LLWYDDWCH LLWYDDWCH
![](https://assets.isu.pub/document-structure/230427143749-14c243cb5b0ccbb2965ff055eeee4f36/v1/97b0d0df5c16efff83a79f48b0de7606.jpeg)
YN COLEG GWENT
![](https://assets.isu.pub/document-structure/230427143749-14c243cb5b0ccbb2965ff055eeee4f36/v1/7a0b5d3d821f5c5c1ca9531f23ffb094.jpeg)
![](https://assets.isu.pub/document-structure/230427143749-14c243cb5b0ccbb2965ff055eeee4f36/v1/557341f9b2a31f549f859e80a43baf4e.jpeg)
![](https://assets.isu.pub/document-structure/230427143749-14c243cb5b0ccbb2965ff055eeee4f36/v1/c0174362412f16fda4f2008f449dc9a1.jpeg)
P’un a ydych eisiau dysgu crefft newydd, troi diddordeb yn broffesiwn neu roi hwb i yrfa newydd, gallwch wireddu’r freuddwyd yn Coleg Gwent.
Dewiswch o blith ystod o gyrsiau gan gynnwys opsiynau i astudio yn ystod y dydd neu’n hwyr. Rydym yn croesawu myfyrwyr o bob oedran a phob cefndir; ni fu erioed amser gwell i ddod i Coleg Gwent.
Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio’n llawn amser neu’n ystyried symud i addysg uwch, gallwch gael golwg ar y cyrsiau sydd ar gael trwy sganio isod:
Canllaw llawn amser
Canllaw Addysg uwch
OES ANGEN CYMORTH ARNOCH CHI?
helo@coleggwent.ac.uk
01495 333777
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi, gallwch chi gysylltu â’n tîm recriwtio myfyrwyr cyfeillgar am gymorth: (Croesawn alwadau yn Gymraeg).
Rydym yn ddarparwr balch o Gyfrifon Dysgu Personol a ariennir gan Lywodraeth
Cymru. Ewch i’n hadran Cyfrifon Dysgu Personol ar dudalen 37 am fanylion llawn.
2 Croeso
4 Ein Campysau
6 Canllawiau i Gymwysterau
7 Cyrsiau Lefel Prifysgol
8 Cyfrifeg, Busnes a Rheolaeth
10 Mynediad i Addysg Uwch (Llwybr at Radd)
11 Lefelau A
12 Gofal seiliedig ar y Tir, Ceffylau ac Anifeiliaid
14 Celf a Dylunio, y Cyfryngau, y Celfyddydau Perfformio a Ffotograffiaeth
16 Arlwyo a Lletygarwch
Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol
Adeiladu
Hyfforddiant ac Addysg
Peirianneg
Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill
Sgiliau Byw’n Annibynnol
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Iechyd, Gofal a’r Blynyddoedd Cynnar
Cerbydau
Mae gan bob un o’n campysau lyfrgelloedd sy’n cynnwys y dechnoleg a’r llyfrau diweddaraf, caffis myfyrwyr, WIFI am ddim, cysylltiadau cludiant da a pharcio am ddim naill ai ar y safle neu’n gyfagos.
Gallwch ymweld â ni yn bersonol yn nigwyddiad agored?
Cofrestrwch ar gyfer digwyddiad agored
Ewch ar daith rithwir o amgylch pob un o’n campysau ar
virtual.coleggwent.ac.uk
Parth Dysgu Torfaen T
Cyfleusterau Allweddol:
• Neuadd Berfformio
• Ys tafell Gerdd a’r Cyfryngau
• Ys tafell Gelf
Campws Brynbuga
Cyfleusterau Allweddol:
• Canolfan Gofal Anifeiliaid
• Canolfan Geffylau
B
• Campfa sydd wedi’i hadnewyddu’n llawn
Campws Brynbuga
Cyfleusterau Allweddol:
• Theatr y Celfyddydau Perfformio
• Salon Gwallt a Harddwch
• Cy farpar Gweithgynhyrchu
o Safon Diwydiant
• Bw yty Morels
Cyfleusterau Allweddol:
• Gweithdai Peirianneg ac Adeiladu
• Stiwdios Celf
• Labordai Gwyddoniaeth
• Salon Gwallt a Harddwch
Cyfleusterau Allweddol:
• Gweithdai Adeiladu
• Cilfach Chwaraeon
Moduro
• Salon Gwallt a Harddwch
• Ys tafell Olygu’r Cyfryngau
Yn ansicr pa gymhwyster ydych chi’n chwilio amdano neu ar ba lefel y dylech chi ddechrau? Dyma ganllaw defnyddiol i’ch helpu i ddeall y lefel o astudiaeth sy’n addas i chi, gan eich helpu i ddewis y cymhwyster cywir.
