Crymych welsh

Page 1

CRYMYCH


Crymych Lleolir pentref prysur Crymych rhwng y Frenni Fawr a Foel Drygarn, 240 metr/800 troedfedd uwchben y môr. Ystyrir y pentref yn ganolfan ddiwylliannol, addysgol a masnachol i’r pentrefi cyfagos. Mae Mynyddoedd y Preselau oddi amgylch yn gyforiog o chwedlau ac yn ymh[edd y sawl sydd â’i fryd ar gerdded. Pentref Crymych yw tarddle afonydd Taf a Nyfer a blaenddyfroedd Cleddau Ddu.

Enw Defnyddiwyd yr enw Crymych ers yr Oesoedd Tywyll er na ddatblygodd y pentref ei hun nes dyfodiad y rheilffordd. Dros y canrifoedd sillafwyd yr enw mewn amrywiol ffyrdd a cheir nifer o ddamcaniaethau ynghylch ei darddiad. Yr esboniad arferol yw bod yr elfen Crym yn golygu ‘plyg’ ac ych, wrth gwrs, yn cyfeirio at yr anifail o’r un enw. Esboniad arall yw bod Crymych, Crummuch neu Crymig yn enw ar nant. Ceir y cyfeiriad cynharaf mewn disgrifiad o Gantref Cemais yn 1468.

Hanes hynafol Crymych Daethpwyd o hyd i nifer o fwyeill cerrig yn Crymych dyddio o’r cyfnod Neolithig (4400-2300CC) yn yr ardal. Yn y pentref ei hun gwelir crug neu heneb angladdol o’r Oes Efydd (2300700CC) lle byddai g[r pwysig o’r cyfnod wedi’i gladdu. Mae’r bryniau oddi amgylch yn llawn tystiolaeth o anheddu cynnar yn yr ardal. I’r gogledd ddwyrain o Grymych gwelir tair carnedd ar y Frenni Fawr a dau grug gladdu arall y naill ochr. Ar ben Foel Drygarn i’r gorllewin ceir Bryngaer o’r Oes Haearn (700CC-AD43) sy’n amgylchynu tair carnedd fawr yn ôl pob tebyg yn dyddio o’r Oes Efydd. Ceir yno hefyd nifer o feini hirion yn dyddio o’r cyfnod hwn. Mae’r safleoedd hyn o bwys cenedlaethol ac wedi’u diogelu fel Henebion Cofrestredig. Mae’r Mwnt Castell neu’r Domen a adwaenir wrth yr enw ‘Castell Dyffryn Mawr’ neu ‘Parc-y-Domen’ ychydig i’r gogledd orllewin o’r pentref yn dystiolaeth o anheddiad yn ystod yr Oesoedd Canol. Cloddiwyd crug o’r Oes Efydd Ganol yng Nghroes Mihangel yn 1958/9. Daethpwyd o hyd i bedwar wrn lludw ac fe’u cedwir yn Amgueddfa Dinbych-y-pysgod.

Mabinogi - Cadair Macsen Edrydd un o straeon neu fabinogi cynharaf y Cymry am Freuddwyd Macsen Macsen Wledig Wledig, Ymherodr Rhufain, ‘Magnus Maximus’. Wrth freuddwydio gwelodd Macsen Wledig ferch ifanc, brydferth. Wrth syrthio mewn cariad â hi anfonodd negeseuwyr o Rufain i chwilio amdani. Daethant o hyd iddi yn y diwedd yng Nghaernarfon. Teithiodd Macsen i Gymru er mwyn ei chymryd yn wraig iddo. Tra arhosai yng Nghymru penderfynodd yr


Ymherodr fynd i hela yng nghyffiniau Caerfyrddin. Ar ei ffordd yno fe fu’n gwersylla ar ben y Frenni Fawr a hyd y dydd heddiw adwaenir y fan fel Cadair Macsen. Yn un arall o straeon y mabinogi, Culhwch ac Olwen, adroddir hanes y Brenin Arthur yn arwain mintai ar draws y Preselau yn hela’r Twrch Trwyth, brenin Gwyddelig a drowyd yn faedd.

