Y Tafod
cylchgrawn cymdeithas yr iaith mai 2018
Tafod Mis Mai .indd 1
18/05/18 12:55
ytafod
Golygydd Jon Gower Dylunio a Chysodi Gwenllian Llwyd
Prif Swyddfa Swyddogion Cyflogedig: Elfed Wyn Jones a Robin Farrar
Cymdeithas yr Iaith, Prif Swyddfa, Ystafell 5, Y Cambria, Rhodfa’r Môr, Aberystwyth, SY23 2AZ 01970 624501 | post@cymdeithas.cymru dyfed@cymdeithas.cymru Swyddfa’r Gogledd Swyddogion Cyflogedig: Heledd Melangell Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Swyddfa’r Gogledd, 10 Stryd y Plas, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1RR. 01286 662908 | gogledd@cymdeithas.cymru Swyddfa’r De Swyddogion Cyflogedig: Colin Nosworthy a Owen Howells Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Swyddfa’r De, Tŷ’r Cymry, 11 Heol Gordon, Y Rhath, Caerdydd CF24 3AJ 02920 486469 | colin@cymdeithas.cymru de@cymdeithas.cymru
cymdeithas o bobol sy’n gweithredu’n
ddi-drais dros y gymraeg a chymundeau cymru fel rhan o’r chwyldro rhynglwadol dros hawliau a rhyddid
Tafod Mis Mai .indd 2
18/05/18 12:55
Gair o’r Gadair Heledd Gwyndaf | Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Bob blwyddyn mae criw o Senedd Cymdeithas yr Iaith, gyda chroeso i bawb, yn dod ynghyd i benwythnos yr ydym yn ei gynnal sy'n canolbwyntio ar bwnc penodol.
Hoffwn ddiolch i Cris Tomos o Hermon sydd wedi arwain a bod ynghlwm â chyweithiau cymunedol dirifedi am ei gyfraniad i’r drafodaeth hon.
Yr hyn a drafodwyd ym ‘Mhenwythnos Tresaith’ eleni oedd polisi ‘Iaith a Gwaith’ y Gymdeithas. Y rheswm y dewiswyd y pwnc hwn oedd ein bod yn teimlo, er ei fod yn bwnc pwysig ofnadwy, nad oeddem wedi ymweld digon â’n polisi ein hunain, bod eisiau i ni ddod i’w adnabod yn well a bod angen mireinio arno a gwthio ein negeseuon ohono.
Gwahoddwyd Adam Price i’r penwythnos i drafod ei syniad am Arfor, sef ei weledigaeth ef o’r ffordd ymlaen i achub yr economi a’r Gymraeg yn rhai o siroedd gorllewinol Cymru. Mae e wedi cyfrannu erthygl i'r rhifyn hwn o'r Tafod sy'n esbonio'r syniad.
Rhai casgliadau o’r penwythnos yn ymwneud â’n polisi oedd bod angen i ni: - greu polisi cliriach sy'n gwahanu’r syniadaeth strwythurol a’r syniadau penodol, o’r ffordd ymlaen - bod angen cyfleu ein gweledigaeth yn gliriach - bod angen wedyn cynllun i wthio a phwyso mwy am wireddu ein gweledigaeth - cafwyd llu o syniadau penodol newydd i ymchwilio iddynt Baswn yn gwerthfawrogi unrhyw aelodau sydd â chanddynt ddiddordeb yn y maes hwn i gysylltu gyda ni i fod yn rhan o’r drafodaeth hon.
