DINBYCH-Y-PYSGOD
Dinbych - ‘Caer Fach’ Ar Castle Hill fwy na 10 canrif yn ôl roedd caer. Fe’i disgrifir mewn penillion Cymraeg ‘Moliant Dynbych Penfro’ (gweler dehongliad ar ffurf murlun ar Castle Hill). O’r gaer y cafodd Dinbych-y-pysgod ei enw. Dangosir pa mor ddiamddiffyn yr oedd yr arfordir gan enwau lleoedd Llychlynnaidd fel Caldey, a chraig Goscar ar draeth gogleddol Dinbych-y-
Dinbych (reconstruction)
pysgod.
Ynysoedd Ynys fynachaidd oedd Ynys B]r o gyfnod cynnar Cristnogaeth hyd gyfnod diddymu tai crefyddol yn ystod teyrnasiad Harri’r VIII (1509-47). Sefydlwyd cymuned bresennol urdd ddiwygiedig y Mynaich Gwynion ym 1929. Yr oedd yr adeilad ar St Catherine’s yn rhan o amddiffynfeydd Aberdaugleddau. Cychwynnwyd ar y gwaith adeiladu ym 1867. Gwarchodfa adar yw St Margaret.
Yr Oesoedd Canol Mae hanes Dinbych-y-pysgod sydd ar gof a chadw yn cychwyn gyda goresgyniad Penfro a’r diriogaeth gyfagos gan y Normaniaid ddiwedd y 11eg ganrif. Lle y bu’r ‘gaer’, adeiladwyd castell, y soniwyd amdano gyntaf ym 1153. Tua’r tir mawr roedd ffos a rhagfur uchel o bridd yn amgylchu’r dre. Ond yn raddol disodlwyd y rhain gan furlenni carreg cryfach, tyrau a phyrth a amddiffynnid yn gadarn. Roedd gweithiau amddiffynnol yn gwarchod pen draw’r porthladd a’r culdir sy’n cysylltu’r dref â Castle Hill. Ym 1457 trosglwyddodd Iarll Jasper Tudur y muriau i’r dinasyddion. Ar adeg dyngedfennol yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau (1471), rhoddwyd lloches yn y dref i Jasper a’i nai Harri Tudur (Harri’r VII yn nes ymlaen), pan oeddynt yn Lancastriaid ar ffo cyn iddynt hwylio i alltudiaeth. Bu iddynt ddychwelyd ym 1485 a gorymdeithio i Bosworth lle y gorchfygwyd Rhisiart III.
Y Fwrdeistref Cyflwynwyd breintiau gan Ieirll Penfro a Brenhinoedd Lloegr. Cedwir rhai o’r siartrau yn Amgueddfa Dinbych-y-pysgod. Gwnaeth siarter Elisabeth I ym 1581 Ddinbych-y-pysgod yn fwrdeistref gorfforaethol, a chaniatáu ffair tri diwrnod i ddathlu G[yl St Margaret. Mae sêl gyffredin dinasyddion Dinbych-y-pysgod, yn dyddio o’r 14eg neu’r 15ed ganrif: y blaen o bosibl yn cynrychioli porth Gogleddol y dref; a’r cefn yn dangos llong, symbol o fasnach môr Dinbych-y-pysgod.
The Borough Seal
Masnach Ariannwyd y gwaith o gynnal a chadw muriau’r dref gan dollau brenhinol ar fynediad i’r porthladd yn y 14eg a’r 15fed ganrif ac felly hefyd y gwaith o amgáu’r porthladd gan lanfa garreg grom, y safai Capel St Julian yn agos i’w phen draw. Hwyliai morwyr canoloesol ar hyd yr arfordir i ganolfannau fel Bryste a hefyd i Iwerddon, Llydaw, gorllewin Ffrainc, Portiwgal a Sbaen, gan allforio llwythi o lo, crwyn a gwlân a dychwelyd gyda deunydd cynfas, haearn, halen, pyg, llinau, gwin, finegr ac olew. Yn ystod y 16eg ganrif yr oedd masnach â threfi arfordirol fel Bryste, Barnstaple ac Ilfracombe yn dra phwysig. Effeithiwyd yn ddrwg ar Tudor Merchants House fasnach gyfandirol gan ryfeloedd oes Elisabeth; er hyn, yr oedd orenau ymysg y mewnforion a gofnodwyd o Bortiwgal ym 1566.
