Chwiw 3

Page 1

Chwiw 3

Siop Siarad Chwiw, Project/Ten, Tu Chwith, PentaGram, Twmffat, Anni Llyn, Gildas, Gwennan Evans, Owain Griffiths, Bandana, Clinigol, Elan.dot


Annwyl Frodyr a Chwiwiorydd, Gobeithio y cawsoch chi Basg hyfryd, a'ch bod chi'n mwynhau'r heulwen er gwaetha'r ffaith eich bod chi'n adolygu/mewn swyddfa ddiflas/yn aros am awyren. Fel y gwelwch, mae Chwiw wedi newid ei fformat er mwyn gallu gwasgu mwy o erthyglau rhwng cloriau'r rhifyn (mwy o dudalennau = mwy o waith ysgrifennu = dyna pam y mae Chwiw3 yn hwyrach yn eich cyrraedd na'r hyn a obeithiwyd). Ta waeth - `stynnwch baned, neu fallai'n wir rhyw goctel egsotig, a phorwch `hyd dudalennau Chwiw3. Neu os ydych chi'n teimlo'n greadigol/feirniadol/herfeiddiol, beth am ysgrifennu tamaid ar gyfer Chwiw4? Gallwch gyfrannu unrhyw beth, unrhyw beth yn wir a'i anfon at chwiw@live.co.uk Yn Chwiwilyddus, y Golygyddion.

Siop Siarad Chwiw: Dweud eich dweud am bob math o gelfyddyd. Rhydd i bawb ei farn 'de, a byddwch yn onest, 'da chi'n hoffi dweud eich barn, 'dydech? Beth am ddod i rannu'ch barn efo llwyth o bobl neis eraill? Nos Lun, 10 Mai 7.00pm @ Milgi mi fyddwn ni'n trafod: *Albwm ddiweddaraf Race Horses, Goodbye Falkenburg *4 darn llên-meicro gan Ceri Elen (i'w cael yn y Taliesin diweddaraf, Rhifyn 139) *Gwaith celf Lowri Davies (i'w gweld yma: www.lowridavies.com) Unrhyw un awydd dechrau Siop Siarad Chwiw mewn rhan arall o Gymru? Cysylltwch â ni i drafod: chwiw@live.co.uk


Twmffat – Myfyrdodau Pen Wy ·Real be o‟n i‟n ddisgwyl gan Ceri C! Myfyrdodau Pen Wy = Y rants a‟r jôcs oedd Ceri yn ei gael ar y llwyfan rhwng caneuon Anweledig, mewn un albwm. ·Ar ôl y cyflwyniad eithaf amwys, y gân Sanctaidd Law, daw tri trac regge /ska, ble ceir lot o rantio law yn llaw a llawer o hiwmor. O ble yn y byd y daeth y syniad i'r gân Odli, lle mae Ceri‟n ailadrodd y linell „Dw i‟n gwbod bod o‟n sdiwpid ond di‟n enw fi‟m yn odli fo Cnicht‟?! ·Trac 5, Ia‟n Duwcs, yn lot trymach, y 'punch line' bob tro ydi: “Gweiddwch, canwch, deffrwch”. ·Wrth fy modd efo‟r digrifwch, yn enwedig pennill 1, trac 6: “Ma‟r boi BNP yn manijyr Barclis, wrth ei fodd yn smyddro‟i wraig mewn onion bajjis”. ·Trac 8, Pam Lai? yn adlais ac yn ddilyniant o gân 6.5.99 oddi ar EP Anweledig, Cae yn Nefyn, ble mae Ceri'n amau sefyllfa wleidyddol Cymru. ·Ar ddiwedd pob rant politicaidd, mae Ceri yn dweud wrtha ni, yn syml, i ddawnsio, a mae hi bron yn eironig fod yr albwm yn gorffen hefo trac electro, sy‟n rhoi lle i ni, yn llythrennol, i ddawnsio!

