Beth yw Cymdeithas yr Iaith - What is Cymdeithas yr Iaith

Page 1

d

beth yw

d

?

what is

taflen dysgwyr cymdeithas booklet - haf 2015.indd 1

?

17/07/2015 19:28


Wyt ti erioed wedi profi anhawster wrth geisio cael gwasanaeth Gymraeg? Cael dy drin yn amharchus wrth drio siarad Cymraeg? Cael trafferth cael addysg Gymraeg i ti dy hun neu dy blant? Cymdeithas o bobl yw Cymdeithas yr Iaith Gymraeg sy’n ymgyrchu’n bositif dros hawliau i bobl Cymru i ddefnyddio’r iaith.

taflen dysgwyr cymdeithas booklet - haf 2015.indd 2

17/07/2015 19:28


Have you ever experienced difficulty accessing a Welsh language service? Been treated badly for trying to speak Welsh? Had trouble getting Welsh medium education for your children? Cymdeithas is a group of people who campaign positively for the rights of people in Wales to use the language.

taflen dysgwyr cymdeithas booklet - haf 2015.indd 3

17/07/2015 19:28


Yn 1962, dywedodd Saunders Lewis fod angen chwyldro er mwyn achub yr iaith Gymraeg. Mae’r Gymdeithas wedi bod ar flaen y gad yn arwain y chwyldro hwnnw drwy ymgyrchu dros arwyddion ffyrdd dwyieithog, sianel deledu Gymraeg a deddfau iaith – ac rydyn ni dal wrthi. Mae gan y mudiad syniadau blaengar ar nifer o feysydd sy’n effeithio ar y Gymraeg, er enghraifft, hawliau ieithyddol, addysg, tai i bobl leol a chynllunio, a’r cyfryngau.

taflen dysgwyr cymdeithas booklet - haf 2015.indd 4

17/07/2015 19:28


In 1962, Saunders Lewis said there had to be a revolution in order to save the Welsh language. For 50 years Cymdeithas have been leading that revolution by campaigning for Welsh road signs, a Welsh language TV channel and various Welsh Language Acts. Cymdeithas has a number of progressive policies on Language Rights, Education, Housing and Planning, and the Media.

taflen dysgwyr cymdeithas booklet - haf 2015.indd 5

17/07/2015 19:28


Ond mae’r Gymraeg yn ddiogel erbyn hyn? Mae sefyllfa’r Gymraeg wedi cryfhau dros y blynyddoedd mewn rhai meysydd - mae’n wir - ond mae cymaint o ffactorau fel effaith globaleiddio, toriadau mewn gwariant cyhoeddus a dirywiad cymunedau Cymraeg yn bygwth yr iaith. Er mwyn iddi fod yn iaith fyw rhaid i ni ei defnyddio ym mhob rhan o’n bywydau; yn iaith naturiol yn ein cymunedau, ar y we, yn y siop, yn gyfrwng i’n haddysg, radio a theledu.

taflen dysgwyr cymdeithas booklet - haf 2015.indd 6

17/07/2015 19:28


Isn’t the Welsh Language safe now? It’s true, the language has strengthened over the years in some ways, but many factors such as the effect of globalisation, public spending cuts and the decline of Welsh language communities still threaten the language. For it to be a living language we have to use it in all aspects of life; the natural language of our communities, on the internet, in shops, education, radio and television.

taflen dysgwyr cymdeithas booklet - haf 2015.indd 7

17/07/2015 19:28


Ond dydw i ddim yn un i brotestio... Wrth gwrs dy fod di! Nid protestio ar y strydoedd a wnawn ni drwy’r amser. Hanfod y Gymdeithas yw gweithredu yn ôl y dull di-drais; gall hyn fod yn unrhyw beth o ysgrifennu llythyr am ddiffyg gwasanaeth Cymraeg neu gasglu llofnodion ar ddeiseb hyd at brotestio neu hyd yn oed baentio sloganau. Rydym ni’n annog aelodau i helpu mewn unrhyw ffordd gallant a gweld sut gallan nhw ddatblygu eu sgiliau wrth ymgyrchu.

taflen dysgwyr cymdeithas booklet - haf 2015.indd 8

17/07/2015 19:28


But I’m not one for protesting... But you are! It isn’t all about protesting on the streets. Cymdeithas supports non-violent direct action; this could mean anything from writing a letter about the lack of a Welsh language service or collecting names on a petition to protesting and even painting slogans. Cymdeithas encourages members to contribute what they can - the emphasis is put on encouraging and supporting our members to develop their given skills.

