Chwiw1

Page 1

Dwy Afon Di-fai fu Menai i mi Cyn heno – cyn i eni Un fflam roi nam ar fy nwyd, A rheibio blas yr abwyd Ddaliai i‟m cael i‟w ddilyn Bob tro, tan heno, at hyn. Heno, mor annigonol Yw‟r afon hon, fu o‟m hôl Wrth fy ngwaith, ac wrth deithio Heibio‟i rhew, ymhell o‟m bro. Dychwelyd i‟w chywely Un nos haf a wnes yn hy, Ildio i‟w hen afaeldon A boddi‟n hud baddon hon, A Menai eto‟n mynnu Hawlio‟m mêr i‟w dyfnder du. Ond merddwr, corddwr, nid cerdd I‟w hyngan yn llawn angerdd Bellach a gaf o byllau Y dŵr lle nad ŷm ni‟n dau, Rhyw hen fregliach bach, lle bu Llifeiriant yn llefaru. Ti fu‟n cronni fy llifo – Bûm gaeth i ti‟r traeth ers tro; Pan doddodd gwae dy aeaf Di, roedd fy nghalon yn Daf.

Afon Taf piau‟n hafau: Hi a‟i dŵr a ddaeth â dau A‟u llif ynghyd i brifio‟n Orlif hud drwy‟r stryd dros dro. Nid Menai, ac nid mynydd A lliw oer, coll erwau cudd Sydd heno‟n suddo ynof – Llwyd yw, cell, yn llidio cof. Dinas, a‟th wên di, annwyl, Ganant im nawr, gwynt mewn hwyl. *** Ond, distaw‟th ffair, a ngeiriau – Tiwn o bell i ti‟n y bae: Lle gwag, rhy bell, ac er bo Hyll Fenai‟n llifo yno‟n Y pen draw, ni ddwg awel Ei môr yma heno i ‟mhel. Er mai‟r un sêr, ‟run fferi Ddaw, mewn sbel, at d‟orwel di, Un lloer, yr un gwyll arian Ar don môr, a‟i hud, ‟n y man, Er gwybod hyn, rwy‟n unig – Llanw a thrai, lle ni thrig, A pheidiodd ei chorff hudol. Mynnaf fod ger Menai‟n f‟ôl.

Cerdd: Llyr Gwyn Lewis Llun: Mabon Llyr

Bob Roberts Tai’r Felin: Wrth i fwy o fandiau ailddarganfod ein caneuon gwerin cynhenid, tybed faint ohonom sy’n gwybod hanes y gwr arbennig hwn?

Roberts! Dwy gân a boblogeiddiwyd ganddo ar Y Noson Lawen oedd Moliannwn a Mari Fach fy Nghariad, ac fe brofodd y radio yn gyfrwng newydd i ledaenu caneuon gwerin. Teithiau Parti Tai‟r Felin yn ystod un  Ganed Bob Roberts yn Nhai‟r Felin, wythnos brysur: Nos Lun; Dolgellau, ger Frongoch, Y Bala ym 1870. Yn Mawrth; Aberystwyth, Mercher; bymtheg oed enillodd yr unawd soprano Caerfyrddin, Iau; Morgannwg, Gwener; yn eisteddfod y Bala ac awgrymodd y Ystalyfera, Sadwrn; Caerdydd. beirniad y dylai‟r ardal ystyried agor  Yn aml, byddai Bob yn dysgu caneuon cronfa iddo i‟w anfon i goleg canu. Ond gwerin o‟r ardal ble byddai‟n perfformio. aros yn yr ardal fu ei hanes, a magu Wrth wneud hyn, mae‟n debyg fod Bob, teulu yn Nhai‟r Felin. yn ddiarwybod iddo, wedi perfformio Y bennod bwysig nesaf yn hanes y caneuon gwerin o wahanol ardaloedd i gân ym mywyd Bob oedd ennill ar yr gynulleidfaoedd nad oedd erioed wedi‟u alaw werin yn Eisteddfod Bangor ym clywed o‟r blaen. 1931, yn un a thrigain oed. A dyma Er mor siriol a sionc oedd Bob, ac ddechrau Parti Tai‟r Felin: Bob a John yntau‟n ei bedwar ugeiniau, bu farw ym Roberts , Harriet a Lizzie (merched Bob a 1956. Efallai na wêl ein cenedl fyth John), a Bob Lloyd Teithiai‟r parti o ganwr gwerin arall mor „organig‟ a gwmpas eu bro i ddechrau, ond g„werinaidd‟ a Bob. Mewn oes a oedd yn oherwydd eu poblogrwydd, teithient prysur newid, profodd Bob Roberts Tai‟r Gymru gyfan ac ardaloedd o Loegr yn Felin fod rhai pethau‟n fythol cadw nosweithiau llawen, nes eu bod yn oesol. Branwen Williams enwau cenedlaethol. Yn yr un cyfnod daeth datblygiadau technolegol chwyldroadol yr ugeinfed ganrif i newid y byd adloniant am byth. Ganwyd y setiau radio, a maes o law, y teledu. Gŵr pwysig yn hanes darlledu adloniant Cymraeg ar y radio oedd Dr Sam Jones, Cynrychiolydd Gogledd Cymru gyda‟r BBC. Ei weledigaeth ef oedd creu rhaglen debyg i‟r hyn a gaed ar lwyfannau neuaddau pentref, a‟i darlledu i bob cartref yng Nghymru. Trwy gyfrwng Y Noson Lawen, cyflwynwyd partïon ac unigolion i‟r genedl a daethant yn „arwyr‟ cenedlaethol. Mae‟n debyg fod 66% o boblogaeth siaradwyr Cymraeg yn gwrando ar y raglen hon. Yn ystod un recordiad, cyhoeddwyd fod „talent newydd‟ am ganu a syfrdanwyd yr ifainc yn y gynulleidfa wrth weld hen ŵr dros ei bymtheg a thrigain oed yn camu i‟r llwyfan - Bob

