Coleg Gwent Cyrsiau Llawn Amsesr

Page 1

Cyrsiau Llawn Amser 2017/18

1

Ni yw’r coleg gorau yng Nghymru ar gyfer cyrsiau galwedigaethol a’r cydradd orau ar gyfer cyrsiau academaidd Byddwch yn rhan o’n llwyddiant


Dewch i’n gweld ni yn ein digwyddiadau agored Dydd Mawrth 8 Tachwedd 2016 5-8pm Dydd Mercher 18 Ionawr 2017 5-8pm Dydd Mawrth 14 Mawrth 2017 5-8pm Dydd Mercher 10 Mai 2017 5-8pm Dydd Mawrth 27 Mehefin 2017 5-8pm Mae’n rhaid i chi gofrestru cyn y digwyddiad i archebu eich lle – cofrestrwch ar-lein neu ffoniwch 01495 333777

Mae Coleg Gwent yn ceisio sicrhau bod holl ddeunyddiau cyhoeddusrwydd coleg yn wrth eu hargraffu. Fodd bynnag, yn ystod y flwyddyn gall y coleg newid manylion y cyrsiau.

www.coleggwent.ac.uk/open 01

Mae hyn yn cynnwys cyrff gwobrwyo, teitlau a lleoliad cyrsiau. Mae’r coleg yn cadw’r hawl i dynnu cyrsiau os nad ydynt yn hyfyw i’w cynnal.


Cynnwys 01 04 04 05 05 07 08 09 12 15 18 21 24 27 30 35 36 39 40 43 46 51 54 57 60 63 65

Digwyddiadau agored Croeso i’ch coleg lleol Eich canllaw i gymwysterau Dysgu yn Gymraeg neu’n ddwyieithog Mathemateg a Saesneg Bagloriaeth Cymru Sut i wneud cais Gwybodaeth am gyrsiau Safon uwch Mynediad i Addysg Uwch Gwyddoniaeth gymhwysol Celf, dylunio a’r cyfryngau Busnes a rheoli Arlwyo, Lletygarwch a Manwerthu Cyfrifiadura a TG Adeiladu Cyflogadwyedd Peirianneg ESOL Gwallt, harddwch a therapïau cyflenwol Iechyd a gofal Sgiliau byw’n annibynnol Diwydiannau’r tir Cerbydau modur Celfyddydau perfformio, cerddoriaeth a thechnoleg gerdd Chwaraeon, hamdden a gwasanaethau cyhoeddus Teithio a thwristiaeth Canllaw’r coleg i rieni

Mae Coleg Gwent yn bartner cydweithredol Prifysgol De Cymru

02


A glywsoch chi? Ni yw’r coleg gorau yng Nghymru ar gyfer cyrsiau galwedigaethol* • Bu i 40% o fyfyrwyr diploma estynedig gael rhagoriaeth driphlyg – sy’n cyfateb i 3 Gradd A ar Safon Uwch • Bu i 66% o fyfyrwyr diploma estynedig gael un rhagoriaeth o leiaf • Y gyfradd basio ar Lefel 1 yw 94% • Y gyfradd basio ar Lefel 2 yw 92% Rydym gydradd orau yng Nghymru ar gyfer cyrsiau academaidd, gan gynnwys cyrsiau Safon Uwch* Ewch i’n gwefan i ddysgu am y gefnogaeth helaeth o’r ansawdd orau rydym yn ei chynnig

Yn 2015/16 roedd ein cyfraddau pasio Safon Uwch yn uwch na chyfartaledd y Deyrnas Unedig a Chymru: • Parth Dysgu Blaenau Gwent 99.6% • Campws Crosskeys 99.2%

www.coleggwent.ac.uk/learningsupport

*Adroddiad Canlyniadau Dysgwyr Yr Adran Addysg a Sgiliau 2014/15

03


Croeso i’ch Coleg lleol Yn Coleg Gwent cynigiwn brofiad rhagorol a hyfforddiant ac addysg fwy penodol a fydd yn agor mwy o gyfleoedd i chi. Byddwch yn teimlo fel eich bod wedi symud ymlaen o’r ysgol yn syth ar ôl i chi gyrraedd. Mae ein darlithwyr yn arbenigwyr yn eu maes gyda phrofiad helaeth yn y diwydiant. Maent eisiau i chi lwyddo cymaint â chi ac oherwydd rydym yn rhoi eich anghenion chi yn gyntaf, bydd gennych eich tiwtor personol eich hunan a mynediad at rwydwaith cymorth enfawr i’ch helpu yn academaidd a gyda heriau eraill mewn bywyd hefyd. Dysgwch sgiliau, enillwch gymwysterau a llwyddwch gyda Coleg Gwent.

Eich canllaw i gymwysterau Mae’n gallu bod yn anodd penderfynu pa gwrs yw’r un gorau i chi gyda chymaint o gyrsiau a lefelau ar gael. Mae’r tabl isod yn rhoi syniad i chi o’r lefel y gallech ei hastudio yn dibynnu ar eich cymwysterau presennol/disgwyliedig.

Lefel

Cymhwyster

Yn cyfateb i

Lefel Mynediad

Dyfarniadau, Tystysgrifau a Diplomau Lefel Mynediad

Amherthnasol

Lefel 1

Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 1

TGAU graddau D-G

Lefel 2

Tystysgrif Lefel 2 Tystysgrif Estynedig Lefel 2 Diploma Lefel 2

2 TGAU (A*-C) 3 TGAU (A*-C) 4 TGAU (A*-C)

Lefel 3

Tystysgrif Lefel 3 Diploma Atodol Lefel 3 Diploma Lefel 3 Diploma Estynedig Lefel 3

1 Lefel UG 1 Safon Uwch 2 Safon Uwch 3 Safon Uwch

Rydym hefyd yn cynnig Prentisiaethau, cyrsiau rhan amser a chyrsiau prifysgol – am ragor o wybodaeth ewch i Ymgeisiwch nawr

www.coleggwent.ac.uk

01495 333777 04


Dysgu yn Gymraeg neu’n ddwyieithog Mae’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru yn bwysig i ni. Rydym yn annog pawb yn y coleg, pa un ai a ydynt yn gallu siarad Cymraeg neu beidio, i ddeall pwysigrwydd yr iaith Gymraeg fel sgil bersonol ac addysgol yn ogystal â sgil gyflogadwyedd ar gyfer y dyfodol. Ar hyn o bryd rydym yn cynnig: • Y cyfle i astudio rhai modiwlau o ddetholiad o gyrsiau yn ddwyieithog • Y cyfle i astudio Cymraeg fel ail iaith • Cefnogaeth astudio Cymraeg a dwyieithog trwy’r ‘HWB Cymraeg’ a gweithgareddau cymdeithasol drwy’r Clwb Cymraeg A llawer mwy - gweler y manylion yn llawn yn www.coleggwent.ac.uk/cymrycg

Mathemateg a Saesneg Mathemateg + Saesneg = Dyfodol disglair i CHI Nid Mathemateg a Saesneg yw hoff bynciau pawb yn yr ysgol ac efallai nad yw bob amser yn amlwg sut bydd ffracsiynau, algebra a Phythagoras; hanner colonau, adferfau a’r defnydd cywir o gollnodau yn bwysig yn eich swydd yn y dyfodol. Ond mi fyddant yn bwysig, rydym yn defnyddio Mathemateg a Saesneg bob dydd heb sylweddoli. Mae’r mwyafrif o gyflogwyr a phrifysgolion eisiau ymgeiswyr gyda sgiliau rhifedd a llythrennedd da ac mae pobl ifanc sydd heb y sgiliau hanfodol hyn yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith am gyfnod hirach. Yng Ngholeg Gwent, cewch y cyfle i ddatblygu eich sgiliau llythrennedd a rhifedd trwy astudio cymwysterau priodol ochr yn ochr â’ch cymhwyster academaidd neu alwedigaethol. I ddysgu mwy ewch i: www.coleggwent.ac.uk/me

05

Ymgeisiwch nawr

www.coleggwent.ac.uk

01495 333777


06


Bagloriaeth Cymru Pa un ai a ydych yn astudio cyrsiau Safon Uwch neu bwnc galwedigaethol, gallwch wella eich dysgu trwy astudio Bagloriaeth Cymru. Mae wedi’i gysylltu â’ch prif gwrs, ond mae’n rhoi profiad ychwanegol, hyder a sgiliau trosglwyddadwy i chi a fydd yn edrych yn dda iawn ar eich CV ac yn gwella eich rhagolygon yn y brifysgol neu mewn cyflogaeth. Byddwch yn cymryd rhan mewn: • • • •

Prosiect Unigol Her Menter a Chyflogadwyedd Her Dinasyddiaeth Fyd-eang Her Gymunedol

Mae rhagor o fanylion ar gael ar ein gwefan: www.coleggwent.ac.uk/welshbac

07

Ymgeisiwch nawr

www.coleggwent.ac.uk

01495 333777


Sut i wneud cais: 1.

Dewis cwrs

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am gyrsiau, cefnogaeth dysgu ac ariannol a bywyd coleg ar ein gwefan: • Mewn digwyddiad agored • Trwy ffonio 01495 333777 • Trwy e-bostio: admissions@coleggwent.ac.uk

2.

Gweud cais ar-lein

Ar ôl i chi benderfynu pa gwrs hoffech chi ei astudio, gallwch wneud cais ar-lein a chofrestru am gyfrif dysgwr

3.

Cyfweliad

Byddwn yn eich gwahodd am gyfweliad i wneud yn siŵr fod y cwrs rydych wedi’i ddewis yn addas i chi ac i gynnig lle i chi ar yr amod eich bod yn cael y graddau rydych eu hangen. Byddwch hefyd yn cael mwy o wybodaeth am eich cwrs a gyrfaoedd posib ac yn cael sesiynau blasu gydag un o’ch tiwtoriaid.

4.

Asesiad Mathemateg a Saesneg

Byddwn yn trefnu i chi gael asesiad o’ch sgiliau Mathemateg a Saesneg - peidiwch â phoeni, diben hyn yw sicrhau y byddwch yn cael y gefnogaeth rydych ei hangen pan fyddwch yn dechrau yn y coleg.

5.

Cofrestru

6.

Dechrau yn y coleg

Byddwn yn cysylltu i roi gwybod i chi pryd rydych angen cofrestru a beth sydd angen i chi ddod gyda chi. Mae cofrestru fel arfer yn digwydd yn ystod wythnosau olaf mis Awst. Mae’r tymor yn dechrau ar ddechrau mis Medi - Byddwn yn eich hysbysu wrth gofrestru pa bryd fydd diwrnod cyntaf eich gwersi.