Tafod Mis Mai .indd 3
Roedd y drafodaeth am Arfor yn un fywiog, a byddwn yn ystyried y drafodaeth honno wrth ddatblygu ein polisi iaith a gwaith ymhellach. Ar un llaw, roedd teimlad bod Arfor yn syniad sydd â photensial, ond codwyd nifer o gwestiynau hefyd sydd angen eu hystyried. Gallai Arfor, er o’i weithredu mewn rhai siroedd yn unig i ddechrau, ddatblygu’r iaith ledled Cymru. Mae cadarnleoedd y Gymraeg yn gwbl hanfodol i'r iaith: mae gwir angen cryfhau'r economi yn yr ardaloedd hynny er mwyn iddi oroesi a ffynnu. Nid oes modd i’r iaith dyfu a datblygu mewn cymunedau lle mae’r iaith yn leiafrifol (er enghraifft Caerdydd, Wrecsam, Abertawe, y Cymoedd) heb gadarnleoedd lle mae’r iaith yn fyw, hynny yw, yn iaith gymunedol sy’n iaith
18/05/18 12:55
fyw. Os yw’r iaith yn parhau i wanhau mewn ardaloedd megis Ceredigion, Sir Gâr, Conwy a Gwynedd, nid oes gobaith iddi fod yn iaith gymunedol eto yn yr ardaloedd ble mae hi eisioes wedi ei lleiafrifoli'n fwy byth. Ond, wrth i ni ystyried syniadaeth Arfor, dyma rai cwestiynau a phwyntiau i'w hystyried: - Sut caiff y cynlluniau eu rhoi mewn perthnasedd â gweddill Cymru? Pwysleisiwn fod angen cyd-blethu datblygu economaidd gyda hyrwyddo’r iaith ymhob rhan o Gymru. Mae angen gweledigaeth a pholisi Cymru gyfan i gyd-fynd â pholisi Arfor, gyda’r nod o symud pob cymuned ar hyd y llwybr ieithyddol. Yn hytrach na bod yn nod ynddo'i hun, dylai sefydlu Arfor fod yn gam tuag at y nod o gymunedau Cymraeg cynaliadwy – a bod yn weledigaeth i Gymru gyfan ymuno ag ef ac ymgyrraedd tuag ato, yn hytrach nag yn weledigaeth yn perthyn i un ardal o Gymru. - Fod angen ymateb i’r perygl y byddai Arfor yn esgusodi siroedd mwy dwyreiniol rhag eu cyfrifoldebau i’r Gymraeg ac i siaradwyr Cymraeg. Un syniad a drafodwyd oedd y byddai Rhanbarth y Cymoedd a Rhanbarth Caerdydd, er enghraifft, gyda chynlluniau tebyg, yn cael eu creu ochr yn ochr â hyn, ar gyfer eu symud ar hyd y llwybr economaidd-ieithyddol. Cwestiwn arall yw beth yw lle Penfro a Chonwy fel rhan o unrhyw gynllun? Sut mae eu cynnwys nhw?
Tafod Mis Mai .indd 4
- Fel rhan o’r cynllun, bydd angen edrych ar Gynlluniau Datblygu Lleol gan ystyried grymuso cynghorau cymuned yn y maes hwn. Mae angen newid Cynlluniau Datblygu Lleol i fod yn gynlluniau datblygu lleol gwirioneddol. Gellir defnyddio 14 pwynt Cymdeithas yr Iaith o’n dogfen ‘Bil Amgen Eiddo a Chynllunio’, a gyhoeddwyd yn 2014, fel templed a sail i wneud penderfyniadau. Ystyriaeth arall yw sut mae Deddf Eiddo yn clymu â’r weledigaeth hon. - Nid yw cyllid o ddwy filiwn, o bell ffordd, yn ddigonol i gyflawni’r nod – oni ddylid gofyn am gyllideb sy'n cyfateb i'r cannoedd o filiynau o bunnau a glustnodir ar gyfer bargeinion dinesig yn rhannau eraill o Gymru? Ein teimlad cyffredinol oedd bod lle i'r Gymdeithas groesawu'r modd y mae Arfor yn cyd-blethu datblygu economaidd a lles y Gymraeg, ond bydd angen trafod ac ystyried y cwestiynau hyn sy'n cael eu codi am y syniad. Yn dilyn ein trafodaethau yn Nhresaith, lle mae canmoliaeth, cwestiynau a phryderon am y syniad wedi eu gwyntyllu, fe fyddwn yn sicr yn holi holl aelodau Cymdeithas yr Iaith i gyfrannu i’r polisi economaidd terfynol y byddwn yn ei lunio.
18/05/18 12:55
Arfer Arfor – gorolwg sydyn o’r syniad Gan Adam Price | Aelod Cynulliad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
B
eth yw'r cysyniad?
