TREFDRAETH
Cyflwyniad Gorwedd tref hynafol Trefdraeth rhwng llethrau Carn Ingli i’r gogledd a glennydd aber Afon Nyfer i gyfeiriad y de, wedi’i amgylchynu gan dirweddau amrywiol a phrydferth. Mae’r wlad yn y fan hon ar gyrion Mynyddoedd y Preselau, o fewn unig Barc Cenedlaethol Arfordirol Prydain, ac yn gyforiog o hanes lleol a bywyd gwyllt. Mae’r llwybrau hwylus yn galluogi ymwelwyr i fwynhau’r dref, y mynyddoedd cyfagos a’r golygfeydd arfordirol. Cynigia’r dref amrywiaeth o atyniadau o safleoedd claddu cynhanes i ganolfan eco modern (1). Mae lleoliad Trefdraeth yn ei gwneud yn fan poblogaidd ar gyfer ymweld â Gogledd Sir Benfro gyfan.
Gwreiddiau Trefdraeth Ceir llawer o dystiolaeth am breswylwyr cynnar. Mae Carreg Coetan Arthur (2) yn siambr gladdu Neolithig neu gromlech. Mae caer a chabannau crwn Oes yr Haearn ar Garn Ingli a Charn Ffoi. Dywedir bod Sant Brynach wedi dringo i ben Carn Ingli i ‘gyfathrachu â’r angylion’ yn y chweched ganrif. Enw Saesneg Trefdraeth yw Newport sy’n golygu porthladd newydd. Roedd yr anheddiad cynnar yn Parrog ac yn ddiweddarach sefydlwyd tref ‘filwrol’ gan y Normaniaid.
Carn Ingli o’r aber
Castell a Barwniaeth Trefdraeth (3) Gwnaed Trefdraeth yn fwrdeistref Normanaidd, o fewn Arglwyddiaeth Cemaes, yn gynnar yn y drydedd ganrif ar ddeg. Mae’n debyg mai cloddiau pridd ar siâp cilgant, a adwaenir wrth yr enw Hen Gastell (4) ar aber yr afon i’r gogledd o Gastell Trefdraeth, oedd lleoliad pencadlys pren cyntaf William Fitz Martin (dyna ei gartref ar ôl cael ei erlid o Nanhyfer gan y Tywysog Rhys ap Gruffydd yn 1191). Cododd gastell ar safle’r castell presennol ond fe’i dinistriwyd gan Llywelyn Fawr yn 1215 ac eto yn 1257 gan Llywelyn ap Gruffudd. Fe’i codwyd o gerrig wedyn ond fe’i dinistriwyd eto gan Owain Glynd[r pan gododd y Cymry rhwng 1400 a 1409. Roedd yr hynafiaethydd adnabyddus, George Owen, yn Farwn Cemaes yn ystod diwedd y bymthegfed a dechrau’r unfed ganrif ar bymtheg. Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg cafodd annedd preifat ei greu yn yr hyn a oedd yn weddill o’r porthdy. Deil Cwrt Lît y Farwniaeth i gyfarfod hyd y dydd heddiw, a bob dwy flynedd mae Arglwyddes bresennol y Faenor yn defnyddio ei braint i ddewis maer y dref. Ym mis Awst cyflawnir y ddefod o gerdded y ffiniau pan fydd heidiau o drigolion lleol yn cerdded o amgylch ffiniau’r plwy. (Nid yw’r castell yn agored i’r cyhoedd).