Mae’r lleoedd yn llenwi’n gyflym, nid oes raid i chi gael eich canlyniadau cyn gwneud cais felly peidiwch â’i gadael hi’n rhy hwyr - www.coleggwent.ac.uk/apply Canllaw i symbolau’r campws: CN - Campws Dinas Casnewydd CK - Campws Crosskeys PDBG - Parth Dysgu Blaenau Gwent

PP - Campws Pont-y-pŵl B - Campws Brynbuga

08


Safon Uwch Rydym yn cynnig ystod enfawr o bynciau ar Gampws Crosskeys a Pharth Dysgu Blaenau Gwent. Felly gallwch ddewis y cyfuniad cywir i gyrraedd eich nod. Cewch hefyd gymorth gyda’ch cais UCAS a chyngor ar ysgrifennu eich datganiad personol i sicrhau eich bod â’r cyfle gorau o gael eich derbyn i’ch prifysgol o ddewis.

o cyfradd basio ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent

o cyfradd basio ar Gampws Crosskeys

o cyfradd basio mewn 25 pwnc

Gyda 34 pwnc Safon Uwch ar gael, rydym yn sicr o gynnig cyfuniad i’ch cynorthwyo i achub y blaen Addysg Gorfforol Astudiaethau Busnes Astudiaethau Crefyddol Astudiaethau Drama a'r Theatr Astudiaethau Ffilm Astudiaethau'r Cyfryngau Athroniaeth Bioleg Celf a Dylunio Cemeg Cerddoriaeth Cyfrifiadura Cymdeithaseg Cymraeg Daeareg Daearyddiaeth Dylunio Graffeg Economeg Eidaleg Gofal Iechyd a Chymdeithasol Ffiseg Ffotograffiaeth Ffrangeg Hanes Iaith a Llenyddiaeth Saesneg Llenyddiaeth Saesneg Llywodraeth a Gwleidyddiaeth Mathemateg Mathemateg Bellach Mathemateg Bur Sbaeneg Seicoleg Technoleg Cerddoriaeth TGCh Y Gyfraith

1/2 flynedd 1/2 flynedd 1/2 flynedd 1/2 flynedd 1/2 flynedd 1/2 flynedd 1/2 flynedd 1/2 flynedd 1/2 flynedd 1/2 flynedd 1/2 flynedd 1/2 flynedd 1/2 flynedd 1/2 flynedd 1/2 flynedd 1/2 flynedd 1/2 flynedd 1/2 flynedd 1/2 flynedd 1/2 flynedd 1/2 flynedd 1/2 flynedd 1/2 flynedd 1/2 flynedd 1/2 flynedd 1/2 flynedd 1/2 flynedd 1/2 flynedd 1/2 flynedd 1/2 flynedd 1/2 flynedd 1/2 flynedd 1/2 flynedd 1/2 flynedd 1/2 flynedd

CK / PDBG CK / PDBG* CK / PDBG CK / PDBG CK CK / PDBG CK CK / PDBG CK / PDBG CK / PDBG CK / PDBG* CK / PDBG CK / PDBG CK / PDBG CK CK / PDBG CK CK CK PDBG CK / PDBG CK / PDBG CK / PDBG CK / PDBG CK / PDBG CK / PDBG CK / PDBG CK / PDBG CK / PDBG CK CK / PDBG CK / PDBG CK CK / PDBG CK / PDBG

*Gellir darparu cyrsiau yn Gymraeg

Ewch i’n gwefan am ragor o wybodaeth am gyrsiau a bywyd myfyrwyr 09

Ymgeisiwch nawr

www.coleggwent.ac.uk

01495 333777


Beth nesaf? Mae Safon Uwch yn agor y drws i sawl opsiwn. Yn 2014/15 aeth dros 80% o’n myfyrwyr ymlaen at astudiaeth lefel uwch mewn prifysgol neu yng Ngholeg Gwent. Neu efallai byddai’n well gennych chi ddefnyddio eich cymwysterau i gael swydd neu fynd i’r afael â Phrentisiaeth Bellach neu Uwch.

A wyddoch chi…? Parth Dysgu Blaenau Gwent yw hyb de ddwyrain Cymru ar gyfer Rhwydwaith Seren sy’n cynorthwyo myfyrwyr chweched dosbarth disgleiriaf Cymru. Mae’r rhwydwaith yn ymestyn a herio myfyrwyr i roi’r addysg orau bosibl iddynt a manteisio ar eu doniau a’r cyfleoedd sy’n agored iddynt.

Gwenodd Shaunna Ryan, 18 o Drecelyn, yn ddi-baid pan gafodd ei chanlyniadau. Cafodd A* mewn Addysg Gorfforol a graddau A mewn Seicoleg a TGCh. Mae hi nawr ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio gradd mewn gwyddor chwaraeon: “Roedd y tiwtoriaid yn hynod gefnogol drwy gydol y ddwy flynedd ddiwethaf. Roedd y cyfleusterau TG a chwaraeon yn wych.” “Mae’r Coleg yn lle gwych i ddysgu. Os ydych yn barod i wneud y gwaith, bydd y tiwtoriaid yn gweithio gyda chi i’ch cynorthwyo i gyflawni eich potensial. Roedd fy nhiwtoriaid yn anhygoel. Ni fuasent wedi gallu gwneud dim mwy i’m cynorthwyo i.” 10


11


Mynediad i Addysg Uwch Mae gradd brifysgol yn gyraeddadwy hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw gymwysterau blaenorol. Bydd y cwrs Mynediad i AU yn eich helpu i ddatblygu’r wybodaeth, sgiliau a’r hyder rydych eu hangen i’ch paratoi ar gyfer y brifysgol, heb unrhyw ragdybiaethau am yr hyn gallech fod wedi’i wneud yn y gorffennol. Gallwch ddewis ymhlith ystod o lwybrau i fynd â chi ar eich cwrs gradd o’ch dewis chi, ac yna’r swydd ddelfrydol honno. Byddwch yn dysgu sut i fynd ati i astudio a’r technegau gwahanol byddwch eu hangen i lwyddo. Mae nifer o bobl yn bryderus pan ddechreuant gwrs Mynediad i AU, yn arbennig os nad ydynt wedi bod mewn ystafell ddosbarth ers peth amser. Mae ein tiwtoriaid yn ymwybodol o hyn a chymerant hyn i ystyriaeth yn eu haddysgu; ni chewch eich ‘taflu i’r pen dyfnaf’ neu eich profi ar bethau rydych wedi’u hanghofio flynyddoedd yn ôl. Er gallwch ddisgwyl i’r cwrs fod yn heriol, prif ddiben y cwrs Mynediad i AU yw eich cynorthwyo i fod yn llwyddiannus. Rydym hefyd yn cynnig cwrs Rhag-Fynediad sy’n canolbwyntio ar sgiliau academaidd i’ch galluogi i symud ymlaen at gwrs Mynediad.

Ymgeisiwch nawr

www.coleggwent.ac.uk

01495 333777 12


Mynediad i Ddyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol Mynediad i Nyrsio ac Iechyd Mynediad i Wyddoniaeth Mynediad i Wyddor Fforensig/Bio-Wyddorau Mynediad i Wyddorau Meddygol ac Iechyd Sgiliau ar gyfer Astudiaeth Bellach

1 flwyddyn 1 flwyddyn 1 flwyddyn 1 flwyddyn 1 flwyddyn 1 flwyddyn

PDBG / CN PDBG* / CN PDBG PP CN PDBG / CN

*Gellir darparu cyrsiau yn Gymraeg

Beth nesaf? Mae Cyrsiau Mynediad i AU yn cael eu cynnwys yn nhariff UCAS a chânt eu derbyn yn eang gan brifysgolion y DU i wneud gradd ond dylech wirio gyda’r brifysgol benodol y dymunwch fynd iddi. Gallwch aros yn lleol a gwneud gradd brifysgol yng Ngholeg Gwent. Dysgwch am ein hamrywiaeth o raddau sylfaen, Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch a Diplomâu Cenedlaethol Uwch. Caiff y rhan fwyaf ohonynt eu hachredu gan Brifysgol De Cymru, ar ein gwefan neu yn ein Canllaw Addysg Uwch.

A wyddoch chi…? Roedd 27.6% o fyfyrwyr y DU yn astudio cyrsiau gradd mewn prifysgolion y DU yn 2014/2015 yn fyfyrwyr hŷn (21 oed ac uwch) ac roedd 10.7% ohonynt yn 30 oed neu’n hŷn. (Ffynhonnell: Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch) 13


Nid yw hi fyth yn rhy hwyr i ddysgu a newid eich bywyd

Yn y DU yn 2014/15: Roedd

o ymadawyr addysg uwch a oedd wedi mynd i’r afael â chwrs Mynediad, mewn cyflogaeth neu addysg bellach o fewn 6 mis ar ôl cwblhau eu cwrs Dyfarnwyd gradd dosbarth cyntaf neu radd ail ddosbarth uwch i

o fyfyrwyr Mynediad Ffynhonnell: Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch

Ymgeisiwch nawr

Cyngor Mike Fitzgerald, Darlithydd Mynediad i Ddyniaethau i’r rhai hynny sy’n ystyried gwneud cais: “Mae Mynediad yn berffaith ar gyfer unrhyw un sy’n teimlo ei fod eisiau gwneud cynnydd ond sydd heb y cymwysterau academaidd i gyd-fynd â’i brofiad neu uchelgais. Byddai pobl yn synnu faint o’r bobl hynny sy’n gwasanaethau eu cymunedau - gweithwyr cymdeithasol, athrawon cynradd, pobl sy’n gweithio ym maes cyfiawnder troseddol – sy’n darganfod eu llwybrau drwy Fynediad flynyddoedd ar ôl gadael yr ysgol. Nid yw eich potensial fyth yn eich gadael ac nid yw hi fyth yn rhy hwyr i roi cynnig ar rywbeth newydd.” www.coleggwent.ac.uk

01495 333777

14


Applied science

Gwyddoniaeth Gymhwysol Roboteg, deallusrwydd artiffisial, gwyddoniaeth fiofeddygol a chyfrifiadureg fforensig yw ond rhai o’r gyrfaoedd cyffrous a chyfleoedd prifysgol sydd ar agor i fyfyrwyr gwyddoniaeth gymhwysol. Byddwch yn dysgu sut i gymhwyso egwyddorion gwyddonol i broblemau ymarferol mewn addysg er mwyn canfod atebion i wella clefydau, datrys problemau gwyddonol neu ddatblygu technoleg. Cewch brofiad o lygad y ffynnon yn ein labordai gwyddoniaeth pwrpasol, y cyfan ag offer safonol y diwydiant. Yn ogystal â darlithoedd arbenigol byddwch yn cael eich cefnogi gan dechnegwyr sydd â chyfoeth o brofiad diwydiannol. Gwyddoniaeth Gymhwysol Lefel 2 Gwyddoniaeth Gymhwysol Lefel 3 (Diploma Estynedig)

1 flwyddyn 2 flynedd

CN / PP CK / CN / PP / PDBG

Canfyddwch y fformiwla ar gyfer eich llwyddiant

15

Ymgeisiwch nawr

www.coleggwent.ac.uk

01495 333777


Gyrfaoedd nodweddiadol

Cyflog cyfartalog

Gwyddonydd fforensig Gwyddonydd biofeddygol Technegydd labordy Fferyllydd

£24 mil £27 mil £18 mil £35 mil

Collodd Owen gryn dipyn o’r ysgol gan ei fod wedi bod yn gaeth i gadair olwyn oherwydd ME/ CFS felly ni gyflawnodd ei TGAU gwyddoniaeth. Serch hynny, bu i Owen ailsefyll ei arholiadau mewn ysgol leol ar y cyd â’i Ddiploma Estynedig mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol yn y coleg, ac fe ddechreuodd ei Safon UG mewn Cemeg yn ei ail flwyddyn. Cyflawnodd Owen D*D*D* a nawr mae’n astudio gwyddoniaeth filfeddygol yn y Coleg Milfeddygol Brenhinol. Byddai’n argymell ceisio cael profiad gwaith mewn coleg a chredai fod ei brofiad gwaith mewn practis milfeddygol a gyda’r APHA a’r RSPCA wedi bod o gymorth iddo ennill dealltwriaeth ddyfnach a phrofiad go iawn a helpodd gyda’i gais prifysgol. 16


Beth nesaf? Gallwch wneud Gradd Sylfaen mewn Dadansoddi a Gwyddor Fforensig yng Ngholeg Gwent*, neu ymgymryd â chyrsiau prifysgol yn ymwneud â gwyddoniaeth eraill. Neu, pe byddai’n well gennych roi eich sgiliau ar waith mewn cyflogaeth gallech fod yn dechnegydd mewn meysydd megis labordai ymchwil mewn fferyllfeydd, labordai ysbyty, labordai gwyddor amgylcheddol, labordai ysgol neu goleg yn ogystal â labordai gwyddor fforensig.

