Chapter Gorffennaf 2016

Page 1

029 2030 4400

@chaptertweets

chapter.org


02

Croeso

029 2030 4400

CROESO Defnyddiwch y côd QR hwn i lawr-lwytho copi digidol o gylchgrawn Chapter

Delwedd y clawr: Katie Cuddon, ‘A Problem of Departure’, 2013. Crochenwaith wedi’i beintio, gobennydd. Llun: Fernando Maquieira

Chapter Heol y Farchnad, Caerdydd CF5 1QE 029 2030 4400 www.chapter.org ymholiadau@chapter.org

Dylunio: Nelmes Design

Croeso i’ch cylchgrawn misol sy’n rhestru pob un o ddigwyddiadau cyffrous Chapter ym mis Gorffennaf. Mae Gŵyl Caeredin ar ein gwarthaf ac rydym yn genfigennus braidd o’r holl bobl lwcus sy’n cael mynd i fyny i’r Alban. Ond, yn ffodus i ni, yn ystod yr wythnosau cyn yr ŵyl, byddwn yn cyflwyno rhagolygon o nifer o gynyrchiadau Caeredin, o ddramâu grymus i’r sioeau comedi gorau o Gymru. Cadwch lygad yn agored am y logo hwn EP a manteisiwch ar y cyfle i weld y sioeau hyn cyn pawb yng Nghaeredin (tt10-18)! Rydym yn edrych ymlaen at arddangosfa newydd yn yr Oriel hefyd a byddwn yn croesawu sioe gerfluniau Sticky Intimacy: Katie Cuddon, Emma Hart a Nicholas Pope (tt4-5). Draw yn ein sinema, bydd yna ddigon i ddiddanu’r rhai bychain (a’r rhai mwy) wrth i ni barhau â’n harolwg o waith Stiwdio Ghibli (t28-29) a byddwn yn cychwyn tymor newydd Roald Dahl ar Ffilm, cyn dathlu pen-blwydd y storïwr meistraidd o Gymru â dangosiad o’r ffilm newydd, The BFG (t27). Ac, wrth i ni nesáu at ddiwedd y tymor, dyma’ch sicrhau y bydd yna ddigonedd o bethau braf yn Chapter yn ystod y gwyliau — gweithdai, gweithgareddau a ffilmiau... trowch i dudalennau 29-30 i gael mwy o wybodaeth.


chapter.org

Uchafbwyntiau

Celfyddyd tudalennau 4–8

Bwyta Yfed Llogi tudalen 9

03

CYMRYD RHAN

Perfformiadau Cerdyn CL1C tudalennau 10–18

Chapter Mix tudalen 19

Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawrlwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Ffrindiau Chapter Ffilm tudalennau 20–29

Addysg tudalen 30

Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40

Clwb Chapter

Addysg tudalen 31

Gwybodaeth a Sut i archebu tocynnau tudalen 32

Cynllun aelodaeth Chapter i fusnesau. Am ffi flynyddol fechan, gall eich busnes chi fwynhau manteision sylweddol yn Chapter, gan gynnwys gostyngiadau i chi a’ch staff ar fwyd, diod a thocynnau. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.chapter.org/cy/chapter-clwb.

Cadwch mewn cysylltiad Ymunwch â ni ar-lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

eAmserlen rad ac am ddim Cymryd Rhan

eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch adam.chard@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.

tudalen 33

Siaradwch â ni

Calendar

@chaptertweets facebook.com/chapterarts

tudalennau 34–35

Nodwch os gwelwch yn dda bod copïau print bras o’n cylchgrawn ar gael ar gais. Cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau ar 029 2030 4400.


Celfyddyd

029 2030 4400

Arddangosfa. Katie Cuddon ar y cyd â Celia Hempton. Gofod Prosiect Cell. 2014.

04

Sticky Intimacy: Katie Cuddon, Emma Hart & Nicholas Pope Rhagolwg: Iau 7 Gorffennaf Arddangosfa: Gwe 8 Gorffennaf — Sul 18 Medi

Mae ‘Sticky Intimacy’ yn dwyn ynghyd artistiaid o wahanol genedlaethau sydd yn archwilio bob un berthynas a chwilfrydedd â deunyddiau ac â’r broses o wneud. Mae’r sioe yn sgwrs ar sail arddulliau ffurfiol a thematig cyfun ac, er bod y gweithiau’n amrywiol, mae pob artist yn creu gweithiau sydd yn gwrthod syniad o ‘gerflunwaith fawreddog’. Gan ddefnyddio deunyddiau fel gwydr, pren a chlai, mae Cuddon, Hart a Pope yn trawsnewid eu hamgylchiadau a’u profiadau eu hunain yn weithiau afieithus, llawn emosiwn. Boed hynny trwy gyfrwng prosesau o gerflunio gyda chlai, darlunio neu wydr wedi’i chwythu, adlewyrchir delwedd o’r corff amherffaith a hynny mewn ffurfiau lletchwith ac anghymesur, pob un ohonynt yn ymwneud â syniad o agosatrwydd ac o ‘wneud â llaw’. Mae Katie Cuddon yn archwilio perthnasedd clai a’r ymwneud gofodol a bennir gan gerflunwaith. Mae pob cerflun wedi ei wneud o glai hylaw a gweadog ac maent yn ymddangos bob un yn gyfarwydd ac yn rhyfedd. Mae’r rhyngweithio ffurfiol rhwng gwrthrychau, rhwng gwrthrych a gwyliwr, yn ein hannog i ystyried yr ystrydebau sydd yn sail i’r gweithiau: themâu sydd yn ymwneud â rhyw a rhywioldeb, gwrthodiad, methiant, colled a chywilydd.


chapter.org

Celfyddyd

05

Mae ‘Penumbra’, cerflun seramig di-wyneb, di-ryw, o faint plentyn, yn awgrymu bwgan hollbresennol yn yr oriel. Mae’r arwyneb powdrog yn awgrym o berson yn ceisio cael syniad o hyd a lled y creadur hwn, fel petai gwasgu, tylino a theimlo parhaus yn fodd o ryddhau cynnwys y gwaith neu o ddeall yn well yr hyn sydd o dan yr wyneb. Mae ‘Leg Plough’ yn amrywio rhwng comedi a melancoli ac mae eiddilwch y coesau clai plentynnaidd yn galw i gof syniadau am rwystredigaeth, ac o fateroldeb wedi’i chwalu dan bwysau entropi a bygythiad parhaus. Nodweddir gwaith Emma Hart gan estheteg anarchaidd sy’n tanseilio ac yn tarfu ar y broses o wylio, ac yn cyfleu dryswch a straen profiadau bob dydd. Mae Hart yn defnyddio deunyddiau sy’n cyfeirio at brofiadau lletchwith a thrwy hynny yn archwilio’r ffin rhwng rheolaeth ac anhrefn. Mae amlinelliadau seramig o wydrau gwin yn arllwys diodydd seramig dros wal yr oriel. Mae’r pyllau hyn yn ‘swigod sgwrs’ sy’n deillio o’r siapiau ceg y mae Hart ei hun wedi eu brathu yn y clai. Mae cerfluniau o wallt yn cyfeirio at densiynau rhwng bywyd, rhyddid, rheolaeth a stasis. Caiff gwallt hir ei ystyried yn aml yn beth iach, hudolus a benywaidd – ond mae’r gwallt hir yn y fan hon yn cael ei ddal yn ei le gan ‘scrunchies’ mawrion sydd fel petaent yn ceisio dofi’r clai. Fel nifer o’i gyfoedion a ddaeth i’r amlwg yn y 1970au, ac a oedd yn awyddus i ddod o hyd i iaith gerfluniol newydd, mae gwaith Nicholas Pope yn ddatgysylltiad â chenhedlaeth flaenorol. Daeth Pope yn adnabyddus am ddefnyddio deunyddiau naturiol yn bennaf, deunyddiau yr aeth ati i’w cerfio neu, yn syml ddigon,

i’w pentyrru a’u casglu ynghyd. Yn dilyn ei arddangosfa yn 1980, pan gynrychiolydd Brydain yn Biennale Fenis, aeth Pope i ymweld â Zimbabwe a Tanzania – profiad a effeithiodd arno byth ers hynny ac a drawsnewidiodd ei waith artistig yn llwyr. Wrth symud tuag at ddeunyddiau mwy meddal a mwy hydrin, fel gwydr, porslen, tecstilau, alwminiwm a seramig, dechreuodd Pope greu gwaith haniaethol sy’n cyfeirio at themâu cymhleth ysbrydolrwydd a chymdeithas. Ar gyfer yr arddangosfa hon, gweithiodd Pope gyda’r meistr wydrwr James Maskrey, o’r Ganolfan Wydr Genedlaethol yn Sunderland, i greu cyfres newydd o 14 o gwpanau cymun wedi’u hysbrydoli gan y Saith Rhinwedd a’r Saith Pechod Marwol. Ar sail darluniau gwreiddiol yr artist, mae’r cwpanau cymun yn trawsnewid y cynlluniau gwreiddiol ac yn amlygu perthynas gymhleth rhwng yr artist a’r gwneuthurwr. Â’r darluniau’n cael eu harddangos ochr yn ochr â’r cwpanau cymun, dyma gyfle unigryw i gynulleidfaoedd weld y trawsnewidiad hwn mewn manylder. Cafodd arddangosfa ‘Sticky Intimacy’ ei churadu gan Hannah Firth ar ran Chapter ac fe’i datblygwyd ar y cyd ag Oriel Celfyddyd Gyfoes y Gogledd (NGCA), Sunderland. ‘Baldock Pope Zahle’ oedd rhan gyntaf y diptych a gyflwynir yn yr arddangosfa hon ac fe guradwyd y gwaith hwnnw gan George Vasey ar ran NGCA. Comisiynwyd arddangosfa Nicholas Pope ‘Seven Virtues and Seven Deadly Sins’ gan NGCA ar ran ‘Baldock Pope Zahle’ a derbyniodd gefnogaeth hael gan Gyngor Dinas Sunderland, Y Ganolfan Wydr Genedlaethol, C’Art, Cyngor Celfyddydau Lloegr a Sefydliad Grosserer LF Foghts.


06

Celfyddyd

029 2030 4400

James Richards

Dewis James Richards i gynrychioli Cymru yn Fenis 2017

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod James Richards wedi ei ddewis i gynrychioli Cymru yn Fenis 2017 a hynny â chyflwyniad wedi’i guradu gan Chapter ar ran yr Arddangosfa Gelfyddyd Ryngwladol, 57fed Biennale Fenis. Y cyflwyniad solo hwn – cyfres o weithiau newydd ar raddfa fawr ynghyd ag arddangosfa uchelgeisiol a gwreiddiol – fydd comisiwn mawr cyntaf yr artist ar gyfer Biennale rhyngwladol. Mae Richards yn bresenoldeb amlwg ar sîn celfyddyd gyfoes y DG ac mae ganddo enw da cynyddol yn rhyngwladol. Derbyniodd glod eang yn dilyn ei enwebiad am wobr Turner yn 2014 a’i ymddangosiad yn arddangosfa gyfredol Sioe Gelf Prydain 8. Daw’r cyfle newydd hwn ar adeg dyngedfennol – mae’n gyfle i ddangos ei waith ar un o lwyfannau rhyngwladol pwysicaf y celfyddydau gweledol, Biennale Fenis. Mae’r artist yn ymddiddori ym mhosibiliadau’r ‘wedd bersonol’ yng nghyd-destun afreolus y cyfryngau torfol. Mae e’n cyfuno fideo, sain a delweddau llonydd i greu gosodiadau a digwyddiadau byw. Mae ei waith yn gwneud defnydd o fanc cynyddol o ddeunydd fideo sy’n cynnwys darnau o ffilmiau, gweithiau gan artistiaid eraill, deunydd ‘camcorder’, sioeau teledu hwyr-y-nos ac ymchwil archif. Mae ei osodiadau bwriadus yn cynnwys elfennau cerfluniol, sinematig, acwstig, cerddorol a churadurol ac fe ddaw’r cyfan at ei gilydd mewn gwaith o ddwyster rhyfeddol.