Yn gryno, mae Arfor wedi ei seilio ar yr egwyddor o’r cyswllt unigryw hwnnw rhwng yr iaith a’r economi yn y gorllewin a’r angen felly i gysylltu’r gorllewin fel rhanbarth – drwy greu fframwaith o gydweithio a phrosiectau ymarferol ar lawr gwlad. Derbynnir yn gyffredinol bod cyswllt anhepgor rhwng parhad y Gymraeg fel iaith fyw, sy’n cael ei defnyddio o ddydd i ddydd, yn y bröydd gorllewinol, Cymraeg (Môn, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin yn bennaf) a ffyniant economi’r gorllewin. Hynny yw, mae cyflwr yr economi yn dylanwadu ar ragolygon y Gymraeg yn y gorllewin – oherwydd ffactorau megis argaeledd swyddi o ansawdd, maint yr allfudo a’r mewnfudo, a chyfoeth y boblogaeth leol. Yn yr un modd, mae sefyllfa’r Gymraeg yno yn adnodd ar gyfer ffyniant economaidd, sy’n unigryw i’r ardaloedd hynny. Bu tuedd yn ystod y blynyddoedd diwethaf i roi pwyslais ar gydweithio ar sail ranbarthol yng Nghymru ac yn Lloegr. Mae llywodraethau Caerdydd a Llundain wedi cofleidio ac annog yr agenda ranbartholi mewn sawl maes. O ran y gorllewin Cymraeg felly, gall strwythurau llywodraethu hwyluso cydweithio er
Tafod Mis Mai .indd 5
mwyn manteisio ar y cyswllt anhepgor hwnnw rhwng yr iaith a’r economi, neu filwrio yn ei erbyn. Fel rhan o ymateb Plaid Cymru i’r trafodaethau am ad-drefnu llywodraeth leol ar lun rhanbarthol, a chyhoeddi canlyniadau Cyfrifiad 2011 – a ddangosodd grebachu ar niferoedd cymunedau’r gorllewin â 70% o’r boblogaeth yn medru’r Gymraeg o 59 i 49 – cafodd y cysyniad o ‘Arfor’ ei wyntyllu am mewn papur trafod Arfor – Rhanbarth Newydd i’r Gorllewin Cymraeg (Adam Price, 2013) ac fe gynhwyswyd fel rhan o ddynesiad tuag at ad-drefnu llywodraeth lleol, cynllunio iaith a datblygu economaidd ym maniffesto Plaid Cymru yn Etholiad Cynulliad 2016, ynghyd ag ymwrymiad i greu pegynnau twf newydd yn y Gorllewin, yn dechrau gyda ‘Dinas Menai’ tri-chanol yn cysylltu Caernarfon, Bangor ac Ynys Mon. Ers hynny cafodd £2 filiwn o gyllid ei
18/05/18 12:55
sicrhau ar gyfer ‘cymorth ysgrifenyddiaeth a buddsoddi i ranbarth economaidd newydd Arfor yn y gorllewin’ dros y cyfnod 2018/19 a 2019/20 yn sgil cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru ar y gyllideb. Mae’r pedwar awdurdod sydd yn cael eu rheoli gan Blaid Cymru yn y Gorllewin Cymraeg yn trafod strategaeth a chynllun gwaith cychwynnol ar hyn o bryd. O ran y Llywodraeth mae Strategaeth Iaith Cymraeg 2050 a’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi y Llywodraeth yn cydnabod rôl allweddol cymunedau Cymraeg yn ffyniant yr iaith yn genedlaethol ac er mwyn sicrhau cyflawniad y Strategaeth. Gwneir y cysylltiad â rhanbarthedd a’r ymrwymiad i ddatblygu pwyslais ‘rhanbarthol newydd ym maes datblygu economaidd’ yn Rhaglen Waith 2017-21 Cymraeg 2050. Serch hynny, mae’r rhanbarthau sydd dan sylw ar gyfer yr economi ranbarthol yn Cynllun Gweithredu ar yr Economi yn cynnwys tri rhanbarth – Y Gogledd, y Canolbarth a’r De-Orllewin, a’r Deddwyrain – gan lastwreiddio’r ffocws ar anghenion a chyfleodd y cymunedau Cymraeg presennol.
Yr achos o blaid Arfor Yr achos economaidd a strategol Mae tuedd o ddirywiad economaidd a diffyg buddsoddi yn y gorllewin: • Roedd Ynys Môn ar waelod y tabl
Tafod Mis Mai .indd 6
perfformiad economaidd Cymru yn 2016, ar sail ffigurau GVA y pen • Mae cyrff cenedlaethol newydd o bwys (Awdurdod Cyllid, Addysg Iechyd Cymru ayb) yn cael eu lleoli bron yn ddi-eithriad yn y de-ddwyrain/yng Nghaerdydd, ar draul y gorllewin • Mae enghreifftiau o golli gwasanaethau allweddol sydd wedi’u gwreiddio yng nghymunedau’r gorllewin, e.e. Cymdeithas Tai Cantref a Wales and West Housing. Mae enghreifftiau lleol llwyddiannus o’r asiad rhwng yr iaith a’r economi yn gymunedol yn rhanbarth y gorllewin eisoes. Yn ddiweddar, sefydlwyd Llety Arall yng Nghaernarfon fel menter gymunedol wedi i griw o wirfoddolwyr godi £120,000. Serch hynny, nid oes cydlynu strategol ar gynlluniau o’r fath i’w cysylltu â strategaethau dwristiaeth ehangach i amgylchiadau penodol y gorllewin.