Amaethyddiaeth Nifer o fwrdeisiaethau gyda lleiniau cul yn y tu blaen ar hyd y strydoedd oedd Trefdraeth yn wreiddiol. Ar bob safle tir bwrdais roedd yna annedd wedi’i godi o gymysgedd o glai a gwellt, ac roedd yna ddigon o dir i godi cnydau a chadw ychydig o anifeiliaid. Roedd nifer o’r lleiniau yn ymestyn hyd at rewynau wedi’u hagor â llaw, yn rhedeg yn gyfochrog â’r strydoedd oedd yn rhedeg o’r gogledd i’r de, gan roi i Drefdraeth ei batrwm canoloesol pendant. Roedd yn ofynnol i ddalwyr tir bwrdais, a elwid yn fwrdeiswyr, i fynychu’r Cwrt Lît (byddid yn eu dirwyo os oedden nhw’n absennol), i falu eu llafur ym Melin y Castell (5) ac, am doll, caniateid iddyn nhw werthu eu cynnyrch ym marchnad y dref. Yn 1434 roedd yna 233 o Sgwar-y-Coleg fwrdeisiaethau ond erbyn 1594 dim ond 50 o’r rhain oedd yn drigiadwy. Roedd ffermio defaid yn bwysig yn yr ardal erioed ond ar ôl cyflwyno’r Ddeddf Cau Tiroedd yn 1801 collodd pobol eu hawliau pori anifeiliaid. Arweiniodd nifer o gynaeafau gwael at brinder bara ac ymfudodd llawer o’r trigolion i America. Yn ddiweddarach yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg dechreuodd Trefdraeth ffynnu unwaith eto wrth i’r fasnach llongau ddatblygu.
Parrog a’r Fasnach Môr Mae yna dystiolaeth yn mynd nôl i’r unfed ganrif ar bymtheg yn dangos bod Parrog yn borthladd masnach, ac mae gwlân a brethyn oedd dwy ran o dair o’r allforion. Ar y pryd roedd llechi’n cael eu cloddio o’r clogwyni cyfagos (6) a’u hallforio. Yn y 1740au allforiwyd sgadan i Fryste, Wexford, a Dulyn ac mor bell â gwledydd Môr y Canoldir. Sgadan o Drefdraeth ac Abergwaun oedd yn bwydo byddinoedd Brenhines Elisabeth I yn Sbaen. Byddai llongau’n dod i mewn ar lanw uchel ac yn gorwedd ar y lan wrth i’r llanw droi. Dengys hen luniau’r cargo’n cael ei lwytho ar geirt a dynnid gan geffylau. Adeiladwyd llongau ar hyd yr aber yn y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Y sl[p un mast a’r brig dau fast oedd y llongau mwyaf cyffredin. Y mewnforion pennaf yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd calch, glo a chwlwm. Codwyd sguboriau i ddelio â’r fasnach hon. Mae’r unig un sy wedi goroesi yn gartref i Glwb Hwylio Trefdraeth (7) erbyn hyn. O’r 1850au roedd nifer o borthladdoedd Sir Benfro’n dirywio o ganlyniad i ddyfodiad y rheilffyrdd. Parhaodd masnach yn Nhrefdraeth tan 1934. Y llong Angus yn cludo glo oedd yr olaf i ddefnyddio harbwr Trefdraeth.
Parrog
Odynnau Calch Mae’r pridd yn Sir Benfro’n eithriadol o sur. Roedd ffermwyr yn gwasgaru calch ar eu caeau mor gynnar â’r unfed ganrif ar bymtheg. Cludwyd cerrig calch ar y môr o dde’r sir, ei losgi mewn odynnau uwchben tân cwlwm, ei oeri a’i gludo i’r tir. Mae cwlwm, sy hefyd yn tarddu o’r de, yn gymysgedd o lwch glo caled a chlai, wedi’i gymysgu â d[r a’i wasgu â llaw yn belenni. Llosgid hwn ar aelwydydd yn ogystal ag yn yr odynnau. Yn wreiddiol, roedd llawer o odynnau calch yn Nhrefdraeth ond dim ond dau sy ar ôl, a’r ddau yn odynnau dwbl. Gwelir un gyferbyn â Threfdraeth ar ochr ogleddol Afon Nanhyfer (8) ac mae’r llall yn Parrog (9), drws nesaf i fwthyn y llosgwr calch.
