledol a’r ysgrifenedig ac yn berfformiad pryfoclyd am Gymru a llygredd gwleidyddol. Mae Boy, bachgen yn ei arddegau sydd eisiau gwneud ffilmiau, yn penderfynu cyflawni hunanladdiad ar ôl i’w fywyd diwylliannol gael ei ddinistrio gan gyhuddiadau ffug. Mae’r Meistr, Mandela angylaidd, yn ddig ac yn penderfynu bod yn rhaid i Gymru farw ac atgyfodi — ond mae Gwyd, ei gynorthwy-ydd, sydd yn ddramodydd ei hun, yn ymyrryd. Gan ddefnyddio cerdd RS Thomas, ‘The Coming’, mae’n perswadio’r Meistr i ddod i Gymru — i’w barnu, ei glanhau, a’i gwneud hi’n onest eto, ac i achub y bachgen rhag cyflawni hunanladdiad. £6/£5
Everyman Spring Awakening
Mawrth 13 — Sadwrn 17 Tachwedd 7.30pm & Sadwrn 17 Tachwedd 2pm Mae Everyman Theatre yn dwyn eu tymor o Ddramâu Gwaharddedig i ben gyda chynhyrchiad o Spring Awakening gan Frank Wedekind, mewn cyfieithiad newydd gan Julian a Margarete Forsyth. Mae grŵp o bobl ifainc alluog yn derbyn addysg ddeallusol gyflawn ond y nesaf peth i ddim cyngor ymarferol neu emosiynol gan eu rhieni gormesol. Maent yn gwneud llanast o bethau ac yn gwneud camgymeriadau sy’n arwain at ganlyniadau trasig. Mae’r cynhyrchiad yn cynnwys deunydd o natur rywiol a threisgar.
O’r Chwith i’r Dde: Spring Awakening, Private Eye Detective
£10/£8
17
Gwener 30 Tachwedd — Sadwrn 8 Rhagfyr 7.30pm
Mae’r dieithryn golygus Hal Carter yn cyrraedd tref fechan yn Kansas. Mae’n denu sylw’r holl ferched ac yn tarfu ar berffeithrwydd cymuned ffensys-prengwyn Flo Owens a Helen Potts. Mae’r ddrama nwydus, chwantus a doniol hon — a enillodd Wobr Pulitzer ym 1953 — yn glasur Americanaidd oesol sy’n datgelu byd o ddyheadau dan yr wyneb. £10/ £8 Archebwch eich tocynnau gan y Coleg Cerdd a Drama drwy ffonio 029 2039 1391 neu archebwch ar-lein ar www.rwcmd.ac.uk Addas i’r rheiny dros 14 oed Caiff drama yng Ngholeg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru ei chefnogi’n hael gan Ymddiriedolaeth Richard Carne. Cyflwynir y cynhyrchiad amatur hwn trwy drefniant arbennig â Josef Weinberger Cyf.
Kitsch N Sync Collective Private Eye Detective Sadwrn 1 + Sul 2 Rhagfyr 8pm
Mae’r cynhyrchiad theatr ddawns chwareus hwn yn barodi o genre y stori dditectif glasurol ac fe’i ysbrydolwyd gan ffasiynau vintage a retro, ffilm noir a cherddoriaeth swing electro. Dewch wedi’ch gwisgo fel ‘dapper dan’ neu femme fatale, prynwch ddiod yn y bar a mwynhewch y perfformiad cabaret unigryw hwn. £10/£8 www.facebook.com/kitschnsynccollective
18
Chapter Mix
029 2030 4400
CHAPTER MIX Dydd Iau Cyntaf y mis
Cylch Chwedleua Caerdydd
Mae cyfres Seren a Llenyddiaeth Cymru o ddigwyddiadau llenyddol sy’n dathlu ffuglen, gweithiau ffeithiol a barddoniaeth yn parhau. Dewch draw i gwrdd ag awduron gwych ac i’w clywed nhw’n darllen o’u gwaith; neu gallwch gymryd rhan yn y sesiwn ‘meic agored,’ sydd yn gyfle i awduron newydd ddarllen cerdd neu dudalen o ryddiaith. Y mis hwn, bydd yr awdur ffuglen, barddoniaeth a gweithiau ffeithiol arobryn, yn Gymraeg ac yn Saesneg, Grahame Davies, yn darllen o Lightning Beneath the Sea, ei gasgliad llawn cyntaf o farddoniaeth Saesneg. Bydd Paul Binding hefyd yn darllen darn o After Brock, nofel sy’n croniclo’r cyfeillgarwch tymhestlog rhwng Pete a Sam, dau sy’n llwyddo i ddianc o’u bywydau cartref anhapus trwy gyfrwng dychymyg afieithus.
Straeon a chaneuon ar gyfer noson dywyll aeafol. Baledi gan yr hyfryd Frankie Armstrong, straeon gan Richard Berry, Elinor Kapp, Kate Hibberd, Austin Keenan, Flow & Magama, Eliot Baron, Miriam Scott a Cath Little.
Iau 1 Tachwedd 7.30pm
£2.50
The Forge
Iau 1 Tachwedd 7.30pm
Mae The Forge yn fan lle gall artistiaid o ddisgyblaethau gwahanol ymwneud â chynulleidfaoedd er mwyn archwilio syniadau creadigol a phrofi gwaith sydd ar y gweill. Bydd rhai o’r dangosiadau’n arw, bydd rhai yn barod i dderbyn adborth gan y gynulleidfa — os hoffech chi leisio barn, hynny yw. Dewch i ddarganfod y sêr mawr nesaf ac i fod yn rhan o ddatblygiad theatr a pherfformio yng Nghymru’r dyfodol. Os hoffech chi ddangos gwaith yn The Forge, neu os hoffech chi ofyn unrhyw gwestiynau, gallwch e-bostio contacttheforge@gmail.com £3.00 Cyflwynir gyda chefnogaeth hael Chapter.
Clwb Comedi The Drones Gwener 2 a Gwener 16 Tachwedd 8.30pm
Clint Edwards yn cyflwyno’r digrifwyr stand-up newydd gorau.
Sul 4 Tachwedd 8pm
£4 (wrth y drws)
MovieMaker Chapter Llun 5 Tachwedd
Sesiwn reolaidd i wneuthurwyr ffilm annibynnol gael dangos eu ffilmiau byrion.
Clonc yn y Cwtch Bob dydd Llun 6.30-8pm
Ydych chi’n dysgu Cymraeg? Ymunwch â ni i ymarfer eich Cymraeg gyda dysgwyr eraill. Croeso i bawb! Rhad ac am ddim Ar y cyd â Menter Caerdydd.
