Coleg Gwent Canllaw Addysg Uwch 2018/20

Page 1


Croeso i Coleg Gwent Cynhelir digwyddiadau agored drwy gydol y flwyddyn yn ogystal â digwyddiadau gwybodaeth addysg uwch penodol. Gallwch gofrestru eich diddordeb mewn mynychu drwy’r ddolen isod, neu fel arall byddwch yn cael eich gwahodd yn awtomatig wrth wneud cais • Siarad gyda thiwtoriaid a dysgwyr addysg uwch eraill • Cael manylion am y cymorth ariannol sydd ar gael • Mynd ar daith o amgylch y campws a’r cyfleusterau Cadwch eich lle ar-lein www.coleggwent.ac.uk/open

01

03 04 05 08

5 rheswm dros astudio gyda ni Eich canllaw i gymwysterau Ffioedd a chymorth ariannol Sut i ymgeisio

09 11 13 15 17 19 21 23 25 27

Gwybodaeth am y cyrsiau Seiliedig ar Anifeiliaid a Thiroedd Amgylchfyd Adeiledig a Pheirianneg Busnes a Rheoli Celfyddydau Creadigol a Pherfformio Gofal Iechyd a Chymdeithasol Dyniaethau Gwyddoniaeth a Thechnoleg Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus Addysgu ac Addysg

29

Ein Campysau


Mae Coleg Gwent yn bartner cydweithredol o Brifysgol De Cymru, Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Caerwrangon. I ddarganfod mwy ac ymgeisio: www.coleggwent.ac.uk/he 01495 333777 - admissions@coleggwent.ac.uk

02


1 Mae ein darlithwyr yn ysbrydoli ac mae

ganddynt wybodaeth ragorol a chyfoes am y pwnc, yn ogystal â phrofiad addysgu helaeth a phrofiad nodedig mewn diwydiant - felly nid yn unig y byddwch yn dysgu gan y gorau, gallant roi cyngor da i chi ynglŷn â sut i ddod o hyd i waith pan fyddwch yn graddio. Mae ein meintiau dosbarth llai yn golygu y byddwch yn cael cymorth personol rhagorol gan staff darlithio a’n staff cymorth ymroddedig ac mae ein campysau lleol yn gyfeillgar a chroesawgar.

2

Mae ein partneriaethau cryf â Phrifysgol De Cymru, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerwrangon a Pearson yn golygu y bydd gennych fynediad at yr holl adnoddau y bydd eu hangen arnoch i lwyddo. Os byddwch yn cwblhau cwrs a ddyfernir gan un o’n prifysgolion partner yn llwyddiannus, byddwch yn cael tystysgrif a ddyfernir gan y brifysgol a gwahoddiad i seremoni raddio.

03

3 Rydym yn lleol, felly byddwch yn arbed

arian ar deithio a llety ac ni fydd yn rhaid i chi dalu am gostau astudio oddi cartref. Bydd gennych hefyd fwy o amser y gellir ei dreulio gyda theulu, ffrindiau neu yn y gwaith.

4

Mae ein cyrsiau fel arfer yn cynnwys dysgu yn y gweithle ac yn y coleg felly byddwch yn cael sgiliau gyrfa a phrofiad diwydiant penodol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, a fydd yn rhoi hwb i’ch cyfleoedd o ddod o hyd i’ch gyrfa ddelfrydol.

5

Mae ein hystod eang o bynciau ac opsiynau astudio yn golygu y gallwch astudio yn llawn amser neu’n rhan amser, i gyd-fynd â gwaith neu ymrwymiadau eraill. Mae ein cymwysterau AU yn berthnasol yn broffesiynol a gallant roi mantais gystadleuol i chi, ac arwain at botensial i ennill mwy o arian, cael mwy o gyfleoedd a gyrfa sy’n rhoi mwy o foddhad.


Mae gwneud yn siŵr eich bod ar y cwrs iawn yn bwysig i ni oherwydd gall ddylanwadu ar eich cam nesaf a’ch dyfodol tymor hirach.

Graddau Sylfaen Mae Graddau Sylfaen yn cyfuno astudiaeth academaidd â dysg yn y gweithle / gwaith. Maent yn cyfateb yn fras i ddwy flynedd gyntaf Gradd Baglor. Maent wedi’u dylunio â maes gwaith penodol mewn golwg, gyda chymorth sefydliadau o’r sector hwnnw, fel eich bod yn cael y sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Fel arfer, fe gewch chi gyfle i ddysgu yn y gweithle yn ogystal â’r ystafell ddosbarth. Ar ôl i chi gael Gradd Sylfaen, gallwch ddefnyddio eich cymhwyster a phrofiad gwaith i ddod o hyd i swydd, neu fe allwch ychwanegu at eich cymhwyster er mwyn ennill Gradd Baglor lawn. Bydd hyn fel arfer yn golygu astudio am flwyddyn neu ddwy ychwanegol.

Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch (HNCs) a Diplomâu Cenedlaethol Uwch (HNDs) Mae HNCs a HNDs yn gyrsiau cysylltiedig â gwaith sy’n cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan gyflogwyr yn y DU a thramor. Mae Graddau Baglor yn tueddu i ganolbwyntio ar gael gwybodaeth, ond mae HNCs a HNDs wedi’u dylunio i roi sgiliau i chi ddefnyddio’r wybodaeth honno yn effeithiol mewn galwedigaeth benodol. Nid yw cymwysterau Cenedlaethol Uwch yn eich paratoi ar gyfer gwaith yn unig. Mae rhai HNCs yn caniatáu mynediad uniongyrchol i

ail flwyddyn rhaglen gradd, ac mae llawer o HNDs yn caniatáu mynediad uniongyrchol i drydedd flwyddyn Gradd Anrhydedd. Gall HNCs neu HNDs hefyd roi mynediad i chi at nifer o gyrff proffesiynol. Felly, pa un a ydych am fynd yn syth i mewn i swydd, neu barhau â’ch astudiaethau, gall ennill cymhwyster Cenedlaethol Uwch fod yn lle da i ddechrau.

