Chapter Sinema Awst

Page 1

029 2030 4400

@chaptertweets

chapter.org


02

Croeso

chapter.org

Croeso i Ganllaw Bach Sinema Chapter mis Awst. Mae gennym ddetholiad o ffilmiau hyfryd ar eich cyfer y mis hwn, sy’n dechrau gyda’n rhaglen arbennig o ffilmiau I’r Tywyllwch (t4-5) — ffefrynnau noir clasurol megis Chinatown a Point Blank, ynghyd â gweithiau gothig newydd fel Byzantium a’r ffilm apocalyptaidd, World War Z. Mae Sofia Coppola yn ein harwain ar daith droseddol syfrdanol yn The Bling Ring (t6), stori wir am grŵp o bobl ifainc a dorrodd i mewn i gartrefi sêr Hollywood. Yn gyferbyniad llwyr â hynny, cawn gipolwg prin ar fywyd bob dydd yn Sawdi Arabia trwy lygaid tomboi ifanc a phenderfynol o’r enw Wadjda (t8) — cynhyrchwyd y ffilm mewn gwlad lle mae sinemâu wedi eu gwahardd ers dros ddeng mlynedd ar hugain. Mae Cine Phonic, ein cyflwyniad o ffilmiau cerddoriaeth, yn parhau â digwyddiad cenedlaethol byw David Bowie is happening now (t10), dangosiad byw o Amgueddfa Victoria & Albert o finale eu harddangosfa hynod lwyddiannus. Yn ogystal â hynny, mae yna ffilmiau dogfen cerddorol gwych, sy’n cynnwys My Father and the Man in Black (t10), sy’n dilyn taith ryfeddol mab rheolwr talentog ond anniddig Johnny Cash. Byddwn hefyd yn dangos Pussy Riot: A Punk Prayer (t11), sy’n edrych ar brotest a charchariad tri seren ffeministaidd ac achos a ddenodd sylw’r byd cyfan. I weld mwy o uchafbwyntiau rhaglen y mis hwn, gan gynnwys ambell i weithdy ardderchog sy’n cael eu cynnal yn Chapter dros yr haf, trowch i dudalen 14.

Siaradwch â ni @chaptertweets facebook.com/Chapter-cinema enquiry@chapter.org

Delweddau’r clawr, o’r chwith uchaf: Chinatown, Frances Ha, From Up on Poppy Hill

Chapter Heol y Farchnad Caerdydd CF5 1QE 029 2030 4400 minicom 029 2031 3430 www.chapter.org enquiry@chapter.org


chapter.org

Sinema

The Comedian

Renoir

Gwe 26 Gorff — Iau 1 Awst

Gwe 26 Gorff — Iau 1 Awst

DG/2012/80mun/15. Cyf: Tom Shkolnik. Gyda: Edward Hogg, Elisa Lasowski, Nathan Stewart-Jarrett.

Ffrainc/2012/111mun/is-deitlau/12A. Cyf: Gilles Bourdos. Gyda: Michel Bouquet, Christa Theret, Vincent Rottiers.

Mae Ed yn ei ugeiniau ac yn ceisio gwneud gyrfa ar gylchdaith gomedi Llundain. Mae e’n cadw deupen y llinyn ynghyd drwy weithio mewn canolfan alw yn ystod y dydd er mwyn mynd i berfformio mewn tafarndai a chlybiau comedi gyda’r nos. Gyda’i gydletywr, Alissa, a Nathan, dyn hoyw carismatig y daw ar ei draws ar fws, mae’r ffilm yn archwilio ansicrwydd Ed yn y Brydain ôl-argyfwng sydd ohoni.

Ar ystâd meistr argraffiadaeth, Pierre-Auguste Renoir, ym 1915, mae mab y peintiwr, Jean, yn dychwelyd am gyfnod i wella yn ystod y rhyfel. Yn ystod ei arhosiad, caiff ei ddenu gan Andrée, ‘muse’ hudolus ei dad sy’n cyflwyno ffurf gelfyddydol newydd i Jean — ffilm — a chyfle iddo ddianc o gysgod artistig hollgwmpasol ei dad. Stori synhwyrus o gariad rhwng dau ddyn sy’n cystadlu â’i gilydd ac sy’n digwydd bod yn dad a mab. Yr unig reol i’r gêm arbennig hon yw bod cariad a rhyfel yn caniatáu unrhyw beth o gwbl.

Gyda’r cloc o’r chwith: The Comedian, Blackfish, Renoir

03

“Mae ysbryd Dogma 95 yn fyw ac yn iach ac wedi’i adfywio yn The Comedian.” Variety

Blackfish Gwe 26 Gorff — Iau 1 Awst UDA/2013/90mun/15. Cyf: Briela Cowperthwaite.

Lladdodd orca o’r enw Tilikum, a oedd yn berfformiwr mewn parc acwatig, nifer o bobl yn ystod cyfnod ei gaethiwed. Trwy gyfrwng deunydd ffilm brawychus a chyfweliadau gyda’r staff, mae’r ffilm yn archwilio natur eithriadol y creadur, y driniaeth ohono a phwysau o du’r diwydiant parciau acwatig — busnes sy’n werth biliynau o ddoleri. Mae’r stori emosiynol hon yn ein herio i ystyried ein perthynas â byd natur ac yn datgelu cyn lleied y mae dynoliaeth wedi’i ddysgu gan ein cyd-famaliaid deallus a hynod sensitif. Ffilm gyffro seicolegol â morfil llofruddgar wrth ei chalon, hon yw’r ffilm gyntaf ers Grizzly Man i ddangos sut y mae natur yn dial ar ddyn pan gaiff ei bygwth a’i chaethiwo.

Moviemaker Chapter Llun 5 Awst

Sesiwn reolaidd i gyfarwyddwyr annibynnol ddangos ffilmiau byrion. RHAD AC AM DDIM


Sinema

029 2030 4400

Gyda’r cloc o’r chwith: Byzantium, Point Blank, Chinatown

04

Byzantium Gwe 2 — Iau 8 Awst DG/2012/118mun/15. Cyf: Neil Jordan. Gyda: Gemma Arterton, Saoirse Ronan.

