CASBLAIDD
Taith Ddarganfyddol Croeso i Ogledd Sir Benfro. Mae gan y rhan yma o’r Sir hanes sy’n ymestyn yn ôl i ddechrau amser. Fe’i lleoli’r ar ddwy ochr Ceunant Trefgarn, gyda’i chreigiau Cyn Gambrian amlwg, yn nodi’r rhaniad rhwng y ‘Welshry’ o Ogledd Sir Benfro, a’r ‘Englishry’ o’r De fel eu disgrifiwyd yn tro gan George Owen, Henllys. Mae gennym gyfoeth o olion hanesyddol, ac fe ellir dweud bod bron bob carreg a chraig, feidr a chae, plâs, bwthyn, eglwys a chapel yn dyst i gyn drygolion a’u gweithgareddau.
Hanes cynnar yr ardal Mae’r Faen Hir cynhanesyddol, a’r Garn o’r Oes Efydd yn dyst o bresenoldeb dynol cynnar yn yr ardal. Tua ddwy ganrif yn ôl darganfyddodd gwas fferm olion adeilad a dybiwyd i fod yn Fila Rhufeinig-Brydeinig. Cloddiwyd y safle ar yr adeg gan Richard Fenton, yr hynafiaethydd o Sir Benfro. Roedd llawer o cyfoeswyr Fenton yn gwrthod credu bod yr olion yn Rhufeinig, oherwydd credwyd na fentrodd y Rhufeiniaid erioed mor bell i Orllewin Cymru. Er hynny, mae’r cloddio diweddar wedi profi mai olion fferm RhufeinigBrydeinig ydynt, yn gyffredin yn Lloegr a rhannau eraill o Gymru ond yn brin iawn yn Sir Benfro.
Carreg Ogam
Y Cyfnod Canoloesol Castrum Lupi oedd enw ar y pentre a’r Faenor Canol Oesol yng Nghasblaidd. Mae’r castell mwnt a beili yn dyddio o’r ddeuddegfed ganrif ac efallai fe’i hadeiladwyd o fewn olion caer o’r Oes Haearn. Sefydlwyd mynachdy Sisteraidd yn Nhrefgarn Bach rhwng 1144 a 1151, gan yr Esgob Bernard o Dyddewi. Byr iawn fu ei oes, gan i’r mynachod symud yn fuan i Hendy-Gwyn-arDâf lle sefydlwyd abaty. Ceir yn ‘Llyfr Du Tyddewi’ (1326) ddarlun eglur o Gasblaidd yn y Canol Oesoedd yn dangos poblogaeth amrywiol o Normaniaid a Chymry. Yn ogystal â gweithio ar y tir, gwelir fod y trigolion yn fedrus ar grefftau perthnasol fel y dengys yr enwau a gofnodwyd, er enghraifft Adam y Gof, Walter y Melinydd a John y Gwehydd.
Addoldai Cysegrwyd Eglwys Sant Dogfael i’r Sant enwedig yma o’r chweched ganrif. Yn wreiddiol yn cynnwys ond cangell a chorff eglwys syml, fe’i ehangwyd yn y Canol Oesoedd diweddarach. Heddiw mae’r fynwent yn gartref i garreg Ogam o’r chweched ganrif, er mai nid dyma oedd ei safle gwreiddiol. Adeiladwyd Eglwys Sant Margaret yn y Fwrd yn 1627 gan Margaret Symmons o Fartel, Casmael, i’w thenantiaid lleol a oedd yn gorfod teithio cryn bellter i fynychu eglwys. Fe’i hadnewyddwyd yn y 1700au diweddaru gan William Knox o Lanstinan. Cysegrwyd Eglwys Trefgarn i Sant Michael. Mae’r adeilad presennol yn dyddio o gyfnod Fictoria, ond mae yna fedyddfaen canoloesol, a Thomas Powell oedd y Reithor cyntaf a gofnodir yn 1535.
Capel Penybont
Cafodd Capel Annibynol Penybont yn y Fwrd ei sefydlu yn wreiddiol yn 1807 fel cangen i Drefgarn Owen, Breudraeth. Ychydig flynyddoedd yn gynt yn 1797, fe ddechreuodd y Parchedig Thomas Skeel gynnal oedfaon pregethu yn rheolaidd yn lle a elwir bellach yn Hen Fferm y Fwrd. Adeiladwyd Penybont gan y trigolion lleol. Credir bod cerrig ar gyfer y capel wedi cael eu cymeryd o safle’r fila Rhufeinig Brydeinig. Ail
adeiladwyd y capel yn 1907.
