DALE
Daeareg Dale
Tegeirian
Ffurfiwyd hen greigiau tywodfaen coch yr ardal ar ddiwedd y cyfnod Silwraidd a Defonaidd (420-354 miliwn o flynyddoedd nôl). Ers y cyfnod hwnnw ffurfiwyd y dirwedd gan newidiadau yn lefel y môr. Mae harbwr dwfn Aberdaugleddau a dyffryn Dale yn rhan o brif ffawtlin, y Ffawtlin Ritec. Yn ystod rhewlifiant cynnar (450,000 o flynyddoedd nôl) roedd gorchudd iâ Môr Iwerddon yn ymestyn ar draws Sir Benfro ac yn cyrraedd arfordir gogledd Dyfnaint. Cerfiwyd dyffryn Dale gan rewlif ac wrth ddadmer arllwysai’r gweddillion ar hyd creigiau Gorllewin Dale. Ar ddiwedd yr Oesoedd Ia cododd lefel y môr eto wrth i’r ia doddi a boddi Aber Aberdaugleddau.
Hanes Cynnar Nodwyd nifer o safleoedd cynhanes yn yr ardal. Canfuwyd cerrig tân ar hyd y clogwyni gorllewinol. Ymsefydlodd pobol a dechrau amaethu yn ystod y cyfnod Neolithig (3,500 - 2,000 CC); a daethpwyd o hyd i arfau fflint mwy soffistigedig o’r cyfnod hwn ar nifer o safleoedd ger Fferm Brunt ac maen nhw nawr yn Amgueddfa Dinbych-y-pysgod. Tebyg y daeth efydd i’r ardal trwy fasnachu a daethpwyd o hyd i olion cynnar iawn o anheddiad ‘Bicer’ ar Drwyn Dale tua 790 CC yn ôl y dull dyddio carbon. Ceir tri rhath Oes yr Haearn yn yr ardal a fyddai’n cael eu defnyddio gan y Cymry fel amddiffynfeydd yn erbyn ymosodiadau’r Gwyddelod a’r Llychlynwyr. Mae’r amlycaf o’r tri i’w gweld yn West Dale. Mae’r enw Dale yn tarddu o’r gair Llychlynnaidd am ‘ddyffryn’. Goresgynnwyd yr ardal gan y Normaniaid tua AD1100.
Castell Dale Nid oes cofnodion dibynadwy ynghylch y castell gwreiddiol lle’r oedd y teulu De Vale yn byw tua 1100. Codwyd y t] presennol tua 1700 ac ar ôl hynny fe’i hadnewyddwyd ddwywaith, yr eildro tua dechrau’r ugeinfed ganrif. Ceir adeiladau hynach i’r de o’r t] presennol a oeddent o bosib yn rhan o’r adeilad hynafol.
Castell Dale & Eglwys Sant Iago
Cofnodir mai’r teulu Paynter, o Gernyw yn wreiddiol, oedd perchnogion Arglwyddiaeth Dale, ac yna, trwy briodas, daeth yr Arglwyddiaeth yn eiddo i’r Allens, o Gelliswick, ger Aberdaugleddau. Fe’u holynwyd gan deulu’r Lloyds o Geredigion, ac ar farwolaeth Arglwydd Milford yn 1823 newidiwyd yr enw i Lloyd Philipps. Y perchennog presennol yw Martyn H. B. Ryder, [yr y diweddar Gyrnol Rhodri Lloyd Philipps.
Eglwys a Chapeli Dale Mae eglwys y plwyf, sy wedi’i chysegru i Sant Iago, wedi’i lleoli’n agos at y castell mewn dyffryn cysgodol sy’n cysylltu traethau gorllewinol a dwyreiniol Dale. Gwelir olion canoloesol yng nghorff a changell yr eglwys, a tebyg bod y t[r wedi’i ychwanegu’n ddiweddarach, yn ôl pob tebyg tua 1500. Cafodd yr eglwys ei hailadeiladu’n llwyr yn y ddeunawfed ganrif a’i hatgyweirio eto ar ôl ei tharo gan fellten yn 1889. Cyhoeddwyd taflen Porth yr Eglwys yn nodi hanes yr eglwys. Roedd capeli gan yr Annibynwyr a’r Wesleaid yn Dale o’r ddeunawfed tan yr ugeinfed ganrif. Caewyd y naill, a oedd ar y Cei, a’i addasu’n d] preifat yn y 1960au ac mae olion y llall i’w weld o hyd ger yr hen ysgol.