On The Edge Mog gan Aled Roberts Mawrth 6 Tachwedd 8pm
Mae Mog yn fachgen galluog sydd ar ei ffordd i’r coleg. Mae ei gefnder Alyn yn dipyn o ddiogyn. Mae yna densiwn rhwng y teuluoedd. Mae mam Alyn yn hoff iawn o Mog ond wedi rhoi’r gorau i’w gobeithion ar gyfer ei mab ei hun — er ei bod hi’n dal i chwilio am ferch solet iddo. Mae sgyrsiau Da a Ma yn rhyfeloedd geiriol — ac maen nhw hefyd yn defnyddio coesau cyw iâr a ‘turkey twizzlers’ fel arfau. Dewch i weld y cyflwyniad rhempus hwn o fywyd teuluol ym Mrynmawr! Y sesiwn ddiweddaraf o ddarlleniadau sgript-mewn-llaw Michael Kelligan. Cyfarwyddwyd gan James Ashton. £4
£3.50 (wrth y drws)
Darlith SWDFAS
Music Geek Monthly
A Thousand Miles Up the Nile gyda Amelia B. Edwards
Sadwrn 3 Tachwedd 3.30pm + Iau 29 Tachwedd 8pm
Dewisir un clasur o albwm ac un albwm newydd sbon i gael eu trafod yn y Pwynt Cyfryngol ar ddydd Iau olaf y mis. Cynhelir y gwrandawiad cysylltiedig ym moeth Sinema 2 ar ddydd Sadwrn. Rhad ac am ddim www.musicgeekmonthly.tumblr.com
Iau 8 Tachwedd 2pm
Mae Cymdeithas Celfyddydau Cain ac Addurnedig De Cymru yn croesawu Clive Barham Carter, a fydd yn adrodd hanes ryfeddol yr awdur, yr artist, y cerddor a’r casglwr, Amelia Edwards. £6 (wrth y drws, yn ddibynnol ar le) www.swdfas.org.uk
chapter.org
Theatr
19
Meddygfa Cyfryngau Cymdeithasol Treganna Mercher 7 Tachwedd 4.30-6.30pm Ydych chi wedi clywed am gyfryngau cymdeithasol heb fod yn siŵr sut mae’r holl beth yn gweithio? Neu sut y gall fod o fudd i chi neu eich grŵp? Dewch draw i’r Cwtch yn y Caffi Bar am gyfarfod hamddenol ac anffurfiol. Perffaith ar gyfer dechreuwyr neu os ydych chi neu eich grŵp cymunedol eisiau magu hyder.
Rhad ac am ddim @cantonsms
Dance Shorts
Gwener 9 Tachwedd 7.15pm Deng munud o ddawnsio newydd a chyffrous gan Lisa Spaull, wedi’i berfformio yn y cyntedd. Rhad ac am ddim
Bwrw’r Sul â Gêmau Bwrdd Sul 11 Tachwedd 5.30pm
Ymunwch â siop gêmau gyfeillgar Caerdydd, Rules of Play, yn ein Caffi Bar ar gyfer y noson gêmau fisol hon. Dewch â’ch hoff gemau bwrdd neu dewch yn waglaw a benthycwch gêm am y noson. Rhad ac am ddim
Jazz ar y Sul Sul 25 Tachwedd 9pm
Noson o jazz acwstig melodig yn y Caffi Bar gyda Phedwarawd Glen Manby. Rhad ac am ddim
Timon of Athens
6.30-7.30pm
Dilynir meddygfa’r mis hwn gan sgwrs a sesiwn holiac-ateb gyda’r Bargyfreithiwr David Hughes, aelod o Siambr Deg ar Hugain Plas y Parc. Gan dynnu ar ei brofiad ei hun, bydd David yn trafod defnydd cyfreithiol diogel o gyfryngau cymdeithasol, pethau i’w hosgoi, a’r hyn y gellir — ac na ellir — ei ddweud ar gyfryngau cymdeithasol. Sesiwn anhepgor i unigolion, grwpiau cymunedol, cymdeithasau a sefydliadau di-elw sy’n defnyddio neu’n dechrau defnyddio cyfryngau cymdeithasol.
National Theatre Live: Cynyrchiadau theatr o safon byd wedi’u darlledu’n fyw o Lundain. Os hoffech chi archebu diod ymlaen llawn ar gyfer yr egwyl, gwnewch hynny yn ein caffi/bar cyn y perfformiad.
Timon of Athens
Iau 1 Tachwedd Drysau’n agor am 6.30pm, dangosiad byw yn dechrau am 7pm yn union 150 mun. Gyda Simon Russell Beale.
Yn ffrind cyfoethog i aelodau o gymdeithas gyfoethog a phwerus, mae Timon o Athen yn hael ei roddion a’i letygarwch i elit y ddinas. Mae e’n gorwario ond pan aiff i alw ar y rheiny oedd yn ffrindiau iddo gynt, maen nhw’n ei anwybyddu a’i wfftio. Mae Timon yn ffoi i dir diffaith llythrennol ac emosiynol ac yn bytheirio melltithion swreal yng nghyfeiriad Athen — dinas sydd, yn ei dyb ef, wedi colli pob rhithyn o foesoldeb. Rhan o Ŵyl Shakespeare y Byd, cynhyrchiad gan y Cwmni Shakespeare Brenhinol ar gyfer Gŵyl Llundain 2012. £15/£10
20
Experimentica
029 2030 4400
SINEMA EXPERIMENTICA The Jon Ronson Mysteries Treuliwch noson yng nghwmni’r awdur a’r gwneuthurwr ffilmiau dogfen, Jon Ronson, wrth iddo’ch gwahodd chi i fyd o ddigwyddiadau hynod a chymeriadau rhyfedd. Roedd ei lyfrau, The Psychopath Test, Them: Adventures With Extremists a The Men Who Stare At Goats yn llwyddiannau rhyngwladol ysgubol. Cafodd The Men Who Stare at Goats ei addasu ar gyfer y sgrin fawr, gyda George Clooney, Ewan McGregor, Kevin Spacey a Jeff Bridges yn chwarae prif rannau. Mae’n ysgrifennu erthyglau nodwedd a cholofnau ar gyfer The Guardian. Mae ei ffilmiau dogfen yn cynnwys Stanley Kubrick’s Boxes a The Secret Rulers of the World, ac mae’n gyfrannwr rheolaidd i raglen This American Life sianel Public Radio International. Mae e hefyd yn gyfrifol am gyfres Jon Ronson On... ar BBC Radio 4, cyfres a enwebwyd bedair gwaith am wobr Sony. Bydd y noson yn cynnwys hanes ei lyfr The Psychopath Test (A Journey into the Madness Industry) a’i lyfr diweddaraf Lost at Sea — casgliad o straeon antur byrion. £10
O’r chwith uchaf: Jon Ronson, The Shining, Sick.