Cafodd James Richards ei eni a’i fagu yng Nghaerdydd ac mae e bellach yn byw yn Berlin. Mae James yn cyfrif Chapter yn un o ofodau ffurfiannol ei yrfa ac mae Chapter yn ei chyfrif yn fraint cael cydweithio gydag ef i greu gwaith yn ei dref enedigol ac ar gyfer llwyfan rhyngwladol Fenis. Dywedodd Hannah Firth, Cyfarwyddwr Celfyddyd Weledol Chapter, a churadur Cymru yn Fenis 2017: “James Richards yw un o artistiaid mwyaf gwreiddiol a chyffrous ei genhedlaeth ac rydym wrth ein bodd yn cael gweithio gydag ef i gomisiynu corff newydd o waith a gyflwynir mewn digwyddiad rhyngwladol o bwys. “Rydym wedi datblygu dulliau gwaith cydweithredol ac rydym yn gweithio gydag ystod eang o sefydliadau yng Nghymru i gyflwyno’r arddangosfa, gan gynnwys gweithio gyda chyfansoddwyr ifainc yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac oriel bwysig G39 (a reolir gan artistiaid). Bydd y gwaith hwnnw yn arwain hefyd at raglen integredig o ddatblygiad proffesiynol ac ymgysylltiad cyhoeddus yng Nghymru.” Bydd cyfle i gynulleidfaoedd yng Nghymru weld dwy arddangosfa gysylltiedig o waith James yn Chapter: sioe grŵp a drefnwyd gan yr artist ac sydd yn cynnwys gweithiau gan artistiaid cenedlaethol a rhyngwladol, ac arddangosfa Cymru yn Fenis ei hun, pan fydd honno’n teithio i Gaerdydd ar ddechrau 2018. Comisiynir a rheolir Cymru yn Fenis Wales in Venice gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru gyda chefnogaeth a chydweithrediad Llywodraeth Cymru a’r Cyngor Prydeinig.


Celfyddyd

07

Dan Rees, Sefydliad Nomas, Road Back to Relevance

chapter.org

Artist Preswyl: Dan Rees Y mis hwn, rydym yn falch iawn o allu cynnal preswyliad tair wythnos yng nghwmni’r artist, Dan Rees. Wedi’i ddethol o blith cannoedd o geisiadau rhyngwladol, bydd Dan, a aned yn Abertawe, yn cael gofod yng Nghaerdydd ac yn Fenis, i ymchwilio i’r berthynas hanesyddol a chyfoes rhwng porthladdoedd dinasoedd a’r cefnwlad cyfagos. O’i ofod preswyl yma yn Chapter, bydd yn archwilio de Cymru a dyfrffyrdd mewndirol Caerdydd. Yn Sefydliad Bevilacqua La Masa, Fenis, bydd yn ymchwilio i hanes llai adnabyddus y dyfrffyrdd a’r camlesi sy’n bwydo’r ddinas honno o ardaloedd cyfagos gogledd yr Eidal ynghyd â chysylltiadau’r porthladd â gweddill y byd. “Dw i wrth fy modd yn cael cymryd rhan yng nghynllun preswyl Artist Fenis Caerdydd; mae arwyddocâd diwylliannol y dyfrffyrdd yn y ddwy ddinas yn ffynhonnell hynod gyfoethog ar gyfer y gwaith o ailystyried ac ailddehongli eu hanesion a’u dyfodol.” Dan Rees Ynglŷn â’r artist Mae Dan Rees (g. 1982, Abertawe, Cymru) yn byw ac yn gweithio yn Llundain a Berlin. Astudiodd yn y Staatliche Hochschule fur Bildende Künste Städelschule, yn Frankfurt am Main, rhwng 2007 a 2009. Graddiodd o Goleg y Celfyddydau, Camberwell, Llundain, yn 2004. Dangosodd ei waith yn rhyngwladol mewn arddangosfeydd unigol ac arddangosfeydd grŵp. Mae ei sioeau unigol yn cynnwys ‘Road Back To Relevance’, Sefydliad Nomas, Rhufain (2016); ‘Think Local, Act Global’, MOT

International, Brwsel (2015); ‘Stimulate Surprise’, Tanya Leighton, Berlin (2015); ‘Kelp’, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd a MOSTYN, Llandudno, Cymru (2013); ‘Gravel Master’, Sefydliad Goss Michael, Dallas (2013); ‘Top Heavy’, T293, Rhufain (2013); ‘High Tea’, Oriel Shane Campbell, Chicago (2013). Mae ei arddangosfeydd grŵp yn cynnwys Gŵyl Cerflunwaith ar Raddfa Fechan Fellbach, yr Almaen (ar hyn o bryd); Atlante delle immagini e delle forme, GAMeC, Bergamo, (2016); Le Nouveau festival / Extension du Domaine du jeu, Espace 315 — Canolfan Pompidou, Paris, (2015); THE GO-BETWEEN, Museo Nazionale di Capodimonte, Napoli (2014). Ynglŷn â’r Preswylfeydd Mae Glandŵr Cymru wedi ymuno â Chyngor Celfyddydau Cymru i greu rhaglen dair blynedd o saith preswyliad i artistiaid i archwilio dyfrffyrdd Cymru. Bydd y bartneriaeth hon nid yn unig yn tynnu sylw at dreftadaeth ac arwyddocâd hanesyddol camlesi Cymru ond yn dathlu hefyd ac yn hybu syniad o’u perthnasedd i gymunedau lleol a diwylliant cyfoes Cymru. Mae’r elusen yn archwilio’r modd y gall y celfyddydau cyfoes chwarae rôl newydd wrth warchod, hyrwyddo ac ailddehongli dyfrffyrdd yng Nghymru. Bydd arddangosfa yn 2017 yn cyflwyno holl waith ac ymchwil y saith artist.


08

Celfyddyd

029 2030 4400

Pob llun: Lorna Macintyre, o’r gyfres Much Marcle, 2016, printiau gelatin arian wedi’u trin â ‘Pope’s Perry’.

CELFYDDYD YN Y BAR

Lorna Macintyre Rhagolwg: Iau 7 Gorffennaf Arddangosfa: Gwe 1 — Llun 25 Gorffennaf I gyd-fynd ag arddangosfa Sticky Intimacy yn yr oriel, aeth Lorna Macintyre ati i gymryd cyfres o ffotograffau o dŷ a stiwdio Nicholas Pope yn Swydd Henffordd. Mae’r printiau gelatin arian yn ddogfen anarferol o’i waith ac yn cyflwyno portread o artist trwy gyfrwng gwrthrychau yn gymaint â thrwy gyfrwng ei waith artistig. Mae’r ffotograffau’n awgrymu dylanwad yr artist ac yn creu rhyw fath o atsain ffurfiol a chysyniadol ar hyd y cenedlaethau.

Ynglŷn â’r artist Lorna Macintyre (g. 1977, Glasgow, yr Alban). Mae ei harddangosfeydd unigol diweddar yn cynnwys ‘Material Language Or All Truth Waits In All Things’, Mary Mary, Glasgow, ‘Solid Objects’, Glasgow Project Room (y ddwy yn 2015) a ‘Four Paper Fugues’, Mount Stuart, Bute (rhan o ‘Generation’, 25 mlynedd o Gelfyddyd Gyfoes yn yr Alban) (2014). Mae ei harddangosfeydd grŵp diweddar yn cynnwys ‘Surface Tension’, Streetlevel Photoworks, Glasgow, ‘Representing Space’, CCA Andratx, Mallorca (2015), ‘Polarity and Resonance’, Sammlung Lenikus, Fiena a ‘Dirt and Not Copper’, 221a, Vancouver. Cynrychiolir Lorna gan Mary Mary, Glasgow. Comisiynwyd yr arddangosfa hon gan NGCA a derbyniodd gefnogaeth hael gan Ymddiriedolaeth Elephant, Cyngor Celfyddydau Lloegr a Chyngor Dinas Sunderland.


chapter.org

Bwyta + Yfed

09

BWYTA+YFED

YN DOD YN FUAN

Pop Up Produce Ein marchnad fisol boblogaidd o ddanteithion gan gynhyrchwyr lleol. Ar ddydd Mercher cyntaf bob mis, byddwn yn cyflwyno rhai o’ch hen ffefrynnau ynghyd ag ambell stondin newydd a fydd yn gwerthu siocledi, jamiau, bara arbenigol, nwyddau o Sbaen, pice ar y maen, gwin, teisennau heb glwten, te, mêl a nwyddau i’r cartref. Ydych chi’n cynhyrchu bwyd? Ydych chi wedi sylwi ar fwlch yn narpariaeth Pop Up Produce? Os hoffech chi ymuno â ni unwaith y mis i werthu eich cynhyrchion chi, cysylltwch â Paul — paul.turton@chapter.org — i wneud cais am stondin. Bydd Pop Up Produce yn dychwelyd yn mis Medi.

ChapterLive

Gwe 8 Gorffennaf 9pm: I’w gadarnhau Gwe 22 Gorffennaf 9pm: Up The Creek (i’w gadarnhau) Mae ChapterLive yn gyfres o gyngherddau byw wedi’u curadu gan yr hyrwyddwyr profiadol, Jealous Lovers Club. Byddan nhw’n cyflwyno detholiad o’u hoff grwpiau o’r DG, Ewrop a gwledydd pellennig eraill yn Chapter. Mae ChapterLive yn gyfle i ddarganfod artistiaid newydd gwych. I gael mwy o wybodaeth am y grwpiau wrth iddyn nhw gael eu cadarnhau, ewch i’n gwefan. RHAD AC AM DDIM @JealousLovers1 #ChapterLive

Llogi Mae nifer o ystafelloedd a chyfleusterau Chapter ar gael i’w llogi ac mae llawer o’r rhain yn cael eu defnyddio’n rheolaidd gan gymysgedd eclectig o ddosbarthiadau dydd a nos. Ewch i’n gwefan neu codwch daflen yn y swyddfa docynnau i weld yr hyn sydd ar gael. Os ydych chi’n chwilio am ystafell ar gyfer parti, cyfarfod neu gynhadledd, neu am ofod i saethu fideo, i ymarfer neu i gynnal gweithgareddau adeiladu tîm, bydd ein cyfleusterau gwych, ein harbenigedd technegol a’n staff cyfeillgar yn gallu sicrhau bod eich digwyddiad yn gyffyrddus, yn unigryw ac yn gofiadwy. Gallwn gynnig amrywiaeth o opsiynau arlwyo ar gyfer eich digwyddiad hefyd. Os oes gennych chi gwestiynau penodol, neu os hoffech chi fwy o wybodaeth am ein cyfleusterau, rhowch ganiad i’n rheolwr llogi, Nicky, ar 029 2031 1058 neu anfonwch e-bost at nicky.keeping@chapter.org.


10

Perfformiadau

029 2030 4400

PERFFORMIADAU

Peidiwch â cholli’r rhagolygon ecsgliwsif hyn o sioeau o Gymru a fydd yn teithio i fyny i Ŵyl ‘Fringe’ Caeredin yn nes ymlaen yn yr haf. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn EP er mwyn aros ar y blaen i griw y ‘Fringe’!

Saturday Night Forever

Cefnogir Theatrau Chapter gan rodd David Seligman er cof am Philippa Seligman


Perfformiadau

11

O’r chwith i’r dde: Yuri, Alix in Wundergarten

chapter.org

EP AUGUST 012 YN CYFLWYNO

Yuri Llun 25 — Sad 30 Gorffennaf 9.20pm Dyw Patrick ac Adele ddim yn gallu cael plant. Yna mae Yuri’n ymddangos. Ond pwy yw Yuri? Pam mae e yna? A yw e’n beryglus? Ai Rwsiad yw e? A ddylem ni ei garu? Drama am anffrwythlondeb, Scrabble, archfarchnadoedd, rhyw, cenedlaetholdeb, y dieithryn yn yr ystafell fyw a’r syniad o fod eisiau dod â phlentyn bach i mewn i’r byd gwallgo’ hwn. Mae hi hefyd yn ddrama am gariad. Mae’r cwmni gwobrwyol, August 012, ar y cyd â Chapter a National Theatre Wales, yn cyflwyno première Prydeinig o gomedi abswrd ´ Fabrice Melquiot. Addasiad gan Daf James. Cyfarwyddo gan Mathilde López. £12/£10/£8 Oed 18+

EP CANOLFAN GELFYDDYDAU ABERYSTWYTH & JOIO YN CYFLWYNO

Saturday Night Forever Mer 27 — Sad 30 Gorffennaf (Mer + Gwe 8.45pm, Iau + Sad 7pm) Gan Roger Williams Cyfarwyddo gan Kate Wasserberg Taith wyllt drwy fywyd hoyw Caerdydd gyda’r nos wrth i Lee adael ei gariad ac addunedu i beidio â syrthio mewn cariad byth eto. Mae pawb o’i gwmpas yn yfed gormod, yn dawnsio tan yr oriau mân ac yn chwilio am gariad fel y gall ... Ond ar ôl i Lee dderbyn gwahoddiad i barti mewn tŷ mae’r amgylchiadau fel petaen nhw’n berffaith. Dim ond saith awr, potel o fodca a’r diafol bach ar ei ysgwydd sydd eu hangen arno i wneud iddo dorri ei addewid ac ildio i goflaid edmygwr newydd. Mae Saturday Night Forever yn dilyn Lee ar daith drwy lanast o berthnasau blaenorol a chamau cynnar carwriaeth addawol newydd. Am gyfnod, mae bywyd yn braf ond, ar ôl pob nos Sadwrn, daw realiti anghynnes bore Sul ac, fel y daw Lee i sylweddoli, does dim byd yn para am byth.