Rhyfeloedd Cartref 1642-1649 Heblaw am gyfnod byr ym 1643-4, yr oedd Dinbych-y-pysgod yn nwylo’r Senedd yn ystod y rhyfel cartref cyntaf. Pan oedd yn nwylo’r Goron ym 1643 ymosodwyd ar y dref o’r môr gan longau’r Senedd a oedd yn cefnogi ymdrech Rowland Laugharne i ennill tir, ymdrech a fu’n aflwyddiannus. Dychwelodd Laugharne a gorchfygodd y dref ym 1644. Yn ystod yr ail ryfel cartref (1648) cafodd rhan o lu gwrth - Cromwell, oedd ar ffo ers Brwydr Sain Ffagan, loches yn Ninbych-y-pysgod. Daeth hyn â Seneddwyr yn cynnwys Oliver Cromwell i’r ardal, ac wedi gwarchae aeth y dref a’r castell i ddwylo Cyrnol Horton o’r Fyddin Fodel Newydd.
Newid Swyddogaeth Dirywiodd masnach Dinbych-y-pysgod yn y 17eg ganrif oherwydd pla a rhyfel cartref a’r lle cynyddol bwysig a oedd gan Fryste. Fodd bynnag, yn ystod y 18fed ganrif, gwelwyd diddordeb cynyddol yn nodweddion iachusol y môr.
Syr William Paxton 1745-1824 Cyfrannodd Syr William Paxton o Neuadd Middleton yn Sir Gaerfyrddin, at y gwaith o adfywio Dinbych-y-pysgod. Ym 1805 cymerodd dir uwch y porthladd ar brydles i ddarparu baddonau d[r hallt ac Ystafelloedd Ymgynnull. Ceir dyfyniad Groegaidd sy’n cyfieithu fel a ganlyn, ‘mae’r môr yn golchi afiechydon dyn i ffwrdd’, uwchben drws yr hen faddondy, T] Laston. Daeth hyn yn arwyddair arfbais Dinbych-y-pysgod. Ymysg projectau eraill yr oedd y cyflenwad d[r a’r system ffyrdd, ac ailadeiladu’r Globe Inn (T] Dinbych-y-pysgod bellach) fel t] cain i deulu yn y dref.
Cyrchfan Gwyliau Yn ystod dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg cyrhaeddai ymwelwyr mewn coets neu ar y môr drwy Fryste ar gyfer y tymor gwyliau, oedd yn ymestyn o fis Mai i fis Hydref. Yr oedd dewis eang o adloniant yn cynnwys dawnsfeydd, rasio ceffylau, bowliau, saethu, biliards, ystafelloedd cardiau, Laston House theatr fechan yn Frog Street ac ymdrochi yn y môr. Gorymdeithiai’r gymdeithas ffasiynol ar y Croft a Castle Hill a nodai’r Rhestr Ymwelwyr y flaenoriaeth ar gyfer gadael cardiau galw. Ar wahân i rai teuluoedd sirol, nid oedd y bobl leol yn rhan o hyn; ond eu diwydiant hwy ydoedd. Cynyddodd y boblogaeth o tua 1000 ym 1801, i tua 3500 ym 1851 pan oedd Dinbych-y-pysgod mor fawr ag Eastbourne.
Tenby beach in the 19th century
Gyda cyrhaeddiad y rheilffordd clustnodwyd ardal Clogwyn y De fel ardal i’w datblygu. Hefyd deuai’r trenau ag ymwelwyr undydd a chynyddwyd yr ystod o adloniant. Adeiladwyd glanfa a llwyfan i’r band i ddathlu Jiwbili Deimwnt Brenhines Fictoria ym 1897. Uchafbwynt tymor y gaeaf oedd Wythnos yr Helfa, gyda’i dawnsfeydd a digwyddiadau yn y theatr. Bu’r cynnydd mewn moduron preifat yn ddylanwad newydd yn y blynyddoedd 1918-1939. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd yr oedd Dinbych-y-pysgod yn wersyll ar gyfer milwyr dan hyfforddiant yn cynnwys rhai o Wlad Belg ac Americanwyr, ond ar ôl y rhyfel, dychwelodd yr ymwelwyr. Addaswyd sawl t] mawr yn westy ac ymddangosodd safleoedd carafanau fel datblygiadau ar diroedd fferm. Datblygodd ystod o atyniadau hamdden o’r radd flaenaf yn y cyffiniau. Mae patrwm mynd ar wyliau wedi newid ond erys Dinbych-y-pysgod yng nghategori uchaf cyrchfannau gwyliau i deuluoedd.