taflen dysgwyr cymdeithas booklet - haf 2015.indd 9

17/07/2015 19:28


Rôl i bawb ... Mae lobïo busnesau, Cynghorau Sir a gwleidyddion yn rhywbeth sy’n digwydd drwy’r amser ac mae angen help ein haelodau i wneud hyn. Mae angen pobl sydd yn gallu ysgrifennu, darlunio, cyfathrebu, creu pethau, pobl gydag arbenigedd mewn addysg, cyfraith, adloniant, cyfrifiaduron. Yn wir, beth bynnag eich talentau, mae yna le i chi helpu gyda gwaith y Gymdeithas.

taflen dysgwyr cymdeithas booklet - haf 2015.indd 10

17/07/2015 19:28


A role for everyone ... Lobbying businesses, local authorities and politicians is something that happens continuously and we need the help of members to do this. We need people who can write, design, communicate, create things, people with expertise in education, law, entertainment, computers, really, whatever your talents, there’s room for you to help.

taflen dysgwyr cymdeithas booklet - haf 2015.indd 11

17/07/2015 19:28


Ni zo ur strollad tud a stourm evit ar c’hembreeg hag e gumuniezhoù bev, hag eo anat deomp eo stourm evit yezh nemeti bro-Gembre, lodenn deus un emgann evit gwirioù ar minorelezhioù dre ar bed a-bezh. Ni yw bagas a dus a wra kaskyrghes a-barth an Yeth Kembrek ha kemmyniethow yn Kembra, ha ni a aswonn an kaskyrgh a-barth yeth dibarow Kembra dhe vos rann a’n strivyans efanna a-dreus an norvys a-barth gwiryow ha rydhder tus a’n leha rann. Tha sinne nar buidheann de dhaoine a bhitheas ag iomairt air son Cuimris agas air son choimhearsnachdan anns a’ Chuimrigh. Tha fios againn gu bheil an iomairt a dh’ionnsaigh seo air dòigh air feamh an t-saoghail chum còireachan ‘s saorsa na mìon-cuide a sheasachd. Ние сме група хора, които организират кампании за подкрепа на Уелския език и местните общности в Уелс. Считаме, че кампанията ни за уникалния уелски език е част от по-мащабна световна борба за правата и свободите на малцинствата. Som un grup de gent que fem campanya per la llengua i comunitats gal·leses, i som conscients que la campanya pel gel·lès com a llengua del País de Gal·les forma part d’una lluita global pels drets i llibertats de les minories.

taflen dysgwyr cymdeithas booklet - haf 2015.indd 12

17/07/2015 19:28


Jsme skupinou lidí, kteří se berou za velšský jazyk, kymerštinu, a za práva komunit ve Walesu. Uvědomujeme si, že boj za jedinečný jazyk Walesu je součástí širšího celosvětového zápasu o práva a svobody menšin. Nous sommes un groupe de gens qui milite en faveur de la langue et des communautés galloises et nous reconnaissons que notre campagne pour l’unique langue du Pays de Galles fait partie d’une lutte plus large pour les droits et liberté des minorités à l’échelle mondiale. He rōpu whakatairanga mātou i te reo o Wēra me ngā hāpori Wēra, ā, ko te whawhai nei mō te reo o Wēra he rite tonu ki ētahi atu iwi o te ao e whawhai nei mō ō rātou reo me ā rātou tikanga. Somos un grupo de personas que hacen campaña por la lengua galesa y comunidades en Gales, y reconocen que la campaña por el lenguaje único de Gales forma parte de una lucha mas grande, una lucha mundial para los derechos y libertades de las minorías. Jesteśmy grupą ludzi, którzy w sposób pokojowy walczą w obronie języka walijskiego i społeczności w Walii, i którzy rozumieją, że ich działania są częścią większej, ogólnoświatowej walki o prawa i wolność mniejszości narodowych.

taflen dysgwyr cymdeithas booklet - haf 2015.indd 13

17/07/2015 19:28


Beth alla i wneud? Ymaeloda! Galli di wneud hyn ar ein gwefan. Noda pa ymgyrchoedd sydd o ddiddordeb i ti. Ymuna â chell — celloedd yw canghennau lleol y Gymdeithas. Mae yna gelloedd drwy Gymru gyfan a galli di ddechrau cell yn dy ardal di yn ddigon hawdd. Does dim angen llawer o bobl i ddechrau cell a gall ein swyddog lleol eich cynorthwyo chi. Cymdeithas o bobl yw’r Gymdeithas, hynny yw, TI! Mae dy gyfraniad yn holl bwysig a gyda’n gilydd rydym yn arwain y frwydr dros sicrhau dyfodol i’r iaith Gymraeg. Bydd yn rhan o’n hymgyrchoedd!