Mae Clara, dawnsiwr clwb nos gweithgar a’i merch mewnblyg a charedig, Eleanor, ar ffo ac yn eu cael eu hunain mewn tref lan-môr Brydeinig lom. Ar ôl dod yn gyfeillgar â dyn busnes unig, sy’n gadael iddyn nhw aros yn y gwesty bach — o’r enw Byzantium — a etifeddodd, maent yn ceisio setlo am gyfnod. Ond mae setlo a gwneud ffrindiau yn bethau problematig i’r menywod anghyffredin hyn. Gyda chyfuniad o ddelweddau realaidd, gaeafol yn y presennol a digwyddiadau ocwlt a sinistr o’r gorffennol, mae hon yn ffilm ddeniadol a chymhleth sy’n cyfuno arddull gothig y stori fampir glasurol â dychan gwleidyddol.

“Deniadol, sadistaidd ac yn llawn coethder gwyrdroëdig — mae Byzantium yn ychwanegiad llawn steil i genre oesol.” Piers Handling, Gŵyl Ffilm Ryngwladol Toronto

Point Blank Sul 11 + Maw 13 Awst UDA/1967/91mun/18. Cyf: John Boorman. Gyda: Lee Marvin, Angie Dickinson.

Ar ôl cael ei dwyllo a’i adael i farw yn nyfnderoedd Alcatraz, mae dyn dirgel a phenderfynol yn ceisio adennill y swm cymharol ddibwys o arian a ddygwyd ganddo. Ffilm neo-noir galeidosgopig sy’n cynnwys perfformiad gorau Lee Marvin yn rôl Walker, dyn sy’n disgyn ar ei ben i uffern lygredig dinas LA.

Chinatown Sul 18 + Maw 20 Awst UDA/1974/130mun/15. Cyf: Roman Polanski Gyda: Jack Nicholson, Faye Dunaway, John Huston.

Mae’r ditectif preifat, Jack Gittes, yn arbenigo mewn achosion o odineb yng ngwres sych Los Angeles y 1930au. Wedi’i gyflogi gan Evelyn Mulwray i gadw llygad ar ei gŵr, Hollis, mae Jake yn cyflawni ei orchwyl ond yn ei gael ei hun mewn twll. Ar ôl rhoi ei big mewn gwe gymhleth o lygredd gwleidyddol, mae’n darganfod bod pob trywydd yn arwain at fyd cyfrinachgar a thywyll Chinatown — cyflwr meddwl yn hytrach na chyrchfan daearyddol, lle mae’r freuddwyd Americanaidd yn fusnes gwaedlyd a budr.

“Costig, beiddgar ac arswydus o syfrdanol ... Mae gan Chinatown y gallu i gleisio a chreithio hyd y dydd heddiw. “ Little White Lies


chapter.org

Sinema

Only God Forgives

Repulsion

Gwe 23 Awst — Iau 5 Medi

Sul 25 + Maw 27 Awst

UDA/2013/90mun/18. Cyf: Nicholas Winding Refn. Gyda: Ryan Gosling, Kristen Scott Thomas, Yayaying Rhhatha Phongam.

DG/1965/105mun/15. Cyf: Roman Polanski Gyda: Catherine Deneuve, Ian Hedry, John Fraser, Yvonne Furneaux.

Mae Julian yn ffigwr uchel ei barch yn is-fyd troseddol Bangkok, ac yn gyfrifol am glwb bocsio — sy’n fodd o guddio ei fusnes smyglo cyffuriau gyda’i frawd treisgar, Billy. Pan gaiff Billy ei lofruddio, mae eu mam, Jenna — pennaeth y cynllwyn troseddol — yn ei orfodi i ddod o hyd i’r sawl sy’n gyfrifol ac i ‘godi twrw’. Ond mae heddwas â chleddyf yn ei erlid. Ffilm gyffro hunllefus gan gyfarwyddwr a seren Drive.

Mae Carol, merch ifanc brydferth ond poenus o swil o Wlad Belg yn treulio amser ar ei phen ei hun mewn fflat yn Kensington tra bod ei chwaer fydol, Helen, ar wyliau gyda’i chariad atgas. Mae Carol eisoes yn ofni rhyw ond datblyga’i phryder yn arswyd niwrotig ac agoraffobig ac yn atyniad at fudreddi a dirywiad. Y portread hunllefus ac ysigol hwn o ‘Swinging London’ y 60au — â’i sgôr ‘free jazz’ gan Chico Hamilton — oedd ffilm gyntaf Polanski yn Saesneg ac fe gyflwynodd elfen o synwyrusrwydd Ewropeaidd i ffilmiau Prydeinig realaidd y cyfnod.

Gyda’r cloc o’r chwith: Only God Forgives, Repulsion, World War Z

05

The World’s End Gwe 23 — Iau 29 Awst

DG/2013 /109mun/15. Cyf: Edgar Wright. Gyda: Simon Pegg, Martin Freeman, Rosamund Pike, Nick Frost.

20 mlynedd ar ôl sesiwn yfed epig, mae pum ffrind bore oes yn aduno ar ôl i un ohonynt roi ei fryd ar gwblhau’r marathon alcoholig. Cânt eu perswadio i roi cynnig arni gan eu ffrind, Gary King, sy’n 40-oed ond yn dal i ymddwyn fel gŵr ifanc yn ei arddegau. Mae e’n llusgo’i ffrindiau amheus i’w tref enedigol wrth iddyn nhw geisio cyrraedd tafarn enwog y World’s End. Wrth i’r gorffennol a’r presennol ddod at ei gilydd, sylweddolant bod y frwydr go iawn yn ymwneud â’r dyfodol — eu dyfodol eu hunain a dyfodol dynoliaeth. Mae yna bethau pwysicach, yn sydyn, na chyrraedd y World’s End.

World War Z

Gwe 30 Awst — Iau 5 Medi UDA/2013/116mun/15. Cyf: Marc Foster. Gyda: Brad Pitt, Mireille Enos, Peter Capaldi.

Mae Gerry, cyn-ymchwilydd gyda’r Cenhedloedd Unedig, yn cael ei dynnu yn ôl i’w hen broffesiwn pan ddaw byddin o ‘zombies’ i fygwth dinistrio’r byd. Â feirolegydd a thîm milwrol yn gwmni iddo, mae e’n gwibio o amgylch y byd i chwilio am y claf cyntaf un. Caiff pwerau’r hen fyd eu rhoi i’r neilltu wrth i’r frwydr i ladd neu wella’r hil ddynol fynd rhagddi. Ffilm gyffro ddeallus a thrawiadol â phwyslais ar geowleidyddiaeth yn hytrach nag ar drais — a’r cwbl yn ddibynnol ar berfformiad cadarn gan gynhyrchydd a seren y ffilm, Brad Pitt.