Y Prif Adeiladau Eglwysig Cofnodwyd Eglwys y Santes Fair am y tro cyntaf tua 1210, ond mae’n debyg bod eglwys ar y safle cyn hynny. Mae’r meindwr gwych, 152 troedfedd o uchder, yn un o’r tirnodau lleol. Mae’r rhan fwyaf o’r ffenestri yn dyddio o gyfnod gwneud gwaith adfer ar yr eglwys yn ystod oes Fictoria. Cofnodwyd caniad o bum cloch ym 1659 ac mae pedair o’r clychau presennol yn dyddio’n ôl i 1789. Mae cloch o’r 15fed ganrif, a grogai unwaith y tu allan i’r meindwr i seinio’r cyrffyw, bellach yng Nghapel St Thomas. Mae’r cloc yn nodi dathlu Jiwbilî Aur Brenhines Fictoria ond cofnodwyd y cloc cyntaf ym 1650. Credir mai adfeilion y mur gyda’r ddau fwa i’r gorllewin o’r eglwys yw unig weddillion adeilad coleg. Ymysg llawer y ceir coffâd amdanynt yn yr Eglwys mae Robert Recorde a anwyd c.1510 yn Ninbych-y-pysgod, mathemategwr ac ysgolhaig amlwg, a dyfeisiwr yr arwydd ‘hafal i’. Adeiladwyd yr Eglwys Gatholig Rufeinig y tu allan i’r Pum Bwa ym 1893. Ymysg yr eglwysi eraill ceir Eglwys Bedyddwyr Deer Park, a agorwyd ym 1885, ac Eglwys Ddiwygiedig Unedig Sant Ioan, Capel Annibynwyr yn wreiddiol, a adeiladwyd yn 1868. Mae man cyfarfod Byddin yr Iachawdwriaeth ar Upper Park Road ar safle Capel gwreiddiol y Bedyddwyr.
Gorsaf Dywydd Arsylwyd y tywydd yn swyddogol yn Ninbych-y-pysgod ers 1892, a chyhoeddir y cofnodion yn ddyddiol yn y Times a gellir eu gweld yn Archifau’r Swyddfa Feteorolegol yn Bracknell. Lleolir y thermomedrau a’r mesurydd glaw ger y Clwb Golff, ac mae’r mesurydd heulwen ar y castell.
Cychod Cychod agored a adeiladwyd yn Ninbych-y-pysgod oedd lygars, ac fe’i defnyddid yn bennaf ar gyfer pysgota gwialen a rhwydau drifft a rhwydo wystrys (yr oedd masnach fawr ar eu cyfer).
Tenby Lugger
Yr oedd y lygars hyd at 25 troedfedd o hyd. Yr oeddent bron i gyd o’r un cynllun a rig, ac fel arfer byddai criw o ddau arnynt. Yr oedd 49 o lygars Dinbych-y-pysgod yn cael eu defnyddio ym 1891. Mae gan fadau achub Dinbych-y-pysgod hanes o bron i gant a hanner o flynyddoedd. Yn ystod y cyfnod hwn gwelwyd dros ddeuddeg o fadau achub, tair gorsaf bad achub, ac achubwyd cannoedd o fywydau. Mae traddodiadau teuluol yn gryf yn y gwasanaeth, a derbyniodd nifer o w]r y badau achub wobrau dewrder cenedlaethol. Mae Dinbych-y-pysgod hefyd yn orsaf gwarchodwr y glannau.
Naturiaethwyr Oes Fictoria Arweiniodd y diddordeb mewn astudiaeth natur ac yn enwedig glogwyni a thraethau blaen Dinbych-y-pysgod a Bae Caerfyrddin, at nifer o naturiaethwyr amlwg yn ymweld â’r dref. Yn eu mysg oedd T. H. Huxley a P. H. Gosse; yr oedd ei lyfr ‘Tenby a Seaside Holiday’ yn llyfr hanfodol ar gyfer ymwelwyr ffasiynol. Drwy’r 19eg ganrif ymddangosodd astudiaeth natur yn amlwg mewn arweinlyfrau lleol.