EP DIFFICULT|STAGE A THE OTHER ROOM, AR Y CYD Â CHAPTER, YN CYFLWYNO

Alix in Wundergarten gan François Pandolfo Mer 27 — Sad 30 Gorffennaf Mer + Gwe 7pm, Iau + Sad 8.45pm Ar ôl rhediad yn The Other Room yng Nghaerdydd, mae difficult|stage yn cyflwyno’u cyfuniad unigryw a nodedig o theatr a chomedi yn Chapter cyn teithio i’r ‘Fringe’ yng Nghaeredin. ‘Rydym bob un yn fwncïod sy’n cystadlu am statws’. Grŵp o actorion. Yn ceisio cynhyrchu drama. Dan glo mewn stiwdio radio. Yn cwympo ar eu pennau i dwll du mewn comedi dywyll, ryfedd, wünderbar a boncyrs ... (Dewch â’ch bananas eich hun!) Cyfarwyddwr: Angharad Lee. Cyd-gynhyrchiad gyda The Other Room, gyda chefnogaeth gan – ac ar y cyd â – Chapter

£12/£10/£8 www.difficultstage.com @difficultstage

“ Dw i ddim yn siŵr a yw hi’n ddrama wirion neu’n ddrama hynod ddwys, ond mae hi’n wych yr un modd” The Western Mail

£12/£10/£8

Cynnig arbennig! Mae Yuri, Saturday Night Forever a Alix in Wundergarten yn sioeau rhagolwg Caeredin bob un. Beth am ymgolli go iawn yn y theatr y mis hwn a gweld pob un o’r tair sioe? Gallwch weld dwy ohonynt am £20 neu bob un am £24.


Perfformiadau

029 2030 4400

Gyda’r cloc o’r chwith uchaf: Stuart Laws, Peter Brush, Stephen Carlin

12

Penwythnos Comedi Little Wander Mae’r tîm sy’n gyfrifol am Ŵyl Gomedi Machynlleth yn ymuno a Little Wander i gynnig rhagflas yn Chapter o rai o’u hoff berfformwyr dros gyfnod o ddau benwythnos. Mae tocynnau i bob sioe yn £6 ac fe fydd y sioeau hynny’n addas ar gyfer pobl 16+ oed

GWE 15 GORFFENNAF EP 7.30pm Stuart Laws: ‘So Preoccupied With Whether Or Not He Could He Didn’t Stop To Think Whether He Should’ (Sioe awr o hyd) Stuart Laws yw’r dyn sy’n gwneud yr holl gomedi yn Turtle Canyon Comedy ac sydd wedi cefnogi James Acaster mewn llwyth o sioeau. All e ddim manylu gormod ond mae’r sioe hon yn ymwneud â haf 2001, aderyn y pâl, bragdai a rowndiau papur. Yn union fel pob sioe gomedi arall ar hyn o bryd.

“Digrifwr syfrdanol o ddoniol” TimeOut

EP 9pm Stephen Carlin: ‘TV Comeback Special’ Doeddech chi ddim hyd yn oed yn gwybod ei fod e wedi bod i ffwrdd, oeddech chi? Wel, ar ôl llanast ei ymddangosiad diwethaf ar y teledu, cyfnod yn ‘rehab’ a thor-priodas, mae Stephen Carlin yn ei ôl! Dewch i’w weld cyn iddo farw ar sedd toiled yn rhywle. Heb ei recordio ond o flaen cynulleidfa fyw. Ni anafwyd unrhyw Elvis Presleys tew wrth roi’r sioe hon at ei gilydd.


Perfformiadau

13

Gyda’r cloc o’r brig: BEASTS, Lloyd Langford, Birthday Girls

chapter.org

SAD 16 GORFFENNAF EP 4.30pm Peter Brush: Dreams with Advert Breaks

EP 7.30pm Birthday Girls: Sh!T Hot Party Legends

Mae Peter Brush yn cyflwyno sioe newydd sbon am freuddwydion, hiraeth, terfysgaeth, The Muppets a cheisio achub octopws rhag gorthrwm gorllewinol.

Dewch at eich gilydd, anifeiliaid partis gwyllt Caerdydd! Ar ôl llwyddiant ysgubol eu sioe PARTY VIBES yn 2014, mae’r Birthday Girls yn eu holau â sioe sgetsys afreolus ac aflafar a fydd yn baratoad perffaith at noson allan. R’yn ni’n addo y bydd yna lwyth o sh*t doniol. Rydym yn addo y bydd yna ddawnsio trio-rhy-galed. Rydym yn addo popeth. Y Birthday Girls yw Beattie Edmondson (yr un ddoniol), Rose Johnson (yr un ddoniol) a Camille Ucan (yr un ddoniol). Maen nhw wedi ymddangos cyn hyn ar raglen BBC Radio 4 Sketchorama, ar Absolutely Fabulous ar BBC1 ac ar @elevenish ITV2.

“Hynod, hynod ddoniol ... llais gwreiddiol a doniol iawn iawn” Chortle EP 6pm BEASTS Ymunwch ag arwyr ffurf y sgets, BEASTS, ar gyfer yr unig gystadleuaeth o bwys yr haf hwn. Paratowch am frwydr epig o gudd-wybodaeth, talent, twyll a nerth bôn braich – ar lwybr tuag at ogoniant sy’n frith o gyfeillgarwch wedi chwalu ac urddas drylliedig. Pwy fydd yn dod i’r brig ac yn cael ei goroni’n Mr Caerdydd 2016? Chi sydd i benderfynu.

“Gwiriondeb pur a diedifar” Metro

www.birthdaygirlscomedy.com @bdaygirlscomedy

“Llawenydd pur” Skinny EP 9pm Lloyd Langford Ymunwch â Lloyd am awr o gomedi ‘stand-up’ newydd sbon am ddod o hyd i bleser lle gallwch chi. Mae hon yn rhagolwg o sioe Caeredin felly, yn ogystal â digonedd o jôcs, mae’n bosib y bydd yna wefr o gyffro wrth i bethau fynd yn syndod o dda – neu yn syndod o wael. Yn syndod o dda, gobeithio. Bydd y pynciau a drafodir yn cynnwys gangiau, y tywydd a beth i’w wneud os dewch chi o hyd i focs yn llawn teganau rhyw yn eich ystafell westy. Gwelwyd Lloyd Langford cyn hyn ar QI (BBC2) ac fe’i clywyd ar The Unbelievable Truth (BBC Radio 4).

“Lefelau derbyniol o Gymreictod” Mirror


14

Perfformiadau

029 2030 4400

SILENCE, DARKNESS YN CYFLWYNO

Bash O’r chwith i’r dde: Bash, Oh Hello!

gan Neil Labute Maw 28 Mehefin — Sad 2 Gorffennaf 7.30pm + matinées Mer 29 Mehefin + Sad 2 Gorffennaf 2.30pm Dwy ddrama un act dywyll ac ardderchog.

Medea redux

Mae menyw yn adrodd hanes ei pherthynas gymhleth a thrasig â’i hathro Saesneg yn yr ysgol ganol.

Iphigenia in Orem

Mae gŵr busnes o Utah yn ymddiried mewn dieithryn mewn gwesty yn Las Vegas ac yn cyffesu i drosedd arbennig o erchyll. £10/£8 Oed 16+

“ Bywiog a brathog, mae pob ymson yn cau amdanoch fel trap” THEATR BARA CAWS

Allan o Diwn gan Emyr ‘Himyrs’ Roberts Iau 30 Mehefin + Gwe 1 Gorffennaf 8pm Cynhyrchiad yn Gymraeg. Bydd crynodeb Saesneg ar gael cyn y perfformiad. Sioe un dyn gan un o ddynwaredwyr gorau Cymru. Mae’n cyfleu’n berffaith stori disgybl 6ed dosbarth dioddefus, un sydd ‘allan o diwn’ â’r byd o’i gwmpas a’r modd yr aeth ati i sefydlu’r grŵp pop eiconig, y Ficar. Yn sgil hynny, daeth o hyd i’w lais a gwneud gyrfa fel perfformiwr proffesiynol. Cynhyrchiad cyffrous sy’n cyfuno cerddoriaeth, parodïau a dynwarediadau ynghyd ag ambell sylw dychanol am y sîn roc Gymraeg. £12/£10/£8 Oed 14+ (Iaith gref)

EP

Oh Hello!

Mer 20 — Sad 23 Gorffennaf 8pm + matinée Sad 23 Gorffennaf 5pm Charles Hawtrey oedd un o ffigyrau pennaf cyfres ffilmiau Carry On. Yn fywiog, egnïol ac yn hynod ddoniol, roedd Hawtrey yn un o actorion comedi mwyaf adnabyddus y 40au, y 50au a’r 60au ond, wrth i’w enwogrwydd gilio, trodd ei ymddygiad yn fwyfwy afreolus, meddw ac ecsentrig ac fe gollodd lawer o’r ffrindiau a fu ganddo. Roedd hynny yn ystod cyfnod pan oedd bod yn hoyw ym Mhrydain yn drosedd (ac yn rhwym o arwain at ddedfryd o garchar). Dewch i weld Hawtrey yn y sioe un dyn hon, a’i glywed yn adrodd hanesion a gasglwyd dros gyfnod o 50 mlynedd am weithio gydag enwogion fel Alfred Hitchcock a serennu mewn ffilmiau fel The Ghost of St Michael’s, Passport to Pimlico a 21 o ffilmiau Carry On. Fe glywch chi am ei ddadleuon doniol gyda Kenneth Williams, ei ddirmyg tuag at gynhyrchwyr y ffilmiau Carry On ac am ei berthynas gymhleth â mam a oedd yn colli’i phwyll. Perfformiad gan Jamie Rees yn ystod y flwyddyn y byddai Hawtrey wedi dathlu ei ben-blwydd yn gant oed. £12/£10/£8

“ Perfformiad tour de force gan Jamie Rees sy’n cyfleu hynodweddau a chymhlethdodau un o arwyr byd comedi; portread twymgalon o seren ffilmiau Carry On, Charles Hawtrey” Chortle


chapter.org

Perfformiadau

15

Three Cane Whale O’r chwith i’r dde: Mandy, Three Cane Whale

Maw 5 Gorffennaf 7.30pm

Lansio albwm Mandy ‘Universe’ Llun 4 Gorffennaf 7.30pm Mandy yw’r enw a ddefnyddir gan Mel ac Andy Fung. Cafodd ‘Universe’ ei ysgrifennu a’i recordio yn ystod y cyfnod cyn marwolaeth Mel o ganser yn Hydref 2014. Y mae’n ddatganiad cerddorol olaf sydd yn ddwys ac yn hardd. Ar ôl ymgyrch godi arian lwyddiannus, caiff ‘Universe’ ei ryddhau gan grŵp Bubblewrap ar 27 Mai. I ddathlu rhyddhau’r albwm, bydd band Mandy yn perfformio ‘Universe’ yn ei gyfanrwydd, ar y cyd â naw artist gwadd arbennig, i ddathlu bywyd a gwaith Mel Fung. £7 www.bubblewrapcollective.co.uk/artists/ mandy/releases/universe/

Mae’r triawd aml-offerynnol acwstig o Fryste, Three Cane Whale (sy’n cynnwys aelodau o Spiro, Get The Blessing, a Theatr Ddawns yr Alban) yn cyfuno dylanwadau o ganu gwerin, minimaliaeth, cerddoriaeth glasurol a cherddoriaeth ffilm. Cyflwynir y gig hwn yn lle’r gyngerdd yn gynharach eleni y bu’n rhaid ei gohirio o ganlyniad i amgylchiadau annisgwyl. Dewisodd Cerys Matthews albwm cyntaf y band yn un o’i ‘Phum Albwm Gwerin Cyfoes Gorau’ (Sunday Telegraph) ac fe gafodd eu hail albwm, Holts and Hovers, ei enwi’n un o Recordiau Gorau’r Flwyddyn yng nghylchgrawn fRoots. Roedd hefyd yn un o ‘Hidden Gems’ papur newydd The Observer yn 2013. Cafodd eu trydydd albwm, ‘Palimpsest’ (a ryddhawyd ym mis Ionawr), ei recordio yn Stiwdio Real World Peter Gabriel ac fe’i cynhyrchwyd gan Adrian Utley o’r band Portishead. Enillodd ganmoliaeth uchel yn y wasg.

