ARBERTH
Narberth Town Hall
Arberth yn y dyddiau cynnar Tyfodd tref Arberth o amgylch muriau ei gastell cerrig, ond mae enw’r dref yn h]n na’r castell ei hun. Arberth oedd yr enw ar yr ardal (neu gwmwd) cyn dyfodiad y Normaniaid. Clywir atsain o’r etifeddiaeth Geltaidd hon yn y Mabinogi hefyd, a gofnodwyd yn y bedwaredd-ganrif-ar ddeg, ond a deilliodd o draddodiad llafar h]n. Mae dwy gangen o’r Mabinogi wedi eu lleoli yn Arberth, llys honedig Pwyll, Pendefig Dyfed.
Narberth Castle
Castell ac Arglwyddiaeth Cysylltir Arberth, a chestyll eraill, gyda gwladychiad y Normaniaid. Yn raddol bach, gyrrwyd y Cymry brodorol tua’r gogledd, a chodwyd llinell o amddiffynfeydd o Roch i Amroth, er mwyn gwarchod eu tiroedd. Daeth y llinell hon i gael ei hadnabod fel y ‘Landsker’, gair Norseg yn golygu terfyn neu ffin. Er i system arglwyddiaethau y Canol Oesoedd ddod i ben, parhau wnaeth y pwerau maenorol. Yng nghanol yr ail ganrif ar bymtheg, cafodd George Barlow o Slebets yr arglwyddiaeth gan y goron, ac arhosodd yn ei deulu hyd at ddiwedd y 18fed ganrif, pan werthwyd y stâd i Nathaniel Phillips. Ei ferch ef a briododd y Barwn de Rutzen. Daliodd y teulu hwn afael ar yr arglwyddiaeth hyd at farw’r Barwn olaf yn yr Ail Ryfel Byd.
Addysg Erbyn 1718, ’roedd boneddigion y plwyf, o dan arweiniad Syr John Philipps o Picton, wedi sefydlu’r ysgol gynharaf y gwyddys amdani yn Arberth gydag arian a adawyd gan y Rheithor. O’r flwyddyn 1764, cynhaliwyd hefyd ysgolion cylchynol o bryd i’w gilydd. Yn y 19eg ganrif, mae’n ymddangos i Arberth gael nifer o ysgolion cyn unrhyw fath o system genedlaethol. Sefydlwyd Ysgol Brydeinig yng Nghapel Tabernacl; daeth yn Ysgol Fwrdd yn 1871, gan symud yn ddiweddarach i safle’r Ysgol Gynradd bresennol. Agorwyd Ysgol yr Eglwys yn 1869, ac ni chaeodd tan y 1960au pan symudodd y disgyblion i’r Ysgol Gynradd. ’roedd Ysgol Ramadeg gyntaf y dref, a gychwynnwyd gan ddyn lleol, John Morgan, ar un adeg yn cael ei chynnal yn festri’r Tabernacl, ac yn ragflaenydd Ysgol Sirol Ganolraddol Arberth.
Ffyrdd a Thrafnidiaeth Saif Arberth ar ddwy ffordd bwysig: y ffordd ddwyrain i’r gorllewin o Gaerfyrddin i Hwlffordd, a’r ffordd fasnachol hynafol o Ddinbych-y-Pysgod i Aberteifi. Gwelodd y 18fed ganrif gynnydd mewn trafnidiaeth, yn bennaf oherwydd chwarel galch Yr Eglwys Lwyd a gwaith glo Sir Benfro; o ganlyniad, dirywio wnaeth cyflwr y ffyrdd. Yn 1771, sefydlwyd Cwmni Tyrpeg Tafarnspite i gynnal a chadw’r brif ffordd trwy Tafarnspite ac Arberth. Codwyd tollbyrth, yn cynnwys un ger Narberth Bridge (yn Mill Lane) ac un yn Redstone Road (yn Plain Dealings). Sefydlwyd Cwmni Tyrpeg Hen D] Gwyn ar Daf yn 1791. Daeth y tollbyrth hyn yn un o dargedau Helyntion Beca 1839-43: mudiad a sefydlwyd yn sgîl yr aniddigrwydd a deimlwyd ymhlith y gymdeithas amaethyddol. Ymosodwyd ar nifer o dollbyrth lleol, yn ogystal â wyrcws Arberth. Yn y diwedd, daeth y ffyrdd yn gyfrifoldeb yr awdurdod lleol.