Rheilffyrdd Agorwyd Rheilffordd Penfro a Dinbych-y-pysgod i gludo’r cyhoedd ym 1863. Gwnaed y cyswllt â phrif linell De Cymru ym 1866, pan gwblhawyd llinell Dinbych-y-pysgod i Hendy-gwyn ar Daf.
Albert Memorial on Castle Hill
Artistiaid ac Awduron Ar ddiwedd y 18fed ganrif fe’i gwnaed yn anodd i deithio dramor gan y Chwyldro Ffrengig â’r rhyfeloedd â Ffrainc, ac edrychodd pobl yn nes adref. Dros y blynyddoedd daeth Dinbych-ypysgod yn gyrchfan cynyddol boblogaidd ymysg teithwyr cyfoethog, artistiaid ac ysgrifenwyr enwog. Ym mysg y rhain yr oedd J.C. Ibbetson, J.M.W. Turner, Walter Savage Landor, William Powell Frith, George Eliot (Mary Ann Evans), Lewis Carroll, Beatrix Potter, Roald Dahl, Laurie Lee, Anthony Devas a Dylan Thomas. Mae’r llyfr ‘Etchings of Tenby’ gan yr artist Charles Norris a gyhoeddwyd ym 1812 yn rhoi golwg gwerthfawr ar yr hen dref cyn dyfodiad ffotograffiaeth. Magwyd yr artistiaid enwog rhyngwladol Gwen ac Augustus John yn Ninbych-y-pysgod.
Adeiladau Hanesyddol Rhestrir bron i 300 o adeiladau Dinbych-y-pysgod fel adeiladau o ddiddordeb hanesyddol a phensaernïol.
Cylch Cyfeillion y Trefi Caerog Sefydlwyd y Cylch hwn yma ym 1991. Bellach mae ganddo tua 150 o aelodau mewn bron i 30 o wledydd. Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag Amgueddfa Dinbych-y-pysgod (sefydlwyd 1878).
Bywyd Gwyllt a Blodau Mae’r pyllau creigiog a’r glannau tywodlyd yn gartref i amrywiaeth eang o folysgiaid, crancod, bedrys, pysgod bach o’r enw gwyniaid môr, llyfrothod, ac anemoni môr. Mae’r dyfroedd dyfnach yn gartref i sêr y môr a chorryn-grancod mwy. Gellir gweld sglefrod môr y lleuad weithiau wedi’u golchi ar y lan gyda broc môr, fel pwrs y fôr-forwyn (chwilerod morgathod a morgwn) chwilerod gwichiaid moch, broc môr a gwymon. Mae gwylan y penwaig, yr wylan gefnddu leiaf, a’r fulfran yma drwy’r flwyddyn, ac mae eraill fel yr wylog a gweilch y penwaig yn ymwelwyr dros yr haf. Weithiau gellir gweld y frân goesgoch a morloi llwyd. Mae blodau gwyllt yn nodwedd o’r clogwyni a’r llwybr arfordirol. Mae tegeirian porffor y gwanwyn yn blodeuo mewn mannau cysgodol. Plannwyd moresg a helygen y môr ar rannau o’r twyni ar hyd Traeth y De i leihau’r erydu. Mae Cennin Pedr Dinbych-y-pysgod yn flodyn bach, melyn tywyll, sy’n blodeuo’n gynnar. Sonnir am ddau safle hanesyddol fel cartref Cennin Pedr Dinbych-y-pysgod - Fferm Holloway, Penally a Knightson, i’r gogledd o Dinbych-y-pysgod. Mae rhai bylbiau’n tyfu Tenby ar y safleoedd hyn o hyd ac mae’n amlwg mai’r rhain yw’r clonau Daffodils gwreiddiol.
Y Côd Cefn Gwlad Parchwch - Diogelwch - Mwynhewch • Byddwch yn ddiogel - cynlluniwch o flaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi’n eu cael nhw • Ewch â’ch sbwriel gartref, a gofalwch warchod bywyd gwyllt • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Byddwch yn ystyriol o bobl eraill
Text researched and written by Tenby 2020 Environment and Heritage Group in conjunction with Cambrian Archaeology Design by Waterfront Graphics Illustrations by Kris Jones, Geoff Scott & Neil Ludlow SPARC © 2007