taflen dysgwyr cymdeithas booklet - haf 2015.indd 14

17/07/2015 19:28


What can I do? Join! You can do this on our website. Note which campaigns interest you. Join a cell — a cell is a local branch of Cymdeithas. There are cells all over Wales and you could start a cell in your area. You only need a few people and your local officer can help. Remember, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg is a community of people, that means YOU! Your contribution is of the upmost importance and together we can lead the way to ensure a future for the Welsh language.

taflen dysgwyr cymdeithas booklet - haf 2015.indd 15

17/07/2015 19:28


Hawliau Ieithyddol Mae’r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru ond gyda statws swyddogol mae angen hawliau ieithyddol i’r unigolyn. Nid oes unrhyw orfodaeth ar gwmnïau fel Tesco a McDonalds i ddarparu gwasanaeth Gymraeg a gwasanaethau eilradd fydd gyda ni nes bod deddf yn mynnu fod hyn yn newid Byddwn yn parhau i frwydro dros Ddeddf Iaith gref sydd yn cynnwys hawliau i’r unigolyn.

taflen dysgwyr cymdeithas booklet - haf 2015.indd 16

17/07/2015 19:28


Language Rights The Welsh language is an official language in Wales. But we still needs to fight to ensure linguistic rights for the individual. There’s no requirement for giant companies such as Tesco and McDonalds to provide any sort of Welsh language service and this will only change with legislation. We will continue to campaign for a strong Welsh language law that includes linguistic rights for the individual.

taflen dysgwyr cymdeithas booklet - haf 2015.indd 17

17/07/2015 19:28


Addysg Dylai fod gan bawb yr hawl i dderbyn addysg Gymraeg yn lleol. Mae Cymdeithas yr Iaith yn ymgyrchu dros ddyfodol ysgolion pentrefol, dros gynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg mewn colegau addysg bellach a thrwy alw am addysg gyfrwng Gymraeg lleol o’r blynyddoedd cynnar hyd at ysgol uwchradd.

taflen dysgwyr cymdeithas booklet - haf 2015.indd 18

17/07/2015 19:28


Education Everybody should have the right to receive Welsh medium education locally. Cymdeithas campaigns for the future of village schools, increasing Welsh language provision in colleges and calls for local Welsh medium education from early years through to secondary school.

taflen dysgwyr cymdeithas booklet - haf 2015.indd 19

17/07/2015 19:28


Cymunedau Cynaliadwy Mae’r Gymraeg yn edwino fel iaith gymunedol yn enwedig yn ei chadarnleoedd traddodiadol. Mae yna sawl rheswm tu ôl i’r patrwm hwn. Mae’r Gymdeithas yn galw am newidiadau economaidd ac yn y farchnad dai er mwyn gwrth-droi’r dirywiad hwn. Un o’n galwadau ydy Deddf Eiddo fyddai’n galluogi pobl i aros yn eu cymunedau a sicrhau fod digon o dai fforddiadwy ar gael i’w rhentu ac i’w prynu gan roi cymorth ychwanegol i brynwyr tro cyntaf.

taflen dysgwyr cymdeithas booklet - haf 2015.indd 20

17/07/2015 19:28


Sustainable Communities The Welsh language is in decline as a community language, especially in its traditional heartlands. There are many reasons for this,. We campaign for economic and housing market changes to reverse this decline. One of our demands is for a Property Act which would help people stay in their communities by ensuring there are enough affordable homes to buy and rent and by supporting first time buyers.

taflen dysgwyr cymdeithas booklet - haf 2015.indd 21

17/07/2015 19:28


Cyfryngau Cred Cymdeithas yr Iaith bod y cyfryngau modern gan gynnwys teledu, radio a’r we yn holl bwysig er mwyn cael dyfodol llewyrchus i’r iaith Gymraeg. Rydym yn pwyso am wasanaethau Cymraeg ar orsafoedd radio lleol, annibyniaeth a chyllido teg i’n sianel deledu Gymraeg a phresenoldeb cryf ar y we.

taflen dysgwyr cymdeithas booklet - haf 2015.indd 22

17/07/2015 19:28


Media Cymdeithas believe that modern media, including television, radio and the internet are important in creating a prosperous future for the Welsh language. We campaign for a proper and fair footing within the media by pressing for Welsh language services on local radio, independence and sufficient funding for our Welsh language TV channel and a strong presence on the internet.

taflen dysgwyr cymdeithas booklet - haf 2015.indd 23

17/07/2015 19:28


Cysyllta nawr ac ymuna â’r chwyldro! post@cymdeithas.cymru 01970 624501 cymdeithas.cymru @cymdeithas

Contact now and join the revolution!

hjkl Cyhoeddwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg Gwanwyn 2011 (2il argraffiad Haf 2013, 3ydd argraffiad Gwanwyn 2015, 4ydd argraffiad Haf 2015)

taflen dysgwyr cymdeithas booklet - haf 2015.indd 24

17/07/2015 19:28


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.