Yr achos ieithyddol Mae sawl Cyfrifiad yn olynol wedi dangos dirywiad yn niferoedd y cymunedau yn y gorllewin lle y gall mwy na 70% o’r boblogaeth siarad Cymraeg. Nid oedd un ward yn Sir Gaerfyrddin na Cheredigion lle oedd dros 70% yn siarad yr iaith yn 2011. Mae’r all-lifiad o siaradwyr Cymraeg ifanc yn cyfrannu’n drwm at y dirywiad ieithyddol. Yn 2010, roedd adroddiad gan Dr Delyth Morris o Brifysgol
18/05/18 12:55
Bangor, Welsh in the 21st Century, yn dangos bod traean o’r bobl ifanc 15 oed oedd yn medru’r Gymraeg yn 1991 wedi symud i Loegr i fyw erbyn 2001. Mae cymdeithasegwyr iaith cyfoes yn gytûn nad yw’r system addysg yn ddigon ynddi’i hun i gynnal a datblygu iaith lleiafrifol; mae’n rhaid wrth droedle daearyddol bendant ble mae’r iaith honno’n brif iaith. Os yw’r Gymraeg i oroesi fel iaith genedlaethol, mae’n hanfodol ei bod yn goroesi fel iaith gymunedol. Mae cysyniad Arfor yn gwahodd ei hun ar gyfer cadarnhau’r troedle hwnnw yn y gorllewin ac atal yr all-lifiad o siaradwyr Cymraeg iau a chyfrannu at yr ymdrechion i ddiogelu a hyrwyddo’r iaith yn genedlaethol.
Caernarfon, rhan o “Ddinas Menai”
Tafod Mis Mai .indd 7
18/05/18 12:55
Grŵp Hawl Y prif ymgyrchoedd fu’n dwyn sylw’r Grŵp Hawl dros y misoedd diwethaf yw’r Safonau Iaith ym maes iechyd, a diwygio Mesur y Gymraeg.
Safonau Iechyd Pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru’r rheoliadau drafft ar gyfer safonau i’r maes iechyd, daeth i’r amlwg nad oedd bwriad ganddynt i gynnwys gwasanaethau gofal sylfaenol, sy’n cynnwys meddygon teulu, a hynny yn groes i argymhelliad gan Gomisiynydd y Gymraeg. Dadleuai’r Llywodraeth mai mater cyfreithiol oedd yn rhwystro hyn, gan fod meddygfeydd yn dod o dan y Byrddau Iechyd yn ogystal â chytundebau annibynnol. Fodd bynnag, gellid datrys hyn yn hawdd drwy osod Safonau ar bob Bwrdd Iechyd yn unigol drwy gytundeb.
ddeiseb, ac arni dros 700 o enwau, yn galw ar y Llywodraeth i gynnwys gwasanaethau iechyd sylfaenol yn y Safonau i Bwyllgor Deisebau’r Cynulliad. Buom hefyd yn cydweithio â gweithwyr iechyd proffesiynol er mwyn dwyn pwysau ar y Llywodraeth. Er i Bwyllgor y Gymraeg y Cynulliad argymell y dylid gwella’r rheoliadau i sicrhau hawliau i dderbyn gofal iechyd
Cyflwynom
Tafod Mis Mai .indd 8
18/05/18 12:55
yn Gymraeg gan wasanaethau gofal sylfaenol, gwrthodwyd yr argymhelliad hwn gan Weinidog y Gymraeg, Eluned Morgan. Drwy wrthod gwrando ar argymhelliad pwyllgor trawsbleidiol, Comisiynydd y Gymraeg, gweithwyr iechyd proffesiynol, a defnyddwyr gwasanaethau iechyd, collwyd cyfle euraid i wella gwasanaethau iechyd i siaradwyr Cymraeg yn sylweddol. Bydd y Gymraeg a chleifion Cymraeg ar eu colled o'r herwydd.