06

Sinema

029 2030 4400

The Bling Ring Gwe 2 — Iau 8 Awst UDA/2013/87mun/15. Cyf: Sofia Coppola. Gyda: Emma Watson, Claire Julien, Gavin Rossdale.

Madame De Sul 4 + Maw 6 Awst

Ffrainc/1953/105mun/is-deitlau/U. Cyf: Max Ophüls. Gyda: Danielle Darrieux, Charles Boyer, Vittoria de Sica.

Mae Andre a Louise, cadfridog a’i wraig yn y Baris finde-siècle, yn gwpl ffasiynol. Mae eu camweddau niferus yn cysylltu’n agos â phâr o glustdlysau diemwnt. Caiff y clustdlysau — anrheg priodas yn y lle cyntaf — eu gwerthu, eu rhoi’n anrheg, eu hailwerthu a’u rhoi’n rhodd unwaith eto i Madame De — ac mae’r canlyniadau’n dorcalonnus. Stori afaelgar a chain wedi’i hadrodd yn berffaith, gyda chymorth gwaith camera anhygoel. Un o gampweithiau sinema Ffrainc o’r cyfnod cyn y Nouvelle Vague.

“Caled fel diemwnt, crisialog a gwych” J Hoberman, Village Voice

Gyda’r cloc o’r top: The Bling Ring, Days of Grace, Madame De

Yn Los Angeles, lle mae enwogrwydd yn obsesiwn, mae grŵp o bobl ifainc yn ein harwain ar daith lawn cyffro a throsedd i fryniau Hollywood. Mae’r ffiilm yn seiliedig ar stori wir — wedi’u cyfareddu gan fywydau perffaith-yr-olwg sêr fel Paris Hilton, aeth y bobl ifainc ati i ddwyn nwyddau gwerthfawr o gartrefi’r sêr. Cyn iddyn nhw gael eu dal, cyfeiriai’r cyfryngau atynt fel “The Bling Ring”. Mae Sofia Coppola yn arwain y gwyliwr i’r byd bas hwn, lle mae’r hyn sy’n ymddangos ar yr olwg gyntaf fel hwyl diniwed yn mynd y tu hwnt i bob rheolaeth. Portread sobreiddiol o’n diwylliant modern.

Days of Grace Gwe 2 — Iau 8 Awst Mecsico/2013/133mun/is-deitlau/15. Cyf: Everado Valerio Gout. Gyda: Tenoch Huerta, Kristian Ferrer.

Yn Ninas Mecsico, yn ystod Cwpan y Byd, mae hi’n draddodiad bod heddlu a throseddwyr fel ei gilydd yn ymlacio. Ond llathen o frethyn gwahanol yw Lupo. Mae e’n blismon ifanc, brwdfrydig a gonest sy’n fodlon gwneud unrhyw beth i ddal dihiryn. Wrth i ni weld Lupo a’r troseddwyr y mae’n eu herlid wrth eu gwaith, a thriawd o Gwpanau Byd, gwelwn bod dialedd yn haws ei gael nag achubiaeth yn y byd treisgar hwn. Ffilm gyntaf drawiadol sy’n cyflwyno golwg syfrdanol a lliwgar ar frwydrau cyffuriau Mecsico.


Sinema

07

Gyda’r cloc o’r chwith: The Deep, Breathe In, From Up On Poppy Hill

chapter.org

The Deep Gwe 2 — Iau 8 Awst Gwlad yr Iâ/2012/93mun/is-deitlau/12A. Cyf: Baltasar Kormákur. Gyda: Ólafur Darri Ólafsson .

Ym 1984, mae cwch pysgota yn mynd i drybini oddi ar arfordir deheuol Gwlad yr Iâ. Mae Gulli a’i gyd-forwyr yn gorfod brwydro am eu bywydau yn y dyfroedd rhewllyd. Mae’r ffilm yn dilyn ymgais wyrthiol Gulli i nofio i ddiogelwch mewn môr didostur. Stori naturiolaidd, atmosfferig ac ysbrydoledig sy’n ymdebygu i saga Lychlynnaidd fodern — un dyn â dyfnderoedd oddi tano, yr awyr uwch ei ben ac un dewis: nofio neu farw. Cynnig swyddogol Gwlad yr Iâ am wobr Oscar y Ffilm Iaith Dramor Orau yn 2013.

“Lluniodd Kormákur ffilm sydd wedi’i gwreiddio yn y byd go iawn ond sydd rywsut mor ryfeddol ag unrhyw stori chwedlonol am fwystfilod, tylwyth teg neu frwydrau epig.” Steve Gravestock, Gŵyl Ffilm Ryngwladol Toronto

Breathe In Gwe 9 — Iau 15 Awst UDA/2012/98mun/15. Cyf: Drake Doremus. Gyda: Guy Pearce, Felicity Jones, Amy Ryan.

Pan ddaw myfyriwr cyfnewid prydferth o Brydain i dreulio tymor gyda theulu ym Manhattan, mae ei phresenoldeb yn siglo sylfeini eu bodolaeth. Mae Keith yn gyn-gerddor roc ac yn dysgu cerddoriaeth yn lleol. Mae e’n gobeithio ennill lle gyda cherddorfa symffoni Efrog Newydd. Ar ôl i Sophie — sy’n drawiadol o brydferth a thalentog — gyrraedd, mae cysylltiad cryf yn ffurfio rhyngddynt. Mae’r cyfarwyddwr, Doremus (Like Crazy), yn dangos unwaith eto ei ddawn sylweddol wrth dynnu sylw at emosiynau cynnil a thirweddau personol bregus ei gymeriadau.

“Golwg gynnil ar deulu o Efrog Newydd.” Hollywood Reporter

From Up on Poppy Hill Gwe 9 — Iau 15 Awst Japan/2011/91mun/Japaneg gydag is-deitlau ar gyfer perfformiadau gyda’r nos, fersiwn wedi’i dybio ar gyfer matinées /U. Cyf: Goro Miyazaki.