Graddau ‘Atodol’ Mae gradd Atodol gyfystyr â blwyddyn olaf astudiaethau israddedig, sy’n golygu eich bod yn derbyn cymhwyster lefel Bagloriaeth. Fel yr awgryma’r enw, mae’r cyrsiau hyn yn caniatáu i chi ‘ychwanegu’ at eich cymhwyster presennol, pa un ai yn radd Sylfaen neu gymhwyster perthnasol arall, megis HND. Mae gan bob cwrs ei ofynion mynediad ei hun, felly gwiriwch y cwrs sydd o ddiddordeb i chi er mwyn darganfod pa gymwysterau’n union yr ydych eu hangen er mwyn gwneud cais. Cofiwch hefyd wirio eich bod yn gymwys i barhau i dderbyn cyllid myfyrwyr.

Cymwysterau proffesiynol Mae cymwysterau proffesiynol yn canolbwyntio ar wella eich gallu i lwyddo mewn galwedigaeth benodol, sy’n ddelfrydol os oes gennych amcan clir o ran eich gyrfa ac yn awyddus i gael profiad ymarferol gwerthfawr. Mae nifer o yrfaoedd yn gofyn i chi gael cymhwyster proffesiynol, ond mewn achosion eraill nid yw cymwysterau proffesiynol yn hanfodol, ond maent yn caniatáu i chi fod yn fwy cymwys yn eich maes a gwella eich rhagolygon ar gyfer camu ymlaen yn eich gyrfa.

I ddarganfod mwy ac ymgeisio: www.coleggwent.ac.uk/he 01495 333777 - admissions@coleggwent.ac.uk

04


Mae cwrs Addysg Uwch yn fuddsoddiad yn eich dyfodol. Er bod costau ynghlwm â dysgu, boed hynny’n amser yr ydych yn ei fuddsoddi neu eich ffioedd dysgu, efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn cefnogaeth ariannol, sy’n golygu y gallai gostio llai nag yr ydych yn ei dybio.

Mae ffioedd dysgu ar gyfer israddedigion y DU a chwrs TAR ar gyfer 2018/2019 yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd yng Nghymru a Lloegr. Yn seiliedig ar yr wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael i ni, bydd y ffioedd dysgu isod yn berthnasol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2018-19. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau’r trefniadau ar gyfer 2019/20 ymlaen eto, sy’n golygu y gall ffioedd dysgu ar gyfer myfyrwyr sy’n dechrau yn 2018/19 neu ar ôl hynny gynyddu yn y blynyddoedd astudio dilynol, yn unol â’r ffioedd dysgu uchaf cysylltiedig â chwyddiant a ganiateir gan Lywodraeth Cymru. Byddwn yn rhoi gwybod i’r holl ymgeiswyr a myfyrwyr beth fydd y lefelau ffioedd ar gyfer 2019/20 ac unrhyw gynnydd sy’n gysylltiedig â chwyddiant yn y blynyddoedd astudio dilynol cyn gynted ag y derbynnir cadarnhad gan Lywodraeth Cymru. Byddwn yn cyhoeddi unrhyw ddiweddariadau ar wefan y coleg.

05

Cyrsiau wedi eu hachredu gan Brifysgol De Cymru a Phrifysgol Aberystwyth: Cost Graddau Sylfaen, Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch a Diplomâu Cenedlaethol Uwch wedi eu hachredu gan Brifysgol De Cymru a Phrifysgol Aberystwyth yw £7,500 y flwyddyn*.

Cyrsiau wedi eu hachredu gan Brifysgol Caerwrangon: Mae Graddau Sylfaen wedi eu hachredu gan y brifysgol hon yn costio £9,000 y flwyddyn*

PcET (Addysg a Hyfforddiant ôlÔrfodol): Yn 2018/19 ffioedd dysgu cyrsiau PcET oedd £620 am bob modiwl 20 credyd* - fel arfer rydych yn astudio 60 credyd mewn blwyddyn.

Costau ychwanegol Gall fod costau gorfodol neu ddewisol ychwanegol yn gysylltiedig â’ch cwrs. Mae’r costau hyn yn ychwanegol i’r ffioedd dysgu a chi fydd yn gyfrifol am gyllidebu amdanynt er mwyn gallu cymryd rhan yn llawn yn eich rhaglen ddewisol a’i chwblhau. Gall costau o’r fath gynnwys offer, teithiau, lleoliadau gwaith a gwiriadau DBS. Mae gan bob rhaglen gostau ychwanegol gwahanol y gallwch ddod o hyd iddynt drwy edrych ar yr wybodaeth am y cyrsiau ar ein gwefan.


Pan fyddwch yn dilyn cwrs Addysg Uwch bydd dau brif gost – ffioedd dysgu a chostau byw – ac mae modd derbyn cefnogaeth ariannol ar gyfer y costau hyn.

Benthyciad ffioedd dysgu † Pa un ai ydych yn astudio’n llawn amser neu’n rhan-amser gallwch wneud cais am fenthyciad ffioedd dysgu. Nid oes angen prawf modd a gallwch fenthyca hyd at yr uchafswm er mwyn talu eich ffioedd dysgu ar gyfer bob blwyddyn academaidd (hyd at uchafswm o £9000)*.

Cymorth gyda chostau byw † (cyfuniad o grant a benthyciad): Mae cyfran o’r cyllid costau byw yn seiliedig ar incwm y cartref. Gallai hynny olygu incwm eich rhieni, neu os ydych dros 25 oed neu’n bodloni meini prawf eraill, efallai y byddwch yn cael eich dynodi fel myfyriwr annibynnol. Os ydych yn byw â rhywun fel cwpl yna bydd incwm eich partner yn cael ei gymryd i ystyriaeth hefyd. Bydd cyfanswm y gefnogaeth costau byw yr ydych yn ei dderbyn yn dibynnu hefyd ar ble rydych chi’n byw pan fyddwch yn astudio, h.y. byw oddi cartref neu gartref gyda’ch rhieni.