Nid yw llawer o’n cyrsiau diddordebau a sgiliau ynghlwm â lefel astudio – eu diben yw addysgu sgiliau newydd i chi wrth i chi fwynhau, yn hytrach na gweithio tuag at gymhwyster proffesiynol.
Oeddech chi’n gwybod?
Gallwch chi ennill cymhwyster lefel prifysgol yn rhan-amser yn Coleg Gwent.
Mae gennym nifer cynyddol o gyrsiau addysg uwch, felly beth bynnag yw eich diddordebau neu uchelgeisiau mae’n debygol bod gennym gwrs sy’n addas i chi.
Gellir astudio llawer o’n cyrsiau addysg uwch yn rhan-amser ac efallai byddwch yn gymwys ar gyfer cyllid. Cadwch lygad am gyrsiau ar Lefel 4 ac uwch (gweler ein Canllaw i Lefelau Cymwysterau ar dudalen 6 am ragor o wybodaeth).
Ymweld a rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau addysg uwch yma:
www.coleggwent.ac.uk/au
Ddim yn Siwr os ydych chi’n cwrdd â’r gofynion?
Mae gan gyrsiau Addysg Uwch ofynion mynediad, ond peidiwch â gadael i hyn eich digalonni. Rydym yn edrych ar bob cais ar sail unigol, gan ystyried eich profiad bywyd a gwaith yn ogystal â chymwysterau blaenorol.
Cyfoethogwch eich galluoedd a gwybodaeth broffesiynol gydag un o’n cyrsiau cyfrifeg, busnes neu reoli.
Fel canolfan achrededig ar gyfer cymwysterau AAT, CIPD ac ILM, gallwch fod yn hyderus eich bod yn dysgu yn unol â safonau’r diwydiant ac yn cyflawni cymhwyster a fydd yn cael ei gydnabod yn genedlaethol.
Rydym yn cynnig cyrsiau o lefel 1 hyd at lefel 5, mae hyn yn golygu y gallwch gymryd y cam proffesiynol nesaf hwnnw gyda ni, waeth ble rydych chi yn eich gyrfa neu unrhyw brofiad blaenorol y byddai gennych.
Rwy’n gobeithio cyrraedd rôl Rheolwr
Ariannol yn fy ngweithle, ac mae fy nghwrs yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnaf i er mwyn cyflawni hyn. Rwyf wir yn mwynhau arddull rhyngweithiol y tiwtor
- mae’n fwy hamddenol na’r ysgol, felly rydych yn teimlo’n fwy cyfforddus yn gofyn cwestiynau ac yn trafod yn y dosbarth.
AAT LeFel 3
£36,100 (EMSI, 2023) y flwyddyn
Yn Coleg Gwent, mae modd cyrraedd gradd prifysgol hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw gymwysterau blaenorol. Mae ein cyrsiau Mynediad i Addysg Uwch (AU) yn eich helpu i ddatblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r hyder sydd eu hangen arnoch i wneud y cam nesaf hwnnw.
Hoffwn fod yn barafeddyg a dyna pam dewisais y cwrs hwn. Roedd dychwelyd i addysg pan oeddwn yn 20 oed yn rhyfedd ar y dechrau ond mae’r athrawon yn ein trin ni fel oedolion ac mae’n brofiad sydd 100% yn wahanol i’r ysgol.
Mynediad i Nyrsio
Felly, pam astudio llwybr at radd?