Aelodau Three Cane Whale yw: Alex Vann — mandolin, saltring (‘psaltery’), sither, bouzouki, banjo tenor, bocs cerddoriaeth. Pete Judge — trwmped, harmoniwm, dylsiton, corn tenor, telyn, glockenspiel. Paul Bradley — gitâr acwstig, telyn fechan. £8/£6 www.threecanewhale.com

“ Gosgeiddig, cain, atmosfferig a swynol” The Guardian

Good News From The Future Gweithdai Agored: ‘Point, Turn, Mirror, Embrace’ Sad 16 + Sul 17 Gorffennaf 9.30am–4pm Ydych chi dros eich hanner cant? Ydych chi’n gyffyrddus yn eich croen? Ydych chi’n barod am ychydig o hwyl? Dyma gyfle i ymuno â Good News From The Future am ddau ddiwrnod o weithdai cyfranogol mewn theatr gorfforol a symudiad. Byddwn yn dathlu doethineb pobl aeddfed, profiadau cyrff hŷn ac ysbryd anturus y rheiny a fu’n myned y daith ers tro. A bydd y pwyslais ar fwynhad ... I gyfranogwyr o bob gallu. RHAD AC AM DDIM


Perfformiadau

029 2030 4400

O’r chwith i’r dde: Mark Thomas, Mitch Benn

16

EP LAKIN MCCARTHY YN CYFLWYNO

Mark Thomas Red Shed — Gwaith ar y gweill Maw 12 Gorffennaf 7pm + 9.30pm Red Shed yw trydedd ran trioleg a gychwynnwyd gyda’r sioeau gwobrwyol Bravo Figaro a Cuckooed. Mae Mark yn dychwelyd i’r fan lle ddechreuodd berfformio’n gyhoeddus – sied bren goch y clwb llafur yn Wakefield — i ddathlu pen-blwydd y clwb hwnnw yn 50 oed. Mae’n cyf-weld â hen ffrindiau a chydymdeithwyr, yn gwau at ei gilydd hanes y clwb ac yn ymuno ag ymgyrch rhai o’r gweithwyr tlotaf yn y wlad dros eu hawliau. Mae hi’n stori am frwydro a gobaith — ac am gymuned sy’n goroesi mewn sied bren fach. Sioe sydd yn gyfuniad o theatr, ‘stand up’, newyddiaduraeth ac ymgyrchu; mae Mark yn dychwelyd at ei wreiddiau a’i obsesiynau, sef cymuned a gweithredu. Bydd y sioe yn annog cyfranogiad gan y gynulleidfa (mewn ffordd neis) er mwyn helpu i ail-greu’r sied a’i thrigolion. £10

Flossy and Boo’s Curious Cabaret EP

Gwe 22 Gorffennaf 8pm O’r diwedd, mae Flossy wedi gadael i Boo drefnu sioe neu ddwy, ond mae hi fel petai hi wedi sicrhau’r slotiau mwyaf rhyfedd iddynt, yn hwyr y nos ... Dewch i glywed caneuon digywilydd y merched am gariad, antur a threialon bod yn aelod o’r Dosbarth Canol. Un i oedolion yn unig yw hon. Ar ôl perfformio sesiynau yng Ngŵyl Gomedi Caerdydd, Loco Klub Cabaret a chymryd rhan mewn digwyddiadau bwrlesg ar hyd a lled y wlad, mae ‘Curious Cabaret’ Flossy a Boo yn dod i Chapter am un noson yn unig. Dewch i’w gweld nhw cyn iddyn nhw ei heglu hi i ‘Fringe’ Caeredin! £10/£8

EP RBM TRWY DREFNIANT AG IMWP YN CYFLWYNO

Mitch Benn — Don’t Believe a Word Iau 14 Gorffennaf 7.30pm “Dw i’n sgeptig. Ond peidiwch â ‘nghredu i. Nac unrhyw un arall. Ar unrhyw fater…” Dyna’r cynsail ar gyfer sioe nodedig newydd Mitch. Mae hi’n sioe a fydd yn gwneud i chi chwerthin ac yn gwneud i chi feddwl ryw ychydig hefyd wrth i Mitch chwalu mythau, amlygu nonsens ac ymgodymu â natur gwybodaeth. Bydd e hefyd yn clodfori rhinweddau agwedd at fywyd sy’n seiliedig ar dystiolaeth… a’r cyfan oll yn arwain at chwerthin yngyd ag ambell gân. Ar wahân i’r ‘Now Show’, bu Mitch yn gydgyflwynydd rhaglen ‘Anatomy of a Guitar’ gyda Harry Shearer yn ddiweddar, ar BBC Radio 2. Yn ogystal â hynny, perfformiodd ei sioe ‘Mitch Benn is the 37th Beatle’ a chyflwyno ‘Spank the Plank’, y ddwy ohonynt ar BBC Radio 4. Comisiynwyd cyfres newydd achlysurol hefyd, lle bydd Mitch yn taro ei olwg unigryw a hynod ei hun ar rai o eiconau byd roc — bydd honno hefyd i’w chlywed ar Radio 4. £14/£12 Oed 14+

“ Dychanwr cerddorol pennaf Prydain” The Times


Perfformiadau

GŴYL GOMEDI CAERDYDD (CCF16)

Dosbarth Meistr mewn Comedi Slapstic gyda Kev McCurdy

17

O’r chwith i’r dde: Carri Munn, Actorsworkshop Comedy Masterclass

chapter.org

Carri Munn: Cardiff Minger* of the World Mer 13 Gorffennaf 8pm

Carri Munn yw’r Cardiff Minger Of The World. Heno, o leia’. Nid ei fod yn gystadleuaeth. Ar ôl cael ei chamgymryd am Stephen Fry mewn ‘drag’, mae Carri Munn yn ystyried cwestiwn Virginia Woolf — ‘ai llygaid pobl eraill yw ein carchar’? Neu a ydym ni, fel y dywed Christina Aguilera, yn hardd beth bynnag ddywed unrhyw un? Y naill ffordd neu’r llall, os taw eich hoff ran o’r corff yw ‘y plentyn oddi mewn i chi’, mae yna wahoddiad agored i chi i sioe Carri Munn. Mae Carri Munn yn chwennych eich cwmni hawddgar ar gyfer ei sioe ‘stand-up’ newydd i Ŵyl Gomedi Caerdydd, ar ôl perfformiad hynod lwyddiannus y llynedd. *minger enw dirmygus anffurfiol PRYDEINIG enw: ‘minger’; lluosog: ‘mingers’ £10/£8 Oed 16+

Iau 14 Gorffennaf 7pm–9pm

Bydd tiwtor rheolaidd dosbarthiadau meistr yr Actorsworkshop, Kevin McCurdy, yn dychwelyd ar gyfer sesiwn arbennig yn ystod yr Ŵyl Gomedi. Mae Kev yn feistr ar grefft ymladd y theatr ac mae e’n dychwelyd o Lundain ar ôl gweithio gyda’r RNT. Mae ei waith theatr yn cynnwys Drowned Man i Punchdrunk Theatre, Macbeth a The Taming Of The Shrew i Theatr y Glôb Shakespeare, ac mae ei waith teledu yn cynnwys Y Gwyll/Hinterland a Being Human ymhlith rhaglenni eraill lawer. Bydd y dosbarth meistr dwy awr hwn yn archwilio slapstic a symudiad felly gwisgwch ddillad addas. £20 am ddosbarth meistr unigol neu £30 am y ddau.

Dosbarth Meistr mewn Comedi Shakespeareaidd gyda Emma Stevens-Johnson Mer 27 Gorffennaf 7pm–9pm

Teyrnged Gŵyl Gomedi Caerdydd i William Shakespeare i nodi 400 mlynedd ers marwolaeth y bardd anfarwol. Bydd hyfforddwr llais yr Actorsworkshop, Emma Stevens-Johnson, yn cynnal sesiwn ddwy awr o hyd yn canolbwyntio ar y golygfeydd comig a ysgrifennwyd gan y bardd. Mae Emma yn hyfforddwr llais ac yn darlithio yn y maes yng Ngholeg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru. Yn y dosbarth meistr hwn, bydd Emma’n gweithio’n ymarferol gyda phob cyfranogwr ar ddetholiad o areithiau comig o weithiau adnabyddus Shakespeare. Efallai y gofynnir i chi baratoi darn o destun cyn y sesiwn. £20 am ddosbarth meistr unigol neu £30 am y ddau. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.actorsworkshop.co.uk neu e-bostiwch masterclass@actorsworkshop.co.uk.


Perfformiadau

029 2030 4400

MAN ARALL TAKING FLIGHT YN CYFLWYNO

LE NAVET BÊTE & THEATR BARBICAN PLYMOUTH YN CYFLWYNO

O’r chwith i’r dde: Romeo and Juliet, The Wonderful Wizard of Oz

18

Romeo and Juliet Iau 16 Mehefin — Gwe 29 Gorffennaf (Ewch i’n gwefan i weld rhestr lawn o leoliadau a dyddiadau) Verona, 1963. Y Ras Gychod golegol flynyddol yw digwyddiad mawr y calendr cymdeithasol, lle mae aelodau’r gymdeithas fonedd yn mynd i chwilio am gariadon. Ond mae hi’n gyfnod cythryblus ac mae disgwyl i bob un gefnogi ei dîm — Montague neu Capulet — i’r eithaf. Golwg newydd ar stori hen iawn a gallwch ddisgwyl gweld pob un o gyffyrddiadau nodweddiadol Taking Flight – theatr weledol gyffrous, cerddoriaeth wreiddiol fyw a digonedd o gomedi – yn y sioe afieithus hon. Bydd pob perfformiad yn cynnwys dehongliad yn Iaith Arwyddion Prydain gan Sami Thorpe a disgrifiadau sain byw. Mae hwn yn berfformiad promenâd — mae’r perfformiad yn symud o gwmpas y lle ac fe’ch gwahoddir chi i’w ddilyn. Bydd y ras gychod yn cael ei chynnal boed law neu hindda — dewch ag ymbarél a dillad cynnes gyda chi, rhag ofn. Bydd Romeo & Juliet yn teithio ledled Cymru, i nifer o fannau hardd yn yr awyr agored. Mae hi’n 400 mlynedd eleni ers marw Shakespeare — ymunwch â ni i gael profiad newydd o un o ddramâu enwocaf y bardd o Stratford. £14/£10/plant £6/teuluoedd £34

The Wonderful Wizard of Oz Gwe 8 + Sad 9 Gorffennaf 7pm Matinée ar Sad 9 Gorffennaf 2.30pm Mae hoff gwmni theatr gomedi gorfforol y de-orllewin, Le Navet Bête, yn dychwelyd y tymor hwn â’u fersiwn hynod lwyddiannus nhw o’r stori glasurol, ‘The Wonderful Wizard of Oz’. Ymunwch â Dorothy a Toto ar eu teithiau ffantasïol ac afreolus ar hyd Ffordd y Briciau Melyn wrth iddyn nhw gwrdd â’r giwed (led-) gyfarwydd — Bwgan Brain anhygoel o ddwl, Dyn Tun sydd fel petai’n dod o’r tu ôl i’r Llen Haearn a Llew sy’n breuddwydio am gyrraedd y West End – ynghyd ag ambell gymeriad annisgwyl hefyd. A gyrhaeddan nhw’r Ddinas Emrallt neu a fydd yr Oz Mawreddog a’i Fyddin Werdd yn eu hatal? A fydd Shirley, Gwrach Ddrwg y Gorllewin, yn fwy drygionus nag y gallech chi fod wedi’i ddychmygu? Mae ‘The Wonderful Wizard of Oz’ yn gyd-gynhyrchiad gan Le Navet Bête a Theatr Barbican Plymouth. Byddwch yn barod am ecstrafagansa o gomedi gorfforol, cymeriadau hurt, cerddoriaeth a chanu byw, dawnsfeydd doniol, gwiriondeb hollol a llawer, llawer mwy. Mae Kansas yn bell, bell i ffwrdd ... £13/£11 Oed 4+


chapter.org

Chapter Mix

19

CHAPTER MIX Cylch Chwedleua Caerdydd

Jazz ar y Sul

Dewch i rannu a gwrando ar gasgliad hyfryd o straeon – croeso cynnes i storïwyr a gwrandawyr fel ei gilydd! £4 (wrth y drws)

Ein noson fisol o jazz acwstig melodig yn y Caffi Bar gyda Phedwarawd Jazz Chapter – Glen Manby, Jim Barber, Don Sweeney a Greg Evans.

DYDD IAU CYNTAF Y MIS

RHAD AC AM DDIM www.glenmanby.com

Sul 3 Gorffennaf 8pm

Sul 24 Gorffennaf 9pm

Ffuglen a Barddoniaeth Newydd Clonc yn y Cwtch Iau 7 Gorffennaf 7.30pm Awduron gwadd y mis hwn fydd: y bardd, Caroline Smith, a fydd yn rhannu gwaith o’i llyfr, ‘The Immigration Handbook’, Bethany W. Pope, a fydd yn cyflwyno’i nofel gothig gyntaf, ‘Masque’, ac Alan Bilton, a fydd yn darllen o’i gyfrol o straeon byrion, ‘Anywhere Out of the World’. Ynghyd â sesiwn meic agored. Noddir gan Wasg Seren a Llenyddiaeth Cymru.

