17 18 A’R GORAU O OGLEDD CYMRU
017
LLAWLYFR Y GAEAF
Croeso i’r gaeaf – bwyd da, lletygarwch cynnes, gwyliau a siopa, cerdded a bywyd gwyllt, celf, antur a theatr. 1
TŶ AGORED
Efallai y meddyliwch ein bod yn tawelu am y gaeaf. Ddim o gwbl. Rydym yn barod am dymor prysur y gaeaf. Mae ein gwestai, bwytai ac atyniadau oll ar agor am fusnes. Mae yna gestyll, gerddi a gwarchodfeydd natur i’w gweld, siopa Nadolig i’w wneud ...y cyfan pan fo’n harfordir a’n cefn gwlad ar eu gorau, gan ddatgelu eu gwir liwiau. Yn fwy na hyn, mae yna sioeau i’w gweld, amgueddfeydd ac orielau i’w mynychu, bwytai i gael blas arnynt, oll yn golygu bod digonedd i’ch diddanu, glaw neu hindda. Bydd y llawlyfr hwn yn eich tywys o amgylch Llandudno a’r gorau o Ogledd Cymru y gaeaf hwn. I’ch cychwyn, dyma ddeg profiad gaeafol blaenllaw. Dewch am dro ar draws y dwr ^
Beth sydd ddim i’w hoffi am gerdded ar y pier? Yn Llandudno, mae gennym yr un hiraf yng Nghymru. Felly, lapiwch yn gynnes a mentro i’r gwynt gan gerdded ei hyd ac yn ôl. Ac os ydych dal ati ar droed, beth am barhau ar hyd ein promenâd prydferth (y credwn ni sy’n edrych yn hudolus gyda’r holl oleuadau ar ôl iddi dywyllu).
Bwyta allan
Bwydlenni at ddant pawb – bwyd cain soffistigedig a bwyd gwledig maethlon, prydau bistro ffasiynol a sgod a sglod o’r safon flaenaf. Er mwyn rhoi syniad i chi, rydym yn meddwl am lefydd fel bistro/bar glân môr modern Bryn Williams ym Mhorth Eirias, Bae Colwyn, Tal-y-Cafn Inn yn Nyffryn Conwy (bwyd ffres lleol, cwrw go iawn a thanllwyth o dân), y Cottage Loaf cysurus yn Llandudno a Bwyty Dylan’s, ychwanegiad diweddar at gasgliad bwytai bendigedig Llandudno.
2
Tamaid o Adloniant
Venue Cymru yn Llandudno yw theatr fwyaf Gogledd Cymru ac mae’n un o’r canolfannau adloniant mwyaf modern a lluniaidd yn y DU. Yn ased anferth i’r gyrchfan, mae’n llawn bwrlwm trwy’r flwyddyn gyda’r goreuon ym myd adloniant modern a pherfformiadau o bob math. Mae’r holl enwau mawr o’r diwydiant comedi, drama a cherddoriaeth yn ymddangos yma – a chadwch lygad am y sioeau arbennig dros y Nadolig hefyd. (Cliciwch yma i ddarganfod mwy)
Gardd y Gaeaf
Pryd bynnag yr ymwelwch, mae Gardd Bodnant wastad yn brydferth. Gardd Gaeaf Bodnant, a grëwyd yn y 10 mlynedd ddiwethaf, yw trysor y tymor. Mae’r gyn ardd gerrig wedi datblygu’n arddangosfa liwgar gyfoethog o ddail a blodau sy’n gwneud y mwyaf o haul y gaeaf – ac yma yw man cychwyn taith trwy 80 erw o hud y gaeaf. (Cliciwch yma i ddarganfod mwy)
Angen archebu rhywle i aros?
