TREAMLOD
Lleoliad ac amgylchedd Lleolir cymuned (plwyf) Treamlod, sy’n cynnwys pentref Treamlod a phentrefannau Walis a Wystwg, yn agos at ganol Sir Benfro bron yng nghysgod Mynyddoedd y Preselau. Cymuned amaethyddol yw’n bennaf ond arweiniodd newid yn y diwydiant at arallgyfeirio o ran cyflogaeth a defnydd o adeiladau a thir. Ceir tiroedd heb eu trin ar Gomin Treamlod a Gwaun Walis. Dynodwyd y Waun yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn 1998 oherwydd ei phwysigrwydd fel rhostir gwlyb a thir pori corsiog sy’n gynefin i iâr fach yr haf brith y gors. Cofnodwyd un ar ddeg rhywogaeth o fywyd gwyllt gwerthfawr ar y Waun gan gynnwys gweision y neidr, tegeirianau a dyfrgwn. Fe’i gweinyddir gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru.
Dechreuad Ceir y cofnod cynharaf o enw’r pentref yn 1230 ar ffurf Almenolfestun neu Amleston, sy efallai’n tarddu o enw Norseg, Hammil neu o’r Fflemineg, Amelot’s tun. Cofnodwyd Walis yn 1572 sy o bosib yn golygu waliau ac yn cyfeirio at y gwrthglawdd pridd Rhath Walis. Nodwyd Wystwg am y tro cyntaf yn Wodestok yn 1224 ac efallai ei fod yn tarddu o wudu stoc(c), lle mewn coedwig.
Cynhanes Roedd ffin y llen iâ yn ystod yr Oes Ia ddiwethaf 20,000 mlynedd nôl ychydig i’r de o Dreamlod. Mae’r brigiadau creigiau a chlogfeini megis y rheini ym Mhengarn yn weddillion y rhewlifau, yn ogystal â’r cyfuchlinau llyfngrwn sy wedi’u sgwrio. Yr arwyddion cynharaf o anheddiad yw’r cromlechi (siambrau claddu) a dywedir fod gan Sir Benfro, o ystyried ei maint, fwy ohonyn nhw nar’r un sir arall yng Ngwledydd Prydain. Gwelir gweddillion un ac o bosib dwy ym Mharc-y-llyn. Gwelir cromlechi eraill ychydig y tu hwnt i ffiniau Cymuned Treamlod. Gorchuddir Rhath Walis erbyn hyn gan dyfiant a rwbel. Mae’n wrthglawdd pridd ar siâp pedol wedi’i amgylchynu gan ffos fas. Tebyg ei bod yn annedd fechan wedi’i hamgylchynu gan ffos. Mae’n bosib mai anheddiad tebyg oedd Cylch Wystwg. Roedd Castell Fflemin yn anheddiad Rhufeinig neu Frythonig-Rufeinig a dynoda’r codiad isel cyfonglog yn y perci ar hyd ffin ogleddol y plwyf Cromlech ei leoliad. Fe’i cloddiwyd Parc-y-llyn yn 1922 gan Robert Carr Bosanquet a Syr Mortimer Wheeler ac fe gadarnhawyd y cysylltiad Rhufeinig. Mae’n bosib bod ei enw’n tarddu o’i ddefnydd fel anheddiad Ffleminaidd neu oherwydd cysylltiad â theulu o’r enw Fleming a ddalient dir yn Nhreamlod yn y bedwaredd ganrif ar ddeg.
Cofebion Hanesyddol Goroesodd tair carreg ffin yn y plwyf ar hyd y ffiniau gogleddol, deheuol a gorllewinol. Tebyg eu bod yn dyddio o ddiwedd y ddeunawfed neu ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac fe’u gwnaed o lechfaen ysgythredig. Yr un bwysicaf yw’r un orllewinol ger Garnturne gan ei bod hefyd yn nodi man cyfarfod ffiniau cantrefi hynafol Daugleddau, Cemaes a Phebidiog. Mewn cae ar dir Fferm Gorllewin Scollock gwelir y gofeb farmor ryfeddol a gofrestrwyd yn heneb Gradd II ac a godwyd yn 1906 i goffau John a Martha Llewellin.