Bydd yn gwella eich rhagolygon gyrfa ac yn eich helpu i gael eich swydd ddelfrydol.
2 Datblygu Sgiliau Hanfodol
Mae’n profi eich bod yn gallu astudio’n annibynnol ac yn gallu cwrdd â therfynau amser.
3 Dangoswch Eich Gallu
Mae’r rhan fwyaf o gyflogwyr yn gofyn am radd, mae’n dangos eich bod yn gymwys.
Mae’n profi eich gallu i ymrwymo i rywbeth, i ymroi i weithio a mynd yr holl ffordd.
5
Yn ogystal â rhoi cymhwyster i chi, byddwch yn ennill cyfoeth o brofiad ac yn gwneud cysylltiadau a fydd yn ddefnyddiol yn y dyfodol.
Os oes angen pwnc Lefel A penodol arnoch chi i gyflwyno cais am eich cwrs delfrydol yn y brifysgol neu os yw’n rhywbeth rydych chi bob amser wedi dymuno ei wneud, mae ein cyrsiau Lefel A rhan-amser yn cynnig ffordd hyblyg o gyflawni eich nodau.
Mae pob un o’n cyrsiau ar gael ar Lefel AS neu Lefel A a chânt eu dyfarnu gan
CBAC. Mae’n rhaid i chi gwblhau blwyddyn o astudio ar gwrs AS cyn symud i’r cwrs
Lefel A, sy’n golygu bod cymhwyser Lefel A llawn yn cymryd 2 flynedd. Ein Cyrsiau
Mae ein cyrsiau gofal anifeiliaid, ceffylau ac astudiaethau tir, sydd wedi’u lleoli ar ein campws Brynbuga gwledig, yn cynnig digonedd o ddewis ar gyfer unigolion sydd wrth eu bodd yn yr awyr agored.
Pa bynnag gwrs rydych chi’n ei ddewis, byddwch yn siŵr o gael digon o brofiad ymarferol, p’un a yw hynny yn ein canolfan anifeiliaid bychan sydd wedi’i hadeiladu’n arbennig, ein canolfan geffylau sydd wedi’i chyfarparu’n llawn, neu ganolfan ar y tir.
Fel Canolfan Hyfforddi ac Asesu Lefel 4 Gymeradwy BHS, gallwch fod yn sicr o dderbyn addysg o safon uchel a mynediad at y cymwysterau sydd eu hangen arnoch chi i ddatblygu yn y diwydiant ceffylau.
Bydd ein hystod o Ddyfarniadau City & Guilds hefyd yn sicrhau eich bod yn gymwys i weithio mewn ystod o swyddi sy’n ymwneud ag astudiaethau’r tir yn ddiogel, ynghyd â’r ardystiad i brofi hynny
Ers i mi fod yn blentyn, rwyf bob amser wedi cael diddordeb mawr ym maes meddygaeth. Mae’n rhywbeth fy mod bob amser wedi dymuno ei wneud. Rwyf hefyd yn dwlu ar anifeiliaid felly meddyliais y byddwn yn cyfuno’r ddau beth a dyna’r swydd ddelfrydol i mi. Rwyf wedi mwynhau fy nghyfnod yn y coleg yn fawr iawn ac rwyf wedi dysgu cymaint.
Milfeddygol
Os ydych chi’n unigolyn creadigol ac yn dymuno gwella eich sgiliau neu ddysgu rhywbeth cwbl newydd, Coleg Gwent yw’r lle perffaith i’ch rhoi ar ben ffordd.
P’un a oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd neu olygu lluniau, gwnïo a thecstilau, neu’r celfyddydau perfformio, gallwn gynnig ystod o gyrsiau i’ch galluogi i fwynhau eich diddordeb a gwella eich galluoedd.
Yn ogystal â dysgu sgiliau newydd, byddwch hefyd yn cael cyfle i astudio ochr yn ochr â phobl o’r un anian â chi, gan ddefnyddio llu o offer a thechnoleg. Mae cyrsiau’n cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn, sy’n golygu eich bod yn cael cyfle i roi cynnig ar ystod o hobïau newydd yn Coleg Gwent!