Pen-ta-Gram

Albwm newydd Gildas— Nos Da Mi fyddai hi'n hawdd iawn i mi gyrlio ar y soffa a chau fy llygaid tra'n gwrando ar felodïau cynnes band Arwel Lloyd – Gildas. Ond dw i'n cofio'n sydyn mai ar soffa caffi Gwdihŵ ydw i, ac nid adre, felly dw i'n mwynhau'r gerddoriaeth tra'n ceisio edrych yn fwy sidet. Mae sŵn acwstig, hamddenol Gildas fel pebai'n gweddu i'r dim gyda naws Gwdihŵ, a dyma'r gig cyntaf i mi weld Arwel yn perfformio gyda'i ddwbl-basydd, Wal (sy'n wych!). Ers dechrau Gildas yn 2008, mae Arwel wedi ticio'r holl focsys – recordio demos, myspace, Sesiwn C2, ac wele, i goroni'r cwbwl, mae ei albwm gyntaf Nos Da yn barod! Sylfaen tebyg i John Martin a Nick Drake sydd i'w gerddoriaeth, yn ôl Arwel, ond gyda chyffyrddiadau o synths i ychwanegu teimlad mwy cyfoes. Mae'n cyfaddef ei fod yn osgoi trafod pynciau rhy ddifrifol (er, falle fod Ateb yn eithriad). Mae Bruno a'r Blodyn yn trafod broga sy'n edrych ar ôl y blodau, “bron fel cân i blant”, meddai. Er fod Arwel yn gyfarwydd â chwarae cerddoriaeth fel rhan o fand Al Lewis, dw i'n teimlo fod yma gangen wahanol o 'bop acwstig'..falle nad ydio‟n 'pop'..ac efallai fod yma sŵn mwy aeddfed? Be ddwedwch chi? Dewch o hyd i soffa – boed yn gyhoeddus, neu yn `stafell fyw eich Nain, a gwrandewch ar Gildas... -Sbrings

Deud hi fel y ma`i a be-di-be. Nodiadau Sbrings ar 2 albwm newydd sy’n trafod mwy nag un mater...

Twmffat

www.tuchwith.com— Gwefan newydd cylchgrawn tu chwith Diddordeb yn y celfyddydau? Llenyddiaeth, celf, adolygiadau? Cymrwch olwg ar wefan newydd cylchgrawn tu chwith: http://tuchwith.com/ Yn ogystal â chyhoeddi‟r cylchgrawn ddwy waith y flwyddyn, mae tu chwith yn awr wedi ehangu i‟r we er mwyn cael mwy o le i drafod y celfyddydau o Gymru a thu hwnt. Mae cylchgrawn tu chwith yn boblogaidd am ei fod yn cyhoeddi ysgrifennu na fyddai‟n cael ei gyhoeddi mewn unrhyw gylchgrawn Cymraeg arall. Yn y gorffennol mae wedi meithrin doniau awduron fel Fflur Dafydd, Hywel Griffiths, Eurig Salisbury, Catrin Dafydd dim ond i enwi ychydig. Gallwch hefyd danysgrifio i‟r cylchgrawn ar y wefan newydd. Ar y wefan, bydd adolygiadau a‟r newyddion diweddaraf o fyd y celfyddydau, cyfweliadau â llenorion ac artistiaid wrthi iddynt roi eu cynghorion i ysgrifenwyr ifainc, yn ogystal â‟r arbrofi celfyddydol sydd yn y cylchgrawn. Beth am gymryd rhan yn ein cadwyn stori? Bydd tu chwith yn dechrau stori 200 gair a‟r her yw i unrhyw un sy‟n darllen y wefan i ysgrifennu‟r 200 gair nesaf. Pwy â wŷr pa fath o stori a welwn ni‟n cael ei chreu o flaen ein llygaid? Os hoffech chi gyfrannu i gylchgrawn tu chwith neu‟r wefan newydd, cysylltwch â Menna Machreth: tuchwith@googlemail.com. Mae tu chwith yn edrych am adolygiadau yn enwedig ar gyfer y wefan, felly ewch ati i ddarllen, clywed a gwrando – ac yna ysgrifennu! -Menna Mach