Marchnadoedd a Ffeiriau Yn 1688, caniataodd lago II siarter brenhinol i Syr John Barlow, fel arglwydd y faenor, gan ganiatáu i Arberth gynnal marchnad wythnosol a thair ffair yn flynyddol. Parhau wnaeth y farchnad wythnosol, a chynyddu fu hanes y ffeiriau. Yn ystod y 18fed ganrif a blynyddoedd cynnar y 19eg ganrif, byddai porthmyn yn prynu gwartheg yn Arberth yn rheolaidd, gan eu gyrru i farchnadoedd Lloegr; ond erbyn diwedd y 19eg ganrif, trenau oedd yn cludo da byw. Ar un adeg, gelwid Stryd Sant Iago yn ‘Sheep Street’, ac ar ddiwrnodau marchnad, byddai corlannau defaid ar hyd y stryd gyfan. Adwaenid y Stryd Fawr fel Pig Market Street, nes y symudwyd y farchnad foch i safle’r mart; ’roedd gwartheg a cheffylau yn cael eu clymu yn y Stryd Fawr. ’Roedd pob math o fwydydd ac eitemau i’r t] ar werth yn Sgwâr y Farchnad: byddai gwragedd fferm yn gwerthu wyau, ymenyn a chaws, tra byddai pysgotwragedd Llangwm yn gwerthu cocos, wystrys a samwn. Yn ystod y 19eg ganrif, tyfodd y dref, ac ymsefydlodd nifer o grefftwyr: gofaint, seiri certi, nyddwyr, gwehyddion, teilwriaid, gwneuthurwyr hetiau, cryddion, oriadurwyr a bragwyr i enwi ond ychydig. Ar un adeg, ’roedd gymaint â 30 t] tafarn yn y dref!
Y Dref Mae’r adeiladau, sydd heddiw i’w gweld yn ymestyn ar hyd y strydoedd o Sgwâr y Farchnad, yn dyddio o’r cyfnod o ddechrau’r 19eg ganrif, er efallai fod iddynt seiliau cynharach. Mae’r Drang yn cysylltu Stryd Sant Iago a Gerddi’r Ffynnon. Mae Back Lane, yn dyddio mae’n debyg yn ôl i’r Oesoedd Canol. Mae’r ffordd drefol, gul, hon wedi cadw’i chymeriad hyd at heddiw, a saif cefn-gefn â gerddi tai’r Stryd Fawr.
Twneli Fel mewn llawer o drefi hynafol, ceir yma draddodiad o dwneli. Gellir profi dilysrwydd un twnel o’r fath o dan Arberth gan ddigwyddiad yn gynnar yn yr 20fed ganrif, pan grwydrodd buwch i fewn i un ohonynt; rhaid oedd ei hachub oddi yno.
1. Neuadd Tref Arberth Safai adeilad ar y safle yn 1833, a rhestrwyd ef, fel ‘t] carchar gydag ystafell uwchben iddo lle y cynhaliwyd llysoedd ynadon a chyfarfodydd lleol.’ Erbyn 1858, cofnodwyd bod Neuadd y Dref yn dadfeilio, felly symudwyd y llysoedd ynadon a sirol i adeilad llys newydd. Daeth neuadd y dref wedyn i’w hadnabod fel y Mechanics Institute gyda llyfrgell, ac ystafell ddarllen a hamdden. Ychwanegwyd t[r y cloc yn 1881, ac yn 1912 adeiladwyd y Bethesda llawr uchaf. 2. Capel Bedyddwyr Bethesda Cychwynnodd mudiad Bedyddwyr Sir Benfro yn hwyr yn yr 17eg ganrif, gyda chyfarfodydd yn Rushacre, Arberth, cartref Griffith Howell. ’Roedd capel Bedyddwyr cyntaf Arberth (1808) yn gangen o gapel Molleston. Dengys cofnodion i gapel newydd gael ei godi yn 1837, oherwydd cynnydd mawr yn y cynulleidfaoedd, ac eto yn yr 1880au hwyr pan gafodd t] ac ysgoldy eu codi yn ogystal.