Collais i’r cyfle i wneud Celf yn yr ysgol pan oeddwn i’n ifancach. Rwyf bellach yn 68 oed ac rwyf wrth fy modd yn astudio ar y dosbarth nos cerameg
Olivia Retter
Cerameg
Mae 35,400 o bobl
wedi’u cyflogi yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru
(CreativeWales, 2023)
Adobe Photoshop –Photoshop i ddechreuwyr
Ffotograffiaeth Amgen
Gwella eich Technegau Celf
Cerameg
Gweithdy Torch Nadolig
Ymarfer Llesiant Creadigol a’r Celfyddydau
Ysgrifennu Creadigol
Gwaith Crosio i Ddechreuwyr
Gwaith Crosio Lefel Canolradd
Ffotograffiaeth Ddigidol
Lluniadu Digidol gan ddefnyddio Procreate
Sgiliau DJ gan ddefnyddio Ableton Live
Trefnu Blodau
Trefnu Blodau (Uwch)
Uwchgylchu Dodrefn a Chrefft
Cyflwyniad i Ffotograffiaeth - I Ddechreuwyr
Gwneud Gemwaith
Lansio Menter/Busnes Creadigol
Bywluniadu
Y Celfyddydau Perfformio
Gwneud Printiau
Canu ar gyfer Pleser
Dosbarth Meistr Ffotograffiaeth Colodion Plât Gwlyb
P’un a ydych yn arbenigo mewn paratoi bwyd neu gyflwyno gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid, gallwn eich helpu i fod yn arbenigwyr yn y diwydiant.
Cynigir ein cyrsiau arlwyo a lletygarwch yn bennaf trwy gyrsiau NVQ a astudir yn eich gweithle, gyda rhywfaint o addysgu
9% dros y 12 mis
diwethaf
Mae cyflogeion yn y sector lletygarwch wedi profi cynnydd cyflog cyfartalog o (UKHospitality, 2023)
Rwyf wedi gweithio yn y maes arlwyo ers 20 mlynedd – roedd ymgymryd â’r cwrs hwn yn ffordd dda o wella fy hun a datblygu. Mae wedi fy helpu i ddysgu mwy am arlwyo ac mae’n gam cadarnhaol tuag at gyrraedd rôl rheoli un diwrnod. Byddwn 100% yn argymell y cwrs hwn.
Mae elfen o TG yn cael ei ddefnyddio gan bron bob busnes, felly mae astudio un o’n cyrsiau cyfrifiadura a thechnoleg ddigidol yn golygu y bydd galw mawr am eich gwasanaethau. Mae’r byd digidol yn symud yn gyflym ac yn datblygu trwy’r amser - gallwn eich helpu i feithrin y sgiliau a’r wybodaeth ddiweddaraf.
Byddwch yn dysgu mewn ystafelloedd TG sydd wedi’u cyfarparu’n llawn, gyda mynediad at y technolegau, caledwedd a’r feddalwedd ddiweddaraf. Mae gan ein darlithwyr brofiad ymarferol, sy’n golygu eu bod yn medru trosglwyddo gwybodaeth sy’n hynod berthnasol i’r gweithle.
P’un a ydych yn dymuno arbenigo mewn rhwydweithio, seiberddiogelwch neu raglennu, gallwn gynnig cwrs rhan amser i helpu i roi hwb i’ch dealltwriaeth a magu eich hyder proffesiynol.
Ar gyfartaledd, mae Peirianwyr TG yn ennill dros
£31,000
y flwyddyn yng Nghymru
Ar gyfartaledd, mae Rheolwyr TG yn ennill
£42,000
Rhwydweithio CISCO - Cyflwyniad i Rwydweithiau CCNA –
Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio ym maes TG fel dadansoddwr technegol desg wasanaeth ac rwyf eisiau datblygu fy ngyrfa mewn Rhwydweithio. Mae ceisio cydbwyso bywyd gartref â dau o blant wedi bod yn heriol, ond rwyf wedi cael cefnogaeth arbennig gan fy nhiwtor sydd bob amser yn hapus i helpu.