Ffoniwch 01492 577 577 www.dewchilandudno.org.uk
Camu’n ôl mewn hanes
Os rhywbeth, mae Castell Conwy’n edrych hyd yn oed yn fwy dramatig yn erbyn cefnlen o awyr tywyll, du. Cerddwch ar y rhagfuriau i gael naws ar ei ^ er, sy’n ddigyfnewid 800 mlynedd ar ôl iddo gael ei adeiladu fel rhan o bw ymgyrch Brenin Edward I yn erbyn Cymru. (Cliciwch yma i ddarganfod mwy)
Y Rhaeadr Ewynnol a siopa
Maent yn welyfod perffaith ym Metws-y-Coed, y gyrchfan gefn gwlad sy’n denu ymwelwyr ledled y flwyddyn. Mae’n llawn siopau annibynnol sy’n gwerthu celf, crefftau, dillad a nwyddau ar gyfer yr awyr agored – does dim angen edrych dim pellach ar gyfer yr anrheg Nadolig arbennig hwnnw. Dafliad carreg i fyny’r ffordd mae’r Rhaeadr Ewynnol, yn llifo yn ei holl ogoniant.
Anifeiliaid Anhygoel
Mae mwy na chynnwys Arch Noa o greaduriaid yn Sw Mynydd Gymreig Bae Colwyn - popeth o forloi i lewpardiaid eira. Mae hefyd yn gwneud ei rhan yn y frwydr i achub rhywogaethau sydd mewn perygl o bob cwr o’r byd. (Cliciwch yma i ddarganfod mwy)
Gweithiau celf
Mae digon ohonynt ym MOSTYN, oriel arloesol Llandudno. Mae gan MOSTYN enw da rhyngwladol am ei gelf gyfoes anturus. Yn fwy na hynny, mae’r oriel ddyfodolaidd hon, sy’n peri i ni feddwl, yn ddarn o gelf bensaernïol yn ei hun. (Cliciwch yma i ddarganfod mwy)
Enillwch gyda Llandudno a’r Gorau o Ogledd Cymru
Gweler tudalen 9 am fanylion sut i ennill ...
Byd Adar
Mae Gwarchodfa RSPB Conwy, safle gwlypdir ar ymyl y foryd, yn werddon dawel o lonyddwch, dafliad carreg oddi wrth yr A55. Yn y gaeaf cadwch lygad am haid o adar yn cynnull i fwyta, neu’n clwydo gyda’i gilydd gyda’r cyfnos i gadw’n gynnes. (Cliciwch yma i ddarganfod mwy)
Gwibio’r nenfydau a bownsio tanddaearol Beth am daith hamddenol ym Mharc Coed Gwydyr? Neu am rywbeth gydag ychydig mwy (llawer mwy i ddweud y gwir) o adrenalin, beth am deithio ar draws y dyffryn i’r Zip World Fforest am acrobateg gwifrau uchel ar linellau sip, rhwydi a siglenni. Yna mentrwch o dan y ddaear o Raeadr Conwy i’r man mwyaf dwfn ym Mhrydain sy’n hygyrch i’r cyhoedd ar antur Go Below mewn hen fwynglawdd. Mae’n ‘ddiwrnod cyffrous, gwefreiddiol a llafurus, i gyd gyda’i gilydd’.
3
ARFORDIR HEB EI AIL Traethau trawiadol trwy’r tymhorau. Gwahoddiad i’r Prom
Fel yn union â phier Llandudno (gweler y deg profiad uchaf ar y dudalen flaenorol), mae ein promenâd perffaith yma drwy gydol y flwyddyn. Gyda phentir y Gogarth a Thrwyn y Fuwch naill ben iddo, mae’r filltir lydan hon gyda gwestai bob lliw ar ei hyd yn ddelfrydol ar gyfer dro gerdded bach yn y gaeaf. Gyda thorfeydd yr haf wedi hen fynd, bydd gennych fwy o le i anadlu ac amsugno’r golygfeydd godidog o’r môr. Mae’n brofiad bendigedig – ond copïwch lapio’n gynnes.
Byw’n Uchel
Gan sefyll dros Landudno, mae’r Gogarth yn wrthbwynt gwyllt a grymus i geinder Fictoraidd ac Edwardaidd y dref. Mae’n edrych yn wych yng ngwyrddni’r haf, ond mae’n fwy hudolus fyth gyda chlogyn gaeafol o rew ac eira. Ewch am daith i’r copa 679 troedfedd/207 metr i gael golygfeydd godidog o gefn gwlad a’r glannau. Cadwch lygad am eifr Cashmir, trigolion blewog y Gogarth a fydd yn sicr â chôt gynnes ar gyfer y tywydd.
