Chwiw 2

Page 1

Safe as Milk: Cyflwyniad i noson o gerddoriaeth seicadelig yn y Fuwch Goch, Caerdydd. Mae‘r Fuwch Goch wedi agor ei drysau ers chwe mis bellach, ac yn edrych am ddigwyddiadau newydd i'w cynnig i bobl Caerdydd. Tafarn/ bar bach ydy‘r Fuwch, wedi ei leoli yn union gyferbyn â Chlwb Ifor Bach (sdim agen unrhyw gyflwyniad i'r clwb yma dw i'n siŵr). Ond er bod y Fuwch yn far ‗Cymreig‘ ac yn ‗chwaer‘ i Clwb, nid ydyw wedi mwynhau‘r llwyddiant a obeithiwyd ei gael trwy‘r cysylltiad. Felly, mae'r staff yn gweithio‘n hynod o galed i geisio denu mwy o bobl yno, ac i greu awyrgylch mwy cyfforddus (lampau a soffas mae‘n debyg yw‘r ateb) yn hytrach na hen 'lay out' Shore Pebbles ('dy chi siŵr fod yn gyfarwydd â‘r nosweithiau gwyllt yno!) Yn ogystal â mini-makeover, mae’r Fuwch wedi dechrau cynnal mwy o ddigwyddiadau, megis Cwis Cerddoriaeth (trwy'r Saesneg) Cwis Cymraeg (efo Gary Slaymaker), Dosbarthiadau Dysgu a Chymdeithasu Cymraeg, Nosweithiau Meic Agored Acwstig (yn denu enwogion fel Noel o

HearSay!) a gigs SlowLife (acwstig Cymraeg). Yr antur ddiweddara yw noson seicadelig ‗Safe as Milk‘. Y syniad yw troelli cerddoriaeth byd eang (o Dde America i India, o Gymru i‘r Almaen), gan ganolbwyntio ar gerddoriaeth seicadelig o‘r 60au a‘r 70au. Yn ogystal â hyn, bydd y bechgyn (Osian Tal a Geraint Clwb) yn dangos ffilmiau a chyngherddau o‘r un cyfnod i roi blas go iawn i‘r noson. Gyda chanhwyllau, josticks a chynigion diodydd, gellir newid awyrgylch y bar yn llwyr a gobeithir denu cwsmeriaid newydd. Bwriad y Fuwch Goch yw cynnal nosweithiau ychydig mwy 'aeddfed' na'r hyn sydd gan Clwb Ifor i'w gynnig, ond gall pawb fwynhau'r bar Cymreig ―arall‖ ar Stryd Womanby; y musos, crachach, crowd-cyn-Clwb a phawb arall sy‘n yfed yr ochr yna o‘r dref! -Emrys ap Gwyn

Am ragor o fanylion, chwiliwch am ‘Safe as Milk ar Facebook neu ewch i ww.yfuwchgoch.com

gyfeiriad gwahanol i ble oedda ni yn 2005. 4. Seisnigeiddio – Trac am fi yn casáu rhywun yn dysgu Cymraeg. Dwi'n gwybod `i fod o'n swnio‘n wirion, ond ma gen i'n rhesymau. 5. Soho – Un o draciau gora‘r band Mae'r Y Promatics, (sy'n perffor- i'w chwara dwi'n meddwl. Wedi ei mio yng Ngŵyl Sŵn) newydd recordio gan Rich Williams ar gyfer ryddhau E.P! Dyma gyflwyniad Sesiwn Stiwdio Huw Stephens. Daniel, gitarydd a phrif leisydd y 6. Esgyrn – Yr unig gân ‗serch‘ fel band i '100 Diwrnod Heb Liw'. `tai ar yr E.P, er ei bod nhw i gyd bron am ferched. Cân am gyfarfod Band indie/pop/rock yda ni, Y Pro- rhywun am y tro cyntaf ydi hi. matics. Da ni di bod hefo ein gilydd ers 2005 (er man teimlo fatha mwy Felly dyna chi, golwg fwy personol ar weithia) a da ni newydd ryddhau ein E.P newydd Y Promatics. Mae‘r E.P E.P cyntaf ar label Sbrigyn Ymborth; allan nawr yn eich siopau lleol, ond ‗100 Diwrnod Heb Liw‘. Mae‘r E.P 6 os da chi methu cael gafael arno, trac yn gasgliad o ganeuon da ni gadwch neges i ni ar Myspace a nai wedi ei hel dros gyfnod o bedair yrru un i chi am £5 (sy'n rhatach nag mlynedd -roedd hi'n amser i ni yn y siopau!) Yn ogystal â Gŵyl Sŵn, ryddhau rhywbeth! Mae'r rhan fwyaf 'da ni'n chwara yn y Morgan Lloyd, o'r traciau yn cael ei chwara ar y ra- Caernarfon, 30 Hydref ac yn Y Sodio erbyn hyn, ond mae `na un trac cial, Llundain, 10 Tachwedd. Os 'da newydd sbon o'r enw ‗Esgyrn‘. Dyma chi o gwmpas dewch am dro. Am drac-wrth-drac bach sydyn: fwy o fanylion chwiliwch am ‗Y Pro1. Colli Cyfle – Trac am...wel rhymatics‘ ar Facebook neu ewch draw i wun (a geith aros yn ddi-enw) www.myspace.com/thepromatics. wedi...colli cyfle! Trac a gafodd ei -Dan recordio ar gyfer ein Sesiwn C2 yn Stiwdio Crychdwr, gan Kevin Jones. Yr unig gân o'r Sesiwn sydd yn ymddangos ar y E.P. 2. Bodlon i Sibrwd – Trac a gafodd ei ysgrifennu yn 2006 am wbath sydd rhy bell yn ôl i gofio erbyn hyn. 3. Commeo – ‗Y trac‘ sydd wedi penderfynu cyfeiriad y band i radda. Hwn oedd y trac cyntaf a ysgrifennwyd efo'r bwriad o symud y band i

