CAREW
Lleoedd Mae dau bentref yn cael eu disgrifio yn nhaflen Milton a Carew Cheriton. Pentrefi eraill yw Caeriw ei hun, West Williamston (ym 1362 Williamston Harvill), Sageston (Sagerston ym 1362) a Carew Newton (New Carrewe ym 1471) - gweler Dr B.G.Charles, The Placenames of Pembrokeshire, 1992.
Cyn-hanes Mae gweddillion siambr gladdu sydd, o bosibl, yn perthyn i Oes Newydd y Cerrig yn Cuckoo Stones ger Pincheston a thwmpathau claddu o’r Oes Efydd - Twmpathau Williamston - ar bob ochr i Rosemary Lane. Dywedir bod esgyrn dynol wedi’u darganfod yma o dan garreg fawr tua 1880. Caer o’r Oes Haearn oedd Coat of Arms (above arch) Park Rath. Carew Castle Tower
Cyfnod Cristnogaeth Cynnar Efallai mai bryd hynnw y dechreuwyd defnyddio’r enw, oedd yn tarddu o’r Gymraeg ‘Caer-rhiw’ ‘caer ar riw isel’. Awgrymwyd bod ‘Caeriw’ yn ganolfan arbennig iawn. Mae’r Groes Geltaidd yn gofeb frenhinol o’r 11eg ganrif. Gosodwyd hi ger ei safle presennol ym 1822 a chafodd ei storio yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Gweler Arweinlyfr CADW i Balas yr Esgob Lamphey 1991, sy’n cynnwys adran ar Groes Caeriw.
Y Castell Yn draddodiadol credwyd bod y castell gwreiddiol yng Nghaeriw wedi cael ei adeiladu gan Gerald de Windsor, Normanwr a ddaeth gydag Arnulph de Montgomery, Iarll Normanaidd cyntaf Penfro. Ei ddisgynyddion oedd yn gyfrifol am adeiladu pellach yn y Canol Oesoedd. Roedd y Dywysoges Nest a briododd Gerald de Windsor tua’r flwyddyn 1100 yn ferch i lywodraethwr Cymraeg olaf y rhan hon o Gymru. Un o’u plant, Angharad, oedd mam Gerald de Barri Giraldus Cambrensis - Gerallt Gymro, ysgolhaig a chlerigwr pwysig. Gellir darllen hanes cyfareddol ei daith trwy Gymru ym 1188 gyda’r Archesgob Baldwin o Gaergaint, a oedd yn pregethu’r 3ydd Crwsâd, mewn argraffiad modern.
De Carew Defnyddiwyd yr enw hwn gan fab hynaf Gerald a Nest a’i ddisgynyddion. Morgeisiodd Syr Edward de Carew y castell a’r tir i Rhys ap Thomas, ond yn ystod y 17eg ganrif symudodd y teulu’n ôl i Gaeriw. Eu disgynyddion sef teulu Trollope-Bellew yw perchnogion y castell a’r felin ac eiddo arall o hyd. Mae’r tai o’r enw Kesteven Court yn ein hatgoffa o Thomas Carew 3ydd Barwn Kesteven a fu farw o anafiadau a dderbyniodd ar faes y gad, ar 5 Tachwedd 1915 (gweler y gofeb ryfel).