Sadwrn 10 Tachwedd 6pm
chapter.org
Experimentica
21
Y tymor hwn, byddwn yn cyflwyno detholiad o rai o’r ffilmiau hynny a achosodd wewyr meddwl i Fwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain (BBFC) ac yn edrych yn ôl dros ganrif o sinema. Penderfynwch drosoch chi’ch hun a oedd penderfyniadau’r sensoriaid dros y blynyddoedd yn rhai doeth neu annoeth gyda’r rhaglen amrywiol hon o ffilmiau heriol. Ni ellir defnyddio tocyn Experimentica i wylio’r ffilmiau hyn.
Blackboard Jungle
5 Broken Cameras
UDA/1955/103mun/12A Cyf: Richard Brooks. Gyda Glenn Ford, Sidney Poitier.
Palesteina/90mun/2012/dim tyst Cyf: Emad Burnat, Guy Davidi.
Sul 4 a Mawrth 6 Tachwedd
Derbyniodd y ffilm hon, am athro caredig sy’n ceisio ysbrydoli myfyrwyr sydd wedi dadrithio, dystysgrif gan y BBFC ddim ond ar ôl rhai munudau o doriadau. Ond nid oedd hynny’n ddigon i atal adroddiadau am grwpiau o Teddy Boys yn cael eu hysgogi i rwygo seddi sinemâu i gyfeiliant ‘Rock Around the Clock’. Yn ôl datganiad gwreiddiol y Bwrdd, roedd y ffilm yn ‘dra annymunol’. Ers hynny, mae hi wedi dod i gael ei gweld fel carreg filltir yn hanes ffilmiau ‘teensploitation’.
Indiana Jones and the Temple of Doom Sadwrn 10 Tachwedd
UDA/1984/118mun/12A. Cyf: Steven Spielberg.
Hedfanodd Cadeirydd y BBFC ei hun i LA i olygu’r ffilm hon er mwyn iddi allu derbyn y dystysgrif PG yr oedd y stiwdio ei heisiau. Wedi’i hailddosbarthu erbyn hyn i gategori 12A, dyma’r tro cyntaf i’r ffilm gael ei rhyddhau yn ei chyfanrwydd. Gweler Ffilmiau Teuluol ar dudalen 28
Enter The Dragon
Sul 11 a Mawrth 13 Tachwedd
Hong Kong/1973/99mun/18 Cyf: Robert Clouse. Gyda Bruce Lee, John Saxon.
Daeth y ffilm brif ffrwd hon am grefft ymladd dan lach y sensor o ganlyniad i bryderon y BBFC am drais ac arfau. Ar ôl darllen bod sêr miniog a nunchakus ar gael i’w prynu, penderfynodd y prif sensor, James Ferman, wahardd arfau o’r fath o’r sgrin fawr tan droad y ganrif. Ei ddadl oedd bod modd prynu’r arfau hyn yn gyfreithiol yn y DG — yn wahanol i ynnau, er enghraifft.
Shock Corridor Sadwrn 17 Tachwedd
Hefyd yn rhan o Ŵyl Soundtrack — gweler tudalennau 22-23
Cape Fear
Sul 18 a Mawrth 20 Tachwedd
UDA/1962/106mun/15 Cyf: J L Thompson. Gyda Gregory Peck, Robert Mitchum, Polly Bergen, Lori Martin.
Arweiniodd y ffilm hon at feirniadaeth anarferol o’r Bwrdd Dosbarthu — ei fod yn rhy llym. ‘161 Cuts In One Film’ oedd pennawd y Daily Express. Ond er i Thompson gwyno ac ymgyrchu yn erbyn y toriadau, dywedodd arweinydd y BBFC wedi hynny bod Gregory Peck wedi cymeradwyo pob un o’i doriadau. Hefyd yn rhan o Ŵyl Soundtrack — gweler tudalennau 22-23
Gwener 23 — Mercher 28 Tachwedd
Wedi’i ffilmio o safbwynt gweithiwr fferm Palesteinaidd, Emad Burnat, cafodd y ffilm ddogfen hon ei saethu gyda chwe chamera fideo gwahanol. Cafodd pump o’r rhain eu dinistrio yn ystod y broses o gofnodi bywyd teuluol Emad a gwrthwynebiad Palesteiniaid a’r gymuned ryngwladol i bolisi Israel o feddiannu ac anheddu. Mae’r ffilm yn croniclo blynyddoedd cynnar mab Emad, yn erbyn cefnlen o brotestiadau treisgar — ffordd o weithredu sydd wedi dod yn rhan annatod o fywyd.
The Shining
Gwener 23 — Sul 25 Tachwedd
UDA/1990/144mun/15. Cyf: Stanley Kubrick. Gyda Jack Nicholson, Shelley Duvall.
Print newydd sy’n adfer ffilm wirioneddol arswydus Kubrick i’w llawn ogoniant. Mae’n adrodd hanes teulu ifanc sy’n cymryd yr awenau mewn gwesty caeedig ym mynyddoedd Colorado dros aeaf hir ac yn dod i wybod bod ‘Tony’, cyfaill dychmygol eu mab, yn gwybod ambell i gyfrinach. Mae’r 24 munud ychwanegol, a oedd i’w gweld cyn hyn ddim ond yn yr Unol Daleithiau, yn datgelu ambell gyfrinach hefyd... Pris tocyn dwbl — The Shining a Room 237 — £12/£10
Room 237: Being an Inquiry into The Shining in 9 Parts Gwener 23 — Iau 29 Tachwedd
UDA/2012/102mun/15 Cyf: Rodney Ascher.
Mae The Shining yn 30 mlwydd oed ond yn parhau i annog trafodaethau brwd, dyfalu a dirgelwch. Yn Room 237, cyflwynir safbwyntiau gwahanol iawn — rhai o fyd seicdreiddiad, rhai hanesyddol ac ambell un go anghredadwy hefyd, trwy gyfrwng troslais, clipiau ffilm, animeiddio ac ail-greu golygfeydd. Pris tocyn dwbl — The Shining a Room 237 — £12/£10
Sick: The Life & Death of Bob Flanagan, Supermasochist Sul 25 a Mawrth 27 Tachwedd UDA/1997/92mun/18 Cyf: Kirby Dick.
Aeth Kirby Dick ati i ddogfennu balchder Bob Flanagan yn ei fywyd a’i ffordd o fyw. Roedd Flanagan yn awdur, artist perfformiad ac yn enwog am ei hoffter o BDSM. Roedd hefyd yn dioddef o ffibrosis systig ac yn gredwr cryf yng ngrym rhyddhaol S&M ar hyd cyfnod hir ei salwch. Gofynnodd y BBFC am dair munud a hanner o doriadau cyn rhoi tystysgrif 18 i’r ffilm.