Cofeb Llewellin
Eglwys a Chapeli Saif Eglwys Santes Fair yng nghanol pentref Treamlod. Does dim cofnod o’r un defnydd crefyddol o’r safle cyn dyfodiad y Normaniaid. Yn y cyfnod wedi’r goresgyniad fe’i gwnaed yn eglwys blwyf o fewn Deoniaeth Rhos. Rhwng 1147 a 1176 fe’i rhoddwyd i Farchogion yr Ysbyty o Slebets gan Wizo y Ffleminiad o Gas-wys a’i etifeddion. Gwelir adfeilion adeiladau eglwysig, yn ôl pob tebyg capeli anwes, yn Nhre-einar a Wystwg. Pan ddiddymwyd y mynachlogydd rhoddwyd Treamlod, fel rhan o Bencadlys Slebets, yn nwylo’r Brenin Henry VIII a chafodd nawdd brenhinol tan 1729 pan drosglwyddwyd degymau’r plwyf i Esgob Tyddewi. Dyddia’r Gangell a Chanol yr Eglwys o’r drydedd a’r bedwaredd ganrif ar ddeg a’r prif d[r o ddechrau’r unfed ganrif ar bymtheg. Ailgodwyd y clochdy yn 1779. Adferwyd corff yr eglwys ddwywaith yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn 1906. Gwelwyd meindwr isel ar do’r T[r Gorllewinol tan 1925. Mae’r fedyddfaen yn ganol oesol o’r ddeuddegfed a’r drydedd ganrif ar ddeg. Cafodd ei gwerthu mewn arwerthiant pan adferwyd yr adeilad yn 1833 ond fe’i dychwelwyd yn 1904 ar ôl ei defnyddio yn gafn moch ar fferm yn Walis. Cofrestrwyd yr eglwys yn adeilad Gradd II yn 2000. Anrheg yw cloch yr eglwys gan William Meyler Francis er cof am ei rieni a rhoddodd dir ac eiddo i’r eglwys hefyd.
Eglwys Santes Fair
Sefydlwyd Capel Methodistiaid Calfinaidd Capel Wystwg yn 1754 gan y Bethel Parchedig Howell Davies, ‘Apostol Sir Benfro’ yn d] cwrdd, a’r lleoliad wedi’i ddewis yn agos at ganol y sir. Tan y 1930au nid oedd ganddo fynwent. Dyma lle rhoddwyd y cymun i Fethodistiaid am y tro cyntaf yn Sir Benfro mewn adeilad nad oedd wedi’i gysegru gan yr Eglwys Anglicanaidd. Teithiau pobl o bell i Wystwg i glywed pregethwyr dylanwadol megis George Whitefield. Codwyd Capel Methodistiaid Calfinaidd Bethel ym mhentref Treamlod yn 1881 a’i adfer yn 1906.
Diwydiant a Masnach Ar wahân i amaethyddiaeth y prif ddiwydiant arall yn y gorffennol oedd y felin wlân yn Walis; credir iddi gael ei chodi ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Deil gwasg lliain o’r cyfnod hwn yn y felin. Dengys y cofnodion cynharaf mai teulu’r Defisiaid oedd yn rhedeg y felin tan yr 1880au. Yr olaf i wehyddu yno oedd teulu’r Redpaths ac roedden nhw hefyd yn lliwio’r gwlân â deunyddiau naturiol tan 2001. Ffrwd danddaearol o Nant Spittal arferai droi’r rhod. Tua hanner can mlynedd nôl disodlwyd yr olwyn dd[r gan dyrbin y tu fewn i’r adeilad. Crëwyd Llyn Walis i fod yn gronfa ar gyfer y felin. Ymwelodd Tywysog Siarl â’r safle pan gafodd ei adfer yn 1978. Roedd yna efail yn Walis ar ochr ddwyreiniol y Waun ond fe’i disodlwyd yn yr ugeinfed ganrif gan yr efail yn Llyn Walis Garn. Arferai Commerce House yn Nhreamlod fod yn siop ac yn feddygfa rhan amser. Tan 1991 roedd yna swyddfa bost. Yn y gorffennol roedd yna siopau yn Llety Walis a Llys-ygrug yn Walis a thafarndai ar Groesffordd Wystwg, Rock House a Gwalia yn Nhreamlod.
Ffermio Amaethu oedd y prif weithgaredd a chyfrwng cyflogaeth ar draws y canrifoedd. Ceir tystiolaeth o berci hirion cyfochrog yn dyddio o’r cyfnod cynhanes a gwelir yr olion ar hyd ffiniau perci cyfoes. Mae’n bosib mai tyfu cnydau a wnaed ar draean o’r tir yn y gorffennol a hynny’n bennaf er mwyn cynhyrchu bwyd i greaduriaid yn arbennig ceffylau. Heddiw mae’r tir bron i gyd yn laswellt ar gyfer da byw a chynhyrchu llaeth. Bellach, diddorol yw dyfalu a fydd perci yn y gymuned a arferai dyfu biodanwydd ar gyfer ceffylau yn tyfu biodanwyddau mwy newydd ar gyfer cludiant, gwresogi a diwydiant. Y duedd yn yr ardal, yn union fel ymhobman arall ers blynyddoedd lawer, yw cyfuno ffermydd yn unedau mawr gan leihau’r nifer o ffermydd teuluol llai. Prin yw’r cyfleoedd cyflogaeth ym myd amaeth o ganlyniad i fecaneiddio dybryd.