Bydd rhaid i chi wneud cais am gyllid cyn dechrau eich cwrs, a gorau po gyntaf yr ydych yn gwneud hynny. Cofiwch hefyd fod rhaid i chi ailymgeisio am gyllid ar gyfer pob blwyddyn academaidd. I gael mwy o fanylion am eich hawl i dderbyn cyllid ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru neu Student Finance England (yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw).

Efallai y gallwch gael arian ychwanegol os oes gennych oedolion neu blant sy’n dibynnu’n ariannol arnoch chi. Gallai’r cyllid ychwanegol hyn gynnwys: • Grant Oedolion Dibynnol • Grant Gofal Plant • Lwfans Dysgu i Rieni † yn ddibynnol ar gymhwyster/argaeledd

*Ffigyrau yn gywir pan gawsant eu hargraffu a gallant newid. Ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru / Lloegr i gael y wybodaeth ddiweddaraf cyn i chi ymgeisio.

I ddarganfod mwy ac ymgeisio: www.coleggwent.ac.uk/he 01495 333777 - admissions@coleggwent.ac.uk

06 7


07


Ar ôl i chi benderfynu pa gwrs yr hoffech ei astudio, mae’n hawdd ymgeisio. •Ar-lein yn www.coleggwent.ac.uk/he • Dros y ffôn ar 01495 333777 •Yn bersonol mewn unrhyw un o’n pum campws

Cyngor a chanllaw am gyrsiau Byddwn yn eich gwahodd i ddod draw i gwrdd â thiwtor pwnc a fydd yn rhoi mwy o fanylion i chi am eich cwrs ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Cofrestru ac ymsefydlu Byddwn yn eich gwahodd i’r sesiwn gofrestru a chynefino a gynhelir yn gynnar ym mis Medi fel arfer. Byddwn yn anfon llythyr atoch yn nes at yr amser yn nodi ar ba ddyddiad y dylech ddod i’r coleg a beth sydd angen i chi ddod gyda chi. Byddwch yn dysgu mwy am eich cwrs gan y staff fydd yn eich addysgu, yn cwrdd ag aelodau eraill eich cwrs, ac yn cyfarwyddo eich hun â champws y coleg. Dylech baratoi i fod yn y coleg am hyd at ddau ddiwrnod.

*Noder wrth wneud cais i astudio cyrsiau ym Mhrifysgol Caerwrangon neu Brifysgol Aberystwyth gellir defnyddio proses ymgeisio UCAS hefyd.

Ymgeisiwch ar-lein nawr www.coleggwent.ac.uk/he

I ddarganfod mwy ac ymgeisio: www.coleggwent.ac.uk/he 01495 333777 - admissions@coleggwent.ac.uk

08


Yn y tudalennau canlynol fe welwch nifer o dalfyriadau sy’n cael eu defnyddio i ddangos ar ba gampws mae cwrs yn cael ei gynnal a chorff achredu’r cwrs. Dyma eich canllaw i’r symbolau:

Campysau: B - Campws Brynbuga / CK - Campws Crosskeys / CN - Campws Dinas Casnewydd PDBG - Parth Dysgu Blaenau Gwent / PP - Campws Pont-y-pŵl

Sut byddwch yn astudio: RHA - rhan amser / LLA - Llawn Amser

Cyrff Achredu: PA - Prifysgol Aberystwyth / CG - Coleg Gwent / P - Pearson PDC - Prifysgol De Cymru / W - University of Worcester / TBC - Yn amodol ar ddilysu

Sylwer, roedd y rhan fwyaf o’r cyflogau cyfartalog wedi’u cymryd o payscale. com ac yn gywir adeg argraffu. Mae Coleg Gwent yn ceisio sicrhau bod holl ddeunyddiau cyhoeddusrwydd coleg yn wrth eu hargraffu. Fodd bynnag, yn ystod y flwyddyn gall y coleg newid manylion y cyrsiau. Mae hyn yn cynnwys cyrff gwobrwyo, teitlau a lleoliad cyrsiau. Mae’r coleg yn cadw’r hawl i dynnu cyrsiau os nad ydynt yn hyfyw i’w cynnal.

09

I ddarganfod mwy ac ymgeisio: www.coleggwent.ac.uk/he 01495 333777 - admissions@coleggwent.ac.uk


10


Nid ydym yn oedi. Plannwn yr hadau, meithrin eich sgiliau a gadael i’ch doniau dyfu Mae pob cyflogwr yn chwilio am brofiad. Cewch ddigon ohono ar ein graddau sylfaen sy’n seiliedig ar anifeiliaid a’r tir ar Gampws Brynbuga.

Bydd myfyrwyr anifeiliaid a milfeddygol yn gweithio yn y ganolfan gofal anifeiliaid fach. Mae hon yn gartref i lu o anifeiliaid, o gwningod i foch cwta i rywogaethau mwy egsotig fel ymlusgiaid a mulod. Ceir hefyd ein canolfan ailgartrefu cathod Y Groes Las.

Mae gennym gyrsiau sydd wedi hen sefydlu gyda Phrifysgol De Cymru. Rydym yn ddiweddar wedi ychwanegu dau gwrs o Brifysgol Aberystwyth i’n portffolio mewn astudiaethau ceffylau ac amaethyddiaeth. Waeth pa gwrs a ddewiswch, bydd gennych fynediad i’r holl gyfleusterau y byddech yn disgwyl eu cael mewn diwydiant. Mae ein fferm waith yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr amaethyddiaeth weithio gyda pheiriannau safon diwydiant a’n gwartheg a defaid. Bydd hyn yn rhoi’r sgiliau, gwybodaeth a’r profiad i chi eu defnyddio mewn byd gwaith.