Bloomfield House
3. Plas Hyfryd Defnyddiwyd Plas Hyfryd fel Rheithordy rhwng 1902 a’r 1950au, ond yr enw arno bryd hynny oedd Belmore House. 4. Bloomfield House Adeiladwyd Bloomfield House yn 1819 fel cartref bonheddwr. Y preswylydd olaf, oedd Miss Lewis-Lloyd, a roddodd y caeau cyfagos i’r dref. Am oddeutu chwarter canrif, y t] hwn oedd pencadlys Cyngor Dosbarth Gwledig Arberth; heddiw, mae’n ganolfan chwaraeon a chymunedol brysur iawn.
5. Eastgate House Yn ystod y 1840au bu’n ysgol breifat yn cynnig hyfforddiant i ddynion ar gyfer y weinidogaeth ymneilltuol. Yn ddiweddarach, bu’n gartref i Hubert a Howard James, a adeiladodd un o’r awyrennau cyntaf yng Nghymru. 1913 oedd blwyddyn eu hediad cyntaf ym mhentref cyfagos Clunderwen, a phenderfynnodd y ddau ar ôl hynny i godi ffatri awyrennau yn Arberth; ond drylliwyd eu cynlluniau gan y Rhyfel Mawr, gan i’r ddau ymuno â’r Llu Awyr Brenhinol. 6. Adeiladwyd Hen Gapel y Methodistiaid Wesleaidd yn 1905. Defnyddir yr adeilad bellach fel Neuadd y Seiri Rhyddion.
7. Ysgol Ganolraddol y Sir Agorwyd adeiladau parhaol yn 1896. Adeiladwyd at yr ysgol yn 1908, gan wneud cyfraniad aruthrol i addysg leol. O ganlyniad i’r ad-drefnu ar ôl yr Ail Ryfel Byd, fe ddaeth yn Ysgol Uwchradd Fodern hyd at ei chau yn 1986. Trowyd yr hen adeiladau yn weithdai, a defnyddir hwy bellach gan ddynion busnes lleol a PLANED. 8. Gorsaf Reilffordd Arberth Yn y 1860au, cafwyd caniatâd i adeiladu lein rheilffordd rhwng Hen D] Gwyn ar Daf a Dinbych-y-Pysgod.Torrwyd twnel drwy fryncyn Blackaldern – dipyn o gamp peiriannyddol ar y pryd. Agorwyd Gorsaf Arberth yn 1866, ac adeiladwyd t]’r orsaf yn 1878. ’Roedd ‘Ben y Bws’ yn ffigwr adnabyddus yn y dref rhwng y 1920au hwyr a’r Ail Ryfel Byd; arferai redeg tacsi ceffyl rhwng y dref a’r orsaf reilffordd. Library
9. Llyfrgell Arberth Codwyd yr adeilad hwn o gwmpas 1811 fel Capel Methodist Wesleaidd yn wreiddiol. O 1905 hyd at y 1930au hwyr, defnyddiwyd yr adeilad fel llys y sesiwn fach, gyda gorsaf heddlu a th] carchar drws nesaf.
Tabernacle
10. Eglwys Unedig Ddiwygiedig y Tabernacl Sefydlwyd eglwys yr Annibynwyr yn 1817, ac adeiladwyd y capel gwreiddiol flwyddyn yn ddiweddarach. Agorwyd yr adeilad presennol yn 1859, o flaen y capel cyntaf. Galwyd Tabernacle Lane (wrth ochr y capel) yn Occupation Lane yn ystod y 19eg ganrif, efallai oherwydd i’r ffordd gael ei cherdded gan bobl leol yn mynd i’w gwaith. 11. Sgwâr y Farchnad oedd canolbwynt y gweithgarwch ar ddiwrnodau marchnad a ffair, gyda masnachwyr lleol yn rhes ar hyd y strydoedd. Hyd at y 1850au, safai t] o’r enw Island House ynghanol y sgwâr. Dadorchuddiwyd y gofeb yn 1924. Ychwanegwyd enwau dynion lleol a fu farw yn yr Ail Ryfel Byd yn ddiweddarach. Goleuwyd y lamp standard drydan am y tro cyntaf ym 1900 i ddathlu rhyddhad Mafeking.