Diwygio Mesur y Gymraeg (Bil i’r Bin!) Fis Awst 2017, cyhoeddodd y Llywodraeth bapur gwyn yn amlinellu ei chynlluniau ar gyfer Deddf Iaith newydd. Credwn y byddai’r ddeddf iaith a amlinellir yn y papur gwyn hwn yn gam yn ôl o ran y Gymraeg, ac na fyddai’n ein helpu i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Yn wir, rydym wedi dod i’r casgliad y byddai’n well i’r Llywodraeth beidio â deddfu o gwbl na bwrw ymlaen gyda’r papur gwyn - dyna pam rydyn
Tafod Mis Mai .indd 9
ni’n dweud y dylen nhw daflu’r Bil i’r Bin! Gwrthwynebwn y papur gwyn am y rhesymau isod: Sector breifat Er y byddai’r papur gwyn yn caniatáu i’r Llywodraeth osod Safonau Iaith ar sefydliadau yn y sector breifat, nodir yn glir nad ydynt yn bwriadu gwneud hyn. Er gwaethaf canlyniadau arolwg barn a ddangosodd bod mwyafrif helaeth pobl Cymru yn dymuno gweld busnesau preifat, megis y banciau ac archfarchnadoedd, yn ddarostyngedig i’r Safonau Iaith, anwybyddwyd hyn gan y Llywodraeth. Gwanhau hawliau i gwyno Byddai’r drefn a awgrymir gan y Llywodraeth yn gwanhau ein hawliau i gwyno, gan y byddai’n rhaid cwyno i’r sefydliad yn gyntaf cyn mynd at y comisiwn newydd. Yn ogystal, byddai’r comisiwn yn ymchwilio i achosion ‘difrifol’ yn unig. Dileu Comisiynydd y Gymraeg Ni ddylid cael gwared â
18/05/18 12:55
Chomisiynydd y Gymraeg gan fod angen pencampwr amlwg ar y Gymraeg. Pryderwn y byddai disodli Comisiynydd y Gymraeg â Chomisiwn y Gymraeg yn troi’r cloc yn ôl i ddyddiau aneffeithiol Bwrdd yr Iaith a Deddf yr Iaith 1993. Er na fyddem yn dymuno gweld swydd y Comisiynydd yn cael ei diddymu, byddem yn croesawu corff ychwanegol i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg, gan gadw hybu a rheoleiddio’r iaith ar wahân. Gellid sefydlu corff newydd o’r fath nawr, heb ddeddfu. Golygai hynny y gallai’r Comisiynydd barhau â’r gwaith rheoleiddio, gan ganiatáu i’r corff newydd hwn wneud gwaith hybu a hwyluso. I ategu hyn, dywedodd Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, y ‘cefnogwyd ein cynigion gan y sawl a ymatebodd i’r ymgynghoriad’ - er bod eu ffigyrau nhw yn gwrth-ddweud hyn. Diystyrwyd ymatebion 275 o unigolion i’r ymgynghoriad – sydd dros hanner yr ymatebwyr. Mae hyd yn oed ffigyrau’r Llywodraeth yn dangos bod 56% o'r ymatebwyr naill ai'n anghytuno neu'n ansicr ynghylch cynnig i ddiddymu'r Comisiynydd. Ers hynny, mae’r Llywodraeth wedi gorfod
Tafod Mis Mai .indd 10
cyfaddef bod eu proses o gyfrif atebion yn ddiffygiol. Gwanhau rheoleiddio Er ein bod yn cydnabod bod hybu a hyrwyddo’r Gymraeg yn hanfodol, ni ddylid gwneud hyn ar draul rheoleiddio. Eisoes, mae cyfundrefn y Safonau wedi sefydlu hawliau newydd i ddefnyddio’r Gymraeg, er enghraifft mae gan fyrfywyr mwy o lety Cymraeg yn Abertawe yn rhannol o achos y Safonau. Byddai diddymu system effeithiol yn gam hurt. Galwn ar y Llywodraeth i beidio â deddfu, ond yn hytrach i ganolbwyntio ar weithredu Strategaeth y Gymraeg er mwyn cyrraedd y miliwn o siaradwyr. Byddai defnyddio’r pwerau sydd eisoes gan y Llywodraeth i wella a gweithredu’r system bresennol, gan gynnwys pasio rheoliadau mewn meysydd megis cyfleustodau a fyddai’n cynyddu defnydd yr iaith yn gynt. manon@cymdeithas.cymru @grwphawl
18/05/18 12:55