Bydd myfyrwyr marchogaeth â defnydd llawn o’n hysgolion dan do ac awyr agored, a chyfleusterau lifrai. Byddwch felly’n dysgu sut i ofalu geffylau a’u rheoli, archwilio eu hymddygiad a dysgu am y diwydiant ar y campws. Byddwch yn dysgu gan ddarlithwyr arbenigol sydd â gwybodaeth eang yn eu sector, ynghyd â phrofiad. Byddant felly yn gallu rhoi cyngor i chi ar sut i gael swydd pan raddiwch.

PDBG

CN

PP

B

Gradd Sylfaen mewn Iechyd a Lles Anifeiliaid

LLA

2 flynedd

PDC

BSc Atodol Iechyd a Lles Anifeiliaid

LLA

1 flwyddyn

PDC

Gradd Sylfaen mewn Nyrsio Milfeddygol

LLA

3 blynedd

PDC

BSc Atodol Nyrsio Milfeddygol

LLA

1 flwyddyn

PDC

Gradd Sylfaen mewn Astudiaethau Ceffylau

LLA

2 flynedd

PA

Gradd Sylfaen mewn Amaethyddiaeth

LLA

2 flynedd

PA

Efallai y cewch yr opsiwn i astudio’n llawn amser am flwyddyn arall yn y brifysgol yr ydych wedi ei dewis er mwyn derbyn Gradd Baglor gyflawn, neu mae modd i chi astudio Gradd Sylfaen fel cymhwyster ar ei ben ei hun a chael gwaith mewn meysydd megis ymarfer milfeddygaeth, rheoli fferm neu ymddygiad a seicoleg anifeiliaid.

11

CK

Rhwng 2010 a 2020 bydd y diwydiant tir angen 245,000 o bobl ar lefel 4-6 FfCCh sy’n cynnwys graddau sylfaen. Ffynhonnell: Lantra


“Rwy’n hoffi fy mod yn cael profiad ymarferol yng nghanolfan gofal anifeiliaid bach y coleg. Rwy’n dysgu’n well drwy wneud rhywbeth yn hytrach nag ond darllen neu glywed amdano. “Rwyf hefyd wedi gwneud lleoliadau gwaith mewn dwy filfeddygfa ac elusen anifeiliaid. Gwnaf fwy o leoliadau gwaith cyn i mi raddio. Ynghyd â gallu arddangos profiad pan wyf yn ymgeisio am swyddi, mae’r lleoliadau yn ffordd dda o gael mewnwelediad i wahanol feysydd gofal anifeiliaid i weld pa lwybr rydych eisiau ei ddilyn fel gyrfa.” Verity Watkins, 25 oed o Gasnewydd Gradd Sylfaen mewn Iechyd a Llesiant Anifeiliaid Gyrfaoedd nodweddiadol

Cyflog cyfartalog

Llawfeddyg milfeddygol

£33k

Rheolwr fferm

£27k

Nyrs filfeddygol

£18k

Rheolwr canolfan achub anifeiliaid

£21k

Darganfod mwy am gyrsiau a bywyd myfyrwyr ar ein gwefan: www.coleggwent.ac.uk

12


Cynllunio ac adeiladu eich dyfodol eich hun Gyrfa mewn adeiladu a pheirianneg yw eich cyfle i adael ôl go iawn ar ein cymdogaethau yn y dyfodol. Bydd ein cymwysterau lefel uwch yn rhoi’r sgiliau, gwybodaeth a phrofiad diwydiant i chi y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Boed eich bod yn cymryd y trywydd mecanyddol neu drydanol mewn peirianneg, byddwch yn gweithio ag offer a thechnoleg safon diwydiant. Felly gallwch ddefnyhddio gwyddoniaeth a mathemateg i ddatrys

problemau ymarferol fel y byddech yn y gweithle. Os hoffech chwarae rhan mewn newid nenlinellau, adeiladu pontydd hardd neu ddylanwadu ar bensaernïaeth, byddwch yn dysgu’r holl dechnegau ac egwyddorion diweddaraf i’ch paratoi ar gyfer cyflogaeth, ar ein Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig. Mae’n ddiderfyn!

PDBG

CN

PP

RHA a LLA

1/2 flynedd

P

Tystysgrif Genedlaethol Uwch/Diploma Cenedlaethol Uwch mewn Peirianneg Sifil

RHA a LLA

1/2 flynedd

P

Tystysgrif Genedlaethol Uwch/Diploma Cenedlaethol Uwch mewn Peirianneg Fecanyddol

RHA a LLA

2 flynedd

P

Tystysgrif Genedlaethol Uwch/Diploma Cenedlaethol Uwch mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig

RHA a LLA

2 flynedd

P

Tystysgrif Genedlaethol Uwch/Diploma Cenedlaethol Uwch mewn Peirianneg Weithgynhyrchu

RHA a LLA

2 flynedd

P

Gallwch fod â’r dewis o astudio am flwyddyn arall yn llawn amser yn eich prifysgol ddewisedig i gyrraedd Gradd Baglor lawn. Fel dewis arall, gallwch gymryd eich Gradd Sylfaen fel cymhwyster annibynnol a chael gwaith mewn meysydd fel tirfesur, peirianneg sifil neu reoli prosiect; isadeiledd, pensaernïaeth neu awyrofod.