Llaw Neithiwr ‗roedd Nos Sadwrn yn strancio hyd y stryd. A chusan ei ragfarn o yn sbeitio Yn codi cyfog. Yr Eifl yn rhegi Mewn tarth. Mewn tymer. Heb gywilydd. Neithiwr bu ei ddwrn yn ddarfod. *** A heddiw, Wrth ei agor . . . dim ond dipyn bach Yn gwpan, yn dynerach, mae‘n gweld ei Dad Yn crwydro‘r llwybrau Ar goll Yn methu dirnad. Ei faban yn ddyn Yn wallgofyn Yn ddieithryn.

Canwr heb ei ail oedd Enrico Pallazzo. Magwyd ef mewn jwngl gan Rhydian XFactor ac roedd yn yfed sudd python i frecwast bob bore. Ef oedd canwr gore'r byd. Babanod mewn clytiau oedd cantorion eraill o‘i gymharu ag ef. Roedd ganddo lais oedd yn peri i'r dall weld, y byddar i glywed a'r meirw atgyfodi. Gallai ei lais ddofi eirth gwyllt a chythruddo sloths. Oedd, roedd Enrico yn dipyn o ganwr. Ef oedd y dyn yr oedd pawb yn ei garu. Roedd ar glawr Golwg bob wythnos, yn bwyta gyda sêr Hollywood bob amser cinio ac yn brif weinidog ar ddeg gwlad. DEG! Dychmygwch hynny! Canai Enrico bob eiliad o bob dydd o bob wythnos o bob mis o bob blwyddyn o bob degawd. Byw oedd canu iddo. Canai yn y gawod, yn y car, wrth fwyta [proses flêr iawn], wrth gusanu [proses bleserus iawn, yn ôl pob sôn] ac wrth gwrs, ar lwyfannau'r byd. O Sydney i Efrog Newydd, o'r India i Gaerdydd. Deuai pobl o bob cwr o'r byd i'w weld, ac i brofi hud ei lais. Unwaith, daeth creaduriaid o blaned arall i'r Ddaear i glywed Enrico, (nid ydoedd at eu dant hwy, ond roeddent yn gwrtais iawn am y peth chwarae teg iddynt.) Diolchai i'r Urdd bob tro am roi‘r cyfle iddo ganu ar lwyfan. Dyna oedd y wefr fwyaf iddo fyth ei deimlo, meddai, gwell na chanu plygain gyda Chaz a Dave hyd yn oed. Mae gennym lawer i‘w ddiolch i'r Urdd felly. Canodd Enrico trwy gydol ei fywyd. Roedd yn eicon, yn perthyn i chwedloniaeth bron a bod. Yn dduw i rai, yn gariad i eraill, yn arwr, yn frawd, ac yn ffrind i bawb. Canodd nes stopiodd ei galon guro. Dyna oedd diwrnod trist. Ni wenodd yr haul am gan mlynedd wedi hynny. Nid oedd ganddi reswm i wenu. Ni chlywyd sŵn sgrechian babanod, chwerthin plant, sibrwd cariadon, bloedd buddugoliaeth. Heb sŵn, fe beidiodd bywyd hefyd. Chwalwyd cymunedau, dinistriwyd dinasoedd. Gwacaodd bywyd allan o bob gwlad. Dychmygwch hynny. Peth trychinebus fyddai colli sŵn. -Ludwig ap Wil Garn Pan Oeddwn Fachgen: Atgofion Eurig Brigyn o un o’i hoff fandiau Cymraeg. Wrth feddwl nol at fy arddegau, ac am fynychu gigs Cymraeg, mae enw un band yn sicr yn dod i'r meddwl yn syth. Dau air: Big Leaves. Ydi'n bosib disgrifio'u perfformiadau byw nhw mewn cyn lleied o eiriau hefyd? Wel, bosib ddim. Steil. Egni. Talent. Caneuon. Ffans.... mi oedd hi'n ymddangos ar brydiau fod gan Big Leaves y cyfan, ac yn sicr, daethant yn feistri ar eu setiau byw bythgofiadwy. Yn un uned tynn, efo dealltwriaeth unigryw rhwng y pedwar aelod - mi oedd hi wastad yn wefr i fynd i weld yr hogia o Waunfawr ar lwyfan. Ac o feddwl bo nhw'n canu'n Gymraeg, ac yn hogiau o‘r un lle a fi - roedd y profiad hyd