Rhwydweithio CISCO
Mae ein cyrsiau adeiladu rhan amser yn cynnig rhywbeth at ddant pawb. Mae opsiynau ar gyfer y rhai sy’n dymuno gwella eu sgiliau Cynnal a Chadw Sylfaenol yn y Cartref a’n cwrs hynod o boblogaidd Menywod mewn Adeiladu. Hefyd, mae gennym ni gyrsiau ar gyfer gweithwyr proffesiynol diwydiant, os hoffech chi ennill cymwysterau diogelwch neu uwchsgilio trwy gwrs Peirianneg Sifil.
Gyda gweithdai wedi’u cyfarparu’n dda, yn ogystal â dewis o leoliadau hyblyg oddi ar y safle, gallwn fodloni anghenion ystod eang o myfyrwyr. Adeiladu yw’r 5ed diwydiant mwyaf yng Nghymru, felly mae astudio cymhwyster yn y sector llewyrchus hwn yn ddewis ardderchog.
£40,200 y flwyddyn
(EMSI, 2023)
Rwy’n hoffi’r ffaith nad yw’r cwrs wedi’i leoli yn yr ystafell ddosbarth yn unig. Mae’n gymysgedd o waith ymarferol a theori sy’n cyfeirio’n ôl at ymarferion gwaith. Mae’r tiwtoriaid yn dod i’ch adnabod chi ar lefel bersonol ac mae cymorth bob amser ar gael.
HND Peirianneg Sifil
Mae Goruchwylwyr Masnach Adeiladu yng Nghymru yn ennill cyflog cyfartalog oMae cymorth dosbarth mewn ysgolion yn hanfodol er mwyn helpu plant i gyflawni eu potensial llawn. Os yw gweithio mewn rôl gefnogol o ddiddordeb i chi, mae ein cymwysterau addysgu ac addysg yn opsiwn gwych.
Gall helpu pobl eraill fod yn hynod wobrwyol a byddwch chi’n gweithio mewn gyrfa lle nad oes dau ddiwrnod byth yr un peth!
Gallwch ddewis gweithio â phlant ifanc neu gydag oedolion ifanc sydd ar fin mentro i’r byd annibynnol - chi sydd i benderfynu!
Drwy ennill cymhwyster gyda Coleg
Gwent, gallwch fanteisio ar ein tiwtoriaid profiadol, grwpiau dysgu bach a chefnogol a chyfleusterau arbennig.
Caiff oddeutu
eu hysbysebu yng Nghymru bob mis ac mae dros 16,000 o bobl mewn cyflogaeth ar hyn o bryd (EMSI, 2023)
Mae llawer o gymorth gan athrawon ac rwyf wedi gwneud ffrindiau hefyd. Mae 3 phlentyn a llawer o gyfrifoldeb gyda fi gartref ond, gan ddefnyddio fy ngwybodaeth a’m sgiliau o’r coleg, gallaf addysgu fy mhlant a dangos iddynt os galla i wneud hyn a chyflawni, gallan nhw ei wneud hefyd a buddsoddi mewn dyfodol gwell.
Cymorth Dysgu ac Addysgu
Mae galw mawr am beirianwyr medrus felly mae astudio ar gyfer cymhwyster peirianneg yn Coleg Gwent yn ddewis gwych ar gyfer gyrfa wobrwyol ac amrywiol.
Hogwch eich sgiliau mewn gweithdai o’r radd flaenaf gan gael mynediad at offer llaw ac offer peiriant traddodiadol yn ogystal â pheiriannau modern a reolir gan gyfrifiadur a phrototeipio cyflym.
£37,000
Os nad yw Saesneg yn iaith gyntaf i chi, bydd ein cyrsiau’n eich helpu chi i wella eich sgiliau.
Gallai gwella eich sgiliau Saesneg eich helpu chi i ddod o hyd i gyflogaeth, cyfathrebu’n well os oes gennych chi blant yn yr ysgol a bod o fudd pan fyddwch chi’n gofyn am gymorth neu’n siarad â’ch meddyg.