meddwl.org Mae’r wefan meddwl.org yn wefan iechyd meddwl lle gellir cael cefnogaeth, dysgu am anhwylderau gwahanol, darllen am brofiadau eraill, a chael gwybodaeth am ble i gael cymorth – i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg. Gweler isod enghreifftiau o’r modd y caiff iaith gwasanaethau iechyd meddwl effaith ar y gofal a ddarperir, a byddwn yn eu defnyddio fel tystiolaeth i bwyso ar y Llywodraeth a gwneuthurwyr polisïau i wella’r gofal iechyd meddwl i siaradwyr Cymraeg. Gallwch ddarllen rhagor ar meddwl.org/tag/iaith/ “Dyw salwch meddwl ddim yn rhywbeth y gallwch ei weld; mae’n rhaid siarad, ac esbonio a disgrifio’r teimladau a’r meddyliau tywyllaf a’r mwyaf personol. Mae pobl yn gweld siarad am broblemau iechyd meddwl yn anodd beth bynnag y sefyllfa. Ychwanegwch at hyn y boen a’r straen ychwanegol o orfod gwneud hynny yn eich ail iaith. Pan fo rhywun wedi cyrraedd y sefyllfa lle mae angen gwasanaeth iechyd meddwl arno, nid dyna’r amser i bwyso am wasanaeth Cymraeg... Mae’r claf ar y pwynt hwnnw yn aml – os nad yn ddieithriad, – mewn sefyllfa rhy fregus i fod yn ymgyrchu am wasanaeth Cymraeg. Mae’n cael ei roi mewn sefyllfa amhosibl, o dderbyn gwasanaeth yn ei ail iaith neu aros yn hir am wasanaeth Cymraeg.” Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg – ‘Annerbyniol, eilradd, peryglus: gwasanaeth iechyd meddwl mewn ail iaith’ – 7/8/17
Tafod Mis Mai .indd 11
“Roedd rhaid i fi aros ryw 3 mis am y cymorth yna, sydd yn hollol annerbyniol beth bynnag, heb ddechre sôn am yr issue ieithyddol. Ond pan ddath y cymorth yma, mi ddoth o mewn ffyrdd therapi drwy gyfrwng y Saesneg... Gwnes i ddim cwyno dim. Doedd gena i ddim yr egni... o’n i’n hollol drained, o’n i ‘di blino... felly doedd gen i ddim owns o egni i fynd ati i drio ymgyrchu i hawlio be’ odd yn iawn i fi, sef therapi siarad drwy gyfrwng y Gymraeg... y cwbl o’n i isho gwneud oedd gwella. Roedd rhaid i fi jysd derbyn y gwasanaeth yna, neu ddim o gwbl, a ma’ hynna yn beryglus dros ben” Alaw Griffiths – lansiad meddwl.org – 2/6/17 “Dros y ddegawd rwyf wedi bod yn derbyn cymorth a thriniaeth iechyd meddwl, dim ond unwaith rwyf wedi derbyn cymorth drwy’r Gymraeg a hynny gyda chwnselydd ysgol... Roedd fy apwyntiad gyntaf, pan roeddwn yn 12eg mlwydd oed, gyda seiciatrydd plant doedd ddim yn medru’r Gymraeg; nid yn unig doedd hyn ddim yn deg i berson bregus, ond doedd ddim yn deg ar blentyn doedd ddim gyda geirfa digon eang i ddeall popeth oedd yn cael ei ddweud.” Hedydd Elias – ‘Diffygion difrifol gwasanaethau iechyd meddwl yn Gymraeg’ – Cymdeithas yr Iaith – 2/6/17 “...cal y diagnosis, wedyn cal mynd ar cwrs deg wythnos, sef cwrs addysgol
18/05/18 12:55
z
deubegwn - odd e’n gwrs arbennig o dda, odd pump ohono ni ar y cwrs, a phedwar yn siarad Cymrag, ond odd popeth yn cal ei wneud drwy gyfrwng y Saesneg. Pan ma’ rhywun yn teimlo’n isel, pan ma’ rhywun yn teimlo fel ‘ma angen help arnyn nhw, ‘sdim cryfder ‘da nhw – ‘sdim cryfder meddyliol ‘da nhw – i ofyn am bethau trwy gyfrwng y Gymrag. A ma’n gallu cal effaith mawr, achos dyw pobol ffaeli mynegi eu teimladau yn iawn trwy gyfrwng eu hail iaith, felly ma’n gallu cal effaith ar y math o driniaeth ti’n cal, a ma’n gallu effeithio ar fywydau i ddweud y gwir.” David Williams – fideo ‘Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd’ – 10/10/17 “Yn gyson â gwaith sy’n bodoli eisoes, adroddwyd anawsterau mynegiant, diffyg hyder a gor-wyliadwriaeth dros yr hyn a ddywedant...Yn