histoires nor males
michel huneault
Cochambamba, Bolivia, 2008
Brooklyn, USA, 2004
Kathmandu, Nepal, 2009
cover clawr Malecon, Cuba 2009
histoires normales michel huneault History is determined selectively and what most people experience as ‘real life’ is largely excluded from the imagery and narrative which passes on. Michel Huneault’s photographs in Histoires normales take a broader view by bringing into the frame the discarded and disregarded, and through these images of countries which are laden with expectations largely drawn from mass media - including Cuba, Bangladesh, Nepal, Afghanistan, Bolivia, USA and Ukraine - to stimulate the understanding in the viewer that history is as much a stoic continuum as a series of dramatic events. These striking photographic images capture moments of remarkable ordinariness, marking the passing of an ephemeral action within a setting laden with historical import. As the photographer remarks; “These moments of remarkable ordinariness - whose formality can appear staged (but it never is) - seem to propose themselves as a truer descriptive; a more authentic backbone of a common contemporary narrative. History, but more real.” Michel Huneault has an MA in Latin American Studies and a Graduate Certificate in Peace and Conflict Resolution Studies, both from UC Berkeley University. He worked for several years in international development and peace-building before being able to fully dedicate himself to his photographic practice. His career has included roles as a Canadian diplomat in Kandahar, an electoral observer in Haiti, Ukraine, Palestine, and Bangladesh, and an NGO worker in Cuba and Bolivia among other roles. In 2004, he was apprenticed to Gilles Peress at Magnum Photo in New York City. This became an important turning point for his photographic work, which he now pursues professionally; taking on press and public assignments as well as personal projects. Among his recent Photographic Awards are Foto8 Award, London, 2010, the Applied Arts Award for Photojournalism, Canada, 2010; selection for the Leica Fottografie International, 2010; First Prize in the LUX/CAPIC Humanitarian Cause Canada 2009; First Prize in the LUX/CAPIC Travel, Canada, 2009 and an Honourable mention in the Prix de la Photographie Paris, 2009. Michel Huneault was an Artist in Residence at Aberystwyth Arts Centre’s Creative Units in 2010
Cyflwynir Hanes mewn ffordd ddetholus ac i raddau helaeth mae’r hyn a brofir gan y rhan fwyaf o bobl fel ‘bywyd real’ yn cael ei adael allan o’r delweddau a’r naratif a drosglwyddir ymlaen i’r genhedlaeth nesaf. Mae ffotograffau Michel Huneault yn Histoires normales yn edrych ar y darlun ehangach trwy ddod â’r hyn a daflwyd o’r neilltu ac a ddiystyrwyd i mewn i’r ffrâm, a thrwy’r delweddau hyn o wledydd sydd o dan faich disgwyliadau, oddi wrth y cyfryngau torfol yn bennaf, gan gynnwys Ciwba, Bangladesh, Nepal, Afghanistan, Bolivia, UDA ac Ukraine, maent yn gwahodd y gwyliwr i sylweddoli wrth ystyried hanes bod y pethau cyffredin, o ddydd-i-ddydd, yr un mor bwysig â chyfres o ddigwyddiadau dramatig. Mae’r delweddau ffotograffig trawiadol hyn yn cyfleu eiliadau o gyffredinedd eithriadol, gan osod gweithred ddibwys yn erbyn cefndir sy’n holl-bwysig yn hanesyddol. Fel y dywed y ffotograffydd: “Mae’r eiliadau hyn o gyffredinedd llwyr - ac mae eu ffurfioldeb yn gwbl naturiol - fel pe baent yn cynnig eu hunain fel disgrifiad mwy cywir; yn asgwrn cefn mwy dilys i’r naratif cyfoes sy’n rhedeg ochr yn ochr. Yn Hanes, ond yn fwy real.” Mae gan Michel Huneault MA mewn Astudiaethau LladinAmericanaidd a Gradd mewn Astudiaethau Heddwch a Datrysiad Gwrthdaro, y ddwy radd o Brifysgol Berkeley. Gweithiodd am nifer o flynyddoedd ym maes datblygiad ac adeiladu-heddwch rhyngwladol cyn medru ymroddi’n gyfangwbl i’w ymarfer ffotograffig. Mae ei yrfa wedi cynnwys rolau fel diplomydd Canadaidd yn Kandahar, gwyliwr etholiadol yn Haiti, Ukraine, Palasteina, a Bangladesh, a gweithiwr NGO yng Nghiwba a Bolivia ymysg swyddi eraill. Yn 2004, aeth yn brentis i Gilles Peress ym Magnum Photo yn ninas Efrog Newydd. Bu’r cyfnod hwn yn drobwynt pwysig yn ei waith ffotograffig sydd erbyn hyn yn broffesiwn iddo; bellach mae’n ymgymryd â thasgau cyhoeddus ac i’r Wasg yn ogystal â phrosiectau personol. Ymysg ei Wobrau Ffotograffig diweddar yw Gwobr y Celfyddydau Cymhwysol ar gyfer Ffoto-newyddiaduriaeth, Canada, 2010; detholiad ar gyfer y Leica Fottografie Rhyngwladol, 2010; Gwobr Gyntaf yn yr Achos Hiwmanitaraidd LUX/CAPIC Canada 2009; Gwobr Gyntaf yng nghystadleuaeth Deithio LUX/CAPIC, Canada, 2009 a chyfeiriad Anrhydeddus yn y Prix de la Photographie Paris, 2009. Roedd Michel Huneault yn Artist Preswyl yn Unedau Creadigol Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn 2010
histoires normales michel huneault
Kandahar, Afghanistan 2006
canolfan y celfyddydau aberystwyth arts centre www.aberystwythartscentre.co.uk
design stephen paul dale spdale@live.com