Chwedl Jean Pierre

“Gall ddal adar bach y maes drwy eu twyllo i nythu ar ei frigau o freichiau drwy actio coeden mewn cae. Gal ddwyn llythyrau hen fenywod drwy sefyll yn stond mewn siwmper goch ar gorneli strydoedd a‟i geg ar agor...”

ei benodiad yn yr ysgol, ac yntau wedi hen syrffedu ar ei gyflog pitw; llithrodd yn llechwraidd at ddrws swyddfa‟r Prifathro a gorwedd ar y llawr tu allan ar ffurf pydew dudew dwfn. Yn anffodus i‟r Prifathro druan, ni welodd y pydew mewn da bryd, a disgynnodd yn bendramwnwgl i‟w grombil, a ni welwyd lliw ei din na thro ei fwstash fyth eto. “Ha ha ha” chwarddodd Jean Pierre, gan godi o‟i ffurf pydewaidd o‟r llawr, a mynd i eistedd yng nghadair gynnes y prifathro. Am weddill ei oes, hyd nes iddo ymddeol yn ddyn cyfoethog yn 65, hawliai Jean Pierre gyflog y prifathro, a‟i gyflog ei hun fel athro drama. Roedd yn actor mor naturiol fel y gallai ymddangos fel dau berson cwbl wahanol- a hynny ar yr un pryd. Mor ysblennydd ydoedd ei berfformiad, nes na sylwodd yr un enaid byw ar ddiflaniad y gwir brifathro, dim hyd yn oed ei wraig. Epilog Nis gwyddys a yw‟r stori hon yn berffaith wir. Nid yw‟r ysgol a enwir yn y stori i‟w darganfod mewn unrhyw gofnodion hanesyddol hyd yma. Yn ôl dadansoddiad un hanesydd, fe ddyfeisiwyd y stori fel propaganda gwrth-Ffrengig gan hen ŵr chwerw a gafodd wenwyn bwyd ar ôl bwyta darn o Camambert.

Jean “Sioni Winwns” Pierre oedd yr actor mwyaf ardderchog yn yr holl Fyd i gyd. Ac wedi ei benodiad yn Ysgol-Hyn-A‟r-Llall-ac-Arall, ef, yn wir, oedd yr athro Drama mwyaf ardderchog y byd i gyd yn grwn. Ar ei ddiwrnod cyntaf yn yr ysgol, llwyddodd i ddysgu dosbarth barbaraidd blwyddyn saith sut i ymddwyn yn gall. O fewn wythnos i‟w benodiad, roedd wedi ysgrifennu sioe gerdd fawreddog iddynt. Aethant yn eu blaenau i gipio‟r wobr gyntaf, gydag anrhydedd, yn Eisteddfod yr Urdd. O fewn pythefnos i‟w benodiad, roedd wedi trawsnewid Bobi “uffar o foi” Jones, rebel mwyaf anystywallt blwyddyn deg, yn un o sêr mwyaf disglair y West End (ac ennill cyfeillgarwch pennaf gweddill yr athrawon am gael gwared â‟r diawl bach o‟r ysgol). O fewn blwyddyn, roedd wedi dysgu pawb yn yr ysgol i‟w drin fel brenin, i foesymgrymu‟n wylaidd iddo ar y coridorau ac i ildio eu Rolo olaf iddo yn y ffreutur. Fel y gwelwch chi, ac fel y Leusa Fflur Llewelyn cewch dystiolaethu yn rhan olaf y stori, nid yn unig yr oedd Jean Martell yn actor ac yn athro penigamp ond roedd hefyd yn ddyn anfoesol a llygredig iawn. Blwyddyn a hanner wedi