O Gwmpas y Gogarth
Mae Marine Drive yn mynd â chi at ochr arall y Gogarth. Gan gymryd llwybr serth ar hyd ymylon creigiog y Gogarth, yn 5 milltir ar ei hyd, mae’r ffordd hon yn un o dollffyrdd hiraf y DU (yn rhad ac am ddim i gerddwyr). (Cliciwch yma i ddarganfod mwy)
Awn am dro
Nid oes yna adeg wael i fynd ar ein rhan o Lwybr chwedlonol Arfordirol Cymru. Mae’n ymestyn 34½ milltir rhwng Bae Cinmel a Llanfairfechan, felly bydd gennych ddigon o lwybrau glan y môr i ddewis ohonynt.
Hwyl Gaeafol
Beth am fentro i Ganolfan Sgïo ac Eirafyrddio Llandudno. Does dim amser gwell i weithio ar eich sgiliau chwaraeon gaeaf nag yn ystod y misoedd oeraf. Os yw’n well gennych fod ar eich eistedd, beth am fynd ar y Cresta Run 2,500 troedfedd/750 metr, llwybr toboganau hiraf Cymru. (Cliciwch yma i ddarganfod mwy)
Campwaith Colwyn
Mae Bae Colwyn wedi’i drawsnewid. Cerddwch ar hyd y promenâd newydd sbon i Borth Eirias, lle mae adeilad modern gwydr a dur yn gartref i ganolfan chwaraeon dwr ^ a bistro dan lywyddiaeth y cogydd enwog Bryn Williams. Yna mae cyfle am fwy o awyr iach y gaeaf ym Mharc Eirias, ein ‘parc hyfryd wrth y môr’.
Dilynwch yr arfordir
Ydych chi’n chwilio am seibiant tawel heddychlon y gaeaf hwn? Yna ewch draw i’n cyrchfannau a threfi glan môr llai – Abergele a Phensarn, Tywyn a Bae Cinmel, Llandrillo-ynRhos, Penmaenmawr a Llanfairfechan. (Cliciwch yma i ddarganfod mwy)
4
ymlaciwch YNG NGHEFN GWLAD
Mae yr un faint o hwyl i’w gael ymhell o’r tywod.z Hwyl yr wyl ^
Ewch i siopa am nwyddau Nadoligaidd blasus yng Nghanolfan Fwyd Bodnant. Yna ewch i hwyl yr wyl ^ go iawn yng Ngardd Bodnant. Mae Gweithdy’r Corachod yn hwyl i’r teulu oll, lle gallwch wneud eich addurniadau Nadolig eich hun, pobi malws melys dros dân agored a chyfarfod y dyn ei hun, Siôn Corn (wrth gwrs!). (Cliciwch yma i ddarganfod mwy)
Myfi yw Mab y Mynydd Mae rhywbeth hynod arbennig ynghylch mentro allan i’n bryniau, coedwigoedd a mynyddoedd yn y gaeaf. Cyfle i anadlu awyr iach ffres a theimlo crensio’r barrug o dan droed wrth i chi grwydro llwybrau natur neu fynd ymhellach i’r mynyddoedd. I gael gwir brawf o’r elfennau, beth am archebu cwrs sgiliau mynydda yng Nghanolfan Fynydda Genedlaethol Plas y Brenin, Capel Curig, lle byddwch yn dysgu goroesi – a ffynnu – ymysg copaon eiraog Eryri. (Cliciwch yma i ddarganfod mwy)
Ar dy feic
Dyma gyfle i roi cynnig ar lwybrau beicio sy’n siwr ^ o fod at ddant anturiaethwyr dwy olwyn o bob lefel. Mae un peth yn sicr: gyda’r holl bedalu, fyddwch chi ddim yn oer! Ymysg tirweddau agored a thywyll Mynydd Hiraethog, fe ddewch o hyd i lwybrau addas i’r teulu oll o amgylch cronfeydd dwr ^ Alwen a Llyn Brenig. Bydd beicwyr profiadol yn anelu’n syth am brofiadau bythgofiadwy fel y traciau coedwig gwyllt yn ardal Penmachno a Betws-y-Coed, gan gynnwys llwybr mawreddog Gwydyr Mawr, sy’n 16 milltir. (Cliciwch yma i ddarganfod mwy)
I’r gwyllt amdani