Porthmyn a Ffeiriau Oherwydd ei leoliad ar groesffordd chwe heol, byddai porthmyn yn cyfarfod yng Nghrymych cyn gyrru eu hanifeiliaid i nifer o gyfeiriadau posib. O Grymych gellid teithio i’r gogledd ddwyrain trwy Gastellnewydd Emlyn ac ymlaen i’r Canolbarth a’r Canoldir, ac i’r de ddwyrain trwy Gaerfyrddin ac ymlaen i Lundain a De Lloegr. Gwelir Crymych Arms am y tro cyntaf ar gyfrifiad 1861 er dengys map tiroedd caeedig 1812 bod yna adeilad yno. Dyma lle byddai’r porthmyn yn bargeinio a selio cytundebau yn ystod Ffair Crymych a gynhelid ddwywaith y flwyddyn ar 21 Mai a 8 Medi. Cynhaliwyd ffeiriau’n amlach wrth i’r pentref dyfu. Erbyn 1888 cynhelid dwsin o ffeiriau blynyddol pwysig yng Nghrymych gan gynnwys ffeiriau cyflogi. Cynhelid marchnadoedd ar y dydd Mawrth diwethaf o bob mis. Cynhelir y ffair a g[yl fwyd bresennol ar y dydd Mawrth diwethaf ym mis Awst.

The Old Station

Dyfodiad y rheilffordd Er bod llawer o feidroedd a ffyrdd yn cyfarfod yn y man a adwaenir nawr wrth enw Crymych, prin fod yna bentref yn bodoli nes i’r rheilffordd gyrraedd ac fe’i gelwid yn Iet y Bwlch. Dechreuwyd gosod y cledrau yn Hendy-gwyn-ar-daf ym mis Tachwedd 1870, a chyrhaeddodd Grymych ym mis Gorffennaf 1874. Ond ni agorwyd y rheilffordd yr holl ffordd i Aberteifi tan fis Medi 1886. Adwaenwyd y trên yn lleol wrth yr enw y Cardi Bach, ac roedd y rheilffordd yn 27½ milltir o hyd. Agorwyd y rheilffordd yn wreiddiol er mwyn cludo llechi o Gwarre Glôg a mwyn plwm o Lanfyrnach, er taw cludo cynnyrch amaethyddol oedd yn cynnal y busnes am flynyddoedd lawer. Credir bod y rheilffordd yn cyflogi dros 80 o bobl, yn yrwyr, dynion tân, staff y gorsafoedd a gw]r gwaith cynnal a chadw ar gyfer y trenau a’r cledrau, clercod a goruchwylwyr croesfannau. Byddai nwyddau’n cael eu cludo ar loriau o’r gorsafoedd wedyn. Datblygodd pentref Crymych o amgylch yr orsaf rheilffordd. Ehangodd y farchnad a’r ffeiriau wrth i’r boblogaeth chwyddo a’r cysylltiadau trafnidiaeth wella. Caewyd y llinell reilffordd yn 1963 ac erbyn hyn fe’i datgymalwyd yn llwyr ond mae’r llwybr i’w weld yn amlwg mewn llawer i fan.


Tre’r Cowboi

Crymych Arms

Ehangodd y pentref yn gyflym wrth i ddynion mentrus lleol ddatblygu busnesau megis dilledydd, gwerthwr nwyddau haearn, groser, barbwr, gwerthwr hetiau, crydd a chyfrwywr. Roedd yna ferandâu ar gyfer clymu ceffylau wrth du blaen nifer o’r busnesau. Ymdebygai Crymych i dref yn y Gorllewin Gwyllt gan roi iddo ei lysenw Tre’r Cowbois. Ysbrydolodd hyn Geraint Griffiths i gyfansoddi cân o’r enw ‘Cowbois Crymych’. Roedd gan y pentref ei gyflenwad trydan ei hun mor gynnar â 1928.