14

CK

Tystysgrif Genedlaethol Uwch/Diploma Cenedlaethol Uwch mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig

B

Y diwydiant adeiladu ac adeiledig yw diwydiant mwyaf y DU. Mae’n cyflogi 2.35 miliwn o bobl a chyfrif am dros 8% o weithlu’r DU. Ffynhonnell: futuremorph.org


Mae Matthew Townley, 19 oed o Oakdale, yn swyddog cynnal a chadw ym Mecws Braces yn Nhŷ du. Wedi gwneud peirianneg Lefel 2 a 3 yn y coleg, mae nawr yn gwneud ei Dystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Peirianneg Drydanol. Daw i’r coleg unwaith yr wythnos: “Rwy’n gwneud y cwrs lefel uwch hwn i gynyddu fy nghyfleoedd gyrfa a’m henillion posibl. Mae rhai o’m darlithwyr yn wych – maent yn ysbrydoledig ac yn gwneud dysgu’n hwyl.” Gyrfaoedd nodweddiadol

Cyflog cyfartalog

Rheolwr adeiladu

£40k

Syrfëwr meintiau

£32k

Peiriannwr strwythurol

£30k

Syrfëwr adeiladau

£29k

Darganfod mwy am gyrsiau a bywyd myfyrwyr ar ein gwefan: www.coleggwent.ac.uk

14


Dangos i’r byd eich bod o ddifrif Yn ein byd modern mae busnes a masnach yn llywodraethu bob agwedd ar ein bywydau bron – felly mae pob busnes a sefydliad angen arweinwyr cryf a rheolwyr effro. P’un a ydych yn astudio pwnc eang busnes neu’n arbenigo mewn sector penodol, byddwch yn cael eich ysbrydoli gan ein timau addysgu gwych sy’n dod â chyfoeth o brofiad o’r diwydiant i’ch dysgu.

Mae ein dull addysgu’n berthnasol, yn gymhwysol ac yn gysylltiedig â’r diwydiant, felly byddwch yn meithrin y sgiliau mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt mewn ymgeiswyr. Mae ein pwyslais cryf ar brofiad yn seiliedig ar waith yn golygu y byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol y gallwch eu defnyddio yn y gweithle.

PDBG

CK

CN

Gradd Sylfaen Astudiaethau Busnes

LLA

2 flynedd

Diploma Rheoli ILM Lefel 5

RHA

1 flwyddyn

PDC CG

Cyfrifeg AAT Lefel 4

RHA

1 flwyddyn

PDC

Diploma Y Gyfraith ac Arferion CILEx Lefel 6

RHA

1 flwyddyn

CG

Tystysgrif Astudiaethau Cyfreithiol mewn Addysg Uwch*

LLA

1 flwyddyn

Gradd Sylfaen Rheolaeth Adwerthu

LLA

2 flynedd

PDC

PP

B

PDC

PDC PDC

*Yn amodol ar ddilysu

Os ydych chi’n dewis astudio Gradd Sylfaen efallai y cewch yr opsiwn i astudio am flwyddyn arall yn llawn amser yn eich prifysgol o ddewis i gyflawni Gradd Baglor lawn, neu fel arall gallwch fynd yn syth i weithio. Gallai opsiynau gyrfa, gan ddibynnu ar eich cwrs, gynnwys rheoli, Adnoddau Dynol, marchnata, cyllid, masnach ac yswiriant. Gyrfaoedd nodweddiadol

16

Cyflog cyfartalog

Cyfrifydd

£28k

Cyfreithiwr

£49k

Rheolwr siop adwerthu

£24k

Rheolwr gwerthiant

£41k

Mae saith o’r deg prif swydd sydd gan raddedigion sy’n gweithio yn y DU yn berthnasol i fusnes. Ffynhonnell: prospects.ac.uk Enilla graddedigion busnes mewn swyddi proffesiynol £5886 yn fwy ar gyfartaledd na’r rhai hynny mewn swydd amhroffesiynol. Ffynhonnell: thecompleteuniversityguide.co.uk


“Roeddwn i bob amser eisiau astudio y tu hwnt i Safon Uwch ond roedd y syniad o fynd i’r brifysgol yn codi rhywfaint o ofn arnaf, felly mae gallu ei wneud yn fy ngholeg lleol yn berffaith i mi. Mae aros gartref hefyd yn golygu nad oes gen i’r gost ychwanegol o dalu rhent. “Mae’r dosbarthiadau bach yn golygu fod gen i enw yn hytrach na rhif, ac mae gen i berthynas wych gyda fy nhiwtoriaid – maen nhw bob amser yn cynnig cymorth ac eisiau i chi lwyddo gymaint â chi eich hun. “Os ydych chi’n teimlo’n nerfus am astudio am radd sylfaen peidiwch â bod, mae cymaint o help a chefnogaeth yma os byddwch chi angen hynny.” Safina Ahmed, 19 o Gasnewydd Gradd Sylfaen Rheoli Adwerthu

Darganfod mwy am gyrsiau a bywyd myfyrwyr ar ein gwefan: www.coleggwent.ac.uk

16


Arddangos eich steil, eich ysbryd a’ch llwyddiant Mae’r diwydiannau creadigol yn tyfu’n gyflymach nag unrhyw faes arall yn economi’r DU – newyddion gwych i raddedigion talentog sydd ag awch am gelf a dylunio. Mae llawer o bobl yn eiddigeddus o unrhyw un sy’n gwneud swydd greadigol am fywoliaeth. Mae’n eithaf prin i allu gwneud rhywbeth rydych chi’n angerddol amdano fel eich swydd o ddydd i ddydd, felly os ydych chi’n gallu dechrau ac adeiladu gyrfa yn y diwydiannau

creadigol, mae’n debyg y byddwch yn cael llawer o foddhad o’ch swydd. Ein stiwdios celf, dylunio, ffasiwn, cyfryngau, ffotograffiaeth a pherfformio helaeth yw’r man perffaith i fynegi eich hun, arbrofi gydag amrywiaeth o dechnegau a pherffeithio eich arbenigedd.

PDBG

CK

Gradd Sylfaen Ffotograffiaeth

LLA

2 flynedd

PDC

Gradd Sylfaen Cynhyrchu’r Cyfryngau

LLA

2 flynedd

PDC

Gradd Sylfaen Darlunio*

LLA

2 flynedd

PDC

Gradd Sylfaen Cyfathrebu Graffig

LLA

2 flynedd

Gradd Sylfaen Celf a Dylunio Gemau

LLA

2 flynedd

HND Ffasiwn a Thecstilau

LLA

2 flynedd

P

Diwydiannau Creadigol: Gradd Sylfaen Technoleg Cerddoriaeth Boblogaidd

LLA

2 flynedd

PDC

Gradd Sylfaen y Celfyddydau Perfformio

LLA

2 flynedd

PDC

HNC/HND Colur Arbenigol: Y Celfyddydau Perfformio

LLA

1/2 flynedd

P

CN

PP

B

PDC PDC

*Yn amodol ar ddilysu

Gall ein cyrsiau creadigol eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd ac mae cyfleoedd yn y diwydiannau creadigol yn tyfu drwy’r amser. Mae opsiynau’n cynnwys cyfryngau, cerddoriaeth, perfformio, ffotograffiaeth, dylunio creadigol, ffasiwn, gemau a theledu a ffilm.