Dydi ein bywyd gwyllt ddim yn diflannu am y gaeaf. Mae rhostir, coed a dyfroedd Hiraethog yn byrlymu â bywyd beth bynnag fo’r tymor. Dyma gyfle i chwilio am y grugiar ddu brin (gallwch adnabod y rhai gwryw diolch i’w blu du bitsh a’i grib coch nodedig), ysgyfarnogod brown ar garlam a theuluoedd o ddyfrgwn direidus. Efallai bydd cerddwyr y coetiroedd hefyd yn gweld gwiwer goch neu ddwy, creaduriaid carismataidd y coed sy’n araf ddod yn ôl i fyw i’r ardal hon. (Cliciwch yma i ddarganfod mwy)
Mynd o dan y ddaear
Nid yw’r tywydd yn bwysig yn Go Below ger Betws-y-Coed. Mae milltiroedd o byllau segur wedi cael defnydd o’r newydd fel cwrs antur tanddaearol cyffrous (‘the scariest in Britain’, yn ôl The Sunday Times). Ewch ar wifrau sip tanddaearol, dringwch i fyny siafftiau serth ac abseiliwch i’r man dyfnaf y gallwch ei gyrraedd yn y DU, 1,300 troedfedd / 396 metr anhygoel o dan yr wyneb. (Cliciwch yma i ddarganfod mwy)
5
Y PECYN CYFLAWN
Bwytai bendigedig, siopau â sglein, llefydd i aros a sioeau i’w gweld: maent i gyd ar y fwydlen y gaeaf hwn. Ymgartrefwch ac ymlaciwch
Ar lwyfan a sgrin
Blas ar Gonwy
I’r rheiny ohonoch sy’n hoff o ffilmiau, mae sinema Cineworld yng Nghyffordd Llandudno, sy’n berffaith ar gyfer noson allan neu ffilm i’r teulu. (Cliciwch yma i ddarganfod mwy)
Os ydych yn adnabod Llandudno, byddwch yn gwybod nad oes prinder o lefydd gwych i aros – yn wir, y dewis mwyaf yng Nghymru. Mae hyn yn arbennig o wir yn ystod y misoedd tawelach. Beth am ymlacio yng nghyfaredd un o’n gwestai moethus, un o’r tai gwesty cysurus, neu beth am wneud fel y mynnwch mewn llety hunanarlwyo? Mae’r un yn wir fel yr ewch i mewn i’r tir, mewn gwestai gwledig, tafarndai a bythynnod. (Cliciwch yma i ddarganfod mwy)
Galwch heibio Edwards o Gonwy, y ‘siop gigydd orau’ sydd wedi ennill sawl gwobr, neu Ganolfan Groeso Llandudno am ddewis o fwyd a diod lleol. I gael dewis eang o ddanteithion lleol, ewch i Fwyd Cymru Bodnant. Mewn fferm o’r 18fed ganrif sydd wedi’i hadfer yn brydferth, mae’n siop un stop flasus. Dewch i gael y gorau o gynnyrch Cymru (popeth o gig oen brau’r glastraeth i lysiau tymhorol a chaws a wneir yn llaethdy Bodnant, sydd ar y safle), neu dewch i fireinio eich sgiliau coginio ar gwrs coginio.
6
Mae yna raglen lawn dop yn Venue Cymru, canolbwynt adloniant glan y môr Llandudno. Dewch i hwyl yr wyl ^ gyda chynhyrchiad panto Nadoligaidd Peter Pan. Mae theatr gerdd sy’n plesio pawb (yn amrywio o sioe gerdd Abba Mamma Mai! i opera rhamantaidd Verdi La Traviata), yn ogystal â pherfformiadau doniol iawn gan sêr stand-yp y teledu, fel Sarah Millican a Bill Bailey. (Cliciwch yma i ddarganfod mwy)
Nefoedd Siopa
Does dim rhaid i siopa Nadolig fod yn boen yn y rhan hwn o’r byd! Gallwch bori trwy ystod o fanwerthwyr annibynnol sy’n gwerthu dillad o dras a hen bethau yn Llandrillo-yn-Rhos. Crwydro strydoedd canoloesol Conwy wrth chwilio am yr anrheg perffaith, chwilio strydoedd stryd fawr Betws-y-Coed neu fentro i’r siop hynod chwaethus yn Oriel Mostyn Llandudno i weld gemwaith, cerameg a chelf unigryw.