12. Y Rutzen Arms Adeiladwyd y Rutzen Arms gan y Barwn de Rutzen yn 1833, ar safle tafarndy llai. Pan oedd ffordd y goets fawr i’r gorllewin yn cludo teithwyr trwy Arberth, ’roedd hon yn dafarn brysur. Fe’i drowyd yn fflatiau yn ddiweddar. Y Barwn a’r Farwnes oedd yn gyfrifol am adeiladu neuadd y farchnad y tu ôl i’r gwesty ym 1832. Daeth yr adeilad ysblennydd hwn i’w adnabod fel Neuadd Fictoria, a’i bwrpas oedd denu masnachwyr rhag gwerthu ar y strydoedd. Defnyddiwyd y neuadd hefyd fel sinema, neuadd ddawns a chanolfan fotelu i fragwyr lleol, James Williams, cyn ei ddymchwel yn ddiweddar. The Courthouse
13. Y Llys Adeilad pwrpasol oedd y Llys, a gwblhawyd yn gynnar yn y 1860au. Defnyddiwyd ef fel llys sirol, ac yn ddiweddarach fel llys ynadon hyd at ei gau yn 1991. 14. Castell Arberth (Gweler Castell ac Arglwyddiaeth)
15. Eglwys y Plwyf Andreas Sant ’Roedd Eglwys y Plwyf Andreas Sant yn bodoli mor gynnar â 1249. Erbyn 1879, ’roedd yr eglwys mewn cyflwr bregus, ac fe’i hail-adeiladwyd yn gyfangwbl heblaw am y t[r gwreiddiol a rhan o’r mur gogleddol. Cyfrannodd y Frenhines Fictoria £100 tuag at y costau. 16. Eglwys Gatholig y Glân-Genhedliad yn wreiddiol, yn 1869, ysgol Eglwys Loegr (neu Genedlaethol). Fe ddaeth yn eglwys yn 1981. 17. Fferm y Plas Prin yw olion y plasdy cyfnod Elizabeth a adeiladwyd mae’n debyg gan John Vaughan cyn 1582. Etifeddwyd y t] yn ddiweddarach gan ei ferch hynaf a’i g[r, John Elliot o Gastell Amroth. ’Roedd ynddo 6 lle tân yn 1670, oedd yn ei wneud yn d] mwya’r dref. Mae’n debyg taw’r nodwedd fwyaf hynod ynddo oedd t[r dau-lawr sy’n ymddangos yn llun-gerfiad Buck yn 1749. ’Roedd y teulu Elliot yn berchen ar y ran fwyaf o’r tir i’r gorllewin o Arberth, gan gynnwys y Town Moor, a roddwyd i’r dref yn y 18fed ganrif.
‘As Rhiannon lay sleeping’ from the Mabinogion
18. Amgueddfa Wilson Agorwyd Amgueddfa Wilson yn 1989, yn hen swyddfeydd James Williams (Arberth). Enwyd yr amgueddfa er cof am Desmond Wilson, cyn Reolwr-Gyfarwyddwr y busnes. Sefydlwyd James Williams fel busnes gwin a gwirodydd yn 1830, a hyd at ddiwedd y 19eg ganrif bu’r cwmni’n bragu a botelu ei gwrw ei hun. Mae casgliad yr amgueddfa yn adlewyrchu hanes cymdeithasol y dref yn y canmhynedd a hanner ddiwethaf.
Y Côd Cefn Gwlad Parchwch - Diogelwch - Mwynhewch • Byddwch yn ddiogel - cynlluniwch o flaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi’n eu cael nhw • Ewch â’ch sbwriel gartref, a gofalwch warchod bywyd gwyllt • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Byddwch yn ystyriol o bobl eraill Text researched and written by Narberth residents & members of Narberth Society in conjunction with Cambria Archaeology Design by Waterfront Graphics Illustrations by J Murphy & Geoff Scott SPARC © 2002