£2.50 (wrth y drws)

Clwb Comedi The Drones

Gwe 1 + Gwe 15 Gorffennaf. Drysau’n agor: 8.30pm Sioe’n dechrau: 9pm Clint Edwards sy’n cyflwyno’r ‘stand-ups’ addawol gorau. Gwelwyd peth o ddeunydd y nosweithiau hyn ar raglen ‘Identity Crisis’ Rob Brydon. Dydd Gwener cyntaf a thrydydd dydd Gwener y mis. Un o’r ‘Deg Peth Gorau i’w Gwneud yng Nghaerdydd’ yn ôl cylchgrawn The Big Issue. Bydd sioe Gwe 1 Gorffennaf yn gipolwg ddwbl ar sioeau Caeredin Robin Morgan a Matt Green. £3.50 (wrth y drws)

Digwyddiad Archif Iau 14 Gorffennaf 6–8pm

Bydd detholiad o westeion arbennig iawn o orffennol Chapter yn bresennol ar gyfer y digwyddiad unigryw hwn. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, bu Chapter yn gweithio ar brosiect ymchwil ar y cyd â Kerrie Reading o Brifysgol Aberystwyth, a aeth ati i archwilio cyfoeth o ddeunydd o archif Chapter. Cynhaliwyd nifer o gyfweliadau hefyd â sylfaenwyr, artistiaid a rhai o’r cwmnïau sydd wedi bod ynghlwm â Chapter ers y 1970au. Bu’r gwaith hwn yn fodd o greu darlun arwyddocaol o ymddangosiad strwythurau newydd ar gyfer y theatr a pherfformio amgen ym Mhrydain ac effeithiau hynny ar ddatblygiad cynulleidfaoedd cymunedol. Sesiwn yn cynnwys cyflwyniad byr am y prosiect ymchwil a sesiwn holi-ac-ateb gyda rhai o sylfaenwyr Chapter. Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim ond bydd angen cadw lle. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i wneud hynny, os gwelwch yn dda.

Bob dydd Llun 6.30–8pm

Ydych chi’n dysgu Cymraeg? Mae hwn yn gyfle gwych i ymarfer eich Cymraeg yng nghwmni dysgwyr eraill. Croeso i bawb! RHAD AC AM DDIM Ar y cyd â Menter Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd

MAN ARALL

BEYOND THE BORDER GWYL ADRODD STRAEON 2016 Gwe 1 — Sul 3 Gorffennaf Castell Sain Dunwyd, Bro Morgannwg

Mae Beyond the Border yn ŵyl fywiog o straeon a cherddoriaeth o Gymru ac o bedwar ban byd. Mae themâu gŵyl 2016 yn cynnwys archwiliad heriol o’r trawsnewidiadau rhyweddol a welir mewn straeon traddodiadol (wedi’i gefnogi gan Chapter) ynghyd â straeon epig o India, straeon y gof a mythau Celtaidd o Gymru ac Iwerddon. Bydd yr ŵyl hefyd yn cynnig: Bwyd o Bedwar Ban Byd, Cwrw Go Iawn, Marchnad Grefftau, Gweithdai, Theatr y Stryd, Teithiau Cerdded Storïol, Meic Agored, Man Chwarae i Blant, Gwersylla am ddim. Cynigir gostyngiad o 10% ar bris tocyn penwythnos i oedolyn o archebu ymlaen llaw – cofiwch sôn am CHAPTERSTORY yn y swyddfa docynnau wrth archebu. www.beyondtheborder.com


Ffilm

029 2030 4400

Notes on Blindness

20


Ffilm

Money Monster

Notes on Blindness

Gwener 1 — Iau 7 Gorffennaf

Gwe 1 — Iau 8 Gorffennaf

UDA/2016/99mun/15. Cyf: Jodie Foster. Gyda: Julia Roberts, George Clooney, Caitriona Balfe, Jack O’Connell.

DG/2016/90mun/TiCh. Cyf: Pete Middleton, James Spinney.

21

O’r chwith i’r dde; Money Monster, Notes on Blindness

chapter.org

Mae cyflwynydd bombastig rhaglen deledu ariannol o’r enw Lee Gates a’i gynhyrchydd, Patty, yn eu cael eu hunain mewn sefyllfa ffrwydrol pan gânt eu cymryd yn wystlon gan fuddsoddwr dig — a hynny yn ystod darllediad byw. Ffilm gyffro lawn tensiwn am risg ariannol wedi’i hadrodd mewn amser real.

Clwb Ffilmiau Gwael: Piranha Sul 3 Gorffennaf UDA/2010/88mun/18. Cyf: Alexandre Aja.

Wrth i’r Clwb Ffilmiau Gwael barhau i ddathlu ei ddengmlwyddiant ac edrych ymlaen at wyliau’r haf, dyw hi ddim ond yn iawn ein bod ni’n ffarwelio â chi am y tro ar nodyn aruchel – ac allwch chi ddim mynd llawer yn uwch (neu’n is) na’r ffilm hon sy’n llawn bronnau a piranas. Mae Piranha yn gyfuniad o allu actio Kelly Brook a galluoedd CGI bachgen ag iPad yn ei arddegau ond mae’r ffilm at ei gilydd yn daith ‘roller-coaster’ o bysgod llofruddiol a chnawd noeth sy’n siŵr o fywiocáu eich haf. Fydd ‘Spring Break’ byth yr un peth ar ôl i filoedd o biranas gael eu deffro o’u trwmgwsg a dechrau cnoi eu ffordd drwy’r bobl leol ar frys gwyllt.

Yn ystod haf 1983, ychydig ddyddiau cyn genedigaeth ei fab cyntaf, collodd yr awdur a’r diwinydd, John Hull, ei olwg. Er mwyn gwneud synnwyr o’r newidiadau yn ei fywyd, dechreuodd gadw dyddiadur ar gasét sain. Mae’r ffilm ddogfen gain hon yn gwneud defnydd o’r recordiadau rhyfeddol hynny ac yn archwilio breuddwydion, y cof a bywyd y dychymyg wrth geisio mynd y tu ôl i len dallineb.

The Daughter Gwe 8 — Iau 14 Gorffennaf Awstralia/2015/95mun/15. Cyf: Simon Stone. Gyda: Sam Neill, Geoffrey Rush, Anna Torv.

Caiff sgerbydau dau deulu eu tynnu o’r cwpwrdd trosiadol pan ddychwela Christian ar gyfer priodas ei dad, Harri, â menyw iau. Daw Christian ar draws hen ffrind, Oliver, ac ar ôl treulio amser gyda’i deulu yntau, mae e’n annog un ohonynt i ddatgelu hen, hen gyfrinach. Mae’r ffilm hon yn fersiwn o ddrama Ibsen, ‘The Wild Duck’, ac yn ddrama agos-atoch ac atmosfferig sy’n llawn egni telynegol, cyfoethog a bygythiol. + Ymunwch â ni ar ôl y dangosiad ar Llun 11 Gorffennaf am gyfarfod o’n grŵp trafod ffilm, Addasiadau/Adaptations. I gael mwy o wybodaeth am Addasiadau/Adaptations, gallwch ymweld â www.chapter.org/adaptations

Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael ar gyfer nifer fawr o’n ffilmiau. Fodd bynnag, fe all y wybodaeth amdanynt newid wedi i ni anfon y cylchgrawn hwn i’r wasg — mae manylion pellach i’w cael ar ein gwe-fan. Nid yw’n bosib bob amser i ni gadarnhau gwybodaeth am Ddisgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal cyn i ni anfon y cylchgrawn hwn i’r wasg. Cadwch lygad ar agor am y symbolau hyn, sy’n golygu y bydd angen cadarnhau’r wybodaeth am Ddisgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal. Fe sylwch chi ar y logo hwn ger manylion rhai ffilmiau a pherfformiadau. Mae’r F yn dynodi ffilmiau a pherfformiadau wedi’u cyfarwyddo gan ferched, wedi’u hysgrifennu gan ferched neu / ac sydd yn cynnwys rhannau canolog i ferched ar y sgrin neu ar y llwyfan.


Ffilm

029 2030 4400

POUT: Departure

22

O Gymru

Pout Tour

Moviemaker Chapter

Mae POUTFest yn dychwelyd am flwyddyn gyffrous arall. Drwy gyfrwng y thema ‘Taith drwy amser’, bydd yr ŵyl yn cyflwyno ffilmiau sy’n archwilio bywyd LHDTQ mewn gwahanol gyfnodau, ynghyd ag amrywiaeth o ffilmiau byrion hoyw doniol, rhywiol, pryfoclyd a chyfoes.

Llun 4 Gorffennaf

Sesiwn reolaidd sy’n caniatáu i gyfarwyddwyr annibynnol ddangos eu ffilmiau byrion. I gael mwy o wybodaeth am ddangos eich ffilm chi neu unrhyw fanylion eraill, e-bostiwch moviemaker@ chapter.org. O bryd i’w gilydd, dangosir ffilmiau sy’n cynnwys deunydd anaddas i bobl iau. Awgrymwn, felly, bod sesiynau Moviemaker Chapter yn addas ar gyfer pobl 18+ oed. RHAD AC AM DDIM

The Lighthouse

Gwe 8 — Iau 14 Gorffennaf Cymru/2016/99mun/TiCh. Cyf: Chris Crow. Gyda: Mark Lewis Jones, Michael Jibson, Ian Virgo.

Mae Howell a Griffiths yn ‘geidwaid y goleuni’ ar ben craig sy’n edrych dros fôr didrugaredd Iwerddon. Ar ôl storm annisgwyl, cânt eu hunain yn sownd ar y môr am fisoedd bwygilydd. Â’u cyflenwad o fwyd yn lleihau ac â ‘cabin fever’ yn gafael amdanynt, cânt eu gwthio i’r eithaf. Taith afaelgar i galon dywyll y ddynoliaeth sy’n seiliedig ar ddigwyddiadau go iawn ar Ynys Smalls oddi ar arfordir Sir Benfro ym 1801.

BAFTA Cymru Mer 13 Gorffennaf

Ein dangosiad rheolaidd o’r ffilmiau Cymreig gorau o’r archif ac o’r cyfnod cyfoes. www.bafta.org/wales Ar eich ffordd i’r Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni yn ystod wythnos gyntaf mis Awst? Byddwn yn cynnal ambell ddigwyddiad arbennig yn y Sinemaes, sinema dros dro yr ŵyl. Dewch draw i ddweud helo wrth dîm Chapter a Chanolfan Ffilm Cymru

POUT: Departure Gwe 1 — Iau 7 Gorffennaf

DG/2016/109mun/15. Cyf: Andrew Steggall. Gyda: Juliet Stevenson, Alex Lawther, Phénix Brossard.

Mae Beatrice a’i mab, Elliot, sydd yn ei arddegau, yn treulio wythnos yn pacio cynnwys eu tŷ gwyliau yn Ne Ffrainc a hynny wrth i briodas hir a thrafferthus Beatrice ddod i ben. Mae Elliot yn crwydro cefn gwlad y Languedoc ac yn gweld Clément yn nofio’n noeth. Mae hunan-ddarganfyddiad y mab yn cydredeg â thor-priodas ei rieni ac mae’r ffilm at ei gilydd yn astudiaeth dyner a chynnil o deulu niwclear yn araf ddatgymalu. + Ymunwch â ni am drafodaeth Lavender Screen ar ôl y dangosiad ar Mer 6 Gorffennaf.

POUT: Time & Tried Maw 12 Gorffennaf DG/2015/amrywiol/15.

Casgliad o ffilmiau byrion hoyw Prydeinig newydd. Gweler ein gwefan am restr lawn a manylion.

POUT: XENIA Maw 19 Gorffennaf

Gwlad Groeg/2014/124mun/is-deitlau/15. Cyf: Panos H. Koutras. Gyda: Kostas Nikouli, Nikos Gelia, Yannis Stankoglou.

Mae Dany ac Ody yn dychwelyd i’w mamwlad yng Ngwlad Groeg i geisio dod o hyd i’r aelod olaf o’u teulu sydd yn dal ar dir y byw — y tad a’u gadawodd flynyddoedd ynghynt. Mae’r ffilm daith uwchreal hon yn cyfuno caneuon pop a chwedlau hynafol wrth i’r cymeriadau geisio ailgysylltu â’i gilydd a dod o hyd i deimlad o berthyn mewn gwlad sy’n gwrthod eu derbyn.


Ffilm

23

Cemetery of Splendour

Green Room

Gwe 8 — Iau 14 Gorffennaf

Gwe 15 — Iau 21 Gorffennaf

Gwlad Thai/2016/122mun/is-deitlau/TiCh. Cyf: Apichatpong Weerasethakul. Gyda: Jenjira Pongpas, Banlop Lomnoi, Jarinpattra Rueangram.

UDA/2015/95mun/18. Cyf: Jeremy Saulnier. Gyda: Anton Yelchin, Imogen Poots, Alia Shawkat.

O’r brig: Cemetery of Splendour, Green Room

chapter.org

Mae grŵp o filwyr yn cael eu taro’n wael â math o salwch cysgu dirgel. Yn yr ysbyty, mae gwirfoddolwr ifanc yn honni eu bod wedi tarfu ar fynwent hynafol i frenhinoedd. Fel y milwyr, mae’r gwirfoddolwyr yn yr ysbyty iasol fel petaent yn troi’n ysbrydion ac maent yn actio allan rhyw hysteria tawel mewn ffilm sydd yn gyfuniad o’r hudolus a’r cyffredin.