Mae Umi, merch ifanc y mae ei thad wedi bod ar goll ar y môr ers rhai blynyddoedd, yn dechrau perthynas â dyn ifanc yn ei hysgol. Gyda’i gilydd maent yn ceisio achub adeilad clwb yr ysgol rhag cael ei ddymchwel ac yn gofyn am gymorth gan un o noddwyr cyfoethog yr ysgol. Wrth i’r plant agosáu at ei gilydd maent yn darganfod gorffennol cudd eu teuluoedd sydd ar y naill law yn dod â nhw’n agosach fyth ond yn eu dieithrio hefyd. Stori afaelgar ac emosiynol-gymhleth wedi’i gosod mewn byd o brydferthwch a sylw anhygoel i fanylion. Un o ffilmiau mwyaf boddhaol stiwdio Ghibli ers blynyddoedd.


08

Sinema

Blancanieves

Wadjda

Gwe 16 — Iau 29 Awst

Gwe 16 — Iau 22 Awst

Sbaen/2012/105mun/ffilm fud gydag uwch-deitlau/12A. Cyf: Pablo Berger. Gyda: Maribel Verdú, Daniel Giménez Cacho, Angela Molina.

Cyf: Haifaa Al Mansour. Gyda: Reem Abdullah, Waad Mohammed, Abdullrahman Al Gohani. Sawdi Arabia/2012/97mun/is-deitlau/ PG.

Gan dynnu ar chwedl Grimm, Eira Wen, mae hon yn stori weledol drawiadol a gwaedlyd am ferch fach sy’n dysgu ymladd am ei lle yn y byd. Daw trasiedi i’w rhan ddwywaith pan gaiff yr ymladdwr teirw, Antonio, ei barlysu ac wrth i’w wraig annwyl farw tra’n rhoi genedigaeth i’w merch, Carmen. Mae Antonio’n dysgu crefft ymladd teirw i Carmen, ac yn priodi Encama, menyw ddidostur. Ar ôl cael llond bol ar ei gŵr anabl, mae Encama’n trefnu iddo gael ei ladd ac fe gaiff Carmen ei gadael i farw — tan iddi gael ei darganfod gan y Los Enanitos Toreros, criw o gorachod y corrida.

Â’i pherfformiad canolog ingol, mae’r ffilm hynod ddeniadol hon yn gipolwg prin ar fywyd bob dydd yn Sawdi Arabia. Mae Wadjda — tomboi clyfar a phenderfynol — yn ei chael ei hun mewn trafferth wrth iddi frwydro yn erbyn cyfyngiadau ei bywyd, ond mae hi’n benderfynol o ennill digon o arian i brynu beic. Mae saethu ffilm mewn gwlad lle mae sinemâu eu hunain wedi eu gwahardd ers dros ddeng mlynedd ar hugain yn gamp ynddi’i hun. A phan fo’r cyfarwyddwr yn digwydd bod yn fenyw, mewn gwlad lle mae hi’n anghyfreithlon i fenywod yrru, heb sôn am gyfarwyddo, mae hi’n gamp hyd yn oed yn fwy rhyfeddol.

O’r chwith i’r dde: Blancanieves, Wadjda

029 2030 4400

Frances Ha

Gwe 16 — Iau 22 Awst UDA/2012/86mun/15. Cyf: Noah Baumbach. Gyda: Greta Gerwig, Mickey Sumner, Adam Driver.

Mae Frances yn byw yn Efrog Newydd ac, ar ganol ei hugeiniau, yn edrych yn ôl ar ddyddiau euraid ei chyfnod yn y coleg. Mae hi’n ceisio ymdopi â thyfu i fyny a thalu’i biliau heb godi gormod o gywilydd arni’i hun. Ar ôl cychwyn ar yrfa ddelfrydol fel dawnsiwr, mae ei phosibiliadau’n lleihau ac mae hi’n gwylio’i ffrindiau naill ai’n rhoi trefn ar eu bywydau neu’n mynd yn sownd mewn anaeddfedrwydd parhaol. Er gwaethaf yr ansicrwydd, mae Frances yn byw bywyd â hapusrwydd ac ysgafnder annisgwyl. Chwedl gomig, fodern am berson cyffredin yn ceisio ymdopi â’r realiti o dyfu i fyny. Mae’n archwiliad hefyd o Efrog Newydd ac o gyfeillgarwch, syniadau am ddosbarth cymdeithasol, uchelgais, methiant ac achubiaeth.

“Sinema sy’n gwthio’r ffiniau yn y ffyrdd gorau posib.” — The Telegraph

What Maisie Knew Gwe 30 Awst — Iau 5 Medi UDA/2013/99mun/TICh. Cyf: Scott McGehee, David Siegel. Gyda: Julianne Moore, Steve Coogan, Alexander Skarsgård.

Yn y diweddariad cyfoes a grymus hwn o nofel Henry James, rydym yn cwrdd â Maisie, merch fach y mae ei rhieni newydd ysgaru; cyn-seren roc, Susanne, a Beale, masnachwr celf Prydeinig. Mae’r cyn-gariadon yn cystadlu i ofalu am y plentyn, ond yn gwneud hynny er mwyn sgorio pwyntiau yn erbyn ei gilydd yn hytrach nag am eu bod yn poeni amdani go iawn. Caiff eu partneriaid newydd eu dal yng nghanol y dadlau narsisaidd hwn ond maent yn amharod i fod yn gyfrifol am y plentyn. Perfformiad ardderchog gan y newydd-ddyfodiad Onata Aprile a golwg frathog ar fywyd teuluol modern.


Sinema

The Paradise Trilogy

Paradise: Faith

Wedi’i bwriadu yn y lle cyntaf fel un ffilm bum awr o hyd, mae trioleg Ulrich Seidl yn dilyn mam sengl canol oed, ei chwaer grefyddol, a merch 13 oed, dros ei phwysau — pob un ohonynt yn ceisio gwireddu’u breuddwydion.

Gwe 23 — Sul 25 Awst Awstria/2013/113mun/is-deitlau/18. Cyf: Ulrich Seidl. Gyda: Maria Hofstatter, Nabil Saleh, Natalya Baranova.