Reconstructed stone mullion window
Rhys ap Thomas Roedd Syr Rhys ap Thomas yn un o brif gefnogwyr Cymreig Harri Tudur, a ddaeth yn Frenin Harri’r VII ym1485. Cafodd ei urddo’n farchog ar ôl brwydr Bosworth, a chofir amdano yng Nghaeriw oherwydd ei waith adeiladu yn trawsnewid y castell yn balas ac am y twrnamaint mawr a gynhaliwyd ar y 21-25 Mai, 1507 i ddathlu ei dderbyniad i Urdd y Gardas ddeng mlynedd cyn hynny. Dywedir mai hwn oedd y twrnamaint olaf i’w gynnal yng Nghymru neu Loegr. Mae’n rhaid bod y paneli arfbeisiol ar y porth tri llawr sy’n fynedfa i’r neuadd fawr, (gweler gopi gerllaw, o waith John Brock, aelod o’r gr[p hanes lleol) yn deyrnged gan Syr Rhys i’w frenin a’r etifedd. Mae’r panel canol yn portreadu arfbais y Brenin Harri’r VII (gyda milgi Efrog a draig Cadwalader fel cynheiliaid) ac ar bob ochr iddo mae tarianau’r Tywysog Arthur, etifedd y goron, a Catherine o Aragon y gwnaeth y Tywysog ei phriodi ym 1501. (Bu farw Arthur ym 1502, cyn ei dad. Bu gan Catherine swyddogaeth dyngedfennol yn ystod y teyrnasiad a ddilynodd).
Syr John Perrot Roedd yn frodor o Haroldston ger Hwlffordd, ac yn Arglwydd Ddirprwy Iwerddon. Derbyniodd Arglwyddiaeth Caeriw, a dechreuodd ar raglen adeiladu uchelgeisiol iawn yn y castell. Yn wleidyddol gor-gyrhaeddodd ei hun a bu farw yn Nh[r Llundain ym 1592 tra’n disgwyl cael ei roi i farwolaeth.
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro Rhoddwyd y castell a’r tir o’i gwmpas ar lês gan Ystâd Caeriw i’r Awdurdod ym 1984 am 99 mlynedd ac mae rhaglen atgyweirio 14 blynedd wedi ei chwblhau yn ddiweddar (mis Chwefror 1998). Roedd y gwaith adnewyddu yn cynnwys gosod tair o ffenestri cerrig myliynog wedi eu gwneud yn arbennig o garreg Caerfaddon gan adran waith Eglwys Gadeiriol Caersallog. Hefyd, cefnogodd yr Awdurdod raglen bwysig o ymchwil archeolegol. Mae’r Awdurdod yn rheoli’r castell a’r felin fel atyniad i ymwelwyr. Cynhelir amrywiaeth eang o ddigwyddiadau arbennig bob blwyddyn.
Melin Tidal Ni [yr pryd yr adeiladwyd y felin ]d hon sy’n un o fath sy’n brin ym Mhrydain, ond roedd melin mewn bodolaeth ym 1476 a ddisgrifiwyd fel y ‘Mylles Ffrengig’. Ailadeiladwyd y felin yn gynnar yn y 19eg ganrif ac ail-wnaed yr olwyn bresennol yn hwyr yn y 19eg ganrif (gan George Scourfield o Carew Lane). Cofir i’r felin gael ei defnyddio i falu ]d ac esgyrn yn gymharol ddiweddar. Caewyd hi yn 1937. Mae ar lês i Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn awr.
Y Ddyfrffordd
The schooner ‘Good Hope’ on the Carew River, 19th century
Mae pentref Caeriw ar bwynt uchaf y llanw ar un o gilfachau Aberdaugleddau. Nepell uwch y bont (y ceir sôn amdani ym 1592) mae’r ‘Steppes’ (y cyfeirir atynt ym 1576) - hynny yw cerrig camu rhyd. Yn y gorffennol roedd rhythm gwaith yn dibynnu ar y trai a’r llanw. Roedd yn llenwi pwll y felin, dod âr llongau grawn i fyny, yn ffordd o gario glo i lawr yr afon o Gei Cresswell yn annog pysgota ger y Black Mixen (Misken yw’r ffurf leol) ac yn llenwi ‘dociau’ ardal West Williamston. Yn ail chwarter yr ugeinfed ganrif daeth loriau i gystadlu ac yn y diwedd ddisodli’r drafnidiaeth dwr, a daeth cilfachau fel y Gullum yn fannau gorffwys terfynol i gychod megis y Good Hope, Mary Jane, Charlie Pearce a mwy.