Amaethyddiaeth Fe fu amaethyddiaeth yn rhan allweddol o’r economi lleol erioed. Cynhaliwyd y sioe amaethyddol gyntaf yn 1909 a’r dosbarth mwyaf oedd y Gwartheg Duon Cymreig. Sefydlwyd Cymdeithas Amaethwyr Crymych a’r Cylch yn 1908. Lleolwyd y stôr yn yr adeilad sydd nawr yn glwb rygbi. Amcan y busnes oedd ‘Darparu ar gyfer yr aelodau a’r cyhoedd yr angenrheidiau am brisiau a oedd mor agos â phosib at y prisiau cyfanwerthu’. Penodwyd William Jenkins yn rheolwr gweithredol a bu yn y swydd am yn agos i 40 mlynedd. Deuai nwyddau i’r Co-op ar y rheilffordd. Yn 1936 cyflwynodd y Bwrdd Marchnata Tato gynllun ar gyfer cynhyrchu tato had yn ardaloedd Crymych a Boncath. Cefnogid hyn gan reolwr y Co-op a fyddai’n ymweld â’r ffermwyr i’w hannog i gymryd rhan. Yn 1976 unodd Co-op Crymych a’r Ardal â Ffermwyr Clunderwen. Symudwyd y stôr i leoliad newydd ar Heol Hermon.

Neuadd y Farchnad Ffermwyr a gw]r busnes mentrus lleol ffurfiodd ‘Cwmni Neuadd y Farchnad Cyf’ yn 1911. Eu bwriad oedd ‘codi neuadd a fyddai’n ddigon mawr i gynnal marchnadoedd, cyfarfodydd cyhoeddus, adloniant a chyfarfodydd o bob math’. Prynwyd darn o dir yn 1914 ac agorwyd y neuadd yn swyddogol ar 23 Mehefin 1919. Deil trigolion hynaf y pentref i gofio’r marchnadoedd misol prysur, eisteddfodau a chyngherddau mawr, cyfarfodydd gwleidyddol ac arwerthiannau cyson. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd Market Hall defnyddiwyd y neuadd ar gyfer dosbarthu ifaciwîs o Fryste a Hythe yng Nghaint i gartrefi lleol. Fe’i defnyddiwyd hefyd gan y Gwarchodlu Cartref ar gyfer ymarfer saethu a chroesawyd y GI’s Americanaidd i gael coffi a chacennau’n ddyddiol. Dros y blynyddoedd goroesodd yr adeiledd mewn cyflwr da ac mae hynny’n glod i’r adeiladwyr gwreiddiol, Meistri’r Brodyr Young o Langolman.


Capeli

Antioch Chapel

Codwyd Capel yr Annibynwyr, Antioch, yn 1845 ar dir a roddwyd gan ffermwr lleol, a’r fam eglwys oedd Peny-groes. Defnyddiwyd y festri am ddwy awr bob Sul i addysgu plant i ddarllen ac ysgrifennu. Rhoddwyd organ yn y capel yn 1922. Erbyn hyn mae Antioch yn annedd breifat a chynhelir oedfaon yn y festri. Codwyd Capel y Bedyddwyr, Seion, yn 1900, a chyn hynny roedd y gynulleidfa yn cyfarfod mewn tai lleol yn Nheras Llundain a Fferm y Villa. Ei mam eglwys oedd Capel Blaenffos. Agorwyd mynwent newydd yn 1926 a chodwyd y festri yn 1930.