CAM YN ÔL I’R GORFFENNOL
Mae 2017 yn Flwyddyn Chwedlau yng Nghymru. Efallai ei fod yn prysur ddod i ben, ond mae amser o hyd i archwilio ein canrifoedd o hanes ac etifeddiaeth. Castell o Fri
Efallai bod gennym ragfarn... ond rydym yn credu fod Castell mawreddog Conwy yn un o gaerau mwyaf ysblennydd – os nad dychrynllyd – yn y byd. Fel pe bai wedi’i gludo’n syth o dudalennau nofel ffantasi, mae’r behemoth carreg hwn yn olygfa rymus beth bynnag fo’r tywydd. I gael y golygfeydd gorau o’r castell a’r foryd, gallwch gerdded ar hyd muriau canoloesol Conwy. Gan ymestyn yn ddi-dor bron o amgylch craidd y dref, dyma rai o’r waliau hiraf ac mewn cyflwr da gorau yn Ewrop. Does dim syndod fod y muriau a’r castell wedi’u dynodi’n Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. (Cliciwch yma i ddarganfod mwy)
Balchder yn ein T^y
Fe fyddech chithau’n falch hefyd, pe bai gennych un fel T^y Aberconwy. Saif y plasty o’r 14eg ganrif hwn a oedd yn eiddo i farsiandwr, ac yn oroeswr prin canrifoedd o hanes cythryblus, fel capsiwl amser byw. Tu mewn, mae’r ystafelloedd â dodrefn sy’n dangos gwahanol gyfnodau yn oes hir Aberconwy, gan roi cipolwg ar ein hanes Jacobeaidd, Sioraidd a Fictoraidd. Mae’r t^y ar agor bob dydd o 8 Maw i 5 Tach o 10am i 5pm. Ar agor ar benwythnosau o11 Tach i 24 Rhagfyr o 11am i 4pm. Fel anrheg Nadolig ychwanegol, mae Siôn Corn yn ymweld ym mis Rhagfy. (Cliciwch yma i ddarganfod mwy)
Byd ddoe
Mae Amgueddfa Llandudno yn gist drysor o arteffactau lleol. Mae ei rwyd wedi ymestyn ymhell, gydag eitemau cynhanes, twf Llandudno fel cyrchfan a’i phrofiadau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. (Cliciwch yma i ddarganfod mwy)
Llinach Brenhinol
Dewch i ddarganfod mwy am ein brenhinoedd brodorol yn arddangosfa Tywysogion Gwynedd yng Nghanolfan Groeso Conwy. Mae’r arddangosfa hon yn dod â’r gorffennol yn fyw trwy straeon, barddoniaeth a cherddoriaeth, gan adrodd hanes epig brwydrau ein cyn-dywysogion yn erbyn goresgynwyr Seisnig (yn ogystal ag ymysg eu hunain). (Cliciwch yma i ddarganfod mwy)
Lleoliad yw popeth
Ewch ar y bryniau i weld lle teyrnasodd y tywysogion. Efallai ei fod yn llai na Chonwy, ond mae Castell Dolwyddelan yn dal yn seren. Wedi’i adeiladu gan Llywelyn Fawr (Tywysog Gwynedd o’r 13eg ganrif ac arweinydd gwirioneddol y mwyafrif o Gymru), mae ei leoliad ar grib greigiog ymhlith copaon Eryri yn ddramatig iawn. Dringwch i ben y gorthwr i weld golygfeydd gaeafol gwyllt o Ddyffryn Lledr. (Cliciwch yma i ddarganfod mwy)
7
BETH SY’N DIGWYDD Y GAEAF HWN
Galwch i mewn i’n gweld Mae Canolfan Groeso newydd Llandudno wedi adleoli i safle amlwg a phoblogaidd yn y dref, Canolfan Victoria. Yn ogystal â’r gwasanaethau gwybodaeth arferol i ymwelwyr, mae ynddi hefyd ystod o fwyd a diod lleol .