Diwydiant Roedd y garreg galch yn ardderchog ar gyfer adeiladu (cafodd Doc Penfro ei adeiladau o garreg Caeriw) a hefyd roedd yn cael ei losgi er mwyn cael calch oedd i’w ddefnyddio mewn nifer o ffyrdd gan gynnwys ei roi ar y tir a gwneud gwyngalch a morter. Aed â’r calch mewn llongau i nifer o leoedd ar hyd arfordir Cymru. Yr ardaloedd chwarelu mwyaf prysur oedd West Williamston a Carew Newton (lle mae carreg galch yn dal i gael ei chloddio o’r tir).
Amaethyddiaeth Y brif alwedigaeth oedd amaethyddiaeth. Mae nifer o ffermydd mawrion yng Nghaeriw. Mae hanes hir i rai ohonynt megis Somerton (sy’n cael ei chrybwyll fel Summerton ym 1363; gyda 224 o erwau yn Rhestr y Degwm1838). Y fwyaf oedd Llandigwinnett gyda bron 370 o erwau.
Ffeiriau Mae W G Spurrell, hanesydd Caeriw yn dweud bod y 5 ffair hynafol a gynhaliwyd rhwng Pont Caeriw a Chroesffordd Caeriw wedi’u ad-drefnu i ddisgyn ar ail ddydd Llun mis Chwefror, mis Mai, mis Awst a mis Tachwedd yn y 19eg ganrif. Buont farw allan tua 1885.
Tollgate Cottage, redrawn from an original at the National Library of Wales
Yr Heol Dyrpeg Roedd Caeriw ar ffordd drwodd bwysig y gwnaeth Ymddiriedolaeth Dyrpeg Sir Benfro (a adwaenwyd yn ddiweddarach fel Ymddiriedolaeth Dyrpeg Tafarnspite) geisio’i gwella o 1771. O fynydd Arberth, roedd yn pasio trwy Templeton a Cresselly i Bont Caeriw ac oddi yno i dref Penfro. Ceir cyfeiriadau at d] dros dro wrth Gât Caeriw ym 1775 pan oedd John Bowen yn geidwad y gât, ac at godi t] tyrpeg yng Nghaeriw ym 1789. Wedi’r dyddiad hwn mae’r cofnodion bron yn dod i ben, ond mae 2 lun yn dangos ty a gât tua 1825 a thua 1840. Ym 1891 roedd y toll-d], Gate Cottage, yn siop.
Tafarndai Mae cyfeirlyfrau tua diwedd y 19eg ganrif yn dangos y Plough Inn yn Sageston, y Castle Inn a’r Carew Inn yng Nghaeriw ac yn West Williamston y Wheaten Sheaf a’r Cardigan. Dywedir bod 5 o dafarndai wedi bod yn West Williamston: y Black Lion, Upper Houses a Williamston Park, yn ogystal â’r 2 a enwir yn y cyfeirlyfrau.
Addoldai Yn Carew Cheriton y mae Eglwys y Plwyf. Fodd bynnag roedd ystafell drwyddedig Anglicanaidd yn West Williamston (t] preifat erbyn hyn). Dau enw lleol sy’n awgrymu cysylltiad crefyddol yw Llandigwinnett (gyda sillafu amrywiol ond mae’r enw Llan yn golygu ‘Eglwys’) a Critchurch. Fodd bynnag mae cysylltiadau’r ddau yn aneglur. Aeth John Wesley trwy Gaeriw ym 1761. Roedd cymdeithas Fethodistaidd a ffurfiwyd ym 1813 yn cyfarfod mewn llofft adeilad yn Carew Villa o 1816. Adeiladwyd y Capel Methodist Wesleaidd presennol ym 1852 am ychydig dros £300. Adeiladwyd yr ysgoldy ym 1883 ac ym 1889 gosodwyd y seddi a’r drysau o binwydd pyg yn y capel.