Eye in the Sky Gwe 15 — Iau 21 Gorffennaf DG/2016/102mun/15. Cyf: Gavin Hood. Gyda: Helen Mirren, Alan Rickman, Barkhad Abdi, Aaron Paul, Jeremy Northam.

Mewn tref sianti yn Kenya, mae’r grŵp terfysgol al-Shabaab yn trefnu cyfarfod ac mae lluoedd milwrol Kenya, gyda chymorth dronau milwrol yr Unol Daleithiau a’r Deyrnas Gyfunol, yn dechrau eu gwylio. Cawn olwg ar y gêm wleidyddol ehangach ac ar y tu mewn i’r ymgyrch: cyrnol llym ym myddin Prydain; peilotiaid y dronau yn Nevada; gweinidogion y peiriant gwleidyddol a’r asiantau ar lawr gwlad yn Kenya. Mae’r sgript yn ffraeth ac amserol ac mae yna gast gwych hefyd (gan gynnwys perfformiad olaf Alan Rickman). Mae’r ffilm yn gip pryfoclyd ar un o weithgareddau mwyaf dadleuol y cyfnod modern. Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael — gweler y calendr am fanylion.

Mae grŵp o bobl ifainc mewn band pync tanddaearol yn derbyn gig mewn bar neo-Natsïaidd, er gwaethaf eu amheuon. Ar ôl perfformiad llawn tensiwn, maent yn paratoi i adael ond yn dod ar draws corff marw ac yn cael eu gorfodi wedi hynny i ffoi rhag gang gwyllt trwy gloi eu hunain yn yr ystafell werdd. Fersiwn newydd pync o sinema ‘grindhouse exploitation’ y 70au.

“ Mae’r ffilm bwriadol annymunol hon yn brawf pellach o alluoedd a chrefft ei gwneuthurwyr” Guy Lodge, Variety

Hail, Caesar! Gwe 15 — Iau 21 Gorffennaf UDA/2016/106mun/12A. Cyf: Ethan Coen, Joel Coen. Gyda: George Clooney, Josh Brolin, Channing Tatum, Scarlett Johansson.

Mae Eddie Mannix yn ‘fixer’ yn Hollywood ac yn cynorthwyo cynhyrchwyr y ffilm ‘Hail Caesar’. Y seren byd-enwog, Baird Whitlock, sy’n chwarae’r brif ran. Ar ôl i Whitlock fod allan yn yfed, caiff ei herwgipio gan grŵp o’r enw The Future a chyfrifoldeb Mannix yw hi wedi hynny i gasglu’r $100,000 sydd eu hangen i achub y seren.


24

Ffilm

029 2030 4400

Cinephonic is our regular selection of music films. This eclectic mix includes films that are either Sineffonig ywmusic ein detholiad rheolaidd o ffilmiauby ama gerddoriaeth. Mae’r cymysgedd eclectig yn directly about and musicians or bolstered wonderful score. cynnwys ffilmiau sydd naill ai’n trin a thrafod cerddoriaeth a cherddorion yn uniongyrchol neu See more at: www.chapter.org/season/cinephonic sydd yn cynnwys sgôr sain ardderchog. Mae mwy o fanylion i’w cael ar: www.chapter.org/cy/season/cine-phonic

Sing Street

OPERA CENEDLAETHOL CYMRU

DG/2016/106mun/12A. Cyf: John Carney. Gyda: Lucy Boynton, Maria Doyle Kennedy, Jack Reynor.

Mer 6 Gorffennaf

Gwe 1 — Iau 7 Gorffennaf Mae Conor yn blentyn newydd mewn ysgol ddinesig sydd, o dipyn i beth, yn magu digon o hyder i siarad â’r Raphina hardd, model sy’n paratoi i symud i Lundain. Mae e’n gofyn iddi gymryd rhan yn ei fideo cerddorol ac mae hi’n cytuno. Yr unig broblem yw nad oes ganddo fand. Gyda’i frawd hŷn, Brendan, a chriw hyfryd o ffrindiau, mae Conor yn blodeuo ac mae’r bachgen swil yn troi’n arddegwr cŵl, a’r gerddoriaeth yn cynnig dihangfa iddo o’i fywyd cythryblus adre’.

Florence Foster Jenkins Gwe 8 — Iau 14 Gorffennaf

DG/2016/110mun/PG. Cyf: Stephen Frears. Gyda: Meryl Streep, Hugh Grant, Simon Helberg.

Golwg ysgafn ar stori wir ‘socialite’ o Efrog Newydd a aeth ati’n obsesiynol i geisio gwireddu ei breuddwyd o fod yn gantores opera. Roedd y llais a glywai Florence yn ei phen yn fendigedig ond, i bawb arall, roedd yn amhersain ofnadwy. Roedd ei phartner, yr actor aristocrataidd o Loegr, St. Clair Bayfield, yn benderfynol o amddiffyn ei anwylwyd rhag y gwir. Ond pan â Florence ati i drefnu cyngerdd gyhoeddus yn Neuadd Carnegie, mae St. Clair yn wynebu ei her fwyaf un.

In Parenthesis Cymru/2016/185mun/TiCh. Cerddoriaeth: Iain Bell. Libreto: David Antrobus ac Emma Jenkins.

Mae’r Preifat John Ball a’i gyd-filwyr yn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn cael eu danfon i’r Somme. Yng Nghoedwig Mametz maent yn cyrraedd byd rhyfedd — man sydd fel petai y tu hwnt i amser ac sydd yn freuddwydiol ei naws ond hefyd yn farwol. Ond hyd yn oed yn y fan hon, â dinistr o’u cwmpas ymhobman, mae hi’n bosib synied am adfywiad ac ailenedigaeth. Mae sgôr brydferth Bell yn cyfuno caneuon Cymreig traddodiadol ag eiliadau o arallfydedd, arswyd, hiwmor a’r trosgynnol mewn gwaith newydd pwysig gan Opera Cenedlaethol Cymru, a recordiwyd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Ymunwch â ni am drafodaeth ar ôl y dangosiad. £15/£12/£10 Comisiynwyd gan Ymddiriedolaeth John Nicholas ar y cyd â 14-18 NOW, rhaglen gelfyddydol y DG i nodi Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Cefnogir meicro-wefan a ffrwd In Parenthesis gan The Space

Opera Cenedlaethol Cymru: In Parenthesis. Llun: Bill Cooper

SINEFFONIG


Ffilm

25

Gyda’r cloc o’r chwith uchaf: Ivan’s Childhood, Andrei Rublev, Solaris

chapter.org

Cerflunio Amser: Arolwg o yrfa hynod Tarkovsky Un o’r mwyaf gwneuthurwyr ffilmiau mwyaf gwreiddiol, dylanwadol a nodedig yn holl hanes y sinema. Dim ond saith o ffilmiau nodwedd a gwblhawyd gan Andrei Tarkovsky cyn ei farwolaeth annhymig yn 54 oed. Nodweddir y rheiny gan archwiliadau metaffisegol ac ysbrydol o’r cyflwr dynol ac mae pob un o’r ffilmiau yn gampwaith artistig; gweithiau o harddwch gweledol eithriadol a chlasuron o gelfyddyd sinematig.

Ivan’s Childhood

Solaris

Rwsia/1962/93mun/is-deitlau/12A. Cyf: Andrei Tarkovsky. Gyda: Nikolay Burlyaev, Valentin Zubkov, Evgeniy Zharikov.

Rwsia/1972/166mun/is-deitlau/12A. Cyf: Andrei Tarkovsky. Gyda: Natalya Bondarchuk, Donatas Banionis, Jüri Järvet.

Sul 3 + Maw 5 Gorffennaf

Yn benderfynol o ddial ar y Natsïaid am farwolaeth ei deulu, mae’r Ivan 12 oed yn ymuno â chatrawd ‘partisan’ yn Rwsia fel sgowt. Cyn pen dim, daw yn ffigwr anhepgorol o ganlyniad i’w allu hynod i dreiddio trwy linellau’r gelyn. Ond wrth i’w gyrchoedd ddod yn fwyfwy peryglus, penderfynir ei dynnu o flaen y gad. Mae Ivan yn gwrthwynebu’r penderfyniad hwnnw ac yn perswadio ei swyddogion i ganiatáu iddo fynd ar un cyrch olaf. Enillydd Llew Aur Fenis 1962

Andrei Rublev

Sul 10 + Maw 12 Gorffennaf Rwsia/1969/174mun/is-deitlau/15. Cyf: Andrei Tarkovsky. Gyda: Anatoliy Solonitsyn, Ivan Lapikov, Nikolay Grinko.

Mae’r ffilm a ystyrir yn gampwaith Tarkovsky yn adrodd hanes y peintiwr eiconau mawr, Andrei Rublev, a drigai yn Rwsia’r 15fed ganrif — cyfnod cythryblus o frwydro diddiwedd rhwng Tywysogion cystadleuol ac ymosodiadau gan y Tartariaid. Ffilm ar raddfa epig nad oes arni ofn portreadu creulondeb y cyfnod — creulondeb a oedd, yn rhyfedd ddigon, yn sail i gelfyddyd dawel dangnefeddus Rublev. Mae’r darnau gosod gwych — ysbeiliad Vladimir, castio’r gloch, y seremonïau paganaidd ar Noson Sant Ioan a’r croeshoeliad Rwsiaidd — yn tours de force o gelfyddyd sinematig angerddol.

Sul 17 + Maw 19 Gorffennaf

Ar orsaf ofod sy’n cylchdroi Solaris, planed wedi’i gorchuddio gan gefnfor, mae’r gofodwr, Kris Kelvin, yn ymchwilio i gyfres o ddigwyddiadau dirgel a rhyfedd ymysg y criw. Mae Kelvin yn sylwi bod ffenomenau goruwchnaturiol yn achosi i hen atgofion gwrthodedig gymryd arnynt ffurf gorfforol, a’i ddiweddar wraig ei hun yn eu plith. Drwyddi hi, mae Kelvin yn ceisio cyfathrebu â’r grymoedd sy’n gyfrifol am y drychiolaethau hyn — grymoedd sydd fel petaent yn deillio o’r blaned ddirgel ei hun.


Ffilm

029 2030 4400

O’r chwith i’r dde: Maggie’s Plan, Embrace of the Serpent

26

Maggie’s Plan Gwe 22 — Iau 28 Gorffennaf UDA/2015/99mun/15. Cyf: Rebecca Miller. Gyda: Greta Gerwig, Ethan Hawke, Julianne Moore, Bill Hader, Maya Rudolph.

Caiff cynllun Maggie i gael babi ei wthio oddi ar y cledrau pan syrthia mewn cariad â gŵr priod, John, a hynny’n arwain at chwalu’i briodas dymhestlog yntau â Georgette. Wedi i bethau setlo eto, mae Maggie’n sylweddoli mai camgymeriad ofnadwy oedd y cyfan ac mae hi’n dyfeisio cynllun i gael y cwpwl priod yn ôl at ei gilydd. Mae’r gomedi ffraeth hon, a’i chast dawnus, yn cyfleu’n ddestlus gymhlethdodau trionglau serch.

Men and Chicken Gwe 15 — Iau 21 Gorffennaf Denmarc/2015/102mun/15/is-deitlau/15. Cyf: Anders Jensen Thomas. Gyda: David Dencik, Mads Mikkelsen, Nikolaj Lie Kaas.

Mae Gabriel ac Elias yn ddau frawd sy’n ei chael hi’n anodd cymdeithasu. Ond mae ewyllys eu tad yn datgelu taw hanner-brodyr ydynt mewn gwirionedd a’u bod nhw wedi cael eu mabwysiadu. Maent yn teithio i ynys Ddanaidd fechan Ork er mwyn dod o hyd i’w tad go iawn. Yn y fan honno, dônt ar draws tri hanner-brawd arall, bechgyn y mae ganddyn nhw’r un cyneddfau etifeddol ac sydd yn byw mewn plasty adfeiliedig wedi’i feddiannu gan anifeiliaid y sgubor. Mae’r portread teuluol rhyfedd a Kafka-aidd hwn hefyd yn llawn addfwynder a chydymdeimlad.

Chevalier Gwe 29 Gorffennaf — Iau 4 Awst Gwlad Groeg/2016/105mun/is-deitlau/18. Cyf: Athina Rachel Tsangari. Gyda: Giannis Drakopoulos, Kostas Filippoglou, Yiorgos Kendros.

Yng nghanol y Môr Egeaidd, mae chwe dyn ar daith bysgota ar gwch hwylio moethus yn penderfynu chwarae gêm. Comedi abswrd ´ ac astudiaeth ddiddorol a chraff o’r ysbryd cystadleuol, lle caiff cyfeillgarwch – a diffygion – y cymeriadau eu gosod dan y chwyddwydr.