09

Gyda’r cloc o’r top: Paradise: Love, Paradise: Hope, Paradise: Faith

chapter.org

Paradise: Love Llun 19 — Iau 22 Awst

Awstria/2013/120mun/is-deitlau/18. Cyf: Ulrich Seidl. Gyda: Margarete Tiesel, Peter Kazungu, Inge Maux.

Mae Teresa, menyw ganol oed, yn mynd i Kenya gyda’i ffrindiau, i orweddian yn yr haul, yfed coctels a cheisio dod o hyd i ramant. Fodd bynnag, mae cyrchfan eu gwyliau yn digwydd bod hefyd yn hafan i dwristiaid rhyw. Sylw annifyr a grymus ar natur gylchol ecsbloetiaeth sy’n cynnwys perfformiad canolog anhygoel o ddewr gan Tiesel fel menyw sy’n chwilio am rywun i wneud iddi deimlo’n arbennig ond sy’n edrych am gariad yn y mannau anghywir.

Yma rydym yn cwrdd â Teresa, chwaer Anna Maria, sy’n gwneud gwaith cenhadol yn ei hamser sbâr ar ôl ei chael ei hun ym mharadwys Pabyddiaeth. Mae hi’n mynd o ddrws i ddrws gyda cherflun o’r Forwyn Fair ac yn ceisio perswadio pob un y daw ar ei draws. Mae hi’n credu ei bod hi’n ei rhoi ei hun i Iesu’n gyfangwbl ond ar ôl i’w gŵr — Mwslim methedig o’r Aifft — ddychwelyd i’r cartref teuluol, mae e’n disgwyl cyfran o’i chariad hefyd.

Paradise: Hope Llun 26 — Iau 29 Awst

Awstria/2013/88mun/is-deitlau/18. Cyf: Ulrich Seidl. Gyda: Melanie Lenz, Verena Lahbauer, Joseph Lorenz.

Mae’r ffilm olaf yn y drioleg wedi’i gosod mewn gwersyll colli pwysau i blant dan reolaeth oedolion sych a disgybledig. Tra bod ei mam yn Kenya, mae Melanie’n mwynhau ei hamser yn y gwersyll, er gwaetha’r amgylchiadau gormesol. Ar ôl cymryd ffansi at gyfarwyddwr y gwersyll, fodd bynnag, mae Melanie’n gorfod ymwneud â siom a realiti ei pharadwys ddychmygol.


10

Sinema

029 2030 4400

O’r chwith i’r dde: Behind the Candelabra, David Bowie is happening now

“ Nid drych i adlewyrchu’r byd yw celfyddyd ond morthwyl, i’w siapio a’i ffurfio” Vladimir Mayakovsky

Behind the Candelabra Gwe 19 Gorff — Iau 1 Awst UDA/2013/118mun/15. Cyf: Steven Soderbergh. Gyda: Michael Douglas, Matt Damon, Rob Lowe, Dan Aykroyd, Debbie Reynolds.

Cyn Elvis, Elton John, Madonna a Lady Gaga, roedd Liberace; pianydd virtuoso, diddanwr beiddgar ac un o sêr mwyaf llachar y llwyfan a’r sgrin fach. Roedd gan Liberace fywyd lliwgar hefyd — roedd wrth ei fodd â gormodedd ar y llwyfan ac yn ei fywyd preifat fel ei gilydd. Yn ystod haf 1977, daeth dieithryn golygus ifanc o’r enw Scott Thorson i’w ystafell wisgo ac, er gwaetha’r gwahaniaeth oedran a’r ffaith eu bod nhw’n byw mewn bydoedd tra gwahanol, fe ddechreuodd y ddau garwriaeth ddirgel a barodd am bum mlynedd.

My Father and the Man in Black Gwe 9 — Iau 15 Awst

Canada/2013/87mun/15 arf. Cyf: Jonathan Holiff.

Anaml iawn y gwelodd Jonathan Holiff ei dad, Saul, yn ystod ei blentyndod a phan ddigwyddodd hynny, doedd y profiad ddim yn un pleserus. Saul oedd rheolwr talentog ond anniddig Johnny Cash: roedd yn gyfrifol am ei gyflwyno i June Carter ac am ei ddilyn trwy ddegawd o gyffuriau hyd at ei dröedigaeth grefyddol. Ar ôl marwolaeth ei dad, mae Jonathan yn mynd i storfa ac yn dod o hyd i drysorfa o recordiadau, llythyrau a chofebion sy’n ei arwain ar daith i ailddarganfod ei dad a gyrfa Johnny Cash. Ffilm ddogfen gyffrous sy’n cynnwys ambell eiliad eithriadol o amrwd o archifau Cash.

David Bowie is happening now

Maw 13 Awst Digwyddiad Byw — Nationwide Cinema Amgueddfa Victoria & Albert yn cyflwyno “David Bowie is happening now” — digwyddiad sinema cenedlaethol a dangosiad byw o finale David Bowie is — arddangosfa hynod lwyddiannus yr amgueddfa, cyn iddi fynd ar daith ryngwladol. Gyda chyflwyniad gan guraduron yr arddangosfa, Victoria Broackes a Geoffrey Marsh, bydd y digwyddiad yn cynnwys gwesteion arbennig a chipolwg ar y straeon y tu ôl i ryw 300 o wrthrychau o archif David Bowie — llawer ohonynt nad ydyn nhw wedi cael eu dangos yn gyhoeddus o’r blaen. £14/£10

“Llwyddiant ysgubol.” Ben Luke, The Evening Standard


chapter.org

Sinema

Pussy Riot: A Punk Prayer

Go Faster Stripe

Gwe 16 + Sad 17 Awst

Rydyn wedi ymuno â chriw Go Faster Stripe i gyflwyno rhai o’r sioeau comedi newydd gorau. Cafodd llawer o’r perfformiadau hyn eu ffilmio fan hyn yn Chapter — mwynhewch! www.gofasterstripe.com

Rwsia/DG/2013/90mun/is-deitlau/18. Cyf: Mike Lerner, Maxim Pozdorovkin.