Pen-ta-Gram – Twisted Tongues ·Teitl yr albwm yn gliw i‟r hyn sy‟n cael ei drafod yma, sef dwyieithrwydd, a‟r ffordd mae Pen-ta-Gram yn gweld eu hunain, sef „hip hop amrwd, dwy ieithog‟. ·Mae hon yn albwm o „rants‟ am bob math o bethau, e.e. Cymru a‟r iaith, gweithio 9-5, bod yn rebal... ·Honiad yn trac 5: Dweud wrth MCs eraill Cymru i roi'r gorau i ganu, gan mai Pen-ta-gram ydi‟r unig „MC sy‟n dweud y gwir‟. ·Mae‟r gerddoriaeth sydd tu ôl y rapio yn safonol, ac mae Alex Moller yn rhoi rhythmau diddorol ar lot o‟r traciau (be `de chi‟n ddisgwyl gan y drymar dawnus yma). ·Trac 6: Man gwan yr albwm i mi – dydi'r geiriau 'cariadus' dim yn taro 12. ·Trac 7: “ Xtra! Xtra! Read all about it! How you find three MCs in the mountains ” Bron fel tase Pen-ta-Gram dal yn chwerthin, a herio bod modd rapio‟n Gymraeg – er dw i'm yn meddwl fod angen rantio am hyn bellach gan fod rapio'n Gymraeg wedi hen ennill ei blwyf ers sawl degawd. · Creda Pen-ta-Gram fod hip-hop mewn „llanast ffrantig‟, ac felly dyma'r albwm sy'n mynd i roi trefn ar bethau. ·Trac 10: Trac gwych sy'n pwysleisio teitl yr albwm, a'r ffaith bod modd canu'n ddwyieithog, bron am yn ail frawddeg. Ac i gloi, dyma‟r tro cyntaf i mi glywed y gair diarrhoea mewn cân...difyr..!


Yn un o gigs enwog „Nyth‟, rhannodd Golygyddion Chwiw dudalennau gwag o gwmpas y gynulleidfa, gan ofyn iddynt eu llenwi, er mwyn gallu cyfrannu tuag at Chwiw3. Dyma un o‟r tudalennau hynny, sy‟n dangos adolygiad byr o‟r band Cleifion. Ond, gan nad ydi‟r adolygiad yma‟n dweud rhyw lawer wrtho chi‟r darllenwyr, gallwch wrando ar sŵn hyfryd y Cleifion yma: http://www.myspace.com/ycleifion

Gair Un diwrnod oer o haf, aeth Chwim Heulog i chwilio am Lleucu Llawas y Lloer i gael gair. Roedd hi ffansi gair byr heddiw, er ei bod hi‟n mwynhau y geiriau hir. Roedd hi wedi bod braidd yn flêr yn ddiweddar wrth fynd i mofyn gair, heb feddwl yn iawn pa air a fyddai‟n addas, ac roedd ganddi bentyrau o eiriau gwastraff drifflith-drafflith ym mhob man. Erbyn cyrraedd cwt Lleucu Llawas y Lloer roedd Chwim Heulog wedi mwydro ei phen yn lân nes nad oedd ganddi unrhyw syniad yn y byd o‟r gair cywir i‟w gael y diwrnod hwnnw. Roedd Lleucu Llawas y Lloer yn disgwyl amdani ac yn ei hadnabod yn ddigon da i wybod y byddai wedi drysu‟n lân ac yn gofyn am air arall na fyddai‟n ddim i wneud efo dim. “Wel, be fydd hi heddiw Chwim Heulog bach?” “Oooo, mi dwi‟n methu‟n glir a phenderfynu, cofiwch.” Roedd Lleucu Llawas y Lloer yn difaru ei henaid rhoi‟r gair „cofio‟ i Chwim Heulog, roedd hi‟n mynnu dweud „cofiwch‟ ar ôl bob dim a doedd hi ddim yn gwerthfawrogi pwysigrwydd „cofio‟. “Wyt ti wedi medru rhoi ‟chydig o‟r geiriau ‟ma at ei gilydd i dd‟eud rwbath go lew erbyn hyn Chwim?” “Wel naddo, cofiwch. Mi dwi‟n trio bob d‟wrnod a‟r unig beth fedrai feddwl amdano ydi mod angen mwy, cofiwch.” Ni wyddai Lleucu Llawas y Lloer pa air fyddai‟n addas i Chwim Heulog heddiw, ond roedd hi‟n benderfynol o beidio rhoi unrhyw air arall iddi na fyddai‟n cael ei roi „at iws‟. Roedd ganddi lond trol o eiriau a fyddai‟n ddigon hawdd eu defnyddio, a‟u defnyddio‟n dda ond roedd angen gair arbennig heddiw. Gair fyddai‟n ysgogi rhyw awydd i ddweud rhywbeth, neu i deimlo rhywbeth. Roedd Chwim Heulog yn greadures od a dweud y lleia ac fe wyddai Lleucu Llawas y Lloer hynny yn well na neb. Aml i waith y gwelodd hi‟n loetran ar hyd y lle yn siarad â hi ei hun ac yn holi pawb a phopeth am eiriau. Cofiodd amdani‟n mynd o‟i cho‟ yn llwyr unwaith, a hitha‟n niwl dopyn a neb yn gweld Chwim Heulog dim ond yn ei chlywed hi‟n parablu bymtheg y dwsin dros bob man. Rhyw adyn a oedd wedi bod ar goll erstalwm oedd Chwim Heulog druan. Yn sydyn, daeth hi‟n amlwg i Lleucu Llawas y Lloer mai un gair fyddai‟n addas heddiw. “Adra. Adra Chwim Heulog.” Meddai Lleucu Llawas y Lloer, gan weld llygaid tywyll Chwim Heulog druan yn goleuo ac yn llenwi gyda rhywbeth nas gwyddai Lleucu Llawas y Lloer beth ydoedd. “Adra” meddai Chwim Heulog, wrth i‟w meddwl lenwi â‟r holl eiriau gwastraff oedd ganddi. Disgynodd pob un gair i‟w le priodol, ac aeth Chwim Heulog adra fel fflamia i ddweud ei dweud. –Anni Llŷn