"Sgwenna am dy blentyndod!" mynnodd y person sy'n gyfrifol am y cylchgrawn hwn. Yn anffodus, mae 'mhlentyndod i mor bell yn ôl byddai hanner y pethau dwi'n dweud ddim yn golygu un rhywbeth i unrhywun. "Sgwenna am yr SRG!" mynnodd o wedyn "...pan oeddet ti'n ifanc!". A'r gwirionedd yw, doeddwn i ddim yn gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg pan oni'n ifanc. Doni'm hyd yn oed yn deall Cymraeg. Ond fy atgof cynta' o'r byd arall 'ma oedd eistedd o flaen y teledu am hanner awr wedi wyth ar fore Sul a ddim yn deall be' oedd y geiriau oni'n gweld ar y sgrin. Geiriau dieithr. Iaith ddieithr. Syniad dieithr i chi, nawr, dyddiau 'ma bod 'na ddim byd ar y teledu adeg yna'r bore siŵr o fod. Neu fod 'na ond tair sianel ar y teledu cyn 1982. Ond dyna fel oedd hi. A dyna lle oni rhan fwyaf o'r amser - o flaen y teledu. 1980 oedd hwn. A'r rheswm dwi mor

bendant am y flwyddyn honno ydy achos dwi'n cofio pa liw llenni oedd gennyn ni yn y lolfa, a lliw y carped; y ddau yn frown, a'r bylbs yn y goleuadau yn oren am ryw reswm. Hangover interior design diwedd y 70au. A'r peth od am hwn i gyd ydy'r ffaith 'mod i'n cofio'r "fwydlen" ar y sgrin cyn i'r rhaglenni gychwyn. Eto, y llythrennau od yma; y geiriau don i ddim yn deall. Be oedden nhw? Ac yn y munudau prin yna, oni'n hooked. Hello, 'Yr Iaith Gymraeg', you look interesting, what can you offer me? Blynyddoedd wedyn nes i ddarganfod mai 'Yr Awr Fawr' oedd y rhaglen oni'n gwylio. Dwi'm yn cofio'r cyflwynwyr na'r cartwns, dim ond y sgrin. Ydy gormod o deledu yn wael i chi? Yn fy achos i, nac ydy. Teledu oedd y peth gorau ddigwyddodd i mi, am hanner awr wedi wyth, rhyw fore Sul yn 1980. Ian Cottrell

Sut ma’ mynd â telyn i Glastonbury? Nid joc efo rhyw punchline difrifol yw hynna, gyda llaw, ond cwestiwn go-iawn. Yr ateb, fel dwi di canfod dwy flwyddyn yn olynol, bellach: camperfan VW oren.Yn naturiol. Do‟n i „rioed wedi bod i Glastonbury o‟r blaen, felly odd e‟n dipyn o sioc i ddarganfod fy hun yn chware ar lwyfan BBC Introducing llynedd. Ymhlith y pethe wnaeth argraff arna‟i, dwi‟n meddwl dda‟th 5% o‟m syndod o weld gwir faint fringe Kate Moss, 5% o geisio peidio syllu ar Cerys Matthews yn chware tenis-donsil efo‟r boi o I‟m a Celebrity, a 90% o’r profiad o berfformio ei hunan. Gesi groeso hyfryd gan y gynulleidfa, ag odd e’n lyfli i allu siarad Cymraeg efo Huw Stephens a Beth Elfyn gefn llwyfan; ffordd effeithiol o leddfu‟r nerfe. [I ateb cwestiwn arall, „faint o ddynion ma fe‟n cymryd i feicio telyn?‟: pump!] Eleni, oni‟n ddigon ffodus i fod yn chware ar lwyfan Chess Records / Greenpeace, ar y pnawn sul, fel support i Mumford & Sons a Laura Marling. Unwaith eto, ro‟dd yr awyrgylch yn gret. Lot o fechgyn indie hardd yn „u hetiau, a‟u skinnies, yn gwrando‟n astud ar y caneuon fel tase nhw‟n blant bach yn gwrando ar storie. Ffab. Unwaith eto, fel llynedd, creodd y delyn dipyn o sylw wrth i ni drio llusgo fe drwy‟r mwd. „Is that a harp?‟ medde‟r indi-skinis wrth imi straffaglu lawr y llwybr gefn llwyfan. Dwi‟n meddwl imi ateb y cwestiwn yna o leia‟ ugain o weithie llynedd; falle bod Florence & The Machine wedi neud yr offeryn yn fwy adnabyddus erbyn hyn! Fyddai‟n symud i Lundain ar ddiwedd yr Haf, ag yn gobeithio gallu lansio‟n hun ar y sîn gerddorol yna. Ond o bob gig fyddai‟n neud, „sdim byd yn cymharu efo‟r profiad o chware yn un o‟r gwylie‟ mwya nuts a chyffrous sy’n bodoli (hyd yn oed os wnaeth un menyw dosbarth-canol mewn cot Kath Kidston fy nghamgymryd am werthwr MDMA yn y cylch gerrig….) Georgia Ruth Williams