A wyddoch chi…? Mae’r diwydiant gwyddoniaeth yn rhan o’r sector gweithgynhyrchu peirianneg, gwyddoniaeth a mathemateg. Yn ogystal mae’n cynnwys y diwydiannau canlynol: gweithgynhyrchu modurol; gweithgynhyrchu electroneg ac offer trydanol; gweithgynhyrchu offer mecanyddol a gweithgynhyrchu offer trafnidiaeth. *Achrededig gan Brifysgol De Cymru

17


Celf, Dylunio a’r Cyfryngau Ein stiwdios celf, dylunio, ffasiwn, y cyfryngau a ffotograffiaeth eang yw’r man perffaith i chi fynegi eich hun, i arbrofi gydag amrywiaeth o dechnegau ac i ddewis arbenigedd. Byddwch yn gallu defnyddio ein hadnoddau sy’n berthnasol i ddiwydiant gan gynnwys ystafelloedd cyfrifiaduron gyda Apple Mac a Chyfrifiaduron Personol amlgyfrwng gyda’r feddalwedd ddiweddaraf. Ein sioeau diwedd blwyddyn yw’r llwyfan perffaith i chi arddangos eich gwaith gorau a denu sylw’r cyhoedd – profiad gwych i chi baratoi ar gyfer y brifysgol neu’r byd gwaith. Celf a Dylunio Astudiaethau Sylfaen Celf a Dylunio Lefel 3/4 Celf a Dylunio Lefel 1 Celf a Dylunio Lefel 2 Celf a Dylunio Lefel 3 (Diploma Estynedig) Cyfryngau Rhyngweithiol Celf a Dylunio Lefel 3 (Diploma Estynedig) Graffeg Celf a Dylunio Lefel 3 (Diploma Estynedig) Ffasiwn a Dillad Celf a Dylunio Lefel 3 (Diploma Estynedig) Ffotograffiaeth Celf a Dylunio Lefel 3 (Diploma Estynedig) Cyfryngau Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol Lefel 3 (Diploma Estynedig) Cynhyrchu Cyfryngau Digidol Creadigol Lefel 2

1 flwyddyn 1 flwyddyn 1 flwyddyn 2 flynedd 2 flynedd

CK CK / CN / PP CK / PDBG / CN / PP CK / PDBG / CN CK / CN

2 flynedd 2 flynedd 2 flynedd

PP CK CK

2 flynedd CK / PDBG / PP 1 flwyddyn CK / PDBG / PP

Ewch i’n gwefan am ragor o wybodaeth am gyrsiau a bywyd myfyrwyr Ymgeisiwch nawr

www.coleggwent.ac.uk

01495 333777 18


Tynnwyd y llun gan Jane Nesbitt, Diwydiannau Creadigol (FfotografďŹ aeth) Myfyriwr Gradd Sylfaenol

19

Ymgeisiwch nawr

www.coleggwent.ac.uk

01495 333777


Beth nesaf? Mae llawer o’n myfyrwyr diwydiannau creadigol yn mynd ymlaen i astudio mewn prifysgol ar draws y Deyrnas Unedig a llawer yn astudio cyrsiau gradd sylfaen yng Ngholeg Gwent mewn pynciau megis ffotograffiaeth, steilio ffasiwn, dylunio gemau, cyfathrebu graffig a chynnyrch cyfryngol. Mae eraill yn defnyddio’r sgiliau maent wedi’u dysgu mewn swyddi megis dylunio graffig/gwe, dylunio ffasiwn ac animeiddio.

A wyddoch chi…? Mae 1 o bob 11 swydd yn y Deyrnas Unedig yn y diwydiannau creadigol a chynhyrchwyd £84.1 biliwn gan y sector yn 2014 (Ffynhonnell: Cyngor y Diwydiannau Creadigol) *Achrededig gan Brifysgol De Cymru

Dyluniwch eich dyfodol Cyngor y darlithydd Geoff Harper ar ddilyn gyrfa yn y cyfryngau: “Mae gyrfa mewn cynnyrch cyfryngol yn symud yn gyflym ac yn hynod gystadleuol, ond gall fod yn ffordd gyffrous iawn i ennill bywoliaeth. Yn y coleg byddwch yn gweithio ar friffiau byw sy’n heriol ond buddiol iawn ac a fydd yn rhoi’r sgiliau i chi y byddwch eu hangen yn y gweithle. Gyrfaoedd nodweddiadol Gwyddonydd fforensig Gwyddonydd biofeddygol Technegydd labordy Fferyllydd

Cyflog cyfartalog £24 mil £27 mil £18 mil £35 mil 20


Busnes a Rheoli Yn ein byd modern, rheola busnes a masnach bron bob agwedd o’n bywydau. Felly disgwyliwch i’ch astudiaeth i fod yn eang. Ond ceir cyfle i arbenigo lle gallwch barhau y tu hwnt i’r coleg – yn y brifysgol neu mewn swydd. Marchnata, AD, cyllid, rheoli...masnachu, yswiriant, bancio...mae’r cyfan yn eiddo i chi yma yng Nghymru neu unrhyw le yn y byd ym myd byd-eang busnes. Astudiaethau Busnes Astudiaethau Busnes Lefel 2 Busnes Lefel 3 (Diploma Estynedig) Cyfrifyddu Cyfrifyddu Lefel 3 Cyfrifyddu a Busnes Lefel 2 Gweinyddu Busnes Gweinyddu Busnes Lefel Mynediad Gweinyddu (Gweithiwr Proffesiynol Busnes) Lefel 1 Gweinyddu (Gweithiwr Proffesiynol Busnes) Lefel 2 Gweinyddu (Gweithiwr Proffesiynol) Lefel 3 Ymarfer Cyfreithiol Astudiaethau Cyfreithiol Lefel 2 Cyfraith ac Arfer Lefel 3

1 flwyddyn CK / PDBG* / CN* / PP 2 flynedd CK / PDBG* / CN* / PP 1 flwyddyn CN 1 flwyddyn CN 1 flwyddyn 1 flwyddyn 1 flwyddyn 1 flwyddyn

CK CK / PDBG / CN / PP CK / PDBG / CN / PP CK / CN / PP

1 flwyddyn CN 1 flwyddyn CN *Gellir darparu cyrsiau yn Gymraeg

21

Ymgeisiwch nawr

www.coleggwent.ac.uk

01495 333777


Dangoswch i’r byd eich bod o ddifrif Beth nesaf? Aiff llawer o’n myfyrwyr busnes a rheoli ymlaen i astudio mewn prifysgolion ledled y DU, un ai mewn cyd-destun busnes eang neu arbenigo mewn meysydd fel marchnata, y gyfraith, AD neu gyllid. Cewch hefyd y cyfle i aros yn agosach at adref ac astudio cwrs ym Mhrifysgol De Cymru yng Ngholeg Gwent fel astudiaethau busnes, rheoli manwerthu, rheoli cyrchfannau a thwristiaeth, y gyfraith a chyfrifyddu. Rhoddodd eraill yr hyn a ddysgwyd ganddynt ar waith mewn swyddi neu wella eu sgiliau mewn hyfforddeiaeth neu Brentisiaeth. Gallwch ddechrau eich busnes eich hun hyd yn oed.

A wyddoch chi...? Mae’r farchnad manwerthu ‘pop-up’ ym Mhrydain yn awr yn werth £2.3 biliwn (Ffynhonnell: virgin.com)

Mae dros 99% o fusnesau yn fusnesau bach neu ganolig. Cyflogant 0-249 o bobl (Ffynhonnell: Tŷ Cyffredin)

Gyrfaoedd nodweddiadol Gweinyddwr AD Cyfrifydd Rheolwr marchnata Cyfreithiwr

Cyflog cyfartalog £19 mil £28 mil £33 mil £46 mil

Y llynedd roedd chwe myfyriwr o Goleg Gwent ymysg enillwyr Trading Places – her entrepreneuriaeth am dridiau lle roeddynt yn cynnig eu cynllun busnes yn erbyn 30 myfyriwr o Dde Ddwyrain Cymru. 22


23


Arlwyo, Lletygarwch a Manwerthu Mae gweithio yn y diwydiant gwasanaeth yn golygu eich bod ar flaen y gad yn aml o ran y profiad cwsmer felly mae’n hanfodol bod y cwsmeriaid yn cael profiad cadarnhaol; o’r argraff gyntaf, i gynnyrch o ansawdd a gwasanaeth rhagorol. Fel myfyriwr arlwyo a lletygarwch byddwch yn dysgu yn ein ceginau masnachol, ac os astudiwch yn Crosskeys, byddwch yn meddu profiad amhrisiadwy yn ein bwyty, Morels, sydd ar agor i’r cyhoedd. Gyda gweithlu cryf o dair miliwn, a thwf blwyddyn ar ôl blwyddyn, mae’r sector manwerthu yn gyfrannwr sylweddol i economi’r DU a all gynnig ystod anferth o gyfleoedd i chi.

Ymgeisiwch nawr

www.coleggwent.ac.uk

01495 333777 24


Coginio Proffesiynol Coginio Proffesiynol Lefel 1 Coginio Proffesiynol Lefel 2 Coginio Proffesiynol Lefel 3 Lletygarwch Gwasanaethau Lletygarwch Lefel 1 Lletygarwch ac Arlwyo Lefel Mynediad Manwerthu Manwerthu a Lletygarwch Lefel 1 Manwerthu a Lletygarwch Lefel 2 Manwerthu a Lletygarwch Lefel 3

1 flwyddyn 1 flwyddyn 1 flwyddyn

CK / PDBG CK / PDBG CK

1 flwyddyn 1 flwyddyn

CK PDBG

1 flwyddyn 1 flwyddyn 1 flwyddyn

PP PP PP

Gwasanaeth da, ansawdd da, busnes da

Cyflog cyfartalog

Gyrfaoedd nodweddiadol Cynrychiolydd gwasanaeth cwsmer Rheolwr cynorthwyol mewn siop manwerthu Rheolwr bwyty Prif gogydd

25

£17 mil £18 mil £23 mil £25 mil

Ymgeisiwch nawr

www.coleggwent.ac.uk

01495 333777


Beth nesaf? Mae cyfleoedd prifysgol megis lletygarwch rhyngwladol, celfyddydau coginio neu reoli busnes, yn ogystal â’r opsiwn i aros yn nes at adref a chwblhau Gradd Sylfaen mewn Rheolaeth Manwerthu* neu Reolaeth Twristiaeth a Chyrchfan* yng Ngholeg Gwent. Neu ewch yn syth i gyflogaeth mewn bariau, bwytai neu westai; neu’r diwydiant manwerthu amrywiol sy’n cynnwys swyddi mewn manwerthu ar-lein sy’n cynyddu’n barhaus.

A wyddoch…? Yn 2015 gweinodd y diwydiant lletygarwch 1 o bob 6 pryd a fwytawyd yn y DU – mae hynny’n 8.3 biliwn o brydau’r flwyddyn (Ffynhonnell: Cymdeithas Lletygarwch Prydain)

Mae lletygarwch yn cynhyrchu 2.4 miliwn o swyddi, sy’n cyfrif am 8% o gyfanswm cyflogaeth, gan ei wneud y pumed cyflogwr mwyaf yn y DU (Ffynhonnell: Cymdeithas Lletygarwch Prydain)

Amcangyfrifir bod gwerthiannau manwerthu dros y rhyngrwyd yn cynyddu 10% y flwyddyn i gyfanswm o tua £40 biliwn yn 2014 (Ffynhonnell: ONS) 26 *Accredited by the University of South Wales


Cyfrifiadura a TG Mae’r byd digidol yn datblygu’n gyflym ac mae cyflogwyr angen timau blaengar i ddatblygu meddalwedd a rheoli systemau a rhwydweithiau. Nawr mae’r DU – a’r byd cyfan –yn gwbl ddibynnol ar gyfrifiaduron ac mae caledwedd a meddalwedd yn datblygu ac yn newid drwy’r amser. Felly gall rhywun ag arbenigedd mewn cyfrifiaduron, y rhyngrwyd neu dechnoleg gwybodaeth yn gyffredinol ddefnyddio ei sgiliau a’i addysg i weithio mewn unrhyw sector o’i ddewis fwy neu lai; dyna i chi lawer o swyddi posibl. Byddwch yn cael eich dysgu mewn swîts TG cyfarparedig gyda mynediad i’r technolegau, caledwedd a’r feddalwedd ddiweddaraf. Mae gan ein darlithwyr brofiad ymarferol yn y diwydiant. Felly yn ogystal ag ennill gwybodaeth a’r cymwysterau sydd eu hangen i fod yn ymarferydd TG, cewch y sgiliau sy’n uniongyrchol berthnasol ar gyfer y gweithle. Defnyddwyr TG Cymorth Defnyddwyr TG/ Systemau TGCh Lefel 1 Cymorth Defnyddwyr TG/Systemau TGCh Lefel 2 Defnyddwyr TG Lefel Mynediad Defnyddwyr TG Lefel 1 Defnyddwyr TG/Systemau Gwybodaeth Busnes Lefel 1 Ymarferwyr TG Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu Lefel Mynediad Technoleg Gwybodaeth a Chreadigol Lefel 2 Technoleg Gwybodaeth Lefel 3 (Diploma Estynedig)

27

1 flwyddyn 1 flwyddyn 1 flwyddyn 1 flwyddyn 2 flynedd

CN CN CK CK / PDBG / CN / PP CN

1 flwyddyn 1 flwyddyn 1 flwyddyn

PDBG CK / PDBG / CN CK / PDBG / CN /PP


Cyflog cyfartalog

Gyrfaoedd nodweddiadol Dadansoddwr data Peiriannydd rhwydwaith Technegydd cymorth TG Rhaglennydd

£25 mil £30 mil £18 mil £30 mil

Ymgeisiwch nawr

Astudiodd Jacob Richards Ddiploma Lefel 3 i Ymarferwyr TG yng Nghampws Casnewydd yn 2012. Ers hynny bu iddo raddio o Brifysgol De Cymru a bellach mae’n gweithio fel dadansoddwr technegol mewn cwmni TG byd-eang CGI: “O oedran ifanc iawn sylweddolais fod gennyf angerdd gwirioneddol am dechnoleg sy’n eithriadol o bwysig os ydych yn ystyried dilyn gyrfa mewn TG. I fod yn llwyddiannus mewn TG, rydych angen y cymwysterau cywir a phrofiad ymarferol i’ch enw. Bu i’r cwrs yng Ngholeg Gwent fy narparu ag ystod eang o brofiadau ymarferol, rhai ohonynt rwy’n eu defnyddio nawr yn fy swydd o ddydd i ddydd yn CGI.” www.coleggwent.ac.uk

01495 333777

28


Byddwch ar y blaen

Beth nesaf? Gallwch wneud cwrs prifysgol mewn diogelwch TG, TGCh*, cyfrifiadura* neu gemau celf a dylunio* yng Ngholeg Gwent, neu fynd i’r afael â chyrsiau prifysgol yn ymwneud â TG eraill. Neu pe byddai’n well gennych roi eich sgiliau ar waith yn y gweithle gallwch gael swydd fel dadansoddwr cymorth TG, datblygwr meddalwedd, technegydd cymorth TG neu beiriannydd rhwydwaith ar lefel iau.

A wyddoch chi…? Mae 1.2 miliwn o bobl yn gweithio yn y diwydiant TG yn y DU -mae oddeutu hanner ohonynt yn gweithio mewn cwmnïau TG tra bod y gweddill yn gweithio mewn diwydiannau eraill megis gweithgynhyrchu, cyllid, sector cyhoeddus a chyfathrebu. (Ffynhonnell: careerpilot.org.uk) Mae TG yn meddu un o’r cyfraddau hunan-gyflogaeth uchaf yn y DU - mae tua un o bob pedwar o’i gweithlu yn hunangyflogedig. (Ffynhonnell: careerpilot.org.uk) *Achrededig gan Brifysgol De Cymru

29


Construction

Adeiladu Os ydych yn dda am gynllunio, bod yn greadigol a gallu defnyddio mathemateg sylfaenol fel arwynebeddau, meintiau, mesuriadau llinol a chostiadau, gallwch fod yn grefftwr gwych. Boed yn yrfa mewn gosod briciau, gwaith coed, plymio a gwresogi, gosod trydan, plastro, paentio ac addurno neu archwilio, cynllunio a dylunio – mae yn eich dwylo chi. Cewch brofiad ymarferol yn ein gweithdai llawn offer ynghyd â chrefftau eraill. Bydd hyn yn eich paratoi’n dda ar gyfer gwaith ar safle adeiladu. Cewch ddysgu hefyd y ddamcaniaeth o gefnogi eich sgiliau ymarferol ynghyd ag iechyd a diogelwch sy’n hanfodol ym mhob crefft. Mae gan ein darlithwyr flynyddoedd o brofiad diwydiant wrth gefn. Felly, nid yn unig y byddwch yn dysgu gan arbenigwyr byddant hefyd yn rhoi cyngor i chi ar gael swydd ar ôl bod yn y coleg neu ddechrau eich busnes eich hun hyd yn oed.

Ymgeisiwch nawr

www.coleggwent.ac.uk

01495 333777 30


Dylunio ac adeiladu eich dyfodol eich hun Adeiladu Adeiladu (Peirianneg Sifil) Lefel 3 (Diploma Estynedig) Adeiladu Lefel 2 Adeiladu Lefel 3 (Diploma Estynedig) Aml-sgiliau Adeiladu Lefel Mynediad Crefftau Arbenigol Lefel 2 Sgiliau Adeiladu Lefel 1 Crefftau Trywel Plastro Lefel 1 Plastro Lefel 2 Gosod trydanol Gosod Trydanol Lefel 1 Gosod Trydanol Lefel 2 Gosod Trydanol Lefel 3 Gwaith brics Gosod brics Lefel 1 Gosod brics Lefel 2 Gwaith coed Gwaith coed Lefel 1 Gwaith coed mainc Lefel 2 Gwaith coed mainc Lefel 3 Gwaith coed safle Lefel 2 Paentio ac Addurno Paentio ac Addurno Lefel 1 Paentio ac Addurno Lefel 2 Paentio ac Addurno Lefel 3 Plymio Astudiaethau Plymio Lefel 1 Astudiaethau Plymio Lefel 2 Astudiaethau Plymio Lefel 3

2 flynedd 1 flwyddyn 2 flynedd 1 flwyddyn 1 flwyddyn 1 flwyddyn

PP PP PP CN / PP PP PDBG / CN / PP

1 flwyddyn 1 flwyddyn

PP PP

1 flwyddyn 1 flwyddyn 1 flwyddyn

PDBG* / CN PDBG* / CN PDBG*

1 flwyddyn 1 flwyddyn

PDBG / CN / PP PDBG / CN / PP

1 flwyddyn 1 flwyddyn 1 flwyddyn 1 flwyddyn

PDBG / CN / PP PP PP PDBG /CN / PP

1 flwyddyn 1 flwyddyn 1 flwyddyn

PP PP PP

1 flwyddyn 1 flwyddyn 1 flwyddyn

PDBG / CN / PP* PDBG / CN / PP* PDBG / CN

*Gellir darparu cyrsiau yn Gymraeg

Beth nesaf? Aiff llawer o’n myfyrwyr adeiladu yn syth i waith mewn crefft, ond cewch y dewis hefyd o astudio Tystysgrif/Diploma Cenedlaethol Uwch mewn Adeiladu a’r Amgylchfyd Adeiledig neu gwrs perthnasol i adeiladu yn y brifysgol.

31

Ymgeisiwch nawr

www.coleggwent.ac.uk

01495 333777


Gyrfaoedd nodweddiadol

Cyflog cyfartalog

Gosodwr briciau Plymiwr Rheolwr adeiladu Fforman

£21 mil £19 mil £40 mil £25 mil

A wyddoch chi…? Disgwylir i’r nifer o bobl cyflogedig mewn adeiladu yng Nghymru godi i 129,200 yn 2020. (Ffynhonnel: CITB Cymru Wales)

Mae diwydiant adeiladu’r DU yn cyfrannu bron i £90 biliwn i economi’r DU, 6.7% o’r cyfanswm. (Ffynhonnell: Llywodraeth EM)

Myfyrwyr yn ailwampio clwb pêl-droed lleol Y llynedd cafodd myfyrwyr brofiad ymarferol o ymuno â phrosiect plastro yng nghlwb pêl-droed lleol Sêr Treowen. Gofynnwyd i’r coleg gyfranogi gan aelod o bwyllgor y clwb. Roedd y clwb wedi bod yn llwyddiannus mewn sicrhau nawdd ar gyfer y deunyddiau ond nid oedd ganddynt unrhyw blastrwyr i wneud y gwaith. Cafodd 23 o fyfyrwyr o Gampws Pont y pŵl y gwaith o blastro’r prif far a’r ardal ddigwyddiadau. 32


33


34


Cyflogadwyedd A ydych rhwng 16 a 19 oed a ddim mewn cyflogaeth neu addysg? Gallwn eich cynorthwyo i gael y sgiliau mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt • • • •

�Cymhwyso �Magu hyder �Gwella Saesneg a Mathemateg �Bod yn fwy cyflogadwy

Gwnewch ragflasau mewn nifer o feysydd pwnc i’ch cynorthwyo i benderfynu ar yrfa. Gallwch ddechrau cwrs unrhyw amser o’r flwyddyn. Felly gall eich gyrfa newydd fod ar gyrraedd. Atal Lefel 1 Cyflogadwyedd a Datblygiad Personol Lefel Mynediad Llwybr i'r Dyfodol Lefel 2

35

1 flwyddyn 1 flwyddyn Tymhorol

PP PP CK / PDBG / CN / PP


Peirianneg Peirianneg yw cymhwysiad ymarferol a chreadigol gwyddoniaeth a mathemateg. Defnyddia peirianwyr y wybodaeth sydd ganddynt mewn maes penodol i wneud pethau weithio, i wella pethau a datrys problemau. Eich ffôn symudol a chyfrifiadur llechen newydd? Mae peirianwyr electroneg wedi cynorthwyo i wneud y rhain. Taith Tim Peake i’r Orsaf Ofod Ryngwladol yn 2016? Gwnaeth tîm enfawr o beirianwyr hynny’n bosibl. Awyrenegol Peirianneg Awyrenegol Lefel 2 Cynhyrchu Peirianneg (Cynhyrchu) Lefel 1 Gweithgynhyrchu a Pheirianneg Peirianneg (Mecanyddol) Lefel 1 Peirianneg (Mecanyddol) Lefel 2 Peirianneg (Mecanyddol/Gweithgynhyrchu) Lefel 3 (Diploma) Peirianneg Mecanyddol Lefel 3 (Diploma Estynedig) Ffabrigo a Weldio Peirianneg (Ffabrigo a Weldio) Lefel 1 Peirianneg (Ffabrigo a Weldio) Lefel 2 Peirianneg Peirianneg Lefel 3 Peirianneg Drydanol Peiranneg Dechnoleg Drydanol/Electronig Lefel 2 Peirianneg Drydanol Lefel 1 Peirianneg Drydanol/Electronig Lefel 3 (Diploma Estynedig) Peirianneg Drydanol/Electronig Lefel 3 (Diploma) Rhaglen Peirianneg Uwch Rhaglen Peirianneg Uwch (Llwybr Mecanyddol) Lefel 3 Rhaglen Peirianneg Uwch (Llwybr Trydanol) Lefel 3

2 flynedd

PDBG

1 flwyddyn

CN

1 flwyddyn 1 flwyddyn 1 flwyddyn 2 flynedd

CK / CN CK / CN CK CK

1 flwyddyn 1 flwyddyn

CN CN

2 flynedd

CN

1 flwyddyn 1 flwyddyn 2 flynedd 1 flwyddyn

CK CK CK CK

1 flwyddyn 1 flwyddyn

CK CK

Byddwch yn hogi’ch sgiliau mewn gweithdai o’r radd flaenaf. Cewch fynediad at offer llaw a pheirianyddol traddodiadol, ynghyd â pheiriannau a reolir gan gyfrifiaduron a phrototeipio cyflym. Caniatâ ein labordai trydanol ac electronig i chi ddysgu drwy ddylunio, adeiladu, rhaglennu a phrofi datrysiadau i ddatrys problemau go iawn. Hefyd, golyga ein cysylltiadau agos â busnesau y dysgwch y technegau a’r sgiliau diweddaraf y mae cyflogwyr peirianneg eu hangen.

Ewch i’n gwefan am ragor o wybodaeth am gyrsiau a bywyd myfyrwyr Ymgeisiwch nawr

www.coleggwent.ac.uk

01495 333777 36


Pa faes peirianneg hoffech chi weithio ynddo? • • • • • •

Arweinyddiaeth peirianneg Awyrofod Cymorth technegol peirianneg Cynnal a chadw peirianneg Gosod a chomisiynu Gwneud offer, roboteg ac awtomeiddio peirianneg • Llunio ac weldio • Metelau a meteleg

• • • • • • • •

Modurol Morol Peirianneg gweithgynhyrchu fecanyddol Peirianneg drydanol ac electronig Prosesau gweithgynhyrchu Prosesu a gorffen deunyddiau Technegau gwella busnes Ymchwil a datblygu

Cyflog cyfartalog

Gyrfaoedd nodweddiadol Peiriannydd mecanyddol Peiriannydd diwydiannol Peiriannydd awyrofod Peiriannydd trydanol

£30 mil £31 mil £31 mil £31 mil

Ewch i’n gwefan am ragor o wybodaeth am gyrsiau a bywyd myfyrwyr 37

Ymgeisiwch nawr

www.coleggwent.ac.uk

01495 333777


Beth nesaf? Efallai eich bod eisiau parhau eich hyfforddiant ar gwrs prifysgol yng Ngholeg Gwent mewn peirianneg, peirianneg fecanyddol* neu beirianneg drydanol ac electronig*. Efallai eich bod eisiau astudio mewn prifysgol ymhellach i ffwrdd neu roi eich sgiliau technegol ar waith yn y gweithle.

A wyddoch chi…? Rhestrwyd peirianneg o fewn y pum sector galw mawr uchaf am swyddi parhaol. Bydd angen i gwmnïau peirianneg recriwtio 2.56 miliwn o bobl erbyn 2022. Bob blwyddyn, mae’r sector peirianneg angen 56,000 o swyddi ar lefel 3 (Prentisiaeth Uwch) a 107,000 ar lefel 4+ (Diploma/Tystysgrif Genedlaethol Uwch, gradd sylfaen neu ôl-radd a chyfatebol). Ffynhonnell: Peirianneg y DU 2016 *Achrededig gan Brifysgol De Cymru

38


ESOL Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf bydd ein cyrsiau yn helpu i wella eich sgiliau Saesneg. Gallai hyn eich helpu i ddod o hyd i gyflogaeth, i gyfathrebu ag ysgol eich plentyn, y Ganolfan Byd Gwaith neu’ch meddyg, neu ddim ond gwneud eich bywyd yn y Deyrnas Unedig ychydig yn haws. Ar ein cyrsiau gallwch: • Wella eich Saesneg - siarad, gwrando, darllen, ysgrifennu, gramadeg a geirfa • Dysgu sut i ysgrifennu yn ffurfiol ac anffurfiol wrth lunio e-byst, llythyrau, CVau a cheisiadau am swydd • Dysgu am fywyd yn y Deyrnas Unedig • Dysgu am y sgiliau gwaith rydych eu hangen i gael swydd neu ddyrchafiad • Dysgu am fathemateg gan gynnwys mesur, cyllidebu a sut i ddarllen amserlenni Sgiliau Bywyd ESOL Lefel Mynediad 1 Sgiliau Bywyd ESOL Lefel Mynediad 2 Sgiliau Bywyd ESOL Lefel Mynediad 3

1 flwyddyn 1 flwyddyn 1 flwyddyn

CN CN CN

Ewch i’n gwefan am ragor o wybodaeth am gyrsiau a bywyd myfyrwyr 39

Ymgeisiwch nawr

www.coleggwent.ac.uk

01495 333777


Gwallt, Harddwch a Therapïau Cyflenwol ‘Os ydych yn gwneud swydd sydd wrth eich bodd, ni wnewch fyth ddiwrnod o waith’ - mantra nifer o weithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn niwydiannau amrywiol, cyffrous a boddhaus gwallt, harddwch, colur a therapïau cyflenwol. Maent ar frig y polau cenedlaethol yn aml wrth gyfeirio at weithwyr hapusaf yn y DU. Byddwch yn cael y profiad ymarferol mae cyflogwyr yn chwilio amdano yn ein salonau masnachol. Bydd angen i chi feddu sgiliau pobl da i ddarparu gwasanaeth cwsmer o’r radd flaenaf yn ogystal â chreadigrwydd ac ymwybyddiaeth am ffasiwn fel gallwch gynghori cleientiaid ar yr hyn sy’n eu gweddu orau. Mae gan ein darlithwyr flynyddoedd o brofiad yn y diwydiant. Felly nid yn unig byddwch yn dysgu gan arbenigwr, ond gallant roi cyngor i chi ynglŷn â chael swydd wedi’r coleg neu ddechrau eich busnes eich hun hyd yn oed.

40


Arddangoswch eich steil, ysbryd a llwyddiant Mae holl fyfyrwyr trin gwallt a harddwch yn cymryd rhan mewn sioeau rheolaidd ar y campws. Byddwch yn gweithio i friff ac yn arddangos eich dawn greadigol. Themâu’r gorffennol yn cynnwys swyn y ffilmiau, oes y gofod, uwch-arwyr, dawns fasgiau ac avant-garde. Effeithiau Arbennig Theatraidd Colur Theatraidd Lefel 3 Gwallt a Cholur Cyfryngau Lefel 2 Gwallt a Harddwch Gwallt a Harddwch Lefel 1 Technoleg Ewinedd Gwasanaethau Ewinedd Lefel 2 Gwasanaethau Ewinedd Lefel 3 Trin Gwallt Trin Gwallt Lefel 1 Trin Gwallt Lefel 2 Trin Gwallt Lefel 2 (I Oedolion) Trin Gwallt Lefel 3 Therapi Harddwch Therapi Harddwch Lefel 2 Therapi Harddwch Lefel 3 Therapïau Ategol Therapïau Ategol Lefel 3

Gyrfaoedd nodweddiadol Technegydd ewinedd Colurwr Triniwr gwallt Rheolwr Sba

41

1 flwyddyn 1 flwyddyn

CK CK

1 flwyddyn

CK / CN / PP

1 flwyddyn 1 flwyddyn

PDBG / CN / PP PDBG / CN / PP

1 flwyddyn 1 flwyddyn 1 flwyddyn 1 flwyddyn

CK / PDBG / CN / PP CK / PDBG / CN / PP CK CK / PDBG / CN / PP

1 flwyddyn 1 flwyddyn

CK / CN / PP CK / CN / PP

1 flwyddyn

PP

Cyflog cyfartalog £13 mil £20 mil £12 mil £21 mil

Ymgeisiwch nawr

www.coleggwent.ac.uk

01495 333777


Beth nesaf? Efallai cewch y dewis o wneud Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Gwallt a Rheolaeth Harddwch* yng Ngholeg Gwent lle byddwch yn dysgu rhagor am ochr fusnes y diwydiant, neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Colur Arbenigol i barhau i wella eich sgiliau ymarferol gyda cholur a dysgu sgiliau newydd mewn prostheteg a gwneud mygydau. Pe bai’n well gennych fynd yn syth i gyflogaeth, gall y dewisiadau gynnwys gweithio mewn salon, sba neu fel therapydd, triniwr gwallt neu golurwr ar eich liwt eich hun.

A wyddoch chi…? Dechrau busnesau annibynnol trin gwallt/barbwr yw’r 5ed mwyaf poblogaidd ac mae salonau harddwch yn yr 8fed safle. (Ffynhonnell: Ffederasiwn Cenedlaethol y Trinwyr Gwallt)

Mae’r diwydiant trin gwallt/barbwr a harddwch yn cynhyrchu bron i 7 biliwn mewn trosiant bob blwyddyn. Ffynhonnell: (Ffederasiwn Cenedlaethol y Trinwyr Gwallt)

42


Iechyd a Gofal Gall gyrfa mewn gofal roi llawer o foddhad i chi a gall gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl eraill. Mae gweithio gyda phlant yn swydd heriol iawn, ond ychydig iawn o feysydd gwaith sydd mor amrywiol a buddiol. Mae gofalu am blant a helpu i’w harwain yn gyfrifoldeb mawr, a dyna pam y byddwch angen hyfforddiant cydnabyddedig i weithio mewn rôl gofal plant. Petai’n well gennych yrfa mewn iechyd a gofal cymdeithasol byddwch yn dysgu sut beth yw gweithio yn y sector gan ein darlithwyr sydd wedi gweithio mewn nifer o wahanol swyddi iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r mwyafrif o’n cyrsiau yn cynnwys profiad gwaith a fydd yn rhoi’r profiad ymarferol i chi y mae cyflogwyr yn chwilio amdano, bydd hyn felly’n rhoi mantais i chi pan fyddwch wedi cymhwyso. Gofal Iechyd a Chymdeithasol Gofal Iechyd a Chymdeithasol Lefel 1 Gofal Iechyd a Chymdeithasol Lefel 2 Gofal Iechyd a Chymdeithasol Lefel 3 (Diploma Estynedig) Gofal Iechyd a Chymdeithasol Lefel 3 Astudiaethau Iechyd (Diploma Estynedig) Gofal Iechyd a Chymdeithasol Lefel 3 Gofal Cymdeithasol (Diploma Estynedig) Gofal Plant Gofal, Dysgu a Datblygu Plant Lefel 2 Gofal, Dysgu a Datblygu Plant Lefel 3 (Diploma Estynedig) Gofalu am Blant Lefel 1 Gofalu am Blentyn/Plant Lefel Mynediad

1 flwyddyn 1 flwyddyn 2 flynedd 2 flynedd

CK / PDBG / CN* / PP CK / PDBG / CN* / PP CK* / PDBG / CN / PP CK* / PP

2 flynedd

CK*

1 flwyddyn 2 flynedd 1 flwyddyn 1 flwyddyn

CK* / PDBG* / CN* / PP CK* / PDBG* / CN / PP CK* / CN* / PP CN

*Gellir darparu cyrsiau yn Gymraeg

43


Roedd hwyl yr ŵyl ar frig y rhestr pan drefnodd myfyrwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Campws Dinas Casnewydd barti Nadolig i’w cymdogion oedrannus y llynedd. Roedd y parti yn rhan o Her Gymunedol cwrs Bagloriaeth Cymru’r myfyrwyr a gweithiodd pawb yn galed i drefnu bwyd, gemau a hyd yn oed pantomeim i’r gwesteion oedd yn cynnwys nifer o breswylwyr o Gartref Gofal Severn Care yng Nghas-gwent, neiniau a theidiau a’u ffrindiau.

Gofalwch am eich dyfodol Gyrfaoedd Nodweddiadol

Cyflog Cyfartalog

Gweithiwr Cymdeithasol Cynorthwyydd Meithrinfa Gweithiwr Ieuenctid Swyddog Lles Addysg

£27 mil £18 mil £20 mil £26 mil

www.coleggwent.ac.uk/christmascare www.coleggwent.ac.uk

01495 333777 44


Beth nesaf? Bydd gennych nifer o opsiynau – gallech fynd ymlaen i astudio gradd yn ymwneud â gofal yn y brifysgol megis gwaith cymdeithasol, gwyddor iechyd neu nyrsio neu gallech aros yn agosach at gartref ac astudio gradd sylfaen mewn Iechyd a Lles Cymunedol*, Astudiaethau Plentyndod*, Astudiaethau Gofal*, Seicoleg, Ieuenctid a Chymuned* neu Iechyd Meddwl^ yng Ngholeg Gwent. Neu gallech fentro i’r byd gwaith fel gweithiwr gofal, cynorthwyydd gofal plant, swyddog lles; mae’r sector hynod amrywiol hwn yn cynnig cannoedd o gyfleoedd.

A wyddoch chi…? Y GIG yn y Deyrnas Unedig yw’r pumed cyflogwr mwyaf yn y byd (Ffynhonnell: Independent) *Wedi’i achredu gan Brifysgol De Cymru ^ Wedi’i achredu gan Brifysgol Caerwrangon

45


Sgiliau Byw’n Annibynnol Mae ystod o gyrsiau ar gael sy’n addas i fyfyrwyr o amrywiol gefndiroedd a gallu addysgiadol. Fe wnawn eich cynorthwyo i ddysgu rheoli eich arian eich hun, coginio eich bwyd eich hun, cynllunio eich gyrfa eich hun a byw bywyd annibynnol yn eich cymuned. Ynghyd â dysgu sgiliau ymarferol, cynorthwyo i gynyddu eich hunanhyder i’ch cynorthwyo i fyw bywyd gweithgar. Annibynniaeth a Gwaith Lefel Mynediad 1 Annibynniaeth a Gwaith Lefel Mynediad 2 Astudiaethau Galwedigaethol Lefel Mynediad 3 Cyflogadwyedd Lefel Mynediad 2 Cyflogadywedd Lefel Mynediad 3 Sgiliau Byw'n Annibynnol Lefel Cyn Mynediad Sgiliau Byw'n Annibynnol Lefel Mynediad 1 Sgiliau Byw'n Annibynnol Lefel Mynediad 2 Sgiliau Byw'n Annibynnol Lefel Mynediad 3

1 flwyddyn 1 flwyddyn 1 flwyddyn 1 flwyddyn 1 flwyddyn 1 flwyddyn 1 flwyddyn 1 flwyddyn 1 flwyddyn

CK CK CK CK / PDBG / CN CK / PDBG / CN CK / CN CK / PDBG / CN /PP CK / PDBG / PP CK / PDBG / PP

Magu hyder a dod yn annibynnol Byddwch yn gofalu am gymysgedd o sgiliau galwedigaethol a chreadigol fel celf a chrefft, coginio, garddio a TG, ynghyd â pharhau i wella eich llythrennedd, rhifedd a sgiliau hanfodol eraill. Byddwch hefyd yn mynd ar deithiau ac ymweliadau i leoliadau megis amwynderau, amgueddfeydd ac atyniadau twristiaeth lleol ynghyd â chyfranogi mewn gweithgareddau codi arian a menter. Yn 2016, enillodd Crefftwyr Crymlyn, tîm o ddysgwyr ILS o Gampws Crosskeys, wobr Tîm y Flwyddyn yng nghystadleuaeth Menter Ifanc Cymru gyfan. Roeddent yn cystadlu yn erbyn adrannau ILS prif ffrwd ac eraill o amgylch Cymru. Gwyliwch eu fideo: Nid oes gofynion mynediad ffurfiol gan ystyrir anghenion bob dysgwr ar sail unigol. Bydd gennych gyfweliad anffurfiol a byddwn yn asesu’ch anghenion unigol i sicrhau y cofrestrwch ar y cwrs iawn i chi. Efallai cewch y cyfle i fynychu rhaglen drosglwyddo lle gallwch gwrdd â’r tiwtoriaid, mynychu rhai gwersi a dod i adnabod y coleg cyn i chi ddechrau. Trafodwn hyd gyda chi yn eich cyfweliad.

Cewch wybod mwy am ein cyrsiau a bywyd myfyrwyr ar ein gwefan Ymgeisiwch nawr

www.coleggwent.ac.uk

01495 333777 46


Beth nesaf? Mae holl gyrsiau yn flwyddyn o hyd. Gallwch gynyddu un ai o fewn ILS neu o bosib, ymgeisio am gyrsiau prif ffrwd yn y coleg.

47

Ymgeisiwch nawr

www.coleggwent.ac.uk

01495 333777


Y llynedd cododd Morgan Steed, myfyriwr a chlebryn proffesiynol, a’i gyd-ddisgyblion swm anhygoel o £635 am ddistawrwydd noddedig wedi iddo gael ei herio gan Chris Evans, AS Islwyn, i fod yn ddistaw.

Mae Chris Evans yn ymwelwr rheolaidd a chyfaill i’r adran Sgiliau Byw Annibynnol ar Gampws Crosskeys. Roedd yn ymwybodol o’r gwaith yr oeddem yn ei wneud i godi arian i adeiladu gardd synhwyrau. Dywedodd yr AS y byddai’n noddi £50 tuag at y prosiect os gallai Morgan gadw’n dawel am awr. Nid yn rhai i wrthod her, casglodd Morgan a’i gyd-ddisgyblion gefnogaeth gan fyfyrwyr eraill yn yr adran a dderbyniodd yr her. Sganiwch y cod i wybod beth fu eu hanes.

ww.coleggwent.ac.uk/sponsoredsilence 48


49


50


Diwydiannau’r Tir Mae pob cyflogwr yn chwilio am brofiad ac mi fyddwch yn cael digon o brofiad ar ein cyrsiau ar Gampws Brynbuga. Mae ein fferm weithiol yn cynnig y cyfle i ddarpar ffermwyr weithio gyda pheiriannau o safon diwydiant a bydd ein gwartheg a’n defaid yn rhoi’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad i chi fynd gyda chi i’r byd gwaith. Os ydych yn hoff o anifeiliaid bach, byddwch yn bwydo, yn glanhau ac yn gofalu am amrywiaeth o anifeiliaid bach – o gwningod a moch cwta i rywogaethau mwy egsotig megis ymlusgiaid a mulod yn ein canolfan gofal anifeiliaid bach, sydd hefyd yn gartref i’n canolfan ailgartrefu cathod Blue Cross. Bydd rhai sy’n hoffi ceffylau wrth eu bodd â’n cyrsiau ceffylau a’n cyfleusterau. Gydag ysgolion y tu mewn ac yn yr awyr agored a’n cyfleusterau lifrai, byddwch yn dysgu sut i ofalu am geffylau, archwilio eu hymddygiad ac yn datblygu eich sgiliau marchogaeth mewn amgylchedd proffesiynol. Amaethyddiaeth Amaethyddiaeth Lefel 1 Amaethyddiaeth Lefel 2 Amaethyddiaeth Lefel 3 (Diploma Estynedig) Astudiaethau Ceffylau Gofal Ceffylau Lefel 1 Gofal Ceffylau Lefel 2 Rheoli Ceffylau Lefel 3 (Diploma Estynedig) Cefn Gwlad ac Amgylchedd Cefn Gwlad ac Amgylchedd Lefel 2 Rheoli Cefn Gwlad Lefel 3 (Diploma Estynedig) Gofal Anifeiliaid Gofal Anifeiliaid Lefel 1 Gofal Anifeiliaid Lefel 2 Rheoli Anifeiliaid Lefel 3 (Diploma Estynedig)

1 flwyddyn 1 flwyddyn 2 flynedd

B B B

1 flwyddyn 1 flwyddyn 2 flynedd

B B B

1 flwyddyn 2 flynedd

B B

1 flwyddyn 1 flwyddyn 2 flynedd

B* B* B

*Gellir darparu cyrsiau yn Gymraeg

51

Ymgeisiwch nawr

www.coleggwent.ac.uk

01495 333777


Nid ydym yn hel dail; rydym yn plannu’r hadau, yn meithrin eich sgiliau ac yn gadael i’ch doniau dyfu

Gyrfaoedd nodweddiadol Rheolwr Lloches Anifeiliaid Gweithiwr Fferm Milfeddyg Gwas Stabl

Cyflog cyfartalog £20 mil £14 mil £30 mil £14 mil

Gallai Erica yr Igwana fod yn un o’r hynaf yn y byd. Fel arfer nid ydynt yn byw am fwy na 20 mlynedd mewn caethiwed, ond mae Erica yn dal i fynd a dathlodd ei phen-blwydd yn 30 yn 2016.

www.coleggwent.ac.uk/erica30 52


Beth nesaf? Mae nifer o’n myfyrwyr diwydiannau’r tir yn mynd ymlaen i astudio mewn prifysgolion ar draws y Deyrnas Unedig ac mae llawer yn dewis astudio cyrsiau prifysgol yng Ngholeg Gwent megis cyrsiau iechyd a lles anifeiliaid*, nyrsio milfeddygol*, amaethyddiaeth^ neu astudiaethau ceffylau^. Mae eraill yn defnyddio’r sgiliau maent wedi’u dysgu mewn swyddi megis ffermwyr, cynorthwywyr mewn siopau anifeiliaid anwes, gweithiwyr stablau ac amgylcheddwyr.

A wyddoch chi…? Mae diwydiannau’r tir a’r amgylchedd yng Nghymru yn cynnwys tua 18,600 o fusnesau sy’n cyflogi 85,000 o weithwyr (Ffynhonnell: Lantra Cymru) *Wedi’i achredu gan Brifysgol De Cymru ^Wedi’i achredu gan Brifysgol Aberystwyth

53


Cerbydau Modur Mae’r diwydiant cerbydau modur mor amrywiol ag ydyw yn gyffrous ac mae gyrfa yn y maes hwn yr un mor heriol ac ydyw yn werthfawr. Fel atgyweiriwr cyrff cerbydau gallech fod yn tynnu ac atgyweirio paneli wedi torri, yn llyfnu tolciau bychan a hyd yn oed yn creu paneli allan o ddalennau metal. Os ydych wrth eich bodd â cheir ac yn mwynhau trwsio pethau gallai cynnal a chadw cerbydau fod yn fwy addas i chi. Gallai wythnos waith nodweddiadol gynnwys dod o hyd i ddiffygion, atgyweirio ac ail-osod partiau diffygiol, profi ceir ar y ffordd, gwneud gwiriadau cynnal a chadw safonol a gosod ategolion megis synwyryddion bacio, systemau sain neu larymau/llonyddwyr. Cynnal a Thrwsio Arolygu Cerbydau Lefel 2 Cynnal a Thrwsio Cerbydau Ysgafn Lefel 1 Cynnal a Thrwsio Cerbydau Ysgafn Lefel 2 Cynnal Cerbydau (Beiciau Modur) Lefel Mynediad Cynnal Cerbydau (Beiciau Modur) Lefel 1 Cynnal Cerbydau (Beiciau Modur) Lefel 2 Cynnal Cerbydau (Beiciau Modur) Lefel 3 Cynnal Cerbydau Lefel Mynediad Egwyddorion Cynnal a Thrwsio Cerbydau Ysgafn Lefel 2 (Diploma Estynedig) Egwyddorion Cynnal a Thrwsio Cerbydau Ysgafn Lefel 3 Egwyddorion Cynnal a Thrwsio Cerbydau Ysgafn Lefel 3 (Diploma Estynedig) Trwsio Damweiniau Cynnal Corff a Phaent Cerbydau Lefel Mynediad Peirianneg Modurol Lefel 3 Trwsio Damweiniau (Corff a Phaent) Lefel 1 Trwsio Damweiniau (Corff a Phaent) Lefel 2 Trwsio Damweiniau (Corff a Phaent) Lefel 3 Trwsio Damweiniau (Egwyddorion Paentio) Lefel 2 Trwsio Damweiniau (Egwyddorion Paentio) Lefel 3

1 flwyddyn 1 flwyddyn 1 flwyddyn 1 flwyddyn 1 flwyddyn 1 flwyddyn 1 flwyddyn 1 flwyddyn 1 flwyddyn

CK CK / CN CK / CN CK CK CK CK CK / CN CK

1 flwyddyn 2 flynedd

CK / CN CK

1 flwyddyn 1 flwyddyn 1 flwyddyn 1 flwyddyn 1 flwyddyn 1 flwyddyn 1 flwyddyn

NP CK / CN CN CN CN CN CN

Byddwch yn gallu defnyddio’r holl dechnoleg ddiweddaraf yn ein gweithdai cyflawn sy’n cynnwys gweithdai cynnal a chadw cerbydau o’r radd flaenaf, bwth chwistrellu a siopau cyrff cerbydau ar Gampws Dinas Casnewydd a gweithdai cynnal a chadw cerbydau, cynnal a chadw beiciau modur a diagnostig uwch ar Gampws Crosskeys.

Ymgeisiwch nawr

www.coleggwent.ac.uk

01495 333777 54


Dechreuwch eich taith i lwyddiant Mae gan ein darlithwyr flynyddoedd o brofiad o’r diwydiant felly ni fyddwch yn unig yn dysgu gan yr arbenigwyr, ond mi fyddant hefyd yn gallu rhoi cyngor i’ch helpu i gael swydd ar ôl gadael y coleg.

Beth nesaf? Mae’r mwyafrif o fyfyrwyr yn mynd ymlaen i wneud Prentisiaeth neu i gael swydd llawn amser yn y diwydiant, ond gallwch hefyd fynd i astudio yn y brifysgol mewn meysydd megis peirianneg chwaraeon modur a pheirianneg cerbydau modur.

A wyddoch chi…? Mae yna 37,113,358 o geir ar y ffyrdd yn y Deyrnas Unedig (Ffynhonnell: Cymdeithas y Gwneuthurwyr a’r Masnachwyr Moduron)

Amcangyfrifir fod yna 193,789 o bobl yn gweithio yn y diwydiant ac mae’r nifer o fusnesau cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau wedi cynyddu dros 48% yn y ddegawd ddiwethaf (Ffynhonnell: IMI Automotive)

55

Ymgeisiwch nawr

www.coleggwent.ac.uk

01495 333777


Gyrfaoedd nodweddiadol

Cyflog cyfartalog

Technegydd Atgyweirio Cyrff Cerbydau Technegydd Paent Peiriannydd Cerbydau wedi Torri i Lawr Curwr Paneli

£18 mil £17 mil £23 mil £19 mil

Yn ogystal â gweithio fel darlithydd i Goleg Gwent, mae Rich Wheeler hefyd yn bencampwr sector dros beirianneg o fewn y prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, sy’n cefnogi cystadleuwyr o Gymru ar hyd eu taith gyda Chystadleuaeth World Skills Uk. Ei awgrym pennaf ar gyfer dilyn gyrfa yn y maes cerbydau modur yw: “Byddwch yn frwdfrydig, mwynhewch eich llwybr gyrfa dewisol a gweithiwch yn galed i fod y gorau yn eich maes.” 56


Celfyddydau Perfformio, Cerddoriaeth a Thechnoleg Gerdd A oes gennych lais? Eisiau profi eich bod â’r Waw ffactor? A ydych yn giamstar ar y gitâr? Efallai mai dewin neu ddewines y ddawns ydych neu awydd troedio’r llwyfan? Ewch i gael blas o’r byd adloniant yng Ngholeg Gwent a gwireddwch eich breuddwyd. Gallwch fwynhau ymarfer, creu a pherfformio yn ein stiwdios recordio proffesiynol, stiwdios ymarfer a lleoliadau byw. Maent â’r technolegau diweddaraf. Bydd hyn yn sicrhau eich bod â phopeth rydych ei angen i arddangos eich ochr greadigol. Fel myfyriwr celfyddydau perfformio cewch fynediad i’n stiwdios ymarfer o’r radd flaenaf, cyn troedio ar y llwyfan yn ein theatr llawn offer mewn perfformiadau byw ar gyfer teulu, ffrindiau a’r cyhoedd. Mae’n brofiad gwych i’w roi ar eich CV. Mae myfyrwyr cerdd yn mwynhau creu a pherfformio yn ein stiwdios recordio proffesiynol sydd â’r holl dechnolegau diweddaraf. Sicrha hyn eich bod â phopeth yr ydych ei angen i arddangos eich ochr greadigol. Celfyddydau Perfformio Actio Lefel 3 (Diploma Estynedig) Celfyddydau Perfformio Lefel 2 Theatr Gerdd Lefel 3 (Diploma Estynedig) Cerddoriaeth a Thechnoleg Gerddoriaeth Cerddoriaeth Lefel 2 Cerddoriaeth Lefel 3 (Diploma Estynedig) Technoleg Gerddoriaeth Lefel 3 (Diploma Estynedig)

2 flynedd 1 flwyddyn 2 flynedd

CK CK CK

1 flwyddyn 2 flynedd 2 flynedd

CK / PDBG* CK / PDBG* CK

*Gellir darparu cyrsiau yn Gymraeg

57

www.coleggwent.ac.uk / 01495 333777


Gyrfaoedd nodweddiadol Cerddor neu gantor Actor Peiriannydd sain DJ

Cyflog cyfartalog £20 mil £19 mil £23/awr £25/awr

Astudiodd Mitchell Harper, 24, gwrs theatr gerdd. Mae nawr yn gweithio ledled y byd fel perfformiwr a choreograffwr proffesiynol:

“Dewiswch gwrs yn seiliedig ar yr yrfa yr ydych yn ei dymuno. Yna ewch amdani! Os gweithiwch yn galed yn eich holl bynciau, yn enwedig y rhai gwanaf, bydd y cyfle gorau am lwyddiant o fewn cyrraedd. Rhaid i chi fod yn rhagweithiol, yn rhadlon ac yn ymroddedig. “Chwaraeodd y coleg ran enfawr i’m cynorthwyo i gyrraedd fy nod heddiw, ond nid oedd hi’n hawdd. Os ewch i’r gampfa a pheidio ymarfer, ni chewch y canlyniadau. Felly hefyd yn y coleg. Ni allwch ddisgwyl cymhwyso ar unwaith. Mae angen i chi weithio’n galed. Manteisiwch ar gymorth a chyngor darlithwyr. Manteisiwch ar y perfformiadau byw yn y coleg.”

www.coleggwent.ac.uk

01495 333777

58


Nid cyfweliad yw bywyd. Gwireddwch eich breuddwydion.

Beth nesaf? Aiff llawer o’n myfyrwyr ymlaen i astudio mewn prifysgolion ac ysgolion drama ledled y DU. Mae’r rhain yn cynnwys Academi Gerdd a Chelf Ddramatig Llundain a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Neu gallwch aros yn nes at adref a gwneud Gradd Sylfaen mewn Celfyddydau Perfformio* neu Dechnoleg Cerddoriaeth Boblogaidd* yng Ngholeg Gwent. Cewch hefyd yr opsiwn i roi beth a ddysgwch gennym ni ar waith mewn swyddi fel peirianwyr sain, cynorthwywyr llwyfan, cynorthwywyr hyrwyddiadau a chynorthwywyr breindaliadau.

A wyddoch chi…? Mae 5,480 o fusnesau a 101,593 o bobl yn gweithio yn y sector celfyddydau perfformio. O’r rhain mae o leiaf 34% yn gyflogedig mewn galwedigaeth ar y llwyfan fel actio neu ddawnsio (Ffynhonnell: Sgiliau Creadigol a Diwylliannol) *Achrededig gan Brifysgol De Cymru

59


Chwaraeon, Hamdden a Gwasanaethau Cyhoeddus Dilynwch ôl troed eich arwyr chwaraeon. Pa un ai a oes gennych ddiddordeb mewn hyfforddi, rheoli, ymarfer corff, gwyddoniaeth neu therapi, mae gennym gyrsiau a fydd yn eich helpu i gael swydd yn y meysydd cyffrous hyn. Yn y dyfodol gallech fod yn gweithio mewn clwb iechyd, fel hyfforddwr gweithgareddau awyr agored neu’n gweithio yn y diwydiant hamdden. Mae Campws Crosskeys yn gartref i Academi Ieuenctid Dreigiau Casnewydd Gwent lle mae’r chwaraewyr yn ennill cymwysterau ochr yn ochr â chwarae rygbi. Mae’r aelodau yn manteisio ar 16 awr o hyfforddi gyda hyfforddwyr y Dreigiau wrth astudio naill ai pynciau Safon Uwch neu gyrsiau galwedigaethol. Os ydych yn astudio chwaraeon, gweithgareddau awyr agored neu wasanaethau cyhoeddus ar Gampws Brynbuga neu Gampws Pont-y-pŵl byddwch hefyd yn astudio yn Stadiwm Cwmbrân ac yn cael budd o’r cyfleusterau ardderchog yno a’r profiad o ddysgu mewn amgylchedd hyfforddi elît tebyg i academi. Efallai eich bod eisiau bod yn swyddog heddlu, yn barafeddyg neu’n fôr-filwr neu awydd bod yn ymladdwr tân - bydd ein cwrs gwasanaethau cyhoeddus yn eich helpu i gyrraedd y nod. Mae’r Gwasanaethau Cyhoeddus wrth galon ein cymuned, a bydd y rhai sy’n dewis gyrfa yn un o’n gwasanaethau mewn lifrai neu ddim mewn lifrai yn cyflawni rôl hanfodol yn ein cymdeithas. Ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent, Campws Brynbuga a Champws Pont-y-pŵl byddwch yn cael cyfle i fod yn Gadet Heddlu mewn partneriaeth â Heddlu Gwent. Chwaraeon a Hamdden Cyfarwyddyd Iechyd, Ffitrwydd ac Ymarfer Corff Lefel 2 Hyfforddiant/Ffitrwydd a Chyfarwyddyd Personol Lefel 2/3 Hyfforddiant a Chyfarwyddyd Personol Lefel 3 Chwaraeon Lefel 2 Chwaraeon (Hyfforddiant Datblygu a Ffitrwydd) Lefel 3 (Diploma Estynedig Chwaraeon (Antur Awyr Agored) Lefel 3 (Diploma Estynedig) Gwasanaethau Cyhoeddus Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 1 Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 2 Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 3 (Diploma Estynedig)

Ymgeisiwch nawr

1 flwyddyn 1 flwyddyn 1 flwyddyn 1 flwyddyn 2 flynedd

PP / B CK PP / B CK / B CK / PDBG / PP / B

1 flwyddyn PP / B 1 flwyddyn PDBG / PP / B 1 flwyddyn CK / PDBG / PP / B 1 flwyddyn CK / PDBG / PP / B

www.coleggwent.ac.uk

01495 333777 60


Beth nesaf? Mae nifer o’n myfyrwyr chwaraeon, hamdden a gwasanaethau cyhoeddus yn mynd ymlaen i astudio mewn prifysgolion ledled y Deyrnas Unedig, tra bod eraill yn aros yn lleol ac yn astudio cyrsiau prifysgol mewn Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon* neu Wasanaethau Cyhoeddus ac Argyfwng* yng Ngholeg Gwent. Mae eraill yn dewis defnyddio’r sgiliau maent wedi’u dysgu mewn swyddi megis cynorthwywyr hamdden, cynorthwywyr hyfforddi a swyddi yn y gwasanaethau cyhoeddus. Mae Campws Pont-y-pŵl yn ganolfan gofrestredig ar gyfer cyflwyno’r cwrs Tystysgrif mewn Gwybodaeth am Blismona sy’n ofyniad ar gyfer gwneud cais i ymuno â’r Heddlu.

Oeddech chi’n gwybod…? Mae yna tua 140 o wahanol fathau o swyddi i’w cael yn y Fyddin. Er bod pawb yn dechrau fel milwr, mae yna hefyd gogyddion, peilotiaid, peirianwyr, cerddorion, cyfreithwyr, meddygon, trinwyr cŵn, clercod a llawer o swyddi eraill. (Ffynhonnell: careerpilot.org.uk)

Mae yna nawr 6,435 o gyfleusterau ffitrwydd yn y Deyrnas Unedig sydd yn werth tua £4.4 miliwn. (Ffynhonell: Leisure Database Company) *Wedi’i achredu gan Brifysgol De Cymru

Find the winning formula

61

Ymgeisiwch nawr

www.coleggwent.ac.uk

01495 333777


Gyrfaoedd nodweddiadol Hyfforddwr Ffitrwydd Hyfforddwr Personol Swyddog Heddlu Ymladdwr Tân

Cyflog cyfartalog £12 mil £19 mil £30 mil £28 mil

Mae David Windebank sy’n ddarlithydd mewn Gweithgareddau Awyr Agored wrth ei fodd yn dysgu ei gwrs: “Nid oes gan y mwyafrif o ddysgwyr sy’n dechrau’r cwrs lawer o sgiliau awyr agored, ond yn ystod y ddwy flynedd rydym yn eich hyfforddi, eich datblygu a’ch asesu i safon uchel fel eich bod yn barod i weithio fel hyfforddwr awyr agored neu fynd ymlaen i’r brifysgol i gynyddu eich sgiliau yn y diwydiant awyr agored.

wedi llwyddo i wneud rhywbeth oedd yn ymddangos yn rhy anodd. “Un o’r pethau pwysicaf mae hyfforddwr awyr agored ei angen yw’r gallu i fyfyrio - i ddysgu o bob sesiwn a cheisio gwella y tro nesaf - rydych yn datblygu o hyd.”