Eglwys y Santes Fair (10) Codwyd eglwys blwyf Trefdraeth yn y drydedd ganrif ar ddeg gan William Fitz Martin, [yr y goresgynnydd cyntaf yng Nghemaes. Erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd adeilad yr eglwys mewn cyflwr gwael. Yn 1879 adnewyddwyd ac ail-adeiladwyd yr eglwys i’w chyflwr presennol. Yr unig ddarnau sy ar ôl o’r adeilad Normanaidd yw’r t[r cadarn, bedyddfaen Normanaidd clustog-debyg mewn cyflwr da a dysgl garreg ar gyfer dal d[r sanctaidd. Mae ffenestri gwydr lliw atyniadol Fictoraidd yn coffau cyn rheithorion yn ogystal â John Morgan, prifathro Ysgol Madam Bevan am 47 mlynedd. Ceir dros 1,000 o feddau yn y fynwent eang a cheir cyfeiriadau at deuluoedd morwrol ar dros 200 ohonynt. Gwelir arysgrif croes Cristnogol gynnar, o’r chweched neu’r seithfed ganrif, yn ôl pob tebyg, ar garreg dalsyth ger y drws gorllewinol. Daethpwyd o hyd i’r garreg yn cael ei defnyddio fel post iet ger Fferm y Cnwcau.
Eglwys Santes Fair
Capeli Trefdraeth Mae pedwar capel yn Nhrefdraeth. Yr hynaf yw Ebenezer (11), capel yr Annibynwyr yn Heol Fair Isaf, a sefydlwyd yn 1743 a’i ail-adeiladu yn 1844. Codwyd Capel Eglwys y Santes Fair (12) yn Heol Fair Uchaf yn 1799 at ddefnydd y Methodistiaid a’r rhai nad oedden nhw’n Fethodistiaid. Pregethodd John Wesley, sylfaenydd y mudiad Methodistaidd, yn Eglwys y Santes Fair sawl gwaith. Yn 1811 gwahanodd y Methodistiaid oddi wrth yr Eglwys Anglicanaidd a bu rhaid iddyn nhw fwrw ati i godi eu capel eu hunain, Tabernacle (13), yn Heol Hir yn 1815. Roedd y Bedyddwyr yn cynnal gwasanaethau mewn t] preifat yn Stryd y Bont Uchaf yng nghanol yr ail ganrif ar bymtheg. Codwyd Capel Bethlehem (14) yn yr un stryd yn 1789, a thrigain mlynedd yn ddiweddarach cafodd ei ail-adeiladu pan osodwyd y ffenestri tal Gothig sy’n dal yno heddiw.
Addysg Sefydlwyd yr ysgol gyntaf yn Nhrefdraeth yn Sgwâr y Coleg (15) yn 1809 yn enw’r sawl a’i hariannodd, Madam Bevan o Dalacharn. Roedd yn rhan o fudiad cenedlaethol yr ‘Ysgolion Cylchynol’, a sefydlwyd i roi cyfle i blant mewn cymunedau gwledig i gael addysg, ac er mwyn cynnal y Gymraeg. Addysgwyd athrawon yno hefyd. Parodd Ysgol Ganolog Madam Bevan tan 1870 pan luniwyd y Ddeddf Addysg. Mae’n annedd breifat erbyn hyn. Agorwyd yr Ysgol (16) Fwrdd yn 1875 yn Heol Fair Isaf a’i ehangu yn 1914. Agorwyd yr ysgol bresennol yn Heol Hir yn 1993.
Pen Dinas
Y Neuadd Goffa a’i Odyn Grochenwaith Ganoloesol (17) Codwyd y Neuadd i gofio am ddynion Trefdraeth a roes eu bywydau yn y Rhyfel Mawr. Sefydlodd Dr David Havard, Maer Trefdraeth, 1917-1920, Gronfa ‘Ein Bechgyn Ni’ i godi arian i’w hadeiladu. Rhoddwyd y safle gan ei fam, Mrs Margaret Havard, ac aeth gwragedd Trefdraeth ati i godi arian ychwanegol er mwyn codi llyfrgell ac ystafell ddarllen. Agorwyd y Neuadd yn 1922. Wrth baratoi’r sylfeini ym mis Ionawr 1921 daeth adeiladwyr o hyd i ddwy odyn grochenwaith o’r bymthegfed ganrif, ac, erbyn hyn, deallir mai dyna’r unig odynnau crochenwaith Cymreig canoloesol i’w darganfod. Mae un o’r odynnau’n dal yn gyfan o dan lwyfan y neuadd.