17

Cynhyrcha diwydiannau creadigol yn y DU £84.1 biliwn y flwyddyn i economi’r DU. Ffynhonnell: Cyngor Diwydiannau Creadigol


“Roedd dychwelyd i’r ystafell ddosbarth ychydig yn frawychus i ddechrau. Ond o fewn y diwrnod cyntaf roeddwn wedi ymgartrefu gan wybod fy mod wedi gwneud y dewis cywir i ailhyfforddi. “Mae cael tiwtoriaid mor angerddol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddysgu. Hebddynt, ni fyddwn wedi dychwelyd i’r coleg. O’r diwrnod cyntaf maent wedi bod â’r hyder ynof nad oedd gennyf yn y dechrau. Ond gyda’u cymorth, rwyf wedi datblygu’r hyder hwnnw.” Matthew Guthrie, 40 oed o Gwmbrân Gyrfaoedd nodweddiadol

Cyflog cyfartalog

Peiriannydd Sain

£24k

Rheolwr dylunio graffig

£30k

Dylunydd gemau fideo

£28k

Gweithredwr camera

£34k

Darganfod mwy am gyrsiau a bywyd myfyrwyr ar ein gwefan: www.coleggwent.ac.uk

18


Gofalwch am eich dyfodol Mae’r sector gofal yn cynnig ystod amrywiol o gyfleoedd gofal a all fod yn hynod werthfawr a gwneud effaith bositif ar fywydau eraill. Gall ein hystod o raddau sylfaen iechyd a gofal eich paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn ystod o sectorau gofal. Boed eich bod eisiau gweithio’n uniongyrchol â chleifion, arwain tîm i roi gofal o’r safon uchaf neu ddylanwadu ar bolisi ar lefel genedlaethol neu ranbarthol.

Os fyddai’n well gennych yrfa mewn gofal plant, bydd ein cwrs astudiaethau plentyndod yn eich paratoi â’r sgiliau, gwybodaeth a phrofiad ymarferol y byddwch ei angen mewn sector a all fod yn hynod heriol. Ond gall y sector fod yn werthfawr ac amrywiol yn ogystal.

PDBG

CK

PDC

Gradd Sylfaen mewn Astudiaethau Plentyndod

LLA

2 flynedd

PDC

Gradd Sylfaen mewn Iechyd a Lles Cymunedol

LLA

2 flynedd

PDC

CN

PP

B

PDC

Gradd Sylfaen mewn Seicoleg

LLA

2 flynedd

PDC

Gradd Sylfaen Astudiaethau Ieuenctid a Chymdeithasol*

LLA

2 flynedd

PDC W

Gradd Sylfaen mewn Iechyd Meddwl

LLA

2 flynedd

Gradd Sylfaen Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol*

LLA

2 flynedd

Gradd Sylfaen Iechyd Cyhoeddus*

LLA

2 flynedd

PDC

Diploma Addysg Uwch mewn Camddefnyddio Sylweddau*

LLA/ RHA

1 flwyddyn

PDC

PDC

*Yn amodol ar ddilysu

Efallai cewch yr opsiwn i astudio am flwyddyn arall yn llawn amser mewn prifysgol o’ch dewis i gyrraedd Gradd Faglor lawn. Fel dewis arall, gallwch gymryd eich Gradd Sylfaen fel cymhwyster annibynnol a chael gwaith mewn meysydd fel gwaith ieuenctid, gwaith cymdeithasol, gofal plant neu therapi.

20 19

Cyfloga’r GIG 51,000 o bobl fel rheolwyr yng Nghymru a Lloegr, allan o gyfanswm gweithlu o 1.17 miliwn. Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth Nuffield O fewn y GIG mae mwy na 350 o wahanol yrfaoedd ar gael. Ffynhonnell: Gyrfaoedd Iechyd (GIG)

Darganfod mwy am gyrsiau a bywyd myfyrwyr ar ein gwefan: www.coleggwent.ac.uk


Gyrfaoedd nodweddiadol

Cyflog cyfartalog

Gweithiwr cymdeithasol

£27k

Rheolwr cartref gofal

£28k

Ffisiotherapydd

£32k

Rheolwr meithrinfa

£30k

20 21


Mae cyfuno Saesneg a hanes yn rhoi’r cyfle i chi archwilio dau bwnc gwahanol sy’n peri i chi feddwl, ac sy’n rhoi cipolwg cyfareddol i’r naill a’r llall drwy eich galluogi i ystyried diwylliant a chymdeithas o safbwyntiau gwahanol. Byddwch yn gwella eich dealltwriaeth o’r ffyrdd mae llenyddiaeth yn adlewyrchu’r gorffennol ac yn ei alw i gof, ynghyd â’r ffordd mae gwybodaeth am y gorffennol yn sail i

ddarlleniadau llenyddol. Byddwch yn archwilio llenyddiaeth Saesneg a hanes modern a fydd yn rhoi gwybodaeth eang go arbennig i chi, yn ogystal ag amrywiaeth o fodiwlau opsiynol sy’n eich caniatáu i ychwanegu dealltwriaeth ddyfnach o’r pynciau hynny sydd fwyaf diddorol i chi.