Meibion Enwog Fe’i awgrymir mai yn Nhrefgarn Fach y ganwyd Owain Glynd[r (1346-1416) arweinydd gwrthryfel y Cymry o 1400 i 1406. Gwreiddyn y stori yma yw bod teulu ei fam yn dirfeddianwyr yn yr ardal. Ganwyd Joseph Harries ym mhlwyf Llantyddewi yn 1773, ac ef oedd sylfaenydd Seren Gomer, yr wythnoslyn Cymraeg cyntaf yn 1814. Yn bregethwr gyda’r Bedyddwyr, ysgrifennodd nifer o emynau, traethodau crefyddol ac esboniadau.
Melin Nant y Coy Mae melin lafur wedi bod yn Nant y Coy, ar yr ochr Ogleddol o Geunant Trefgarn, ers o leiaf 1326. Mae’r adeiladau presennol yn dyddio yn ôl i 1844, pan gafwyd ailadeiladu helaeth ar y felin. Melin Nant y Coy Mewnforiwyd y meini melin Ffrenig a geir yma o Baris, hyd yn oed adeg y Rhyfeloedd Napoleonaidd. Y tro olaf i lafur gael ei falu yma oedd ym mhumdegau’r ganrif ddiwethaf. Gorffenwyd y gwaith o atgyweirio’r meini a’r olwyn yn 1991 ac yn ddiweddar mae gwaith ychwanegol wedi cael ei wneud.
Plâs Sealyham Ail adeiladwyd y Plâs nifer o weithiau ar yr un safle, ac mae’r adeilad presennol yn dyddio yn ôl i tua 1830. Mae’r cofnod cynharaf o deulu’r Tucker yno yn dyddio o 14051407. Yn 1700au daliodd y Llyngesydd Thomas Tucker long drysor Sbaeneg yn India’r Gorllewin, ac fe’i gwobrwywyd gyda swm sylweddol o arian a alluogodd iddo brynu rhagor o eiddo yn yr ardal. Datblygwyd Daeargi Sealyham yn yr 1800au gan y Capten Jack Edwards ar gyfer hela moch daear. Heddiw mae’r Plâs yn cael ei ddefnyddio fel Canolfan Gweithgareddau’r Awyr Agored.
Plâs Sealyham
Daeargi Sealyham
Ysgol Casblaidd Codwyd yr Ysgol yn 1834, a chredir bod hon yn un o’r hynaf yng Nghymru. Yn y cynllun gwreiddiol darparwyd ystafell ddosbarth i’r merched ac un i’r bechgyn, gyda th]’r prifathro yn y canol. Pan agorwyd yr ysgol yn gyntaf, nid oedd adran y merched wedi cael ei gwblhau, ond roedd yno le i 14 o fechgyn y plwyf. Mae’r rhan fwyaf o’r adeilad gwreiddiol yn dal i sefyll heddiw, ond gyda ychwanegiad o’r adnoddau diweddaraf mae’r disgyblion presennol yn derbyn addysg sy’n briodol i’r 21 ganrif.
Ysgol Casblaid
Ffynnon Casblaidd
Ffynnon Casblaidd
Ar y ffynnon ceir yr ysgrifen canlynol yn Gymraeg. ‘ADEILADWYD Y FFYNNON HON MEWN COFFADWRIAETH AM C.G.W.E. EDWARDES, SEALYHAM, GAN EI WEDDW. BU FARW A.D. 1902.’ (THIS FOUNTAIN WAS BUILT IN FOND REMEMBRANCE OF C.G.W.E EDWARES, SEALYHAM, BY HIS WIDOW. HE DIED A.D. 1902) Mae’r ffynnon, a fu unwaith yn ffynnonhell i dd[r y pentref, yn rhedeg unwaith eto, ond drwy gymorth pwmp trydanol bellach.
Diwydiant lleol Amaethyddiaeth sydd wedi bod yn brif gynhaliaeth erioed i’r economi leol ac yn brif gyflogwr, ond er hynny mae diwydiant hefyd wedi cynnig cyflogaeth. Yn wreiddiol roedd Cwarel Llechi Sealyham ond yn rhan o eiddo’r ystâd, a ni ddechreuwyd ehangu masnachol hyd yr 1820au. Ond methiant bu hanes y fenter oherwydd cwymp yn y prisiau, a gorffenwyd ar y gwaith o gwmpas troad y ganrif. Mae olion y Cwarel i’w gweld o hyd yng Nghoedwig Sealyham.