Wedi’u gwisgo mewn ‘jumpsuits’ lliwgar a mygydau sgïo neon, ac yn chwifio gitarau fel ‘tasen nhw’n arfau peryglus, cafodd tair menyw ifanc, wrth galon mudiad y Pussy Riot ym Moscow, eu dedfrydu i saith mlynedd yn y carchar ar ôl perfformiad dychanol mewn eglwys gadeiriol ym Moscow. Roedd eu hachos yn fodd o rannu cymdeithas Rwsia — amlygodd y llygredd sydd wrth galon yr eglwys a gormes cyfundrefn Putin – ac fe ddaeth y merched yn sêr ffeministaidd. Mae Nadia Tolokonnikova, Maria Alyokhina ac Ekaterina Samutsevich yn dawel herfeiddiol wrth i’r achos cyfreithiol ddechrau ac mae’r gwneuthurwyr ffilm yn mynd ati i astudio eu gwreiddiau a’r rhesymau dros eu protest.

Noys R Us ym Mar Roc a Chlwb Nos Bogiez

Mae Sinema Chapter, ar y cyd â Bar Roc a Chlwb Nos Bogiez, yn cyflwyno Noson Ffilm Noys R Us. Ar ddydd Sul olaf y mis byddwn yn cymryd eich hoff ffilmiau alt/roc/metal/pync i’ch hoff glwb roc. Yfwch, ymlaciwch a gwyliwch rai o’r ffilmiau cerddorol mwyaf ffrwydrol erioed.

Dig! Sul 25 Awst

Delwedd: Richard Herring

Drysau’n agor am 6.00pm, ffilm am 7pm UDA/2004/107mun/15. Cyf: Ondi Timoner.

Nid yw hanes roc indie yn cynnwys cymaint o ddadleuon rhwng cerddorion â hanes arddulliau cerddorol eraill — ond hyd yn mewn byd mwy addfwyn, mae pobl yn colli tymer ac yn colli rheolaeth dros yr ego. Mae Dig! yn ddogfen o’r tensiwn rhwng y Dandy Warhols a The Brian Jonestown Massacre. Ar y dechrau, roedden nhw’n ffrindiau ond, wrth i’r ffilm fynd yn ei blaen, gwelwn y gwahaniaethau’n dechrau dod i’r amlwg – mae un grŵp yn sicrhau llwyddiant ysgubol ac mae’r perthnasau rhwng y ddau yn gwenwyno cyn ffrwydro’n yfflon. Mae’r Dandys yn mwynhau llwyddiant yn Ewrop tra bod TBJM yn gwastraffu cyfleoedd di-ri ac yn chwalu ar sawl achlysur. Gwir seren Dig! yw prif-leisydd TBJM, Anton Newcombe, seren bop ystrydebol sydd eisiau rheoli popeth, sy’n dreisgar, yn gaeth i gyffuriau ond yn dal yn ddigon deniadol fel person i ddenu dilynwyr. Afraid dweud bod ei berfformiad ef yn werth pris y tocyn ar ei ben ei hun. Mae tocynnau’n £5 a gellir eu prynu drwy www.chapter.org ac yn Bogiez

11

John Shuttleworth — The Minor Tour Mer 7 Awst Gyda’i fysellfwrdd Yamaha, mae John yn canu caneuon am baneidiau o de a DIY, gan gynnwys y clasur, “I can’t go back to savoury now.”

Kevin Eldon is Titting About Mer 14 Awst Ar ôl disgleirio yn rhai o raglenni comedi gorau y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys Brass Eye a Big Train, hon yw sioe unigol gyntaf Kevin — a fydd hi ddim yn siomi.

Simon Munnery — Fylm Makker Mer 21 Awst

Cam mawr ymlaen i gomedi — mae’r digrifwr yn eistedd yn y gynulleidfa ac yn gwneud ffilmiau byw wrth i’r sioe fynd rhagddi!

Richard Herring — What is Love Anyway? Mer 28 Awst

Mae Richard Herring yn mynd ati i geisio diffinio a dinistrio cariad. Cyn i gariad ei ddinistrio fe. Unwaith eto.


Sinema

029 2030 4400

Gyda’r cloc o’r chwith uchaf: The Moo Man, The Battle of the Sexes, NT Live: Macbeth

12

Battle of the Sexes Maw 27 Awst DG/2013/83mun/PG. Cyf: Zara Hayes, James Erskine.

The Moo Man Gwe 9 — Iau 15 Awst DG/2013/98mun/TICh. Cyf: Andy Heathcote, Heike Bachelier.

Mae ffermio llaeth yn rhan annatod o gefn gwlad Prydain ac mae’r ffilm ddogfen amserol hon yn archwilio sut y mae cynhyrchu ar gyfer archfarchnadoedd wedi tarfu ar y cysylltiadau rhwng ffermio a byd natur. Mae’r ffermwr Stephen Hook yn penderfynu mynd yn groes i’r graen ac yn dewis cynnal ei fferm deuluol fechan ar adeg pan fod llaethdai mawr yn gwneud eu gorau i sefydlu’u hunain yn y DG. Ffilm i gynhesu’r galon, yn llawn tynerwch a hiwmor, a golwg ar y clymau rhwng dyn ac anifail a thir sydd mewn peryg o ddiflannu am byth. Bydd Andy Heathcote, cyfarwyddwr y ffilm a Steve y ffarmwr yn ymuno â ni am sesiwn holi ac ateb ar ôl y ffilm ar y 9fed o Awst.

NT LIVE: Macbeth Llun 26 Awst 120 munud (dim egwyl)

Wedi’i recordio yng Ngŵyl Ryngwladol Manceinion, gyda Kenneth Branagh yn y brif ran (ei rôl Shakespeareaidd gyntaf ers mwy na degawd) ac Alex Kingston (Doctor Who, ER) yn chwarae Lady Macbeth.

Yn 1973 cyhoeddodd y chwaraewr tenis proffesiynol, Bobby Riggs, ei fod am “roi merched yn eu lle” ac fe heriodd Billie Jean King i’w chwarae mewn gêm enwog, i brofi unwaith ac am byth bod dynion yn well na merched. I’r cyfryngau roedd yn fodd o anghofio dros dro erchyllterau Fietnam a sgandal Watergate — ac yn gam pwysig i ferched tuag at gydraddoldeb. Gyda delweddau archif a chyfweliadau cyfoes gyda chwaraewyr o orffennol a phresennol tenis, gwelwn ddylanwad pellgyrhaeddol y gêm hon ar fyd y campau. Ymunwch â ni ar ôl y dangosiad ar gyfer trafodaeth grŵp ffilm LGBT Chapter

When the Dragon Swallowed the Sun UDA/2010/115mun/TICh. Cyf: Dirk Simon. Gyda: Richard Gere, The Dalai Lama.