22
Soundtrack
029 2030 4400
soundtrack Mercher 14 — Sul 18 Tachwedd Mae Gŵyl Ffilm a Cherddoriaeth Ryngwladol Soundtrack yn dychwelyd i Chapter â rhaglen lawn o ddangosiadau, perfformiadau, dosbarthiadau meistr a phaneli proffesiynol. Am fwy o wybodaeth ewch i www. soundtrackfilmfestival.com
Dosbarth Meistr BAFTA: Cyfansoddi gyda David Julyan Mercher 14 Tachwedd
Ymunwch â’r cyfansoddwr nodedig David Julyan ar gyfer dosbarth meistr arbennig a fydd yn edrych yn ôl ar ei yrfa. Rhad ac am ddim: cofrestrwch ar www.soundtrackfilmfestival.com
YSTAFELLOEDD TYWYLL YNG NGHLWB IFOR BACH
Beats, Rhymes & Life: The Travels of A Tribe Called Quest Gwener 16 Tachwedd
UDA/2011/97mun/adv15/ Cyf: Michael Rapaport Gyda Q-Tip, Phife Dawg, Ali Shaheed Muhammad
Ar ôl teithio gyda A Tribe Called Quest yn 2008, mae Rapaport yn adrodd hanes y perthnasau bregus sydd rhwng aelodau’r grŵp erbyn hyn a sut y mae gwrthdaro personol a hen ddadleuon yn bygwth eu creadigrwydd cyfun.
rysau’n agor am 7.30pm, ffilm am 8pm, D noson glwb 10.30pm £8 (ar gael ar www.chapter.org) www.clwb.net
The Tsunami and the Cherry Blossom Iau 15 Tachwedd
Cerdd weledol drawiadol am natur fyrhoedlog bywyd a grym iachaol hoff flodyn pobl Japan, i gyfeiliant sgôr wreiddiol gynnil gan Moby.
The Miners’ Hymns Iau 15 Tachwedd
2010/Bill Morrison/50mun
Teyrnged ar ffilm ac mewn cerddoriaeth i hanes glofaol Gogledd Ddwyrain Lloegr. Mae The Miners’ Hymns yn glytwaith o ddeunydd archif sy’n rhychwantu 100 mlynedd. Marwnad hudolus i oes a fu. Cyflwyniad mewn cydweithrediad â UNISON + Perfformiad a Sgwrs gyda Band Tylorstown
O’r top: Bones Brigade, The Legend of Kaspar Hauser, The Sound of Noise
Japan/2011/39mun/isdeitlau Cyf: Lucy Walker
chapter.org
Soundtrack
23
Pwyntiau dwbl ar eich Cerdyn CL1C gyda phob un o ddigwyddiadau Soundtrack.
Sound of Noise
Sain ar y Sgrîn
Sweden/2010/110mun/isdeitlau Cyf: Ola Simonsson & Johannes Stjärne Nilsson
Cyflwynir gan Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig ac Academi Gyfryngau Cymru Skillset Sesiwn sy’n archwilio rôl fideos cerddorol mewn byd digidol, gan ganolbwyntio ar rôl y fideo wrth hyrwyddo cerddoriaeth yn y diwydiant digidol.
Gwener 16 Tachwedd
Daw anrhefn i fywyd y Ditectif Amadeus Warnebring ar ôl i griw o derfysgwyr sonig benderfynu gweithredu ymosodiad cerddorol yn enw anarchiaeth a rhyddid, a defnyddio’r ddinas — ei hadeiladau, ei pheiriannau, a’i sŵn diddiwedd — fel cerddorfa.
The Legend of Kaspar Hauser Gwener 16 Tachwedd
Yr Eidal/2012/95mun/isdeitlau Cyf: Manuli Davide. Gyda Vincent Gallo.
Mae’r ffilm ‘techno western’ hon yn dangos Hauser ar draeth, bron yn farw, clustffonau mawr ar ei glustiau a’i enw wedi’i farcio ar ei gorff noeth. Ar goll mewn lle a chyfnod ansicr, mae’n rhaid i Kaspar Hauser fesur ei hun yn erbyn drygioni Duges Grand sy’n teimlo bod ei grym dros y gymuned yn cael ei fygwth.
Vincent Moon yn cyflwyno ‘Petite Planetes’ Sadwrn 17 Tachwedd
Ymunwch â’r cyfarwyddwr ffilmiau byrion a fideos cerddorol Vincent Moon wrth iddo adrodd hanes ei anturiaethau byd-eang gyda chamera. Bydd hefyd yn dangos detholiad o’i waith diweddaraf. Rhad ac am ddim — cofrestrwch ar www. soundtrackfilmfestival.com
Gwobr Dogfen Fer Soundtrack: Y Rhestr Fer Sadwrn 17 Tachwedd
Ymunwch â ni ar gyfer y dangosiad rhad ac am ddim hwn o’r ffilmiau ar y rhestr fer, wedi’i gyflwyno mewn cydweithrediad â Gŵyl Sŵn a Gŵyl Ffilmiau Byrion Llundain. Bydd pum ffilm ddogfen fer am gerddoriaeth o bedwar ban byd yn cystadlu am bleidleisiau’r gynulleidfa, gwobr o £500 a theitl Gwobr Dogfen Fer Soundtrack 2012.
Sadwrn 17 Tachwedd
Rhad ac am ddim — cofrestrwch ar www. welshmusicfoundation.com
Bones Brigade: An Autobiography Sul 18 Tachwedd
UDA/2012/90mun/dim tyst Cyf: Stacy Peralta. Gyda Tony Alva, Steve Caballero
Hanes gang o bobl ar yr ymylon a lwyddodd — trwy gyfrwng celfyddyd, talent amrwd, triciau rhyfeddol a’r gred fod unrhyw beth yn bosib — i droi sglefr-fyrddio o fod yn ddifyrrwch ymylol i’w statws presennol fel camp gyffrous (yn ogystal â diwydiant cysylltiol gwerth biliynau o ddoleri) a newidiodd ddiwylliant poblogaidd am byth. + Cystadleuaeth: Prynwch docyn ar gyfer Bones Brigade ac fe gaiff eich enw ei roi yn yr het am gyfle i ennill un o 10 sglefrfwrdd ecsgliwsif wedi’u cynllunio gan artist nodedig. Gwobr drwy haelioni S Mark Gubb: www.smarkgubb.com
Sgwrs gyda David Arnold Sul 18 Tachwedd
Yn y sgwrs ecsgliwsif hon, bydd y cyfarwyddwr ffilm a theledu nodedig, ac enillydd gwobrau di-ri, David Arnold, yn trafod ei yrfa, ei ffordd o weithio a’r broses o gyfansoddi ar gyfer delweddau. Cyflwynir gan Soundtrack ac Undeb y Cerddor. Rhad ac am ddim — cofrestrwch ar www. soundtrackfilmfestival.com
Cape Fear
Sul 18 a Mawrth 20 Tachwedd Hefyd yn rhan o Ŵyl Experimentica — gweler tudalennau 20-21
DANGOSIAD Y NOSON OLAF
Suspiria: gyda Thrac Sain Byw gan Fake Blood
Shock Corridor
Yr Eidal/1977/95mun/18
Rhad ac am ddim — cofrestrwch ar www. soundtrackfilmfestival.com
Sadwrn 17 Tachwedd
UDA/1963/101mun Cyf: Samuel Fuller. Gyda Peter Breck, Constance Towers.