Menter Celf Catrin Gardner Mae Project/Ten yn fenter celf newydd sydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd. Penderfynodd Cat Gardner, sydd wedi ei magu yng Nghaerdydd, ac astudio ym mhrif ysgol Aberystwyth a Llundain, bod angen gwneud rhywbeth am y sin gelf yn y brif ddinas. Penderfynodd wneud rhywbeth am y sefyllfa trwy ddechrau menter newydd i hybu celf a chynllunio blaengar. Ar ôl dewis tîm o 5 artist a 5 cynllunydd gan gynnwys Jon Oakes, Huw Aaron, Tom Kitchen, a Osian Batyka-Williams aeth ati i arddangos eu gwaith yn Cardiff Arts Institute. Er bod yr arddangosfa wedi dirwyn i ben bellach, cafwyd ymateb cadarnhaol, ac fe ddangosodd llawer o bobol ddiddordeb yn y gwaith. Mae lleoliad yr arddangosfa newydd eto i‟w gadarnhau ond mae‟n siŵr y bydd yn llwyddiannus dros ben. Os na fuoch yn ddigon lwcus i gael cip ar yr arddangosfa gyntaf, sicrhewch eich bod yn mynd i weld yr un nesaf. Gallwch hefyd gael golwg ar y wefan, http://www.project-ten.co.uk/. -Heddwch allan, Ifan Lewis.

Y Gyfrinach: (Llun o'r teulu)

Llun: Owain Griffiths

Edrych i mewn i'r darlun ar y mur Sy'n crogi'n simsan ar y bachyn cryf, Fel pren yn cydio yn ei afal sur Sy'n dal ei dir ac yntau'n bla o bryf. Mae'r llun a weli di yn werth ei weld, Ond trig cysgodion hwn o dan y paen. Er bod y sepia'n gweddu gyda'r seld Mae'n gwenau ni yn mynd yn groes i'r graen. Gwn fod y teulu dedwydd yn y llun Yn pylu gyda'n palu c'lwydde noeth, Ond paid â phoeni, mae 'na lawer un Sy'n credu yn ein celwydd celfydd, coeth. Fe weli di y cariad yno'n glir; Atgoffa fi bod camera'n dweud y gwir. Cerdd: Gwennan Evans. Llun: Owain Griffiths