Embrace of the Serpent Gwe 22 — Iau 28 Gorffennaf Colombia/2015/122mun/is-deitlau/12A. Cyf: Ciro Guerra. Gyda: Nilbio Torres, Jan Bijvoet, Antonio Bolivar.

Mae Karamakate, siaman o’r Amazon a chynrychiolydd olaf ei lwyth, yn arwain dau wyddonydd ar daith drwy’r fforest law i chwilio am blanhigyn iachusol sanctaidd. Mewn dau gyfnod gwahanol, mae ymgyrchoedd cyfochrog yn amlygu effeithiau andwyol imperialaeth yn y ffilm antur hanesyddol gyfareddol a seicedelig hon am wladychiad yr Amazon.

The Commune Gwe 29 Gorffennaf — Iau 4 Awst Denmarc/2015/112mun/15/is-deitlau/15. Cyf: Thomas Vinterberg. Gyda: Ulrich Thomsen, Trine Dyrholm, Fares Fares.

Yn Copenhagen yn y 1970au, mae cwpwl dosbarth canol a chanol oed o’r enw Anna ac Erik yn etifeddu tŷ mawr ac yn penderfynu symud yno gyda’u merch, Freja, sydd yn ei harddegau, a’i droi yn gomiwn i’w cydnabod a’u ffrindiau. Ond ar ôl cychwyn ar hyd y llwybr beiddgar hwn, mae eu bywydau personol yn cyrraedd pwynt argyfyngus. Drama gyfoethog sy’n cynnwys perfformiadau canolog anhygoel.


chapter.org

Ffilm

27

“ Mae pethau rhyfeddol yn mynd i ddigwydd; pethau na ddychmygaist ti mohonynt erioed” — James a’r Eirinen Wlanog Enfawr

The BFG

Roald Dahl ar Ffilm Mae Chapter a Chanolfan Ffilm Cymru wedi rhoi rhaglen Brydeinig at ei gilydd i ddathlu bywyd a gwaith prif storïwr Cymru, Roald Dahl. Dros y tri mis nesaf, byddwn yn cyflwyno amrywiaeth ardderchog o ffilmiau a gweithgareddau hwyliog a’r cyfan yn dod i uchafbwynt â dathliadau pen-blwydd Roald Dahl ar 13 Medi. www.filmhubwales.org/roalddahlonfilm

The BFG

Gwe 22 Gorffennaf — Iau 4 Awst Dangosiad Addas i Bobl â Dementia: Maw 26 Gorffennaf, 2pm UDA/2016/117mun/PG. Cyf: Steven Spielberg Gyda: Rebecca Hall, Bill Hader, Mark Rylance

Mae merch o’r enw Sophie yn cwrdd â chawr sy’n casglu breuddwydion. Er bod y cawr hwnnw’n edrych yn frawychus, mae ganddo galon fawr ac mae e’n gwrthod bwyta plant — yn wahanol i nifer o’i gydgewri. Caiff Sophie ei chludo i dir y BFG lle mae hi’n ei helpu e i herio’r cawr creulon, y Fleshlumpeater, ac i sicrhau heddwch rhwng y ddwy diriogaeth. + Ymunwch â ni i ddathlu rhyddhau’r addasiad ffilm newydd o The BFG gyda danteithion a gweithgareddau yng nghyntedd y Sinema yn ystod y penwythnos agoriadol, Gwe 22 — Sul 24 Gorffennaf.

Dangosiadau i bobl â dementia

Mae ein dangosiadau newydd sy’n addas i bobl â dementia yn gyfle gwych i fwynhau ffilm mewn awyrgylch cyfeillgar a hamddenol. Cyflwynir y dangosiadau eu hunain heb hysbysebion neu ragolygon o ffilmiau newydd ac fe fydd yr awditoriwm ychydig yn llai tywyll nag arfer. Pan fydd yn bosib, byddwn yn dangos ffilmiau gydag is-deitlau meddal a disgrifiadau sain. Ar ôl y dangosiadau, bydd yna gyfle i gymdeithasu dros baned o de neu goffi. Mae’r dangosiadau hyn ar agor i bobl sy’n byw gyda dementia h.y. y rheiny sydd wedi cael diagnosis o dementia ynghyd ag aelodau o’u teuluoedd, ffrindiau, cymdogion neu ofalwyr. Bydd yna groeso cynnes hefyd i weithwyr elusennol, gweithwyr meddygol proffesiynol, staff cartrefi gofal, gweithwyr cymdeithasol a staff cymorth. £4.50 yn cynnwys paned o de neu goffi


Ffilm

029 2030 4400

Stiwdio Ghibli Y mis hwn, byddwn yn cydnabod cyfraniad arloeswyr chwedlonol ac animeiddwyr y mae eu henw yn gyfystyr ag onestrwydd artistig a chwilfrydedd parhaus.

Howl’s Moving Castle

Ponyo

Japan/2004/119mun/U. Cyf: Hayao Miyazaki. Gyda: Emily Mortimer, Jean Simmons, Christian Bale.

Japan/2008/101mun/U. Cyf: Hayao Miyazaki. Gyda: Noah Cyrus, Cate Blanchett, Matt Damon, Liam Neeson.

Mae Sophie yn gweithio mewn siop hetiau ac yn credu ei bod yn ferch ddigon plaen, tan i’w byd gael ei drawsnewid. Caiff ei hachub o ddwylo dau labwst o filwr gan Howl, dewin enwog y mae si ar led ei fod yn bwyta calonnau morwynion ifainc. Mae’r ‘Witch of the Waste’ genfigennus yn swyno Sophie ac yn ei throi yn hen wreigan fusgrell. A hithau’n benderfynol o wrthdroi effeithiau’r swyn, mae Sophie’n ymuno â chastell symudol Howl yng nghwmni bwgan brain.

Mae’r Sosuke hawddgar yn dod o hyd i bysgodyn aur o’r enw Ponyo yn sownd mewn jar ger y traeth. Ar ôl torri’i law ar y gwydr, mae’r pysgodyn yn llyfu’r clwyf i’w wella ac yn datgelu mai merch brenin y môr yw hi mewn gwirionedd. Caiff Sosuke ei gwahodd i fyd tanddwr o neon lliwgar. Ond caiff cyfeillgarwch y ddau ei fygwth gan drychineb ecolegol ar y gorwel – mae taith Ponyo rhwng y môr a’r tir wedi effeithio ar gydbwysedd byd natur. Un o ffilmiau mwyaf gloyw Ghibli a gwir folawd i rôl mam.

Sad 2 + Sul 3 Gorffennaf

Sad 9 + Sul 10 Gorffennaf

O’r brig: The Wind Rises, Ponyo

28


chapter.org

Ffilm

29

FFILMIAU I’R TEULU CYFAN

O’r brig: Howl’s Moving Castle, The Tale of Princess Kaguya

Noddir gan Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk 02920 666688

Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn.

The Wind Rises

Long Way North

Japan/2013/127mun/PG. Cyf: Hayao Miyazaki. Gyda: Joseph Gordon-Levitt, John Krasinski, Emily Blunt.

Ffrainc/2015/81mun/PG. Cyf: Rémi Chayé. Gyda: Christa Théret, Féodor Atkine.

Mae Jiro’n breuddwydio am hedfan awyrennau ond, yn fyr-ddall ac yn methu pasio’r profion i fod yn beilot, mae’n ymuno yn lle hynny ag is-adran awyrennau cwmni peirianneg mawr yn Japan. Yn y fan honno, mae e’n cwrdd â’r Nahoko hardd. Wedi’i hysbrydoli gan fywyd dylunydd Mitsubishi, Jiro Horikoshi, mae ffilm olaf Miyazaki yn bortread o freuddwydiwr sy’n ceisio troi ei weledigaethau yn wrthrychau o gig a gwaed — proses sy’n adlais o yrfa Miyazaki ei hun.

Ar ôl i dad-cu Rwsiaidd ac aristocrataidd Sasha fethu â dychwelyd o’i daith ddiweddaraf i Begwn y Gogledd, mae hi’n sylweddoli â braw bod enw da y fforiwr yn cael ei niweidio. Yn benderfynol o adfer anrhydedd ei theulu, aiff Sasha ati i ddod o hyd i’r llong enwog – ac i achub ei thad-cu a’i harwr.

Sad 16 + Sul 17 Gorffennaf

The Tale of Princess Kaguya Sad 23 + Sul 24 Gorffennaf

Japan/2013/137mun/PG. Cyf: Isao Takahata. Gyda: Chloe Grace Moretz, James Caan, Mary Steenburgen.

Mae hen dorrwr bambŵ a’i wraig yn dod o hyd i ferch fach y tu mewn i goesyn bambŵ – a’r ferch fach honno’n tyfu i fod yn fenyw ifanc hyfryd. Mae’r dywysoges ddirgel yn swyno pawb ond, yn y pen draw, rhaid iddi wynebu ei thynged ei hun. Fersiwn Stiwdio Ghibli o un o hanesion gwerin enwocaf Japan a ffilm syfrdanol o brydferth. Enwebiad am Oscar y Ffilm Orau wedi’i Hanimeiddio

Sad 16 + Sul 17 Gorffennaf

Carry on Screaming Bob dydd Gwener am 11am, mae Carry On Screaming yn gyfle i rieni neu ofalwyr weld ffilm heb orfod poeni y bydd eu babi’n creu stŵr. Gweler y calendr am fanylion y dangosiadau arbennig hyn i bobl â babanod dan flwydd oed. Byddwn hefyd yn dangos ffilmiau o’n harolwg o waith Stiwdio Ghibli.


30

Addysg

029 2030 4400

ADDYSG Roald Dahl ar Ffilm ‘Sewcial’ Haf Chapter 27 Gorffennaf 1–5pm Diwrnod Gweithgareddau Ffilm: Mer Dewch i greu motiff arbennig ac unigryw yn seiliedig Y BFG ar un o gymeriadau Roald Dahl. Maw 26 Gorffennaf 10am–3.30pm

Ymunwch â ni am ddiwrnod o weithgareddau hwyliog a gêmau creadigol yn gysylltiedig â’r BFG. Bydd cyfle i wneud ffrindiau newydd ac i archwilio’r ffilm trwy gyfrwng darlunio, animeiddio, posau, drama a chelfyddyd. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Dewch â phecyn bwyd gyda chi, os gwelwch yn dda. £22.50 (yn cynnwys tocyn i’r ffilm) Oed 7 — 11

Gweithdai wedi’u hysbrydoli gan Roald Dahl Sad 23 — Llun 25 Gorffennaf 1.30pm–3.30pm

Tri gweithdy galw-heibio arbennig: pecynnau gweithgareddau i fynd adre’ gyda chi, gweithdai strwythuredig a gweithgareddau hwyliog i’r teulu cyfan — a’r cyfan yn ddathliad o waith Roald Dahl. Dewch i ddylunio a chreu eich teclyn dal breuddwydion eich hun, i greu geiriau newydd i ychwanegu at ein wal eiriau, i animeiddio ac i wneud llwyth o bethau diddorol eraill! Oed 7+

Chapter_looper

Maw 26 Gorffennaf 10am–1pm Ewch am dro o gwmpas ein harddangosfa gyfredol yn yr Oriel a chasglwch seiniau er mwyn creu eich trac sain eich hun. Gyda chymorth aelodau o dîm arloesol pyka, bydd cyfranogwyr yn ymateb yn greadigol i’r arddangosfa ac yn cael ymgolli yn eu trac sain personol eu hunain. I gael mwy o wybodaeth am pyka a’r ap ailgymysgu, pyka_loop, ewch i www.wearepyka.com Uchafswm o 15 o leoedd a fydd ar gael. £12.50 Oed 10 — 14

Nifer cyfyngedig o leoedd a fydd ar gael. Darperir lluniaeth ysgafn. £22.50 Oed 9 -13

Digwyddiad Arbennig i Raglenwyr Ifainc

Sad 16 Gorffennaf 10.30am–2.30pm Yn ddiweddar, treuliodd grŵp o fyfyrwyr o Ysgol Uwchradd Willows a Choleg Cymunedol Llanfihangel gyfnod o ddeg wythnos yn Chapter yn dysgu am ein hadeilad ac yn cymryd rhan mewn gweithdai gyda’r nod o ddysgu am y sgiliau y mae eu hangen i raglennu a rheoli digwyddiad byw. Bydd y digwyddiad rhyngweithiol unigryw hwn, wedi’i raglennu a’i reoli gan bobl ifainc ar gyfer pobl ifainc, yn ddathliad o egni hafaidd ieuenctid. Rhad ac am ddim ond bydd angen tocyn — ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadw lle. Oed 14 — 18

I DDOD YN FUAN!