yn oed yn fwy arbennig. Dyma fand gafodd gymaint o argraff ar y sîn yn fy marn i, a sydd wedi ysbrydoli cenhedlaeth. Wnai fyth anghofio'r ffordd oedda nhw'n gorffen eu set ... 'Tourettes' ... yn syth mewn i 'Hodges Blues' ... "Diolch yn fawr, Nos Da!" ... ac yna roedd rhaid dychwelyd adra o'r gig rol chwysu'n racs (a meddwi'n racs gan amlaf hefyd!) Efo cymaint o grwpiau yn ailffurfio dyddiau yma, mi fysa Big Leaves yn sicr ymhlith y bandiau fyswn i'n licio gweld yn dod at ei gilydd eto (fi a chymaint mwy o bobl eraill dwi'n siŵr). Ond eto, mae pob dim yn perthyn i‘w gyfnod, a wneith dim byd guro yr atgofion melys sydd gen i o'r cyfnod yna tua deng mlynedd yn ôl, o fynd i weld yr hynod Big Leaves yn chware'n fyw. Anhygoel. –Eurig Roberts

***

Ond heno A‘i ddwylo yn wylo Daw Dad Unwaith eto Yn gysur i gofleidio A‘i ddwylo . . . Cerdd: Ceri Elen Llun: Ifan Lewis

A‘i ddwylo . . . A‘i ddwylo . . .


Ifan Lewis

Gwyl Swn E.P Y Promatics Noson ‘Safe as Milk Eurig Brigyn Ceri Elen Ludwig ap Wil Garn

Chwiw 2 Helo! Mae crewyr Chwiw yn gobeithio fod y rhifyn cyntaf wedi bod yn fwy o lwyddiant na comeback Robbie Williams (-ydi hynny'n dweud llawer?!) Diolch i bawb am eu cefnogaeth a'u geiriau caredig (a falle celwyddog). Yn anffodus, mae'r haf wedi mynd i glwydo, ond mae Chwiw yn dal yma i'ch cadw'n gynnes fel côt aeaf newydd (chi di prynu un eto?). Mae Chwiw bellach allan o'i glytiau, ac yn dechrau cropian – pwy a ŵyr, falle erbyn y rhifyn nesaf y bydd o wedi dweud ei air cyntaf! -Mwynhewch, ~ Cynan, Ifan a Sbrings*

Chwiw

Hwreee! Mae hi bron yn amser Gŵyl Sŵn, ac mae cynhyrchwyr Chwiw yn edrych ymlaen yn eiddgar. Cynhelir yr ŵyl ddydd Iau 22 Hydref—Sadwrn Hydref 24 mewn amryw o leoliadau ar hyd a lled Caerdydd. Fel tamaid i aros pryd, gofynnodd Chwiw i rai o‘r bandiau sy‘n chwarae i ddisgrifio eu cerddoriaeth mewn brawddeg. Dyma i chi‘r disgrifiadau, yn ogystal â manylion y perfformiadau:

Iau Zimmermans @ Chapter, 6.45pm: ―Curiadau fel grŵn sy‘n cynyddu‘n dy ben.‖ Race Horses @ Chapter, 8.15pm: ―Sŵn rili, rili, rili da a‘r aelodau‘n rili, rili, rili hyll (heb law am yr hogyn Alun ‗na‖).‖ Gwener Threatmantics @ Y Fuwch Goch, 7.00pm. Sweet Baboo @ Y Fuwch Goch, 8.00pm: ―Mae Sweet Baboo yn dod o Ogledd Cymru ac yn canu alawon ‗country‘ am Dduw, genethod, cathod cythreulig a chysgu.‖ Cymdeithas yr Hobos Unig @ Model Inn, 8.30pm: ―Disgrifiwyd unwaith fel ‗athrylith‘ ond barn ‗di huna gwaetha‘r modd – da ni‘n hoff o ganu am bynciau llosg fel cariad a cholli cariad, ymysg pethau eraill.‖ Hafaliadau=Equations @ Model Inn, 10.00pm: ―Deellir yn well gan blant ac anifeiliaid.‖ Rouges @ Model Inn, 11.15pm: ―Mae'r Rogues yn fand newydd sy'n cynnwys cyn aelodau o'r Heights a'r Poppies, sy'n chwarae cymysgedd o roc, electro a phop rhyfedd ac yn rhyddhau E.P newydd o'r enw 'Widows' fis Tachwedd.‖

Sadwrn Huw M @ Toucan, 7.00pm: ― ‗Pop bach‘ gyda dylanwadau gwerin, seicadelia a cherddoriaeth amrywiol o wledydd fel Ffrainc, Barsil, America a Chymru.‖ Cate Le Bon, @ Fuwch Goch, 7.15pm Y Promatics @ Clwb Ifor Bach, 7.45pm: ―Band indie/pop/roc wedi cael eu dylanwadu gan elfennau electroneg y mae nhw‘n trio ‗mewnbynnu‘ i‘r sin Gymraeg.‖ John Grindell @ Model Inn, 7.45pm: ―Swynwr y synths yn canu‘r gerddoriaeth mwyaf tecno posib.‖ Yr Ods @ Dempseys, 8.00pm: ―Da ni‘n swnio fel chord-sequences bandiau eraill.‖ Al Lewis @ Clwb Ifor Bach, 8.15pm: ―Canwr/Cyfansoddwr Cymraeg gath ei fagu ar gerddoriaeth pop rhamantus, a‘th ati wedyn i drio sgwennu alawon bachog a chofiadwy gyda‘i ffrindiau.‖ Nos Sadwrn Bach @ Model Inn, 9.00pm Y Pencadlys @ Model Inn, 10.00pm: ―Y Pencadlys yw Hayden Hughes, gynt o Seindorff a bydd yn perfformio‘n fyw am y tro cyntaf yng Ngŵyl Sŵn – disgwylir perfformiad mawr ganddo.‖ Os y byddwch eisiau hoe dawel o'r holl gerddoriaeth, gall Gŵyl Sŵn gynnig dau ddigwyddiad gwahanol ar eich cyfer... Llwyd Owen @ Toucan, 5.00 pm Mae Llwyd Owen wedi cyhoeddi tair nofel ers 2006; Ffawd Cywilydd a Chelwyddau, Ffydd Gobaith Cariad (a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn '07) ac Yr Ergyd Olaf. Bydd ei bedwaredd nofel, Mr Blaidd, yn cael ei lansio yn ystod Gŵyl Sŵn, yng nghwmni Cate Le Bon. Yn ôl gwefan Llwyd Owen (www.llwydowen.co.uk), stori am ddau dditectif yw hi yn gweithio yn nhref ddychmygol Gerddi Hwyan, ―sydd ddim yn annhebyg i Ben-y-Bont ar Ogwr o ran maint a lleoliad, ond heb os yn lle llai depressing‖. Bydd ail lansiad ym Mhalas Print, Caernarfon, 30 Hydref yng nghwmni Alun Tan Lan. Gweithdy Ffansin @ Toucan: 12.30 – 2.30 pm Dewch draw i'r Toucan i gwrdd â chrewyr 'Chwiw' yn ogystal â llwyth o olygyddion ffansins eraill. Fe gawn sgwrs anffurfiol am ffansins, a gallwn gynnig cymorth, syniadau a falle llwyddo i greu rhywbeth gyda'n gilydd. Am ragor o fanylion am Ŵyl Sŵn, ewch i www.swnfest.co.uk


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.