Mae’n wych eich bod yn ystyried astudio gyda ni yn Coleg Gwent Bob blwyddyn, mae miloedd o bobl fel chi yn mynd yn eu blaen i gyflawni pethau gwych - mynd i’r brifysgol, cael swydd dda a gwella’u rhagolygon yn y dyfodol. Gyda ni, byddwch yn datblygu sgiliau ac yn ennill cymwysterau fydd yn eich helpu i symud ymlaen at ddyfodol mwy llewyrchus. Felly, mynnwch gip ar y canllaw hwn, dewch i un o’n digwyddiadau agored, edrychwch ar ein gwefan neu codwch y ffôn - rydym yma i’ch helpu i gamu ymlaen.
Sut i ddod o hyd i bethau
3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14
Cymwysterau Safon Uwch Cyrsiau galwedigaethol Prentisiaethau Coleg sy’n ennill gwobrau Dweud eich dweud Cefnogaeth Bagloriaeth Cymru Gwybodaeth ar gyfer rhieni/gofalwyr Persbectif Rhiant Dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog Sut i ymgeisio
Mae Coleg Gwent yn bartner strategol Prifysgol De Cymru ac UHOVI (rhan o Brifysgol De Cymru).
1
Yn ôl yr adborth a ddaeth drwy’r Arolwg Perfformiad Blynyddol gan Estyn (Arolygiaeth Ei Mawrhydi yng Nghymru) yn 2014, roedd Coleg Gwent ymhlith y colegau addysg bellach a berfformiodd orau yng Nghymru. Darllenwch Adroddiad diweddaraf Estyn arnom yn www.estyn.gov.uk
Yn ôl Adroddiadau Canlyniadau Dysgwyr 2013/14, a gyhoeddwyd gan yr Adran Addysg a Sgiliau: • Roedd Coleg Gwent yn ‘rhagorol’ mewn 70% o feysydd pwnc ac yn ‘dda’ ymhob maes pwnc arall • Mae Coleg Gwent yn un o’r colegau sy’n perfformio orau yng Nghymru • Mae Coleg Gwent yn un o’r colegau gorau o ran sicrhau bod myfyrwyr yn ennill eu cymwysterau
Un o’r colegau a berfformiodd orau mewn: Gwyddoniaeth Mathemateg Busnes Gweinyddiaeth Y Gyfraith TGCh
Celf, Cyfryngau a Chyhoeddi Celf a Dylunio Adeiladu Gwallt a Harddwch ESOL Peirianneg
Mae cyfle i chi gael blas ar fywyd coleg yn ein digwyddiadau agored. Dyma’r ffordd orau i ddysgu mwy am ein cyrsiau ac am gymorth ariannol, a dod i adnabod ein campysau cyfeillgar. Dydd Mawrth 10 Tachwedd
5-8pm
Dydd Mercher 20 Ionawr
5-8pm
Dydd Mawrth 1 Mawrth
2-8pm
Dydd Mercher 11 Mai
5-8pm
Dydd Mercher 29 Mehefin
2-8pm
Cofrestrwch ar-lein nawr i gael cyfle i ennill £50 (amodau a thelerau’n weithredol) www.coleggwent.ac.uk/open
2
Eich canllaw cymwysterau Mae’r tabl isod yn amlinellu maint y gwahanol gymwysterau. Nid yw’r ‘lefel’ wastad yn cyfateb yn union, felly dylech ddefnyddio’r wybodaeth fel canllaw yn unig. Lefel
Cymhwyster
Yn cyfateb â
Lefel Mynediad
Dyfarniadau, Tystysgrifau, Diplomau Lefel Mynediad
Ddim yn berthnasol
Lefel 1
Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 1
Graddau D-G TGAU
Lefel 2
Tystysgrif Lefel 2 Tystysgrif Estynedig Lefel 2 Diploma Lefel 2
2 TGAU (A*- C) 3 TGAU (A*- C) 4 TGAU (A*- C)
Lefel 3
Tystysgrif Lefel 3 Diploma Ategol Lefel 3 Diploma Lefel 3 Diploma Estynedig Lefel 3
1 1 2 3
Os nad yw’ch ymrwymiadau eraill yn caniatáu i chi astudio’n llawn amser, neu os nad yw’n ateb eich gofynion, rydym hefyd yn cynnig y dulliau astudio canlynol: Addysg Uwch Cyrsiau lefel prifysgol
Cyrsiau rhan amser/nos Cyrsiau ar-lein learndirect
Cyrsiau proffesiynol Hyfforddiant ar gyfer busnesau a DPP
Cyrsiau byr yn y gymuned Mewn partneriaeth gydag awdurdodau lleol
3
Lefel UG SU SU SU
Cyfradd llwyddo yn y parth ennill y canlyniadau gorau erioed ym Mlaenau Gwent ac yn uwch na chyfartaledd y DU a Chymru o bynciau â chyfradd llwyddo o fyfyrwyr wedi cyrraedd y radd uchaf
Yn un o golegau mwyaf Cymru, rydym yn cynnig ystod lawn o bynciau Safon Uwch er mwyn i chi allu dewis y cyfuniad iawn ar eich cyfer chi. Gallwch wneud cymwysterau Safon Uwch ym Mharth Dysgu a Champws Crosskeys Blaenau Gwent.
Megan Lewis, myfyrwraig Safon Uwch Sganiwch y cod QR i ddysgu rhagor am daith Megan
“Ers i fi ddechrau yn y coleg, dwi ddim mor swil. Dwi’n llawer mwy hyderus a dweud y gwir, ac mae hynny oherwydd y gefnogaeth dwi wedi ei chael, yr anogaeth gyson i gyflawni fy mhotensial a’r berthynas rhyngof i a’r tiwtoriaid - rydych chi’n teimlo ar yr un lefel, ac felly mae’n dipyn haws gofyn am help. “Mae’r dosbarthiadau yn fwy rhyngweithiol o dipyn nag oedden nhw yn yr ysgol. Yn hytrach nag athro yn siarad a’r dosbarth yn sgrifennu, mae pawb yn cyfrannu at drafodaethau.”
4
Profiad uniongyrchol, i’ch paratoi at waith neu’r brifysgol. Mae ein hystod eang o gyrsiau galwedigaethol yn rhoi sgiliau ymarferol i chi, yn ogystal â’r cymwysterau sydd arnoch eu hangen i gael lle mewn prifysgol.
“Wnes i ddim mwynhau yn yr ysgol; dyw e ddim yn addas i bawb. Ro’n i’n cael trafferth gyda pheth o’r gwaith gan nad o’n i’n hoffi’r pynciau. Ond mae gallu canolbwyntio ar bwnc ry’ch chi ar dân drosto yn eich gwneud yn fwy penderfynol o lwyddo ac mae dysgu felly yn llai o fwrn, ac yn rhywbeth y gallwch ei fwynhau. “Y peth gorau am fod yn y coleg yw eich bod chi’n gallu cael profiad ymarferol, uniongyrchol. Nid dim ond am ei fod e’n hwyl, ond achos ei fod e’n rhoi profiad perthnasol i chi ac yn eich paratoi chi at waith. “Do’n i ddim yn sylweddoli’ch bod chi’n gallu mynd i brifysgol heb fod wedi gwneud Safon Uwch ond drwy’r Diploma Estynedig dwi wedi ennill y pwyntiau UCAS sydd arna i eu hangen i gael lle mewn prifysgol dda.”
James Rowe, myfyriwr Gweithgareddau Awyr Agored Sganiwch y cod QR i ddysgu rhagor am daith James
Dyma gipolwg o’n llwyddiant galwedigaethol ar gyfer 2014/15:
Llwyddodd o fyfyrwyr diploma estynedig yn eu cwrs Enillodd (39.5%) o’r myfyrwyr Diploma Estynedig Rhagoriaeth drebl – yn cyfateb i 3 gradd A Safon Uwch
5
Y gyfradd lwyddo ar Lefel 1 yw (60%) o’r myfyrwyr diploma estynedig yn ennill o leiaf un rhagoriaeth Y gyfradd lwyddo ar Lefel 2 yw
Rydym yn gwybod nad yw dysgu amser llawn yn gweddu i bawb. Os byddai’n well gyda chi fynd yn syth i gyflogaeth, ond eich bod eisiau ennill cymwysterau yn ogystal â’ch sgiliau newydd a’ch profiad wrth weithio, gallai Prentisiaeth fod yn ddelfrydol ar eich cyfer. Swydd go iawn Mae’r Rhaglenni Prentisiaeth, Hyfforddeiaeth a Thwf Swyddi Cymru, a arweinir gan Lywodraeth Cymru, yn cael cymorth ariannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop
Defnyddiwch eich sgiliau newydd yn ymarferol yn y gweithle a dewch i’r coleg hefyd, unwaith yr wythnos fel arfer.
Cymhwyster go iawn Cymhwyster cenedlaethol sy’n cael ei dderbyn gan gyflogwyr ledled y byd.
Cyflog go iawn Ar ben ennill profiad yn eich diwydiant, dysgu sgiliau gwaith newydd a chael cymwysterau, cewch eich talu hefyd!
Dyfodol go iawn Mae Prentisiaethau yn dysgu’r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw, a gall hyn agor drysau newydd i chi yn y dyfodol.
Gallwch wneud Prentisiaethau yn Coleg Gwent mewn: • Peirianneg Fodurol • Peirianneg Fecanyddol • Adeiladu
• Trydanol • Plymwaith • Weldio
“Mae fy Mhrentisiaeth yn werthfawr i fi ac i fy nghyflogwr - mae gen i swydd lle dwi’n ennill sgiliau ymarferol a chymhwyster, ac mae fy nghyflogwr yn fy hyfforddi yn y sgiliau sydd arnyn nhw eu hangen. Felly mae gyda nhw fecanic cymwysedig sydd wedi ei hyfforddi mewn dull cost effeithiol. “Dwi wrth fy modd gyda fy swydd. Dwi’n cael gweithio ar geir moethus fel Ferraris, Bentleys ac Aston Martins - yn rhoi gwasanaethau iddyn nhw, newid gasgedau a gwneud gwaith technegol arall. Dwi wir yn mwynhau bod yn y coleg hefyd, lle rydyn ni’n dysgu’r theori y tu ôl i’r gwaith technegol - sut mae’r systemau trydan, yr injan a’r trawsyrru’n gweithio. “Dwi eisiau ennill cymwysterau hyd at Lefel 3 ac yna gobeithio y galla i aros gyda Forza GB am ychydig flynyddoedd. Fy nghynllun yn yr hir dymor yw ymuno â’r RAF neu’r Llynges fel peiriannydd. Dwi wedi eisiau gwneud hyn erioed, a gobeithio y bydd fy mhrofiad a chymwysterau fel prentis yn cynyddu’r tebygolrwydd o gael fy nerbyn.”
Jay Barrett, Cerbydau Modur Lefel 2 Cyflogwr: Forza GB
6
Rydym yn falch iawn o gyflawniadau ein myfyrwyr a rhyngom mae gennym lu o enillwyr cystadlaethau a dyfarniadau. Digon i glochdar yn ei gylch. Rydym yn dathlu eich llwyddiannau chi
Rydym yn gwrando arnoch chi
Mae ein myfyrwyr yn amrywiol iawn, gyda llond lle o dalent, brwdfrydedd ac ymroddiad. Felly rydym yn dathlu hyn yn ein Gwobrau Myfyrwyr blynyddol – digwyddiad na ddylid ei golli.
Mae’ch barn chi’n bwysig ac mae nifer o ffyrdd y gallwch fod yn rhan o lunio’ch profiad yn y coleg. Rydym wedi ennill gwobrau am ein Strategaeth Cynnwys Myfyrwyr felly gallwch fod yn hyderus y byddwn yn gwrando ar eich barn a sicrhau eich bod chi’n cael dweud eich dweud ynghylch eich profiadau yma.
Enillodd myfyrwyr arlwyo 13 o fedalau ym Mhencampwriaethau Coginio Cymru.
Rydym yn eich cefnogi chi ac yn credu ynoch chi Enillodd myfyrwyr chwaraeon rownd derfynol Arian Am Oes Cymru - cystadleuaeth sy’n hybu gwell reolaeth dros arian yng nghymunedau’r DU.
Rydym yn annog ein holl fyfyrwyr i gyflawni eu llawn botensial. Rydym yn trefnu bod myfyrwyr yn cystadlu mewn llawer o gystadlaethau cenedlaethol a rhanbarthol - maen nhw’n ffordd wych o fireinio’ch sgiliau ac ymgyrraedd wastad at y gorau. Enillodd myfyrwyr TGCh gystadleuaeth fenter The Big Pitch, yn erbyn cystadleuaeth gref gan golegau ledled De Cymru. Enillodd Daniel Griffin wobr aur rownd derfynol SkillElectric Cymru - gwobr haeddiannol iawn.
7
Rhan yn unig o’r hyn sy’n digwydd yng Ngholeg Gwent yw’r astudio – byddwch yn ymuno â chymuned gyfeillgar a bydd llwyth o gyfleoedd i ymestyn eich sgiliau, profiadau a grwpiau cymdeithasol.
CG Ecstra • • • • • • • • •
Gwobr Dug Caeredin Clybiau a chymdeithasau Codi arian a gwirfoddoli Digwyddiadau a chystadlaethau Digwyddiadau chwaraeon Digwyddiadau menter i wella’ch sgiliau cyflogadwyedd Hybu iechyd Myfyrwyr Lysgenhadon Digwyddiadau cydraddoldeb ac amrywiaeth i hybu cyfle cyfartal • Cynllun Cash4Change i ddatblygu sgiliau dinasyddiaeth
Llais y Dysgwr Mae eich barn yn bwysig. Rydym yn gwrando arni er mwyn i ni allu gwella a sicrhau bod eich profiad yn y coleg cystal byth ag y gall fod. Gallwch rannu’ch barn drwy: • • • • •
Undeb Myfyrwyr Coleg Gwent VocalEyes – ein cyfleuster ymglymiad myfyrwyr ar-lein Cynrychiolwyr dosbarth Arolygon Myfyrwyr Cyfarfodydd gyda’r Pennaeth ymhob Campws
8
Yr holl gefnogaeth sydd ei hangen arnoch – y tu mewn a thu allan i’r dosbarth.
Cymorth ariannol
Tiwtoriaid personol
Cyngor ar grantiau a benthyciadau (yn cynnwys Lwfans Cynhaliaeth Addysg) er mwyn ysgafnhau’r baich a’ch galluogi i ganolbwyntio ar eich dysgu.
Hyfforddwr dysgu i’ch helpu i osod a chyrraedd targedau fydd yn eich helpu i lwyddo yn eich cwrs.
Cymorth dysgu
Lles Staff diogelu dynodedig, a gwasanaethau cwnsela, caplaniaeth, iechyd, lles a chefnogaeth.
Gyrfaoedd a chyflogadwyedd Help gyda’ch CV ac ymgeisio am swyddi a chyngor ar yrfaoedd.
Ymgeisio am le mewn prifysgol Er mwyn sicrhau eich bod yn ymgeisio ar gyfer y cwrs iawn ar yr adeg iawn.
Asesiad cychwynnol i benderfynu a oes arnoch angen cymorth neu drefniadau cymorth arbenigol os oes gennych anhawster a/neu anabledd dysgu.
Adnoddau dysgu Casgliad enfawr o lyfrau, cylchgronau, adnoddau ar-lein a’r technolegau dysgu diweddaraf. Oeddech chi’n gwybod...bod gennym Nod Ansawdd Buttle, felly os ydych chi’n derbyn gofal, neu wedi derbyn gofal, mae gennym weithwyr dynodedig i’ch helpu i gael cyngor, cefnogaeth, cyfarwyddyd ac eiriolaeth.
Mae’r rhan fwyaf o gyflogwyr a phrifysgolion am gael ymgeiswyr sydd â graddau TGAU Mathemateg a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf A* i C, ac mae pobl ifanc sydd heb y cymwysterau hyn yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith am gyfnod hwy. Felly os na chawsoch chi’r graddau roeddech chi eu heisiau yn TGAU Mathemateg a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf, cewch ail gyfle i’w gwella ochr yn ochr â’ch cwrs. Beth mae hyn yn ei olygu i chi? • Os oes gennych TGAU gradd C neu’n uwch yn Saesneg/ Cymraeg Iaith Gyntaf neu Fathemateg, nid oes angen i chi astudio’r pynciau hyn eto, os nad ydych am wneud hynny • Os cawsoch chi TGAU gradd D byddwch yn astudio ac yn ei ailsefyll • Os cawsoch E neu is yn eich TGAU, cewch eich asesu a’ch rhoi ar raglen cyn-TGAU i’ch helpu i wella’ch sgiliau llythrennedd a/neu rifedd, er mwyn i chi fedru fynd ymlaen i TGAU yn y flwyddyn academaidd nesaf.
9
Boed yn astudio Safon Uwch neu gyrsiau galwedigaethol, mae modd i chi gyfoethogi’ch dysgu drwy astudio Bagloriaeth Cymru. Mae’n gysylltiedig â’ch prif gwrs, ond yn rhoi profiad ychwanegol, hyder a sgiliau trosglwyddadwy ychwanegol i chi, fydd yn edrych yn ardderchog ar eich CV ac fe all wella’ch cyfleoedd yn y brifysgol neu mewn swydd.
Bydd Bagloriaeth Cymru yn eich ysbrydoli i gyflawni’ch potensial - ac yn help i chi ar eich siwrnai at eich gyrfa. Mae wedi cael ei chynllunio i ddatblygu’r sgiliau y mae prifysgolion a chyflogwyr yn dweud bod ar bobl ifanc eu hangen ar gyfer dysgu, gweithio a byw. Byddwch yn cymryd rhan mewn nifer o heriau ymarferol a phroject unigol fydd yn canolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau hyn: • • • • • • •
Llythrennedd Rhifedd Llythrennedd Digidol Meddwl critigol a datrys problemau Cynllunio a threfnu Creadigrwydd a menter Effeithlonrwydd personol
Project Unigol Byddwch yn gwneud aseiniad annibynnol wedi ei seilio ar ymchwil i faes y byddwch wedi dewis ymchwilio iddo. Byddwch yn ysgrifennu am wrthrych/cynnyrch a bydd gofyn i chi ysgrifennu am yr ymchwil a wnaed gennych.
Her Menter a Chyflogadwyedd Byddwch yn creu syniadau busnes ac yn ysgrifennu cynnig busnes i droi’ch syniadau yn weithredoedd profiad gwych fydd yn rhoi dealltwriaeth i chi o fyd busnes a’ch paratoi at y byd gwaith.
Her Dinasyddiaeth Fyd-eang Gallai eich her fod yn ymwneud â materion megis yr amgylchedd a chynaladwyedd, hawliau dynol, amrywiaeth a chyfiawnder cymdeithasol - i godi eich ymwybyddiaeth o faterion sy’n effeithio ar gymdeithas gyfoes ac arnoch chi fel unigolyn.
Her Cymuned Bydd her o fewn eich cymuned leol yn cael ei gosod ar eich cyfer. Yn dibynnu ar eich cwrs, gallai fod yn unrhyw beth o sesiynau pampro mewn cartref preswyl i arddangosfa gelf i godi arian at elusen. Bydd yn rhoi profiad gwych i chi, a bydd yn gyfle i chi fireinio’ch sgiliau – tra hefyd yn helpu’ch cymuned leol.
10
Pam dylai fy mab/merch astudio yng Coleg Gwent? Mae Coleg Gwent yn un o golegau mwyaf - a mwyaf llwyddiannus - Cymru. Ni hefyd yw eich coleg lleol. Yn adroddiad diweddaraf Estyn (2014) roedd ein perfformiad cystal â pherfformiad colegau gorau eraill Cymru. Soniodd yr arolwg am lawer o gryfderau, yn cynnwys: • Canlyniadau ardderchog • Un o’r tri choleg oedd yn perfformio orau yng Nghymru
Pa gyfleoedd eraill sydd ar gynnig gennych? Rydym yn ymrwymedig at ddatblygu pobl ifanc hyderus ac uchelgeisiol, ac mae gweithgareddau allgyrsiol yn ffordd wych o wneud hyn. Felly, ochr yn ochr â’u cwrs, bydd eich mab/merch yn gallu manteisio ar weithgareddau chwaraeon, codi arian a gwirfoddoli. Mae hyn oll yn ffordd wych o ddatblygu sgiliau bywyd a gwaith. Mae hefyd yn helpu myfyrwyr i gwrdd â phobl newydd ac mae’n ychwanegiad gwych i’w CV.
Fydd fy nheulu’n dal i dderbyn budd-daliadau os bydd fy mhlentyn yn gadael ysgol er mwyn mynychu’r coleg? Bydd, os yw eich mab neu ferch mewn addysg lawn amser, boed mewn ysgol neu goleg. Gall myfyrwyr hefyd wneud cais am gymorth drwy’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) er mwyn derbyn rhywfaint o gefnogaeth wrth astudio. Efallai yr ystyrir bod prentisiaid mewn cyflogaeth, yn hytrach nag mewn addysg. Os yw eich mab neu ferch yn ystyried cynllun prentisiaeth, felly, byddai angen i chi drafod yr effaith bosibl ar eich hawl i fudd-daliadau.
Pwy fydd yn ‘edrych ar ôl’ buddiannau fy mab/ merch tra yn y coleg? Diogelwch a lles myfyrwyr yw ein blaenoriaeth. Mae ein staff i gyd yn derbyn hyfforddiant ar ddiogelu ac mae ein rhwydwaith cymorth a chefnogaeth eang yn sicrhau bod myfyrwyr yn ddiogel a’u bod yn gallu derbyn y gwasanaethau cymorth a chefnogaeth sydd arnyn nhw eu hangen. Rydym yn mynnu ar ymddygiad o safon uchel ac mae Cod Ymddygiad y Coleg yn gefn i’r ymdrechion hyn. 11
Pa gymorth a chefnogaeth sydd ar gael i fy mab/ merch? Rydym yn cynnig cefnogaeth ragorol i’n holl fyfyrwyr. Mae gan bob myfyriwr ei diwtor neu ei thiwtor personol ei hun i’w harwain drwy eu cyfnod yn y coleg. Maen nhw’n cwblhau asesiad cychwynnol wrth ymrestru i nodi unrhyw anghenion cynhaliaeth er mwyn i ni allu eu cefnogi gyda phethau megis llythrennedd a rhifedd, naill ai yn yr ystafell ddosbarth neu’r tu allan iddi. Rhoddir cefnogaeth, cyngor arbenigol ac adnoddau i fyfyrwyr gydag anawsterau a/neu anableddau dysgu er mwyn iddyn nhw gyflawni hyd eithaf eu gallu. Rydym yn cynnig dysgu un wrth un i fyfyrwyr â dyslecsia a rhai gydag anghenion penodol eraill, ac yn rhoi trefniadau arbennig ar waith yn ystod arholiadau. • Cynorthwyydd cefnogaeth neu weithiwr cymorth cyfathrebu yn y dosbarth • Help gyda thechnoleg gynorthwyol addas • Sgiliau sylfaenol wedi eu dysgu gan hyfforddwyr sgiliau arbenigol • Cymorth bugeiliol ychwanegol neu gyngor gyrfaol arbenigol
Fel rhiant, sut galla i fod yn rhan o bethau? Rydym yn monitro cynnydd a phresenoldeb pob myfyriwr amser llawn drwy gynlluniau dysgu unigol electronig (CDUe) ac rydym yn defnyddio’r wybodaeth i sicrhau eich bod chi’n cael y wybodaeth ddiweddaraf mewn nosweithiau rhieni ac adroddiadau rheolaidd. Rydym yn annog myfyrwyr i alluogi eu rhieni/gofalwyr i gael mynediad i’w CDUe. Os oes gennych unrhyw bryderon mae croeso mawr i chi gysylltu â Thiwtor Personol eich mab neu ferch, neu Bennaeth eu Hysgol neu’r Pennaeth Gwasanaethau Dysgwyr. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau pellach sydd heb eu hateb mae croeso i chi gysylltu â Gwasanaethau Dysgwyr y campws - rydym yn awyddus i sicrhau bod cyfnod eich mab/merch yn yr ysgol yn un hwylus ac yn eu paratoi ar gyfer eu camau nesaf.
Emma Smallwood Gyda 11 TGAU â graddau gwych, roedd gan Jake Smallwood lwyth o opsiynau. Pan sylweddolodd ei fam, Emma, ei fod yn ystyried mynd i goleg, roedd hi ychydig bach yn bryderus. Diflannodd y pryder hwnnw, diolch i’r wybodaeth a gafodd gan staff y Coleg mewn Diwrnodau Agored. “Mae rhai yn credu mai lle ar gyfer myfyrwyr nad ydyn nhw’n ddigon da i wneud arholiadau Safon Uwch yw coleg. Syniad hen-ffasiwn iawn yw hynny,” dywed Emma. Mae’n cyfaddef ei bod wedi poeni ar y dechrau na fyddai Jake yn cael ei herio digon yn y coleg ac na fyddai’n gwireddu ei lawn botensial. Ond roedd hi’n anghywir. “A dweud y gwir,” dywed, “mae Jake yn fwy uchelgeisiol nag erioed, ac mae’n cael ei ysgogi a’i ysbrydoli fwy nag erioed hefyd.”
Mae Jake yn astudio at Ddiploma Estynedig mewn Cyfryngau Rhyngweithiol - pwnc na fyddai wedi gallu arbenigo ynddo pe bai wedi aros yn y chweched dosbarth. Bydd y Diploma hwn yn golygu bod ganddo ddigon o bwyntiau UCAS i fynd i brifysgol. Eglura Emma: “Ro’n i’n arfer credu mai gwneud Safon Uwch oedd y ffordd orau i gyrraedd y brifysgol, dyna sut roedd hi pan o’n i’n yr ysgol beth bynnag. Ond mae’r Diploma Estynedig yn gyfwerth â thair Lefel A ac yn cael ei derbyn mewn gweithleoedd ac mewn Addysg Uwch.”
Mae Jake wrth ei fodd gyda’r pwnc, a hefyd yn mwynhau’r awyrgylch, ac mae Emma wedi gweld ei hyder yn cynyddu ers iddo ddechrau yn y coleg fis Medi diwethaf. “Mae Jake yn dweud bod awyrgylch mwy hamddenol yn y coleg gan fod y tiwtoriaid yn ymddiried ynddo i wneud ei waith, ac mae’n dweud bod y stafell ddosbarth yn debycach i stiwdio dylunio, gyda’r dechnoleg ddiweddaraf ac awyrgylch proffesiynol. Mae Jake yn fwy hyderus o lawer ac mae ganddo hyder yn ei allu, diolch i’w gyfnod yn y coleg.”
Nid Emma yw’r unig un sy’n hapus gyda chynnydd Jake: “Dwi wedi bod mewn nosweithiau rhieni ac mae Jake wedi creu argraff fawr ar y darlithwyr – ei waith a’i frwdfrydedd. Mae wastad yn gweithio ar ryw broject neu’i gilydd y tu allan i’r coleg hefyd gan ei fod e am gael cymaint o brofiad â phosibl. Buodd e bron gwrthod cyfle i fynd ar wyliau er mwyn dilyn project gwaith – mae hynny’n arwydd o’i ymroddiad!”
Er gwaethaf yr awyrgylch hamddenol, mae Jake hefyd yn derbyn cefnogaeth a sylw gan ei diwtoriaid, ac mae Emma o’r farn bod ei berthynas gyda’r staff dysgu wedi gwneud iddo gredu ynddo fe’i hun a sylweddoli ei botensial. “Maen nhw mor gefnogol o’u myfyrwyr. Maen nhw am i Jake lwyddo cymaint ag y mae e – a fi – am iddo lwyddo.
Mae Emma yn credu’n gryf y dylai rhieni ystyried pob opsiwn ar gyfer addysg eu plant. “Mae mwy o ddewis yng Ngholeg Gwent, lawn cymaint - os nad mwy - o gefnogaeth, ac awyrgylch dysgu sy’n tynnu’r gorau o bobl ifanc.” 12
Mae’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru yn bwysig i ni. Rydym yn annog holl aelodau cymuned y coleg, boed yn siaradwyr Cymraeg ai peidio, i ddeall pwysigrwydd yr iaith Gymraeg fel sgil addysgol a phersonol, ac fel sgil fydd yn agor drysau cyflogaeth.
Rydym wastad yn gweithio ar ffyrdd o ddarparu gwasanaeth helaethach i’n dysgwyr sy’n siarad Cymraeg. Ar hyn o bryd, rydym yn cynnig: • Cyfle i astudio rhai modiwlau ar ddewis o gyrsiau yn ddwyieithog • Tiwtor Cymraeg ei iaith ar gyfer rhai o’ch modiwlau os ydych yn dilyn cwrs dwyieithog • Adnoddau Cymraeg ar gyfer modiwlau dwyieithog • Cymorth wrth ddefnyddio’r Gymraeg mewn aseiniadau a gwaith cwrs • Opsiwn i ysgrifennu aseiniadau a gwneud asesiadau ac arholiadau drwy gyfrwng y Gymraeg* • Darpariaeth i’ch galluogi i gael mynediad at diwtorialau Cymraeg • Cyfle i astudio’r Gymraeg fel ail iaith • Lleoliadau a phrofiad gwaith cyfrwng Cymraeg • Gweithgareddau cyfoethogi drwy gyfrwng y Gymraeg • Siaradwyr gwadd Cymraeg • Rhestrau termau a geirfaoedd dwyieithog • Cyfle i ennill sgiliau sylfaenol neu allweddol yn ddwyieithog neu drwy gyfrwng y Gymraeg • Cymorth dysgu dwyieithog a chyfrwng Cymraeg drwy HWB Cymraeg • Gweithgareddau cymdeithasol Cymraeg a dwyieithog drwy’r Clwb Cymraeg *Dim ond pan fo’r bwrdd arholi yn darparu papurau arholiad Cymraeg
13
Mae gwybodaeth am ein cyrsiau ar y tudalennau nesaf – a rhagor o fanylion ar ein gwefan. Mae dod i un o’n digwyddiadau agored hefyd yn syniad da – mae manylion am y rhain y tu mewn i glawr blaen y canllaw hwn. Ar ôl penderfynu ar gwrs, mae dwy ffordd o wneud cais:
Dull A
Dull B
Dewiswch gwrs
Dewiswch gwrs
Os ydych ym Mlwyddyn 11 un o’r ysgolion canlynol, byddwn yn dod i siarad â chi ynghylch bywyd coleg a’ch helpu i ddewis y cwrs cywir i chi:
Os nad ydych yn astudio yn un o’r ysgolion hyn, gallwch ddysgu mwy am ein cyrsiau, cymorth dysgu ac ariannol, a bywyd coleg:
Ysgol Gyfun Abertyleri Ysgol Gyfun y Coed Duon Ysgol Brynmawr Cymuned Ddysgu Glyn Ebwy Ysgol Gyfun Trecelyn Ysgol Gyfun Oakdale Ysgol Gyfun Pontllanfraith Ysgol Gyfun Rhisga Ysgol Gyfun Tredegar
• Ar ein gwefan • Mewn digwyddiad agored • Drwy gysylltu â’r Tîm Derbyn
Ymgeisio ar-lein Ar ôl i chi benderfynu ar gwrs yr hoffech ei astudio gallwch ymgeisio ar-lein a chreu cyfrif dysgwr er mwyn i chi allu tracio’ch cais.
Cwblhewch a chyflwynwch eich cais Byddwn ni’n eich helpu i gwblhau eich cais a threfnu i chi ddod ar ymweliad â’r campws rydych chi am astudio ynddo.
Cyfweliad Byddwn yn eich gwahodd i gyfweliad, a rhoi mwy o wybodaeth i chi am eich cwrs a gyrfaoedd posibl, i sicrhau y byddwch yn gwneud y dewis cywir. Yna cewch gynnig lle gennym ar gwrs addas.
Ymrestru Byddwn yn anfon llythyr atoch gyda manylion ynghylch pryd i ymrestru a beth y bydd angen i chi ddod gyda chi. Mae’r ymrestru fel arfer yn digwydd yn ystod wythnosau olaf mis Awst.
Dechrau yn y coleg Mae’r tymor yn cychwyn yn gynnar ym mis Medi - rhown wybod i chi wrth ymrestru pryd bydd eich diwrnod cyntaf.
Mae lleoedd yn llenwi’n gyflym felly peidiwch ag oedi
Os hoffech drafod ymhellach, mae ein tîm derbyn yma ar eich cyfer chi; rhowch alwad iddynt ar 01495 333777 neu e-bostiwch admissions@coleggwent.ac.uk 14