Cwrs Ffilm Pobl Ifainc Stinky Flicks

Maw 2 — Sad 6 Awst 10.30–2.30pm Cwrs pedwar diwrnod a fydd yn annog pobl ifainc i ymchwilio i hanes y ‘gimic’ yn y traddodiad sinematig ac i weithio ar y cyd i ddylunio a chyflwyno ddigwyddiad unigryw yn seiliedig ar ffilm Tim Burton, Charlie and the Chocolate Factory. Bydd y cwrs strwythuredig hwn yn berffaith ar gyfer perfformwyr, dylunwyr a meddyliau creadigol ifainc. Bydd yn gyfle iddynt greu digwyddiad ffilm a fydd yn arwain y gynulleidfa ar daith drwy’r synhwyrau — arogleuon, perfformiadau, synau a gimics. Oed 9–13 £40 (Dewch â phecyn bwyd gyda chi, os gwelwch yn dda)


chapter.org

Cefnogwch Ni

31

CEFNOGWCH NI Chapter is a registered charity and we rely on support from individuals and businesses to deliver our varied artistic programme and important education work. We are grateful for every penny we receive and are able to offer some fantastic benefits in return. To donate quickly and simply please text ‘Chap16’ plus the amount you wish to give to 70070. For other ways to get involved…

Unigolion

Busnesau

Ffrindiau

Clwb

Ymunwch â chynllun Ffrindiau Chapter ac fe allwch chi fwynhau buddion sy’n amrywio o ostyngiadau ar docynnau ac ar fwyd a diod yn ein Caffi Bar i wahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig, fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn Ffrindiau hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C.

Cynllun aelodaeth Chapter i fusnesau. Am ffi flynyddol fechan, gall eich busnes chi fwynhau manteision sylweddol yn Chapter, gan gynnwys cyfleoedd i rwydweithio, defnydd o’n mannau llogi hyblyg a gostyngiadau i chi ac i’ch staff ar docynnau sinema a theatr – ynghyd â gostyngiadau ar fwyd a diod yn ein Caffi Bar. Drwy gydol mis Gorffennaf ac Awst, rydym yn falch iawn o allu cynnig ambell ddêl ardderchog hefyd: I aelodau presennol… Rydym yn cynnig disgownt anhygoel o 50% pan fyddwch yn archebu un o’n mannau ar log. Bydd hynny, gobeithio, ar y cyd â’r cyflenwad o de a choffi sydd yn rhad ac am ddim i aelodau, yn golygu taw Chapter yw’r lle perffaith i gynnal cyfarfodydd dros yr haf. I fanteisio ar y cynnig hwn, cysylltwch â Nicky Keeping — gallwch e-bostio nicky.keeping@chapter.org neu ffonio 029 2031 1058. Cofiwch ddweud ‘Clwb yr Haf’ pan fyddwch yn archebu! Byddwn yn falch iawn hefyd o ddangos y mannau sydd ar gael gennym i’w llogi. Cysylltwch â Nicky os hoffech chi gael golwg arnynt. I’r rheiny ohonoch sydd yn dal heb benderfynu â yw Clwb Chapter yn addas i’ch busnes chi, dyma hwb bach ychwanegol… drwy gydol misoedd Gorffennaf ac Awst bydd unrhyw un sy’n ymuno â’r Clwb am y tro cyntaf yn derbyn disgownt anhygoel o 60% ar gost aelodaeth yn y flwyddyn gyntaf. Yn hytrach na’r pris arferol o £250, bydd aelodaeth yn costio £150* yn unig. I fanteisio ar y cynnig hwn, neu i gael mwy o wybodaeth, cysylltwch ag Elaina — elaina.johnson@chapter.org neu 029 2035 5662

Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40

Rhoddion Cofrestrwch i wneud cyfraniadau unigol neu roddion reolaidd i Chapter, er mwyn chwarae rhan lawn yn ein gwaith elusennol. Gallwch wneud cyfraniadau ar-lein ar www.chapter.org/cy/cefnogwch-ni neu drwy ymweld â’n Swyddfa Docynnau. Gallwch wneud cyfraniadau drwy neges destun erbyn hyn hefyd — tecstiwch ‘Chap16’ ynghyd â’r swm yr hoffech ei roi i 70070. Fydd hi ddim yn costio ceiniog i chi anfon y neges ac fe fyddwn ni’n derbyn 100% o’ch cyfraniad. Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi codi swm syfrdanol, £1,378, o ganlyniad i roddion unigol yn ystod ymgyrch yr Art Car Bootique – ac roedd pob punt yn help i ariannu un o ddigwyddiadau gorau Chapter eleni. Ar y cyd â chyfraniadau gan Gronfa Fawr y Loteri a Lloyds, cododd yr ymgyrch bron i £7,000 at ei gilydd. DIOLCH O GALON i bob un a gyfrannodd yn ogystal ag i’r rheiny a roddodd gynnig ar y tombola ar y diwrnod – gobeithio y gwnewch chi fwynhau eich gwobrau!

*Gweithredir aelodaeth ar sail cytundeb tair blynedd — £150 yn y flwyddyn gyntaf a’r swm hwnnw’n codi i £250 ym mlynyddoedd dau a thri.

Nawdd Yn 2014, dyfarnodd Celfyddydau & Busnes Cymru Wobr Gyffredinol Categori’r Celfyddydau i Chapter am ein perthynas waith ragorol â busnesau. Mae yna nifer o gyfleoedd i’n noddi ac mae’r rheiny’n cynnig buddion gwych, gan gynnwys cyfranogiad staff, lletygarwch corfforaethol a chyfleoedd i hyrwyddo eich brand. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.chapter.org/cy/nawdd I gael mwy o wybodaeth am unrhyw un o’r materion uchod, cysylltwch ag Elaina Johnson os gwelwch yn dda — ffoniwch 02920 355662 neu e-bostiwch elaina.johnson@chapter.org.


32

Gwybodaeth / Archebu

029 2030 4400

GWYBODAETH Sut i Archebu Tocynnau

Gwybodaeth

Dros y ffôn — ffoniwch ni ar 029 2030 4400. Rydym yn derbyn pob un o’r prif gardiau credyd. Galwch heibio — mae ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 11am–8.30pm, ac ar y Sul o 3pm–8.30pm. Ar–lein: Gallwch archebu ar www.chapter.org bob awr o’r dydd a’r nos Consesiynau: Mae cyfraddau disgownt ar gael i fyfyrwyr, pobl dros 60 oed, plant, y di–waith, pobl anabl, deiliaid cerdyn MAX ac i Ffrindiau Chapter a deiliaid Cerdyn Chapter. Bydd angen i chi gyflwyno prawf o’ch cymhwyster i dderbyn cyfradd ostyngol. Archebion grŵp: Prynwch 8 tocyn ac fe gewch chi’r 9fed yn RHAD AC AM DDIM. Noder os gwelwch yn dda • dim ond un disgownt y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw un adeg • rydym yn hapus i dderbyn archebion ymlaen llaw ond ni allwn gadw tocynnau i’r naill ochr • os cyrhaeddwch chi’n hwyr mae hi’n bosib y cewch chi’ch atal rhag mynychu eich digwyddiad. Cyflwynir rhai o’n ffilmiau â Disgrifiadau Sain ac Is–deitlau Meddal ond nid yw’r wybodaeth hon bob amser ar gael ar adeg argraffu’r cylchgrawn. Gweler ein gwe–fan am fanylion neu piciwch draw i’r Swyddfa Docynnau yn ystod yr wythnos y mae’r ffilm yn cael ei rhyddhau.

Cwmnïau ac Artistiaid Cysylltiedig Mae Chapter yn gartref i gwmnïau theatr, cwmnïau dawns, stiwdios animeiddio, gwneuthurwyr printiau, crochenwyr, dylunwyr graffeg, dylunwyr deunydd symudol, cyfansoddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, cyhoeddwyr cylchgronau, artistiaid annibynnol a llawer iawn mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Sinema Cyn 5pm O 5pm ymlaen Llawn £4.50 (£4.00) £7.90 (£7.20) Disg £3.50 (£3.00) £5.80 (£5.10) Cerdyn + Disg £3.00 (£2.50) £5.00 (£4.50) DISGOWNT DYDD MAWRTH Tocynnau’r holl brif ddangsiadau — £4.40

Gweithdai a Dosbarthiadau Rydym yn cynnal amrywiaeth eang o weithdai dyddiol a dosbarthiadau gydag ymarferwyr annibynnol, gan gynnwys ballet, zumba, ioga, crefft ymladd, massage i fabanod, cerddoriaeth i blant, pilates, tango, fflamenco, ysgrifennu creadigol, gwersi cerddoriaeth a mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Sut i gyrraedd Chapter Fe ddewch chi o hyd i ni yn Nhreganna, i’r gorllewin o ganol y ddinas. Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE Ar Droed Mae hi’n daith gerdded hamddenol o ryw 20 munud o ganol y ddinas. Ar Fws Mae bysus rhif 17, 18 a 33 yn aros gerllaw ac yn gadael bob pum munud o ganol y ddinas. Ar Feic Mae digon o raciau beic ar flaen yr adeilad. Parcio Mae gennym faes parcio yng nghefn yr adeilad ac mae meysydd parcio lleol eraill wedi eu nodi ar y map. Gofynnwn i chi barchu ein cymdogion os gwelwch yn dda drwy osgoi parcio mewn strydoedd cyfagos.

Prisiau ymlaen llaw/ar–lein mewn cromfachau. Mae “Ymlaen llaw” yn golygu unrhyw bryd cyn diwrnod y dangosiad.

aff nd Lla

d Roa

e St. Glynn

arc

lyF

Heo

o 6pm

cen res

Ha m i l t o n

St

t

Gr

ad

mC ha

Road

St. ay

Treganna

Le c h kwit

Church Rd.

Heol Ddwy rein i o l y B o n t F a en Penllyn Rd.

Harve

nd Wy

rn Seve

ane

. Library St

L Gray

M a rk e t P l . treet yS

St Talbot

Orc h a r d P l.

King’s Ro

d hna

Springfield Pl.

St. Gray

rt S

t.

Road

Earle Pl.

A l be

P — meysydd parcio rhad ac am ddim — rac feics

r R—oadarhosfan bysus Majo

I Ganol Dinas Caerdydd to n ling Wel

et Stre

Mynediad i bawb Mae Chapter yn croesawu ymwelwyr anabl. Os oes gennych anghenion mynediad penodol, ffoniwch ein swyddfa docynnau ar 029 2030 4400.


chapter.org

Cymryd Rhan

33

CYMRYD RHAN Cerdyn CL1C

Cadwch mewn cysylltiad

Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawr–lwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Ymunwch â ni ar–lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

Ffrindiau Chapter Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40

eAmserlen rad ac am ddim eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E–bostiwch adam.chard@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e–bost.

Cynllun Myfyrwyr Chapter Ydych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth am ddim a manteisio ar gynigion arbennig nodedig, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Jennifer — jennifer.kirkham@chapter.org www.chapter.org/cy/myfyrwyr

Rydym yn falch o fod yn rhan o Hynt. www.hynt.cymru Hoffai Chapter gydnabod cefnogaeth hael y sefydliadau a’r grwpiau canlynol:

Noddir Theatrau Chapter gan rodd David Seligman er cof am Philippa Seligman Sefydliad Esmée Fairbairn Cronfa Gymunedol Tirlenwi Rhaglen Ddiwylliant yr UE Sefydliad Garfield Weston Sefydliad Foyle Gwobr Biffa Cronfa Loteri Fawr Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston Grŵp Admiral Cyf Sefydliad Moondance ar gyfer y Celfyddydau a Chwaraeon Sefydliad Elusennol Trusthouse Plant mewn Angen y BBC Waitrose Sefydliad Waterloo Sefydliad Henry Moore Ymddiriedolaeth Ynni Gwyrdd ScottishPower SEWTA Sefydliad y Brethynwyr

WRAP Google Sefydliad Jane Hodge Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson Ymddiriedolaeth People’s Postcode Ymddiriedolaeth Feddygol Dunhill Legal & General Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm Ymddiriedolaeth Ernest Cook Sefydliad Boshier–Hinton Lloyds TSB Barclays Celfyddydau & Busnes Cymru Ymddiriedolaeth Austin & Hope Pilkington Gwestai Puma: Gwesty’r Angel Caerdydd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

Ymddiriedolaeth Elusennol Gibbs Ymddiriedolaeth Elusennol Steel Ymddiriedolaeth Oakdale Cwmni Plastig Dipec Nelmes Design Ymddiriedolaeth Elusennol Coutts Elusen Wake Bruce Funky Monkey Feet Sefydliad Finnis Scott Cote Brasserie Banc Unity Trust RWE Tidal Lagoon Power Hugh James Cymdeithas Celfyddydau Cyfoes Cymru Western Power Distribution

Aelodau Clwb Chapter: Prifysgol Fetropolitan Caerdydd Clearstream Technology Broomfield & Alexander Urban Solar Patronbase Golley Slater Effective HRM BPU Accounting Cyfrifwyr BPU MLM Cartwright Rheolwyr Cyfoeth SLD Capital Law Modern Television Arup Cyfrifwyr EST Tradebox Media Kristen Osmundsen


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.