ESOL – Lefel Gychwynnol N/A
Gwobr ESOL mewn Sgiliau am Oes (Siarad a Gwrando) Mynediad 1, 2 & 3
Gwobr ESOL mewn Sgiliau am Oes (Siarad a Gwrando) 1 & 2
Gwobr ESOL mewn Sgiliau am Oes (Ysgrifennu) Mynediad 1, 2 & 3
Gwobr ESOL mewn Sgiliau am Oes (Ysgrifennu)
Mae’r athrawon yn Coleg Gwent o gymorth mawr, nid yn unig ar y cwrs ond hefyd pryd bynnag rwyf angen cymorth ac eisiau gofyn cwestiwn.
Cael cyswllt â siaradwyr brodorol yw’r peth gorau am y cwrs hwn. Rwy’n teimlo’n gyfforddus yn astudio yn Coleg Gwent.
Wella eich Saesneg - siarad, gwrando, darllen, ysgrifennu, gramadeg a geirfa
Dysgu sut i ysgrifennu’n ffurfiol ac anffurfiol wrth lunio negeseuon e-bost, llythyrau, CVs a cheisiadau am swydd
Dysgu ynghylch bywyd yn y DU
Dysgu am y sgiliau gwaith rydych eu hangen i gael swydd neu ddyrchafiad yn y gwaith
Dysgu sut i gymhwyso mathemateg yn eich bywyd pob dydd, gan gynnwys mesur, cyllidebu a sut i ddarllen amserlenni.
Os hoffech gofrestru ar un o’n cyrsiau, rhaid i chi yn gyntaf ymweld â’n Hwb Reach+ yn Llyfrgell Ganolog, Casnewydd. Yr Hwb yw’r pwynt canolog i unrhyw un sy’n dymuno astudio ESOL. Bydd y tîm yn asesu pob person ac yn eu cyfeirio at y cwrs a’r cymorth iawn. Gellir trefnu apwyntiadau drwy ffonio’r Hwb ar 01633 414917 neu gallwch alw heibio’r llyfrgell. Mae hon yn rhan o Brosiect Integreiddio Ffoaduriaid ReStart.
Rydym yn cynnig llu o gyrsiau sy’n addas i fyfyrwyr o bob gallu ac o bob cefndir academaidd. Fe wnawn eich cynorthwyo i ddysgu rheoli eich arian eich hun, coginio eich bwyd eich hun, cynllunio eich gyrfa eich hun a byw bywyd annibynnol.
Yn ogystal â dysgu sgiliau ymarferol, byddwn ni’n helpu i gynyddu eich hunan-barch a’ch hyder. Byddwch yn astudio cymysgedd o sgiliau galwedigaethol a chreadigol fel celf a chrefft, coginio, garddio a TG, ynghyd â pharhau i wella eich llythrennedd, rhifedd a sgiliau hanfodol eraill. Byddwch hefyd yn mynd ar deithiau ac ymweliadau i leoliadau megis amwynderau, amgueddfeydd ac atyniadau twristiaeth lleol ynghyd â chyfranogi mewn gweithgareddau codi arian a menter.
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol gan ystyrir anghenion bob myfyriwr ar sail unigol; byddwn ni’n sicrhau eich bod chi’n cofrestru ar y cwrs cywir ar eich cyfer chi. Byddwch yn cael y cyfle i fynychu rhaglen drosglwyddo lle gallwch gwrdd â’r tiwtoriaid, mynychu rhai gwersi a dod i adnabod y coleg cyn i chi ddechrau.
Datblygiad Personol a Chymdeithasol
Byw yn Annibynnol – Sgiliau OedolionMae’r cwrs wedi fy helpu i ddysgu ystod o sgiliau bywyd - coginio, mathemateg a Saesneg a gwaith cyfrifiadurol ac ysgrifennu. Rwyf wedi bod yma ers 2 flynedd a choginio yw fy hoff beth. Mae bod ar y campws yn wych ac rwyf wedi gwneud ffrindiau da.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa yn y sector gwallt a harddwch sy’n newid o hyd, gallwn ddarparu dewis eang o gyrsiau i sicrhau eich bod yn cael y cymwysterau sydd eu hangen arnoch, o sgiliau trin gwallt sylfaenol i wybodaeth therapi cyflenwol fodern.