Porthladd Dale Am ei fod yn cynnig cysgod rhag gwyntoedd y de orllewin mae Dale yn cynnig lle diogel i fwrw angor. Yn y ddeunawfed ganrif roedd Dale yn ganolfan cynhyrchu cwrw ac yn ei allforio i Lerpwl. Cludwyd nwyddau hefyd ar hyd yr arfordir. Ond o’r ddeunawfed ganrif tan ddechrau’r ugeinfed ganrif yr hyn a gludwyd yn bennaf oedd calch, glo a chwlwm (cymysgedd o lwch glo a chlai) i’r traethau lle’r oedd odynnau’n llosgi’r calch ar gyfer y ffermydd lleol. Gwasgarwyd calch er mwyn lleihau asidedd y pridd lleol. Mae Traethau Pickleridge a’r Castell yn enghreifftiau o odynnau nodweddiadol. Roedd yma bysgota masnachol ers o leiaf diwedd y 1500au. Roedd adeiladu cychod hefyd yn ddiwydiant llewyrchus tan ddiwedd y 1960au. Heddiw mae Dale yn ganolfan ar gyfer cychod hamddena d[r a sefydlwyd Clwb Iot a Chanolfan Gwynt a Hwylio yma.
Odyn galch Pickleridge
Safleoedd Milwrol Am ei bod mewn man amlwg wrth geg yr hafan fe fu gan Dale swyddogaeth amddiffynnol ers canrifoedd. Ar 7 Awst 1485 glaniodd Harri Tudur a’i filwyr yn Mill Bay, ac yna gorymdeithio yn ddiwrthwynebiad i Sir Gaerhirfryn, ac ym Mrwydr Maes Bosworth trechwyd Rhisiart III gan Harri i hawlio’r frenhiniaeth. Mewn canrifoedd diweddarach arweiniodd pryder ynghylch goresgyniad posib gelynion at gynlluniau i gryfhau amddiffynfeydd yr Hafan. Yng nghanol y 1800au sefydlwyd West Blockhouse a Dale Point Fort. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gosodwyd llwyfannau magnel ger West Blockhouse. Defnyddiwyd Dale Point Fort yn Orsaf Rybuddio ac yn fan angori ar gyfer trawst amddiffyn yr Hafan. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd yr holl benrhyn bron yn cael ei ddefnyddio at amcanion milwrol. Gosodwyd bocs gwylio concrid yn yr hen oleudy ar Benrhyn Santes Ann a dyna le’r oedd pencadlys Rheolaeth Tân Aberdaugleddau a Gorsaf Rybuddio Rhyfel y Llynges Frenhinol. Yn ddiweddarach gwnaed y goleudy’n bencadlys Gwylwyr y Glannau. Rhan o weddillion gorsaf radar yr Awyrlu yw’r hen gaban ger Fferm Snailton. Lluniwyd glanfa awyrennau i’r gogledd o Dale i’w defnyddio gan Reolaeth Arfordirol yr Awyrlu ar gyfer gweithredu yn erbyn llongau tanfor, ac yn ddiweddarach fe’i defnyddiwyd gan y Llynges i hyfforddi peilotiaid awyrennau, a’i galw yn safle HMS Goldcrest. Gwelir y rhedfeydd o hyd. Hyfforddwyd swyddogion/trywyddion gweithredu radar ar safle Kete, a barhaodd yn Ysgol Hyfforddi Meteoroleg a Chyfeiriadu Awyr y Llynges Frenhinol ac fe’i comisiynwyd fel safle HMS Harrier yn 1948 tan iddi gael ei chau yn 1960.
Goleudy Penrhyn Santes Ann Dywed hanesydd Sir Benfro, George Owen, bod Capel Santes Ann, y credir iddo gael ei waddoli gan Harri Tudur Goleudy yn gydnabyddiaeth am gael glanio’n ddiogel, wedi bod Santes Ann yn dirnod ar gyfer llongau a ddeuai ar hyd yr Hafan. Roedd y capel yn adfail yng nghyfnod George Owen yn 1600 ond roedd y t[r crwn yn dal yno. Yn 1713, ar ôl sicrhau hawl ar brydles oddi wrth Trinity House, aeth tirfeddiannwr lleol, Joseph Allen, ati i godi’r goleudy cyntaf ar Benrhyn Santes Ann. Yn ddiweddarach gosodwyd golau uchel a golau isel i gydweithio er mwyn tywys llongau’n ddiogel ar hyd yr Hafan. Ailadeiladwyd y goleudy presennol yn 1844.
Amaethyddiaeth Prin fu’r newid yn y dull o ffermio yn Dale dros y canrifoedd. Am na cheir rhew ond, yn hytrach, peth wmbreth o haul, mae’r tir ffrwythlon yn cynhyrchu cnydau cynnar o datws, llafur, cnydau porthiant a thir pori da ar gyfer Brân Goesgoch gwartheg godro, gwartheg tew a defaid. Mae’r ffermydd teuluol sydd ar rent, nifer ohonyn nhw’n dyddio nôl i’r canol oesoedd, nawr yn eiddo i Ystâd Castell Dale. Mae’r holl dir yn Dale yn cael ei ffermio o hyd ond mae peiriannau modern yn golygu nad oes cymaint o alw am weision ffermydd mwyach.