Bob Roberts Tai ’ r Felin Ian Cotrell Huw Foulkes Llyr Gwyn Lewis Leusa Fflur Llewelyn Mabon Llyr Georgia Ruth Williams

Byd Dydd Sul

1. Yn y rhifyn hwn...

Chwiw

Chwiw

Hawddamor gyfaill! Fel y gweli ac fel y teimli di mae yna ffansin newydd, bychan yn dy law; Chwiw. Yn wir, hyderwn, mae‟n wledd. Ein nod ni yw darparu llwyfan i dalentau celfyddydol Cymru - llenyddiaeth, lluniau, cerddoriaeth, y theatr a phob math o ddanteithion cyffelyb. Dyma ffansin sydd wedi ei ysgrifennu gennych chi ac er eich diddanwch chi, ac os wyt ti awydd cyfrannu, gyrra e-bost at chwiw@live.co.uk. Felly, ymlacia, darllena a mwynha. ~ Cynan a Branwen*

Hanner llawn neu hanner gwag?

Adolygiad o gynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru, ‘Tŷ Bernarda Alba’.

Nos Fercher lawog yng Nghaerdydd a finna‟n edrych ymlaen at noson theatrig yn y Sherman gyda chast „Tŷ Bernarda Alba‟ dan gyfarwyddyd Judith Roberts. Fel un sy‟n gwneud pob ymdrech i fynychu cynyrchiadau ein Theatr Genedlaethol, roedd cryn gynnwrf a minnau‟n ysu i weld drama sy‟n boblogaidd ar draws Ewrop mewn gwisg Gymreig a Chymraeg, diolch i gyfieithiad Mererid Hopwood. Hanner gwag oedd y theatr a‟r rheswm am hynny, o bosib, oedd mai dyma noson gyntaf y cynhyrchiad – pobol yn cadw draw ac am fynd y noson ganlynol efallai er mwyn gadael i‟r holl beth gynhesu. Rhaid dweud na chefais fy siomi. Cast o un ar ddeg o ferched oedd yma a hynny‟n rhoi cyfle i actoresau Cymru gydweithio‟n eang ar sawl lefel. Yr oedd perfformiadau‟r actorion hŷn yn taro deuddeg drwyddi draw – Rhian Morgan fel Bernarda yn fwy na hyderus a chadernid rhyfedd ei chymeriad yn cael ei drosglwyddo‟n syfrdanol i greu theatr cwbl wych. Yr oedd golygfa olaf yr act gyntaf yn gwbl ddirdynnol a chrëwyd naws finiog, gwbl gredadwy. Mae cysondeb Betsan Llwyd yn gwbl arbennig a‟i dawn fel actores yn gyfarwydd i bob