Mae Peter Breck yn chwarae rhan Johnny Baretta, dyn sy’n colli’i feddwl yn ara’ bach ac a gaiff ei gludo i diroedd seicotig i gyfeiliant sgôr gerddorfaol Paul Dunlap. + Sesiwn holi-ac-ateb gyda Craig Lapper o’r BBFC Hefyd yn rhan o Ŵyl Experimentica — gweler tudalennau 20-21
Sul 18 Tachwedd
Mae’r DJ/cynhyrchydd dirgel Fake Blood yn camu o’r cysgodion i berfformio ei drac sain arbennig ar gyfer clasur swrrealaidd Dario Argento, ‘Suspiria’ (1977). Cyflwynir ar y cyd â Sonic Cinema a’r BFI. £12
24
Sinema
029 2030 4400
O’r Chwith i’r Dde: Beasts of the Southern Wild, On The Road
Killing Them Softly
Gwener 19 Hydref — Iau 1 Tachwedd UDA/2012/97mun/18. Cyf: Andrew Dominik. Gyda Brad Pitt, Ray Liotta, James Gandolfini.
Mae’r ffilm gyffro amrwd hon wedi’i lleoli yn New Orleans, ar ôl i’r corwynt chwalu’r ddinas, ac ar ganol dirwasgiad a arweiniodd at don o droseddu. Mae dau gangster dibwys a breuddwydiol yn eu cael eu hunain mewn dyfroedd dynion pan ddown nhw wyneb yn wyneb â bos a chael eu herlid gan ddau lofrudd llog.
Diana Vreeland: The Eye Has To Travel Gwener 26 Hydref — Iau 1 Tachwedd
UDA/2012/86mun/PG. Cyf: Lisa Immordino Vreeland, Frederic Tscheng, Ben-Jorgen Perlmutt.
Portread personol o olygydd ffasiwn chwedlonol Harper’s Bazaar a elwid yn “Archoffeiriades Ffasiwn”. Mae’r ffilm ddogfen hon yn dangos ei gyrfa ddramatig, ei hanes personol, ei gwendidau a’i natur ddi-ildio. Mae llais huawdl Vreeland ei hun yn ein tywys drwy ei bywyd ac yn dadorchuddio awydd i arloesi a arweiniodd at ailddyfeisio’r syniad o steil.
Beasts Of The Southern Wild Gwener 2 — Iau 8 Tachwedd
UDA/2012/93mun/12A. Cyf: Benh Zeitin Gyda: Quvenzhané Wallis, Dwight Henry, Levy Easterly.
Mae Hushpuppy, merch benderfynol chwe blwydd oed, yn byw gyda’i thad, Wink, yn y Bathtub, un o gymunedau deheuol y Delta, ar ymyl y byd. Mae cariad di-sentiment Wink yn ei dysgu hi i ofyn y cwestiynau mawrion ac yn ei pharatoi hefyd at gyfnod pan na fydd e yno mwyach i’w chadw hi’n ddiogel. Ar ôl i Wink ddal salwch anesboniadwy, mae natur yn mynd yn rhemp, mae’r tymheredd yn codi a’r capiau iâ yn toddi, gan ryddhau byddin o greaduriaid cynhanesyddol o’r enw ‘aurochs’. Â’r dyfroedd yn codi, yr aurochs ar eu ffordd, a iechyd Wink yn dirywio, mae Hushpuppy yn mynd i chwilio am ei mam. + Mae SciSCREEN yn dychwelyd gyda thrafodaeth banel am ein dealltwriaeth o risg a goblygiadau newid hinsoddol ar ddydd Sul, 4 Tachwedd. Gallwch archebu tocyn am ddim ar gyfer y sgwrs trwy’r Swyddfa Docynnau. Dylid archebu tocynnau ar gyfer y ffilm ar wahân. www.cardiffsciscreen.blogspot.com
Ginger and Rosa Gwener 2 — Iau 8 Tachwedd
UDA/2012/90mun/12A. Cyf: Sally Potter. Gyda Christina Hendricks, Elle Fanning, Annette Bening.
Wrth i fygythiad niwclear y Rhyfel Oer a chwyldro rhywiol y chwedegau yn Llundain drawsnewid y byd, caiff cyfeillgarwch dwy ferch yn eu harddegau — a anwyd ar y diwrnod y gollyngwyd y bom atomig ar Hiroshima — ei chwalu gan wahaniaethau ideolegol a brad personol. Mae ffilm nodwedd ddiweddaraf Sally Potter yn plymio ar ei phen i gyfnod pan oedd newidiadau pellgyrhaeddol i’w gweld ar y gorwel ond mae hefyd yn cynnig cipolwg ar effeithiau’r oes radical hon ar fywydau ei delfrydwyr ifanc.
On The Road
Gwener 2 — Iau 15 Tachwedd
Ffrainc/2012/137mun/TICh. Cyf: Walter Salles. Gyda: Viggo Mortensen, Sam Riley, Garrett Hedlund, Kirsten Stewart.
Yn dilyn marwolaeth ei dad, mae’r awdur ifanc aflwyddiannus Sal Paradise yn treulio amser yng nghwmni’r bardd Carlo Marx mewn amrywiol fariau garw, cool. Caiff popeth ei drawsnewid gan Dean Moriarty, gŵr gwyllt a rhydd, sy’n derbyn amrywiol fân swyddi ac yn chwarae triciau lle bynnag y gall ac yn anwybyddu’n llwyr glymau cysurus cartref ac aelwyd. Mae e’n yfed pob diferyn o’i fywyd. Wedi’i swyno gan Dean, mae Sal yn dechrau ar daith gydag ef a Marylou, ei briodferch 16 oed. Wedi’i ffilmio’n chwaethus ac i gyfeiliant trac sain jazz, mae Walter Salles yn llwyddo i drosglwyddo egni gwyllt nofel Jack Kerouac i’r sgrin fawr. + Bydd ein grŵp ffilm a llenyddiaeth, Addasiadau / Adaptations, yn cyfarfod ar ôl y dangosiad ar ddydd Llun, 5 Tachwedd, i drafod y ffilm. Archebwch eich tocynnau o’r swyddfa docynnau.