Fe glywsom ni ddigon o sôn am Y Bandana, y band ifanc o ochrau G‟narfon yn 2009. Sdim rhyfedd, a nwythau wedi chwarae 39 gig y llynedd, gan gynnwys Taith Tafod, Taith Ciwdod, Bedroc, Chwilgig a Gŵyl Gopr Amlwch, heb son am recordio dwy sesiwn i C2. Felly beth am ddysgu mwy am Y Bandana trwy holi Tomos: Aelodau: Robin Llwyd Jones: Drymiau, Tomos Meirion Owens: Allweddellau, Sion Meirion Owens: Bas, Gwilym Bowen Rhys: Gitar a phrif lais. Ti ‘di cael diwrnod da heddiw? Ddim yn ddrwg. Dydi hi‟m mor braf ag oedd hi ychydig o ddiwrnodau yn ol :( Sut a phryd nath Y Bandana ffurfio? Ddaru ni ffurfio ar ôl Eisteddfod Wyddgrug 2008 ar ol i ni weld cystadleuaeth brwydr y bandiau Maes B a ddaru fi, Sion a Gwilym fynd "da ni am ennill hwn blwyddyn nesa!!!" Blwyddyn yn ddiweddarach....gawsom ni ail. Disgrifia swn Y Bandana: Mae pob can yn amrywio rili. Rhai caneuon sy'n rock n roll tebyg i AC/DC, tra bod rhai eraill mwy o rhyw indie rock tebyg i fandiau fel Arctic Monkeys/Kings of Leon. O ble y daeth yr enw? Roedd un o'n ffrindiau ni'n gwisgo bandana yn Eisteddfod Wyddgrug ar y diwnrod lle ddaru ni benderfynnu neud band. Aeth Sion "Y Bandana!! Sa hwna'n enw clyfar i fand! Mwy nag un rheswm a ballu!". Moment mwyaf rock n roll ? Gafo ni gig diddorol iawn yn Aberystwyth yn 2008, a drefnwyd gan Cymdeithas yr Iaith. Cafodd un aelod o'r band ei arestio a chael ei ryddhau just mewn pryd i'r soundcheck! Eich gig gorau hyd yn hyn? Maes B 2009 mae'n debyg. Y gân sy'n gwneud i chi ddawnsio yw: Ma pawb o'r band yn cael rave bach i unrhyw beth gan The Prodigy pob tro da ni ar ein ffordd lawr i gig yn y car. Da ni'n cal lot o weird looks gan bobl pan da ni wedi sdopio mewn goleuadau traffig. Y gan fyse chi di caru ysgrifennu yw: Yn bersonol - Golden Skans gan Klaxons. Fel band, fysa ni di bod yn falch iawn o `sgwennu Let's dance To Joy Division gan The Wombats. Y band gore yn y Gymraeg ar hyn o bryd yw: Hm, cwestiwn anodd. Dwi'n rili licio stwff Candelas ac allai'm disgwyl i weld sut ma nhw am ddatblygu. Mai'n siwr mai Yr Ods sw ni'n deud ydy y band gorau ar y funud. A be ydi dy hoff flas hufen ia? Toffee fudge

Am ragor o wybodaeth ac i drefnu gig gyda‟r Bandana, ewch i www.myspace.com/ybandana

Clinigol – Unig fand dawns Cymru Yn dilyn llwyddiant albwm Clinigol, Melys, ganwyd yr EP Swigod ddechrau‟r flwyddyn. Unwaith eto, mae‟r band wedi dewis cydweithio gyda rhai o gerddorion benywaidd amlwg, sef El Parisa, Rufus Mufasa, Nia Medi, Cofi Bach, Margret Williams a Heather Jones. Beth am adael i Clinigol ein tywys drwy‟r EP: “Pop-dawns in-yer-face yw Swigod, gyda El Parisa‟n canu. Taith i rywle arallfydol gyda Rufus Mufasa a Nis Medi yw Perygl. Mae Plyci yn rhoi makeover i Margaret Williams ar Gormod/Digon, mae John Rea yn dod a breakbeats hiphop i‟r gân Gwertha dy Hun gan Cofi Bach, ac mae‟r trac urban-electro Oh My Days yn gweld y band yn troi i‟r Saesneg am y tro cyntaf – twt twt!” Felly tyrd, gwisga dy sgidiau dawnsio, a sigla `lawr i dy siop gerddoriaeth i brynu Swigod...neu rho glic ar iTunes, ble gelli brynu'r 7 cân am £1.79 – bargen bop!

Elan.dot Mae Elan Rhys wedi bod yn creu gemwaith `dan yr enw elan.dot ers tua blwyddyn, ar ôl bod yn creu gemwaith ei hun ers cyn cof. Meddai Elan: “Gwelais fodrwyau ffelt anhygoel ar werth yn y Victoria & Albert Museum yn Llundain am dros gan punt, a dewisiais i greu fy fersiwn fy hun am ffracsiwn o‟r pris. Ma‟r casgliad wedi datblygu ers hynny a dwi‟n gwerthu mordwyau a bandiau gwallt o ffelt a bathodynnau o hen dopiau poteli. Dwi‟n meddwl bod y casgliad i gyd yn emwaith basa‟n gallu cael ei wisgo i unrhyw achlysur gan berson o unryw oed! I weld yn union sut beth „di‟r gemwaith, ma‟n werth mynd i grwp facebook elan.dot, lle mae lluniau o‟r holl gasgliad. Dwi hefyd yn gwerthu‟r gemwaith dros facebook, ond i‟r rhai ohonoch sy‟ yng nghyffiniau Caerdydd mae gen i stondin achlysurol ym marchnad Northcote Lane sy‟n digwydd ar ddydd Sul cynta‟ bob mis yn Milgi, City Rd, Caerdydd.”


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.