PDBG

Gradd Sylfaen mewn Saesneg a Hanes

LLA

2 flynedd

PDC

Gradd Sylfaen mewn Cyfiawnder Troseddol*

LLA

2 flynedd

PDC

CK

CN

PP

B

PDC

*Yn amodol ar ddilysu

O’r holl ddisgyblaethau yn y DU, cynhyrcha’r dyniaethau’r gyfran byd fwyaf o erthyglau a gyhoeddir. Mae hyn bron i 11%. Ffynhonnell: Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau

21

Efallai y cewch yr opsiwn i astudio am flwyddyn arall yn llawn amser ym Mhrifysgol De Cymru i gyflawni Gradd Baglor lawn, neu gallwch gymryd eich Gradd Sylfaen fel cymhwyster ar ei ben ei hun a mynd i fyd gwaith. Gallai’r cwrs hwn arwain at nifer o gyfleoedd gyrfa, gan gynnwys addysgu, y gyfraith a gwaith cymdeithasol.


“Mae’r cwrs yn berffaith i mi. Rwyf wedi bod â diddordeb mewn hanes erioed. Gallaf gael y trên yn syth o Gaerdydd lle rwy’n byw i’r campws. “Fel llawer o bobl ar y cwrs, roedd gennyf fwy o ddiddordeb yn un o’r pynciau. I mi, hanes yw’r pwnc. Ond mewn gwirionedd, rwyf wirioneddol yn mwynhau y modiwlau Saesneg hefyd. Mae’n gyfuniad gwirioneddol ysgogol a chyflenwol. “Gan fod y dosbarthiadau’n fach, nid yn unig ydych yn cael llawer o gymorth gan y darlithydd, gall eich llais gael ei glywed yn y dadleuon a gawn yn y dosbarthiadau – a all fod yn fywiog iawn!” Ross Panfili, 26 oed o Gaerdydd Gradd Sylfaen mewn Saesneg a Hanes Gyrfaoedd nodweddiadol

Cyflog cyfartalog

Newyddiadurwr

£24k

Curadur

£31k

Athro ysgol uwchradd

£23k

Darganfod mwy am gyrsiau a bywyd myfyrwyr ar ein gwefan: www.coleggwent.ac.uk

22


Dod o hyd i’r fformiwla i lwyddo Mae datblygiadau technolegol a gwyddonol yn newid y byd rydyn ni’n byw ynddo drwy’r amser. Mae gwyddoniaeth a thechnoleg yn chwarae rhan gynyddol yn ein bywydau o ddydd i ddydd a gyda nifer o apiau busnes, personol a hamdden, mae’n amhosibl dychmygu byd hebddynt.

Byddwch yn cael profiad ymarferol yn ein labordai gwyddoniaeth pwrpasol, gydag offer safonol yn y diwydiant, ac yn ogystal â darlithwyr arbenigol byddwch yn cael eich cefnogi gan dechnegwyr gyda chyfoeth o brofiad yn y diwydiant.

CK

Gradd Sylfaen mewn Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

LLA

2 flynedd

PDC

PDC

HND Cyfrifiadura

LLA

2 flynedd

PDC

PDC

Gradd Sylfaen y Gwyddorau Dadansoddol a Fforensig

LLA

2 flynedd

Gall ein cyrsiau gwyddoniaeth arwain at nifer o opsiynau gyrfa gan gynnwys gwyddoniaeth fforensig, cyfrifiadura fforensig, technegydd lab neu ymchwil. Os byddwch chi’n dilyn llwybr TG mae gennych ystod enfawr o opsiynau gyrfa fel datblygu gwefannau, seilwaith TG neu gefnogaeth rhwydwaith, dadansoddi data neu raglennu cyfrifiadurol, yn ogystal â gwaith yn y sector diogelwch TG sy’n tyfu o hyd.

23

PDBG

CN

PP

B

PDC PDC

Yn 2015, cyflogwyd bron i 76.5 miliwn o bobl yn yr UE rhwng 15-74 oed mewn gwyddoniaeth a thechnoleg. Ffynhonnell: Eurostat Statistics Gyrfaoedd nodweddiadol

Cyflog cyfartalog

Rheolwr TG

£39k

Gwyddonydd fforensig

£26k

Dadansoddwr seilwaith

£32k

Dadansoddwr diogelwch gwybodaeth

£35k


“Wedi fy Safon Uwch roeddwn eisiau parhau i astudio ond nid oeddwn yn awyddus ar fynd i brifysgol fawr. Felly roedd gallu ei wneud yn y coleg yn ddelfrydol. “Mae bron i bob sector o economi’r 21ain ganrif o leiaf yn rhannol ddibynnol ar gyfrifiaduron ac arbenigwyr cyfrifiaduron, felly mae’r rhagolygon gyrfa yn eang iawn. “Rwy’n dysgu’n llawer mwy annibynnol na phan oeddwn yn yr ysgol. Mae hynny’n fy nghynorthwyo i ddatblygu sgiliau af gyda mi i’r gweithle. Mae’r rhain yn cynnwys rheoli a threfnu amser.” Andre Aldoescu, 18 o Gasnewydd Diploma Cenedlaethol Uwch mewn Cyfrifiadureg

Darganfod mwy am gyrsiau a bywyd myfyrwyr ar ein gwefan: www.coleggwent.ac.uk

24


Ymunwch â’n tîm buddugol O chwaraeon llawr gwlad yn y gymuned i gystadlu ar lefel elit, mae hyfforddi yn hanfodol i ddatblygu ffitrwydd, strategaeth a seicoleg chwaraeon. Gwnewch gyfres o leoliadau gwaith i roi profiad ymarferol i chi mewn rôl chwaraeon. Bydd yn rhoi agwedd seiliedig ar dystiolaeth i chi ar hyfforddi. Bydd hefyd yn datblygu eich dealltwriaeth dechnegol o hyfforddi a datblygu chwaraeon.