Sinema
25
O’r Chwith i’r Dde: Rust and Bone, Tabu
chapter.org
Untouchable
Gwener 2 — Iau 8 Tachwedd
Ffrainc/2011/112mun/15/isdeitlau. Cyf: Olivier Nakache, Eric Toledano. Gyda Francois Cluzet, Omar Sy, Anne Le Ny.
Pan benderfyna’r cwadriplegig cyfoethog, Philippe, gynnal cyfweliadau i ddod o hyd i ofalwr, mae’n cwrdd â sawl ymgeisydd cymwys ond diflas — tan i Driss ymddangos. Mae hwnnw’n droseddwr ifanc sydd wedi mynychu’r cyfweliad ddim ond er mwyn gallu parhau i hawlio budd-daliadau diweithdra. Un o’r ffilmiau mwyaf llwyddiannus erioed yn Ffrainc, mae’r gwaith hwn yn gomedi ffraeth a chynnes sy’n canolbwyntio ar y cyfeillgarwch annhebygol rhwng y ddau ddyn wrth i’r naill gyflwyno i’r llall gelfyddyd, diwylliant, barcuta — a’r cyffro o gael eich erlid mewn car cyflym.
Clwb Ffilmiau Gwael: The Beach Girls Sul 4 Tachwedd
UDA/1982/91mun/18
Mae Nicko a Joe yn dychwelyd i gynnig sylwebaeth fyw ar y clasur hafaidd, Beach Girls. Yn dryw i’r egwyddor bod y teitl yn dweud popeth sydd i’w ddweud am y ffilm, mae Beach Girls yn adrodd hanes grŵp o ferched sy’n mynd ar wyliau i’r traeth. Partïon, byw’n wyllt, goryfed — ond mae’r merched hefyd yn dod at ei gilydd i ddal criw o fasnachwyr cyffuriau rhyngwladol a hyn i gyd heb lawer o ddillad amdanynt.
Rust and Bone
Gwener 9 — Iau 22 Tachwedd
Ffrainc/2012/120mun/TICh/isdeitlau. Cyf: Jacques Audiard. Gyda Marion Cotillard, Matthias Schoenaerts.
Pan gaiff Ali — dim arian, dim ffrindiau — ei hun yn gorfod gofalu am ei fab 5 mlynedd oed, aiff i geisio lloches yn nhŷ ei chwaer yn Antibes. Ar ôl dod o hyd i waith fel bownsar mewn clwb nos lleol, mae Ali’n cyfarfod â Stephanie, menyw hardd, hunan-hyderus ac mae e’n rhoi ei rif ffôn iddi. Pan mae e’n ei gweld hi nesa’, mae hi mewn cadair olwyn ar ôl colli ei choesau a’i breuddwydion. Mae Audiard yn dangos eiliadau o dynerwch gwirioneddol rhwng y ddau — ond mae’n gwneud hynny heb dosturi neu gyfaddawd.
Sister
Gwener 9 — Iau 15 Tachwedd
Ffrainc/2012/100mun/15/isdeitlau. Cyf: Ursula Meier. Gyda Lea Seydoux, Kacy Mottet Klein, Gillian Anderson, Martin Compston.
Mae Simon, bachgen 12 oed galluog, yn byw gyda’i chwaer hŷn wyllt ac anghyfrifol mewn fflat fach ger cyrchfan sgïo moethus yn Alpau’r Swistir. Bob dydd, mae Simon yn dringo’r mynydd uchel i ddwyn offer sgïo gan y bobl gyfoethog a’u gwerthu er mwyn cael arian i fyw. Heb oruchwyliaeth, mae ei fenter anghyfreithlon a’i berthynas gynyddol â’r gweithwyr a’r gwesteion tymhorol yn arwain at chwalu’i berthynas fregus â’i chwaer.
Tabu
Gwener 9 — Mawrth 13 Tachwedd
Mecsico/2012/118mun/15/isdeitlau. Cyf: Miguel Gomes.
Wedi ei ffilmio mewn du a gwyn hyfryd, mae Tabu wedi ei rhannu’n ddwy stori go wahanol ond sydd hefyd yn plethu i’w gilydd. Mae’r gyntaf, wedi’i gosod yn y Lisbon gyfoes, yn dilyn Pilar, cinephile felancolaidd sydd newydd ymddeol, a’i pherthynas anniddig ag Aurora, ei chymydog oedrannus ac ecsentrig. Mae’r ail stori, a gaiff ei hadrodd trwy gyfrwng troslais barddonol, yn mynd yn ôl mewn amser i’r Affrica drefedigaethol, lle mae stori’r Aurora ifanc o amour fou yn mynd rhagddi fel un o straeon Hemmingway, yng nghanol bryniau gwyrdd, mynyddoedd ag eira ar eu copaon a phlanhigfeydd eang. Ffilm virtuoso sy’n chwarae â hanes, sain a’r cysyniad o naratif llinol yn ogystal â syniadau am slapstick, melodrama, angerdd a thrasiedi. Cyflwynir y cyfan hefyd â dognau helaeth o felancoli a ffraethineb.
Sinema
The Sapphires
Samsara
029 2030 4400
O’r Chwith i’r Dde: About Elly, Samsara
26
Gwener 16 — Iau 29 Tachwedd
Awstralia/2012/103mun/PG. Cyf: Wayne Blair. Gyda Chris O’Dowd, Deborah Mailman, Jessica Mauboy, Shari Sebbens, Miranda Tapsell
I bedair o ferched ifainc o genhadaeth Aboriginaidd anghysbell, 1968 oedd y flwyddyn a newidiai eu bywydau am byth. Yn seiliedig ar stori wir, mae’r ffilm lawen hon yn adrodd hanes y chwiorydd Gail, Julie a Cynthia, ynghyd â’u cefnder Kay, a’r modd y cawsant eu darganfod gan Dave, cerddor heb lawer o lwc ac sy’n rhy hoff o’i chwisgi Gwyddelig ond sy’n gwybod i’r dim hefyd beth yw cerddoriaeth soul. Mae Dave yn hedfan y merched i Delta’r Mekong ac ardaloedd rhyfelgar De Fietnam, lle maen nhw’n canu’r clasuron i’r Môr-filwyr Americanaidd, yn osgo bwledi — ac yn cwympo mewn cariad efallai, hefyd.
About Elly
Gwener 16 — Iau 22 Tachwedd
Iran/2009/118mun/12A/isdeitlau. Cyf: Asghar Farhadi. Gyda Golshifteh Farahani, Hosseini Shahab, Taraneh Alidoosti.