Cwarel Trefgarn Wrth deithio ar hyd yr A40 ger Ceunant Trefgarn ni welir braidd un arwydd o leoliad Cwar Trefgarn (rhan o Ystâd Trefgarn unwaith) a oedd hyd y 1960au yn fynnonhell bwysig i gyflenwi cerrig ar gyfer adeiladaeth ffyrdd. Mae natur wedi ail ennill y safle gan orchuddio’r creigiau moel gyda amrywiaeth o dyfiant, a gorlifiant wedi creu llyn diarffordd cysgodol. Symudwyd symiau enfawr o wenithfaen caled iawn (andocite) ac yn 1953 mewn arbrawf symudwyd 30,000 tunnell, digon o waith am chwe mis. Mae’n anodd credu nawr bod yna fframwaith dros y ffordd un tro yn cario tramiau llawn o gerrig o’r cwarel i gael eu malu, a bod yna linell ganghennol yn cysylltu â’r brif rheilffordd a bod dynion gyda baneri coch yn stopio trafnidiaeth pan fod ffrwydro yn cymryd lle. Cafodd carreg o gwarrau arall ei brosesi yno tan 1970au pan rhoddwyd y gorau iddi ac fe’i gwerthwyd o’r diwedd i Ganolfan Weithgareddau Sealyham ar gyfer can[io.
Dyfodiad y rheilffordd Rheswm arall am fethiant economaidd y cwarel llechi oedd diffyg trafnidiaeth digonol. Cynlluniwyd i adeiladu Rheilffordd De Cymru lawr i Abergwaun yn 1844, ond yn hwyrach newidiwyd hwn i Abermawr, ac yn hwyrach eto i Neyland ar y Cleddau. Er hynny yn 1905, ffrwydrwyd agoriad a chwblhawyd y gwaith anodd o agor ffordd drwy Geunant Trefgarn (cafodd un o’r gweithwyr ei ladd). Yn y flwyddyn olynol agorwyd y ffordd newydd o Clarbeston Road i Abergwaun, gan gwblhau’r cysylltiad â’r porthladd, ac yn dilyn yn rhannol y ffordd drwy Geunant Trefgarn y bu rhaid i Brunel rhoi’r gorau iddi ym 1849. Agorwyd gorsafoedd Casblaidd, Welsh Hook, Mathry Road a Threfwrdan yn 1913, a chafwyd gwasanaeth i deithwyr a nwyddau, ond fe’u collwyd oherwydd toriadau Beeching yn 1960au. Yn eu hanterth, roeddent yn gyflogwyr sylweddol.
Mae nhw’n dweud… Y Wagen Ddanllid: Roedd dyfodiad y rheilffordd wedi cael ei ddarogan. Yn y 1700au cafodd Sarah Bevan o Drefgarn weledigaeth o ‘restr o wagenni yn rhuthro lawr canol y ceunant, ychydig yn uwch na’r afon, gyda’r wagen gyntaf ar dân, gyda m[g a fflamau yn Pont Ford dod allan ohoni’. Roedd hynny chwedeg mlynedd cyn i’r trên stêm gael ei ddyfeisio… Yr ogof i Dyddewi: Ar yr ochr ddeheuol o Fynydd Mawr Trefgarn mae yna ogof fach, mynediad y dywedir i rwydwaith sy’n arwain cyn belled a Thyddewi, rhyw ddeuddeg milltir i ffwrdd. Ar un achlysur aeth ci i mewn ac fe feddyliwyd ei fod wedi mynd ar goll. Peth amser ar ôl hynny, clywodd wraig s[n crafu o dan y garreg aelwyd wrth iddi ysgubo llawr ei bwthyn yn Nhyddewi. Pan godwyd y garreg - fe gripiodd ci allan - yr un a gollwyd yn Nhrefgarn… Yr eliffant: Mae’r hanesyn am eliffant syrcas a gafodd farwolaeth annisgwyl yng Ngorllewin Cymru wedi swyno’r boblogaeth leol ers amser. Yn y stori roedd yr eliffant wedi bod yn tynnu un o wagenni trwm y syrcas i fyny un o lethrau, serth, troellog yr hen ffordd drwy Gasblaidd. Credir bod yr hen greadur wedi dioddef trawiad ar y galon ar y ffordd. Gofalwyd amdano gan y bobl leol, a phan ymddangosodd ei fod yn well, cafodd gychwyn ar ei daith unwaith eto. Yn anffodus ni aeth ymhellach na’r pentref nesaf, ac yno fe syrthiodd lawr a buodd farw.
Y Côd Cefn Gwlad Parchwch - Diogelwch - Mwynhewch • Byddwch yn ddiogel - cynlluniwch o flaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi’n eu cael nhw • Ewch â’ch sbwriel gartref, a gofalwch warchod bywyd gwyllt • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Byddwch yn ystyriol o bobl eraill Ymchwiliwyd ac ysgrifennwyd y testun gan Gr[p Treftadaeth Casblaidd Cynllun gan Waterfront Graphics Darluniau gan: Kris Jones Cyfieithiad gan Brian Jones PLANED © 2007