Wrth i fuddiannau economaidd a’r addewid o farchnad enfawr yn Tsieina ddenu llywodraethau Gorllewinol, caiff troseddau yn erbyn hawliau dynol eu hanwybyddu. Mae’r diffyg datblygiad o ran Tibet hunanlywodraethol yn annog mwy o bobl yr ardal i ystyried polisi dadleuol y Dalai Lama — Ffordd Ganol, a chyfaddawd ar bwnc annibyniaeth. Gyda chyfweliadau gan siaradwyr blaenllaw o’r gymuned Fwdhaidd yn ogystal ag arweinwyr byd eraill, mae’r ffilm yn olwg ar gymhlethdod y frwydr ac yn cynnwys trac sain anhygoel gan Philip Glass a Thom Yorke, ymysg eraill.


chapter.org

Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn am 11am a 3pm ac yn ystod yr wythnos dros wyliau’r haf. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn. Cysylltwch â ni i gael manylion am Ddangosiadau Mewn Amgylchiadau Arbennig.

Carry on Screaming!

13

Noddir gan Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk 02920 666688

Monsters University [2D] Gwe 16 — Iau 22 Awst

UDA/2013/110mun/U. Cyf: Dan Scanlon. Gyda: John Goodman, Billy Crystal.

Bob dydd Gwener am 11am, mae Carry On Screaming yn gyfle i rieni neu ofalwyr weld ffilm heb boeni y bydd eu babi’n aflonyddu ar eraill. Edrychwch ar y calendr i weld manylion y dangosiadau arbennig hyn i bobl sydd â babanod blwydd oed neu iau.

The Smurfs 2 [2D]

Gwe 26 Gorff — Iau 1 Awst

UDA/2013/hyd i’w gadarnhau/TICh. Cyf: Raja Gosnell. Gyda: Hank Azaria, Katy Perry, Neil Patrick Harris.

Despicable Me 2 [2D]

UDA/2013/98mun/U. Cyf: Pierre Coffin, Chris Renaud. Gyda: Steve Carell, Kristen Wiig, Ken Jeong.

Mae bywyd Gru yn newid yn annisgwyl pan gaiff ei recriwtio gan y Cynghrair Gwrth-ddihirod i helpu i warchod yn erbyn dihiryn nerthol newydd.

Star Trek Into Darkness [2D] Gwe 2 — Iau 8 Awst

UDA/2013/132mun/12A. Cyf: JJ Abrams. Gyda: Benedict Cumberbatch, Chris Pine, Zachary Quinto.

Mae Capten Kirk yn arwain helfa i barth rhyfelgar y Klingons er mwyn cael gafael ar ddyn dinistriol hynod, hynod beryglus.

From Up on Poppy Hill Gwe 9 — Iau 15 Awst

Japan/2011/91mun/Dangosiadau matinée wedi’u dybio/U. Cyf: Goro Miyazaki.

Gyda’r cloc o’r chwith: Monsters University, Star Trek Into Darkness (2D), The Smurfs 2 (2D)

Sinema

Mae Umi yn dechrau perthynas â dyn ifanc yn ei hysgol ac maent yn ceisio achub adeilad clwb yr ysgol rhag cael ei ddymchwel. (Gweler tudalen 7 am fwy o fanylion).

Gwelwn berthynas y bwystfilod anghydnaws, Mike a Sully – maen nhw’n casáu ei gilydd ar y dechrau, cyn dod yn ffrindiau gorau..

Gwe 23 — Iau 29 Awst

Mae Smurfette wedi cael ei herwgipio ac mae’r Smurfs yn mynd i’w hachub. Allan nhw ddod o hyd iddi cyn i’r dewin drwg roi ei gynllun dieflig ar waith?

The Wolverine [2D]

UDA/2013/hyd i’w gadarnhau/TICh. Cyf: James Mangold. Gyda: Hugh Jackman, Famke Jenssen.

Mae Wolverine yn teithio i Japan lle mae’n dod ar draws gelyn o’i orffennol a fydd yn cael effaith sylweddol ar ei ddyfodol.


Nid sinema yn unig yw Chapter. Dyma rai o’r cyflwyniadau — yn Gelfyddyd Weledol a Pherfformiadau, yn ogystal â digwyddiadau addysg — a fydd i’w gweld yn y ganolfan yn ystod mis Awst. I weld manylion llawn y rhaglen, gallwch lawr-lwytho ein llyfryn chwarterol o www.chapter.org. Bydd Sean Edwards yn defnyddio gofodau’r Oriel, Celfyddyd yn y Bar a’r Blwch golau drwy gydol mis Awst yn rhan o’i arddangosfa unigol gyntaf o bwys yng Nghymru, Drawn in Cursive. Mae Edwards yn ymddiddori ym mhotensial cerfluniol pethau bob dydd ac yn gweithio gydag archif o dros 600 o wrthrychau, gan wahodd y gynulleidfa i chwarae rhan yn y broses o greu. Bydd grŵp darllen Tooth & Clawr yn cyfarfod eto ar ddydd Mawrth yr 20fed o Awst. Bydd cyfle i chi ymwneud yn feirniadol â’n rhaglen o arddangosfeydd — y mis hwn byddwn yn defnyddio arddangosfa Sean Edwards fel man cychwyn. I gael mwy o wybodaeth, gweler ein gwe-fan.

Perfformiad Mae Shock n Awe yn cyflwyno Fallen, drama newydd dywyll a doniol am fferm wedi’i melltithio yng nghefn gwlad Cymru a dyfodiad dieithryn egsotig (Mer 31 Gorff — Sad 3 Awst). Yn nes ymlaen ym mis Awst, byddwn yn eich gwahodd i dapio’ch traed a chlicio’ch bysedd gyda Stalking John Barrowman (Maw 27 — Gwe 30 Awst). Chwilio am ddifyrrwch i’r plantos — a’u rhieni — yn ystod gwyliau’r haf? Mae Here Be Monsters (Maw 6 — Sad 10 Awst), gan Gwmni Theatr nodedig Iolo, yn stori hudol o ffantasi ac antur gan yr awdur Mark Williams (a oedd yn gyfrifol am yr addasiad llwyfan o Horrible Science).