Ffilm newydd y cyfarwyddwr a enillodd Oscar am ei ffilm, A Separation. Mae’r ffilm newydd hon yn adrodd hanes grŵp o fyfyrwyr sy’n treulio’u gwyliau mewn tŷ mawr ar arfordir Môr Caspia. Mae Sepideh, sydd wedi trefnu’r daith, yn gwahodd ei gydweithiwr Elly yn y gobaith y bydd hi’n ymateb i swyn ei ffrind Ahmad, y mae ei berthynas â’i gariad newydd ddod i ben. Ar ôl deall y tric, mae’r ddau’n penderfynu chwarae’r gêm ac mae’r gwyliau’n mynd yn eu blaen yn ddidrafferth — tan i Elly ddiflannu’n sydyn. Unwaith eto, mae’r cyfarwyddwr nodedig, Farhadi, wedi cynhyrchu darn o waith rhagorol a heriol lle mae’r cymeriadau a’r gwyliwr fel ei gilydd dan bwysau ac yn colli’u cydbwysedd.
“Ffilm wirioneddol ddiddorol, actio grymus; darn aflonyddol, llawn cyffro a gwewyr,” The Guardian
Llun 19 — Iau 22 Tachwedd
UDA/2011/99mun/12A. Cyf: Ron Fricke.
Wedi’i ffilmio dros gyfnod o bedair blynedd mewn 25 o wledydd ar bum cyfandir, mae Samsara yn fyfyrdod di-eiriau. Fe’n cludir ni i fydoedd amrywiol — tir cysegredig, trychinebau naturiol, canolfannau diwydiannol a rhyfeddodau naturiol — ond mae’r cyfan wedi’i wreiddio yn y profiad dynol. Mae’r tîm a oedd yn gyfrifol am Baraka a Chronos wedi dod at ei gilydd unwaith eto i wyrdroi ein disgwyliadau o’r hyn yw ffilm ddogfen draddodiadol. Mae’r gwaith, a’i ddelweddau syfrdanol, yn annog dehongliadau personol; mae’r hynafol yn trwytho’r modern ac mae sgôr drawiadol sy’n cynnwys darnau gan Lisa Gerrard, Michael Stearns a Marcellow De Francisci yn atgyfnerthu’r effaith. Wrth daflu goleuni ar y cysylltiad rhwng dynoliaeth a gweddill byd natur, mae’r ffilm yn dangos sut y mae cylch bywyd yn adlewyrchu rhythm y blaned ei hun. Ffilm i’w gweld ar y sgrin fawr, heb os.
Anna Karenina
Gwener 23 — Iau 29 Tachwedd
DG/2012/130mun/12A. Cyf: Joe Wright. Gyda Keira Knightley, Aaron Johnson, Jude Law, Kelly Macdonald.
Wedi’i chaethiwo mewn priodas ddigariad ag un o swyddogion y llywodraeth, mae Anna’n syrthio mewn cariad â’r Vronsky ifanc, ac yn cychwyn drwy hynny ar gyfres o ddigwyddiadau a fydd yn arwain at ei chwymp. Mae Joe Wright yn ein tywys i gyfnos y Rwsia imperialaidd yn y stori glasurol hon o genfigen, rhagrith, dyletswydd teuluol, tynged a dyhead.
Sinema
27
The Alps
The Hunt
Gwlad Groeg/2012/93mun/TICh/isdeitlau. Cyf: Lanthimos Giorgos. Gydag Aggeliki Papoulia, Ariane Labed, Aris Servetalis, Johnny Vekris, Stavros Psyllakis.
Denmarc/2012/111mun/15. Cyf: Thomas Vinterberg. Gyda: Mads Mikkelsen, Thomas Bo Larsen, Annika Wedderkop.
O’r Chwith i’r Dde: Amour, The Hunt
chapter.org
Gwener 30 Tachwedd — Iau 6 Rhagfyr
Mae nyrs, parafeddyg, a gymnast a’i hyfforddwr wedi dod at ei gilydd i gynnig gwasanaeth ar log. Maent yn cymryd lle pobl sydd wedi marw ac yn cael eu llogi gan berthnasau, ffrindiau neu gydweithwyr yr ymadawedig. Enw’r cwmni yw Yr Alpau. Mae eu harweinydd, y parafeddyg, yn ei alw’i hun yn Mont Blanc. Ac er bod yr arweinydd yn mynnu bod aelodau’r Alpau yn gweithredu â disgyblaeth lem, nid yw’r nyrs yn gwneud hynny.
Amour
Gwener 30 Tachwedd — Iau 13 Rhagfyr
Awstria/2012/127mun/12A/isdeitlau. Cyf: Michael Haneke. Gyda Jean-Louis Trintignant, Emmanuelle Riva, Isabelle Huppert.
Mae Georges ac Anne yn athrawon cerdd wedi ymddeol. Maen nhw’n bobl ddiwylliedig, yn eu hwythdegau, ac yn byw mewn fflat hardd ym Mharis. Pan gaiff Anne bwl o salwch un dydd, caiff cwlwm cariad y cwpwl ei brofi i’r eithaf. Er bod Haneke yn adnabyddus am ffilmiau heriol, mae hon yn ffilm ingol ac anghyffredin o dyner — ac mae hi wedi’i hactio’n gampus. Gwelwn fisoedd trasig olaf perthynas sydd wedi para am chwe degawd, wrth i ŵr cariadus o Ffrainc ofalu am wraig sy’n gynyddol flin o ganlyniad i ddwy strôc wanychol.
Gwener 30 Tachwedd — Iau 13 Rhagfyr
Mae Lucas, un o hoelion wyth y gymuned leol ac athro kindergarten, yn chwarae’i ran yn gwbl fodlon yn nhraddodiadau lleol ei bentref, gan gynnwys yr helfa geirw flynyddol. Ond aiff pethau o chwith i Lucas pan wneir cyhuddiad yn ei erbyn a phan ddatblyga’r sefyllfa y tu hwnt i bob rheolaeth.
Laurence Anyways
Gwener 30 Tachwedd — Iau 6 Rhagfyr
Canada/2012/159mun/TICh/isdeitlau Cyf: Xavier Dolan. Gyda Melvil Poupaud, Suzanne Clement
Mae Laurence yn awdur ac yn athro a gyda Fred, ei gariad, mae’r cwpwl yn byw mewn swigen gyffyrddus. Maent yn ddirmygus a heriol ac yn gwrthod normau cymdeithasol. Fodd bynnag, pan gyhoedda Laurence ei fod yn fenyw sy’n gaeth mewn corff dyn, caiff eu perthynas ei newid ac mae’r ffilm yn dilyn y pâr wrth i Fred geisio gweithio allan a fedr hi dderbyn Laurence fel menyw ac os gall hi fod mor herfeiddiol ag y bu yn wyneb y pwysau teuluol a chymdeithasol ychwanegol.
28
Sinema
029 2030 4400
FFILMIAU I’R TEULU CYFAN Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn. Archebwch ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.
Gwener 26 Hydref — Iau 1 Tachwedd
UDA/2012/93mun/TICh. Cyf: Chris Butler, Sam Fell. Gyda Kodi Smith-McPhee, Casey Affleck.