Rydym yn cynnig ystod eang o dechnegau a dulliau penodol i’ch helpu i arbenigo ym maes y diwydiant sy’n apelio fwyaf atoch. Mae cyrsiau ar gael ar lefelau 1, 2 a 3, sy’n golygu bod rhywbeth at ddant pawb.
Gwallt Afro i Ddechreuwyr
Chwythsychu
City & Guilds Tystysgrif mewn Gwasanaethau Trin Gwallt2
City & Guilds Diploma mewn Barbro
City & Guilds Diploma mewn Trin Gwallt
Diploma City & Guilds mewn Trin Gwallt Menywod a Dynion
City & Guilds Trin Gwallt
City & Guilds NVQ Diploma mewn Barbro
City & Guilds NVQ Diploma mewn Trin Gwallt
Gwallt i Rieni (Steilio Gwallt Rhiant a Phlant)
Gwallt i Fyny
Barbro i Ddechrewyr
Cyflwyniad i Dorri Gwallt
Cyflwyniad i Drin Gwallt ar gyfer Dysgwyr sy’n Oedolion
Cyflwyniad i Bermio Gwallt
Gweithio yn y Sector Barbwyr
Gall ein cyrsiau iechyd, gofal a’r blynyddoedd cynnar ddarparu’r sgiliau sydd eu hangen arnoch chi i lwyddo mewn sawl gyrfa wahanol.
Mae cyrsiau cwnsela wedi’u hachredu gan
AIM ar gael ar lefelau 2, 3 a 4, yn ogystal ag amrywiaeth o hyfforddiant cymorth cyntaf a chyrsiau gofal.
P’un a ydych eisoes yn gweithio mewn rôl ac yn ceisio dilyniant personol neu os ydych yn dymuno newid eich gyrfa’n llwyr, gall ein cyrsiau rhan amser hyblyg roi’r cymhwyster sydd ei angen arnoch chi.
Os ydych chi’n unigolyn â diddordeb mewn ceir sy’n dymuno dysgu sgiliau newydd, yn dymuno dechrau gyrfa yn y diwydiant moduro neu’n weithiwr proffesiynol sy’n dymuno uwchsgilio, bydd ein cyrsiau cerbydau modur yn eich helpu i gyrraedd eich cyrchfan.
Rydym yn cynnig ystod o gyrsiau cerbydau trydan newydd lle gallwch chi ddysgu sgiliau modern ar ein cerbydau o’r radd flaenaf gan gynnwys Tesla. Rydym hefyd yn cynnig cymwysterau ar gyfer cydymffurfiaeth tystysgrif MOT yn ogystal ag ystod o gymwysterau IMI a chyrsiau ar gyfer atgyweirio cyrff cerbydau a gwaith paent.
10,000 o bobl
Byddwn i’n argymell Coleg Gwent am ei fod yn cynnig llawer o gyfleoedd, staff craidd proffesiynol a chyfleusterau gwych! Mae cyfleoedd ar gyfer dilyniant o ran cymwysterau a chamu ymlaen yn nhermau capasiti cyflogaeth. Trwy’r cwrs hwn, rwy’n ennill profiad yn y swydd.
wedi’u cyflogi yn y diwydiant moduro yng Nghymru a chaiff dros 200 o swyddi eu hysbysebu bob mis.
Os ydych chi’n frwd dros chwaraeon a ffitrwydd, rydych wedi dod i’r lle cywir!
Pa bynnag maes yr hoffech chi ennill arbenigedd ynddo, gallwn ni gynnig cwrs sy’n rhoi’r wybodaeth a’r cymhwysedd i chi ei gyflawni. O gyrsiau hyfforddwr
personol neu gyfarwyddwr ymarfer corff grŵp, i dylino chwaraeon ac ymarferion corff ar eich eistedd, rydym yn cynnig ystod eang o opsiynau.