Mae gwasanaethau cyhoeddus wrth galon ein cymuned. Bydd y rhai hynny sy’n dilyn gyrfa o fewn un o’r gwasanaethau unffurf neu heb unffurfiaeth yn cyflawni rôl hanfodol mewn cymdeithas ac yn gwneud gwir wahaniaeth i fywydau eraill. Byddwch yn gofalu am bob agwedd o wasanaethau cyhoeddus. O reoli a chymell pobl i effaith deddfwriaeth ar gymdeithas.

PDBG

Gradd Sylfaen mewn Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon

LLA

2 flynedd

Diploma Cenedlaethol Uwch mewn Gwasanaethau Cyhoeddus a Brys

LLA

2 flynedd

Efallai cewch yr opsiwn i astudio am flwyddyn arall yn llawn amser mewn prifysgol o’ch dewis i gael Gradd Faglor lawn. Fel dewis arall, gallwch gymryd eich Gradd Sylfaen neu Ddiploma Cenedlaethol Uwch fel cymhwyster annibynnol a chael gwaith mewn meysydd fel datblygu chwaraeon, hyfforddi, y lluoedd arfog neu wasanaethau cyhoeddus.

25

CK

CN

PDC

PP

B

PDC PDC

Bydd Cymru angen dros 3,000 o recriwtiaid mewn galwedigaethau chwaraeon a ffitrwydd erbyn 2022. Ffynhonnell: Dyfodol Gwaith, 2012-2022 Gyrfaoedd nodweddiadol

Cyflog cyfartalog

Swyddog yr Heddlu

£31k

Swyddog y Fyddin

£26k

Swyddog Datblygu Chwaraeon

£30k

Hyfforddwr Chwaraeon Proffesiynol

£33k

Darganfod mwy am gyrsiau a bywyd myfyrwyr ar ein gwefan: www.coleggwent.ac.uk


“Teimlaf gall peidio cael fy nghymhwyster prifysgol gyfyngu fy opsiynau gyrfa. Felly rwy’n falch gallaf wneud un mewn pwnc rwy’n ei hoffi ac yn teimlo’n angerddol amdano. Rwyf wedi bod â gallu academaidd da erioed. Ond nid wyf erioed wedi bod â diddordeb mewn unrhyw beth yn ddigon i’w ddefnyddio tan yn awr. “Dewisais astudio yn y coleg yn hytrach na’r brifysgol gan ei fod yn arbed arian ac amser i mi drwy beidio teithio mor bell. Drwy astudio’n lleol, gallaf ffitio coleg o amgylch y daith i’r ysgol. Mae’r dosbarthiadau bach yn golygu ein bod yn cael yr holl gymorth unigol rydym ei angen.” Rob Davies, 30 oed o Gwmbrân Gradd Sylfaen mewn Hyfforddi, Datblygu a Ffitrwydd Chwaraeon

26


Mae dylanwad athro’n mynd ymhell tu hwnt i’r ystafell ddosbarth Gall gyrfa addysgu fod yn gyffrous ac yn werth chweil, a gallai hefyd gynnig amrywiaeth i chi a’r cyfle i wella dyfodol eraill. Mae ein cyrsiau yn eich gwneud yn gymwys i addysgu pobl dros 16 mlwydd, felly bydd angen i chi allu ymwneud yn dda gyda myfyrwyr o bob oedran a bob gallu gan fod

proffil myfyrwyr posibl yn hynod eang. Gallech fod yn addysgu cyrsiau academaidd i’r rhai sydd wedi gadael yr ysgol ac eisiau mynd i’r brifysgol, oedolion sydd am ail-hyfforddi a newid gyrfa neu bobl sy’n dychwelyd i’r ystafell ddosbarth yn dilyn blynyddoedd allan o addysg.

PDBG

PcET: Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg/ Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg

RHA

2 flynedd

Paratoi at Addysgu

RHA

10 wythnos

Mae ein cyrsiau addysgu yn eich gwneud yn gymwys i addysgu addysg ôl-16 a allai gynnwys colegau, chweched dosbarth, addysg oedolion a chymunedol, darparwyr hyfforddiant mewn gwaith a lleoliadau dysgu troseddwyr. Nid yw ein cyrsiau’n rhoi statws athro cymwysedig (QTS) i chi. Mae angen hwn i addysgu mewn ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd.

27

CK

CN

PP

B

PDC

Gyrfaoedd nodweddiadol

PDC

Cyflog cyfartalog

Darlithydd coleg

£30k

Athro yn y carchar

£26k

Hyfforddwr corfforaethol

£28k


“Rwyf wirioneddol yn mwynhau bod yn fyfyriwr AU yn y coleg. Mae fy nhiwtoriaid a staff eraill wedi bod yn galonogol a chynorthwyol. Mae fy mentoriaid yn enwedig wedi bod o gymorth. Maent wedi gadael i mi ddysgu eu dosbarthiadau eraill drostynt i mi gael y profiad rwyf ei angen i basio’r cwrs. “Mae’r cwrs yn anodd iawn. Mae mynychu gwersi, sesiynau tiwtorial, gwaith grŵp a pharhau i wneud eich ymarfer a pharatoi dysgu yn ymroddiad mawr. Ond mae’n foddhad anhygoel. “Fel myfyriwr, nid ydych yn cael y cyfle’n aml iawn i gynorthwyo a meithrin eraill. Ond mae hyfforddi i addysgu yn amgylchfyd cyfeillgar a chynorthwyol Coleg Gwent yn rhoi hynny i chi, a llawer mwy.” Sue Mitchell, 56 o Lyn Ebwy Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg/ Tystysgrif Addysg i Raddedigion

Darganfod mwy am gyrsiau a bywyd myfyrwyr ar ein gwefan: www.coleggwent.ac.uk

28


Ein Campysau

Blaenau Gwent 1

Sir Fynwy

4

Caerffili

5

Torfaen 3

Casnewydd 2

Caerdydd

Aber Afon Hafren

1 - Parth Dysgu Blaenau Gwent 2 - Campws Dinas Casnewydd 3 - Campws Crosskeys 4 - Campws Pont-y-pŵl 5 - Campws Brynbuga 29


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.