Mae bachgen camddealledig sy’n gallu siarad â’r meirw yn brwydro yn erbyn ysbrydion, zombies ac oedolion i achub ei dref rhag hen hen felltith.
Rango
Sadwrn 17 Tachwedd
UDA/2011/107mun/PG Cyf: Gore Verbinski. Gyda Johnny Depp, Isla Fisher, Timothy Olyphant
Mae Rango yn gameleon cyffredin sy’n ei gael ei hun, ar ddamwain, yn Dirt, tref afreolus yn y Gorllewin Gwyllt sydd wir angen siryf (‘sheriff’) newydd.
Brave [2D]
Gwener 2 + Sadwrn 3 Tachwedd
UDA/2012/100mun/PG. Cyf: Mark Andrews, Brenda Chapman. Gyda Kelly Macdonald, Billy Connolly, Emma Thompson
Yn benderfynol o droedio’i llwybr ei hun trwy fywyd, mae’r Dywysoges Merida yn herio traddodiad sy’n dwyn anhrefn ar ei theyrnas. Ar ôl cael y cyfle i gael gwireddu un dymuniad, rhaid i Merida ddibynnu ar ei dewrder a’i sgiliau saethyddiaeth i ddadwneud melltith ddychrynllyd.
Indiana Jones and the Temple of Doom Sadwrn 10 Tachwedd
UDA/1984/118mun/12A Cyf: Steven Spielberg Gyda Harrison Ford, Kate Capshaw, Jonathan Ke Quan
Ar ôl cyrraedd India gyda chanwr clwb nos a bachgen 12-mlwydd-oed o’r enw Short Round, mae Indiana Jones yn dod ar draws pentref dirgel lle mae’r plant wedi diflannu. Wrth chwilio am garreg gyfrin, mae’n dod o hyd i gwlt cyfrinachol sy’n paratoi cynllwyn ofnadwy ym mynwent danddaearol y palas hynafol.
Hotel Transylvania Sadwrn 24 Tachwedd
UDA/2012/92mun/U Cyf: Genny Tartakovsky. Gyda Adam Sandler, Kevin James, Andy Samberg
Mae Dracula, sy’n rhedeg cyrchfan gwyliau o’r radd flaenaf yn bell o’r byd dynol, yn dechrau ymddwyn mewn modd goramddiffynnol pan ddaw bachgen o hyd i’r lle a chwympo mewn cariad wedi hynny â merch y Cownt ei hun.
Carry On Screaming!
Bob dydd Gwener am 11am, mae Carry On Screaming! yn galluogi i rieni neu ofalwyr weld ffilm heb orfod poeni y bydd eu babi’n aflonyddu ar eraill. Edrychwch ar y calendr i gael manylion y dangosiadau arbennig hyn, i bobl â babanod iau na blwydd oed. Mynediad am ddim i fabanod. Nodwch os gwelwch yn dda nad yw tocynnau ar gyfer y dangosiadau hyn ar gael ar-lein. Dim mynediad heb fabi!
O’r Chwith i’r Dde: Brave, Indiana Jones and the Temple of Doom
ParaNorman [2D]
Road
A l be
rt S
t.
Heol Ddwyreiniol
Canton
ton ling Wel
To Cardiff City Centre / I Ganol Dinas Caerdydd
y Bont Faen
St
et Stre
Ha m i l t o n
St Talbot
nad
Access for all Chapter welcomes disabled visitors. If you have any specific access requirements or questions please contact our box office on 029 2030 4400, minicom 029 2031 3430.
Mynediad i bawb Mae Chapter yn croesawu ymwelwyr anabl. Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad penodol ffoniwch ein swyddfa docynnau ar 029 2030 4400, minicom 029 2031 3430.
P — free car parks meysydd / parcio rhad ac am ddim — bus stop / safle bws — cycle rack / rac feics
Earle Pl.
h kwit
Gweithdai a Dosbarthiadau Rydym yn cynnal amrywiaeth eang o weithdai dyddiol a dosbarthiadau gydag ymarferwyr annibynnol, gan gynnwys bale, zumba, ioga, crefft ymladd, massage i fabanod, cerddoriaeth i blant, pilates, tango, fflamenco, ysgrifennu creadigol, gwersi cerddoriaeth a mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.
Le c
ad
St. ay
r Ro Majo
Gr
Orc h a r d P l.
ad
Workshops and Classes We host a wide variety of daily workshops and classes run by independent practitioners including ballet, zumba, yoga, martial arts, baby massage, children’s music, pilates, tango, flamenco, creative writing, music lessons and more. Head to www.chapter.org for more details.
Cwmnïau ac Artistiaid Cysylltiedig Mae Chapter yn gartref i gwmnïau theatr, cwmnïau dawns, stiwdios animeiddio, gwneuthurwyr printiau, crochenwyr, dylunwyr graffeg, dylunwyr deunydd symudol, cyfansoddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, cyhoeddwyr cylchgronau, artistiaid annibynnol a llawer iawn mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.
Associated Companies and Artists Chapter is home to theatre companies, dance companies, animation studios, printmakers, potters, graphic designers, motion designers, composers, filmmakers, magazine publishers, many individual, independent artists and more. Head to www.chapter.org for more details.
. Library St
Parcio Mae gennym faes parcio yng nghefn yr adeilad ac mae meysydd parcio lleol eraill wedi eu nodi ar y map uchod. Gofynnwn i chi barchu ein cymdogion os gwelwch yn dda drwy osgoi parcio mewn strydoedd cyfagos.
d Eas t
ane
Cowbrid ge Ro a
L Gray
Parking We have a car park to the rear of the building and local car parks are marked on the map above. Please respect our neighbours and avoid parking on nearby streets.
St. Gray Road
Ar Feic Mae digon o raciau beic ar flaen yr adeilad.
treet yS
h arc
t cen
By Bike There are plenty to bike racks at the front of the building.
lyF
Ar Fws Mae bysus rhif 17, 18 a 33 yn aros gerllaw ac yn gadael bob pum munud o ganol y ddinas.
d Springfield Pl.
e St. Glynn
rn Seve
By Bus Bus numbers 17, 18 and 33 stop close by and leave every five minutes from the city centre.
Roa
M a rk e t P l .
from 6pm o 6pm
d Roa
Ar Droed Mae hi’n daith gerdded hamddenol o ryw 20 munud o ganol y ddinas.
Sut i gyrraedd Chapter Fe ddewch chi o hyd i ni yn Nhreganna, i’r gorllewin o ganol y ddinas. Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE
How to get to Chapter You’ll find us in Canton to the west of the city centre. Market Road, Canton, Cardiff CF5 1QE
Marke t
eo /H Harve
aff nd Lla
By Foot We’re just a 20 minute slowish walk from the city centre.
Gwybodaeth
Info
res
Penllyn Rd.
C am nd Wy
Church Rd.
King’s Ro