Addysg Diwrnodau Ffilm Chapter Drwy gydol gwyliau’r haf, bydd ein tîm addysg yn cynnal 5 Diwrnod Ffilm i blant 7 — 11 oed. Bydd y gweithgareddau’n cynnwys dangosiadau o ffilmiau a gweithgareddau creadigol yn seiliedig ar themâu neu genres y ffilm dan sylw; gweler y Ffilmiau i’r Teulu Cyfan (tudalen 13) am restr o’r ffilmiau a gaiff eu dangos. Bob dydd Mercher o 9am-3.30pm, o 24 Gorffennaf — 28 Awst (ar wahân i 14 Awst). Mae pob diwrnod ffilm yn costio £20 ac fe ddarperir cinio. Mae nifer y lleoedd sydd ar gael yn gyfyngedig felly bydd angen i chi archebu lle ymlaen llaw.

Her Gwneud Ffilmiau Ydych chi rhwng 12 a 15 oed? Ydych chi’n awyddus i helpu Chapter i wneud ffilm fer am y ganolfan ac am ein gwaith? Rydym yn chwilio am grŵp bach o bobl ifainc ymroddedig sy’n awyddus i ddysgu sgiliau sylfaenol gwneud ffilmiau — a dysgu mwy am Chapter wrth wneud. Bydd angen i chi fod ar dân eisiau creu ffilmiau byrion a bod yn gallu treulio 1-2 awr bob wythnos gyda ni yn ystod gwyliau’r haf. E-bostiwch learning@chapter.org os hoffech chi fwy o wybodaeth.

Animeiddio Chapter a Gwasanaeth Troseddwyr Ifainc Caerdydd Rydym yn parhau â’n gwaith â Gwasanaeth Troseddwyr Ifainc Caerdydd a bydd staff Chapter yn arwain wyth gweithdy animeiddio dros yr haf gyda phobl ifainc sydd mewn peryg o droseddu. Gyda chymorth meddalwedd animeiddio iStopMotion, bydd y bobl ifainc yn dysgu sgiliau cyfrifiadurol newydd yn ogystal â datblygu sgiliau gwaith tîm, canolbwyntio a sgiliau cyfathrebu. Caiff y gweithiau gorffenedig eu postio ar ein gwe-fan. I gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgareddau addysg, gweler ein gwe-fan http://www.chapter.org/cy/dysguchyfranogi

O’r chwith i’r dde: Here Be Monsters, Sean Edwards

Celfyddyd


Cerdyn Chapter

Gallwch arbed £££oedd ar bris pob tocyn sinema a theatr; cewch gopi am ddim bob mis o’r cylchgrawn hwn drwy’r post; taleb sinema am ddim a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig. Mae’r cerdyn hefyd yn gweithio fel Cerdyn CL1C. Cerdyn Sengl: £20/£10 Cerdyn i Ddau: £25/£20 (2 berson yn yr un cartref) Aelodaeth Lawn: Mwy fyth o fanteision — byddwch yn derbyn gwahoddiad i’r Cyfarfod Blynyddol a chopi o’r adroddiad blynyddol ynghyd â holl fanteision eraill Cerdyn Chapter. £40/£30

Chapter Card

Save £££s on all cinema and theatre tickets; free monthly mailing of this magazine; free cinema voucher; invitations to special events. Also doubles up as a CL1C Card. Single Card: £20/£10 Dual Card: £25/£20 (2 people in the same household) Full Membership: Get even more involved — You’ll be invited to our AGM, receive the annual report and get all the benefits of a Chapter Card. £40/£30

Weekly eListings straight to your inbox. E-mail megan.price@chapter.org with ‘Join Listings’ in the subject line.

Free eListings

Join us online www.chapter.org is the best place to go for more info on everything we do.

eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch megan.price@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.

eAmserlen rad ac am ddim

Ymunwch â ni ar-lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

Cadwch mewn cysylltiad

Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflrn y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawrlwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Chapter’s own reward card. Collect points when you visit the cinema or theatre and you’ll be surprised at how quickly you can claim a free ticket. Pick up a form next time you’re in or download from www.chapter.org. Watch out for this symbol to double your points!

Keep in touch

Cerdyn CL1C

CL1C Card

GET INVOLVED CYMRYD RHAN Institut für Auslandsbeziehungen e.V Millennium Stadium Charitable Trust The Ernest Cook Trust Lloyds TSB Morgan Signs Garrick Charitable Trust Barclays Arts & Business Cymru The Austin & Hope Pilkington Trust Singapore International Foundation Puma Hotels Collection: Cardiff Angel Hotel Cardiff Airport Wales Arts International Gibbs Charitable Trust Ceredigion Community Scheme The Steel Charitable Trust The Boshier-Hinton Foundation Oakdale Trust Nelmes Design

The Coutts Charitable Trust Bruce Wake Charity Funky Monkey Feet Finnis Scott Foundation Unity Trust Bank Hugh James Contemporary Art Society for Wales The Dot Foundry JVH Gidden & Rees Western Power Distribution HARMAN technology Limited Laguna Health & Spa Follett Trust Arts & Kids Cymru Canton High School Girl’s Reunion Co-operative Group IKEA Renault Cardiff GB-Sol Ltd City Satellites Embassy of Belgium Queensland Government

Registered Charity No. 500813* Rhif Elusen 500813

And all those individuals who have generously supported us through the redevelopment and beyond A’r holl unigolion hynny sydd wedi’n cefnogi ni’n hael drwy gydol cyfnod yr ailddatblygu ac ar ôl hynny

Landfill Community Fund Esmée Fairbairn Foundation The Baring Foundation Garfield Weston Foundation Foyle Foundation Biffaward Colwinston Charitable Trust Admiral Group plc Moondance Foundation Foundation for Sport and the Arts Trusthouse Charitable Foundation Community Foundation in Wales The Welsh Broadcasting Trust Richer Sounds Momentum The Henry Moore Foundation Google Jane Hodge Foundation Simon Gibson Charitable Trust People’s Postcode Trust Dunhill Medical Trust Legal & General

Chapter gratefully acknowledges the support it receives from the following: Hoffai Chapter gydnabod cefnogaeth hael y sefydliadau a’r grwpiau canlynol:


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.