Mae llawer iawn ar y gweill wrth i’r Nadolig agosáu ac yn y Flwyddyn Newydd. Dyma sampl. I gael yr wybodaeth ddiweddaraf ewch i www.dewchilandudno.org.uk 14-25/11/17
01-02/12/17
09-31/12/17
09/12/17
02-03/12/17
16-19/12/17
Tachwedd
Rhagfyr
4–6
1
9
(Pen-blwydd 30), Venue Cymru, Llandudno venuecymru.co.uk
O 4pm, Canol Tref Bae Colwyn bayviewshopping.co.uk
(dechrau am 10am) bespokefitnessandevents.co.uk
1–2
9
11
Betws-y-Coed facebook.com/pages/ Pantomime/570391673065894
4pm tan 7pm conwytownevents.co.uk/
trailbetws.com
2
Ogof Siôn Corn a Llwybr Coeden Nadolig yn Nhwr ^ Nadoligaidd Castell Conwy
Gwyl ^ Gorawl Gogledd Cymru
10
Arddangosfa Tân Gwyllt Llanrwst conwy-valley-rotary.org.uk
Her Llwybr Betws-y-Coed
14–25
The Band (sioe gerdd newydd sbon gyda chaneuon Take That), Venue Cymru, Llandudno venuecymru.co.uk
16–19
Ffair Nadolig Llandudno llandudnochristmasfyare.co.uk
27–28
Russian State Ballet, Venue Cymru, Llandudno (Swan Lake ar 27, Romeo a Juliet ar 28) venuecymru.co.uk
Hwyl yr Wyl ^ i’r Teulu
Panto Elusennol Sleeping Beauty,
Gorymdaith Nadolig Llandudno llandudno.gov.uk/cym/index.html
2–3
Nadolig Betws-y-Coed visitbetwsycoed.co.uk
2, 3, 9, 10, 16 & 17
Ogof Nadolig Siôn Corn, Canolfan Siopa Bay View, Bae Colwyn bayviewshopping.co.uk
3, 4, 10, 11 & 17–20
Nadolig yn Nh^y Aberconwy, Conwy (Siôn Corn, gweithgareddau Nadoligaidd ac ati) www.nationaltrust.org.uk/cy_gb/aberconwyhouse/features/nadolig-yn-nh-aberconwy
3, 4, 10, 11 & 17–20 Gweithdy Corachod,
8
Gardd Bodnant (cyfarfod Siôn Corn, gwneud addurniadau Nadolig ac ati) www.nationaltrust.org.uk/cy_gb/bodnantgarden/features/nadolig-yng-ngardd-bodnant
Ras Siôn Corn 5k Llandudno
Gwyl ^ Caeaf Conwy,
9, 10, 16, 17 & 23
(llwybr hefyd ar gael yn ystod dyddiau’r wythnos). cadw.gov.wales
9–31
Peter Pan, Venue Cymru, Llandudno venuecymru.co.uk
23–6 Ionawr
Beauty and the Beast, Theatr Colwyn, Colwyn Bay theatrcolwyn.co.uk
26
Dowc Dydd San Steffan Clwb Llewod Llandudno (11.30am) e-clubhouse.org/sites/llandudno/page-6.php
26-28/01/18
09-14/01/18
Ionawr
Chwefror
9–14
2–3
Mamma Mia!
Ellen Kent Ballet ac Opera International,
Venue Cymru, Llandudno venuecymru.co.uk
Venue Cymru, Llandudno (La Traviata ar 2 Chwefror, Madame Butterfly ar 3 Chwefror) venuecymru.co.uk
13–14
Cymerwch RAN, Venue Cymru, Llandudno venuecymru.co.uk
14
Bill Bailey,
26–28
Venue Cymru, Llandudno venuecymru.co.uk
Teletubbies, Venue Cymru, Llandudno venuecymru.co.uk
AMSER
CYSTA
02-03/02/18
DLEUA
ETH
27/02 - 03/03/18
20–21 The Strange Case of Dr Jekyll and Mr Hyde, Venue Cymru, Llandudno venuecymru.co.uk
23–24
Sarah Millican, Venue Cymru, Llandudno venuecymru.co.uk
27–3 Mawrth Crazy for You,
Venue Cymru, Llandudno venuecymru.co.uk
Enillwch gyda Llandudno a’r Gorau o Ogledd Cymru
Diolch i chi am ddarllen llyfryn y gaeaf. Gobeithio eich bod wedi cael rhywfaint o ysbrydoliaeth i drefnu gwyliau dros y gaeaf.