Y gampfa sydd wedi’i chyfarparu’n dda, ar ein campws ym Mrynbuga yw’r lleoliad delfrydol i ddysgu a datblygu, gan eich helpu i gyflawni eich nodau gyrfaol,
Dechreuais drwy astudio ar gyfer fy
nghymhwyster Hyfforddwr Campfa
Lefel 2 ac argymhellodd fy nhiwtor y cwrs hyfforddiant personol i mi – felly penderfynais astudio ar y cwrs hwnnw
hefyd. Mae’r tiwtoriaid yn wych ac maen nhw wedi fy nghynorthwyo
drwy gydol y cwrs. Rwyf wedi
mwynhau fy nghyfnod yn Coleg
Gwent yn fawr iawn – roeddwn i hyd yn oed wedi ennill y fedal Aur
yng Nghystadleuaeth Hyfforddwr
Ffitrwydd WorldSkills UK!
Rhys Edmunds
Hyfforddwr
Personol Lefel 3
Mae Hyfforddwr Personol hunangyflogedig yn ennill oddeutu £20 - £40 am sesiwn un awr (Careers Wales, 2023)
Astudiwch ar gwrs Gwyddoniaeth
rhan-amser yn Coleg Gwent a chael cipolwg diddorol iawn ar sut mae’r byd o’n hamgylch ni yn gweithio.
Mae astudio ar gwrs Gwyddoniaeth Lefel
Mynediad gyda ni yn fan cychwyn gwych os hoffech chi symud ymlaen i astudio ar un o’n cyrsiau Lefel 2 neu Lefel 3. Mae hefyd yn darparu cam cyntaf tuag at lawer o yrfaoedd cyffrous ac amrywiol.
Cyflwyniad i Wyddoniaeth – C DC
Gall Gwyddonwyr Fforensig profiadol ennill hyd at £45,000 y flwyddyn
(Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol, 2023)
Wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru, mae’r cyrsiau am ddim yma yn rhoi’r sgiliau a’r cymwysterau y mae cyflogwyr lleol yn chwilio amdanynt, gan eich helpu chi i symud i fyny yn eich gyrfa bresennol neu newid eich gyrfa yn gyfan gwbl.
I fod yn gymwys i wneud cais am gwrs
Mae’r cyrsiau ar gael ar:
• Busnes, Cyllid a Rheoli
• Cy frifiadura a Thechnolegau Digidol
• Addysgu ac Addysg
• Peirianneg
• Iechyd a Diogelwch
• Iechyd a Gofal Cymdeithasol
• Lletygarwch, Manwerthu a Thwristiaeth
• Sero Net a Chynaliadwyedd
• Chwaraeon, Ffitrwydd a Hamdden
• Trafnidiaeth a Logisteg
Mae yna gymaint o fanteision o ddilyn cwrs PLA:
Cymwysterau Achrededig
Am Ddim
Hyblyg - Yn Cyd-Fynd Ag
Ymrwymiadau Presennol
Yn Seiliedig Ar Sgiliau Y Mae
Galw Amdanynt
Dewis — Dewis O Blith Dros
70 O Gyrsiau
Mae ein bwyty arddangos ar ein campws Crosskeys yn cynnig gwasanaeth ardderchog a gwerth
eithriadol am arian ynghyd â phrydau bwyd hynod flasus a rhestr gwinoedd gynhwysfawr. Caiff popeth ei weini gan gogyddion dan hyfforddiant sydd mor angerddol â chi am fwyd.
Find out more at: www.coleggwent.ac.uk/morels
Gwasanaethau Trin Gwallt a Harddwch proffesiynol yn Coleg Gwent
Pa un a ydych angen massage i gael gwared â thensiwn, eisiau steil gwallt newydd i’ch gweddnewid neu eisiau sbwylio’ch hyn mymryn gyda dewis o dros 30 o driniaethau harddwch, bydd ein steilyddion a therapyddion harddwch dan hyfforddiant yn gwneud ichi deimlo ac edrych yn arbennig…a byddwch yn gadael yn teimlo fel newydd, am ffracsiwn o’r gost.
Am fwy o wybodaeth, neu i archebu, ymweld a’n wefan: