ER MWYN RHAGORI!
CANLLAW LLAWN AMSER
2019/20
CRËWCH EICH STORI O LWYDDIANT
| admissions@coleggwent.ac.uk
| 01495 333777
1
CROESO I GOLEG GWENT Un o’r colegau sy’n perfformio orau yng Nghymru* Rwy’n hynod falch eich bod yn ystyried astudio yng Ngholeg Gwent. Yn y llyfryn hwn, fe ddewch o hyd i’r ystod eang o gyrsiau amser llawn cyffrous yr ydym yn ei gynnig; 248 ohonynt, a bod yn fanwl gywir. Rwy’n sicr y dewch o hyd i’r cwrs iawn i chi - p’un a ydych eisiau astudio cyrsiau Safon Uwch neu un o’n cyrsiau galwedigaethol diddorol sy’n rhoi cyfle ichi weithio y tu allan i’r ystafell ddosbarth, mae rhywbeth at ddant pawb. Rydym yn cynnig cyrsiau ar draws bob un o’n pum campws, felly gallwch fod yn sicr y bydd un y gallwch ei astudio ar garreg eich drws. Os byddwch yn ymuno â ni, byddwch yn fyfyriwr yn un o’r colegau sy’n perfformio orau yng Nghymru. Y llynedd, roedd cyfradd lwyddo ein myfyrwyr Safon Uwch yn 98.1% ar draws 35 o bynciau, a’u cyfradd lwyddo gyffredinol yn uwch na chyfradd gyfartalog Cymru a’r DU. Rydym hefyd yn gydradd gyntaf yng Nghymru am addysg alwedigaethol, a chyda llawer o’n dysgwyr yn cymryd rhan ac yn dod yn fuddugol mewn cystadlaethau cenedlaethol WorldSkills, mae gobaith da y byddwch chithau’n llwyddiannus! Rydym yn ymfalchïo yn ein coleg. Mae’n lle cyfeillgar, croesawgar ac arloesol i astudio. Rydym yn cynnig addysg o’r radd flaenaf, cymwysterau i’ch helpu i gael yr yrfa o’ch dewis a gweithgareddau allgyrsiol y gallwch eu hychwanegu at eich CV. Felly, cymerwch gip ar y cyrsiau sydd ar gael a gwnewch gais heddiw! Os na fyddwch yn dod o hyd i’r hyn roeddech yn chwilio amdano, rhowch alwad ffôn i’n tîm Recriwtio Myfyrwyr, sydd bob amser yn barod i helpu, ar 01495 333777. Gobeithiwn eich gweld cyn hir, Guy Lacey Pennaeth/Prif Weithredwr
*Adroddiad ar Ddeilliannau Dysgwyr Adran Addysg a Sgiliau Llwyodraeth Cymru 2016/17 *Mae Coleg Gwent yn ymdrechu i sicrhau fod holl ddeunydd cyhoeddusrwydd y coleg yn gywir wrth fynd i’r wasg. Fodd bynnag, yn ystod y flwyddyn efallai y bydd y coleg yn newid manylion digwyddiadau neu gyrsiau, gan gynnwys cyrff dyfarnu, teitlau a lleoliad cyrsiau. Mae’r coleg yn cadw’r hawl i dynnu cwrs yn ôl os nad yw bellach yn ddichonadwy i’w gynnal.
CYNNWYS 01
Croeso
03
Wedi ei greu ar gyfer pawb
19
ESOL
20
Peirianneg
Beth Alla i Astudio Ymhle?
05
40
Astudiwch eich cymhwyster prifysgol gyda ni!
41 43
Wedi’i greu ar eich cyfer chi
21
Gwallt, Harddwch a Therapïau Cyflenwol
Prentisiaethau
07
23
Iechyd a Gofal
25
Sgiliau Byw’n Annibynnol
27
Seiliedig ar y Tir
Wedi’i greu ar gyfer unigolion
09
45
Safon Uwch
47
Mynediad i Addysg Uwch
Ein Campysau
11
Canolfan Addysg Ol 16 Torfaen
12
Mathemateg, Saesneg a gweithgareddau sgiliau
13
Er Mwyn Myfyrwyr
49
Gwyddoniaeth Gymhwysol
51
29
Cerbydau Modur
31
Celfyddydau Perfformio a Cherddoriaeth
Celf, Dylunio a Chyfryngau
53
Busnes a Rheoli
55
33
15
Arlwyo, Lletygarwch a Manwerthu
17
Cyfrifiadura a TG
Chwaraeon, Hamdden a Gwasanaethau Cyhoeddus
Eich cefnogi chi
Dysgu yn gymraeg ac yn ddwyieithog
18
Sut i wneud cais
35 37
Adeiladu
57
Teithio a Thwristiaeth
59
Career Colleges
39
Cyflogadwyedd
| admissions@coleggwent.ac.uk
| 01495 333777
2
WEDI EI GREU AR GYFER
PAWB
Ymgeisiwch ar-lein nawr ar www.coleggwent.ac.uk
Digwyddiadau Agored Dydd Iau 10 Ionawr 2019 1 - 4yp
Dydd Mawrth 30 Ebrill 2019 1 - 4yp
Dydd Mercher 6 Chwefror 2019 5 - 7.30yp
Dydd Mercher 08 Mai 2019 5 - 7.30yp
Dydd Sadwrn 23 Mawrth 2019 10yb - 12.30yp
Dydd Mawrth 25 Mehefin 2019 5 - 7.30yp
(addysg uwch yn unig)
(addysg uwch yn unig)
admissions@coleggwent.ac.uk 01495 333777 (Croesawn alwadau yn Gymraeg)
4
WEDI’I GREU AR EICH CYFER CHI CANLLAW I’R CYMWYSTERAU Mewn penbleth? Mae hynny’n iawn Rydym yn gwybod bod dewis eich cam nesaf yn gallu bod yn ddryslyd, ac weithiau’n dipyn o her. Fe ddylech gael rhai o’r atebion rydych yn chwilio amdanynt yn y canllaw hwn, ond os ydych yn dal i fod yn ansicr, cysylltwch â ni! Mae ein tîm Derbyn ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am - 5pm, yn barod i’ch helpu. Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer un o’r nifer fawr o ddigwyddiadau agored sydd gennym drwy gydol y flwyddyn, drwy fynd i www.coleggwent.ac.uk
Gwneud y dewis iawn Dyma ychydig o bethau i’w hystyried wrth ddewis eich cwrs: •• Rydych yn fwy tebygol o lwyddo yn eich cwrs os ydych yn ei fwynhau! •• Os byddwch yn dewis rhywbeth rydych yn dda ynddo, byddwch yn fwy tebygol o gael graddau da a chwblhau eich cwrs •• Meddyliwch beth rydych eisiau ei wneud ar ôl gorffen yn y coleg: prifysgol? Cael swydd? Hyfforddiant pellach? A fydd eich cwrs yn eich helpu i gyflawni hynny? •• Meddyliwch pa yrfa yr hoffech yn y dyfodol - a fydd eich cwrs yn eich helpu i gyrraedd yno?
96%
92%
CYFRADD BASIO LEFEL 1
CYFRADD BASIO LEFEL 2
97% CYFRADD BASIO LEFEL 3
Yn 207/18 roedd ein cyfraddau pasio Lefel A yn uwch na chyfartaledd y Deyrnas Unedig a Chymru CYFRADD BASIO O
100%
MEWN 35 O BYNCIAU SAFON UWCH AR DRAWS COLEG GWENT
Ymgeisiwch ar-lein nawr ar www.coleggwent.ac.uk
Lefel
Cymhwyster
7
Gradd Meistr/Doethuriaeth
6
Gradd Anrhydedd
Lefel swydd
NVQ 5
Gweithiwr proffesiynol siartredig
Prentisiaeth Uwch NVQ 4
Gweithiwr proffesiynol ym maes rheoli
5
Gradd sylfaen, HND
Diploma mewn Addysg Uwch
4
HNC
Tystysgrif Addysg Uwch
3
Diploma Estynedig Lefel 3 Diploma Lefel 3 Diploma Atodol Lefel 3 Tystysgrif Lefel 3
3 Safon Uwch 2 Safon Uwch 1 Safon Uwch 1 Safon UG
Uwch Brentisiaeth NVQ 3
Technegydd uwch, goruchwyliwr medrus
2
Diploma Lefel 2 Tystysgrif Estynedig Lefel 2 Tystysgrif Lefel 2
4 TGAU (A*-C) 3 TGAU (A*-C) 2 TGAU (A*-C)
Prentisiaeth NVQ2
Gweithredydd lled-fedrus
1
Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 1
TGAU (D-G)
Cynllun hyfforddiant NVQ1
Gweithredydd
Entry
Sgiliau Sylfaenol/Sgiliau Bywyd Dysgu galwedigaethol
Dysgu academaidd
Dysgu seiliedig ar waith
Canllaw i’r cymwysterau Pa gymhwyster rydych yn chwilio amdano neu ba lefel i ddechrau arni? Dyma ganllaw i’ch helpu i ddewis y lefel gywir ac i ddangos ichi ba fath o swydd y gallai arwain ati. Mae ein cyrsiau galwedigaethol Lefel 3 yn denu pwyntiau Tariff UCAS, yn union fel cyrsiau Safon Uwch. Mae nifer y pwyntiau’n dibynnu ar ba gwrs rydych yn ei wneud. Rhagor o wybodaeth yn
www.ucas.com/tariff
admissions@coleggwent.ac.uk 01495 333777 (Croesawn alwadau yn Gymraeg)
6
WEDI’I GREU AR GYFER UNIGOLION Rydym yn llwyddo
10 RHESWM DROS DDEWIS COLEG GWENT
Cwrdd â’r arbenigwyr
Mae gennym gyfraddau llwyddo arbennig
Cyrraedd eich nodau Llwybrau cynnydd a llwybrau llwyddiant clir os ydych yn symud ymlaen at lefel astudio nesaf un o’r Graddau Sylfaen, rydym yn eich cynorthwyo i gynllunio’ch llwybr tuag at gyflawni eich amcanion gyrfaol.
Mae ein tiwtoriaid profiadol yn arbenigwyr yn eu maes felly y goreuon fydd yn eich dysgu.
Eich cefnogi chi
Cefnogaeth i bob dysgwr er mwyn i chi ragori yn eich maes, ynghyd â chymorth dysgu ychwanegol ar gyfer myfyrwyr sydd ag anawsterau dysgu a/neu anableddau.
Eich cyflogadwyedd! Cysylltiadau cryf gyda chyflogwyr sy’n darparu cyfleoedd profiad gwaith, prentisiaethau a gwaith ar leoliad.
Ymgeisiwch ar-lein nawr ar www.coleggwent.ac.uk
Rydym yn gwrando arnoch! Rydym yn gwrando arnoch ac yn defnyddio’ch adborth i wella’r profiad yn y coleg – rydym wedi ennill gwobrau cenedlaethol am ein gweithgareddau llais dysgwr.
Cyfleusterau Arbenigol Mae ein cyfleusterau arbenigol fel ein salonau harddwch a thrin gwallt, stiwdios recordio, canolfan profi nwy ACS, canolfan Baxi, canolfan moduro ATA, tŷ bwyta Morels, theatrau perfformio a ffarm weithiol oll yn rhoi profiadau technegol ymarferol y byddwch yn eu defnyddio wrth eich gwaith.
Bywyd cymdeithasol Mwynhewch fywyd cymdeithasol gwych gyda’n holl weithgareddau allgyrsiol!
Gormod o Ddewis Mae llwyth o ddewis ymhlith y cyrsiau rydyn ni’n eu cynnig - 32 o bynciau Safon Uwch a dros 178 o gyrsiau galwedigaethol llawn amser, yn ogystal â 42 o gyrsiau ar lefel Prifysgol.
Gwireddu'ch angerdd Gallwch astudio rhywbeth rydych chi’n teimlo’n angerddol drosto, rhywbeth y mae gennych CHI ddiddordeb ynddo, rhywbeth yr ydych CHI wedi ei ddewis a rhywbeth yr ydych CHI am ddilyn gyrfa ynddo.
admissions@coleggwent.ac.uk 01495 333777 (Croesawn alwadau yn Gymraeg)
8
EIN CAMPYSAU Campws Crosskeys Mae ein campws mwyaf yn cynnig dros 30 o bynciau Lefel A, cymwysterau gradd, ac ystod gyfoethog ac amrywiol o gyrsiau galwedigaethol. Mae’r campws hefyd yn gartref i gyfleusterau theatr trawiadol ar gyfer y celfyddydau perfformio; bwyty a salon gwallt a harddwch sydd ar agor i’r cyhoedd; offer o safon diwydiant ar gyfer ei gyrsiau gweithgynhyrchu uwch; Hyb Addysg Uwch ar gyfer y rhai hynny sy’n astudio cymwysterau lefel gradd a Chanolfan Ddysgu gydag ystafell cyfrifiaduron Mac, llyfrau a mynediad at gyfnodolion ar-lein. Mae Campws Crosskeys hefyd yn gartref i Academi Rygbi Iau’r Dreigiau, lle gall myfyrwyr ddatblygu eu sgiliau rygbi ochr yn ochr â’u cwrs dewisol!
Campws Brynbuga Ein canolfan wledig: campws Brynbuga yw cartref ein cyrsiau diwydiannau tir, chwaraeon, hamdden a gwasanaethau cyhoeddus. Wedi ei amgylchynu gan gefn gwlad godidog a’i leoli ar gyrion tref hanesyddol Brynbuga, dyma’r campws delfrydol os oes gennych ddiddordeb mewn natur a’r awyr agored. Ymhlith y cyfleusterau newydd ar y safle mae Canolfan Ddysgu o’r radd flaenaf, Hyb Addysg Uwch newydd, a chaffi newydd i fyfyrwyr. Gyda fferm weithredol 296 acer, canolfannau anifeiliaid a cheffylau, campfa newydd ei hadnewyddu, cyfleusterau chwaraeon a chyfleusterau addysg awyr agored, rydym yn croesawu oddeutu 850 o fyfyrwyr o bob cwr o’r DU bob blwyddyn. Rydym o fewn cyrraedd i Drefynwy, y Fenni, Cas-gwent a Chasnewydd, ac yn agos at draffordd yr M4; cyfleus i fyfyrwyr sy’n teithio o bell.
| Apply online today at www.coleggwent.ac.uk
Campws Pont-y-pwl ˆ Mae campws Pont-y-pŵl yn gampws pwrpasol ar gyfer hyfforddiant galwedigaethol ar draws ystod lawn o feysydd a lefelau, gyda darpariaeth yn ymestyn o Lefel Mynediad i gyrsiau Addysg Uwch. Mae gennym ganolfan adeiladu o’r radd flaenaf, salon gwallt a harddwch sydd ar agor i’r cyhoedd ynghyd ag amrywiaeth eang o gyfleusterau arbenigol eraill i gefnogi ein cyrsiau galwedigaethol. Mae Pont-y-pŵl hefyd yn gartref i Ganolfan Cymraeg i Oedolion Gwent.
Parth Dysgu Blaenau Gwent Ers iddo agor yn 2012, mae Parth Dysgu arloesol Blaenau Gwent wedi dod yn gartref i holl addysg Lefel A y sir. Mae cyfleusterau o’r radd flaenaf y ganolfan, sydd hefyd yn cynnig ystod eang o gyrsiau galwedigaethol ac addysg uwch, yn cynnwys gweithdai adeiladu pwrpasol; ceginau proffesiynol; stiwdios recordio; cyfleuster gweithgynhyrchu cyfansoddion newydd; ystafelloedd cyfrifiaduron Mac; ardal berfformio; salonau gwallt a harddwch sydd ar agor i’r cyhoedd; a Chanolfan Adnoddau Dysgu!
Campws Dinas Casnewydd Mae campws Casnewydd, sy’n cynnig ystod eang o gyrsiau galwedigaethol ac academaidd sydd wedi eu halinio’n llawn â chyfleoedd gyrfa yn yr ardal, yn gartref i lu o gyfleusterau gwych, gan gynnwys gweithdai peirianneg ac adeiladu gyda’r offer i gyd, stiwdios celf, labordai gwyddoniaeth a salonau trin gwallt a harddwch; ac ystafell technoleg ddigidol sydd newydd agor. Mae ein campws mewn lleoliad gwych, ychydig funudau’n unig yn y car o ganol y dref. Mae Casnewydd, sy’n enwog am ei sîn ddiwylliannol fywiog - o wyliau i ddigwyddiadau chwaraeon byd-eang, yn lle gwych i fod yn fyfyriwr. Ac, i’r rhai hynny sy’n teithio o ardal Bryste, mae’r campws hefyd o fewn tafliad carreg i’r M4, 8 |munud admissions@coleggwent.ac.uk | 01495 333777 yn y car i fod yn fanwl gywir.
10
CANOLFAN ADDYSG ÔL-16 TORFAEN Cyfleusterau o’r radd flaenaf. Lleoliad gwych. Yn cynnig ystod eang o bynciau Safon Uwch a chyrsiau addysg alwedigaethol, bydd ein campws newydd yng nghanol Cwmbrân yn agor ym mis Medi 2020. Bydd y ganolfan yn gartref i holl ddarpariaeth Safon Uwch Torfaen, a bydd yn cynnig cyrsiau galwedigaethol lefel 2 a 3, graddau sylfaen a Bagloriaeth Cymru. Bydd gan y ganolfan gyfleusterau o’r radd flaenaf, a bydd mewn lleoliad gwych gerllaw Morrisons yng nghanol Cwmbrân, gyda chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus ardderchog. Bydd yr adeilad yn gwbl hygyrch ac yn cynnwys cyfleusterau arbenigol i ddisgyblion sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ALN).
NEWYDD AR GYFER 2020
Ymgeisiwch ar-lein nawr ar www.coleggwent.ac.uk
MATHEMATEG, SAESNEG A GWEITHGAREDDAU SGILIAU Efallai nad Mathemateg a Saesneg yw hoff bynciau pawb, ond maent yn rhai o’r sgiliau pwysicaf y gallwch eu cael. Pa un ai’ch bod yn anfon neges destun at ffrind neu’n talu am eich siopa, rydych yn defnyddio’r offer hyn bob dydd. Yr un mor bwysig â hynny, bydd y ddau’n ddisgwyliedig ac yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan gyflogwyr pan fyddwch yn chwilio am swydd.
Gwella eich rhagolygon
Adeiladwch eich CV!
Yng Ngholeg Gwent, rydym yn canolbwyntio ar addysgu’r sgiliau sy’n mynd i fod o fudd i chi pan fyddwch yn gwneud cais i brifysgol, yn cael swydd, neu’n mynd ymlaen i astudiaeth bellach. Am y rheswm hwn, mae bob cwrs a gynigiwn yn cynnwys [y posibilrwydd] o ddatblygiad Saesneg a Mathemateg ychwanegol. Os nad oes gennych radd C TGAU yn y naill bwnc pan fyddwch yn ymuno â ni, byddwch yn mynychu dosbarthiadau ar wahân i’ch helpu chi weithio tuag at y lefel hon.
Tra bod eich cymhwyster yn bwysig iawn, mae’r sgiliau ychwanegol y mae cyflogwyr yn dweud y byddwch eu hangen yn y gweithle megis datrys problemau, gwaith tîm a gweithio o’ch pen a’ch pastwn eich hun hefyd yn bwysig iawn. Trwy ein menter Gweithgareddau Sgiliau, gallwch gymryd rhan mewn gwirfoddoli, profiad gwaith a chlybiau a chymdeithasau. Yn ogystal ag edrych yn dda ar eich CV, gall y gweithgareddau hyn fod yn werth chweil ac yn llawer o hwyl.
Rhagor o wybodaeth yn www.coleggwent.ac.uk/ms
Rhagor o wybodaeth yn www.coleggwent.ac.uk/sgiliau
Felly dyma sut olwg fydd ar eich cwrs Lefel Uwch Cyfuniad o bynciau Lefel Uwch:
Mathemateg
Cyrsiau galwedigaethol
Mathemateg
Saesneg/Cymraeg
Cymhwyster galwedigaeth h
Saesneg/Cymraeg
Gweithgareddau Sgiliau
e.e. Diploma, Diploma Estynedig, Tystysgrif:
Gweithgareddau Sgiliau
admissions@coleggwent.ac.uk 01495 333777 (Croesawn alwadau yn Gymraeg)
12
ER MWYN MYFYRWYR
d i fywy y w m ’r Mae wyr na myfyr ch yn ei ydy hyn yr yn yr ysu ddysg osbarth. dd tafell
Cymerwch ran gyda CG Extra Ymunwch â: gweithgareddau cymunedol a gwirfoddoli; chwaraeon a ffitrwydd; clybiau a chymdeithasau; cerddoriaeth a drama; a Gwobr Dug Caeredin. Mae’n gyfle gwych i wneud ffrindiau newydd, ennill sgiliau gwerthfawr, dod yn fwy annibynnol a gwella eich cyflogadwyedd!
Ymunwch â’ch Undeb Myfyrwyr, UMCG Codwch arian ar gyfer elusennau; cymerwch ran mewn ymchwil a fforymau; helpwch mewn digwyddiadau; ymgyrchwch; dewch yn gynrychiolydd dosbarth; ymgeisiwch i fod yn llywydd!; adeiladwch eich CV; gwnewch wahaniaeth; lleisiwch eich barn!
Ymgeisiwch ar-lein nawr ar www.coleggwent.ac.uk
Arbedwch arian gyda’ch cerdyn TOTUM - Dros 200 o ostyngiadau i fyfyrwyr yn y DU - Mwynhewch dros 42,000 o ostyngiadau rhyngwladol
Menter, Cyflogadwyedd ac Entrepreneuriaeth Cymerwch ran mewn gweithgareddau menter a rhowch hwb i’ch cyflogadwyedd; datblygwch eich creadigrwydd; cymerwch ran mewn sesiynau model rôl; cydweithiwch â chwmnïau neu cymerwch ran mewn digwyddiadau mewnol ac allanol. Gallwch gael cymorth Gyrfa Cymru a rhaglenni cyflogadwyedd sy’n helpu i adeiladu CVs, cynnig cyfweliadau ffug a darparu lleoliadau gwaith. Ymunwch â rhwydweithiau a chrëwch rai newydd
Ehangwch eich sgiliau busnes a’ch profiad
Cynhelir gweithgareddau drwy gydol y flwyddyn i’ch galluogi i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i gael dyfodol llwyddiannus.
drwy ein rhaglen entrepreneuriaeth
Profwch eich sgiliau a chystadlwch gyda WorldSkills UK a Chystadleuaeth Sgiliau Cymru Adeiladwch eich CV; datblygwch sgiliau am oes, o’r radd flaenaf (rheoli amser; datrys problemau; ymdopi o dan bwysau); rhwydweithiwch ag arbenigwyr yn y diwydiant; cystadlwch yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol! Rhagor o wybodaeth yn www.coleggwent.ac.uk/worldskillscym
admissions@coleggwent.ac.uk 01495 333777 (Croesawn alwadau yn Gymraeg)
14
YN EICH CEFNOGI CHI Tiwtoriaid personol Fel myfyriwr llawn amser bydd gennych eich Tiwtor Personol eich hun, â fydd yn cwrdd â chi pob wythnos i adolygu eich cynnydd academaidd, ac yn darparu cymorth, arweiniad ac anogaeth i sicrhau eich bod yn cwblhau pob agwedd o’ch cwrs yn llwyddiannus.
Y Ganolfan Ddysgu
Yn ogystal â gofalu am eich lles cyffredinol â bod yn rhywun y gallwch ymddiried ynddo a dibynnu arno, bydd hefyd yn eich paratoi ar gyfer eich camau nesaf yn y coleg, prifysgol neu gyflogaeth.
Teithio a Chludiant
Yn ogystal a llyfrau, cyfnodolion, eLyfrau â DVDs gallwch ddefynyddio Cyfrifiaduron neu gysylltu eich dyfais eich hun i’n Wi-Fi am ddim yn y Ganolfan Ddysgu. Mae staff wrth law i’ch helpu i ddod o hyd i adnoddau â chael mynediad at wasanaethau eraill fel llungopio, lamineiddio a rhwymo.
Ddim yn siŵr sut rydych am deithio i’r coleg? Mae gennym gynllun cerdyn bws i fyfyrwyr, sy’n caniatáu ichi gael prisiau gostyngol wrth deithio yn ôl ac ymlaen o’n campysau! Ar ben hynny, byddwch hefyd yn cael prisiau gostyngol gyda’r nos, ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau (ac eithrio gwyliau’r haf).
Rhagor o wybodaeth yn www.coleggwent.ac.uk/trafnidiaeth
Cefnogaeth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol Os oes gennych chi anhawster dysgu ac/neu anabledd, gallwn ddarparu cryn dipyn o gymorth. Gallai hyn gynnwys: • Cefnogaeth yn y dosbarth trwy gynorthwyydd cefnogaeth atodol • Sesiynau ychwanegol i gael help gydag aseiniadau a gwaith cwrs • Help gan weithiwr cefnogaeth cyfathrebu (ar gyfer myfyrwyr byddar)
• Cefnogaeth Dyslecsia / Defnyddio’r Ystafell Werdd • Sesiynau ARROW i’ch helpu i wella eich sgiliau darllen a sillafu • Defnydd o feddalwedd hygyrchedd yn cynnwys hyfforddiant cychwynnol
Os ydych chi angen cefnogaeth, gallwch sgwrsio gyda’ch Tiwtor Personol neu gysylltu â Chydlynydd Anghenion Dysgu Atodol y campws (ALNCo).
• Trefniadau mynediad arholiadau
Ymgeisiwch ar-lein nawr ar www.coleggwent.ac.uk
Y Rhwydwaith Seren Rydym eisiau bod yn siwr bod pob un o’n myfyrwyr yn cyflawni eu potensial. Mae’r Rhwydwaith Seren yn darparu sylfaen arbennig i bob myfyriwr a gafodd raddau A* yn TGAU i ymgeision i brifysgolion cystadleuol a detholus Grŵp Russell (grŵp a brifysgolion gyda ffocws cyfunol ar ymchwil ac enw da o ran cyflawniad academaidd).
Nod y gweithgareddau a ddarparir yw magu hyder a gwytnwch , yn ogystal ag ehangu dealltwriaeth o’r pwnc, eich helpu i ddatblygu’r priodweddau y mae prifysgolion Grŵp Russell yn eu gwerthfawrogi ac yn chwilio amdanynt mewn ymgeiswyr.
Cefnogaeth llesiant Mae eich diogelwch a lles yn flaenoriaeth i ni. Byddwn yn sicrhau eich bod yn ddiogel yn y coleg ac ar leoliadau gwaith, a byddwn yn darparu cefnogaeth gydag anawsterau personol. Gallwch ddefnyddio ein gwasanaethau cynghori a chaplaniaeth cyfrinachol a gallwn hefyd eich rhoi mewn cysylltiad ag asiantaethau allanol a allai fod o gymorth i chi. Os hoffech chi gael gwybod mwy am y gefnogaeth helaeth a gynigir gennym, cysylltwch â Gwasanaethau Dysgwyr ar eich campws neu trowch at ein gwefan. www.coleggwent.ac.uk/cymorth
Cyllid Mae yna nifer o ffyrdd i chi gael help gyda chost astudio. Yn ddibynnol ar eich amgylchiadau, gallech wneud cais am: • Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) • Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (GDLlC) • Cronfa Ariannol Wrth Gefn (FCF) • Ymddiriedolaeth Goffa David Davies • Cronfa Cymorth Dewisol yng Nghymru (DAF) • Gwobr Ddatblygu Ymddiriedolaeth y Tywysog Rhagor o wybodaeth yn www.coleggwent.ac.uk/cyllid
admissions@coleggwent.ac.uk 01495 333777 (Croesawn alwadau yn Gymraeg)
16
DYSGU YN GYMRAEG AC YN DDWYIEITHOG Mae’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru yn bwysig i ni. Rydym yn annog holl aelodau cymuned y coleg, boed yn siaradwyr Cymraeg ai peidio, i ddeall pwysigrwydd yr iaith Gymraeg fel sgil bersonol ac addysgiadol yn ogystal â sgil gyflogadwyedd ar gyfer y dyfodol.
Ar hyn o bryd rydym yn cynnig: • Y cyfle i astudio rhai modiwlau ar ddetholiad o gyrsiau yn ddwyieithog • Y cyfle i astudio Cymraeg fel ail iaith • Cefnogaeth yn yr iaith Gymraeg neu gefnogaeth astudio’n ddwyieithog drwy ‘HWB Cymraeg’ a gweithgareddau cymdeithasol trwy’r ‘Clwb Cymraeg’ • Y cyfle i astudio cyrsiau Gofal Plant ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg • Y cyfle i hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r iaith Gymraeg a defnyddio’r iaith yng Ngholeg Gwent drwy ddod yn Fydi Cymraeg • Yr opsiwn i ysgrifennu aseiniadau ac ymgymryd ag asesiadau ac arholiadau yn Gymraeg (pan fo’r bwrdd arholi’n gallu darparu papurau arholi yn Gymraeg) • Darpariaeth i gael mynediad at diwtorialau yn Gymraeg • Lleoliadau a phrofiad gwaith cyfrwng Cymraeg • Y cyfle i ennill sgiliau hanfodol neu allweddol yn ddwyieithog neu yn Gymraeg Rhagor o wybodaeth yn
www.coleggwent.ac.uk/dysgwyrcymraeg
Ymgeisiwch ar-lein nawr ar www.coleggwent.ac.uk
SUT I WNEUD CAIS
2
Gwnewch gais ar-lein
4
Dewch i sesiwn gofrestru/cynefino* *Yn ystod cofrestru, byddwch chi’n cwblhau asesiad WEST – gweler tudalen 12 am fwy o wybodaeth
1
Dewiswch gwrs Os nad ydych chi’n siŵr pa gwrs yw’r un iawn i chi, rydyn ni’n cynnal digwyddiadau agored drwy gydol y flwyddyn. Hyd yn oed os ydych chi wedi gwneud cais, gallwch alw heibio yr un fath.
3
Dewch i gael cyfweliad
5
Dechreuwch yn y coleg
admissions@coleggwent.ac.uk 01495 333777 (Croesawn alwadau yn Gymraeg)
18
ASTUDIO’N AGOS, MYND YMHELL Astudiwch eich cymhwyster prifysgol gyda ni! Enillwch gymhwyster prifysgol yng Ngholeg Gwent
Ddim yn siwr ydych chi’n bodloni’r gofynion?
Mae gennym nifer gynyddol o gyrsiau addysg uwch, felly beth am gael cip ar beth bynnag sydd o ddiddordeb i chi?
Nid oes gennym ofynion caeth ar gyfer ein cyrsiau Addysg Uwch, gan ein bod ni’n eich ystyried chi fel unigolyn. Rydyn ni’n edrych ar eich bywyd a’ch profiad gwaith, yn ogystal â chymwysterau blaenorol. Os nad ydych chi’n teimlo’n barod am gwrs lefel prifysgol, neu os ydych chi eisiau gloywi eich sgiliau astudio cyn ymrwymo i gwrs lefel uwch, cymerwch olwg ar ein cyrsiau Mynediad i AU ar dudalen 25.
Drwy astudio yng Ngholeg Gwent, byddwch yn arbed amser ac arian drwy astudio’n lleol; byddwch yn astudio mewn dosbarthiadau bach fel eich bod yn enw yn hytrach na rhif; ac fel myfyriwr addysg uwch, mae’n bosib y byddwch chi’n gymwys i gael cymorth ariannol a chymorthdaliadau i’ch helpu gyda chost astudio.
Rhagor o wybodaeth yn
www.coleggwent.ac.uk/addysgbellach Mae Coleg Gwent yn bartner cydweithredol i Brifysgol De Cymru, Prifysgol Aberystwyth, Pearson, a Phrifysgol Caerwrangon.
Gallwch astudio: • Astudiaethau Ceffylau ac Anifeiliaid • yr Amgylchedd Adeiledig a Pheirianneg • Busnes • Rheolaeth • y Gyfraith • Diwydiannau Creadigol • Iechyd a Gofal • Dyniaethau • Gwyddoniaeth a Thechnoleg • Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus • Nyrsio milfeddygol
Ymgeisiwch ar-lein nawr ar www.coleggwent.ac.uk
Campws Brynbuga
Campws ˆ Pont-y-pwl
Campws Crosskeys
Campws Dinas Casnewydd
Parth Dysgu Blaenau Gwent
BETH ALLA I ASTUDIO YMHLE? Mynediad i Addysg Uwch Lefel A Gwyddoniaeth Gymhwysol Celf, Dylunio a Chyfryngau Busnes a Rheoli Arlwyo, Lletygarwch a Manwerthu Cyfrifiadura a TG Adeiladu Cyflogadwyedd Peirianneg Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Tramor (ESOL) Gwallt, Harddwch a Therapïau Cyflenwol Iechyd a Gofal Sgiliau Byw’n Annibynnol Seiliedig ar y Tir – Ffermio, Ceffylau a Gofal Anifeiliaid, Nyrsio milfeddygol Cerbydau Modur Celfyddydau Perfformio a Cherddoriaeth Chwaraeon, Hamdden a Gwasanaethau Cyhoeddus Teithio a Thwristiaeth
Yn rhan o’ch cwrs byddwch hefyd yn gwneud Mathemateg, Saesneg a Gweithgareddau Sgiliau a fydd yn eich helpu i wella eich rhagolygon ac yn rhoi mantais i chi wrth ymgeisio am swyddi neu fynd i’r brifysgol. Gweler mwy ar dudalen 8Gwybodaeth.
admissions@coleggwent.ac.uk 01495 333777 (Croesawn alwadau yn Gymraeg)
20
PRENTISIAETHAU Rydyn ni’n gwybod nad yw dysgu llawn amser yn addas i bawb. Os yw’n well gennych chi fynd yn syth i weithio, ond eich bod eisiau ennill cymwysterau ochr yn ochr â sgiliau newydd a phrofiad, efallai mai Prentisiaeth yw’r peth i chi.
Swydd go iawn Rhowch eich sgiliau newydd ar waith yn eich gweithle, a dewch i’r coleg - un diwrnod yr wythnos fel arfer
Cymhwyster go iawn Cymhwyster cenedlaethol sy’n cael ei gydnabod gan gyflogwyr ar hyd a lled y byd. Gwell sgiliau, gwell dyfodol!
Tâl go iawn Ar ben y profiad o ddiwydiant, sgiliau ar gyfer y gweithle a’r cymwysterau, rydych chi hefyd yn cael eich talu!
Dyfodol go iawn Mae prentisiaethau’n rhoi ichi’r sgiliau y mae cyflogwyr eisiau eu gweld. Gall hynny agor drysau ichi yn y dyfodol
Ydw i’n gymwys? I wneud Prentisiaeth, mae’n rhaid ichi: • Fod wedi’ch cyflogi yn y sector perthnasol • gael contract cyflogaeth a chael eich talu • yn unol â’r isafswm cyflog cenedlaethol • Fod yn byw neu’n gwneud gwaith • cyflogedig yng Nghymru • Fod rhwng 16 a 24 mlwydd oed • Beidio â bod mewn addysg amser llawn • Ymrwymo i gyflawni’r cymwysterau sy’n • sail i’r brentisiaeth
Ymgeisiwch ar-lein nawr ar www.coleggwent.ac.uk
Yng Ngholeg Gwent, gallwch chi wneud prentisiaethau yn y canlynol: • • • • • • • • • • •
Gwaith Brics Gwaith Coed Peirianneg Drydanol Gosod Trydan Iechyd a Gofal Cymdeithasol Peirianneg Fecanyddol Cerbydau Modur moduron ysgafn a thrwm Cerbydau Modur atgyweirio a phaentio corff cerbyd Plymio Adeiladu Weldio
Rhagor o wybodaeth yn
www.coleggwent.ac.uk/prentisiaethau 01495 333355 (croesawn alwadau yn
Gymraeg)
Ar ôl gadael yr ysgol, roeddwn eisiau ennill cyflog ond roeddwn i hefyd eisiau cael cymhwyster mewn cynnal cerbydau nwyddau trwm. Nawr rwyf ar y ffordd i ddod yn dechnegydd sydd wedi cymhwyso’n llawn.
Ryan Bowles Prentis Moduron Masnachol
admissions@coleggwent.ac.uk 01495 333777 (Croesawn alwadau yn Gymraeg)
22
SAFON UWCH Rydym yn cynnig ystod enfawr o bynciau ar Gampws Crosskeys a Pharth Dysgu Blaenau Gwent. Felly gallwch ddewis y cyfuniad cywir i gyrraedd eich nod. Cewch hefyd gymorth gyda’ch cais UCAS a chyngor ar ysgrifennu eich datganiad personol i sicrhau eich bod â’r cyfle gorau o gael eich derbyn i’ch prifysgol o ddewis.
Gyda 32 pwnc Safon Uwch ar gael, rydym yn sicr o gynnig cyfuniad i’ch cynorthwyo i achub y blaen
Mwynheais cael mwy o annibyniaeth wrth astudio a chael fy nhrin yn gyfartal gan y staff. Roedd fy ngwersi’n ddiddorol ac yn llawn hwyl bob amser…. a chefais fy annog gan y staff dysgu i feithrin hyder yn fy ngallu. Astudiodd fy ffrindiau lawer iawn o’r un pynciau Safon Uwch â mi felly rhoddodd hynny’r cyfle i ni gydweithio a mwynhau astudio fel grŵp. Roedd cael fy nerbyn i Rydychen yn llwyddiant aruthrol i mi…… bu i’r addysg a gefais gan Goleg Gwent roi sylfaen gref i mi gwblhau cymwysterau academaidd pellach.
Isobel Ford Cyn-fyfyriwr Safon Uwch
Ymgeisiwch ar-lein nawr ar www.coleggwent.ac.uk admissions@coleggwent.ac.uk | 01495 333777 (Croesawn alwadau yn Gymraeg)
Cyrsiau
Hyd
Celf a Dylunio
1/2 flwyddyn
Bioleg
1/2 flwyddyn
Astudiaethau Busnes
1/2 flwyddyn
Cemeg
1/2 flwyddyn
Cyfrifiadureg
1/2 flwyddyn
Astudiaethau Drama a’r Theatr
1/2 flwyddyn
Economeg
1/2 flwyddyn
Iaith a Llenyddiaeth Saesneg
1/2 flwyddyn
Llenyddiaeth Saesneg
1/2 flwyddyn
Astudiaethau Ffilm
1/2 flwyddyn
Ffrangeg
1/2 flwyddyn
Mathemateg Bellach
1/2 flwyddyn
Daearyddiaeth
1/2 flwyddyn
Llywodraeth a Gwleidyddiaeth
1/2 flwyddyn
Dylunio Graffeg
1/2 flwyddyn
Gofal Iechyd a Chymdeithasol
1/2 flwyddyn
Hanes
1/2 flwyddyn
TGCh
1/2 flwyddyn
Y Gyfraith
1/2 flwyddyn
Mathemateg
1/2 flwyddyn
Mathemateg Bur
1/2 flwyddyn
Astudiaethau’r Cyfryngau
1/2 flwyddyn
Cerddoriaeth
1/2 flwyddyn
Technoleg Cerddoriaeth
1/2 flwyddyn
Ffotograffiaeth
1/2 flwyddyn
Addysg Gorfforol
1/2 flwyddyn
Ffiseg
1/2 flwyddyn
Seicoleg
1/2 flwyddyn
Astudiaethau Crefyddol
1/2 flwyddyn
Cymdeithaseg
1/2 flwyddyn
Sbaeneg Cymraeg
CWRS AR GAEL YN GYMRAEG
Mae pob un o’n cyrsiau Safon Uwch yn 1 neu 2 flynedd o hyd
CK
1/2 flwyddyn 1/2 flwyddyn
Cyfradd lwyddo 100% mewn 35 pwnc Safon Uwch ar draws Coleg Gwent
BGLZ
Beth nesaf? Mae Safon Uwch yn agor y drws i sawl opsiwn. Mae 76.5% o'n myfyrwyr yn 2017/18 wedi mynd ymlaen i astudiaeth lefel uwch yn y brifysgol neu Goleg Gwent. Efallai y byddai’n well gennych ddefnyddio eich cymwysterau i gael swydd neu wneud Prentisiaeth Uwch.
A WYDDOCH CHI? Parth Dysgu Blaenau Gwent yw hyb de ddwyrain Cymru ar gyfer Rhwydwaith Seren sy’n cynorthwyo myfyrwyr chweched dosbarth disgleiriaf Cymru. Mae’r rhwydwaith yn ymestyn a herio myfyrwyr i roi’r addysg orau bosibl iddynt a manteisio ar eu doniau a’r cyfleoedd sy’n agored iddynt.
Yn 2017/18, roedd ein cyfraddau llwyddo Safon Uwch yn uwch na chyfraddau cyfartalog y DU a Chymru*
*Adroddiad ar Ddeilliannau Dysgwyr Adran Addysg a Sgiliau Llwyodraeth Cymru 2016/17
Canllaw i symbolau’r campws: PDBG - Parth Dysgu Blaenau Gwent / CK - Campws Crosskeys / CN - Campws Dinas Casnewydd / PP - Campws Pont-y-pwl ˆ / B - Campws Brynbuga
24
MYNEDIAD I ADDYSG UWCH Mae gradd brifysgol yn gyraeddadwy hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw gymwysterau blaenorol. Bydd y cwrs Mynediad i AU yn eich helpu i ddatblygu’r wybodaeth, sgiliau a’r hyder rydych eu hangen i’ch paratoi ar gyfer y brifysgol, heb unrhyw ragdybiaethau am yr hyn gallech fod wedi’i wneud yn y gorffennol. Gallwch ddewis ymhlith ystod o lwybrau i fynd â chi ar eich cwrs gradd o’ch dewis chi, ac yna’r swydd ddelfrydol honno. Byddwch yn dysgu sut i fynd ati i astudio a’r technegau gwahanol byddwch eu hangen i lwyddo.
chewch eich ‘taflu i’r pen dyfnaf’ neu eich profi ar bethau rydych wedi’u hanghofio flynyddoedd yn ôl. Er gallwch ddisgwyl i’r cwrs fod yn heriol, prif ddiben y cwrs Mynediad i AU yw eich cynorthwyo i fod yn llwyddiannus.
Mae nifer o bobl yn bryderus pan ddechreuant gwrs Mynediad i AU, yn arbennig os nad ydynt wedi bod mewn ystafell ddosbarth ers peth amser. Mae ein tiwtoriaid yn ymwybodol o hyn a chymerant hyn i ystyriaeth yn eu haddysgu; ni
Rydym hefyd yn cynnig cwrs Cyn Mynediad (Sgiliau ar gyfer Astudiaeth Bellach) sy’n canolbwyntio ar sgiliau academaidd i’ch galluogi chi ddatblygu ar gyfer cwrs Mynediad.
Mae’r mwyafrif o fyfyrwyr Mynediad i AU yn gwneud eu cwrs er mwyn cymhwyso i fynd ymlaen i brifysgol Beth felly yw manteision ennill cymhwyster prifysgol?
1
Bydd yn gwella eich rhagolygon – nid yw’n allwedd aur a fydd yn agor y drws i swydd eich breuddwydion, ond mae'n gwneud llwyddiant yn f wy tebygol.
2
Mae’n dangos bod gennych sgiliau gwerthfawr megis astudio’n annibynnol a chwrdd â therfynau amser.
3
Mae’r mwyafrif o gyflogwyr yn gofyn am gymhwyster gradd – mae’n dangos eich bod yn alluog.
4
Mae’n dangos eich bod yn gallu ymrwymo i wneud rhywbeth, yn gallu ymdopi â chyfnodau caled a’ch bod yn gallu dal ati i gyrraedd y nod.
5
Yn ogystal â rhoi cymhwyster i chi, mi fyddwch yn ennill profiad gwerthfawr a byddwch yn bendant yn gwneud cysylltiadau a fydd o gymorth i chi yn y dyfodol.
Ymgeisiwch ar-lein nawr ar www.coleggwent.ac.uk admissions@coleggwent.ac.uk | 01495 333777 (Croesawn alwadau yn Gymraeg)
Beth nesaf? Mae Cyrsiau Mynediad i AU yn cael eu cynnwys yn nhariff UCAS a chânt eu derbyn yn eang gan brifysgolion y DU i wneud gradd ond dylech wirio gyda’r brifysgol benodol y dymunwch fynd iddi. Gallwch aros yn lleol a gwneud gradd brifysgol yng Ngholeg Gwent. Dysgwch am ein hamrywiaeth o raddau sylfaen, Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch a Diplomâu Cenedlaethol Uwch. Caiff y rhan fwyaf ohonynt eu hachredu gan Brifysgol De Cymru, ar ein gwefan neu yn ein Canllaw Addysg Uwch neu Pearson.
A WYDDOCH CHI? Roedd 90% o’r rhai a adawodd addysg uwch gyda diploma mynediad i AU mewn cyflogaeth neu’n gwneud astudiaethau pellach chwe mis wedi iddynt gwblhau’r cwrs. (HESA, 2018)
Cyrsiau
Hyd
Mynediad i Wyddoniaeth Fforensig/ Bio-Wyddorau
1 flwyddyn
Mynediad i Nyrsio ac Iechyd Lefel 3
1 flwyddyn
Mynediad i Wyddoniaeth / Bio-Wyddorau Lefel 3
1 flwyddyn
Mynediad i’r Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol Lefel 3
1 flwyddyn
Mynediad i Wyddorau Meddygol ac Iechyd
1 flwyddyn
Sgiliau ar gyfer Astudiaeth Bellach Lefel 2
1 flwyddyn
BGLZ
NP
PP
CWRS AR GAEL YN GYMRAEG
Canllaw i symbolau’r campws: PDBG - Parth Dysgu Blaenau Gwent / CK - Campws Crosskeys / CN - Campws Dinas Casnewydd / PP - Campws Pont-y-pwl ˆ / B - Campws Brynbuga
26
GWYDDONIAETH GYMHWYSOL Roboteg, deallusrwydd artiffisial, gwyddoniaeth fiofeddygol a chyfrifiadureg fforensig yw ond rhai o’r gyrfaoedd cyffrous a chyfleoedd prifysgol sydd ar agor i fyfyrwyr gwyddoniaeth gymhwysol.
Byddwch yn dysgu sut i gymhwyso egwyddorion gwyddonol i broblemau ymarferol mewn addysg er mwyn canfod atebion i wella clefydau, datrys problemau gwyddonol neu ddatblygu technoleg. Cewch brofiad o lygad y ffynnon yn ein labordai gwyddoniaeth pwrpasol, y cyfan ag offer safonol y diwydiant. Yn ogystal â darlithoedd arbenigol byddwch yn cael eich cefnogi gan dechnegwyr sydd â chyfoeth o brofiad diwydiannol.
Ymgeisiwch ar-lein nawr ar www.coleggwent.ac.uk admissions@coleggwent.ac.uk | 01495 333777 (Croesawn alwadau yn Gymraeg)
Cyrsiau
Hyd
Gwyddoniaeth Gymhwysol Lefel 2
1 flwyddyn
Gwyddoniaeth Gymhwysol Lefel 3 (Diploma Estynedig)
2 flynedd
CK
NP
PP
Beth nesaf? Bydd llawer o’n myfyrwyr Gwyddoniaeth Gymhwysol yn mynd ymlaen i astudio mewn prifysgolion ym mhob cwr o’r DU, gan astudio cwrs gwyddoniaeth cyffredinol neu arbenigo mewn meysydd megis gwyddorau bwyd neu ddynol, neu seicoleg. Gallech astudio cymhwyster prifysgol yng Ngholeg Gwent. Bydd eraill yn rhoi’r hyn maent wedi’i ddysgu ar waith mewn swyddi gwyddonol ar lefel iau.
A WYDDOCH CHI? Mae llawer o gwmnïau technoleg sy’n dibynnu ar weithwyr proffesiynol ym maes Gwyddoniaeth Gymhwysol yn gwmnïau byd-eang - o Samsung yn Ne Korea i Apple yn UDA. Felly, os dewiswch yrfa yn y maes hwn, efallai y byddwch yn teithio ar hyd a lled y byd neu’n datrys heriau rhyngwladol.
Canllaw i symbolau’r campws: PDBG - Parth Dysgu Blaenau Gwent / CK - Campws Crosskeys / CN - Campws Dinas Casnewydd / PP - Campws Pont-y-pwl ˆ / B - Campws Brynbuga
28
CELF, DYLUNIO A CHYFRYNGAU Ein stiwdios celf, dylunio, ffasiwn, y cyfryngau a ffotograffiaeth eang yw’r man perffaith i chi fynegi eich hun, i arbrofi gydag amrywiaeth o dechnegau ac i ddewis arbenigedd. Byddwch yn gallu defnyddio ein hadnoddau sy’n berthnasol i ddiwydiant gan gynnwys ystafelloedd cyfrifiaduron gyda Apple Mac a Chyfrifiaduron Personol amlgyfrwng gyda’r feddalwedd ddiweddaraf. Ein sioeau diwedd blwyddyn yw’r llwyfan perffaith i chi arddangos eich gwaith gorau a denu sylw’r cyhoedd – profiad gwych i chi baratoi ar gyfer y brifysgol neu’r byd gwaith.
Beth nesaf? Bydd llawer o’n myfyrwyr Celf, Dylunio a’r Cyfryngau yn mynd ymlaen i astudio mewn prifysgolion ym mhob cwr o’r DU, gan astudio cyrsiau creadigol cyffredinol neu arbenigo mewn meysydd megis ffasiwn, dylunio gemau, darluniad, ffotograffiaeth, dylunio graffigol, celfyddyd gain a mwy. Gallwch astudio amrywiaeth o gyrsiau prifysgol yng Ngholeg Gwent. Bydd eraill yn rhoi’r hyn maent wedi’i ddysgu ar waith mewn swyddi megis dylunio graffigol/ gwefannau, dylunio ffasiwn ac animeiddio.
Mae’r darlithwyr yn wych. Mae eu brwdfrydedd yn heintus, ac maent yn awyddus iawn inni gymryd rhan ar bob cyfle posib fel ein bod yn cael y profiad gorau posib yn y coleg, a’r gobaith gorau o lwyddo drwy hynny...Rydym yn dysgu ystod lawn o sgiliau cyfryngau - o gynhyrchu ar gyfer y radio a gwaith fideo i ddylunio gwefannau a datblygu gemau 2D. Mae hyn i gyd yn mynd i’n portffolio fel bod gennym dystiolaeth i ddangos i gyflogwyr pan fyddwn yn chwilio am swydd. James McDermott, Cyfryngau Creadigol Lefel 2.
James McDermott Cyfryngau Creadigol Lefel 2
Mae myfyrwyr Coleg Gwent yn ymarfer o dan y sbotolau yn eu sesiwn ‘keys unplugged’ 2018
Ymgeisiwch ar-lein nawr ar www.coleggwent.ac.uk admissions@coleggwent.ac.uk | 01495 333777 (Croesawn alwadau yn Gymraeg)
Cyrsiau
Hyd
Celf a Dylunio Lefel 1
1 flwyddyn
Celf a Dylunio Lefel 2
1 flwyddyn
Celf a Dylunio Lefel 3 (Diploma Estynedig)
2 flynedd
Celf a Dylunio (Celf a Dylunio, Ffotograffiaeth, Ffasiwn a Thecstilau) Lefel 3 (Diploma Estynedig)
2 flynedd
Graffeg Celf a Dylunio Lefel 3 (Diploma Estynedig)
2 flynedd
Celf a Dylunio - Cyfryngau Digidol Lefel 3 (Diploma Estynedig)
2 flynedd
Astudiaethau Sylfaen Celf a Dylunio Lefel 3/4
1 flwyddyn
Diploma Technegol yn y Cyfryngau Lefel 2
1 flwyddyn
Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol Lefel 3 (Diploma Estynedig)
CK
BGLZ
NP
PP
2 flynedd
A WYDDOCH CHI? Mae diwydiannau creadigol y DU yn cynhyrchu £91.8 biliwn i economi’r DU. Mae cyflogaeth yn niwydiannau creadigol y DU yn tyfu ar gyfradd sydd bedair gwaith yn fwy na chyfradd gweithlu’r DU yn gyffredinol. (Yr Adran Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, DCMS 2018)
Canllaw i symbolau’r campws: PDBG - Parth Dysgu Blaenau Gwent / CK - Campws Crosskeys / CN - Campws Dinas Casnewydd / PP - Campws Pont-y-pwl ˆ / B - Campws Brynbuga
30
BUSNES A RHEOLI Yn ein byd modern, mae busnes a masnach yn rheoli bron bob agwedd ar ein bywydau – felly gallwch ddisgwyl i’ch astudiaethau fod yn eang, ond gyda’r cyfle i arbenigo. Ar ôl gorffen yn y coleg, gallwch naill ai fynd ymlaen i astudio mewn prifysgol neu gael swydd; a chyda phosibiliadau ym meysydd marchnata, adnoddau dynol, cyllid, rheoli, masnachu, yswiriant a bancio ar flaenau eich bysedd, mae’r drws i’r byd busnes cyfan ar agor i chi.
Beth nesaf? Aiff llawer o’n myfyrwyr busnes a rheoli ymlaen i astudio mewn prifysgolion ledled y DU, un ai mewn cyd-destun busnes eang neu arbenigo mewn meysydd fel marchnata, y gyfraith, AD neu gyllid. Cewch hefyd y cyfle i aros yn agosach at adref ac astudio cwrs ym Mhrifysgol De Cymru yng Ngholeg Gwent. Rhoddodd eraill yr hyn a ddysgwyd ganddynt ar waith mewn swyddi neu wella eu sgiliau mewn hyfforddeiaeth neu Brentisiaeth. Gallwch ddechrau eich busnes eich hun hyd yn oed.
A WYDDOCH CHI? Roedd mwy na 5.7 miliwn o fusnesau yn y DU yn 2017. (Papur briffio llyfrgell Tŷ’r Cyffredin ar ystadegau busnes, 2017)
Ymgeisiwch ar-lein nawr ar www.coleggwent.ac.uk admissions@coleggwent.ac.uk | 01495 333777 (Croesawn alwadau yn Gymraeg)
Cyrsiau
Hyd
Cyfrifeg Lefel 3
1 flwyddyn
Cyfrifeg Lefel 2
1 flwyddyn
Gweinyddu Busnes Lefel Mynediad
1 flwyddyn
Astudiaethau Busnes Lefel 2
1 flwyddyn
Busnes Lefel 3 (Diploma Estynedig)
CK
BGLZ
NP
PP
2 flynedd
Busnes a’r Gyfraith Lefel 2
1 flwyddyn
Gwasanaeth i Gwsmeriaid Lefel 2
1 flwyddyn CWRS AR GAEL YN GYMRAEG
Pan ddewch i mewn i’r adeilad hwn mae gennych bopeth sydd ei angen arnoch. Mae cymaint o gyfleoedd yma ...Yng Ngholeg Gwent, mae’n bosib imi adeiladu fy nyfodol fy hun, gan ei fod yn darparu sylfaen i symud ymlaen mewn gwahanol feysydd. Mae Parth Dysgu Blaenau Gwent yn gampws o’r radd flaenaf ac mae gan Goleg Gwent enw da yn y rhanbarth...Rwyf wrth fy modd yma. Dyma fy nhrydedd flwyddyn yma ac mae’n teimlo fel adref.
Diploma Estynedig Lefel 3 Busnes Blwyddyn 1
Canllaw i symbolau’r campws: PDBG - Parth Dysgu Blaenau Gwent / CK - Campws Crosskeys / CN - Campws Dinas Casnewydd / PP - Campws Pont-y-pwl ˆ / B - Campws Brynbuga
32
ARLWYO, LLETYGARWCH A MANWERTHU Mae gweithio yn y diwydiant gwasanaeth yn golygu eich bod ar flaen y gad yn aml o ran y profiad cwsmer felly mae’n hanfodol bod y cwsmeriaid yn cael profiad cadarnhaol; o’r argraff gyntaf, i gynnyrch o ansawdd a gwasanaeth rhagorol. Fel myfyriwr arlwyo a lletygarwch byddwch yn dysgu yn ein ceginau masnachol, ac os astudiwch yn Crosskeys, byddwch yn meddu profiad amhrisiadwy yn ein bwyty, Morels, sydd ar agor i’r cyhoedd.
Gyda gweithlu cryf o 3.3 miliwn, a thwf blwyddyn ar ôl blwyddyn, mae’r sector manwerthu yn gyfrannwr sylweddol i economi’r DU a all gynnig ystod anferth o gyfleoedd i chi.
Beth nesaf? Mae cyfleoedd prifysgol ar gael yng Ngholeg Gwent, neu gallwch ddewis pwnc megis Lletygarwch Rhyngwladol, Celfyddyd Coginio neu Rheoli Busnes mewn prifysgol arall.
Mae’r myfyriwr Lletygarwch ac Arlwyo, Luke Williams, wedi dod â balchder i Goleg Gwent yn dilyn ei lwyddiant yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru yn gynharach eleni. Fe gafodd wobr arian am ei flambé prif gwrs, efydd am ei wledd a theilyngdod am ei gynllun bwrdd thematig a’i moctel. Da iawn, Luke!
Neu ewch yn syth i gyflogaeth mewn bariau, bwytai neu westai; neu’r diwydiant manwerthu amrywiol sy’n cynnwys swyddi mewn manwerthu ar-lein sy’n cynyddu’n barhaus.
Ymgeisiwch ar-lein nawr ar www.coleggwent.ac.uk admissions@coleggwent.ac.uk | 01495 333777 (Croesawn alwadau yn Gymraeg)
Cyrsiau
Hyd
Lletygarwch ac Arlwyo lefel Mynedid
1 flwyddyn
Gwasanaethau Lletygarwch Lefel 1
1 flwyddyn
Coginio Proffesiynol Lefel 1
1 flwyddyn
Coginio Proffesiynol Lefel 2
1 flwyddyn
Coginio Proffesiynol Lefel 3
2 flynedd
CK
BGLZ
A WYDDOCH CHI? Y sector manwerthu yw un o’r cyflogwyr mwyaf yn y DU, gyda’i weithlu o 3.3 miliwn yn ei wneud yn gyfrannwr pwysig i economi’r DU. (Ystadegau a pholisi manwerthu, Tŷ’r Cyffredin, 2017)
Canllaw i symbolau’r campws: PDBG - Parth Dysgu Blaenau Gwent / CK - Campws Crosskeys / CN - Campws Dinas Casnewydd / PP - Campws Pont-y-pwl ˆ / B - Campws Brynbuga
34
CYFRIFIADURA A TG Mae’r byd digidol yn datblygu’n gyflym ac mae cyflogwyr angen timau blaengar i ddatblygu meddalwedd a rheoli systemau a rhwydweithiau. Nawr mae’r DU – a’r byd cyfan –yn gwbl ddibynnol ar gyfrifiaduron ac mae caledwedd a meddalwedd yn datblygu ac yn newid drwy’r amser. Felly gall rhywun ag arbenigedd mewn cyfrifiaduron, y rhyngrwyd neu dechnoleg gwybodaeth yn gyffredinol ddefnyddio ei sgiliau a’i addysg i weithio mewn unrhyw sector o’i ddewis fwy neu lai; dyna i chi lawer o swyddi posibl. Byddwch yn cael eich dysgu mewn swîts TG cyfarparedig gyda mynediad i’r technolegau, caledwedd a’r feddalwedd ddiweddaraf. Mae gan ein darlithwyr brofiad ymarferol yn y diwydiant. Felly yn ogystal ag ennill gwybodaeth a’r cymwysterau sydd eu hangen i fod yn ymarferydd TG, cewch y sgiliau sy’n uniongyrchol berthnasol ar gyfer y gweithle.
Beth nesaf? Bydd llawer o’n myfyrwyr Cyfrifiadura a TG yn mynd ymlaen i astudio mewn prifysgolion ym mhob cwr o’r DU, gan astudio cwrs technoleg cyffredinol neu arbenigo mewn meysydd megis seiberddiogelwch, rhaglennu neu lunio rhwydweithiau. Gallwch astudio ystod o gyrsiau prifysgol yng Ngholeg Gwent. Neu, os yw’n well gennych roi eich sgiliau ar waith yn y gweithle, gallech gael swydd fel Dadansoddwr Cymorth TG, Datblygwr Meddalwedd, Technegydd Cymorth TG neu Beiriannydd Rhwydwaith ar lefel iau.
Ymgeisiwch ar-lein nawr ar www.coleggwent.ac.uk admissions@coleggwent.ac.uk | 01495 333777 (Croesawn alwadau yn Gymraeg)
Yn un ar bymtheg mlwydd oed, fe adewais yr ysgol gydag un TGAU yn unig. Roeddwn i’n benderfynol o beidio gadael i ganlyniad arholiad ddylanwadu ar fy ffawd a daliais ati i ddilyn fy mreuddwydion a’m huchelgais. Yn 2012, penderfynais gofrestru yng Ngholeg Gwent ac astudio Diploma Lefel 3 Ymarferydd TG ar Gampws Dinas Casnewydd - cwrs a roddodd imi’r sgiliau a’r profiad ymarferol roeddwn i eu hangen. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, fe raddiais o Brifysgol De Cymru gyda gradd Dosbarth Cyntaf Baglor yn y Gwyddorau. O ganlyniad, llwyddais i gael fy swydd ddelfrydol yn y diwydiant technoleg, yn gweithio i CGI, ac yno rydw i wedi bod am y tair blynedd ddiwethaf. Fy nghyngor i fyddai daliwch ati i ddilyn eich breuddwydion a’ch uchelgais ac, yn sicr, peidiwch â gadael i ganlyniad arholiad benderfynu eich ffawd - bydd eich methiannau’n eich gwneud chi’n gryfach ac yn fwy llwyddiannus yn y pen draw!
Jacob Richards
Diploma Lefel 3 Ymarferydd TG ar Gampws Dinas Casnewydd
Cyrsiau Cyfrifiadura (Diploma Estynedig) Technoleg Gwybodaeth a Chreadigol Lefel 2 Technoleg Gwybodaeth Lefel 3 (Diploma Estynedig)
Hyd
CK
BGLZ
NP
PP
2 flynedd 1 flwyddyn 2 flynedd
Defnyddwyr TG (Lefel Mynediad)
1 flwyddyn
Defnyddwyr TG Lefel 1
1 flwyddyn
Defnyddwyr TG/Systemau Gwybodaeth Busnes Lefel 1 1 flwyddyn Cymorth Defnyddwyr TG/ Systemau TGCh Lefel 1
1 flwyddyn
Cymorth Defnyddwyr TG/Systemau TGCh Lefel 2
1 flwyddyn
DARGANFYDDWCH FWY
AM EIN CYRSIAU CAREER COLLEGES NEWYDD
mewn technoleg ddigidol ar dudalen 59
Canllaw i symbolau’r campws: PDBG - Parth Dysgu Blaenau Gwent / CK - Campws Crosskeys / CN - Campws Dinas Casnewydd / PP - Campws Pont-y-pwl ˆ / B - Campws Brynbuga
36
ADEILADU Os ydych yn dda am gynllunio, bod yn greadigol a gallu defnyddio mathemateg sylfaenol fel arwynebeddau, meintiau, mesuriadau llinol a chostiadau, gallwch fod yn grefftwr gwych. Gall gyrfa ym maes adeiladu fod yn amrywiol, a chan fod y sector yn mynd drwy gyfnod o brinder sgiliau, mae bob amser galw am weithwyr medrus yn y maes..Mae gennym gysylltiadau gwych â chyflogwyr, sy’n golygu y cewch yr hyfforddiant ymarferol angenrheidiol ynghyd â’r cyfle i rwydweithio. Cewch brofiad ymarferol yn ein gweithdai llawn offer ynghyd â chrefftau eraill. Bydd hyn yn eich paratoi’n dda ar gyfer gwaith ar safle adeiladu. Cewch ddysgu hefyd y ddamcaniaeth o gefnogi eich sgiliau ymarferol ynghyd ag iechyd a diogelwch sy’n hanfodol ym mhob crefft. Mae gan ein darlithwyr flynyddoedd o brofiad diwydiant wrth gefn. Felly, nid yn unig y byddwch yn dysgu gan arbenigwyr byddant hefyd yn rhoi cyngor i chi ar gael swydd ar ôl bod yn y coleg neu ddechrau eich busnes eich hun hyd yn oed.
Beth nesaf? Bydd llawer o’n myfyrwyr adeiladwaith yn mynd yn syth i weithio neu i wneud prentisiaeth i ddysgu crefft, ond bydd opsiwn hefyd ichi astudio HNC/D mewn Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig neu Beirianneg Sifil yng Ngholeg Gwent neu gwrs yn ymwneud ag adeiladwaith mewn prifysgol arall.
Fe ddes i i’r coleg i gael y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y grefft; beth sy’n dda am Goleg Gwent yw lefel y gefnogaeth a gewch a’r ffordd rydych chi’n cael eich trin fel oedolyn...Rwy’n gobeithio cael fy nghyflogi gan gwmni adeiladu ag enw da yn y dyfodol, a bod yn berchen ar fy musnes fy hun rywbryd, gobeithio.
Gwaith Brics Lefel 2
Ymgeisiwch ar-lein nawr ar www.coleggwent.ac.uk admissions@coleggwent.ac.uk | 01495 333777 (Croesawn alwadau yn Gymraeg)
Myfyrwyr adeiladu ar gampws Pont-ypwl Coleg Gwent yn gweithio gyda staff i adnewyddu eiddo sy’n berchen i’r coleg
Cyrsiau
Hyd
Gosod brics Lefel 1
1 flwyddyn
Gosod brics Lefel 2
1 flwyddyn
Gwaith coed mainc Lefel 2
1 flwyddyn
Gwaith coed mainc Lefel 3
1 flwyddyn
Gwaith Saer ac Asiedydd Lefel 1
1 flwyddyn
Gwaith coed safle Lefel 2
1 flwyddyn
Amlsgiliau Adeiladu Lefel Mynediad
1 flwyddyn
Sgiliau Adeiladu Lefel 1
1 flwyddyn
Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig
1 flwyddyn
Adeiladu Lefel 3 (Diploma Estynedig)
2 flynedd
Adeiladu (Peirianneg Sifil) Lefel 3 (Diploma Estynedig)
2 flynedd
Gosod Trydanol Lefel 1
1 flwyddyn
Gosod Trydanol Lefel 2
1 flwyddyn
Gosod Trydanol Lefel 3
1 flwyddyn
Paentio ac Addurno Lefel 1
1 flwyddyn
Paentio ac Addurno Lefel 2
1 flwyddyn
Paentio ac Addurno Lefel 3
1 flwyddyn
Astudiaethau Plymwaith Lefel 1
1 flwyddyn
Astudiaethau Plymwaith Lefel 2
1 flwyddyn
Astudiaethau Plymwaith Lefel 3
1 flwyddyn
Plastro Lefel 1
1 flwyddyn
Plastro Lefel 2
1 flwyddyn
BGLZ
NP
PP
Canllaw i symbolau’r campws: PDBG - Parth Dysgu Blaenau Gwent / CK - Campws Crosskeys / CN - Campws Dinas Casnewydd / PP - Campws Pont-y-pwl ˆ / B - Campws Brynbuga
CWRS AR GAEL YN GYMRAEG
38
CYFLOGADWYEDD A ydych rhwng 16 a 19 oed a ddim mewn cyflogaeth neu addysg? Gallwn eich cynorthwyo i gael y sgiliau mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.
Cyrsiau
Hyd
CK
Cyflogadwyedd a Datblygiad Personol Lefel Mynediad
1 flwyddyn
Sgiliau Cyflogadwyedd Lefel 1
Fesul tymor
Sgiliau Cyflogadwyedd Lefel 2
Fesul tymor
Astudiaethau Galwedigaethol (Cwrs blasu amrywiaeth o bynciau) Lefel 1
1 flwyddyn
BGLZ
NP
PP
Mi wnewch gyrsiau blas mewn nifer o feysydd pwnc i’ch cynorthwyo i benderfynu ar yrfa a gallwch ddechrau cwrs unrhyw amser o’r flwyddyn. Felly gall eich gyrfa newydd fod ar fin cychwyn.
Cymhwyso
Magu hyder
Gwella eich Saesneg a’ch Mathemateg
Bod yn fwy cyflogadwy
Ymgeisiwch ar-lein nawr ar www.coleggwent.ac.uk admissions@coleggwent.ac.uk | 01495 333777 (Croesawn alwadau yn Gymraeg)
ESOL Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf bydd ein cyrsiau yn helpu i wella eich sgiliau Saesneg. Gallai hyn eich helpu i ddod o hyd i gyflogaeth, i gyfathrebu ag ysgol eich plentyn, y Ganolfan Byd Gwaith neu’ch meddyg, neu ddim ond gwneud eich bywyd yn y Deyrnas Unedig ychydig yn haws. Ar ein cyrsiau gallwch: Wella eich Saesneg - siarad, gwrando, darllen, ysgrifennu, gramadeg a geirfa Dysgu sut i ysgrifennu yn ffurfiol ac anffurfiol wrth lunio e-byst, llythyrau, CVau a cheisiadau am swydd Dysgu am fywyd yn y Deyrnas Unedig Dysgu am y sgiliau gwaith rydych eu hangen i gael swydd neu ddyrchafiad Dysgu am fathemateg gan gynnwys mesur, cyllidebu a sut i ddarllen amserlenni
Cyrsiau
Hyd
Sgiliau Bywyd ESOL Lefel Mynediad 1
1 flwyddyn
Sgiliau Bywyd ESOL Lefel Mynediad 2
1 flwyddyn
Sgiliau Bywyd ESOL Lefel Mynediad 3
1 flwyddyn
Sgiliau Bywyd ESOL Lefel 1
1 flwyddyn
NP
Canllaw i symbolau’r campws: PDBG - Parth Dysgu Blaenau Gwent / CK - Campws Crosskeys / CN - Campws Dinas Casnewydd / PP - Campws Pont-y-pwl ˆ / B - Campws Brynbuga
40
PEIRIANNEG Defnyddia peirianwyr y wybodaeth sydd ganddynt mewn maes penodol i wneud i bethau weithio, i wella pethau a datrys problemau. Peirianneg yw cymhwysiad ymarferol a chreadigol gwyddoniaeth a mathemateg. Defnyddia peirianwyr y wybodaeth sydd ganddynt mewn maes penodol i wneud i bethau weithio, i wella pethau a datrys problemau. Eich ffôn symudol a chyfrifiadur llechen newydd? Mae peirianwyr electroneg wedi cynorthwyo i wneud y rhain. Taith Tim Peake i’r Orsaf Ofod Ryngwladol yn 2016? Gwnaeth tîm enfawr o beirianwyr hynny’n bosibl. Byddwch yn hogi’ch sgiliau mewn gweithdai o’r radd flaenaf. Cewch fynediad at offer llaw a pheirianyddol traddodiadol, ynghyd â pheiriannau a reolir gan gyfrifiaduron a phrototeipio cyflym. Caniatâ ein labordai trydanol ac electronig i chi ddysgu drwy ddylunio, adeiladu, rhaglennu a phrofi datrysiadau i ddatrys problemau go iawn. Hefyd, golyga ein cysylltiadau agos â busnesau y dysgwch y technegau a’r sgiliau diweddaraf y mae cyflogwyr peirianneg eu hangen.
Doeddwn i ddim yn siŵr beth i’w wneud - mynd i’r chweched dosbarth neu fynd i’r coleg. Yn y diwedd, fe ddes i i’r coleg a dyna yw’r peth gorau imi ei wneud erioed! Nawr, rwy’n symud ymlaen, diolch i fy nhiwtoriaid sydd wedi dod o hyd i Brentisiaeth imi yn agos at adref.
Peirianneg Fecanyddol
Ymgeisiwch ar-lein nawr ar www.coleggwent.ac.uk admissions@coleggwent.ac.uk | 01495 333777 (Croesawn alwadau yn Gymraeg)
Cyrsiau
Hyd
Peirianneg Awyrenegol Lefel 3
BGLZ
NP
2 flynedd
Peirianneg Drydanol Lefel 1
1 flwyddyn
Peirianneg Drydanol Lefel 2
1 flwyddyn
Peiranneg Technoleg Drydanol/Electronig Lefel 2
1 flwyddyn
Peirianneg Drydanol/Electronig Lefel 3 (Diploma)
1 flwyddyn
Peirianneg Drydanol/Electronig Lefel 3 (Diploma Estynedig)
2 flynedd
Peirianneg Lefel 2
1 flwyddyn
Peirianneg Lefel 3
2 flynedd
Rhaglen Peirianneg Uwch (Llwybr Trydanol) Lefel 3
1 flwyddyn
Rhaglen Peirianneg Uwch (Llwybr Mecanyddol) Lefel 3
2 flynedd
Peirianneg (Ffabrigo a Weldio) Lefel 1
1 flwyddyn
Peirianneg (Ffabrigo a Weldio) Lefel 2
1 flwyddyn
Peirianneg (Mecanyddol) Lefel 1
1 flwyddyn
Peirianneg (Mecanyddol) Lefel 2
1 flwyddyn
Peirianneg (Mecanyddol/Gweithgynhyrchu) Lefel 3 (Diploma)
1 flwyddyn
Peirianneg Mecanyddol Lefel 3 (Diploma Estynedig)
2 flynedd
Peirianneg Chwaraeon Moduro Lefel 3
2 flynedd
Peirianneg (Cynhyrchu) Lefel 1
CK
1 flwyddyn
Beth nesaf? Bydd llawer o’n myfyrwyr Peirianneg yn mynd ymlaen i astudio mewn prifysgolion ym mhob cwr o’r DU, naill ai mewn cyd-destun cyffredinol neu’n arbenigo mewn meysydd megis Peirianneg Awyrofod, Biofeddygol neu Amgylcheddol. Gallwch astudio amrywiaeth o gyrsiau prifysgol yng Ngholeg Gwent, gan gynnwys Peirianneg Chwaraeon Moduro, Peirianneg Fecanyddol, Peirianneg Gweithgynhyrchu a Pheirianneg Drydanol ac Electronig. Pe bai’n well gennych roi’r hyn rydych wedi’i ddysgu ar waith yn y gweithle, gallech fynd ymlaen i swyddi lefel mynediad yn y diwydiant.
Canllaw i symbolau’r campws: PDBG - Parth Dysgu Blaenau Gwent / CK - Campws Crosskeys / CN - Campws Dinas Casnewydd / PP - Campws Pont-y-pwl ˆ / B - Campws Brynbuga
42
GWALLT, HARDDWCH A THERAPÏAU CYFLENWOL ‘Os ydych yn gwneud swydd sydd wrth eich bodd, ni wnewch fyth ddiwrnod o waith’... ...mantra nifer o weithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn niwydiannau amrywiol, cyffrous a boddhaus gwallt, harddwch, colur a therapïau cyflenwol. Maent ar frig y polau cenedlaethol yn aml wrth gyfeirio at weithwyr hapusaf yn y DU. Byddwch yn cael y profiad ymarferol mae cyflogwyr yn chwilio amdano yn ein salonau masnachol. Bydd angen i chi feddu sgiliau pobl da i ddarparu gwasanaeth cwsmer o’r radd flaenaf yn ogystal â chreadigrwydd ac ymwybyddiaeth am ffasiwn fel gallwch gynghori cleientiaid ar yr hyn sy’n eu gweddu orau.
Mae gan ein darlithwyr flynyddoedd o brofiad yn y diwydiant. Felly nid yn unig byddwch yn dysgu gan arbenigwr, ond gallant roi cyngor i chi ynglŷn â chael swydd wedi’r coleg neu ddechrau eich busnes eich hun hyd yn oed.
Beth nesaf? Gallwch ddatblygu eich sgiliau ymhellach yng Ngholeg Gwent, parhau i wella eich sgiliau ymarferol mewn coluro a dysgu sgiliau newydd mewn prostheteg, castio byw a chreu mygydau. Os yw’n well gennych fynd yn syth i weithio, mae’r opsiynau’n cynnwys gweithio mewn salon neu sba, neu fel therapydd, triniwr gwallt neu artist colur annibynnol.
Fe gymerais i at y cwrs yn syth. Mae’n well gen i gyrsiau ymarferol a dydy hi ddim yn bosib ei astudio yn y chweched dosbarth.
myfyriwr Trin Gwallt yn ei drydedd flwyddyn yng Ngholeg Gwent
Ymgeisiwch ar-lein nawr ar www.coleggwent.ac.uk admissions@coleggwent.ac.uk | 01495 333777 (Croesawn alwadau yn Gymraeg)
Cyrsiau
Hyd
Therapi Harddwch Lefel 2
1 flwyddyn
Therapïau Harddwch, Ewinedd a Sba Lefel 2
1 flwyddyn
Therapi Harddwch Lefel 3
1 flwyddyn
Gwallt a Harddwch Lefel 1
1 flwyddyn
Therapïau Ategol Lefel 3
1 flwyddyn
Trin Gwallt Lefel 1
1 flwyddyn
Trin Gwallt Lefel 1 (I Oedolion)
1 flwyddyn
Trin Gwallt Dysgu Carlam Lefel 1 a Lefel 2 wedi’u cyfuno
1 flwyddyn
Trin Gwallt Lefel 2
1 flwyddyn
Trin Gwallt Lefel 3
1 flwyddyn
Gwallt a Cholur ar gyfer y Cyfryngau Lefel 2
1 flwyddyn
Colur Theatraidd Lefel 3
1 flwyddyn
CK
BGLZ
NP
PP
Myfyrwyr yn cymryd rhan yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru, gyda’r nod o fynd ymlaen i rownd derfynol World Skills a gynhelir yn flynyddol yn Birmingham NEC.
Canllaw i symbolau’r campws: PDBG - Parth Dysgu Blaenau Gwent / CK - Campws Crosskeys / CN - Campws Dinas Casnewydd / PP - Campws Pont-y-pwl ˆ / B - Campws Brynbuga
44
IECHYD A GOFAL Gall gyrfa mewn gofal roi llawer o foddhad i chi a gall gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl eraill.
Cyrsiau
Hyd
Gofalu am Blentyn/Plant Lefel Mynediad
1 flwyddyn
Gofalu am Blant Lefel 1 (yn amodol ar ddilysu)
1 flwyddyn
Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Lefel Graidd 2
1 flwyddyn
Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Lefel 2 Ymarfer a Theori
1 flwyddyn
Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Lefel 3 Ymarfer a Theori
2 flynedd
Lefel 2 Gofal, Proses Chwarae, Proses Ddysgu, a Datblygiad Plant: Craidd
1 flwyddyn
Lefel 3 Gofal, Proses Chwarae, Proses Ddysgu, a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori
2 flynedd
Gofal Iechyd a Chymdeithasol Lefel 1 (yn amodol ar ddilysu)
1 flwyddyn
Gofal Iechyd a Chymdeithasol: Lefel Graidd 2
1 flwyddyn
Gofal Iechyd a Chymdeithasol: Lefel 2 Egwyddorion a Chyd-destun
1 flwyddyn
Gofal Iechyd a Chymdeithasol: Lefel 3 Egwyddorion a Chyd-destun
2 flynedd
Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd
1 flwyddyn
Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau
1 flwyddyn
CK
BGLZ
NP
DYSGIR Y CWRS YN GYMRAEG YN UNIG
PP
CWRS AR GAEL YN GYMRAEG
Ymgeisiwch ar-lein nawr ar www.coleggwent.ac.uk admissions@coleggwent.ac.uk | 01495 333777 (Croesawn alwadau yn Gymraeg)
Mae gweithio gyda phlant yn swydd heriol iawn, ond ychydig iawn o feysydd gwaith sydd mor amrywiol a buddiol. Mae gofalu am blant a helpu i’w harwain yn gyfrifoldeb mawr, a dyna pam y byddwch angen hyfforddiant cydnabyddedig i weithio mewn rôl gofal plant. Petai’n well gennych yrfa mewn iechyd a gofal cymdeithasol byddwch yn dysgu sut beth yw gweithio yn y sector gan ein darlithwyr sydd wedi gweithio mewn nifer o wahanol swyddi iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r mwyafrif o’n cyrsiau yn cynnwys profiad gwaith a fydd yn rhoi’r profiad ymarferol i chi y mae cyflogwyr yn chwilio amdano, bydd hyn felly’n rhoi mantais i chi pan fyddwch wedi cymhwyso.
Beth nesaf? Bydd llawer o’n myfyrwyr Iechyd a Gofal yn mynd ymlaen i astudio mewn prifysgolion ym mhob cwr o’r DU, gan astudio cyrsiau gofal cyffredinol neu arbenigo mewn meysydd megis gwaith cymdeithasol, gwyddor iechyd neu nyrsio. Gallwch astudio amrywiaeth o gyrsiau prifysgol yng Ngholeg Gwent neu fentro i fyd gwaith fel gweithiwr gofal, cynorthwyydd gofal plant neu weithiwr cefnogi; mae’r sector hynod amrywiol yn cynnig cannoedd o gyfleoeddd.
DARGANFYDDWCH FWY AM EIN CYRSIAU CAREER COLLEGES NEWYDD
mewn iechyd a gofal ar dudalen 59
Y peth gorau am astudio yn y coleg yw cael y cyfle i weithio gyda phlant fel rhan o fy lleoliad gwaith.
Gofal Plant Lefel 3
Canllaw i symbolau’r campws: PDBG - Parth Dysgu Blaenau Gwent / CK - Campws Crosskeys / CN - Campws Dinas Casnewydd / PP - Campws Pont-y-pwl ˆ / B - Campws Brynbuga
46
SGILIAU BYW’N ANNIBYNNOL Mae ystod o gyrsiau ar gael sy’n addas i fyfyrwyr o amrywiol gefndiroedd a gallu addysgiadol. Fe wnawn eich cynorthwyo i ddysgu rheoli eich arian eich hun, coginio eich bwyd eich hun, cynllunio eich gyrfa eich hun a byw bywyd annibynnol yn eich cymuned. Ynghyd â dysgu sgiliau ymarferol, cynorthwyo i gynyddu eich hunanhyder i’ch cynorthwyo i fyw bywyd gweithgar. Byddwch yn gofalu am gymysgedd o sgiliau galwedigaethol a chreadigol fel celf a chrefft, coginio, garddio a TG, ynghyd â pharhau i wella eich llythrennedd, rhifedd a sgiliau hanfodol eraill. Byddwch hefyd yn mynd ar deithiau ac ymweliadau i leoliadau megis amwynderau, amgueddfeydd ac atyniadau twristiaeth lleol ynghyd â chyfranogi mewn gweithgareddau codi arian a menter. Nid oes gofynion mynediad ffurfiol gan ystyrir anghenion bob dysgwr ar sail unigol. Bydd gennych gyfweliad anffurfiol a byddwn yn asesu’ch anghenion unigol i sicrhau y cofrestrwch ar y cwrs iawn i chi. Efallai cewch y cyfle i fynychu rhaglen drosglwyddo lle gallwch gwrdd â’r tiwtoriaid, mynychu rhai gwersi a dod i adnabod y coleg cyn i chi ddechrau. Trafodwn hyd gyda chi yn eich cyfweliad.
Beth nesaf? Mae holl gyrsiau yn flwyddyn o hyd. Gallwch gynyddu un ai o fewn ILS neu o bosib, ymgeisio am gyrsiau prif ffrwd yn y coleg.
Ymgeisiwch ar-lein nawr ar www.coleggwent.ac.uk admissions@coleggwent.ac.uk | 01495 333777 (Croesawn alwadau yn Gymraeg)
Cyrsiau
Hyd
Sgiliau Byw’n Annibynnol - Cyflogadwyedd Lefel Mynediad 2
1 flwyddyn
Sgiliau Byw’n Annibynnol - Cyflogadwyedd Lefel Mynediad 3
1 flwyddyn
Sgiliau Byw’n Annibynnol Lefel Mynediad 1
1 flwyddyn
Sgiliau Byw’n Annibynnol Lefel Mynediad 2
1 flwyddyn
Sgiliau Byw’n Annibynnol Lefel Mynediad 3
1 flwyddyn
CK
BGLZ
NP
PP
Sgiliau Byw’n Annibynnol Lefel Cyn Mynediad 1 flwyddyn Sgiliau Byw’n Annibynnol - Annibynniaeth a Gwaith Lefel Mynediad 1
1 flwyddyn
Sgiliau Byw’n Annibynnol - Annibynniaeth a Gwaith Lefel Mynediad 2
1 flwyddyn
Sgiliau Byw’n Annibynnol - Rhaglen Bontio/ Sgiliau Gwaith Ymarferol
1 flwyddyn
Sgiliau Byw’n Annibynnol - Astudiaethau Galwedigaethol Lefel Mynediad 3
1 flwyddyn
Canllaw i symbolau’r campws: PDBG - Parth Dysgu Blaenau Gwent / CK - Campws Crosskeys / CN - Campws Dinas Casnewydd / PP - Campws Pont-y-pwl ˆ / B - Campws Brynbuga
48
SEILIEDIG AR Y TIR Mae pob cyflogwr yn chwilio am brofiad ac mi fyddwch yn cael digon o brofiad ar ein cyrsiau ar Gampws Brynbuga.
Mae Rheoli Coedwigaeth wedi bod yn ddiddordeb mawr gen i ers oeddwn i’n ifanc ac roedd Coleg Gwent yn un o’r colegau agosaf a oedd yn cynnig cwrs fel hyn. Mae gen i ddwy flynedd ar ôl ar fy nghwrs ac yna byddaf yn mynd yn syth i weithio. Cael fy nhrwydded llif gadwyn yw fy nghyflawniad mwyaf hyd yma; roedd yr arholiad tair awr yn lladdfa ond mae’r gefnogaeth gan yr athrawon yn wych.
Rheoli Cefn Gwlad Lefel 3
Ymgeisiwch ar-lein nawr ar www.coleggwent.ac.uk admissions@coleggwent.ac.uk | 01495 333777 (Croesawn alwadau yn Gymraeg)
Mae ein fferm weithiol yn cynnig y cyfle i ddarpar ffermwyr weithio gyda pheiriannau o safon diwydiant a bydd ein gwartheg a’n defaid yn rhoi’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad i chi fynd gyda chi i’r byd gwaith. Os ydych yn hoff o anifeiliaid bach, byddwch yn bwydo, yn glanhau ac yn gofalu am amrywiaeth o anifeiliaid bach – o gwningod a moch cwta i rywogaethau mwy egsotig megis ymlusgiaid a mulod yn ein canolfan gofal anifeiliaid bach, sydd hefyd yn gartref i’n canolfan ailgartrefu cathod Blue Cross. Bydd rhai sy’n hoffi ceffylau wrth eu bodd â’n cyrsiau ceffylau a’n cyfleusterau. Gydag ysgolion y tu mewn ac yn yr awyr agored a’n cyfleusterau lifrai, byddwch yn dysgu sut i ofalu am geffylau, archwilio eu hymddygiad ac yn datblygu eich sgiliau marchogaeth mewn amgylchedd proffesiynol.
Cyrsiau
Beth nesaf? Mae nifer o’n myfyrwyr diwydiannau’r tir yn mynd ymlaen i astudio mewn prifysgolion ar draws y Deyrnas Unedig ac mae llawer yn dewis astudio cyrsiau prifysgol yng Ngholeg Gwent e.e. Nyrsio Milfeddygol. Mae eraill yn defnyddio’r sgiliau maent wedi’u dysgu mewn swyddi megis ffermwyr, cynorthwywyr mewn siopau anifeiliaid anwes, gweithiwyr stablau ac amgylcheddwyr.
CWRS AR GAEL YN GYMRAEG
Amaethyddiaeth a Chefn Gwlad Lefel 2 Amaethyddiaeth Lefel 3
Hyd
U
1 flwyddyn 2 flynedd
Gofal Anifeiliaid Lefel 1
1 flwyddyn
Gofal Anifeiliaid Lefel 2
1 flwyddyn
Rheoli Anifeiliaid Lefel 3
2 flynedd
Rheoli Cefn Gwlad Lefel 3
2 flynedd
Peirianneg Dechnegol y Tir Lefel 1
1 flwyddyn
Peirianneg Dechnegol y Tir Lefel 2
1 flwyddyn
Gofal Ceffylau Lefel 1
1 flwyddyn
Gofal Ceffylau Lefel 2
1 flwyddyn
Rheoli Ceffylau Lefel 3
2 flynedd
Peiriannau Fferm Lefel 2
1 flwyddyn
Cyflwyniad i Astudiaethau’r Tir
1 flwyddyn
Canllaw i symbolau’r campws: PDBG - Parth Dysgu Blaenau Gwent / CK - Campws Crosskeys / CN - Campws Dinas Casnewydd / PP - Campws Pont-y-pwl ˆ / B - Campws Brynbuga
50
CERBYDAU MODUR Mae’r diwydiant cerbydau modur mor amrywiol ag ydyw yn gyffrous ac mae gyrfa yn y maes hwn yr un mor heriol ac ydyw yn werthfawr. Fel atgyweiriwr cyrff cerbydau gallech fod yn tynnu ac atgyweirio paneli wedi torri, yn llyfnu tolciau bychan a hyd yn oed yn creu paneli allan o ddalennau metal. Os ydych wrth eich bodd â cheir ac yn mwynhau trwsio pethau, gall cynnal a chadw a thrwsio cerbydau fod yn fwy addas ar eich cyfer chi. Gall wythnos o waith nodweddiadol gynnwys canfod diffygion, atgyweirio a disodli rhannau difrodedig, gwneud gwaith trin ac atgyweirio fframiau, yn cynnwys brêcs, crogiant, llywio, systemau peiriannau a systemau trydanol. Byddwch yn gallu defnyddio’r holl dechnoleg ddiweddaraf yn ein gweithdai cyflawn sy’n cynnwys gweithdai cynnal a chadw cerbydau o’r radd flaenaf, bwth chwistrellu a siopau cyrff cerbydau ar Gampws Dinas Casnewydd a gweithdai cynnal a chadw cerbydau, cynnal
a chadw beiciau modur a diagnostig uwch ar Gampws Crosskeys. Mae gan ein darlithwyr flynyddoedd o brofiad o’r diwydiant felly ni fyddwch yn unig yn dysgu gan yr arbenigwyr, ond mi fyddant hefyd yn gallu rhoi cyngor i’ch helpu i gael swydd ar ôl gadael y coleg.
Beth nesaf? Mae’r mwyafrif o fyfyrwyr yn mynd ymlaen i wneud Prentisiaeth neu i gael swydd llawn amser yn y diwydiant, ond gallwch hefyd fynd i astudio yn y brifysgol mewn meysydd megis peirianneg chwaraeon modur a pheirianneg cerbydau modur.
Mynd amdani yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru
Ymgeisiwch ar-lein nawr ar www.coleggwent.ac.uk admissions@coleggwent.ac.uk | 01495 333777 (Croesawn alwadau yn Gymraeg)
Cyrsiau
Hyd
Cynnal Corff a Phaent Cerbyd Lefel Mynediad
1 flwyddyn
Trwsio wedi Damwain (Corff a Phaent) Lefel 1
1 flwyddyn
Trwsio wedi Damwain (Corff a Phaent) Lefel 2
1 flwyddyn
Trwsio wedi Damwain (Corff a Phaent) Lefel 3
1 flwyddyn
Trwsio wedi Damwain (Egwyddorion Paentio) Lefel 2
1 flwyddyn
Trwsio wedi Damwain (Egwyddorion Paentio) Lefel 3
1 flwyddyn
Peirianneg Fodurol Lefel 3
1 flwyddyn
Cynnal Cerbyd Lefel Mynediad
1 flwyddyn
Cynnal a Thrwsio Cerbydau Ysgafn Lefel 1
1 flwyddyn
Cynnal a Thrwsio Cerbydau Ysgafn Lefel 2
1 flwyddyn
Cynnal a Thrwsio Cerbydau Ysgafn (Ffitio Cyflym) Lefel 2
1 flwyddyn
Egwyddorion Cynnal a Thrwsio Cerbydau Ysgafn Lefel 3
1 flwyddyn
Egwyddorion Cynnal a Thrwsio Cerbydau Ysgafn Lefel 2 (Diploma Estynedig)
1 flwyddyn
Cynnal a Thrwsio Cerbydau (Beiciau Modur) Lefel 1
1 flwyddyn
Cynnal a Thrwsio Cerbydau (Beiciau Modur) Lefel 2
1 flwyddyn
Cynnal a Thrwsio Cerbydau (Beiciau Modur) Lefel 3
1 flwyddyn
CK
NP
A WYDDOCH CHI? Mae’r diwydiant modurol yn rhan hollbwysig o economi’r DU, gyda throsiant o fwy na 82 biliwn a 160+ o wledydd yn mewnforio cerbydau a adeiladwyd yn y DU. (Society of Motor Manufacturers and Traders, SMMT 2018)
Canllaw i symbolau’r campws: PDBG - Parth Dysgu Blaenau Gwent / CK - Campws Crosskeys / CN - Campws Dinas Casnewydd / PP - Campws Pont-y-pwl ˆ / B - Campws Brynbuga
52
CELFYDDYDAU PERFFORMIO, CERDDORIAETH A THECHNOLEG GERDD Ewch i gael blas o’r byd adloniant yng Ngholeg Gwent a gwireddwch eich breuddwyd.
A oes gennych lais? Eisiau profi eich bod â’r Waw ffactor? A ydych yn giamstar ar y gitâr? Efallai mai dewin neu ddewines y ddawns ydych neu awydd troedio’r llwyfan. Fel myfyriwr celfyddydau perfformio cewch fynediad i’n stiwdios ymarfer o’r radd flaenaf, cyn troedio ar y llwyfan yn ein theatr llawn offer mewn perfformiadau byw ar gyfer teulu, ffrindiau a’r cyhoedd. Mae’n brofiad gwych i’w roi ar eich CV. Mae myfyrwyr cerdd yn mwynhau creu a pherfformio yn ein stiwdios recordio proffesiynol sydd â’r holl dechnolegau diweddaraf. Sicrha hyn eich bod â phopeth yr ydych ei angen i arddangos eich ochr greadigol.
Ymgeisiwch ar-lein nawr ar www.coleggwent.ac.uk admissions@coleggwent.ac.uk | 01495 333777 (Croesawn alwadau yn Gymraeg)
Cyrsiau
Hyd
Astudiaethau Creadigol lefel Mynediad
1 flwyddyn
Cerddoriaeth Lefel 2
1 flwyddyn
Cerddoriaeth Lefel 3 (Diploma Estynedig)
2 flynedd
Technoleg Cerddoriaeth Lefel 3 (Diploma Estynedig)
2 flynedd
Actio Lefel 3 (Diploma Estynedig)
2 flynedd
Theatr Gerdd Lefel 3 (Diploma Estynedig)
2 flynedd
Celfyddydau Perfformio Lefel 2
1 flwyddyn
CK
BGLZ
CWRS AR GAEL YN GYMRAEG
Beth nesaf? Mae llawer o’n myfyrwyr yn mynd ymlaen i astudio mewn prifysgolion ac ysgolion drama ledled y DU gan gynnwys Academi Cerdd a Drama Llundain a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Gallwch aros yn agosach at gartref a gwneud cymhwyster prifysgol yng Ngholeg Gwent. Hefyd bydd gennych yr opsiwn i roi beth a ddysgwch gyda ni ar waith mewn swyddi megis peirianwyr sain, cynorthwywyr llwyfan, cynorthwywyr hyrwyddo a chynorthwywyr breindaliadau.
Mae’r Coleg wedi fy ngalluogi i ddod allan o fy nghragen.. ac i wneud y pethau sy’n fy ngwneud i’n hapus. Mae pawb yn glên ac yn gymwynasgar.
Emily Ball Lefel AS Drama ac Astudiaethau Theatr
Canllaw i symbolau’r campws: PDBG - Parth Dysgu Blaenau Gwent / CK - Campws Crosskeys / CN - Campws Dinas Casnewydd / PP - Campws Pont-y-pwl ˆ / B - Campws Brynbuga
54
CHWARAEON, HAMDDEN A GWASANAETHAU CYHOEDDUS Dilynwch ôl troed eich arwyr chwaraeon. Pa un ai a oes gennych ddiddordeb mewn hyfforddi, rheoli, ymarfer corff, gwyddoniaeth neu therapi, mae gennym gyrsiau a fydd yn eich helpu i gael swydd yn y meysydd cyffrous hyn. Yn y dyfodol gallech fod yn gweithio mewn clwb iechyd, fel hyfforddwr gweithgareddau awyr agored neu’n gweithio yn y diwydiant hamdden. Mae Campws Crosskeys yn gartref i Academi Rygbi Dreigiau Coleg Gwent, lle mae chwaraewyr yn ennill cymwysterau ochr yn ochr â’u hyfforddiant rygbi. Maent yn cael y fantais o 10 awr o hyfforddiant yr wythnos gan hyfforddwyr y Dreigiau tra byddant yn astudio cyrsiau Safon Uwch neu alwedigaethol.
Rwyf wastad wedi cymryd rhan mewn chwaraeon felly roedd yn gwneud synnwyr i mi droi’r hyn yr wyf yn teimlo’n angerddol tuag ato yn yrfa. Mae fy narlithwyr wedi bod yn wych gan eu bod eisiau i mi lwyddo cymaint ag yr wyf i. Mae ganddynt brofiad helaeth yn y diwydiant a defnyddiant hwnnw i egluro pethau a rhoi enghreifftiau i chi felly rydych yn ennill y sgiliau ymarferol y byddwch yn dod wyneb yn wyneb â hwy yn y gweithle. Rwy’n gobeithio y gwnewch fwynhau eich amser yng Ngholeg Gwent cymaint ag y gwnes i.
Diploma Lefel 3 mewn Hyfforddi Personol
Ymgeisiwch ar-lein nawr ar www.coleggwent.ac.uk admissions@coleggwent.ac.uk | 01495 333777 (Croesawn alwadau yn Gymraeg)
Os ydych yn astudio Chwaraeon, Gweithgareddau Awyr Agored neu Wasanaethau Cyhoeddus ar Gampysau Brynbuga neu Bont-y-pŵl byddwch hefyd yn astudio yn Stadiwm Cwmbrân ac yn manteisio ar ei hystod ragorol o gyfleusterau a chael profiad o amgylchedd hyfforddi elitaidd tebyg i academi. Gallwch hefyd astudio cyrsiau Hyfforddi Ffitrwydd a hyfforddi Personol ym Mrynbuga, sy’n ffordd i chi gael eich cyflogi yn y diwydiant ffitrwydd neu’n llwybr i gymwysterau Tylino yn y maes Chwaraeon ac Atgyfeirio ar gyfer Ymarfer Corff.
Beth nesaf? Mae nifer o’n myfyrwyr Chwaraeon, Hamdden a Gwasanaethau Cyhoeddus yn mynd ymlaen i astudio ym mhrifysgolion ledled y DU, tra bod eraill yn aros yn lleol. Astudiwch gwrs prifysgol yng Ngholeg Gwent neu rhowch yr hyn yr ydych wedi’i ddysgu ar waith mewn swyddi megis Cynorthwywyr Hamdden, Cynorthwywyr Hyfforddi a rolau yn y gwasanaethau cyhoeddus.
Efallai eich bod eisiau bod yn swyddog heddlu, yn barafeddyg neu’n fôr-filwr neu awydd bod yn ymladdwr tân - bydd ein cwrs gwasanaethau cyhoeddus yn eich helpu i gyrraedd y nod. Mae gwasanaethau cyhoeddus yn hollbwysig i’n cymunedau, ac mae’r rhai sy’n datblygu gyrfa iddynt eu hunain yn un o’r gwasanaethau mewn lifrai neu heb lifrai yn cyflawni rôl hanfodol mewn cymdeithas. Ar Gampysau Parth Dysgu Blaenau Gwent, Brynbuga a Phont-y-pŵl bydd cyfle ichi wneud cais i ddod yn gadét heddlu mewn partneriaeth â Heddlu Gwent.
Tîm Rygbi Merched Coleg Gwent - Crosskeys
Cyrsiau
Hyd
Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 1
1 flwyddyn
Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 2
1 flwyddyn
Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 3 (Diploma Estynedig)
2 flynedd
Hyfforddi Ffitrwydd ac Ymarfer Corff Iechyd Lefel 2
1 flwyddyn
Hyfforddiant ac Ymarfer/Ffitrwydd Personol Lefel 2/3
1 flwyddyn
Hyfforddiant ac Ymarfer Personol Lefel 3
1 flwyddyn
Chwaraeon Lefel 2
1 flwyddyn
Chwaraeon (Hyfforddiant Datblygu a Ffitrwydd) Lefel 3 (Diploma Estynedig)
2 flynedd
Chwaraeon (Antur Awyr Agored) Lefel 3 (Diploma Estynedig)
2 flynedd
Tylino ac Ymarfer Corff Chwaraeon Cyfeiriedig Lefel 3
2 dymor
CK
BGLZ
PP
Canllaw i symbolau’r campws: PDBG - Parth Dysgu Blaenau Gwent / CK - Campws Crosskeys / CN - Campws Dinas Casnewydd / PP - Campws Pont-y-pwl ˆ / B - Campws Brynbuga
U
56
TEITHIO A THWRISTIAETH Os ydych yn barod i gychwyn ar yrfa werthfawr, gall ein cyrsiau teithio a thwristiaeth fynd â chi i gyfeiriad un o’r diwydiannau mwyaf cyffrous a bywiog yn y byd.
Gallwch weithio mewn twristiaeth ddomestig yn un o barciau gwyliau, amgueddfeydd a pharciau cenedlaethol y DU. Gallwch hefyd weithio mewn trafnidiaeth deithwyr fel asiantaeth deithio neu reoli digwyddiadau. Os hoffech yn hytrach ddefnyddio eich sgiliau ymhellach mae gwyliau cerddorol, cyrchfannau sgïo a theuluoedd yn chwilio am fyfyrwyr yn cynnig gyrfaoedd cyffrous a diddorol, ynghyd â’r cyfle i weld y byd. Byddwch yn astudio pynciau fel cyrchfannau teithio, gweithrediadau teithio a rôl cynrychiolwyr cyrchfannau. Byddwch hefyd yn dysgu sgiliau trosglwyddadwy fel gwasanaeth cwsmeriaid a chyfathrebu a gall y byd i gyd fod ar flaenau’ch bysedd.
Beth nesaf? Mae llawer o’n dysgwyr Teithio a Thwristiaeth yn mynd ymlaen i astudio ym mhrifysgolion ledled y DU, ar gyrsiau megis Lletygarwch Rhyngwladol, neu’n aros yn lleol ac astudio cwrs prifysgol yng Ngholeg Gwent. Mae eraill yn rhoi’r hyn maent wedi’i ddysgu ar waith mewn swyddi megis Asiantau Teithio, Cynorthwywyr Digwyddiadau a Derbynwyr Gwestai.
Ymgeisiwch ar-lein nawr ar www.coleggwent.ac.uk admissions@coleggwent.ac.uk | 01495 333777 (Croesawn alwadau yn Gymraeg)
Cyrsiau
Hyd
Lletygarwch, Teithio a Thwristiaeth Lefel 1
1 flwyddyn
Teithio a Thwristiaeth Lefel 2
1 flwyddyn
Teithio a Thwristiaeth Lefel 3 (Diploma Estynedig)
CK
2 flynedd
A WYDDOCH CHI? Mae teithio a thwristiaeth yn Lloegr yn cyfrannu £106 biliwn i economi Prydain, gyda 9% o'r cyfanswm cenedlaethol yn cefnogi 2.6 miliwn o swyddi. (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)
Canllaw i symbolau’r campws: PDBG - Parth Dysgu Blaenau Gwent / CK - Campws Crosskeys / CN - Campws Dinas Casnewydd / PP - Campws Pont-y-pwl ˆ / B - Campws Brynbuga
58
CAREER COLLEGES
Pa gyrsiau sydd ar gael?
Technoleg Ddigidol
Ydych chi ar y blaen gyda’r dechnoleg ddiweddaraf? A yw gweithio ym meysydd meddygaeth, gofal iechyd neu ofal plant o ddiddordeb i chi? Coleg Gwent yw’r UNIG Career College yng Nghymru sy’n cynnig cyrsiau ym meysydd Iechyd a Gofal a Thechnoleg Ddigidol, drwy gydweithio â chyflogwyr lleol i ddarparu cymwysterau ac addysg sy’n cael eu harwain gan y diwydiant.
Beth yw Career Colleges?
Mae Career Colleges yn cynnal cyrsiau sydd wedi eu cynllunio a’u creu yn benodol gyda chyflogwyr, er mwyn i fyfyrwyr gael profiad o brosiectau diwydiannol go iawn, gan fagu profiad amhrisiadwy yn y gweithle. Gallwch fod yn dawel eich meddwl eich bod yn dysgu'n UNION beth mae cwmnïau eisiau gan eu gweithwyr, gan sicrhau eich bod gam yn nes at eich gyrfa.
Yr Unig Career College yng Nghymru...
Mae maes technoleg ddigidol yn tyfu ac yn newid yn barhaus; mae cwmnïau ar dân eisiau dod o hyd i ymgeiswyr fel chi, sy’n gyfforddus â thechnoleg, er mwyn symud gyda’r tueddiadau diweddaraf, i’w helpu i gadw ar y blaen o ran technoleg..
Iechyd a Gofal Mae gan Gymru boblogaeth sy’n heneiddio’n gynyddol, gan roi fwy o bwysau ar ein gwasanaethau iechyd.. Mae Iechyd a Gofal yn faes dewis o wasanaethau. Er enghraifft, mae iechyd meddwl yn bwnc amlwg ar hyn o bryd; felly beth am fod yn rhan o’r sgwrs honno? Neu, ydych chi erioed wedi gofalu am aelod o’ch teulu neu ffrind ac awydd dechrau gyrfa mewn nyrsio? Ydych chi erioed wedi gwarchod plant ac yn gweld eich hun fel nani?
...ni yw’r unig goleg yng Nghymru sy’n darparu’r cyrsiau hyn i fyfyrwyr. Byddwch yn dysgu gan gyflogwyr lleol yn eu hamgylchedd gwaith ac yn cael eich mentora’n agos gan ein darlithwyr profiadol. Mae nifer o fyfyrwyr sydd wedi cwblhau cyrsiau tebyg wedi mynd ymlaen i gwblhau prentisiaethau, i’r brifysgol ac i fyd gwaith.
A WYDDOCH CHI? Gallech gael cyflog hyd at £55,000 fel Rheolwr Rhwydweithiau Cyfrifiaduron. Swnio’n dda? (ffynhonnell: gwefan Gyrfa Cymru)
Rhagor o wybodaeth yn www.coleggwent.ac.uk/careercollegescym
| admissions@coleggwent.ac.uk
| 01495 333777 (Croesawn alwadau yn Gymraeg)