naturiol, gellir deall bod hyn yn arwain at gamddealltwriaeth rhwng y claf a’r therapydd. Adroddodd un cyfranogwr ei fod wedi derbyn ei sesiwn gyntaf o gwnsela yn Saesneg ac na ddychwelodd am ei hail sesiwn gan iddi deimlo na fyddai cymorth drwy gyfrwng y Saesneg o fudd, gydag eraill yn adrodd eu bod wedi gweld cynnydd yn eu gwellhad yn llawer cynt wrth dderbyn triniaeth yn Gymraeg.” Sophie Ann Hughes – Gwaith ymchwil ar iaith gofal iechyd meddwl: ‘Ti yn y lle mwyaf bregus…pam gosod rhwystr yna?’ – 6/8/17
Tafod Mis Mai .indd 12
“Wrth drafod â’r gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol, wnaeth neb ofyn na chynnig i mi siarad â rhywun yn Gymraeg, a doeddwn i ddim mewn sefyllfa i ofyn. Roeddwn i’n teimlo y dylwn i fod yn falch ac yn ddiolchgar o gael unrhyw gymorth. Gan fod rhestrau aros am therapïau siarad mor hir beth bynnag, ro’n i’n poeni y byddai’n rhaid i mi aros hyd yn oed hirach i weld cwnselydd yn Gymraeg petawn i’n gofyn... Roedd ceisio mynegi teimladau personol mewn iaith dw’i ddim yn teimlo’n gyfforddus yn ei siarad yn brofiad hynod o rwystredig.” Manon Elin – Blog: ‘Pwysigrwydd gofal iechyd meddwl yn Gymraeg’ – 2/5/17 meddwl.org post@meddwl.org Twitter: @gwefanmeddwl Facebook: Meddwl Ar ddydd Gwener y 1af o Fehefin am 2pm ar stondin y Gymdeithas ar faes Eisteddfod yr Urdd, cynhelir trafodaeth ar iechyd meddwl, ar y cyd rhwng y Gymdeithas a meddwl.org. Yr aelodau ar y panel drafod fydd Dai Lloyd AC, Gwen Goddard o’r elusen Hyfforddiant Mewn Meddwl, David Williams ar ran meddwl.org, Naomi Lea sy’n ymgyrchydd iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc, a chadeirir y drafodaeth gan Siân Howys o Gymdeithas yr Iaith, gyda sgwrs anffurfiol i ddilyn. Trafodaeth ar iechyd meddwl 1 Mehefin - 2pm Stondin y Gymdeithas Dai Lloyd AC Gwen Goddard David Williams Naomi Lea Siân Howys
18/05/18 12:55
Parallel.cymru Mae parallel.cymru yn cylchgrawn digidol newdd sbon. Yma mae'r sylfaenydd, Neil Rowlands, sy’n aelod newydd o Gymdeithas yr Iaith yn esbonio pam mae'n unigryw. - Mae pobl yn profi’r Gymraeg ar gontinwwm o alluoedd gwahanol, ond y ffordd draddodiadol o gynhyrchu deunydd yw mewn dull deuol. Trwy gyflwyno deunyddiau darllen ochr yn ochr, yn ‘paralel’, ac wedi’u graddoli yn ôl hyfedredd, gall siaradwyr a dysgwyr o bob gallu fwynhau darllen a chefnogi’u datblygiad. - Mae’r cylchgrawn yn cynnig persbectifau person cyntaf ar ddefnyddio, arloesi, creu, cyfieithu ac ymchwilio yn yr iaith. Mae gan bawb sy’n defnyddio’r iaith stori i’w hadrodd, ond, mae’r straeon hyn wedi’u gwasgaru dros gannoedd o leoliadau digidol a phapur; ac mae prinder amlwg o adnoddau chwilio ac archifo. - Mae pob erthygl yn cael eu trefnu yn ôl safon yr iaith, felly mae pobl yn gallu darllen Cymraeg yn syml fel mae pobl yn siarad, Cymraeg ysgrifenedig safonol, neu Gymraeg ffurfiol fel sy'n cael ei ddefnyddio mewn llenyddiaeth. - Yn wahanol i gylchgronau traddodiadol ble mae erthyglau’n diflannu ar ôl y rhifyn dilynol, mae erthyglau parallel.cymru yn aros ar-lein ac felly’n darparu presenoldeb digidol parhaus. - Mae'n rhoi cyfle am bobl o bob math i gyfrannu eu profiadau o ddefnyddio'r iaith. - Mae ar gael trwy borwyr gwe ar ffonau symudol a thabledi. - Mae pob erthygl ar gael yn rhad ac am ddim! Felly ewch i parallel.cymru a mwynhewch ddarllen eitemau diddorol ac unigryw!