Ysgol Codwyd yr ysgol yn Wystwg yn 1866, a’i hailgodi a’i hailagor yn 1937. Dengys llyfr cofnodion y prifathro yn 1869 iddo gosbi rhai bechgyn am gerdded ar ben cloddiau a noda bod y merched yn cael gwersi gwinio bron yn ddyddiol. Caeodd yr ysgol yn 1964.
Adeiladau Teuluol Codwyd Tre-einar yn 1215 a deil yr un teulu i fyw yno byth ers hynny. Mae’n bosib iddo gymryd ei enw wrth denant, John Reyner. Ceir cofnod o annedd ar safle Maenordy Hook yn Llyfr Du Tyddewi tua 1326.
Tre-einar
Maenordy Hook
Codwyd Myrtle House yn Nhreamlod, sy wedi’i gofrestru’n adeilad Gradd II, yn 1840, ac mae’n glwm wrth fwthyn a godwyd yn y ddeunawfed ganrif. Gwelir bythynnod eraill o’r un cyfnod o amgylch eglwys y plwyf. Codwyd rhai adeiladau fferm yn y plwyf 200-300 mlynedd nôl.
Mynydd Preseli o Greigiau Pengarn
Enwogion Lleol Prynwyd Maenordy Hook gan y Dirprwy-lyngesydd Thomas Tucker o Sealyham, yn ogystal â thir o amgylch Triffleton, gydag arian a gafodd am feddiannu llong drysor Sbaenaidd yn 1742. Ni chafodd John Harries ei eni yn Nhreamlod ond roedd yn byw ac yn gweithio yma. Roedd yn arweinydd lleyg gyda’r Methodistiaid ac yn gofalu am gapel Wystwg o 1770 tan 1776. Ei fab, Evan Harries, oedd yn gofalu am y capel rhwng 1807 ac 1811 ac roedd yn weinidog ordeiniedig Cyfundeb y Methodistiaid Newydd yn Wystwg tan 1819. Ann Williams o Dreamlod oedd mam Syr Watkin Lewes (1740-1821), Arglwydd Faer Cymreig cyntaf Llundain. Bu farw yng ngharchar Fleet ar ôl ei anfon yno am fod mewn dyledion. Priododd Dr Ernest Price (1876-1951) o Arberth, ag un o ferched Parc-y-llyn yn 1904. Roedd teulu ei wraig, y Dewhirsts, yn berchen pump o’r ffermydd cyfagos. Roedd ei bractis yn cynnwys Treamlod ac âi ar ei ymweliadau mewn poni a thrap ond dywedir mai ef hefyd oedd y cyntaf i yrru cerbyd i fyny Rhiw’r Graig, Llawhaden, heb oedi.
Gweithgaredd Cymunedol Mae’r gymuned yn cyfarfod yn Neuadd yr Eglwys Treamlod ac yn Neuadd Goffa Wystwg yn yr hen ysgoldy. Er 1999 trefnwyd cynlluniau gweithredu cymunedol gyda chymorth Menter Preseli a PLANED yn arwain at ffurfio gr[p amgylcheddol a gr[p hanes. Ymhlith y prosiectau a gyflawnwyd gan y Cyngor Cymuned a’r grwpiau eraill hyn mae gosod seddau a chreu lle parcio wrth Lyn Walis, gwella’r Neuadd Goffa, llyfr i ddathlu’r milflwyddiant, ‘Plwyf Treamlod yn 2000’, gwella’r pentref a gwella’r llwybrau.
Y Côd Cefn Gwlad Parchwch - Diogelwch - Mwynhewch • Byddwch yn ddiogel - cynlluniwch o flaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi’n eu cael nhw • Ewch â’ch sbwriel gartref, a gofalwch warchod bywyd gwyllt • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Byddwch yn ystyriol o bobl eraill Cydnabyddiaethau Sefydlwyd Rhwydwaith Gweithredu Lleol Sir Benfro ar gyfer Mentro a Datblygu (PLANED) i wella amodau cymdeithasol ac economaidd y bobl ac i gyfoethogi amgylchedd Sir Benfro. Derbynnir nawdd gan ‘Arian i Bawb’ gyda gefnogaeth PLANED trwy Gronfa Gweithredu dros Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cynulliad Cymru. Dymuna Gr[p Treftadaeth/Cymdeithas Hanes Treamlod ddiolch i aelodau’r gymuned sy wedi cyfrannu at y daflen. Arlennir a hwylusir Gweithredu dros Gymunedau Gwledig gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Rural Community Action is funded and facilitated by the Welsh Assembly Government.
Ymchwiliwyd ac ysgrifennwyd y testun gan Gr[p Treftadaeth/Cymdeithas Hanes Treamlod Darluniau gan: Kris Jones Cynllun: Waterfront Graphics PLANED © 2008