“Rwyf yn mwynhau dysgu’r sesiynau ymarferol; rwyf wrth fy modd yn gweld wynebau’r dysgwyr pan maent wedi gorchfygu eu hofnau neu pan maent 62


Teithio a Thwristiaeth Os ydych yn barod i gychwyn ar yrfa werthfawr, gall ein cyrsiau teithio a thwristiaeth fynd â chi i gyfeiriad un o’r diwydiannau mwyaf cyffrous a bywiog yn y byd. Gallwch weithio mewn twristiaeth ddomestig yn un o barciau gwyliau, amgueddfeydd a pharciau cenedlaethol y DU. Gallwch hefyd weithio mewn trafnidiaeth deithwyr fel asiantaeth deithio neu reoli digwyddiadau. Os hoffech yn hytrach ddefnyddio eich sgiliau ymhellach mae gwyliau cerddorol, cyrchfannau sgïo a theuluoedd yn chwilio am fyfyrwyr yn cynnig gyrfaoedd cyffrous a diddorol, ynghyd â’r cyfle i weld y byd. Byddwch yn astudio pynciau fel cyrchfannau teithio, gweithrediadau teithio a rôl cynrychiolwyr cyrchfannau. Byddwch hefyd yn dysgu sgiliau trosglwyddadwy fel gwasanaeth cwsmeriaid a chyfathrebu a gall y byd i gyd fod ar flaenau’ch bysedd. Teithio a Thwristiaeth Lefel 2 Teithio a Thwristiaeth Lefel 3 (Diploma Estynedig)

Dechreuwch eich antur gyda ni

63

1 flwyddyn 2 flynedd

CK CK


Beth nesaf? Aiff llawer o’n dysgwyr teithio a thwristiaeth ymlaen i astudio mewn prifysgolion ledled y DU, tra arhosa rhai yn lleol a gwneud gradd sylfaen mewn Rheoli Twristiaeth a Chyrchfannau* yng Ngholeg Gwent. Bydd eraill yn defnyddio’r hyn a ddysgwyd ganddynt mewn swyddi fel asiantau teithio, cynorthwywyr digwyddiadau a derbynyddion gwestai. *Achrededig gan Brifysgol De Cymru.

A wyddoch chi…? Rhagwelir y bydd diwydiant twristiaeth Prydain yn werth £257.4 biliwn erbyn 2025 gan ddarparu 3.7 miliwn o swyddi yn y sector. (Ffynhonnell: Visit Britain)

Cyflog cyfartalog

Gyrfaoedd nodweddiadol Asiant teithio Rheolwr digwyddiadau Criw cabin Rheolwr gwesty

£16 mil £26 mil £15 mil £36 mil

Ymgeisiwch nawr

Yn 2014 bu i drafnidiaeth a thwristiaeth yn fyd-eang gynorthwyo 105,408,000 o swyddi yn uniongyrchol (3.6% o gyflogaeth llawn). Disgwylir hyn i godi i 130,694,000 o swyddi (3.9% o gyfanswm cyflogaeth) yn 2025. (Ffynhonnell: Cyngor Trafnidiaeth a Thwristiaeth y Byd)

www.coleggwent.ac.uk

01495 333777

64


Canllaw’r coleg i rieni

“Mae Jake yn fwy uchelgeisiol nag erioed, ac mae’n cael ei ysgogi a’i ysbrydoli fwy nag erioed” Emma Smallwood am ei mab, Jake

65

Byddwch yn canfod gwybodaeth yn y canllaw tynnu allan gyferbyn ynglŷn â sut byddwn yn cefnogi eich mab/merch a sut allem weithio gyda’n gilydd i’w helpu i lwyddo.

I gael gwybod rhagor ewch i www.coleggwent.ac.uk/parents

Tynnu allan a chadw


Coleg Gwent yw un o’r colegau mwyaf a mwyaf llwyddiannus yng Nghymru, ni hefyd yw eich coleg lleol. Yn 2016, nododd Adroddiad Canlyniadau Dysgwyr Llywodraeth Cymru mai ni oedd y coleg â’r perfformiad gorau yng Nghymru o ran cyrsiau galwedigaethol, a’r cydradd orau o ran cyrsiau academaidd megis cymwysterau Safon Uwch. Rydym yn cynnig mwy na chymwysterau Rydym yn ymroddedig i ddatblygu pobl ifanc hyderus ac uchelgeisiol, ac mae gweithgareddau allgyrsiol yn ffordd wych o gyflawni hyn. Felly ochr yn ochr â’u cwrs, mae dysgwyr yn cael cymryd rhan mewn chwaraeon, gweithgareddau codi arian a gwirfoddoli, sydd yn rhoi sgiliau bywyd a gwaith iddynt, yn ogystal â’u helpu nhw i gyfarfod pobl newydd - mae hefyd yn edrych yn dda iawn ar eu CV neu eu cais UCAS. Diogelwch a lles y myfyrwyr yw ein blaenoriaeth Mae ein holl staff yn gwneud hyfforddiant diogelu ac mae ein rhwydwaith cefnogaeth helaeth yn sicrhau eu bod nhw’n ddiogel ac yn cael mynediad i’r gwasanaethau cefnogaeth a fydd yn cwrdd â’u hanghenion unigol. Rydym yn disgwyl safon uchel o ymddygiad a chefnogir hyn gan God Ymddygiad y coleg. Cymaint o gymorth ag y byddwch yn ei gael yn yr ysgol Rydym yn cynnig cefnogaeth ardderchog i’r holl fyfyrwyr. Mae gan bob myfyriwr diwtor personol sy’n rhoi cefnogaeth ac arweiniad iddynt trwy gydol eu hamser yn y coleg. Mae’r myfyrwyr yn cael asesiad cychwynnol wrth gofrestru er mwyn adnabod unrhyw anghenion cefnogaeth ac i drefnu cefnogaeth briodol gyda phethau megis llythrennedd a rhifedd, naill ai yn y dosbarth neu du allan i’r dosbarth. Darperir cefnogaeth, cyngor arbenigol ac adnoddau i fyfyrwyr gydag anawsterau dysgu a/neu anableddau i’w helpu nhw i gyflawni hyd at eu gorau. Rydym yn cynnig hyfforddiant un i un arbenigol i ddysgwyr sydd â dyslecsia ac i rai gydag anawsterau dysgu eraill penodol, yn ogystal â gwneud trefniadau arbennig ar gyfer arholiadau. Mae’r gefnogaeth yn cynnwys: • Cynorthwyydd cymorth neu weithiwr cymorth cyfathrebu ychwanegol yn y dosbarth • Cymorth gyda thechnoleg gynorthwyol briodol • Sgiliau sylfaenol yn cael eu dysgu gan hyfforddwyr sgiliau arbenigol • Cefnogaeth fugeiliol ychwanegol neu gyngor gyrfaoedd arbenigol Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â chi Byddwn yn monitro cynnydd a phresenoldeb yr holl fyfyrwyr llawn amser trwy gynlluniau dysgu unigol electronig (eILPs) a byddwn yn rhannu’r wybodaeth gyda chi mewn nosweithiau rhieni ac adroddiadau rheolaidd. Rydym yn annog y dysgwyr i adael i’w rhieni/ gofalwyr weld eu eILP. Os oes gennych unrhyw bryderon peidiwch ag oedi cyn cysylltu â Thiwtor Personol eich mab neu ferch, Pennaeth yr Ysgol neu’r Pennaeth Gwasanaethau Dysgwyr. Bydd y Gwasanaethau Dysgwyr yn hapus i roi’r manylion cyswllt i chi. Os oes gennych unrhyw ymholiadau cofiwch gysylltu â’r Gwasanaethau Dysgwyr, rydym yn awyddus i sicrhau bod amser eich mab/merch yn y coleg yn ddidrafferth ac yn eu paratoi at y cam nesaf. 66


Gall dysgu gyda ni fod o fudd i bawb Os yw eich mab neu ferch mewn addysg llawn amser, yn yr ysgol neu’r coleg, mae gennych hawl o hyd i gael unrhyw fudd-daliadau rydych yn eu cael ar hyn o bryd. Gall myfyrwyr wneud cais hefyd am gymorth trwy’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA) i’w helpu ychydig yn ystod eu hastudiaethau. Efallai y bydd prentisiaid yn cael eu hystyried yn gyflogedig, yn hytrach na bod â statws myfyriwr, felly, os yw eich mab neu ferch yn ystyried gwneud Prentisiaeth, mae angen i chi drafod effaith hynny o bosib ar eich hawl i fudd-daliadau.

Gyda 11 TGAU â graddau gwych, roedd gan Jake Smallwood lwyth o opsiynau. Pan sylweddolodd ei fam, Emma, ei fod yn ystyried mynd i goleg, roedd hi ychydig bach yn bryderus. Diflannodd y pryder hwnnw, diolch i’r wybodaeth a gafodd gan staff y Coleg mewn Diwrnodau Agored. “Mae rhai yn credu mai lle ar gyfer myfyrwyr nad ydyn nhw’n ddigon da i wneud arholiadau Safon Uwch yw coleg. Syniad hen-ffasiwn iawn yw hynny,” dywed Emma. Mae’n cyfaddef ei bod wedi poeni ar y dechrau na fyddai Jake yn cael ei herio digon yn y coleg ac na fyddai’n gwireddu ei lawn botensial. Ond roedd hi’n anghywir. “A dweud y gwir,” dywed, “mae Jake yn fwy uchelgeisiol nag erioed, ac mae’n cael ei ysgogi a’i ysbrydoli fwy nag erioed hefyd.” Mae Jake yn astudio at Ddiploma Estynedig mewn Cyfryngau Rhyngweithiol pwnc na fyddai wedi gallu arbenigo ynddo pe bai wedi aros yn y chweched dosbarth. Bydd y Diploma hwn yn golygu bod ganddo ddigon o bwyntiau UCAS i fynd i brifysgol. Eglura Emma: “Ro’n i’n arfer credu mai gwneud Safon Uwch oedd y ffordd orau i gyrraedd y brifysgol, dyna sut roedd hi pan o’n i’n yr ysgol beth bynnag. Ond mae’r Diploma Estynedig yn gyfwerth â thair Lefel A ac yn cael ei derbyn mewn gweithleoedd ac mewn Addysg Uwch.” Mae Jake wrth ei fodd gyda’r pwnc, a hefyd yn mwynhau’r awyrgylch, ac mae Emma wedi gweld ei hyder yn cynyddu ers iddo ddechrau yn y coleg fis Medi diwethaf. “Mae Jake yn dweud bod awyrgylch mwy hamddenol yn y coleg gan fod y tiwtoriaid yn ymddiried ynddo i wneud ei waith, ac mae’n dweud bod y stafell ddosbarth yn debycach i stiwdio dylunio, gyda’r dechnoleg ddiweddaraf ac awyrgylch proffesiynol. Mae Jake yn fwy hyderus o lawer ac mae ganddo hyder yn ei allu, diolch i’w gyfnod yn y coleg.” Nid Emma yw’r unig un sy’n hapus gyda chynnydd Jake: “Dwi wedi bod mewn nosweithiau rhieni ac mae Jake wedi creu argraff fawr ar y darlithwyr – ei waith a’i frwdfrydedd. Mae wastad yn gweithio ar ryw broject neu’i gilydd y tu allan i’r coleg hefyd gan ei fod e am gael cymaint o brofiad â phosibl. Buodd e bron gwrthod cyfle i fynd ar wyliau er mwyn dilyn project gwaith – mae hynny’n arwydd o’i ymroddiad!” Er gwaethaf yr awyrgylch hamddenol, mae Jake hefyd yn derbyn cefnogaeth a sylw gan ei diwtoriaid, ac mae Emma o’r farn bod ei berthynas gyda’r staff dysgu wedi gwneud iddo gredu ynddo fe’i hun a sylweddoli ei botensial. “Maen nhw mor gefnogol o’u myfyrwyr. Maen nhw am i Jake lwyddo cymaint ag y mae e – a fi – am iddo lwyddo. Mae Emma yn credu’n gryf y dylai rhieni ystyried pob opsiwn ar gyfer addysg eu plant. “Mae mwy o ddewis yng Ngholeg Gwent, lawn cymaint - os nad mwy - o gefnogaeth, ac awyrgylch dysgu sy’n tynnu’r gorau o bobl ifanc.”

67


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.