Ysgol y Frenni

Addysg Cyn 1921 byddai’r plant yn mynychu ysgolion Blaenffos a Hermon. Cynhaliwyd yr ysgol gyntaf yng Nghrymych yn Neuadd y Farchnad ac fe’i hagorwyd yn swyddogol ar 3 Ionawr, 1921 gyda 33 o ddisgyblion. Codwyd pared er mwyn rhannu’r dosbarthiadau a defnyddiwyd y brif neuadd ar gyfer chwarae ar dywydd gwlyb. Byddai’r bechgyn h]n yn chwarae ar Barc y Ffair pan fyddai’n sych. Agorwyd ysgol bwrpasol yn swyddogol ym mis Rhagfyr 1933 ar safle’r ysgol bresennol ar y ffordd sy’n dirwyn i Hermon. Cost y gwaith adeiladu oedd £3,200, a darparwyd lle ar gyfer 85 o blant mewn tair ystafell ddosbarth yn ogystal ag ystafell i’r prifathro, 2 ystafell gotiau, a chegin, cegin fach ac ystafell sychu. Byddai plant a lwyddai yn yr arholiad 11+ yn mynd i Ysgolion Gramadeg Aberteifi neu Arberth tra arhosai’r lleill yn yr ysgol gan fynd i Gilgerran un diwrnod yr wythnos ar gyfer gwersi Gwaith Coed a Choginio. Yn 2006 estynnwyd yr ysgol a’i galw yn Ysgol y Frenni er mwyn derbyn disgyblion o ysgolion Blaenffos a Hermon. Ym mis Hydref 1956 dechreuodd y gwaith o adeiladu ysgol gyfun ar gyfer yr ardal ar gost o £160,000. Fe’i hagorwyd ym mis Medi 1958 gan ddarparu llawer o adnoddau ar gyfer maes llafur eang. Fe’i dynodwyd yn ysgol gymunedol o’r cychwyn a chynigiwyd nifer o gyrsiau nos mewn amrywiaeth o bynciau ac roedd yn gartref i nifer o fudiadau cymunedol. Dynodwyd Ysgol y Preseli yn ysgol ddwyieithog swyddogol yn 1990/1. Agorwyd y Ganolfan Addysg Gymunedol yn 1974. Yn ddiweddarach ychwanegwyd y pwll nofio a’r Ganolfan Hamdden, Theatr y Gromlech, Llyfrgell a Chanolfan e-ddysgu.


Diwylliant Ymfalchïa Crymych yn ei thraddodiadau a’i diwylliant Cymraeg. Dynoda’r murlun ar fur Neuadd y Farchnad y Cardi Bach, Twm Carnabwth sef arwr Terfysg y Beca, yn ogystal â delweddau haniaethol o ‘Dail Pren’, yr unig gyfrol o farddoniaeth a gyhoeddwyd gan Waldo Williams. Ar y sgwâr gwelir cerflun llechen yn dynodi’r gefeillio rhwng Crymych a Ploveilh yn Llydaw. Cerfiwyd cerddi gan y beirdd lleol W. R. Evans, Tomi Evans a Wyn Owens ar lechi hefyd. Ganwyd dau fardd nodedig ym Mhentregalar sef D. J. Davies a enillodd gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1932 a T. E. Nicholas, heddychwr digymrodedd a garcharwyd am ei argyhoeddiadau. Ymhlith y gweithgareddau yn Aelwyd ac Adran yr Urdd mae canu corawl, canu gwerin a roc, a chynyrchiadau drama. Perfformia’r aelodau ar radio a theledu’n gyson yn ogystal â chymryd rhan mewn achlysuron a gwersylloedd rhyngwladol, ac maen nhw’n enillwyr cyson yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd hefyd. Bu Côr Cymysg Crymych a’r Cylch yn cystadlu’n llwyddiannus mewn eisteddfodau bach a mawr a theithiodd i berfformio dros y d[r. Sefydlwyd Parti Bois y Frenni yn ystod yr Ail Ryfel Byd a deil i berfformio o hyd. Daw cwmnïau drama o bell ac agos i berfformio yn Theatr y Gromlech. Yn 2007 gefeilliwyd Crymych â Hlotse yn Lesotho.

Y Côd Cefn Gwlad Parchwch - Diogelwch - Mwynhewch • Byddwch yn ddiogel - cynlluniwch o flaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi’n eu cael nhw • Ewch â’ch sbwriel gartref, a gofalwch warchod bywyd gwyllt • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Byddwch yn ystyriol o bobl eraill

Ymchwiliwyd ac ysgrifennwyd y testun gan Gr[p Treftadaeth Crymych Gyda diolch i Dyfed Archaeological Trust Cynllun gan Waterfront Graphics Darluniau gan: Llyr John PLANED © 2009


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.