Tafod Mis Mai .indd 13
18/05/18 12:55
Cofio Emyr Hywel Gan Cen Llwyd
Roedd Emyr Hywel yn ŵr unplyg a chanddo weledigaeth fawr ac mi roedd wastad yn fwy na pharod i weithredu er mwyn ceisio eu gwireddu. Mi ddes i adnabod Emyr yn dda yn 1972 wrth i’r ddau ohonom gymryd rhan mewn pantomeim yn Theatr Felin-fach. Buom am wythnosau’n ymarfer gyda’r bwriad o lwyfannu’r perfformiad bob nos am wythnos yng nghyfnod y gwanwyn. Yn anffodus, o ganlyniad i streic y glowyr gwnaeth y Prif Weinidog, Edward Heath, gyhoeddi stâd o argyfwng a rhoddodd rymoedd newydd i’r Llywodraeth. Un ohonynt oedd wythnos o ‘dri diwrnod gwaith’ i arbed trydan gan fod y cyflenwadau glo yn isel yn y pwerdai. O ganlyniad canslwyd perfformiadau’r pantomeim. Wrth baratoi rhaglenni gwybodaeth y pantomeim, gwnaeth Emyr fy mherswadio i i Gymreigio fy enw a’i newid. Roedd hynny yn arferiad ffasiynol yn y cyfnod gydag yntau eisoes wedi newid o Howells i Hywel. Emyr rhoddodd yr hwb oedd ei angen arnaf. Diflannodd y ‘Thomas Kenneth Lloyd Jones’ oedd ar y Dystysgrif Geni a daeth Cen Llwyd yn ei le a hwyrach yr un pryd ganwyd dyn newydd o’m mewn! Dyma’r cyfnod gwnaeth y ddau ohonom ddringo mast teledu Moel y Parc yn y rali a gynhaliwyd i ddangos cefnogaeth i Ffred Ffransis, Myrddin Williams a Goronwy Ffellows yn dilyn y gwrandawiad o Gynllwyn ym Mrawdlys Y Wyddgrug. Yn 1973 fe’i etholwyd yn Gadeirydd y Gymdeithas i ddilyn Gronw ab Islwyn. Ffred
Tafod Mis Mai .indd 14
Ffransis a’i olynodd yntau yn gadeirydd. Dyma gyfnod o newid gêr yn hanes y Gymdeithas, newid o fod yn fudiad a welai fod parhad iaith yn fwy na dim ond galw am statws swyddogol a’i thrin yn gyfartal i weithredu ym maes tai a gwaith, hawliau pysgota, economi, cynllunio, a mewnfudwyr etc. yn unol â’r hyn oedd yn Maniffesto 1972. Credai Emyr yn angerddol yn yr angen i weiddio’r ymgyrch yn lleol a gweithiodd yn ddygn i sefydlu celloedd lleol. Cawsom llawer o hwyl yn mynd o gwmpas yr ardal i dynnu arwyddion, meddiannu tai haf ynghyd â phrotestiadau mewn Swyddfeydd Post a Chynghorau Lleol. Bu’n arwrol yn ei benderfyniad i gymryd rhan gyda Geoff, Meinir ac Enfys mewn gweithred dor-gyfraith yn Llundain fel rhan o ymgyrch ddarlledu y Gymdeithas. Fe’i ddedfrydwyd i chwech mis gohiriedig o garchar dros dair blynedd ynghyd â chan punt o gostau. Meddyliwch am ei ddewrder ac yntau ar y pryd yn athro ysgol. Ychydig wedyn fe’i benodwyd yn Brifathro Ysgol Gynradd Tre-groes a bu’n hynod egnïol ac effeithiol. Bu’n aelod brwd o UCAC gan fod yn Llywydd Cenedlaethol yr undeb. Roedd hefyd yn aelod o Adfer gan weithio’n ddygn yn y filltir sgwâr yn y Gorllewin. Bu am gyfnod yn Gadeirydd Gŵyl Werin y Cnapan. Ynghanol ei brysurdeb eithriadol llwyddodd i ysgrifennu llyfrau i blant yn ogystal â chyfrol o farddoniaeth. Ysgrifennodd dau lyfr sylweddol hefyd ar D. J. Williams sef Y Cawr o Rhydcymerau ac Annwyl D.J.
18/05/18 12:55
Tafod Mis Mai .indd 15
18/05/18 12:55
DIGWYDDIADAU EISTEDDFOD YR URDD DYDD MAWRTH, 29ain O FAI - 2y.p.
DYDD MERCHER, 30ain O FAI - 2y.p.
Addysg Gymraeg i bawb! Un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl
Gweithdy Barcud Dim Drôns
Y Tipi, Maes Eisteddfod yr Urdd Siaradwyr: Toni Schiavone, Sel Williams ac eraill
DYDD IAU, 31ain O FAI - 2y.p.
Gweithdy ar y cyd rhwng Cymdeithas yr Iaith a Chymdeithas y Cymod yn erbyn awyrennau di-beilot
Dewch draw a dysgu mwy wrth greu barcud yn y Tipi ar faes Eisteddfod yr Urdd Gweithgaredd ar gyfer pob oed! Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag awel.irene@gmail.com NEU 07867 790971 (Os hoffech helpu gyda rhedeg y gweithdy, bydd hyfforddiant am 10 o'r gloch ar un dydd)
Ymgyrchu dros hawliau
DYDD GWENER, 1af O FEHEFIN - 2y.p.
Gweithdy sgiliau ar y cyd rhwng Cymdeithas yr Iaith a Stonewall Cymru
Trafodaeth ar iechyd meddwl
Y Tipi, Maes Eisteddfod yr Urdd
Stondin Cymdeithas yr Iaith (Uned 9), Maes Eisteddfod yr Urdd
Gweithdy gyda Kizzy Crawford, Elfed Wyn (Cymdeithas), Iestyn Wyn (Stonewall) ac eraill
Siaradwyr: Dai Lloyd AC, Gwen Goddard, David Williams, Naomi Lea a Siân Howys
cymdeithas.cymru/steddfodurdd Tafod Mis Mai .indd 16
18/05/18 12:55