Melin Wynt Dale Roedd y t[r crwn anarferol sydd ag ochrau byr, oleddol, a muriau cerrig, trwchus, ar ochr ogleddol Dale, yn felin a oedd yn malu yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn ôl traddodiad llafar roedd yna [r, a gollodd ei olwg yn ystod Rhyfeloedd Napoleon, yn goruchwylio’r ailadeiladu, ac mae’n bosib ei fod wedi ei ddylanwadu gan gynlluniau melinoedd gwynt o’r cyfandir. Cafodd yr adeilad ei restru o werth hanesyddol yn 1997 ac mae’r gwaith o’i adfer ar y gweill. Deil nifer o feini melin yno ac mae rhai yn cynnwys calch Ffrengig Burrstone.
Yr ysgol
Addysg
Dengys cofnodion bod addysg wedi cychwyn yn Dale o bosib yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn ôl cyfrifiad 1841 nodwyd mai’r ysgolfeistres oedd Ann Stephens. Erbyn 1846 roedd un o ysgolion cylchynol Madam Bevan yn darparu peth addysg ar gyfer 72 o blant trwy ymddiriedolaeth elusennol. Hen sgubor ar gyfer storio llafur oedd yr ysgoldy, wedi’i rhoi ar fenthyg a’i dodrefnu gan y tirfeddianwr, Mr Lloyd Philipps. Penodwyd Mr William Edwards yn brifathro pan gwblhawyd adeilad newydd yn 1876 ac roedd nifer y disgyblion yn para’n sefydlog. Yn 1940/41 daeth yr ifaciwis. Codwyd tai yn y pentref ar gyfer teuluoedd y llynges ar ôl comisiynu safle Kete yn 1944. Wedi 1946 roedd pob plentyn dros 11 oed yn mynychu ysgolion uwchradd yn Aberdaugleddau. Wedi cau Kete yn 1960 gostyngodd y nifer. Ymunodd plant Marloes â Dale yn 1963 ond lleihaodd y niferoedd dros y blynyddoedd nes i’r ysgol gau ei drysau yn 2003. Mae plant cynradd heddiw yn mynychu ysgolion Llanisan-yn-Rhos a Herbrandston. Yn 1947 gwnaed Dale Fort yn ganolfan ar gyfer Cymdeithas Astudiaethau Maes Gorllewin Cymru. Roedd y ganolfan yn trefnu cyrsiau i hyrwyddo addysg a chadwraeth ar draws cefn gwlad naturiol Gorllewin Cymru. Yn 1961 prynwyd y ganolfan gan y Cyngor Astudiaethau Maes sy’n dal i drefnu cyrsiau megis bioleg môr.
Cei Brig
Bywyd yn Dale mewn dyddiau fu Mae yna nifer o Adeiladau Rhestredig Gradd 2 yn Dale. Yn ogystal â’r eglwys, castell, goleudy, caerau, odynnau calch a melin wynt mae’r hen adeiladau o amgylch y ‘Cei Brig’ a’r tai fferm mwyaf bron i gyd yn dyddio o’r ddeunawfed ganrif ac wedi’u codi yn yr arddull Sioraidd gwledig. Fe fyddai’r eglwys, y capeli neu’r ysgol yn ganolbwynt ar gyfer cynnal cyngherddau, partïon, dramâu, gyrfaoedd chwist, dawnsfeydd, dangosiadau a ffestau. Cefnogir gweithgareddau o’r fath o hyd heddiw. Bwthyn y Felin Roedd tafarn y pentref, neu dafarndai am fod cofnodion yn awgrymu bod tua 14 o dai tafarn yma ar un adeg - yn fannau cyfarfod cyfeillgar yn cynnig cyfle i dorri syched ar ôl diwrnod caled o waith ar y tir neu’r môr. Heddiw mae’r Griffin Inn a’r Clwb Iot yn parhau â’r traddodiad. Uchafbwynt y flwyddyn ar un adeg oedd Ffair Dale, â’i bwdin enwog - reis trwchus llawn hufen yn gyforiog o syltanas a rhesins. Cynhelid cystadlaethau a mabolgampau ynghyd â stondinau, teithiau ffair, cerddoriaeth a goleuadau llachar gan ei wneud yn achlysur gwir lawen. Parhaodd yr arfer trwy gynnal carnifalau a regatas mewn cyfnod diweddar. Roedd siopau a gweithdai hefyd yn rhan hanfodol o’r pentref; agorwyd swyddfa bost yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dyna le cedwid teleffon cyntaf y pentref. Byddid yn dal a gwerthu pysgod a chimychiaid yn Broga Dale - Arwyddlun Dale lleol. Roedd yna gigydd, teiliwr, crydd, dilledydd, haearnwerthwr, adeiladydd badau a gof yma hefyd, yn ogystal â groseriaid cyffredinol yn gwerthu pob math o nwyddau’n amrywio o ganhwyllau i gaws.
Y Côd Cefn Gwlad Parchwch - Diogelwch - Mwynhewch • Byddwch yn ddiogel - cynlluniwch o flaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi’n eu cael nhw • Ewch â’ch sbwriel gartref, a gofalwch warchod bywyd gwyllt • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Byddwch yn ystyriol o bobl eraill Ymchwiliwyd ac ysgrifennwyd y testun gan Gr[p Treftadaeth Dale Darluniau gan J Williams · Cynllun gan Waterfront Graphics PLANED © 2007