un sy‟n ymddiddori yn y theatr yng Nghymru. Hi lwyddodd i gynnal y cynhyrchiad a‟i ddal at ei gilydd mewn sawl ffordd. Nid oedd perfformiadau‟r cymeriadau ymylol mor gadarn – yr oedd peth ansicrwydd ac ambell un yn edrych braidd yn anghyfforddus. Fodd bynnag, rhaid canmol Catrin Morgan (Adele) am ei pherfformiad didwyll a ninnau wedi ei gweld yn bennaf yn actio ar y teledu. Ar y cyfan, roedd y cynhyrchiad yn gaboledig iawn a chyfarwyddo Judith Roberts yn ychwanegu sawl dimensiwn i‟r cyfanwaith. Roedd y set yn syml ddigon ond yn cynorthwyo‟r cymeriadau ar eu taith ac yn cyfoethogi‟r plot a‟r dweud. Er mai cyfieithiad oedd hwn, gallasai‟n hawdd sefyll ar ei ben ei hun fel cynhyrchiad heb roi gormod o sylw i‟r elfennau gwreiddiol. Mae ysgrifennu cyhyrog Mererid Hopwood, ei chlust fain ar gyfer deialog a‟r ymdeimlad Cymreig a rydd y cyfieithiad yn ychwanegu at y ddrama, yn hytrach na thynnu rhywbeth oddi wrthi. Oherwydd hynny a‟r ffordd y llwyddodd sawl elfen i intergreiddio‟n gelfydd, cafwyd cynhyrchiad o safon. Roedd ymateb y mwyafrif yn gadarnhaol – ac erbyn y diwedd, roedd y theatr yn teimlo‟n hanner llawn yn hytrach na hanner gwag. Dim ond gobeithio y bydd mwy‟n cefnogi cynhyrchiad nesaf ein Theatr Genedlaethol. Huw Alun Foulkes

Yr haf hwn, bydd hi’n amhosib i Disgrifiwch yr haenau o gerddoriunrhywun anwybyddu’r don aeth sydd i’w glywed yn y gân newydd o fandiau ifainc brwdfry- ‘Rhywbeth Newydd’: dig sydd wedi codi fel madarch Dechreuon ni Rhywbeth Newydd trwy ledled Cymru’n ddiweddar. Mae ddod lan da'r riff agoriadol, syml sy Byd Dydd Sul yn un enghraifft dan ddylanwad cerddoriaeth tebyg i berffaith, ac mae’n amlwg fod New Order. Mae‟n adeiladu lan ac yna Rhydian (gitâr), Rhys (bas a llais) clywir riff y pennill, sy‟n tynnu ysbrya Tom (drymiau/llais) yn doliaeth o gerddoriaeth indie; riff syml benderfynol o ddod i’r amlwg yn sy'n neud i chi ddawnsio. Yna daw'r sin gerddorol Cymru. gytgan gyda'r ergyd drwm, ac wedi‟r Gellir eu clywed yma: ail gytgan cawn wythawd, ble gallwch www.myspace.com/byddyddsul glywed ochr electronig Byd Dydd Sul. Yna cawn ffrwydriaid wrth i'r bas ar drymiau ddychwelyd i'r gytgan am y Disgrifiwch sŵn BDS: Sŵn sy'n cyfuno nifer o'n dylanwadau; tro olaf, a'r gitâr yn dal i chwarae da'r sŵn eitha alternative indie gyda bach o delay. electronica. Da nin hoffi cyfuno riff's cadarn ar y gitâr ar bas gyda drymiau toredig. Yn ôl Huw Evans, “sŵn mathdy” sy da ni –math o mathrock. Mae dipyn o’ch caneuon yn sôn am ‘ddianc’ neu ‘ddiflastod’ – ai fel ‘ma ydy chi’n teimlo? Ie, dyma sut da ni'n teimlo. Mae'r ardal (Y Fenni) yn eithaf rhwystredig i bobl ifanc. Does dim llawer i neud. Dwi‟n meddwl ein bod yn gweld rhyw fodd o ddianc trwy sgwennu caneuon a chwarae gigs. Dwedwch wrtho ni am y cyfnod yn recordio’r EP: Fe dreulio ni dridiau yn y ddinas fawr yn stiwdio Music Box, ble recordio ni dri thrac i‟w rhoi gyda Rhywbeth Newydd i greu EP. Wrth weithio gyda Llion Robertson roedd modd parhau gyda‟r un math o sŵn â Rhywbeth Newydd. Wedyn, penderfyno ni recordio cân Saesneg, sy‟n fwy postrock.

Moment mwyaf roc a rol hyd yn hyn? Sain siŵr - da ni heb gael ein gwahardd o unrhyw travel lodge eto. Y gân y bydde chi wedi bod wrth eich bodd yn ei chyfansoddi yw: She‟s Lost Control gan Joy Divsion. Geiriau a cherddoriaeth anhygoel.

Y band gore yn y Gymraeg ar hyn o bryd yw: Mae gweld Race Horses yn bleser. Ond dwi‟n joio stwff y Promatics ar hyn o bryd. Yn olaf, be yw'ch hoff flas hufen ia?

Mint choc chip.

Os am drefnu gig gyda BDS, cysylltwch â: byddyddsul@hotmail.com Mae EP newydd BDS ar gael yn eu gigs, ar itunes neu myspace.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.