The three chapels, clockwise from top Wesleyan Chapel, Carew Bridge; Zoar Chapel, Carew Newton; Pisgah, Cresswell Quay
Mae Pisga ger Cei Cresswell yn ferch eglwys i Molleston, canolfan bwysig gan y Bedyddwyr yn Ne Penfro. Cynhaliwyd gwasanaethau ym Mhencoed i ddechrau. Yn ôl Robert Scourfield adeiladwyd y capel ym 1829 a chafodd ei ehangu a’i ail-ddodrefnu (pensaer K.W.Ladd) ym 1877. Rhoddwyd rhydd-ddaliad y capel, yr ysgoldy, y fynwent a’r mans (adeiladwyd ym 1885 yng Nghei Cresswell) i’r eglwys gan Henry Seymour Allen Ysw. Cresselly House. Ym mis Rhagfyr 1922 torrwyd tir newydd pan roddodd Pisga alwad i Miss Annie Davies Lodwick o Lansawel i fod yn weinidog arnynt. Hi oedd y ferch gyntaf i gael ei hordeinio’n weinidog gydag enwad y Bedyddwyr ym Mhrydain. Caewyd Soar, Capel yr Annibynwyr, Carew Newton ym 1994. Wedi ei sefydlu ym 1861, roedd y t] cwrdd cyntaf yng nghroesffordd Carew Newton (sydd erbyn hyn wedi’i droi’n gartref). Adeiladwyd capel ar y safle presennol ym 1865. Ym 1912 codwyd lefel y to ac adeiladwyd festri. Anrheg oddi wrth Syr Thomas Meyrick o Bush oedd tir y fynwent. Gwnaed y rheiliau gan Jack Webb y gôf yn Sageston.
Control Tower in WWII, RAF Carew Cheriton, Sageston Hawker Henley on runway, Bristol Blenheim flying past
Gorffennol i’r Presennol Mae rhai pethau eraill i’ch atgoffa o’r gorffennol: caeau o siâp grwpiau o stribedi; enwau fel Hop Garden; Bartletts Well; hen simdde o steil lleol, y cwbl sydd ar ôl o d], a oedd tan 1870 yn gyfochrog â’r heol, ac ar ôl hynny’n cael ei ddefnyddio fel popty cymunedol (tan 1927); Birds Lane (cyfeirir ati ym 1576); T[r Rheoli’r Awyrlu Brenhinol yn Sageston, yr unig un o’i fath a adeiladwyd yn ystod y rhyfel ddiwethaf yn ôl Deric Brock; Neuadd y Pentref sy’n gofeb i’r rhai hynny a gollodd eu bywydau yn ystod yr Ail Ryfel Byd; ac yn Oriel Ddinas Manceinion darlun o’r castell o gyfeiriad y felin gan Turner, a baentiwyd ym 1795. Roedd yn un o lawer o olygfeydd o’r ardal gan arlunwyr da oedd yn cael eu denu i Gaeriw.
Teithiau Mae meysydd parcio wrth y Castell a’r ochr draw i bwll y felin. Nae llwybr ar draws y caeau i Milton ac Eglwys Carew Cheriton. Dilynwch y llwybrau ar draws y caeau o ddiwedd argae’r felin i Gei Carew, gan ddychwelyd heibio i Gapel Pisga a Carew Newton neu ar hyd y ffordd dawel trwy West Williamston lle mae gwarchodfa natur yn yr hen chwareli calch. Ar yr afonydd llanw edrychwch am rydwyr ac amrywiaeth o greaduriaid y môr.
Dipper
Y Côd Cefn Gwlad Parchwch - Diogelwch - Mwynhewch • Byddwch yn ddiogel - cynlluniwch o flaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi’n eu cael nhw • Ewch â’ch sbwriel gartref, a gofalwch warchod bywyd gwyllt • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Byddwch yn ystyriol o bobl eraill Text researched and written by Carew Local History Group in conjunction with Dyfed Archaeological Trust Design by Waterfront Graphics Illustrations by Geoff Scott Published by SPARC ©