Llandudno a’r Gorau o Ogledd Cymru yw un o rannau mwyaf hardd y byd, ac mae’r cyhoeddwr teithio arweiniol, Lonely Planet, wedi gosod gogledd Cymru yn y pedwerydd safle gorau i ymweld â nhw yn y categori Best in Travel Regions 2017. Mae’n lleoliad y mae’n rhaid i bawb ymweld ag o, a hyd yn oed yn well os oes modd gwneud hynny am ddim! Dyma eich cyfle i ennill gwyliau byr yn Llandudno gwerth hyd at £500 y mae’n rhaid ei gymryd cyn 31 Mai 2018. Mae hynny’n 48 awr o brofiadau epig, gan roi blas i chi o’r hyn sydd gan yr ardal i’w chynnig! I gystadlu, atebwch y cwestiwn isod yn gywir: C: Enwch yr actor o Loegr sydd yn enwog am chwarae’r cymeriad Sam Strachan yng nghyfresi meddygol y BBC, Holby City a Casualty, ac sy’n serennu yn y sioe gerdd Crazy for You yn Venue Cymru yn 2018. Anfonwch eich ateb, eich enw a’ch manylion cyswllt ar e-bost i tourism@conwy.gov.uk Bydd enillydd yn cael ei ddewis ar hap ar 28 Chwefror, 2018. Amodau a Thelerau: 1: Drwy roi cynnig ar y gystadleuaeth, rydych yn cytuno i dderbyn gwybodaeth farchnata gan Llandudno a’r Gorau o Ogledd Cymru. 2: Fe dybir y bydd unrhyw un sy’n cystadlu wedi darllen a derbyn y Telerau ac Amodau, a rhaid iddynt gadw atynt. 3: I gystadlu, anfonwch yr ateb cywir ar e-bost i tourism@conwy.gov.uk. Fe dderbynnir ceisiadau rhwng 9/10/17 a 27/02/2018. 4: Fe ddewisir yr enillydd ar hap ar ôl y dyddiad cau, ac fe gysylltir â’r enillydd ar e-bost. 5: Rhaid i gystadleuwyr fod yn 18 neu’n h^yn. 6: Unwaith yn unig y gall pob person gystadlu; bydd mwy nag un ymgais i gystadlu yn cael eu gwahardd o’r gystadleuaeth. 7: Y Wobr – Gwyliau byr am 2 noson i 2 berson gwerth hyd at £500 i’w gymryd cyn 31 Mai 2018 (rhaid dewis y llety o daflen wybodaeth Llandudno 2018). 8: Fe allwn hefyd gysylltu â chi ar ôl y gystadleuaeth i ofyn am eich adborth ar Lyfryn y Gaeaf. 9: Yn ôl ei ddisgresiwn llwyr, mae Llandudno a’r Gorau o Ogledd Cymru yn cadw’r hawl i newid y wobr am wobr arall.
9
Gwyliwch ein Fideo Blwyddyn Chwedlau
www.dewchilandudno.org.uk Cyhoeddwyd gan: Gwasanaeth Datblygu Cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Adeilad y Llyfrgell, Mostyn Street Llandudno, LL30 2RP ffôn: 01492 575945 / 575950 Er bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau cywirdeb y cyhoeddiad hwn, ni all y Cyngor dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw wallau, camgymeriadau neu hepgoriadau nac am unrhyw fater sydd mewn unrhyw ffordd yn gysylltiedig â neu’n codi o gyhoeddi’r wybodaeth yn y llyfryn hwn. Dyluniwyd gan: View Creative, 37 Rhos Road, Rhos-on-Sea, Conwy LL28 4RS. t: (01492) 542400 www.viewcreative.co.uk
10
Ysgrifennwyd gan:: Roger Thomas. Golygydd ac awdur llyfrau taith www.writerog.co.uk Ffotograffiaeth: ©VisitBritain, Dave Newbould, freshpics, ©National Trust Images/ John Miller, North Shore, PM Photography, Matt Wilcox, Peter Williams Photography.