Y Bont Haearn (18) Codwyd pont gerrig gyda chwe bwa yn y drydedd ganrif ar ddeg. Fe’i dymchwelwyd yn yr unfed ganrif ar bymtheg yn ystod pla, yn ôl pob tebyg, er mwyn rhwystro pobol rhag cyrraedd Trefdraeth. Defnyddiwyd croesfan o gerrig camu, y gellir eu gweld o hyd ar lanw isel, yn ogystal â rhyd ar gyfer croesi. Codwyd y ‘bont haearn’ wreiddiol yn 1890 a gosodwyd un arall yn ei lle yn 1998. Mae’r fan hon erioed wedi bod yn boblogaidd ar gyfer gwerthfawrogi’r golygfeydd a gwylio adar yr aber.
Ffeiriau, Marchnadoedd a Masnachwyr Rhoddwyd hawl i gynnal ffeiriau a marchnadoedd yn Nhrefdraeth gan yr Arglwyddi Normanaidd, ac roedden nhw’n elwa o’r tollau a dalwyd am bob creadur a werthwyd, a phob stondin a godwyd. Ffair bwysicaf y flwyddyn oedd Ffair Gurig, Ffair Sant Curig, ar ddiwedd mis Mehefin, a chynhelir wythnos ffair flynyddol Trefdraeth ar yr adeg hynny o hyd. Yng nghanol yr unfed ganrif ar bymtheg roedd Trefdraeth yn allforio gwlân a brethyn wedi’i wehyddu’n lleol yn bennaf, ac roedd ei harbwr yn darparu hafan ar gyfer
llongau masnach bychain a deithiai ar hyd yr arfordir. Dirywiodd y fasnach brethyn am nifer o resymau, yn eu plith lleihad yn y boblogaeth (oherwydd pla yn ôl pob tebyg) a chystadleuaeth oddi wrth nwyddau rhatach o Loegr, ond cynyddodd allforion cnuoedd gwlân. Roedd y fasnach forwrol yn llewyrchus erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac roedd gwlanen a brethyn yn allforion pwysig eto. Codwyd llawer o dai mwyaf y dref yn ystod y cyfnod hwn gan gapteiniaid môr a masnachwyr. Rhestrwyd 28 o ffermwyr ym mhlwyf Trefdraeth a dros 70 o fasnachwyr eraill yn cynnwys pobyddion, gofaint, seiri coed, dilledyddion, haearnwerthwyr, bragwyr, asiant gweryd, melinwyr, gwehyddion, ac ati, a hyd yn oed ffotograffydd, ac 17 o dai tafarn yng Nghyfeiriadur Cymru a Lloegr 1875. Ni fyddai rhai o’r tafarndai’n agor eu drysau oni bai bod yna long yn y porthladd! Heddiw, mae gan Drefdraeth fwy o siopau na llawer o gymunedau o’r un maint. Cydnabyddiaeth: ‘The Ancient Borough of Newport in Pembrokeshire’, gan Dillwyn Miles
Y Côd Cefn Gwlad Parchwch - Diogelwch - Mwynhewch • Byddwch yn ddiogel - cynlluniwch o flaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi’n eu cael nhw • Ewch â’ch sbwriel gartref, a gofalwch warchod bywyd gwyllt • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Byddwch yn ystyriol o bobl eraill
Ymchwiliwyd ac ysgrifennwyd y testun gan Gr[p Treftadaeth Trefdraeth Darluniau gan Roger Hill Cynllun gan Waterfront Graphics PLANED © 2007